LLYWODRAETH CYMRU
LLYWODRAETH CYMRU
CANLLAWIAU AR GYFER IS-DDEDDFAU MODEL SET 8: RHEOLI A LLYWODRAETHU DA
Cyflwyniad
1. Deddf leol a wneir gan gorff statudol, megis Cyngor xxx xxx fwrdeistref sirol yng Nghymru, o xxx bŵer galluogi mewn Deddf Seneddol neu un o Ddeddfau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw is-ddeddf.
2. Mae is-ddeddfau model yn gweithredu fel templed i Gynghorau pan fyddant yn drafftio is- ddeddfau ac yn nodi geiriad priodol ar gyfer is-ddeddfau mewn perthynas â nifer o bynciau gwahanol. Fodd bynnag, ni ddylid mabwysiadu'r xxxx fodelau gyda'i gilydd, ond yn ôl yr xxxxx xx mwyn mynd i'r afael â phroblem sy'n bodoli eisoes. Dylai Cynghorau nodi bod rhai o'r is-ddeddfau model unigol a/neu eu darpariaethau yn rhai dewisol a dim ond y rhai sydd eu xxxxxx xx sy'n briodol y dylid eu mabwysiadu.
3. Ar ôl i Gyngor gadarnhau bod y broblem y xxx xxxxx rhoi sylw iddi yn cael ei chwmpasu gan is-ddeddf model benodol, dylai'r Cyngor ddod o hyd i xxxx ohoni ar wefan Llywodraeth Cymru a'i addasu yn ôl ei anghenion. Bydd y nodiadau cyfarwyddyd cysylltiedig yn helpu gyda'r broses ddrafftio. Dylai Cynghorau xxx amser ddilyn y weithdrefn berthnasol fel y'i nodir yn Neddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012.
4. Argymhellir y dylai Cynghorau ddilyn yr is-ddeddfau model er mwyn lleihau'r risg o broblemau drafftio neu osgoi gweithredu is-ddeddfau nad ydynt yn addas at y diben. Dylid nodi nad yw'r is-ddeddfau model yn rhai gorfodol ac y gellir ychwanegu atynt neu eu diwygio yng ngoleuni profiad ac amgylchiadau sy'n newid ac yn ôl y galw. Fodd bynnag, ceir rhai achosion lle y dylid mabwysiadu is-ddeddfau penodol yn eu cyfanrwydd.
5. Dylid darllen y nodyn cyfarwyddyd canlynol ochr yn ochr â'r is-ddeddfau model a ‘Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 - Canllawiau, gan gynnwys Canllawiau Statudol, i Awdurdodau Lleol yng Nghymru, Cynghorau Cymuned a Thref, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol a Cyfoeth Naturiol Cymru’, a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru. Gellir dod o hyd iddynt ar wefan Llywodraeth Cymru yn: xxxx://xxx.xxxxx/xxxxxx/xxxxxxxxxxxxxxx/xxxxx-xxxxxxxxxx-xxxxxxx/?xxxxxxx
6. Bwriedir i'r canllawiau hyn hwyluso'r defnydd o is-ddeddfau model Llywodraeth Cymru i reoleiddio'r defnydd o is-ddeddfau model Llywodraeth Cymru a wnaed o xxx xxxxx 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2012.
Rhagor o wybodaeth/pwyntiau cyswllt
7. Dylid anfon unrhyw ymholiadau am yr is-ddeddfau model hyn i: Xxx Xxxxxx Partneriaethau Llywodraeth Leol
Is-adran Partneriaethau Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru
Parc Cathays Caerdydd CF10 3NQ
E-xxxx xxxxxxxxxxxxxxxxxxx@xxxxx.xxx.xxx.xx
Y Pŵer Galluogi
8. Xxx xxxxx 2 o Ddeddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 yn galluogi Cyngor ar gyfer cyngor xxx xxx fwrdeistref yng Nghymru i wneud is-ddeddfau er mwyn sicrhau bod trefniadau rheoli a llywodraethu da ar waith ar gyfer ei ardal gyfan neu unrhyw ran o'i ardal, er mwyn xxxx a dileu niwsans yn ei ardal. Nid oes angen cadarnhau is-ddeddfau a wneir o xxx xxxxx 2.
