Cweledigaeth Cadarnhaol ar gyfer Ymwybyddiaeth o’r Cyfryngau
Cweledigaeth Cadarnhaol ar gyfer Ymwybyddiaeth o’r Cyfryngau
Ymgynghoriad ar Strategaeth Tair Blynedd Ofcom ar gyfer Ymwybyddiaeth o’r Cyfryngau
Ymgynghoriad
Cyhoeddwyd 29 Ebrill 2024
Dyddiad cau ar gyfer derbyn ymatebion: 24 Mehefin 2024
Cynnwys
Adran
2. Ymchwil, Tystiolaeth a Gwerthuso 9
Atodiad
A4. Dalen gyflwyno’r ymgynghoriad 28
A5. Cwestiynau’r ymgynghoriad 29
A6. Opsiynau eraill a ystyriwyd - ond na roddir blaenoriaeth iddynt ar hyn x xxxx 30
A7. Enghreifftiau o’n gwaith diweddar 31
Rhagair
Mae ymwybyddiaeth o’r cyfryngau wedi bod yn rhan bwysig o rôl Ofcom ers iddo gael ei sefydlu yn 2003 pan wnaeth y Ddeddf Cyfathrebiadau gyfarwyddo Ofcom i ymchwilio i ymwybyddiaeth o’r cyfryngau a’i hyrwyddo ledled y DU. Fodd bynnag, mae’r cyhoeddiad hwn yn garreg filltir bwysig gan mai hon yw strategaeth ymwybyddiaeth o’r cyfryngau aml-flwyddyn gyntaf Ofcom mewn 20 o flynyddoedd.
Mae cyhoeddi’r strategaeth hon yn amserol. Yn wir, mae meddwl yn strategol am ymwybyddiaeth o’r cyfryngau yn bwysicach nawr nag erioed, o ystyried y newidiadau dramatig yn y dirwedd dros y ddau ddegawd ers i Ofcom ddechrau xx xxxxx. Heddiw, rydym yn byw mewn byd o xxxxxx o gyfryngau a chyfathrebiadau na welwyd eu tebyg o’r blaen. Mae newyddion ac adloniant yn gorlifo ein sgriniau a’n dyfeisiau’n barhaus; mae llwyfannau’n galluogi rhyngweithio cymdeithasol di-ben- draw; ac mae’r gallu i lywio a gwerthuso gwasanaethau ar-lein yn feirniadol yn dod yn fwyfwy hanfodol i’n bywydau xxx dydd. Xxx datblygu ymwybyddiaeth o’r cyfryngau yn hanfodol i sicrhau bod pobl yn gallu llywio drwy gynnwys yn ddiogel a ffynnu ar-lein.
Wrth gwrs, gall safbwyntiau amrywio o ran sut gall ymwybyddiaeth o’r cyfryngau gyflawni’r nod hwn orau. Mae Ofcom nawr yn diffinio ymwybyddiaeth o’r cyfryngau fel “y gallu i ddefnyddio, deall a chreu cyfryngau a chyfathrebiadau ar draws nifer o fformatau a gwasanaethau”. Felly, xxx xxx ymwybyddiaeth o’r cyfryngau rôl sylfaenol i’w chwarae yn ein cenhadaeth gyffredinol i “wneud i gyfathrebiadau weithio i bawb”, a’n blaenoriaethau i bobl yn y DU gael gafael ar y cyfryngau maen nhw’n ymddiried ynddynt ac yn eu gwerthfawrogi, a byw bywyd mwy diogel ar-lein.
Er bod gan Ofcom rôl bwysig i’w chwarae, rhaid i ymwybyddiaeth o’r cyfryngau fod yn gyfrifoldeb i bawb – llwyfannau ar-lein yn benodol, ond hefyd rhieni, addysgwyr, sefydliadau trydydd sector, darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol, gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant, ac eraill. Er mwyn gwireddu potensial ymwybyddiaeth o’r cyfryngau yn llawn yn y DU, bydd cyfraniadau a chydweithio o xxx cwr yn hanfodol.
Mae’n amlwg bod y wobr yn deilwng o’r ymdrech ar y cyd. Dychmygwch Deyrnas Unedig lle xxx xxx bobl y sgiliau meddwl yn feirniadol i sylwi’n well ar gamwybodaeth a thwyllwybodaeth. Lle mae pobl yn xxxxx xxx eu bod yn gweld rhai mathau o gynnwys tra byddant yn rheoli’r hyn maen nhw’n ei weld a ddim yn ei weld a gwybod xxxx xx’n ddilys pan fyddan nhw’n ei weld. Lle gall yr hen a’r ifanc gyfathrebu’n hawdd ac yn hyderus â’u hanwyliaid ar wahanol lwyfannau. A lle gall plant archwilio ar- lein yn fwy diogel, xxx ofal oedolion sy’n gallu helpu i bwyso a mesur y manteision a’r risgiau.
Rwy’n gwerthfawrogi xxxx ymgysylltiad ag ymgynghoriad Ofcom ac yn gofyn i chi, wrth i chi ystyried xxxx ymatebion, bwyso a mesur y cyfraniadau unigryw y gallwch chi a’ch sefydliad eu gwneud i gefnogi’r gwaith o ddatblygu ymwybyddiaeth o’r cyfryngau ledled y DU.
Xxx-Xxxxxx Xxx
Cyfarwyddwr y Grŵp Strategaeth ac Ymchwil, Ofcom
1. Trosolwg
1.1 Cenhadaeth Ofcom yw sicrhau bod cyfathrebiadau’n gweithio i bawb. Ers ei sefydlu yn 2003, mae ymchwilio a hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r cyfryngau wedi bod yn rhan annatod o’r genhadaeth hon.
1.2 Yn 2019, fe wnaethom adfywio ein dull gweithredu gan greu’r rhaglen Gwneud Synnwyr o’r Cyfryngau, sy’n canolbwyntio mwy ar gyfryngau ar-lein. Ym mis Rhagfyr 2021, fe wnaethom gyhoeddi ein Hymagwedd at Ymwybyddiaeth o’r Cyfryngau, a oedd yn gosod Ofcom fel catalydd a chynullydd yn gweithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid ar draws yr ecosystem ymwybyddiaeth o’r cyfryngau. Er bod Ofcom wedi cyhoeddi cynllun blynyddol yn y gorffennol ynghylch ei weithgareddau xx xxxx ymwybyddiaeth o’r cyfryngau, mae’r ddogfen hon yn cynrychioli strategaeth tair blynedd gyntaf Ofcom.
1.3 Mae Deddf Diogelwch Ar-lein 2023 wedi egluro ac ychwanegu manylion penodol at ein dyletswyddau ymwybyddiaeth o’r cyfryngau yn Neddf Cyfathrebiadau 2003, gan gynnwys1
Codi ymwybyddiaeth.
• Bydd Ofcom yn cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y cyhoedd o sut gall pobl ddiogelu eu hunain ac eraill ar-lein.
• Bydd Ofcom yn canolbwyntio ar grwpiau y mae niwed yn effeithio’n anghymesur arnynt, gan gynnwys menywod a merched,2 ac yn helpu defnyddwyr i ddeall a lleihau eu cysylltiad â chamwybodaeth a thwyllwybodaeth.
• Xxx xxx Ofcom ddisgresiwn o ran sut rydym yn cyflawni’r dyletswyddau hyn (er enghraifft, mynd ar drywydd gweithgareddau a mentrau, neu gomisiynu neu gymryd camau i annog eraill i wneud hynny) a sut rydym yn blaenoriaethu gwahanol amcanion.
Annog technoleg a systemau.
• Bydd Ofcom yn annog datblygu a defnyddio technolegau a systemau er mwyn i ddefnyddwyr gwasanaethau sy’n cael eu rheoleiddio allu diogelu eu hunain ac eraill ar-lein (ee, darparu cyd-destun i gynnwys).
• Mae Ofcom yn cyfeirio defnyddwyr at adnoddau, offer neu wybodaeth sy’n gallu codi ymwybyddiaeth o sut mae defnyddio gwasanaethau sy’n cael eu rheoleiddio i liniaru niwed.
Cyhoeddi strategaeth ymwybyddiaeth o’r cyfryngau a datganiad blynyddol.
• Mae’n rhaid i Ofcom gyhoeddi strategaeth ymwybyddiaeth o’r cyfryngau o fewn blwyddyn i basio’r Ddeddf Diogelwch Ar-xxxx, xx’n nodi sut rydym yn bwriadu arfer ein swyddogaethau ymwybyddiaeth o’r cyfryngau, gan nodi ein hamcanion a’n blaenoriaethau dros gyfnod o ddim mwy na thair blynedd.
1 Adran 166 o Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023.
2 Yn bwysig, mae niwed ar-lein yn effeithio’n wahanol ar grwpiau gwahanol o fenywod a merched. Mae oedran, rhywioldeb, hunaniaeth o ran rhywedd, hil ac ethnigrwydd, ynghyd â llawer o ffactorau eraill, yn croestorri â rhywedd i ddylanwadu ar brofiadau menywod a merched ar-lein. Er enghraifft, mae mwy o risg y bydd menywod a merched o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig yn profi niwed ar-xxxx xx maen nhw ddwywaith yn fwy tebygol o gredu bod y risgiau o fod ar-lein yn drech na’r manteision yn ôl gwaith ymchwil ein Traciwr Profiadau Ar-lein.
• Rhaid i adroddiad blynyddol Ofcom gynnwys datganiad ymwybyddiaeth o’r cyfryngau ar ein gwaith.
1.4 Mae gwahanol ddiffiniadau’n bodoli o ymwybyddiaeth o’r cyfryngau ac mae Ofcom wedi defnyddio “y gallu i ddefnyddio, deall a chreu cyfryngau a chyfathrebiadau mewn amrywiaeth o gyd-destunau” am y rhan fwyaf o’i 20 mlynedd. Fodd bynnag, o ystyried y ffyrdd cynyddol rydym ni ar-lein a’r cymhlethdod sy’n dod yn sgil hynny, rydym ni’n gwneud mân ddiweddariad i’n diffiniad o ymwybyddiaeth o’r cyfryngau, sef “y gallu i ddefnyddio, deall a chreu cyfryngau a chyfathrebiadau ar draws nifer o fformatau a gwasanaethau.”
1.5 Mae’r gwasanaethau hyn yn esblygu’n gyson, gan chwarae rhan fwy dylanwadol yn fwy xxx xxx pob agwedd ar ein bywyd xxx dydd, ar yr un pryd â chyflwyno risgiau newydd, yn enwedig o ran diogelwch ar-lein a chamwybodaeth a thwyllwybodaeth. Mae hyn yn ategu pwysigrwydd ymwybyddiaeth o’r cyfryngau i genhadaeth Ofcom ac yn enwedig ein blaenoriaethau strategol; “cyfryngau rydym yn ymddiried ynddynt ac yn eu gwerthfawrogi” a “bywyd mwy diogel ar-lein”.
1.6 O ystyried maint a chymhlethdod yr heriau, yn ogystal â’r cyfleoedd posib, rhaid i ymwybyddiaeth o’r cyfryngau fod yn gyfrifoldeb i bawb – xxx xxx lwyfannau ar-lein gyfrifoldeb penodol, ond felly hefyd ddarlledwyr a darparwyr gwasanaethau eraill, yn ogystal â rhieni, addysgwyr, sefydliadau trydydd sector, darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol, gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant ac eraill. Er mwyn gwireddu potensial ymwybyddiaeth o’r cyfryngau yn llawn yn y DU, bydd cyfraniadau a chydweithio ymysg yr xxxx weithredwyr hyn yn hanfodol.
1.7 Xxx xxx Ofcom rôl werthfawr fel y rheoleiddiwr cyfryngau darlledu a’r rheoleiddiwr diogelwch ar-lein. Mae ein strategaeth i wella ymwybyddiaeth o’r cyfryngau yn dechrau gyda’n dulliau rheoleiddio presennol. Er enghraifft, fel y rheoleiddiwr cyfryngau darlledu, rydym yn cynnal safonau ar yr awyr ac yn sicrhau cywirdeb dyladwy a didueddrwydd dyladwy mewn newyddion a materion cyfoes. Rydym hefyd yn gweithio ar sicrhau lluosogrwydd yn y cyfryngau er mwyn i bobl gael mynediad at amrywiaeth xxxx o safbwyntiau o amrywiaeth o ffynonellau. Gyda’i gilydd, mae’r gwaith hwn yn cefnogi un o elfennau craidd ymwybyddiaeth o’r cyfryngau: y gallu i feddwl yn feirniadol am y cyfryngau a chael mynediad at wahanol safbwyntiau. Mae hon yn elfen hanfodol o gyfryngau rydym yn ymddiried ynddynt ac yn eu gwerthfawrogi.
