UAdroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio i’r Cyfarfod Llawn 2006-07
UAdroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio i’r Cyfarfod Llawn 2006-07
1. Hwn yw’r pedwerydd adroddiad blynyddol ar waith Pwyllgor Archwilio’r Ail GynulliadTPF1FPT, fel sy’n ofynnol o xxx Reol Sefydlog 13.1(vi). Mae’n crynhoi gweithgareddau’r Pwyllgor rhwng Mehefin 2006 a Mai 2007.
2. Diben y Pwyllgor Archwilio oedd sicrhau bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru a chyrff cyhoeddus eraill yn glynu wrth y safonau uchaf posibl wrth reoli eu materion ariannol. Xxx xxx Bwyllgor Archwilio’r Cynulliad newyddTPF2FPT swyddogaethau tebyg mewn perthynas â Llywodraeth Cynulliad Cymru, Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol a chyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru. Xxxx hynny, fel nawr, darparodd sicrwydd i bobl Cymru fod arian cyhoeddus yn cael ei wario’n ddoeth, bu’n arf ataliol yn erbyn gwastraff a darparodd gyfarwyddyd i’r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella’i waith.
3. Gweithredodd y Pwyllgor heb fod ar sail plaid wleidyddol i roi barn ddiduedd ar weithredu polisi, ac i ystyried gwaith Archwilydd Cyffredinol Cymru. Mae manylion am aelodaeth y Pwyllgor a manylion pellach am ei rôl a’i gyfrifoldebau wedi’u hamlinellu yn Atodiad 1.
Adroddiadau’r Pwyllgor Archwilio a gwaith craffu cysylltiedig
4. Yn ystod y flwyddyn xxx sylw, bu’r Pwyllgor yn archwilio pynciau yn sbectrwm llawn y sector cyhoeddus yng Nghymru drwyddo draw. Mae’r rhain wedi amrywio o faterion yn ymwneud â ph’un a oedd y GIG yng Nghymru’n ymdopi o fewn yr adnoddau oedd ar gael iddo, i faterion yn ymwneud â mynediad y cyhoedd i gefn gwlad. Mae wedi cynnal wyth cyfarfod, gan gynnwys 11 sesiwn tystiolaeth, lle cafodd cyfanswm o 35 o dystion eu holi. Estynnodd xx xxxxx o gymryd tystiolaeth am wasanaethau ambiwlans yng Nghymru dros ddau sesiwn ar ddiwrnod eistedd xxxx xxxxx y Cynulliad yn 2006. Yn dilyn ei archwiliadau, mae’r Pwyllgor wedi cyhoeddi 14 adroddiad (gweler Atodiad 2) sydd, gyda’i gilydd, wedi cynnwys cyfanswm o 98 o argymhellion ar gyfer gwella gwario cyhoeddus a darparu gwasanaethau.
5. Hefyd mewn perthynas â’r gwaith hwn, ystyriodd y Pwyllgor 13 ymateb ar wahân oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru ar ei adroddiadau. Roedd yr ymatebion hyn yn cynnwys cyfanswm o 81 argymhelliad. Yn ystod y flwyddyn derbyniodd y Pwyllgor hefyd adroddiadau diweddaru yn ei hysbysu am gynnydd Llywodraeth Cynulliad Cymru wrth roi argymhellion adroddiadau blaenorol ar waith.
1
2
TP PT Y Cynulliad a sefydlwyd o xxx Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
TP PT Y Cynulliad a sefydlwyd o xxx Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006
Cael effaith
6. Un o nodau’r Pwyllgor Archwilio yw cael effaith gadarnhaol a buddiol ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Cadarnhaodd y memorandwm oddi wrth yr Archwilydd Cyffredinol, sef Effaith gwaith gwerth am xxxxx xxxx y flwyddyn ddiwethaf a chynigion am archwiliadau yn 2007-08 a thu hwnt, a ystyriwyd fis Hydref 2006, ein bod yn parhau i gyflawni’r nod hwn. Yn ogystal â chyfrannu at amcangyfrif o £117 miliwn mewn arbedion ariannol ers y datganoli, a dynodi lle gellid cyflawni arbedion pellach o
£36 miliwn, mae ein gwaith wedi helpu i sicrhau gwelliannau ehangach mewn gwasanaethau cyhoeddus nad yw’n bosibl eu mesur yn rhwydd yn nhermau ariannol.
7. Dygodd memorandwm yr Archwilydd Cyffredinol sylw at y buddion y mae ei rymoedd newydd o xxx Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 yn eu darparu o ran ei allu i archwilio gwariant a’r hyn sy’n cael ei ddarparu ar draws systemau cyfan yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru. Mae’r lefel fanylach hon o adrodd yn ei thro wedi darparu’r cyfle i’r Pwyllgor ystyried yn fwy manwl rôl cyrff sector cyhoeddus lleol o ran cyflawni amcanion polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru – rhywbeth y rhoddwyd sylw eglur iddo yn ein hadroddiadau ar Fynediad y Cyhoedd i Gefn Gwlad, Y Strategaeth Genedlaethol ar Ddigartrefedd, a Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion yng Nghymru – Adolygiad Sylfaenol o’r Gwasanaethau a Ddarperir. Mae’r Pwyllgor hefyd wedi cael y cyfle i ystyried yn fanylach iechyd ariannol y GIG, gan dynnu ar y ffaith bod yr Archwilydd Cyffredinol xxxxxxx hefyd yn gyfrifol am archwilio cyrff GIG unigol yn flynyddol.
8. Heb amheuaeth, ein gwaith a gafodd y sylw mwyaf yn ystod 2006-07 oedd ein hadolygiad, Gwasanaethau Ambiwlans yng Nghymru, a ddarparodd enghraifft arall o ba mor ddefnyddiol yw cydweithredu a chraffu rhwng pwyllgorau â gwahanol arbenigeddau. Bu Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y Cynulliad yn craffu’r pwnc hwn ymhellach ym mis Ionawr 2007 a chymerodd dystiolaeth ychwanegol oddi wrth Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn dilyn cyhoeddi ei Adolygiad Sicrwydd Arbennig o Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.
9. Daethom i’r casgliad bod diffygion rheolaeth sylfaenol yn yr Ymddiriedolaeth, ac yn ei hamgylchedd gweithredu ehangach, wedi arwain at y gwasanaeth annerbyniol o wael roedd yr Ymddiriedolaeth yn ei gynnig i bobl Cymru. Fodd bynnag, gallem fyfyrio’n obeithiol ynghylch rhagolygon gwella’r Ymddiriedolaeth cyn belled â bod modd goresgyn heriau allweddol, yn enwedig cyflawni ei chynllun moderneiddio newydd yn llwyddiannus. Mae’r Ymddiriedolaeth eisoes wedi rhannu rhywfaint o newyddion da yn gyhoeddus o ran ei pherfformiad o’i gymharu â thargedau Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer amseroedd ymateb xxxx, ond amser a ddengys a fydd modd cynnal y gwelliant hwn dros y tymor hir.
10. Rydym yn xxxxx ein bod wedi cael y cyfle i gymryd tystiolaeth wrth wneud gwaith dilynol ar bedwar o’n hadroddiadau blaenorol. Mae hyn yn rhan bwysig o waith y Pwyllgor ac mae’n helpu i roi sicrwydd bod yr argymhellion rydym yn eu gwneud yn cael sylw digonol a’u bod yn cael effaith gadarnhaol.
11. Cydnabu ein hadroddiad Amseroedd Aros y GIG: Adroddiad Dilynol y cynnydd sylweddol a wnaed wrth fynd i’r afael ag amseroedd aros hir ar gyfer triniaeth GIG gynlluniedig yng Nghymru. Er bod amrywiadau rhanbarthol mewn amseroedd aros yn parhau i fod yn achos pryder, gwnaethom adrodd y cafwyd gwared ag arosiadau 12 mis neu fwy bron yn llwyr erbyn mis Mawrth 2006 i gleifion sy’n aros am apwyntiad claf allanol cyntaf neu driniaeth fel claf mewnol/achos dydd. Daeth y gwelliant hwn yn sgil cyflwyniad fframwaith strategol eglur gan Lywodraeth y Cynulliad ar gyfer lleihau amseroedd aros a mynd i’r afael â’r pethau sydd wrth eu gwraidd, mewn ymateb i argymhellion y Pwyllgor. Er hynny, bydd angen rheoli risgiau hysbys yn ofalus os ydym am barhau i leihau amseroedd aros. Rydym yn ystyried rhai o'r risgiau hyn yn ddiweddarach yn yr adroddiad hwn. Gwnaethom bum argymhelliad pellach a gynlluniwyd i helpu Llywodraeth y Cynulliad i reoli’r risgiau hyn, a derbyniwyd pob un ohonynt.
12. Gwnaethom adrodd hefyd ar Gynnydd yn y Sector Addysg Xxxxxxx: Rheolaeth Ystadau a Chaffael. Yn achos caffael, cawsom ein calonogi gan y gwelliannau mewn arferion caffael a ddynodwyd gan Xxxxxxxxx Archwilio a Llywodraethu Darparwyr Llywodraeth y Cynulliad. Dywedwyd wrthym hefyd bod Consortiwm Pwrcasu Addysg Xxxxxxx Cymru wedi llwyddo i arbed £900,000 yn 2004-05 (16 y cant x xxxxx y contractau roedd yn eu rheoli). Nid oedd gwybodaeth ar gael am lefel yr arbedion a gyflawnwyd yn y sector drwyddo draw yn sgil gwell arferion caffael, a derbyniodd Llywodraeth y Cynulliad ein hargymhelliad y dylai ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau adrodd ar yr arbedion hyn yn rheolaidd.
13. Yn achos rheolaeth ystadau, gwnaethom ganolbwyntio ar yr angen i gydymffurfio â deddfwriaeth anabledd. Roedd yn xxxxxx gennym glywed bod costau cyfwerth sefydliadau i gydymffurfio’n llawn â deddfwriaeth anabledd berthnasol wedi gostwng o £20.7 miliwn (fel yr adroddwyd yn adroddiad 2003 y Pwyllgor, Rheoli’r Ystâd Addysg Xxxxxxx yng Nghymru) i
£8.1 miliwn, o ganlyniad i waith oedd eisoes wedi’i wneud. Fodd bynnag, gan ystyried chwyddiant, ffioedd a TAW, amcangyfrifir mai £12.7 miliwn fydd cyfanswm y gost i sefydliadau, sy’n swm sylweddol. Gan fod y data sylfaenol ar y graddau y mae’r ystâd addysg xxxxxxx yn cydymffurfio â deddfwriaeth anabledd yn dyddio o 2001, gwnaethom argymell bod Llywodraeth y Cynulliad yn comisiynu archwiliad newydd o fynediad ar gyfer pobl anabl. Diben hyn fyddai darparu sail ar gyfer penderfynu faint o arian i’w ddyrannu i’r sector er mwyn cynorthwyo â chydymffurfio.
14. Gwnaethom hefyd gymryd tystiolaeth ynghylch Adroddiad dilynol ar y gwaith o reoli casgliadau yn Amgueddfa Cymru –National Museum Wales yr Archwilydd Cyffredinol. Gwnaethom ddarganfod bod yr Amgueddfa wedi gwneud cynnydd wrth weithredu rhai o argymhellion y Pwyllgor yn ei adroddiad blaenorol o 2004, Rheoli’r Casgliadau yn Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, ond roedd nifer o feysydd lle xxx xxxxx o hyd i’r Amgueddfa wella ei pherfformiad. Ymhlith y camau roedd yr Amgueddfa wedi’u cymryd oedd mabwysiadu gweledigaeth gorfforaethol newydd, ym mis Ebrill 2006, sy’n darparu fframwaith strategol i’r Amgueddfa ar gyfer xx xxxx weithgareddau. Mae’r
Amgueddfa hefyd yn rhoi Prosiect Gofal am Gasgliadau a Mynediad Atynt ar waith, sy’n cynyddu’n sylweddol swm ac ansawdd y lle storio ar ystâd yr Amgueddfa. Mae’r meysydd allweddol lle mae’r Amgueddfa wedi cydnabod bod angen gwaith pellach yn cynnwys:
⮚ rhoi ar waith fesul cam ei asesiad o p’un a ddylid cael gwared ag eitemau ;
⮚ sefydlu system ddilysu fwy systematig, seiliedig ar risgiau; a
⮚ chwblhau’r broses o gyfrifiaduro cofnodion, er bod rhywfaint o gynnydd da eisoes wedi’i wneud ers ein hadroddiad cynharach.
Themâu Pwysig ein Gwaith Craffu
15. Cafodd effaith prif waith craffu’r Pwyllgor yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ei hamlygu mewn pedair thema bwysig sydd wedi bod yn amlwg trwy lawer o’n gwaith. Mae’r themâu hyn yn adlewyrchu materion sydd wrth galon agenda polisi Creu'r Cysylltiadau Llywodraeth y Cynulliad:
⮚ Gweithio gyda’n gilydd fel gwasanaeth cyhoeddus Cymru;
⮚ Defnyddio adnoddau’n well (gwella rheolaeth ariannol a rheolaeth perfformiad);
⮚ Rhoi’r dinesydd yn y canol; ac
⮚ Ymgysylltu â gweithlu’r sector cyhoeddus, a’i ddatblygu.
Gweithio gyda’n gilydd fel gwasanaeth cyhoeddus Cymru
16. Mae ein gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf wedi parhau i ddwyn sylw at ffyrdd y xxx xxxxx i gyrff cyhoeddus weithio gyda’i gilydd yn agosach i wella darpariaeth gwasanaethau. Fodd bynnag, roedd yn xxxxxx gennym hefyd adrodd ar enghreifftiau o weithio’n effeithiol mewn partneriaeth sydd wedi cyflawni gwell canlyniadau.
17. Yn ein hadroddiad ar Fynediad y Cyhoedd i Gefn Gwlad daethom i’r casgliad fod cydweithio effeithiol rhwng yr amrywiol bartneriaid sector cyhoeddus yn y gadwyn gyflenwi drwyddi draw, sef yn bennaf Llywodraeth y Cynulliad, Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac awdurdodau mynediad lleol (y 22 awdurdod lleol a’r tri awdurdod Parc Cenedlaethol), wedi bod yn ganolog i weithredu Rhan Un o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy (2000) yn llwyddiannus yng Nghymru.
18. Gwnaeth ein hadroddiad ar Strategaeth Genedlaethol ar Ddigartrefedd Llywodraeth y Cynulliad hefyd groesawu’r flaenoriaeth a roddwyd yn y strategaeth honno i weithio mewn partneriaeth. Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi sefydlu grŵp gwaith cenedlaethol i gefnogi cyflawni’r strategaeth, gan gynnwys cynrychiolaeth o awdurdodau lleol a sefydliadau annibynnol. Gwnaethom ddysgu hefyd bod y mwyafrif o awdurdodau lleol xxxxxxx wedi sefydlu eu fforymau digartrefedd eu hunain, er bod lle i wneud y grwpiau hyn yn fwy effeithiol fyth trwy eu cynnwys mewn ystod ehangach o weithgareddau, megis gwerthuso prosiectau penodol.
19. Wrth gwrs, nid yw gweithio’n effeithiol mewn partneriaeth xxx amser yn golygu gwahanol sefydliadau’n cydweithio. Yn aml, mewn sefydliadau mawr y sector cyhoeddus, mae yna risg nad yw gwahanol rannau o’r sefydliad yn cydnabod y ffyrdd y mae eu gweithgareddau’n rhyng-gysylltu, nac yn cydweithio i ddod o hyd i ddatrysiadau. Mae digartrefedd yn un enghraifft o'r fath, ac roeddem yn cydnabod bod Llywodraeth y Cynulliad wedi gwneud rhywfaint o gynnydd da wrth ymgorffori egwyddorion allweddol ei strategaeth ddigartrefedd mewn fframweithiau strategol eraill, megis y rheiny ar gyfer camddefnyddio sylweddau, pobl ifanc ac iechyd. Fodd bynnag, cawsom nad oedd gweithio cydgysylltiedig ar lefel weithredol rhwng swyddogion Llywodraeth y Cynulliad yn gynhwysfawr hyd yma, a bod rhai swyddogion yn aneglur ynglŷn â’r berthynas rhwng eu gwaith nhw a’r strategaeth ar ddigartrefedd.
20. Xxx xxx ofal iechyd meddwl effeithiol gysylltiad agos â phroblem digartrefedd, ac mae’n faes arall sy’n ddibynnol ar drefniadau cydweithio cryf ar lefelau strategol a gweithredol. Yn ein hadroddiad Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion yng Nghymru gwnaethom ddarganfod nad oedd lle amlwg i iechyd meddwl yn y 22 strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles a oedd wedi’u paratoi ledled Cymru, er gwaethaf y ffaith ei fod yn un o flaenoriaethau iechyd strategol allweddol Llywodraeth y Cynulliad. Y canlyniad net yw nad oedd gweledigaethau amlasiantaeth ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yn y dyfodol wedi’u datblygu hyd yma mewn xxxx xxxx o Gymru. Gan edrych ar weithrediadau, fel rhywbeth ar wahân i gynllunio, siom oedd adrodd mai ychydig iawn o Dimau Iechyd Meddwl Cymunedol oedd wedi integreiddio trefniadau rheoli yn llawn yn y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol drwyddynt draw. Fodd bynnag, cawsom ein calonogi rhywfaint gan yr esiampl gadarnhaol mae asiantaethau yng Nghonwy a Sir Ddinbych wedi'i gosod. Mae hyn yn dangos ei bod yn bosibl gwneud cynnydd gwirioneddol lle ceir ymrwymiad cryf i gydweithio.
