Arweinydd y gweithgaredd Prosiect Geocelcio
GWYBODAETH I YMGEISWYR
Arweinydd y gweithgaredd Prosiect Geocelcio
Graddfa 8 £22,658 - £24,694 y flwyddyn pro rata Arweinydd gweithgaredd 0.5 – 18.5 awr yr wythnos
(8 Mis tymor penodol I 31.03.18 Contract oriau blynyddol – 641 awr)
CYNNWYS
1. Manylion dychwelyd
2. Trosolwg o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
3. Y Staff
4. Siart Sefydliadol
5. Disgrifiad Swydd
6. Manyleb Person
7. Nodiadau cyfarwyddyd ar gyfer y sawl a benodir
DYDDIAD CAU: 26 Mehefin 2017
DYDDIAD CYFWELIADAU: 29 Mehefin 2017
DYLID DYCHWELYD FFURFLENNI CAIS AR ÔL EU CWBLHAU AT:
(CYFRINACHOL)
YR ADRAN ADNODDAU DYNOL
AWDURDOD PARC CENEDLAETHOL BANNAU BRYCHEINIOG PLAS Y FFYNNON
FFORDD CAMBRIAN ABERHONDDU
LD3 7HP
Diolch am ddangos diddordeb yn swydd Arweinwyr Gweithgareddau Prosiect Geocelcio (ariennir gan Chwaraeon Cymru) yn y Rheoli Cefn Gwlad a Rheoli Tir
Mae’n rhaid derbyn ceisiadau erbyn 11.00am ar fore’r 26 Mehefin 2017. Yn anffodus, ni fyddwn yn ystyried ceisiadau hwyr.
Dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol nad yw’n arfer gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol gydnabod ceisiadau, na hysbysu ymgeiswyr o ganlyniad eu ceisiadau. Os nad ydym yn cysylltu â chi, ni fydd xxxx cais wedi bod yn llwyddiannus.
Nodwch a oes gennych anabledd mewn llythyr eglurhaol. Os ydych chi’n bodloni’r meini prawf hanfodol, ac yn cael xxxx gwahodd am gyfweliad, rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion arbennig.
Noder y bydd yr xxxx ffurflenni cais a gwybodaeth ategol yn cael eu cadw’n ddiogel am chwe mis ac efallai y byddwn yn cysylltu â chi pe bai swydd addas yn codi. Ar xx xxxx mis, byddwn yn dinistrio pob ffurflen gais a gwybodaeth ategol. Os nad ydych chi am i ni gadw’ch gwybodaeth, rhowch wybod i ni a byddwn yn dinistrio’ch ffurflen gais ar ôl i’r broses recriwtio ddirwyn i ben.
Mae’n Bolisi gan yr Awdurdod i gysylltu â chanolwyr ar ôl gwahodd ymgeiswyr i gyfweliad. A fyddech cystal â nodi unrhyw broblemau y gallai hyn ei achosi ar xxxx ffurflen gais o xxx yr xxxxx berthnasol.
Noder bod yn rhaid i chi xxxx xxxxxx sut rydych chi’n bodloni’r meini prawf hanfodol a nodir yn y fanyleb person sy’n berthnasol i’r swydd hon wrth lenwi’ch ffurflen gais. Dylech hefyd ddangos sut rydych chi’n bodloni’r meini prawf dymunol a nodir yn y fanyleb person, ond os nad ydych chi’n bodloni’r xxxx xxxxx prawf dymunol, peidiwch â gadael i hyn xxxx rhwystro rhag ymgeisio.
AWDURDOD PARC CENEDLAETHOL BANNAU BRYCHEINIOG
Cefndir
Dynodwyd Parciau Cenedlaethol er mwyn gwarchod ardaloedd hyfryd xx xxxx y genedl. Fe’u crëwyd yn sgil Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949, a roddodd fframwaith deddfwriaethol ar waith ar gyfer sefydlu Parciau Cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr.
Dynodwyd y ddau Barc Cenedlaethol cyntaf ym 1951 ac ym 1957 dynodwyd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a oedd yn cwmpasu ardal o tua 520 milltir sgwâr (1346 cilometr sgwâr). Tan 1995, roedd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn gydbwyllgor o’r Cynghorau Sir ar y pryd tan i Ddeddf Amgylchedd 1995 gyflwyno deddfwriaeth newydd a oedd yn sefydlu Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol yn Awdurdodau Lleol annibynnol, xxxx xxxxx arbennig.
Xxxx xxx Parciau Cenedlaethol yn ei wneud?