1.8 Yn yr un modd, er mwyn helpu pobl i fyw bywyd mwy diogel ar-lein, rydym eisoes wedi gwneud cynigion i helpu i sicrhau bod gwasanaethau ar-lein yn cefnogi eu defnyddwyr i ryngweithio ac ymgysylltu â chynnwys ar-lein yn ddiogel, gyda rhagor o waith i ddod. Er enghraifft:
• Ein Codau Niwed Anghyfreithlon drafft, sy’n cynnwys cynigion sy’n hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r cyfryngau ac sy’n rhoi mwy o reolaeth i ddefnyddwyr dros eu profiadau ar-lein, gan gynnwys gwneud yn siŵr nad oes modd cysylltu â nhw a chaniatáu iddynt rwystro neu dewi defnyddwyr eraill ac analluogi sylwadau. Rydym hefyd wedi gwneud cynigion i sicrhau bod telerau gwasanaeth sy’n gwahardd cynnwys anghyfreithlon yn glir ac yn hygyrch i ddefnyddwyr, fel eu bod yn gwybod xxxx xx’n xxxx xx ganiatáu a xxxx nad yw’n cael ei ganiatáu gan wahanol wasanaethau; a’i bod yn hawdd canfod systemau cwyno, cael mynediad atynt a’u defnyddio.
• Canllawiau ar gyfer Llwyfannau Rhannu Fideos (VSPs) ar sut mae defnyddio ymwybyddiaeth o’r cyfryngau i gadw defnyddwyr yn ddiogel, ee gwybodaeth i blant am ddulliau o leihau risgiau cysylltiadau anhysbys a chynnwys niweidiol.3
• Y flwyddyn nesaf, ar ôl cwblhau cofrestr y Ddeddf Diogelwch Ar-lein o wasanaethau wedi’u categoreiddio, byddwn yn nodi ein hymagwedd at ddyletswyddau ar y gwasanaethau hyn4 i rymuso defnyddwyr i ddewis pa fathau o gynnwys maen nhw’n eu gweld, ac i gael Telerau Gwasanaeth clir sy’n galluogi defnyddwyr i wneud dewisiadau gwybodus ynghylch pa wasanaethau maen nhw eisiau eu defnyddio.
Ein strategaeth arfaethedig i gyflawni ein dyletswyddau ymwybyddiaeth o’r cyfryngau yw defnyddio ein dulliau rheoleiddio presennol, wedi’u hategu gan weithgareddau ymwybyddiaeth o’r cyfryngau penodol (trosolwg a nodir yn Ffigur 1 isod). Mae ein rôl fel rheoleiddiwr cyfryngau darlledu a rheoleiddiwr diogelwch ar-lein wedi’i nodi mewn mannau eraill, ac felly bydd yr ymgynghoriad hwn ar y strategaeth ymwybyddiaeth o’r cyfryngau yn canolbwyntio ar weithgareddau pellach Ofcom fel catalydd a chynullydd i alluogi, ac weithiau herio, yr ecosystem ehangach. Mae ein strategaeth yn cynnwys gwneud dewisiadau ynghylch yr hyn y byddwn yn ei wneud a’r hyn na fyddwn yn ei wneud. Yn benodol, nid ydym yn cynnig arwain rhaglenni addysg, er enghraifft mewn ysgolion; yn hytrach, yn gyson â gweithredu fel catalydd, mae’r strategaeth yn dyrannu rhywfaint o adnoddau i hyrwyddo’r gwaith o ddatblygu ymwybyddiaeth o’r cyfryngau ymysg gweithwyr proffesiynol a fydd wedyn mewn sefyllfa well i fwrw ymlaen â’r gwaith hwnnw.
ffigur 1: Crynodeb o Strategaeth Ymwybyddiaeth o’r Cyfryngau Ofcom (2024 – 2027)
1.9 Rydym wedi datblygu ein strategaeth arfaethedig ar gyfer ymwybyddiaeth o’r cyfryngau gan flaenoriaethu’r tair elfen ganolog (“Ymchwil, Tystiolaeth a Gwerthuso; Ymgysylltu â
3Gweler y Canllawiau ar lwyfannau rhannu fideos (xxxxx.xxx.xx), t. 49.
4 Mae’r term gwasanaethau wedi’u categoreiddio yn cyfeirio at wasanaethau sy’n dod o fewn cwmpas y Ddeddf Diogelwch Ar-xxxx, xx’n gosod gofynion cyfreithiol ar wasanaethau defnyddwyr-i-ddefnyddwyr, darparwyr peiriannau chwilio a darparwyr gwasanaethau rhyngrwyd sy’n cyhoeddi neu’n dangos cynnwys pornograffig. Mae’r Ddeddf yn berthnasol i ddarparwyr gwasanaethau yn y DU a gwasanaethau sy’n targedu’r DU neu sydd â nifer sylweddol o ddefnyddwyr yn y DU.
Llwyfannau; Pobl a Phartneriaethau”) yn dilyn proses gadarn o: (1) adolygu’n hanesyddol yr hyn sy’n gweithio a’r hyn nad yw’n gweithio, (2) asesu gofynion y Ddeddf Diogelwch Ar-lein,
(3) cynnal cyfres o weithdai gydag arbenigwyr mewnol a (4) cynnal profion straen o’n syniadau gydag arbenigwyr allanol.
1.10 Dyma’r sail resymegol xxxx xxx elfen:
• Ymchwil, Tystiolaeth a Gwerthuso: Mae hyn yn adeiladu ar ein treftadaeth ymchwil a chasglu tystiolaeth am realiti dyddiol oedolion a phlant, yn ogystal â’n hadnoddau gwerthuso a groesawyd.
• Ymgysylltu â Llwyfannau: Llwyfannau yw’r prif gyfrwng ar gyfer cyfathrebiadau a defnyddio’r cyfryngau, yn enwedig lle mae’r problemau a chyfleoedd o ran ymwybyddiaeth o’r cyfryngau yn fwyaf difrifol ar hyn x xxxx.
• Pobl a Phartneriaethau: Mae ymwybyddiaeth o’r cyfryngau yn ymwneud â phobl, a’r ffordd orau o sicrhau effaith yw drwy bartneriaid lleol dibynadwy sy’n arbenigo mewn cyflawni.
1.11 Mae ymwybyddiaeth o’r cyfryngau yn fater i bawb. Mae’r strategaeth arfaethedig hon yn cydnabod nad rôl Ofcom yw “gwneud popeth a byddwn yn dewis a dethol yr hyn rydym yn ei flaenoriaethu dros y tair blynedd nesaf.
1.12 Drwy gydol y broses, rydym wedi ceisio cydbwyso darpariaeth gyffredinol ar gyfer ymwybyddiaeth o’r cyfryngau â chymorth wedi’i dargedu ar gyfer y rheini sydd xx xxxxx fwyaf. Mae grwpiau o’r fath yn cynnwys plant, cymunedau sy’n wynebu anfantais ariannol ac oedolion hŷn. Er mwyn sicrhau bod ein strategaeth yn cael ei chyflawni’n deg ac yn ystyried profiadau a safbwyntiau’r grwpiau rydym ni’n ceisio eu cefnogi, rydym wedi cynnal Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb ac wedi ystyried hawliau plant drwyddi draw. Bydd hon yn broses barhaus wrth i ni gyflawni’r strategaeth.
1.13 Mae’r heriau’n sylweddol, ac er mwyn rhoi’r strategaeth ymwybyddiaeth o’r cyfryngau ar waith yn llwyddiannus bydd gofyn am gydlynu, cydweithio a chyfraniadau gan lu o randdeiliaid ledled y DU. Credwn fod y cyfleoedd yn y dyfodol agos a’r gwobrau posib yn y dyfodol yn deilwng o’r ymdrech hon.
Adolygu’r strategaeth ac ymateb iddi
1.14 Rydym wedi cynnwys geirfa sy’n egluro’r termau allweddol a ddefnyddir drwy gydol y ddogfen hon. Mae’r eirfa ar gael yn Atodiad 7.
1.15 Mae cwestiynau rydym yn ceisio cael ymatebion iddynt drwy gydol y ddogfen a’r ffyrdd y gallwch wneud hynny wedi’u nodi yn Atodiad 1 “Ymateb i’r Ymgynghoriad hwn”.
1.16 Mae’r ymgynghoriad yn para am wyth wythnos o gyhoeddi ar 29 Ebrill 2024 tan 24 Mehefin 2024, sef y dyddiad cau ar gyfer ymatebion. Byddwn yn ystyried yn ofalus yr xxxx ymatebion a ddaeth i law yn ystod y cyfnod hwnnw ac yn cyhoeddi ein strategaeth derfynol yn yr hydref. Xxxxxxx roi xxxx barn i ni mewn sawl ffordd:
• Llenwi’r ffurflen ymgynghori.
• Mynd i un o’n sesiynau adborth rhithiol – mae manylion ar gael ar y dudalen ymgynghori.
• Mynd i’n digwyddiadau wyneb yn wyneb.
o Caeredin, 10 Mehefin 2024, yma.
o Belfast, 11 Mehefin 2024, yma.
o Llundain, 13 Mehefin 2024, yma.
o Caerdydd, 14 Mehefin 2024, yma.
2. Ymchwil, Tystiolaeth a Cwerthuso
Canlyniadau: Erbyn 2027, bydd gwell dealltwriaeth a mesur o ymwybyddiaeth o’r cyfryngau, oherwydd bydd rhanddeiliaid yn defnyddio ein tystiolaeth ymchwil ar gyfer datblygu eu polisïau a gweithgareddau. Erbyn 2027, bydd dealltwriaeth ddyfnach o ‘xxxx xx’n gweithio’ ar gyfer darparu ymyriadau ymwybyddiaeth o’r cyfryngau mewn sectorau perthnasol.
2.1 Mae ein hymchwil feintiol hirsefydlog i’r defnydd o gyfryngau ac agweddau oedolion a phlant yn y DU, yn ogystal â’n hadroddiadau ansoddol, arhydol Y Cyfryngau ym Mywyd, yn darparu tystiolaeth ddefnyddiol ar y sgiliau gwerthuso beirniadol, a gwybodaeth a dealltwriaeth ar-lein ymysg defnyddwyr y rhyngrwyd yn y DU.
2.2 Rydym yn cynnal ymchwil sy’n rhoi cipolwg manwl ar bynciau penodol, fel ein hadroddiad ar gredoau lleiafrifol. Rydym hefyd yn arfer dull ymchwil weithredol wrth gyflawni ein gweithgareddau ymwybyddiaeth o’r cyfryngau, gan ddysgu o’n gwaith gyda chymunedau mewn amser real a chyhoeddi adroddiadau gwerthuso i annog ffocws ar yr hyn sy’n gweithio.
2.3 Mae ein gwaith gyda sefydliadau trydydd sector sy’n darparu mentrau ymwybyddiaeth o’r cyfryngau yn eu helpu i gyflawni adroddiadau arbenigol sy’n dangos pa mor llwyddiannus oedd eu prosiectau – gan gynnwys pa mor effeithiol oedden nhw o ran gwella ymwybyddiaeth pobl o’r cyfryngau. Gelwir yr adroddiad hwn, sy’n aml yn ofynnol gan gyllidwyr, yn werthusiad. Rydym wedi creu cyfres o adnoddau wedi’u hategu gan weithdai i feithrin gallu mewn sefydliadau sydd heb fawr o brofiad o werthuso.
2.4 Byddwn yn rhoi hwb i’n pecyn gwerthuso i rymuso ymhellach y rheini sy’n cynnal rhaglenni ymwybyddiaeth o’r cyfryngau i werthuso eu prosiectau eu hunain a defnyddio a rhannu’r canfyddiadau hynny i helpu i gyflawni mentrau mwy effeithiol yn y dyfodol.
Ein nodau – a sut byddwn yn eu cyrraedd
2.5 Er mwyn ehangu hyd a lled ein dealltwriaeth o ddefnyddio’r cyfryngau ac ar-lein yng nghyd- destun bywyd xxx dydd a chefnogi’r sector i ddeall ‘xxxx xx’n gweithio’ ar gyfer cyflwyno mentrau ymwybyddiaeth o’r cyfryngau, byddwn yn:
NOD UN: Parhau i ddefnyddio ein hymchwil i lywio ein hymyriadau datblygu polisi ac ymwybyddiaeth o’r cyfryngau, ac i annog rhanddeiliaid i’w defnyddio a’i dadansoddi ymhellach.
2.6 Byddwn yn cyflawni hyn yn bennaf drwy’r gweithgareddau allweddol arfaethedig canlynol:
• Nodi mesurau effaith allweddol o’n setiau data i helpu ein rhanddeiliaid a ni’n hunain i fonitro ‘xxxx xx’n gweithio’. Byddwn yn sicrhau ein bod yn asesu newidiadau mewn ymwybyddiaeth o’r cyfryngau dros amser, gan ddefnyddio amrywiaeth o fesurau craidd.
