GRANTIAU BACH GLASTIR TELERAU AC AMODAU
GRANTIAU BACH GLASTIR TELERAU AC AMODAU
1. DIFFINIADAU
Mae'r diffiniadau canlynol yn berthnasol yn y contract hwn:
Ystyr “tir amaethyddol" yw unrhyw arwynebedd sydd o xxx dir âr, tir pori parhaol neu gnydau parhaol (fel y'i diffinnir fel "ardal amaethyddol" yn Rheoliad 1307/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar 17 Rhagfyr 2013 sy’n pennu’r rheolau ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr o xxx gynlluniau cymorth sy’n rhan o fframwaith y polisi amaethyddol cyffredin);
Ystyr “Buddiolwr" a “buddiolwyr" yw gweithredwr, xxxxx xxx gwmni, boed yn gyhoeddus neu'n breifat, sy'n gyfrifol am ddechrau, neu ddechrau a rhoi gweithrediadau ar waith, neu dderbyn cymorth o xxx y Contract;
Ystyr “tir y contract” yw’r cae(au) lle cynhelir Prosiect Contract Grantiau Bach Glastir;
Diffinnir “tir cymwys" fel tir amaethyddol sydd wedi'i leoli yng Nghymru. Tir comin lle xxx xxx y Buddiolwr yr unig hawliau pori cofrestredig ac sydd wedi cael ei gofrestru fel "tir comin ag un porwr" o fewn System Adnabod Parseli Tir Llywodraeth Cymru;
Mae “cynefin" yn unrhyw lystyfiant sydd â chyfansoddiad o lai na 25% o rywogaethau amaethyddol wedi'u hau fel yn ôl Rheoliadau Asesu'r Effeithiau Amgylcheddol (Amaethyddiaeth) (Cymru) 2007;
Diffinnir “tir anghymwys” fel tir y mae’r Buddiolwr wedi bod yn xx xxxxx am xxx xx phum mlynedd neu nad oes ganddo ddigon o reolaeth drosto i gynnwys cyfnod llawn y contract; tir a ddefnyddir ar gyfer datblygu, meysydd carafanau parhaol, meysydd
parcio, cyrsiau carlamu, meysydd awyr, ardaloedd a ddefnyddir ar gyfer storio parhaol, cyrsiau golff a chyfleusterau chwaraeon eraill ac ati; tir comin cofrestredig a ddefnyddir gan fwy nag un porwr a thir a ddefnyddir gan fwy nag un porwr nad yw'n dir comin cofrestredig; tir a ddefnyddir gan ffermwr arall i hawlio taliadau o xxx gynlluniau cymorth sy’n rhan o fframwaith polisi amaethyddol cyffredin Ewrop; caeau neu barseli tir sydd wedi'u lleoli y tu xxxxx i Gymru;
Ystyr “rheolaeth lawn" yw bod Tir y Contract ar gael i’r Buddiolwr iddo allu cyflawni ymrwymiadau contract Grantiau Bach Glastir am gyfnod y Contract;
Ystyr “trosglwyddo" xx xxxxx xxx werthu neu etifeddiaeth wirioneddol neu etifeddiaeth ddisgwyliedig o dir neu hawliau i daliad neu unrhyw drosglwyddiad terfynol o hynny; nid yw'n cynnwys dychweliad hawliadau pan fydd les yn dod i ben;
Ystyr “trosglwyddai" yw'r unigolyn y mae'r Buddiolwr yn trosglwyddo, gwerthu xxx xxxx gwared ar dir iddo fel arall o fewn y contract hwn;
“Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020" yw'r system a ddefnyddir gan Weinidogion Cymru i gyflenwi gweithgareddau xxx y rheoliadau sy'n cefnogi cefn gwlad a chymunedau gwledig, gan annog rheoli amaethyddiaeth a'r amgylchedd yn gynaliadwy;
Ystyr “prosiect” yw’r set gyfan o Waith Cyfalaf sy’n ffurfio Contract Grantiau Bach Glastir;
Mae “thema” yn cyfeirio at yr amcan amgylcheddol sydd wedi’i neilltuo gan Lywodraeth Cymru ar gyfer pob cyfnod datgan diddordeb;
Ystyr “ffotograffau â geotag” yw ffotograff sydd â data daearyddol xxxx xx’n defnyddio cyfesurynnau GPS i gofnodi lleoliad y ffotograff.
