Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol
2022/23
Mae croeso i chi gyfathrebu â ni yn y Gymraeg.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf • Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol 2022/23
Cynnwys
1. Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol – Cyflwyniad 03
2. Trosolwg o'r Gwasanaethau i Blant
Ein cyflawniadau allweddol yn 2022/23 05
Sut mae pobl yn llywio ein gwasanaethau? 07
Ein datblygiadau a'n gwelliannau 10
Xxxx yw ein blaenoriaethau ar gyfer 2023/24? 18
3. Trosolwg o'r Gwasanaethau i Oedolion
Ein cyflawniadau allweddol yn 2022/23 20
Sut mae pobl yn llywio ein gwasanaethau? 22
Ein datblygiadau a gwelliannau? 26
Xxxx yw ein blaenoriaethau ar gyfer 2023/24? 38
4. Sut rydyn ni'n gwneud ein gwaith?
Arweinyddiaeth Wleidyddol a Chorfforaethol, Llywodraethu ac Atebolrwydd 43
5. Hyrwyddo a gwella lles y rhai rydyn ni'n eu helpu – Y chwe safon ansawdd.
Safon Ansawdd 1 ‐ Gweithio gyda phobl i bennu a chyd‐baratoi
deilliannau lles personol maen nhw eisiau'u cyflawni. 45
Safon Ansawdd 2 ‐ Gweithio gyda phobl a phartneriaid er mwyn diogelu
a hyrwyddo iechyd corfforol, iechyd meddwl a llesiant emosiynol y bobl. 46
Safon Ansawdd 3 ‐ Cymryd camau i amddiffyn a diogelu pobl rhag cael eu
xxx‐xxxx, eu hesgeuluso neu'u niweidio. 47
Safon Ansawdd 4 ‐ Annog a chefnogi pobl i ddysgu, datblygu a bod yn
Safon Ansawdd 5 ‐ Cefnogi pobl i ddatblygu a chynnal perthnasau
domestig, teuluol a phersonol iach mewn modd diogel 49
Safon Ansawdd 6 ‐ Gweithio gyda phobl a bod yn gymorth iddyn nhw i gyflawni lles economaidd gwell, cael bywyd cymdeithasol a byw mewn
llety xxxxx xx'n diwallu eu hanghenion. 50
52396‐12 • Medi 2023
2
1
Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol – Cyflwyniad
Xxxxxxx Xxxxx Taf County Borough Council • Annual Director of Social Services Report 2022/23
Mae’n xxxxxx mawr gennyf gyhoeddi adroddiad blynyddol eleni. Ar ddechrau 2022/23, Xxxx Xxx oedd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, a hoffwn ddiolch iddo am ei gyfarwyddyd a’i arweiniad o ran y gwasanaethau cymdeithasol cyn dod yn Brif Weithredwr y Cyngor ym mis Rhagfyr 2022. Des i'n Gyfarwyddwr Dros Dro ym mis Rhagfyr 2022.
Xxx blwyddyn, mae’n ofynnol i Gyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol, o xxx Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, gyhoeddi adroddiad blynyddol ar sut mae’r awdurdod lleol wedi arfer ei swyddogaethau o ran gwasanaethau cymdeithasol ac yn rhoi cyfle i werthuso ein cyflawniad a’r camau gweithredu a gymerwyd i wella ein gwasanaethau a'n cymorth ymhellach. Eleni, rydw i wedi crynhoi fy asesiad o'r datblygiadau a'r heriau allweddol yn y Gwasanaethau i Blant a Gwasanaethau i Oedolion, gan bwysleisio'r cysylltiadau â Chynllun Corfforaethol y Cyngor a chan roi enghreiffliau o sut mae ein gwaith wedi hyrwyddo a gwella lles y rhai rydyn ni'n yn eu helpu. Rydyn ni hefyd wedi nodi ein blaenoriaethau gwasanaeth ar gyfer 2023/24.
Yn y blynyddoedd diwethaf, mae byw a gweithio drwy'r pandemig wedi bod yn hynod o anodd a heriol i drigolion Rhondda Cynon Taf a'n gweithlu yn y gwasanaethau cymdeithasol. Mae effaith y pandemig yn parhau i effeithio ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a’n xxxx gymunedau, ac mae hyn wedi’i
waethygu gan yr heriau ychwanegol yn sgil yr argyfwng costau byw.
Mae ymroddiad ac ymdrech aruthrol ein gweithlu yn y gwasanaethau cymdeithasol, y darparwyr a gomisiynwyd, rhieni maeth a phobl sy'n mabwysiadu plant a'n sefydliadau partner wedi ein galluogi ni i barhau i ddarparu gwasanaethau. Rydyn ni hefyd yn ffodus i gael cefnogaeth gorfforaethol gref o xxx xxxx o'r Cyngor a chymorth gan gydweithwyr o adrannau eraill a'n Haelodau Etholedig.
Yn olaf, hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi sicrhau bod trigolion Rhondda Cynon Taf wedi cael y gofal a’r cymorth sydd eu xxxxxx arnyn nhw. Dyma obeithio bod yr adroddiad yma'n dangos canlyniadau eu gwaith caled a diflino dros y flwyddyn ddiwethaf.
Xxxx Xxxxxxx
3
Cyfarwyddwr Dros Dro y Gwasanaethau Cymdeithasol
adran
2
Trosolwg o'r Gwasanaethau i Blant
4
Yn y Gwasanaethau i Blant, rydyn ni'n cyfrannu at Gynllun Corfforaethol y Cyngor, “Gwneud gwahaniaeth”, ac yn benodol y flaenoriaeth lles “Sicrhau bod POBL yn annibynnol, yn iach ac yn llwyddiannus” drwy
Wella gwasanaethau i blant a phobl ifainc a sicrhau bod anghenion plant yn cael eu hystyried ym mhob rhan o'n gwaith.
Yn yr Xxxxx xxx, rydyn ni'n darparu data a gwybodaeth i ddangos cyflawniadau gwasanaeth allweddol, datblygiadau, a heriau yn y Gwasanaethau i Blant yn 2022/23, ynghyd â'n blaenoriaethau gwasanaeth allweddol ar gyfer 2023/24, lle mae datblygiadau a newid pellach wedi'u nodi.
Ein cyflawniadau allweddol yn 2022/23
Roedd galw uchel parhaus eleni, yn enwedig wrth y drws ffrynt, a chymhlethdod cynyddol ar gyfer y Gwasanaethau i Blant. Mae disgwyl i hyn barhau wrth i ni weld effaith hirdymor niwed COVID‐19 ar blant a’u teuluoedd. Mae hyn yn atgyfnerthu'r angen i gyflawni yn erbyn ein blaenoriaethau strategol sydd â'r bwriad i'n cefnogi i reoli'r galw a newid y cydbwysedd o ran gofal. Caiff trosolwg o’r galw a chyflawniad cysylltiedig ei nodi isod:
neu gymorth
Cafodd Yn achos Cafodd cyngor
26,712
o gysylltiadau ar gyfer plant eu derbyn gan y Gwasanaethau Cymdeithasol statudol yn ystod y flwyddyn (i fyny o 24,385 yn 2021/22)
98%
o’r cysylltiadau a dderbyniwyd, cafodd penderfyniad ei wneud erbyn diwedd y diwrnod gwaith nesaf (98% yn 2021/22).
ei ddarparu yn achos
45%
o’r cysylltiadau a dderbyniwyd
(i fyny o 43% yn 2021/22).
Roedd Xxxxxx Xxxxx
407
o blant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant ar 31 Mawrth (i fyny o 378 2021/22).
Roedd
1,904
5,633
o asesiadau newydd eu cwblhau ar gyfer plant
(i fyny o 5,238 yn 2021/22).
Roedd gan
1,264
4,628
o fewn yr amserlenni statudol
(i fyny o 4,567 yn 2021/22).
o blant â chynllun gofal a chymorth
(i fyny o 1902 yn 2021/22).
o deuluoedd sy'n hysbys i’r Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth fwy o wytnwch (i fyny o 1065 yn 2021/22).
5
Er gwaethaf y pwysau hyn, mae carfanau ar draws y Gwasanaethau i Blant wedi parhau i ddarparu gwasanaethau diogel o ansawdd uchel i blant a theuluoedd agored i niwed, fel y dangosir gan rai o'n cyflawniadau allweddol a nodir isod:
• Yng ngwanwyn 2023, nododd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) lawer o agweddau cadarnhaol ar ein gwaith a’n harferion yn dilyn adolygiad o sut rydyn ni'n cefnogi plant a theuluoedd sy’n destun cyn‐achos yr Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus
yn rhan o adolygiad cenedlaethol.
• Rydyn ni wedi parhau i ddatblygu ein Strategaeth Xxxx ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal gan arwain at gynnydd yn nifer y teuluoedd sy'n xxxx xxxx'i gilydd a gostyngiad cysylltiedig yng nghyfradd y plant sy'n dechrau derbyn gofal.
• Ar ddiwedd mis Mawrth 2023, roedd gyda ni 624 o Blant yn Derbyn Gofal o gymharu â 655 yn 2022, a 717 yn 2020, gan arwain at ostyngiad pellach yng nghyfradd y Plant sy'n Derbyn Gofal.
• Mae ein Carfan Magu newydd wedi'i sefydlu
a'i staffio i ymateb i'r angen i wella gwasanaethau cyn‐geni a cheisio lleihau nifer y plant xxx
flwydd oed sy'n dechrau derbyn gofal. Yn ystod y flwyddyn, fe wnaethon ni reoli’r achos sefydlogrwydd cynnar cyntaf yng Nghymru gan ei gwneud yn bosibl i faban 8 wythnos oed
symud yn xxxx at fabwysiadwyr heb orfod profi'r aflonyddwch o gyfnod interim gyda xxxxxx xxxxx.
• Cafodd ein Strategaeth Trawsnewid Gwasanaeth Preswyl newydd ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal 2022‐2027 ei gymeradwyo gan y Cabinet ym mis Chwefror 2023. Mae’r datblygiadau sydd ar y gweill yn cynnwys:
• agor ail gartref newydd sy'n cynnig gofal therapiwtig i hyd at 3 o bobl ifainc.
• datblygu llety xxxx ar gyfer hyd at 3 o bobl ifainc.
Mae hyn wedi arwain at gynnydd yn y defnydd o'n llety cartref gofal plant ein hunain yn hytrach na'r sector annibynnol. Mae canran y Plant sy’n Derbyn Gofal sydd wedi’u lleoli gyda chynhalwyr sy’n berthnasau yn parhau’n gyson â’r hyn a adroddwyd yn 2021/22, sef 34%.
• O ran ein Plant sy’n Derbyn Gofal, rydyn ni wedi:
• cynyddu nifer y Rhieni Maeth yn Rhondda Cynon Taf i 286 o gymharu â 281 yn y flwyddyn flaenorol. Bu cynnydd hefyd i 1,329 o ddefnyddwyr yn ystod y flwyddyn i gynllun Mynediad ar gyfer Teuluoedd Maeth i Hamdden am Oes y Cyngor.
• gweithio'n dda ar draws adrannau'r Cyngor ar brosiectau gan gynnwys Carfan Plant sy’n Derbyn Gofal yn cydweithio â Caru Treorci ar Raglen Gyflogaeth.
• gweithredu'r Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol ochr yn ochr â'r rheiny sy'n gadael gofal.
• ymestyn ein gwaith o xxx y Model Xxxxx wedi Trawma a datblygu darpariaeth therapi ochr yn ochr â phartneriaid, gan arwain sut rydyn ni'n sicrhau bod modd i bobl ifainc sydd wedi dioddef trawma gael mynediad at y therapi cywir yn ddi‐oed.
• cynnwys staff yn y gwaith o ddiweddaru ac ailosod gwasanaethau Meisgyn.
• Rydyn ni wedi rhoi cam un o weithgareddau ein strategaeth Gweithlu Plant ar xxxxx xxxx’r nod o wella lles staff a sicrhau bod cynifer o staff â phosibl yn cael eu cadw. Mae hyn wedi cynnwys dylanwadu ar xxxxx xx'n cael sylw yn genedlaethol: Wythnos ym mywyd gweithiwr cymdeithasol
Sut mae pobl yn llywio ein gwasanaethau?
Rydyn ni wedi parhau i gryfhau cyfranogiad plant a phobl ifainc i hyrwyddo cynnwys ac ymgysylltu yn benodol â Phlant sy’n Derbyn Gofal ac asiantaethau partner, er mwyn sicrhau cydweithio a bod llais y plant a'r bobl ifainc yn cael ei glywed wrth ddatblygu a darparu gwasanaethau.
Y Weledigaeth ar gyfer y Strategaeth Cyfranogiad:
Mae'r Strategaeth Cyfranogiad yn amlinellu dull Gwasanaethau i Blant Cyngor Rhondda Cynon Taf ar gyfer cefnogi hawliau plant, pobl ifainc, rhieni, cynhalwyr a theuluoedd sy'n derbyn gofal a chymorth, i leisio'u barn ac i gymryd rhan weithredol mewn penderfyniadau am eu bywydau a helpu i lunio datblygiadau gwasanaeth yn y dyfodol.
Yn 2022/23, rydyn ni wedi datblygu Strategaeth Cyfranogiad y Gwasanaethau i Blant sy'n ymgorffori gwahanol ddulliau cyfathrebu wrth ymgysylltu â phlant a phobl ifanc.
Yn unol â'r Strategaeth Cyfranogiad, mae pob plentyn sy'n derbyn gofal a'r rheiny sy'n gadael gofal, rhwng 4 a 25 oed, wedi cael y cyfle i gymryd rhan yn ein harolwg 'Dod yn Rhan o Bethau'.
Arolwg Dod yn Rhan o Bethau ‐
Xxxx ddywedodd plant wrthon ni oedd yn bwysig?
• Gwneud yn siŵr bod pob xxxxxxx y xxx xxxx ymddiried ynddo yn esbonio pwy yw e. Ystyried rhoi gwybodaeth sy'n gyfeillgar i blant fel proffiliau 'Amdanaf i' neu lythyr sy'n gyfeillgar i blant i'r person ifanc cyn cyfarfod ag xx xxx ei roi i Weithiwr Cymdeithasol/aelod allweddol o staff.
• Mynediad at wybodaeth. Datblygu gwybodaeth mewn amrywiaeth o fformatau sy'n hawdd eu defnyddio a'u rhannu. Mae pobl ifainc 16 oed a hŷn wedi rhoi gwybod i ni eu bod nhw am gael mynediad hawdd at wybodaeth ar gyfer xxxx‐daliadau, materion tai, cymorth tenantiaeth a hawliadau cyllid.
• Mae plant a phobl ifainc wedi rhoi gwybod i ni ym mha ffordd maen nhw eisiau dod yn rhan o bethau. Bydden nhw'n hoffi cael mwy o achlysuron i gwrdd ag eraill wyneb yn wyneb, gweithgareddau gyda natur, chwaraeon, celf a chreffl a cherddoriaeth a drama.
• Edrych ar wahanol ffyrdd o gadw mewn cysylltiad â theulu. Mae pobl ifainc wedi rhoi gwybod i ni yr hoffen nhw gael mwy o gysylltiad â'u teuluoedd.
• Cymorth iechyd meddwl a lles. Hoffai pobl ifainc gael cymorth pellach gyda’u gweithgareddau iechyd meddwl a lles.
Rydyn ni wedi gofyn i blant xxxx xx'n mynd yn dda, xxxx xxxxx fod yn well i xxx plentyn a xxxxxxx ifanc sydd â phrofiad o dderbyn gofal, a sut hoffen nhw ddod yn rhan o bethau gyda'r Gwasanaethau i Blant. Yn gyfan gwbl, cawson ni 66 o ymatebion gan blant rhwng 4 a 25 oed. Fe rannon ni'r adborth o'r arolwg gyda staff ac fe lunion ni ffeithlun sy'n cynnwys datganiadau 'Dywedoch Chi' a 'Byddwn Ni' a'i rannu
â phlant a phobl ifainc trwy wefan YEPS, ein rhieni maeth/cynhalwyr sy'n berthnasau a Voices from Care Cymru.
7
Cafodd enghreiffliau pellach o waith a gafodd ei gynnal yn 2022/23 i gynnwys ac ymgysylltu â phlant a phobl ifainc sydd â phrofiad o dderbyn gofal eu cyflwyno i'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol ym mis Ionawr 2023, gan gynnwys yr astudiaeth achos ganlynol:
Cefnogi plant a phobl ifainc sydd â phrofiad o dderbyn gofal – Prosiect The Sky's the Limit
Astudiaeth Achos
Mae’r prosiect yma'n cefnogi plant sydd â phrofiad o dderbyn gofal i fanteisio ar weithgareddau drama, celf, chwaraeon, dawns, garddio, côr, gwneud ffilmiau a sesiynau digidol. Mae'r gweithgareddau wedi’u creu, eu dylunio a’u cyflwyno gan blant a phobl ifainc i gyflawni cyrhaeddiad cenedlaethol. Rydyn ni'n cefnogi materion iechyd meddwl trwy xxxx ac yn grymuso xxxxx plant trwy hobïau a gweithgareddau sy'n rhoi profiadau cadarnhaol.
Dyma enghraiffl o un o’r sesiynau:
• Aeth 9 person ifanc i weithdy natur 'Sky's the Limit' ar gyfer plant 8 i 13 oed, ddydd Sadwrn 22/10/22. Roedd gweithgareddau'n cynnwys:
• Paentio a glynu at fagiau cario a gwnïo, gyda chefnogaeth Growing Space
• Cerfio pwmpen, gemau a thaith gerdded natur.
• Dyma adborth uniongyrchol ac adborth drwy e‐xxxx y cawson ni:
Dydw i byth wedi gwnïo o'r blaen ac fe wnes i fwynhau'r celf a chrefft yn fawr. Doeddwn i ddim yn gwybod fy mod i mor dda am wnïo. Yn sicr hoffwn i ddod eto. (11 oed)
Hoffwn ddweud diolch am yr achlysur heddiw ‐ cafodd y plant llawer o hwyl ac roedden nhw'n dweud pa mor hyfryd oedd hi. Mae diddordeb gan y ddau hefyd yn y sesiynau adeiladu xxxx cryfder a'r parti Calan Gaeaf. Os oes rhagor o wybodaeth gyda chi o ran dyddiadau a lleoliad byddai hynny'n wych. (Rhiant maeth drwy e-xxxx)
Yn ogystal â hyn, rydyn ni wedi parhau i gynyddu cyfleoedd i bobl ifainc a theuluoedd gael mwy o lais, cyfranogiad a dewis o ran eu cynlluniau a’r gwasanaethau maen nhw'n eu cael. Er enghraiffl, rydyn ni wedi:
• gwreiddio ein cynnig Gwasanaethau Eiriolaeth yn unol â’r Cynnig Cenedlaethol, gan ddarparu cymorth i 73 o bobl ifainc a theuluoedd yn ystod y flwyddyn, lle cafodd y ‘cynnig rhagweithiol’ ar gyfer eiriolaeth ei wneud. Cychwyn cynllun peilot eiriolaeth rhieni o fis Ionawr 2023.
• atgyfeiriodd 42 o deuluoedd at y Gwasanaeth Cyfarfodydd Grŵp Teulu a chafodd 24 o Gyfarfodydd Grŵp Teulu eu cynnal, i ddarparu proses gwneud penderfyniadau a chynllunio strwythuredig ar gyfer y rhwydwaith teulu ehangach.
• datblygu Gwefan Cymorth i Deuluoedd newydd gyda'r nod o'i gwneud yn xxxx i deuluoedd ymgyfarwyddo â'r cymorth sydd ar gael.
• gyda mewnbwn rhieni sydd â phrofiad o dderbyn gofal, rydyn ni wedi ymrwymo i'r Siarter i rieni sy'n derbyn gofal ac yn gadael gofal.
• ymgysylltu â rhieni i xxxxxx'u barn am yr hyn sy'n gweithio i lywio gwaith ailuno o xxx y Strategaeth Xxxx ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal.
• cynnwys cynhalwyr ifainc yn y panel penodi a rhoi mynediad at y Cerdyn Cynhalwyr Ifainc, ac mae fideos hyrwyddo ar gyfer y Cerdyn Cynhalwyr Ifainc ar gael yn Saesneg ac yn Gymraeg.
• mae pobl ifainc sydd â phrofiad o dderbyn gofal wedi ffilmio clipiau byr i egluro i Gynghorwyr a staff xxx xxx gofal lleol mor bwysig iddyn nhw.
