AMODAU DEFNYDDIO LLETY A CHYFLEUSTERAU YMWELWYR YM MHRIFYSGOL ABERYSTWYTH –
AMODAU DEFNYDDIO LLETY A CHYFLEUSTERAU YMWELWYR YM MHRIFYSGOL ABERYSTWYTH –
GWERTHIANT AR LEIN
1. Rhwng pwy mae’r contract hwn?
Mae’r contract hwn rhwng Prifysgol Aberystwyth (y ‘Brifysgol’) a Chi (y ‘Cleient’), ar gyfer archebu llety, cyfleusterau, prydau neu unrhyw wasanaeth arall yn y Brifysgol (y ‘Gwasanaethau’) a dderbynnir gan y Brifysgol yn amodol ar y telerau a'r amodau a restrir yma (yr ‘Amodau’). Mae’r Contract hwn yn bersonol i’r Cleient. Ni fydd y Xxxxxxx yn aseinio, trosglwyddo nac ymddiried ei hawliau a’i gyfrifoldebau o xxx y Contract hwn. Bydd unrhyw gytundeb i newid yr Amodau hyn yn ddi-rym os nad ydynt wedi’u cadarnhau’n ysgrifenedig gan un ai Pennaeth Gwasanaethau Masnachol y Brifysgol neu Reolwr Datblygu Busnes y Brifysgol. Ni fydd unrhyw gontract i ddarparu unrhyw wasanaethau gan y Brifysgol yn dod i fodolaeth oni bai, a hyd nes, fod y Brifysgol wedi derbyn a chadarnhau archeb y Cleient yn ysgrifenedig.
2. Gwneud archeb ar ran grŵp
Mae pob Xxxxxxx sy’n archebu ar ran grŵp neu barti trwy hynny yn gwarantu ei fod wedi’i awdurdodi ar ran xxxx aelodau’r grŵp neu’r parti hwnnw i fynd i Gontract â’r Brifysgol, yn amodol ar yr Amodau hyn. Y Cleient sy'n gyfrifol am sicrhau bod xxxx aelodau’r grŵp yn cydymffurfio â’r telerau a'r amodau hyn. Bydd y Cleient yn llwyr gyfrifol am y grŵp neu'r parti ar xxx xxxx ar dir y Brifysgol ac am ddiogelu a goruchwylio xx xxxx aelodau.
3. Cadarnhau xxxx archeb
Bydd xxxx archeb yn cael ei chadarnhau, ar sail y telerau a'r amodau hyn, pan fydd y Brifysgol yn cael taliad. Bydd y Cadarnhad Archebu yn nodi’r llety, y prydau a’r cyfleusterau eraill yr ydych wedi’u harchebu. Bydd y Cleient yn cytuno i xxxx xxxx gostau’r llety, y prydau a'r cyfleusterau eraill a nodir yn y Contract cadarnhad, oni bai fod y rhain yn cael eu newid neu eu canslo o xxx y telerau a amlinellir yng nghymalau 7, 8 neu 10 isod.
4. Cyfleusterau a Gwasanaethau Amgen
Lle bo xxxxx xxx’r Brifysgol yn cadw’r hawl i ddarparu cyfleusterau a/neu wasanaethau amgen i’r rhai a archebwyd. Yn yr achosion hyn, bydd y Brifysgol yn ceisio sicrhau bod y cyfleusterau a/neu'r gwasanaethau amgen a ddarperir o’r un xxxxx xxx’n well na’r rhai a archebwyd, ac am yr un pris. Oni bydd y Brifysgol yn gallu darparu cyfleusterau a/neu wasanaethau amgen, bydd yn ad-
dalu’n llawn unrhyw symiau a dalwyd gan y Cleient ac ni fydd ar y Brifysgol rwymedigaeth xxxxxxx, xx rhwymedigaeth arall, i’r Cleient.
5. Newid xxxx archeb
Os bydd y Cleient yn newid yr archeb, drwy gytundeb â’r Brifysgol, bydd y Brifysgol yn anfon Cadarnhad Archebu newydd at y Cleient. Bydd y Cadarnhad Archebu newydd yn cynnwys unrhyw ffioedd ar gyfer Gwasanaethau a ganslwyd o xxx yr hen Gadarnhad Archebu y bydd yn rhaid talu amdanynt yn unol â Chymal 6.
