DEILIAD Y CONTRACT - DATGANIAD O DDEALLTWRIAETH
ATODIAD A
DEILIAD Y CONTRACT - DATGANIAD O DDEALLTWRIAETH
CYFEIRIAD: ........................................................... Casnewydd, ....................
(Cod Post)
DARPARU GWYBODAETH
Rwyf wedi derbyn:-
Rhentu Cartrefi: rhestr wirio i landlordiaid a thenantiaid [HTML] | GOV. CYMRU
• Datganiad ysgrifenedig o alwedigaeth xxxxx://xxx.xxxx.xxxxx/xxxxxx-xxxxxxxx- datganiadau-ysgrifenedig-enghreifftiol.
• Gwybodaeth am y landlord (neu'r asiant) – ffurflen RHW2.
• Copi o'r TPY (Tystysgrif Perfformiad Ynni) ddilys ar gyfer yr annedd.
• Gwybodaeth am Flaendaliadau cadw ac mae'r blaendal wedi'i ddiogelu mewn cynllun blaendal awdurdodedig y mae gennyf wybodaeth amdano.
• Mae'r annedd yn cwrdd â gofynion Ffitrwydd i Fod yn Gartref (FfIFYG) neu os na, rwy'n ymwybodol o gynlluniau’r landlord i wneud gwaith atgyweirio. Rwy'n ymwybodol y gallaf ddatgan nad yw'r eiddo yn ffit a gallaf gymryd camau sifil neu gysylltu â Chyngor Dinas Casnewydd am help gyda diffygion eiddo gan e-bostio XXXxxxxxx@xxxxxxx.xxx.xx neu ffonio: 01633 656 656.
• Copi o Adroddiad ar Gyflwr y Gosodiad Trydanol (EICR) dilys
• Copi o Dystysgrif Diogelwch Nwy ddilys
RHAGOFALON XXX
Xxx defnydd a diben y rhagofalon tân isod wedi eu hegluro i mi ac rwy’n eu deall:
1. Larwm tân
2. Dull dianc
3. Diogelu’r llwybr dianc a’i gadw’n rhydd rhag rhwystrau.
4. Pwysigrwydd drysau tân
5. Offer diffodd tân
Rwy'n ymwybodol bod angen i mi hysbysu deiliad y drwydded neu'r cynrychiolydd mewn modd amserol o unrhyw risgiau, diffygion neu waith cynnal a chadw sy'n ymwneud â diogelwch tân.
Rwy'n ymwybodol bod angen i mi ganiatáu mynediad i'r landlord neu'r cynrychiolydd i'r eiddo i gynnal gwaith atgyweirio ac archwiliadau diogelwch yn unol â Rhan 4 Deddf Rhentu (Cartrefi) Cymru 2016.
RHEOLI GWASTRAFF
Mae’r trefniadau ar gyfer storio, casglu ac ailgylchu gwastraff wedi eu hegluro i mi fel y nodir isod ac rwy’n eu deall.
1. Dylid gosod gwastraff na ellir ei ailgylchu i’w gasglu mewn xxxxxx xxxx wedi’u rhoi yn y biniau olwynion.
2. Gwastraff ailgylchu, yn benodol caniau, poteli a phapur, i’w osod yn y blwch ailgylchu priodol.
3. Ni ddylid caniatáu i xxxxxx sbwriel nac unrhyw fath arall o wastraff gronni o fewn cwrtil yr eiddo.
4. Dim ond gwastraff arferol y cartref sydd i’w waredu yn y bin olwynion. Peidiwch â gwaredu olew, saim, asbestos, gwastraff clinigol, gwastraff adeiladu na gwastraff gardd. I gael cyngor ar sut y gellir gwaredu’r eitemau swmpus hyn neu am unrhyw wybodaeth am wastraff neu ailgylchu, ewch i: Gwastraff ac Ailgylchu | Cyngor Dinas Casnewydd
5. Ni ddylid caniatáu i ddodrefn xx-xxxxx, offer na gosodiadau cartref eraill deiliad y drwydded gronni mewn iardiau, gerddi neu gyrtiau blaen eiddo ac y gellir gwaredu’r eitemau hynny drwy drefnu casgliad am ffi fach, neu drwy fynd â nhw i’r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn Docks Way, Maesglas, Casnewydd, Gwent NP20 2NS
I gael rhagor o wybodaeth am amseroedd agor, ffioedd ac eitemau a dderbynnir, ewch i Gwastraff ac Ailgylchu | Cyngor Dinas Casnewydd.
YMDDYGIAD GWRTHGYMDEITHASOL
Mae’r gofynion o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol fel y’u nodir isod wedi eu hegluro i mi ac rwy’n eu deall.
Rwy'n ymwybodol, o xxx Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, bod yn rhaid i xxx contract meddiannaeth gynnwys y term ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y datganiadau ysgrifenedig enghreifftiol.
1. Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall gynnwys sŵn gormodol, cam-drin geiriol, ac ymosodiad corfforol. Mae hefyd yn cynnwys cam-drin domestig (gan gynnwys cam-drin corfforol, emosiynol, rhywiol, seicolegol neu ariannol).
2. Safon yr ymddygiad sy’n ddisgwyliedig.
3. Canlyniad ymddygiad gwrthgymdeithasol gan gynnwys camau ffurfiol gan yr heddlu, xxxxx addysgol neu awdurdod lleol.
4. Y canlyniadau posibl o ran fy Nghytundeb Meddiannaeth - Os yw deiliad y contract yn torri'r contract hwn, gall y landlord gyflwyno hysbysiad cymryd meddiant a dechrau achos llys ar yr un diwrnod. Gall deiliad y contract hefyd fod yn gyfrifol am ymddygiad unrhyw un arall sy'n byw yn yr annedd xxx xx’n ymweld a’r annedd.
DATGANIAD O DDEALLTWRIAETH
Rwyf wedi darllen a deall y datganiadau dealltwriaeth o ran:
- Darparu gwybodaeth.
- Rhagofalon Tân
- Rheoli Gwastraff.
- Ymddygiad Gwrthgymdeithasol.
Rwy’n deall os byddaf yn methu â chydymffurfio â’r xxxxx, xxx’n bosib y byddaf yn troseddu ac y gallaf gael fy xxxxx. LLOFNODWCH ISOD:
Meddiannydd/Deiliad y Contract | Llofnod Deiliad Trwydded/Rheolwr |
Enw llawn Llofnod | |
Dyddiad |