2. Rheolaeth Lawn
2.1 Ar gais, rhaid i'r Buddiolwr ddarparu tystiolaeth bod ganddo Reolaeth Lwyr ar y tir a'i fod yn gallu bodloni meini prawf cymhwysedd y cynllun trwy gydol cyfnod y Contract.
2.2 Rhaid i'r Buddiolwr fod â Rheolaeth Lwyr ar y Tir Contract ar gyfer cyfnod llawn y Contract.
2.3 Os penderfynir nad oes gan y Buddiolwr y Rheolaeth Lwyr, caiff y Contract ei derfynu.
3. Hawliadau a Thaliadau
Gwneud Taliadau
3.1 Bydd Gweinidogion Cymru'n gwneud taliadau yn destun yr amodau canlynol xxx amser:
i) bod y Buddiolwr wedi cwblhau’r Prosiect erbyn y dyddiad a nodir ar y contract.
ii) bod y Buddiolwr wedi cyflwyno ffotograffau derbyniol â geotag i ddangos y sefyllfa “cyn” ac “ar ôl” y prosiect.
iii) nad yw'r Buddiolwr wedi derbyn taliad, boed wedi’i wneud neu yn ddyledus, gan unrhyw ffynhonnell arall mewn perthynas â’r tir y mae'r Contract yn berthynol iddo;
iv) nad yw'r Buddiolwr wedi ffugio'r amodau xxxx xxxxx eu bodloni er mwyn derbyn taliadau;
v) nad yw'r Buddiolwr wedi gwneud gosodiad neu ddatganiad ffug neu gamarweiniol, na rhoi gwybodaeth ffug neu gamarweiniol i Weinidogion Cymru.
3.2 Caiff taliadau eu cyfrif yn unol ag Atodlen y Contract, cyn belled â bod y manylebau technegol wedi cael eu dilyn. Cânt eu gwneud ar ôl dilysu hawliad
yn llwyddiannus, fydd yn cynnwys archwiliadau gweinyddol ac archwilio ffermydd.
3.3 Telir xxxx daliadau Glastir mewn sterling gan Weinidogion Cymru trwy gyfrwng y system BACS.
4. Newidiadau i'r Contract
4.1 Newidiadau i Delerau ac Amodau'r Contract
4.1.1 Efallai y bydd angen i Weinidogion Cymru wneud newidiadau i'r Contract hwn i ystyried y cyngor gwyddonol diweddaraf, addasu rheolau'r cynllun i ystyried unrhyw newid yn Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, neu adolygu cyfraddau talu, ymysg pethau eraill.
4.1.2 Bydd Gweinidogion Cymru'n hysbysebu unrhyw newidiadau yn y cylchlythyr Gwlad, ar wefan Llywodraeth Cymru www.llyw.cym a lle xx xxxxx byddant yn cysylltu â Buddiolwyr trwy gyfrwng RPW ar-lein.
4.1.3 Mae'n ofynnol i’r Buddiolwr gadw at unrhyw newidiadau a wneir i'r Contract hwn yn dilyn hysbysiad gan Weinidogion Cymru.
4.2 Terfynu
4.2.1 Terfynu gan Weinidogion Cymru
4.2.1.1 Gall Gweinidogion Cymru derfynu'r Contract hwn xxx yr amgylchiadau canlynol:
i) lle mae Gweinidogion Cymru'n arfer eu pwerau yn unol â Chymalau 3.1, 4.3.5, 4.4.2 a 6.4; a
ii) lle wrth ddisgresiwn absoliwt Gweinidogion Cymru, mae’r Buddiolwr wedi torri amodau’r contract hwn;
iii) ar ddiwedd rhaglen bresennol Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 neu gyfnod unrhyw Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru ddilynol, gwelir bod newid gweithrediad Cynllun Glastir yn angenrheidiol;
iv) lle bo newidiadau i Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 neu gyfnod unrhyw Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru ddilynol, yn gwneud newidiadau i weithrediad Cynllun Glastir yn angenrheidiol;
v) lle mae newidiadau i ddarpariaethau cyllidebol Gweinidogion Cymru'n gwneud newidiadau i weithrediad Cynllun Glastir yn angenrheidiol;
vi) os digwydd i Weinidogion Cymru dderbyn bod “force majeure” yn berthnasol.