21. Mae cyflawni amcanion strategol a gweithredol cyffredin yn ffordd agored y gall cyrff cyhoeddus ddangos eu bod yn gweithio gyda’i gilydd. Fodd bynnag, mae hefyd yn bwysig eu bod yn gweithio gyda’i gilydd i ddysgu’r gwersi o’u profiad eu hunain, boed dda neu ddrwg. O ganlyniad, mae llawer o’n hadroddiadau wedi cynnwys argymhellion a gynlluniwyd i annog dynodi a hybu arfer da yn ehangach, yn amrywio o weithgareddau â’r bwriad o godi ymwybyddiaeth staff o faterion ynni mewn ymgais i leihau’r ynni mae'r sector cyhoeddus yn ei ddefnyddio (Rheoli Ynni yn y GIG yng Nghymru) i ymdrechion i wella safonau mewn darpariaeth dysgu seiliedig ar waith (Dysgu Seiliedig ar Waith). Yn ein hadroddiad ar y Gwasanaethau Ambiwlans yng Nghymru, gwnaethom argymell bod Llywodraeth y Cynulliad yn rhannu, fel rhan o'i hadolygiad ehangach o lywodraethu yn y GIG, y gwersi a ddysgwyd o fethiannau llywodraethu, perfformiad a rheolaeth ariannol yn Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.
22. Rydym yn croesawu ymrwymiad yr Archwilydd Cyffredinol ei hun i nodi arfer da, ei werthuso a helpu gwasanaethau cyhoeddus i’w gyflwyno, fel un o’r pum thema strategol ar gyfer gwaith Swyddfa Archwilio Cymru dros y tair blynedd nesaf. Fodd bynnag, rydym hefyd yn disgwyl i’r sector
cyhoeddus ehangach fod yn fwy agored i rannu a dysgu’r gwersi o brofiadau ei gilydd.
Defnyddio adnoddau’n well (gwella rheolaeth ariannol a rheolaeth perfformiad)
23. Rydym wedi parhau i ddwyn sylw at bwysigrwydd defnyddio adnoddau ariannol ac adnoddau dynol sydd ar gael yn well, trwy wella disgyblaethau cyffredinol rheolaeth ariannol a rheolaeth perfformiad. Gwnaeth ein hadroddiad Archwiliad Ariannol o Lywodraeth Ganolog a Chyrff y GIG yng Nghymru: 2006 ddwyn sylw at nifer o welliannau calonogol mewn rheolaeth ariannol, a chynnydd da ar faterion megis cau cyfrifon yn gyflymach. Mae’n xxxxxx gennym nodi bod ein diddordeb parhaus ym mhroses paratoi cyfrifon blynyddol Llywodraeth y Cynulliad a’r cyrff mae’n eu noddi wedi arwain at brosesau mwy strwythuredig. Mae’r rhain yn cynnwys sefydlu Bwrdd Prosiect Cyfrifyddu Adnoddau, a mwy o gydnabyddiaeth ei bod yn bwysig adolygu trefniadau rheoli cyfrifon cyn eu cyflwyno i’w harchwilio. Rydym hefyd yn gwerthfawrogi bod Llywodraeth y Cynulliad, wrth ymateb i bryderon y Pwyllgor ynglŷn â gwariant grantiau dros nifer o flynyddoedd, wedi cydnabod yr angen i dynhau ei rheolaethau yn y xxxx hwn, ac wedi ymrwymo i ddarparu hyfforddiant staff ychwanegol, ar y cyd â Swyddfa Archwilio Cymru. Yn ogystal â hyn, mae wedi sefydlu Cymuned Arfer fewnol i gyfnewid syniadau a rhannu arfer da ac arweiniad.
24. Yn yr un adroddiad roedd yn xxxxxx gennym nodi bod cynnydd yn cael ei wneud ledled llywodraeth ganolog a’r GIG xx xxxx caffael, a bod Gwerth Cymru yn parhau i gael effaith ariannol fuddiol ar gostau caffael yn y sector cyhoeddus drwyddo draw. Fodd bynnag, mae’n dal i fod yn bwysig bod ansawdd, yn ogystal â chost, yn ffactor allweddol mewn penderfyniadau prynu, er mwyn sicrhau gwerth cyffredinol am arian. Yn ein hadroddiad ar y Gwasanaethau Ambiwlans, gwnaethom fynegi ein bod wedi ein synnu gan y gyfres o fethiannau caffael oedd wedi digwydd yn Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, gan ddangos yr angen i gryfhau trefniadau llywodraethu mewnol ac allanol. Roedd enghreifftiau’n cynnwys caffael ambiwlansys newydd nad oeddent yn addas i’r diben, a gweithredu amhriodol megis un o gyn Brif Weithredwyr yr Ymddiriedolaeth yn mynd yn xxxx at un cyflenwr dyfeisiau cywasgu’r frest, yn hytrach na gwahodd tendrau oddi wrth nifer o ddarpar gyflenwyr. Mewn man arall, argymhellodd ein hadroddiad ar Ddysgu Seiliedig ar Waith fod trefniadau’r dyfodol o ran caffael a rheoli contractau gyda darparwyr hyfforddiant yn cael eu cryfhau i sicrhau amddiffyniadau gwell o ran defnyddio arian cyhoeddus ac ansawdd y ddarpariaeth hyfforddiant a gynigir.
25. Yn y tymor hir, rydym o’r farn bod y potensial mwyaf ar gyfer arbedion i’w gael trwy’r sector cyhoeddus yn ymwneud mwy ag ymarferion caffael ar y cyd. Roedd yn xxxxxx gennym adrodd yn ein hadroddiad ar Reoli Ynni yn y GIG bod caffael cyflenwadau ynni yn ganolog trwy Gyflenwadau Iechyd Cymru wedi dwyn ffrwyth o ran darparu lefel o
arbenigedd mewn xxxx xx’n arbenigol ac yn faes risg uchel y mae’n annhebygol y byddai sefydliadau unigol wedi gallu eu cynnal, xx xxx cyfyngedig oedd eu heffaith o ran pris trwy arbedion maint. Gwnaethom groesawu’r ffaith bod Gwerth Cymru wedi ymrwymo i asesu’r posibilrwydd o gronni arbenigedd ac adnoddau ymhellach er mwyn darparu sail ar gyfer strategaeth caffael ynni y sector cyhoeddus ehangach ledled Cymru.
26. Mae nifer o’n hadroddiadau hefyd wedi dwyn sylw at y risgiau a all godi oherwydd ffocws ar gynllunio ariannol tymor byr. Pwysleisiodd A yw'r GIG yng Nghymru yn Ymdopi o fewn yr Adnoddau Ariannol sydd ar Gael Iddo? yr angen i’r GIG fynd i’r afael â’r pwysau a’r heriau ariannol a wynebir ar hyn x xxxx mewn modd cynaliadwy, ac ar yr un pryd parhau i gyflawni’r gwelliannau mewn perfformiad o ran amseroedd xxxx xx'n ofynnol erbyn 2009. Roedd Cynlluniau Newid Strategol ac Effeithlonrwydd (SCEP) wedi’u cyflwyno mewn rhai rhannau o Gymru yn y tymor canolig i ganiatáu i gyrff ddychwelyd i gydbwysedd ariannol yn flynyddol i ddechrau, ac yna ad-dalu rhyw £55 miliwn o’r cymorth benthyciad £83 miliwn roeddent wedi’i dderbyn yn flaenorol. Fodd bynnag, pan roddwyd SCEP o’r fath ar waith o’r blaen nid oeddent wedi cyflawni eu hamcanion, ac nid oedd hyn yn rhoi llawer x xxxxx i ni.
27. Mae iechyd ariannol cyffredinol y GIG yn un o nifer o feysydd lle rydym wedi dwyn sylw at yr angen i Lywodraeth y Cynulliad gryfhau ei rôl rheoli perfformiad ei hun dros y gwasanaeth. A derbyn y sefyllfa ariannol heriol, gwnaethom argymell y dylai Llywodraeth y Cynulliad ystyried p’un a yw'n dal i fod yn briodol mesur perfformiad ariannol cyrff GIG lleol yn flynyddol yn bennaf. O fewn fframwaith gofynion adrodd Trysorlys EM, mae'r Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol xxxxxxx wedi rhoi cychwyn i adolygiad o’r drefn rheoli ariannol i sicrhau ei bod yn cefnogi yn y modd gorau anghenion rheolaeth ariannol a strategaeth ariannol GIG Cymru.
28. Gwnaeth ein hadroddiadau ar Y Strategaeth Genedlaethol ar Ddigartrefedd a Gweinyddu Grantiau Cynnal Addysg a Hyfforddiant (GEST) a'r Gronfa Ysgolion Gwell ddwyn sylw at y posibilrwydd o gyflwyno trefniadau ariannu tymor hir. Yn Y Strategaeth ar Ddigartrefedd, ymhlith pryderon bod yn rhaid rhoi’r gorau i brosiectau o’r fath unwaith roedd eu hariannu tymor byr wedi dod i ben, gwnaethom argymell bod Llywodraeth y Cynulliad yn gweithio gyda’i hamrywiol bartneriaid i sicrhau ariannu cynaliadwy ar gyfer prosiectau sy’n enghreifftiau o arfer da. Dyma un xxxx lle gallai gwerthuso mentrau’n well helpu i gefnogi’r achos dros barhau i ariannu. Yn achos y Gronfa Ysgolion Gwell gwnaethom argymell y dylai Llywodraeth y Cynulliad, mewn ymgynghoriad ag Awdurdodau Addysg Lleol, symud i gylch tair blynedd ar gyfer cynllunio, ariannu a rheoli’r Gronfa. Gwelsom fanteision i ddull o weithredu o’r fath o ran darparu mwy o sicrwydd wrth gynllunio, gan leihau xxxxx gweinyddol y cylch cynllunio blynyddol sy’n bodoli, a darparu sail fwy cadarn ar gyfer gwerthuso effaith gweithgareddau y mae’r rhaglen yn eu hariannu.
29. Un o ofynion sylfaenol rheolaeth ariannol a rheolaeth perfformiad effeithiol yw bod data cadarn ac ystyrlon ar gael. Yn ein hadroddiad ar y Strategaeth Genedlaethol ar Ddigartrefedd gwnaethom nodi nad yw'r ystadegau pennawd a gasglwyd ynghyd gan Lywodraeth y Cynulliad yn dweud y stori lawn am ddigartrefedd yng Nghymru. Nid yw’r xxxx bobl ddigartref yn dweud wrth awdurdodau lleol eu bod yn ddigartref, sy’n golygu nad ydynt wedi’u cynnwys yn yr ystadegau ac nad ydynt yn cael y gefnogaeth y mae ganddynt hawl i’w chael o bosibl. Ar ben hynny, roeddem yn bryderus bod rhai pobl ddigartref yn cael eu hepgor o’r ffigyrau swyddogol oherwydd ei bod yn bosibl bod awdurdodau lleol yn ‘gwarchod y porth’: yn mabwysiadu dehongliad rhy gul o ddeddfwriaeth a chyfarwyddyd, a thrwy hynny’n xxxx mynediad at wasanaethau a thai a datchwyddo ffigyrau digartrefedd yn artiffisial. Gwnaethom hefyd ddynodi lle gallai Llywodraeth y Cynulliad werthuso cynnydd yn well wrth gyflawni’r Strategaeth ar Ddigartrefedd, a datblygu ystod ehangach o fesurau perfformiad sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau.
30. Xx xxxx iechyd, gwnaeth ein hadroddiad ar Wneud Defnydd Gwell o Lawdriniaethau Dydd y GIG yng Nghymru ddwyn sylw at ddiffyg eglurder o ran sut y diffinnir llawdriniaeth ddydd, gan arwain at anghysonderau wrth i ymddiriedolaethau GIG unigol fesur hyn. Gwnaethom gynnig y dylai Llywodraeth y Cynulliad ddiffinio ar wahân achosion lle derbynnir cleifion a’u rhyddhau ar yr un diwrnod calendr, ac achosion lle mae cyfnod yr arhosiad yn llai na 24 awr ond yn pontio dau ddiwrnod calendr. Roedd ansawdd data hefyd yn ymddangos yn ein hadroddiad ar Amseroedd Aros y GIG. Gwnaethom groesawu cyflwyniad diffiniadau data newydd i fesur perfformiad ar hyd llwybr cyfan y claf. Fodd bynnag, roeddem yn bryderus bod y diffiniadau newydd hyn, a’r pwyslais mwy ar dargedau amseroedd aros, yn cynyddu’r risg o gamdrafod data, er ei bod yn galonogol bod Llywodraeth y Cynulliad wedi ymrwymo i ddilysu data rhestrau aros yn barhaus.
Rhoi’r dinesydd yn y canol
31. Mae rhoi’r dinesydd yn y canol yn golygu cynnwys pobl a chymunedau’n uniongyrchol yn y ffordd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu cynllunio a’u cyflawni, a sicrhau bod y rhain yn ymatebol i’w hanghenion ac yn hygyrch, waeth xxxx fo amgylchiadau unigol pobl. Roedd y thema hon yn gyffredin i’n hadroddiadau GIG ar Lawdriniaethau Dydd, Amseroedd Aros, Gwasanaethau Ambiwlans a Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion.
32. Gwnaethom gydnabod bod cleifion yn aml yn gochel rhag cael llawdriniaeth ddydd heb aros yn yr ysbyty dros nos, ac mae hyn yn ddealladwy. Gwnaethom argymell y dylai ymddiriedolaethau ddarparu gwybodaeth amserol a manwl gywir i gleifion am risgiau a buddion cymharol llawdriniaeth ddydd iddynt hwy, i’w galluogi i wneud dewis deallus i gael llawdriniaeth ddydd lle bo hynny’n glinigol briodol. Yn ei dro, xx xxxxx hyn helpu i fynd i’r afael â’r broblem o’r gyfran uchel o gleifion llawdriniaeth ddydd – bron i chwarter – oedd xxxxx xx’n methu â
throi i fyny ar gyfer y lawdriniaeth neu’n canslo ar fyr rybudd, gan gyfrannu at lefelau isel defnydd theatr mewn unedau llawdriniaeth ddydd. Roeddem eisoes wedi codi pryderon ynglŷn â chyfraddau canslo uchel yn Amseroedd Aros y GIG: Adroddiad Dilynol, gan argymell y dylai Llywodraeth y Cynulliad gynnal adolygiad cynhwysfawr o’r rhesymau xxx xxx cleifion yn canslo apwyntiadau, a datblygu mesurau ataliol o ganlyniad i hyn.
33. Seiliwyd ein hoptimistiaeth ynghylch y rhagolygon ar gyfer gwella yn ein hadroddiad ar y Gwasanaethau Ambiwlans yn rhannol ar y cyfleoedd roedd strategaeth Darparu Gwasanaethau Gofal Xxxx (DECS) Llywodraeth y Cynulliad yn eu cyflwyno. Gwnaethom nodi bod Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi bod yn araf yn y gorffennol i ddatblygu modelau gwasanaeth newydd. Ond mae’r strategaeth DECS cefnogi cynlluniau moderneiddio’r Ymddiriedolaeth ei hun ac yn darparu cyfle i ddatblygu modelau gwasanaeth newydd sy’n edrych y tu hwnt i’r gwasanaeth ambiwlans i’r system gyfan gofal heb ei drefnu. Wrth galon y strategaeth DECS mae’r amcan o ddwyn ynghyd Galw Iechyd Cymru, gwasanaethau y tu xxxxx i oriau a gwasanaethau gofal heb ei drefnu eraill i weithio mewn modd mwy cydlynol a lleihau’r dryswch y gall cleifion ei deimlo ynglŷn â phwy i’w ffonio mewn argyfwng. Dylai gwneud hyn helpu i fynd i’r afael â’r broblem bod llawer o gleifion yn cyrraedd adrannau damweiniau ac achosion xxxx yn y pen draw pan nad oes angen iddynt fod yno mewn gwirionedd.
34. Fodd bynnag, mae’n anochel y gall cyflawni newidiadau arwyddocaol mewn modelau gwasanaeth GIG achosi pryderon cyhoeddus. Yn achos y gwasanaethau ambiwlans, gwnaethom gydnabod ei bod xxx amser yn ddadleuol cau gorsafoedd ambiwlans a bod symud i ffwrdd o ambiwlansys criw dwbl i barafeddygon yn y gymuned yn debygol o fod yn her i ddisgwyliadau’r cyhoedd ynglŷn â natur ac ansawdd gwasanaethau ambiwlans. O’r herwydd, gwnaethom bwysleisio’r angen i’r Ymddiriedolaeth ymgysylltu’n effeithiol â’r cyhoedd a rhanddeiliaid ehangach, gan gynnwys Aelodau’r Cynulliad, i egluro’r rhesymeg dros fodelau gwasanaeth newydd.
35. Roedd yr angen am foderneiddio ac ailgynllunio modelau iechyd a gofal cymdeithasol ar sail dull systemau cyfan hefyd yn ymddangos yn ein hadroddiad Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion. Gwnaethom bwysleisio’r angen i ddatblygu gwasanaethau sydd â mwy o ffocws ar xxxx problemau iechyd meddwl a’u datgelu’n gynnar. Cawsom hefyd fod rhai amrywiadau arwyddocaol yn parhau o ran y graddau y mae gwasanaethau iechyd meddwl yn y gymuned sy’n darparu dewisiadau amgen i fynd i'r ysbyty, gan gynnwys tai â chymorth a thimau datrys argyfwng, ar gael ledled Cymru. Roedd hyn er gwaethaf peth cynnydd calonogol. Yn yr un modd, nid oeddem yn sicr bod defnyddwyr a gofalwyr yn cael eu cynnwys mor llawn yn y gwaith o gynllunio a dylunio gwasanaethau iechyd meddwl ag y dylent ym mhob ardal o Gymru, er bod hyn yn ofyniad a gydnabyddir yn y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl i oedolion.