6. Canslo
Rhaid rhoi gwybod i Brifysgol Aberystwyth yn ysgrifenedig os caiff yr hyn a drefnwyd ei ganslo, neu os oes gostyngiad yn y niferoedd. Y tâl gweinyddol yw £ 5.00 y pen y noson. Codir ffi canslo fel y nodir isod.
Rhoi gwybod gyda llai nag 2 wythnos cyn dod i aros | Ni chewch ad-daliad |
Rhoi gwybod 2 i 8 wythnos cyn dod i aros | Ad-daliad o 50% heblaw am y ffi weinyddol |
Rhoi gwybod dros 8 wythnos cyn dod i aros | Ad-daliad llawn heblaw am y ffi weinyddol |
7. Terfynu gan y Brifysgol
Mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i derfynu archeb ar
unrhyw adeg am y rhesymau canlynol:
• os yw’r Brifysgol (neu unrhyw ran ohoni) yn cau oherwydd unrhyw reswm y tu hwnt i’w rheolaeth resymol;
• os yw’r Cleient yn wynebu newid yn ei reolaeth, yn mynd yn fethdalwr, yn methu â thalu ei ddyledion pan fyddant yn ddyledus neu’n peidio â bodoli oherwydd rheswm arall;
• os oes ar y Cleient ddyled ers mwy na 30 diwrnod yn ymwneud ag unrhyw dâl i’r Brifysgol am unrhyw wasanaethau blaenorol;
• os yw’r Cleient yn gwneud rhywbeth sydd xx xxxx resymol y Brifysgol yn dwyn anfri arni hi neu ar y Cleient, neu y gellid disgwyl yn rhesymol y bydd yn dwyn anfri yn y fath fodd; ac
• os ystyrir bod unrhyw ymddygiad gan y Cleient neu unrhyw aelod o’i grŵp yn amhriodol neu’n afresymol, xx xxxx resymol Cyfarwyddwr Gwasanaethau Campws a Masnachol y Brifysgol neu’r Rheolwr Datblygu Busnes.
Pan gaiff archeb ei therfynu yn y dull hwn yn unol â’r cymal hwn a bod y Cleient eisoes yn bresennol ar dir y Brifysgol, bydd y Cleient a’i westeion (os oes rhai) yn gadael tir y Brifysgol yn xxxx xx yn mynd â’u xxxx eiddo xxxx ar dir y Brifysgol.
8. Newidiadau i'r ystafelloedd a neilltuwyd
Er mwyn diwallu anghenion cynifer o gwsmeriaid â phosibl, gall y Brifysgol newid yr ystafelloedd cyfarfod, yr ystafelloedd bwyta neu'r llety sydd wedi’u pennu i’r Cleient. Ni chodir tâl ychwanegol ar y Cleient os bydd y Brifysgol yn newid yr ystafelloedd a bennwyd ar ei gyfer.
9. Gwybodaeth ynglŷn â Chyrraedd a Gadael
Bydd yr ystafelloedd gwely ar gael o 3pm ar y diwrnod cyrraedd, a rhaid gadael pob ystafell erbyn 9.00am ar y diwrnod ymadael (10.00am yn achos archebion Byncws y Brifysgol), oni chytunwyd â’r Brifysgol yn ysgrifenedig fel arall. Xxx xxxxx i gleientiaid sicrhau bod xxxx aelodau eu grŵp neu eu parti yn ymwybodol o’r amseroedd hyn gan y gall y Brifysgol xxxx xxx am adael yn hwyr. Codir tâl o £30 (a TAW) am xxx allwedd a gollwyd neu allwedd sydd heb ei dychwelyd.
10. Anifeiliaid ac anifeiliaid anwes
Dylech sicrhau bod aelodau’ch parti yn gwybod na chaniateir anifeiliaid anwes nac anifeiliaid o unrhyw fath, ac eithrio cŵn cymorth, ar dir y Brifysgol.
11. Ymddygiad ar dir y Brifysgol
Rhaid i gleientiaid sicrhau eu bod hwythau ac aelodau eu grŵp neu eu parti a phawb fydd yn ymweld â nhw yn y Brifysgol yn ymddwyn mewn modd na fydd yn tarfu neu'n amharu’n afresymol ar y Brifysgol, ei haelodau a’i gweithwyr cyflogedig, nac ar unrhyw ymwelydd arall â’r Brifysgol.
