SWYDD-DDISGRIFIAD
|
SWYDD-DDISGRIFIAD |
Teitl y Swydd: Uwch Swyddog: Cyfleusterau
Yn gyfrifol i: Rheolwr Cyfleusterau
Diben y Swydd: I gefnogi'r Rheolwr Cyfleusterau wrth sicrhau'r gweithrediadau o ddydd i ddydd, cynnal a chadw adeiladau, trwsio eiddo, adnewyddu a monitro'r xxxx gontractau gwasanaethau ar gyfer Grŵp Colegau NPTC.
Prif Gyfrifoldebau
Cefnogi'r Rheolwr Cyfleusterau gyda phob agwedd ar swyddogaeth rheoli cyfleusterau'r Coleg;
Bod yn gyfrifol am sicrhau bod y Coleg yn cydymffurfio â phob agwedd ar ddeddfwriaeth statudol mewn perthynas â’r Ystad;
Bod yn gyfrifol am gynllunio a gweithredu gwasanaethau ac arolygiadau statudol ac am sicrhau bod camau adferol yn cael eu cymryd mewn modd amserol;
Cydgysylltu'n effeithiol â'r Swyddogion Cyfleusterau a'r xxx Iechyd a Diogelwch, i sicrhau bod yr xxxx gydymffurfiaeth yn gyfredol ac yr eir i'r afael â chamau gweithredu yn brydlon;
Cynnal gwybodaeth ymarferol gref o'r xxxx ddeddfwriaeth berthnasol ee CDM, asbestos, rheoliadau dŵr, rheoliadau tân ac ati;
Ymgymryd â rôl Person Cyfrifol ar gyfer agweddau cytûn o ddeddfwriaeth;
Bod yn gyfrifol am gyflwyno, datblygu a gweithredu system Rheoli Cyfleusterau cyfrifiadurol;
Gweithio'n effeithiol gyda'r Uwch Swyddog: Diogelwch, Iechyd a'r Amgylchedd i sicrhau bod yr xxxx xxxxx Cyfleusterau yn cydymffurfio â deddfwriaeth Diogelwch, Iechyd ac Amgylcheddol;
Cynhyrchu adroddiadau ysgrifenedig, yn ôl yr angen;
Cynorthwyo i ddatblygu prosesau a gweithdrefnau adrannol Cyfleusterau;
Cefnogi'r Rheolwr Cyfleusterau i sicrhau bod gwaith adnewyddu a gwelliannau mawr i adeiladu yn cael ei gwblhau'n effeithiol;
Cynnal cyfarfodydd wythnosol gyda Rheolwr y Contract Glanhau a Gofalu i sicrhau bod y Coleg yn derbyn safon uchel o lanhau ynghyd â chwsmeriaid yn derbyn lefel uchel o wasanaeth trwy'r ddesg gymorth;
Adolygu gwasanaethau presennol lleol i sicrhau bod y dull mwyaf priodol o ddarparu gwasanaethau yn cael ei ddefnyddio, a bod gwerth am arian yn cael ei gyflawni;
Cynorthwyo'r Rheolwr Cyfleusterau i gynllunio, blaenoriaethu a gweithredu rhaglen o waith cynnal a chadw a gynlluniwyd ymlaen llaw. Bydd y gwaith yn cynnwys yr xxxx grefftau a gwasanaethau adeiladu, gwresogi, goleuadau, gosodiadau a ffitiadau mewnol yn ogystal ag addurniadau mewnol ac allanol a materion amgylcheddol;
Cynorthwyo'r Rheolwr Cyfleusterau gyda monitro contractau, gan gynnwys mynychu cyfarfodydd contractwyr, rhoi adborth ar gydymffurfiaeth a pherfformiad yn erbyn dangosyddion perfformiad allweddol;
Sicrhau bod contractwyr a chontractau'n cael eu goruchwylio'n briodol o ddydd i ddydd, gan gynorthwyo, cyfarwyddo a chynghori contractwyr ar faterion yn ymwneud â rheoli ansawdd a dehongli dogfennau contract;
Cynorthwyo'r Rheolwr Cyfleusterau wrth baratoi cyllidebau ar gyfer gwasanaethau adeiladau a chynnal a chadw a rheoli'r xxxx xxxxx o fewn yr amserlenni a'r cyfyngiadau ariannol y cytunwyd arnynt;
Cynnal cronfa ddata o'r gyllideb a chostau atgyweirio;
Dirprwyo ar ran y Rheolwr Cyfleusterau yn ei absenoldeb;
Datblygu perthnasoedd effeithiol rhwng asiantaethau allanol, contractwyr, a staff y coleg;
Cyflwyno hyfforddiant i staff a chontractwyr yn ôl yr angen;
Teithio i ddiwallu anghenion y rôl;
Cyfrifoldebau Coleg Cyfan
Bod yn weithredol wrth hybu’r agenda Amrywiaeth yn y Coleg;
Hybu a sicrhau arferion gwaith diogel, yn unol â gofynion Iechyd a Diogelwch;
Chwarae rôl weithredol o ran Ansawdd;
Cyfrannu at weledigaethau a gwerthoedd cyffredinol y Coleg, a’u cynrychioli;
Cydymffurfio â xxxx bolisïau a gweithdrefnau Diogelwch Gwybodaeth y Coleg (IS), mynychu hyfforddiant ymwybyddiaeth perthnasol a chymhwyso egwyddorion diogelwch gwybodaeth wrth ymdrin â gwybodaeth staff a myfyrwyr, yn unol â safon ISO 27001;
Cydymffurfio â'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), Deddf Diogelu Data 2018 ac unrhyw ofynion statudol perthnasol wrth brosesu data personol staff a myfyrwyr neu ddata sy'n gysylltiedig â gwaith, ac yn unol ag unrhyw ganllawiau neu God Ymarfer a gyhoeddwyd gan y Coleg;
Glynu wrth xxxx bolisïau a gweithdrefnau’r Coleg;
Ymgymryd â datblygiad proffesiynol yn ôl yr angen; ac
Ymgymryd â dyletswyddau priodol eraill fel sy'n ofynnol gan y rheolwr llinell.
Dylid nodi bod y swydd-ddisgrifiad hwn yn rhoi crynodeb o brif ddyletswyddau a chyfrifoldebau’r swydd yn unig a chaiff ei adolygu’n rheolaidd ar y cyd â’ch Rheolwr Llinell a’r Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol, a allai arwain at newidiadau yng ngoleuni gofynion gweithredol y Coleg.