Contract
Swyddog
TG
Cyfeirnod y Swydd: REQ004111 Gwasanaeth: TG a Thrawsnewid Digidol Adran: Gwelliant a Pherfformiad Busnes Lleoliad: Conwy Cyflog: G06 £25,991 - £29,577 y flwyddyn Oriau a Sail: 37 awr yr wythnos, Contract Tymor Sefydlog o 18 mis
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg er mwyn cyfathrebu gyda’n defnyddwyr sy’n siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon
Manylion y Rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol am y swydd: [Xxxxxx Xxxxxxx, Rheolwr Gwelliant Busnes TG, 01492 576035, Xxxxxx.xxxxxxx0@xxxxx.xxx.xx]
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o xxx xxxx o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Xxx AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
Mae’n rhaid i ymgeiswyr lenwi ein ffurflen gais ni i gael eu hystyried. Ni dderbynnir CVs ar eu pen eu hunain. Os nad ydych wedi cael gwahoddiad i gyfweliad o fewn tair wythnos o'r dyddiad cau, dylech gymryd yn ganiataol nad ydych ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu. |
Mae Gwasanaeth TG a ThD Conwy yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig ac ymroddedig i ymuno â'i Dîm Desg Gwasanaeth.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn llawn cymhelliant, yn gallu gweithio fel rhan o dîm, ac yn awyddus i ddatblygu a chynorthwyo darpariaeth TG a Gwasanaethau Digidol y Cyngor i 2500+ o ddefnyddwyr wrth i ni foderneiddio’r ffordd yr ydym yn gweithio.
Fel aelod Dîm Desg Gwasanaeth TG, bydd disgwyl i chi ddangos ymroddiad ar gyfer cefnogi TG mewn amgylchedd sy’n canolbwyntio ar y cwsmer. Bydd gofyn bod gan ymgeiswyr lefel uchel o sgiliau trefniadol a rheoli prosiectau, ynghyd â’r gallu i adeiladu, cynnal a chefnogi systemau TG. Byddai dealltwriaeth o amrywiaeth o feysydd TG o fantais, a dylid profi xxxx bod yn gallu gweithio yn annibynnol neu fel rhan o dîm i ddarparu technolegau ac atebion TG i wasanaethau o fewn terfynau amser.
Mae manylion llawn y swydd i'w gweld yn y dogfennau Swydd-ddisgrifiad a Manylion am yr Unigolyn. |
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ymrwymo i’w Safonau Iaith Gymraeg. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y xxxxx iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd.
Wrth fynd ati i hyrwyddo Cyfle Cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o xxx xxxx o’r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy’n diwallu gofynion hanfodol y swydd yn cael cyfweliad. Bydd y Cyngor yn darparu cyfleusterau gwaith addas ychwanegol ar gyfer ymgeiswyr gydag anabledd. |
Cydbwysedd gwaith / bywyd Rydym yn hyrwyddo ac yn deall pwysigrwydd cydbwysedd gwaith / bywyd cadarnhaol ac iach. Bydd ein gweithwyr ni yn cael 8 gŵyl banc y flwyddyn a hawl i'r gwyliau canlynol:
Bydd gwyliau blynyddol a gwyliau banc gweithwyr rhan amser yn cael eu cyfrifo ar sail pro rata.
Rydym hefyd yn ystyried amrywiaeth o opsiynau gweithio hyblyg yn cynnwys:
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol Caiff pob gweithiwr ei gynnwys yn awtomatig yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar: xxxxx://xxx.xxxxxxxxxxxxxxxxxxxx.xxxxx/xx/XxxxxxXxxxxxx/Xxxxxxxx-x-Xxxxx.xxxx
Iechyd a Lles Xxx xxxx Iechyd Lles a’ch lles chi yn bwysig i ni ac rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo diwylliant lle caiff iechyd a lles gweithwyr ei gefnogi. Byddwch yn manteisio ar:
Gwobrau Conwy ac Arbedion Vectis Gwobrau Conwy yw siop un stop ar gyfer xxxx fanteision staff Conwy gan gynnwys Cerbydau Aberthu Cyflog i brynu car drwy Tusker, Beicio i’r Gwaith, arian yn ôl ar ofal iechyd, gwobrau gwasanaeth hir, gostyngiadau pris a llawer mwy. Gallwch arbed arian drwy ddefnyddio xxxx Cerdyn Vectis i gael gostyngiadau ar-lein, tocynnau anrheg am bris is, arian yn ôl a gostyngiadau ar nwyddau mewn siopau. Mae hyn yn cynnwys gostyngiadau yn siopau’r stryd fawr, sinemâu a bwytai i ddisgownt ar foduro, yswiriant, gwestai a gwyliau. |