4.2.1.2 Lle mae Gweinidogion Cymru'n terfynu'r Contract yn unol â chymal 4.2.1.1 (ii), fe all fod yn ofynnol yn unol â'r Rheoliadau i Weinidogion Cymru wahardd y Buddiolwr rhag mynd i mewn i xxxxxx xxx gytundeb newydd xxx gynllun sy'n seiliedig ar ardal Datblygu Gwledig am gyfnod o ddim mwy xx xxx flynedd i ddyddiad terfynu'r Contract.
4.2.2 Terfynu gan y Buddiolwr.
4.2.2.1 Os digwydd i'r Buddiolwr derfynu'r Contract hwn cyn i dymor yr ymrwymiad ddod i ben, yn amodol ar ddarpariaethau Cymal 4.4 (Trosglwyddo neu Werthu Tir y cynhelir y prosiect arno) a Chymal 7 (”force majeure”), gall Gweinidogion Cymru, yn unol â'r Rheoliadau, gymryd camau i adennill taliadau a wnaed i'r Buddiolwr xxx y Contract gyda llog.
4.3 Rhanddirymiadau
4.3.1 Gall Gweinidogion Cymru, mewn amgylchiadau eithriadol, ar dderbyn cais ysgrifenedig gan y Buddiolwr, ddarparu awdurdod ysgrifenedig i
ganiatáu rhanddirymiad dros dro o ofynion yn y Contract.
4.3.2 Bydd y Buddiolwr yn cyflwyno cais am randdirymiad i Weinidogion Cymru trwy RPW Ar-lein cyn y digwyddiad a chan roi amser i Weinidogion Cymru ystyried y cais a fyddai, pe bai'n cael ei wrthod, yn dal i ganiatáu i'r Buddiolwr wireddu ei ymrwymiadau cytundebol.
4.3.3 Bydd Gweinidogion Cymru'n pennu terfynau amser ar gyfer unrhyw amrywiadau o'r fath a ganiateir.
4.3.4 Rhaid i'r Buddiolwr gadw at delerau'r Contract nes y caiff gadarnhad bod cais am randdirymiad wedi cael ei gymeradwyo.
4.3.5 Gall Gweinidogion Cymru derfynu'r Contract hwn os digwydd i'r Buddiolwr fethu â chael rhanddirymiad ysgrifenedig ac amrywio'r Contract y cytunwyd arno.
4.4 Trosglwyddo neu Werthu Tir y cynhelir y prosiect arno
4.4.1 Rhaid i'r Buddiolwr hysbysu Gweinidogion Cymru os bydd yn trosglwyddo neu’n gwerthu Tir y Contract, gan gynnwys newid deiliadaeth y tir a/neu denantiaeth, o fewn 30 diwrnod calendr i'r digwyddiad. O beidio â gwneud, gellid gofyn am ad-dalu’r taliadau neu derfynu’r contract.
4.4.2 Os digwydd i dir y Contract gael ei werthu neu ei drosglwyddo cyn i'r Prosiect y cytunwyd arno gael ei gwblhau, caiff y Contract ei ganslo ac ni wneir unrhyw daliad.
4.5 Gwaharddiadau o Themâu Grantiau Bach Glastir yn y dyfodol
4.5.1 Os nad ydych yn cwblhau 80% x xxxxx y Prosiectau o fewn thema gyfan, yna byddwch yn cael xxxx gwahardd rhag ceisio am Themâu Grantiau Bach Glastir am ddwy flynedd.
5. Archwiliadau a Chadw Cofnodion
5.1 Bydd Gweinidogion Cymru neu eu hasiantau'n cynnal archwiliadau a allant fod yn ddirybudd neu o fewn cyfnod cyfyngedig iawn o rybudd.