• Byddwn yn defnyddio ystod ehangach o ddulliau cadarn ac arloesol i gael dealltwriaeth o bynciau blaenoriaeth, gan gynnwys:
> Dealltwriaeth well o sut gallwn ni helpu carfanau agored i niwed i ddeall heriau camwybodaeth a thwyllwybodaeth. Er enghraifft, eleni, rydym yn cynnig profi pa negeseuon allai weithio orau, a gan bwy y daw’r negeseuon hynny, er mwyn bod fwyaf priodol ar gyfer y gynulleidfa berthnasol.
> Archwilio xxx xxx defnyddwyr yn ymgysylltu â gweithgarwch niweidiol sy’n effeithio’n anghymesur ar fenywod a merched5, gan nodi goblygiadau o ran ymwybyddiaeth o’r cyfryngau ynghylch sut maen nhw’n deall eu gweithredoedd a’u heffaith ar-lein. Xxx xxxxx sut xxx pobl yn cael eu xxxx at gymunedau sy’n lledaenu ac yn hyrwyddo safbwyntiau gwahaniaethol yn erbyn menywod a merched, a deall sut a ble gellir dod o hyd i’r safbwyntiau hyn, yn gam cyntaf pwysig.
> Dod o hyd i ffyrdd o wella dealltwriaeth defnyddwyr o ble a sut mae eu gwybodaeth bersonol yn cael ei defnyddio gan lwyfannau cyfryngau cymdeithasol a gwasanaethau ar-lein eraill. Mae ein hymchwil ansoddol Diwrnod ym Mywyd wedi dangos sut mae dealltwriaeth defnyddwyr o’r ffyrdd mae llwyfannau’n defnyddio eu data yn aml yn gyfyngedig, felly rydym yn cynnig darparu tystiolaeth o sut gallai llwyfannau fynd i’r afael â’r bwlch hwn mewn ymwybyddiaeth o’r cyfryngau, er mwyn llywio arferion gorau llwyfannau.
> Archwilio gwybodaeth o’n prosiect presennol gyda’r rheini sy’n pleidleisio am y tro cyntaf. Mae’r gwaith hwn yn canolbwyntio ar gynnwys o bwysigrwydd democrataidd, gan edrych ar amlygiad i gamwybodaeth a thwyllwybodaeth a deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol, mewn blwyddyn etholiad. Rydym yn cynnig rhannu’r canfyddiadau hynny’n xxxx â rhanddeiliaid sydd â diddordeb er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth yn gallu llywio gwaith perthnasol.
NOD DAU: Amlygu lleisiau a thystiolaeth amrywiaeth o grwpiau mewn cymdeithas fel bod ein hymchwil yn ddefnyddiol i gynifer o bobl a sefydliadau â phosib.
2.7 Byddwn yn cyflawni hyn yn bennaf drwy’r gweithgareddau allweddol arfaethedig canlynol:
• Cynyddu ein samplau tracio i’n galluogi i wrando ar wahanol grwpiau defnyddwyr gan gynnwys y rheini y mae cynnwys a gweithgarwch niweidiol yn effeithio’n anghymesur arnynt, a chynnal dadansoddiadau eilaidd i gael dealltwriaeth ddyfnach o wahanol gynulleidfaoedd, gan gynnwys menywod a merched, a phlant.
• Rhannu ein dealltwriaeth o sut mae’r materion rydym yn mynd i’r afael â nhw yn ein rhaglen ymchwil yn effeithio ar y rheini sydd â nodweddion gwarchodedig, ac amrywiaeth o grwpiau demograffig a daearyddol.
NOD TRI: Xxxxxx ein gwybodaeth am ‘xxxx xx’n gweithio’ o ran cyflawni ymwybyddiaeth o’r cyfryngau.
2.8 Byddwn yn cyflawni hyn yn bennaf drwy’r gweithgareddau allweddol arfaethedig canlynol:
5 Mae hyn yn cynnwys casineb at fenywod ar-lein yn ogystal â mathau eraill o drais a cham-drin ar sail rhywedd ar-lein. Ar hyn x xxxx rydym yn defnyddio’r term hwn i gyfeirio at ystod xxxx o gynnwys a gweithgarwch ar- xxxx xx’n effeithio’n anghymesur ar fenywod a merched, gan gynnwys drwy weithredu neu atgyfnerthu casineb at fenywod, rhywiaeth a mathau eraill o niwed ar sail rhywedd. Mae’r term hwn yn cael ei ddefnyddio’n xxxx yn y Deyrnas Unedig, fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod termau eraill yn cael eu defnyddio, er enghraifft trais ar-lein yn erbyn menywod a merched (VAWG) a thrais ar sail rhywedd sy’n cael ei hwyluso gan dechnoleg (TFGBV)
• Cyhoeddi canfyddiadau ein gweithgareddau ymwybyddiaeth o’r cyfryngau a gomisiynwyd sydd wedi’u hamlinellu yn adran Pobl a Phartneriaethau y strategaeth hon.
• Darparu adnoddau a chanllawiau i baratoi sefydliadau sy’n darparu ymyriadau ymwybyddiaeth o’r cyfryngau yn well i addysgu sgiliau hanfodol sy’n helpu pobl i ganfod camwybodaeth a thwyllwybodaeth. Gallai hyn fod ar ffurf pecyn cymorth a gweithdai y byddem yn eu dylunio, eu darparu a’u gwerthuso dros gyfnod y strategaeth tair blynedd.
• Gweithio gyda thimau arbenigol Ofcom, gan edrych ar y ffordd orau o gyfeirio atebion technoleg posib (fel dyfrnodau neu ategion trydydd parti fel NewsGuard) yn ein cyfres o adnoddau.
NOD PEDWAR: Cefnogi darparwyr mentrau ymwybyddiaeth o’r cyfryngau i gynnal gwerthusiad, gan arwain at ddiwylliant lle mae dulliau arfer gorau yn cael eu datblygu, eu rhannu a’u defnyddio i ddatblygu ymyriadau mwy effeithiol.
2.9 Byddwn yn cyflawni hyn yn bennaf drwy’r gweithgareddau allweddol arfaethedig canlynol:
• Cynnig hyfforddiant ac adnoddau sy’n paratoi gweithwyr proffesiynol sy’n darparu ymyriadau ymwybyddiaeth o’r cyfryngau drwy roi gwybodaeth a sgiliau iddynt sy’n gysylltiedig â’r broses werthuso.
• Creu fframwaith o ddangosyddion llwyddiant cysylltiedig y cytunir arnynt ar gyfer ein gwaith ein hunain ac adrodd yn eu herbyn.
• Mynnu bod sefydliadau rydym yn eu comisiynu yn darparu gwerthusiadau effaith a phroses sy’n gymesur â maint y ddarpariaeth a’r contract.
2.10 Rydym yn credu mewn bod yn dryloyw ynghylch yr hyn rydym wedi’i gyflawni mewn perthynas â’n nodau strategol ar gyfer Ymchwil, Tystiolaeth a Gwerthuso, a byddwn yn cynnwys y dangosyddion canlynol wrth fesur ac adrodd ar ein cynnydd:
• Mae ein hymchwil ymwybyddiaeth o’r cyfryngau yn dal i gael ei pharchu a’i dyfynnu’n xxxx xxx y gymuned ymwybyddiaeth o’r cyfryngau, y cyfryngau a’r llywodraeth yn y DU ac yn rhyngwladol mewn perthynas â datblygu polisi ac ymyriadau ymwybyddiaeth o’r cyfryngau.
• Mae gennym rwydwaith estynedig o bartneriaid ymchwil a rhanddeiliaid yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
• Mae mwy o sefydliadau sy’n darparu ymyriadau ymwybyddiaeth o’r cyfryngau yn cynnal gwerthusiadau o effaith ac yn rhannu arferion gorau.
2.11 Rydym yn tynnu sylw at y pedwar gwahaniaeth allweddol canlynol sy’n rhedeg drwy ein dull strategol ar gyfer Ymchwil, Tystiolaeth a Gwerthuso:
• Newidiadau i feintiau sampl sy’n caniatáu dadansoddiad manylach o wahanol grwpiau.
• Ffocws penodol ar y meysydd ymwybyddiaeth o’r cyfryngau a amlinellir yn y Ddeddf Diogelwch Ar-lein.
• Mwy o gyswllt ag amrywiaeth o sectorau ar gyfer gwerthuso ac ymyriadau ymwybyddiaeth o’r cyfryngau.
• Mwy o waith allgymorth a gwreiddio ein gwaith i randdeiliaid a’r cyhoedd yn ehangach.
Cwestiwn 1: Ydych chi’n cytuno â’n cynigion yn yr adran hon? Esboniwch xxxx rhesymau a rhowch unrhyw dystiolaeth ategol berthnasol.
3. Ymgysylltu â Llwyfannau
Canlyniad: Erbyn 2027, bydd gwasanaethau ar-lein yn darparu gwell cymorth ymwybyddiaeth o’r cyfryngau i’w defnyddwyr, mwy o werthuso effaith y cymorth hwn, a chyllid tymor hwy ar gyfer mentrau sy’n helpu i ddarparu’r cymorth hwn.
3.1 Xxx xxx lwyfannau a gwasanaethau ar-lein rôl bwysig i’w chwarae o ran hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r cyfryngau ymysg y miliynau o bobl sy’n defnyddio eu gwasanaethau. Mae cyfrifoldebau rheoleiddio Ofcom am ddiogelwch ar-lein a’i rôl o ran ymwybyddiaeth o’r cyfryngau yn gysylltiedig â’r cyfle i ategu ei gilydd. Efallai y byddwn yn ystyried cynnwys ymwybyddiaeth o’r cyfryngau ymhellach fel rhan o fesurau yn ein codau ymarfer diogelwch ar-lein.
3.2 Byddwn yn defnyddio’r ymchwil a’r ymgysylltu a wnawn ar gyfer ein gwaith ymwybyddiaeth o’r cyfryngau i lywio ein gwaith datblygu polisi ar gyfer diogelwch ar-xxxx, xx i’r gwrthwyneb. Fodd bynnag, rydym yn disgwyl i gwmpas ein gwaith ymwybyddiaeth o’r cyfryngau fod yn ehangach a chanolbwyntio mwy ar arferion gorau, a allai gael cryn dipyn yn fwy o effaith na gofynion cydymffurfio dyletswyddau diogelwch ar-lein y gwasanaethau.
3.4 Fodd bynnag, er mwyn gwneud hyn yn gyson ac yn dda, bydd angen i lwyfannau flaenoriaethu ymyriadau sy’n cefnogi ymwybyddiaeth o’r cyfryngau a bod yn fwy tryloyw ynghylch eu dyluniad a’u canlyniadau. Gan adeiladu ar ein Hegwyddorion Arfer Gorau drwy Ddylunio, rydym ni eisiau deall yn well sut mae defnyddwyr yn meddwl bod llwyfannau’n gallu hyrwyddo eu hymwybyddiaeth o’r cyfryngau, er mwyn iddyn nhw allu diogelu eu hunain, gweithredu a ffynnu ar-lein.
3.5 Rydym hefyd yn cydnabod ymdrechion gwasanaethau ar-lein i ddatblygu a/neu ariannu prosiectau ymwybyddiaeth o’r cyfryngau trydydd parti, gan fod y rhain yn ategu’r hyn sy’n digwydd ar y llwyfan. Fodd bynnag, mae sefydliadau sy’n cael eu hariannu gan lwyfannau ac sy’n darparu adnoddau neu fentrau ymwybyddiaeth o’r cyfryngau yn wynebu nifer o heriau sy’n eu cyfyngu i gyflawni eu llawn botensial. Mae’r rhain yn cynnwys cytundebau cyllido bregus a thymor byr, pwysau cyson ar gyfer cynnwys ‘newydd’ a chynnwys a allai fod yn ddethol neu’n rhannol wedi’i greu i gyd-fynd â gwerthoedd brand yn hytrach nag anghenion defnyddwyr.
Ein nodau – a sut byddwn yn eu cyrraedd
3.6 Ein gwaith gyda llwyfannau yw darparu argymhellion sy’n seiliedig ar dystiolaeth i annog gwasanaethau ar-lein i ddatblygu ymyriadau cadarn a thrylwyr o ran ymwybyddiaeth o’r cyfryngau sy’n canolbwyntio ar yr hyn sy’n digwydd ar-lein, ar y pryd, ond hefyd all-lein. Rydym yn cynnig:
NOD UN: Adeiladu ar xxxxx xx’n blaenoriaethu ymwybyddiaeth defnyddwyr o’r cyfryngau ar- lwyfan drwy hyrwyddo arferion gorau.
3.7 Byddwn yn cyflawni hyn yn bennaf drwy’r gweithgareddau allweddol arfaethedig canlynol:
• Gweithio gyda gwasanaethau ar-lein i’w hannog i fabwysiadu ein Hegwyddorion Arfer Gorau ar gyfer Ymwybyddiaeth o’r Cyfryngau drwy Ddylunio.