Fel yn y blynyddoedd blaenorol, rydyn ni wedi cynnal arolwg blynyddol ar ddefnyddwyr gwasanaeth a oedd yn gofyn i sampl o blant a phobl ifainc, a oedd â chynllun gofal a chymorth ar y diwrnod y lluniwyd y sampl, sut maen nhw'n teimlo am y gofal a’r cymorth maen nhw'n eu derbyn. Eleni cwblhaodd 140 o blant yr arolwg ac roedd yr ymatebion cyffredinol i’r arolwg yn gadarnhaol, fel y dangosir yn y tabl isod. Nodwyd gwelliant neu’r un canlyniadau o gymharu â’r llynedd ym mhob un ond un o’r 13 o fesurau ansawdd gwasanaeth. Serch hyn, rydyn ni'n cydnabod bod cyflawniad y rhan fwyaf o'r mesurau yn dal i fod islaw'r lefelau cyn y pandemig.
Roedd y sylwadau a wnaed gan blant a phobl ifainc yn gyffredinol yn ategu ei gilydd, gan adlewyrchu rhai profiadau cadarnhaol iawn a oedd yn cael effaith dda ar eu bywydau. Roedd amrywiaeth o resymau dros y sylwadau negyddol a wnaed, gan gynnwys y plant eraill oedd yn byw gyda nhw a chymdogion.
Mesur ansawdd gwasanaeth
O'r 140 o blant a phobl ifainc a ymatebodd i’r arolwg:
90%
91%
78%
Mae Xxx Xxx
yn byw mewn cartref lle maen nhw'n hapus.
(O gymharu â 85% yn 2021/22 a 97% yn 2019/20).
yn hapus gyda’r bobl maen nhw'n byw gyda nhw.
(o gymharu ag 89% yn 2021/22 a 97% yn 2019/20).
yn gallu gwneud y pethau maen nhw'n hoffi eu gwneud.
(O gymharu â 75% yn 2021/22 a 96% yn 2019/20).
84%
90%
95%
Mae Xxx Xxx
yn teimlo eu bod nhw'n perthyn i'r ardal lle maen nhw'n byw.
(O gymharu ag 81% yn 2021/22 a
92% yn 2019/20).
yn hapus gyda'u teulu, ffrindiau a chymdogion.
(O gymharu â 91% yn 2021/22 a 95% yn 2019/20).
yn teimlo'n ddiogel.
(O gymharu â 91% yn 2021/22 a 97% yn 2019/20).
92%
88%
88%
Xxx Xxx Xxx barn
yn gwybod gyda phwy i siarad am eu gofal a chymorth.
(O gymharu â 92% yn 2021/22 a 95% yn 2019/20).
wedi cael yr wybodaeth neu gyngor cywir pan oedd eu xxxxxx arnyn nhw.
(O gymharu ag 84% yn 2021/22 a
90% yn 2019/20).
wedi cael ei glywed am eu gofal a chymorth. (O gymharu ag 82% yn 2021/22 a 92% yn 2019/20).
97%
94%
92%
Mae Xxx Xxx
wedi cael defnyddio'u hiaith xxx dydd. (O gymharu â 97% yn 2021/22 a 98% yn 2019/20).
wedi cael eu trin â pharch.
(O gymharu â 91% yn 2021/22 a 97% yn 2019/20).
yn hapus gyda'r gofal a chymorth maen nhw wedi eu cael. (O gymharu â 91% yn 2021/22 a
97% yn 2019/20).
93%
Mae
wedi cael cyngor, cymorth a chefnogaeth a fydd yn eu paratoi ar gyfer bod yn oedolion (16/17 oed yn unig) (O gymharu ag 80% yn 2021/22 a 77% yn 2019/20).
9
Canmoliaeth a chwynion am y Gwasanaethau i Blant
Xxx xxxxxx statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer canmol a chwyno yn rhoi'r cyfle i ddefnyddwyr gwasanaeth, eu teuluoedd a'u cynhalwyr roi adborth. Mae'r tabl canlynol yn crynhoi nifer y cwynion a chanmoliaethau a ddaeth i law eleni ac yn y tair blynedd flaenorol.
2019/20 | 2020/21 | 2021/22 | 2022/23 | |
Xxxxx y cwynion a ddaeth i law | 59 | 29 | 47 | 70 |
Nifer y canmoliaethau a ddaeth i law | 59 | 92 | 116 | 75 |
Fel mewn blynyddoedd blaenorol, mae nifer y cwynion am y Gwasanaethau i Blant yn gyffredinol yn parhau i fod yn xxxx xx bod cynnydd wedi bod o gymharu â'r llynedd. Pan, x xxxx i'w gilydd, dydyn ni ddim wedi gallu bodloni disgwyliadau pobl, rydyn ni'n defnyddio'r adborth i ddysgu xxxx xxx xxxx i ni ei wneud yn well a, lle xx xxxxx, rydyn ni'n gwneud newidiadau i gyflawni hyn.
Ein datblygiadau a'n gwelliannau
Arfer Rhagorol yn arwain at ddeilliannau gwell
Yng ngwanwyn 2023, adolygodd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) sut rydyn ni'n cefnogi plant a theuluoedd sy’n destun cyn‐achos yr Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus yn rhan o adolygiad cenedlaethol.
Nododd yr adolygiad nifer o agweddau cadarnhaol ar ein gwaith gan gynnwys:
• y fframwaith rydyn ni wedi'i sefydlu a'r ddogfennaeth ategol sy'n cefnogi gwneud penderfyniadau amserol.
• asesiadau gofal a chymorth trylwyr ac amserol sy’n canolbwyntio ar y plentyn.
• mae xxxx teuluoedd rhag chwalu a helpu teuluoedd i barhau'n unedig yn rhan flaenllaw o ymarfer.
• mae cyngor cyfreithiol o ansawdd da ar gael yn rhwydd.
• mae teuluoedd sy’n destun gwaith cynllunio cyfreithiol a gwaith cyn‐achos yn cael cymorth xxxx a chyfleoedd i wneud newidiadau effeithiol, cyn y caiff camau cyfreithiol pellach eu cymryd, hyd yn oed pan fydd y trothwy cyfreithiol ar gyfer ymyriadau wedi’i fodloni.
• mae darpariaeth sefydledig ac amrywiol ar gael i blant a theuluoedd, gan gynnwys y Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth, y Garfan Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth a gwasanaeth Meisgyn.
• caiff camau diogelu amserol eu cymryd lle bo risg o niwed, a chaiff achosion eu cyfeirio’n gyflym at broses yr ACG lle xx xxxxx. Gwelwyd tystiolaeth
fod cymorth effeithiol yn cael ei roi gan xxxxxxxxxxx yn rhan o’r broses ddiogelu, drwy lefelau presenoldeb da mewn cyfarfodydd strategaeth a chynadleddau achos cychwynnol.
Cydnabuwyd, yn gyffredin ag Awdurdodau Lleol eraill, bod heriau o ran galw cynyddol ac anawsterau recriwtio a chadw yn effeithio ar ein gwaith. Fe nodon nhw fod rhagor o waith i'w wneud i wella rhywfaint o'n cyfathrebu trwy wneud yn siŵr bod gwybodaeth ategol hawdd xx xxxxx ar gael i rieni a chynhalwyr. Mae hefyd yn bwysig inni barhau i hyrwyddo eiriolaeth ymhellach i rieni a chynhalwyr.
Rydyn ni wedi parhau i wella mynediad at wybodaeth, cyngor a chymorth amserol er mwyn hwyluso ymgysylltiad a mynediad gwell o ran gwasanaethau xxxx ac ymyrraeth gynnar i blant, pobl ifainc a theuluoedd. Mae gwaith adolygu ac ailgynllunio ein gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth wedi dechrau er mwyn sicrhau bod modd i ni barhau i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel gydag anghenion a galw newidiol yn dilyn y pandemig a bydd yn y gwaith yn cael ei gwblhau yn 2023/34.
Cafodd gwefan newydd Teuluoedd Rhondda Cynon Taf xxx.xxxxxxxxxxxxx.xx.xx ei lansio ym mis Hydref 2022. Mae wedi cael ei hyrwyddo i staff yn y
Cyngor a’n partneriaid perthnasol, gan gynnwys ysgolion, darparwyr gofal plant a phartneriaid cymunedol. Hyd yma mae'r wefan wedi cael ei weld bron i 18,000 o weithiau, a'r tudalennau 'Awgrymiadau i Rieni' a 'Rhaglenni a Chyrsiau' sydd fwyaf poblogaidd.
Rydyn ni am wneud defnydd gwell o’n Canolfannau i Blant a Theuluoedd, felly rydyn ni ar hyn x xxxx yn adolygu’r capasiti a’r gallu i ddatblygu ardaloedd aml‐ ddefnydd ac yn gwerthuso capasiti adeiladau i gefnogi'r gwaith o ddatblygu cynllun mynediad ar gyfer grwpiau cymunedol, yn ystod y dydd, gyda’r nos ac ar benwythnosau wrth symud ymlaen. Yn rhan o wefan Teuluoedd Rhondda Cynon Taf a chyfleoedd eraill ar y cyfryngau cymdeithasol, mae hyrwyddiad a phroffil Canolfannau i Blant a Theuluoedd yn cael eu codi, gan arddangos yr adnoddau sydd ar xxxx x xxxxxx y ffordd at ffynonellau cyngor a chymorth mewn lleoliadau cymunedol.
Gwneud y defnydd gorau o’n Canolfannau i Blant a Theuluoedd
Gan ddefnyddio Cronfa Caledi'r Gaeaf, cynhalion ni 3 diwrnod agored/diwrnod gwybodaeth yn
ein Canolfannau i Blant yn Aman, Pen‐rhys a Rhydfelen i hyrwyddo mynediad i’r canolfannau a chael deall yn well xxxx hoffai’r cymunedau lleol ei weld yn y dyfodol. Gyda chefnogaeth partneriaid lleol, grwpiau cymunedol ac ysgolion, fe gynigion ni amrywiaeth o weithgareddau rhyngweithiol i blant a phobl ifainc yn amrywio o 0 i 11 oed a 11 oed a hŷn. Roedd nifer o stondinau gwybodaeth i deuluoedd ar amrywiaeth o bynciau (CAB, arbed ynni a'r Heddlu) fel bod modd iddyn nhw ofyn am gyngor a holi lle i fynd am gymorth pellach.
Fe ddarparon ni fwyd a diodydd am ddim a rhoi pecyn teulu yn cynnwys cynhwysion ar gyfer 2 xxxx o fwyd fesul teulu a oedd yn bresennol. Yn ogystal â hynny, fe ddosbarthon ni rai o'r pecynnau teulu i'r gymuned ehangach trwy deuluoedd sydd wedi'u nodi'n lleol a oedd angen rhywfaint o
gymorth ychwanegol.
Ar draws y 3 achlysur, cafodd 160 o oedolion a 250 o blant eu cefnogi ac roedd 91 o wirfoddolwyr yn rhan o gyflwyno’r achlysuron.
Rydyn ni wedi parhau i ganolbwyntio ein gwasanaethau ar ymyrraeth gynnar ac xxxx er mwyn gwella deilliannau bywyd i blant yn Rhondda Cynon Taf, ac rydyn ni wedi bod yn sefydlu cyfres o Brosiectau Cymorth 16+ sy'n cael eu cynnig i bobl ifainc gan gynnwys Prosiect Dod yn Annibynnol a Lleihau'r Risg o Ddigartrefedd ymysg Pobl Ifainc er mwyn darparu cymorth wedi'i dargedu i'r plant a'r bobl ifainc hynny sydd mewn perygl o ddigartrefedd ymysg pobl ifainc. Mae Plant sy’n Derbyn Gofal yn un o grwpiau targed Llywodraeth Cymru i ddarparu ymyrraeth gynnar ac ataliaeth iddyn nhw yn y frwydr yn erbyn digartrefedd ymysg pobl ifainc. Roedd cysylltiadau eisoes wedi'u ffurfio gyda'r garfan Plant sy'n Derbyn Gofal 16+ cyn ac yn ystod y pandemig, felly trafodon ni weithgareddau y byddai modd i'r bobl ifainc gymryd rhan ynddyn nhw er mwyn cynnal y cysylltiadau a'u cefnogi drwy roi unrhyw gyngor ac arweiniad sydd eu xxxxxx arnyn nhw i'r bobl ifainc ynghylch materion tai a digartrefedd.
Prosiect Dod yn Annibynnol ‐
Ysgol Nantgwyn
Nod “Rhaglen Dod yn Annibynnol” Ysgol
Nantgwyn oedd ymgysylltu â phobl ifainc sy’n gadael yr ysgol neu’n trosglwyddo o’r ysgol i’r coleg a rhoi gwybodaeth, cyngor, arweiniad a chymorth iddyn nhw, yn ogystal â chefnogi’r bobl ifainc hynny a allai ddod yn ddigartref yn y dyfodol yn seiliedig ar dargedau Llywodraeth Cymru, yn benodol LHDTCRhA+ a digartrefedd cenedliadol ymhlith teuluoedd, er mwyn darparu neu wella sgiliau bywyd a phrofiadau a fydd yn cefnogi
pobl ifainc gyda'u hannibyniaeth, boed gartref gyda’u teulu neu mewn llety byw’n annibynnol yn y dyfodol.
Cyflwynodd ein carfan cymorth 16+ y rhaglen i gyfanswm o 7 o bobl ifainc rhwng 13 ac 16 oed. Roedd yr adborth yn gadarnhaol a gofynnodd y bobl ifainc a fyddai modd i ni ddychwelyd i gynnal sesiwn ymwybyddiaeth o iechyd rhywiol/porn i’r dosbarth cyfan. Mae hyn yn cael ei drefnu ar hyn o xxxx xxxx chymorth gan Nyrs Iechyd Rhywiol.
Prosiect Lleihau Risg o
Ddigartrefedd ymysg Pobl Ifainc
Cafodd y prosiect yma ei sefydlu i roi cymorth i
Blant sy'n Derbyn Gofal sy'n 16 oed a hŷn, gan roi cyngor ac arweiniad iddyn nhw i xxxx digartrefedd ymysg pobl ifainc. Cafodd y bobl ifainc yma gyfle i ddylunio, paratoi ac addurno'r brif wal yn yr ystafell ymlacio yn y ganolfan galw heibio 16+.
Defnyddion nhw arddull graffiti, gan roi'r cyfle i unrhyw blentyn newydd sy’n mynychu’r ganolfan ychwanegu at y wal gelf yn y dyfodol neu roi'r opsiwn i'r rheiny a gymerodd ran fynd â'u gwaith celf gyda nhw pan fyddan nhw'n symud ymlaen.
Roedd y prosiect yn llwyddiant ‐ cymerodd pob un o'r bobl ifainc a oedd yn bresennol yn y sesiynau ran i ryw raddau wrth gwblhau'r gwaith celf.
Cafodd sesiwn ychwanegol ei chynllunio i ganiatáu amser i'r darparwr arddangos y gwaith celf yn y ganolfan. Yn dilyn y sesiynau ac er mwyn cynnal y cyswllt, bydd gweithgareddau rheolaidd yn cael eu cynllunio i gefnogi'r garfan 16+ yn unol â chais y bobl ifainc.
Rydyn ni wedi cyflwyno sesiynau mewn clybiau ieuenctid yn canolbwyntio ar sgiliau bywyd annibynnol megis coginio, sesiynau cyllid ac ysgrifennu CV, a diogelwch. Mae sesiynau wedi’u cynnal mewn colegau gan ganolbwyntio ar les, iechyd rhywiol, straen arholiadau, bwlio, ymwybyddiaeth o gyffuriau, masnachu pobl a chamfanteisio. Mae'r garfan hefyd wedi cynnig cymorth mewn sesiynau galw heibio yn y canolfannau gwaith yn y Porth, Llantrisant, Tonypandy, Treorci a Phontypridd. Cyflwynon ni gyfanswm o 50 o sesiynau yn 2022/23 mewn ysgolion, colegau ac ar gyfer plant sy’n cael eu haddysgu gartref. Daeth 248 o gyfranogwyr i'r sesiynau.
Yn 2022/23, rydyn ni wedi penodi Swyddog Iechyd Meddwl a Lles ychwanegol i gynyddu gallu'r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid i fodloni'r galw cynyddol. Rydyn ni hefyd yn adolygu contractau presennol Grantiau Plant a Chymunedau gyda darparwyr i xxxx xxxxx yr ardaloedd y byddai
modd eu gwella er mwyn annog rhagor i ymuno â’r Rhestr Darparwyr Cymeradwy. Mae hyn yn cefnogi'r gwaith o ddarparu llwybrau cymorth integredig sy’n cefnogi lles emosiynol ac iechyd meddwl plant, pobl ifainc a theuluoedd.
Rydyn ni wedi dechrau gwaith i sefydlu Cynllun Mannau Diogel ledled y Fwrdeistref Sirol a byddwn ni'n bwrw ymlaen â hyn yn 2023/24. Rydyn ni hefyd wedi parhau i ddarparu 'hybiau teithiol y Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid' sy'n ymweld ag ardaloedd ledled y Fwrdeistref Sirol yn rheolaidd, gyda'r nos, ar ôl yr ysgol ac yn ystod gwyliau'r ysgol. Mae'r rhain yn cynnig gwybodaeth, cyngor ac arweiniad yn ogystal â threfnu gweithgareddau i gyd‐fynd â chlybiau ieuenctid yr Awdurdod Lleol a sefydliadau gwirfoddol. Nod y gwasanaethau yw darparu cymorth i bobl ifainc rhwng 11 a 25 oed.
Achlysur diwylliannol y Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid ‐ 'O Amgylch y Byd mewn Diwrnod'
Gan ddefnyddio cyllid sydd ar gael drwy Gronfa Caledi'r Gaeaf, trefnodd y Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid achlysur i bobl ifainc a'u teuluoedd yn rhan o agenda gwrth‐hiliaeth Rhondda Cynon Taf mewn ymgais i godi ymwybyddiaeth ddiwylliannol. Cafodd nifer o weithgareddau diwylliannol eu cynnig, gan gynnwys blasu gwahanol fwydydd o bedwar ban byd.
Bwriad yr achlysur oedd:
• nodi pobl ifainc i sefydlu grŵp fforwm Lleiafrifoedd Ethnig ar gyfer Rhondda Cynon Taf gyfan.
• codi ymwybyddiaeth o ddiwylliannau a phrofiadau Lleiafrifoedd Ethnig yn Rhondda Cynon Taf trwy gynnal gweithdai a gweithgareddau
• addysgu pobl am effaith hiliaeth ar unigolion yn ogystal â'r gymuned ehangach.
• creu llwyfan i bobl ifainc a staff gael lle diogel i rannu eu profiadau, cael cymorth, rhoi adborth, a rhannu arferion gorau i ddod yn wrth‐hiliol.
Daeth cyfanswm o 118 o blant i'r achlysur, ac fe gafodd pob un ddiod gynnes a byrbryd.
Rydyn ni wedi parhau i ddarparu cymorth i deuluoedd mor gynnar â phosibl er mwyn cynyddu cydnerthedd ac xxxx yr xxxxx am wasanaethau statudol. Yn 2022/23, fe ymgysyllton ni â 1264 o deuluoedd, ac fe gynyddodd eu cydnerthedd ar ôl iddyn nhw gwblhau gwaith gyda’n Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth.
Y Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth
Astudiaeth Achos
Roedd y teulu yn cynnwys mam, tad a 2 o blant o xxx 5 oed ac roedden nhw'n disgwyl eu trydydd plentyn yn fuan. Cyflwynodd Xxxxxxxx Xxxxxx y teulu yr atgyfeiriad am gymorth i fynd i'r afael â sefyllfa dai'r teulu yn ogystal ag iechyd meddwl a lles y rhieni. Hefyd, gwnaed cais am gymorth ychwanegol mewn perthynas â gallu'r teulu i oresgyn heriau a allai effeithio ar les y plant.
Cafodd nodau'r cynllun teulu eu pennu, sef dod o hyd i garpedi ac eitemau gofynnol eraill ar gyfer eu cartref newydd a gwella lles emosiynol y tad, gan archwilio ei feddyliau a'i deimladau a rhannu unrhyw bryderon. Yn dilyn yr ymyrraeth, gwellodd cydnerthedd y teulu o sgôr o 59 i sgôr o 39 ac roedd adborth gan y teulu a gweithwyr proffesiynol yn gadarnhaol:
Diolch ‐ xxxxxxx rydyn ni'n glanhau mwy ac yn gweithio'n well gyda'n gilydd. (Tad)
Rydych chi wedi ein hysgogi ni. Diolch am yr xxxx bethau y cawson ni gennych chi. Mae wedi bod yn wych siarad â chi. Rydw i'n teimlo'n well gan fy mod i wedi clirio'r ystafell xxx xxxxx. Xxx gweithio ar hynny am 1 diwrnod yr wythnos wedi gwella fy lles. (Mam)
...Diolch i chi am xxxx cefnogaeth.