5.2 Bydd y Buddiolwr:
i) yn caniatáu i swyddogion awdurdodedig priodol Gweinidogion Cymru neu Unigolyn Awdurdodedig fynd i Dir y Contract a'i archwilio ar xxx xxxx resymol, at ddibenion canfod cydymffurfiad priodol gyda thelerau'r Contract hwn;
ii) yn rhoi pob cymorth rhesymol i Unigolyn Awdurdodedig mewn perthynas â'r Contract. Bydd y Buddiolwr yn mynd gyda'r Unigolyn Awdurdodedig ar yr archwiliad os bydd yr Unigolyn Awdurdodedig yn ystyried bod angen hynny.
5.3 Rhaid i'r Buddiolwr sicrhau bod unrhyw wybodaeth, llyfrau cofnodion (gan gynnwys Dyddiaduron Gwaith a Stocio lle bo'n briodol), cyfrifon, derbynebau neu ddata arall ar gael i Weinidogion Cymru, gan gynnwys mynediad at ddata cyfrifiadur y gall yr Unigolyn Awdurdodedig ofyn yn rhesymol amdano at ddibenion dilysu cydymffurfiad â thelerau'r Contract.
5.4 Bydd y Buddiolwr yn darparu'r wybodaeth honno o fewn y cyfnod a bennir gan Weinidogion Cymru a rhaid iddo ganiatáu i'r Unigolyn Awdurdodedig gymryd copïau neu ddyfyniadau o unrhyw rai o'r dogfennau neu gofnodion hynny.
5.5 Bydd y Buddiolwr yn cadw'r xxxx anfonebau, cyfrifon neu ddogfennau eraill sy'n ymwneud ag ymrwymiadau'n dilyn taliad terfynol y cynllun, gan gynnwys copïau o ddogfennau gwreiddiol, am ddeng mlynedd.
5.6 Bydd y Buddiolwr yn cydsynio i Weinidogion Cymru gysylltu ag awdurdodau perthnasol eraill i geisio datgelu gwybodaeth yn unol ag unrhyw ymholiadau y gall Gweinidogion Cymru fod am eu gwneud i ddilysu gwybodaeth a ddarparwyd gan y Buddiolwr.
5.7 Bydd y Buddiolwr, ar gais, yn darparu manylion unrhyw daliadau a dderbyniwyd xxx xx'n ddyledus gan unrhyw gorff y llywodraeth neu gorff cyhoeddus, neu bolisi yswiriant, mewn perthynas â Thir y Contract, i Weinidogion Cymru.
5.8 Bydd y Buddiolwr yn hysbysu Gweinidogion Cymru ar unwaith os bydd yn derbyn unrhyw gynnig o gyllid neu gytundeb mewn perthynas â rheoli unrhyw ran o Dir y Contract gan unrhyw unigolyn neu gorff ar wahân i Weinidogion Cymru.
5.9 Bydd y Buddiolwr yn caniatáu i swyddogion Gweinidogion Cymru, Unigolyn Awdurdodedig neu gontractiwr trydydd parti fynd at Dir y Contract at ddibenion monitro a gwerthuso canlyniadau cynllun ar unrhyw adeg yn ystod tymor y Contract.
5.10 Mae'r Buddiolwr a Gweinidogion Cymru yn cytuno y bydd unrhyw ymddygiad sydd cystal â gwrthodiad i ganiatáu archwiliad, methiant i gydweithio â'r cais am archwiliad, rhwystro Unigolyn Awdurdodedig rhag archwilio, neu heb roi cymorth rhesymol yn cael ei drin fel tor-Contract yn unol â Chymal 6, a bydd yn arwain at ostwng, dileu neu adennill taliadau o xxx Gynllun Glastir ac unrhyw gynlluniau Polisi Amaethyddol Cyffredin eraill.
6. Cosbau a Thramgwyddau
6.1 Gall Gweinidogion Cymru osod cosbau, a allant arwain at wrthod talu, xxxxx xx'n rhannol neu'n llawn, gan gynnwys terfynu’r contract, am:
Anghysondebau a thramgwyddau wrth hawlio Gwaith Cyfalaf
6.2 Gwariant Anghymwys
6.2.1 Gall Gweinidogion Cymru ganfod gwariant anghymwys trwy archwiliadau gweinyddol, delweddu lloeren neu ar archwiliadau fferm a byddant yn hysbysu'r Buddiolwr trwy RPW Ar-lein.
