Archwilydd Cyffredinol Cymru
Adroddiad Gwella Blynyddol
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Cyhoeddwyd: Ionawr 2012 Cyfeirnod y ddogfen: 122A2012
Archwilydd Cyffredinol Cymru
Mae’r Archwilydd Cyffredinol yn annibynnol ar y llywodraeth ac mae’n cael ei benodi gan Ei Mawrhydi y Frenhines. Mae’n arwain Swyddfa Archwilio Cymru ac mae’n atebol i Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol am waith Swyddfa Archwilio Cymru.
Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol Llywodraeth Cymru a’i chyrff cyhoeddus noddedig a chysylltiedig, Comisiwn y Cynulliad a chyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru. Mae hefyd yn penodi archwilwyr allanol cyrff llywodraeth leol yng Nghymru, gan gynnwys awdurdodau unedol, awdurdodau’r heddlu, awdurdodau prawf, awdurdodau tân ac achub, parciau cenedlaethol a chynghorau cymuned. Mae archwilwyr penodedig yr Archwilydd Cyffredinol yn gyfrifol am archwilio’n flynyddol y rhan fwyaf o arian cyhoeddus sy’n cael ei wario yng Nghymru, gan gynnwys y £15 biliwn o gyllid a bleidleisir i Gymru’n flynyddol gan Senedd San Xxxxxxx. Caiff bron i £5.5 biliwn o’r cyllid hwn ei drosglwyddo gan Lywodraeth Cymru i lywodraeth leol ar ffurf grantiau cyffredinol a grantiau penodol. Mae llywodraeth leol, yn ei thro, yn codi £2.1 biliwn arall drwy’r dreth gyngor a threthi busnes.
Yn ogystal ag ymgymryd ag archwilio ariannol, rôl yr Archwilydd Cyffredinol yw edrych ar sut mae cyrff cyhoeddus yn rheoli ac yn gwario arian cyhoeddus, gan gynnwys sicrhau gwerth am arian wrth gyfllwyno gwasanaethau cyhoeddus. Nod Swyddfa Archwilio Cymru yw gwneud i arian cyhoeddus gyfrif, drwy hyrwyddo gwelliant, fel bod pobl yng Nghymru yn elwa o wasanaethau cyhoeddus atebol a reolir yn dda sy’n cynnig y gwerth gorau posibl am arian. Mae hefyd yn ymroddedig i nodi a lledaenu arfer da ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Cafodd Xxx Xxxxxxx Xxxxxx, Archwilydd Cyffredinol Cymru, gymorth gan Xxxxx Xxxxxx, Xxxxxxx Xxxxxx a chydweithwyr o xxx oruchwyliaeth Xxxx Xxxxxxxx i gynnal yr Xxxxxxx Xxxxxx a llunio’r adroddiad hwn.
Cynnwys
Crynodeb a chynigion ar gyfer gwella 4
Adroddiad manwl
Cyflwyniad 7
Mae ymroddiad y Cyngor i ysgogi gwelliant yn glir ac mae’n canolbwyntio ei agenda wella’n fwy amlwg ar wasanaethau a deilliannau sy’n bwysig i
ddinasyddion 8
Xxx xxxx gwendidau ym mherfformiad y Cyngor mewn rhai meysydd gwasanaeth allweddol fel gwasanaethau i blant a phobl ifanc a safonau
addysg, ond mae’n dangos gwelliant cyson mewn rheoli gwastraff 15
Xxx xxx y Cyngor gryfder yn ei drefniadau strategol a chorfforaethol ac xxx xxxxx iddo ddefnyddio’r rhain yn fwy effeithiol i ysgogi cyflymder newid a gwella, yn enwedig mewn perthynas â’i wasanaethau i blant a
phobl ifanc 15
Mae’r Cyngor a’i ysgolion yn perfformio’n anghyson mewn perthynas â rhai safonau addysgol allweddol ar draws y bwrdeistref sirol a rhwng
ysgolion, yn enwedig o ran presenoldeb ysgol 16
Mae rheoli gwastraff yn flaenoriaeth gydnabyddedig i’r Cyngor, a chan adeiladu ar ei berfformiad cadarn o ran ailgylchu trwy ymgysylltu’n effeithiol â’r gymuned, xxx xxx y Cyngor her barhaus i geisio lleihau
faint o wastraff y mae’n ei anfon i safleoedd tirlenwi 17
Lluniodd y Cyngor asesiad cynhwysfawr o’i berfformiad ond, hyd yn hyn, nid yw wedi gwerthuso’n effeithiol pa mor dda y mae’n cyflawni ei
flaenoriaethau gwella ac asesu eu heffaith ar ddinasyddion 19
Atodiadau
Atodiad 1
Statws yr adroddiad hwn 22
Atodiad 2
Gwybodaeth ddefnyddiol am Rhondda Cynon Taf a Chyngor Bwrdeistref Sirol
Rhondda Cynon Taf 23
Atodiad 3
Cyfrifon Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a’i ddefnydd o adnoddau 25
Atodiad 4
Amcanion gwella a hunanasesiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf 28
1 Xxx blwyddyn, mae’n rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol adrodd ar ba mor dda mae cynghorau Cymru, awdurdodau tân ac achub, a pharciau cenedlaethol yn cynllunio ar gyfer gwella a pha mor dda maent yn cyflwyno’u gwasanaethau. Gan ddefnyddio gwaith Swyddfa Archwilio Cymru a’r arolygiaethau perthnasol yng Nghymru, mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno darlun o welliant o gymharu â’r llynedd. Mae tair prif ran i’r adroddiad, sy’n ymdrin â sut mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (y Cyngor) yn mynd ati i gynllunio, cyflawni a gwerthuso gwelliant.
2 Ynghyd â’i bartneriaid, mae’r Cyngor wedi cytuno ar weledigaeth ranedig i Rhondda Cynon Taf fod yn ‘Fwrdeistref Sirol o Gyfle’. Yn ogystal â’i ddyletswyddau statudol, mae’r Cyngor wedi gosod wyth blaenoriaeth wella iddo’i hun, sef:
• cynllunio gwasanaethau tymor canolig – Cyngor effeithlon sydd mewn sefyllfa ariannol gadarn;
• addysg o’r ansawdd gorau i bawb;
• bwrdeistref sirol lanach a gwyrddach;
• cadw pob plentyn ac unigolyn ifanc yn ddiogel a gwella cyfleoedd bywyd plant sy’n agored i niwed;
• cynorthwyo oedolion a phobl hŷn i fyw’n annibynnol;
• rheoli’r economi hwyr yn y nos a mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol;
• adfywio ein cymunedau; a
• chanolbwyntio ar y cwsmer.
3 Canfuom fod ymroddiad y Cyngor i ysgogi gwelliant yn glir a’i fod yn canolbwyntio ei agenda wella yn fwy amlwg ar wasanaethau a deilliannau sy’n bwysig i ddinasyddion.
4 Canfuom hefyd fod rhai gwendidau ym mherfformiad y Cyngor mewn rhai meysydd gwasanaeth allweddol fel gwasanaethau i blant a phobl ifanc a safonau addysg, ond mae’n dangos gwelliant cyson mewn rheoli gwastraff:
• xxx xxx y Cyngor gryfder yn ei drefniadau strategol a chorfforaethol ac xxx xxxxx iddo ddefnyddio’r rhain yn fwy effeithiol i ysgogi cyflymder newid a gwella, yn enwedig mewn perthynas â’i wasanaethau i blant a phobl ifanc;
• mae’r Cyngor a’i ysgolion yn perfformio’n anghyson mewn perthynas â rhai safonau addysgol allweddol ar draws y bwrdeistref sirol a rhwng ysgolion, yn enwedig o ran presenoldeb ysgo; ac
• mae rheoli gwastraff yn flaenoriaeth gydnabyddedig i’r Cyngor, a chan adeiladu ar ei berfformiad cadarn o ran ailgylchu trwy ymgysylltu’n effeithiol â’r gymuned, xxx xxx y Cyngor her barhaus i geisio lleihau faint o wastraff y mae’n ei anfon i safleoedd tirlenwi.
5 Yn olaf, mae’r adroddiad yn mynegi ein barn ar asesiad y Cyngor o’i berfformiad a’i drefniadau ei hun. Daethom i’r casgliad bod y Cyngor wedi llunio asesiad cynhwysfawr o’i berfformiad ond, hyd yn hyn, nid yw wedi gwerthuso’n effeithiol pa mor dda y mae’n cyflawni ei flaenoriaethau gwella ac asesu eu heffaith ar ddinasyddion Rhondda Cynon Taf.
Adroddiad cryno
6 Nid oes unrhyw argymhellion ffurfiol, ond gwneir y cynigion canlynol i’r Cyngor i gefnogi gwelliant:
Cynigion ar gyfer gwella |
C1 Sicrhau mwy o gysondeb rhwng y derminoleg a ddefnyddir i gyfleu negeseuon allweddol yn y cynllun gwella, cynlluniau gweithredu a’r crynodeb cyhoeddus er mwyn hwyluso dealltwriaeth o’r hyn y mae’r Cyngor am ei gyflawni, yr hyn y mae’n bwriadu ei wneud a’i wneud yn xxxx i gyfeirio rhwng y prif ddogfennau.* |
C2 Parhau i wella effeithiolrwydd cynlluniau gwella trwy sicrhau bod mesurau llwyddiant perthnasol, wedi’u seilio ar ddeilliannau a chamau gwella hanfodol ar waith, ynghyd â thargedau a cherrig milltir priodol.* |
C3 Cryfhau cynllunio gwasanaethau a rheolaeth ariannol trwy sicrhau bod y cysylltiadau rhwng blaenoriaethau strategol a gwella yn y Cynllun Ariannol Tymor Canolig yn glir ac yn ystyried elfennau’r gyllideb ‘ar sail cost’ yn gyfnodol fel bod y gyllideb yn adlewyrchu lefelau gweithgarwch cyfredol.* |
C4 Datblygu cyfres o ddangosyddion perfformiad i fesur costau unedau a hybu meincnodi mewnol rhwng meysydd gwasanaeth allweddol er mwyn darparu gwybodaeth briodol ar gyfer craffu a her, a helpu i ganfod cyfleoedd am arbedion effeithlonrwydd pellach.* |
C5 Datblygu trefniadau llywodraethu TGCh ymhellach fel eu bod yn cyd-fynd yn well â blaenoriaethau gwella a gweddnewid y Cyngor, ac yn cefnogi eu cyflawniad. |
C6 Defnyddio systemau cynllunio gwasanaethau a rheoli perfformiad presennol yn fwy effeithiol i osod a monitro gwelliannau mewn agweddau craidd ar wasanaethau i blant a phobl ifanc ac oedolion mewn angen. |
*Cyflwynwyd y cynigion hyn i’r Cyngor y tro cyntaf ym mis Awst 2011.
