Cwestiynau Ysgrifenedig a atebwyd rhwng 8 a 15 Mehefin 2006
Cwestiynau Ysgrifenedig a atebwyd rhwng 8 a 15 Mehefin 2006
[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
Cynnwys
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Xxxxxx, Arloesi a Rhwydweithiau
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon
Xxxxx Xxxx Xxxxx: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn hyrwyddo croquet yng Nghymru? (WAQ47149)
Y Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon (Xxxx Xxxx): Nid yw Llywodraeth y Cynulliad yn ariannu croquet. Mae croquet yng Nghymru wedi cael xxxx xxxxx drwy gynllun cist gymunedol Cyngor Chwaraeon Cymru, gwerth bron i £4,000.
Xxxxxx Xxxxxxxx: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau ar gyfer adolygu'r map o wyliau a dewis rhai i dderbyn buddsoddiad llawer mwy sylweddol, fel yr amlinellir yn y strategaeth ddiwylliannol i Gymru? (WAQ47157)
Xxxx Xxxx: Xxx traddodiad gwyliau Cymru, fel yr Eisteddfod Genedlaethol, Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, Gwyl Jazz Aberhonddu, y Faenol a Gwyl Lenyddol y Gelli Gandryll, wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf i gynnwys nifer gynyddol o wyliau lleol sy’n ennill cydnabyddiaeth, fel y Caws Mawr yng Nghaerffili a Gwyl y Dyn Gwyrdd yn Aberhonddu. Rhoddir cymorth hefyd drwy Gyngor Celfyddydau Cymru a’r Loteri Genedlaethol i fwy o wyliau mwy lleol.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wrthi’n adolygu ei strategaeth ddiwylliannol ar hyn x xxxx. Bydd hyn yn cynnwys ystyried y ffordd orau o hyrwyddo a chefnogi gwyliau allweddol a’r xxxx a all ddod yn eu sgil, gan sicrhau gwerth am arian yr un pryd.
Xxxxxxxx Xxxxxxx: Pa brosiectau digideiddio a gyflawnwyd gan archifdai lleol sirol? (WAQ47176)
Xxxx Xxxx: Xxx archifdai lleol wedi cael grantiau o wahanol ffynonellau, megis Llywodraeth Cynulliad Cymru drwy CyMAL: Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri, i ymgymryd â phrosiectau digideiddio.
Ers sefydlu Cymal ar 1 Ebrill 2004, yr ydym wedi dyfarnu grantiau i ddeuddeg o brosiectau digideiddio, yn cynnwys grant i archifdy Morgannwg i greu CD-ROM addysgol am derfysgoedd Tonypandy a’r streic yn chwarel y Penrhyn a xxxxx i archifdy sir Ddinbych i greu llwybr treftadaeth electronig i Ruthun.
Ymysg y prosiectau a gyllidir gan y Loteri mae’r gwaith o ddigideiddio cynlluniau rheoliadau adeiladu Caerdydd gan archifdy Morgannwg a Rhwydwaith Archifau Cymru, gwefan sy’n galluogi defnyddwyr i chwilio am a chyrchu at ddisgrifiadau electronig o’r casgliadau archifol a gedwir yng Nghymru.
Xxxxxxxx Xxxxxxx: Pwy sydd yn berchen ar hawliau eiddo deallusol y deunyddiau a gedwir mewn archifdai lleol sirol? (WAQ47177)
Xxxx Xxxx: Xxx pedwar prif fath o hawliau eiddo deallusol: patentau, nodau masnach, dyluniadau a hawlfraint. Yr un sy’n berthnasol i’r deunyddiau a gedwir yn archifdai lleol sirol Cymru yw hawlfraint. Bydd archifdy sirol yn dal deunydd sy’n dod o xxx dri chategori gwahanol:
deunydd sy’n eiddo i’r archifdy, y mae’r archifdy’n berchen ar yr hawlfraint arno; deunydd sy’n eiddo i’r archifdy, y mae rhywun arall yn berchen ar yr hawlfraint arno;
deunydd sy’n eiddo i rywun arall, a gedwir ar fenthyg gan yr archifdy. Gall yr hawlfraint ar ddeunydd o’r fath fod yn eiddo i berchennog y deunydd neu i rywun arall.
westiynau i’r Gweinidog dros Xxxxxx, Arloesi a Rhwydweithiau
Xxxx Xxxxxx: Faint o ymgynghori a wnaeth y Gweinidog gyda chyd-Weinidogion cyn penodi aelodau i'r grwp ymgynghorol newydd ar bolisïau economaidd a thrafnidiaeth? (WAQ47158)
Y Gweinidog dros Xxxxxx, Arloesi a Rhwydweithiau (Xxxxxx Xxxxxx): Un o’r negeseuon allweddol a ddeilliodd o’r dwsinau o gyfarfodydd a gynhaliais gyda’r gymuned fusnes yn y cyfnod yn arwain at ddod â’r cyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad o xxx gochl y Cynulliad oedd yr angen i Lywodraeth y Cynulliad allu manteisio ar gyngor arbenigol annibynnol yn ymwneud â datblygu ein polisïau a’u rhoi ar waith. Cafodd hyn ei adrodd yn ôl i’m cyd-Weinidogion yn y Cabinet fel xxxx x xxxxxx uno’r CCNC.
Yr oedd y Prif Weinidog a minnau wrth ein bodd fod y broses wedi arwain at bobl o safon mor uchel i helpu i’n harwain yn ein gwaith.