6.2.2 Bydd Gweinidogion Cymru'n gwrthod y cyllid a hawlir, neu'n tynnu'r cyllid yn ôl, os nad yw'r Buddiolwr yn cydymffurfio â'r ymrwymiadau, gan gynnwys y manylebau technegol, a gynhwysir yn y Contract hwn.
6.2.3 Os bydd Gweinidogion Cymru'n penderfynu bod rhan o'r xxxxxx xxx'r xxxx gostau'n anghymwys, ni wneir taliad am y costau anghymwys. Os bernir bod cyfanswm y costau anghymwys yn fwy na 10% o'r costau cymwys, bydd cyfanswm cyfwerth â gwerth y costau anghymwys yn cael ei dynnu o'r taliad.
6.2.4 Os gwelir bod llai nac 80% x xxxxx unrhyw thema wedi cael ei gwblhau'n foddhaol, xxxxxxx xxxx xxxx gwahardd rhag gwneud cais am Xxxxx Xxxx Glastir am ddwy flynedd (gweler cymal 4.5).
6.2.5 Bydd Gweinidogion Cymru'n gwrthod y cyllid a hawlir, neu'n tynnu'r cyllid yn ôl yn llawn, lle y gwelir bod y Buddiolwr wedi darparu tystiolaeth ffug er mwyn derbyn y cyllid, neu heb ddarparu'r wybodaeth angenrheidiol oherwydd esgeulustod.
6.2.6 Os bydd y Buddiolwr yn gwneud datganiad ffug neu heb hysbysu Gweinidogion Cymru am newid perthnasol, gellid ei xxxxx.
6.2.7 Bydd Gweinidogion Cymru’n hysbysu’r Buddiolwr yn ystod y cam talu am fanylion unrhyw ostyngiad neu waharddiad iddo
6.3 Anghysondebau a thramgwyddau wrth hawlio Prosiect
6.3.1 Os na chaiff prosiect ei gynnal, neu os na chaiff ei gynnal yn unol â'r hyn a nodir yn yr atodlen, ac y gwelir bod llai nag 80% x xxxxx unrhyw thema wedi’i chwblhau’n foddhaol, gellid ystyried xxxx eithrio rhag cael ceisio am Xxxxx Xxxx Glastir am ddwy flynedd (gweler cymal 4.5).
6.4 Adennill Taliadau
6.4.1 Mae'n ofynnol mewn amgylchiadau penodol i Weinidogion Cymru adennill taliadau'n llawn neu'n rhannol a xxxxxxx arfer y pwerau hyn yn unol â Rheoliad 10 o Reoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2014 fel y'i diwygiwyd.
6.5 Gweithredu Llog
6.5.1 Os digwydd i Weinidogion Cymru fod angen adennill unrhyw swm a dalwyd, bydd y Buddiolwr yn ad-dalu'r cyfanswm xxx sylw gyda llog, ble y bo'n berthnasol.
6.5.2 Bydd Gweinidogion Cymru'n cyfrifo llog ar gyfer y cyfnod rhwng y dyddiad cau ar gyfer taliad gan y Buddiolwr, a nodir yn y gorchymyn adennill, a xxxxx xx ddyddiad yr ad-daliad neu’r didyniad, ac ni fydd am gyfnod hwy na 60 diwrnod.
6.5.3 Bydd Gweinidogion Cymru'n cyfrifo'r gyfradd llog i'w gweithredu yn unol â graddfa LIBOR ar y diwrnod hwnnw, gydag ychwanegiad o 1%.
7. “Force Majeure”
7.1 Gall Gweinidogion Cymru, o xxx xxx amgylchiadau, dderbyn bod Buddiolwr wedi cael ei rwystro rhag cyflwyno hawliad neu gyflawni'r gwaith o fewn terfyn amser penodol oherwydd force majeure neu amgylchiadau eithriadol.