9. Fodd bynnag, o xxx xxxxx 2(2) o Ddeddf 2012, ni ellir gwneud is-ddeddfau o xxx yr xxxxx hon os gwneir darpariaeth at y xxxxx xxx sylw, xxx os gellir gwneud darpariaeth o'r fath, o xxx unrhyw ddeddfiad arall. Felly, ni ddylid gwneud is-ddeddfau o xxx xxxxx 2 lle xxx deddfwriaeth y DU neu ddeddfwriaeth Cymru yn ymdrin â'r broblem neu mewn perthynas ag unrhyw ardal lle mae pŵer gwneud is-ddeddfau arall ar gael. Cyn gwneud is-ddeddfau, dylai Cynghorau ymgynghori ag adran briodol Llywodraeth Cymru ynghylch unrhyw ddeddfwriaeth gyffredinol sy'n bodoli eisoes.
10. Nid yw llawer o'r gweithgareddau a gaiff eu rheoleiddio gan is-ddeddfau a wneir o xxx xxxxx 2 o Ddeddf 2012 ynddynt hwy eu hunain yn beryglus nac yn achosi niwsans, ond gallent fod pe'u cynhelir mewn ardaloedd penodol neu mewn ffordd arbennig o beryglus neu aflonyddgar. O ganlyniad, nid oes gan Gynghorau y pŵer o xxx xxxxx 2 o Ddeddf 2012 i wneud is-ddeddfau i wahardd gweithgareddau megis sglefrfyrddio neu reidio drwy eu hardal gyfan. Fodd bynnag, gall fod yn briodol gwahardd y gweithgareddau hyn mewn rhai mannau lle maent yn achosi perygl neu niwsans penodol, neu i reoleiddio'r ffordd y gellir cynnal y gweithgareddau hyn.
Ymgynghori
11. Xxx xxxxx 6(2) o Ddeddf 2012 yn nodi bod dyletswydd ar Gynghorau, cyn gwneud is- ddeddfau, i ymgynghori ag unrhyw un (gan gynnwys, cyngor cymuned, lle y bo'n gymwys) y cred yr awdurdod fod y mater yn debygol o fod o ddiddordeb xxxx xxx effeithio arno.
Defnyddio'r Is-ddeddfau Model
12. Mae geiriau mewn print italig yn rhoi cyfarwyddiadau ar sut i addasu'r model (e.e. “rhowch enw”) neu'n rhoi disgrifiad manylach o'r hyn a gwmpesir gan yr is-ddeddf pan fo nifer o is-ddeddfau model yn ymwneud â'r un pwnc.
13. Defnyddir cromfachau sgwâr i nodi:
a. geiriau ychwanegol, y gall fod yn briodol eu defnyddio mewn rhai achosion (e.e. “[Y tu xxxxx i'r mannau dynodedig]”;
x. xxxxx o eiriau; neu
c. “rhifau y bydd angen eu diweddaru, yn ôl pob tebyg, wrth olygu'r set o is-ddeddfau model (e.e. Atodlen [1])
14. Os bydd yr is-ddeddfau yn cynnwys atodlenni neu fapiau, dylai'r rhain ymddangos cyn sêl y Cyngor.
Darpariaethau dehongli
15. Dylid defnyddio'r ddarpariaeth ddehongli gyffredinol i ddiffinio termau a ddefnyddir sawl gwaith yn nhestun yr is-ddeddfau. Dim ond y diffiniadau yn y rhestr sy'n ymddangos yn nhestun yr is-ddeddfau model a ddewiswyd gan y Cyngor y dylai'r Cyngor eu defnyddio. Os bydd gair a ddiffiniwyd ond yn ymddangos yn nhestun un o'r is-ddeddfau y mae Cyngor yn bwriadu ei mabwysiadu, dylid cynnwys y diffiniad hwnnw yn nhestun yr is- ddeddf berthnasol, fel is-baragraff ar wahân os oes modd (e.e. is-ddeddfau model 9(2) a 16(2)).