36. Gan edrych y tu hwnt i’r GIG, croesawodd ein hadroddiad ar y Strategaeth Genedlaethol ar Ddigartrefedd y camau roedd Llywodraeth y Cynulliad yn eu sefydlu i gefnogi ymdrechion i gynnwys pobl ddigartref yn y gwaith o ddylunio gwasanaethau. Roedd y mesurau hyn yn cynnwys:
⮚ Comisiynu a chyhoeddi ymchwil i arfer da wrth ymgynghori â phobl ddigartref;
⮚ Datblygu pecyn cymorth, yn cynnwys CD-Rom, ar gyfer cynnwys defnyddwyr gwasanaeth yn y gwaith o gynllunio;
⮚ Gwneud argymhellion penodol i awdurdodau lleol wedi’u seilio ar adolygiad o strategaethau digartrefedd; a
⮚ Gweithio gyda’r Uned Ddata Llywodraeth Leol i ddatblygu set o gwestiynau model ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth fel rhan o gyfarwyddyd i’w anfon at awdurdodau lleol yn y dyfodol.
37. Yn olaf, pwysleisiodd ein hadroddiad ar Fynediad y Cyhoedd i Gefn Gwlad yr angen i wneud mwy i helpu pobl i gael mynediad i gefn gwlad, yn enwedig y grwpiau hynny sydd mewn perygl o gael eu hallgáu yn gymdeithasol, megis pobl ag anableddau, aelodau o gymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a thrigolion ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf. Gwnaethom gydnabod bod hyn yn fater heriol, ond roeddem yn bryderus na ddylid ystyried cefn gwlad yn rhywbeth i’r dosbarth canol yn unig. Mae yna nifer o enghreifftiau o fentrau â’r nod o fynd i’r afael â’r mater hwn, gan gynnwys cyfranogiad Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog o brosiect Mosaic y DU gyfan sydd â’r nod o annog pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig i ymweld â pharciau cenedlaethol. Ond mae yna le i wneud mwy, a gwnaethom argymell y dylai Llywodraeth y Cynulliad, Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac awdurdodau mynediad lleol, mewn ymgynghoriad â sefydliadau sy’n cynrychioli grwpiau difreintiedig:
⮚ nodi’r sianelau cyfathrebu mwyaf priodol y gellid eu defnyddio i dargedu grwpiau difreintiedig;
⮚ nodi a mynd i’r afael â’r rhwystrau i ddefnyddio cefn gwlad y maent hwy yn arbennig yn eu hwynebu; a
⮚ nodi a rhannu arfer da sy’n arwain at fwy o fynediad i gefn gwlad ymhlith y grwpiau hyn.
Ymgysylltu â gweithlu’r sector cyhoeddus, a’i ddatblygu
38. Yn y pen draw, mae llwyddo i newid a gwella ein gwasanaethau cyhoeddus yn dibynnu ar sgìl ac ymrwymiad y staff sy’n gyfrifol am reoli a darparu’r gwasanaethau hyn. Dangoswyd y mater hwn yn eglur yn ein hadroddiad, Gwasanaethau Ambiwlans yng Nghymru, a ddygodd sylw at ddiffyg gallu i reoli ac arwain dros sawl blwyddyn fel un o’r prif resymau dros yr anawsterau a gafodd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Roedd y broblem hon wedi dod i’r amlwg ar ffurf rheolaeth wael o bobl, problemau diwylliannol a methiant ers tro i drosi strategaethau’n weithredoedd. Roeddem o’r farn bod y diffygion hyn yn
gwbl annerbyniol, ac rydym yn gobeithio na chaniateir i sefyllfa o’r fath ailgodi unrhyw le arall yng ngwasanaeth cyhoeddus Cymru. Ar ben hyn, bydd xxxxx x xxxxx â’r problemau hyn yn ei gwneud yn amhosibl i gyflawni cynllun moderneiddio newydd yr Ymddiriedolaeth. Mewn ymateb, gwnaethom argymell bod angen i’r Ymddiriedolaeth lunio rhaglen datblygu rheolwyr tymor hir i fynd i’r afael â’r problemau dwfn hyn ar xxx xxxxx, gyda ffocws penodol ar reolwyr llinell uniongyrchol.
39. Hefyd yn y GIG, mae ein hadroddiadau ar Lawdriniaethau Dydd, Amseroedd Aros a Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion gyda’i gilydd wedi dwyn sylw at ddau fater pwysig arall sy’n ymwneud â datblygu’r gweithlu:
⮚ Ymgysylltu clinigol – gwnaethom adrodd bod agweddau ac arferion clinigwyr, a’r rheolaeth gyffredinol ar eu perfformiad, yn hanfodol i wella cyfraddau llawdriniaethau dydd, gyda rhai clinigwyr yn parhau i beidio â bod yn eiriolwyr mawr dros lawdriniaeth ddydd. Gwnaethom argymell y dylai ymddiriedolaethau ddefnyddio’r system gwerthuso meddygon ymgynghorol newydd i gynyddu’r ffocws ar berfformiad clinigwyr unigol o ran llawdriniaeth ddydd a, gan ddefnyddio’r cyfleoedd a ddarperir xxx y contract meddygon ymgynghorol newydd, annog clinigwyr i ddilyn hyfforddiant i’w cefnogi wrth ehangu ystod yr achosion y xxxxxxx eu trin yn ddiogel fel llawdriniaethau dydd. Mae’r mater hwn ynglŷn â llawdriniaeth ddydd yn adlewyrchu pwysigrwydd ehangach cynnwys clinigwyr wrth fynd i’r afael ag amseroedd aros y GIG, a gwnaethom argymell unwaith eto y dylai Llywodraeth y Cynulliad weithio gyda sefydliadau GIG i gytuno ar dargedau a dangosyddion perfformiad lleol, yn hytrach na’u gorfodi yn ganolog, fel bod clinigwyr yn cytuno arnynt ac yn berchen arnynt.
⮚ Sgiliau comisiynu – gwnaethom ddwyn sylw at y problemau a achosir gan ddiffyg staff â sgiliau arbenigol mewn comisiynu gwasanaethau iechyd meddwl ar gyfer eu poblogaethau lleol. Nid yw’r broblem hon yn unigryw i Gymru, ond cawsom ein siomi nad oedd Byrddau Iechyd Lleol wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu trefniadau comisiynu mwy ‘colegaidd’. Yn yr un modd, cawsom nad oedd yr arfer o gomisiynu gwasanaethau gofal eilaidd ledled Cymru yn ddigon aeddfed hyd yma i sbarduno cyfraddau llawdriniaeth ddydd uchel yn effeithiol. Roedd hyn eto o ganlyniad i ddiffyg sgiliau comisiynu priodol ymhlith staff Byrddau Iechyd Lleol. Yn y ddau achos, gwnaethom fynegi ein gobaith y gallai cynlluniau i gyflawni arfer comisiynu ar sail ranbarthol helpu i ddatrys y problemau hyn o bosibl.
40. Cododd nifer o’n hadroddiadau gwestiynau ynglŷn â materion cymhwyster a gallu staff o fewn rhannau cyfansoddol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Daeth ein hadroddiad ar Weinyddu Grantiau Cynnal Addysg a Hyfforddiant (GEST) a’r Gronfa Ysgolion Gwell i’r casgliad nad oedd cynlluniau gwario Awdurdodau Addysg Lleol yn cael eu hasesu’n effeithiol ac yn gyson. Yn fwy cyffredinol, cafwyd bod diffyg
profiad gwerthuso ymhlith yr arweinwyr polisi sy’n gyfrifol am asesu’r cynlluniau hyn yn amharu ar y broses. Felly gwnaethom argymell y dylai Llywodraeth y Cynulliad sicrhau hyfforddiant ychwanegol a chyngor proffesiynol ar werthuso ar gyfer ei harweinwyr polisi.
41. Yn Contract Merlin - galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i newid ei brosesau busnes trwy TGCh, daethom i’r casgliad bod angen i Lywodraeth y Cynulliad ddatblygu sgiliau a chymhwyster ei staff i ddefnyddio’r contract Merlin ar gyfer darparu gwasanaethau technoleg gwybodaeth a chyfathrebu a phrosiectau newid busnes i drawsnewid ei phrosesau busnes. Yn anad dim, roedd angen cyflymu’r broses o drosglwyddo sgiliau o staff y Gynghrair (y grŵp o bartneriaid sy’n gwasanaethu’r contract) i swyddogion Llywodraeth y Cynulliad. Byddai hyn yn gwella gallu Llywodraeth y Cynulliad i ymddwyn fel ‘cwsmer deallus’, i fod yn ymwybodol o botensial TGCh i ddiwallu ei hanghenion ac i allu herio cynigion y Gynghrair mewn modd cadarn, a thrwy hynny sicrhau gwell gwerth am arian o’r contract Merlin.
42. Mae ein hadroddiadau blaenorol ar reoli absenoldeb salwch yn yr ymddiriedolaethau GIG yng Nghymru ac yn y sector Addysg Xxxxxxx drwyddo draw wedi pwysleisio’r rôl hanfodol y mae rheolwyr unigol yn ei chwarae yn y broses rheoli absenoldeb salwch. Yn Rheoli Absenoldeb Salwch yn y Cynulliad Cenedlaethol, roedd yn xxxxxx gennym allu dwyn sylw at y gostyngiad sylweddol yn y cyfraddau absenoldeb salwch yr adroddwyd arnynt rhwng 2004 a 2006. Dangosodd y gostyngiad hwn sut y gall arweinyddiaeth eglur ac ymrwymiad uwch reolwyr, yn ogystal â gwell polisïau a gweithdrefnau, a darparu gwasanaethau AD ac iechyd galwedigaethol yn fwy effeithiol, gael effaith go iawn ar broblem absenoldeb salwch. Roedd hefyd yn xxxxxx gennym nodi bod pwyslais yn cael ei roi ar xxx agwedd ar gyfrifoldebau rheolwyr llinell unigol am reoli pobl, ac i gefnogi hyn roedd rhaglen hyfforddiant Rheolwr Hyderus newydd yn cael ei rhoi ar waith fesul cam. Fodd bynnag, daethom i’r casgliad bod gwaith i’w wneud o hyd i ymgorffori’r cyfrifoldebau hyn yn llawn yn niwylliant rheolaeth y sefydliad drwyddo draw.
ATODIAD 1
AELODAETH, ROLAU A CHYFRIFOLDEBAU
Aelodaeth
1.1 Aelodaeth y Xxxxxxxx yn 2006-07 oedd Xxxxx Xxxxxx (Cadeirydd), Xxxxxxxx Xxxxxxx, Xxxx Xxxxx, Xxxx Xxxxxx, Xxxxxxx Xxxxxx, Xxxx Xxxxxxxxx, Xxxxx Xxxxx, Xxxxxx Xxxxx-Xxxxx, Xxxx Xxxxxxxx a Xxxxxxxxx Xxxxxx.
Rôl a Chyfrifoldebau’r Pwyllgor Archwilio
1.2 Rôl y Pwyllgor Archwilio yw sicrhau bod craffu priodol a thrylwyr yn digwydd i wariant y Cynulliad. Prif bwrpas y Pwyllgor yw sicrhau bod y Cynulliad a chyrff cyhoeddus eraill yn glynu wrth y safonau uchaf posibl wrth reoli’u materion ariannol. Manylir ar gyfrifoldebau Pwyllgor Archwilio’r Cynulliad Cyntaf a’r Ail Gynulliad yn Adran 102 Deddf Llywodraeth Cymru 1998 ac yn y Rheol Sefydlog 12 blaenorol. Mewn geiriau eraill, cyfrifoldeb y Pwyllgor Archwilio yw craffu ar yr adroddiadau ar gyfrifon y Cynulliad a chyrff cyhoeddus eraill a baratowyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ac ystyried adroddiadau gan yr Archwilydd Cyffredinol ar archwiliadau i’r ddarbodaeth, yr effeithiolrwydd a’r effeithlonrwydd (hynny yw, gwerth am arian) y mae’r Cynulliad a chyrff cyhoeddus eraill wedi’i gyflawni wrth ddefnyddio’u hadnoddau i gyflawni eu swyddogaethau.
1.3 Mae’r Pwyllgor yn gweithredu heb fod ar sail unrhyw blaid wleidyddol, heb amau rhinweddau amcanion polisi, ond yn hytrach mae’n canolbwyntio ar p’un a wnaeth y sefydliadau xxx sylw weithredu eu polisïau a’u rhaglenni gydag ystyriaeth briodol i gysondeb, priodoldeb a gwerth am arian.
1.4 Xxx xxx y Pwyllgor gyfrifoldeb hefyd i ystyried yn flynyddol amcangyfrif yr Archwilydd Cyffredinol o’i incwm a’i wariant am y flwyddyn ganlynol ac i roi’r amcangyfrif hwnnw gerbron y Cynulliad. Ar yr un pryd ag ystyried yr amcangyfrif, mae’r Pwyllgor yn ystyried rhaglen archwiliadau gwerth am arian arfaethedig Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae gofyn i Archwilydd Cyffredinol Cymru ymgynghori â’r Pwyllgor er mwyn penderfynu ar xx xxxxxx.
Archwilydd Cyffredinol Cymru
1.5 Roedd Adran 102 Deddf 1998 yn rhoi pwerau i Bwyllgor Archwilio’r Cynulliad Cyntaf a’r Ail Gynulliad gymryd tystiolaeth a chyflwyno adroddiad i’r Cynulliad ar sail adroddiadau a gyflwynwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Felly xxx xxx y Pwyllgor berthynas weithio agos â’r Archwilydd Cyffredinol. Xx xxxxx ef yw’r man cychwyn ar gyfer rhaglen waith y Pwyllgor ei hun ac mae’n helpu’r Cynulliad a chyrff cyhoeddus cysylltiedig yng Nghymru i sicrhau gwerth am arian o’u gweithredoedd ac i sicrhau bod eu materion ariannol yn cael eu rheoli mewn modd cyson a phriodol.
Swyddfa Archwilio Cymru
1.6 Mae Swyddfa Archwilio Cymru a sefydlwyd ar 1 Ebrill 2005, gydag Archwilydd Cyffredinol Cymru yn bennaeth arni, yn gorff archwilio ac arolygu unedig ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru, ac mae’n cyflawni un gyfundrefn archwilio ac arolygu mewn ystod xxxx o wasanaethau cyhoeddus.
1.7 Mae’r Pwyllgor Archwilio yn derbyn adroddiadau oddi wrth Archwilydd Cyffredinol Cymru ar xxx xxxx o’r sector cyhoeddus yng Nghymru ar wahân i lywodraeth leol.
1.8 Ar ôl ystyried adroddiad oddi wrth Archwilydd Cyffredinol Cymru, fel rheol bydd y Pwyllgor Archwilio yn cymryd tystiolaeth oddi wrth Swyddog Cyfrifyddu (hynny yw, yr uwch swyddog sydd â chyfrifoldeb personol am y gwariant perthnasol) y xxxxx xxx sylw i ystyried meysydd y tynnwyd sylw atynt yn yr adroddiad. Bydd y Pwyllgor Archwilio wedyn yn cynhyrchu ei adroddiad ei hun ar y darganfyddiadau.
1.9 Cyflwynir adroddiadau a gynhyrchir gan y Pwyllgor Archwilio gerbron y Cynulliad a, xxx Reol Sefydlog 12.5 yr Ail Gynulliad, roedd yn rhaid i Lywodraeth Cynulliad Cymru ymateb i'w argymhellion cyn pen 30 diwrnod gwaith.
