GWYBODAETH I YMGEISWYR
GWYBODAETH I YMGEISWYR
Swyddog Cyfarthrebu
Graddfa 9: £26,470 - £28,221 y flwyddyn
Contract parhaol 37 awr yr wythnos
CYNNWYS
1. Manylion dychwelyd
2. Trosolwg o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
3. Y Staff
4. Disgrifiad Swydd
5. Manyleb Person
6. Nodiadau cyfarwyddyd ar gyfer y sawl a benodir
DYDDIAD CAU: 12 Rhagfyr 2018
DYDDIAD CYFWELIADAU: 20 Rhagfyr 2018
DYLID DYCHWELYD FFURFLENNI CAIS AR ÔL EU CWBLHAU AT:
(CYFRINACHOL)
YR ADRAN ADNODDAU DYNOL
AWDURDOD PARC CENEDLAETHOL BANNAU BRYCHEINIOG PLAS Y FFYNNON
FFORDD CAMBRIAN ABERHONDDU
LD3 7HP
Diolch am ddangos diddordeb yn swydd Swyddog Datblygu Gwirfoddolwyr
yn y Rheoli Cefn Gwlad a Xxxx
Xxx’n rhaid derbyn ceisiadau erbyn 11.00 yb ar fore’r 12 Rhagfyr 2018. Yn anffodus, ni fyddwn yn ystyried ceisiadau hwyr.
Dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol nad yw’n arfer gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol gydnabod ceisiadau, na hysbysu ymgeiswyr o ganlyniad eu ceisiadau. Os nad ydym yn cysylltu â chi, ni fydd xxxx cais wedi bod yn llwyddiannus.
Nodwch a oes gennych anabledd mewn llythyr eglurhaol. Os ydych chi’n bodloni’r meini prawf hanfodol, ac yn cael xxxx gwahodd am gyfweliad, rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion arbennig.
Noder y bydd yr xxxx ffurflenni cais a gwybodaeth ategol yn cael eu cadw’n ddiogel am chwe mis ac efallai y byddwn yn cysylltu â chi pe bai swydd addas yn codi. Ar xx xxxx mis, byddwn yn dinistrio pob ffurflen gais a gwybodaeth ategol. Os nad ydych chi am i ni gadw’ch gwybodaeth, rhowch wybod i ni a byddwn yn dinistrio’ch ffurflen gais ar ôl i’r broses recriwtio ddirwyn i ben.
Mae’n Bolisi gan yr Awdurdod i gysylltu â chanolwyr ar ôl gwahodd ymgeiswyr i gyfweliad. A fyddech cystal â nodi unrhyw broblemau y gallai hyn ei achosi ar xxxx ffurflen gais o xxx yr xxxxx berthnasol.
Noder bod yn rhaid i chi xxxx xxxxxx sut rydych chi’n bodloni’r meini prawf hanfodol a nodir yn y fanyleb person sy’n berthnasol i’r swydd hon wrth lenwi’ch ffurflen gais. Dylech hefyd ddangos sut rydych chi’n bodloni’r meini prawf dymunol a nodir yn y fanyleb person, ond os nad ydych chi’n bodloni’r xxxx xxxxx prawf dymunol, peidiwch â gadael i hyn xxxx rhwystro rhag ymgeisio.
AWDURDOD PARC CENEDLAETHOL BANNAU BRYCHEINIOG
Cefndir
Dynodwyd Parciau Cenedlaethol er mwyn gwarchod ardaloedd hyfryd xx xxxx y genedl. Fe’u crëwyd yn sgil Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949, a roddodd fframwaith deddfwriaethol ar waith ar gyfer sefydlu Parciau Cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr.
Dynodwyd y ddau Barc Cenedlaethol cyntaf ym 1951 ac ym 1957 dynodwyd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a oedd yn cwmpasu ardal o tua 520 milltir sgwâr (1346 cilometr sgwâr). Tan 1995, roedd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn gydbwyllgor o’r Cynghorau Sir ar y pryd tan i Ddeddf Amgylchedd 1995 gyflwyno deddfwriaeth newydd a oedd yn sefydlu Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol yn Awdurdodau Lleol annibynnol, xxxx xxxxx arbennig.
Xxxx xxx Parciau Cenedlaethol yn ei wneud?
