Cynghorydd Datgarboneiddio
Cynghorydd Datgarboneiddio
Swydd Disgrifiad.
Parc Gwyddoniaeth Menai Cyf
Ein gweledigaeth yw “Tanio uchelgais ac arloesedd ar gyfer Cymru gynaliadwy.”
Teitl y Swydd | |
Rheolwr Llinell | Rheolwr Cymorth Busnes a Datblygu Prosiectau (M-SParc) |
Yn atebol i’r | Rheolwr Xxx Cynghori Thematig |
Cyflog | £36,400 - £ 40,000 Pro Rata |
Oriau Gwaith | 37.5 awr (Caiff opsiwn rhan-amser ei ystyried) |
Cyfnod | 2 Flynedd i ddechrau |
Is-adran | Busnes Cymru: Gwasanaeth Datblygu a Thwf Busnesau |
Lleoliad | Parc Gwyddoniaeth Menai (M-SParc) Mannau Gweithio ar y Cyd a Desgiau Poeth M-SParc. Teithio ar draws Cymru, a bydd cyfle hefyd i weithio gartref. I'w gytuno. |
Teithio | Bydd y gofyniad i chi i ymweld â safleoedd a chleientiaid a mynychu digwyddiadau yn golygu bod y gallu i deithio’n hanfodol. |
Gweithredu dros Gymru
Mae hwn yn gyfle cyffrous i gael gyrfa ardderchog a bod yn rhan o dîm M-SParc, gan weithio ar raglen Busnes Cymru. Fel Cynghorydd Datgarboneiddio, byddwch chi’n cefnogi busnesau bach a chanolig yng Nghymru i ddeall yr agendâu datgarboneiddio a sero net, xxx maen nhw’n bwysig a xxxx x xxxxxx nhw ei wneud i helpu i gyrraedd y targedau sero net uchelgeisiol a osodwyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Bydd y swydd hon, a fydd yn gweithio ochr yn ochr â Thîm Carbon Isel Egni, yn gyfle i gefnogi busnesau ledled Cymru i newid i ddyfodol sero net.
Y Contract
Bydd yn cael ei rannu â’r ymgeisydd ar ôl cael ei benodi.
Cyflwyniad
Mae M-SParc, mewn partneriaeth â Busnes mewn Ffocws a Xxxxxx Môn, wedi ennill y contract i ddarparu gwasanaeth Busnes Cymru, fel Partneriaeth Xxxxxx Cymru (EPC), ar ran Llywodraeth Cymru, gan ddarparu cyngor a chymorth i entrepreneuriaid ledled Cymru.
Llwyddodd y Bartneriaeth yn eu cais i ddarparu gwasanaethau cynghori Busnes Cymru; y Gwasanaeth Entrepreneuriaeth a Chychwyn Busnesau a’r Gwasanaeth Datblygu Busnes a Thwf.
Mae’r swydd yn rhan o’r is-adran Datblygiad a Thwf Busnesau deinamig sy’n canolbwyntio ar ddarparu ystod xxxx o gyngor i fusnesau sy’n tyfu drwy amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys cymorth digidol, dros y ffôn ac wyneb yn wyneb.
Mae M-SParc (is-gwmni xxx berchnogaeth lwyr Prifysgol Bangor) yn Barc Gwyddoniaeth sydd â’r nod o gefnogi mentrau a phrosiectau sy’n cael eu harwain gan wybodaeth i dyfu a llwyddo. Mae rhagor o fanylion ar gael ar ein gwefan xxx.x-xxxxx.xxx ac ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Y Swydd
Mae’r Cynghorydd Datgarboneiddio, sy’n cael ei ystyried yn Gynghorydd Arbenigol, yn rhan annatod o’r Rhaglen Rheoli Cysylltiadau yng ngwasanaeth Busnes Cymru a bydd yn arweinydd thematig ar gyfer y xxxx technegol xxx sylw:
• Yn cefnogi busnesau bach a chanolig yn eu huchelgais i ddatgarboneiddio drwy gynnig arweiniad a chymorth gan gynnwys llythrennedd carbon a dealltwriaeth o’r cyd-destun polisi.
• Cefnogi busnesau bach a chanolig i ddatblygu a deall eu hôl troed carbon a datblygu mapiau datgarboneiddio.
• Ymgorffori effeithlonrwydd o ran ynni ac adnoddau a thechnolegau carbon isel newydd.
