CYNGOR SIR CEREDIGION COUNTY COUNCIL
CYNGOR SIR CEREDIGION COUNTY COUNCIL
Adroddiad i’r: Cabinet
Dyddiad y cyfarfod: 05/12/23
Teitl: Contract Bancio
Pwrpas yr adroddiad: Darparu diweddariad ar ganlyniad tendr Contract
Bancio’r Cyngor
Er: Gwybodaeth
Aelod Cabinet a Phortffolio Cabinet:
Y Cynghorydd Xxxxxx Xxxxxx, Aelod Cabinet ar gyfer Cyllid a Xxxxxxxx
1. Cefndir
Mae contract bancio’r Cyngor yn ymdrin ag ochr trafodaethol y gweithgaredd bancio. Mae’n cynnwys darparu cyfleusterau bancio (e.e. cyfrifon banc a bancio mewnol) er mwyn sicrhau bod trafodion gweithredol incwm a gwariant y Cyngor yn medru cael ei fancio a chyfrif amdano.
Mae’r modd y bydd y Cyngor yn ymdrin â buddsoddiad ehangach (gan gynnwys ystyriaethau eraill sy’n rhan o’r contract) wedi eu gosod yn y Strategaeth Rheoli Trysorlys blynyddol caiff ei ystyried gan y Cyngor llawn. Nid yw’r contract bancio yn cynnwys gwasanaethau Casglu Arian yn Ddiogel (e.e. xxxxx xxxxx / sieciau) ac nid yw ychwaith yn cynnwys gwasanaethau masnachwr ar gyfer dulliau talu ar-lein (e.e. cardiau debyd / credyd).
Bydd y contract bancio cyfredol yn dod i ben ar ddiwedd mis Chwefror 2024, felly dechreuwyd ar broses caffael ar gyfer cyfnod contract newydd.
2. Y Broses Caffael
Mi wnaeth y Cyngor hysbysebu’r cyfle i gyflwyno tendr yn agored drwy Sell2Wales, sef porth caffael Llywodraeth Cymru lle mae Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn hysbysebu cyfleoedd contract. Defnyddiwyd Etenderwales, sef system e-dendro a ddarperir am ddim gan Lywodraeth Cymru ar gyfer rheoli’r broses tendro.
Roedd y tendr ar agor am gyfnod o 1 mis o 04/09/23 i 04/10/23 a chynigiwyd contract newydd ar sail 7 mlynedd, gydag opsiwn o ymestyn am ddwy flynedd yn xxxxxxx. Xxx elfen weithredol sylweddol mewn newid banciau, a dyna xxxxx xxx hyd y contract ar gyfartaledd y hirach na’r arfer. Arfarnwyd y tendr ar sail rhaniad 30% pris / 70% ansawdd. Bydd cyfanswm o 200 marc ar gael.
Defnyddiwyd 15 meini prawf ansawdd yn yr arfarniad tendr ac er bod y pwyslais yn bennaf ar ofynion gweithredol craidd (gan gynnwys materion allweddol megis
mesurau seiberddiogelwch a gwrth-twyll) a rhoddwyd rhywfaint o bwysau ar Fuddiannau Cymuned ac Amgylcheddol a materion Cymdeithasol a Llywodraethol.
Sgoriwyd y meini prawf ansawdd gan banel a oedd yn cynnwys 3 swyddog o’r gwasanaeth Cyllid a Chaffael, ac fe’u cynorthwyydd wrth arfarnu’r sgorio ar gwestiynau Buddiannau Cymunedol ac Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethol gan swyddogion o wasanaethau eraill â’r profiad perthnasol. Cymedrolwyd cyfarfodydd y panel gan swyddog o’r Xxx Caffael.
3. Canlyniad
Bu i’r Cyngor dderbyn 2 ymateb ffurfiol i’r cyfle i dendro. Bu i’r ddau gyflenwr lwyddo yng ngham cyntaf y tendr, sef set o gwestiynau craidd sy’n sicrhau bod bidwyr yn cyflawni’r meini prawf hanfodol. Caiff y cwestiynau yma eu harfarnu ar sail pasio / methu. Yn dilyn hyn arfarnwyd yr hyn a gyflwynwyd yn yr amlen ansawdd, cyn symud ymlaen i agor y prisiau masnachol. Nodir isod crynodeb o’r canlyniadau. Mae mwy o fanylion yn Atodiad 1:
Cyflenwr A | Cyflenwr B | |
Sgôr Arfarnu Ansawdd (Xxxx xxxxx o 140) | 128.0 | 121.5 |
Sgôr Pris Masnachol (Xxxx xxxxx o 60) | 60.0 | 50.73 |
CYFANSWM Sgôr – Pwyntiau | 188.0 | 172.23 |
CYFANSWM Sgôr - % canran | 94.0% | 86.1% |
Sefyllfa | 1af | 2ail |
I gasglu, - mae cyflenwr A wedi llwyddo i gyflawni’r sgôr arfarnu uchaf ac felly’r xxxx xxxx â’r bid llwyddiannus. Cyflenwr A yw Barclays Bank plc. Mae cyfanswm cost y contract oddeutu £106,007.92 dros y 7 mlynedd + 2 flynedd cyfnod ymestyn. Ar sail flynyddol mae hwn o fewn y Gyllideb sydd ar gael.