7.2 Gall Gweinidogion Cymru, o xxx xxx amgylchiadau, dderbyn na all Buddiolwr gydymffurfio â'i ymrwymiadau a gellir caniatáu iddo gadw'r hawl i dderbyn
cymorth ar gyfer y tir cymwys ar yr adeg pan gafwyd achos o force majeure neu amgylchiadau eithriadol.
7.3 Mae enghreifftiau o amgylchiadau a allant olygu force majeure yn cynnwys y canlynol:
• marwolaeth y Buddiolwr;
• analluogrwydd proffesiynol hirdymor y Buddiolwr;
• trychineb naturiol difrifol sy'n cael effaith enbyd ar y daliad;
• dinistrio adeiladau da byw ar y daliad yn ddamweiniol;
• difeddiant o ran mawr o'r daliad na ellid bod wedi ei ragweld ar y diwrnod yr arwyddwyd y Contract hwn;
• clefyd episöotig neu glefyd mewn planhigyn sy'n effeithio ar ran neu xxxx dda byw neu gnydau'r Buddiolwr.
7.4 Rhaid i'r Buddiolwr gyflwyno tystiolaeth berthnasol yn ysgrifenedig i fodloni Gweinidogion Cymru mewn achos o force majeure o fewn 15 diwrnod gweithio i'r Buddiolwr, neu unigolyn sydd â hawl i weithredu ar ei ran, fod mewn sefyllfa i wneud hynny.
7.5 Os nad yw’r Buddiolwr wedi gallu cyflawni ymrwymiad o ganlyniad i force majeure neu amgylchiadau eithriadol, gall Gweinidogion Cymru dynnu cyfran o'r taliad priodol yn ôl ar gyfer y blynyddoedd pan ddigwyddodd yr achos o force majeure neu amgylchiadau eithriadol. Ni fydd tynnu cyfran o'r taliad priodol yn ôl ond yn berthnasol i'r rhannau hynny o'r ymrwymiad lle na chafwyd costau ychwanegol neu incwm rhagweladwy cyn i'r force majeure neu amgylchiadau eithriadol ddigwydd.
7.6 Ni fydd tynnu taliad yn ôl yn berthnasol o ran meini prawf cymhwysedd ac ymrwymiadau eraill ac ni fydd cosb weinyddol yn berthnasol.
8. Y Drefn Apelio
8.1 Os digwydd bod y Buddiolwr am herio penderfyniad gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â'i gontract neu daliad Grantiau Bach Glastir, gall wneud cais ysgrifenedig o fewn 60 diwrnod i ddyddiad y llythyr yn ei hysbysu am benderfyniad Gweinidogion Cymru. Mae manylion yr apeliadau, sy’n digwydd mewn dau gam, ar gael gan Ganolfan Gyswllt Cwsmeriaid Taliadau Gweledig Cymru.
8.2 Os yw Buddiolwr yn anfodlon â'r ffordd mae ei achos wedi cael di drin, gellir cwyno xxx xxxxxx a gweithdrefn cwynion Llywodraeth Cymru. Mae cyngor ar gael gan Ganolfan Gyswllt Cwsmeriaid Taliadau Gwledig Cymru.
9. Diogelu data: Hysbysiad Prosesu Teg a Datgelu Gwybodaeth
9.1 Deddf Diogelu Data 1998: Hysbysiad Preifatrwydd
9.1.1 Mae'r hysbysiad hwn yn rhoi gwybod i'r Buddiolwr sut bydd Gweinidogion Cymru'n defnyddio'r wybodaeth a gedwir ac a gesglir mewn perthynas â'r Contract hwn neu unrhyw ddogfen arall sy'n cael ei defnyddio, ei chreu neu ei chasglu mewn perthynas â'r Contract hwn. Bydd defnydd Gweinidogion Cymru o'r wybodaeth yn cynnwys rhannu rhywfaint o wybodaeth gydag asiantaethau a chyrff cyhoeddus eraill, a sicrhau bod rhywfaint o wybodaeth ar gael i'r cyhoedd.