Xxxx Xxxxxx: Faint o ymgynghori a wnaeth y Gweinidog gydag undebau llafur yng Nghymru cyn penodi aelodau i'r grwp ymgynghorol newydd ar bolisïau economaidd a thrafnidiaeth? (WAQ47159)
Xxxxxx Xxxxxx: Un o’r negeseuon allweddol a ddeilliodd o’r dwsinau o gyfarfodydd a gynhaliais gyda’r gymuned fusnes yn y cyfnod yn arwain at ddod â’r cyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad o xxx gochl y Cynulliad, yn cynnwys llawer o gyfarfodydd gyda’r undebau llafur, oedd yr angen i Lywodraeth y Cynulliad allu manteisio ar gyngor arbenigol annibynnol yn ymwneud â datblygu ein polisïau a’u rhoi ar waith.
Yr oedd y Prif Weinidog a minnau wrth ein bodd fod y broses wedi arwain at bobl o safon mor uchel i helpu i’n harwain yn ein gwaith.
Xxxx Xxxxxx: Faint o ymgynghori a wnaeth y Gweinidog gyda sefydliadau busnes yng Nghymru cyn penodi aelodau i'r grwp ymgynghorol newydd ar bolisïau economaidd a thrafnidiaeth. (WAQ47160)
Xxxxxx Xxxxxx: Un o’r negeseuon allweddol a ddeilliodd o’r dwsinau o gyfarfodydd a gynhaliais gyda’r gymuned fusnes yn y cyfnod yn arwain at ddod â’r cyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad o xxx gochl y Cynulliad oedd yr angen i Lywodraeth y Cynulliad allu manteisio ar gyngor arbenigol annibynnol yn ymwneud â datblygu ein polisïau a’u rhoi ar waith.
Yr oedd y Prif Weinidog a minnau wrth ein bodd fod y broses wedi arwain at bobl o safon mor uchel i helpu i’n harwain yn ein gwaith.
Xxxx Xxxxxxx: Xxxx yw cyfanswm cost amcanestynedig ailagor xxxxxxx Xxxx Ebwy i Lywodraeth Cynulliad Cymru. (WAQ47161)
Xxxxxx Xxxxxx: Xxx dyraniad cyllideb Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer ailagor rheilffordd Glyn Ebwy i deithwyr yn £21.1 miliwn. Mae cyllid Ewropeaidd Amcan 1 o £7.5 miliwn hefyd wedi cael ei ddyrannu i’r cynllun.
Xxxx Xxxxxxx: Xxxx oedd cyfanswm cost ailagor llinell Bro Morgannwg i Lywodraeth Cynulliad Cymru. (WAQ47162)
Xxxxxx Xxxxxx: Disgwylir i ailagor rheilffordd Bro Morgannwg i deithwyr gostio oddeutu £17 miliwn i Lywodraeth Cynulliad Cymru. Hyd yma, xxx xxxx £16 miliwn wedi cael ei ddarparu. Mae’r gwaith wedi ei gwblhau erbyn hyn a bydd y cyfrifon terfynol yn cael eu talu’n ddiweddarach eleni.
Xxxx Xxxxxx: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn sy’n cael ei wneud i roi sylw i’r diffyg cerbydau ar y rheilffordd rhwng yr Amwythig ac Aberystwyth? (WAQ47165)
Xxxxxx Xxxxxx: Xxx nifer o gynigion am ragor o gerbydau wedi dod i law oddi wrth Drenau Arriva Cymru er mwyn cwrdd â’r galw yn y dyfodol. Yr wyf wedi gofyn am ragor o fanylion am y cynigion ac yr wyf yn disgwyl am yr achos busnes ar hyn x xxxx.
Xxxxxx Xxxxx-Xxxxx: Xx xxxxx y xxx Llywodraeth Cynulliad Cymru’n eu cymryd i sicrhau bod swyddi y rheiny sy’n gweithio mewn canolfannau galwadau yng Nghymru’n ddiogel? (WAQ47166)
Xxxxxx Xxxxxx: Xxx Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cefnogi fforwm canolfannau galwadau Cymru yn ariannol er mwyn hyrwyddo natur gystadleuol canolfannau galwadau yng Nghymru a darparu gwybodaeth strategol i Lywodraeth Cynulliad Cymru am y materion o bwys sy’n wynebu’r sector.
Xxxxxxxx Xxxxxxx: A wnaiff y Gweinidog restru’r xxxx grantiau Llwybrau Diogel i'r Ysgol yn y Rhondda er 2003? (WAQ47168)
Xxxxxx Xxxxxx: Ers blwyddyn ariannol 2002-03 mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi cael £1,013,000 i roi cynlluniau Llwybrau Diogel i’r Ysgol ar waith. Nodir y cynlluniau llwyddiannus yn y tabl isod:
Blwyddyn | Cyllid | Cynlluniau Llwyddiannus |
2002-03 | 0.110 miliwn | Ysgol Gynradd Caegarw |
2003-04 | 0.139 miliwn 0.096 miliwn | Ysgol Fabanod ac Iau Comin Ysgol Gynradd Hirwaun |
2004-05 | 0.070 miliwn 0.095 miliwn | Ysgol Gynradd Penrhiwceiber ac Ysgol Gynradd Pengeulan Ysgol Gynradd Gymraeg Ynyswen Ysgol Gynradd Penrenglyn ac Ysgol Gynradd Treherbert |
2005-06 | 0.085 miliwn 0.010 miliwn 0.045 miliwn 0.040 miliwn 0.085 miliwn | Ysgol Gyfun Coedylan Ysgol Gynradd Bodringallt Ysgol Gynradd Meisgyn Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr Ysgol Uwchradd Xxxx Fedyddiwr yr Eglwys yng Nghymru |
2006-07 | 0.067 miliwn 0.071 miliwn 0.100 miliwn | Ysgol Gynradd Cwmdâr Ysgol Iau Maerdy Ysgol Gynradd Tonypandy |
Xxxxxxxx Xxxxxxx: A wnaiff y Gweinidog restru’r xxxx grantiau amcan un yn y Rhondda er 2003? (WAQ47169)
Xxxxxx Xxxxxx: Xxx gwefan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru xxxx://xxx.xxxx.xxxxx.xxx.xx/ xxxxxxx.xxx?action=approvedprojects&ID=86 yn darparu manylion yr xxxx brosiectau lleol Amcan 1 sydd wedi cael cefnogaeth gan bartneriaeth Rhondda Cynon Taf.