(Ymwelydd Iechyd)
... Fedra i ddim credu faint o waith rydych chi wedi'i wneud gyda'r teulu yma! (Bydwraig y Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth)
...Mae'r teulu wedi bod yn wych i weithio â nhw a byddaf i'n eu colli. Rydw i wedi dod i adnabod y teulu'n dda iawn wrth i mi ymweld â'u cartref 12 gwaith. Maen nhw wedi ystyried pob darn o wybodaeth sydd wedi'i
rannu â nhw. (Gweithiwr Ymyrraeth y Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth)
Rydyn ni wedi parhau i ddarparu cymorth i deuluoedd fel mai dim ond y plant hynny nad oes dewis arall diogel ar eu cyfer sy'n dechrau derbyn gofal. Yn rhan o'r cymorth yma rydyn ni wedi parhau i ddarparu ein Strategaeth Xxxx ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal 2022/25, gan arwain at ostyngiad yn y gyfradd o blant sy'n dechrau derbyn gofal. O ganlyniad, rydyn ni wedi lleihau nifer y plant sy’n derbyn gofal, gan symud o fod y Cyngor gyda’r ail gyfradd uchaf o Blant sy’n Derbyn Gofal yng Nghymru yn flaenorol i fod yn y 4edd safle ym mis Gorffennaf 2022, ac yna’r 6ed safle ym mis Mai 2023. Rydyn ni'n ymdrechu i weld cynnydd pellach eto. Er gwaethaf tuedd ostyngol o blant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant, mae nifer y plant wedi cynyddu o 378 yn 2021/22 i 407 yn 2022/23. Mae hyn yn is na lefelau cyn y pandemig, ond byddwn ni'n parhau i ganolbwyntio ein cymorth er mwyn lleihau nifer y plant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant.
Un agwedd allweddol ar y Strategaeth Xxxx ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal 2022/25 yw darparu gwell cymorth cyn geni i’n teuluoedd mwyaf agored i niwed, gan gynnwys y rheiny sydd â phrofiad o dderbyn gofal neu brofiad o ofal cymdeithasol neu sydd â phlentyn arall eisoes wedi’i gymryd o’u gofal. Nod y Garfan MAGU newydd yw darparu llwybr gofal iechyd a chymdeithasol integredig i fenywod beichiog a'u teuluoedd ar draws gwasanaethau ymyrraeth gynnar a'r gwasanaethau ar ffiniau gofal, sy'n canolbwyntio ar feithrin sgiliau a chydnerthedd ac felly yn lleihau risg. Bydd gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol integredig ar gael i fenywod o 12fed wythnos y beichiogrwydd hyd at ben‐blwydd cyntaf y plentyn. Bydd hyn yn gwella gwasanaethau cyn‐geni ac yn ceisio lleihau'r niferoedd sy'n dechrau derbyn gofal ar gyfer plant xxx flwydd oed a phlant rhieni sydd eu hunain yn gadael gofal. Mae'r garfan xxxxxxx wedi'i staffio'n llawn ac wedi dechrau derbyn achosion newydd.
Agwedd allweddol arall y Strategaeth Xxxx ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal yw gwella cymorth i gynhalwyr sy’n berthnasau a gwarcheidwaid arbennig. Yn dilyn cynllun peilot yn 2021/22, fe gomisiynon ni Kinship Cymru i gynnig gwasanaeth 'Kinship Connected' i wella deilliannau ar gyfer gwarcheidwaid arbennig a chynhalwyr eraill sy'n berthnasau yn y Fwrdeistref Sirol. Mae 'Kinship Connected' yn helpu cynhalwyr sy’n berthnasau i ddatblygu rhwydweithiau cefnogol hirdymor sy’n arwain at amgylchedd mwy sefydlog a chefnogol lle xxx xxxx i'r plant yn eu gofal ffynnu. Mae’r cymorth yn cynnwys cymorth un i un, cymorth gan gymheiriaid, cyngor, cymorth i gael mynediad at grantiau a gweithdai ar‐xxxx xxxx ac am ddim i sicrhau bod gan y cynhalwyr sy’n berthnasau yr help sydd xx xxxxx arnyn nhw i gefnogi’r plant sydd yn eu gofal.
Prosiect 'Kinship Connected'
Rydw i wedi derbyn popeth, ac mae'r iPad yn dda iawn. Diolch yn fawr iawn i chi am bopeth rydych chi wedi'i wneud i fi a'r plant ‐ mae wir wedi gwneud gwahaniaeth. Rwy'n ddiolchgar iawn, diolch.
(Gwarcheidwad arbennig i ddau o ŵyr, 12 oed a 14 oed)
Roedd yn hollol wych, fe wnes i a'r plant fwynhau pob eiliad o fod bant. Cefais fenthyg sgwter symudedd ac felly roedd modd i mi fynd xxxxx ar fy mhen fy hunan ar adegau a chael amser i fwynhau.
(Mam-gu oedrannus yn gofalu am bedwar o wyrion, dau o xxx 15 oed â phroblemau ymddygiad)
Mae'r gweithiwr prosiect Kinship ar gael xxx amser os ydw i am siarad â hi, mae hi o hyd yn ffonio i ddal lan â fi a gweld a oes rhywbeth xxx xxxx iddi hi ei wneud. Xxx xxxx y gefnogaeth wedi gwneud gwahaniaeth i fy nheulu gan ei fod wedi rhoi'r adnoddau i mi i fy helpu i reoli ffrwydradau fy ŵyr. (Llysfam-gu, 54 oed)
Byddaf yn defnyddio'r grŵp (cyfoedion) o hyd hefyd gan fy mod i wedi gwneud ffrindiau. Roeddwn i'n unig o'r blaen, ond xxxxxxx dydw i ddim mor unig. (Mam-gu, 46 oed)
Fedra i ddim argymell ddigon y gefnogaeth sy'n cael ei gynnig gan Kinship Cymru. Rydw i'n mawr obeithio y bydd y gwasanaeth yn parhau ac yn gobeithio y bydd modd i ni barhau i weithio ochr yn ochr â'n gilydd yn y dyfodol gyda gwahanol deuluoedd.
Roedd hefyd yn xxxx cadarnhaol bod modd i mi gysylltu â'r gweithiwr prosiect gydag unrhyw ymholiad hefyd, a byddai hi xxx amser yn fy ateb i. (Gweithiwr Cymdeithasol CBSRhCT)
O ran y plant hynny na allant xxxx xxxx’u teuluoedd, rydyn ni am wneud yn siŵr bod modd iddyn nhw dderbyn gofal yn nes at eu cartref. Rydyn ni'n parhau i weithio gyda darparwyr i ddatblygu digonolrwydd lleoliadau yn agos i gartref, gan wneud yn siŵr bod y Cyngor yn darparu'r llety a'r cymorth sydd eu xxxxxx ar ein plant sy'n derbyn gofal. Eleni cafodd Strategaeth Gwasanaethau Preswyl i Blant a chynllun gweithredu ar gyfer y 5 mlynedd nesaf eu cytuno gan y Cabinet yn Chwefror 2023. Pwrpas canolog y Strategaeth yw datblygu gofal preswyl y mae'r Cyngor yn berchen arnyn nhw ac yn eu cynnal yn gyflym. Bydd hyn yn arwain at ddeilliannau gwell i bobl ifainc ac mae’n cyd‐fynd â bwriad y Llywodraeth i ddeddfu i ddileu elw o ofal. Mae’r gwaith yma wedi dechrau, ac rydyn ni wedi gwneud cais i gofrestru Willowford House yn gartref plant i 3 o bobl ifainc ac wedi ailgofrestru Ystrad Fechan yn gartref plant i hyd at 3 o blant a phobl ifainc.
Cynhalwyr Ifainc
Tra bod cofrestriad yn yr arfaeth, bu'n rhaid gosod nifer fach o bobl ifainc mewn lleoliad 'gweithredu heb gofrestru' ('OWR')‐ y dewis annerbyniol arall fyddai peidio â darparu llety a gofal i'r person ifanc xxx sylw. Xxx hyn yn sgil cynnydd yn y galw, cymhlethdod cynyddol o ran anghenion, a phrinder cartrefi plant cofrestredig.
Rydyn ni hefyd yn gweithio gyda Maethu Cymru i gynyddu nifer y rhieni maeth sy'n cael eu recriwtio yn Rhondda Cynon Taf, yn arbennig y rhai sydd â'r modd i gefnogi plant ag anghenion mwy cymhleth. Mae ymholiadau’n cynyddu ac mae 13 o rieni maeth newydd wedi’u cymeradwyo hyd yma yn erbyn targed o 19. Serch hynny xxx xxxxx rhagor o waith i wella’r broses barhaus o recriwtio rhieni maeth.
Rydyn ni hefyd yn datblygu model diwygiedig ar gyfer Opsiynau Tai i'r rhai sy'n gadael gofal y xxx xxx y Cyngor ddyletswydd rhianta corfforaethol iddyn nhw, fel bod modd iddyn nhw adael lleoliadau gofal mewn ffordd ddiogel sydd wedi'i chynllunio, sy'n osgoi digartrefedd lle bynnag y xx xxxx. Xxx xxx Swyddog Materion Tai penodedig wedi'u penodi ac mae dogfen llwybr atgyfeirio wedi'i drafflio.
Yn 2022/23, cafodd cytundeb y gwasanaeth Cymorth i Gynhalwyr Ifainc ei ail‐dendro a'i wobrwyo i Gweithredu dros Blant. Mae Gweithredu dros Blant yn darparu grwpiau cymorth rheolaidd i gynhalwyr (Gofalwyr) ifainc xxx mis, yn ogystal ag achlysuron penodol trwy gydol y flwyddyn i ganiatáu cynhalwyr ifainc i brofi pethau newydd a chael hoe o'u rôl gofalu. Yn rhan o'r cytundeb newydd, bydd Gweithredu dros Blant yn cynnig cymorth i gynhalwyr sy'n frodyr neu'n chwiorydd. Rydyn ni hefyd yn parhau i hyrwyddo cyfleoedd sydd ar gael i gynhalwyr ifainc yn rhan o'n cylchlythyr i gynhalwyr chwarterol, gan gynnwys yr hawl i ddefnyddio ein cerdyn cynhalwyr ifainc. Mae Adroddiad Blynyddol Cynhalwyr Ifainc 2022/23 rhoi rhagor o wybodaeth am sut rydyn ni'n cefnogi'r plant yma.
Cymorth i Gynhalwyr Ifainc ‐ rhai ystadegau.
129
o gynhalwyr ifainc yn cael mynediad at gymorth.
133
o asesiadau cynhalwyr ifainc.
70
o grwpiau cynhalwyr ifainc wedi'u cynnal, 439 yn bresennol.
o atgyfeiriadau cynhalwyr ifainc.
65
110
o gardiau cynhalwyr ifainc wedi'u dyrannu.
31
o achlysuron i gynhalwyr ifainc wedi'u cynnal,
28
421 yn bresennol.
114
o gynhalwyr sy'n frodyr neu chwiorydd
achlysur i gynhalwyr sy'n frodyr neu'n chwiorydd, 465 yn bresennol.
16
Rydyn ni wedi bod yn cyflawni agenda Trawsnewid y Blynyddoedd Cynnar i sicrhau bod gwasanaethau'r blynyddoedd cynnar ar gael i bawb a bod gwasanaethau arbenigol yn cael eu targedu yn xx xxxxx ac nid yn ôl lleoliad daearyddol.
Gwnaethon ni gyfraniad llawn i sicrhau bod ail gam y gwerthusiad o Raglen Trawsnewid y Blynyddoedd Cynnar, a oedd yn canolbwyntio ar y systemau a'r prosesau sy'n sail i'r model, yn cael ei gwblhau ar amser. Rydyn ni xxxxxxx yn dechrau sylwi ar gynnydd o ran goresgyn rhwystrau sefydliadol a diwylliannol sy’n gynhenid mewn modelau cyflawni gwirioneddol integredig, y xxx xxxx eu priodoli i’r arweinyddiaeth a rheolaeth gref gan y Gwasanaeth Llesiant a Chydnerthedd y Gymuned sy’n gweithio ochr yn ochr â’r Bwrdd Iechyd i ddarparu’r model cyntaf o’i fath yng Nghymru. Gwnaeth y gwerthusiad sylwadau ar y daith integreiddio hyd yn hyn:
Xxx xxx'r agenda Trawsnewid y Blynyddoedd Cynnar yn bwysig? Xxxx xxx'r data yn ei ddweud wrthon ni?
Yn y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023, cafodd 10,657 o blant eu cefnogi trwy Raglen Cydnerth a Lles Iechyd yn Rhondda Cynon Taf. Derbyniodd cyfanswm o 1557 o blant asesiad Rhestr Sgiliau Tyfu (SOGS) 20 mis yn y cyfnod yma.
Mae ein hatgyfeiriadau lleferydd ac iaith yn dangos enghraiffl o'r effaith y mae agenda trawsnewid y Blynyddoedd Cynnar yn ei chael ar deuluoedd. O’r 488 o atgyfeiriadau a gawson ni gan ymwelwyr iechyd yn dilyn asesiad Rhestr Sgiliau Tyfu 20 mis oed, roedd 67% o ardaloedd daearyddol nad ydyn nhw'n ardaloedd Dechrau’n Deg, a 33% o ardaloedd daearyddol Dechrau’n Deg, gan ddangos pwysigrwydd nodi plant yn xx xxxxx yn hytrach nag yn ôl lleoliad daearyddol.
Mae'r argymhellion o'r gwerthusiad yma'n cael eu defnyddio i wella agweddau strwythurol a thechnegol o'r cynllun peilot.
Rydyn ni hefyd yn gweithio gyda'r adran Iechyd i lunio Proffil Xxxxxxx y Blynyddoedd Cynnar a fydd yn ein galluogi ni i gynllunio gwasanaethau yn seiliedig ar angen. Yn ganolog i ddatblygiad y proffil mae rhannu data iechyd gyda'r Cyngor. Mae ochr dechnegol trosglwyddo a phrofi data wedi'i chwblhau, fodd bynnag, dyw protocolau rhannu gwybodaeth lawn ddim wedi'u cytuno eto. Rydyn ni'n parhau i dreialu’r model darparu'r Blynyddoedd Cynnar integredig newydd yn Rhondda Cynon Taf
ar ran y rhanbarth sy’n cael ei werthuso’n
allanol. Mae'r data'n parhau i gael ei adolygu a'i adrodd yn rheolaidd i Uwch Reolwyr
y Cyngor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Xxxx yw ein blaenoriaethau ar gyfer 2023/24?
• Byddwn ni'n gweithredu'r Strategaeth Xxxx Plant sy'n Derbyn Gofal‐ Bydd hyn yn targedu gwasanaethau
sy'n seiliedig ar dystiolaeth tuag at gymorth i deuluoedd er mwyn sicrhau mai dim ond y plant hynny nad oes dewis arall diogel ar eu cyfer sy'n dod i ofal.
• Byddwn ni'n cyflawni'r Strategaeth Trawsnewid Preswyl, gan wneud yn siŵr bod y Cyngor yn darparu'r llety a'r cymorth sydd eu xxxxxx ar ein plant sy'n derbyn gofal.
• Byddwn ni'n cyflawni'r strategaeth Cyfranogiad sy'n amlinellu dull Gwasanaethau i Blant Rhondda Cynon Taf o gefnogi hawliau plant, pobl ifainc, rhieni, cynhalwyr, a theuluoedd sy'n derbyn gofal a chymorth, i leisio'u barn ac i gymryd rhan weithredol mewn penderfyniadau am eu bywyd a helpu i lunio datblygiadau gwasanaeth yn y dyfodol.
• Byddwn ni'n sicrhau bod gweithlu Gwasanaethau i Blant Rhondda Cynon Taf yn uchel ei gymhelliant, yn ymgysylltu ac yn cael eu gwerthfawrogi; bod gan staff y gallu, y sgiliau, y cymhwysedd a'r xxxxx i ddiwallu anghenion plant a theuluoedd.
18
adran
19
3
Trosolwg o'r Gwasanaethau i Oedolion
Yn y Gwasanaethau i Oedolion, rydyn ni'n cyfrannu at Gynllun Corfforaethol y Cyngor “Gwneud gwahaniaeth”
ac yn benodol y flaenoriaeth llesiant “Sicrhau bod POBL: yn annibynnol, yn iach ac yn llwyddiannus” gan:
Cefnogi ein trigolion sy'n hŷn, agored i niwed, neu sydd ag anableddau, er mwyn iddyn nhw barhau i fod yn annibynnol a mwynhau bywyd o ansawdd.
Integreiddio gofal iechyd a chymdeithasol a darparu cymorth i'r rheiny â phroblemau iechyd meddwl ac anghenion cymhleth.
Yn yr xxxxx xxx, rydyn ni'n darparu data a gwybodaeth i ddangos cyflawniadau gwasanaeth allweddol, datblygiadau, a heriau yn y Gwasanaethau i Oedolion yn 2022/23, ynghyd â'n blaenoriaethau gwasanaeth allweddol ar gyfer 2023/24, lle mae datblygiadau a newid pellach wedi'u nodi.
Ein cyflawniadau allweddol yn 2022/23
Mae'r Gwasanaethau i Oedolion wedi wynebu galw uchel am ofal a chefnogaeth yn ystod 2022/23. Tra bo'r galw wedi lleihau erbyn diwedd y flwyddyn, mae maint a chymhlethdod y gwaith achos yn parhau i fod yn uwch na'r lefelau cyn pandemig COVID‐19. Ynghyd â heriau o ran recriwtio a chadw staff, mae hyn wedi parhau i roi pwysau ar y farchnad iechyd a chymdeithasol, yn enwedig y ddarpariaeth gofal sydd ar gael. Mae cefnogi ein darparwyr gofal a mynd i’r afael â’n problemau recriwtio a chadw yn parhau’n flaenoriaeth allweddol ar gyfer y flwyddyn i ddod. Mae trosolwg o’r galw a chyflawniad cysylltiedig isod:
Darparwyd cyngor
14,013
o gysylltiadau ar gyfer oedolion a dderbyniwyd gan y Gwasanaethau Cymdeithasol statudol yn ystod y flwyddyn (i fyny o 11,923 yn 2021/22).
Cwblhawyd
8,315
o asesiadau newydd ar
gyfer oedolion yn ystod y flwyddyn (gostyngiad o 8,452 yn 2021/22).
Cwblhawyd
2,890
o adolygiadau yn ystod y
flwyddyn (gostyngiad o 3,438 yn 2021/22).
O’r rhain, roedd
11,444
yn gysylltiadau newydd a
dderbyniwyd (newydd ar gyfer 2022/23 dim data tueddiadau ar gael).
O'r rhain, roedd gan
1490 (18%)
ddeilliant cynllun gofal a
chymorth (i fyny o 1284 (15%) yn 2021/22).
O'r rhain, cwblhawyd
40%
ar amser (i fyny o 32%
yn 2021/22).
neu gymorth i
76%
o’r cysylltiadau newydd a
dderbyniwyd (newydd ar gyfer 2022/23 dim data tueddiadau ar gael).
Roedd gan
4,260
o oedolion gynllun gofal a
chymorth ar 31 Mawrth 2023 (i fyny o 4,117 yn 2021/22).
79.3%
o oedolion a gefnogwyd yn y
gymuned yn ystod y flwyddyn
(i fyny o 78% yn 2021/22).
Cwblhawyd
1,087
o becynnau ailalluogi yn ystod y flwyddyn (gostyngiad
o 1,290 yn 2021/22).
O’r rhain, dychwelodd
62%
at hunanofal yn dilyn ymyriad (gostyngiad o 67% yn 2021/22).
Dechreuodd
2,027
o wasanaethau i oedolion yn ystod y flwyddyn (i fyny o 1,780 yn 2021/22).
O'r rhain, roedd:
• 505 yn lleoliadau gofal preswyl
• 1,235 yn becynnau gofal cartref
• 287 ar gyfer cymorth seibiant 20
• Yn dilyn ymdrech enfawr gan ein carfanau i fynd i’r afael â rhestrau aros yn 2022/23, a oedd wedi cynyddu yn dilyn y pandemig, rydyn ni wedi lleihau’r rhestrau aros am asesiadau canlynol yn ystod y flwyddyn:
• Gofal a Chymorth: o 339 ym mis Ebrill 2022 i 186 ym mis Mawrth 2023.
• Carfan Addasu ac Offer yn y Gymuned (ACE) (Therapi Galwedigaethol): o 735 ym mis Ebrill 2022 i 201 ym mis Mawrth 2023.