9.1.2 Caiff y wybodaeth ei phrosesu a'i rheoli gan Weinidogion Cymru yn unol â’u hymrwymiadau a'u dyletswyddau xxx y rheoliadau Ewropeaidd canlynol:
• Rheoliad y Cyngor (UE) Rhif 1306/2013
• Rheoliad y Comisiwn (UE) Rhif 640/2014
• Rheoliad y Comisiwn (UE) Rhif 809/2014
• Rheoliad y Comisiwn (UE) Rhif 907/2014
• Rheoliad y Comisiwn (UE) Rhif 908/2014
• Rheoliad y Cyngor (UE) Rhif 1307/2013
• Rheoliad y Cyngor (UE) Rhif 1305/2013
• Rheoliad y Comisiwn (UE) Rhif 807/2014
• Rheoliad y Comisiwn (UE) Rhif 808/2014
9.1.3 Bydd yr wybodaeth yn cael ei defnyddio'n bennaf at ddibenion dilysu cydymffurfiad â'r Contract a phrosesu ceisiadau am daliadau. Fodd bynnag, caiff Gweinidogion Cymru (neu eu hasiantau) ddefnyddio'r wybodaeth a ddarparwyd at ddibenion eraill hefyd, a fydd yn cynnwys y rhai sy'n gysylltiedig â'u swyddogaethau a dyletswyddau xxx Xxxxxx Amaethyddol Cyffredin y Gymuned Ewropeaidd a chyda'u hymrwymiadau amgylcheddol statudol.
9.2.1 Bydd y wybodaeth a ddarparwyd gan y Buddiolwr yn cael ei defnyddio'n bennaf at ddibenion sy'n gysylltiedig â'u swyddogaethau a dyletswyddau xxx Xxxxxx Amaethyddol Cyffredin y Gymuned Ewropeaidd a chyda'u hymrwymiadau amgylcheddol statudol.
9.2.2 Gellir defnyddio'r wybodaeth fel a ganlyn:
• Trawsgydymffurfio a chroeswirio rhwng sefydliadau partner er mwyn sicrhau nad oes neb yn torri rheolau cynllun y rhaglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 y mae pob un yn ei weinyddu.
• Gweinyddu ceisiadau.
• Cynhyrchu a chyhoeddi mapiau sy'n dangos y tir sy'n rhan o'r cytundebau.
• Llunio adroddiadau o ddata o wahanol ffynonellau ar gyfer eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.
• Paratoi dadansoddiadau ystadegol cryno (na fydd modd adnabod unigolion trwyddynt).
• Llywio penderfyniadau sy’n gysylltiedig â newid polisi a chyllid.
• Adnabod perchnogion/defnyddwyr tir mewn argyfwng, e.e. rheoli clefydau a rheoli tramgwyddau.
• Diogelu xxxx ymgeisydd mewn cadwraeth tir a materion a all godi yn sgil ymholiadau am gyllid.
• Datgelu gwybodaeth i awdurdodau rheoleiddio, fel Tollau a Chyllid Ei Mawrhydi a’r heddlu, os oes xxxx i’r cyhoedd o wneud hynny.
• Cyhoeddi gwybodaeth benodol ac ymateb i geisiadau am wybodaeth.
9.3 Rhesymau dros Rannu Data Personol
9.3.1 Bydd gwybodaeth a ddarparwyd gan y Buddiolwr yn cael ei rheoli a'i defnyddio gan Lywodraeth Cymru yn unol â'i hymrwymiadau a'i dyletswyddau o xxx y canlynol:
• Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000
• Deddf Diogelu Data 1998
• Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004
• Rheoliad y Comisiwn (CE) Rhif 908/2014.
9.3.2 Gall gwybodaeth a ddarparwyd gan y Buddiolwr, gan gynnwys gwybodaeth bersonol, fod yn destun cais gan aelod arall o'r cyhoedd. Wrth ymateb i geisiadau o'r xxxx, xxx'n bosibl y bydd gofyn i Lywodraeth Cymru ryddhau gwybodaeth, gan gynnwys xxxx gwybodaeth bersonol.
