Fforwm Rhanddeiliaid Allweddol Cynllun Datblygu Lleol Sir y Fflint: Cylch Gorchwyl
LDP-KPD-KSF1
Fforwm Rhanddeiliaid Allweddol Cynllun Datblygu Lleol Sir y Fflint: Cylch Gorchwyl
1. Trosolwg a Phwrpas
Pwrpas y Fforwm Rhanddeiliaid Allweddol (FfRhA) yw ymgynghori a chynorthwyo’r Cyngor â’r broses o baratoi’r Cynllun. Bydd gan y FfRhA rôl bwysig i’w chwarae ym mhrif gamau’r gwaith o baratoi’r Cynllun drwy weithredu fel bwrdd seinio i drafod materion ac opsiynau allweddol. Gan hynny bydd yn darparu fforwm i rannu barn a syniadau er mwyn helpu i gynhyrchu Cynllun Datblygu Lleol newydd Sir y Fflint.
Disgwylir i’r broses o greu Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) gymryd 5 mlynedd cyn iddo gael ei fabwysiadu. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd y FfRhA yn gweithredu ar sail cyfarfodydd ffurfiol rheolaidd. Ar ôl mabwysiadu’r Cynllun, mae'n bosibl y bydd yn fanteisiol i'r grŵp barhau i gyfarfod, efallai er mwyn monitro’r Cynllun.
Mae’r FfRhA yn tynnu’n helaeth ar y Bwrdd Gwasanaeth Lleol presennol ac mae hefyd yn cynnwys cynrychiolwyr o randdeiliaid allweddol yn y sector cyhoeddus a phreifat er mwyn sicrhau cynrychiolaeth o amryw o ddisgyblaethau gan gynnwys rhai cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. Mae'r Fforwm yn ceisio cael ystod xxxxx xxxx o aelodau ond heb fod yn rhy fawr i gael trafodaeth a chynnydd drwy sicrhau consensws lle bo hynny'n bosibl. Dylid pwysleisio nad yw’r FfRhA yn gorff sy’n gwneud penderfyniadau ac mai Aelodau etholedig y Cyngor sy’n gyfrifol am wneud penderfyniadau ynglŷn â’r Cynllun.
.
2. Amcanion
Bydd y FfRhA yn cynorthwyo i:
i. gynghori’r Cyngor ar faterion allweddol ac ar gyfnodau allweddol yn y gwaith o baratoi’r Cynllun newydd;
ii. lledaenu gwybodaeth am y CDLl i’w partneriaethau a’u sefydliadau a thu hwnt;
iii. dod â gwybodaeth, gwaith ymchwil a syniadau o’u sefydliadau neu bartneriaethau at sylw’r xxx CDLl;
iv. sicrhau fod y CDLl yn adlewyrchu anghenion cymunedau, economi ac amgylchedd Sir y Fflint;
Mae’n bosibl y bydd angen ychwanegu mwy o amcanion at y CDLl wrth iddo ddatblygu. Pe bai hynny’n digwydd, rhoddir cyfle i’r Fforwm drafod unrhyw adolygiadau i’r cylch gorchwyl.
3. Mandad
Grŵp ymgynghorol yw hwn a bydd yn gweithredu'n fwy llwyddiannus os cynhelir y nod o gynhyrchu CDLl cadarn a chydlynol a bod cyfaddawd a chonsensws yn cael eu cyflawni. Gan hynny bydd angen i aelodau’r grŵp:
i. allu a bod yn xxxxx i wneud penderfyniadau ac argymhellion ar ran eu xxxxx yn y cyfarfodydd mewn perthynas â’r CDLl;
ii. bod yn ymroddedig i helpu i arwain yr ACLl i gynhyrchu CDLl cadarn (mae profion cadernid yn cyfeirio at bolisïau’r CDLlau (profion cysondeb, cydlyniant ac effeithiolrwydd) yn ogystal â phrosesau cynhyrchu’r CDLl (profion gweithdrefnol));
iii. gweithio gyda’r FfRhA, parchu barn sy’n wahanol i’w barn eu hunain, ceisio consensws a derbyn cyfaddawd i ddod i gytundeb ynglŷn â phroblemau a roddir gerbron y Fforwm;
iv. bod â meddwl agored ac ystyried y darlun cyfan, peidio â cheisio hyrwyddo buddiannau adrannol yn unig; a
v. bod yn ymroddedig i’r CDLl a chynorthwyo ac annog ei ddatblygiad
4. Cyfansoddiad
Nodir aelodaeth y FfRhA yn Atodiad 1. Xxx xxxxx iddo fod yn ddigon mawr i fod yn gynrychiadol ac yn ddigon bach i fod yn effeithiol. Mae’r canllawiau ar gyfer paratoi CDLlau yn annog yr Awdurdod Lleol i ddefnyddio grwpiau neu strwythurau presennol cymaint ag sy’n bosibl o ran ymgysylltiad, yn arbennig y rheiny a sefydlwyd ar gyfer y Strategaeth Gymunedol. Gan fod cyfuniad y Strategaeth Gymunedol i fod i ddarparu safbwynt cytbwys y cymunedau sy’n byw ac yn gweithio yn Sir y Fflint, mae’r sefydliadau hynny ar y Bwrdd
Gwasanaeth Lleol presennol a oedd yn gysylltiedig â datblygu’r Strategaeth Gymunedol yn ffurfio rhan allweddol o aelodaeth y FfRhA.
