ADRAN 11
ADRAN 11
11. Swyddogion
11.1 Strwythur Rheoli
11.1.1 Cyffredinol
Caiff y Cyngor Llawn gyflogi’r cyfryw staff (y cyfeirir atynt fel Swyddogion) ag y mae’n ystyried sy’n briodol i gyflawni ei swyddogaethau.
11.1.2 Y Prif Weithredwr, y Swyddog Monitro, Prif Swyddog Cyllid a Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd
Bydd y Cyngor yn dynodi’r swyddi canlynol fel y dangosir:
Swydd | Dynodiad |
Prif Weithredwr | Prif Weithredwr |
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol | Swyddog Monitro |
Pennaeth Cyllid | Prif Swyddog Cyllid |
Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol | Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd |
Bydd y swyddogaethau a ddisgrifir yn Adrannau 11.2 i 11.5 yn berthnasol i’r swyddi hyn.
11.1.3 Yn yr xxxxx xxx golygai unrhyw gyfeiriad at “Brif Swyddog”, Brif Swyddog” o fewn ystyr Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Gorchmynion Sefydlog) (Cymru) 2006).
11.2 Swyddogaethau’r Prif Weithredwr
11.2.1 Cyflawni Swyddogaethau gan y Cyngor
(a) Xxx xxxxx 4 Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau i ddynodi un o’u swyddogion yn Brif Weithredwr. Bydd y Prif Weithredwr yn adrodd i’r Cyngor Llawn ar y ffordd y cydlynir y broses o gyflawni swyddogaethau’r Cyngor, nifer a gradd y staff sydd eu xxxxxx i gyflawni’r swyddogaethau, trefniadaeth staff yr awdurdod, a phenodi staff yr awdurdod a rheolaeth briodol arnynt.
(b) Rhaid i’r Prif Weithredwr gadw’r materion canlynol xxx sylw:
(i) y modd y mae yr ymarferiad gan y Cyngor o’i swyddogaethau gwahanol yn cael ei gydlynu;
(ii) trefniadau’r Cyngor mewn perthynas ag—
(A) cynllunio ariannol,
(B) rheoli asedau, a
(C) rheoli risg;
(iii) nifer a graddau’r staff sy’n ofynnol gan y Cyngor ar gyfer arfer ei swyddogaethau;
(iv) trefniadaeth staff y Cyngor;
(v) penodi staff y Cyngor; ac
(vi) y trefniadau ar gyfer rheoli staff y Cyngor (gan gynnwys trefniadau hyfforddi a datblygu).
1.1.2 Os yw’r Prif Weithredwr yn ystyried ei bod yn briodol gwneud, mae’n rhaid iddynt gyflwyno adroddiad i’r Cyngor Llawn yn nodi eu dull o ymdrin â’r materion hyn. Cyn gynted â phosibl ar ôl paratoi yr adroddiad, rhaid i’r Prif Weithredwr drefnu i adroddiad gael ei anfon at xxx Aelod o’r Cyngor.
1.1.3 Gweithredu fel un o Gynrychiolwyr y Cyngor ar y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
Bydd y Prif Weithredwr yn un o ddau gynrychiolydd y Cyngor yng nghyfarfodydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
11.2.2 Cyfyngiadau ar Swyddogaethau
Ni chaiff y Prif Weithredwr fod yn Swyddog Monitro nac yn Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd, ond caiff ddal swydd Prif Swyddog Cyllid os yw’n gyfrifydd cymwysedig.
11.3 Swyddogaethau’r Swyddog Monitro
Xxxxxxxxxx y rhain yn adran 5 Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 fel y’i diwygiwyd.
11.3.1 Xxxxxx y Cyfansoddiad
Bydd y Swyddog Monitro yn cynnal fersiwn gyfredol o’r Cyfansoddiad ac yn sicrhau ei fod ar gael yn xxxx xx mwyn i Aelodau, staff a’r cyhoedd allu cyfeirio ato.
11.3.2 Sicrhau bod y Penderfyniadau a Wneir yn Gyfreithlon ac yn Deg
Ar ôl ymgynghori â’r Prif Weithredwr a’r Prif Swyddog Cyllid, bydd y Swyddog Monitro yn adrodd i’r Cyngor Llawn neu’r Cabinet mewn perthynas ag unrhyw Swyddogaeth os yw ef/hi o’r farn y byddai unrhyw gynnig, penderfyniad neu hepgoriad yn arwain at anghyfreithlondeb neu os yw unrhyw benderfyniad neu hepgoriad wedi arwain at gamweinyddu. Bydd adroddiad o’r fath yn xxxx
y cynnig neu’r penderfyniad rhag cael ei roi ar waith nes bod yr adroddiad wedi cael ei ystyried.