Mae’r Cleient yn cydnabod bod gan Brifysgol Aberystwyth ddyletswydd o xxx Xxxxx 26 o Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015 wrth arfer ei swyddogaethau i roi “sylw dyledus i’r angen i xxxx pobl rhag cael eu xxxx at derfysgaeth" (“y Ddyletswydd Prevent”). Bydd y Cleient yn sicrhau ei fod yn gweithredu mewn modd sy’n bodloni’r Ddyletswydd Prevent.
Rhaid i'r Cleient sicrhau nad yw'r lleoliad yn cael ei ddefnyddio gan unrhyw grwpiau neu siaradwyr i gefnogi unrhyw ideoleg eithafol.
12. Rhyddid i Lefaru
Mae’r Cleient yn cydnabod fod gan y Brifysgol ddyletswydd i sicrhau bod gan ei myfyrwyr, ei gweithwyr cyflogedig a siaradwyr gwadd ryddid i lefaru. Mae’n rhaid i’r Cleient roi gwybod i’r Brifysgol wrth archebu lle ynglŷn ag unrhyw weithgareddau dadleuol posib a allai ddigwydd yn ystod eu cyfnod ar dir y Brifysgol ac a allai effeithio ar enw da’r Brifysgol.
13. Diogelu Data
Mae'r Brifysgol yn cydymffurfio â Deddf Diogelu Data 2018 a'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR). Yn rhan o'r broses archebu ac o'r telerau a'r amodau hyn, cytunwch â'n Datganiad Preifatrwydd sydd i'w gael yn: xxxxx://xxx.xxxx.xx.xx/xx/xxxxxxxx/xxxxx&xxxxxxxxxx/
14. Cerbydau a Pharcio
Ni ddylai unrhyw gerbydau sy’n perthyn i'r Cleient neu ei grŵp, neu sydd o xxx eu rheolaeth, yrru yn gyflymach na 20 milltir yr awr ar gampws y Brifysgol. Rhaid dangos trwydded ymwelydd ar xxx cerbyd ar xxx xxxx pan fyddant ar dir y Brifysgol. Ar gyfrifoldeb y perchennog y deuir â cherbydau, beiciau neu feiciau xxxxx i dir y Brifysgol ac ni fydd y Brifysgol yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw gerbyd sydd ar y campws.
15. Iechyd a Diogelwch
Er bod y Brifysgol yn gwneud pob ymdrech i gydymffurfio â rheoliadau cyfredol parthed diogelwch ei gwesteion, cyfrifoldeb pob gwestai'r Cleient ac arweinydd pob grŵp fydd sicrhau bod y Cleient a xxxx aelodau’r grŵp neu'r parti yn gwybod am y camau gweithredu pe bai tân neu argyfwng arall. Ceir hysbysiadau o’r rheoliadau hyn ym mhob un o adeiladau’r Brifysgol a gellir cael rhagor o wybodaeth o Swyddfa Llety’r Brifysgol.
Er mwyn gallu sicrhau bod adeiladau wedi'u gwacáu os bydd tân, ni chaniateir i westeion newid ystafelloedd gwely yn y llety heb ganiatâd blaenorol y Brifysgol. Gwaherddir unigolion nad ydynt yn westeion cofrestredig rhag aros ar y Campws. Ni fydd y nifer sy’n aros yn y llety yn uwch na'r nifer yn y parti a nodir ar y contract archebu.
Mae’r Brifysgol yn gweithredu polisi ‘dim ysmygu’ ac ni chaniateir ysmygu mewn unrhyw adeilad nac o fewn 5 metr iddynt. Mae fflamau agored wedi'u gwahardd yn llwyr yn adeiladau’r Brifysgol.
Os difrodir offer diogelwch, neu os ymyrrir ag offer diogelwch, mae'n bosib y dywedir wrth yr unigolion sy’n gyfrifol neu’r grŵp y maent yn aelod ohono am adael tir y Brifysgol. Bydd y Cleient yn indemnio’r Brifysgol yn erbyn pob math o golled a/neu ddifrod sy’n codi o ganlyniad i gamddefnyddio larymau tân, diffoddwyr tân a/neu unrhyw offer arall yn y Brifysgol, gan gynnwys yr xxxx gostau am atgyweirio eiddo’r Brifysgol neu am brynu eitemau newydd, ac unrhyw gostau eraill a godir gan y Gwasanaeth Tân neu gorff cyhoeddus arall.