• Meithrin cyd-ddealltwriaeth o’r hyn mae defnyddwyr yn ei ystyried yn ddefnyddiol i lywio’n well drwy’r amgylchedd ar-xxxx xx i feithrin profiadau mwy cadarnhaol ar-lein. Yn benodol, mae gennym ddiddordeb mewn deall sut gall llwyfannau gefnogi defnyddwyr orau drwy ddarparu gwybodaeth ar wahanol adegau yn nhaith y defnyddiwr, gan gynnwys darparu cyd- destun ar y cynnwys maen nhw’n ei weld ar-lein. Byddwn yn edrych ar y materion penodol canlynol:
> Camwybodaeth a thwyllwybodaeth.
> Cynnwys a gweithgarwch niweidiol sy’n effeithio’n anghymesur ar fenywod a merched.
> Diogelu gwybodaeth bersonol.
> Cynnwys o bwysigrwydd democrataidd.
• Parhau i feithrin cyd-ddealltwriaeth o’r hyn mae defnyddwyr yn ei ddisgwyl gan wasanaethau ar-xxxx xx mwyn gwneud yr amgylchedd ar-lein yn well ac yn fwy cadarnhaol. Byddwn yn edrych ar faterion penodol fel effaith ‘dylunio perswadiol’ ar blant, gan gynnwys swyddogaethau fel awtochwarae a sgrolio diddiwedd. Xxxxxx’r effaith hon fod yn gadarnhaol neu gallai gyfrannu at niwed. Byddwn yn ystyried sut gall gwasanaethau helpu defnyddwyr i wneud dewisiadau gwybodus a lliniaru niwed posib drwy gefnogi ymwybyddiaeth eu defnyddwyr o’r cyfryngau.
• Troi ein hymchwil yn wybodaeth weithredol ar gyfer llwyfannau – gan dynnu sylw at yr hyn sy’n gweithio orau i ddefnyddwyr, xxxx xx’n dda a defnyddio ein dylanwad i annog llwyfannau i wneud newidiadau i’w cynhyrchion a’u gwasanaethau yn seiliedig ar ddisgwyliadau defnyddwyr.6
NOD DAU: Sicrhau bod llwyfannau’n gwreiddio gwerthusiadau er mwyn meithrin dealltwriaeth o’r hyn sy’n gweithio i hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r cyfryngau.
3.8 Byddwn yn cyflawni hyn yn bennaf drwy’r gweithgareddau allweddol arfaethedig canlynol:
• Annog llwyfannau i werthuso effaith eu hymyriadau a rhannu’r hyn sy’n gweithio gyda rhanddeiliaid eraill i feithrin diwylliant o ddysgu ar y cyd. Byddwn yn defnyddio ein dylanwad i ddathlu gwasanaethau ar-xxxx xx’n dangos arweinyddiaeth. Byddwn hefyd yn nodi lle rydym yn credu y gallai llwyfannau fod yn gwneud mwy.
NOD TRI: Gweithio i sicrhau bod llwyfannau’n cyllido rhaglenni ymwybyddiaeth o’r cyfryngau.
6 Roedd ein hymchwil ddiweddar gan ddefnyddio methodoleg tracio llygaid yn mesur i xx xxxxxx y xxx cynnwys a roddir ar ffrwd yn cael effaith sylweddol ar gyfraddau ac ymgysylltiad agored. Gwelsom fod eitemau newyddion ar frig y ffrwd yn cael tua 14 gwaith yn fwy o sylw o gymharu ag eitemau newyddion ar waelod y ffrwd. Gallai gweithredu ar yr wybodaeth hon i hyrwyddo ymwybyddiaeth defnyddwyr o’r cyfryngau - xxxxx xx ar gyfer didueddrwydd newyddion neu nodweddion neu xxxxx xx’n darparu cyd-destun o ran cynnwys neu gyfeirio at osodiadau - greu sylfaen o ddefnyddwyr sydd â mwy o ymwybyddiaeth o’r cyfryngau.
3.9 Byddwn yn cyflawni hyn yn bennaf drwy’r gweithgareddau allweddol arfaethedig canlynol:
• Annog gwasanaethau ar-lein i hyrwyddo, cefnogi ac ariannu, xxxxx xx’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, y gwaith o ddatblygu sgiliau ymwybyddiaeth o’r cyfryngau ar gyfer eu defnyddwyr ac eraill.
• Archwilio’r opsiwn o feithrin consensws ar egwyddorion arfer gorau ar gyfer darparu ymwybyddiaeth o’r cyfryngau.
• Annog gwasanaethau ar-lein i ariannu ymyriadau trydydd parti yn uniongyrchol i ddefnyddwyr mewn amrywiaeth o leoliadau (er enghraifft, cydweithrediad Google â Parent Zone i greu ‘Be Internet Legends’ – rhaglen ymwybyddiaeth o’r cyfryngau sydd wedi’i hanelu at bobl ifanc rhwng 7 ac 11 oed sy’n cynnwys gwasanaethau byw, pecyn addysgu, adnoddau addysgu a chefnogaeth i rieni) a gwthio eu huchelgais i wasanaethu grwpiau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol. Mae agweddau cadarnhaol i lwyfannau sy’n ariannu mentrau ymwybyddiaeth o’r cyfryngau – mae’r creadigrwydd, y diddordeb a’r arloesedd y mae’r opsiwn hwn yn eu cynnig i’w croesawu. Fodd bynnag, efallai y bydd rhai anfanteision posib hefyd a allai gynnwys:
> Cynnwys rhannol wedi’i ddylunio i ganolbwyntio ar nodweddion dethol y gwasanaeth.
> Gwasanaeth a gynigir mewn ardaloedd dethol yn unig a allai waethygu anghydraddoldeb.
> Canfyddiad camarweiniol y gellir datblygu sgiliau ymwybyddiaeth o’r cyfryngau drwy ddull “un cam ar y tro”.
3.10 Rydym yn credu mewn bod yn dryloyw ynghylch yr hyn rydym wedi’i gyflawni mewn perthynas â’n nodau strategol ar gyfer Ymgysylltu â Llwyfannau, a byddwn yn cynnwys y dangosyddion canlynol wrth fesur ac adrodd ar ein cynnydd:
• Mae gwasanaethau ar-lein yn mesur effaith eu hymyriadau ar-lwyfan ac yn rhannu’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu.
• Mae egwyddorion arfer gorau ar gyfer ymyriadau ymwybyddiaeth o’r cyfryngau yn cael eu rhoi ar waith gan sefydliadau sy’n darparu rhaglenni.
• Mae modelau cyllido llwyfannau sy’n ymwneud ag ymyriadau ymwybyddiaeth o’r cyfryngau a gyflwynir gan sefydliadau trydydd parti yn esblygu i ganolbwyntio ar effaith, ac mae buddsoddiadau’n digwydd dros nifer o flynyddoedd.
3.11 Rydym yn tynnu sylw at y pedwar gwahaniaeth allweddol canlynol sy’n rhedeg drwy ein dull strategol ar gyfer Ymgysylltu â Llwyfannau:
• Mae ein ffocws ar yr hyn mae defnyddwyr yn ei ddisgwyl gan lwyfannau yn sail i’n xxxx xxxxx.
• Ein hymrwymiad i gomisiynu ymchwil i ddeall yn well xxxx xxx defnyddwyr yn ei ddisgwyl gan lwyfannau ac yn ystyried ei fod yn ddefnyddiol ar gyfer rhoi’r cynnwys maen nhw’n ei weld ar-lein mewn cyd-destun.
• Ein gwaith yn annog llwyfannau i fesur effaith eu hymyriadau.
• Ein dull o feithrin diwylliant lle mae rhannu’r hyn a ddysgir yn arfer safonol.
Cwestiwn 2: Ydych chi’n cytuno â’n cynigion yn yr adran hon ar gyfer gweithio gyda llwyfannau? Esboniwch xxxx rhesymau a rhowch unrhyw dystiolaeth ategol berthnasol.
4.Pobl a Phartneriaethau
Canlyniad: Erbyn 2027, bydd mwy o bobl yn gallu cael gafael ar y sgiliau a’r cymorth sydd eu xxxxxx arnynt i lywio drwy gynnwys a ffynnu’n ddiogel ar-lein, a bydd addysgwyr a gweithluoedd blaenoriaeth eraill mewn sefyllfa well i ddarparu sgiliau ymwybyddiaeth o’r cyfryngau.
Erbyn 2027, bydd ymwybyddiaeth o’r cyfryngau yn fwy o flaenoriaeth i ystod ehangach o sefydliadau a sectorau.
4.1 Mae Ofcom wedi cydnabod ers tro byd bod angen i unigolion, teuluoedd a chymunedau feddu ar sgiliau ymwybyddiaeth o’r cyfryngau. Mae ein hymchwil yn chwalu unrhyw fythau bod pobl iau (a elwir weithiau’n “frodorion digidol”) yn deall pob agwedd ar fod ar-xxxx xx yn meddu ar y sgiliau a’r ymddygiad angenrheidiol i’w lywio’n hyderus ac yn wybodus.
4.2 Mae ein profiad a’n dealltwriaeth yn awgrymu bod ymyriadau ymwybyddiaeth o’r cyfryngau yn fwyaf effeithiol pan fyddant yn cael eu darparu gan leisiau dibynadwy. Yn ogystal â’r gweithwyr proffesiynol y mae unigolyn eisoes yn ymddiried ynddynt i’w cefnogi, gallai hyn fod yn rhywun o’r un gymuned neu sydd â phrofiadau bywyd tebyg i brofiadau’r cyfranogwyr. Yn ein profiad ni, er bod y dull hwn yn effeithiol, mae fel arfer yn gofyn am fuddsoddiad sylweddol mewn adnoddau.
4.3 Rydym yn defnyddio dull gweithredu teg, gan ganolbwyntio ein hadnoddau ar y rheini sydd ag anghenion penodol o ran ymwybyddiaeth o’r cyfryngau, er enghraifft cymunedau sy’n wynebu anfantais ariannol, pobl hŷn a phlant. Rydym yn cydnabod na fydd pawb sydd â’r nodweddion hyn yn cael trafferth gyda’u hymwybyddiaeth o’r cyfryngau, ond bydd y dull hwn yn ein helpu i dargedu ein gwaith a’n hadnoddau lle maent yn debygol o gael yr effaith fwyaf.
4.4 Bydd ein gwaith gyda phlant yn defnyddio dull sy’n seiliedig ar hawliau plant er mwyn i ni, wrth gynllunio ac ymgymryd â gwaith, ystyried yr effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol posib ar blant. Yn benodol, mae ein gwaith yn cefnogi erthygl 17 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) (mynediad at wybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau cyfryngau). Byddwn yn sicrhau bod unrhyw xxxxx xx’n targedu plant yn ystyried eu barn.
4.5 Mae plant sydd â nodweddion penodol yn fwy tebygol o fod angen cymorth gyda’u sgiliau ymwybyddiaeth o’r cyfryngau ac felly rydym yn cynnig blaenoriaethu cynlluniau ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau, anawsterau cyfathrebu, profiad o ofal, anawsterau iechyd meddwl a/neu namau corfforol.
4.6 Byddwn yn defnyddio’r dull teg hwn ar draws pob un o’r pynciau y mae ein gwaith yn mynd i’r afael â nhw, gan gynnwys camwybodaeth a thwyllwybodaeth a gweithgarwch a chynnwys niweidiol sy’n effeithio’n anghymesur ar fenywod a merched. Pan fydd ymwybyddiaeth o’r cyfryngau yn ymwneud â hunaniaeth ddigidol a pharchu eraill ar-lein, gall ein gwaith ganolbwyntio’n uniongyrchol ar un grŵp o blant ond xxxx xxxx effaith anuniongyrchol ar grŵp arall o blant. Er enghraifft, mae ein gwaith ar gasineb ar-lein at fenywod yn debygol o dargedu bechgyn a dynion ifanc yn eu harddegau yn uniongyrchol, a gobeithio y bydd yn arwain at ganlyniadau cadarnhaol i ferched a menywod ifanc yn ogystal â’r dynion ifanc eu hunain.
4.7 Pobl a phartneriaethau sydd wrth galon ein dull gweithredu. Rydym wedi ymrwymo i gynnull ymarferwyr ymwybyddiaeth o’r cyfryngau ac eraill sy’n gweithio mewn meysydd cysylltiedig xxx xxxx chymunedau allweddol, gan greu cyfleoedd iddynt rannu arbenigedd a dysgu oddi wrth eraill. Rydym yn cyflawni hyn drwy ddigwyddiadau ar gyfer ein rhwydwaith o unigolion a sefydliadau sydd â diddordeb cyffredin mewn ymwybyddiaeth o’r cyfryngau, a thrwy ein Panel Cynghori a’n gweithgorau. Rydym hefyd yn creu partneriaethau gyda sefydliadau trydydd sector, awdurdodau lleol a chyrff eraill drwy ein gwaith yn adeiladu ar y seilwaith digidol, a thrwy ein rhaglen sy’n comisiynu prosiectau peilot ar gyfer cymunedau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol.