Xxx xxx Barciau Cenedlaethol ddau ddiben. Yn gyntaf, maent yn gwarchod a gwella amgylchedd naturiol a diwylliannol y parc, ac yn ail maent yn hyrwyddo ymwybyddiaeth a dealltwriaeth a mwynhad o’i briodweddau arbennig. Mae’r priodweddau arbennig hyn wedi’u disgrifio fel:
• y dirwedd a’r harddwch naturiol
• yr heddwch a’r llonyddwch
• cyfleoedd i gerdded a mynediad i gefn gwlad agored
• mannau agored a’r ansawdd bellennig
• tir amaeth sy’n cael xx xxxxx’n draddodiadol,
• bywyd gwyllt
Drwy wneud hyn, xxx xxx y Parciau Cenedlaethol ddyletswydd hefyd i feithrin lles cymdeithasol ac economaidd y cymunedau o fewn y Parc.
Wrth gyflawni eu dibenion a’u dyletswydd, xxx xxx Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol bum swyddogaeth allweddol, sef:
1. gweithredu fel Awdurdod Cynllunio
2. gweithredu fel Awdurdod perthnasol ar gyfer mynediad i gefn gwlad agored o xxx y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy
3. hwyluso rhaglenni amgylcheddol
4. darparu gwybodaeth i’r cyhoedd, dehongliadau a gwasanaethau addysg
5. darparu cronfa datblygu cynaliadwy ar ran Llywodraeth Cymru.
Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cynnwys 24 aelod, 16 a enwebwyd gan y saith Awdurdod Lleol yn yr ardal ac 8 a enwebwyd gan Weinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai Llywodraeth Cymru. Xxx xxx yr Awdurdod gyllideb o £6.1 miliwn ac ariennir £4.6 o’r gyllideb xxx xxx Xxxxx xx Ardoll y Parc Cenedlaethol a £1.5 miliwn o weithgareddau Incwm.
Mae’r ddwy garfan yn helpu i sicrhau bod buddiannau lleol a chenedlaethol yn cael eu cynrychioli ar lefel Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Mae amrywiol bwyllgorau allweddol yn gyfrifol am reoli busnes yr Awdurdod. Hefyd, mae gweithgorau a grwpiau cynghori - mewnol ac allanol - wedi’u sefydlu i lywio’r broses benderfynu. Cyflogir tua 110 o staff cyfwerth â llawn amser mewn dwy Gyfarwyddiaeth - Cefn Gwlad a Rheoli a Chynllunio Tir, yn ogystal ag Adran y Prif Weithredwr - Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu, Cyllid, TG, Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd ac Adnoddau Dynol. Mae staff ac Aelodau’n gyfrifol am ystod xxxx o weithgareddau a gwasanaethau a rôl allweddol swyddogion yw darparu cyngor ac arweiniad i Aelodau’r Awdurdod i’w helpu i wneud penderfyniadau a phennu’r weledigaeth a’r strategaethau ar gyfer yr Awdurdod.
Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol yw dogfen strategol allweddol yr Awdurdod ac mae’n datgan ein nodau, ein hamcanion strategol a’r Blaenoriaethau ar gyfer Gweithredu ar gyfer yr Awdurdod (gweler xxxx://xxx.xxxxxxxxxxxxxxxxx.xxx/xx- awdurdod/cynllunio/polisiau-a-strategaethau/cynllun-rheoli2019r-parc- cenedlaethol/cynllun-rheoli2019r-parc-cenedlaethol?set language=cy). Yn ogystal â’r ddogfen hon, mae gennym Gynllun Datblygu Unedol wedi’i gymeradwyo (gweler xxxx://xxx.xxxxxxxxxxxxxxxxx.xxx/xx-xxxxxxxx/xxxxxxxxx/xxxxxxxx-x- strategaethau/cynllun-datblygu-unedol-cdu/cynllun-datblygu-unedol-wedi2019i- gymeradwyo-gan-yr-awdurdod?set language=cy) sy’n darparu’r fframwaith ar gyfer datblygu yn y dyfodol o fewn y Parc Cenedlaethol ac rydym wrthi’n datblygu’r Cynllun Datblygu Lleol (gweler xxxx://xxx.xxxxxxxxxxxxxxxxx.xxx/xx- awdurdod/cynllunio/polisiau-a-strategaethau/cynllun-datblygu-lleol-wedi2019i- adneuo/cynllun-datblygu-lleol?set language=cy). Mae’r Awdurdod hefyd yn datblygu ei Adroddiad ar Gyflwr y Parc, a fydd yn crynhoi statws newidiol asedau amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol yn y Parc. Gan fod gennym gyfrifoldeb wedi’i ddirprwyo am gynnal a chadw a rheoli Hawliau Tramwy, rydym yn gweithredu Cynllun Gwella Hawliau Tramwy’r Awdurdod.