Bydd y Cleient yn gyfrifol am roi gwybod i’r Brifysgol cyn y dyddiad y disgwylir i’r Gwasanaethau gael eu cyflawni os oes unrhyw aelod o’r grŵp wedi dioddef salwch heintus neu wedi bod mewn cysylltiad â salwch heintus yn ystod y pedair wythnos cyn cyrraedd tir y Brifysgol. Bydd gan y Brifysgol ryddid, fel y gwêl yn ddoeth, ar ôl asesu’r risg, i ganslo archeb y grŵp cyfan os yw o’r farn (a chan weithredu’n rhesymol), ei bod yn angenrheidiol ac yn briodol gwneud hynny.
16. Xxxx cyfrifoldebau dros unigolion xxx 18 oed yn xxxx parti
Caniateir i blant iau na 18 oed aros yn Llety Ymwelwyr y Brifysgol yn yr amgylchiadau canlynol.
• Fflatiau cyfan yn Fferm Penglais at ddefnydd teulu yn unig.
• Trwy wahoddiad i Ddyddiau Ymweld/Agored y Brifysgol lle trefnir fflatiau ar wahân i rai iau na 18 oed.
Fel arall, ni chaniateir plant iau na 18 yn llety’r Brifysgol.
Rhaid i’r Cwsmer sicrhau bod pob un o xxx 18 oed yn cael eu harolygu ar xxx xxxx. Rhoddir plant 2 oed ac i fyny yn eu hystafell sengl eu hunain. Dim ond un plentyn iau na 2 oed sy’n cael aros yn yr un ystafell wely â’r oedolion sy’n eu gwarchod. Ni fydd y Brifysgol yn darparu ar gyfer plant o xxx 2 oed (h.y. dim cot, dillad gwely, llestri ac yn y blaen). Rhaid i’r Cwsmer roi gwybod i’r Brifysgol am xxx plentyn o xxx 2 oed gan nodi’r ystafell y byddant yn cysgu ynddi.
Oni bai y gwneir datganiad o’r fath a bod y Brifysgol yn cadarnhau ei bod yn derbyn yr archeb, ceidw’r Brifysgol yr hawl i drosglwyddo grwpiau o'r fath i xxxx arall xxx i ofyn iddynt adael tir y Brifysgol. Ceidw’r Brifysgol yr hawl i gadw’r xxxx xxxxx, xxx ran o’r arian a dalwyd neu i fynd ar ôl xxxxx xx’n ddyledus gan y Cleient.
17. Defnyddio enw a logo’r Brifysgol heb ganiatâd
Nid yw’r Brifysgol yn rhoi caniatâd i’w henw na’i logo gael eu defnyddio ar unrhyw ddeunydd cyhoeddusrwydd nac adroddiadau i’r wasg ar gyfer digwyddiadau ac eithrio rhai’r Brifysgol heb ganiatâd ymlaen llaw. Ni cheir gosod deunydd cyhoeddusrwydd na marchnata ar unrhyw ran o dir/adeiladau’r Brifysgol heb ganiatâd ysgrifenedig o flaen llaw gan y Brifysgol.
18. Difrod i Eiddo/Colli Eiddo
Mae’r Brifysgol yn cyflwyno pob gwybodaeth ac yn gwneud pob datganiad yn ddidwyll a bydd yn gwneud pob ymdrech resymol i wirio’r xxxx wybodaeth a roddir i Gleientiaid a’u hasiantau. Ni fydd y Brifysgol yn atebol am unrhyw ddifrod na cholled i eiddo, pethau gwerthfawr nac xxxxx xx’n deillio o wybodaeth a ddarparwyd gan y Brifysgol neu unrhyw asiant neu weithiwr cyflogedig sy’n gweithredu ar ran y Brifysgol, ac eithrio pan fo’r golled
neu'r difrod wedi’u hachosi gan weithred fwriadol neu
esgeulus gan xxxxxx o’r xxxx.
Er bod y Brifysgol yn gwneud pob ymdrech resymol i sicrhau diogelwch yr xxxx unigolion a’u heiddo sydd ar dir y Brifysgol, nid yw’r Brifysgol na’u gweision, eu hasiantau na'u cynrychiolwyr yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb dros ofalu am eiddo o unrhyw ddisgrifiad, gan gynnwys arian, pethau gwerthfawr, bagiau, dillad na cherbydau xxxxx xx’n perthyn i’r Cleient, aelodau x xxxxx’r Cleient, ymwelwyr a/neu westeion ac eithrio pan fo’r golled neu'r difrod wedi’u hachosi gan weithred fwriadol neu esgeulus gan xxxxxx o’r xxxx. Xxx xx’n gyfrifol am sicrhau bod yr xxxx ystafelloedd sy'n berthnasol i'ch parti wedi’u cloi pan nad ydynt yn cael eu defnyddio a bod xxxx aelodau’ch grŵp yn mynd â’u xxxx xxxxx a phethau gwerthfawr gyda nhw.
