Teitl: Swyddog Prosiect
Teitl: Swyddog Prosiect
Lleoliad: Ystwyth
Cyfarwyddiaeth: Yr Amgylchedd ac Adfywio Swydd Rhif: BGNEW
Cyflog: Gradd 7 (£32,909 - £36,298)
Oriau: 37
Contract: Cyfnod Penodol 31 Mawrth 2025
Crynodeb Swydd
Chwarae rôl allweddol wrth gefnogi cydlynu a chyflenwi prosiectau strategol (mewnol ac allanol i’r Cyngor) drwy ddarparu cefnogaeth gyffredinol ar ddatblygu a rheoli prosiectau, datblygu cytundebau lefel gwasanaeth a rheoli contractau a phob agwedd o fonitro rhaglen (yn cynnwys ariannol).
Hysbyseb Lawn
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad sylweddol o gyflwyno cynlluniau tebyg, gan weithio mewn lleoliadau tebyg a gyda diddordeb angerddol yn y xxxx gwaith hwn.
Mae’r prif gyfrifoldebau yn cynnwys:
1. Cydlynu pob agwedd o o’r rhaglenni grantiau Ffyniant Gyffredin a Multiply a gymeradwywyd ac a arweinir gan yr awdurdod lleol, yn unol â’r cytundeb cyllido a’r telerau ac amodau cysylltiedig.
2. Cefnogi rheoli perthynas gyda phob un o’r partneriaid arweiniol a ddynodwyd, yn cynnwys datblygu (lle’n briodol) a gweithredu cytundebau cyflenwi cysylltiedig i gynorthwyo cyflenwi a monitro parhaus.
3. Monitro a gwerthuso perfformiad contractau, gan gydlynu gydag adrannau’r Cyngor a phartneriaid allanol i sicrhau y caiff gwaith a gwasanaethau eu cyflawni yn unol â’r gofynion perfformiad a thelerau’r contract neu gytundeb perthnasol.
4. Gweithio gyda cyllid i ddatblygu prosesau monitorio ariannol a hawlio cadarn i sicrhau fod gwariant prosiectau yn cydymffurfio ac yn unol â’r gofynion grant (tystiolaeth o gyflwyniadau gwariant, talu, hawliadau).
5. Monitro talu anfonebau yn erbyn cyllidebau a gytunwyd a chefnogi i ddatrys amrywiadau mewn anfonebau gan sicrhau y gwneir taliadau amserol.
6. Cydlynu gyda phartneriaid cyllido fel xxxx xxxxx a pharatoi, diweddaru a monitro llif arian prosiect a chydlynu gyda’r Adran Adnoddau ar xxx mater ariannol.
7. Gweithredu fel y prif bwynt cyswllt ar gyfer cyngor, cymorth ac arweiniad ar gyfer pob ymholiad yn ymwneud â’r gronfa a weinyddir, gan gydlynu gyda’r xxxxx cyllido lle xx xxxxx.