Cynigion ar gyfer gwella
Adroddiad manwl
7 Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu barn yr Archwilydd Cyffredinol am berfformiad y Cyngor wrth iddo gyflawni ei ddyletswydd statudol i wneud trefniadau i sicrhau gwelliant parhaus. Ar dudalen 2 cewch esboniad byr o’r hyn mae’r Archwilydd Cyffredinol yn ei wneud. Mae’r farn hon wedi’i llywio gan waith Swyddfa Archwilio Cymru, Estyn, Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) a Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
8 Xxx Xxxxx Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (y Mesur), mae’n rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol adrodd xxx blwyddyn ar ba mor dda mae cynghorau Cymru, awdurdodau tân ac achub, a’r parciau cenedlaethol yn cynllunio ar gyfer gwella ac yn cyflwyno’u gwasanaethau. Mae Atodiad 1 yn rhoi rhagor o wybodaeth am bwerau a dyletswyddau’r Archwilydd Cyffredinol xxx y Mesur. Gyda chymorth gan arolygiaethau Cymru, Estyn (ar gyfer addysg) ac AGGCC, rydym wedi creu darlun o’r hyn mae pob cyngor neu awdurdod yng Nghymru yn ceisio’i gyflawni a sut mae’n mynd ati i wneud hynny. Mae’r adroddiad hwn hefyd yn amlinellu’r cynnydd mae’r Cyngor wedi’i wneud ers i’r Archwilydd Cyffredinol gyhoeddi ei Adroddiad Gwella Blynyddol diwethaf, gan ddefnyddio hunanasesiad y Cyngor ei hun.
9 Trwy gydol yr adroddiad, amlinellwn yr hyn xxx xxxxx i’r Cyngor ei wneud i wella’i wasanaethau. O gofio’r ystod xxxx o wasanaethau sy’n cael eu darparu a’r heriau sy’n wynebu’r Cyngor, byddai’n anarferol i ni beidio â dod o hyd i bethau y gellir eu gwella. Mae’r Archwilydd Cyffredinol yn gallu:
• argymell i weinidogion Llywodraeth Cymru eu bod yn ymyrryd mewn rhyw ffordd;
• cynnal arolygiad arbennig a chyhoeddi’r adroddiad gydag argymhellion manwl;
• gwneud argymhellion ffurfiol ar gyfer gwella – os gwneir argymhelliad ffurfiol rhaid i’r Cyngor ymateb i’r argymhelliad hwnnw’n gyhoeddus o fewn 30 diwrnod; a
• gwneud cynigion ar gyfer gwella – os gwnawn gynigion i’r Cyngor, byddem yn disgwyl iddo wneud rhywbeth ynglŷn â hwy, a byddwn yn mynd ar drywydd yr hyn sy’n digwydd.
10 Rydym am gael gwybod a yw’r adroddiad hwn yn rhoi’r wybodaeth sydd xx xxxxxx arnoch, ac a yw’n hawdd ei ddeall. Gallwch fynegi xxxx barn i ni drwy anfon e-xxxx atom yn xxxx@xxx.xxx.xx neu drwy ysgrifennu atom yn 24 Heol y Gadeirlan, Caerdydd CF11 9LJ.
Cyflwyniad
11 Mae’r adran hon yn rhoi sylwadau ar gynlluniau’r Cyngor a’i drefniadau ar gyfer cyflawni gwelliant, ac mae’n cynnwys:
• trefniadau’r Cyngor i sicrhau gwelliant parhaus;
• canfyddiadau blaenorol yr Archwilydd Cyffredinol ynghylch y trefniadau ar gyfer gwella;
• trefniadau rheoli pobl;
• sut mae’r Cyngor yn ymgysylltu â’r cyhoedd a chymunedau lleol;
• y defnydd o adnoddau a threfniadau i fynd i’r afael â’r heriau ariannol y mae pob cyngor yn eu hwynebu;
• trefniadau llywodraethu a chraffu’r Cyngor;
• trefniadau’r Cyngor ar gyfer datblygu, defnyddio a chynnal technoleg; a
• threfniadau’r Cyngor i gefnogi’r iaith Gymraeg.
12 Nid ydym yn cynnal adolygiad blynyddol cynhwysfawr x xxxx drefniadau na gwasanaethau’r Cyngor. Seiliwyd y casgliadau yn yr adroddiad hwn ar ein gwybodaeth gronnus a rhanedig a chanfyddiadau’r gwaith blaenoriaeth a gwblhawyd eleni.
13 Yn 2010, cytunodd y Cyngor ar y cyd â’r heddlu, y gwasanaeth iechyd, y gwasanaeth tân a’r sectorau gwirfoddol a chymunedol, ar weledigaeth ar y cyd i Rhondda Cynon Taf fod yn ‘Fwrdeistref Sirol o Gyfle’. Mae hyn yn golygu eu bod yn bwriadu cydweithio â’i gilydd er mwyn galluogi unigolion a chymunedau i wireddu eu llawn botensial, o ran eu gwaith a’u bywyd cymdeithasol. Amlinellir y weledigaeth ranedig hon mewn dogfen o’r enw’r strategaeth gymunedol sy’n xxxx x xxxxx Hyrwyddo Cyflawniad, Mynd i’r Afael ag Anfantais.
14 Er mwyn helpu i hyn ddigwydd, ar 20 Ebrill 2011, cytunodd y Cyngor ar wyth blaenoriaeth gwella i’w cyflawni rhwng Ebrill 2011 a Mawrth 2012. Mae’r Cyngor wedi cyhoeddi dogfen o’r enw Esbonio ein blaenoriaethau gwella ar gyfer 2011/12, sy’n amlinellu’r blaenoriaethau gwella hyn fel a ganlyn:
• cynllunio gwasanaethau tymor canolig – Cyngor effeithlon sydd mewn sefyllfa ariannol gadarn;
• addysg o’r ansawdd gorau i bawb;
• bwrdeistref sirol lanach a gwyrddach;
• cadw pobl plentyn ac unigolyn ifanc yn ddiogel a gwella cyfleoedd bywyd plant sy’n agored i niwed;
• cynorthwyo oedolion a phobl hŷn i fyw’n annibynnol;
• rheoli’r economi hwyr yn y nos a mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol;
• adfywio ein cymunedau; a
• chanolbwyntio ar y cwsmer.
Mae ymroddiad y Cyngor i ysgogi gwelliant yn glir ac mae’n canolbwyntio ei agenda wella’n fwy amlwg ar wasanaethau a deilliannau sy’n bwysig i ddinasyddion
Mae’n amlwg bod y Cyngor yn ymroddedig i ysgogi gwelliant ac mae ganddo brosesau datblygedig ar waith i gefnogi hyn
15 Mae amcanion gwella’r Cyngor (y cyfeirir atynt fel ‘blaenoriaethau’) a’i gynllun gwella (sy’n xxxx x xxxxx Esbonio ein blaenoriaethau gwella ar gyfer 2011/12) yn bodloni gofynion y Mesur a’r arweiniad a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.
16 Mae’r cynllun gwella wedi’i lunio’n dda a’i gyflwyno’n glir. Mae wedi’i ysgrifennu’n dda ac yn hawdd ei ddilyn, gan fodloni anghenion cynulleidfa gyhoeddus a mewnol. Caiff gwybodaeth dechnegol ei chyflwyno ar wahân mewn atodiad sy’n amlinellu cynlluniau gweithredu cynhwysfawr ar gyfer cyflawni pob blaenoriaeth wella, ac yn esbonio sut caiff cynnydd ei fonitro gan ddefnyddio mesurau llwyddiant perthnasol. Mae targedau a cherrig milltir wedi’u cynnwys. Darperir dogfen gryno fer hefyd.
17 Gallai’r fformiwla lwyddiannus hon gael ei gwella ymhellach trwy fwy o gysondeb yn y derminoleg a ddefnyddir yn y dogfennau gwahanol i ddisgrifio’r hyn y mae’r Cyngor am ei gyflawni ac yn bwriadu ei wneud. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod negeseuon allweddol yn cael eu cyfleu’n glir a’u deall.
18 Hefyd, er ei bod yn amlwg bod y Cyngor wedi ymgynghori’n briodol, gallai’r cynllun gwella ddweud mwy am y modd y mae ymgynghori wedi dylanwadu ar y dewis i flaenoriaethau gwella.
19 Cyhoeddwyd y cynllun gwella o fewn y terfyn amser a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.
Mae ar gael ar ffurf electronig ar wefan y Cyngor ac yn cael cyhoeddusrwydd trwy’r newyddlen i drigolion a hysbysiadau mewn canolfannau gwasanaeth cwsmeriaid.
Mae’r Cyngor yn mireinio ei drefniadau i gyflwyno gwelliannau i’w wasanaethau sy’n canolbwyntio’n gliriach ar yr hyn sy’n bwysig i ddinasyddion ac mae mewn sefyllfa dda i fynd i’r afael â’r heriau ariannol sydd o’i flaen
20 Ym mis Awst 2011, anfonodd yr Archwilydd Cyffredinol llythyr Diweddariad ar yr Asesiad Corfforaethol at y Cyngor. Rhoddodd y llythyr sylwadau ar ddatblygiadau ers yr adroddiadau blaenorol a chadarnhaodd yr Archwilydd Cyffredinol ei fod yn fodlon bod y Cyngor yn cyflawni ei ddyletswyddau xxx y Mesur a’i fod yn debygol o gydymffurfio â’i ofynion yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Roedd yr asesiad hwn wedi’i seilio ar ein canfyddiadau bod y Cyngor:
• yn gwneud cynnydd da yn erbyn y meysydd i’w gwella a amlygwyd yn ein hasesiadau blaenorol;
• mewn sefyllfa dda i gyflawni gwaith yn y tymor canolig ar ôl gwerthuso swyddi ac adolygu ei delerau ac amodau, ac yn gweithredu trefniadau cadarn ar gyfer cynllunio’r gweithlu i gynorthwyo i ddarparu gwasanaethau yn y dyfodol;
• yn datblygu ei ddull o ymgysylltu â’r cyhoedd trwy fabwysiadu strategaeth newydd sy’n cydnabod yr angen i gydlynu ei drefniadau’n well i gyflawni’r manteision a’r deilliannau sy’n deillio o ymgysylltu’n effeithiol â’r cyhoedd;
• yn croesawu’r bartneriaeth sy’n datblygu a’r cyfleoedd cydweithredol sy’n cael eu hannog gan Lywodraeth Cymru, ac yn arwain mentrau a ddylai helpu i wella gwasanaethau a chyflawni arbedion effeithlonrwydd;
• mewn sefyllfa dda i wynebu’r heriau ariannol sydd o’i flaen, ac yn gweithio tuag at integreiddio integreiddio cynlluniau ac adroddiadau ariannol a gwella gwasanaethau yn well;
• bod trefniadau ar gyfer datblygu, defnyddio a chynnal technoleg yn debygol o gefnogi gwelliant parhaus; ac
• yn gwella ei allu i ddarparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg, er bod angen gwneud rhagor o xxxxx xx mwyn sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r Cynllun Iaith Gymraeg.
Mae’r Cyngor yn gwneud cynnydd da yn erbyn y meysydd i’w gwella a amlygwyd yn ein hasesiadau blaenorol
21 Dywedodd ein Hasesiad Corfforaethol Rhagarweiniol, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2010: ‘mae’r Cyngor wedi’i reoli’n dda ac mae ganddo ddull strategol clir a realistig o wella’.