Yn unol â Rheolau Caffael Contract y Cyngor, gan taw dau ymateb yn unig a dderbyniwyd, ystyriwyd cais am Eithriad Contract a chymeradwywyd hyn gan y Grŵp Arweiniol ar 15/11/23.
Yn unol â Rheolau Caffael Contractau’r Cyngor, gan fod amcangyfrif cyfanswm gwerth y contract (gan gynnwys unrhyw estyniad dewisol) o fewn ystod £100k i
£249k, mae’r awdurdod i lofnodi’r gwaith o dderbyn y tendr ar ysgwyddau ‘Swyddog a ddynodwyd gan y Gwasanaeth priodol AC un o’r canlynol – Prif weithredwr / Cyfarwyddwr Corfforaethol / Swyddog Arweiniol Corfforaethol’.
Bu i’r Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Cyllid a Chaffael a’r Rheolwr Corfforaethol: Cyllid Craidd gymeradwyo a llofnodi’r papurau derbyn tendr ar 15/11/23. Cyhoeddwyd Hysbysiad o Fwriad i Dderbyn Contract ar 16/11/23, yn dilyn y cyfnod digyfnewid arferol o 10 diwrnod sy’n dod i ben canol nos ar 27/11/23. Bydd y cyfnod contract newydd yn dechrau ar 29/02/24.
Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Oes Asesiad Effaith Integredig wedi ei gwblhau? Os na, esboniwch xxx
Na
Crynodeb o’r Asesiad Effaith Integredig:
Hirdymor: Amherthnasol
Cydweithio: Amherthnasol
Cynnwys: Amherthnasol
Xxxx: Amherthnasol
Integreiddio: Amherthnasol
Argymhelliad:
Nodi diweddariad a ddarparwyd ar gontract Bancio’r Cyngor.
Rheswm / Rhesymau dros y penderfyniad:
Amherthnasol
Trosolwg a Chraffu:
Bu i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol dderbyn diweddariad ar y mater hwn (19/09/23)
Fframwaith Polisi:
Amherthnasol
Amcanion Llesiant Corfforaethol:
Pob un
Goblygiadau Cyllid a Chaffael:
Nodwyd o fewn yr adroddiad.
Goblygiadau cyfreithiol:
Amherthnasol
Goblygiadau staffio:
Amherthnasol
Goblygiadau eiddo / asedau:
Amherthnasol
Risg(iau):
Bydd angen i’r Cyngor gael cyflenwr bancio er mwyn iddo fedru ymgymryd â’i swyddogaethau o ddydd i ddydd.
Papurau Cefndir:
Dim
Atodiadau:
Atodiad 1: Arfarniad Tendr
Swyddog Arweiniol Corfforaethol:
Xxxxxx Xxxx - Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Cyllid a Chaffael
Swyddog Adrodd:
Xxxxxx Xxxx a Xxxxxx Xxxxxx
Dyddiad:
16/11/23
ATODIAD 1 – Arfarnu Tendr
1. Sgôr Arfarnu Ansawdd (Xxxx xxxxx o 140)
Meini Prawf Ansawdd | Uchafswm sgôr | Sgôr Cyflenwr A | Sgôr Cyflenwr B |
Q1 Bancio ar y We– Xxxxxx Gwasanaeth / Gweinyddiaeth y System | 15 | 15 | 12 |
Q2 Bancio ar y We – Mynediad Data Bancio | 10 | 10 | 10 |
Q3 Desg gymorth / Rheoli Cleient | 10 | 10 | 8 |
Q4 Canolfan Swmpbrosesu Adneuon | 15 | 12 | 12 |
Q5 Adneuon mewn Canghennau Banc o Sefydliadau’r Cyngor | 10 | 10 | 6 |
Q6. Strwythur y Cyfrif, Cronni Balansau, Rheoli Xxxxx Xxxxx a Threfniadau Llog Credyd. | 10 | 10 | 10 |
Q7 Strwythur y Cyfrif, Cronni Xxxxxxxx, Rheoli Xxxxx Xxxxx a Threfniadau Llog Credyd | 5 | 4.5 | 4.5 |
Q8 Deunydd papur | 5 | 5 | 5 |
Q9 Mesurau Xxxx Seiberdroseddau | 15 | 15 | 15 |
Q10 Mesurau Xxxx Twyll Sieciau | 5 | 4 | 4.5 |
Q11 Dyddiadau Gwerth / Amserlenni Setliadau | 5 | 5 | 5 |
Q12 Blaengaredd | 5 | 4 | 5 |
Q13 Ni ddefnyddiwyd | - | - | - |
Q14 Xxxx Cymunedol | 5 | 4.5 | 4.5 |
Q15 Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethol | 15 | 9 | 12 |
Q16 Trosglwyddo Contract / Cynllun Gweithredu | 10 | 10 | 8 |
CYFANSWM | 140 | 128.0 | 121.50 |
2. Sgôr Pris Masnachol (Xxxx xxxxx o 60)
Sgoriwyd y Pris Masnachol drwy ddefnyddio’r fformiwla canlynol:
Pris Tendr Isaf / Pris Cyflenwr X 60 xxxx
Xxxxx Prawf | Uchafswm sgôr | Sgôr Cyflenwr A | Sgôr Cyflenwr B |
Pris | 60 | 60 | 50.73 |
CYFANSWM | 60 | 60 | 50.73 |