Rhestrir yr xxxx brosiectau rhanbarthol hefyd ar y wefan. Byddai darparu manylion i ddangos i xx xxxxxx y xxx’r prosiectau hyn wedi dod â xxxx i ardal y Rhondda yn cymryd llawer iawn o amser.
Xxxxxxxx Xxxxxxx: Pa brosiectau technoleg glo glân sydd ar waith yng Nghymru ac a wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol cloddio glo yng Nghymru? (WAQ47172)
Xxxxxx Xxxxxx: Xxx technoleg dadsylffwreiddio nwyon simnai wedi cael ei gosod yng ngorsaf bwer Aber-wysg ac mae’n un o’r gorsafoedd glo glanaf, o ystyried ei maint, yn y DU. Mae gorsaf bwer Aberddawan yn buddsoddi £150 miliwn ar ddadsylffwreiddio nwyon simnai, ynghyd â gwariant newydd ar gyd-losgi bio-màs a llafnau tyrbin mwy effeithlon.
Mae glo glân yn un o gonglfeini polisi ynni Llywodraeth y Cynulliad. Xxx xxx Gymru gannoedd o flynyddoedd o gyflenwadau o lo, ac mae digonedd o lo ar gael hefyd ar draws y byd. Mae’r dechnoleg yn bodoli erbyn hyn i’w ddefnyddio gyda llawer llai o ollyngiadau nag yn y gorffennol. Un o flaenoriaethau allweddol map llwybrau ynni Cymru yw gwneud Cymru yn lleoliad deniadol i’r technolegau mwy newydd hyn sy’n dibynnu ar lo glân.
Mae Cymru’n cynhyrchu tua un miliwn a xxxxxx o dunelli o lo y flwyddyn. Defnyddir y cyfan xxxx xxxxx yng Nghymru, yn bennaf i gynhyrchu pwer neu i wresogi tai. Xxx xxx 1,000 o bobl yn cael eu cyflogi’n uniongyrchol yn y diwydiant glo yng Nghymru, rhai ohonynt yn ein cymunedau tlotaf. Mae’r gymhareb rhwng glo brig a phyllau dwfn yn 60:40.
Xxx xxx Gymru rai o gyflenwadau hygyrch mwyaf Ewrop o lo o ansawdd uchel ac mae iddo botensial mawr i ddiwallu ein hanghenion ynni a’n hanghenion cyflogaeth. Er mwyn sicrhau bod y datblygu hwn yn mynd rhagddo mewn ffordd sensitif, cyhoeddwyd nodyn cyngor technegol newydd gan Lywodraeth y Cynulliad ar gloddio am lo ym mis Ionawr ac mae’r ymatebion i’r ymgynghori yn cael eu hadolygu ar hyn x xxxx. Xxx’r TAN yn cynnig clustogfa 350m o amgylch pob datblygiad glo brig newydd. Credwn y bydd hyn yn cynnwys rhywfaint o amddiffyniad i gartrefi sy’n agos at y safleoedd hyn sy’n dal i ganiatáu digon o gyfleoedd i gynhyrchu glo. Mae’r TAN hwn hefyd yn ceisio diogelu safleoedd y gellir cloddio am lo arnynt yn y dyfodol.
Xxxxxxxx Xxxxxxx: Pa ganran o refeniw rheilffordd Trenau Arriva a gyflenwir gan fasnachfraint a thaliadau eraill gan Lywodraeth Cynulliad Cymru? (WAQ47173)
Xxxxxx Xxxxxx: Rhagwelir y bydd taliadau o xxx y cytundeb masnachfraint gyda Threnau Arriva Cymru oddeutu 57 y cant o drosiant y cwmni yn 2006-07.
Xxxxxxxx Xxxxxxx: Pa ymchwil y mae’r Gweinidog wedi’i gomisiynu ar incwm gwario cartrefi yng Nghymru a sut y mae hyn yn cymharu â rhanbarthau eraill yn y DU? (WAQ47174)
Xxxxxx Xxxxxx: Xxx’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cynhyrchu amcangyfrifon o incwm gwario crynswth cartrefi (GDHI) yng Nghymru a rhannau eraill o’r DU, wedi’u seilio ar ddiffiniadau cyfrifyddu cenedlaethol. Dengys y data diweddaraf am 2004 fod GDHI y pen yng Nghymru yn £11,278 (88 y cant o gyfartaledd y DU), cynnydd o 3.2 y cant ers y flwyddyn flaenorol a 25.6 y cant er 1999. Mae hyn yn
cynrychioli’r twf cyflymaf o blith gwledydd y DU a rhanbarthau Lloegr dros y flwyddyn ddiwethaf a’r twf ail gyflymaf er 1999 (ar ôl dwyrain Lloegr).
Nid wyf wedi comisiynu unrhyw ymchwil sy’n canolbwyntio’n uniongyrchol ar incwm gwario cartrefi. Fodd bynnag, y ffactorau pwysicaf sy’n pennu lefel gymharol incwm gwario cartrefi mewn ardal yw perfformiad economaidd yr ardal drwyddo draw a sut mae’r gyfundrefn drethu a xxxx-daliadau yn gweithredu.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi comisiynu ystod xxxx o ymchwil i archwilio perfformiad economaidd Cymru, a rhoddir y manylion yn yr adroddiad blynyddol diweddaraf am ymchwil economaidd a gyllidir gan y Llywodraeth yng Nghymru (xxxx://xxx.xxxxx.xxx.xx/xxxxxxxxxxxx/xxxxxxx/ eru/reports/annual-report2004-e.pdf).