• Diogelu rhag Colli Rhyddid: o 414 ym mis Ebrill 2022 i 255 ym mis Mawrth 2023.
• Yn ogystal â hyn, rydyn ni wedi lleihau'r nifer o bobl sy'n disgwyl am becyn gofal cartref o 82 ym mis Ebrill 2022 i 40 ym mis Mawrth 2023. Er gwaethaf y duedd yma o wella, xxx xxxxx cynyddu capasiti gofal cartref i fodloni'r galw o hyd, ac felly ac felly fe ddechreuon ni brosiect newydd gyda Catalyddion Cymunedol/ Community Catalyst i gefnogi pobl a phartneriaid lleol i ddatblygu mentrau bach a all ddarparu dewis gwirioneddol a chynyddu nifer ac ystod y dewisiadau gofal cartref a chymorth i bobl leol.
• Rydyn ni wedi parhau i weithio'n agos gydag Iechyd i gyflwyno dull rhyddhau o'r ysbyty newydd ers mis Ionawr 2023 o'r enw "Rhyddhau i Xxxxx ac Asesu" i wella llif cleifion trwy ysbytai, gan gefnogi pobl i gael eu rhyddhau o'r ysbyty cyn gynted ag
y maen nhw'n ddigon da. Mae cyflwyno’r dull newydd yma ynghyd â buddsoddiad parhaus yn ein Gwasanaeth Aros yn Cadw'n Iach Gartref a buddsoddiad newydd i gynyddu capasiti ein Carfan Gwaith Cymdeithasol Ysbytai wedi osgoi achosion o bobl yn mynd i'r ysbyty yn gleifion mewnol, neu gymorth o ran rhyddhau’n ddiogel 48 o bobl yr wythnos ar gyfartaledd.
• Trwy ein Gwasanaeth Llinell Fywyd rydyn ni wedi parhau i gefnogi 3,777 o bobl, fel bod modd iddyn nhw fyw'n ddiogel ac yn annibynnol gartref. Yn rhan o’n Gwasanaethau Llinell Fywyd+, mynychodd ein Gwasanaeth Ymatebwyr Symudol 6,972 o ymweliadau, ac osgoi 5,737 o bobl yn cael eu derbyn i’r ysbyty. Mae'r targed o ymateb o fewn
1 awr yn cael ei gyrraedd yn gyson ar gyfer dros 90% o ymweliadau.
• Ym mis Chwefror 2023, cytunodd y Cabinet ar fuddsoddiad cyfalaf rhagamcanol o £60 miliwn mewn pedwar llety gofal newydd o'r radd flaenaf yn Nhreorci, Glynrhedynog, Aberpennar a Phentre'r Eglwys i foderneiddio ein llety gofal preswyl a diwallu anghenion newidiol pobl, yn ogystal â chadw pump o gartrefi gofal y Cyngor. Rydyn ni hefyd wedi:
• agor Heol y Llwyf yn Llanhari ym mis Tachwedd 2022, gan greu llety newydd pwrpasol i oedolion ag awtistiaeth
• datblygu cynigion ar gyfer ailddatblygu hen Gartref Gofal Bronllwyn yn y Gelli i ddarparu llety arbenigol newydd gyda gofal i gefnogi oedolion a phobl hŷn ag anableddau dysgu – mae'r gwaith adeiladu wedi’i gynllunio ar gyfer haf 2023, yn dilyn caniatâd cynllunio ym mis Ebrill 2023.
• comisiynu datblygiad byw â chymorth pwrpasol ar gyfer pobl ag anghenion iechyd meddwl cymhleth yn Abergorci yn Nhreorci‐ xxxx x xxxx yng ngwanwyn 2023.
• Rydyn ni wedi parhau i fwrw ymlaen â'n rhaglen trawsnewid anabledd dysgu “Fy Niwrnod i, Fy Newis i”, gan gyd‐lunio cynnig gweithredu a gwasanaeth newydd ar gyfer cyfleoedd gwasanaethau gyda'r dydd, a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Craffu ym mis Mawrth 2023. Yn rhan o'r gwaith yma, rydyn ni wedi datblygu Tŷ Draw i ddarparu cymorth yn y gymuned newydd yn ystod oriau'r dydd i oedolion ag anableddau dysgu a Chaffi 50 i gynnig cyfleoedd cyflogaeth â chymorth.
21
Sut mae pobl yn llywio ein gwasanaethau?
Mae gyda'r meysydd gwasanaeth unigol brosesau sydd wedi'u sefydlu'n dda ar gyfer casglu adborth yn rhan o'u prosesau sicrhau ansawdd. Isod xxx xxxx enghreifftiau o ymgysylltu â gwasanaethau a chynnwys defnyddwyr gwasanaethau a gynhaliwyd yn 2022/23 a sut mae’r rhain wedi siapio ein gwasanaethau:
• caiff preswylwyr yng nghartrefi gofal y Cyngor eu hannog i roi sylwadau ac awgrymiadau trwy gyfarfodydd preswylwyr a blychau sylwadau/awgrymiadau i lywio gwelliannau i wasanaethau. Xxx xxxx enghreiffliau o sut mae'r adborth yma wedi llywio gwasanaethau'n cynnwys:
• bwydlenni'n cael eu diweddaru yn seiliedig ar newidiadau y gofynnwyd amdanyn nhw gan breswylwyr.
• mathau o adloniant a gweithgareddau sydd ar gael, gan gynnwys teithiau i lan y môr.
• bod yn rhan o ddewis cynlluniau lliw rhai o'n cartrefi gofal preswyl yn dilyn ailaddurno.
• cyflwyno ‘Eiliadau Hud’ mewn Gwasanaethau Oriau Dydd Pobl Hŷn i gasglu enghreiffliau o brofiad defnyddwyr gwasanaeth a staff yn ein canolfannau oriau dydd. Mae hyn wedi arwain at staff a defnyddwyr gwasanaeth yn cael ymdeimlad x xxxxx a phwrpas, gan nodi sut rydyn ni wedi cydweithio i helpu i gyflawni nodau a deilliannau personol defnyddwyr y gwasanaeth.
'Eiliadau Hud' yng Nghanolfan Dydd Cwmni Dda
Astudiaeth Achos
Mae Cwmni Dda wedi bod yn cefnogi dyn sydd wedi profi digwyddiadau sy'n newid bywyd. Bu farw ei wraig, ac yn dilyn hynny fe benderfynodd symud i fyw gyda'i xxxxx. Roedd y newid yn ei amgylchiadau byw ynghyd â chynnydd yn ei ddementia yn golygu newid yn ei weithgareddau cymdeithasol, a oedd yn canolbwyntio ar fynd xxxxx i dafarndai ac achlysuron cerddoriaeth byw, yr oedd yn mwynhau eu mynychu gyda'i wraig. Doedd dim modd i'r teulu ddarparu'r xxxxx xxx o gymorth a fyddai e ddim yn gallu mynd yn annibynnol.
Pan fynychodd Cwmni Dda i ddechrau, roedd yn ei chael hi'n anodd setlo. Wrth sôn am xxxxx xx fywyd gyda'r garfan, dywedodd wrthyn nhw ei fod unwaith yn gerddor ac wedi teithio ar hyd a lled y wlad gyda band a oedd yn llwyddiannus iawn.
O ganlyniad, roedd modd i'r staff gael gafael ar gitâr ar gyfer y 'gornel cerddoriaeth'. Cododd y dyn y gitâr, ond cafodd drafferth i'w chwarae i ddechrau. Serch hynny, anogodd y staff ef i ddyfalbarhau a thros gyfres o ymweliadau, llwyddodd i diwnio'r gitâr a dechreuodd chwarae alawon adnabyddadwy. Sylwodd y staff ei fod yn dechrau symud i'r rhythm a thapio ei draed ac roedd yn amlwg ei fod yn dipyn o ddyn sioe! Maen nhw wedi parhau i'w annog, ac xxx xxxxxxx wedi symud ymlaen i gymryd ceisiadau am donau/caneuon penodol.
Mae hwn wedi bod yn ddeiliant cadarnhaol iawn, gan alluogi'r dyn i barhau â gweithgaredd sy'n ymddangos fel pe bai wedi rhoi ymdeimlad newydd o bwrpas iddo. Mae hefyd wedi'i alluogi i setlo yng Nghwmni Dda. O safbwynt iechyd, mae ei annog i ddefnyddio'i ddwylo wedi'i alluogi i dal gafael ar ddeheurwydd a'r gallu i gyd‐gysylltu ei symudiadau, felly xxx xxxx i annog gweithgaredd helpu i gadw sgiliau am gyfnod hirach.
Y Rhaglen Drawsnewid Anabledd Dysgu
Rhwng mis Mehefin a mis Tachwedd 2022 datblygodd y Rhaglen Drawsnewid Anabledd Dysgu fodel wedi'i gydgynhyrchu (gweithio ar y cyd) ar gyfer casglu a dadansoddi data ymgysylltu o'r enw Fy Niwrnod i, Fy Newis i. Sefydlwyd ‘gorchwyl a gorffen’ aml‐randdeiliad i dynnu themâu allweddol o’r data a gasglwyd ac i lunio adroddiad, gan ddefnyddio fideo a dulliau hygyrch eraill i gyfleu’r canfyddiadau.
Mae'r canfyddiadau yma wedi helpu i ddatblygu Strategaeth Gwasanaethau Oriau Dydd a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Craffu ym mis Mawrth 2023 ac i'r Cabinet yng ngwanwyn 2023, lle cynigiwyd model o gyfleoedd oriau dydd.
Drwy ddefnyddio dulliau fel rhyngweithio wyneb yn wyneb, sioeau teithiol, adrodd straeon fideo a chyfarfodydd ar‐lein, yn ogystal â thechnoleg syllu llygaid ar gyfer y rhai ag anghenion cyfathrebu cymhleth, rydyn ni wedi gallu cynnwys cymaint o unigolion â phosibl yn ystod datblygiad y Strategaeth Gwasanaethau Oriau Dydd.
(Swyddog y Cyngor)
Dylid defnyddio cydgynhyrchu drwy’r amser, roeddwn i'n teimlo fy mod yn cael fy ngwerthfawrogi yn ystod y prosiect. (Person ag
anabledd dysgu)
Yn ogystal â hyn, mae panel dinasyddion “Trawsnewidwyr Rhondda Cynon Taf”, sy'n cynnwys pobl ag anabledd dysgu, cynhalwyr, rhieni, ac eraill wedi parhau. Drwy weithio mewn partneriaeth gyfartal â’r rhai sy’n defnyddio ein gwasanaethau, rydyn ni wedi sicrhau bod pob llais nad yw o reidrwydd yn rhan o grŵp buddiant arall yn cael ei glywed. Mae Trawsnewidwyr Rhondda Cynon Taf wedi bod yn xxxx x Xxxxxx Drawsnewid “Fy Niwrnod i, 'Fy Niwrnod i, Fy Newis i” ac ar hyn o xxxx xxx’n cefnogi datblygiad ein proses aildendro byw â chymorth fel rhan o’r rhaglen “Fy Nghartref i, Fy Newis i”.
• Arweiniodd y gwaith ymgysylltu â phobl sy’n byw gyda dementia i gyd‐lunio disgrifiad swydd, manyleb bersonol a llwybr gofal ar gyfer rôl Cysylltydd Dementia newydd. Xxx xxxxx y rôl yma i fodloni safonau llwybr dementia Cymru Gyfan, ond er mwyn sicrhau bod y rôl yn adlewyrchu anghenion lleol, mae ei chyfrifoldebau a'i swyddogaeth yn tarddu o brofiad a safbwynt pobl leol. Gan ddechrau gydag achlysur ymgysylltu i archwilio profiad pobl, profwyd y deilliant ymhellach mewn arolwg wyneb yn wyneb gyda charfan ehangach o bobl. Mae cynllun peilot ar waith ledled y rhanbarth i gyflwyno rôl y cysylltydd.
• Defnyddio cyfarfodydd Rhwydwaith Cymdogaeth i ddeall angen lleol yn well ac i nodi lle xxx xxxxx cymorth ychwanegol yn lleol.
Prosiect Peilot Caffi Dementia – Gilfach Goch
Trwy Ymgyrch Dementia yn Gwrando a sgyrsiau gydag amrywiaeth o bartneriaid a thrigolion lleol yng nghyfarfodydd Rhwydwaith Cymdogaeth Taf‐elái i ddeall angen lleol yn well ac i nodi lle xxx xxxxx cymorth ychwanegol yn lleol, nodwyd bod diffyg darpariaeth ar gyfer y rhai â dementia a'u cynhalwyr.
Roedd yr adborth yn cynnwys:
Does unrhyw le i ni gyfeirio pobl yn lleol os oes gyda nhw dementia.
Does dim cymorth i bobl sydd â dementia yn yr ardal yma, pan roedd fy mam angen help, doedd dim byd ar gael.
Xxx xxxxx rhagor o gymorth, cefnogaeth a chyßeoedd i gynhalwyr a rhagor o bethau i deuluoedd sy’n gofalu am rywun â dementia eu gwneud
Gallai rhywbeth anffurfiol weithio, mae caffis dementia mewn ardaloedd eraill, efallai gallai hyn gael ei wneud.
Yn dilyn yr adborth yma, fe aethon ni ati i ymgynghori â Charfan y Cof y GIG, Age Connect a'r Gymdeithas Alzheimer a chychwynnwyd prosiect peilot i roi rhywle diogel i bobl leol â dementia a'u cynhalwyr fynd iddo, lle gallan nhw gael mynediad at ystod o wybodaeth, cyfleoedd, cyngor a chefnogaeth i helpu pobl â dementia a’u teuluoedd i gynnal eu hiechyd, eu lles, a'u cysylltiadau cymdeithasol yn well.
Cynyddodd y prosiect gapasiti lleol i ddiwallu anghenion a bylchau a nodwyd yn y ddarpariaeth dementia yn y Gilfach Goch. Xxx xxxxx cymunedol xxxxxxx yn gweithredu fel canolbwynt ar gyfer gwybodaeth a chyngor, gan helpu pobl i gael mynediad at gymorth lleol priodol a rhagor o gyfleoedd.
Mae 7 o bobl â dementia a 5 cynhaliwr yn mynychu'r grŵp ac yn elwa hyd yn hyn. Cawson nhw eu hatgyfeirio i'r grŵp trwy'r bartneriaeth leol gan weithio gyda'r grwpiau ac asiantaethau perthnasol.
Mae adborth wedi bod yn gadarnhaol:
Mae'n wych cael grŵp fel yr un yma ar ein xxxxxx drws.
A minnau'n gynhaliwr, mae’n wych cael rhywle yn lleol i ddod i gael cefnogaeth ac mae’n galonogol gweld y pleser sydd ar wyneb fy mhartner wrth chwarae gemau a gwneud ffrindiau gydag eraill.
• Yn ogystal â hyn, fe wnaethon ni ymgysylltu gyda:
• defnyddwyr y gwasanaeth, cynhalwyr, staff a darparwyr i gyfrannu at y fanyleb ddiwygiedig ar gyfer gwasanaeth eirioli a'r fanyleb ddiwygiedig ar gyfer y gwasanaeth cynghori taliadau uniongyrchol.
• cynhalwyr er mwyn deall disgwyliadau ar gyfer mathau eraill o seibiant a fydd, ynghyd ag ymgysylltu pellach, yn llywio’r gwaith o ddatblygu manyleb gwasanaeth seibiant cynhalwyr newydd ar gyfer tendr yn ddiweddarach yn 2023.
Yn debyg i'r blynyddoedd blaenorol, fe gynhalion ni arolwg blynyddol i ddefnyddwyr y gwasanaeth a oedd yn gofyn i sampl o oedolion 18 oed a hŷn, a oedd â chynllun gofal a chymorth ar y diwrnod y lluniwyd y sampl, sut maen nhw'n teimlo am y gofal a’r cymorth y maen nhw'n ei dderbyn. Eleni, ymatebodd 465 o bobl i'n harolwg. Yn gyffredinol, mae cyflawniad o'i gymharu â'r llynedd yn gymysg, xxxx xxxxxx y mesurau ansawdd gwasanaeth yn gwella neu'n aros yr un fath o gymharu â'r llynedd, a xxxxxx yn dangos gostyngiad mewn cyflawniad, gyda'r mwyafrif yn dal yn is na'r lefelau cyn‐bandemig. Dyma nodi bod gwaith i'w wneud wrth gyfathrebu gyda defnyddwyr y gwasanaeth.
Byddwn ni'n canolbwyntio ar hyn yn ystod ein harolwg o'r Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth yn 2023/24 i sicrhau bod defnyddwyr y gwasanaeth gyda'r xxxx wybodaeth sydd xx xxxxxx arnyn nhw.
Mesur ansawdd gwasanaeth
O’r 465 o oedolion a ymatebodd i’r arolwg:
92%
65%
93%
Mae Xxx Xxx
yn byw mewn xx xx'n cefnogi eu lles. (O'i gymharu â 92% yn 21/22 a 92% yn 19/20)
o'r farn eu bod yn chwarae rhan fwy yn eu cymuned. (O'i gymharu â 63% yn 21/22 a
77% yn 19/20).
yn hapus gyda'u teulu, ffrindiau a'u cymdogion. (O'i gymharu â 94% yn 21/22 a
96% yn 19/20).
91%
78%
86%
Mae Xxx Xxx
yn teimlo'n ddiogel
(O'i gymharu â 91% yn
21/22 a 95%
yn 19/20).
yn gwybod gyda phwy i siarad am eu gofal a chymorth (O'i
gymharu â 87% yn 21/22 ac 87% yn 19/20).
wedi cael yr wybodaeth neu gyngor cywir pan oedd eu xxxxxx arnyn nhw. (O'i gymharu â 88% yn 21/22 ac 88% yn
19/20).
96%
96%
96%
Mae Xxx Xxx
wedi cael defnyddio eu hiaith xxx dydd. (O'i gymharu â 98% yn 21/22 a 99% yn 19/20).
wedi'u trin gydag urddas a pharch. (O'i gymharu â 98% yn 21/22 a
99% yn 19/20).
yn hapus gyda'r gofal a chymorth y maen nhw wedi eu cael. (O'i gymharu â 94% yn 21/22 a 97% yn 19/02).
60%
wedi dewis i fyw mewn cartref gofal.
(O'i gymharu â 64% yn 2021/22 a 57% yn 2019/20).
Cwblhaodd 25 o gynhalwyr holiadur i gynhalwyr yn 2023. Cytunodd 44% o gynhalwyr â’r datganiad ‘Xxxxx i wneud y pethau sy’n bwysig i mi’ a dywedodd 52% y gallen nhw weithiau wneud y pethau sy’n bwysig iddyn nhw. Dywedodd 58% eu bod nhw'n teimlo'n rhan o'u cymuned a dywedodd 21% eu bod nhw weithiau'n teimlo'n rhan o'u cymuned. Mae sylwadau a dderbyniwyd yn dangos y xxx xxxx i gynhalwyr deimlo'n ynysig ac na allan nhw gael mynediad at y pethau'r hoffen nhw eu gwneud. Byddwn ni'n parhau i gynnig cymorth i gynhalwyr, gan gynnwys adolygiad o'n darpariaeth seibiant.
Canmoliaeth a Chwynion am y Gwasanaethau i Oedolion
Xxx xxxxxx ganmoliaeth a chwyno statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhoi cyfle i ddefnyddwyr gwasanaethau a'u teuluoedd roi adborth. Mae'r tabl canlynol yn crynhoi nifer y cwynion a chanmoliaeth a dderbyniwyd eleni ac yn y tair blynedd flaenorol.
2019/20 | 2020/21 | 2021/22 | 2022/23 | |
Xxxxx y cwynion a ddaeth i law | 54 | 25 | 63 | 57 |
Nifer y canmoliaethau a ddaeth i law | 93 | 91 | 66 | 70 |
Yn debyg i'r blynyddoedd blaenorol, mae nifer y cwynion am Wasanaethau i Oedolion yn gyffredinol yn parhau i fod yn gymharol isel o gymharu â nifer y bobl sy'n defnyddio gwasanaethau. Pan, x xxxx i’w gilydd, nad ydyn ni wedi gallu bodloni disgwyliadau pobl, rydyn ni'n defnyddio’r adborth i ddysgu xxxx y xxx xxxx i ni ei wneud yn well a, lle xx xxxxx, rydyn ni'n gwneud newidiadau.
Ein datblygiadau a gwelliannau?
Gofal Ychwanegol
Astudiaeth Achos
Does dim modd i fam a merch, sydd ag anabledd dysgu,
fyw yn annibynnol, ond maen nhw wedi byw gyda'i gilydd erioed. Roedden nhw'n byw mewn fflat ar y llawr cyntaf. Roedd symudedd y fam wedi gwaethygu ac roedd hi'n cael trafferth defnyddio’r grisiau felly roedd teithiau xxxxx yn gyfyngedig iawn. Roedd y fam a'r xxxxx yn dymuno parhau i fyw gyda'i gilydd a mynd â'u cath gyda nhw.