Atodiad 2
Adroddiadau’r Pwyllgor Archwilio a gyhoeddwyd yn 2006-07
Teitl a chyfeirnod yr adroddiad | Dyddiad cymryd tystiolaeth | Tystion | Dyddiad cyhoeddi’r adroddiad |
Gweinyddu Grantiau Cynnal Addysg a Hyfforddiant (GEST) a’r Gronfa Ysgolion Gwell (2) 04-06 | 16 Chwefror 2006 | Xxxxxxx Xxxxxx, Cyfarwyddwr, Yr Adran Hyfforddiant ac Addysg Xxxxx Xxxxxx, Pennaeth yr Is-Xxxxx Xxxxxxx a Pherfformiad, Yr Adran Hyfforddiant ac Addysg | 12 Gorffennaf 2006 |
HGwasanaethauH Iechyd Meddwl i Oedolion yng Nghymru: Adolygiad Sylfaenol o’r Gwasanaethau a Ddarperir (2) 05-06 | 12 Ionawr 2006 | Xxx Xxxxx, Pennaeth yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Llywodraeth Cynulliad Cymru Xxxxxx Xxxxx, Cynghorydd Polisi Iechyd Meddwl, Llywodraeth Cynulliad Cymru | 19 Gorffennaf 2006 |
Contract Merlin - Galluogi’r Cynulliad Cenedlaethol i newid ei brosesau busnes trwy TGCh (2) 06-06 | 6 Ebrill 2006 | Xxx Xxx Xxxxxxxxxx, Ysgrifennydd Parhaol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru Xxxxxxx Xxxxxxxxxx, Cyfarwyddwr Gwybodaeth a Gwasanaethau Corfforaethol | 13 Medi 2006 |
Rheoli Ynni yn y GIG yng Nghymru (2) 07-06 | 16 Mawrth 2006 | Xxx Xxxxx, Pennaeth yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Llywodraeth Cynulliad Cymru Xxxx Xxxxxx, Cyfarwyddwr, Ystadau Iechyd Cymru Xxxx Xxxxxxx, Cyfarwyddwr, Cyflenwadau Iechyd Cymru | 4 Hydref 2006 |
Teitl a chyfeirnod yr adroddiad | Dyddiad cymryd tystiolaeth | Tystion | Dyddiad cyhoeddi’r adroddiad |
Cynnydd yn y Sector Addysg Xxxxxxx: Rheolaeth Ystadau a Chaffael (2) 08-06 | 15 Mehefin 2006 | Xxxxx Xxxxxxxx, Cyfarwyddwr, Yr Xxxxx Xxxxxx, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Llywodraeth Cynulliad Cymru Xxxxxxx Xxxx, Pennaeth yr Is-Xxxxx Xxxxxxxxx a Chyllido, Grŵp Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Llywodraeth Cynulliad Cymru Xxx Xxxxxx, Pennaeth Safonau, Ansawdd a Llywodraethu, Grŵp Sgiliau Dysgu Gydol Oes, Llywodraeth Cynulliad Cymru Xxxxx Xxxxxx, Pennaeth Gwasanaethau Gweithredol, Swyddfa’r Cyfarwyddwr, Llywodraeth Cynulliad Cymru | 4 Hydref 2006 |
Dysgu Seiliedig ar Waith (2) 09-06 | 15 Mehefin 2006 | Xxxxx Xxxxxxxx, Cyfarwyddwr, Yr Xxxxx Xxxxxx, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Llywodraeth Cynulliad Cymru Xxxxxxx Xxxx, Pennaeth yr Is-Adran Cynllunio a Chyllido, Grŵp Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Llywodraeth Cynulliad Cymru Xxx Xxxxxx, Pennaeth yr Is-Xxxxx Xxxxxxx, Ansawdd a Llywodraethu, Grŵp Sgiliau Dysgu Gydol Oes, Llywodraeth Cynulliad Cymru Xxxxx Xxxxxx, Pennaeth Gwasanaethau Gweithredol, Swyddfa’r Cyfarwyddwr, Llywodraeth Cynulliad Cymru | 1 Tachwedd 2006 |
A yw’r GIG yng Nghymru yn ymdopi o fewn yr adnoddau ariannol sydd ar gael iddo? (2) 10-06 | 4 Mai 2006 | Xxx Xxxxx, Pennaeth yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Llywodraeth Cynulliad Cymru Xx Xxxxxxxxx Xxxx, Cyfarwyddwr, Cyfarwyddiaeth Adnoddau yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | 15 Tachwedd 2006 |
Teitl a chyfeirnod yr adroddiad | Dyddiad cymryd tystiolaeth | Tystion | Dyddiad cyhoeddi’r adroddiad |
Amseroedd Aros y GIG: Adroddiad Dilynol (2) 11-06 | 6 Gorffennaf 2006 | Xxx Xxxxx, Pennaeth yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Llywodraeth Cynulliad Cymru Xxxx Xxxx-Tout, Xxx Gyfarwyddwr, Y Gyfarwyddiaeth Perfformiad a Gweithrediadau, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cynulliad Cymru. | 13 Rhagfyr 2006 |
Archwiliad Ariannol o Lywodraeth Ganolog a Chyrff y GIG yng Nghymru: 2006 (2) 12-06 | 6 Gorffennaf 2006 | Xxx Xxx Xxxxxxxxxx, Ysgrifennydd Parhaol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru Xxxxx Xxxxxx, Prif Gyfrifydd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru Xxx Xxxxx, Pennaeth yr Xxxxx Xxxxxx a Gofal Cymdeithasol, Llywodraeth Cynulliad Cymru Xx Xxxxxxxxx Xxxx, Cyfarwyddwr, Cyfarwyddiaeth Adnoddau yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | 20 Rhagfyr 2006 |
Rheoli Absenoldeb Salwch yn y Cynulliad Cenedlaethol (2) 01-07 | 12 Hydref 2006 | Xxx Xxx Xxxxxxxxxx, Ysgrifennydd Parhaol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru Xxxxxxx Xxxxxx, Cyfarwyddwr y Grŵp Adnoddau Dynol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru Xxxxx Xxxxxxx, Pennaeth yr Is-Adran Adnoddau Dynol (Cyflenwi), Cynulliad Cenedlaethol Cymru | 17 Ionawr 2007 |
Teitl a chyfeirnod yr adroddiad | Dyddiad cymryd tystiolaeth | Tystion | Dyddiad cyhoeddi’r adroddiad |
Gwasanaethau Ambiwlans yng Nghymru (2) 02-07 | 14 Rhagfyr 2006 | Xxxx Xxxxxx – Prif Weithredwr, Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru Xxxxxx Xxxxxxx – Cynghorydd Ambiwlans, Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru Xxx Xxxxx - Xxxxxxxx yr Xxxxx Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Llywodraeth Cynulliad Cymru Xxxxxx Xxxxxxx, Xxx Gyfarwyddwr, Perfformiad a Gweithrediadau, AIGC Xxxxx Xxxx – Prif Weithredwr Comisiwn Iechyd Cymru Xxxxx Xxxxxxx – Cyfarwyddwr Rhanbarthol, Swyddfa Ranbarthol Gogledd Cymru. | 7 Mawrth 2007 |
Gwneud defnydd gwell o lawdriniaethau dydd y GIG yng Nghymru (2) 03-07 | 21 Medi 2006 | Xxx Xxxxx, Pennaeth yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Llywodraeth Cynulliad Cymru Xxxx Xxxx-Tout, Xxx Gyfarwyddwr, Y Gyfarwyddiaeth Perfformiad a Gweithrediadau, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cynulliad Cymru. Xxxxxxx Xxxxxxxx, Xxxx Xxxxxxxxxx Ymddiriedolaeth GIG Ceredigion a Chanolbarth Cymru | 14 Mawrth 2007 |
Mynediad y Cyhoedd i Gefn Gwlad (2) 04-07 | 23 Tachwedd 2006 | Xxxxxx Xxxxx – Pennaeth yr Xxxxx Xxxxxxxxxx, Cynllunio a Chefn Gwlad, Llywodraeth Cynulliad Cymru Xxxxx Xxxxxx – Prif Weithredwr, Cyngor Cefn Gwlad Cymru Xxxxx Xxxxxxxx – Pennaeth Mynediad a Nawdd Cefn Gwlad, Llywodraeth Cynulliad Cymru Angharad Huws – Mynediad a Nawdd Cefn Gwlad, Llywodraeth Cynulliad Cymru | 21 Mawrth 2007 |
Y Strategaeth Genedlaethol ar Ddigartrefedd (2) 05-07 | 8 Chwefror 2007 | Xx Xxxx Xxxxxxx – Cyfarwyddwr, Yr Adran Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, Llywodraeth Cynulliad Cymru. Xxxxx Xxxxxxxxxx, Cyfarwyddwr Tai, Llywodraeth Cynulliad Cymru | 4 Ebrill 2007 |
Atodiad 3
Argymhellion a gynhwysir yn adroddiadau’r Pwyllgor Archwilio a gyhoeddwyd rhwng Mehefin 2006 a Mai 2007
Gweinyddu Grantiau Cynnal Addysg a Hyfforddiant (GEST) a’r Gronfa Ysgolion Gwell
1. Mae’r adnoddau sydd eu xxxxxx i baratoi ac i adolygu cynlluniau gwario, a’r duedd i osod terfyn o dair blynedd ar gyfer ariannu a gwerthuso, yn awgrymu bod manteision posibl i reoli’r rhaglen dros gylch sy’n hirach na blwyddyn. Rydym yn argymell bod Llywodraeth y Cynulliad, mewn ymgynghoriad ag AALlau yn cynllunio, ariannu a rheoli’r Gronfa Ysgolion Gwell mewn cylch o dair blynedd cyn gynted ag y bo hynny’n ymarferol.
2. Gall amseriad dyraniadau grant Llywodraeth y Cynulliad, yn enwedig pan fydd oedi, lesteirio gweithgareddau datblygu lleol yn ystod tymor yr haf xxx blwyddyn. Rydym yn argymell bod Llywodraeth y Cynulliad yn adolygu, gydag AALlau, i xx xxxxxx y xxx’r cylch cynllunio wedi llesteirio gweithgareddau datblygu yn ystod tymor yr haf ac, os yw’n amharu gryn dipyn arnynt, dylid newid y cylch fel y bo’n briodol.
3. Mae llithriant yn erbyn amserlen cynllunio Llywodraeth y Cynulliad wedi creu trafferthion i AALlau o ran cynllunio gweithgareddau, er y bu gwelliant yn ddiweddar ar ôl cryfhau xxx y Gronfa Ysgolion Gwell. Rydym yn argymell bod Llywodraeth y Cynulliad, wrth ddefnyddio’i hadnoddau, yn ystyried sut y gallai diffyg gwytnwch xxx y Gronfa Ysgolion Gwell beryglu effeithiolrwydd y Gronfa Ysgolion Gwell.
4. Wrth i arweinwyr polisi Llywodraeth y Cynulliad gyfranogi mwy mewn cyfarfodydd ymgynghori ag AALlau, dylai’r AALlau fedru deall yn well y penderfyniadau polisi sy’n arwain at newidiadau mewn gweithgareddau a blaenoriaethau. Gan hynny, rydym yn argymell bod Llywodraeth y Cynulliad yn annog yr arweinwyr polisi hynny sydd yn y sefyllfa orau i egluro newidiadau yn y rhaglen, i fod yn bresennol mewn cyfarfodydd â’r AALlau er mwyn egluro’r hyn sy’n digwydd. Dylid nodi eu presenoldeb mewn cyfarfodydd o’r fath mewn amserlen ymgynghori gyhoeddedig flynyddol.
5. Mae asesiadau Llywodraeth y Cynulliad o gynlluniau gwario’r AALlau yn ffordd bwysig o sicrhau atebolrwydd ac o hyrwyddo’r defnydd effeithiol o arian, ond mae diffyg arweiniad cynhwysfawr yn rhwystro asesu effeithiol. Rydym yn argymell bod Llywodraeth y Cynulliad yn paratoi canllawiau cynhwysfawr ar gyfer arweinwyr polisi. Dylai gynnwys safonau ar gyfer ansawdd y dystiolaeth sydd xx xxxxxx i benderfynu a yw’r meini prawf ar gyfer asesu cynlluniau gwario wedi’u bodloni. Dylai’r canllawiau hefyd amlinellu sut y dylai arweinwyr polisi wneud y defnydd gorau o ragasesiadau Estyn ac adroddiadau gwerthuso lleol.
6. Mae diffyg profiad arweinwyr polisi hefyd yn golygu nad yw’r gwaith o asesu cynlluniau gwario’r AALlau mor effeithiol ag y dylai fod. Gan hynny, rydym yn argymell bod Llywodraeth y Cynulliad yn gofalu bod arweinwyr polisi yn cael hyfforddiant a chyngor proffesiynol ar werthuso.
7. Er ei bod yn gryn her olrhain effaith y Gronfa Ysgolion Gwell ar ganlyniadau addysgol, gellid datblygu ffordd well o fesur effaith y rhaglen ar safonau dysgu. Gallai Llywodraeth y Cynulliad hefyd wneud rhagor i gynghori AALlau ar natur ac ansawdd y gwaith gwerthuso a ddisgwylir ganddynt. Rydym yn argymell bod Llywodraeth y Cynulliad yn manteisio ar arbenigedd allanol, yn yr AALlau a thrwy ddefnyddio ffynonellau annibynnol, i baratoi canllawiau ar gyfer AALlau ar y ffordd y dylid ymgymryd â gwaith gwerthuso. Dylai hefyd osod safonau gwerthuso sylfaenol fel un o amodau’r grant.
Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion yng Nghymru: Adolygiad Sylfaenol o’r Gwasanaethau a Ddarperir
1. Mae adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol, Gwasanaethau iechyd meddwl i oedolion yng Nghymru: adolygiad sylfaenol o’r gwasanaethau a ddarperir, yn drosolwg cynhwysfawr o wasanaethau iechyd meddwl i oedolion yng Nghymru ac mae’n argymell camau mewn nifer o feysydd er mwyn codi’r gwasanaethau i’r safonau sydd wedi’u nodi yn yr NSF. Nodwn fod cynnydd wedi’i wneud yn xxxxx wrth roi rhai o argymhellion yr adroddiad ar waith. Gan hynny, rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru ac asiantaethau lleol gymryd camau cydlynol i roi gweddill yr argymhellion a wnaed gan yr Archwilydd Cyffredinol ar waith.T
2. Xxx xxxxx cryfhau’r gwaith i asesu anghenion iechyd meddwl mewn xxxx xxxx o Gymru er mwyn sicrhau ei fod yn nodi’r blaenoriaethau a’r bylchau yn y gwasanaethau yn gywir. Rydym yn argymell y dylai’r Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol gymryd camau i ddatblygu ymhellach ei arbenigedd mewn asesu anghenion iechyd meddwl er mwyn rhoi ei gymorth cyflawn i gynhyrchu strategaethau iechyd, gofal cymdeithasol a lles lleol.
3. Fe fu ac fe fydd gwariant sylweddol ar wasanaethau iechyd meddwl i oedolion. Ochr yn ochr â hyn, mae’r Archwilydd Cyffredinol wedi tanlinellu problemau gyda systemau cyfrifyddu sy’n golygu nad yw wedi bod yn bosibl dirnad yn gywir faint sy’n cael ei wario ar wasanaethau iechyd meddwl i oedolion yn y cymunedau iechyd lleol cyn hyn. Gan hynny, rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r Byrddau Iechyd Lleol ddefnyddio’r trefniadau newydd ar gyfer Cyllidebu Rhaglenni i nodi’r gwahanol symiau sy’n cael eu gwario ar wasanaethau iechyd meddwl ac i roi sicrwydd bod adnoddau’n cael eu cyfeirio at y meysydd a’r gwasanaethau lle ceir yr angen mwyaf.
4. Mae cynllun gweithredu cenedlaethol yn cael ei ddatblygu fel mecanwaith i wella’r dulliau lleol o ymdrin â hybu iechyd meddwl, sydd hyd yn hyn heb gael eu datblygu’n dda. Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru sefydlu rhaglen waith i gyd-fynd â’r cynllun gweithredu a fydd yn helpu i roi’r cynllun gweithredu ar waith o fewn y sefydliadau lleol perthnasol ac yn eu helpu i sicrhau bod mentrau i hybu iechyd meddwl yn targedu’r grwpiau hynny yn y boblogaeth sydd â’r anghenion mwyaf.
5. Er gwaethaf buddsoddiadau cyfalaf sylweddol a chryn wella ar gyfleusterau i gleifion mewnol iechyd meddwl mewn rhai rhannau o Gymru, nid yw targed yr NSF o gau pob sefydliad Fictoraidd erbyn 2008 yn mynd i gael ei fodloni ym mhobman. Mewn rhannau o Gymru lle xxx xxxxx gwelliannau o hyd, rydym yn argymell y dylai’r sefydliadau statudol lleol gymryd camau ar fyrder i sicrhau bod y cynnydd cyflymaf sy’n rhesymol yn cael ei wneud i lunio a chyflwyno cynlluniau busnes strategol amlinellol i ddisodli hen xxxx xx’n anaddas i gleifion.
6. Cymysg fu’r cynnydd wrth roi’r Dull Rhaglen Ofal (CPA) ar waith a chafodd y targed o’i roi ar waith yn llawn erbyn mis Rhagfyr 2004 mo’i gyrraedd mewn rhai rhannau o Gymru. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wrthi’n adolygu’r cynnydd tuag at roi’r CPA ar waith ledled Cymru. Rydym yn argymell y dylai’r adolygiad gael ei ddefnyddio i gael sicrwydd bod y CPA yn cael ei roi ar waith yn llawn a’i fod yn arwain at well gwasanaethau i bobl a chanddynt broblem iechyd meddwl. Dylai sylwadau’r rhai sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl ddarparu sail ar gyfer yr adolygiad.
7. Adeg gwaith yr Archwilydd Cyffredinol, nid oedd protocolau i arwain sut mae cleifion yn cael eu trosglwyddo o wasanaethau plant a’r glasoed i wasanaethau iechyd meddwl oedolion wedi’u datblygu mewn llawer rhan o Gymru. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi rhoi £50,000 i xxx Ymddiriedolaeth GIG er mwyn sicrhau bod y protocolau hyn a phrotocolau eraill yn cael eu diweddaru. Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru ei gwneud yn ofynnol i Ymddiriedolaethau’r GIG ddangos sut mae’r arian wedi’i wario a bod y protocolau angenrheidiol xxxxxxx wedi’u sefydlu ledled Cymru.
8. Xxx xxx xxxxx xxxx â phroblem iechyd meddwl broblem ar yr un pryd â chamddefnyddio cyffuriau neu alcohol. Mae trin a rheoli’r cleifion “diagnosis deuol” hyn yn rhoi llawer o heriau ac yn aml nid yw’n glir pa dîm arbenigol sy’n bennaf cyfrifol am eu gofal. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi datblygu fframwaith a rhaglen waith berthynol er mwyn sefydlu gwell arferion cydweithio rhwng y gwasanaethau arbenigol. Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru nodi amserlen glir i ddilyn y gwaith hwn a gofyn am sicrwydd bod y fframwaith camddefnyddio sylweddau yn arwain at well gwasanaethau i gleifion a chanddynt ddiagnosis deuol.