Xxxxxxxx Xxxxxxx: Pa ymchwil y mae’r Gweinidog wedi’i gomisiynu ar groniad asedau cartrefi yng Nghymru? (WAQ47175)
Xxxxxx Xxxxxx: Nid wyf wedi comisiynu unrhyw ymchwil am y mater penodol hwn. Fodd bynnag, un ffactor pwysig sy’n pennu croniad asedau cartrefi xx xxxxx incwm cartrefi, ac fe’ch cyfeiriaf at fy ateb i WAQ47174.
Xxxxxx Xxxx: Pa ganran o weithlu Cymru rhwng 16 a 64 oed yn gynhwysol (a) a gyflogir gan y sector cyhoeddus; (b) a gyflogir gan y sector preifat; ac (c) sy’n economaidd anweithgar? (WAQ47178)
Xxxxxx Xxxxxx: Yn ôl Public Sector Employment Trends 2005, a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ym mis Hydref y llynedd, dros y flwyddyn hyd at fis Mehefin 2005 yr oedd 23.3 y cant o bobl yng Nghymru yn gweithio yn y sector cyhoeddus a 76.7 y cant yn gweithio yn y sector preifat. Yr oedd y gyfran sy’n gweithio yn y sector preifat 0.6 pwynt canran yn uwch nag yn 1999.
Gwelodd pob gwlad arall yn y DU a rhanbarth o Loegr ostyngiad yn y ganran o bobl oedd yn gweithio yn y sector preifat dros y cyfnod hwn. (Nid oes dadansoddiadau o’r ffigurau hyn yn ôl oedran wedi’u cyhoeddi i ddarparu manylion am y grwp oedran a bennwyd, ond bydd mwyafrif helaeth y rhai sydd mewn cyflogaeth rhwng 16 a 64 oed.)
Nid yw pobl sy’n anweithgar yn economaidd yn cael eu cynnwys fel rhan o’r gweithlu yn gyffredinol. Dros y flwyddyn hyd at fis Mehefin 2005 yr oedd y rhai sy’n anweithgar yn economaidd i gyfrif am
24.8 y cant o’r boblogaeth o oedran gweithio sy’n byw yng Nghymru.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Xxxxxxx Xxxxxx: A wnaiff y Gweinidog amlinellu faint o brifysgolion Cymru sy'n cymryd rhan yn rhaglen BRIDGE (Graddau Prydeinig yn Rwsia)? (WAQ47138)
Y Gweinidog dros Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (Xxxx Xxxxxxxx): Noddir prosiect BRIDGE gan yr Adran Addysg a Sgiliau a chaiff ei redeg gan y Cyngor Prydeinig. Er nad yw Cymru’n cymryd rhan yn y prosiect, mae Consortiwm Rhyngwladol Cymru’n gweithio i hyrwyddo sefydliadau addysg uwch Cymru i sefydliadau yn Rwsia ac mae adrannau addysg uwch yng Nghymru wedi llunio cysylltiadau’n annibynnol â’u cymheiriaid yn Rwsia. Mae Academi Masnach Dramor Rwsia, Academi Gyllid Rwsia ac Academi Economi Genedlaethol Rwsia i gyd yn awyddus i ddatblygu cysylltiadau â sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, yn cynnwys gwneud hynny drwy gymwysterau a gydnabyddir gan y xxxxx ochr a’r llall neu drwy raddau ar y cyd.
Xxxxxxx Xxxxxx: A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn sicrhau bod strategaethau gwrth-fwlio yn cael eu gweithredu mewn ysgolion yng Nghymru? (WAQ47146)
Xxxx Xxxxxxxx: Rhaid i xxx ysgol yng Nghymru, yn ôl y gyfraith, fod â pholisi gwrth-fwlio. Xxx xxxxx i’r polisi fod yn ataliol ac adweithiol a dylai nodi’r strategaethau sydd i gael eu dilyn, ynghyd â systemau wrth gefn i sicrhau gweithredu, monitro ac adolygu effeithiol.
Mae Llywodraeth y Cynulliad yn disgwyl i ysgolion ei gwneud yn glir y byddant yn gweithredu’n bendant ac yn gadarn mewn ymateb i fwlio, gan atgyfnerthu’r neges ei fod yn annerbyniol. Er na fydd bod â pholisi ynddo’i hun yn datrys problemau bwlio, mae’n fan cychwyn pwysig a fydd yn dangos i staff, disgyblion a rhieni xxxx yw ethos yr ysgol, xxxx xx’n xxxx xx ystyried yn fwlio gan yr ysgol, pa gamau y bydd yr ysgol yn eu cymryd os rhoddir gwybod am fwlio a’r strategaethau sydd wedi cael eu sefydlu—yn rhai rhagweithiol ac adweithiol—i fynd i’r afael â digwyddiadau hyn.
Ysgrifennais at yr ysgolion i gyd ym mis Tachwedd 2003 i’w hatgoffa am yr angen i ddilyn canllawiau Llywodraeth y Cynulliad, ‘Parchu Eraill’, ac yn gofyn iddynt am enghreifftiau o’u harferion da y gallem eu rhannu ar draws y wlad. Gofynasom hefyd i’r ysgolion gyflwyno copi o’u polisi gwrth-fwlio i’r Cynulliad Cenedlaethol fel bod modd asesu pa mor dda y mae’r polisïau’n cyd-fynd â’r canllawiau a nodwyd yn ‘Parchu Eraill’. Byddai pob polisi yn cael ei asesu yn erbyn yr egwyddorion allweddol a nodwyd yn y canllawiau.