Cymhwyso ac Atodlenni
16. Mae'r modelau hyn yn darparu fformiwlâu amgen ar gyfer datgan yr ardal ddaearyddol y mae'r is-ddeddfau yn berthnasol iddynt. Dylai awdurdodau lleol ystyried yn ofalus pa ddarpariaeth neu gyfuniad o ddarpariaethau sy'n cyflawni eu bwriad.
17. Dylid mabwysiadu is-ddeddf model 2 lle y bydd pob un o'r is-ddeddfau yn berthnasol ledled ardal yr awdurdod lleol.
18. Dylid mabwysiadu is-ddeddf model 3 lle mai dim ond i rannau o ardal yr awdurdod lleol y bydd yr is-ddeddfau yn berthnasol.
19. Bydd is-ddeddf model 4(1) yn briodol lle y bydd y rhan fwyaf o'r is-ddeddfau yn berthnasol ledled ardal yr awdurdod lleol, ond gyda rhai eithriadau penodol. Dylid nodi'r eithriadau hyn drwy wneud defnydd priodol o is-ddeddfau model 4(2) i (4), sy'n darparu nifer o ddulliau posibl o gyfyngu'r ffordd y caiff un neu fwy o is-ddeddfau eu cymhwyso i ran o ardal yr awdurdod lleol.
20. Mae is-ddeddf model 4(2) yn briodol lle y caiff yr ardaloedd y bydd is-ddeddf yn berthnasol iddynt eu nodi drwy osod arwyddion yn yr ardaloedd perthnasol. Dim ond pan fydd yr is-ddeddf yn berthnasol i ardaloedd o dir bach neu ardaloedd o dir wedi'u marcio'n glir y mae'r is-ddeddf model hon yn debygol o fod yn briodol.
21. Mae is-ddeddf model 4(3) yn galluogi Cyngor i ddynodi rhannau o ardal yr awdurdod lleol y mae'r is-ddeddf yn berthnasol iddynt drwy restru'r ardaloedd hynny mewn atodlen i'r is- ddeddfau. Mae'r geiriau mewn cromfachau sgwâr yn cyfeirio at ddefnyddio cynllun. Dylid defnyddio cynllun yn y rhan fwyaf o achosion, am na fydd disgrifiad llafar o'r ardal yn aml yn ddigon i sicrhau bod ffiniau'r ardaloedd y cyfeirir atynt yn glir.
22. Mae is-ddeddf model 4(4) yn debyg i is-ddeddf model 4(3) ac eithrio ei bod yn berthnasol i fath penodol o strwythur (pontydd yn hytrach na "mannau dynodedig"). Gall fod angen cynllun mewn rhai achosion (gweler y nodiadau ar gyfer is-ddeddf model 4(3)).
Marchogaeth a cherbydau ar ymylon ffyrdd a lleiniau ymyl
23. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd ymyl neu lain ymyl ffordd yn ffurfio rhan o'r briffordd, a gellir felly ei reoleiddio drwy orchymyn rheoleiddio traffig o xxx Ddeddf Rheoleiddio Traffig 1984. Dim ond lle nad yw'n bosibl gwneud gorchymyn rheoleiddio traffig y dylid mabwysiadu'r is-ddeddfau model hyn.
24. Yn is-ddeddf model 6(2), caiff cerbydau masnachol trwm eu heithrio gan eu bod eisoes yn destun rheoliadau o xxx adrannau 19 ac 20 o Ddeddf Traffig ar y Ffyrdd 1988.