11.3.3 Cefnogi’r Pwyllgor Safonau
Bydd y Swyddog Monitro yn cyfrannu at hyrwyddo a chynnal safonau uchel o ymddygiad trwy gefnogi’r Pwyllgor Safonau.
11.3.4 Derbyn Adroddiadau
Bydd y Swyddog Monitro yn derbyn ac yn gweithredu ar adroddiadau a wneir gan yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a phenderfyniadau’r tribiwnlysoedd achos.
11.3.5 Cynnal Ymchwiliadau
Bydd y Swyddog Monitro yn cynnal ymchwiliadau i faterion a atgyfeirir gan yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ac yn llunio adroddiadau neu’n gwneud argymhellion mewn perthynas â hwy i’r Pwyllgor Safonau.
11.3.6 Cynghori ynghylch pa un a yw penderfyniadau’r [Cabinet] [y Weithrediaeth] o fewn y Gyllideb a’r Fframwaith Polisi
Bydd y Swyddog Monitro, ar y cyd â’r Prif Swyddog Cyllid, yn cynghori ynghylch pa un a yw penderfyniadau’r Cabinet yn unol â’r Gyllideb a’r Fframwaith Polisi.
11.3.7 Rhoi Cyngor
Bydd y Swyddog Monitro yn rhoi cyngor i’r Cynghorwyr ar faterion yn ymwneud â chwmpas pwerau a’r awdurdod i wneud penderfyniadau, camweinyddiaeth, amhriodoldeb ariannol, uniondeb a’r Gyllideb a’r Fframwaith Polisi.
11.3.8 Cyfyngiadau ar Swyddi
Ni chaiff y Swyddog Monitro fod yn Brif Swyddog Cyllid na’r Prif Weithredwr.
11.4 Swyddogaethau’r Prif Swyddog Cyllid
Xxxxxxxxxx y rhain yn adran 151 Deddf Llywodraeth Leol 1972.
11.4.1 Sicrhau Cyfreithlondeb a Doethineb Ariannol y Penderfyniadau a Wneir
Ar ôl ymgynghori â’r Prif Weithredwr a’r Swyddog Monitro, bydd y Prif Swyddog Cyllid yn adrodd i’r Cyngor Llawn neu’r Cabinet mewn perthynas â Swyddogaeth Weithredol, ac archwilydd allanol y Cyngor os yw ef/hi o’r farn y bydd unrhyw gynnig, penderfyniad neu ffordd o weithredu yn golygu gwariant anghyfreithlon, neu’n anghyfreithlon ac yn debygol o achosi colled neu ddiffyg neu os yw’r Cyngor ar fin cofnodi eitem o’r cyfrifon yn anghyfreithlon.
11.4.2 Gweinyddu Materion Ariannol
Bydd y Prif Swyddog Cyllid yn gyfrifol am weinyddu materion ariannol y Cyngor.
11.4.3 Cyfrannu at Reolaeth Gorfforaethol
Bydd y Prif Swyddog Cyllid yn cyfrannu at reolaeth gorfforaethol y Cyngor, yn enwedig trwy ddarparu cyngor ariannol proffesiynol.
11.4.4 Rhoi Cyngor
Bydd y Prif Swyddog Cyllid yn rhoi cyngor i’r xxxx Gynghorwyr ar faterion yn ymwneud â chwmpas pwerau a’r awdurdod i wneud penderfyniadau, camweinyddiaeth, amhriodoldeb ariannol, uniondeb a’r Gyllideb a’r Fframwaith Polisi, a bydd yn cefnogi a chynghori Cynghorwyr a Swyddogion yn eu rolau priodol.
11.4.5 Rhoi Gwybodaeth Ariannol
Bydd y Prif Swyddog Cyllid yn rhoi gwybodaeth ariannol i’r cyfryngau, aelodau’r cyhoedd a’r gymuned.