Bydd cylch gorchwyl y FfRhA ar gael ar wefan y CDLl a bydd yn cynnwys enwau aelodau’r FfRhA a’u manylion cyswllt. Bydd hyn yn caniatáu i’r rheiny sydd heb gael gwahoddiad i fod yn rhan o’r Fforwm Rhanddeiliaid Allweddol i roi eu barn i unrhyw aelod priodol o’r grŵp neu’r xxx blaengynllunio. Cydnabyddir y gall fod sefydliadau eraill a allai hefyd gyfrannu at y broses. Fodd bynnag, pwrpas y grŵp yw darparu bwrdd seinio ar gyfer y broses a dim ond un dull ydyw o gynnwys rhanddeiliaid.
5. Aelodaeth o Sefydliadau Unigol
Yn gyffredinol, os yw hynny’n bosibl, dylid cyfyngu nifer yr aelodau o unrhyw sefydliad i un unigolyn gan y gallai cynrychiolwyr ychwanegol effeithio ar gydbwysedd buddiannau yn y grŵp. Mae’r aelodau o Gyngor Sir y Fflint
xxxxx xx’n gyfrifol am gynhyrchu’r CDLl neu am faes gwasanaeth allweddol sy’n berthnasol i’r Cynllun.
6. Dirprwyon
Derbynnir na fydd modd i rai aelodau fod yn bresennol ym mhob cyfarfod. Gellir anfon cynrychiolydd yn lle’r aelod gwreiddiol cyn belled â bod y dirprwy'n gwbl ymwybodol o ganlyniadau cyfarfodydd blaenorol ac mewn sefyllfa i gyfrannu'n weithredol.
Os nad oes dirprwy addas ar gael, caiff unrhyw ymatebion neu sylwadau eu derbyn drwy e-xxxx, xx y dylid eu cyflwyno i’r ACLl o leiaf dri diwrnod cyn dyddiad unrhyw gyfarfod, er mwyn i'r wybodaeth gael ei hadolygu a'i chyflwyno i'r Fforwm fel sy'n briodol.
7. Y Cadeirydd
Cadeirydd y cyfarfod fydd y Rheolwr Strategaeth Cynllun, a’r Is-Gadeirydd fydd Arweinydd y Xxx Xxxxxx Cynllunio. Yn gyffredinol cynhelir cyfarfodydd y grŵp ar ffurf trafodaethau a hwyluswyd.
8. Amlder
Yn ystod cyfnod y CDLl hwn rhagwelir y bydd angen i’r FfRhA gyfarfod yn rheolaidd, ond bydd hyn yn dibynnu ar ba gam y mae’r Cynllun wedi cyrraedd. Yn gyffredinol nid yw’n debygol o gael ei gynnal mwy nag unwaith xxx 3 mis ond dim llai nag unwaith xxx 6 mis. Ar adegau penodol yn y broses efallai y bydd cyfnodau hirach rhwng cyfarfodydd ac efallai y bydd cysylltu drwy e-xxxx yn ddigonol. Er mwyn rhoi amser i aelodau gynllunio ar gyfer cyfarfodydd yn eu hamserlenni, bydd dyddiadau cyfarfodydd yn cael eu trefnu mor bell o flaen llaw ag sy'n ymarferol. Efallai y bydd angen galw cyfarfod ar fyr rybudd oherwydd amgylchiadau anrhagweladwy lle xxx xxxxx cynnal cyfarfod xxxx a bydd yr aelodau’n cael cymaint ag sy’n bosibl o rybudd o flaen llaw.
9. Gwybodaeth
Anfonir agenda ac unrhyw wybodaeth gefndirol angenrheidiol ar gyfer pob cyfarfod at aelodau’r grŵp dim hwyrach na phedwar diwrnod gwaith cyn dyddiad y cyfarfod. Er mwyn sicrhau ffocws i xxx cyfarfod, bydd unrhyw ganlyniadau angenrheidiol yn cael eu dynodi'n glir.
