CANLLAWIAU
CANLLAWIAU
Taliadau Gwledig Cymru (RPW): y diweddaraf am y gwasanaeth ar coronafeirws (COVID-19) a contractau'r Grant Cynhyrchu Cynaliadwy (SPG)
Y diweddaraf ar gontractau'r Grant Cynhyrchu Cynaliadwy yr effeithir arnynt gan y coronafeirws.
Cyhoeddwyd gyntaf: 26 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf: 28 Medi 2020
Cynnwys
Canolfan cyswllt cwsmeriad (diweddarwyd ar 8 Gorffennaf) Cwestiynnau cyffredin (diweddarwyd 28 Medi)
Rydym wedi cyhoeddi cyngor a gwybodaeth am:
• unigolion
• busnesau a chyflogwyr
• y sector cymdeithasol, cymunedol a gofal preswyl
• y sector addysg
Mae’r cyngor hwn i’w weld yn xxxxx://xxxx.xxxxx/xxxxxxxxxxxx.
Mae Llywodraeth y DU wedi llunio cynllun gweithredu ar sut mae’r DU wedi cynllunio a pha gamau pellach fydd yn cael eu cymryd i fynd i’r afael â’r coronafeirws.
Diben y canllawiau uchod yw helpu unigolion a busnesau i baratoi ar gyfer lleihau risgiau ac effaith ac rydym yn argymell. Os nad ydynt wedi gwneud hynny eisoes, y dylai’r rheini a allai elwa arnynt eu darllen.
Mae'r argyfwng byd-xxxx coronafeirws yn effeithio arnom i gyd. Ein blaenoriaeth gyntaf yw cynnal iechyd y cyhoedd yn unol â chyngor y Llywodraeth. Tra’n anelu at barhau i wasanaethu ein cwsmeriaid, drwy y cynlluniau grant amrywiol a gwahanol sydd gan Raglen Datblygu Gwledig 2014-20.
Rydym yn cydnabod bod y sefyllfa hon yn datblygu’n gyflym iawn gyda’r cyngor yn debygol o newid ar fyr-rybydd. Gan ystyried hyn, byddwn yn ceisio gwneud penderfyniadau cyn gynted â phosibl a fesul achos, tra’n ystyried pob cyngor swyddogol yn ystod y cyfnod hwnnw.
Os ydych yn gweld bod coronavirus yn cael effaith ar xxxx gallu i gyflawni xxxx
prosiect, cysylltwch â ni ar unwaith, drwy'ch cyfrif RPW ar-lein.
Canolfan cyswllt cwsmeriad (diweddarwyd ar 8 Gorffennaf)
Mae ein Canolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW yn gweithredu gyda llai o adnoddau. Mae hyn oherwydd absenoldeb staff ac addasiadau i weithio gartref.
O ddydd Mercher 6ed Ionawr amseroedd agor newydd y Ganolfan Gyswllt Cwsmer fydd:
Cyfnod Oriau agor
Dydd Llun i ddydd Gwener 9:00yb i 4:00yh
Fodd bynnag, mae’r gwasanaeth wedi’i gyfyngu ar hyn x xxxx i alwadau am hawliadau a chroniadau erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.
Cwestiynnau cyffredin (diweddarwyd 28 Medi)
Cafodd y ddogfen Cwestiynau Cyffredin hon ei chyhoeddi ar gyfer y rheini sy’n derbyn y Grant Cynhyrchu Cynaliadwy i gyfeirio ati cyn cysylltu ag RPW.
C1. Dyddiad cau ar gyfer hawlio – hawliadau â ‘phroffil darparu’ hyd at a chan gynnwys Mawrth 2020. A oes xxx xxxxx imi gyflwyno fy hawliad yn unol â gofyn fy nghontract SPG?
Bydd gofyn ichi hawlio erbyn 6 Ebrill pob gwariant a wnaed ym mlwyddyn ariannol 2019/20 ar eitem fuddsoddi sydd wedi’i chwblhau. Gofalwch xxxx bod hawlio trwy’r adran Hawlio Gwaith Cyfalaf yn xxxx cyfrif RPW Ar-lein a’ch bod yn cyflwyno’r dystiolaeth ddogfennol sydd xx xxxxxx.
Os na fyddwch chi’n gallu hawlio erbyn 6 Ebrill ond bod gennych dystiolaeth o’ch gwariant, er enghraifft anfonebau, cyflwynwch y dystiolaeth trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein erbyn 6 Ebrill er mwyn inni allu neilltuo’ch taliad.
Os nad ydych wedi gallu
• cwblhau’r eitem fuddsoddi yn unol â’r gofyn ac felly nid ydych wedi gallu hawlio erbyn 6 Ebrill
• na chyflwyno tystiolaeth o’ch gwariant
rhowch wybod inni trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein gan esbonio xxx a nodi pryd y byddwch yn gallu cwblhau’r eitem. Bydd RPW yn ystyried xxxx achos yn ôl ei rinweddau gan ystyried achosion o force majeure/amgylchiadau eithriadol.
