Slotio i mewn. Bydd slotio i mewn yn berthnasol pan fydd swydd yn aros yr un fath i raddau helaeth a xxxx xxx dim ond un ymgeisydd sy’n ymgymryd â’r rôl hon ar hyn x xxxx, xxx xxxx fydd yr un nifer o ymgeiswyr ag sydd o swyddi. Xxx yr amgylchiadau hyn, ni fyddai’r swydd yn cael ei hysbysebu a byddai’r unigolyn/unigolion y mae ei swydd/eu swyddi’n bodloni’r meini prawf yn cael ei/eu slotio i mewn i’r swydd(i). Mae cysondeb yn y ffordd yr ymdrinnir â’r egwyddorion slotio i mewn a’r ffordd y cânt eu rhoi ar waith yn hanfodol. Xxx xxxxx llif ynghlwm yn atodiad 1, sy’n disgrifio’r camau i’w dilyn. Mewn achosion o anghytuno ynghylch a yw’r swydd yn aros yr un fath i raddau helaeth, bydd y disgrifiadau swydd a’r manylebau person presennol a newydd yn cael eu hystyried drwy adolygiad annibynnol a gynhelir gan banel a fydd yn cynnwys aelod o dîm y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol, cynrychiolydd ar ran y rheolwyr a chynrychiolydd undeb llafur. Ni fydd gan neb sy’n ymwneud â’r adolygiad berthynas waith â’r gweithiwr/gweithwyr xxx sylw, ac ni fyddant wedi bod yn rhan o drafodaethau blaenorol ynglŷn â’r adolygiad. Rôl y panel annibynnol hwn fydd adolygu’r canlyniad gwreiddiol a dod i benderfyniad gwrthrychol. Os bydd y gweithiwr/gweithwyr yn parhau i anghytuno â phenderfyniad yr adolygiad annibynnol, bydd modd cyflwyno xxxx, yn unol â cham 2 Polisi a Gweithdrefn Cwynion Cymru Gyfan.