4.8 Rydym hefyd yn cydnabod manteision a chyfleoedd ymgysylltu â rhanddeiliaid rhyngwladol i ddysgu a rhannu gwybodaeth er xxxx x xxxxx ochr a’r llall ac i ddeall yn gyflymach xxxx xx’n gweithio a xxxx sydd ddim yn gweithio.
Ein nodau – a sut byddwn yn eu cyrraedd.
4.9 Credwn y dylai ymwybyddiaeth o’r cyfryngau fod yn fater i bawb. Er mwyn sicrhau hyn, rydym yn cynnig:
NOD UN: Comisiynu ymyriadau wedi’u targedu yn y carfanau lle mae’r angen mwyaf a rhannu arferion gorau gyda’r sector.
4.10 Byddwn yn cyflawni hyn yn bennaf drwy’r gweithgareddau allweddol arfaethedig canlynol:
• Defnyddio ein hymchwil i nodi cynulleidfaoedd allweddol ac ardaloedd daearyddol lle bydd ymyriadau arfaethedig yn cael yr effaith fwyaf.
• Nodi pynciau, gan ddefnyddio ein sylfaen dystiolaeth, i’w cynnwys mewn ymyriadau arfaethedig, gan gynnwys:
> Deall sut mae canfod camwybodaeth a thwyllwybodaeth a diogelu rhagddynt.
> Lliniaru ymddygiad rhywiaethol a chasineb at fenywod ar-lein.
> Deall sut mae nodi cynnwys o bwysigrwydd democrataidd.
> Gwneud yn siŵr bod gan bobl y sgiliau a’r wybodaeth i ddiogelu eu gwybodaeth bersonol.
• Comisiynu sefydliadau sy’n arbenigo mewn gweithio gyda’r garfan darged/carfanau targed.
• Rhannu gwybodaeth a gwersi a ddysgwyd o’r ymyriadau hyn gyda’r sector ehangach drwy ein rhwydweithiau.
NOD DAU: Ehangu ein cynnig hyfforddi drwy sefydliadau partner sy’n darparu cyrsiau datblygiad proffesiynol parhaus (DPP).
4.11 Byddwn yn cyflawni hyn yn bennaf drwy’r gweithgareddau allweddol arfaethedig canlynol:
• Ehangu ein rhaglen waith bresennol lle comisiynir darparwyr arbenigol i ddarparu hyfforddiant i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc ar draws tri sector: athrawon a gweithwyr addysg proffesiynol, gweithwyr proffesiynol xx xxxx iechyd meddwl plant a darparwyr gofal cymdeithasol i blant. Ein bwriad yw:
> Gweithio gyda darparwyr Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon (prifysgolion ac ati) i fanteisio ar wybodaeth athrawon newydd.
> Gweithio gydag adrannau addysg a rheoleiddwyr ym mhob un o wledydd y DU i’w cefnogi i ddatblygu arferion ymwybyddiaeth o’r cyfryngau mewn ysgolion (ee sefydlu “arweinydd” ymwybyddiaeth o’r cyfryngau mewn ysgolion).
• Gwerthuso effaith yr hyfforddiant a chyfeirio cyfranogwyr at adnoddau pellach
NOD TRI: Parhau i adeiladu ar y seilwaith cynhwysiad digidol, er mwyn i’r rheini sy’n newydd i dechnoleg allu dechrau a pharhau’n dda.
4.12 Byddwn yn cyflawni hyn yn bennaf drwy’r gweithgareddau allweddol arfaethedig canlynol:
• Datblygu ein model “seiliedig ar le” ar gyfer ymwybyddiaeth o’r cyfryngau, lle mae arbenigwyr lleol yn adeiladu ar y cynnig presennol yn eu cymuned ac yn ymgorffori ymwybyddiaeth o’r cyfryngau mewn strategaethau digidol lleol a/neu gynigion cynhwysiad digidol. Mae’r gwaith hwn yn cael ei wneud mewn ardaloedd o anfantais ariannol. Ein bwriad yw:
> Gweithio gydag adrannau perthnasol y llywodraeth a chonsortia ledled y DU i ddylanwadu ar fodelau polisi a chyllido.
> Clywed gan feysydd eraill a fyddai â diddordeb am ein dull gweithredu a’r hyn rydym wedi’i ddysgu.
> Ehangu i bedwaredd gymuned yng Ngogledd Iwerddon.
> Gweithio mewn partneriaeth ag arbenigwyr cynhwysiad digidol i ychwanegu ymwybyddiaeth o’r cyfryngau at eu cynnig.
NOD PEDWAR: Meithrin perthnasoedd newydd ac ehangu ein rhwydwaith i wneud ymwybyddiaeth o’r cyfryngau yn flaenoriaeth i ystod ehangach o sefydliadau.
4.13 Byddwn yn cyflawni hyn yn bennaf drwy’r gweithgareddau allweddol arfaethedig canlynol:
• Creu cysylltiadau â sefydliadau sydd â pherthynas ddibynadwy â chymunedau xxxx xxxxx ai ddim yn weithgar iawn ar-xxxx xxx’n fwy tebygol o fod mewn amgylchedd gelyniaethus ar- xxxx, xx enghraifft:
> Cymunedau organig wedi’u creu gan fenywod a merched ac ar eu cyfer. Gall y cymunedau hyn gefnogi eraill ar-lein, mynd i’r afael â chasineb at fenywod ar-lein, neu gynnig cymorth i fenywod a merched sydd wedi profi cam-drin a thrais ar sail rhywedd ar-lein. Byddem hefyd yn awyddus i ymhelaethu ar y gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud yn y cymunedau hyn.
• Archwilio sut gallai darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus fynd i’r afael ag ystyriaethau ymwybyddiaeth o’r cyfryngau.
• Creu clymblaid xxxx o sefydliadau sy’n gweithio yn y trydydd sector. Gallai hyn fod mewn meysydd cyfochrog ag ymwybyddiaeth o’r cyfryngau a allai fod yn darparu ymwybyddiaeth o’r cyfryngau “yn ddiarwybod” (er enghraifft, ar raglenni sy’n canolbwyntio ar iechyd neu gydlyniad cymunedol). Byddai hyn hefyd yn cynnwys sefydliadau sy’n gweithio gyda rhieni.
• Gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau arbenigol. Gallai hyn fod ar ffurf gwasanaeth paru sy’n cael ei redeg gan Ofcom i gysylltu arbenigwyr mewn lliniaru camwybodaeth a thwyllwybodaeth ag ymarferwyr nad oes ganddynt wybodaeth fanwl. Gallai hefyd fod yn
wasanaeth lle mae arbenigwyr sy’n fedrus wrth gynnal trafodaethau â chynulleidfaoedd sydd â chredoau lleiafrifol yn rhannu arferion gorau o ran herio sgyrsiau.
• Ystyried awgrym diweddar LSE o gael Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o’r Cyfryngau fel y’i mynegwyd yn ei adroddiad ar gyfer yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesedd a Thechnoleg (DSIT). Mae gennym feddwl agored ynghylch a fyddai wythnos ymwybyddiaeth o’r cyfryngau yn weithgaredd defnyddiol i’r DU ac os felly, a ddylai Ofcom ei chydlynu. Un o’r ffactorau allweddol a fyddai’n ein helpu i wneud y penderfyniad hwnnw yw a oes tystiolaeth bod wythnosau ffocws fel hyn yn effeithiol.
NOD PUMP: Adeiladu ar ein rôl fel cynullydd arbenigwyr ymwybyddiaeth o’r cyfryngau i greu polisïau ac argymhellion ymarferol ar y cyd.
4.14 Byddwn yn cyflawni hyn yn bennaf drwy’r gweithgareddau allweddol arfaethedig canlynol:
• Archwilio tueddiadau technoleg yn y dyfodol a’u goblygiadau o ran ymwybyddiaeth o’r cyfryngau, gan gynnull gweithredwyr polisi sector perthnasol ac arbenigedd technolegol mewnol ac allanol. Bydd y dull hwn yn helpu i gefnogi’r rheini sy’n gweithio ar ymwybyddiaeth o’r cyfryngau i ddeall y goblygiadau ymarferol o ran sut gallai technolegau’r dyfodol a thechnolegau newydd effeithio ar fywydau pobl o ddydd i ddydd. Byddwn yn gwneud hyn drwy wneud y canlynol:
> Creu gweithgor ad-hoc ar dueddiadau technoleg yn y dyfodol sy’n cynnwys arbenigwyr o’r sector ymwybyddiaeth o’r cyfryngau a thu hwnt i nodi’r cyfleoedd a’r heriau o ran ymwybyddiaeth o’r cyfryngau sy’n gysylltiedig ag elfennau allweddol bywyd ar-xxxx xx archwilio sut gall technoleg newydd a thechnoleg y dyfodol ddylanwadu ar brofiad defnyddwyr.
> Bydd y gweithgor yn datblygu ac yn cyhoeddi argymhellion polisi a rhaglenni i annog y sector i integreiddio’r rhain yn eu gwaith.
4.15 Rydym yn credu mewn bod yn dryloyw ynghylch yr hyn rydym wedi’i gyflawni mewn perthynas â’n nodau strategol ar gyfer Pobl a Phartneriaethau, a byddwn yn cynnwys y dangosyddion canlynol wrth fesur ac adrodd ar ein cynnydd:
• Cynnwys ymwybyddiaeth o’r cyfryngau mewn strategaethau digidol lleol gyda’r nod o gael 10 strategaeth cynhwysiad digidol lleol sy’n cynnwys ymwybyddiaeth o’r cyfryngau ledled y DU dros dair blynedd.
• Effaith fesuradwy gweithgareddau ymwybyddiaeth o’r cyfryngau a gomisiynwyd o safbwynt ymwybyddiaeth o’r cyfryngau.
• Mae Ofcom yn datblygu partneriaethau â sefydliadau allweddol sy’n ymwneud ag ymwybyddiaeth o’r cyfryngau.
• Mae’r rhwydwaith Gwneud Synnwyr o’r Cyfryngau yn tyfu ac yn cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau darparu sy’n gysylltiedig ag ymwybyddiaeth o’r cyfryngau a’r rheini sy’n cynrychioli carfanau agored i niwed.
• Nifer y gweithwyr proffesiynol sydd wedi hyfforddi drwy ein mentrau “hyfforddi’r hyfforddwr” a mwy x xxxxx cyfranogwyr o gymharu ag arolygon llinell sylfaen.
4.16 Rydym yn tynnu sylw at y pedwar prif wahaniaeth canlynol sy’n rhedeg drwy ein dull strategol ar gyfer Pobl a Phartneriaethau:
• Canolbwyntio’n fwy ar feithrin ymwybyddiaeth o’r cyfryngau – drwy ein rhwydwaith a’n hymyriadau – mewn meysydd o angen.
• Ymrwymiad i gefnogi sgiliau ymwybyddiaeth o’r cyfryngau i blant drwy ein cynnig hyfforddi athrawon.
• Ffocws newydd ar ehangu ein gwaith gyda sefydliadau partner i greu clymblaid mor xxxx â phosib gan weithio tuag at nod cyffredin.
• Pwyslais ar greu argymhellion polisi ymarferol ar y cyd ag arbenigwyr ymwybyddiaeth o’r cyfryngau.
Cwestiwn 3: Ydych chi’n cytuno â’n cynigion yn yr adran hon? Esboniwch xxxx rhesymau a rhowch unrhyw dystiolaeth ategol. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn unrhyw farn a thystiolaeth ynghylch a fyddai Wythnos Ymwybyddiaeth o’r Cyfryngau yn effeithiol.
A1. Asesiadau Effaith
A1.1 Xxx xxx Ofcom ddyletswydd i gynnal asesiadau effaith er mwyn rhoi darlun i’n rhanddeiliaid o’r opsiynau sy’n cael eu hystyried wrth wneud penderfyniadau polisi a xxxxxx xxx xxx’r opsiwn a ddewiswyd yn cael ei ffafrio. Rydym yn cydnabod bod y penderfyniadau rydym ni’n eu gwneud yn gallu sicrhau gwerth sylweddol i ddinasyddion ac i ddefnyddwyr, ond eu bod hefyd yn gallu arwain at gostau sylweddol i’n rhanddeiliaid.
Felly, rydym yn ystyried a yw ein hymyriadau polisi yn gymesur ac yn briodol yn ystod ein proses ymgynghori.
A1.2 Fel sy’n cael ei adlewyrchu yn adran 7 o’r Ddeddf Cyfathrebiadau, mae’n rhaid i Ofcom gynnal asesiadau effaith mewn achosion lle byddai ein canlyniadau’n debygol o gael effaith arwyddocaol ar fusnesau neu’r cyhoedd, neu lle mae newid mawr yng ngweithgareddau Ofcom. Yn achos ein Strategaeth Tair Blynedd Ymwybyddiaeth o’r Cyfryngau, nid ydym wedi cynnal asesiad effaith gan fod effaith pob polisi a rhaglen waith sydd wedi’u cynnwys yn y strategaeth yn cael eu hasesu’n unigol fel y bo’n briodol.
