Swyddog Cymunedau Amrywiol Teitl y Swydd: Swyddog Cymunedau Amrywiol Lleoliadau Gogledd a Chanolbarth Cymru (Gweithio gartref a chyda phrosiectau) Yn adrodd i: Rheolwr Criced Ardal y Rhanbarth Oriau Gwaith: Amser Llawn; 35 awr yr wythnos (byddai...
Swyddog Cymunedau Amrywiol
Teitl y Swydd: Swyddog Cymunedau Amrywiol
Lleoliadau Gogledd a Chanolbarth Cymru (Gweithio gartref a chyda phrosiectau)
Yn adrodd i: Rheolwr Xxxxxx Xxxxx y Xxxxxxxxx
Oriau Gwaith: Amser Llawn; 35 awr yr wythnos (byddai rhannu swydd yn cael ei ystyried)
Cyflog: £22,000 a threuliau priodol
Contract: Contract cyfnod sefydlog tan Awst 2025 yn amodol ar gyfnod prawf llwyddiannus
Mae Criced Cymru, sef xxxxx llywodraethu criced yng Nghymru, yn bodoli i arwain, ysbrydoli a dylanwadu ar dwf, ansawdd a hygyrchedd criced yng Nghymru. Rydym wrthi’n recriwtio unigolion brwdfrydig, angerddol a phroffesiynol i ymuno â’n timau, i helpu i gyflawni’n cynlluniau datblygu gyflawni cynlluniau datblygu ardaloedd a rhaglenni Chance to Shine, Lord Xxxxxxxxx a’r ECB. Gweler y Disgrifiad Swydd a Manyleb Person sydd ynghlwm am fanylion pellach.
Dylai ymgeiswyr gyflwyno llythyr eglurhaol a CV cyfredol drwy e-xxxx at …
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Rhagfyr 15fed
I gael sgwrs anffurfiol am y rôl, dylent ffonio’r Rheolwr Ardal (Xxx Xxxxx, Gogledd Cymru)
Gwybodaeth Ychwanegol: Darperir hyfforddiant perthnasol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus.
Darperir dillad ac offer hyfforddi priodol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae’r swydd hon yn cael ei chefnogi gan yr ECB, Xxxx Xxxxxxxxx, Chance to Shine a Criced Cymru. Cynigir y swydd i ddechrau ar gontract cyfnod sefydlog yn amodol ar gyfnod prawf llwyddiannus.
Prif Gyfrifoldeb
Rôl y Swyddog Cymunedau Amrywiol yw cynorthwyo gyda’r gwaith o redeg y Rhaglen Stryd ‘Chance to Shine’ mewn ffordd effeithiol ac effeithlon ledled Cymru, i gynorthwyo Swyddogion Cymunedau Amrywiol eraill i gyflenwi rhaglenni ar lefel leol, ac i sicrhau bod yna gydymffurfio â’r xxxx ofynion o ran adrodd, yn unol â’n contract ariannu Chance to Shine.
Tyfu cynnig criced cymunedol ymhlith cymunedau mwy amrywiol a difreintiedig yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru.
Sefydlu, sicrhau adnoddau, a rheoli prosiectau lleol gan ddefnyddio eraill i gyflawni cynllun gweithredu amrywiaeth Criced Cymru.
Tyfu, cefnogi ac ehangu pob ffurf ar griced a chwaraeir yn yr ardal drwy ddylanwadu ar, a chynorthwyo clybiau, a datblygu partneriaethau newydd.
Gweithio gyda’r xxx Ardal i ddatblygu cyfleoedd a strwythurau i hwyluso criced a sicrhau ei bod yn Gêm i Bawb.
Cefnogi ethos ein strategaeth Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant:
TRAWSNEWID CRICED YNG NGHYMRU I GREU MAN LLE MAE PAWB YN CAEL EU TRIN Â PHARCH A THEGWCH AC YN TEIMLO EU BOD YN PERTHYN
Cyfrifoldebau i gefnogi’r nod uchod
Cynllunio
Gweithio gyda grwpiau cymunedol i greu cynllun i gael cymunedau a grwpiau newydd lleol i gymryd rhan mewn criced.
Tyfu’r sgyrsiau presennol gydag arweinwyr cymunedol i greu cysylltiadau newydd â grwpiau cymunedol.
Defnyddio arferion gorau chwaraeon eraill a gweithio ar y cyd â nhw.
Prosiectau Stryd
Rhedeg cynlluniau mewn cymunedau difreintiedig a fydd yn creu cyfleoedd stryd lleol, yn cyfeirio talent, ac yn cynnig cyfle i gymryd rhan ar lefel leol mewn darpariaeth xxx do dros y gaeaf a thrwy’r flwyddyn gyfan.