Xxx xxx Barciau Cenedlaethol ddau ddiben. Yn gyntaf, maent yn gwarchod a gwella amgylchedd naturiol a diwylliannol y parc, ac yn ail maent yn hyrwyddo ymwybyddiaeth a dealltwriaeth a mwynhad o’i briodweddau arbennig. Mae’r priodweddau arbennig hyn wedi’u disgrifio fel:
• y dirwedd a’r harddwch naturiol
• yr heddwch a’r llonyddwch
• cyfleoedd i gerdded a mynediad i gefn gwlad agored
• mannau agored a’r ansawdd bellennig
• tir amaeth sy’n cael xx xxxxx’n draddodiadol,
• bywyd gwyllt
Drwy wneud hyn, xxx xxx y Parciau Cenedlaethol ddyletswydd hefyd i feithrin lles cymdeithasol ac economaidd y cymunedau o fewn y Parc.
Wrth gyflawni eu dibenion a’u dyletswydd, xxx xxx Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol bum swyddogaeth allweddol, sef:
1. gweithredu fel Awdurdod Cynllunio
2. gweithredu fel Awdurdod perthnasol ar gyfer mynediad i gefn gwlad agored o xxx y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy
3. hwyluso rhaglenni amgylcheddol
4. darparu gwybodaeth i’r cyhoedd, dehongliadau a gwasanaethau addysg
5. darparu cronfa datblygu cynaliadwy ar ran Llywodraeth Cymru.
Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cynnwys 24 aelod, 16 a enwebwyd gan y saith Awdurdod Lleol yn yr ardal ac 8 a enwebwyd gan Weinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai Llywodraeth Cymru. Xxx xxx yr Awdurdod gyllideb o £6.1 miliwn ac ariennir £4.6 o’r gyllideb xxx xxx Xxxxx xx Ardoll y Parc Cenedlaethol a £1.5 miliwn o weithgareddau Incwm.
Mae’r ddwy garfan yn helpu i sicrhau bod buddiannau lleol a chenedlaethol yn cael eu cynrychioli ar lefel Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Mae amrywiol bwyllgorau allweddol yn gyfrifol am reoli busnes yr Awdurdod. Hefyd, mae gweithgorau a grwpiau cynghori - mewnol ac allanol - wedi’u sefydlu i lywio’r broses benderfynu. Cyflogir tua 110 o staff cyfwerth â llawn amser mewn dwy Gyfarwyddiaeth - Cefn Gwlad a Rheoli a Chynllunio Tir, yn ogystal ag Adran y Prif Weithredwr - Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu, Cyllid, TG, Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd ac Adnoddau Dynol. Mae staff ac Aelodau’n gyfrifol am ystod xxxx o weithgareddau a gwasanaethau a rôl allweddol swyddogion yw darparu cyngor ac arweiniad i Aelodau’r Awdurdod i’w helpu i wneud penderfyniadau a phennu’r weledigaeth a’r strategaethau ar gyfer yr Awdurdod.
Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol yw dogfen strategol allweddol yr Awdurdod ac mae’n datgan ein nodau, ein hamcanion strategol a’r Blaenoriaethau ar gyfer Gweithredu ar gyfer yr Awdurdod (gweler xxxx://xxx.xxxxxxxxxxxxxxxxx.xxx/xx- awdurdod/cynllunio/polisiau-a-strategaethau/cynllun-rheoli2019r-parc- cenedlaethol/cynllun-rheoli2019r-parc-cenedlaethol?set_language=cy). Yn ogystal â’r ddogfen hon, mae gennym Gynllun Datblygu Lleol wedi’i gymeradwyo (gweler xxxx://xxx.xxxxxxx-xxx.xxx.xx/xx-xxxxxxx/xxxxxxx/Xxxxxxx-Xxxxxxxx-Xxxxx.xxx) sy’n darparu’r fframwaith ar gyfer datblygu yn y dyfodol o fewn y Parc Cenedlaethol. Mae’r Awdurdod hefyd yn datblygu ei Adroddiad ar Gyflwr y Parc, a fydd yn crynhoi statws newidiol asedau amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol yn y Parc. Gan fod gennym gyfrifoldeb wedi’i ddirprwyo am gynnal a chadw a rheoli Hawliau Tramwy, rydym yn gweithredu Cynllun Gwella Hawliau Tramwy’r Awdurdod.