C2. Proffil darparu – a gawn ni newid y proffil darparu sydd eisoes wedi’i gyflwyno?
Os ydych wedi datgan y byddwch yn cwblhau’ch eitem ar ôl Mawrth 2020 ac yr hoffech ei newid, rhowch wybod inni trwy’ch cyfrif RPW Ar-xxxx xx esbonio xxx.
C3. Xxx’r coronafeirws yn effeithio ar fy ngallu i gynnal y prosiect ac yn achosi ansicrwydd
Rydym yn sylweddoli y tarfu a’r ansicrwydd sy’n cael ei achosi gan y coronafeirws. Efallai xxxx bod yn gwybod bod angen estyniad ar xxxx prosiect ond nad ydych yn gwybod faint. Os felly, cewch oedi’ch prosiect tan ichi fod mewn sefyllfa i ofyn am estyniad.
Rhoch wybod inni trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein.
C4. Xxxx fydd effaith xxxxx xxxx prosiect?
Os nad ydych yn gallu cynnal xxxx prosiect yn unol â’r bwriad oherwydd y feirws, byddwn yn ystyried pob achos yn ôl ei rinweddau, fel pob sefyllfa arall lle gallai force majeure/amgylchiadau eithriadol fod wedi’ch rhwystro rhag cadw at y contract. Fe fyddwn wrth gwrs yn dangos cydymdeimlad ac yn ystyried
estyniadau ac ati yn ôl y gofyn.
C5. Archwiliadau ar y safle (diweddarwyd 28 Medi)
Mae Taliadau Gwledig Cymru wedi bod yn monitro’r sefyllfa o ran COVID-19 yn ofalus ac wedi bod yn asesu’r peryglon o ran iechyd i archwilwyr a hawlwyr. Yn sgil hyn mae wedi cyflwyno mesurau lliniaru priodol i’w dilyn. Mae archwiliadau ar safleoedd wedi ailddechrau ers 6 Gorffennaf a byddant yn parhau, gan sicrhau bod y gweithdrefnau perthnasol o ran iechyd a diogelwch yn cael eu dilyn. Mae’r rhain yn cyd-fynd â chanllawiau diweddaraf y Llywodraeth ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae Taliadau Gwledig Cymru wedi cyflwyno proses sy’n wahanol i’r gofynion ynghylch archwiliadau yn y fan a’r lle. Yn hytrach na chynnal ymweliad â safle gofynnwyd i hawlwyr:
• gyflwyno ffotograffau â geotag o waith sydd wedi’i gwblhau ynghyd
• thystiolaeth ddogfennol sy’n dangos cydymffurfiaeth â rheolau cynlluniau.
Mae Taliadau Gwledig Cymru xxxxxxx wedi argymell y dylid cynnal ymweliadau yn y fan a’r lle gyda gweithdrefnau iechyd a diogelwch yn eu lle.
Byddwn yn gofyn i gwsmeriaid, lle y bo’n bosibl, ddarparu copïau electronig o’u cofnodion. Os nad yw hyn yn bosibl byddwn yn dilyn canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol a gweithdrefnau diheintio wrth archwilio cofnodion.
Byddwn yn parhau i fonitro’r sefyllfa o ran COVID-19 yn ofalus, gan asesu’r peryglon o ran iechyd a’r camau lliniaru y xxx xxxxx eu cymryd xxx amser.
Ynghylch y ddogfen hon
Mae’r ddogfen hon yn xxxx o’r dudalen we Taliadau Gwledig Cymru (RPW): y diweddaraf am y gwasanaeth ar coronafeirws (COVID-19) a contractau'r Grant Cynhyrchu Cynaliadwy (SPG) a lawrlwythwyd.
Ewch i xxxxx://xxxx.xxxxx/xxxxxxxx-xxxxxxx-xxxxx-xxx-x-xxxxxxxxxx-xx-x- gwasanaeth-ar-coronafeirws-covid-19-contractaur-grant i weld y fersiwn ddiweddaraf.
Efallai na fydd y ddogfen hon yn hollol hygyrch; darllenwch ein datganiad hygyrchedd i gael rhagor o wybodaeth.
Gwybdaeth am hawlfraint.
Cafodd y ddogfen hon ei lawrlwytho o XXXX.XXXXX, efallai nad dyma'r fersiwn mwyaf diweddar.
Ewch i xxxxx://xxxx.xxxxx/xxxxxxxx-xxxxxxx-xxxxx-xxx-x-xxxxxxxxxx-xx-x-xxxxxxxxxx-xx-xxxxxxxxxxxx- covid-19-contractaur-grant i weld y fersiwn ddiweddaraf.
Gwybdaeth am hawlfraint.