22 Amlinellodd ein Hadroddiad Gwella Blynyddol 2009-10, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2011, rai negeseuon pwysig ynghylch sut mae’r Cyngor yn bwriadu gwella ei wasanaethau.
23 Amlygodd yr adroddiadau hyn nifer o feysydd i’w wella a rhai meysydd lle byddem yn cwblhau gwaith pellach. Mae’r Cyngor yn gwneud cynnydd da yn erbyn y materion hyn, fel y crynhoir gyferbyn.
Mae’r Cyngor mewn sefyllfa dda i gyflawni gwaith yn y tymor canolig ar ôl gwerthuso swyddi ac adolygu ei delerau ac amodau, ac yn gweithredu trefniadau cadarn ar gyfer cynllunio’r gweithlu i gynorthwyo i ddarparu gwasanaethau yn y dyfodol
24 Roedd mynd i’r afael â gwerthuso swyddi a newid telerau ac amodau staff ar yr un pryd yn gam dewr. Mae’r Cyngor wedi defnyddio’r sylfaen gadarn yma i weithredu ei strwythur cyflog a graddio newydd a fydd, yn ei dro, yn helpu’r broses gynllunio ariannol ar gyfer y dyfodol.
25 Xxx xxx y templed corfforaethol ar gyfer cynllunio’r gweithlu a’r offer cysylltiedig y potensial i helpu i adnabod ystyriaethau sy’n effeithio ar y gweithlu a sut byddant yn cynorthwyo i ddarparu gwasanaethau yn y dyfodol. Bydd adroddiadau ar gynllunio’r gweithlu yn ategu arbedion effeithlonrwydd trwy amlygu:
• gallu adnoddau staff;
• meysydd lle ceir cydweithio ar draws gwasanaethau; a
• meysydd recriwtio a chadw xxxx xxxxx sylw.
Mae’r Cyngor yn datblygu ei ddull o ymgysylltu â’r cyhoedd trwy fabwysiadu strategaeth newydd sy’n cydnabod yr angen i gydlynu ei drefniadau’n well i gyflawni’r manteision a’r deilliannau sy’n deillio o ymgysylltu’n effeithiol â’r cyhoedd
26 Ynghyd â mabwysiadu strategaeth ymgynghori newydd yn ystod hydref 2010, mae’r Cyngor wedi penodi aelod o’r Cabinet i ‘hyrwyddo’ ymgysylltu â’r cyhoedd. Hefyd, mae’r Cyngor yn cymryd camau i wella xx xxxx o ymgysylltu â’r cyhoedd trwy ragor o waith
Cynigion ar gyfer gwella | Cynnydd | |
1 | Datblygu mwy o fesurau canlyniadau sy’n galluogi’r Cyngor i nodi effaith ei weithgarwch ar ei gymunedau a defnyddwyr gwasanaethau. | Mae’n amlwg bod y Prif Weithredwr a’r Pennaeth Perfformiad wedi chwarae rhan arweiniol mewn cynorthwyo rheolwyr i gyflwyno mesurau sy’n canolbwyntio mwy ar ddeilliannau yn eu cynlluniau gweithredu Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella. Maent wedi canolbwyntio ar herio p’un a fydd y cynlluniau’n cyflawni newidiadau i’r dinesydd a ph’un a fyddai’r dinesydd yn deall yr hyn y mae’r gwasanaeth yn ceisio ei wneud ai peidio. Hefyd, cynhaliwyd rhaglen o hyfforddiant a datblygiad i gynorthwyo staff i ddeall ac amlygu mesurau sydd wedi’u seilio ar ddeilliannau yn well. Caiff y dysgu hwn ei ddefnyddio ar gyfer dogfennau strategol eraill hefyd, fel y strategaeth gymunedol. |
Byddwn yn parhau i fonitro a chefnogi cynnydd yn y xxxx hwn. | ||
2 | Adolygu ei | Mae’r Cyngor wedi symleiddio ei 11 o flaenoriaethau gwella ar gyfer 2010-11 i |
flaenoriaethau | wyth ohonynt ar gyfer 2011-12, gan ganiatáu ffocws cliriach ar yr hyn sy’n | |
gwella o ystyried | bwysig i ddinasyddion o fewn cyllidebau mwyfwy heriol, wrth gynnal cysylltiadau | |
bod llai o adnoddau | clir â themâu ac uchelgeisiau’r strategaeth gymunedol. | |
3 | Cyhoeddi ei flaenoriaethau gwella a chynlluniau i’w cyflawni yn unol ag amserlenni statudol. | Roedd cynllun gwella’r Cyngor 2011, sef Esbonio ein blaenoriaethau gwella ar gyfer 2011/12, ar gael mewn fformat electronig ar wefan y Cyngor ar 30 Mehefin 2011, a rhoddwyd cyhoeddusrwydd iddo trwy’r newyddlen i drigolion a hysbysiadau mewn canolfannau gwasanaeth cwsmeriaid. Yn unol â hynny, fe’i cyhoeddwyd o fewn y terfyn amser a osodwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae’r Cyngor yn bwriadu cyhoeddi diweddariadau chwarterol yn ei newyddlen Outlook er mwyn rhoi’r newyddion diweddaraf i drigolion am ei gynnydd o ran cyflawni ei wyth blaenoriaeth wella, ynghyd â gwahoddiad clir i’r cyhoedd gyfrannu a mynegi eu barn a’u syniadau. |
partneriaeth, gyda’r sector gwirfoddol yn bennaf. Mae aelodau’n dangos diddordeb cynyddol mewn ansawdd ymgysylltu â’r cyhoedd a’i effaith, ac mae cynlluniau ar waith i roi rhagor o wybodaeth, dadansoddiad a hyfforddiant iddynt ar y pwnc.
27 Mae nifer o enghreifftiau o brosiectau a gweithgareddau a gwblheir gan wasanaethau sy’n ymgysylltu’n effeithiol â’r cyhoedd, ac
sy’n dangos ymroddiad y Cyngor i ymgysylltu â’i ddinasyddion a dealltwriaeth glir o sut mae’r ymgysylltu hwn yn cyfrannu at wella.
Mae’r gweithgaredd hwn wedi helpu’r Cyngor i gyflawni manteision penodol a gwella deilliannau, fel twf sylweddol yn nifer y dinasyddion sy’n ailgylchu, a gwella gwasanaethau i blant a theuluoedd trwy ymgysylltu’n fwy ac yn fwy effeithiol.
28 Wrth symud ymlaen, nod y Cyngor yw datblygu dull corfforaethol mwy cydlynol o ymgysylltu â’r cyhoedd trwy:
• ad-drefnu ei staff arbenigol;
• sefydlu strwythur i wella a safoni ansawdd ei dechnegau ymgysylltu â’r cyhoedd;
• buddsoddi mewn meddalwedd newydd; a
• chyflwyno prosesau gwerthuso data.
Bydd rhoi’r camau gweithredu hyn ar waith yn llwyddiannus yn helpu’r Cyngor i sicrhau y caiff xx xxxx weithgarwch ymgysylltu ei weithredu’n gyson a’i werthuso’n gywir o ran ei effeithiolrwydd mewn gwella gwasanaethau a deilliannau i ddinasyddion.
Mae’r Cyngor yn croesawu’r bartneriaeth sy’n datblygu a’r cyfleoedd cydweithredol sy’n cael eu hannog gan Lywodraeth Cymru, ac yn arwain mentrau a ddylai helpu i wella gwasanaethau a chyflawni arbedion effeithlonrwydd
29 Ers i ni adrodd yn y llythyr Diweddariad ar yr Asesiad Corfforaethol ym mis Awst 2011, mae’r Cyngor wedi gwneud cynnydd cadarnhaol o ran cydnabod pwysigrwydd cydweithio wrth gyflenwi ei wasanaethau ac yn rhoi ei hun mewn sefyllfa dda mewn perthynas â’r agenda hon. Er enghraifft, mae’r Prif Weithredwr a’r Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes yn arwain trafodaethau ynghylch addysg o fewn y fframwaith cydweithio rhanbarthol â chynghorau eraill yn ne Cymru, gan gynnwys Merthyr Tudful, Pen- y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg er mwyn datblygu canolfan ddysgu i athrawon ymhellach, ac yn arwain y gwaith o reoli’r rhaglen gwella ysgolion.
30 Mae tystiolaeth, trwy ein gwaith asesu strwythuredig gyda Bwrdd Iechyd Cwm Taf, bod y Cyngor yn arwain ei ymgysylltiad strategol â phartneriaid allweddol, fel Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, mewn perthynas â moderneiddio ei wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a lles mewn cymunedau ledled Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful. Cyfarwyddwr Grŵp Gwasanaethau Cymunedol a Gwasanaethau i Blant y Cyngor yw swyddog arweiniol y bartneriaeth strategol hon, ac mae arwyddion cadarnhaol bod y berthynas yn effeithiol a bod amcanion yn cydweddu’n dda â’i gilydd. Caiff prosiectau fel Oedi wrth Drosglwyddo Gofal eu tanategu gan y cydweithio strategol hwn.
Mae’r Cyngor mewn sefyllfa dda i wynebu’r heriau ariannol sydd o’i flaen ac yn gweithio tuag at integreiddio cynlluniau ac adroddiadau ariannol a gwella gwasanaethau yn well
31 Mae’r Cyngor yn parhau i reoli ei bwysau ariannol yn effeithiol ac mae ganddo arweinyddiaeth ariannol gref ac atebol ar waith. Xxx xxx y Cyngor xxxxx o berfformiad ariannol cryf ac mae ymwybyddiaeth ariannol dda drwyddi draw. Yn ddiweddar, mynegodd yr archwilydd a benodwyd gan yr Archwilydd Cyffredinol ei farn am gyfrifon y Cyngor, a daeth i’r casgliad bod y datganiadau ariannol yn foddhaol, yn gyffredinol. Ceir rhagor o fanylion yn Atodiad 3.
32 Mae’r Cyngor yn cymryd camau priodol i sicrhau bod ei drefniadau cynllunio ariannol tymor canolig yn gadarn. Datblygwyd fframwaith trwy flaenoriaethau clir y Cyngor, prosesau herio gwasanaethau, ac ymgynghori ac ymgysylltu â phartneriaid a dinasyddion. Mae’r trefniadau hyn yn helpu i
roi’r Cyngor mewn sefyllfa gref i allu mynd i’r afael â’r hyn a fydd yn siŵr o barhau i fod yn olygfa ariannol heriol.
33 Aeth y Cyngor i’r afael â’r bwlch cychwynnol yn ei gyllideb yn 2011-12, sef £14 miliwn, trwy weithredu ei ymarfer gwerthuso swyddi a moderneiddio telerau ac amodau staff, ynghyd ag ystod o arbedion effeithlonrwydd eraill yn y gwasanaethau a dulliau cyflenwi newydd. Mae’n edrych ar nifer o ddewisiadau pellach ar gyfer newid gwasanaethau ac arbed xxxxx x xxxx eu datblygu os oes angen i fynd i’r afael â heriau ariannol yn y dyfodol.