Rhoddwyd contract i Brifysgol Caerdydd i asesu’r polisïau a drafftio adroddiad. Erbyn hyn mae’r adroddiad terfynol wedi cael ei gyhoeddi ac mae i’w weld ar wefan Llywodraeth y Cynulliad:
xxxx://xxx.xxxxx.xxx.xx/xxxxxx/xxxxxxxxxxxxxxxxxx/xxxxxxxxxxxxxxxxxxx/xxxxxxx_xxx_xxxx_xxxxxxxxx? lang=cy. Aseswyd 480 o bolisïau gwrth-fwlio i gyd—yr oedd hyn yn cynnwys pob ysgol uwchradd. Yr
oedd 46 y cant o’r polisïau a werthuswyd yn foddhaol a 21 y cant arall yn dda neu’n dda iawn. Yn gyffredinol, yn y polisïau cryfaf yr oedd synergedd clir rhwng cynlluniau gwrth-fwlio a chynlluniau eraill yr ysgol.
Mae yna, fodd bynnag, lawer iawn o waith i’w wneud eto. Mewn bron i draean y polisïau a archwiliwyd yr oedd meysydd lle gellir gwneud gwelliannau. Yn fwyaf cyffredin, yr oedd hynny’n wir lle’r oedd y polisïau yn amlwg wedi cael eu mabwysiadu o dempled generig, heb fawr o dystiolaeth eu bod wedi cael eu haddasu ar gyfer yr ysgol unigol xxx sylw. Er mwyn cynorthwyo ysgolion i ddiweddaru polisïau lle xxx xxxxx, xxx swyddogion Llywodraeth y Cynulliad wedi trefnu dau ddiwrnod hyfforddi yn gynnar ym mis Gorffennaf ar gyfer cynrychiolwyr AALlau, ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd i roi adborth gan Brifysgol Caerdydd am ganfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad. Bydd cyfleoedd i drafod datblygu polisi a’r strategaethau xxxx eu cwmpas sydd ar gael i fynd i’r afael â bwlio.
Xxx xxx Xxxxx hefyd ran bwysig i’w chwarae yn sicrhau bod gan ysgolion bolisi gwrth-fwlio. Un o’r gofynion o xxx y fframwaith arolygu yw cadarnhau bod pob polisi sy’n ofyniad statudol wedi cael ei sefydlu. Yn ddiweddar, hefyd, mae Estyn wedi cwblhau astudiaeth i ganfod astudiaethau achos o arferion da mewn ysgolion ac AALlau yng Nghymru fel enghreifftiau o strategaethau effeithiol i fynd i’r afael â bwlio. Canolbwyntir yn arbennig ar strategaethau i leihau nifer yr achosion o fwlio, i gynorthwyo dioddefwyr ac i ddelio â bwlis. Caiff yr adroddiad hwn ei gyhoeddi ar 5 Mehefin neu’n fuan wedyn.
Yn olaf, bydd Xxxxxxxxxxx y Cynulliad yn cynnal wythnos gwrth-fwlio yn ddiweddarach eleni, yn ystod wythnos 20 Tachwedd 2006. Bydd hon yn gyfle i ddod â’r materion sy’n gysylltiedig â bwlio i’r amlwg. Yr wyf am achub ar y cyfle’n arbennig i dynnu sylw at y gwaith da sydd eisoes yn cael ei wneud yng Nghymru—i gyflwyno’r newyddion da yn hytrach na chanolbwyntio’n unig ar yr achosion anffodus hynny lle mae bwlio wedi cael effaith fawr ar fywydau pobl ifanc.
Byddai’n wych xx xxxxxx ysgolion hyrwyddo’r materion sy’n gysylltiedig â bwlio yn ystod yr wythnos hon, drwy’r gwasanaeth, y cwricwlwm neu drwy ddulliau eraill.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad
Xxxx Xxxxxxxx: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y rheoliadau y mae safleoedd tirlenwi yn xxxxx iddynt? (WAQ47139)
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad (Xxxxxx Xxxxx): Rhaid i xxx xxxxxx tirlenwi gadw at safonau gweithredol uchel a chânt eu rheoleiddio yn unol â hynny. Ar hyn o xxxx xxx’n ofynnol i safleoedd tirlenwi gael eu haildrwyddedu gan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru o xxx y gyfundrefn i xxxx a rheoli llygredd. Mae hyn yn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion llym Rheoliadau Tirlenwi (Cymru a Lloegr) 2002 (O.S. 2002/ 1559) a ddaeth i rym ar 15 Mehefin 2002.
Xxxx Xxxxxxxx: Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i ddiogelu bywyd gwyllt mewn gwlypdiroedd? (WAQ47140)
Xxxxxx Xxxxx: Xxx Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo’n llwyr i gytundeb Ramsar, sy’n hyrwyddo cadwraeth gwlypdiroedd a’u defnyddio’n ddoeth. Mae 10 safle Ramsar yng Nghymru, yn ymledu ar draws arwynebedd o 25,690 hectar yn fras. Rhoddir hysbysiad am safleoedd Ramsar hefyd o xxx Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 a Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 fel safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig, a reolir gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru. Rhoddir gwarchodaeth xxxxxxx i wlypdiroedd a’r bywyd gwyllt y maent yn ei gynnal drwy rwydwaith safleoedd Natura 2000, sy’n cynnwys 19 o ardaloedd gwarchodaeth arbennig a 90 o ardaloedd cadwraeth arbennig.
Mae Gwlypdiroedd i Gymru yn brosiect sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri i xxxxx treftadaeth xxxx gwlypdiroedd yng Nghymru. Mae’n bartneriaeth rhwng RSPB Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a’r ymddiriedolaethau bywyd gwyllt xx xxxx bioamrywiaeth yng Nghymru. O xxx y cynllun hwn xxx xxx safle mawr wedi cael eu prynu ar foryd afon Dyfi tra bo prosiectau ar Ynys Môn, ar warchodfa natur Cors Malltraeth (200 hectar) a Gwlypdiroedd y Fali (172 hectar) wedi parhau i ehangu’r arwynebedd o welyau cors a glaswelltiroedd gwlyb ar y safleoedd hynny.