• Datblygu ffyrdd newydd o weithio sy’n defnyddio adnoddau’n effeithlon a chyflwyno newid hirdymor.
• Xxxxx xx effeithiau economaidd yr argyfwng ynni.
• Darparu gwybodaeth ac arbenigedd ar draws y gwasanaeth; datblygu cynnwys ac adnoddau arloesol a diddorol i’w defnyddio gan gleientiaid a chydweithwyr, gan gyfrannu’n uniongyrchol ac yn anuniongyrchol at gyflawni dangosyddion perfformiad allweddol cysylltiedig.
Y Cyfrifoldebau
Ymholiadau cyffredinol gan gleientiaid:
1. Darparu cymorth cynghori arbenigol drwy amrywiaeth xxxx o ddulliau; a) yn ddigidol, e.e. gweminarau ar lwyfannau digidol priodol, sesiynau cynghori un-i-un, gweminarau i nifer o bobl, e.e. gweithdai ‘Gweledigaeth Werdd’, cymryd rhan mewn seminarau a gweithgareddau eraill sy’n denu ac yn ymgysylltu â chleientiaid twf, a b) cyfarfodydd un-i-un, wyneb yn wyneb x xxxx i’w gilydd, os oes angen. Ymgymryd â’r gweithgareddau hyn mewn modd proffesiynol a gwybodus gan ddefnyddio’r deunyddiau y cytunwyd arnynt.
2. Fel arweinydd arbenigol, byddwch yn creu ac yn datblygu cynnwys digidol sy’n gysylltiedig â’ch arbenigedd, e.e. tiwtorialau fideo, a diweddaru adnoddau digidol cysylltiedig, e.e. taflenni gwybodaeth, gwybodaeth 3ydd parti ar gyfer cyfeirio.
3. Galluogi cydweithwyr i ymateb i ymholiadau ar themâu arbenigol cyffredin a chefnogi’r gwaith o gyflawni mentrau thematig, ee ‘yr Addewid Twf Gwyrdd’, polisïau Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu, darparu cyngor thematig i gydweithwyr, rhannu gwybodaeth arbenigol a rhoi cyngor ar feysydd arbenigol i gydweithwyr Busnes Cymru.
4. Gweithio gyda’r Rheolwr Darparu a Rheolwr y Xxx Cynghori Thematig i ddatblygu cynnwys a gweithgareddau newydd ac arloesol, cynnig gwelliannau parhaus, a chynnal Datblygiad Proffesiynol Parhaus i gydweithwyr yn y gwasanaeth ehangach.
Rhaglen Rheoli Cysylltiadau:
5. Gweithio ar y cyd â’r Rhaglen Rheoli Cysylltiadau, gan ymgysylltu â Phanel Cyfranogi’r Ecosystem, fforwm a sefydlwyd i gefnogi cleientiaid gydag ymholiadau arbenigol.
6. Gwneud gwaith prosiect gyda chleientiaid xxxx xxxxx cymorth arbenigol.
7. Defnyddio offer diagnostig a gymeradwywyd er mwyn cael dealltwriaeth o fusnes y cleient a nodi rhwystrau i ddatblygu a thyfu sy’n gysylltiedig â’r arbenigedd.
8. Gweithio gyda chleientiaid ar gamau gweithredu y cytunwyd arnynt er mwyn cynnal momentwm tuag at y nodau y cytunwyd arnynt, fel y’u diffinnir yng Nghynllun Twf Gweithredu Strategol y cleient, o fewn yr amser a neilltuwyd.
9. Tystiolaeth yn y gwaith papur digidol angenrheidiol, yn unol â gofynion contractiol a gweithdrefnau gweithredol. Sicrhau bod oriau cymorth yn cael eu darparu, eu cofnodi a’u cymeradwyo.
10. Monitro gweithgarwch/cynnydd cleientiaid yn erbyn eu RFG i sicrhau’r canlyniadau/dangosyddion perfformiad allweddol gorau posibl ar gyfer Llywodraeth Cymru a darparu deunyddiau/astudiaethau achos ar gyfer cynnwys marchnata.
Cyfrifoldebau cyffredinol:
11. Annog cleientiaid i ymgysylltu â’r rhwydweithiau Twf busnes-i-fusnes perthnasol a allai eu helpu i gyflawni potensial o ran datblygiad a thwf busnes. Gwneud awgrymiadau priodol a chyfeirio cleientiaid yn unol â hynny.