11.4.6 Cynghori ynghylch pa un a yw penderfyniadau’r Cabinet o fewn y Gyllideb a’r Fframwaith Polisi
Bydd y Prif Swyddog Cyllid, ar y cyd â’r Swyddog Monitro, yn cynghori ynghylch pa un a yw penderfyniadau’r Cabinet yn unol â’r Gyllideb a’r Fframwaith Polisi.
11.4.7 Cyfyngiadau ar Swyddi
(a) Ni chaiff y Prif Swyddog Cyllid fod yn Swyddog Monitro na’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.
(b) Rhaid i’r Prif Swyddog Cyllid fod yn aelod o un neu fwy o’r cyrff proffesiynol canlynol: -
(i) Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr;
(ii) Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig;
(iii) Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth;
(iv) Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheolaeth; neu
(v) Unrhyw gorff arall o gyfrifwyr a sefydlwyd yn y Deyrnas Unedig a sydd am y tro wedi’i gymeradwyo gan Weinidogion Cymru at y diben hwn.
11.5 Swyddogaethau’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd
Xxxxxxxxxx y rhain yn adran 9 y Mesur. Swyddogaethau’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yw:
11.5.1 rhoi cymorth a chyngor i’r awdurdod mewn perthynas â’i gyfarfodydd, yn amodol ar baragraff 11.5.10;
11.5.2 rhoi cymorth a chyngor i bwyllgorau’r awdurdod (heblaw am y pwyllgorau a grybwyllir ym mharagraff 11.5.5 ) ac aelodau’r pwyllgorau hynny, yn amodol ar baragraff 11.5.10;
11.5.3 rhoi cymorth a chyngor i unrhyw gydbwyllgor y mae awdurdod lleol yn gyfrifol am ei drefnu ac aelodau’r pwyllgor hwnnw, yn amodol ar baragraff 11.5.10;
11.5.4 hyrwyddo rôl Pwyllgorau Craffu yr awdurdod;
11.5.5 rhoi cymorth a chyngor i:
(a) Bwyllgorau Craffu yr awdurdod ac aelodau’r pwyllgorau hynny; a
(b) Phwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yr awdurdod ac aelodau’r pwyllgor hwnnw;
(c) rhoi cymorth a chyngor mewn perthynas â swyddogaethau Pwyllgor Craffu yr awdurdod i xxx un o’r canlynol:
(i) aelodau’r awdurdod;
(ii) aelodau gweithrediaeth yr awdurdod;
(iii) swyddogion yr awdurdod.
11.5.6 rhoi cymorth a chyngor i xxx aelod o’r awdurdod mewn perthynas â chyflawni rôl aelod o’r awdurdod, yn amodol ar baragraff 11.5.11.
11.5.7 llunio adroddiadau a gwneud argymhellion mewn perthynas ag unrhyw un o’r canlynol:
(a) nifer a gradd y staff sydd eu xxxxxx i gyflawni swyddogaethau gwasanaethau democrataidd;
(b) penodi staff i gyflawni swyddogaethau gwasanaethau democrataidd;
(c) trefniadaeth staff sy’n cyflawni swyddogaethau gwasanaethau democrataidd a rheolaeth briodol arnynt;
11.5.8 y cyfryw swyddogaethau eraill ag y gellid eu pennu gan y gyfraith.
11.5.9 Cyfyngiadau ar Swyddi
Ni chaiff y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod yn Brif Weithredwr na’r Prif Swyddog Cyllid.
11.5.10 Mae rhoi cyngor ynghylch pa un a ddylai swyddogaethau’r cyngor gael eu harfer neu pa un a ddylent fod wedi cael eu harfer, neu sut y dylai swyddogaethau’r cyngor gael eu harfer neu sut y dylent fod wedi cael eu harfer, yn berthnasol dim ond i gyngor yn ymwneud â swyddogaethau’r Pwyllgor Craffu a’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.
11.5.11 Nid yw cyngor i Aelod yn cynnwys cyngor mewn perthynas â’i rôl fel Aelod gweithredol ac nid yw’n cynnwys cyngor ynghylch mater sy’n cael ei ystyried mewn cyfarfod neu y bwriedir ei ystyried mewn cyfarfod (heblaw am gyfarfod Pwyllgor Craffu neu’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.
11.6 Dyletswydd i Ddarparu Adnoddau Digonol i’r Prif Weithredwr, y Swyddog Monitro, y Prif Swyddog Cyllid a’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.