Cawson nhw eu cefnogi i symud i fflat yn rhan o'n cynllun gofal ychwanegol ym Maesyffynon a'r deilliant cyffredinol yw ei fod wedi rhoi 'bywyd newydd' iddyn nhw. Mae Maesyffynon wedi eu cefnogi i barhau i fyw gyda'i gilydd, gan eu galluogi i barhau i fyw yn y gymuned yn ddiogel. Mae gyda nhw'r sicrwydd bod rhywun o gwmpas yn ystod y dydd a'r nos, yn enwedig os ydyn nhw xxxxx xx'n teimlo'n xxx xxx'n cwympo, ac xxxxx xxxxxx nhw leihau dibyniaeth ar wasanaethau yn y dyfodol.
Xxxxxxx, xxx gan y ddwy gyfle i gymdeithasu â phreswylwyr eraill, sy'n cael effaith gadarnhaol ar eu lles cyffredinol. Maen nhw'n cael prydau bwyd maethlon, rheolaidd, yn y bwyty ar y safle. Gan fod y fflat gofal ychwanegol ar un lefel, does dim risg o ddisgyn ar y grisiau mwyach. Xxx xxxx i ofal ychwanegol xxxx derbyniad i leoliad mwy arbenigol yn y dyfodol os na fydd modd i'r fam gefnogi ei merch mwyach. Bydd Maesyffynon yn cynnig cartref am oes heb orfod poeni am symud.
Datblygu opsiynau llety newydd
Rydyn ni wedi parhau i fwrw ymlaen ag adolygiad y Cyngor ar ffurf gofal preswyl i bobl hŷn yn y dyfodol er mwyn sicrhau ein bod ni'n creu’r model cywir o ddarparu gwasanaethau i ymateb i alw cynyddol ac anghenion newidiol yn y tymor hir. Ym mis Chwefror 2023, yn dilyn ymgynghoriad helaeth â phreswylwyr cartrefi gofal presennol a'u teuluoedd, staff a'r cyhoedd yn ehangach, cytunodd y Cabinet ar gynigion i foderneiddio gwasanaethau gofal preswyl lleol gan gynnwys buddsoddiad cyfalaf sylweddol o £60 miliwn mewn pedwar llety gofal o’r radd flaenaf yn Nhreorci, Glynrhedynog, Aberpennar a Phentre’r Eglwys, moderneiddio gwasanaethau gofal preswyl a diwallu anghenion newidiol pobl yn y tymor hir wrth gadw pum cartref gofal y Cyngor.
Dechreuodd y gwaith adeiladu ar dŷ gofal ychwanegol newydd yn Nan y mynydd yn y Porth yng ngwanwyn 2022 ond daeth i ben oherwydd bod y prif gontractwr yn mynd i ddwylo'r gweinyddwyr yn ystod gaeaf 2022. Rydyn ni'n gweithio gyda Linc Cymru, ein partner datblygu tai gofal ychwanegol, i ailddechrau gwaith ar y safle yn ystod haf 2023 ar ôl i gontractwr newydd gael ei ail‐dendro.
Xxx xxx gofal ychwanegol yn cynnig y cyfle i bobl hŷn xx xxxxx gofal a chymorth fyw'n annibynnol yn eu cymuned, ac xxxx xxx oedi'r angen i symud i gartref gofal.
Trwy weithio gyda Trivallis, fe agoron ni gynllun Llety â Chymorth yn Llanhari yn dilyn adnewyddu llety Heol y Llwyf. Mae'r cynllun yma'n darparu amgylchedd diogel o safon uchel i oedolion gydag anableddau dysgu ac awtistiaeth. Mae asesiadau wedi'u cwblhau ac mae unigolion wedi dechrau symud i mewn i'w llety newydd modern. Mae cynllun byw â chymorth tebyg yn Nhreorci yn cael ei adeiladu mewn partneriaeth â Chymdeithas Tai Cynon Taf ac mae disgwyl iddo gael ei gwblhau yng ngwanwyn 2023.
Ym mis Gorffennaf 2022, cymeradwyodd y Cabinet ddatblygiad llety gofal arbenigol newydd ar gyfer pobl ag anabledd dysgu pan fyddan nhw'n oedolion ac yn hŷn, i'w adeiladu ar safle hen Gartref Gofal Bronllwyn yn y Gelli. Mae disgwyl i'r gwaith adeiladu llety gofal newydd ddechrau yn haf 2023.
Cymorth i barhau yn annibynnol.
Rydyn ni wedi parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau ailalluogi i xxxx cynnydd mewn angen neu alluogi adferiad ac annibyniaeth. Yn 2022/23, fe gwblhaon ni 1,087 o becynnau ailalluogi, gyda 62% o bobl yn dychwelyd i hunanofal yn dilyn ymyrraeth.
Yn 2022/23, fe gwblhaon ni ailfodelu ein Carfan Addasu ac Offer yn y Gymuned (ACE) ac yn dilyn ymdrech enfawr gan y garfan, rydyn ni wedi lleihau'r aros am ACE o 735 ym mis Ebrill 2022 i 201 ym mis Mawrth 2023 a gafodd ei ddatblygu yn ystod y pandemig.
O ganlyniad, mae'r galw am Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl wedi cynyddu gyda 687 o atgyfeiriadau wedi’u derbyn yn 2022/23 o gymharu â 461 o atgyfeiriadau yn 2019/20, cynnydd o 49%. Mae Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl yn grant nad yw'n ad‐daladwy sydd ar gael i ariannu'r gost o wneud addasiadau i eiddo er mwyn helpu pobl fregus neu anabl i fyw'n annibynnol yn eu cartref. Mae enghreiffliau'n cynnwys darparu cyfleusterau toiled ac ymolchi priodol ac addasiadau i wella mynediad i'r eiddo a thu mewn iddo, e.e. rampiau, rheiliau, liffliau grisiau, ac ati. Cynyddodd y nifer o Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl a gafodd eu cwblhau o 336 yn 2022/23 o 211 yn 2021/22.
96%
o unigolion yn cytuno eu bod nhw'n teimlo'n fwy hyderus ac annibynnol.
93%
yn cytuno bod ansawdd eu bywyd wedi gwella ac roedd 98% wedi'u bodloni ar y cyfan.
Mae adborth cwsmeriaid, unwaith y bydd Xxxxx Cyfleusterau i'r Anabl ac addasiad tai wedi’u cwblhau, yn cynnwys:
Astudiaeth Achos
Roedd gan Mrs C doiled y tu xxxxx nad oedd yn gweithio, ac oherwydd ei chyflwr meddygol, roedd hi'n ei chael hi'n anodd defnyddio'r grisiau i ddefnyddio'r toilet yn ei hystafell ymolchi lan y grisiau. Xxxxxxxxx Mrs C am asesiad am doiled i xxxx y grisiau fel bod modd iddi gyrraedd y toilet mewn pryd.
Cafodd y xx xxxx y tu xxxxx xx atgyweirio, er, oherwydd diogelwch, cynghorwyd Mrs C i beidio â defnyddio'r cyfleuster yn ystod misoedd y gaeaf nac ar ei phen ei hun gan ei fod yn adeilad allanol. Yn ystod ein hasesiad, argymhellwyd liffl grisiau, fel bod modd i Mrs C gael cyrraedd yn ddiogel ei chyfleusterau xxx do presennol. Yn ystod yr asesiad, canfuwyd hefyd nad oedd Mrs C yn gallu cael mynediad at y ciwbicl cawod oherwydd bod cam uchel iawn yn ei le. Roedd hyn wedi achosi iddi gwympo yn y gorffennol, a doedd hi ddim yn ei ddefnyddio. Argymhellwyd hefyd bod y ciwbicl cawod yn cael ei dynnu a gosod cawod mynediad gwastad yn ei le.
Roedd Mrs C wedi gwirioni gyda xxxxxxxxx ei hasesiad ac xxx xxxx iddi gael mynediad at ei chyfleusterau hanfodol yn ddiogel ac yn annibynnol xxxxxxx.
Yn ogystal â hyn, rydyn ni wedi comisiynu Gofal a Thrwsio Cwm Taf i ddarparu atgyweiriadau bychain hyd at xxxxx o £500 trwy eu Gwasanaeth Tasgmon fewnol a chynnig mân atgyweiriadau trwy raglen "GALLUOGI" y Cyngor. Byddai'r math o waith a gaiff ei gwblhau'n cynnwys:
• Ymgymryd â mân atgyweiriadau cartref sy'n eu gwneud yn ddiogel ac yn gyfforddus.
• Xxxx problemau iechyd a achoswyd gan dai gwael a gwres
• Xxxx damweiniau, llithriadau, bagliadau a chwympo mewn tai peryglus
• Ymgymryd ag addasiadau i dai i leihau'r angen am ofal preswyl, derbyniadau i'r ysbyty a hwyluso rhyddhau cyflymach o'r ysbyty.
Yn 2022/23, cefnogodd ein Gwasanaeth Tasgmon a gomisiynwyd 383 o bobl sy'n agored i niwed i gael atgyweiriadau ac addasiadau i’w cartrefi a chyflawnwyd 971 o fân addasiadau drwy ein rhaglen GALLUOGI.
Datblygwyd model gweithio newydd yn ystod cyfres o weithdai, a bydd hwn yn cael ei gyflwyno i randdeiliaid allweddol yn 2023/24 er mwyn sicrhau ei fod yn adlewyrchu eu barn yn gywir. Unwaith y caiff ei roi ar waith, rhagwelir y bydd y cynnig newydd yn ein galluogi ni i:
• gefnogi pobl yn fwy effeithiol i ddod o hyd i ddatrysiadau o fewn eu rhwydweithiau a'u cymunedau.
• gweithio'n fwy cydlynol a dwys gyda phobl yn ystod argyfwng wrth fabwysiadu dull galluogi.
• darparu trosglwyddiad di‐dor i asesiadau pellach o anghenion gofal a chymorth.
Yn dilyn gweithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, cafodd gwasanaethau gwaith cymdeithasol i oedolion eu hailstrwythuro yn 2017, a oedd yn cynnwys newidiadau i wasanaethau gwaith cymdeithasol ar gyfer pobl ag anabledd dysgu. Fe sefydlon ni Wasanaeth Gofal a Chymorth newydd, a oedd yn gweithio gydag ystod xxxx o unigolion ag anghenion gofal a chymorth hirdymor, gan gynnwys pobl hŷn â phroblemau iechyd meddwl, pobl ag anabledd corfforol neu synhwyraidd a phobl sy’n byw ag anableddau dysgu, a oedd â llai o anghenion cymhleth, ynghyd â Charfan Anabledd Dysgu Cymhleth penodedig.
Yn dilyn yr ailstrwythuro, fe barhasom ni i geisio barn y rhai y byddai'r newidiadau yma yn effeithio arnyn nhw, trwy ystod o ddulliau ymgynghori ac ymgysylltu. Roedd hyn yn cynnwys pobl ag anabledd dysgu, eu rhieni a'u gwarcheidwaid, staff Rhondda Cynon Taf a sefydliadau partner. Drwy'r trafodaethau yma, fe ddaeth hi'n glir fod pobl eisiau gwasanaeth gwaith cymdeithasol penodol ar gyfer pobl ag anabledd dysgu. O ganlyniad i hyn, yn 2022/23, fe aethon ni ati i ailfodelu pethau, gan arwain at greu dwy garfan anabledd dysgu arbenigol newydd a saith Carfan Oedolion lleol hirdymor. Trwy weithio’n effeithiol
gyda’n xxxx staff trwy broses o newid, llwyddwyd i gwblhau’r ailfodelu yma ym mis Ebrill 2023. Er, yn ei ddyddiau cynnar, mae adborth gan y rhai sy'n defnyddio ein gwasanaethau yn gadarnhaol a byddwn ni'n adolygu'r effaith trwy gydol 2023/24.
Yn ystod y flwyddyn, yn dilyn ymdrech enfawr arall gan ein Carfanau Gwaith Cymdeithasol, rydyn ni wedi lleihau ein rhestr aros Gofal a Chymorth o 735 i 339 ym mis Ebrill 2022 i 186 ym mis Mawrth 2023 a oedd wedi datblygu yn ystod y pandemig.
Rydyn ni wedi parhau i wneud y defnydd gorau o dechnoleg yn 2022/23 a datblygu prosiectau digidol i wella annibyniaeth pobl a chynorthwyo gyda darparu gofal a chymorth, ochr yn ochr â gwaith i Strategaeth Ddigidol Gwasanaethau i Oedolion a chynllun gwaith, a gaiff eu cwblhau blwyddyn nesaf.
Ym mis Ionawr 2023, fe gyflwynon ni brosiect peilot ‘Just checking’ ar draws ein Gwasanaethau Byw â Chymorth i archwilio’r cyfleoedd sydd ar gael i oedolion ag anabledd dysgu fyw’n fwy annibynnol a diogel yn eu cartrefi byw â chymorth. Er, yn ei ddyddiau cynnar, mae'r prosiect yn symud yn ei flaen yn dda, a byddwn ni'n adolygu'r effaith trwy gydol 2023/24.
Yn ystod 2022/23, cwblhawyd mwy na 1,200 o osodiadau newydd o offer technoleg i alluogi byw'n annibynnol. O'r rhain, roedd tua 350 o osodiadau ar gyfer pecyn Teleofal pwrpasol yn gysylltiedig â chynllun gofal a chymorth, gyda’r nod o ddiwallu anghenion gofal a chymorth pobl mewn modd arloesol ac sy'n galluogi drwy ddefnyddio technoleg a monitro x xxxx.
Roedd gweddill y gosodiadau ar gyfer un o'n pecynnau Llinell Fywyd, er mwyn i bobl allu byw'n ddiogel ac yn annibynnol gartref, gan ganiatáu i bobl gysylltu x xxxx â'n Canolfan Fonitro Llinell Fywyd mewn sefyllfaoedd xxxx, xx enghraiffl os ydyn nhw'n cwympo gartref. Ar ddiwedd mis Mawrth 2023, roedd 3,777 o gysylltiadau Llinell Fywyd byw.
Gan adeiladu ar y Gwasanaeth Llinell Fywyd presennol, rydyn ni wedi ehangu ein Gwasanaethau Llinell Fywyd+, ac wedi parhau i ddarparu'r cynnig o gymorth ychwanegol o wasanaeth ymatebydd symudol o fore xxxx xxx nos, xxx diwrnod o'r flwyddyn. Yn rhan o'n cynnig gwasanaeth ymatebwyr, byddwn ni'n darparu cymorth gyda'r gobaith o osgoi anfon pobl i'r ysbyty. Yn ystod 2022/23, roedd yr Ymatebwyr wedi xxxxx â 6,972 o achosion gan osgoi anfon 5,737 i'r ysbyty. Mae'r targed o ymateb o fewn 1 awr yn cael ei gyrraedd yn gyson ar gyfer dros
90% o ymweliadau.
Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol 2022/23 • Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Cynhalwyr
Rydyn ni wedi parhau i gefnogi cynhalwyr di‐dâl i gadw'r fantol yn wastad rhwng eu rolau gofalu a chynnal ansawdd eu bywydau. Yn 2022/23, cynhaliwyd 300 o asesiadau cynhalwyr ar gyfer oedolion yn ystod y flwyddyn, o gymharu â 485 yn 2021/22.
Dwysodd rôl cynhalwyr di‐dâl yn ystod y pandemig, a arweiniodd at gynnydd yn nifer y bobl a ofynnodd am gymorth gan y Gwasanaethau i Oedolion yn ystod y cyfnod yma. Mae niferoedd xxxxxxx wedi gostwng gan fod llai o alw.
Cynllun Cynnal y Cynhalwyr
Mae’r Cynllun Cynnal y Cynhalwyr wedi parhau i gynnig gwasanaethau o ansawdd uchel ar ffurf gwybodaeth a seibiannau byr i gynhalwyr ac wedi cysylltu’n llwyddiannus â mwy na 40 o sefydliadau trydydd sector i gefnogi eu darpariaeth:
• Cyfanswm y cynhalwyr di‐dâl sydd wedi tanysgrifio i Gynllun Cynnal y Cynhalwyr ‐ 2706
• Cynhalwyr di‐dâl yn derbyn cymorth cwnsela arbenigol ‐ 150
• Nifer yr achlysuron seibiant byr i ofalwyr Cynllun Cynnal y Cynhalwyr – 107, gyda 1976 yn mynychu
Rydyn ni wedi dechrau datblygu ffrydiau gwaith sy'n cyd‐fynd yn agosach â Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Cynhalwyr Di‐dâl, gan sicrhau wrth symud ymlaen y gallwn ni gyflawni'r Blaenoriaethau Cenedlaethol newydd. Yn xxxxx, rydyn ni wedi dechrau proses ymgynghori â chynhalwyr di‐dâl, sydd hyd yn hyn wedi canolbwyntio ar y math o gymorth y maen nhw'n teimlo sydd o fudd iddyn nhw yn eu rôl ofalu, gan wirio’r hyn yr ydyn ni'n ei wneud yn dda, sut y gallwn ni wella a’r rhwystrau y maen nhw'n eu hwynebu. Mae ein gwerthusiad o’r gwaith a gynigir gan y Cynllun hefyd wedi symud i gynnwys deilliannau sy’n adlewyrchu deilliannau dymunol Llywodraeth Cymru yn well.
Yn ystod y flwyddyn, rydyn ni wedi cynnwys cynhalwyr di‐dâl a rhanddeiliaid perthnasol eraill i gyd‐lunio Gwasanaeth Seibiant Byr i Gynhalwyr newydd yn seiliedig ar ganlyniadau, sy'n disodli ein Gwasanaeth Gwarchod/Cwmni presennol. Nod y cynnig newydd yw gwella ein hopsiynau seibiant presennol i gynhalwyr di‐dâl trwy gynyddu dewis a rheolaeth i unigolion trwy ddefnyddio taliadau uniongyrchol, a thrwy annog syniadau mwy creadigol ac arloesol ar gyfer Seibiannau Byr i Gynhalwyr. Bydd gweithredu a datblygu’r cynnig ymhellach yn parhau yn 2023/24 i gynyddu argaeledd ac amrywiaeth o opsiynau.
Dechreuodd cynllun peilot gyda Chynhalwyr sy'n Oedolion Ifainc tua diwedd y flwyddyn, gan ddarparu cymorth wedi'i dargedu'n benodol sy'n canolbwyntio ar gynllunio ac sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a deilliannau unigol. Mae datblygiad hefyd wedi dechrau mewn perthynas â rhaglen bontio ar gyfer Cynhalwyr Ifainc sy'n symud i gymorth Cynhalwyr sy'n Oedolion Ifainc.
Yn 2022/23, enillodd Xxxxxxx Xxxxx Taf statws Cyflogaeth Hyderus i Gynhalwyr ac xxx xxxxxxx yn Gyngor Hyderus i Gynhalwyr, gan gyflwyno Polisi Absenoldeb Cynhalwyr newydd a sefydlu Gweithgor Cymorth i Gynhalwyr. Mae'r Gweithgor Cymorth yn cynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth i weithwyr (44 o weithwyr presennol) drwy achlysuron rheolaidd.
Rydyn ni wedi parhau i hyrwyddo taliadau uniongyrchol fel ffordd o rymuso pobl i fod yn fwy annibynnol a rheoli eu hanghenion gofal unigol. Mae nifer yr oedolion sy’n defnyddio taliadau uniongyrchol i ddiwallu eu hanghenion wedi cynyddu i 423 yn 2022/23 o 412 yn 2021/22.
Ar ôl ymgysylltu â defnyddwyr y gwasanaeth a staff, fe adolygon ni ein polisi taliadau uniongyrchol, gwybodaeth gyhoeddus a chanllawiau i staff i symleiddio'r broses a'i gwneud yn fwy hygyrch i bobl xx xxxxx. Cafodd y polisi ei lansio ym mis Ionawr 2023 ac mae rhaglen o sesiynau hyfforddi a chodi ymwybyddiaeth yn mynd rhagddi i roi cymorth. Tua'r un pryd, dyfarnwyd y contract ar gyfer cymorth a chyngor taliadau uniongyrchol i Dewis CIL, sefydliad lleol a arweinir gan ddefnyddwyr gwasanaethau a phartner hirdymor gyda ni ar gyfer y gwaith yma.