12. Sefydlu a datblygu ymgysylltu lleol a chenedlaethol effeithiol â chleientiaid, cydweithwyr a rhanddeiliaid i hyrwyddo’r gwasanaeth, creu rhwydwaith gyfeirio effeithiol a chyngor ar froceriaeth.
13. Mynychu digwyddiadau ymgysylltu a rhwydweithio busnes i hyrwyddo’r gwasanaeth i gleientiaid a rhanddeiliaid posibl.
14. Cyfrannu at ddatblygu’r Ecosystem i sicrhau bod y gwasanaethau sydd ar gael gan ddarparwyr gwasanaethau sydd wedi cael eu caffael yn y sector preifat yn parhau i fod yn berthnasol ac yn gyfoes.
15. Nodi ac annog cleientiaid a allai fod yn llysgenhadon Busnes Cymru neu a allai gymryd rhan fel Mentor yn rhaglen Fentora Busnes Cymru.
16. Cynnal gwybodaeth am ddatblygiadau lleol, cenedlaethol a rhai mewn sectorau penodol yn y xxxx arbenigedd, arferion a thueddiadau busnes cyffredinol.
17. Ymgymryd â dysgu priodol y cytunwyd arno i gynnal Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
18. Mynd ati’n rhagweithiol i rannu gwybodaeth arbenigol yn rheolaidd er mwyn datblygu ymgysylltu, cyrhaeddiad a darpariaeth gwasanaeth yn y fforymau priodol, yn unol â chyfarwyddyd y Rheolwr Cyflawni a Rheolwr y Xxx Cynghori Thematig.
19. Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill sy’n ofynnol o fewn rheswm gan yr Uwch Dîm Rheoli.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth:
1. Hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth drwy’r cymorth i fusnesau a ddarperir i gleientiaid Busnes Cymru;
2. Cynnal ymwybyddiaeth, hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus cyfredol o faterion cydraddoldeb ac amrywiaeth a sut i ddarparu gwasanaeth cynhwysol mewn ffordd broffesiynol i xxx cleient.
3. Darparu gwasanaeth cynhwysol yn unol â gofynion y contract.
Diffiniad cyffredinol o gyfrifoldebau’r swydd yw’r uchod. Nid yw’n ystyried pob agwedd ar y swydd y gallai fod yn ofynnol i ddeilydd y swydd ei chyflawni. Mae hyblygrwydd yn hanfodol gan mai gofynion y busnes fydd yn pennu oriau gwaith deilydd y swydd.
Dyletswyddau Cyffredinol
• Gwneud penderfyniadau annibynnol, o fewn y fframwaith y cytunwyd xxxx xxxx’r Rheolwr Cymorth i Fusnesau a Datblygu Prosiectau a rheoli eu gwaith pan fyddant yn absennol.
• Cydweithio â thîm Egni M-SParc i gefnogi mentrau ar draws y sector carbon isel.
• Cynllunio, blaenoriaethu a threfnu xxxx gwaith xxxx hun i gyflawni amcanion y cytunwyd arnynt.
• Datrys problemau o ddydd i ddydd wrth iddynt godi, gan gydnabod pryd y dylid cyfeirio problem at bobl eraill.
• Mabwysiadu agwedd gadarnhaol at xxxxx xxx, gan chwilio xxx amser am gyfleoedd i weithredu fel Llysgennad ar ran M-SParc a Busnes Cymru.
• Sicrhau lefel eithriadol o Wasanaeth i Gwsmeriaid, gan ymgysylltu â thenantiaid M-SParc a’r ecosystem ehangach pryd bynnag y xx xxxxx.