Bydd y Cyngor yn darparu’r cyfryw Swyddogion, llety ac adnoddau eraill i’r Prif Weithredwr, y Swyddog Monitro, y Prif Swyddog Cyllid a’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ag y mae’n ystyried sy’n ddigonol i ganiatáu ar gyfer cyflawni eu dyletswyddau.
11.7 Ymddygiad
Bydd Swyddogion yn cydymffurfio â’r Cod Ymddygiad ar gyfer Swyddogion a’r Protocol ar Gysylltiadau Swyddogion/Aelodau a amlinellir yn Adrannau 20 a 21 y Cyfansoddiad hwn.
11.8 Cyflogaeth
Bydd y drefn ar gyfer recriwtio, dethol a diswyddo Swyddogion yn cydymffurfio â’r Rheolau Cyflogaeth Swyddogion a amlinellir isod.
11.9 Cydnabyddiaeth Prif Swyddogion
Bydd y Cyngor Llawn yn penderfynu ar lefel ac unrhyw newid yn y gydnabyddiaeth sydd i’w dalu i Brif Swyddog. Diffinnir cydnabyddiaeth yn unol â Deddf Lleoliaith 2011 Adran 43(3).
11.10 Rheolau Gweithdrefnol Cyflogaeth Swyddogion
11.10.1 Recriwtio a Phenodi
(a) Datganiadau
(i) Mae’r Cyngor wedi llunio gweithdrefnau sy’n cynnwys gofyniad bod yn rhaid i unrhyw ymgeisydd ar gyfer ei benodi/phenodi’n Swyddog ddatgan yn ysgrifenedig pa un a oes ganddo/ganddi unrhyw berthynas ag unrhyw un o gynghorwyr neu Swyddogion y Cyngor.
(ii) Ni fydd unrhyw ymgeisydd sy’n perthyn i Gynghorydd neu uwch Swyddog yn cael ei benodi/phenodi heb awdurdod y Prif Swyddog perthnasol neu Swyddog a enwebwyd ganddo/ganddi.
(b) Xxxxxx Xxxxxxxxxx ar gyfer Penodiad
(i) Bydd y Cyngor yn anghymhwyso unrhyw ymgeisydd sy’n ceisio cef anogaeth unrhyw Gynghorydd ar gyfer unrhyw benodiad gyda’r Cyngor, boed hynny’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol. Bydd cynnwys y paragraff hwn yn cael ei nodi mewn unrhyw wybodaeth recriwtio.
(ii) Ni chaiff unrhyw un o Gynghorwyr na chyflogeion y Cyngor geisio cefnogaeth i unrhyw unigolyn ar gyfer unrhyw benodiad gyda’r Cyngor.
11.10.2 Recriwtio Prif Swyddogion
Pan fydd y Cyngor yn bwriadu penodi Prif Swyddog (o fewn ystyr Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Gorchmynion Sefydlog) (Cymru) 2006) bydd y Cyngor yn ac, yn ddarostyngedig i’r gofyn yn (b)(ii) isod na fwriedir gwneud y penodiad yn unig o blith ei swyddogion presennol, rhaid iddo wneud y canlynol:
(a) llunio datganiad sy’n cynnwys y canlynol:
(i) dyletswyddau’r Swyddog xxx sylw; ac
(ii) unrhyw gymwysterau neu rinweddau a geisir yn yr unigolyn sydd i’w benodi/phenodi;
(b) (i) gwneud trefniadau i’r swydd gael ei hysbysebu yn y fath fodd sy’n debygol o’i dwyn i sylw unigolion sy’n gymwys i wneud cais amdani; ac
(ii) mewn achos ble mae cydnabyddiaeth flynyddol y swydd yn
£100,000 neu fwy rhaid i’r hysbyseb fod yn gyhoeddus oni bai fod y penodiad am gyfnod penodedig sydd ddim mwy na 12 mis o hyd.
(c) gwneud trefniadau i xxxx o’r gweithdrefnau a grybwyllwyd ym mharagraff (a) gael eu hanfon at unrhyw unigolyn ar gais.
(ch) Bydd y camau a grybwyllir yn (a) i (c) uchod yn cael eu dirprwyo i'r Prif Weithredwr i'w cymryd.
