Teitl: Gweithiwr Cefnogaeth
Teitl: Gweithiwr Cefnogaeth
Lleoliad: Gweithio Ystwyth / Llys Einion, Abertyleri, NP13 1DB Cyfarwyddiaeth: Gwasanaethau Cymdeithasol
Swydd Rhif: BG14145
Cyflog: Gradd 6 (£26,975 – £30,984 y flwyddyn)
Oriau: 37 awr yr wythnos
Contract: Cyfnod Sefydlog tan 31.03.2023
Crynodeb swydd
Mae cyfleoedd wedi codi ar gyfer Gweithwyr Cefnogaeth profiadol gyda phrofiad amlwg o weithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd i weithio yn nhîm sefydledig Cefnogi Newid sydd â'r nod o xxxx plant rhag dod i Dderbyn Gofal, cefnogi plant y dynodwyd adsefydlu fel eu cynllun parhauster, cyfrannu at asesiadau o botensial ar gyfer newid ac adsefydlu.
Hysbyseb Lawn
Fel Gweithiwr Cefnogaeth o fewn y xxx Cefnogi Newid byddwch yn weithiwr proffesiynol aml-sgil, yn gweithio gyda rhieni, plant a phobl ifanc lle mae risg sylweddol y bydd plant/pobl ifanc angen llety gan yr awdurdod lleol neu na fydd, heb ymyriad dwys, yn gallu cael eu hadsefydlu’n ôl i'w teulu.
Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm i gyflwyno'r rhaglen Cefnogi Niwed a chynnal asesiadau teulu a rhoi cefnogaeth i deuluoedd lle mae anghenion eu plant/plentyn yn cael ei gyflawni drwy gynllun gofal a chymorth. Byddwch yn darparu rhaglenni cynhwysfawr cymorth rhianta fel xxxx xxxxx ynghyd â rhaglenni a phecynnau pwrpasol o gefnogaeth i alluogi teuluoedd i ddod yn hyderus, cefnogol, cadarn a diogel.
Mae cymwysterau a phrofiad hanfodol ar gyfer y swydd hon yn cynnwys:
• Cymhwyster proffesiynol perthnasol Lefel 3 neu uwch mewn Gofal Cymdeithasol, Iechyd, Addysg Blynyddoedd Cynnar, Gwaith Chwarae Gwaith Ieuenctid
• Profiad amlwg o weithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd
• Profiad amlwg o gynnal asesiadau a chyflwyno ymyriadau
• O leiaf Lefel 1 a 2 mewn Diogelu a phrofiad a gwybodaeth gadarn o weithdrefnau amddiffyn plant, rhannu gwybodaeth a haenau ymyriad
• Profiad o weithio gyda theuluoedd "anodd eu cyrraedd"
Mae'r wybodaeth sydd xx xxxxxx yn cynnwys dealltwriaeth dda o ddatblygiad plant a gwybodaeth gwaith gadarn o ddeddfwriaeth, canllawiau a safonau'n gysylltiedig â gwasanaethau cefnogaeth ar gyfer plant, pobl ifanc a'u teuluoedd.