Teitl: Cynorthwyydd Cymorth Busnes – Lefel 3
Teitl: Cynorthwyydd Xxxxxxx Xxxxxx – Lefel 3
Lleoliad: ICC Blaenau, Blaenau
Cyfarwyddiaeth: Gwasanaethau Corfforaethol a Strategaeth Cyfeirnod Swydd: BG11161
Oriau: 37 awr yr wythnos
Cyflog: Gradd 3 (£19,264 to £20,043 y flwyddyn/pro rata) Contract: Cyfnod Sefydlog tan 31/03/2023
Crynodeb Swydd
Cyfrifol am ddarparu gwasanaeth cymorth gweinyddol cynhwysfawr i’r meysydd dilynol:
• Dechrau’n Deg
• Teuluoedd yn Gyntaf
• Cynnig Gofal Plant
• Blynyddoedd Cynnar
Rydym yn edrych am ymgeiswyr gydag ymagwedd broffesiynol, ansawdd uchel at ddarparu gwasanaeth gan sicrhau y caiff safonau a gofynion gwasanaeth eu cyflawni.
Hysbyseb Lawn
Mae cyfleoedd cyffrous o fewn y Gwasanaeth Cymorth Busnes ar gyfer unigolion brwdfrydig a hyderus a fydd yn ymateb i’r heriau y mae’r gwasanaeth hwn yn eu cyflwyno
Bydd y prif gyfrifoldebau ar gyfer y swyddi hyn yn cynnwys:
• Cynorthwyo gyda gweinyddu ceisiadau / atgyfeiriadau i raglenni Dechrau’n Deg, Blynyddoedd Cynnar, y Cynnig Gofal Plant a Teuluoedd yn gyntaf.
• Cynorthwyo gyda pharatoi gwybodaeth i weithwyr proffesiynol a theuluoedd e.e. taflenni, digwyddiadau hyrwyddo.
• Gweithio gyda Chydlynwyr Rhaglenni a darparu cefnogaeth weinyddol ansawdd uchel.
• Cynorthwyo wrth gynnal cronfeydd data cyfrifiaduron ar gyfer ffigurau mynychu a gwybodaeth perfformiad a ddefnyddir i gynhyrchu dadansoddiad ystadegol.
• Darparu gwasanaeth llanw yn y brif dderbynfa yn ICC pan ofynnir am hynny.
• Archebu drwy system E Bwrcasu.
• Diweddaru taenlenni a chronfeydd data drwy fwydo data.
• Bwydo data i gronfa ddata Gwasanaethau Cymdeithasol (WCCIS).
• Gweinyddiaeth gyffredinol, post, sganio, teipio, llungopïo ac yn y blaen.
• Cynorthwyo o fewn gwasanaeth ehangach Cymorth Busnes gan ddarparu cefnogaeth weinyddol gyffredinol o fewn Gwasanaethau Oedolion a Phlant.
• Mynychu cyfarfodydd a chadw nodiadau manwl.
• Cydymffurfio gyda’r Ddeddf Diogelu Data a chadw cyfrinachedd xxx amser.
• Cydymffurfio gydag egwyddorion y polisi corfforaethol ar Gydraddoldeb a sicrhau ymrwymiad i ymarfer gwrthwahaniaethol.
Bydd profiad o weithio mewn amgylchedd cymorth busnes a xxxxx gydag amrywiaeth xxxx o geisiadau a materion ynghyd â gwybodaeth gron o wasanaethau’r Cyngor yn fanteisiol iawn yn y swydd hon.
Cymeradwywyd Lwfans Defnyddiwr Car Achlysurol ar gyfer y swydd felly xxx xxxxx mynediad i gerbyd ar gyfer dibenion gwaith.
Cynhelir sgrinio trwyadl cyn-cyflogaeth yn ystod y broses recriwtio.
Dyddiad Cau: 14eg Mehefin 2022 Dyddiad Cyfweliadau: TBC