(d) Ar achlysur ble hysbysebwyd swydd yn unol â pharagraff (b) mae rhaid i’r Cyngor unai:
(i) gyfweld pob ymgeisydd cymwys ar gyfer y swydd neu,
(ii) ddewis rhestr fer o blith yr ymgeiswyr cymwys a chyfweld y rhai a gynhwysir ar y rhestr fer.
(dd) Ble na dderbyniwyd cais gan xxxxxx cymwys neu, fod y Cyngor yn penderfynu ail hysbysebu’r swydd gall y Cyngor wneud trefniadau pellach ar gyfer hysbysebu un unol a pharagraff (b).
(e) Bydd y camau a grybwyllir ym mharagraffau (d) a (dd) uchod yn cael eu dirprwyo i'r pwyllgor priodol yn unol â chynllun dirprwyo'r Cyngor i bwyllgorau ac is-bwyllgorau.
(f) Lle bo dyletswyddau prif swyddog yn cynnwys cyflawni swyddogaethau dau neu fwy o awdurdodau perthnasol yn rhinwedd adran 101(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972:
(i) gall y camau a gymerwyd xxx baragraff (a) (b) neu (c) uchod gael eu cymryd gan gydbwyllgor yr awdurdodau perthnasol
hynny, is-bwyllgor o'r pwyllgor hwnnw neu brif swyddog unrhyw rai o'r awdurdodau perthnasol xxx sylw; a
(ii) gellir penodi unrhyw brif swyddog gan y cyfryw gydbwyllgor, is- bwyllgor o'r pwyllgor hwnnw neu bwyllgor neu is-bwyllgor o unrhyw rai o'r awdurdodau perthnasol hynny.
11.10.3 Penodi Prif Weithredwr
(a) Bydd y Cyngor Llawn yn cymeradwyo penodiad Prif Weithredwr, yn dilyn argymhelliad ynghylch y cyfryw benodiad gan un o bwyllgorau neu is-bwyllgorau’r Cyngor. Mae’n rhaid i’r pwyllgor neu’r is-bwyllgor hwnnw gynnwys o leiaf un Aelod o’r Cabinet.
11.10.4 Penodi a Diswyddo Prif Swyddogion
(a) Yn y paragraff hwn:
mae “y Pwyllgor” | yn golygu’r Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion; ac |
mae “y Swyddog Priodol” | yn golygu’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. |
(b) Y Pwyllgor sy’n gyfrifol am benodi a diswyddo’r Prif Weithredwr, y Swyddog Monitro, Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd a Phrif Swyddogion.
(c) Mae’n rhaid i o leiaf un Aelod o’r Cabinet fod yn Aelod o’r Pwyllgor ac ni ddylai mwy xx xxxxxx Aelodau’r Pwyllgor hwnnw fod yn Aelodau o’r Cabinet (Atodlen 3 Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Gorchmynion Sefydlog) (Cymru) 2006).
(ch) Pan fydd y Pwyllgor yn bwriadu penodi neu ddiswyddo’r Prif Weithredwr, mae’n rhaid i’r Cyngor Llawn gymeradwyo’r penodiad hwnnw cyn i’r cynnig o benodiad gael ei wneud xxx xxx’n rhaid iddo gymeradwyo’r diswyddiad hwnnw cyn i’r rhybudd diswyddo gael ei roi.
11.10.5 Swyddogion Eraill
(a) Y Prif Weithredwr neu ei (h)enwebai ef/hi sy’n gyfrifol am benodi a diswyddo Swyddogion islaw Prif Swyddog, ac ni chaiff cynghorwyr ymgymryd â’r swyddogaeth hon.
(b) Ni fydd cynghorwyr yn ymwneud â chamau disgyblu yn erbyn unrhyw Swyddog islaw Prif Swyddog ac eithrio pan fydd angen iddynt gymryd rhan mewn unrhyw ymchwiliad i gamymddwyn honedig neu pan fydd gweithdrefnau disgyblu, gweithdrefnau gallu a gweithdrefnau cysylltiedig y Cyngor, fel y cânt eu mabwysiadu x xxxx i’w gilydd, yn caniatáu hawl i apelio at Aelodau.