Xxxxx Xxxxxxxx: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y strategaeth amgylcheddol ar gyfer Cymru? (WAQ47141)
Xxxxxx Xxxxx: Cyhoeddwyd y strategaeth amgylchedd i Gymru, a’r cynllun gweithredu sy’n gefn iddi, ar 17 Mai.
Mae’r strategaeth yn nodi dull gweithredu tymor hir Llywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn gwella amgylchedd Cymru.
Xxx xxx prif thema amgylcheddol yn perthyn i’r strategaeth: ymdrin â’r newid yn yr hinsawdd;
defnyddio adnoddau’n gynaliadwy; bioamrywiaeth, tirweddau a morweddau neilltuol; ein hamgylchedd lleol; a
pheryglon amgylcheddol.
Xxxxxxx Xxxxxx: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y bydd cynhesu byd-xxxx yn effeithio ar Gymru? (WAQ47142)
Xxxxxx Xxxxx: Xxx rhaglen y DU sy’n edrych ar effaith y newid yn yr hinsawdd wedi cynhyrchu gwybodaeth am effeithiau posibl yng Nghymru, ar sail pedwar senario.
Ar draws y pedwar senario, disgwylir cynnydd o rhwng 1.5°C a 4.5°C yn y tymheredd. Bydd difrifoldeb yr effaith yn dibynnu ar y cynnydd yn y tymheredd, ond mae’r tueddiadau cyffredinol yn cynnwys:
Hafau poethach a sychach a chynnydd yn y nifer o ddiwrnodau eithriadol o gynnes. Gallai hyn arwain at gynnydd mewn anghysur thermol mewn adeiladau, problemau iechyd yn yr haf, yn cynnwys y rheini sy’n gysylltiedig â lefelau uwch o lygredd aer, prinder dwr yn yr haf a cholli cynefinoedd a rhywogaethau ar ucheldiroedd a gwlypdiroedd;
Gaeafau gwlypach gyda chyfnodau mwy mynych o law trwm iawn. Gallai hyn arwain at fwy o lifogydd, mwy o ddifrod stormydd yn y gaeaf a mwy o bwysau ar systemau carthffosiaeth.
Disgwylir i lefel y môr ar gyfartaledd godi rhwng 23 a 36 cm. Gallai hyn arwain at fwy o lifogydd ac erydu arfordirol;
Gaeaf mwynach a llai o eira. Gallai hyn olygu llai o darfu ar drafnidiaeth oherwydd tywydd oer, llai o alw am wresogi yn y gaeaf a llai o salwch yn gysylltiedig â thywydd oer.
Xxxx Xxxxxx: A wnaiff y Gweinidog ro'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am weithredu TAN 8 Llywodraeth y Cynulliad, canllawiau cynllunio ynni adnewyddadwy? (WAQ47143)
Xxxxxx Xxxxx: Dylai awdurdodau cynllunio lleol ymgorffori goblygiadau lleol TAN 8 yn eu cynlluniau datblygu lleol ac ystyried y polisi wrth wneud penderfyniadau. Mae’r awdurdodau cynllunio lleol sydd ag ardaloedd chwilio strategol am ynni gwynt yn eu hardaloedd wrthi ar hyn x xxxx yn penderfynu’n derfynol ar y ffiniau i adlewyrchu’r amodau’n lleol.
Mae’r Comisiwn Coedwigaeth, ar wahân, wedi dyfeisio rhaglen ffermydd gwynt i reoli’r broses o dendro am, a datblygu, ffermydd gwynt ar goetiroedd o eiddo’r Cynulliad.
Xxxxx Xxxxx: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllid ar gyfer cwrdd â thargedau ailgylchu? (WAQ47144)
Xxxxxx Xxxxx: Drwy’r grant rheoli gwastraff cynaliadwy i’r awdurdodau lleol, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi dyrannu cyfanswm o £138 miliwn i awdurdodau lleol gan ddechrau yng nghyfnod 2002-03 hyd at ac yn cynnwys y flwyddyn ariannol hon. Mae dyraniad pellach o £35 miliwn wedi cael ei dargedu ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf i gefnogi ailgylchu a chompostio.
Mae Llywodraeth y Cynulliad hefyd wedi darparu £1.86 miliwn dros gyfnod x xxxxxx blynedd oddi ar 2002-03 i gyllido’r Cynllun Xxxxx am Wastraff, ymgyrch yn y cyfryngau i gefnogi prosiectau’r awdurdodau lleol, ynghyd â chymorth arall. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru hefyd wedi darparu cyllid gwerth £6.8 miliwn dros gyfnod o dair blynedd o 2004-05 i hwyluso’r cynllun ailgylchu strategol. Mae’r cynllun hwnnw yn cefnogi prosiectau ailgylchu a chompostio gan yr awdurdodau lleol a phartneriaethau yn y sector cymunedol.
Xxxx Xxxxxxxxx: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cynulliad Cymru i wella monitro llygredd aer yng Nghymru? (WAQ47145)
Xxxxxx Xxxxx: Xxx xxx Gymru system rheoli ansawdd aer leol gynhwysfawr a, thrwyddi, mae’r awdurdodau lleol yn adrodd am y statws ansawdd aer yn eu hardaloedd. Mae rhyw 500 o safleoedd monitro yn weithredol ar draws Cymru. O’r xxxxx, xxx 21 yn safleoedd monitro cwbl awtomatig sy’n asesu’r atmosffer yn barhaus am amryw o lygryddion, gan ddarparu data fel rhan o rwydwaith trefol a gwledig awtomatig y DU.
