Swydd-ddisgrifiad Rhif y Swydd: 0034
Swydd-ddisgrifiad Rhif y Swydd: 0034
Teitl y swydd: | Cynorthwyydd Cymwysterau - Interniaeth |
Cyflogwr: | Cymwysterau Cymru |
Lleoliad: | Q2, Imperial Park, Casnewydd NP10 8UH |
Contract: | Contract interniaeth 12 mis llawn amser. Unwaith y byddwch yn cwblhau'r interniaeth yn llwyddiannus, yna bydd y contract yn dod yn barhaol. |
Cyflog a Buddiannau: | Cyflog yn ystod yr interniaeth Band Cyflog 1: £17,200 Ar ôl cwblhau'r interniaeth 12 mis yn llwyddiannus, bydd deiliad y swydd yn symud i fyny i o leiaf Band Cyflog 2 sydd â graddfa cyflog rhwng £23,400 a £26,400. Yn ogystal â chyflog, rydym yn cynnig 30 diwrnod o wyliau blynyddol (yn ychwanegol at wyliau cyhoeddus a xxxx'r swyddfa am hyd at dri diwrnod dros y Nadolig), trefniadau gweithio hyblyg ac aelodaeth o Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil. |
Oriau gwaith: | 37 - ond bydd hyd at 20% o'r amser hwn yn cwmpasu hyfforddiant a datblygiad personol sy'n benodol i'r swydd |
Adran: | I weithio yn un o'r canlynol: - Datblygu a chomisiynu - Cydnabod a chymeradwyo - Monitro a chydymffurfio - Polisi (neu FCS?) Yn ystod yr interniaeth, bydd cyfle i'r intern gael profiad o'r tri xxxx hyn, yn ogystal â bod yn xxxx x xxxxx traws-sefydliadol - er enghraifft, gweithgareddau cefnogi cyfathrebu, llywodraethu ac Adnoddau Dynol. |
Yn atebol i: | Yn dibynnu ar yr adran, rheolwr neu swyddog yn un o'r canlynol: - Datblygu a Chomisiynu |
- Cydnabod a Chymeradwyo - Monitro a Chydymffurfio - Polisi |
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: | 5 Awst 2016 |
Cyswllt: | Xxxxx Xxxxxx – 0333 077 2758 |
Cefndir |
Sefydlwyd Cymwysterau Cymru yn 2015 fel rheoleiddiwr annibynnol cymwysterau nad ydynt yn raddau a'r system cymwysterau yng Nghymru. Rydym yn gyfrifol am sicrhau bod cymwysterau a’r system cymwysterau yn effeithiol o ran diwallu anghenion rhesymol dysgwyr yng Nghymru, ac ennyn xxxxx y cyhoedd yn y rhain. Rydym yn gorff cyhoeddus a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac rydym yn atebol am ein gwaith i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae ein strwythur sefydliadol yn seiliedig ar dair Cyfarwyddiaeth (Rheoleiddio, Polisi ac Ymchwil a Gwasanaethau Cyllid a Chorfforaethol - er rydym hefyd yn gwneud gwaith trawsbynciol mewn perthynas â chymwysterau cyffredinol a galwedigaethol. Er mwyn sicrhau bod ein gweithlu yn ymatebol ac yn addasadwy, mae gennym ddull gweithredu hyblyg o ran dosbarthu staff y mae eu gwaith yn ymwneud â chymwysterau a chyrff dyfarnu. O xxx ein Huwch Grŵp Arwain mae gennym dair rheng o rolau cyffredinol: Rheolwyr Cymwysterau, Swyddogion Cymwysterau a Chynorthwywyr Cymwysterau. Gall cyflogeion yn y rolau hyn gael eu dosbarthu i un o nifer o dimau gwahanol a bydd ganddynt gyfle, dros nifer o flynyddoedd, i weithio mewn timau gwahanol er mwyn datblygu amrywiaeth xxxx o sgiliau. Bydd hefyd gyfleoedd i arbenigo. Mae Cymwysterau Cymru yn awyddus i benodi intern, gyda phosibilrwydd cryf o ddyrchafiad yn y dyfodol, a fydd yn gweithio fel Cynorthwyydd Cymwysterau tra'n cyflawni rhaglen hyfforddi a datblygu sy'n briodol ar ddechrau gyrfa ym meysydd cymwysterau a rheoleiddio. |
Diben y swydd |
Bydd Cynorthwywyr Cymwysterau yn gweithio mewn un o dri thîm, yn unol â chynllun dosbarthu Cymwysterau Cymru a'i flaenoriaethau. Bydd cyfle i ddeiliaid y swydd gael profiad ym mhob un o'r timau canlynol: - Datblygu a Chomisiynu - Cydnabod a Chymeradwyo - Monitro a Chydymffurfio - Polisi Efallai y bydd cyfle hefyd i weithio gyda'r Gwasanaethau Cyllid a Chorfforaethol a thimau Ymchwil neu ochr yn ochr â hwy. Prif ddiben y rôl yw cynorthwyo rheolwyr a swyddogion i sicrhau bod cymwysterau a'r system cymwysterau yng Nghymru yn effeithiol o ran diwallu anghenion dysgwyr - ac atgyfnerthu'r gwaith o ennyn xxxxx y cyhoedd yn