Mae Parciau Cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr yn dirweddau gwarchodedig Categori V fel y’u diffinnir gan Undeb Cadwraeth y Byd (IUCN). Mae hyn yn cydnabod cyfranogiad pobl yn y gwaith o lunio’r tirweddau. Fel pob Parc Cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr, mae amaethyddiaeth yn ddylanwad mawr ar y ffordd y mae’r dirwedd yn cael ei rheoli. Mae sector ffermio hyfyw, proffidiol, eangfrydig ac arloesol, sy’n cydweithio’n agos â chymunedau’r Parc, busnesau lleol a chyrff cyhoeddus a gwirfoddol yn hollbwysig wrth reoli’r dirwedd yn y dyfodol. Bydd hyblygrwydd a’r gallu i addasu yn briodweddau pwysig wrth fynd i’r afael â heriau newid hinsawdd, dulliau o leihau’r defnydd o ynni a newidiadau demograffig a chymdeithasol yn y dyfodol.
Rheoli Cefn Gwlad a Rheoli Tir
Datblygu Cynaliadwy
Xxxxxx Xxxxxx
Cyfarwyddwr Rheoli Cefn
Gwlad a Rheoli Tir
Xxxxx Xxxxxxx
Rheolwr Datblygu Cynaliadwy
Gradd 13
Xxxxxxx Xxxxx
Rheolwr Twristiaeth Gynaliadwy
Gradd 12
Xxxx Xxxxx
Swyddog Cymunedau Cynaliadwy
Grade 8
Xxxxx Xxxxxxxx
Swyddog SDF a Datblygu Cymunedol
Grade 9 (8)
Xxxxx Xxxxxx
Arweinwydd Gweithgareddau
Gradd 8 (Xxxx Xxxxx)
Swydd Wag
Arweinwydd Gweithgareddau
Gradd 8 (Xxxx Xxxxx)
Xxxxxxxxx Xxxx
Swyddog Datblygu Cymunedol
Gradd 8 (Xxxx Xxxxx)
Xxxxxx Xxxxxxx
Swyddog Datblygu Gwirfoddolwyr
Gradd 5
Xxxxx Xxxxxxxx
Swyddog Twf Twistiath Gradd 9
Xxxx Xxxxxxx
Swyddog Datblygu Geoparc
Gradd 9
5
AWDURDOD PARC CENEDLAETHOL BANNAU BRYCHEINIOG
Disgrifiad Swydd
Teitl Swydd: Arweinydd y gweithgaredd
Arweinydd y gweithgaredd 0.5 cyfwerth ag amser llawn - 18.5 awr yr wythnos (Contract Oriau Blynyddol Tymor Sefydlog 8 mis i31.3.18, 641 awr)
Dyddiad dod i rym: Gorffennaf 2017
Gradd: 8
Yn atebol i: Rheolwr Datblygu Cynaliadwy
Diben y Swydd:
Darparu gweithgareddau iechyd, lles ac ymwybyddiaeth i Awdurdod y Parc Cenedlaethol gyda’r nod o ddeall a mwynhau nodweddion arbennig y Parc Cenedlaethol, annog datblygu cynaliadwy a helpu i gyflawni dibenion statudol yr Awdurdod.
Arweinydd y gweithgaredd 0.5 cyfwerth ag amser llawn Contract 8 mis - Prosiect Geocelcio (ariennir gan Chwaraeon Cymru) Darparu gweithgareddau Geocelcio yn lleoliad godidog y Parc Cenedlaethol. Datblygu gallu ymysg arweinwyr grwpiau cyflogedig a gwirfoddol (e.e. gweithwyr ieuenctid, swyddogion datblygu cymunedol) er mwyn iddynt efelychu ac arwain gweithgareddau gyda phobl ifanc yn llwyddiannus a diogel yn y dyfodol. Yn cynnwys gwaith allgymorth gyda grwpiau yn y de i sefydlu eu prosiectau Geocelcio eu hunain.
Arweinydd Gweithgareddau 0.4 cyfwerth ag amser llawn (X1) Contract 12 mis – Prosiect Ysbrydoli (ariennir gan CNC) Darparu gweithgareddau hamdden awyr agored yn lleoliad godidog y Parc Cenedlaethol. Datblygu gallu ymysg arweinwyr grwpiau cyflogedig a gwirfoddol (e.e. swyddogion datblygu cymunedol) er mwyn iddynt efelychu ac arwain gweithgareddau yn llwyddiannus a diogel yn y dyfodol i roi manteision iechyd a lles i’w grwpiau.
Bydd pob swydd yn cynnwys hyblygrwydd o ran dyddiau ac oriau gwaith – yn cynnwys gweithio ar benwythnos a min nos x xxxx i’w gilydd. Rhoddir amser i ffwrdd in lieu ar gyfer hyn.
