Teitl: Swyddog Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd
Teitl: Swyddog Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd
Lleoliad: Geithio Ystwyth / Canolfan Plant Integredig Calon y Cymoedd NP13 3BN
Cyfarwyddiaeth: Gwasanaethau Cymdeithasol Rhif Safle: BG01465
Cyflog: Grade 6 (£26,975 - £30,984 y flwyddyn)
Oriau: 37awr (5 Diwrnod)
Contract: Tymor Penodol – Mawrth 2023
Crynodeb o’r Swydd
Rydyn ni’n chwilio am gyfathrebwr brwdfrydig, hyblyg cryf eu cymhelliad ac effeithiol i ymuno â’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd fel Swyddog Gwybodaeth i Deuluoedd.
Hysbyseb Lawn
I gynllunio, arwain a rheoli’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (GGD) i sicrhau fod y gwasanaeth yn cwrdd â’r rhwymedigaethau statudol fel y’u diffinnir yn y gofynion deddfwriaethol a’r safonau cenedlaethol.
Darparu’r gwasanaeth uchod yn unol ag Arweiniad Strategol Llywodraeth Cymru i Wasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd Darparu Gwybodaeth o Ansawdd i Deuluoedd gyda’i Gilydd’.
I fod yn atebol am wella’r gwasanaeth a rheoli perfformiad, sicrhau fod gwasanaethau yn ymatgeb i anghenion y gymuned leol a bod targedau/amcanion perthynol y llywodraeth yn cael eu cyflawni.
I fod â chyfrifoldeb cyffredinol am gronfa ddata GGD, gan sicrhau fod y data’n gywir ac wedi;’i diweddaru ac ar gael yn rhwydd trwy ystod o daclua megis gwefannau.cyfryngau cymdeithasol a chyhoeddiadau i rieni, teuluoedd, staff a gweithwyr proffesiynol y rheng flaen.
I gynllunio, arwain a chyflenwi elfen estyn allan GGD sy’n cymryd y gwasanaethau i’r gymuned.
Rheoli’r Swyddog Cymorth Gwybodaeth i Deuluoedd, gan sicrhau fod gwaith o ddydd i ddydd yn cael ei gynnal.
Mae cyfrifoldeb ar ddeiliad y swydd i arddangos ymrwymiad i gyflenwi gwasanaeth o ansawdd trwy welliant parhaus er lles y Gwasanaeth a’r Awdurdod Lleol.
Oriau gwaith: Bydd gofyn i ddeiliad y swydd fod ar gael am hyd at 37 awr yr wythos. Noder: Ar hyn o xxxx, xxx’r swydd hon wedi’i gyllido hyd at 31ain Mawrth 2023.
Ymgymerir â sgrinio cyn cyflogaeth trylwyr yn ystod y broses recriwtio. Bydd gofyn i ddeiliad y swydd gwblhau cais am Ddatgeliad Cofnodion Troseddol.
Fe fydd neu fe fydd gan yr ymgeisydd:
• HND/C mewn Gweinyddu Busnes neu gymhwyster cyfatebol cydnabyddedig.
• Profiad sicr o weithio mewn gwasanaethau rheng flaen a chyflenwi gwybodaeth i’r cyhoedd.
• I fod wedi ennill cymhwyster rheoli.
• Arbenigwr yn rheoli cronfeydd data, i sicrhau fod y systemau gwybodaeth sydd mewn grym yn casglu gwybodaeth yn gywir ac yn dethol adroddiadau perthnasol.
• I fynychu digwyddiadau cymunedol yn ystod yr wythnos ac o leiaf un penwhythnos y mis, cyfarfodydd rheolaidd a hyfforddiant penwythnos a thu xxxxx i oriau swyddfa arferol, pryd bynnag y bo’r angen.
• Profiad o weithio’n effeithiol mewn cydweithrediad ag ystod xxxx o bartneriaid mewnol ac allanol, gan gynnwys mudiadau a grwpiau statudol ac anstatudol.
• Profiad o reoli/goruchwylio staff.
• Profiad o ddefnyddio systemau cynnwys a reolir ar gyfer gwybodaeth ar y we.
• Y gallu i ddelio ag aelodau o’r cyhoedd a phartneriaid yn sydyn, effeithiol a chywir.
• Sgiliau ysgrifenedig a chyfathrebu llafar rhagorol.
• Gwybodaeth a phrofiad o ddatblygu a gweithredu strategaethau a chynlluniau gweithredu.
• Y gallu i gwrdd â a rheoli amserliniau sy’n gwrthdynnu â’i gilydd.
• Sgiliau TGCh cynhwysfawr, gan gynnwys Word, Excel, Outlook, Internet, Intranet a Llwyfannau Gwasanaethau Cymdeithasol
• Y gallu i ddehongli deddfwriaethau a rheolaidau.
• Agwedd gywir a threfnus iawn tuag at waith.
• Ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o brif faterion yn ymwneud â Blynyddoedd Cynnar, Gofal Plant, Gwasanaethau Chwarae a Chefnogi Teuluoedd, gan gynnwys gwybodaeth benodol am, er enghraifft, ysgolion, cyfleusterau hamdden a busnesau lleol.
• Gwybodaeth xxxx o ofal plant a’r gwasanaethau cysylltiedig.
• Dealltwriaeth o a’r gallu i gymhwyso egwyddorion xxx fod gwasanathau i gwsmeriaid yn bwysig mewn amgylchfyd o gyflenwi gwasanaethau.
• Trwydded yrru a defnydd car.