Y Cleient fydd yn gyfrifol am unrhyw ddifrod a achosir gan y Cleient neu aelod x xxxxx’r Cleient i dir, adeiladau neu eiddo’r Brifysgol, gan gynnwys offer wedi’i fenthyca neu’i logi, a bydd yn talu’r Brifysgol yn llawn, pan ofynnir iddo wneud hynny, er mwyn gwneud yn iawn neu unioni’r difrod.
19. Cwynion
Rhaid i xxx cwyn sydd heb eu datrys rhwng y xxxxx ochr a’r llall cyn ymadael gael ei chyflwyno drwy Drefn Gwynion y Brifysgol ar gyfer Gwasanaethau’r Campws. Mae’r drefn honno i’w gweld yn y cyfeiriad isod: xxxxx://xxx.xxxx.xx.xx/xx/xxxxxxxx/xxxxx&xxxxxxxxxx/
20. Atebolrwydd
Yn amodol ar y cymal 29 hwn yn unig, ni fydd y Brifysgol yn atebol i’r Cleient (boed mewn contract, camwedd (gan gynnwys esgeuluster), esgeuluso dyletswydd statudol, gwneud iawn neu fel arall) am unrhyw golled anuniongyrchol neu am unrhyw golled economaidd gan gynnwys (heb gyfyngiadau) colli elw, busnes, ewyllys da, enw da, refeniw na chyfle busnes boed yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol yn codi o gysylltiad neu mewn cysylltiad â chyflawni'r Gwasanaethau, neu fethiant i'w cyflawni, nac unrhyw achos lle y torrir yr Amodau hyn gan y Brifysgol.
Yn amodol ar y cymal 29 hwn yn unig, ni fydd atebolrwydd y Brifysgol o xxx yr Amodau hyn yn fwy na gwerth y Gwasanaethau sy’n daladwy trwy hyn.
Ar yr xxxx na fydd dim byd yn yr Amodau hyn yn gweithredu i: -
• eithrio atebolrwydd aneithriadwy'r Brifysgol o ran marwolaeth neu anaf personol a achoswyd gan esgeuluster y Brifysgol, ei gweision neu ei asiantau.
• effeithio ar hawliau statudol y Cleient pan fo’r Cleient yn ddefnyddiwr o fewn ystyr Deddf Telerau Contract Annheg; neu
• eithrio gweithredu Adran 12 o Ddeddf Gwerthu Nwyddau 1979; neu
• eithrio atebolrwydd am gamliwiad twyllodrus.
21. Cyffredinol
Ni fydd gan y xxxxx ochr na’r llall atebolrwydd am unrhyw fethiant i gyflawni neu am unrhyw oedi wrth gyflawni (ac eithrio’r talu) unrhyw rwymedigaethau sydd ganddi o xxx y Contract hwn a achosir gan unrhyw ffactor y tu hwnt i’w reolaeth resymol.
Xxx xxxx gwahanu darpariaethau’r Amodau hyn ac maent ar wahân i’w gilydd ac os daw unrhyw rai o’r darpariaethau yn annilys, yn anghyfreithlon neu’n anorfodadwy ar unrhyw adeg, ni fydd hynny'n effeithio nac amharu ar ddilysrwydd, cyfreithlondeb nac orfodadwyedd y darpariaethau eraill mewn unrhyw fodd.
Ni fydd hawliau a rhwymedïau’r Cleient mewn cyswllt â’r Contract hwn yn cael eu lleihau, eu hepgor na’u diddymu drwy roi unrhyw oddefgarwch, maddeugarwch nac estyniad amser gan y Brifysgol i’r Cleient na thrwy unrhyw fethiant neu oedi gan y Brifysgol wrth ddarganfod neu arfer y cyfryw hawliau neu’r rhwymedïau. Ni fydd rhyddhau, hepgor neu gyfaddawdu neu unrhyw drefniadau eraill o unrhyw fath (sef, rhyddhad) gan y Brifysgol yn effeithio ar ei hawliau a’i rhwymedïau o ran unrhyw grŵp arall nac ychwaith ei hawliau a’i rhwymedïau yn erbyn y Cleient y'u rhoddir neu y gwneir hwy o’i blaid, ac eithrio i'r graddau a geir yn nhelerau datganedig y rhyddhad ac ni chaiff unrhyw ryddhad o’i fath ddod i rym os nad yw wedi'i roi neu ei wneud yn ysgrifenedig. Mae’r hawliau a’r rhwymedïau yn y Contract hwn yn gronnol ac nid ydynt wedi’u heithrio o unrhyw hawliau a/neu rwymedïau a ddarparwyd gan y gyfraith.