Contract Merlin - Galluogi’r Cynulliad Cenedlaethol i newid ei brosesau busnes trwy TGCh
1. Bu oedi yn y caffael oherwydd bod Llywodraeth y Cynulliad wedi nodi’n rhy hwyr yr angen am gaffael cyngor arbenigol ychwanegol i drafod telerau contract o’r maint hwn. Dylai Llywodraeth y Cynulliad, yn gynnar yn y broses gaffael, ystyried xx xxxxxx am ymgynghorwyr allanol er mwyn osgoi’r oedi a ddaw yn sgil penodi ymgynghorwyr drwy gystadleuaeth agored pan fydd y broses gaffael ar xx xxxxxx. Er mwyn sicrhau bod yr ymgynghorwyr hyn yn costio cyn lleied â phosibl, dylai Llywodraeth y Cynulliad ddefnyddio nifer o ffyrdd o dalu, megis talu am gyngor wrth y dydd yn hytrach nag wrth yr awr.
2. Ni welodd bwrdd y rhaglen gaffael oedd yn goruchwylio caffael Merlin ddigon o wybodaeth ariannol i’w galluogi i fonitro gwariant yn fanwl ac fel mater o drefn. I alluogi craffu manylach ar gostau caffael yn y dyfodol, dylai’r timau caffael gyflwyno data ariannol xxx chwarter ar rannau unigol prosiectau caffael mawr i fwrdd y rhaglen gaffael.
3. Ni chafodd y defnyddwyr ddigon o ran wrth nodi’u hanghenion TGCh ar adeg llunio manyleb y contract. Wrth baratoi i ddisodli Merlin, dylai Llywodraeth y Cynulliad sicrhau bod gan y defnyddwyr ran weithredol wrth nodi anghenion TGCh a newid busnes, er enghraifft drwy weithdai, ymweliadau safle a rhwydweithiau â sefydliadau perthnasol, yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat fel ei gilydd, i weld posibiliadau defnyddio TGCh i ddarparu newid busnes.
4. Roedd hepgor Adolygiadau Gateway 0 a 2 wedi lleihau’r maint o graffu annibynnol a fu ar gaffael Merlin. Dylai Llywodraeth y Cynulliad ddefnyddio pob un o bum Adolygiad Gateway Swyddfa Masnach y Llywodraeth i ddod â sicrwydd ac adolygiad annibynnol i xxx cyfnod allweddol o raglenni caffael mawr yn y dyfodol.
5. Er bod xxx caffael Xxxxxx wedi cymryd y camau priodol i reoli risg trafod telerau â chyflenwr presennol, bydd angen i swyddogion Llywodraeth y Cynulliad sicrhau cystadleuaeth wrth gaffael TGCh yn y dyfodol gan y gallai SBS fod â chymaint ag ugain mlynedd o brofiad o weithio yn y Cynulliad Cenedlaethol erbyn diwedd contract Xxxxxx. Dylai swyddogion Llywodraeth y Cynulliad sicrhau tua diwedd Merlin bod ganddynt ddigon o amser i benderfynu ar strategaeth gaffael i’w ddisodli, a hynny yng ngoleuni’r hyn fydd yn hysbys ar y pryd ynghylch trin rhaglenni caffael pan fydd cyflenwr presennol xxx sylw, ac ynghylch natur y farchnad gyfredol ar gyfer cyflenwi’r gwasanaethau angenrheidiol.
6. Mae perfformiad anghyson TGCh yn ystod dwy flynedd gyntaf y contract yn golygu bod llwyddiant y rhaglen mewn perygl, a gwaethygwyd hyn gan lithriant wrth adnewyddu rhwydwaith mewnol TGCh. Dylai swyddogion Llywodraeth y Cynulliad sicrhau bod gwella’r gwasanaeth yn parhau i fod yn eitem allweddol ar agenda Bwrdd Partneriaeth Merlin hyd nes i’r Gynghrair gyflwyno gwelliannau sylweddol, mesuradwy i safon y perfformiad ar hyn x xxxx.
7. Nid yw’r contract wedi diwallu anghenion Aelodau’r Cynulliad a’u staff yn llawn. Mae’r gwahanu a ddigwyddodd rhwng Gwasanaeth Seneddol y Cynulliad a Llywodraeth Cynulliad Cymru ym mis Ebrill 2007 yn cynnig cyfle newydd i ddatblygu safonau gwasanaeth newydd sy’n adlewyrchu’r anghenion hynny. Dylai swyddogion Gwasanaeth Seneddol y Cynulliad gynnwys Aelodau’r Cynulliad a’u staff wrth nodi’u gofynion TGCh, safonau gwasanaeth a dulliau mesur bodlonrwydd y defnyddiwr, er mwyn sicrhau bod modd mesur cynnydd.
8. Roedd gwendidau wrth reoli costau ar ddechrau un y contract. Bydd amsugno nifer sylweddol o staff y CCNC yn ychwanegu at y risg o reoli costau’n wael oherwydd cofnodion gwallus am ddefnyddwyr a’u lleoliadau. Dylai gwasanaethau archwilio mewnol Llywodraeth y Cynulliad fonitro’r taliadau ar gyfer defnyddwyr newydd a digonolrwydd y fframwaith rheoli ar ôl y gwahanol gyfuniadau. Yn yr un modd, dylai swyddogion Gwasanaeth Seneddol y Cynulliad ddatblygu gweithdrefnau ar gyfer rheoli costau TGCh wrth iddynt gymryd cyfrifoldeb am eu cyllideb TGCh eu hunain.
9. Nod contract Merlin yw gwella sgiliau swyddogion y Cynulliad Cenedlaethol, ond nid yw’r broses o drosglwyddo sgiliau wedi bod mor gyflym â’r disgwyl. Gall trosglwyddo’r sgiliau hyn leihau’r risg fawr na fyddai gan swyddogion Llywodraeth y Cynulliad allu cwsmer deallus i herio cynigion y Gynghrair, ac i reoli cyflawni’r manteision sy’n deillio o brosiectau newid, a’u mesur. Dylai Llywodraeth y Cynulliad, drwy’r contract, gyflymu trosglwyddo sgiliau drwy annog y Gynghrair i weithio gyda grŵp ehangach o swyddogion a’u hyfforddi i ddatblygu a chynnal grŵp proffesiynol o reolwyr prosiectau a rhaglenni. Dylai fod monitro ffurfiol ar gynnydd trafodaethau â phartneriaid y Gynghrair pe na bai gwella mesuradwy yng nghyflymder trosglwyddo sgiliau erbyn diwedd y flwyddyn galendr 2006.
10. Mae Llywodraeth y Cynulliad, mewn partneriaeth â’r Gynghrair, wedi datblygu model sy’n dangos sut olwg fydd ar eu gweithredu ymhen pedair neu bum mlynedd. Er mwyn hwyluso trafod telerau prosiectau a gwerthuso’u deilliannau, dylai Llywodraeth y Cynulliad ddatblygu methodoleg a chanllawiau ysgrifenedig ar fesur costau a manteision prosiectau newid, boed y rheiny’n rhai ariannol neu fel arall. Dylai’r fframwaith hwn fod â chysylltiad amlwg â chynllunio ariannol tymor canolig, a dylai cyllidebau newid i adlewyrchu’r effeithiau ariannol sy’n deillio o brosiectau newid busnes.
Rheoli Ynni yn y GIG yng Nghymru
1. Mae’n rhy gynnar i amcangyfrif llwyddiant y strategaeth brynu newydd a fabwysiadwyd gan Gyflenwadau Iechyd Cymru, ar ran ymddiriedolaethau’r GIG, am ei gontractau nwy a thrydan galw uchel. Rydym yn argymell bod Cyflenwadau Iechyd Cymru yn cynnal gwerthusiad llawn o effeithiolrwydd y strategaeth brynu newydd ar gyfer cyflenwadau nwy a thrydan galw uchel ar xx xxx flynedd gyntaf y contractau pum mlynedd newydd hyn. Dylai’r gwerthusiad adeiladu ar waith grŵp rheoli risg prisiau ynni’r GIG ac, fel rhan o’r gwerthusiad, byddem yn disgwyl i Gyflenwadau Iechyd Cymru:
a) cymharu’r prisiau a gyflawnwyd gan y dull prynu hyblyg â’r prisiau a fyddai wedi’u cyflawni xxx x xxxx pris sefydlog blynyddol blaenorol;
b) cymharu dulliau a deilliannau â rhai prynwyr ynni mawr eraill;
c) ceisio adborth oddi wrth ymddiriedolaethau ar ansawdd y gwasanaeth a ddarperir gan gyflenwyr xxx y contractau newydd, yn arbennig o ran cywirdeb bilio, ac ar sail y darganfyddiadau hyn, ystyried a fyddai’n xxxxx cynnal arfer archwilio biliau mwy systematig yn y gwasanaeth drwyddo draw;
ch) defnyddio profiad contractwr y sector preifat sy’n gyfrifol am y broses caffael ynni ar gyfer Ysbyty’r Tywysog Siarl (Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Morgannwg) sy’n ymddangos, o leiaf yn y tymor byr, fel pe bai wedi sicrhau prisiau mwy cystadleuol na’r rheiny mae Cyflenwadau Iechyd Cymru wedi’u sicrhau; ac
d) adrodd ar ddarganfyddiadau’r gwaith hwn i uwch reolwyr ar draws ymddiriedolaethau’r GIG y maent yn eu gwasanaethu.
2. Mae’r broses caffael ynni’n amlwg yn gymhleth ac xxx xxxxx gwybodaeth ac arbenigedd yn y xxxx hwn, yn arbennig yn ystod adegau pan mae prisiau’r farchnad yn gynyddol gyfnewidiol. Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru, drwy xx xxxx Gwerth Cymru, sicrhau bod pob xxxxx cyhoeddus yng Nghymru yn gallu manteisio ar yr arbenigedd sy’n angenrheidiol i reoli’r risgiau sydd ynghlwm wrth gaffael ynni yn effeithiol, a bod y ffordd y mae cyrff cyhoeddus yn prynu cyflenwadau ynni yn ddigon hyblyg i roi rhywfaint o ddiogelwch rhag uchafbwyntiau ym mhrisiau’r farchnad.
3. Dim ond ychydig o gynnydd a wnaed gan ymddiriedolaethau GIG tuag at gyrraedd targedau defnyddio ynni ac effeithlonrwydd ynni Llywodraeth Cynulliad Cymru, ac nid yw’n sicr pa mor briodol yw rhai o’r targedau a’r ffordd o’u mesur. Dylai Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cynulliad Cymru ac Ystadau Iechyd Cymru ailystyried targedau’r GIG yng Nghymru sy’n gysylltiedig ag ynni, yn gyfochrog â diwygio Cod Ynni’r DU gyfan ar gyfer adeiladau’r GIG. Yn arbennig:
a) dylent fesur perfformiad effeithlonrwydd ynni yn seiliedig ar ddefnydd yn ôl; arwynebedd llawr yn hytrach nag yn ôl cyfaint wedi’i wresogi;
b) ni ddylent gyfrif gostyngiadau mewn gollyngiadau carbon deuocsid yn sgil caffael trydan gwyrdd tuag at y targed ar gyfer y defnydd sylfaenol o ynni, gan fod hyn yn lleihau’r cymhelliant i gyflawni gostyngiadau gwirioneddol mewn defnydd; ac
c) dylent ddatblygu targedau newydd ar gyfer gollyngiadau carbon deuocsid, cynhyrchu ynni ar y safle drwy ddefnyddio ffynonellau gwres a phŵer cyfun ac ynni adnewyddadwy, a chaffael trydan gwyrdd o ffynonellau allanol.
4. Mae datblygu pecyn cymorth ymgyrch ynni, yn dilyn ymgyrch beilot yn Ymddiriedolaeth GIG Gogledd-orllewin Cymru, yn enghraifft dda o sefydliadau’r sector cyhoeddus yn gweithio gyda’i gilydd i ddatblygu a rhannu arfer da, sy’n gyson ag amcanion strategaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, sef Creu’r Cysylltiadau. Yn dilyn gwerthusiad mwy ffurfiol gan Ystadau Iechyd Cymru, dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru nodi’r gwersi a ddysgwyd o’r ymgyrch ymwybyddiaeth ynni yn Ymddiriedolaeth GIG Gogledd-orllewin Cymru a rhannu’r rhain â chyrff eraill y sector cyhoeddus i’w helpu i gynnwys staff yn eu hymdrechion i leihau faint o ynni a ddefnyddir.
5. Disgwylir y bydd dyrannu £3.5 miliwn o Raglen Buddsoddi Cyfalaf y GIG i ariannu mesurau arbed ynni, ynghyd â datblygiadau parhaus eraill yn y gwasanaeth drwyddo draw, yn arwain at welliannau sylweddol mewn perfformiad ynni. Rydym yn argymell bod Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cynulliad Cymru, ar y cyd ag Ystadau Iechyd Cymru, yn sefydlu systemau clir i fonitro a gwerthuso effaith yr arian a ddarperir ar gyfer mesurau arbed ynni fel xxxx x Xxxxxx Buddsoddi Cyfalaf y GIG. Wrth wneud hyn, dylai’r Adran fesur y graddau y cafodd manteision arfaethedig y buddsoddiad hwn eu gwireddu neu, o bosibl y graddau y rhagorwyd arnynt, gyda’r bwriad o ddarparu sail ar gyfer yr achos busnes dros gael mwy o arian yn y dyfodol. Dylai’r Adran hefyd sicrhau y gall ymddiriedolaethau ddangos gwelliannau pendant yn eu trefniadau rheoli ynni ehangach, yn unol â’r ymrwymiadau roedd yn ofynnol iddynt eu gwneud er mwyn sicrhau’r arian hwn ac mewn ymateb i’r argymhellion a wnaed gan yr Archwilydd Cyffredinol yn ei adroddiad.
Cynnydd yn y Sector Addysg Xxxxxxx: Rheolaeth Ystadau a Chaffael
1. Er mwyn sicrhau rheolaeth dda, rhaid cael gwybodaeth dda am reolaeth, a hynny fel sail i wneud penderfyniadau. Gan fod y gronfa ddata sy’n nodi i xx xxxxxx y xxx’r ystâd addysg xxxxxxx yn cydymffurfio â deddfwriaeth anabledd wedi’i pharatoi yn 2001, rydym yn argymell bod Llywodraeth y Cynulliad yn comisiynu archwiliad newydd o fynediad ar gyfer pobl anabl. Bydd canlyniadau’r archwiliad hwn yn darparu sail ar gyfer penderfyniadau Llywodraeth y Cynulliad yn y dyfodol ar ddyrannu arian i gynorthwyo’r sector i gydymffurfio â deddfwriaeth anabledd.
2. Mae’r angen i sicrhau arbedion ariannol drwy wella prosesau caffael wedi bod yn rhan o agenda Llywodraeth y Cynulliad ers sawl blwyddyn ac xxx xxxxxxx yn xxxx allweddol x xxxxxx Creu’r Cysylltiadau. Rydym yn argymell bod Llywodraeth y Cynulliad yn ei gwneud yn ofynnol i xxx sefydliad ddarparu gwybodaeth yn rheolaidd, er enghraifft yn flynyddol, am yr arbedion y mae’n eu gwneud drwy wella arferion caffael.
3. Xxxx adolygiad allanol helpu i annog sefydliadau i wella. Rydym yn argymell bod Llywodraeth y Cynulliad yn cynorthwyo Gwerth Cymru a fforwm i sicrhau bod Gwiriadau Ffitrwydd Caffael yn cael eu cynnal ym mhob sefydliad addysg xxxxxxx.
Dysgu Seiliedig ar Waith
1. Er bod trefniadau rheoli prosiect a risg wedi’u sefydlu, ni chafwyd digon o hyfforddiant ac ni chafodd y ddwy system eu rhedeg ar y cyd. Dylai fod Llywodraeth y Cynulliad yn ei gwneud yn ofynnol i xxx darparwr trydydd parti sy’n cael arian cyhoeddus gymryd rhan mewn unrhyw hyfforddiant hanfodol ac mewn unrhyw drefniadau i weithredu unrhyw brosiectau neu fentrau newydd.
2. Mae’n bosibl y gellid bod wedi osgoi’r problemau a wynebwyd yn sgil trosglwyddo i system y LLWR drwy gynnwys mwy o fesurau diogelu dibynadwy fel rhan annatod o’r LLWR, sicrhau bod adborth a chymorth yn targedu darparwyr a oedd yn ‘peri pryder’ a gwella’r broses o ddilysu data. Dylai Llywodraeth y Cynulliad gynnwys y gwersi ymarferol a ddysgwyd wrth weithredu’r LLWR, ynghyd â’r materion a amlygwyd yn yr adroddiad hwn, yn ei chynlluniau ar gyfer prosiectau yn y dyfodol sydd o’r un maint neu o’r un natur.
3. Penderfynodd ELWa i ddibynnu ar broses o ddilysu ar ôl gwneud taliadau o fewn y LLWR, ond ni ddylid dibynnu ar y gwiriadau hyn oni bai fod cyfradd y gwallau’n rhesymol. Dylai Llywodraeth y Cynulliad newid ei dulliau o weithredu yn y xxxx hwn os nad yw’r cyfraddau’n gwella.
4. Rhaid i xxx darparwr hyfforddiant gyrraedd safon sylfaenol dderbyniol o leiaf o ran rheoli mewnol, neu nid oes fawr o sicrwydd bod arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio’n briodol. Mae’n annerbyniol iawn fod canlyniadau archwiliadau darparwyr yn y sector cyhoeddus yn aml yn datgelu systemau rheoli gwael ar gyfer dysgu seiliedig ar waith. Dylai Llywodraeth y Cynulliad gyflwyno system reoli fewnol o safon sylfaenol ofynnol ar gyfer xx xxxx ddarparwyr hyfforddiant o ddechrau’r cyfnod contractio newydd yn 2007. Dylai’r safon fod yn llym, a dylid ei haddasu yn ôl maint y sefydliad a lefel y cyllid a gaiff. Dylid gofalu bod xxx xxx sefydliad system wirio i sicrhau bod yr arian a dderbynnir yn cael ei ddyrannu’n briodol.