Mae’r Strategaeth Amgylcheddol ar gyfer Cymru wedi ein rhwymo i edrych yn arbennig ar sectorau gollyngiadau allweddol megis diwydiant a thrafnidiaeth. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru hefyd yn darparu cyllid ar gyfer cyfleuster monitro symudol, sy’n cael ei ddefnyddio gan Asiantaeth yr Amgylchedd. Mae’r cyfleuster hwn yn golygu bod modd canolbwyntio wrth wneud gwaith monitro atodol ar ardaloedd lle mae problemau ansawdd aer wedi cael eu nodi er mwyn darparu data ychwanegol a thystiolaeth i seilio camau gweithredu effeithiol arni.
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid
Xxxx Xxxxxx: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllido gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru? (WAQ47147)
Y Gweinidog Cyllid (Xxx Xxxxx): Xxx xxxxxxxx y Cynulliad ar gyfer 2006-07 bron yn £14 biliwn. Mae ein cynlluniau gwario yn unol â’r nodau strategol yn ‘Cymru: Gwlad Well’.
Xxxx Xxxxxxxx: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gyllideb gyffredinol a ddarperir ar gyfer y portffolio Xxxxxx, Arloesi a Rhwydweithiau yn 2006-07? (WAQ47150)
Xxx Xxxxx: Xxx’r ddarpariaeth yn y gyllideb ar gyfer y portffolio Xxxxxx, Arloesi a Rhwydweithiau yn 2006-07 yn £1,472.4 miliwn. Mae hyn yn gynnydd o 3 y cant o’i gymharu â darpariaeth 2005-06.
Xxxxx Xxxxx: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gario cronfeydd drosodd i'r flwyddyn ariannol nesaf? (WAQ47151)
Xxx Xxxxx: Dengys yr amcangyfrifon diweddaraf y bydd y swm a gaiff ei gario drosodd i’r flwyddyn ariannol nesaf yn debyg i’r swm yn y blynyddoedd blaenorol ac y bydd oddeutu 1 y cant o’r gyllideb.
Xxxxx Xxxxx: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau i gynyddu grym gwario Llywodraeth Cynulliad Cymru? (WAQ47152)
Xxx Xxxxx: Xxx Xxxxxxxxxxx y Cynulliad yn ceisio sicrhau’n barhaus fod y defnydd gorau posibl yn cael ei wneud o’r grym gwario sydd yn ei chyllideb.
Xxxxxxx Xxxxxx: Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o effaith uno heddluoedd ar gyllideb gyffredinol y Cynulliad? (WAQ47154)
Xxx Xxxxx: Xxx’r trafodaethau rhwng y Swyddfa Gartref ac awdurdodau’r heddlu yn parhau. Nid yw’r cyfrifoldeb am y ffordd y mae awdurdodau’r heddlu’n cael eu strwythuro yn xxxxx xxxx wedi xxxx xx ddatganoli.
Xxxx Xxxxxxxxx: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cynulliad Cymru i symud ymhellach tuag at gyllidebau tymor hwy i helpu sefydliadau sy'n derbyn nawdd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i gynllunio eu cyllideb yn effeithiol? (WAQ47155)
Xxx Xxxxx: Byddwn yn adolygu’r polisi o ddarparu cyllidebau tymor hwy i sefydliadau a gyllidir gan y Cynulliad ar ôl yr adolygiad cynhwysfawr o wariant yn 2007.
Xxxx Xxxxxx: A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am gyllido'r gwasanaeth iechyd? (WAQ47156)
Xxx Xxxxx: Xxx’r cyllid ar gyfer y gwasanaeth iechyd yn 2006-07 yn £5.1 biliwn.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Xxxx Xxxxxxxx: Xxxx y xxx Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i wella gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru? (WAQ47148)
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Xxxxx Xxxxxxx): Xxx gwella gwasanaethau iechyd meddwl yn dal i fod yn un o flaenoriaethau iechyd a gofal cymdeithasol allweddol Llywodraeth Cynulliad Cymru, ac adlewyrchir hyn yn fframwaith gwasanaeth a chyllid 2006-07. O’r 21 o dargedau cyflenwi gwasanaethau, mae a wnelo pump ag iechyd meddwl.
Mae £5 miliwn o gyllid ychwanegol wedi cael ei ddarparu i’r byrddau iechyd lleol i weithredu’r fframwaith gwasanaeth cenedlaethol diwygiedig i wasanaethau iechyd meddwl ar gyfer oedolion yng Nghymru, a’r cynllun gweithredu cysylltiol, a lansiwyd ym mis Hydref 2005. Fe’i defnyddir i ddatblygu seilwaith cymunedol ac i ail-gyflunio a moderneiddio gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru.
Rhaid i xxx BILl ddangos sut y bydd y cyllid newydd hwn yn dod â manteision ychwanegol i’r gwasanaethau iechyd meddwl, uwchlaw’r hyn a ddisgwylir wrth gyrraedd y targedau fframwaith gwasanaeth a chyllid presennol. Yn ychwanegol at hyn yr wyf wedi cyhoeddi £75 miliwn ychwanegol o fuddsoddiad cyfalaf i ddisodli unedau iechyd meddwl nad ydynt mwyach yn addas, fel yr amlinellwyd yn ‘Cynllun Oes’.
Mae’r fframwaith gwasanaeth cenedlaethol ar gyfer plant, pobl ifanc a'r gwasanaethau mamolaeth yng Nghymru yn ymdrin ag iechyd meddwl a lles seicolegol plant a phobl ifanc. Mae’n cynnwys camau gweithredu allweddol, mesuradwy, ar ddarparu gwasanaethau amlasiantaethol sydd â chysylltiad agos â’r strategaeth iechyd meddwl i blant a’r glasoed, ‘Everybody’s Business’.