A1.3 Mae ein hasesiad o’r effaith ar gydraddoldeb ac asesiad o’r effaith ar y Gymraeg wedi’u nodi isod.
Asesu’r effaith ar gydraddoldeb
A1.4 Rydym ni hefyd wedi ystyried yn ofalus a fydd ein cynnig yn cael effaith benodol ar bobl sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig (gan gynnwys, yn fras, hil, oedran, anabledd, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, priodas a phartneriaeth sifil a chrefydd xxx xxxx yn y DU, a hefyd dibynyddion a barn wleidyddol yng Ngogledd Iwerddon), ac yn benodol a allant wahaniaethu yn erbyn pobl o’r fath neu effeithio ar gyfle cyfartal neu gysylltiadau da. Mae’r asesiad hwn yn ein helpu i gydymffurfio â’n dyletswyddau xxx Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a Deddf Gogledd Iwerddon 1998.7
A1.5 Wrth feddwl am gydraddoldeb, rydym ni’n meddwl yn fwy xxxx xx phobl sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig a nodir mewn deddfwriaeth cydraddoldeb, ac yn meddwl am yr effeithiau posib ar wahanol grwpiau o bobl.
A1.6 Yn benodol, xxx xxxxx 3(4) o’r Ddeddf Cyfathrebiadau yn mynnu ein bod yn rhoi sylw i anghenion a buddiannau grwpiau penodol o bobl wrth gyflawni ein dyletswyddau, fel y bo’n berthnasol yn yr amgylchiadau yn ein tyb ni. Mae’r rhain yn cynnwys:
a) natur fregus plant ac eraill y mae eu hamgylchiadau, yn ôl pob golwg, yn golygu bod angen diogelwch arbennig arnynt;
b) anghenion pobl anabl, pobl hŷn a phobl sydd ar incwm isel; a
c) gwahanol fuddiannau pobl mewn gwahanol rannau o’r DU, y gwahanol gymunedau ethnig yn y DU a phobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig a threfol.
7 Mae rhagor o fanylion yn adran 149 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ac adran 75 o Ddeddf Gogledd Iwerddon 1998.
A1.7 Rydym ni’n edrych ar yr effaith y mae ein polisi’n debygol o’i chael ar bobl, yn dibynnu ar eu hamgylchiadau personol. Mae hyn hefyd yn ein helpu i wneud yn siŵr ein bod yn cyflawni ein prif ddyletswydd o hybu buddiannau dinasyddion a defnyddwyr, waeth xxxx fo’u cefndir a’u hunaniaeth.
A1.8 Rydym o’r farn bod ein cynigion yn debygol o gael effaith gadarnhaol iawn ar gymunedau sy’n wynebu anfantais ariannol, oedolion hŷn, plant a phobl ag anableddau dysgu a/neu nam gwybyddol o gymharu â’r boblogaeth gyffredinol a helpu i hyrwyddo cyfle cyfartal.
A1.9 Gwyddom o’n hymchwil ein hunain ac ymchwil ehangach fod yr angen i gefnogi ymwybyddiaeth o’r cyfryngau yn xxxx ond bod rhai grwpiau, gan gynnwys cymunedau sy’n wynebu anfantais ariannol, yn fwy tebygol o fod angen cael cymorth ymwybyddiaeth o’r cyfryngau nag eraill. Xxxxx, xxx ein strategaeth ymwybyddiaeth o’r cyfryngau yn ceisio darparu cynnig cyffredinol, yn enwedig drwy ein gwaith gyda llwyfannau a systemau addysg, ac yn ogystal byddwn yn defnyddio dull teg: targedu cymunedau sy’n debygol o fod angen mwy o gymorth ymwybyddiaeth o’r cyfryngau drwy ein gwaith a’n hymchwil “Pobl a Phartneriaethau”.
A1.10 Yn ein gwaith wedi’i dargedu, byddwn yn blaenoriaethu grwpiau rydym ni’n gwybod eu bod yn fwy tebygol o fod angen cymorth gyda’u hymwybyddiaeth o’r cyfryngau, gan gynnwys:
• cymunedau sy’n wynebu anfantais ariannol
• oedolion hŷn
• plant
• pobl ag anableddau dysgu a/neu nam gwybyddol.
A1.11 Drwy gyflawni ein gwaith gyda phlant, ein nod yw hyrwyddo dull gweithredu sy’n seiliedig ar hawliau plant a fydd yn cynnwys ymgynghori â phlant ynghylch unrhyw xxxxx xx’n effeithio arnynt a chynnal eu hawliau, yn enwedig erthygl 17 CCUHP (mynediad at wybodaeth gan y cyfryngau).
A1.12 Yn fwy cyffredinol, mae cyflwyno’r strategaeth hon ar ymwybyddiaeth o’r cyfryngau yn debygol o feithrin cysylltiadau da oherwydd un o egwyddorion sylfaenol ymwybyddiaeth o’r cyfryngau yw parchu safbwyntiau gwahanol. Er enghraifft, mae unrhyw waith ar ymwybyddiaeth o newyddion yn cydnabod bod rhagfarn i’w ddisgwyl ac nad yw’n dda nac yn ddrwg, ond yn rhywbeth i fod yn ymwybodol ohono.
A1.13 Xxx xxxx grwpiau’n fwy tebygol o brofi gwahaniaethu, aflonyddu neu erledigaeth ar-lein, gan gynnwys pobl sy’n byw gydag anabledd, cymunedau LHDTC+, menywod a phobl o gefndiroedd Du neu leiafrifoedd ethnig. Bwriad dyletswyddau diogelwch ar-lein ehangach Ofcom yw diogelu pobl ar-xxxx xx felly maent yn berthnasol i’n strategaeth ymwybyddiaeth o’r cyfryngau. Pan fydd ymwybyddiaeth o’r cyfryngau yn ymwneud â hunaniaeth ddigidol a pharchu eraill ar-lein, gall ein gwaith ganolbwyntio’n uniongyrchol ar un grŵp o bobl ond xxxx xxxx effaith anuniongyrchol ar grŵp arall. Er enghraifft, mae ein gwaith ar gasineb ar- lein at fenywod yn debygol o dargedu dynion yn uniongyrchol, a gobeithio y bydd yn arwain at ganlyniadau cadarnhaol anuniongyrchol ar gyfer menywod yn ogystal â’r dynion eu hunain.
A1.14 Nid ydym wedi nodi unrhyw effeithiau niweidiol ar grwpiau penodol o bobl sy’n debygol o gael eu heffeithio mewn ffordd wahanol i’r boblogaeth gyffredinol. Nid ydym yn rhagweld
y bydd y strategaeth ymwybyddiaeth o’r cyfryngau yn arwain yn uniongyrchol nac yn anuniongyrchol at wahaniaethu, aflonyddu nac erlid unrhyw grwpiau.
A1.15 Byddwn yn parhau i ystyried yr effaith ar bobl sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig ar gyfer rhaglenni gwaith a phrosiectau unigol yn y strategaeth fel y bo’n briodol ac ar adegau perthnasol.
Asesiad o’r Effaith ar y Cymraeg
A1.16 Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn gwneud y Gymraeg yn iaith sy’n cael ei chydnabod yn swyddogol yng Nghymru. Arweiniodd y ddeddfwriaeth hon hefyd at sefydlu swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, sy’n rheoleiddio ac yn monitro ein gwaith. Mae’n rhaid i Ofcom ystyried y Gymraeg wrth lunio, adolygu neu ddiwygio polisïau sy’n berthnasol i Gymru (gan gynnwys cynigion nad ydynt wedi’u targedu at Gymru’n benodol ond sydd o ddiddordeb ledled y DU).8
A1.17 Os yw Xxxxxxx’r Gymraeg yn berthnasol, rydyn ni’n ystyried effaith bosib cynnig polisi ar (i) y cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg; a (ii) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. Rydyn ni hefyd yn ystyried sut byddai modd llunio cynnig er mwyn iddo xxxx xxx gynyddu’r effeithiau cadarnhaol, neu leihau’r effeithiau niweidiol neu beidio â chael unrhyw effaith niweidiol.
A1.18 Mae ein cynigion, fel y nodir yn y ddogfen hon, yn ceisio sicrhau canlyniadau gwell o ran ymwybyddiaeth o’r cyfryngau. Yn ein barn ni, ni fyddai gweithredu’r cynigion hyn yn cael unrhyw effeithiau niweidiol ar ddefnyddio a thrin y Gymraeg. Byddwn yn parhau i ystyried effeithiau rhaglenni gwaith a phrosiectau unigol yn y strategaeth ar y Gymraeg fel y bo’n briodol ac ar adegau perthnasol.
Cwestiwn 4: Ydych chi’n cytuno â’n hasesiad o’r effaith bosib ar grwpiau penodol o bobl?
Cwestiwn 5: Ydych chi’n cytuno â’n hasesiad o effaith bosib ein cynigion ar y Gymraeg?
8 Gweler Safonau 84 – 89 o’r Hysbysiad cydymffurfio (yn Gymraeg) a’r Compliance notice (yn Saesneg). Xxx Xxxxx 7 o Ddogfen Cyngor Arfer Da Comisiynydd y Gymraeg yn rhoi rhagor o gyngor a gwybodaeth am sut mae’n rhaid i gyrff gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg.
A2. Sut mae ymateb
Byddai Ofcom yn hoffi i chi gyflwyno xxxx safbwyntiau a’ch sylwadau ynghylch y materion sydd wedi’u codi yn y ddogfen hon erbyn 5pm ar 24 Mehefin 2024.
Gallwch lawrlwytho ffurflen ymateb yn Consultation: Ofcom’s three-year media literacy strategy. Gallwch ddychwelyd y ffurflen dros e-xxxx xxx drwy’r post i’r cyfeiriad sydd ar y ffurflen ymateb.
Os xx xxxx ymateb yn ffeil fawr, neu os yw’n cynnwys siartiau, tablau neu ddata ategol eraill, a fyddech chi cystal â’i anfon dros e-xxxx at XXXXXxxxxxxxxxxx@xxxxx.xxx.xx fel atodiad mewn fformat Microsoft Word, ynghyd â’r ddalen gyflwyno. At ddibenion yr ymgynghoriad hwn yn unig y mae’r cyfeiriad e-xxxx hwn, ac ni fydd yn gweithio ar ôl 24 Mehefin 2024.
Fel arall, gellir postio ymatebion i’r cyfeiriad isod, gan farcio teitl yr ymgynghoriad arnynt: Making Sense of Media.
Ofcom Riverside House
0X Xxxxxxxxx Xxxxxx Xxxx Xxxxxx XX0 0XX
Mae croeso i chi gyflwyno ymatebion mewn fformatau eraill heblaw mewn print, er enghraifft recordiad xxxx xxx fideo mewn Iaith Arwyddion Prydain. I ymateb drwy ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain:
• anfonwch recordiad ohonoch chi’n defnyddio’r iaith arwyddion i gyfleu xxxx ymateb. Ni ddylai’r recordiad bara am fwy na 5 munud. Dyma’r fformatau ffeil addas: ffeiliau DVD, wmv neu QuickTime; neu
• gwnewch fideo ohonoch chi’n defnyddio’r iaith arwyddion i gyfleu’ch ymateb, a’i lwytho yn xxxx i YouTube (neu safle lletya arall), ac anfon y ddolen atom ni.
Byddwn yn cyhoeddi trawsgrifiad o unrhyw ymatebion xxxx xxx fideo a gawn (oni bai fod xxxx ymateb yn gyfrinachol).
Nid oes angen i ni xxxx xxxx papur o’ch ymateb yn ogystal â fersiwn electronig. Byddwn yn cydnabod ein bod wedi derbyn ymateb a gyflwynir i ni dros e-xxxx.
Nid oes rhaid i chi ateb pob cwestiwn yn yr ymgynghoriad os nad oes gennych chi safbwynt; mae ymateb byr ar ddim ond un pwynt yn iawn. Rydym hefyd yn croesawu ymatebion ar y cyd.
Byddai’n ddefnyddiol petai hi’n bosib i’ch ymateb gynnwys atebion uniongyrchol i’r cwestiynau sy’n cael eu gofyn yn y ddogfen ymgynghori. Mae’r cwestiynau wedi eu rhestru yn Atodiad 5. Byddai’n ddefnyddiol hefyd petai modd i chi egluro xxx xxxx bod yn arddel xxxx safbwyntiau, a xxxx rydych chi’n ei gredu fyddai effaith cynigion Ofcom.
Os hoffech chi drafod y materion a’r cwestiynau sydd wedi cael eu codi yn yr ymgynghoriad hwn, anfonwch e-xxxx i XXXXXxxxxxxxxxxx@xxxxx.xxx.xx.