5. Mae’n bosibl y gallai’r dull presennol o werthuso darparwyr, sef ystyried eu systemau rheoli mewnol ar wahân i’r defnydd a wnânt o’u harian, arwain at benderfyniadau amhriodol ynghylch parhau i’w hariannu. Mae’n bwysig, felly, fod systemau’r darparwyr yn cael eu gwerthuso’n gyffredinol i sicrhau eu bod yn ddigon da i ddiogelu’r arian a roddwyd iddynt. Fel rhan o’r broses o Adolygu Perfformiad Darparwyr, dylai Llywodraeth y Cynulliad raddio systemau rheoli mewnol darparwyr hyfforddiant xxxxx xx fel system ‘dderbyniol’ neu ‘annerbyniol’. Dylai’r asesiadau hyn gynnwys canlyniadau’r xxxx xxxxx o archwilio darparwyr, gan gynnwys sut y maent yn defnyddio’r xxxxx x xxxx.
6. Dylai asesiadau risg yr archwiliadau werthuso faint o brofion sydd eu xxxxxx i gael tystiolaeth uniongyrchol bod arian yn cael ei ddefnyddio’n briodol. Mae gwerthusiad o’r fath yn arbennig o bwysig i ddarparwyr bach lle mae systemau’n debygol o fod yn llai cadarn. Dylai Llywodraeth y Cynulliad fabwysiadau dull hyblyg o gynnal archwiliadau, gan ddibynnu ar systemau lle bo hynny’n briodol, ond gan chwilio am dystiolaeth archwilio fwy uniongyrchol lle aseswyd bod mwy o risg, fel yn achos llawer o’r darparwyr bach.
7. Mae’r gofyniad i ddarparwyr roi cynlluniau gweithredu adferol pendant ar waith lle mae gweithdrefnau blaenoriaethu’n cael eu defnyddio, yn arf pwerus i Lywodraeth y Cynulliad fedru sicrhau gwelliannau cyflym ac angenrheidiol i systemau rheoli. Dylai Llywodraeth y Cynulliad ddechrau gweithdrefnau blaenoriaethu yn awtomatig gyda’r xxxx ddarparwyr hynny sydd, ar ôl eu hasesu, â systemau rheoli mewnol ‘annerbyniol’, ac sydd, wedyn, yn methu â chwblhau eu hunanarchwiliadau o fewn y cyfnod y cytunwyd arno. Dylai Llywodraeth y Cynulliad hefyd fonitro canlyniadau’r hunanarchwiliadau’n ofalus i sicrhau, pan fo angen adennill symiau sylweddol o arian, eu bod yn mynd i wraidd problemau o’r fath a’u datrys yn briodol drwy, er enghraifft, gynnig hyfforddiant neu ganllawiau ychwanegol.
8. Ar gyfer y cylch contractio nesaf yn 2007, xxx xxx Lywodraeth y Cynulliad yn awr lawer mwy o brofiad o berfformiad darparwyr i fanteisio arno, ynghyd â gwell ffynhonnell wybodaeth i fod yn sail i unrhyw benderfyniad ynghylch cyllid sy’n codi yn sgil datblygu System Gynllunio ac Ariannu Genedlaethol a’r LLWR. Dylai Llywodraeth y Cynulliad gynnal cylch contractio 2007 ar sail asesiad cadarn o safonau a gallu gofynnol darparwyr hyfforddiant, a dylai egluro sut berfformiad y mae’n ei ddisgwyl gan y darparwyr y mae’n eu penodi i gyflwyno’i rhaglenni dysgu seiliedig ar waith. Dylai’r contractau hefyd gynnwys trefniadau pendant i weithio am gyfnod prawf er mwyn xxxxx’n deg ac yn gadarn ag unrhyw dystiolaeth gynnar o berfformiad gwael.
9. Xxxxx’r dull integredig o asesu darparwyr, fel y dangosir gan y broses Adolygu Perfformiad Darparwyr, ddarparu sail gadarn i wella safonau darparwyr unigol ynghyd â safon y ddarpariaeth yn ei chyfanrwydd. Yn ogystal â mynnu bod darparwyr unigol yn paratoi cynlluniau gweithredu adferol, dylai Llywodraeth y Cynulliad ddefnyddio canlyniadau’r broses o Adolygu Perfformiad Darparwyr yn sail i’r camau y penderfynir eu cymryd i ddelio â’r diffygion yn eu cyfanrwydd, er enghraifft diffygion mewn lefelau
cyrhaeddiad dysgwyr, ac i nodi a hybu arfer da er mwyn helpu i godi safonau’n fwy fyth yn gyffredinol.
A yw’r GIG yng Nghymru yn ymdopi o fewn yr adnoddau ariannol sydd ar gael iddo?
Er bod cyrff GIG lleol Cymru wedi ateb eu dyletswyddau ariannol statudol 2004/05, roedd nifer yn rhagweld na fyddent yn gwneud hynny yn 2005/06. Bu rhywfaint o dystiolaeth o gyrff lleol yn cael trafferthion i ragweld eu perfformiad ariannol. Xxx xxxx cyrff lleol, nad ydynt wedi dangos diffyg ariannol yn hanesyddol, yn wynebu’r her hon erbyn diwedd 2005/06 a bydd angen iddynt hefyd baratoi cynlluniau xxxxx er mwyn dychwelyd i sefyllfa o gydbwysedd ariannol.
Rydym yn argymell:
i. bod Llywodraeth y Cynulliad yn monitro’n agos yr effaith sy’n dod i’r amlwg o weithredu “Agenda ar gyfer Newid”; a
ii. y dylai swyddogion barhau i herio’n llym amcangyfrifon lleol o’r costau o ganlyniad i hwn, a dylai’r gwaith barhau gyda chyrff GIG lleol i sicrhau bod yr effaith yn cael sylw yn y cynlluniau ariannol presennol.
Mae’r GIG yng Nghymru yn debygol o gychwyn blwyddyn ariannol 2006/07 gyda diffyg o’r flwyddyn 2005/06 o oddeutu £30 miliwn a fydd angen sylw, yn ychwanegol at ddyled ad-daladwy oedd yn bodoli xx xxxxx ei thalu o £83 miliwn. Ar gyfer 2006/07 xxxxx, xxx’r sefyllfa’n parhau i fod yn anodd iawn. Bydd parhau i weithredu “Cynllun Oes” wrth ddiwallu blaenoriaethau blynyddol fel y mynegwyd yn y Fframweithiau Gwasanaeth a Chyllid (SaFF) a llunio cynlluniau cadarn i ddychwelyd i sefyllfa ariannol gytbwys yn parhau i brofi rheolwyr y GIG yn lleol mewn xxxx xxxx o Gymru.
Rydym yn argymell:
iii. bod angen cytuno ar broffiliau ad-dalu dyled sy’n cadw disgyblaeth ariannol ac yn osgoi bygythiadau tymor byr i ofal cleifion; a
iv. bod cymaint o eglurder ag sy’n bosibl yn cael ei ddarparu i gyrff y GIG ar lefel yr adnoddau iddynt yn y tymor canolig, i gefnogi gwell unioni cynllunio allweddol a mecanweithiau targed y soniwyd amdanynt megis “Cynllun Oes” a’r dull Fframwaith Gwasanaeth a Chyllid.
Xxx xxxxx i’r GIG yng Nghymru roi sylw i’r pwysau a’r heriau hyn mewn modd cynaliadwy sy’n cyflawni gwelliannau pellach mewn amseroedd aros i gleifion, y mae’n rhaid eu cyflawni erbyn 2009. Mae’n debygol y bydd y GIG yng Nghymru yn cael llai o dwf o ran adnoddau ariannol yn y blynyddoedd nesaf. Xxx xxxxx i hyblygrwydd cynlluniau i ateb heriau a mentrau newydd gael eu cefnogi gan well adnabyddiaeth a rheolaeth o risgiau i gynlluniau yn y dyfodol a dealltwriaeth glir o atebolrwydd ar gyfer cyflawni. Rydym yn argymell:
v. o gofio’r pwysau ariannol sy’n gorfod cael sylw byth a hefyd, bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ystyried a yw’n parhau i fod yn briodol mesur perfformiad ariannol cyrff GIG lleol ar sail flynyddol yn bennaf; ac
vi. o gofio’r dystiolaeth rydym wedi’i chael bod rhai diffygion ar sail diffygion “cymuned” a rhai ar sail diffygion cyrff GIG lleol unigol, bod Cynlluniau Newid Strategol ac Effeithlonrwydd (SCEP) xxx drefniadau cymeradwyo llym sy’n gwneud yn eglur yr atebolrwydd am gyflawni ac yn cyfunioni’r effaith ariannol.
vii. Mae Comisiwn Iechyd Cymru, er nad yw’n gorff GIG lleol, yn gomisiynydd gwasanaethau GIG pwysig ac mae’n parhau i gael trafferthion wrth baratoi cynlluniau comisiynu a fydd yn ei alluogi i ddychwelyd at sefyllfa ariannol gytbwys. Rydym yn pryderu am yr anhawster ariannol parhaus mae Comisiwn Iechyd Cymru yn ei brofi. Pe digwydd nad yw uwch benodiadau diweddar wedi dod â gwelliant arwyddocaol yn y gallu i’w reoli, rydym yn argymell bod Llywodraeth y Cynulliad yn ystyried adolygiad sylfaenol o rôl, atebolrwydd a threfniadau ariannu Comisiwn Iechyd Cymru.
viii. Mae’r Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi sefydlu nifer o ddulliau gweithredu yn ystod 2005/06 i wella manylder rhagamcanion ariannol ac i gynyddu’r ddealltwriaeth am atebolrwydd cyrff GIG lleol i gadw o fewn yr adnoddau ariannol sydd ar gael iddynt. Dylai Llywodraeth y Cynulliad benderfynu’n derfynol ar ei adolygiad o drefniadau rheolaeth ariannol yn y GIG mewn partneriaeth â chyrff GIG lleol a Swyddfa Archwilio Cymru.
Amseroedd Aros y GIG: Adroddiad Dilynol
1. Yn y sefyllfa ddeinamig ddaw yn sgil y toriadau parhaus yn yr amseroedd aros a’r targedau, mae perygl y gall ambell ymgynghorydd ddweud wrth y cleifion bod rhaid aros yn hirach na thargedau presennol Llywodraeth y Cynulliad ar amseroedd aros. Rydym yn argymell bod Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau’r GIG yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am yr amseroedd aros i’r xxxx glinigwyr fel y xxxxxxx hwythau yn eu tro roi’r wybodaeth iawn i’r cleifion am hyd y cyfnod aros am driniaeth.
2. Er bod nifer y llawdriniaethau a ganslwyd wedi gostwng yn gyffredinol ers ein hadroddiad diwethaf, ymddengys fod y gwelliant yma wedi arafu yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Dywedodd Xxx Xxxxx wrthym nad oedd Llywodraeth Cynulliad Cymru’n gwybod yn hollol xxx yr oedd rhai cleifion yn canslo’u llawdriniaethau. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru’n cynnal arolwg cynhwysfawr i ddarganfod xxx xxx cleifion yn canslo ac yna bod mesurau i xxxx hynny’n cael eu datblygu.
3. Ar hyn x xxxx, bydd rhai cleifion yn gorfod aros am gyfnodau annerbyniol o hir i dderbyn diagnosis a therapi. Dywedodd Xxx Xxxxx wrthym mai dyma’r broblem fwyaf sydd ganddynt ar hyn x xxxx wrth gyrraedd targed 26 wythnos llwybr gofal y claf. Dywedodd wrthym fod prinder sgiliau penodol mewn ambell faes
arbenigol, yn enwedig xx xxxx therapi iaith a lleferydd cyfrwng Cymraeg. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru’n mynnu bod cymunedau iechyd lleol yn dangos yn eu Cynlluniau Darparu Lleol sut y byddant yn lleihau amseroedd aros am ddiagnosis a therapi; dylid cysylltu hyn â chynllunio’r gweithlu i ymateb i xxxxxxx sgiliau, megis therapyddion iaith a lleferydd Cymraeg eu hiaith.
4. Bydd xxxxx xxxx arloesi a moderneiddio i gyflwyno’r llwybr newydd gofal cleifion, ond eleni sgoriodd Cynlluniau Darparu Lleol yn isel xx xxxx arloesi. Er mwyn cyrraedd targed newydd uchelgeisiol 26 wythnos Llywodraeth y Cynulliad, a chan osgoi ar yr un pryd drafod data mewn modd amhriodol, dylai sefydliadau’r GIG roi sylw mawr i foderneiddio ac arloesi yn eu Cynlluniau Darparu Lleol ar gyfer 2007/2008.
5. Xxx xxxx cydweithrediad y clinigwyr yn hollbwysig os ydym am leihau amseroedd aros. Yn ein hadroddiad diwethaf gwnaethom argymell y dylid gosod targedau perfformiad yn lleol, ac y dylai clinigwyr gytuno arnynt a’u harddel. Dywedodd Xxx Xxxxx fodd bynnag fod dangosyddion perfformiad wedi cael eu ‘gorfodi’ ar y gwasanaeth. Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru weithio gyda sefydliadau’r GIG i osod targedau a dangosyddion lleol ar gyfer perfformiad, yn hytrach na’u gorfodi’n ganolog, er mwyn i glinigwyr gytuno arnynt a’u harddel.
Archwiliad Ariannol o Lywodraeth Ganolog a Chyrff y GIG yng Nghymru: 2006
1. Rydym yn cydnabod y cynnydd cadarnhaol a gyflawnwyd gan yr xxxx gyrff i gwrdd â’r gofynion paratoi cyfrifon blynyddol ynghynt. Rydym yn parhau i fod yn bryderus, fodd bynnag, fod archwilwyr yn dal i ddarganfod diffygion yn ansawdd y cyfrifon hynny ac nad yw gwybodaeth gefnogol xxx amser yn gywir neu’n gyflawn. Wrth lunio amserlenni a chynlluniau prosiect cyffredinol ar gyfer paratoi ei chyfrifon blynyddol, dylai darpariaeth Llywodraeth y Cynulliad fod yn ddigonol i reolwyr allu adolygu a chadarnhau ansawdd y cyfrifon a’r atodlenni cefndir cyn eu cyflwyno i gael eu harchwilio. Dylai hyn hefyd fod yn wir ar gyfer cyrff eraill sy’n cael eu cynnwys yn yr adroddiad hwn. Pan fydd rheolwyr neu archwilwyr yn nodi diffygion yn ansawdd paratoi cyfrifon, dylai’r rhain gael sylw trwy hyfforddiant neu trwy wella systemau fel xx xxxxx.
2. Xxx’n hanfodol fod gwariant ar grantiau’n cael ei fonitro’n briodol a’i reoli i sicrhau ei fod yn diwallu’r dibenion y bwriadwyd iddo’u diwallu. Mae hyn yn wir nid yn unig i Lywodraeth y Cynulliad ei hun, ond hefyd i lawer o’r cyrff a noddir ganddi sy’n gyfrifol am reoli rhaglenni gwariant grantiau sylweddol. Fe ddylai Llywodraeth y Cynulliad fodloni’i hun fod ei threfniadau rheoli grantiau, yn cynnwys y dulliau rheoli’r system grantiau cyfrifiadurol newydd, yn rhoi sylw llawn i’r pryderon y mae’r archwilwyr mewnol a’r archwilwyr allanol
wedi’u lleisio. Dylai hefyd ofyn am gadarnhad oddi wrth Swyddogion Cyfrifyddu perthnasol y cyrff a noddir fod ganddynt ddulliau rheoli cadarn (yn cynnwys gweithdrefnau ysgrifenedig diweddar) i reoli’u gwariant grantiau, neu eu bod fel arall yn rhoi’r gwelliannau angenrheidiol ar waith.
3. Mae Llywodraeth y Cynulliad xxxxxxx xxxx â chwblhau paratoi ei chynllun rheoli asedau, ond mae hwn yn faes a fydd angen sylw pellach yn y dyfodol i sicrhau ei bod yn cael gwerth am arian o’r asedau sydd yn ei pherchnogaeth. Wrth ddatblygu ei threfniadau rheoli asedau, dylai Llywodraeth y Cynulliad ddefnyddio’r profiad ymarferol sylweddol sydd gan y GIG yn y xxxx hwn. Dylai Llywodraeth y Cynulliad hefyd atgoffa cyrff y llywodraeth ganolog a chyrff y GIG am yr angen i xxx un ohonynt adolygu’n flynyddol eu hasedau sefydlog i gael tystiolaeth o unrhyw ddiffygion, ac am newidiadau mewn gwerthoedd xx xxxxx economaidd defnyddiol.
4. Mae’r ffigurau perfformiad talu’n dangos bod gan rai cyrff arferion da ar waith, ond mae hyn yn cyferbynnu â chanlyniadau gwannach gan eraill. Rhaid i unrhyw ddiffygion yn y perfformiad talu adlewyrchu xxxxx xx ansawdd y systemau mewnol sydd wedi’u sefydlu, neu’r modd y mae rheolwyr yn gweithredu’r systemau hynny. Pan fydd cryfderau arbennig yn amlwg o ran systemau talu gan sefydliadau, dylai Llywodraeth y Cynulliad wneud y rhain yn gyhoeddus yn ehangach fel esiamplau o arferion da. Dylai hefyd ofyn i gyrff adolygu pa welliannau pellach a all fod yn angenrheidiol i’w systemau talu yng ngoleuni’u perfformiad hyd yma. Pan fydd cyrff yn gyson yn methu â chyrraedd y safon perfformiad talu a ddisgwylir fe ddylai fod yn ofynnol iddynt baratoi cynlluniau gwella gan nodi’r gwendidau yn eu systemau neu’u gweithrediadau a sut y bwriedir mynd i’r afael â’r rhain.