Yn 2022/23, rydyn ni wedi comisiynu Catalyddion Cymunedol i weithio ochr yn ochr â ni i gefnogi pobl leol i ddatblygu mentrau cymunedol bach newydd. Xxx xxxxxx fach yn fusnes masnachwr unigol xxxx xx’n ymreolaethol ac nad yw’n cael ei gyflogi’n uniongyrchol gan y person sy’n derbyn gofal, ond sy’n gallu rheoli perthynas uniongyrchol a hyblyg â’u defnyddwyr gwasanaeth. Bydd eu datblygiad yn cynyddu'r ystod o opsiynau gofal a chymorth i ddefnyddwyr gwasanaethau a chynhalwyr di‐dâl ledled Rhondda Cynon Taf. I ddechrau, ardal Gogledd Cwm Cynon yw ein ffocws, gyda'r nod o fonitro a gwerthuso cynnydd trwy gydol 2023/24 i lywio ehangu ledled y Fwrdeistref Sirol.
Rydyn ni wedi parhau i adolygu ac ailgynllunio ein model ar gyfer y Gwasanaeth Gofal yn y Cartref i sicrhau bod pobl yn derbyn gofal cartref o ansawdd da yn seiliedig ar y deilliannau y maen nhw am eu cyflawni yn ogystal â sicrhau bod digon o ddarpariaeth ar gael ar y lefel gywir i fodloni'r galw.
Ein blaenoriaeth yn 2022/23 fu cefnogi
ein gweithlu gofal yn y cartref wrth iddo xxxxx o effeithiau negyddol y pandemig. Y meysydd allweddol oedd yn achosi pryder oedd bwrw ymlaen â xxxx a chadw staff, sefyllfa a oedd yn dangos
Cefnogi pobl hŷn
i fyw yn eu cartrefi eu hunain
Astudiaeth Achos
arwyddion o welliant erbyn diwedd 2022/23, er bod rhai meysydd yn parhau i fod yn broblemus o ran xxxx xxxxx o staff i ateb y galw.
Er gwaethaf yr heriau sylweddol yma o ran y gweithlu ar draws y farchnad gofal yn y cartref, mae'r Cyngor wedi parhau i gael cymorth gwych gan ein darparwyr gofal cartref a gomisiynwyd sy'n darparu, ar gyfartaledd, tua 15,000 o oriau o ofal a chymorth xxx wythnos i dros 1,200 o bobl yn eu cartrefi. Gyda’n gilydd, fe ostyngon ni nifer y bobl oedd yn aros am becyn gofal yn y cartref o
82 ym mis Ebrill 2022 i 40 ym mis
Mawrth 2023.
Cyflawnodd Gwasanaeth Gofal yn y Cartref mewnol y Cyngor tua 2,900 awr o ofal a chymorth wythnosol yn ystod
y flwyddyn. Mae'r gwasanaeth yn cynnwys darpariaeth gofal yn y cartref tymor hir yn ogystal â gwasanaethau tymor byr fel ailalluogi a gofal canolraddol gyda'r nod o gefnogi pobl i adennill eu hannibyniaeth. Yn ystod 2022/23, fe addasodd y Gwasanaeth
Gofal yn y Cartref mewnol hefyd mewn ymateb i brosesau a galwadau newidiol trwy dreialu dull “Cartref yn Gyntaf” newydd gyda'r Gwasaneth Iechyd i ganiatáu i bobl ddychwelyd adref o’r ysbyty yn gynt gyda phecyn gofal cyn cael asesiad llawn o'u hanghenion gofal a chymorth.
Cafodd EH ei derbyn i’r ysbyty ym mis Hydref 2021 ar ôl
cwympo. Ym mis Ionawr 2022, symudwyd EH i gartref gofal preswyl yn arbenigo mewn gofal ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia fel trefniant dros dro nes bod pecyn priodol o ofal cartref ar gael i gefnogi ei dymuniad ‐ dychwelyd i fyw yn ei chartref ei hun.
Roedd gan deulu EH bryderon ynghylch EH yn dychwelyd adref. Doedden nhw ddim yn teimlo bod ganddi'r galluedd meddyliol i wneud y penderfyniad. Neilltuwyd gweithiwr cymdeithasol i asesu ei gallu i wneud y penderfyniad ynghylch ble y dylai fyw ac i gynllunio ei gofal gyda hi ar ôl cael canlyniadau'r asesiad.
Aseswyd bod EH yn meddu ar y gallu i wneud y penderfyniad ynghylch ble roedd hi eisiau byw a dangosodd ei bod hi'n gallu egluro pa gymorth y byddai xx xxxxx arni gartref, xxxx oedd y risgiau a sut xxx xxxx lleihau'r rhain. Er roedd EH yn glir yn ei phenderfyniad, roedd hi'n poeni am achosi pryder i'w theulu gan roedd hi'n gwybod eu bod nhw am xxxx xxxx mewn cartref gofal.
Cynhaliodd y gweithiwr cymdeithasol asesiad a datblygodd gynllun gofal a chymorth gydag EH a fyddai'n bodloni ei hanghenion am ofal personol ac yn lleihau'r risgiau sy'n gysylltiedig â chwympo gan ddefnyddio synwyryddion cwympo. Trefnwyd prydau cymunedol hefyd ac yn groes i ddymuniadau'r teulu dychwelodd EH i'w chartref.
Dychwelodd EH gartref ym mis Mawrth 2022. Gartref, bu EH yn gweithio gyda therapi galwedigaethol cof pobl hŷn. Mae hyn wedi ei galluogi i ddatblygu ei sgiliau byw'n annibynnol a dechrau gwneud hyd yn oed mwy drosti ei hun na chyn iddi fynd i'r ysbyty. Mae XX xxxxxxx yn gallu defnyddio ei microdon, rheoli ei gofal personol a chael cawod gyda chymorth cynhalwyr (gofalwyr). Mae pecyn gofal a chymorth gwreiddiol XX xxxxxxx wedi lleihau ers iddi ddychwelyd adref ac mae ei hiechyd, xx xxxxx a’i
symudedd wedi cynyddu’n sylweddol.
Mae EH yn dal i fyw yn ei chartref ei hun (Mai 2023) ac wedi ailddechrau mynychu gwasanaethau yn ei heglwys leol unwaith yr wythnos. Mae ei sefyllfa yn sefydlog gartref, ac does dim xxxxx xx gweithiwr cymdeithasol arni hi mwyach.
Mae ein Rhaglen Trawsnewid Anabledd Dysgu, pum mlynedd, a lansiwyd yn ystod 2020, wedi parhau eleni gyda chydweithio/cyd‐gynhyrchu yn greiddiol i'r rhaglen.
Mae hyn wedi cael ei gydnabod fel arfer da gan y Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth.
Gan adeiladu ar ein hymwneud ac ymgysylltu
Fy Niwrnod i, Fy Newis i yn 2021/22 a dysgu'r gwersi o gyfnod y pandemig, rydyn ni wedi parhau i lywio'r
gwaith parhaus o drawsnewid gwasanaethau oriau dydd fel bod pobl ag anableddau dysgu yn cael manteisio ar weithgareddau a chyfleoedd ystyrlon yn eu cymunedau eu hunain, gan gynnwys cyflogaeth i gyflawni eu nodau personol a byw bywydau cyffredin. O ganlyniad i'r gwaith yma, rydyn ni wedi datblygu cynnig gweithredu
a gwasanaeth newydd ar y cyd ar gyfer cyfleoedd gwasanaethau oriau dydd. Cyflwynwyd hyn i'r Pwyllgor Craffu ym mis Mawrth 2023 ac roedd yn xxxxx i'w gymeradwyo gan y Cabinet yn Haf 2023.
Gan adeiladu ar yr wybodaeth a gafwyd trwy weithio ar y cyd, rydyn ni wedi lansio Fy Nghartref i, Fy Newis i yn 2023. Mae'r cynllun yma'n canolbwyntio ar roi cyfle a man diogel i fwy o bobl gael llais a bod yn rhan o’r gwaith o ddylunio, darparu a gweithredu Gwasanaethau Byw â Chymorth ac ail‐dendro'r Cyngor yn 2023/24.
Gweithio ar y Cyd/
Cyd‐gynhyrchu a Fy
Niwrnod i, Fy Newis i
Xxx xxxx i chi glywed rhagor am weithio ar y cyd a phrosiect ymgysylltu Fy Niwrnod i, Fy Newis i trwy wrando ar y Podlediad xxx xxx y Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth neu wylio'r fideo yma a gynhyrchwyd gan ddefnyddwyr y gwasanaeth.
O lwyddiant Fy Niwrnod i, Fy Newis i a’n gwaith presennol ar Fy Nghartref i, Fy Newis i, rydyn ni wedi cydnabod pwysigrwydd a gwerth gweithio ar y cyd gyda phobl sydd â phrofiad byw i lunio ein gwasanaethau. Rydyn ni ar hyn x xxxx yn rhannu’r hyn a ddysgwyd ar draws ein Gwasanaethau i Oedolion.
32
Rydyn ni wedi gwneud gwaith sylweddol i gryfhau’r berthynas rhwng y garfan Un Pwynt Mynediad yn y Gwasanaethau i Oedolion a’r cymorth cymunedol sy’n cael ei gynnig gan yr Hyb Cymunedol o fewn cymunedau fel bod modd i drigolion gael mynediad at wybodaeth, cyngor a chymorth o ansawdd da sy’n cefnogi’r model rhagnodi cymdeithasol.
Ymatebwyd i dros 670 o geisiadau am gymorth gan breswylwyr yn 2022/23, a allai fel arall fod wedi cael eu trin gan y gwasanaethau cymdeithasol statudol, gan sicrhau bod preswylwyr yn cael y cymorth sydd xx xxxxx arnyn nhw mewn modd amserol trwy gymorth cymunedol. Er mwyn cryfhau perthnasoedd mae staff yn y Gwasanaethau i Oedolion wedi mynychu sesiynau codi ymwybyddiaeth i sicrhau bod y llwybrau atgyfeirio ar gyfer cymorth i breswylwyr a’r cymorth cymunedol a gynigir yn cael eu deall ac xxx xxxx atgyfeirio atyn nhw.
Un Pwynt Mynediad – Cryfhau cysylltiadau â’n Canolfannau Cymunedol
Astudiaeth Achos
Yn dilyn atgyfeiriad drwy'r Gwasanaeth Un Pwynt Mynediad, gofynnwyd am gymorth i breswylwyr ar gyfer cwpl oedrannus yn eu 80au. Yn ystod y sgwrs “Xxxx xx'n Bwysig” i chi, fe egluron nhw eu bod fel arfer yn derbyn cyflenwadau bwyd ar‐lein, ond nid oedd hyn xxxxxxx yn opsiwn a bod angen cymorth siopa hirdymor arnyn nhw. Egluron nhw fod gyda nhw ddigon o fwyd i bara hyd at y penwythnos ond eu bod yn pryderu sut y bydden nhw'n ymdopi wedi hynny. Defnyddiodd y Cydlynydd Cymunedol gysylltiadau trwy’r Rhwydwaith Cymdogaeth a chysylltodd â Plant y Cymoedd, a oedd yn gallu darparu gwirfoddolwr i ymweld â nhw ar yr un diwrnod i'w helpu i wneud archeb ar‐lein, gan ddangos sgiliau TGCh sylfaenol iddyn nhw a rhoi bwndel bach o fwyd i bara nes iddyn nhw gael eu harcheb. Maen nhw xxxxxxx yn cael cyflenwad rheolaidd o'u harchfarchnad leol ac mae gwirfoddolwyr Plant y Cymoedd yn galw i'w
gweld yn rheolaidd.
Xxxxxx am wrando ac am gynnig cymorth. Mae ein rhoi ni mewn cysylltiad â Plant y Cymoedd wedi bod yn hynod ddefnyddiol. Fyddwn i byth wedi mynd atyn nhw am help gan fy mod i'n meddwl eu bod nhw ond yn helpu plant heb sôn am hen fenywod fel fi.
(Preswylydd)
Rydyn ni'n hapus i gefnogi Rhondda Cynon Taf Gyda'n Gilydd ac i roi cymorth i unrhyw breswylydd yn yr ardal. Roedden nhw mor ddiolchgar ac rydw i'n xxxxx roedden ni'n gallu helpu.
(Gwirfoddolwr Plant y Cymoedd)
Yn 2022/23, rydyn ni wedi parhau i gyflwyno asesiadau lles ar gyfer y gymuned ehangach, gan sicrhau bod y Canolfannau Cymunedol yn gallu dogfennu a chynllunio cymorth ynghylch anghenion lles unigolyn. Roedd hyn yn
cynnwys lansio Cynllun Peilot Heriau'r Gaeaf gyda phartneriaid yng Ngharfan Gofal Sylfaenol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Chlwstwr Meddygon Teulu yn ardal Cwm Taf.
Mae carfanau yn y ganolfan yn cael atgyfeiriadau uniongyrchol gan gydweithwyr Iechyd yn yr ardal yma ac xxx xxxx i Gydlynwyr Cymunedol yna gynnig asesiadau lles ar gyfer y preswylwyr yma os oes angen. Ar ddiwedd mis Mawrth 2023, gofynnwyd am 53 o asesiadau lles a derbyniwyd 21 o atgyfeiriadau yn ystod cynllun peilot Heriau’r Gaeaf.
Yn ystod y flwyddyn, rydyn ni hefyd wedi cydweithio ar gynllun peilot Cymorth Cynnar gyda Heddlu De Cymru sy’n darparu “ap atgyfeirio” iddyn nhw pan fyddan nhw'n mynd ar alwadau. Y nod yw sicrhau bod trigolion sy'n ymddangos yn agored i niwed neu angen cymorth ond sydd ddim yn cwrdd â throthwyon gwasanaeth statudol yn gallu cael eu hatgyfeirio am gymorth yn y gymuned, yn gyflym.
Cynhaliwyd y cynllun peilot o ganol mis Medi 2022 am ddau fis. Y disgwyl oedd y byddai 6 atgyfeiriad yn cael eu derbyn yr wythnos, fodd bynnag, gwnaed 77 o atgyfeiriadau gan yr Heddlu. Cwblhawyd 50 o asesiadau lles gan ein Cydlynwyr Cymunedol a chyfeiriwyd 38 o bobl, na fydden nhw efallai wedi cael unrhyw gymorth fel arall, am ragor o gymorth yn y gymuned. Yn dilyn y llwyddiant yma, bydd y cynllun peilot nawr yn cael ei brif ffrydio yn 2023/24.
Atgyfeirio Xxxxxxx Xxxxxx Heddlu De Cymru
Astudiaeth Achos
Yn dilyn marwolaeth ddiweddar partner Miss K, teimlai swyddogion yr Heddlu bod angen cymorth xxxxxxx xxxx oherwydd ei sioc, ei phryder a’i hwyliau isel. Gwnaethpwyd atgyfeiriad gan ddefnyddio’r ‘ap’ atgyfeirio cymorth cynnar i’r Cydlynwyr Cymunedol. Cysylltwyd â Miss K i gynnal asesiad lles a chael sgwrs ‘xxxx xx’n bwysig’ i ganfod a oedd angen unrhyw gymorth arni. Trwy'r sgwrs nodwyd y byddai Miss K yn elwa ar gymorth Cyngor ar Bopeth ar gostau angladd a hawlio xxxx‐daliadau ac y byddai hefyd yn elwa o siarad â rhywun am sut roedd hi'n teimlo.
Yn dilyn y sgwrs yma, atgyfeiriwyd at Garfan Cyfraith Teulu a Xxxx‐daliadau Cyngor ar Bopeth ac anfonwyd apwyntiad 3 diwrnod yn ddiweddarach. Gwnaed atgyfeiriad hefyd at Mothers Matters sy'n darparu gwasanaethau cwnsela am ddim i rieni sengl. Cysylltodd cwnselydd â Miss K yr un diwrnod ac mae hi xxxxxxx yn derbyn cwnsela dros y ffôn.
Dywedodd Miss K:
Rydw i’n ddiolchgar iawn am xxxx cymorth heddiw. Doeddwn i ddim ddim yn gwybod ble i ddechrau gyda'r cyfan ac roeddwn i'n teimlo fy mod wedi fy llethu. Diolch i chi am wrando a'm rhoi mewn cysylltiad â'r cymorth roeddwn i xx xxxxx.
Rydyn ni wedi parhau i gydweithio â phartneriaid rhanbarthol gan gynnwys y Bwrdd Iechyd i leddfu pwysau ar ysbytai. Roedd misoedd y gaeaf yn arbennig o heriol, fel y profwyd ar draws gweddill Cymru, a chanolbwyntiwyd cryn ymdrech ar gefnogi darparwyr i gadw pobl yn eu cartrefi eu hunain lle bo hynny’n briodol neu gydgysylltu rhyddhau diogel o'r ysbyty.
O fis Ionawr 2023, mae 'Rhyddhau i Xxxxx yna Asesu' wedi cychwyn ar draws Cwm Taf Morgannwg i gefnogi pobl i adael yr ysbyty yn gynt (ar yr amser iawn), parhau â'u gofal, adferiad, ac asesiad ar gyfer unrhyw anghenion hirdymor xxxxx xx yn eu cartref eu xxxxxx xxx leoliad cymunedol (y lle iawn). Yn 2022/23, roedd gweithgarwch sylweddol yn canolbwyntio ar gyflwyno’r system electronig ar y wardiau yn rhan o'r rhaglen Rhyddhau i Xxxxx yna Asesu. Roedd hyn yn defnyddio Trosglwyddiad Gofal Electronig ac roedd yn datblygu canolfan ryddhau i gydlynu’r broses o drosglwyddo atgyfeiriadau Trosglwyddiad Gofal Electronig i wasanaethau cymunedol gan gynnwys Gwasanaethau i Oedolion. Bydd Rhyddhau i Xxxxx yna Asesu yn parhau i symud ymlaen i 2023/24.
Mae cyflwyno’r dull Rhyddhau i Xxxxx yna Asesu newydd ynghyd â buddsoddiad parhaus yn ein Gwasanaeth Cadw'n Iach Gartref a buddsoddiad newydd i gynyddu capasiti ein Carfan Gwaith Cymdeithasol mewn Ysbytai wedi osgoi derbyniad cleifion i'r ysbyty yn gadarnhaol neu wedi cefnogi rhyddhau tua 48 o bobl yn ddiogel yr wythnos.
Gwasanaethau Cymunedol Integredig
Mae ffocws y bartneriaeth ar gyfer 2022/23 wedi bod ar leihau hyd arhosiad yn yr ysbyty a chyflwyno'r rhaglen Rhyddhau i Xxxxx yna Asesu.
Serch hynny, roedd cydnabyddiaeth hefyd bod angen rhagor o waith i gryfhau gwasanaethau cymunedol. Cytunodd y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i gefnogi model Gwasanaethau Cymunedol Integredig ym mis Hydref 2022 gyda’r nod hirdymor o gryfhau gwasanaethau cymunedol yn enwedig ar gyfer pobl hŷn i leihau dibyniaeth ar dderbyniadau i’r ysbyty a chadw pobl
gartref am gyfnod hwy gan hefyd bwysleisio camau i leihau ac xxxx
effeithiau hirdymor cyflyrau xxxxxx xx afiechyd. Xxx xxxxx rhagor o waith mewn partneriaeth i nodi'r manylion gweithredu ar gyfer y model a fydd yn parhau yn 2023/24.
Iechyd Meddwl
Llwybrau Integredig
Ymateb Gofal Xxxx
Ymateb cymunedol xxxx, heb ei raglennu, ar gyfer cefnogaeth MDT amgylchynol a gyfyngir yn ôl amser.
Xxxxxx Xxxxxx y Boblogaeth
Ymateb MDT i ddyraniad y boblogaeth, er mwyn gwreiddio ethos ataliol ar draws pob xxxxx xxxxx.
Gofal Cymunedol Xxxx
Ymateb i angen o fewn cyfyngiadau amser penodol yn seiliedig ar frysbennu effeithiol gyda gofal MDT canolraddol amgylchynol.
Hwb cyfeirio
Brysbennu, cyfeirio ac ymateb i’r gofal cywir, y lle cywir, yr adeg gywir.
Clwstwr / Lleoliad
Timau clwstwr integredig yn tynnu darpariaeth ynghyd ar lefel gymunedol, ac yn cael cefnogaeth lleoliadau integredig drwy grwpiau cynllunio ar draws clystyrau.
Rhwydwaith Gymunedol
Dull sy’n seiliedig ar le o roi cefnogaeth MDT effeithiol a chydweithio
gydag asedau ac anghenion cymunedol ar lefel hynod leol.
Mae ein gwaith i adolygu ac ailgynllunio Gwasanaethau Iechyd Meddwl Cymunedol mewn partneriaeth â'r Gwasanaeth Iechyd yn mynd yn ei flaen ond yn arafach nag yr hoffen ni.