Mae ymgynghoriadau’n fwy effeithiol os ydym yn cyhoeddi’r ymatebion cyn i’r cyfnod ymgynghori ddod i ben. Gall hyn fod o gymorth i bobl a sefydliadau sy’n brin eu hadnoddau neu sydd ddim yn gyfarwydd iawn â’r materion xxx sylw i ymateb yn fwy gwybodus. Felly, er mwyn bod yn dryloyw a sicrhau ymarfer rheoleiddio da, ac oherwydd ein bod ni’n credu ei bod yn bwysig bod pawb sydd â diddordeb mewn mater yn gallu gweld safbwyntiau ymatebwyr eraill, fel rheol byddwn yn cyhoeddi ymatebion ar wefan Ofcom yn rheolaidd yn ystod y cyfnod ymgynghori ac ar ôl iddo ddod i ben.
Os ydych chi’n meddwl y dylid cadw xxxx ymateb yn gyfrinachol, a fyddech chi cystal â nodi i ba ran(nau) mae hyn yn berthnasol, ac egluro xxx. Anfonwch unrhyw adrannau cyfrinachol fel atodiad ar wahân. Os ydych chi am i’ch enw, xxxx cyfeiriad, manylion cyswllt eraill, neu deitl xxxx swydd xxxx yn gyfrinachol, rhowch y manylion hynny ar y ddalen gyflwyno’n unig, fel na fydd rhaid i ni olygu xxxx ymateb.
Os bydd rhywun yn gofyn i ni gadw ymateb cyfan neu ran ohono’n gyfrinachol, byddwn yn trin y cais hwn o ddifri ac yn ceisio ei barchu. Ond weithiau bydd angen i ni gyhoeddi pob ymateb, gan gynnwys y rhai sydd wedi eu nodi’n rhai cyfrinachol, er mwyn bodloni rhwymedigaethau cyfreithiol.
Er mwyn cyflawni ein dyletswydd cyn datgelu, efallai y byddwn yn rhannu copi o’ch ymateb ag adran berthnasol yn y llywodraeth cyn i ni ei gyhoeddi ar ein gwefan.
Sylwch hefyd y cymerir bod yr hawlfraint a phob eiddo deallusol arall sydd mewn ymatebion wedi’u rhoi o xxx drwydded i Ofcom eu defnyddio. Mae hawliau eiddo deallusol Ofcom yn cael eu hegluro ymhellach yn ein Telerau Defnyddio.
Ar ôl y cyfnod ymgynghori hwn, mae Ofcom yn bwriadu cyhoeddi datganiad ym mis Hydref 2024.
Gallwch gofrestru i gael diweddariadau drwy’r post yn rhoi gwybod i chi am gyhoeddiadau newydd Ofcom os ydych yn dymuno hynny.
Mae Ofcom yn ceisio sicrhau ei bod mor hawdd â phosib ymateb i ymgynghoriad. I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar ein hegwyddorion ymgynghori yn Atodiad 3.
Os oes gennych chi unrhyw sylwadau neu awgrymiadau am y modd rydym yn rheoli ein hymgynghoriadau, anfonwch neges e-xxxx atom yn xxxxxxx@xxxxx.xxx.xx. Rydym wrth ein bodd o gael syniadau ynghylch sut gallai Ofcom ofyn yn fwy effeithiol am farn grwpiau neu unigolion, fel busnesau bach a defnyddwyr preswyl, sy’n llai tebygol o roi eu barn drwy ymgynghoriad ffurfiol.
Os hoffech drafod y materion hyn, neu brosesau ymgynghori Ofcom yn fwy cyffredinol, cysylltwch ag ysgrifennydd y gorfforaeth:
Corporation Secretary Ofcom
Riverside House
0x Xxxxxxxxx Xxxxxx Xxxx Xxxxxx XX0 0XX
E-xxxx: xxxxxxxxxxxxxxxxxxxx@xxxxx.xxx.xx
A3. Egwyddorion ymgynghori
Mae Ofcom yn dilyn saith egwyddor ar gyfer pob ymgynghoriad ysgrifenedig cyhoeddus:
Os oes modd, byddwn yn cynnal sgyrsiau anffurfiol gyda phobl a sefydliad cyn cyhoeddi ymgynghoriad mawr i gael gwybod a ydym yn meddwl yn y cyfeiriad iawn. Os nad oes gennym ddigon o amser i wneud hyn, byddwn yn cynnal cyfarfod agored i egluro ein cynigion yn fuan ar ôl cyhoeddi’r ymgynghoriad.
Byddwn yn glir ynghylch pwy rydym ni’n ymgynghori â nhw, xxx, ar ba gwestiynau ac am ba hyd.
Byddwn yn gwneud y ddogfen ymgynghori’n un mor fyr ac mor syml ag y xx xxxx gyda throsolwg o ddim mwy xx xxx dudalen. Byddwn yn ceisio ei gwneud mor hawdd â phosib i bobl roi ymateb ysgrifenedig i ni.
Wrth bennu hyd y cyfnod ymgynghori, byddwn yn ystyried natur ein cynigion a’u heffaith bosib. Byddwn xxx amser yn nodi’n glir y dyddiad cau ar gyfer derbyn ymatebion.
Bydd rhywun yn Ofcom yn gyfrifol am sicrhau ein bod yn dilyn ein canllawiau ein hunain ac yn ceisio cyrraedd y nifer fwyaf o bobl a sefydliadau sydd o bosib â diddordeb yng nghanlyniad ein penderfyniadau. Hyrwyddwr Ymgynghori Ofcom fydd y prif bwynt cyswllt os oes gennych farn am y modd rydym yn cynnal ein hymgynghoriadau.
Os na fyddwn yn gallu dilyn unrhyw un o’r saith egwyddor hyn, byddwn yn egluro xxx.
Credwn ei bod yn bwysig bod pawb sydd â diddordeb mewn mater yn gallu gweld safbwyntiau pobl eraill. Felly, fel rheol, byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion xxx hyn a hyn yn ystod y cyfnod ymgynghori ac ar ôl iddo ddod i ben. Ar ôl yr ymgynghoriad, byddwn yn gwneud ein penderfyniadau ac yn cyhoeddi datganiad sy’n egluro xxxx fyddwn ni’n ei wneud, a xxxx, gan ddangos sut mae safbwyntiau ymatebwyr wedi helpu i siapio’r penderfyniadau hyn.
A4. Dalen gyflwyno’r ymgynghoriad
Teitl yr ymgynghoriad:
At (swyddog cyswllt yn Ofcom): Enw’r ymatebydd:
Yn cynrychioli (xxxx hun neu sefydliad(au)): Cyfeiriad (os na ddaeth i law drwy e-xxxx):
Ticiwch isod i ddangos pa ran o’ch ymateb rydych yn ei hystyried yn gyfrinachol, a rhowch xxxx rhesymau dros hynny
Dim ☐
Enw/manylion cyswllt/teitl swydd ☐
Ymateb cyfan ☐
Sefydliad ☐
Rhan o’r ymateb ☐
Os ydych chi wedi dewis ‘Rhan o’r ymateb’’, nodwch pa rannau:
Os ydych am i ran o’ch ymateb, xxxx enw xxx xxxx sefydliad beidio â chael eu cyhoeddi, ydych chi’n fodlon i Ofcom gyhoeddi cyfeiriad at gynnwys xxxx ymateb (gan gynnwys, yn achos unrhyw rannau cyfrinachol, grynodeb cyffredinol na fydd yn datgelu’r wybodaeth benodol nac yn datgelu pwy ydych chi)?
Ydw ☐ Nac ydw ☐
Rwy’n cadarnhau bod yr ohebiaeth sydd wedi’i rhoi gyda’r ddalen gyflwyno hon yn ymateb ffurfiol i’r ymgynghoriad y gall Ofcom ei gyhoeddi. Fodd bynnag, wrth ddarparu’r ymateb hwn, rwy’n xxxxx xx bod yn bosib y bydd angen i Ofcom gyhoeddi’r xxxx ymatebion, gan gynnwys y rheini sydd wedi’u marcio’n gyfrinachol, er mwyn cyflawni rhwymedigaethau cyfreithiol. Os ydw i wedi anfon fy ymateb drwy neges e-xxxx, xxxx Ofcom ddiystyru unrhyw destun e-xxxx safonol ynglŷn â pheidio â datgelu cynnwys ac atodiadau’r neges e-xxxx.
Xxx Ofcom yn bwriadu cyhoeddi ymatebion yn rheolaidd yn ystod y cyfnod ymgynghori ac ar ôl iddo ddod i ben. Os yw’ch ymateb yn un nad yw’n gyfrinachol (yn gyfan gwbl neu’n rhannol), ac y byddai’n well gennych i ni beidio â chyhoeddi’ch ymateb nes bydd yr ymgynghoriad wedi dod i ben, ticiwch yma.
Enw Llofnod (os darperir copi caled)
A5. Cwestiynau’r ymgynghoriad
• Cwestiwn 1: Ydych chi’n cytuno â’n cynigion yn yr adran hon? Esboniwch xxxx rhesymau a rhowch unrhyw dystiolaeth ategol berthnasol.
• Cwestiwn 2: Ydych chi’n cytuno â’n cynigion yn yr adran hon ar gyfer gweithio gyda llwyfannau? Esboniwch xxxx rhesymau a rhowch unrhyw dystiolaeth ategol berthnasol.
• Cwestiwn 3: Ydych chi’n cytuno â’n cynigion yn yr adran hon? Esboniwch xxxx rhesymau a rhowch unrhyw dystiolaeth ategol berthnasol. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn unrhyw farn a thystiolaeth ynghylch a fyddai Wythnos Ymwybyddiaeth o’r Cyfryngau yn effeithiol.
• Cwestiwn 4: Ydych chi’n cytuno â’n hasesiad o’r effaith bosib ar grwpiau penodol o bobl?
• Cwestiwn 5: Ydych chi’n cytuno â’n hasesiad o effaith bosib ein cynigion ar y Gymraeg?
A6. Opsiynau eraill a ystyriwyd - ond na roddir blaenoriaeth iddynt ar hyn x xxxxx
A6.1 Xxx datblygu strategaeth effeithiol yn gofyn am ystyried opsiynau a phwyso a mesur yr hyn y byddwn yn ei wneud a’r hyn na fyddwn yn ei wneud. Roeddem yn teimlo ei bod yn ddefnyddiol i randdeiliaid, wrth ystyried ein strategaeth, ddeall y dulliau amgen a ystyriwyd gennym.
Defnyddio dull ymchwil yn unig:
A6.2 Roeddem wedi ystyried yr opsiwn o gyflawni ein dyletswyddau ymwybyddiaeth o’r cyfryngau drwy ddim ond darparu ymchwil neu drwy ddarparu ymchwil yn bennaf. Wrth wneud hynny, byddem yn parhau i gefnogi’r amrywiaeth xxxx o sefydliadau sy’n cynnal gweithgareddau ymwybyddiaeth o’r cyfryngau yn y DU. Drwy wneud hyn, byddai Ofcom wedi hwyluso sefydliadau a mentrau o’r fath drwy ddarparu tystiolaeth gadarn a gwybodaeth am sut roedd bywydau pobl yn newid, xxxx oedd eu hanghenion o ran ymwybyddiaeth o’r cyfryngau, a xxxx oedd yn effeithiol i helpu pobl.
A6.3 Fodd bynnag, rydym o’r farn na fyddai defnyddio dull gweithredu sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn unig yn ddymunol, yn enwedig gan fod dyletswyddau Ofcom yn gofyn ein bod yn cymryd camau gweithredu ehangach na darpariaeth ymchwil yn unig. Yn anad dim, mae Ofcom yn darparu rôl bwysig gan weithredu fel sefydliad anfasnachol, niwtral sy’n gallu darparu gwybodaeth ac ymgysylltiad dibynadwy o ran ymwybyddiaeth o’r cyfryngau.
Mynd ar drywydd dull gweithredu ar gyfer ymgyrch gyfathrebiadau cyfryngau torfol:
A6.4 Yr ail opsiwn oedd comisiynu ymgyrch(oedd) cyhoeddus ledled y DU ar wahanol faterion yn ymwneud ag ymwybyddiaeth o’r cyfryngau gyda’r nod o annog newid mewn ymddygiad.
A6.5 Nid ydym yn ystyried y byddai’r math hwn o ddull ymgyrchu xxxx yn xxx-fynd â’n setiau sgiliau craidd nac yn wir yn cyd-fynd ag adnoddau ac amserlen ein cyfnod cynllunio.
Ail-fframio ein dyletswyddau ymwybyddiaeth o’r cyfryngau ar ddiogelwch ar-lein:
A6.6 Trydydd opsiwn roeddem ni’n ei ystyried oedd canolbwyntio ein gwaith ymwybyddiaeth o’r cyfryngau ar faterion diogelwch ar-lein yn unig. Sail resymegol dros opsiwn o’r fath fyddai y gallai canolbwyntio mentrau yn y modd hwn arwain, o bosib, at fwy o effaith.