34 Gellid gwella’r trefniadau sydd gan y Cyngor ar waith ymhellach trwy gyflwyno rhagor o gostau unedau a chymariaethau cost a pherfformiad yn ei adroddiadau ariannol. Mae mesurau deilliannau yn dechrau cael eu hadrodd i fonitro perfformiad yn erbyn amcanion strategol yn y strategaeth gymunedol, a gallai’r rhain gael eu hintegreiddio’n well yn y broses gynllunio ariannol tymor canolig.
35 Ym mis Awst 2011, gwnaethom argymell y dylai’r Cyngor ddatblygu cyfres o ddangosyddion perfformiad i fesur costau unedau a hybu meincnodi mewnol rhwng meysydd gwasanaeth allweddol, er mwyn darparu gwybodaeth briodol at ddibenion craffu a herio a helpu i ganfod cyfleoedd am arbedion effeithlonrwydd pellach. Mae’r Cyngor wedi ymateb yn gadarnhaol trwy lansio prosiect corfforaethol i ganfod, coladu a symleiddio gweithgarwch meincnodi cyfredol sy’n cael ei gwblhau gan wasanaethau, gyda’r bwriadu o fanteisio i’r eithaf ar y data sydd ar gael, a llunio mesurau priodol o gost a gwerth am arian. Hefyd, mae’r Cyngor yn gwerthuso’r manteision posibl y gall cyllidebau
gwasanaeth ‘ar sail cost’ eu darparu mewn perthynas â’i drefniadau cadarn presennol ar gyfer gosod cyllidebau.
Mae trefniadau’r Cyngor ar gyfer datblygu, defnyddio a chynnal technoleg yn debygol o gefnogi gwelliant parhaus
36 Daeth ein hadolygiad o’r modd y mae’r Cyngor yn defnyddio technoleg, sy’n hanfodol ar gyfer gweddnewid y modd y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu cyflwyno, gwella deilliannau i ddinasyddion a chyflawni arbedion effeithlonrwydd, i’r casgliad:
• Bod trefniadau’r Cyngor ar gyfer datblygu, defnyddio a chynnal technoleg yn debygol o gefnogi gwelliant parhaus, er bod xxxxx xxxx barhau i ddatblygu ei drefniadau llywodraethu TGCh.
• Y dylid cryfhau’r trefniadau llywodraethu TGCh sefydledig fel eu bod yn cydweddu’n well â blaenoriaethau gwella a gweddnewid y Cyngor ac yn cynorthwyo i’r cyflawni. Er bod y Cyngor yn buddsoddi mewn technoleg, xxxx xxxxx cynllunio buddsoddiad pellach ar gyfer y dyfodol, sy’n ystyried risg ac argaeledd adnoddau.
• Mae’r Cyngor yn datblygu ei ddulliau mynediad i gwsmeriaid, sy’n gweithio’n dda; hefyd, mae ganddo nifer o gynlluniau peilot ar xxxxx xx’n asesu gweithio x xxxx. Os bydd yn manteisio i’r eithaf ar y rhain, disgwylir gweddnewid gwasanaethau cefn swyddfa a chyflawni rhagor o arbedion effeithlonrwydd.
37 Ar hyn x xxxx, rydym yn adolygu dull rheoli gwybodaeth y Cyngor. Mae’r pwysau ariannol cynyddol ar y sector cyhoeddus yn pwysleisio’r angen am wybodaeth wedi’i rheoli’n briodol i gynorthwyo i gyflwyno gwasanaethau gweithredol a gwneud penderfyniadau effeithiol. Byddwn yn crynhoi ein canfyddiadau yn ein hadroddiad nesaf.
Mae’r Cyngor yn gwella ei allu i ddarparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg, er bod angen gwneud rhagor o xxxxx xx mwyn sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r Cynllun Iaith Gymraeg
38 Canfu Bwrdd yr Iaith Gymraeg fod y Cyngor yn cydymffurfio’n rhannol â’i Gynllun Iaith Gymraeg mewn perthynas â dogfennau etholiadol. Cydnabuwyd y gwnaed gwelliannau i’r cynnwys Cymraeg ar gyngor y wefan, ond bod rhywfaint o waith i’w wneud o hyd.
39 Gwnaed cynnydd o ran datblygu strategaeth sgiliau ieithyddol, yn ogystal â phrif ffrydio’r Gymraeg yn nhrefniadau cynllunio busnes y Cyngor. Hefyd, mae trefniadau cadarn ar waith i wella darpariaeth gwasanaethau Cymraeg yn y sector gwasanaethau cymdeithasol.
40 Mae’r rhan hon o’r adroddiad yn amlinellu pa mor dda yr ydym yn credu y mae’r Cyngor yn gwella ei wasanaethau. Llywiwyd ein casgliadau gan y gwaith yr ydym wedi’i wneud eleni o ran adolygu perfformiad y Cyngor a’i gynnydd tuag at gyflawni ei amcanion gwella. Rydym yn myfyrio ar farn AGGCC mewn perthynas â gwasanaethau’r Cyngor i oedolion a phlant mewn angen, a barn Estyn ynghylch gwasanaethau addysg.
Xxx xxx y Cyngor gryfder yn ei drefniadau strategol a chorfforaethol ac xxx xxxxx iddo ddefnyddio’r rhain yn fwy effeithiol i ysgogi cyflymder newid a gwella, yn enwedig mewn perthynas â’i wasanaethau i blant a phobl ifanc
41 Mae’r Archwilydd Cyffredinol wedi dibynnu ar farn, gwaith a gwerthusiadau a wnaed gan AGGCC yn ystod y flwyddyn i asesu pa mor dda y mae’r Cyngor yn cynorthwyo pobl mewn angen. Crynhoir gwerthusiadau AGGCC yn ei Adolygiad Blynyddol a Gwerthusiad o Berfformiad 2010-11, fel yr amlinellwyd mewn llythyr i Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor ym mis Hydref 2011. Caiff y prif gasgliadau o werthusiad AGGCC eu crynhoi yn y paragraffau canlynol.
42 Gall y Cyngor ddangos tystiolaeth o rai cyflawniadau partneriaeth a chydweithredol nodedig yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mewn gwasanaethau i oedolion a gwasanaethau i blant fel ei gilydd, sydd wedi tanategu’r gwelliannau a welwyd mewn rhai meysydd allweddol â blaenoriaeth. Mae’r Cyngor yn parhau i fynd ar drywydd gwelliannau pellach; mae hyn wedi bod y sylfaen isel mewn rhai rhannau o’r
gwasanaeth, sy’n cael ei herio ymhellach gan ffactorau demograffig ac economaidd. Mae cynnydd yn araf, sy’n creu risgiau a heriau parhaus i’r Cyngor wrth iddo geisio gwella agweddau craidd ar asesu a rheoli gofal.
43 Xxx xxx y Cyngor strategaeth ar waith a fydd, ymhen amser, yn golygu y bydd ganddo ddigon o staff gwaith cymdeithasol cymwys mewn gwasanaethau i blant a phobl ifanc. Mae’r anallu i gyflawni hyn yn gyflym wedi cyfrannu at y ffaith nad yw plant a phobl ifanc yn derbyn gwasanaeth o safon gyson ac nad yw rhai rhwymedigaethau statudol yn cael eu bodloni. Nid yw perfformiad mewn asesiadau cychwynnol a chraidd yn bodloni’r disgwyliadau, er bod hynny’n flaenoriaeth gwella ar gyfer y llynedd, ac mae achosion gormod o blant yn cael eu rheoli gan staff nad ydynt yn weithwyr cymdeithasol o hyd. Mae dirywiad ym mherfformiad gweithgareddau amddiffyn plant yn cymhlethu hyn, ynghyd â pherfformiad cymysg mewn perthynas â phlant sy’n derbyn gofal. Caiff yr olaf ei gymhlethu hefyd gan gynnydd yn nifer y plant sy’n derbyn gofal.
44 Mae tystiolaeth bod sylw canolbwyntiedig wedi arwain at wella rhai agweddau ar y gwasanaeth, er enghraifft mewn lleihau nifer yr ailatgyfeiriadau ond, ar gyfer llawer o agweddau, mae cyflymder y gwella wedi dod i xxx xxx xxx’n araf o hyd, ac xxx xxxxx i’r Cyngor ystyried sut y gall newid cyflymder newid a gwella fesul cam.
45 Mae gwasanaethau i oedolion wedi cyflawni gwelliannau o ran mynd i’r afael ag amseroedd aros, dosbarthu mwy o offer i ddefnyddwyr gwasanaethau a darparu mwy o addasiadau. Mae’r Rhaglen Ailalluogi, a ddarperir ar y cyd â gwasanaethau iechyd, yn parhau i weithio’n gadarnhaol i gadw pobl yn
Xxx xxxx gwendidau ym mherfformiad y Cyngor mewn rhai meysydd gwasanaeth allweddol fel gwasanaethau i blant a phobl ifanc a safonau addysg, ond mae’n dangos gwelliant cyson mewn rheoli gwastraff
eu cartrefi eu hunain a lleihau’r ddibyniaeth ar wasanaethau gofal sefydliadol. Fodd bynnag, mae heriau o hyd, gan gynnwys oedi wrth drosglwyddo gofal o ysbytai ac mae nifer y bobl mewn gofal preswyl wedi cynyddu. Fodd bynnag, mae’r Cyngor yn perfformio’n dda yn ei asesiadau a ddarperir i ofalwyr ac yn darparu gwasanaethau cymorth i nifer fawr o ohonynt.
46 Xxx xxx y Cyngor gryfder yn ei drefniadau strategol a chorfforaethol ac xxx xxxxx iddo barhau i sicrhau ei fod yn canolbwyntio ei ymdrechion ar fynd i’r afael â’i berfformiad craidd, yn enwedig yng ngoleuni’r galw cynyddol a chyllid mwy heriol. Mae systemau rheoli perfformiad a chynllunio/datblygu gwasanaethau ar waith ac xxx xxxxx eu defnyddio’n fwy effeithiol i osod a monitro gwelliannau mewn meysydd gwasanaeth craidd. Xxx xxxxx mwy o synergedd strategol o fewn y gwasanaethau cymdeithasol, fel bod datblygu’r gweithlu yn bodloni gofynion cynllunio gwasanaeth tymor byr a chanolig yn well.
Mae’r Cyngor a’i ysgolion yn perfformio’n anghyson mewn perthynas â rhai safonau addysgol allweddol ar draws y bwrdestref sirol a rhwng ysgolion, yn enwedig o ran presenoldeb ysgol
47 Mae’r rhan hon o’r adroddiad yn amlinellu pa mor dda y mae’r Cyngor yn gwella’r modd y mae’n helpu pobl i ddatblygu. Wrth ddod at ein casgliad, rydym wedi ystyried barn Estyn, arolygiaeth addysg a hyfforddiant Cymru, sydd i’w weld ym mharagraffau 48-50.