Ni fydd yr Amodau hyn a’r Contract hwn yn golygu, ac ni chânt eu hystyried fel petaent yn golygu, fod unrhyw berthynas o bartneriaeth, xxxxxx ar y xxx, penadur ac asiant neu gyflogwr a gweithiwr cyflogedig rhwng y Brifysgol a’r Cleient ac ni fydd mewn unrhyw ffordd yn llunio prydles o eiddo’r Brifysgol.
Ni fydd y Cleient mewn unrhyw ffordd yn rhwystro’r Brifysgol (na’i hasiantau a’i gweision) wrth i’r Brifysgol arfer ei hawl i feddu ar xxx xxxx o dir ac eiddo’r Brifysgol a'u rheoli.
Er mwyn osgoi amheuaeth, nid oes unrhyw xxxx yn yr Amodau hyn sy’n rhoi i unrhyw drydydd parti unrhyw fudd neu’r hawl i orfodi unrhyw ddarpariaeth yn yr Amodau hyn.
Mae’r Amodau hyn yn cynnwys yr xxxx delerau y mae’r Cleient a’r Brifysgol wedi cytuno arnynt parthed y Gwasanaethau ac maent yn disodli unrhyw gytundebau, gosodiadau neu ddealltwriaethau ysgrifenedig neu xxxxx cyn hynny rhwng y xxxxx ochr a’r llall sy’n ymwneud â Gwasanaethau o’r fath. Mae’r Cleient yn cydnabod nad yw wedi dibynnu ar unrhyw ddatganiad, addewid na gosodiad a wnaed neu a roddwyd gan neu ar ran y Brifysgol nad ydynt wedi’u nodi yn yr Amodau hyn.
Caiff yr amodau hyn a’r Contract rhwng y Brifysgol a’r Cleient mewn cysylltiad ag archebu Gwasanaethau'r Brifysgol eu rheoli a’u dehongli yn unol â Chyfraith Cymru a Lloegr. Cyfeirir unrhyw anghydfod sy’n codi o archeb o unrhyw fath neu mewn cysylltiad ag archeb, na ellir ei ddatrys yn gyfeillgar, i’w gymrodeddu o xxx y cynllun arbennig a luniwyd gan y Sefydliad Cyflafareddu trwy drefniant â Chymdeithas Asiantaethau Teithio Prydain ar gyfer y diwydiant gwyliau. Rhoddir manylion y cynllun hwn ar gais.
At ddibenion yr Amodau hyn, bydd y term “Cleient” yn golygu unrhyw unigolyn, partneriaeth, sefydliad neu gwmni sy’n archebu ac, yn achos archeb grŵp, ar ran unrhyw bartneriaeth, sefydliad neu gwmni a hefyd y bartneriaeth, sefydliad neu gwmni perthnasol.
At ddibenion yr Amodau hyn, bydd y term “Contract” yn golygu’r contract rhwng y Cleient a’r Brifysgol ar gyfer cyflenwi’r Gwasanaethau.
Mewn cyswllt ag unrhyw archeb lle mae’r Cleient yn ddefnyddiwr, nid yw’r Amodau hyn yn effeithio ar ei hawliau statudol. Gallwch, os dymunwch, gael manylion yr hawliau hyn gan xxxx canolfan Cyngor ar Bopeth leol.
Mae’r Cleient yn cydnabod bod y Brifysgol yn gorfod bodloni gofynion Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 a bydd yn cynorthwyo ac yn cydweithredu â’r Brifysgol (ar draul y Cleient) i alluogi’r Brifysgol i gydymffurfio â’r gofynion datgelu gwybodaeth hyn.
Ff: 01970621960 E: xxxxxxxxxxx@xxxx.xx.xx Gw: xxx.xxxx.xx.xx/xx/xxxxxxxx/
Dyddiad yr adolygiad diwethaf: Ionawr 2024