5. Bydd creu Is Swyddogion Cyfrifyddu yn helpu i reoli swyddogaethau ehangach y Cynulliad, a dylai ddarparu llinellau atebolrwydd clir ar gyfer ei wahanol feysydd busnes. I wireddu buddion cyflawn y strwythur newydd, bydd angen trefniadau rheolaeth ariannol cadarn i gefnogi’r Is Swyddogion Cyfrifyddu i wneud eu rhan. Dylai’r rhain gynnwys, er enghraifft, trefniadau effeithiol ar gyfer rheoli’r gyllideb, darparu gwybodaeth reoli eglur ac amserol, a threfniadau ar gyfer nodi’n rheolaidd y perfformiad ariannol o’i gymharu â’r amcanion busnes.
6. Mae gweithredu system gyfrifyddu seiliedig ar groniadau sydd i ddod gan Lywodraeth y Cynulliad yn rhywbeth i’w groesawu, ond bydd yn bwysig fod y gwerth mwyaf posibl yn dod o’r buddsoddiad mawr iawn hwn. Dylai Llywodraeth y Cynulliad ddefnyddio’i hanghenion busnes sydd wedi’u diffinio’n glir i benderfynu ar yr wybodaeth ariannol hanfodol fydd yn rhaid i’r system ei chynhyrchu fel mater o drefn. Dylai Llywodraeth y Cynulliad hefyd fod â chynlluniau argyfwng ar waith i sicrhau xxxxxx busnes, pe digwydd unrhyw broblemau yn ystod camau cynnar gweithredu’r system newydd.
7. Rydym yn croesawu’r gwaith da parhaus gan y cyrff a archwiliwyd gan yr Archwilydd Cyffredinol i ddatblygu a gwella’u trefniadau rheoli risg. Mae’n bwysig, fodd bynnag, fod arferion da yn cael eu rhoi ar waith yn ehangach, sy’n fater y mae’r GIG yn benodol wedi rhoi sylw iddo. Mae Llywodraeth y Cynulliad mewn sefyllfa dda i annog yr xxxx gyrff a archwilir i weithredu’r arferion da perthnasol a nodwyd yn y xxxx hwn. Er enghraifft, dylai arferion da a ddynodwyd yn y GIG fod ar gael i gyrff y llywodraeth ganolog, fel bo’n briodol (ac fel arall). Dylai Llywodraeth y Cynulliad hefyd feithrin trefniadau rheoli risg cadarn o fewn ei hadrannau newydd, mwy. Gellid defnyddio’r safonau rheoli risg a fabwysiadwyd gan y GIG i hwyluso’r gwaith datblygu hwn.
8. Mae’r xxxx gyrff yr edrychwyd arnynt wedi gwneud cynnydd da wrth ateb gofynion y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, ond xxx xxxxx gwella gwybodaeth rheoli am gydymffurfio â Rhyddid Gwybodaeth mewn rhai meysydd. Mae hyn yn arbennig o bwysig lle mae swm sylweddol o geisiadau’n cael eu derbyn. Dylai Llywodraeth y Cynulliad wella’i systemau gwybodaeth i’w galluogi i ddilyn y cynnydd wrth ymateb i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth, i ddadansoddi’r ffactorau sy’n arwain at unrhyw oedi, a monitro a oes unrhyw estyniadau i amserlenni wedi’u ceisio yn unol â’r ddeddfwriaeth. Dylai hefyd gofnodi a monitro xxxxxx xxxxx â cheisiadau. Hefyd, dylai gwell gwybodaeth rheoli yn y xxxx hwn gynorthwyo ag arfarnu pa welliannau mewn trefniadau rheoli dogfennau sydd eu xxxxxx, yn awr ac yn y dyfodol, i helpu i brosesu ceisiadau yn fwy effeithiol.
9. Pryd bynnag bo archwilwyr yn darganfod diffygion yn rheolaeth fewnol y derbynwyr grantiau mae’n anochel bod hyn yn cynyddu’r risg nad yw cronfeydd yn cael eu defnyddio’n briodol. Credwn mai’r mater canolog yma yw bod yn rhaid i unrhyw sefydliad sy’n derbyn xxxxx xxxxx yr UE ddangos bod ganddo ddealltwriaeth briodol o safonau’r systemau a’r trywyddau archwilio xxxx xxxxx eu dilyn i ddiogelu’r defnydd o arian cyhoeddus. Rydym yn sylweddoli bod Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru a Llywodraeth y Cynulliad wedi gwneud llawer o waith da i sicrhau bod hyfforddiant a chyfarwyddyd ar gael i sefydliadau. Rydym yn ei ystyried yn hanfodol, fodd bynnag, fod yna rag-xxxx cyn dyfarnu unrhyw grant UE bod sefydliad yn gallu cadarnhau yn ei gais am grant fod ei reolwyr prosiect yn gwbl ymwybodol o’r gofynion technegol a’r gofynion cyfrifyddu, a bod ganddo systemau derbyniol wedi’u sefydlu. Fel arall, rhaid mynnu bod hyfforddiant yn cael ei gynnig i sicrhau mai dyma sy’n digwydd. Er mwyn cynnal trefniant ‘achredu’ fel hyn, dylai fod yn ofynnol i sefydliad roi cadarnhad newydd pryd bynnag y gwneir newidiadau yn y staff allweddol sy’n gyfrifol am reoli ei brosiectau a ariennir gan yr UE.
Rheoli Absenoldeb Salwch yn y Cynulliad Cenedlaethol
1. Mae’r ffocws o’r newydd ar reoli absenoldeb salwch dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn amlwg wedi cael effaith ar raddfeydd absenoldeb cyffredinol. Yn ysbryd Creu’r Cysylltiadau, rydym yn argymell y dylai Llywodraeth y Cynulliad geisio ffyrdd o rannu gyda sefydliadau eraill y sector cyhoeddus yng Nghymru’r rhesymau am ei llwyddiant yn gostwng graddau absenoldeb salwch, yn ogystal â rhannu gwersi ehangach am y ffaith ei bod wedi datblygu system TG Adnoddau Dynol electronig newydd i gynorthwyo’r broses rheoli absenoldeb.
2. Mae’r system TG Adnoddau Dynol Snowdrop newydd yn addo cyflawni gwelliannau mawr o ran gwybodaeth rheoli ar absenoldeb salwch. Yn ychwanegol at y camau a argymhellwyd gan yr Archwilydd Cyffredinol, rydym yn argymell y dylai’r adran ddefnyddio system TG Adnoddau Dynol Snowdrop i:
a) gofnodi pob math o wyliau, yn cynnwys gwyliau â thâl a gwyliau arbennig di-dâl, a monitro dros amser a oes unrhyw berthynas rhwng newidiadau yn y lefelau absenoldeb salwch, a faint o staff sy’n cymryd mathau eraill o wyliau;
b) ymchwilio a oes unrhyw berthynas yn bodoli rhwng faint o bobl sy’n ymgymryd â hyfforddiant rheoli presenoldeb mwy manwl a lefelau absenoldeb salwch a, chan ddefnyddio’r dystiolaeth hon, ystyried a ddylai’r hyfforddiant hwn gael ei wneud yn fandadol i reolwyr mewn meysydd lle mae llawer iawn o absenoldeb salwch; a
c) chofnodi ar wahân a yw absenoldeb yn gysylltiedig â gwaith o gwbl, gan ganolbwyntio’n benodol ar adnabod straen sy’n gysylltiedig â gwaith lle dylai rheolwyr defnyddio’r system i sbarduno ymyriadau pellach.
3. Mae datblygu rheolwyr sy’n hyderus wrth ddelio ag absenoldeb salwch staff yn her barhaus, ond mae hefyd yn bwysig bod rheolwyr yn teimlo’u bod yn cael cefnogaeth dda, a’u bod yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr yn yr Adran AD a’r gwasanaeth iechyd galwedigaethol, yn arbennig mewn achosion mwy cymhleth. Dylai’r Adran AD, gan ddefnyddio tystiolaeth a ddarparwyd gan yr Archwilydd Cyffredinol, wneud gwaith pellach i ymchwilio i sut y gellid gwella darpariaeth AD a chefnogaeth iechyd galwedigaethol i helpu rheolwyr i deimlo’n fwy hyderus wrth ddelio ag absenoldeb salwch staff.
0.Xx ein bod yn croesawu’r gwariant cynyddol sydd wedi’i gyfeirio at wasanaethau iechyd corfforaethol, mae’n bwysig ystyried gwerth am arian, effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd y gwasanaethau hyn i gefnogi gwelliant parhaus. Rydym yn argymell y dylai’r Adran AD ailasesu’r gwasanaethau iechyd corfforaethol mae’n eu darparu yng ngoleuni darganfyddiadau ac argymhellion yr archwiliad annibynnol mae wedi’i gomisiynu, a’r dystiolaeth a gyflwynwyd yn adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol.
5. Rydym yn bryderus fod dau ym mhob pedwar o’r staff yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru drwyddo draw wedi dweud na allant gyflawni eu xxxx xxxxx o fewn eu horiau contract, a bod dwy ran o dair ohonynt wedi dweud eu bod yn gweithio mwy na phum awr yn fwy na’u horiau contract xxx wythnos. Rydym yn argymell bod yr Adran AD yn dadansoddi’n llawn graddfa gweithio oriau hir yn y sefydliad drwyddo draw, ac yn datblygu camau gweithredu priodol i sicrhau bod staff ar xxx graddfa’n peidio â gweithio oriau afresymol o hir yn rheolaidd, yn arbennig lle mae hyn yn mynd yn groes i reoliadau iechyd a diogelwch ehangach a rheoliadau’r gyfarwyddeb oriau gweithio Ewropeaidd.
6. Rhaid cymeradwyo’r camau a gymerwyd eisoes i wella rheolaeth absenoldeb salwch trwy’r Cynulliad Cenedlaethol, ond mae hon yn her barhaus i reolwyr ac yn her xxxx xxxxx gwyliadwriaeth gyson. I gefnogi gwelliant pellach, rydym yn argymell bod yr Adran AD yn datblygu cynllun gweithredu clir ar gyfer gweithredu ein hargymhellion, a’r rhai sydd yn adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol.
Gwasanaethau Ambiwlans yng Nghymru
1. Bu llywodraethu mewnol aneffeithiol oddi wrth Fwrdd yr Ymddiriedolaeth yn cynnwys, yn draddodiadol, peidio â chyfarfod yn ddigon aml i roi sylw i bryderon sylweddol am berfformiad a rheolaeth. Er bod gwelliannau xxxxxxx ar y gweill, mae gwersi pendant i’w dysgu o’r ffaeleddau llywodraethu y dylid eu cymhwyso fel rhan o adolygiad Llywodraeth y Cynulliad i lywodraethu yn y GIG. Rydym yn argymell bod Llywodraeth y Cynulliad yn rhannu’r gwersi a ddysgwyd o’r diffygion llywodraethu, perfformiad a rheolaeth ariannol o fewn yr Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans yng Nghymru a chynnwys yn ei adolygiad gyfarwyddyd eglur am y lleiafswm o ran amlder cyfarfodydd byrddau.
2. Mae llywodraethu allanol wedi methu â rhoi sylw i broblemau hysbys yn ddigon xxxx. Fe ymddengys fod gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yr un prinder dulliau i ymyrryd mewn sefydliadau sy’n methu ag sy’n bodoli yn Lloegr. Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth y Cynulliad ystyried posibiliadau cyflwyno’r syniad o femoranda dealltwriaeth rhwng ymddiriedolaeth a Llywodraeth y Cynulliad er mwyn ffurfioli perthnasoedd gweithio o ddydd i ddydd. Byddai trefniadau o’r fath yn hwyluso gweithredu mwy pendant pan fo sefydliad yn amlwg yn methu. Pa ddulliau bynnag sydd wedi’u sefydlu, rhaid i benderfyniadau i’w defnyddio gael eu gwneud yn sydyn. Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth y Cynulliad adolygu ei hymyriad a’i gweithdrefnau rheoli perfformiad i ddysgu oddi wrth fethiannau i fynd i’r afael â phroblemau hysbys yn ddigon xxxx yn yr achos hwn.
3. Bu diffygion sylfaenol rheolaeth ac arweinyddiaeth yn yr Ymddiriedolaeth drwyddi draw. Roedd y rhain yn amlwg trwy reolaeth wael o bobl, problemau
diwylliannol a methiant tymor hir i droi strategaethau yn weithredu ymarferol. Rydym yn argymell bod yr Ymddiriedolaeth yn llunio rhaglen datblygu rheolwyr tymor hir i roi sylw i broblemau dwfn ar xxx xxxxx, gyda ffocws penodol ar reolwyr llinell uniongyrchol. Dylai’r rhaglen gynnwys gosod amcanion personol, gwneud adolygiadau datblygu personol a materion rheoli perfformiad. Dylai hefyd gynnwys prosiect cymwyseddau rheoli craidd a rheoli rhaglenni.
4. Mae arweinyddiaeth effeithiol yn yr Ymddiriedolaeth yn nhermau cymhwyster a gallu wedi bod yn absennol ers cryn amser. Roedd newidiadau sydyn a niweidiol iawn wedi digwydd o ran arwain yn y cyfnod rhwng Tachwedd 2005 ac Awst 2006. Efallai nad oedd penodi Prif Weithredwyr Dros Dro wedi rhoi ystyriaeth ddigonol i addasrwydd unigolion i ymgymryd â’r fath rôl ar sail dros dro. Rydym yn argymell bod Llywodraeth y Cynulliad yn cynnal adolygiad o’r gwersi sydd i’w dysgu o’r trosiant sydyn yn arweinyddiaeth yr Ymddiriedolaeth, yn newid ei gweithdrefnau ei hun yng ngoleuni’r adolygiad hwn ac yn dosbarthu canllawiau i’r xxxx Fyrddau er mwyn osgoi sefyllfa o’r fath eto yn un o gyrff eraill y GIG.
5. Mae’r Ymddiriedolaeth wedi mabwysiadu dull gweithredu tymor byr o ran rheolaeth ariannol na fu’n gynaliadwy. Er gwaethaf cyrraedd targedau ariannol, mae’r dull gweithredu hwn yn awr wedi arwain at fod yr Ymddiriedolaeth yn wynebu sefyllfa ariannol anodd iawn. Bu proses faith iawn o ddatblygu Cynllun Newid Gwasanaeth ac Effeithlonrwydd (SCEP) i roi sylw i’r sefyllfa ariannol ac roedd y Cynllun yn dal heb ei gytuno ar ddechrau mis Chwefror. Rydym yn bryderus am hyfywdra cynllun Xx Xxxxxx i wneud arbedion trwy werthu oriau xxxx xxx darpariaeth parafeddygon i Fyrddau Iechyd Lleol mewn cyfnod o bwysau ariannol sylweddol yn y GIG. Yng nghyd-destun strategaeth DECS a newidiadau i gomisiynu gwasanaethau gofal heb ei drefnu, rydym yn argymell bod Llywodraeth y Cynulliad yn monitro’n agos iawn cyflawni’r arbedion arfaethedig, yn enwedig y broses gwerthu gwasanaethau gofal heb ei drefnu ychwanegol gan yr Ymddiriedolaeth i Fyrddau Iechyd Lleol mewn cyfnod o bwysau ariannol sylweddol.
6. Mae defnydd gwael o gyfalaf sydd ar gael wedi arwain at broblemau difrifol gyda seilwaith yr Ymddiriedolaeth, a chyfres o gaffaeliadau sydd wedi methu. Cawsom ein synnu gan y problemau caffael a ddaeth i’r amlwg yn 2006 roedd dau o’r Prif Weithredwyr Dros Dro yn gyfrifol amdanynt. Yn benodol, roeddem wedi’n harswydo bod un o’r Prif Weithredwyr Dros Xxx wedi mynd at gyflenwr yn uniongyrchol. Rydym yn argymell bod yr Ymddiriedolaeth yn sefydlu trefniadau cynllunio, rheoli a llywodraethu cyfalaf cadarn i sicrhau bod cyfalaf yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol ond gyda rhyw gymaint o reolaeth briodol. Dylai Llywodraeth y Cynulliad ddefnyddio canlyniadau ei hadolygiad ar gaffael i rannu gwersi â’r GIG ehangach o ran arferion caffael Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.
7. Mae’r Ymddiriedolaeth wedi methu â chydweddu adnoddau a galw. Her bwysig fydd cytuno ar restr ddyletswyddau a phatrymau sifftiau newydd gyda’r
Undebau Llafur, yn ogystal â newid i egwyl prydau bwyd sy’n gyson â’r cytundeb Agenda ar gyfer Newid cenedlaethol. Mae’r perfformiad amser ymateb xxxx yn waeth yn Ne Ddwyrain Cymru nag mewn rhanbarthau eraill. Rydym yn argymell bod yr Ymddiriedolaeth yn sefydlu rhestr ddyletswyddau a phatrymau sifftiau newydd cyn gynted ag sy’n bosibl, gyda ffocws arbennig ar gyflawni cydweddu mwy priodol rhwng y galw a’r cyflenwad yn rhanbarth De Ddwyrain Cymru.