48 O ystyried ystod o wybodaeth gyd-destunol, mae perfformiad disgyblion yn Rhondda Cynon Taf yn 2011 islaw’r cyfartaledd yng nghyfnodau allweddol 1 a 2 ac yn gyfartalog yng nghyfnod allweddol 3. Yn gyffredinol, mae perfformiad yng nghyfnod allweddol 4 islaw’r cyfartaledd.
49 Mae perfformiad yng nghyfnodau allweddol 3 a 4, wedi’i seilio ar yr hawl i gael prydau ysgol am ddim, wedi bodloni neu ragori ar feincnodau Llywodraeth Cymru yn ystod y pedair blynedd hyd 2010. Nid yw’r wybodaeth feincnodi ar gyfer 2011 ar gael hyd yn hyn.
50 Mae presenoldeb mewn ysgolion cynradd ac uwchradd wedi gwella yn ystod 2011, ond mae ymhlith yr isaf yng Nghymru o hyd. Yn gyffredinol, gwellodd nifer y gwaharddiadau o ysgolion yn 2010, ond nid cystal â’r gwelliant yng Nghymru, ar gyfartaledd. Mae nifer y dyddiau y mae disgyblion yn eu colli o’r ysgol oherwydd gwaharddiadau yn gymharol uchel o hyd.
51 Caiff gwasanaethau addysg y Cyngor ar gyfer plant a phobl ifanc eu harolygu gan Estyn ym mis Mawrth 2012. Bydd Estyn yn cyhoeddi ei adroddiad arolygu ar ei wefan, sef xxx.xxxxx.xxx.xx xxxx o law, a byddwn yn cynnwys crynodeb o ganfyddiadau a chasgliadau’r arolygiad yn ein Hadroddiad Gwella Blynyddol 2012.
Mae rheoli gwastraff yn flaenoriaeth gydnabyddedig i’r Cyngor, a chan adeiladu ar ei berfformiad cadarn o ran ailgylchu trwy ymgysylltu’n effeithiol â’r gymuned, xxx xxx y Cyngor her barhaus i geisio lleihau faint o wastraff y mae’n ei anfon i safleoedd tirlenwi
52 Mae’r rhan hon o’r adroddiad yn amlinellu pa mor dda y mae’r Cyngor yn gwella’r modd y mae’n creu ac yn cadw’r ardal yn lle diogel, ffyniannus a phleserus. Eleni, mae ein gwaith wedi canolbwyntio ar werthuso pa mor dda y mae’r Cyngor yn perfformio o ran casglu ac ailgylchu ei wastraff dinesig.
53 Mae rheoli gwastraff ac ailgylchu yn her i xxx cyngor, oherwydd bod y targedau gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd yn dod yn fwyfwy anodd, ac yn dwyn cosbau ariannol sylweddol. Mae’n amlwg bod y Cyngor yn cydnabod yr her hon ac yn mynd i’r afael â hi trwy bennu rheoli gwastraff ac ailgylchu yn flaenoriaeth gorfforaethol, ac ysgogi a monitro perfformiad yn un o’i wyth amcan gwella penodol h.y. ‘bwrdeistref sirol lanach a gwyrddach’.
54 Yng Nghynllun Gwella 2010, dywed Arweinydd y Cyngor bod gwastraff ac ailgylchu yn llwyddiant yn ystod 2010-11. Mae hyn oherwydd:
• disgynnodd faint o wastraff a anfonwyd i safleoedd tirlenwi o 76,450 xxxxxxx yn 2009-10 i 64,342 xxxxxxx yn 2010-11; a
• chynyddodd faint o wastraff a gafodd ei ailgylchu, ei ailddefnyddio neu ei gompostio o 40,543 xxxxxxx yn 2009-10 i 47,687 yn 2010-11.
Dywed y Cyngor bod y canlyniadau hyn yn adlewyrchu xx xxxxx cadarnhaol yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys:
• cynnal dros 400 o ddigwyddiadau codi ymwybyddiaeth i hybu cyfranogiad cyhoeddus mewn mentrau ailgylchu a lleihau gwastraff;
• cynyddu argaeledd y gwasanaeth casglu gwastraff bwyd o 41,000 o dai yn 2009-10 i 100,000 o dai yn 2010-11; a
• pharatoi i ddatblygu ffatri trin gwastraff bwyd, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, fel rhan o greu Gwasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu sy’n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif.
55 Mae ein hadolygiad o ddangosyddion perfformiad perthnasol 2010-11 yn cadarnhau bod y Cyngor wedi anfon 52.75 y cant yn unig o’i wastraff dinesig i safleoedd tirlenwi. Nid yn unig y mae hyn yn berfformiad da, mae’n cynrychioli tuedd o leihad parhaus yn ystod y tair blynedd er 2008-09. Mae hyn yn adlewyrchu i xx xxxxxx y xxx trigolion Rhondda Cynon Taf yn ymgysylltu’n fwyfwy â’r angen i ailgylchu a lleihau faint o wastraff y maent yn ei greu. Hefyd, dengys dangosyddion perfformiad fod y Cyngor yn dda am ailgylchu sych, gan gyflawni 30.74 y cant o gymharu â chyfartaledd Cymru gyfan, sef 26.34 y cant, sy’n cynrychioli’r pedwerydd perfformiad gorau o’r 22 o gynghorau yng Nghymru. Fodd bynnag, ar 10.41 y cant o gymharu â chyfartaledd Cymru gyfan o 16.91 y cant, mae cyfraniad y compostio dinesig yn gyfyngedig. Dylai effaith y Cyngor yn cynyddu argaeledd y casgliad gwastraff bwyd gael ei hadlewyrchu mewn gwelliant i’r ffigur hwn ar gyfer 2011-12. At ei gilydd, ar 41.4 y cant ar gyfer 2010-11, mae’r Cyngor yn parhau i
wella ei gyfradd ailddefnyddio, ailgylchu a chompostio gwastraff cyfunol, er bod rhaid i gyfradd y gwelliant hwn gyflymu os yw’r Cyngor am fodloni’r targed ailgylchu statudol a osodwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2012-13, sef 52 y cant.
56 Defnyddiodd y Cyngor 89 y cant o’i lwfans tirlenwi yn 2010-11, a oedd yn uwch o lawer na chyfartaledd Cymru gyfan, sef 73 y cant, ac yn yr ugeinfed safle o’r 22 o gynghorau yng Nghymru. Er bod hyn wedi gwella rhywfaint o gymharu ag yn 2009-10, mae’n golygu bod gan y Cyngor ychydig iawn o le o hyd nes ei fod mewn perygl o fethu â dargyfeirio digon o wastraff bioddiraddadwy oddi wrth safleoedd tirlenwi, gyda’r posibilrwydd o gosbau ariannol gan Lywodraeth Cymru.
57 Defnyddir strategaethau marchnata arloesol yn effeithiol yn y tymor hwy, fel hysbysebion yn y sinema leol ac ar fysiau lleol i godi ymwybyddiaeth o’r angen i ailgylchu, codi baw cŵn a pheidio â thipio’n anghyfreithlon. Yn ogystal, ceir enghreifftiau o ymgysylltu’n effeithiol â’r gymuned, fel y xxxxxx Dim Gwastraff sy’n cael ei ddefnyddio yng Nglyncoch, sef un o ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf y Cyngor ym Mhontypridd. Cyflwynwyd dulliau strategol ehangach yn fwy cyffredinol ledled y Cyngor hefyd, trwy ysgolion a grwpiau cymunedol i bobl ifanc a thrigolion hŷn sydd wedi ymddeol. Yn y tymor hwy, dylai’r strategaethau a’r mentrau hyn arwain y ffordd at leihau faint o wastraff sy’n mynd i safleoedd tirlenwi trwy ddinasyddion y Cyngor yn ymateb oherwydd eu hymwybyddiaeth gynyddol o effaith negyddol creu gwastraff. Mae pwysigrwydd y gwaith hwn o ran lleihau gwastraff a’i effaith ar newid
yn yr hinsawdd yn arwyddocaol, a bydd o fudd i genedlaethau’r dyfodol yn Rhondda Cynon Taf.
58 Mae’r Cyngor yn gweithio ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful i gaffael y gallu i drin gwastraff bwyd a gwastraff gweddilliol sy’n ofynnol i fodloni targedau gwastraff ar ôl 2014, a sicrhau dull mwy cynaliadwy o reoli gwastraff yn y dyfodol. Yn ddiweddar, mae Covanta Waste wedi tynnu ei gynnig yn ôl i adeiladu ffatri troi gwastraff yn ynni ger Merthyr Tudful, ac mae trafodaethau â Llywodraeth Cymru ynghylch cyllid a chyfleoedd caffael y gallu i drin gwastraff gweddilliol yn parhau. Cydnabu’r Cyngor fod y caffaeliadau hyn yn hanfodol xx x xxxx unrhyw oedi maith olygu cosbau ariannol i’r Cyngor am beidio â bodloni’r targedau statudol ar gyfer dargyfeirio ac ailgylchu gwastraff.
59 Mae’r Cyngor wedi adolygu ei berfformiad yn 2010-11 mewn dogfen gynhwysfawr â 214 o dudalennau o’r enw Cynllun Gwella 2010
(y Cynllun). Mae’r Cynllun yn cynnwys gwybodaeth fanwl helaeth, a gyflwynir ar ffurf naratif a data perfformiad mewn atodiadau ar wahân. Fe’i hysgrifennwyd yn glir ar gyfer y darllenydd gwybodus yn hytrach na’r cyhoedd yn gyffredinol, er bod crynodeb un tudalen ar wahân ar gael ac xxx xxxxx ragarweiniol y Cynllun yn rhoi trosolwg bras.
60 Mae strwythur rhesymegol i’r Cynllun ac mae’n rhoi’r agenda wella yn ei chyd-destun statudol a fframwaith strategol ehangach y strategaeth gymunedol a’r Cytundeb Deilliannau. Mae’r Cynllun, a’i xxxx xxxxx naratif, yn canolbwyntio’n bennaf ar sut mae blaenoriaethau gwella’r Cyngor wedi cyfrannu at themâu ac uchelgeisiau’r strategaeth gymunedol. Mae hyn yn cysylltu blaenoriaethau gwella â’u cyd-destun strategol ehangach ac yn amlygu faint o weithio mewn partneriaeth sydd ynghlwm wrth eu cyflawni. Xxx xxxxx ddefnyddiol yn xxxx x xxxxx Dod â phopeth ynghyd, sy’n amlinellu ystyriaethau trawsbynciol a’r newidiadau sydd eu xxxxxx i gyflwyno gwasanaethau cost effeithiol, gwell. Hefyd, mae cydnabyddiaeth glir drwy’r ddogfen gyfan o bwysigrwydd ymgysylltu â’r cyhoedd ac adborth gan ddefnyddwyr. Mae monitro cynnydd yn fanwl yn erbyn camau gweithredu penodol a cherrig milltir cysylltiedig wedi’i osod mewn atodiad ar wahân.