10. Datrys Anghytundeb
Mae’r grŵp yn un ymgynghorol ei natur yn unig a bydd yn cynorthwyo i arwain y gwaith o gynhyrchu'r CDLl lle bo hynny'n briodol. Y nod yw sicrhau consensws ymysg y FfRhA ond mae’n bosibl na fydd hynny’n digwydd ar xxx achlysur a bydd pleidlais yn cael ei chynnal neu bydd cofnod yn cael ei wneud o’r safbwyntiau gwahanol. Mewn achosion fel hyn, y Swyddogion fydd yn gyfrifol am wneud argymhellion ynglŷn â’r cynllun a bydd Aelodau’r Cyngor yn gyfrifol am wneud penderfyniadau.
11. Dulliau Adrodd
Caiff nodiadau o drafodaethau a chanlyniadau pob cyfarfod eu hanfon ymlaen at aelodau ar ffurf electronig neu ar bapur os nad oes gan yr aelod fynediad at e- xxxx. Oni bai fod sylwadau neu gywiriadau’n cael eu derbyn cyn pen 14 diwrnod ar ôl y dyddiad cylchredeg caiff y cofnod ei gadarnhau fel un cywir. Bydd nodiadau’r cyfarfodydd ar gael ar wefan y Cyngor unwaith y byddant wedi cael eu hystyried gan Aelodau Grŵp Strategaeth Cynllunio'r Cyngor.
Atodiad 1
Fforwm Rhanddeiliad Allweddol Cynllun Datblygu Lleol Sir y Fflint (Aelodau)
Bwrdd Iechyd Lleol Sir y Fflint / Bwrdd Iechyd Prifysgol Xxxxx Cadwaladr / Ymddiriedolaeth y GIG Gogledd Cymru
Xxxxx Xxxxxxx
Pencadlys Heddlu Gogledd Cymru
Xxxxxx XxXxxxx,
Gwasanaeth Tân Ac Achub Gogledd Cymru, Pencadlys y Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Xxxxx Xxxx
Coleg Cambria – Glannau Dyfrdwy
Xxxxx Xxxxxxx
Grŵp Tai Pennaf,
Xxxxx Xxxxx
Chwaraeon Cymru
Xxx Xxxxxxx
LlCC
Heledd Xxxxxxx
Xxxxx
Xxxxxxx X Xxxxx – CSyFf
Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)
Xxxxxxxx Xxxxx
Cadw
Xxxxxx Xxxxxx
Cydbwyllgor Ymgynghorol AHNE
Xxxx Xxxxxx
Dŵr Cymru
Xxxx Xxxxxxxxx
Scottish Power
Xxxxxx Xxxxxxx
Dŵr Dyffryn Dyfrdwy
Mark Billing
Y Grid Cenedlaethol
Xxxxxx Xxxxx
Wales and West Utilities.
Xxxxxxxx Xxxxx
Prif Swyddog Gweithredol / Arweinydd / Aelod Cabinet yr Amgylchedd CSyFf
Prif Weithredwr - Xxxxx Xxxxxxx,
Arweinydd y Cyngor – y Cyng. Xxxxx Xxxxxxx
Aelod Cabinet yr Amgylchedd y Cyng. Xxxxxx Xxxxxxxx
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Xxxxxx Xxxxxxxxxx a Xxxxx Xxxxx
Cyngor Sir Ddinbych
Xxxxxx Xxxxx
Cyngor Gorllewin Swydd Caer a Dinas Caer
Xxxxxx Xxxxx,
Cyngor Cilgwri
Xxxxxx Xxxxxx
Cynrychiolydd Cynghorau Tref a Chymuned – Un Llais Cymru a Gogledd Cymru
Xx Xxx Xxxxxxxxxxx
Cymdeithas Cynghorau Tref a Chymunedau Mawr
Xxxxxx X Xxxxxxxx
Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi
Xxxx Xxxxxx
Siambr Fasnach Caer, Ellesmere Port a Gogledd Cymru
Xxxxx Xxxx
Canolfannau Manwerthu / Canol Trefi
Xxxxx Xxxxxx
Gwasanaethau Hamdden
Xxxx Xxxxx
Airbus
Xxxxx X. Xxxxx a Xxxxxxx Xxxxxx
Cymdeithas Dwristiaeth Sir y Fflint
Xxx Xxxxxxxxxxxx, Xxxxxx Xxxxxxxxx a Xxxxxxxxx Xxxxx
Undeb Amaethwyr Cymru
Xxxxx Xxxxxxxxxx Bwrdd Xxxxx Xxxxxx Xxxxx Xxxxx
Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint
Xxx Xxxxx
Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig Xxxx Xxxxxxxx Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd Powys Xxxxx Xxxxxx a Xxxx Xxxxxxx
Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd-Ddwyrain Cymru
Ms Xxxx Xxxxxxxx Cymdeithas Y Cerddwyr, Xxxxxx Xxxxx,
Xxxx Xxxxxxx
Cadeirydd Grŵp Gweithredu 50+ (Sir y Fflint);
Xx. Xxxxxx Xxxxxx,