A6.7 Fodd bynnag, ni fyddai opsiwn o’r fath yn cyflawni ein dyletswyddau o ran ymwybyddiaeth o’r cyfryngau. Mae ymwybyddiaeth o’r cyfryngau yn gysylltiedig â diogelwch ar-lein, ond mae’n fwy na hynny. Byddai canolbwyntio ar ddiogelwch yn unig hefyd yn golygu xxxxx xxxxx ar fanteision cymdeithasol fel creadigrwydd a chyfranogiad democrataidd. Ar ben hynny, o ystyried bod llawer o bobl nad ydynt yn defnyddio gwasanaethau ar-lein yn rheolaidd, neu o gwbl, ni fyddai dull o’r fath yn mynd i’r afael ag allgáu digidol a gallai hyd yn oed ei waethygu.
A7. Enghreifftiau o’n gwaith diweddar
Mae’r tabl hwn yn sampl enghreifftiol fach o brosiectau rydyn ni ac amrywiaeth o bartneriaid wedi’u comisiynu neu eu cynnal dros y 12 mis diwethaf. Mae o reidrwydd yn ddetholus ac wedi’i guradu i roi trosolwg o ehangder ein gwaith.
Prosiect a Dull Gweithredu | Gweithgareddau ac Effaith |
Annog y llwyfannau ar-lein mwyaf i ddangos ymrwymiad i hyrwyddo ymwybyddiaeth eu defnyddwyr o'r cyfryngau drwy ddylunio llwyfannau a chefnogi mentrau ymwybyddiaeth o’r cyfryngau ar gyfer eu cymunedau. | Creu, cyhoeddi, ymgynghori ar a chwblhau'r Egwyddorion Arfer Gorau ar gyfer Ymwybyddiaeth o’r Cyfryngau drwy Ddylunio, gan ymgysylltu’n weithredol a chefnogi llwyfannau a gweithgor allanol. |
Mae’r cymunedau sydd â’r angen mwyaf yn cael eu gwasanaethu’n dda gan ymyriadau mwy effeithiol. | Wedi comisiynu 13 o sefydliadau lleol i wella sgiliau ymwybyddiaeth o'r cyfryngau eu cymunedau drwy brosiectau peilot. Buom yn gweithio gyda nhw i ddeall eu hanghenion penodol a chomisiynu gwaith i fynd i’r afael â’r anghenion hynny. Wedi’i gydnabod yn rhyngwladol gyda gwobr UNESCO. Roedd atebion arloesol yn cynnwys y canlynol: Red Chair Highland – oedolion hŷn: • Cymunedau gwledig – ‘Methu credu xxxx bod wedi dod yma.’ • Cydweithio lleol ee gyda banciau bwyd, yn canolbwyntio ar gynhwysiad digidol. Salford Foundation – plant a phobl ifanc: • Gweithio gyda bechgyn ar gasineb at fenywod ar- lein drwy glybiau rygbi. The Brain Charity – pobl ifanc â chyflyrau niwrolegol a’u rhieni/gofalwyr: • Canolbwyntio ar gasineb at fenywod ar-lein mewn cymunedau niwrowahanol. |
Gwerthuso wedi’i wreiddio yn y gwaith o gyflwyno rhaglenni ymwybyddiaeth o'r cyfryngau. | Wedi hyfforddi 155 o gynrychiolwyr o sefydliadau trydydd sector ac arbenigwyr eraill xx xxxx ymwybyddiaeth o'r cyfryngau (y DU a rhyngwladol) i werthuso drwy saith gweithdy ar-lein. Rhannu gwerthusiad arbenigol o ymyriadau ymwybyddiaeth o'r cyfryngau ar xxxx gwlad drwy sesiynau siaradwyr arbenigol yn: |
• Cynhadledd llythrennedd digidol ac ymwybyddiaeth o'r cyfryngau Ewropeaidd. • Gweithgor gwerthuso’r Gorchymyn Rheoli Anheddau Gwag (EDMO). • Gweithgor Ewropeaidd ar Ymwybyddiaeth o'r Cyfryngau a Gwybodaeth (XXXX) (Llwyfan Ewropeaidd o Awdurdodau Rheoleiddio (EPRA)). • Gweithgor dinasyddiaeth digidol yr UE Meta. Dylanwadu ar bolisi ymwybyddiaeth o'r cyfryngau yn Ffrainc (pecyn gwerthuso Ofcom wedi’i fabwysiadu gan y rheoleiddiwr Ffrengig ARCOM a’i gyfieithu i’r Ffrangeg). | |
Bod ymchwil a gwybodaeth yn cael eu rhannu a’u defnyddio yn y sector ymwybyddiaeth o'r cyfryngau a thu hwnt. | Rydyn ni wedi cyhoeddi cyfoeth o ymchwil ac wedi’i rhannu’n genedlaethol ac yn rhyngwladol. Dyma sampl o’n hadroddiadau ymchwil: • Deall profiadau o gredoau lleiafrifol ar-lein.. • Edrych ar ymwybyddiaeth uchel o'r cyfryngau ymysg oedolion a phlant 13 oed a hŷn a’r rhai rhwng 8 a 12 oed. • Ymwybyddiaeth o'r cyfryngau, technoleg ymgolli a’r dyfodol. • Adroddiadau blynyddol ar ymwybyddiaeth oedolion o'r cyfryngau.. • Adroddiadau blynyddol ar ymwybyddiaeth plant o'r cyfryngau. |
Rhaglen ymgysylltu – rhannu arbenigedd a meithrin dealltwriaeth gyffredin o’r hyn sy’n gweithio xx xxxx ymwybyddiaeth o'r cyfryngau. | • Cynyddu aelodaeth rhwydwaith Gwneud Synnwyr o’r Cyfryngau 50 y cant dros dair blynedd (o 290 o aelodau ym mis Hydref 2020 i 590 o aelodau ym mis Ebrill 2024). Aeth 117 o randdeiliaid i bedwar digwyddiad yn y pedair gwlad ym mis Mehefin 2023. • Aeth 120 o randdeiliaid i’n cynhadledd ym mis Rhagfyr 2023 yn Llundain. • Cydweithio â'r Panel Cynghori ar Gwneud Synnwyr o’r Cyfryngau a gweithgorau. |
68. Ceïrta
Defnyddir nifer o wahanol dermau wrth drafod ymwybyddiaeth o’r cyfryngau. Rydym wedi diffinio rhai a ddefnyddir yn y ddogfen hon yma. Mae’n bwysig nodi bod gorgyffwrdd weithiau yn y ffordd y mae termau’n cael eu defnyddio.
Arolygon Tracio/Tracwyr
Arolygon sy’n cael eu hailadrodd yn achlysurol dros amser, er mwyn mesur newidiadau a thueddiadau yw Arolygon Tracio neu dracwyr.
Canlyniad
Canlyniad yw’r newid sy’n digwydd o ganlyniad i weithgaredd neu raglen waith. Fel xxxxx, xxx’n gyfyngedig ac yn fesuradwy.
Dangosyddion
Dangosyddion effaith a dangosyddion canlyniadau yw’r darnau mesuradwy o dystiolaeth sy’n xxxx galluogi i olrhain y newidiadau sydd wedi digwydd o ganlyniad i raglen waith neu brosiect.
Data
Yng nghyd-destun ymchwil a gwerthuso ymwybyddiaeth o’r cyfryngau, mae data yn cyfeirio at wybodaeth am gyfranogwyr a’u profiadau. Gallai fod yn fesuriadau, arsylwadau, ymatebion arolwg, trawsgrifiadau o gyfweliadau neu adborth gan gyfranogwyr. Gall fod yn ansoddol (naratif) neu’n feintiol (rhifol). Gellir dadansoddi a defnyddio data i ddeall defnydd, agweddau a phrofiadau cyfranogwyr yn well, neu i asesu ymyriad o ran ei ganlyniad a’i effaith.
Data ansoddol
Gwybodaeth na ellir ei chyfrif yw data ansoddol: mae’n ddisgrifiadol, ac yn aml ar gyfer xxxxxx ymwybyddiaeth o’r cyfryngau neu waith ymchwil bydd yn naratif neu’n ddyfyniadau gan gyfranogwyr. Fel xxxxx, xxx’n xxxx xx gasglu drwy gyfweliadau, grwpiau ffocws, arsylwadau, astudiaethau achos neu gwestiynau arolwg penagored. Mae’n ‘rhoi llais i brofiadau’, a gellir ei ddefnyddio i ddeall sut mae pobl yn meddwl neu’n teimlo am rywbeth, a xxxx xxxx nhw’n meddwl neu’n teimlo felly. Gellir ei gyfuno â data meintiol er mwyn cael dealltwriaeth ddyfnach.
Data hydredol
Yng nghyd-destun ymwybyddiaeth o’r cyfryngau, mae data hydredol yn dystiolaeth a gasglwyd dros gyfnod o amser; er enghraifft, drwy ofyn yr un cwestiynau. Mae’n xxxx galluogi i olrhain newid yn yr ymatebion i’r cwestiynau hynny dros amser. Gall fod yn ansoddol (naratif) neu’n feintiol (rhifol).
Data meintiol
Mae data meintiol yn wybodaeth y xxx xxxx ei chyfrif. Yng nghyd-destun ymwybyddiaeth o’r cyfryngau, mae fel arfer yn cael ei gasglu drwy arolygon. Gellir ei ddefnyddio i ddeall xxxx xxx pobl yn ei feddwl am rywbeth (o ystod gyfyngedig o opsiynau), ac a yw rhywbeth wedi newid yn eu
hagweddau. Gellir casglu data meintiol dros amser i gynhyrchu tystiolaeth hydredol. Gellir ei gyfuno â data ansoddol er mwyn cael dealltwriaeth ddyfnach.
Dyluniadau perswadiol
Nod dyluniadau perswadiol yw newid agweddau neu ymddygiad defnyddwyr. Mae gwasanaethau
ar-lein yn aml yn cael eu disgrifio fel technolegau perswadio gan eu bod wedi’u dylunio i ddylanwadu ar benderfyniadau defnyddwyr.
Effaith
Mae effaith, yng nghyd-destun gwerthuso ymyriadau ymwybyddiaeth o’r cyfryngau, yn cyfeirio at newid tymor hwy ar lefel unigol neu gymdeithasol y gellir ei briodoli i ganlyniadau ymyriad. Effaith yw canlyniad cronnus canlyniadau a gyflawnir. Er enghraifft, dyma effaith bosib ar gyfer prosiect ymwybyddiaeth o’r cyfryngau:
• newid yn y ffordd y mae cyfranogwyr yn cael gafael ar newyddion.
• cynnydd yng nghreadigrwydd y gynulleidfa o ran cyfryngau ar-lein.
• mwy o gadernid o ran twyllwybodaeth.
Gwerthusiad effaith
Mae gwerthusiad effaith yn canolbwyntio ar yr hyn y mae’r prosiect wedi’i gyflawni o ran newid ar gyfer y gynulleidfa darged a/neu’r gymdeithas ehangach, ac a gyflawnwyd y canlyniadau bwriadedig ai peidio.
Gwerthusiad prosesau
Bydd gwerthusiadau prosesau’n canolbwyntio ar ofyn i chi sut gwnaethoch chi gyflawni xxxx prosiect, i xx xxxxxx y gwnaeth y dull o’i gyflawni effeithio ar y canlyniadau terfynol a sut byddech chi’n cyflawni’r prosiect yn wahanol yn y dyfodol.
Gwerthuso
Yng nghyd-destun ein gwaith, rydym yn deall gwerthuso fel adroddiadau arbenigol sy’n dangos pa mor llwyddiannus oedd ymyriad ymwybyddiaeth o’r cyfryngau – gan gynnwys pa mor effeithiol yr oedd o ran gwella ymwybyddiaeth pobl o’r cyfryngau.
Llinell sylfaen
Wrth gynnal gwerthusiad, llinell sylfaen yw’r man cychwyn ar gyfer mesur newid. Gallai hyn fod yn lefel gwybodaeth bresennol y cyfranogwyr am bwnc, neu lefel bresennol eu sgiliau.
Ymchwil weithredol
Mae hwn yn ddull ymchwil sy’n ymchwilio i arfer – er enghraifft y dull o gyflwyno cwrs o weithdai ymwybyddiaeth o’r cyfryngau – tra bod yr arfer ei hun yn cael ei gynnal, i wella dulliau gweithredu’r xxxx xx’n gysylltiedig.
Ymyriadau
Camau gweithredu bwriadol i hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r cyfryngau; gallai hyn amrywio o raglen o weithdai ar ymwybyddiaeth o’r cyfryngau a gyflwynir gan sefydliad trydydd sector, i gyfres o adnoddau hygyrch (fel cynllun gwers neu ganllawiau ‘sut mae gwneud’) sy’n cael eu postio ar wefan, i ffenestr naid ar lwyfan cyfryngau cymdeithasol gyda gwybodaeth am y cynnwys mae’r defnyddiwr yn ei weld.