Swydd Ddisgrifiad
Swydd Ddisgrifiad
Teitl Swydd: Datblygu Prosiect
Oriau a lleoliad: 35 awr yr wythnos o swyddfa Gaerdydd
Cyflog: £22,221 - £26,276
Gwyliau: 23 diwrnod y flwyddyn
Cyfnod prawf: 6 mis
Hyd Contract: Parhaol (yn amodol ar ariannu)
Yn atebol i: Rheolwr Cyfathrebu
Gweledigaeth: i roi grym i bobl a chymunedau i greu newid positif
Bwriad: i wrando, torri rhwystrau ac adeiladu pontydd er mwyn cyflwyno newid positif a pherthnasau parhaol rhwng unigolion, teuluoedd a chymunedau, yn darparu datrysiadau arloesol a chreadigol gyda sgyrsiau ystyrlon, technoleg ddigidol a chyd-weithio
PRIF BWRPAS Y SWYDD
Mae ProMo-Cymru yn elusen gyda ffocws pendant ar gyflwyno newid positif a pherthnasau parhaol rhwng pobl ifanc, teuluoedd a chymunedau. Rydym yn darparu datrysiadau arloesol a chreadigol trwy gyd-weithio a thechnoleg ddigidol.
Rydym yn chwilio am Gydlynydd Prosiect sydd yn drefnus, yn cael ei yrru ac yn gyfrifol gyda'r gallu i gynnal nifer o brosiectau bach yn gydamserol. Mae'r swydd yn golygu gweinyddu a threfnu xxxx weithgareddau prosiect mewn cydweithrediad â'r Rheolwr Cyfathrebu a'r xxx ehangach.
Xxxxxx glywed gan ymgeiswyr gyda sgiliau cyfathrebu a chynllunio gwych, sydd yn gweithio ar liwt ei hun ac yn ffynnu ar yr her o gyflawni a datblygu nifer o brosiectau ar yr un pryd.
Mae ProMo-Cymru yn gwerthfawrogi unigolion hyblyg sydd yn awyddus i ddatblygu eu hunain, y prosiectau a ProMo-Cymru. Byddem yn annog ac yn disgwyl i bobl ddatblygu sgiliau newydd ac i gymryd cyfrifoldebau newydd. Gall hyn gynnwys bod yn rhan o'r llinellau cymorth, rheoli agweddau o newid, a helpu eraill i ddatblygu. Darparir hyfforddiant ble mae'n ofynnol. Rydym yn chwilio am y bobl gywir sydd yn rhannu ac yn gweithio tuag at werthoedd ac ethos ProMo-Cymru.
Am wybodaeth xxxxxxx amdanom ni a'n prosiectau ymwelwch â: ProMo-Cymru: xxx.xxxxx.xxxxx
PRIF DDYLETSWYDDAU
I gydlynu nifer o brosiectau bach yn gydamserol yn sicrhau eu bod yn cyrraedd eu hamcan ac yn cael eu cyflwyno i safon uchel
Helpu i baratoi cynigion prosiect, amserlenni, rhaglenni, cyllidebau, anfonebau a chynlluniau gweithredu
Cysylltu â chleientiaid i ddiffinio gofynion ac amcanion y prosiect yn ogystal ag adeiladu a chynnal perthnasau cryf â chleientiaid
Cynnal cyfathrebiad ardderchog xxxx xxxx hapddalwyr, yn sicrhau bodlonrwydd â'r gwasanaethau derbyniwyd
Cydlynu gwaith aelodau'r xxx prosiect ac ymddwyn fel pwynt cyswllt i gyfathrebu statws pob prosiect i'r sefydliad ehangach
Defnyddio offer rheolaeth prosiect addas i fonitro a thracio prosiect a chyllideb
Gosod a monitro canlyniadau prosiect a dangosyddion perfformiad allweddol a chynhyrchu adroddiadau pan yn ofynnol
Hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o wasanaethau ProMo-Cymru yn allanol
Siarad, cyflwyno a chynnal gweithdai i godi ymwybyddiaeth o'r prosiectau yma, cysylltu a hyrwyddo gwasanaethau i gynulleidfaoedd amrywiol
Trefnu a chyflwyno gweithdai/hyfforddiant gyda'r bwriad o gysylltu ag amrywiaeth xxxx o bobl ifanc, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol fel sy'n ofynnol
Trefnu arddangosfeydd a chymryd rhan mewn digwyddiadau fel sy'n addas ac yn ofynnol
Cyfrannu i gynnwys, ymgyrchoedd, a gweithgaredd cyfryngau cymdeithasol (neu debyg) fel sy'n addas ac yn ofynnol
Cyfrannu i ddatblygiad busnes newydd, ceisiadau ariannu a chynlluniau cynaladwyedd
Yn ychwanegol i'r dyletswyddau a chyfrifoldebau uchod bydd disgwyl i'r un sydd yn dal y swydd i gyflawni unrhyw ddyletswyddau a thasgau gofynnol i sicrhau bod y prosiect yn cyfarfod ei ganlyniadau a'i amcanion yn llwyddiannus.
MANYLEB A PHROFIAD PERSON:
Gall y swydd ddisgrifiad yma fod yn destun i adolygiad a chael ei newid i gynnwys y fath ddyletswyddau a chyfrifoldebau fel penderfynwyd mewn ymgynghoriad â'r un sydd yn dal y swydd. Nid yw'n fwriad iddo fod yn anhyblyg, ond dylid ei ystyried fel darparu fframwaith mae'r unigolyn yn gweithio iddo.