Mae Parciau Cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr yn dirweddau gwarchodedig Categori V fel y’u diffinnir gan Undeb Cadwraeth y Byd (IUCN). Mae hyn yn cydnabod cyfranogiad pobl yn y gwaith o lunio’r tirweddau. Fel pob Parc Cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr, mae amaethyddiaeth yn ddylanwad mawr ar y ffordd y mae’r dirwedd yn cael ei rheoli. Mae sector ffermio hyfyw, proffidiol, eangfrydig ac arloesol, sy’n cydweithio’n agos â chymunedau’r Parc, busnesau lleol a chyrff cyhoeddus a gwirfoddol yn hollbwysig wrth reoli’r dirwedd yn y dyfodol. Bydd hyblygrwydd a’r gallu i addasu yn briodweddau pwysig wrth fynd i’r afael â heriau newid hinsawdd, dulliau o leihau’r defnydd o ynni a newidiadau demograffig a chymdeithasol yn y dyfodol.
AWDURDOD PARC CENEDLAETHOL BANNAU BRYCHEINIOG
Disgrifiad Swydd
Teitl y Swydd: Swyddog Cyfathrebu (y Cyfryngau a
Chysylltiadau Cyhoeddus)
Dyddiad dechrau: 1 Mehefin 2017
Graddfa: Gradd 9
Yn Atebol i’r: Rheolwr Ymrwymiadau Cyhoeddus
Yn gyfrifol am: Cynorthwyydd Cyfathrebu Amcan y Swydd:
Cydlynu, cynhyrchu a chyflwyno cysylltiadau Awdurdod y Parc Cenedlaethol â’r wasg a’r cyfryngau. Mae hyn yn cynnwys cysylltiad â’r cyfryngau, datganiadau i’r wasg, cynadleddau i’r wasg, a datganiadau, trefnu cyfweliadau a mynediad at y cyfryngau.
Gweithio gydag aelodau eraill y Xxx Ymgysylltu â’r Cyhoedd i hyrwyddo’r Awdurdod ac adrodd xxxxx y Parc Cenedlaethol.
Prif ddyletswyddau
1. Darparu cyngor a chyfarwyddyd a darparu cysylltiadau cyhoeddus a chysylltiadau â’r cyfryngau yn effeithiol ar gyfer yr Awdurdod.
2. Cynhyrchu deunydd ar gyfer y wasg a’r cyfryngau trwy ddewis y cyfryngau gorau (datganiadau i’r wasg / datganiadau / y cyfryngau cymdeithasol), gan sicrhau bod pobl yn manteisio ar yr ymdrechion hyn drwy nodi’r cynulleidfaoedd targed a darpariaeth wedi’i ganolbwyntio.
3. Ymateb i xxxx ymholiadau’r wasg a’r cyfryngau. Datblygu perthynas gyda chysylltiadau cyfryngau lleol a Chenedlaethol. Cynnal a defnyddio cronfeydd data cysylltiadau â’r wasg a’r cyfryngau.
4. Cynllunio a chyflwyno cynllun rheoli argyfwng (cyfryngau) effeithiol.
5. Cyflwyno digwyddiadau / ymweliadau VIP yr Awdurdod, gan gynnwys lansiadau, seminarau, presenoldeb mewn sioeau a digwyddiadau’r Llywodraeth.
6. Cynnal perthynas waith dda gyda’r xxxx Fyrddau Cyfarwyddwyr a’r Adrannau o fewn yr Awdurdod er mwyn nodi a chefnogi’r cyfryngau/partneriaid i adrodd xxxxx y Parc Cenedlaethol.
7. Helpu gyda chydlynu a darparu hyfforddiant i staff a gwirfoddolwyr mewn gweithgareddau a chysylltiadau â’r cyfryngau.
8. Gweithio gyda phartneriaid yr Awdurdod i ddarparu cyfryngau cyrchfan effeithiol. Er enghraifft y Xxx Datblygiad Cynaliadwy a’r Bartneriaeth Cyrchfan Cynaliadwy.
9. Ymchwilio, ysgrifennu a datblygu cynnwys (digidol) gyda thimau’r Parc Cenedlaethol er mwyn gwella effeithiolrwydd gwefan(nau)’r Awdurdod.
10. Gweithredu’n brif bwynt cyswllt yr xxxx ymholiadau sy’n ymwneud â ffilmio yn y Parc Cenedlaethol. Hyrwyddo ffilmio yn y Parc Cenedlaethol a chyfleoedd eraill yn y cyfryngau.