6
Prif Ddyletswyddau
1. Arwain gweithgareddau dysgu gydol oes ac ymwybyddiaeth gydag amrywiaeth o grwpiau sydd wedi’u heithrio mewn gwahanol leoliadau yn y Parc Cenedlaethol a’r cyffiniau.
2. Cyfrannu at ac arwain gwaith hyfforddi, digwyddiadau, sgyrsiau, teithiau cerdded deongliadol, gweithgareddau cynhwysiant cymdeithasol a meysydd eraill o waith Awdurdod y Parc Cenedlaethol.
3. Gweithio gyda sefydliadau partner i ddarparu gwasanaethau ymwybyddiaeth a mwynhad yn y Parc Cenedlaethol, o xxx arweiniad y Rheolwr Cymunedau Cynaliadwy.
4. Monitro ac adrodd ar weithgareddau a wnaed.
5. Rheoli cyllidebau ar gyfer hyfforddiant, cyfarpar a chludiant i grwpiau.
6. Unrhyw ddyletswydd arall sy’n briodol i radd a natur y swydd, fel sy’n ofynnol gan y Prif Weithredwr.
7
AWDURDOD PARC CENEDLAETHOL BANNAU BRYCHEINIOG
Manyleb Person Arweinwyr Gweithgareddau
Meini Prawf Hanfodol | Dull Asesu |
O leiaf flwyddyn o brofiad o weithio gydag ystod o grwpiau gwahanol | Cais a chyfweliad |
Sgiliau cyfathrebu da a gallu i gyfathrebu gydag ystod xxxx o bobl a grwpiau o bobl | Cais a chyfweliad |
Wedi cwblhau Hyfforddiant Arweinydd Bryniau a Rhosydd (Arweinydd Grŵp Cerdded cyn hyn) neu Hyfforddiant Arweinydd Mynydd a chymwys i arwain grwpiau | Cais ac asesiad |
Gallu gweithio’n frwdfrydig gyda phobl ifanc a’u hysbrydoli | Cais a chyfweliad |
Dealltwriaeth a phrofiad o egwyddorion cydraddoldeb a rhoi hynny ar waith | |
Gallu darparu hyfforddiant a phrofiad o hynny | Cais a chyfweliad |
Deall cynhwysiant cymdeithasol | Cais a chyfweliad |
Trwydded yrru lân | Cais a chyfweliad |
Meini Prawf Dymunol: | |
Deall y gwaith o ddarparu gweithgareddau Geocelcio a phrofiad o’u darparu | Cais a chyfweliad |
Gallu siarad Cymraeg neu’n xxxxx i ddysgu | Cais a chyfweliad |
Profiad o reoli cyllideb | Cais a chyfweliad |
Profiad o ysgrifennu adroddiadau | Cais a chyfweliad |
8
NODIADAU CYFARWYDDYD AR GYFER POBL SY’N CAEL EU PENODI GAN AWDURDOD PARC CENEDLAETHOL BANNAU BRYCHEINIOG FEL
Arweinydd y gweithgaredd Prosiect Geocelcio (ariennir gan Chwaraeon Cymru)
Cyflog
Mae’r raddfa gyflog rhwng £22,658 - £24,694 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflogaeth
Contract Oriau Blynyddol Tymor Sefydlog 8 mis- 642 awr y flwyddyn) I 31.3.18
Oriau gwaith
18.5 awr yr wythnos
Telir cyflog xxx mis (diwrnod olaf y mis) i gyfrif banc/cymdeithas adeiladu.
Hawl gwyliau blynyddol
21 diwrnod y flwyddyn, yn ogystal â 8 gŵyl gyhoeddus a 2 ddiwrnod statudol ychwanegol. Xxx xxxx gwyliau yn codi xxx blwyddyn hyd at 25 diwrnod y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
Os ydych chi’n symud o wasanaeth Awdurdod allanol i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, rydych chi’n gallu trosglwyddo’ch hawl gwyliau a gronnwyd (a gronnwyd yn sgil hyd gwasanaeth) hyd at uchafswm o 25 diwrnod.
Pensiwn
Gweithredir cynllun pensiwn Llywodraeth Xxxx xxxxxxx; mae’r gweithiwr cyflogedig yn cyfrannu 5.5% (hyd at £13,700) sy’n codi i 5.8% (£13,701) o’u horiau cytundebol a weithiwyd ac ar hyn o xxxx xxx’r cyflogwr yn cyfrannu 23%.
Lleoliad
Bydd y swydd wedi’i lleoli ym Mhencadlys y Parc Cenedlaethol yn Aberhonddu.
9