Yn rhan o'r gwaith yma byddwn ni'n cynnal adolygiad o'r Gwasanaethau Iechyd Meddwl presennol, gan gynnwys pobl hŷn â phroblemau iechyd meddwl, ac yn datblygu opsiynau i ailgynllunio ein gwasanaeth ar y cyd i ddiwallu pwysau galw hirdymor presennol ac yn y dyfodol. Bydd gwaith ailgynllunio yn parhau yn 2023/24.
Rydyn ni xxxxxxx yn gwybod na fydd newidiadau arfaethedig y Llywodraeth i'r Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid (XxXX) a chychwyn Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid newydd yn cael eu cyflwyno. Yn 2022/23, gyda chyllid grant ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, rydyn ni wedi gallu cynyddu nifer yr asesiadau Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid a gwblhawyd o gymharu â'r flwyddyn flaenorol o 360%, gan leihau'r rhestr aros o 414 ym mis Ebrill 2022 i 255 ym mis Mawrth 2023. Bydd angen i ni ystyried yr her barhaus o reoli asesiad Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid yn 2023/24 a thu hwnt.
Mae ein Carfan Diogelu yn rheoli’r xxxx adroddiadau diogelu oedolion i Hwb Diogelu Amlasiantaeth Cwm Taf, gan wneud penderfyniadau am y camau sydd eu xxxxxx i amddiffyn a hyrwyddo lles oedolion sydd mewn perygl o gael eu cam‐ drin neu eu hesgeuluso yn unol â Gweithdrefnau Diogelu Cymru 2019. Yn 2022/23, derbyniodd ein Carfan Diogelu 1,149 o adroddiadau gyda 2,419 o Hysbysiadau Diogelwch y Cyhoedd ychwanegol gan Heddlu De Cymru a 191 o atgyfeiriadau gan weithwyr proffesiynol a oedd yn peri pryder. Cafodd pob adroddiad ei sgrinio, a chychwynnwyd
gweithdrefnau diogelu lle'r oedd angen, gan xxxxxx at 516 o ymholiadau Diogelu yn cael eu cynnal a 282 o gyfarfodydd strategaeth aml‐asiantaeth cychwynnol yn cael eu cynnal.
Diogelu Astudiaeth Achos
Mae D yn 77 oed ac yn byw gyda dementia datblygedig. Mae hi fel arfer yn byw gartref gyda’i gŵr, sef ei phrif gynhaliwr. Mae eu dwy xxxxx a’u hwyres hefyd yn helpu. Tra’n byw mewn cartref gofal am gyfnod o ofal seibiant, cafodd D 2 godwm. Dywedwyd wrth ei gŵr am y rhain a dywedwyd wrtho na chafodd ei wraig unrhyw anafiadau, ond, pan gafodd ei chasglu mewn car i ddychwelyd adref, cafodd ei chludo i'r car mewn cadair olwyn a doedd hi ddim yn gallu dal ei phwysau. Yn ddiweddarach, cafodd D ddiagnosis o glun wedi torri ac roedd hi angen llawdriniaeth i osod clun newydd. Xxxxx hi ddim yn gallu dweud sut y cafodd yr anaf oherwydd ei dementia. Adroddodd ei rheolwr gofal y pryder fel achos o esgeulustod xxx amheuaeth, gan fod gŵr D wedi dweud ei bod hi ddim yn gallu cerdded pan aeth adref ond roedd hi'n gallu cerdded cyn iddi fynd i'r ysbyty.
Gwnaed ymholiadau Adran 126 helaeth a oedd yn cynnwys archwilio cofnodion y cartref gofal, adroddiadau am ddigwyddiadau, y polisi cwympiadau, adroddiadau myfyriol gan staff a oedd ar ddyletswydd ar y pryd,
a disgrifiad llawn xxx xx D o’r digwyddiadau o’i safbwynt ef a chynhaliwyd cyfarfod strategaeth. Sefydlwyd bod dim modd cadarnhau os oedd esgeulustod ac roedd y cartref gofal wedi gweithredu'n briodol ac yn unol â'u polisïau. Roedd gŵr a merched D yn anhapus â'r canlyniad yma a doedden nhw ddim yn derbyn bod y cartref wedi gweithredu’n briodol pan oedd symudedd D yn dirywio. Cynigiodd y Cydgysylltydd Diogelu Gynhadledd Achos lle byddai modd esbonio canfyddiadau’r ymholiadau’n fanylach i’r teulu.
Derbyniwyd y cynnig ond dywedodd gŵr D ei fod eisiau i’r cyfarfod fod yng nghartref y cwpl. Cytunodd y Cydgysylltydd Diogelu â gŵr D ar gynllun ar gyfer sut byddai modd i hyn weithio. Cynhaliwyd y Gynhadledd Achos yn briodol yng nghartref y cwpl gyda dim ond partïon hanfodol yn bresennol, yn hytrach na’r grŵp strategaeth cyfan. Dywedodd gŵr D ar ddiwedd y cyfarfod “ei fod ddim yn pwyntio bys at unrhywun, ac roedd am gyfarfod i weld y byddai pethau’n gwella, ond erbyn hyn dyw e ddim yn gallu gweld xxxx xxxxx fod wedi gwella ac mae’n hapus ei fod wedi cael yr atebion”.
Rydyn ni wedi arwain ar ddatblygiad y Pecyn Cymorth Ymarfer Hunanesgeuluso Rhanbarthol a Phrotocol Uwchgyfeirio. Derbyniodd Panel Rhondda Cynon Taf, sy’n cael ei gadeirio gan Reolwr y Gwasanaeth Diogelu Oedolion ac sydd â chynrychiolaeth o blith rheolwyr o bartneriaid perthnasol, 29 o atgyfeiriadau yn 2022/23, gyda 46 ers gweithredu’r paneli ym mis Hydref 2021, ac mae'n profi ei fod yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r bobl a atgyfeiriwyd ac i’r gweithwyr proffesiynol sy’n eu cefnogi.
Hunanesgeuluso
Astudiaeth Achos
Mae S yn byw ar ei phen ei hun mewn fflat wedi'i addasu sy'n eiddo i Landlord Cymdeithasol Cofrestredig
ac does ganddi ddim rhwydweithiau cymorth anffurfiol. Mae ganddi osteoarthritis a phroblemau symudedd ac mae'n defnyddio sgwter symudedd. Aeth at ei Meddyg Teulu ac roedd wedi'i heintio'n ddifrifol gan frathiadau chwain. Roedd fflat S yn llawn chwain oddi wrth ei 5 cath. Ceisiodd y Landlord Cymdeithasol Cofrestredig fygdarthu'r fflat ond roedd cymaint o lanast fel mai rhannol effeithiol yn unig ydoedd.
Cynigiwyd lloches iddi yn yr Hwb Cymuned leol tra bod y mygdarthu yn mynd rhagddo. Roedd hi'n cael trafferth rheoli ei gofal personol ond fyddai dim asiantaeth yn mynd i mewn i'r eiddo tra bod y pla yno. Gyda chefnogaeth gan ei Gweithiwr Xxxxxxx Xxx, llwyddodd S i gael gwared ar y gwaethaf o’r llanast yn ei
fflat felly bu’r mygdarthu nesaf yn llwyddiannus. Arweiniodd trafodaeth gan y Panel at neilltuo gweithiwr
cymdeithasol i gynnal asesiad lles gydag S yn bersonol a chyda chefnogaeth ei Gweithiwr Cymorth Tai, yn hytrach na chynnal asesiad cymesur dros y ffôn. Arweiniodd hyn at S yn cael pecyn ailalluogi gan y Gwasanaethau i Oedolion a oedd yn canolbwyntio ar ei galluogi hi i adennill ei hannibyniaeth.
Vision Products – offer a chyflogaeth â chymorth.
Mae Vision Products yn fusnes â chymorth, sy'n rhan o'r Adran
Gwasanaethau i Oedolion yn Rhondda Cynon Taf. Mae'n darparu ystod o wasanaethau amrywiol gan gynnwys gwasanaeth gweithgynhyrchu ffenestri, gwasanaeth technoleg a gwasanaethu, siop adwerthu symudedd a Gwasanaeth Offer Cymunedol Integredig ar gyfer Rhanbarth Cwm Taf Morgannwg. Mae'n cyflogi, hyfforddi a chefnogi unigolion ag ystod o anableddau ac mae'n Arweinydd Hyderus o ran Anabledd.
Mae nifer o bobl yn cael eu cefnogi trwy gyflogaeth, cyfleoedd xxx hyfforddiant, gwirfoddoli a chyfleoedd profiad gwaith. Yn 2022/23, fe roeson ni gefnogaeth i 9 unigolyn trwy ein rhaglenni amrywiol yn
Vision Products.
Un o feysydd allweddol y busnes yw'r Gwasanaeth Offer Cymunedol Integredig sy'n darparu gwasanaethau ar draws Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen‐y‐bont ar Ogwr gan ddarparu
gwasanaeth wedi'i reoli'n llawn ar gyfer Gofal Cymdeithasol, Addysg ac Iechyd trwy Gytundeb Adran 33. Cyfrannodd y gwasanaeth allweddol yma at gefnogi pobl i fyw'n annibynnol yn y gymuned, i gael offer cymunedol yn fwy cyflym, yn arbennig i hwyluso rhyddhau o'r ysbyty ac i sicrhau bod offer ar gael pan oedd xx xxxxx ar bobl trwy gasglu ac ailgylchu offer.
Yn 2022/23, roedd y Gwasanaeth Offer Cymunedol Integredig ledled rhanbarth Cwm Taf Morgannwg wedi llwyddo i ddosbarthu tua 23,500 o eitemau, gyda thua 5,900 (25%) wedi’u dosbarthu ar frys, ac wedi casglu ychydig llai na 18,800 o eitemau nad oedd eu xxxxxx mwyach.
37
Xxxx yw ein blaenoriaethau ar gyfer 2023/24?
• Byddwn ni'n parhau i ddatblygu gweledigaeth a strategaeth y Cyngor ar gyfer llety gofal i bobl hŷn a bregus i sicrhau ein bod ni'n creu’r cynnig gwasanaeth cywir sy’n ymateb i alw cynyddol ac anghenion newidiol, gan alluogi rhagor o bobl i fyw’n annibynnol yn eu cymuned.
• Byddwn ni'n parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau i osgoi angen rhag dwysáu neu arwain at adferiad ac annibyniaeth.
• Byddwn ni'n gweithio gyda chynhalwyr di‐dâl a phartneriaid i sicrhau bod darpariaeth seibiant yn diwallu eu hanghenion ac anghenion unigolion sy'n defnyddio gwasanaethau fel bod pobl yn gallu byw yn eu cartrefi teuluol am gyfnod hwy.
• Byddwn ni'n grymuso pobl i gomisiynu eu gofal a chymorth eu hunain drwy hyrwyddo taliadau uniongyrchol yn well.
• Byddwn ni'n parhau i weithio gyda darparwyr gofal cartref i sicrhau bod pobl yn cael gofal yn y cartref o ansawdd da yn seiliedig ar y deilliannau y maen nhw am eu cyflawni a bod digon o ddarpariaeth ar gael ar y lefel gywir i ateb y galw.
• Byddwn ni'n cydweithio/cyd‐gynhyrchu ein harlwy gwasanaethau oriau dydd i bobl hŷn er mwyn gwella mynediad at wasanaethau allgymorth a chymunedol a fydd yn diwallu eu hanghenion.
• Byddwn ni'n cyd‐gynhyrchu’r gwaith o drawsnewid ein cynnig gwasanaeth i bobl ag anabledd dysgu er mwyn gwella mynediad at weithgareddau a chyfleoedd ystyrlon yn eu cymunedau eu hunain i gyflawni eu nodau personol a byw bywydau cyffredin.
• Byddwn ni'n parhau i weithio gyda'r Adran Iechyd i archwilio opsiynau ar gyfer datblygu model ardal iechyd a gofal cymdeithasol cymunedol integredig.
• Byddwn ni'n gweithio gyda'r Adran Iechyd i wella profiad cleifion ac ailgynllunio llwybrau i wella'r gwasanaeth "osgoi mynd i'r ysbyty" a gwasanaethau “cartref yn gyntaf” i sicrhau trosglwyddiadau amserol rhwng lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol fel bod pobl yn y lleoliad gofal mwyaf priodol.
• Byddwn ni'n parhau i weithio gyda'r Adran Iechyd i gynnal adolygiad ac ailgynllunio gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol i ddarparu mynediad ymatebol a chymorth iechyd meddwl effeithiol.
• Byddwn ni'n sicrhau bod gweithlu Gwasanaethau i Oedolion Rhondda Cynon Taf yn llawn cymhelliant, yn canolbwyntio ac yn cael eu gwerthfawrogi; bod gan staff y gallu, y sgiliau, y cymhwysedd a'r xxxxx i ddiwallu anghenion pobl hŷn a phobl agored i niwed.
adran
4
Sut rydyn ni'n gwneud ein gwaith?
39
Ein gweithlu yw ein hased pwysicaf a hebddyn nhw fyddai hi ddim yn bosibl darparu gwasanaethau gofal a chymorth o ansawdd uchel. Rydyn ni angen staff profiadol sydd wedi’u hyfforddi’n dda ac sydd â’r sgiliau a’r ymagwedd gywir sydd eu xxxxxx i weithio gyda’n cynigion gwasanaeth ac yn effeithiol mewn partneriaeth gyda sefydliadau eraill. Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn ffodus i gael grŵp dawnus ac ymroddedig o staff ymhlith ei weithlu – rydyn ni'n hynod ddiolchgar iddyn nhw.
Yn yr adran Gwasanaethau i Xxxxx, xxx ein Strategaeth Gweithlu yn cynnwys gweithgareddau sydd â'r nod o wella lles staff a sicrhau bod cymaint o staff â phosibl yn cael eu cadw.
Fel mewn blynyddoedd blaenorol, mae heriau wedi parhau o ran recriwtio a chadw gweithlu. Mae recriwtio a chadw staff yn parhau i fod yn flaenoriaeth gorfforaethol i Rondda Cynon Taf. Xxx xxx y Cyngor swyddogion adnoddau dynol penodol a gyflogwyd yn 2022/23 i helpu i wella recriwtio a chadw staff ar draws Gwasanaethau i Blant a Gwasanaethau i Oedolion. Cafwyd nifer o ddeilliannau cadarnhaol o'r gwaith ffocws yma. Mae rhagor o wybodaeth am y rhain isod.
Xxx xxxx o’r mentrau rydyn ni wedi’u cynnal eleni yn cynnwys:
• Cynnal ymgyrch xxxx fwy a pharhaus i hyrwyddo recriwtio ymarferwyr. Rydyn ni hefyd wedi lansio ymgyrch recriwtio ar gyfer gwasanaeth preswyl ein Gwasanaethau i Blant. Mae'r ymgyrch yma'n cynnwys hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol ac ar raglen radio leol, achlysur recriwtio rhithwir a chreu tudalennau gwe preswyl. Rydyn ni hefyd wedi creu fideos ‘Diwrnod ym mywyd’ ar ein tudalen we Swyddi Preswyl yn rhan o’r ymgyrch recriwtio yma.
• Treialu proses cyfweliad ymadael newydd i gasglu adborth gan ymadawyr. Gwahoddir ymadawyr i lenwi holiadur ymadael gyda’r opsiwn i gynnal cyfweliad ymadael er mwyn i’r rheolwyr xxxx xxxxx ffactorau ‘gwthio’ yn well.
• Cynnal arolwg ymarferwyr blynyddol a ganfu fod 69% o'r rhai a ymatebodd i'r arolwg yn nodi eu bod nhw xxxxx xx'n fodlon neu'n fodlon iawn â'u trefniadau gwaith presennol. Roedd 19% yn niwtral, tra bod 13% xxxxx xx'n anfodlon neu'n hynod anfodlon.
• Sefydlu fforwm ymarferwyr, gan roi cyfle i ymarferwyr rannu gwybodaeth. Mae hefyd yn darparu modd i staff gymryd rhan mewn datblygiadau gwasanaeth gan gynnwys y cylch cyfathrebu.
• Gweithredu Goruchwyliaeth strwythuredig xxx Arweiniad Seicoleg a bod y cyntaf yng Nghymru i roi fforymau rowndiau Xxxxxxxx ar xxxxx.
Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol 2022/23 • Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Yn Gwasanaethau i Oedolion, fe sefydlon ni Grŵp Llywio'r Gweithlu, wedi'i gadeirio gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau i Oedolion, i ysgogi camau gweithredu i wella recriwtio a chadw.
Mae Strategaeth Gweithlu newydd ar gyfer Gwasanaethau i Oedolion wrthi’n cael ei datblygu ac xxx xxxx o’r mentrau a gynhaliwyd eleni yn cynnwys:
• Datblygu ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol pwrpasol, i ddechrau er mwyn cefnogi recriwtio yn ein Gwasanaeth "Cadw'n Iach Gartref". Mae’r deilliannau wedi bod yn gadarnhaol, gyda 79 o weithwyr “Cymorth Gartref” wedi’u penodi ers i’r ymgyrch ddechrau ym mis Hydref 2022. Bydd y gwaith yma'n parhau yn 2023/24, gan ehangu ar draws meysydd eraill o fewn Gwasanaethau i Oedolion i gefnogi ein hymdrechion recriwtio.
• Lansio hysbysebion “cylch” newydd a chyfrannu at ddwy ffair yrfaoedd y Cyngor a threfnu achlysuron penodol ar gyfer gofal i oedolion gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau a Chymunedau am Waith.
• Adolygu ein cynnig profiad gwaith gydag ysgolion a cholegau, i'w gyflwyno yn 2023/24.
• Gweithredu'r “Cynllun Gwarantu Cyfweliad” Gofalwn.
• Cychwyn cyfweliadau ar gyfer gweithwyr preswyl i werthuso effeithiolrwydd sesiynau sefydlu staff newydd i gynyddu cyfraddau cadw.
• Cychwyn prosesau gwell ar gyfer cyfweliadau ymadael er mwyn deall y rhesymau dros adael yn well.
• Cefnogi ein staff gofal preswyl mewnol i gofrestru am y tro cyntaf yn unol â gofynion Gofal Cymdeithasol Cymru erbyn mis Hydref 2022.
• Comisiynu cymorth allanol i weithio yn ein Gwasanaeth Gofal a Chymorth i ailosod disgwyliadau staff a rheolwyr o ran ymgysylltu a chyfathrebu o ystyried y newidiadau a wnaed yn dilyn y pandemig.
Yn ogystal â’r uchod ac mewn ymateb i’n heriau parhaus o ran recriwtio a chadw’r gweithlu, rydyn ni wedi:
• Cynyddu ein buddsoddiad i “dyfu ein gweithwyr cymdeithasol ei hunain” gan gefnogi 8 o fyfyrwyr lleol yn 2022/23 ac 8 arall yn 2023/24.
• Cefnogi 7 xxxxxxx yn 2022/23 a chreu 15 o brentisiaid newydd i weithio yn ein gwasanaethau gwaith uniongyrchol yn 2023/24.
• Parhau i weithio mewn partneriaeth â phrifysgolion – gan gefnogi tua 60 o leoliadau gwaith myfyrwyr ar draws xxxx gofal cymdeithasol.
Rydyn ni'n parhau i fod yn bryderus ynghylch morâl a chydnerthedd ein gweithlu wrth i effaith pwysau staffio gynyddu oherwydd heriau’r gweithlu a'r cynnydd yn y galw ac mewn cymhlethdod. O'r herwydd, mae’n bwysig parhau i flaenoriaethu lles staff.
Yn 2022/23, lansiwyd “Care First” ymyriad cymorth cyfrinachol newydd y Cyngor, sydd ar agor i xxxx staff Rhondda Cynon Taf. Mae Care First yn cynnig llinell gymorth 24 awr sy'n rhoi cyfle i staff siarad â chwnselydd am unrhyw faterion personol neu faterion sy'n ymwneud â gwaith. Mae ystod xxxx o gymorth ar gael ar y wefan hefyd.
Bydd recriwtio a chadw’r gweithlu, lles a chydnerthedd yn parhau’n feysydd blaenoriaeth, yn rhan o’n Strategaethau Gweithlu Plant ac Oedolion, gyda ffocws parhaus dros y flwyddyn i ddod.
