Prif Swyddogion
Prif Swyddogion
Amodau a Thelerau Gwasanaeth Cyffredinol
1. Gwneir y penodiad yn ôl amodau a thelerau'r Cydbwyllgor Trafod ar gyfer Prif Swyddogion Awdurdodau Lleol, yn amodol ar unrhyw newid a wneir o dro i dro ac yn unol â hynny gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ôl ei ddisgresiwn.
2. Cyflog
Graddfa gyflog y swydd hon yw £90,421 - £101,058 y flwyddyn. Ebrill 2021
1 | £90,421 |
2 | £92,549 |
3 | £94,676 |
4 | £96,804 |
5 | £98,931 |
6 | £101,058 |
Gallai’r raddfa hon gael ei hymestyn pan mae amodau penodol yn gwneud hynny’n angenrheidiol, y rhain yw SCP 7 £103,186 ac SCP 8 £105,313.
Mae symud i fyny’r raddfa o gamau o 1 i 6 yn ddibynnol ar adolygiad ar sail perfformiad.
Fel arfer, bydd gweithwyr sy’n ymgeisio ac yn cael eu penodi, drwy broses recriwtio fewnol neu allanol, yn cael eu penodi ar waelod y raddfa a ddyrannwyd i'r swydd drwy’r broses werthuso swyddi. Xxx amgylchiadau eithriadol, a xxxx fo rhesymau cryf ar sail tystiolaeth i gefnogi'r penderfyniad, gellir penodi gweithiwr newydd ar hicyn cyflog uwch, yn amodol ar uchafswm y raddfa.
3. Bydd Perfformiad yn cael ei fesur yn erbyn meini prawf cytunedig xxx xxxx mis, a fydd yn cynnwys cyrraedd targedau perfformiad mewn perthynas â phrif gyfrifoldebau’r swydd.
4. Treuliau
Bydd costau teithio a chynhaliaeth, ynghyd â thaliadau eraill y gellir eu gwneud, yn cael eu gwneud ar y sail a benderfynir gan y Cyngor Bwrdeistref Sirol ac yn cyd-fynd â’r cytundeb cenedlaethol yr ychwanegir ato neu a ddiwygir yn lleol.
5. Aelodaeth Broffesiynol
Os yw cofrestru â chorff statudol yn un o ofynion y swydd, rhaid i chi gydymffurfio â’r safonau a’r codau ymarfer.
6. Pensiwn
a. Bydd deiliad y swydd yn dod yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn awtomatig, oni bai ei fod yn dewis gwneud ei drefniadau ei hun ar gyfer pensiwn preifat.
b. Mae Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn gynllun Cyfartaledd Cyflog Gyrfa wedi’i Adbrisio sy’n darparu pensiwn ar adeg ymddeol yn seiliedig ar wasanaeth a gronnwyd a chyfartaledd xxxx enillion blynyddol dros xxxx aelodaeth o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.
c. Mae cyfraniadau aelodau wedi’u bandio yn unol â thaliadau cyfwerth â llawn amser (sef 9.9% - 10.5% ym mis Ebrill 2022 - adolygir hyn yn flynyddol).
6 | 9.90% | £67,901 - £96,200 |
7 | 10.50% | £96,201 - £113,400 |
7. Oriau Gwaith
a. Mae’r wythnos waith sylfaenol yn 37 awr.
b. Fodd bynnag, ar gyfer swydd mor uchel, bydd gofyn i’r deiliad weithio faint bynnag o oriau sydd eu xxxxxx i gwrdd ag anghenion a gofynion y gwasanaeth, ac mae cyflog y swydd yn adlewyrchu'r gofyniad hwnnw.
8. Gwyliau
Mae blwyddyn wyliau'r Cyngor yn ymestyn o 1 Ebrill tan 31 Mawrth. Yr hawl gwyliau blynyddol yw 32 diwrnod y flwyddyn, yn ogystal â gwyliau cyhoeddus wrth iddynt ddigwydd.
9. Terfynu Contract
Mae’n rhaid i’r Prif Swyddog roi 3 mis o rybudd i’r Cyngor.
10. Swydd Xxx Gyfyngiadau Gwleidyddol
Yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1989, mae’n ofynnol i’r Cyngor baratoi a chynnal rhestr o swyddi a ystyrir yn xxxx xxx gyfyngiad gwleidyddol. Mae swydd y Prif Swyddog yn swydd xxx gyfyngiadau gwleidyddol.
11. Cyngor i Grwpiau Gwleidyddol
Ni fydd gofyn i'r Prif Swyddog gynghori unrhyw grŵp gwleidyddol yn y Cyngor Bwrdeistref Sirol, o ran gwaith y grŵp neu waith y Cyngor, ac ni fydd gofyn iddo ychwaith fynychu unrhyw gyfarfod o grŵp gwleidyddol.
Ni fydd hyn yn rhagfarnu unrhyw drefniant i'r gwrthwyneb a ellir ei wneud mewn cytundeb â'r Cyngor ac sy'n cynnwys trefniadau diogelu digonol i gadw amhleidioldeb ei fusnes mewn perthynas â busnes y Cyngor Bwrdeistref Sirol.