Darparwyd £1.2 miliwn ar gyfer y strategaeth iechyd meddwl i blant a’r glasoed yn 2004-05 i ariannu
gwell darpariaeth gwelyau i bobl ifanc y xxx xxxxx iddynt fynd i’r ysbyty ar frys, timau ymgynghorol glasoed fforensig a gweithwyr iechyd meddwl sylfaenol. Bu’n help i dimau CAMHS i weithredu ‘New Ways of Working in Mental Health’ er mwyn gwella gwasanaethau.
Lansiwyd y fframwaith gwasanaeth cenedlaethol ar gyfer pobl hyn ar 20 Mawrth. Mae un o’r 10 safon yn ymdrin ag iechyd meddwl wrth i bobl fynd yn hyn, ac mae’n rhoi sylw i’r problemau penodol a wynebir gan bobl hyn a’u gofalwyr. Mae’r safon o blaid hyrwyddo lles meddyliol y boblogaeth yn gyffredinol, yn ogystal â mesurau penodol i xxxx iselder a dementia, sy’n gyffredin mewn henaint. Nod y safon yw gwella’r drefn i ganfod, trin a gofalu am bobl hyn sydd â’r cyflyrau hyn, a throsglwyddo’r gofal am oedolion sydd â salwch meddwl parhaus wrth iddynt fynd i’w henaint. Ymdrinnir â gwasanaethau i bobl iau sydd â dementia hefyd o xxxx x xxxxx hon.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio
Xxxxxxxx Xxxxxxx: A wnaiff y Gweinidog restru’r xxxx grantiau cronfeydd cyfleusterau a gweithgareddau cymunedol yn y Rhondda er 2003? (WAQ47167)
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio (Xxxxxx Xxxx): Xxx’r rhaglen cyfleusterau a gweithgareddau cymunedol wedi rhwymo £1,930,488.01 i brosiectau yn ardal y Rhondda er 2002.
Noddwr | Prosiect | Dyddiad Dyfarnu | Grant a rwymwyd |
Eglwys y Drindod Sanctaidd, Tylorstown | Eglwys y Drindod Sanctaidd, Tylorstown | 01/10/2002 | £51,655.00 |
Canolfan Gymunedol y Maerdy | Canolfan Gymunedol y Maerdy | 01/12/2002 | £237,000.00 |
Valley Kids | Valley Kids, Soar | 01/12/2002 | £85,370.00 |
Clwb Bechgyn a Merched Cwm Clydach | Clwb Bechgyn a Merched Cwm Clydach | 01/08/2003 | £48,525.00 |
Clwb Bechgyn a Merched Penygraig | Clwb Bechgyn a Merched Penygraig | 01/08/2003 | £15,000.00 |
Canolfan Gymunedol Pontygwaith | Canolfan Gymunedol Pontygwaith | 01/08/2003 | £20,000.00 |
Cymdeithas Tai’r Rhondda | Cymdeithas Tai’r Rhondda | 01/08/2003 | £101,310.00 |
Pwyllgor Cymdeithasol St John’s | Ailddatblygu Canolfan St Xxxxx | 01/08/2003 | £15,000.00 |
Eglwys St Margaret’s | Eglwys St Margaret’s | 01/08/2003 | £37,000.00 |
Neuadd Eglwys St Xxxxxx’ | Neuadd Eglwys St Xxxxxx’ | 01/08/2003 | £11,984.00 |
Yr Arch | Yr Arch - Bws | 01/08/2003 | £19,094.00 |
Yr Arch | Yr Arch – Adnewyddu | 01/08/2003 | £39,586.00 |
Eglwys Fethodistaidd Tonypandy | Eglwys Fethodistaidd Tonypandy | 01/08/2003 | £55,860.00 |
Neuadd Les Tylorstown | Neuadd Les Tylorstown | 01/08/2003 | £16,538.00 |
Cronfa’r Gofalwyr | Cronfa’r Gofalwyr | 01/08/2003 | £5,804.00 |
Ymddiriedolaeth Pentref Cambrian | Adnewyddu Adeiladau ar Lan y Llyn | 15/03/2004 | £35,000.00 |
Gweithredu xx xxxx Cymuned Edmondstown | Canolfan Xxxxxx Gymunedol Edmondstown | 15/07/2004 | £98,180.00 |
Clwb Bechgyn a Merched Penygraig | Ffocws – Clwb Bechgyn a Merched Penygraig | 15/07/2004 | £132,071.00 |
Prosiect Datblygu Cymunedol Llanharan Cyf | Cyfranogi Cymunedol o blaid Adfywio | 15/01/2005 | £120,607.00 |
Canolfan Gymunedol y Maerdy | Meithrinfa Ddydd/ Canolfan Magu Plant | 15/01/2005 | £104,231.00 |
Prosiect Gofalwyr Ifanc y Rhondda a Thaf-Elái | Prosiect Gofalwyr Ifanc y Rhondda a Thaf-Elái | 15/01/2005 | £8,567.28 |
Partneriaeth Datblygu Chwaraeon Cymunedol Tonyrefail | Yr Eingion – Meithrin Tonyrefail Iachach drwy Chwaraeon | 15/01/2005 | £60,000.00 |
Interlink | Cynllun Grantiau Bach Meithrin Gallu | 15/07/2005 | £254,500.00 |
Gwasanaethau Cyfryngu Cymunedol RhCT | Prosiect Cyfryngu yn y Gymdogaeth – Datrys gwrthdaro yn y gymuned | 15/07/2005 | £258,391.00 |
Parc Sglefrio Glyn Rhedynog | Parc Sglefrio Glyn Rhedynog | 15/11/2005 | £99,214.73 |