41
Rydyn ni'n parhau i fod yn ymrwymedig i roi’r cyfle i bobl dderbyn gwasanaethau a ddarperir a/neu a ariennir gennym ni yn Gymraeg. Rydyn ni hefyd yn disgwyl i’n gwasanaethau ddarparu’r Cynnig Rhagweithiol, sy’n golygu darparu gwasanaeth yn Gymraeg heb i neb orfod gofyn amdano, ar xxx achlysur. Mae ein hymagwedd yn adlewyrchu Safonau’r Gymraeg a Fframwaith “Mwy na Geiriau”
Llywodraeth Cymru ar gyfer Gwasanaethau Cymraeg ym meysydd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Mae pobl y mae'n well gyda nhw dderbyn gwasanaethau a chymorth trwy gyfrwng y Gymraeg yn cael eu hamlygu yn ein system. Cyfanswm yr asesiadau newydd a gwblhawyd ar gyfer plant yn ystod y flwyddyn oedd 5,633. Roedd tystiolaeth o gynnig y Gymraeg yn rhagweithiol mewn 1,713 o achosion (30%). Derbyniwyd y cynnig mewn 6 achos. Yn y Gwasanaethau i Oedolion, cyfanswm yr asesiadau newydd a gwblhawyd yn ystod y flwyddyn oedd 8315. Roedd tystiolaeth o gynnig y Gymraeg yn rhagweithiol mewn 8,199 o achosion (98.6%). Derbyniwyd y cynnig mewn 46 o achosion.
Ein Cyllid
Mae 2022/23 wedi bod yn flwyddyn heriol iawn yn ariannol i’r Cyngor ac yn enwedig i adran Gwasanaethau Cymdeithasol wrth i gynnydd yn y galw a’r cymhlethdod ynghyd â’r argyfwng costau byw a chwyddiant uchel roi pwysau sylweddol ar ein darparwyr gofal a chostau gwasanaethau.
£162.9 miliwn oedd y gyllideb net ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol am y flwyddyn ond arweiniodd y pwysau ychwanegol ar y gwasanaeth, yn bennaf yn ymwneud â chynnydd yng nghostau lleoli ar draws Gwasanaethau i Blant a Gwasanaethau i Oedolion, at orwario £563,000 yn dilyn y tynnu
ar gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd ac a gymeradwywyd (cyllid untro yn unig) a neilltuwyd i reoli'r risg o gostau ychwanegol yn ystod y flwyddyn yn y meysydd gwasanaeth uchod. Yn ystod y flwyddyn, rydyn ni wedi defnyddio grantiau cenedlaethol i reoli rhywfaint o bwysau ar wasanaethau yn ogystal â datblygu ein gwasanaethau
mewn ffordd arloesol ac mewn partneriaethau, fel y cyfeirir atyn nhw yn yr adroddiad yma. Derbyniwyd cyllid cyfalaf hefyd i ddatblygu ein rhaglenni moderneiddio llety yn y Gwasanaethau i Blant a Gwasanaethau i Oedolion.
Oherwydd y sefyllfa ariannol sy'n wynebu gwasanaethau cyhoeddus, bydd pwysau sylweddol ar draws y Cyngor a Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol ar gyfer 2023/24 a thu hwnt. Daw hynny â’i heriau ei hun, a byddwn ni'n adeiladu ar waith a gwblhawyd yn 2022/23 i barhau i adolygu sefyllfa ariannol y Gwasanaethau Cymdeithasol, gan gynnwys arbedion effeithlonrwydd dros y tymor byr a chanolig, yn rhan o gynllun ariannol tymor canolig y Cyngor eleni.
Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol 2022/23 • Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Arweinyddiaeth Wleidyddol a Chorfforaethol, Llywodraethu ac Atebolrwydd
Mae arweinyddiaeth wleidyddol a chorfforaethol y Cyngor yn gryf. Mae Gwasanaethau Cymdeithasol yn parhau i fod yn flaenoriaeth uchel. Mae Gwasanaethau i Oedolion a Gwasanaethau i Blant yn derbyn cefnogaeth gref a rhagweithiol gan Aelodau’r Cabinet.
Rydyn ni'n atebol trwy amrywiaeth o fecanweithiau gan gynnwys adolygiadau cyflawniad misol a gwiriadau sicrhau ansawdd, trafodaethau rheolaidd gydag Aelodau o'r Cabinet ac uwch aelodau o staff gan ddefnyddio'r data a gasglwn, adroddiadau i Gabinet y Cyngor, Pwyllgorau Craffu, a chyfarfodydd Rhianta Corfforaethol, ac ymgysylltu â staff.
Ein Partneriaethau
Mae gweithio mewn partneriaeth yn allweddol i ddarparu gwasanaethau ymatebol o ansawdd uchel. Rydyn ni'n parhau i weithio'n agos gyda phartneriaid allweddol ar lefel unigol a strategol i wella gwasanaethau a chyflawni mesurau effeithlonrwydd.
Rydyn ni'n parhau i chwarae rhan arwyddocaol yn y canlynol:
• Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol
• Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg
• Anabledd Dysgu Rhanbarthol ac is‐grwpiau eraill
• Partneriaeth Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid Cwm Taf
• Bwrdd Partneriaeth y Gwasanaeth Offer Cymunedol Integredig
Yn ogystal, mae gyda ni xxxxx da o weithio mewn partneriaeth ac rydyn ni'n disgrifio rhai o’r gwasanaethau a’r mentrau rydyn ni wedi’u datblygu gyda’n partneriaid.
Serch hynny, fel y nodwyd yn adroddiad y llynedd, mae’r angen o hyd i ddatblygu a gweithredu cynlluniau newydd sy’n cyflymu’r broses o integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Er bod cynnydd yn cael ei wneud, rydyn ni ar hyn x xxxx yn wynebu heriau o ran cyflawni’r dull integredig sy’n ofynnol i sicrhau bod y system iechyd a chymdeithasol yn cyflawni’r deilliannau sydd eu xxxxxx xxxxx ni a bod y gwasanaethau hanfodol yma'n gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Byddwn ni'n parhau i fynd i'r afael â hyn wrth i ni gynllunio ein dull gweithredu yn 2023/24.
43
adran
5
Hyrwyddo a gwella lles y rhai rydyn ni'n eu helpu – Y chwe safon ansawdd.
44
Safon Ansawdd 1 ‐ Gweithio gyda phobl i bennu a chyd‐baratoi deilliannau lles personol maen nhw eisiau'u cyflawni. | |
Ein blaenoriaethau ar gyfer 2022/23 | Ble i gael rhagor o wybodaeth yn Adroddiad y Cyfarwyddwr? |
Lleihau amseroedd aros yn y Gwasanaethau i Oedolion a monitro cyflawniad yn fisol. | Xxx xxxx dod o hyd i ragor o wybodaeth trwy glicio ar y ddolen yma: Amseroedd aros. |
Adolygu ac ailgynllunio ein Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth yn y Gwasanaethau i Oedolion a’r Gwasanaethau i Blant i sicrhau ei fod yn diwallu anghenion newidiol a galw cynyddol. | Xxx xxxx dod o hyd i ragor o wybodaeth trwy glicio ar y ddolen yma: |
Sicrhau trefniadau gweithio effeithiol gyda Heddlu De Cymru i weithredu’r fframwaith deddfwriaethol newydd a osodwyd gan Adran 1 o Ddeddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020 (Deddf Plant Cymru) a ddaeth i rym ar 21 Mawrth 2022. | Rydyn ni wedi sefydlu trefniadau gweithio effeithiol gyda Heddlu De Cymru i roi'r fframwaith deddfwriaethol newydd ar waith. Cafwyd nifer bach o atgyfeiriadau a does dim unrhyw faterion wedi’u nodi o’r ddeddfwriaeth a’i gweithrediad. |
Ein blaenoriaethau ar gyfer 2023/24 |
1. Byddwn ni'n parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau i osgoi angen rhag dwysáu neu arwain at adferiad ac annibyniaeth. 2. Byddwn ni'n gweithredu'r Strategaeth Xxxx Plant sy'n Derbyn Gofal‐ Bydd hyn yn targedu gwasanaethau sy'n seiliedig ar dystiolaeth tuag at gymorth i deuluoedd er mwyn sicrhau mai dim ond y plant hynny nad oes dewis arall diogel ar eu cyfer sy'n dod i ofal. |
Ein blaenoriaethau ar gyfer 2022/23 | Ble i gael rhagor o wybodaeth yn Adroddiad y Cyfarwyddwr? |
Cwblhau datblygiad a gweithrediad rhaglen Cartref yn Gyntaf a rhyddhau i wella er mwyn asesu model ysbyty sy'n galluogi rhyddhau amserol a diogel. | Xxx xxxx dod o hyd i ragor o wybodaeth trwy glicio ar y ddolen yma: Rhyddhau o'r ysbyty. |
Cwblhau gwaith gyda'r Xxxxx Xxxxxx i gytuno ar fodel newydd o wasanaethau sylfaenol a chymunedol integredig cynaliadwy a'i roi ar waith. | Xxx xxxx dod o hyd i ragor o wybodaeth trwy glicio ar y ddolen yma: Gwasanaethau Cymunedol Integredig. |
Gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i adolygu ac ailgynllunio gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol a phobl hŷn i ddarparu mynediad mwy ymatebol a chymorth iechyd meddwl cydgysylltiedig effeithiol. | Xxx xxxx dod o hyd i ragor o wybodaeth trwy glicio ar y ddolen yma: Iechyd Meddwl. |
Sefydlu a gwerthuso gwaith y Panel Therapi, sy’n cydlynu mynediad at therapi ac yn gwella dulliau gweithredu sy’n seiliedig ar drawma a dulliau therapiwtig o fewn Gwasanaethau i Blant. | Xxx xxxx dod o hyd i ragor o wybodaeth trwy glicio ar y ddolen yma: Panel Therapi. |
Ein blaenoriaethau ar gyfer 2023/24 |
1. Byddwn ni'n parhau i weithio gyda'r Adran Iechyd i archwilio opsiynau ar gyfer datblygu model ardal iechyd a gofal cymdeithasol cymunedol integredig. 2. Gweithio gyda'r Adran Iechyd i wella profiad cleifion ac ailgynllunio llwybrau i wella'r gwasanaeth osgoi mynd i'r ysbyty a'r gwasanaethau “cartref yn gyntaf” i sicrhau trosglwyddiadau amserol rhwng lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol fel bod pobl yn y lleoliad gofal mwyaf priodol. 3. Gweithio gyda'r Adran Iechyd i gwblhau adolygiad ac ailgynllunio gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol i ddarparu mynediad ymatebol a chymorth iechyd meddwl effeithiol. 4. Byddwn ni'n gweithredu'r Strategaeth Xxxx Plant sy'n Derbyn Gofal‐ Bydd hyn yn targedu gwasanaethau sy'n seiliedig ar dystiolaeth tuag at gymorth i deuluoedd er mwyn sicrhau mai dim ond y plant hynny nad oes dewis arall diogel ar eu cyfer sy'n dod i ofal. |
Ein blaenoriaethau ar gyfer 2022/23 | Ble i gael rhagor o wybodaeth yn Adroddiad y Cyfarwyddwr? |
Parhau i ddatblygu, a symud ymlaen, gweithrediad y prosiect MAGU i integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sydd ar gael i fenywod sy'n feichiog ers 12 wythnos hyd at ben‐blwydd cyntaf y plentyn. | Xxx xxxx dod o hyd i ragor o wybodaeth trwy glicio ar y ddolen yma: MAGU. |
Parhau i baratoi ar gyfer cychwyn y Trefniadau Diogelu Rhyddid, gan arfogi staff â'r wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol a sicrhau bod rhwymedigaethau fel asesiadau yn cael eu cyflawni'n effeithiol. | Xxx xxxx dod o hyd i ragor o wybodaeth trwy glicio ar y ddolen yma: Diogelu. |
Ein blaenoriaethau ar gyfer 2023/24 |
1. Byddwn ni'n gweithredu'r Strategaeth Xxxx Plant sy'n Derbyn Gofal‐ Bydd hyn yn targedu gwasanaethau sy'n seiliedig ar dystiolaeth tuag at gymorth i deuluoedd er mwyn sicrhau mai dim ond y plant hynny nad oes dewis arall diogel ar eu cyfer sy'n dod i ofal. |
Safon Ansawdd 4 ‐ Annog a chefnogi pobl i ddysgu, datblygu a bod yn rhan o'r gymdeithas. | |
Ein blaenoriaethau ar gyfer 2022/23 | Ble i gael rhagor o wybodaeth yn Adroddiad y Cyfarwyddwr? |
Cwblhau datblygiad ein cynnig gwasanaeth oriau dydd newydd ar y cyd i bobl ag anabledd dysgu i wella mynediad at wasanaethau yn y gymuned a chyfleoedd gwirfoddoli a chyflogaeth. | Xxx xxxx dod o hyd i ragor o wybodaeth trwy glicio ar y ddolen yma: Gwasanaethau Oriau Dydd. |
Datblygu cynllun ymgysylltu a chydgynhyrchu ar gyfer Gwasanaethau i Oedolion, gan adeiladu ar y gwaith a wnaed eisoes drwy'r Rhaglen Trawsnewid Anableddau Dysgu. | Xxx xxxx dod o hyd i ragor o wybodaeth trwy glicio ar y ddolen yma: Cyd‐gynhyrchu. |
Cwblhau a dechrau gweithredu Strategaeth Cyfranogiad Gwasanaethau i Blant. | Xxx xxxx dod o hyd i ragor o wybodaeth trwy glicio ar y ddolen yma: Strategaeth Cyfranogiad. |
Yn unol ag argymhellion yr adroddiad gan Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a gyhoeddwyd ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, byddwn ni'n cymryd camau i gynyddu’r nifer o bobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig sy’n manteisio ar ofal cymdeithasol. | Rydyn ni'n cychwyn ar broses o gymhwysedd diwylliannol gyda’r bwriad o gynyddu ymwybyddiaeth o anghenion y gymuned XXXX yn Rhondda Cynon Taf, a sicrhau bod ein hymatebion yn wybodus ac yn ddealladwy. |
Ein blaenoriaethau ar gyfer 2023/24 |
1. Byddwn ni'n cydweithio/cyd‐gynhyrchu ein harlwy gwasanaethau oriau dydd i bobl hŷn er mwyn gwella mynediad at wasanaethau allgymorth a chymunedol a fydd yn diwallu eu hanghenion. 2. Byddwn ni'n cyd‐gynhyrchu’r gwaith o drawsnewid ein cynnig gwasanaeth i bobl ag anabledd dysgu er mwyn gwella mynediad at weithgareddau a chyfleoedd ystyrlon yn eu cymunedau eu hunain i gyflawni eu nodau personol a byw bywydau cyffredin. 3. Byddwn ni'n cyflawni'r strategaeth Cyfranogiad sy'n amlinellu dull Gwasanaethau i Blant Rhondda Cynon Taf o gefnogi hawliau plant, pobl ifainc, rhieni, cynhalwyr, a theuluoedd sy'n derbyn gofal a chymorth, i leisio'u barn ac i gymryd rhan weithredol mewn penderfyniadau am eu bywyd a helpu i lunio datblygiadau gwasanaeth yn y dyfodol. |
Ein blaenoriaethau ar gyfer 2022/23 | Ble i gael rhagor o wybodaeth yn Adroddiad y Cyfarwyddwr? |
Gwneud cyfraniad i sicrhau bod ail gam y gwerthusiad o Raglen Trawsnewid y Blynyddoedd Cynnar, sy'n canolbwyntio ar y systemau a'r prosesau sy'n sail i'r model, yn cael ei gwblhau ar amser. | Xxx xxxx dod o hyd i ragor o wybodaeth trwy glicio ar y ddolen yma: Y Blynyddoedd Cynnar. |
Datblygu'r berthynas ymhellach rhwng yr Un Pwynt Mynediad a Gwasanaethau Ataliol yn y Gwasanaethau i Oedolion gyda'r Hybiau Cymunedol i hyrwyddo dull Presgripsiynu Cymdeithasol. | Xxx xxxx dod o hyd i ragor o wybodaeth trwy glicio ar y ddolen yma: Cydnerthedd y Gymuned. |
Cyflwyno Asesiadau Lles ar gyfer y gymuned ehangach. Bydd hyn yn sicrhau bod yr Hybiau Cymunedol yn gallu dogfennu a chynllunio cymorth o amgylch anghenion lles unigolyn. | Xxx xxxx dod o hyd i ragor o wybodaeth trwy glicio ar y ddolen yma: Cydnerthedd y Gymuned. |
Ein blaenoriaethau ar gyfer 2023/24 |
1. Byddwn ni'n gweithio gyda chynhalwyr di‐dâl a phartneriaid i sicrhau bod darpariaeth seibiant yn diwallu eu hanghenion ac anghenion unigolion sy'n defnyddio gwasanaethau fel bod modd i bobl fyw yn eu cartrefi teuluol am gyfnod hwy. 2. Byddwn ni'n gweithredu'r Strategaeth Xxxx Plant sy'n Derbyn Gofal‐ Bydd hyn yn targedu gwasanaethau sy'n seiliedig ar dystiolaeth tuag at gymorth i deuluoedd er mwyn sicrhau mai dim ond y plant hynny nad oes dewis arall diogel ar eu cyfer sy'n dod i ofal. |
Ein blaenoriaethau ar gyfer 2022/23 | Ble i gael rhagor o wybodaeth yn Adroddiad y Cyfarwyddwr? |
Parhau i weithio gyda Linc i gyflawni rhaglen datblygu tai gofal ychwanegol y Cyngor. | Xxx xxxx dod o hyd i ragor o wybodaeth trwy glicio ar y ddolen yma: Datblygu opsiynau llety newydd. |
Parhau i adolygu a datblygu cynigion ar gyfer ailddatblygu a moderneiddio parhaus cartrefi gofal preswyl y Cyngor i sicrhau ein bod ni'n creu’r model gwasanaeth cywir i ymateb i newidiadau mewn galw xx xxxxx. | Xxx xxxx dod o hyd i ragor o wybodaeth trwy glicio ar y ddolen yma: Datblygu opsiynau llety newydd. |
Cwblhau Strategaeth Llety â Chymorth a gweithio gyda Darparwyr Tai i barhau i adeiladu opsiynau tai â chymorth modern sy'n addas i'r diben ar gyfer pobl bregus. | Xxx xxxx dod o hyd i ragor o wybodaeth trwy glicio ar y ddolen yma: Datblygu opsiynau llety newydd. |
Datblygu bwriad comisiynu i lunio marchnad gofal cartref cynaliadwy yn unol â model gwasanaeth wedi'i ailgynllunio. | Xxx xxxx dod o hyd i ragor o wybodaeth trwy glicio ar y ddolen yma: Gofal yn y Cartref. |
Comisiynu Catalydd Cymunedol i gefnogi pobl a phartneriaid lleol i ddatblygu mentrau bach a all ddarparu dewis go iawn a chynyddu nifer ac ystod y dewisiadau gofal cartref a chymorth. | Xxx xxxx dod o hyd i ragor o wybodaeth trwy glicio ar y ddolen yma: Taliadau Uniongyrchol. |
Parhau i weithredu'r Cynllun Gweithredu Preswyl a'r Astudiaeth Ddichonoldeb ar gyfer plant sy'n derbyn gofal. | Xxx xxxx dod o hyd i ragor o wybodaeth trwy glicio ar y ddolen yma: Strategaeth Breswyl. |
Ein blaenoriaethau ar gyfer 2023/24 |
1. Byddwn ni'n parhau i ddatblygu gweledigaeth a strategaeth y Cyngor ar gyfer llety gofal i bobl hŷn a bregus i sicrhau ein bod ni'n creu’r cynnig gwasanaeth cywir sy’n ymateb i alw cynyddol ac anghenion newidiol, gan alluogi rhagor o bobl i fyw’n annibynnol yn eu cymuned. 2. Byddwn ni'n parhau i weithio gyda darparwyr gofal cartref i sicrhau bod pobl yn cael gofal yn y cartref o ansawdd da yn seiliedig ar y deilliannau y maen nhw am eu cyflawni a bod digon o ddarpariaeth ar gael ar y lefel gywir i ateb y galw. 3. Byddwn ni'n grymuso pobl i gomisiynu eu gofal a chymorth eu hunain drwy hyrwyddo taliadau uniongyrchol yn well. 4. Byddwn ni'n gweithio gyda chynhalwyr di‐dâl a phartneriaid i sicrhau bod darpariaeth seibiant yn diwallu eu hanghenion ac anghenion unigolion sy'n defnyddio gwasanaethau fel bod modd i bobl fyw yn eu cartrefi teuluol am gyfnod hwy. 5. Byddwn ni'n cyflawni'r Strategaeth Trawsnewid Preswyl i Blant, gan wneud yn siŵr bod y Cyngor yn darparu'r llety a'r cymorth sydd eu xxxxxx ar ein plant sy'n derbyn gofal. |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol 2022/23
52396‐12 • Medi 2023
51
Mae croeso i chi gyfathrebu â ni yn y Gymraeg.