9.3.3 Bydd ymatebion i geisiadau o'r fath fod yn unol â pholisi diogelu data Llywodraeth Cymru, sydd ar gael yma: xxx.xxxxx.xxx.xx/xxxxxxxxxxxx xxx.xxxxx.xxx.xx/xxxxxxxxxxxx
9.3.4 Yn ôl Rheoliad y Comisiwn rhif 908/2014, rhaid i aelod-wladwriaethau gyhoeddi manylion y symiau a delir i fuddiolwyr (hawlwyr) y Polisi Amaethyddol Cyffredin. Cyhoeddir manylion taliadau pob Buddiolwr sy’n derbyn mwy na €1,250 mewn unrhyw flwyddyn. Cyhoeddir y manylion ar 30 Xxxxxx xxx blwyddyn ar wefan y gellir ei chwilio, a bydd yn cynnwys enw’r busnes a thref agosaf y Buddiolwr a manylion y symiau a'r cynlluniau y talwyd grantiau ar eu cyfer. Ni ddatgelir manylion taliadau buddiolwyr a dderbyniodd lai na €1,250 y flwyddyn honno. Bydd yr wybodaeth ar gael ar wefan DEFRA yn: xxxx://xxx- xxxxxxxx.xxxxx.xxx.xx/
9.4 Hawliau o xxx Ddeddf Diogelu Data 1998
9.4.1 Mae Deddf Diogelu Data 1998 yn rhoi hawliau penodol i unigolion mewn perthynas â’r data personol a gedwir amdanynt. Xxxx xxx enghreifftiau o’r hawliau hyn, er nad yw hon yn rhestr gyflawn:
• yr hawl i unrhyw wybodaeth bersonol a gedwir amdanynt gael ei phrosesu’n deg a chyfreithlon;
• yr hawl i ofyn a chael copïau o’r data personol sydd gan Weinidogion Cymru amdanynt, xx x xxxx Gweinidogion Cymru ddal rhywfaint o ddata yn ôl weithiau neu beidio â darparu copïau;
• yr hawl, o xxx xxx amgylchiadau, i rwystro Gweinidogion Cymru rhag prosesu data personol os byddai gwneud hynny’n gwneud niwed neu’n achosi gofid;
• yr hawl, o xxx xxx amgylchiadau, i ofyn am gywiro gwybodaeth anghywir.
9.4.2 Xxx xxxx gan unigolion hefyd i ofyn i’r Comisiynydd Gwybodaeth, sy’n gorfodi ac yn cadw golwg ar Ddeddf Diogelu Data 1998, farnu a fydd prosesu ei wybodaeth bersonol yn debygol o gydymffurfio ag amodau’r Ddeddf.
9.4.3 Ni chaiff yr wybodaeth fynd y tu xxxxx i’r Undeb Ewropeaidd oni bai bod rheswm da dros wneud hynny (e.e. os bydd achos o glefyd). Os caiff, bydd
Gweinidogion Cymru’n sicrhau bod yr wybodaeth yn dal i gael ei phrosesu yn unol â rheolau Deddf Diogelu Data 1998.
9.5 Gofyn am Ragor o Wybodaeth
9.5 I gael gwybod mwy am yr wybodaeth a fydd yn cael ei chasglu a sut y bydd yn cael ei defnyddio, unrhyw bryderon am gywirdeb data personol, neu os yw'r Buddiolwr am arfer ei hawl o xxx Ddeddf Diogelu Data 1998, dylai gysylltu â Chanolfan Gyswllt Cwsmeriaid Taliadau Gwledig Cymru.
10. Dehongli
10.1 Rhoddwyd penawdau ar y paragraffau er mwyn ei gwneud yn gyfleus i gyfeirio atynt ac ni fyddant mewn unrhyw ffordd yn effeithio ar gystrawen ystyr neu effaith unrhyw xxxx a gynhwysir yn y Contract hwn nac yn llywodraethu hawliau a rhwymedigaethau'r partïon.
11. Llyffetheirio Disgresiwn
11.1 Ni fydd dim yn y Contract hwn yn llyffetheirio neu gyfyngu Gweinidogion Cymru fel arall wrth iddynt arfer eu swyddogaethau o xxx y Rheoliadau.
11.2 Mewn achos o wrthdaro rhwng telerau'r Contract a'r Rheoliadau ac i'r graddau bod unrhyw rai o gymalau'r Contract hwn yn anghymharus neu'n anghyson â'r Rheoliadau, mae'r Partïon yn cytuno mai darpariaethau'r Rheoliadau fydd yn berthnasol.