y ddau faes hyn. Bydd cyfrifoldebau penodol y swydd yn amrywio yn dibynnu ar ba dîm y lleolir deiliad y swydd ynddo, ond bydd xxx amser yn cynnwys: - Darparu cymorth rheoli prosiect i reolwyr a swyddogion drwy sefydlu a gweithredu amserlenni tasgau a rheoli gweithrediadau cadarn. - Cefnogi gweithgarwch ymgysylltu â rhanddeiliaid mewnol ac allanol, megis hwyluso ar y xxx xxx baratoi cyflwyniadau. - Adolygu tystiolaeth yn erbyn meini prawf syml i helpu i wneud penderfyniadau. - Gweinyddu cytundebau contract â chyflenwyr arbenigol a chontractwyr eraill. - Cadw cofnodion cywir. - Darparu gwasanaethau ysgrifenyddiaeth ar gyfer cyfarfodydd mewnol ac allanol. |
Prif ddyletswyddau |
• Rheoli xxxx gwaith xxxx hun yn effeithiol, gan ystyried amcanion y cytunwyd arnynt. • Cyflawni rhaglen arfaethedig sy'n meithrin sgiliau a gwybodaeth yn xxxxx at benodiad mewn swydd barhaol ac yn sail i ddyrchafiadau pellach o fewn y sefydliad. • Meithrin ymwybyddiaeth o'r cyfrifoldebau statudol, polisïau, meini prawf, amodau a chanllawiau sy'n berthnasol mewn unrhyw sefyllfa, er mwyn gallu eu nodi'n briodol. • Datblygu a gweithredu prosesau gweinyddol i helpu swyddogion a rheolwyr wrth wneud penderfyniadau. Helpu'r xxx i gyflawni gweithgareddau a drefnwyd yn brydlon a chyfrannu atynt fel sy'n briodol. Cofnodi'r camau a gymerwyd a'r rhai a gynlluniwyd a'u cyfleu'n effeithiol. |
• Derbyn ymholiadau gan gyrff dyfarnu ac eraill ac ymateb yn briodol iddynt, gan roi gwybodaeth glir lle y bo hynny'n briodol neu gyfeirio'r ymholiad lle y xx xxxxx. Cofnodi camau gweithredu neu ymatebion, gan gynnal cydberthynas gadarnhaol sy'n galluogi.
• Darparu cymorth gweinyddol ar gyfer y gwaith o reoli contractau gydag arbenigwyr allanol a darparwyr perthnasol eraill, gan helpu i sicrhau bod perfformiad a chynnyrch yn cyrraedd safonau ansawdd a chydymffurfio priodol.
• Cyfrannu at raglenni adolygu drwy gyflawni gwaith yn ôl cyfarwyddiadau.
• Tynnu sylw'r rheolwr neu dimau perthnasol at unrhyw faterion sy'n peri pryder. Rhoi adborth i swyddogion a rheolwyr ar faterion sy'n codi o ganlyniad i weithredu polisïau, meini prawf, amodau neu ganllawiau y gall fod angen eu hadolygu.
• Cyflawni cyfrifoldebau ysgrifenyddiaeth ar gyfer cyfarfodydd yn effeithlon, gan gynnwys: trefnu dyddiadau addas, trefnu ystafelloedd, llunio fersiwn drafft o agenda amlinellol, cydlynu a rhannu papurau, cymryd cofnodion, paratoi deunyddiau ar gyfer cyflwyniadau, rhoi camau gweithredu dilynol ar waith a chadw cofnod o gamau gweithredu wedi'i ddiweddaru, hyn oll o fewn amserlenni penodol.
• Cadw cofnodion priodol o'r xxxx weithgareddau.
• Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill sy'n berthnasol i'r lleoliad penodol ac sy'n briodol o ran y radd.
Manyleb person
Hanfodol | Dymunol | |
Cymwysterau | Xxxxx xxx gymhwyster cyfatebol diweddar, xxxx xxxxx dda o lythrennedd a rhifedd. | |
Profiad | Profiad o weithio yn effeithiol fel aelod o dîm, boed hynny mewn gweithgareddau addysgol, cyflogaeth, hamdden neu wirfoddol. Profiad o ddefnyddio TG/systemau electronig ar gyfer gwaith neu astudio | Profiad gwaith sy'n berthnasol i'r rôl. |
Gwybodaeth | Gwybodaeth am y system addysg a chymwysterau yng Nghymru. Gwybodaeth am dechnegau a phrosesau rheoli prosiect. | |
Sgiliau | Y gallu i ddangos potensial cryf ar gyfer gyrfa ym meysydd rheoleiddio a/neu reoli cymwysterau yn y dyfodol. Y gallu i weithio'n effeithiol, yn annibynnol ac fel aelod o dîm. Sgiliau cyfathrebu rhagorol - ar xxxxx xx yn ysgrifenedig. Y gallu i ddrafftio dogfennau i ansawdd cyflwyno da. Y gallu i ddadansoddi gwybodaeth i ddeall ystyr. Y gallu i ddatrys problemau a nodi camau gweithredu priodol. Y gallu i reoli a chynllunio amserlen waith, sicrhau y cedwir cofnodion cywir a helpu eraill i fodloni terfynau amser. Y gallu i gyfathrebu yn Gymraeg. | |