61 Mae hon yn fformiwla dda ac mae’r wybodaeth a gyflwynir yn helaeth, yn fanwl ac yn gynhwysfawr. Mae’r adran naratif yn cynnwys cydbwysedd rhesymol rhwng adrodd ar yr hyn y mae’r Cyngor wedi’i wneud a’r gwahaniaeth mae hyn yn ei wneud o ran deilliannau. Yn ymarferol, mae’r Cynllun braidd yn anodd ei ddilyn - yn rhannol oherwydd ei hyd a’i gynnwys manwl, ac yn rhannol oherwydd bod y wybodaeth sydd xx xxxxxx i lunio asesiad cyffredinol yn dameidiog. Nid yw’r gwahaniaeth rhwng y cynnydd y mae’r Cyngor yn ei wneud yn erbyn ei flaenoriaethau gwella a’i gynnydd cyffredinol tuag at themâu ac uchelgeisiau’r strategaeth gymunedol xxx amser yn glir, yn enwedig o ran y deilliannau a gyflawnwyd.
62 Cyflwynir dangosyddion perfformiad a data arall mewn fformat hawdd ei ddeall, ynghyd â sylwebaeth gysylltiedig yn ôl yr angen, a rhoddir syniad clir o ble mae targedau wedi’u bodloni neu heb eu bodloni. Fodd bynnag, gall rhai o’r dangosyddion perfformiad a amlygir yn benodol ddangos cynnydd, gysylltu’n gliriach â’r blaenoriaethau gwella. Er enghraifft, defnyddir mesurau goleuadau stryd i ddangos cynnydd o ran lleihau effaith camddefnyddio alcohol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn perthynas â’r flaenoriaeth wella ‘cymunedau diogelach’.
63 Mae’r Mesur yn galw ar gynghorau i fod yn fwy hunan-feirniadol ac arfarnol ynglŷn â sut maen nhw’n darparu eu gwasanaethau. Mae cynghorau angen canolbwyntio’n gliriach ar amcanion gwella sydd wedi eu hadnabod ac effaith gwasanaethau gwell ar ddinasyddion, gan sicrhau fod dinasyddion yn ymwybodol fod gwelliannau wedi eu cyflawni. Nid yw’r Cynllun yn cynnwys hunanasesiad o sut
Lluniodd y Cyngor asesiad cynhwysfawr o’i berfformiad ond, hyd yn hyn, nid yw wedi gwerthuso’n effeithiol pa mor dda y mae’n cyflawni ei flaenoriaethau gwella ac asesu eu heffaith ar ddinasyddion
mae’r Cyngor yn credu ei fod yn perfformio, ac mae’n tueddu i ganolbwyntio’n bennaf ar ei gyflawniadau cadarnhaol tuag at y strategaeth gymuned. Nid yw’n yn esbonio sut yr eir i’r afael â’r meysydd lle mae’r Cyngor yn tanberfformio. Byddai adran ar gynllunio ar gyfer y dyfodol yn ddefnyddiol er mwyn dwyn ymlaen ystyriaethau y mae’r Cyngor wedi dod yn ymwybodol ohonynt drwy gynnal yr hunanasesiad hwn.
64 Mae’r Archwilydd Cyffredinol wedi penderfynu bod y Cyngor wedi cyflawni xx xxxx ddyletswyddau mewn perthynas â chyhoeddi gwybodaeth am wella. O ran ei hunanasesiad o berfformiad, rydym am barhau i weithio â’r Cyngor er mwyn gwella’n xxxxxxx y xxxx xxx’n gweithredu yn unol ag arweiniad Llywodraeth Cymru.
Atodiadau
Mae Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (y Mesur) yn ei gwneud yn ofynnol i’r Archwilydd Cyffredinol ymgymryd ag Asesiad Gwella blynyddol, ac i gyhoeddi Adroddiad Gwella Blynyddol, ar gyfer pob awdurdod gwella yng Nghymru. Mae’r gofyniad hwn yn cynnwys cynghorau lleol, parciau cenedlaethol, ac awdurdodau tân ac achub.
Mae’r adroddiad hwn wedi’i lunio gan yr Archwilydd Cyffredinol i gyflawni ei ddyletswyddau o xxx xxxxx 24 y Mesur. Mae’r adroddiad hwn hefyd yn cyflawni dyletswyddau o xxx xxxxx 19 i gyhoeddi adroddiad sy’n ardystio ei fod wedi cynnal Asesiad Gwella o xxx xxxxx 18 a datgan a ydyw, o ganlyniad i’w archwiliad o’r cynllun gwella o xxx xxxxx 17, o’r farn fod yr awdurdod wedi cyflawni ei ddyletswyddau cynllunio gwelliant o xxx xxxxx 15.
Xxx xxx awdurdodau gwella ddyletswydd gyffredinol i ‘wneud trefniadau i sicrhau gwelliant parhaus wrth arfer [eu] swyddogaethau’. Diffinnir awdurdodau gwella fel cynghorau lleol, parciau cenedlaethol, ac awdurdodau tân ac achub.
Yr Asesiad Gwella blynyddol yw’r prif ddarn o xxxxx xx’n galluogi’r Archwilydd Cyffredinol i gyflawni ei ddyletswyddau. Caiff yr Asesiad Gwella ei lywio gan asesiad blaengar o ba mor debygol yw awdurdod o gydymffurfio â’i ddyletswydd i wneud trefniadau i sicrhau gwelliant parhaus. Mae hefyd yn cynnwys asesiad ôl-weithredol i weld a yw awdurdod wedi cyflawni’r gwelliannau a gynlluniwyd ganddo er mwyn llywio barn ynglŷn â sut lwyddodd yr awdurdod i wella. Mae’r adroddiad hefyd yn rhoi crynodeb o gasgliadau’r Archwilydd Cyffredinol am hunanasesiad y Cyngor o’i berfformiad.
O xxx xxx amgylchiadau gall yr Archwilydd Cyffredinol hefyd gynnal arolygiadau arbennig (o xxx xxxxx 21), a bydd yn cyflwyno adroddiad amdanynt i’r awdurdodau a’r gweinidogion perthnasol, a gall eu cyhoeddi (o xxx xxxxx 22). Bydd yr Archwilydd Cyffredinol yn crynhoi adroddiadau archwilio ac asesu yn yr Adroddiad Gwella Blynyddol cyhoeddedig hwn (o xxx xxxxx 24). Bydd hwn hefyd yn crynhoi unrhyw adroddiadau arolygiadau arbennig.
Un o weithgareddau atodol pwysig Swyddfa Archwilio Cymru yw cydgysylltu gwaith asesu a gwaith rheoleiddio (sy'n ofynnol o xxx xxxxx 23), sy'n ystyried rhaglen waith gyffredinol pob rheoleiddiwr perthnasol mewn awdurdod gwella. Fe all yr Archwilydd Cyffredinol hefyd ystyried gwybodaeth a rennir gan reoleiddwyr perthnasol (o xxx xxxxx 33) yn ei asesiadau.
Atodiad 1
Statws yr adroddiad hwn
Y Cyngor
Cyllidebodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i wario £429 miliwn yn 2010-11. Mae hyn yn hafal i oddeutu £1,835 fesul trigolyn. Yn ystod yr un flwyddyn, gwariodd y Cyngor £84 miliwn ar eitemau cyfalaf hefyd.
Y dreth gyngor gyfartalog ar gyfer Band D yn 2010-11 ar gyfer Xxxxxxx Xxxxx Taf oedd £1,089 y flwyddyn. Mae hyn wedi codi o fymryn yn llai na thri y cant i £1,121 y flwyddyn ar gyfer 2011-12. Mae naw deg y cant o’r tai yn Rhondda Cynon Taf ym mandiau treth gyngor A i D, ac xxx xxxx deg saith y cant o’r xxxx xxx xx xxxxxxx treth gyngor A a B.
Mae’r Cyngor yn cynnwys 75 aelod etholedig sy’n cynrychioli’r gymuned ac yn gwneud penderfyniadau ynghylch blaenoriaethau a defnyddio adnoddau. Mae cyfansoddiad gwleidyddol y Cyngor fel a ganlyn:
• 48 o’r Blaid Lafur
• 18 o Blaid Cymru
• 5 Annibynnol
• 3 o Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru
• 1 Ceidwadwr
Xxxxx Xxxxxxxxx yw Prif Weithredwr y Cyngor. Mae’r swyddi allweddol eraill sy’n ffurfio Xxx Rheoli Corfforaethol y Cyngor fel a ganlyn:
• Cyfarwyddwr Grŵp Gwasanaethau Cymunedol a Gwasanaethau i Blant: Xxxxx Xxxxxxxx
• Cyfarwyddwr Grŵp Gwasanaethau Corfforaethol: Xxxxx Xxxxxxx
• Cyfarwyddwr Grŵp Addysg a Dysgu Gydol Oes: Xxxxxxxxxxx Xxxxxxxx
• Cyfarwyddwr Grŵp Gwasanaethau Amgylcheddol: Xxxxxx Xxxxx
• Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol: Xxxxxxx Xxxxxxx
• Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd: Xxxx Xxxxx
Atodiad 2
Gwybodaeth ddefnyddiol am Rhondda Cynon Taf a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Gwybodaeth arall
Aelodau’r Cynulliad ar gyfer Xxxxxxx Xxxxx Xxx yw:
• Xxxxxxxxx Xxxxxxx, Cwm Cynon, y Xxxxx Xxxxx
• Xxxxxxxx Xxxxxxx, Xxxxxxx, y Xxxxx Xxxxx
• Xxxx Xxxxxxx, Pontypridd, y Xxxxx Xxxxx
Yr Aelodau Seneddol ar gyfer Rhondda Cynon Taf yw:
• Xxx Xxxxx, Cwm Cynon, y Blaid Lafur
• Xxxxx Xxxxxx, Xxxxxxx, y Xxxxx Xxxxx
• Xxxx Xxxxx, Pontypridd, y Xxxxx Xxxxx
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan y Cyngor ei hun yn xxx.xxxxxxx-xxxxx-xxx.xxx.xx neu cysylltwch â’r Cyngor yn Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Bronwydd, Porth CF39 9DL.
Anfonodd yr archwilydd a benodwyd gan yr Archwilydd Cyffredinol y llythyr canlynol ar 28 Tachwedd 2011.
Y Cynghorydd X Xxxxxxx, Arweinydd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Y Pafiliynau
Parc Cambria Cwm Clydach CF40 2XX
Xxxxxx Xxxxxxx
Llythyr Archwilio Blynyddol i Aelodau Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Fel y gwyddoch, bydd Archwilydd Cyffredinol Cymru yn anfon Adroddiad Gwella Blynyddol at xxx awdurdod lleol erbyn diwedd mis Ionawr 2012, a bydd rhai o’r ystyriaethau yr adroddwyd arnynt yn Llythyr Archwilio Blynyddol yr Archwilydd Penodedig yn draddodiadol wedi’u cynnwys yn yr adroddiad hwnnw. Felly, rwyf wedi achub ar y cyfle i grynhoi’r negeseuon allweddol sy’n deillio o gyfrifoldebau statudol yr Archwilydd Penodedig yn y llythyr byr hwn sy’n ffurfio’r Llythyr Archwilio Blynyddol. Lluniwyd y llythyr i fod yn ddogfen annibynnol, ond caiff ei gyflwyno i’r Cyngor a’r cyhoedd fel rhan o’r Adroddiad Gwella Blynyddol hefyd, ac xxxxx xxx’n cyflawni fy nyletswyddau adrodd xxx y Cod Ymarfer Archwilio.
Cydymffurfiodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf â’r gofynion adrodd yn ymwneud â’i berfformiad ariannol a’i ddefnydd o adnoddau
1 Mae’r Cyngor yn gyfrifol am:
• roi systemau rheolaeth fewnol ar xxxxx xx mwyn sicrhau bod trafodion yn rheolaidd ac yn gyfreithlon a sicrhau bod ei asedau’n ddiogel;
• cadw cofnodion cyfrifyddu cywir;
• paratoi Datganiad o Gyfrifol yn unol â’r gofynion perthnasol; a
• pennu trefniadau priodol er mwyn sicrhau darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd o ran defnyddio adnoddau, a chadw’r trefniadau hyn xxx arolwg.
Atodiad 3
Cyfrifon Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a’i ddefnydd o adnoddau
2 Mae Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 yn ei gwneud yn ofynnol i mi:
• roi barn archwilio ar y datganiadau cyfrifyddu;
• adolygu trefniadau’r Cyngor i sicrhau darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wrth ddefnyddio adnoddau; a
• chyhoeddi tystysgrif sy’n cadarnhau fy mod wedi archwilio’r cyfrifon.
3 Ar 30 Medi 2011, cyhoeddais farn archwilio ddiamod ar y datganiadau cyfrifyddu, yn cadarnhau eu bod yn rhoi darlun cywir a theg o sefyllfa a thrafodion ariannol y Cyngor, y Grŵp a’r Gronfa Bensiwn. Rhoddwyd gwybod i’r aelodau am nifer o faterion yn deillio o’r archwiliad o’r cyfrifon yn fy adroddiad Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol a ystyriwyd gan y Cyngor llawn ar 28 Medi 2011. Y brif ystyriaeth y rhoddwyd gwybod amdano oedd, yn dilyn newid i’r gofynion yn sgil Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (Buddion, Aelodaeth a Chyfraniadau) 2007, dylai’r Cyngor fod wedi darparu ar gyfer costau pensiwn yn ymwneud â thaliadau cyflog cyfartal a wnaed yn 2008 a 2011. Y cyngor cyfreithiol a roddwyd i’r Cyngor ar y pryd oedd nad oedd angen unrhyw ddarpariaeth debyg. Nid ystyriwyd y diwygiad posibl yn faterol ac nid addaswyd y cyfrifon ar gyfer yr eitem hon.
4 O 2010-11, mae’n ofynnol i awdurdodau lleol yng Nghymru lunio eu cyfrifon ar sail y Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol. Rhoddodd cyflwyno’r safonau newydd hyn orchmynion ychwanegol sylweddol ar staff cyllid y Cyngor. Er gwaethaf y pwysau ychwanegol hwn, paratowyd y cyfrifon erbyn y dyddiad cau statudol xx x xxxxx dda.
5 Mae f’adolygiad o drefniadau’r Cyngor i sicrhau darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wedi’i seilio ar y gwaith archwilio a wnaed ar y cyfrifon yn ogystal â dibynnu ar y gwaith a gwblhawyd fel rhan o’r Asesiad o Welliant xxx Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009. Amlinellir prif ganfyddiadau’r gwaith diwethaf hwn yn yr Adroddiad Gwella Blynyddol. Nid oes unrhyw ystyriaethau eraill yr hoffwn dynnu xxxx sylw atynt.
6 Cyhoeddais dystysgrif yn cadarnhau bod yr archwiliad o’r cyfrifon wedi’i gwblhau ar 30 Medi 2011.
7 Ar hyn x xxxx, disgwylir i’r ffioedd archwilio ariannol ar gyfer 2010-11 fod yn unol â’r rhai a bennwyd yn yr Amlinelliad o’r Archwiliad Blynyddol.
Xxxx Xxxxxxxx Cyfarwyddwr Grŵp
Ar gyfer ac ar ran yr Archwilydd Penodedig 28 Tachwedd 2011
Xxx xxx etholwyr lleol a phobl eraill hawl i edrych ar gyfrifon y Cyngor. Pan fydd y Cyngor wedi cwblhau ei gyfrifon am y flwyddyn ariannol flaenorol, o gwmpas mis Mehefin neu fis Gorffennaf fel xxxxx, xxx’n rhaid iddo hysbysebu eu bod ar gael i bobl edrych arnynt. Gallwch gael copïau o’r cyfrifon gan y Cyngor; gallwch hefyd archwilio pob llyfr, gweithred, contract, bil, taleb a derbynneb sy’n ymwneud â hwy am 20 diwrnod gwaith ar ôl trefnu eu bod ar gael. Gallwch ofyn cwestiynau i’r archwilydd am y cyfrifon am y flwyddyn mae’n eu harchwilio. Er enghraifft, gallwch yn syml iawn ddweud wrth yr archwilydd os credwch fod rhywbeth yn anghywir â’r cyfrifon neu am wastraff ac aneffeithlonrwydd yn y modd y mae’r Cyngor yn rhedeg ei wasanaethau. I gael rhagor o wybodaeth gweler taflen Swyddfa Archwilio Cymru, Cyfrifon y Cyngor: xxxx hawliau, ar ein gwefan yn xxx.xxx.xxx.xx neu drwy ysgrifennnu atom yn 24 Heol y Gadeirlan, Caerdydd CF11 9LJ.
Amcanion gwella Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor wneud cynlluniau i wella ei swyddogaethau a’r gwasanaethau mae’n eu darparu. Xxx blwyddyn mae’n rhaid iddo gyhoeddi’r cynlluniau hyn ynghyd ag ‘amcanion gwella’ penodol sy’n nodi’r pethau allweddol y mae’r Cyngor yn bwriadu eu gwneud i wella.
Mae’n rhaid i’r Cyngor wneud hyn cyn gynted â phosibl ar ôl 1 Xxxxxx xxx blwyddyn.
Yn 2010, cytunodd y Cyngor ar y cyd â’r heddlu, y gwasanaeth iechyd, y gwasanaeth tân a’r sectorau gwirfoddol a chymunedol, ar weledigaeth ar y cyd i Rhondda Cynon Taf fod yn ‘Fwrdeistref Sirol o Gyfle’. Mae hyn yn golygu eu bod yn bwriadu cydweithio â’i gilydd er mwyn galluogi unigolion a chymunedau i wireddu eu llawn botensial, o ran eu gwaith a’u bywyd cymdeithasol. Amlinellir y weledigaeth ranedig hon mewn dogfen o’r enw’r strategaeth gymunedol sy’n xxxx x xxxxx Hyrwyddo Cyflawniad, Mynd i’r Afael ag Anfantais. Er mwyn helpu i hyn ddigwydd, ar 20 Ebrill 2011, cytunodd y Cyngor ar wyth blaenoriaeth gwella i’w cyflawni rhwng Ebrill 2011 a Mawrth 2012. Mae’r Cyngor wedi cyhoeddi dogfen o’r enw Esbonio ein blaenoriaethau gwella ar gyfer 2011/12, sy’n amlinellu’r blaenoriaethau gwella hyn, ac mae i’w gweld ar wefan y Cyngor, sef xxx.xxxxxxx-xxxxx-xxx.xxx.xx. Maent fel a ganlyn:
Blaenoriaethau gwella arfaethedig y Cyngor ar gyfer 2010-11 | |
Cynllunio ariannol tymor canolig – byw o fewn ein modd | Blaenoriaeth allweddol y Cyngor, y mae aelodau a swyddogion eisoes yn dra chyfarwydd â hi, yw rheoli cyllid y Cyngor yn gall ac yn arloesol iawn er mwyn cyflawni ein blaenoriaethau. Er nad yw’r lefelau ariannu penodol ar gyfer y dyfodol yn hysbys, mae’r rhan fwyaf o sylwebyddion yn cytuno bod y sefyllfa’n debygol o fod yn heriol iawn, gyda chynnydd xxxxxxx ar y gorau a thoriadau sylweddol mewn lefelau adnoddau ar y gwaethaf. Xxx xxxxx i ‘fyw o fewn ein modd’ fod yn arwyddair ar gyfer pob un ohonom. Xxx xxxxx i ni ganolbwyntio ar fanteisio i’r eithaf ar y refeniw rydym yn ei greu, darparu gwasanaethau mewn modd mwy effeithlon, cynyddu lefel y cyllid allanol i helpu i ddarparu gwasanaethau o ansawdd a pharhau i ddatblygu’r gweithlu a gwella recriwtio a chadw staff. |
Esbonio ein blaenoriaethau gwella ar gyfer 2011-12 | |
Cynllunio gwasanaethau tymor canolig – Cyngor effeithlon sydd mewn sefyllfa ariannol gref | • parhau i gyflenwi trefniadau rheoli cyllid a pherfformiad effeithiol sy’n agored ac yn dryloyw i’n dinasyddion a’n rhanddeiliaid; • rheoli a datblygu ein staff i gyflawni blaenoriaethau trigolion lleol; |
• rheoli’r modd y caiff ein hadeiladau eu defnyddio yn rhagweithiol mewn modd effeithlon a chynaliadwy; a | |
• chydweithio â’n partneriaid i fynd i’r afael â heriau gwasanaeth o safbwynt y dinesydd. |
Atodiad 4
Amcanion gwella a hunanasesiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Blaenoriaethau gwella arfaethedig y Cyngor ar gyfer 2010-11 | |
Addysg – addysg o’r ansawdd gorau i bawb | Y ffocws yw parhau i godi safonau mewn lleoliadau’r blynyddoedd cynnar ac ysgolion, fel ei gilydd, gan wella deilliannau i xxx plentyn. Os ydych am xxxxx’r cylch amddifadedd, mae addysg o’r ansawdd gorau sy’n bodloni anghenion pob plentyn yn hanfodol. Un o’r blaenoriaethau allweddol yw datblygu addysg gymunedol – darparu gwasanaethau estynedig i blant a’u teuluoedd trwy raglenni fel E3+, ar y cyd ag ysgolion, asiantaethau eraill a’r sector gwirfoddol. |
Gwasanaethau gofal stryd a’r amgylchedd naturiol – bwrdeistref sirol lanach a gwyrddach | Rydym wedi gwneud cynnydd da yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf o ran gwella’r amgylchedd lleol. Anelwn at wella’r amgylchedd lleol ymhellach trwy gynyddu ein cyfraddau ailgylchu gwastraff i fodloni’r targedau cenedlaethol heriol, parhau i ddarparu strydoedd glanach a phriffyrdd sydd wedi’u cynnal a’u cadw’n dda trwy gydol y flwyddyn, a gwella parciau fel y gall pawb fwynhau’r mannau glas agored y mae’r fwrdeistref sirol yn eu cynnig. Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar orfodaeth lem ar gyfer gollwng sbwriel, graffiti, tipio anghyfreithlon a chodi posteri’n anghyfreithlon. |
Esbonio ein blaenoriaethau gwella ar gyfer 2011-12 | |