11. Gweithio gyda’r Rheolwr Ymrwymiadau Cyhoeddus i ddatblygu, cefnogi a chyflwyno prosiectau’r Parc Cenedlaethol.
12. Bod yn Swyddog Cyfathrebu ar brosiectau penodol i helpu swyddogion/ partneriaid i gyflwyno gweithrediadau cyfathrebu ac ymrwymo. Darparu cymorth wrth geisio am grantiau ar gyfer prosiectau o’r fath.
13. Cefnogi’r Xxx Rheoli i ddatblygu perthynas dda gyda phartneriaid a gwneuthurwyr polisïau.
14. Gweithio gyda Swyddog yr Iaith Gymraeg i sicrhau bod yr Awdurdod yn cyflawni ei gofynion iaith Gymraeg.
15. Unrhyw ddyletswydd arall sy’n addas i raddfa neu natur y swydd yn ôl gofyn y Prif Swyddog Gweithredol.
AWDURDOD PARC CENEDLAETHOL BANNAU BRYCHEINIOG
Swyddog Cyfathrebu (y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus)
Y Person
Meini prawf Hanfodol Dull Asesu
Gradd berthnasol a/neu 3 mlynedd o brofiad.
Profiad o ymgynghori Swyddogion ar faterion yn
ymwneud â Chysylltiadau Cyhoeddus ar xxx xxxxx y Sefydliad.
Sgiliau cyfathrebu / rhyngbersonol gwych, gan gynnwys sgiliau siarad cyhoeddus profedig
Profiad o weithio gyda’r cyfryngau a’r wasg
Profiad o ddarparu cysylltiadau cyhoeddus i sefydliad ar xxx xxxxx
Profiad o lunio a golygu deunyddiau ar gyfer y cyhoedd
Profiad o ddarparu cynnwys ar gyfer llwyfannau digidol (gwefannau / cyfryngau cymdeithasol)
Sgiliau rheoli amser gwych er mwyn gallu rheoli gwaith o fewn terfynau amser tynn
Sgiliau rheoli da a’r gallu i arwain a gweithio’n effeithiol yn rhan o dîm bychan
Ffurflen gais a chyfweliad
Ffurflen gais a chyfweliad
Ffurflen gais a chyfweliad Ffurflen gais a chyfweliad Ffurflen gais a chyfweliad Ffurflen gais a chyfweliad
Ffurflen gais a chyfweliad
Ffurflen gais a chyfweliad
Profiad o weithio ar brosiectau a gyda Ffurflen gais a chyfweliad phartneriaid
Trwydded yrru Dangos y drwydded
Meini prawf Dymunol Dull Asesu
Gwerthfawrogi dibenion y Parc Cenedlaethol, Ffurflen gais a chyfweliad tirweddau gwarchodedig a materion
amgylcheddol.
Profiad o weithio ar Bwyllgorau a / neu Fyrddau Ffurflen gais a chyfweliad
Y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg (yn ysgrifenedig Ffurflen gais a chyfweliad ac ar xxxxx) xxx awydd i ddysgu
NODIADAU CYFARWYDDYD AR GYFER POBL SY’N CAEL EU PENODI GAN AWDURDOD PARC CENEDLAETHOL BANNAU BRYCHEINIOG FEL
Swyddog Cyfarthrebu
Cyflog
Mae’r raddfa gyflog rhwng £26,470 - £28,221 y flwyddyn
Cyfnod cyflogaeth Contract Parhaol Oriau gwaith
37 awr yr wythnos
Telir cyflog xxx mis (diwrnod olaf y mis) i gyfrif banc/cymdeithas adeiladu.
Hawl gwyliau blynyddol
21 diwrnod y flwyddyn, yn ogystal â 8 gŵyl gyhoeddus a 2 ddiwrnod statudol ychwanegol. Xxx xxxx gwyliau yn codi xxx blwyddyn hyd at 25 diwrnod y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
Os ydych chi’n symud o wasanaeth Awdurdod allanol i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, rydych chi’n gallu trosglwyddo’ch hawl gwyliau a gronnwyd (a gronnwyd yn sgil hyd gwasanaeth) hyd at uchafswm o 25 diwrnod.
Pensiwn
Gweithredir cynllun pensiwn Llywodraeth Xxxx xxxxxxx; mae’r gweithiwr cyflogedig yn cyfrannu 5.5% (hyd at £14,100) sy’n codi i 5.8% (£14,101) o’u horiau cytundebol a weithiwyd ac ar hyn o xxxx xxx’r cyflogwr yn cyfrannu 22%.
Lleoliad
Bydd y swydd wedi’i lleoli ym Mhencadlys y Parc Cenedlaethol yn Aberhonddu.