Sglefrfyrddio ac ati
25. Mae'r diffiniad o gerbydau sy'n cael eu gyrru â'u pŵer eu hunain yn ddigon xxxx i gwmpasu nifer o weithgareddau yn ogystal â sglefrfyrddio, gan gynnwys sglefrolio a reidio ar sgwteri heb fodur; ond nid yw'n cwmpasu beiciau, cadeiriau olwyn na phramiau.
26. Dylid mabwysiadu'r geiriau mewn cromfachau sgwâr yn is-ddeddf model 7 lle y mae rhywfaint o'r tir neu'r tir i gyd a gynhwyswyd yn y "man dynodedig" yn fan lled-gyhoeddus â thirfeddiannwr preifat (x.x. xxxx parcio o xxx berchenogaeth breifat), er mwyn sicrhau nad eir yn groes i hawliau eiddo preifat.
27. Dylid mabwysiadu'r geiriau mewn cromfachau sgwâr yn is-ddeddf model 8 lle mae'r cyngor yn awyddus i fabwysiadu is-ddeddfau model 7 ac 8 gyda'i gilydd, h.y. er mwyn gosod gwaharddiad cyffredinol ar sglefrfyrddio peryglus a niwsans ar lwybrau troed a ffyrdd ledled ardal yr awdurdod lleol a gosod gwaharddiad llwyr ar sglefrfyrddio o fewn ardaloedd mwy penodol, er mwyn egluro nad yw is-ddeddfau model 7 ac 8 yn gorgyffwrdd.
Atyniadau ffair yn peri rhwystr i draffig
28. Yn rheoleiddio peryglon traffig a gaiff eu hachosi gan reidiau ffair a stondinau a gaiff eu gosod mewn mannau cyhoeddus neu ar dir ger man cyhoeddus neu stryd. Ni ellir ei ddefnyddio i reoleiddio stondinau na reidiau a gaiff eu gosod ar y ffordd. Dylid defnyddio gorchymyn rheoleiddio traffig er mwyn ymdrin â hwy.
Gemau ar y briffordd neu gerllaw
29. Xxxxx chwaraeon a chwaraeir ar y briffordd gan aflonyddu ar ddefnyddwyr y briffordd eu rheoleiddio gan adran 161 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (cosbau ar gyfer xxxxxx xxxxxx
penodol o berygl neu aflonyddwch). Diben y modelau hyn yw ymdrin â'r niwsans neu'r perygl sy'n gysylltiedig â chwarae gemau ger y briffordd ac sy'n aflonyddu ar drigolion lleol, na chânt eu diogelu gan Ddeddf 1980 oni fyddant yn defnyddio'r briffordd.
Towtio
30. Wedi'i gyfyngu i rwystrau neu niwsans a achosir gan bobl sy'n towtio am fusnes ar gyfer gwasanaethau xxx xx'n stopio pobl sy'n mynd heibio at ddibenion cynnal gwaith ymchwil i'r farchnad. Gellir ymdrin â gweithgareddau i hyrwyddo gwerthu nwyddau o xxx ddeddfwriaeth masnachu ar y stryd, sef, adran 3 ac atodlen 4 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982. Mae towtio am fusnes tacsi eisoes yn destun deddfwriaeth ac felly nid yw'n rhan o gwmpas yr is-ddeddf.
Dirymu
31. Mae testun y model hwn, y gellir ei ddefnyddio i ddirymu is-ddeddfau, yn cynnwys nifer o gyfarwyddiadau y gall fod angen ymhelaethu arnynt:
“rhowch enw” - yr enw perthnasol fydd enw'r cyngor a wnaeth yr is-ddeddfau, hyd yn oed os nad y Cyngor hwnnw yw awdurdod lleol yr ardal honno mwyach neu os xx xxxxxxx yn ddarfodedig.