Cefnogi/rheoli prosiectau stryd (bechgyn a merched).
Cadw cynigion (dros dro) i fynd.
Xxxx nawdd i gynnal prosiectau xxxx xxxxx hyfforddwyr wedi’u hadleoli.
Recriwtio gwirfoddolwyr i wneud sesiynau’n gynaliadwy.
Crynhoi ac adrodd ar ganlyniadau pob prosiect.
Sicrhau bod yr xxxx ddata wedi’i lwytho’n gywir ac mewn xx xxxx ar y xxxxx adrodd ar-lein.
Cysylltu cyfranogwyr, lle bo’n briodol, â Chlybiau a’r Llwybr Chwarae.
Cysylltu’r xxxx xxxxx xxxxx a gwaith ‘dros dro’ lleol fel prosiectau lloeren ar gyfer clybiau criced prif ffrwd.
Cefnogi/datblygu cynigion clybiau criced gyda Rhaglenni Cenedlaethol.
Cynorthwyo clybiau/chwaraewyr i ymuno neu gofrestru eu timau â chynghreiriau criced lleol.
Cynorthwyo clybiau i gysylltu â chymunedau lleol.
Datblygu criced anabledd
Cysylltu â swyddogion anabledd a chynhwysiant awdurdodau lleol.
Tyfu prosiectau Lord Xxxxxxxxx, gan gynnwys rheoli’r prosiect Super 1’s.
Creu cysylltiadau a thyfu nifer clybiau’r ECB sy’n hyrwyddo criced anabledd (‘champion clubs’).
Bod â darlun cyffredinol a chysylltiad â phrosiectau ADY Ysgolion Cymru.
Datblygu cysylltiadau cryf â chlybiau strategol dynodedig a/neu gymunedau i:
Sefydlu a rheoli prosiectau strategol bwrsariaeth All Stars.
Sefydlu a rheoli prosiectau strategol Dynamos Intros
Datblygu cyfleoedd o gynghreiriau canol wythnos/nad ydynt yn rhan o’r prif ffrwd.
Cyswllt
Cefnogi trefn lywodraethu clybiau
Creu perthnasoedd â’r Urdd a datblygu cyfleoedd a fydd yn cynyddu cyfleoedd ar gyfer y Gymraeg o fewn y gymuned griced.
Cydweithio â chynlluniau amrywiaeth eraill Criced Cymru fel bo’n briodol ymhob ardal.
Sefydlu trefn gyflenwi mewn ysgolion i gefnogi’r gwaith uchod, gan ddefnyddio adnoddau Chance to Shine
Cynllunio rhaglen ysgolion sy’n cysylltu â hybiau stryd Chance to Shine
Hyrwyddo criced mewn ysgolion
Creu cyswllt ag adrannau Datblygu Chwaraeon yr Awdurdod
Adeiladu perthnasoedd gwaith positif â chymunedau a chlybiau criced a gweithio xxxx Xxxx Ardal Criced Cymru i gefnogi canlyniadau datblygu ehangach.
Bydd y rôl yn gofyn cyflawni dyletswyddau eraill x xxxx i’w gilydd. Bydd gofyn mynychu cyfarfodydd xxx a digwyddiadau.
Rheolaeth
Rheolwr llinell y swydd o ddydd i ddydd fydd Rheolwr Criced Ardal y rhanbarth penodol.
Dylai ymgeiswyr anfon llythyr eglurhaol a CV cyfredol drwy e-xxxx at Xxxxxx Xxxxx xxxxxx.xxxxx@xxxxxxxxxxxx.xxx.xx
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Rhagfyr 15fed
I gael trafodaeth anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Xxx Xxxxx- xxx.xxxxx@xxxxxxxxxxxx.xxx.xx
Fframiau Amser:
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau - Rhagfyr 15fed
Fframiau Amser Arfaethedig Cyfweliadau – W/C 8 Ionawr
Mae Criced Cymru wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd cyfartal. Er y byddwn xxx amser yn penodi ar sail teilyngdod, byddem yn annog ceisiadau yn arbennig oddi wrth grwpiau a chymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ym myd criced – yn enwedig xxxxxxx xxx bobl o gefndiroedd ethnig amrywiol, neu rai sydd ag anabledd.
Ceir mwy o fanylion am ein hymrwymiad i Recriwtio Mwy Diogel yma
MANYLEB PERSON:
HANFODOL |
DYMUNOL |
Profiad o:
|
Profiad o:
|
Gwybodaeth a Dealltwraeith o:
|
Gwybodaeth a Dealltwriaeth o:
|
Cymwysterau
|
Cymwysterau
|
Sgiliau:
|
Sgiliau: - Siaradwr Cymraeg |
Ychwanegol
|
|