(c) Ni fydd paragraffau (a) a (b) yn berthnasol i:
(i) y swyddog a ddynodwyd yn brif weithredwr yr awdurdod;
(ii) prif swyddog statudol o fewn ystyr adran 2(6) o Ddeddf 1989(3) (swyddi â chyfyngiad gwleidyddol);
(iii) prif swyddog anstatudol o fewn ystyr adran 2(7) o Ddeddf 1989;
(iv) dirprwy brif swyddog o fewn ystyr adran 2(8) o Ddeddf 1989;
(v) Swyddog Monitro,
(vi) Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd;
(vii) person a benodwyd yn rhinwedd adran 9 o Ddeddf 1989(4) (cymhorthwyr i grwpiau gwleidyddol); neu
11.10.6 Penodiadau cynorthwywyr i’r grwpiau gwleidyddol.
(a) Penodir cynorthwyydd grŵp gwleidyddol yn unol â dymuniadau’r grŵp gwleidyddol hwnnw.
(b) Gwahoddir y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fel sylwedydd i unrhyw gyfweliad ar gyfer penodi cynorthwyydd grŵp gwleidyddol.
11.10.7 Camau Disgyblu
(a) Yn y paragraff hwn, mae “camau disgyblu” yn cynnwys diswyddo a fwriedir am unrhyw reswm heblaw am ddileu swydd, iechyd gwael parhaol neu fethiant i adnewyddu contract cyfnod penodol, ymddeoliad a gynlluniwyd ac ymddeoliad cynnar a chyfnodau prawf anfoddhaol.
(b) Gweithdrefnau Ysgrifenedig
Yn ddarostyngedig i (i) isod bydd camau disgyblu yn erbyn y Prif Weithredwr, y Swyddog Monitro y Prif Swyddog Cyllid a’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn cael eu cymryd yn unol â Gweithdrefnau Prif Swyddogion y Cyngor ( mae hyn yn cynnwys swyddog sydd yn destun camau disgyblaeth arfaethedig oedd ar yr adeg yr honnwyd y digwyddodd y camymddwyn wedi ei gyflogi yn un o’r swyddi uchod ond nad yw yn parhau yn swydd ar adeg y camau disgyblaeth arfaethedig).
(i) Petai yn dod i’r amlwg fod honiad o gamymddwyn gall arwain at gamau disgyblu wedi ei wneud yn erbyn un o’r swyddogion a restrir uchod yna penodir pwyllgor ymchwilio gan y Cyngor i ymchwilio i’r honiadau yn unol â gofynion Rheol 9 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Gorchmynion Sefydlog) (Cymru) 2006).
(ii) Bydd camau disgyblu yn erbyn pob Swyddog arall yn cael eu cymryd yn unol â’r Amodau Gwaith Lleol.
(c) Xxxxxxxx Xxxxxxxxxx
Ni cheir cymryd unrhyw gamau disgyblu o xxx baragraff (b) uchod ac eithrio yn unol ag argymhelliad mewn adroddiad a wnaed gan unigolyn annibynnol dynodedig xxx Reol 9 o Reoliadau Llywodraeth Leol (Rheolau Sefydlog)(Cymru ) 2006.
(ch) Xxxx Rhag Gweithio
Caiff Swyddog a enwir yn (b) gael eu hatal rhag gweithio tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal i gamymddwyn honedig. Bydd y Swyddog xxx sylw yn cael ei (h)xxxx rhag gweithio ar gyflog llawn a daw’r cyfnod xxxx i xxx wedi dau fis o ddyddiad y daw’r ataliad i rym.
11.10.8 Apeliadau
Ni fydd unrhyw un o’r uchod yn xxxx Cynghorydd rhag gwasanaethu fel Aelod o bwyllgor xxxx xxx gorff a sefydlwyd i ystyried xxxx gan:
(a) unrhyw unigolyn yn erbyn unrhyw benderfyniad yn ymwneud â phenodi’r unigolyn hwnnw yn Aelod o staff yr awdurdod; neu
(b) Aelod o staff yr awdurdod yn erbyn unrhyw benderfyniad yn ymwneud â diswyddo neu gymryd camau disgyblu yn erbyn yr Aelod hwnnw o staff oni bai bod y diswyddo’n gysylltiedig â mater yn ymwneud â gallu, camymddwyn, rhyw reswm perthnasol arall, rhyw ddeddfiad statudol arall neu ymddeoliad a gynlluniwyd lle y rhoddwyd llai na chwe mis o rybudd i’r Aelod o staff. Yn yr achosion hyn, cynhelir yr xxxx gan uwch Swyddog.