Creu hyblygrwydd Clausole campione

Creu hyblygrwydd. Er mwyn lleihau’r posibilrwydd o ddileu swyddi'n orfodol, efallai y bydd angen ystyried rhinweddau gwahodd gweithwyr i wirfoddoli am daliad diswyddo neu ddileu swydd gwirfoddol yn gynnar yn y broses a chyn rhoi’r broses ddethol ar waith. Dylid llunio rhestr o'r gweithwyr sydd mewn perygl o gael eu dadleoli o’u swydd barhaol o ganlyniad i xxx achos o ad-drefnu, rhesymoli neu leihau gwasanaethau a gymeradwyir, a hynny ar y dyddiad cynharaf sy’n ymarferol bosibl. Y rheolwyr a fydd yn gyfrifol am lunio rhestrau o’r fath, ar y cyd ag adrannau’r Gweithlu a Datblygu Sefydliadol, ac am roi gwybod i’r cynrychiolwyr perthnasol. Er y bydd yn rhaid gwneud pob ymdrech i ddod o hyd i gyflogaeth amgen addas a threfnu adleoliad yn unol â’r amserlen newid, rhaid i’r gweithwyr yr effeithir arnynt gael eu cynghori gan eu rheolwr llinell ynglŷn â’u swydd yn ysgrifenedig, drwy gydol y broses newid. Rhaid ystyried yn ofalus, yng ngoleuni amgylchiadau’r rhaglen newid, amseriad cyhoeddi unrhyw hysbysiadau diswyddo.