8. Bu methiant i ganolbwyntio’n ddigonol ar y gwasanaethau gofal cleifion arferol. Mae bylchau annerbyniol mewn systemau gwybodaeth a methiant i roi sylw i broblemau sylfaenol ac amlwg mewn gwasanaethau gofal cleifion. Gallai hyn arwain at golli contractau pe byddai ymddiriedolaethau gofal llym yn penderfynu mynd xxxxx i dendr, a fyddai’n cael effaith andwyol ar gostau’r Ymddiriedolaeth. Xxxxx’r Ymddiriedolaeth roi sylw i’r problemau difrifol â gwasanaethau gofal cleifion dros y flwyddyn nesaf yn benodol trwy ddatblygu systemau rheoli newydd, prosesau safonau gwasanaeth a phrosesau datblygu staff sy’n addas at y diben ac sy’n gyson ar hyd a lled Gymru.
Gwneud defnydd gwell o lawdriniaethau dydd y GIG yng Nghymru
1. Mae diffyg eglurder ynglŷn â sut y dylid diffinio llawdriniaeth ddydd o hyd, ac mae anghysonderau yn y xxxx xxx ymddiriedolaethau yn mesur llawdriniaethau dydd. Yng nghyd-destun yr angen cyffredinol i ostwng hyd yr arhosiad, dylai Llywodraeth y Cynulliad ddiffinio ar wahân, a dylai ymddiriedolaethau fesur ar wahân:
a) achosion lle mae cleifion yn cael eu derbyn a’u rhyddhau ar yr un diwrnod calendr; a
b) achosion lle mae’r cyfnod rhwng derbyn a rhyddhau yn llai na 24 awr ond yn pontio dau ddiwrnod calendr.
Wrth adolygu’r diffiniad o lawdriniaethau dydd, dylai Llywodraeth y Cynulliad sicrhau ei bod yn cadw’r gallu i wneud cymariaethau uniongyrchol rhwng perfformiad yng Nghymru a rhannau eraill y Deyrnas Unedig.
2. Xxx xxx rai ymddiriedolaethau systemau rheoli perfformiad sy’n cynnwys dadansoddi a herio gan reolwyr unrhyw achosion a gafodd eu trin fel cleifion mewnol y gellid bod wedi’u trin fel achosion dydd. Rydym yn argymell y dylai pob ymddiriedolaeth gyflwyno systemau i ddadansoddi’n arferol achosion cleifion mewnol y gellid bod wedi’u trin fel achosion dydd, i gadarnhau a oedd cyfiawnhad dros wneud hyn ac i annog clinigwyr i gynyddu cyfraddau achosion dydd. Wrth wneud hynny, dylai ymddiriedolaethau hefyd hoelio eu sylw ar y saith arbenigedd y mae XXXXXX wedi’u hasesu fel rhai sy’n cynnig posibilrwydd o 80 y cant o ran gwelliant.
3. Xxx xxxx cyfranogiad clinigwyr yn hanfodol i gyflawni gwelliant o ran perfformiad llawdriniaethau dydd, ond amrywiol oedd y graddau yr oedd perfformiadau llawdriniaethau dydd yn amlwg o fewn proses arfarnu a rheoli perfformiad clinigwyr unigol. Dylai Ymddiriedolaethau ddefnyddio system newydd arfarnu meddygon ymgynghorol i gynyddu’r ffocws ar berfformiad clinigwyr unigol o ran llawdriniaethau dydd, a defnyddio’r cyfleoedd a ddarperir xxx y contract newydd meddygon ymgynghorol i annog clinigwyr i ymgymryd â hyfforddiant i’w cefnogi i gynyddu’r ystod o achosion y xxxxxxx eu gwneud yn ddiogel fel llawdriniaethau dydd.
4. Darparwyr sydd wedi gyrru mwyafrif y gwelliannau yn y cyfraddau llawdriniaethau dydd, ac ychydig o rym mae byrddau iechyd lleol, fel comisiynwyr, wedi’i ddefnyddio i ddylanwadu ar berfformiad. Dylai’r unedau comisiynu rhanbarthol newydd, trwy eu pwerau prynu cynyddol a datblygiad a defnydd cymhellion a sancsiynau priodol, annog darparwyr yn gryf i gynyddu cyfraddau llawdriniaethau dydd, ar wahân i pan fo’n glinigol amhriodol iddynt wneud hynny.
5. Mewn llawer o achosion, mae cleifion yn ddealladwy yn ochelgar am gael llawdriniaeth heb aros yn yr ysbyty dros nos ac mae arnynt angen gwybodaeth briodol ac amserol i’w galluogi i wneud penderfyniad hyderus a doeth i gael llawdriniaeth ddydd pan fo hynny’n briodol yn glinigol. Dylai ymddiriedolaethau ddarparu gwybodaeth gynnar a chywir am fanteision a pheryglon llawdriniaethau dydd iddynt hwy. Dylai Llywodraeth y Cynulliad hybu cyfnewid arferion da rhwng ymddiriedolaethau ar ymgysylltu â chleifion.
6. Mae lle sylweddol o hyd i wneud defnydd mwy effeithiol o gyfleusterau llawdriniaethau dydd arbenigol sy’n bodoli, yn arbennig gan ostwng cyfradd uchel canslo triniaethau a gwella’r defnydd bach o theatrau. Trwy asesiadau moderneiddio AGAAGI, dylai Llywodraeth y Cynulliad nodi a rhannu arferion da sydd ar waith gan rai ymddiriedolaethau i wneud defnydd effeithiol o gyfleusterau llawdriniaethau dydd, fel y gellir cynyddu’r achosion sy’n cael eu trin o fewn yr adnoddau sydd ar gael ar hyn x xxxx.
Mynediad y Cyhoedd i Gefn Gwlad
1. Defnyddiwyd fformwla i ddosbarthu adnoddau ychwanegol i awdurdodau mynediad lleol, i hybu’r broses o weithredu Rhan Un o Ddeddf CGHT, ac arweiniodd y fformwla hon at rai anghysonderau gan nad oedd y meini prawf perthnasol a ddefnyddiodd Llywodraeth y Cynulliad yn ddigon xxxx eu hystod. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn bwriadu dyrannu arian i ehangu mynediad i’r arfordir drwy broses sy’n seiliedig ar alw. Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth y Cynulliad, wrth werthuso ceisiadau am xxxxx xxxx wrth awdurdodau mynediad lleol, ddefnyddio meini prawf xxxxx xxxx eu hystod, gan gynnwys yr angen i awdurdodau gynnwys cynigion digonol i wella mynediad i grwpiau difreintiedig.
2. Roedd y cynlluniau peilot a gyflwynwyd i baratoi ar gyfer gweithredu Rhan Un o Ddeddf CGHT yn effeithiol ond nid oeddynt i’w gweld yn cynrychioli’r amgylchiadau ym mhob un o’r awdurdodau mynediad lleol. Er mwyn ehangu mynediad i’r arfordir, rydym yn argymell bod Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn cynnwys amrywiaeth xxxxx xxxx o wahanol fathau o dir arfordirol y bydd yn eu cynnwys yn y cynlluniau peilot.
3. Rydym yn canmol sector cyhoeddus Cymru am yr ystod o arferion da a ddefnyddiwyd i annog rhagor o bobl i ddefnyddio cefn gwlad. Fodd bynnag, mae lle i rannu arfer da lleol yn fwy effeithiol ar hyd a lled Cymru, ac i ddadansoddi’n fwy pendant yr hyn yw arferion da ac ystyried a oes modd eu trosglwyddo. Rydym yn argymell bod Llywodraeth y Cynulliad yn sefydlu systemau mewn ymgynghoriad â’r prif randdeiliaid, fel Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, er mwyn rhannu arferion da yng nghyswllt mynediad i gefn gwlad yn fwy rheolaidd ac yn fwy effeithiol â’r cyrff perthnasol yn y sector cyhoeddus.
4. Mae tystiolaeth glir bod rhai pobl mewn grwpiau sydd mewn perygl o gael eu hallgáu’n gymdeithasol (fel pobl anabl, aelodau o gymunedau duon a lleiafrifoedd ethnig a phobl sy’n byw yn ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf) yn ymweld â chefn gwlad yn llawer llai aml na gweddill y boblogaeth. Er mwyn cymryd camau effeithiol i annog pobl yn y grwpiau hyn i ddefnyddio cefn gwlad yn amlach rydym yn argymell y dylai Llywodraeth y Cynulliad, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a’r awdurdodau mynediad lleol, mewn ymgynghoriad â chyrff sy’n cynrychioli grwpiau difreintiedig:
a) nodi’r dulliau cyfathrebu mwyaf addas i’w defnyddio i dargedu grwpiau difreintiedig;
b) nodi a mynd i’r afael â’r problemau penodol sy’n eu rhwystro rhag defnyddio cefn gwlad;
c) nodi a rhannu’r arferion da a fydd o gymorth o ran ehangu mynediad y grwpiau hyn i gefn gwlad.
5. Er gwaethaf pwyslais Llywodraeth y Cynulliad ar y manteision cymdeithasol ac economaidd, nid yw mynediad i gefn gwlad yn cael blaenoriaeth uchel iawn yn lleol ac nid yw’n cael lle amlwg mewn strategaethau lleol perthnasol. Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth y Cynulliad gydweithio â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i godi proffil mynediad i gefn gwlad yn lleol, drwy bwysleisio’r manteision cymdeithasol ac economaidd posibl sydd ynghlwm wrth ehangu mynediad i gefn gwlad a’i gynnwys mewn canllawiau sy’n ategu strategaethau lleol perthnasol.
6. Mae cyflwr y rhwydwaith hawliau tramwy’n wael ac o ystyried yr hyn a gaiff ei wario ar hyn x xxxx ar xxxxx cynnal a chadw, mae’n debygol o ddirywio ymhellach. Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi gofyn i awdurdodau mynediad lleol baratoi cynlluniau strategol i wella hawliau tramwy yn ystod 2007, ond nid yw’n glir sut y bydd y rhain yn helpu’n ymarferol i wella’r rhwydwaith. Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth y Cynulliad adolygu Cynlluniau Gwella Hawliau Tramwy
awdurdodau mynediad lleol, a ddylai fod ar gael erbyn diwedd 2007, a gwneud trefniadau pendant i fonitro sut y cânt eu gweithredu.
7. Er bod nifer o enghreifftiau da o wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yng nghefn gwlad, mae’r rhan fwyaf ohonynt yn y Parciau Cenedlaethol neu’r Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, neu’n gysylltiedig â’r ardaloedd hyn. Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth y Cynulliad, drwy ddatblygu neu ystyried cynigion ar gyfer cynlluniau trafnidiaeth integredig, roi ystyriaeth lawn i’r posibilrwydd y gallai’r cynlluniau hyn helpu pobl i ymweld â chefn gwlad ac i deithio o’i amgylch.
8. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn bwriadu cynnal cynhadledd i drafod mynediad i gefn gwlad ddechrau 2007. Rydym yn argymell bod Llywodraeth y Cynulliad a Chyngor Cefn Gwlad Cymru yn defnyddio’r gynhadledd hon fel cyfle i rannu’r argymhellion a nodir yn yr adroddiad hwn ag awdurdodau mynediad lleol a rhanddeiliaid eraill, ac i egluro sut y mae’n bwriadu ymateb iddynt.
Y Strategaeth Genedlaethol ar Ddigartrefedd
1. Rydym yn croesawu ffocws y Strategaeth ar xxxx, ond xxx’n creu’r risg y bydd awdurdodau’n “gwarchod y porth” o ran mynediad at wasanaethau a thai trwy ddehongli deddfwriaeth a chanllawiau mewn modd cul, a thrwy hynny gostwng y ffigurau digartrefedd cyffredinol. Rydym yn argymell y dylai canllawiau Llywodraeth y Cynulliad sydd i’w cyhoeddi’n fuan nodi’n glir:
a) sut y dylai awdurdodau lleol ddehongli deddfwriaeth ar ddigartrefedd a diffiniadau o ddulliau gweithio, gan ddarparu esiamplau ymarferol i gynorthwyo awdurdodau lleol i wneud penderfyniadau; a
b) y gwahaniaeth rhwng “gwarchod y porth” ac xxxx.
2. Xxx’r Strategaeth Genedlaethol ar Ddigartrefedd wedi’i chorffori mewn nifer o strategaethau eraill Llywodraeth Cynulliad Cymru, ond xxx xxxx swyddogion sy’n gweithio mewn meysydd perthnasol i ddigartrefedd yn dal heb fod yn sicr sut mae eu gwaith yn cydweddu â’r Strategaeth. Rydym yn argymell bod xxx digartrefedd Llywodraeth y Cynulliad yn codi ymwybyddiaeth am y Strategaeth ymhlith timau ac adrannau eraill, er enghraifft trwy seminarau a thrwy fod yn aelodau o weithgorau.
3. Rydym yn bryderus iawn nad yw gwasanaethau a ddarperir i bobl ddigartref o bosibl yn unol â’r gofynion statudol, yn enwedig o ran safonau llety dros dro a pholisïau dyrannu awdurdodau lleol. Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth y Cynulliad gomisiynu neu wneud:
a) archwiliadau o xxx llety dros dro, gyda hapwiriadau dilynol sy’n seiliedig ar risg; a
b) asesiad llawn a yw dyraniad tai awdurdodau lleol a’u polisïau a’u harferion o ran digartrefedd yn unol â gofynion statudol.
4. Nid yw Llywodraeth y Cynulliad wedi astudio’n fanwl y berthynas rhwng mynediad at dai a digartrefedd, ac mae’n aros am asesiadau angen lleol am xxx xxxx wrth awdurdodau lleol er mwyn llunio darlun mwy eglur o’r bwlch sy’n bodoli rhwng y cyflenwad a’r galw am dai fforddiadwy a thai cymdeithasol. Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth y Cynulliad:
a) defnyddio’r asesiad o anghenion tai i ddatblygu gwaelodlin genedlaethol o ran anghenion a chyflenwad gyda golwg ar dai; a
b) asesu gallu’r sector preifat i barhau i letya pobl ag anghenion tai cyffredinol ac ar yr un pryd cynyddu mynediad ar gyfer pobl ddigartref.
5. Rydym yn bryderus fod trefniadau ariannu tymor byr yn golygu nad yw rhai prosiectau sy’n amlwg yn dangos arferion da i xxxx digartrefedd yn gallu parhau unwaith y daw eu cyfnod o ariannu i ben. Yn unol ag argymhelliad vi isod, ar werthuso, rydym yn argymell y dylai Llywodraeth y Cynulliad weithio gydag awdurdodau lleol, y sector annibynnol ac asiantaethau eraill y Llywodraeth i ddatblygu strategaeth glir a chyson i sicrhau arian cynaliadwy ar gyfer prosiectau sy’n gallu dangos arferion da.
6. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn sylweddoli bod angen cynnydd pellach i arolygu a gwerthuso gweithredu’r Strategaeth. Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth y Cynulliad ddatblygu cynllun clir i fonitro ac arfarnu:
a) cynnydd yn ôl pob un o 10 amcan y Xxxxxxxxxxx;
b) cynnydd o’i gymharu â gweithredu mae sefydliadau eraill yn ei gyflawni;
c) effaith ac ansawdd y gwasanaethau digartrefedd mae’n eu hariannu’n uniongyrchol;
ch) effaith gwasanaethau xxxx a ddarperir gan awdurdodau lleol, cymdeithasau tai a sefydliadau annibynnol eraill; ac
d) pa mor ddigonol yw’r gwasanaethau o safbwynt y defnyddiwr.
Atodiad 4
Ystyriaeth i Amcangyfrif Incwm a Gwariant Archwilydd Cyffredinol Cymru am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2008 a’r rhaglen archwiliadau gwerth am arian ar gyfer 2007/2008
Yn ei gyfarfod ar 12 Hydref 2006, cymeradwyodd y Pwyllgor amcangyfrif Archwilydd Cyffredinol Cymru o incwm a gwariant Swyddfa Archwilio Cymru am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2008. Roedd yr amcangyfrif yn cydbwyso pwysau costau hysbys ag effeithlonrwydd cynyddol oedd o leiaf yn hafal â’r gwelliant 1 y cant y disgwylir i gyrff cyhoeddus ei gyflawni xxx Creu’r Cysylltiadau. Roedd yr amcangyfrif yn cynrychioli cynnydd o £0.5 miliwn yn fwy na’r amcangyfrif ar gyfer 2006/2007. Roedd y ffigur yn ystyried y pwysau costau fydda’i codi yn sgil cyflawni gwaith archwilio ychwanegol yn 2007/2008.
Yn yr un cyfarfod, trafododd yr Aelodau gynigion yr Archwilydd Cyffredinol ar gyfer archwiliadau gwerth am arian 2007/2008. Gan ystyried safbwyntiau a fynegwyd gan yr Aelodau, ac yn dilyn ymgynghori â swyddogion o’r Adran Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, dygwyd ymlaen archwiliad o addysg plant sy’n derbyn gofal. O ganlyniad, gohiriodd yr Archwilydd Cyffredinol archwiliad arfaethedig o’r Cytundeb ar Lwyth Gwaith Athrawon. Bydd yr Archwilydd Cyffredinol hefyd yn cynnal archwiliad o drefniadau ar gyfer darpariaeth cyflenwadau ocsigen yn y cartref, o ganlyniad i ohebiaeth.
Cyflwynwyd rhaglen derfynol archwiliadau gwerth am arian ar gyfer 2007/2008 i’r Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 8 Chwefror 2007. Mae’r rhaglen yn cynnwys archwilio:
• cynyddu gweithgaredd corfforol a’i fuddion;
• trefniadau ar gyfer darpariaeth cyflenwadau ocsigen yn y cartref;
• RAF Xxxx Tathan a phrosiect y Ddraig Goch (ar y cyd â’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol);
• Cyngor Celfyddydau Cymru: Prosiectau cyfalaf;
• cynllun amaeth-amgylchedd Tir Gofal;
• caffael yr adeilad newydd ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
• uno sefydliadau addysg uwch a chydweithrediad rhyngddynt;
• addysg plant sy’n derbyn gofal.