Addysg o’r ansawdd gorau i bawb | • codi safonau llwyddiant a chyflawniad ym mhob cyfnod allweddol ar gyfer disgyblion sy’n cael eu haddysgu yn Rhondda Cynon Taf; • creu amgylcheddau dysgu mwy priodol i helpu plant i gyflawni deilliannau addysgol gwell; a • chefnogi presenoldeb gwell yn yr ysgol neu ddysgu yn y gwaith i ddisgyblion. |
Bwrdeistref sirol lanach a gwyrddach | • lleihau faint o wastraff sy’n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi; • cynyddu faint o’r gwastraff a gesglir sy’n cael ei ailgylchu neu ei ailddefnyddio; • cadw ein strydoedd yn lân a gweithio i xxxx gollwng sbwriel, graffiti, tipio anghyfreithlon a chodi posteri’n anghyfreithlon; a • sicrhau bod ein ffyrdd wedi’u cynnal a’u cadw’n dda, a’u bod yn lân ac yn ddiogel ar gyfer pawb sy’n eu defnyddio. |
Blaenoriaethau gwella arfaethedig y Cyngor ar gyfer 2010-11 | |
Gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar blant a theuluoedd – cadw pob plentyn ac unigolyn ifanc yn ddiogel a gwella cyfleoedd bywyd plant sy’n agored i niwed | Byddwn yn canolbwyntio ar ddiogelu a chynorthwyo plant a phobl ifanc mewn angen, gan gynnwys y rhai sy’n ofalwyr; gwella ystod ac effeithiolrwydd y gwasanaethau a luniwyd i gynorthwyo plant a theuluoedd yn eu cartrefi eu hunain yn sylweddol; darparu gofal o ansawdd uchel a chartrefi parhaol â theuluoedd i blant nad ydynt yn gallu byw gyda’u teuluoedd biolegol; cyflwyno a chomisiynu gwasanaethau o ansawdd uchel i blant yn ystod y blynyddoedd cynnar; ac xxxx pobl ifanc rhag cymryd rhan mewn gweithgarwch troseddol. |
Cynnal annibyniaeth pobl – cynorthwyo oedolion a phobl hŷn i fyw’n annibynnol | Bydd y Cyngor yn parhau i wella’r gwasanaethau y mae’n eu darparu i gynorthwyo pobl hŷn i fyw gartref, gan hybu annibyniaeth a gwella ansawdd bywyd, xxxx unrhyw dderbyniadau diangen i’r ysbyty a sicrhau eu bod yn cael eu rhyddhau’n brydlon. Yn benodol, datblygu gwasanaethau i bobl hŷn â phroblemau iechyd meddwl, darparu rhagor o gymorth i bobl ag anghenion tymor hir, amddiffyn oedolion sy’n agored i niwed a helpu rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu. |
Esbonio ein blaenoriaethau gwella ar gyfer 2011-12 | |
Cadw pob plentyn ac unigolyn ifanc yn ddiogel a gwella cyfleoedd bywyd plant sy’n agored i niwed | • sicrhau bod plant yn xxxx xxxx’u teuluoedd pan fo hynny er lles i’r plentyn; • gwella’r penderfyniadau a wnawn ar gyfer plant y bydd angen gofal parhaol tymor hir arnynt; • diogelu ac amddiffyn plant a phobl ifanc sy’n agored i niwed; a |
• helpu i xxxx pobl ifanc rhag cymryd rhan mewn gweithgarwch troseddol. | |
Cynorthwyo oedolion a phobl hŷn i fyw’n annibynnol | • hybu annibyniaeth ac ansawdd bywyd a helpu oedolion a phobl hŷn i fyw gartref; • gweithio tuag at integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol; a |
• diogelu oedolion sy’n agored i niwed rhag esgeulustod a chamdriniaeth. |
Blaenoriaethau gwella arfaethedig y Cyngor ar gyfer 2010-11 | |
Gorfodi a rheoleiddio – rheoli’r economi hwyr yn y nos a mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol | Caiff bywydau llawer o’n trigolion eu difetha gan ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae llawer o’r ymddygiad gwrthgymdeithasol hwn yn gysylltiedig ag alcohol, sy’n gallu troi’n achosion o ddifrod troseddol a throseddau treisgar. Mae’n amlwg o drafodaethau â’r gymuned eu bod am i’r Cyngor ddefnyddio ei bwerau trwyddedu a diogelu’r cyhoedd i reoli’r economi hwyr yn y nos yn effeithiol, xxxx gwerthu alcohol i xxx xxx oed, annog yfed yn gall a lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol. |
Esbonio ein blaenoriaethau gwella ar gyfer 2011-12 | |
Rheoli’r economi hwyr yn y nos a mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol | • lleihau niwed yn gysylltiedig ag alcohol i yfwyr a’r problemau y maent yn eu creu yn y gymuned; ac |
• annog pob i beidio ag yfed mewn modd nad yw’n iach a hybu rheolaeth fwy cyfrifol o safleoedd trwyddedig. |
Blaenoriaethau gwella arfaethedig y Cyngor ar gyfer 2010-11 | |
Adfywio ein cymunedau | Canolbwyntio ar ganol ein trefi, cydweithio â chyllidwyr i sicrhau gwelliannau i’r amgylchedd ffisegol ac annog gwella’r manwerthwyr sydd ar gael, er mwyn iddynt fod yn fwy deniadol i siopwyr a busnesau. Un flaenoriaeth xx xxxx buddsoddiad sylweddol i’r fwrdeistref sirol er mwyn datblygu hen safleoedd diwydiannol a hyrwyddo Rhondda Cynon Taf fel lleoliad deniadol iawn. Rydym am sicrhau bod ystod o dai o ansawdd da ar gael ledled y fwrdeistref sirol, sy’n ddiogel, yn fforddiadwy, wedi’u cynnal a’u cadw’n dda ac yn bodloni anghenion amrywiol a chyfnewidiol. Hefyd, byddwn yn cymryd camau rhagweithiol i fynd i’r afael â thlodi plant a chefnogi adfywio cymdeithasol (helpu trigolion lleol i uchafu eu hincwm, gwella eu sgiliau a gwella eu cyflogadwyedd yn ystod y dirywiad economaidd ac ar sail barhaus yn y dyfodol). Byddwn yn achub ar y cyfleoedd a gynigir gan Cymunedau yn Gyntaf i’n helpu i gyflawni hyn. |
Esbonio ein blaenoriaethau gwella ar gyfer 2011-12 | |
Adfywio ein cymunedau | • hwyluso datblygiad hen safleoedd diwydiannol; • gwella amgylchedd ffisegol canol ein trefi; • mewn partneriaeth, sicrhau bod ystod o dai o ansawdd da ar gael; • helpu i uchafu incwm teuluoedd trwy oresgyn y rhwystrau rhag derbyn xxxx- daliadau â phrawf moddion; • helpu i gynyddu’r cyfleoedd i oedolion o oedran gweithio fanteisio ar gyflogaeth, addysg a hyfforddiant; • mewn partneriaeth, cyflwyno ffyrdd newydd o weithio fel y caiff effaith tlodi ar blant, pobl ifanc a theuluoedd ei lleihau; ac • xxxx a lleihau nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. |
Blaenoriaethau gwella arfaethedig y Cyngor ar gyfer 2010-11 | |
Cyswllt gwell â chwsmeriaid – canolbwyntio ar y cwsmer | Mae’r cwsmer wrth wraidd popeth a wnawn o hyd ac mae llawer o’n cyflawniadau diweddar wedi cynnwys yr amcan o wella’r profiad i gwsmeriaid. Rydym yn ymroddedig i ddarparu ystod o ddulliau i gwsmeriaid fanteisio ar wasanaethau; xxx xxxx manteisio ar lawer o wasanaethau trwy’r ganolfan gwasanaeth cwsmeriaid newydd yn Nhŷ Elai a’r canolfannau ‘One4All’. Rydym yn ymestyn y ddarpariaeth hon ac yn cynyddu nifer y gwasanaethau y gellir eu defnyddio’n electronig, er mwyn gwella mynediad atynt a chynyddu eu heffeithlonrwydd a’u heffeithiolrwydd. |
Manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd partneriaeth – gwneud mwy i gymunedau lleol trwy gydweithio â’n gilydd | Mae gennym xxxxx da o weithio mewn partneriaeth yn Rhondda Cynon Taf, ond mae cyfleoedd i ddarparu manteision mwy amlwg a mesuradwy gweithio mewn partneriaeth. Yn benodol, xxx xxxxx i’r Cyngor chwarae rhan arweiniol yn y Bwrdd Gwasanaethau Lleol, gan gryfhau arweinyddiaeth y sector cyhoeddus lleol i fynd i’r afael â heriau yn ymwneud â chyflenwi gwasanaethau o safbwynt y cwsmer/ defnyddiwr, y gellir ond mynd i’r afael â nhw trwy weithio mewn partneriaeth. Gall hyn arwain at ddulliau newydd o gyflenwi gwasanaethau, cyfuno adnoddau ac adlinio gwasanaethau rhwng sectorau. |
Esbonio ein blaenoriaethau gwella ar gyfer 2011-12 | |
Canolbwyntio ar y cwsmer | • sicrhau y gall cwsmeriaid ddefnyddio gwasanaethau’n rhwydd yn y ffordd sydd orau ganddynt a’u bod yn cael ateb buan ac o ansawdd. |
Blaenoriaethau gwella arfaethedig y Cyngor ar gyfer 2010-11 | |
Rheoli ein hasedau – paratoi ein hunain ar gyfer y dyfodol | Xxx xxxxx gwneud newidiadau mewnol o hyd er mwyn i’r Cyngor baratoi ei hun yn dda ar gyfer y dyfodol – i gyflwyno gwasanaethau cynaliadwy trwy weithio mewn modd gwell a mwy effeithlon. Bydd y newidiadau hyn yn gofyn i’r Cyngor resymoli nifer yr adeiladau yr ydym yn gweithio ynddynt. |
Cyfathrebu – codi ymwybyddiaeth a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i bobl | Xxx xxx y Cyngor ddulliau amrywiol o gyfathrebu’n fewnol ac yn allanol, ac mae wedi gwella’r rhain trwy symleiddio negeseuon allweddol a defnyddio technoleg. Fodd bynnag, yn aml, rydym yn cyfathrebu trwy ddulliau amrywiol i’r un gynulleidfa ac, yn aml, nid yw’r wybodaeth a’r negeseuon yr ydym am eu rhannu yn cyrraedd y rhai sydd eu xxxxxx fwyaf. Xxx xxxxx i ni asesu effeithiolrwydd ein dulliau cyfathrebu a chyflwyno ffyrdd y gallwn sicrhau bod negeseuon a gwybodaeth allweddol yn cyrraedd y gynulleidfa y xxxx xxxx yr effaith fwyaf arni. |
Hunanasesiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf o berfformiad
Mae hunanasesiad y Cyngor o berfformiad i’w weld yn ei Gynllun Gwella 2010 sydd ar gael gan y Cyngor ac ar ei wefan: xxx.xxxxxxx-xxxxx-xxx.xxx.xx.