Cadw a Gwaredu Gwybodaeth. Xxx xxx xxxx weithwyr y Cyngor Osteopathig Cyffredinol, gan gynnwys staff dros dro, yn ogystal â chontractwyr, aelodau anweithredol (Cyngor, aelodau pwyllgor ac ati), swyddogion cyswllt y Cyngor Osteopathig Cyffredinol a defnyddwyr awdurdodedig eraill systemau storio a phrosesu gwybodaeth y Cyngor Osteopathig Cyffredinol, gyfrifoldeb i ystyried diogelwch wrth greu, defnyddio a gwaredu gwybodaeth sy’n eiddo i’r Cyngor Osteopathig Cyffredinol. Bydd gweithdrefnau ar gyfer gwaredu gwybodaeth (a all gynnwys dinistrio’r wybodaeth neu drosglwyddo i storfa archifol) ar ddiwedd y cyfnod cadw, yn cael eu dogfennu. Bydd pob adran yn sefydlu gweithdrefnau sy’n briodol i’r wybodaeth mae’n ei chadw a’i phrosesu, ac yn sicrhau bod yr xxxx staff a defnyddwyr eraill yn ymwybodol o’r gweithdrefnau hynny.