Manyleb y Person
Gofynion | Hanfodol | Dymunol |
Addysg a Hyfforddiant | ||
Addysg hyd at lefel gradd mewn pwnc perthnasol sy’n ymwneud â Datgarboneiddio/Cynaliadwyedd/Effeithlonrwydd Adnoddau | ✓ | |
Profiad a Gwybodaeth | ||
Gwybodaeth a dealltwriaeth ragorol am sero net a deddfwriaeth cynaliadwyedd ac arferion da a sut i gymhwyso’r egwyddorion i fusnesau bach a chanolig eu maint. | ✓ | |
Profiad o ddarparu cyngor ac arweiniad i fusnesau bach a chanolig dros y ffôn neu wyneb yn wyneb. | ✓ | |
Profiad amlwg o weithio mewn busnes NEU Darparu cyngor arbenigol* ar ddatgarboneiddio/cynaliadwyedd/effeithlonrwydd adnoddau i bortffolio amrywiol o fusnesau. (* - dyma’r diffiniad o “cymorth”: Cynghori portffolio o fusnesau sydd ag amrywiaeth xxxx o broblemau arbenigol, gyda phrawf o’r canlyniadau o ran sut y cyfranodd y cyngor a roddwyd at wella/cyflawni’r potensial o dyfu neu amcanion busnes arbenigol eraill). | ✓ | |
Xxx xxxxx profiad perthnasol amlwg a phrofiad sylweddol o weithio gyda busnesau bach a chanolig eu maint | ✓ | |
Gwybodaeth a phrofiad uniongyrchol o un neu fwy o sectorau diwydiant | ✓ | |
Dealltwriaeth o wahaniaethau lleol / rhanbarthol yn economi Cymru | ✓ | |
Ymwybyddiaeth a gwybodaeth dda am y cymorth busnes cyffredinol sydd ar gael gan y sectorau cyhoeddus a phreifat | ✓ | |
Ymwybyddiaeth am y cymorth busnes arbenigol sydd ar gael gan y sectorau cyhoeddus a phreifat | ✓ | |
Sgiliau a Chymwyseddau | ✓ | |
Yn effeithiol wrth bennu blaenoriaethau, trefnu amser, trefnu llwyth gwaith i sefydlu canlyniadau, amcanion a cherrig milltir mesuradwy ar xxxx cyfer chi ac eraill. | ✓ | |
Cyfathrebu - llafar: Yn addasu’r arddull a’r manylion yn ôl y gynulleidfa. Gallu rhyngweithio’n effeithiol â phobl; perswadio a dylanwadu ar bobl ar xxx xxxxx; egluro/cyflwyno gwybodaeth mewn ffordd gryno a rhesymegol. | ✓ | |
Cyfathrebu - ysgrifenedig: Yn addasu arddull a’r manylion yn ôl y gynulleidfa. Cyflwyno gwybodaeth yn gywir, yn gryno ac yn rhesymegol. | ✓ | |
Gwasanaeth i Gwsmeriaid – Yn gweithio ac yn cydweithio’n effeithiol ag eraill, yn gallu nodi anghenion a darparu atebion ymarferol, yn rheoli disgwyliadau, yn addasu’r dull unigol o ymdrin â sefyllfaoedd gwahanol. | ✓ | |
Dysgu/Gwella – mynd ati’n rhagweithiol i geisio gwybodaeth, dysgu o’ch camgymeriadau a hyrwyddo adborth adeiladol | ✓ | |
Dadansoddi a defnyddio tystiolaeth – casglu’r wybodaeth berthnasol, yn cyflwyno tystiolaeth yn gryno ac yn gwneud dyfarniadau rhesymegol | ✓ |
Gweithio’n gynhyrchiol ac yn effeithiol xxx bwysau, gan addasu a derbyn newidiadau i amgylchiadau | ✓ | |
Ymwybyddiaeth fasnachol er mwyn cyflawni canlyniadau a chynnig gwerth ychwanegol | ✓ | |
Gweithredu xxxx xxxxx uchel o uniondeb, amddiffyn cyfleoedd cyfartal ac arwain drwy esiampl i gynnal moeseg a gwerthoedd y sefydliad | ✓ | |
Profiad helaeth o ddefnyddio llwyfannau digidol gyda sgiliau TG cadarn, e.e. Microsoft Office/365. | ✓ | |
Mae’r gallu i siarad Cymraeg xxx amser yn ddymunol iawn a gall fod yn hanfodol xxx xxx amgylchiadau, yn dibynnu ar yr adnoddau sydd ar gael ar y pryd hwnnw. (D.S.: Bydd pob swydd wag yn nodi a yw’n ddymunol iawn neu’n hanfodol a bydd ceisiadau’n cael eu hystyried fesul achos.) | ✓ | ✓ |
Trwydded yrru ddilys yn y DU a defnyddio cerbyd i deithio’n rheolaidd yn y rhanbarth er mwyn cyflawni dyletswyddau, e.e. mynd i ddigwyddiadau, cyfarfodydd. | ✓ |