Cyngor Adnewyddu’r Economi
Cyflwyniad
Cyngor Adnewyddu’r Economi
Y Diweddaraf ar Gynnydd Caffael Cyhoeddus
1. Cyhoeddwyd Datganiad Polisi Caffael Cymru (WPPS) ym mis Rhagfyr 2012, gan bennu disgwyliadau clir o ran sut y dylai cyrff cyhoeddus yng Nghymru gynnal eu gweithgareddau caffael.
2. Mae Llywodraeth Cymru, sector y Gwasanaeth Iechyd Gwlad a phob cyngor wedi cadarnhau eu hymrwymiad i fabwysiadu egwyddorion WPPS.
Effaith Datganiad Polisi Caffael Cymru
3. Canolbwyntiwyd ar ysgogi mabwysiadu a monitro effaith naw egwyddor WPPS.
3.1 Profion Ffitrwydd Caffael
3.1.1 Mae profion ffitrwydd caffael yn darparu asesiad o lefel gyfredol aeddfedrwydd caffael pob sefydliad y graddau y caiff polisi caffael Cymru ei fabwysiadu; ac yn amlinellu cynllun datblygu i wella gallu.
3.1.2 Mae pob cyngor wedi cynnal profion ffitrwydd caffael. Cytunwyd ar gynlluniau
gweithredu ac mae swyddogion Gwerth Cymru yn cefnogi’r sector i fynd i’r
afael â’r rhain. Mae Atodiad 1 yn crynhoi’r camau a argymhellir ar gyfer sector
llywodraeth leol.
3.1.3 Mae’r sector GIG yng Nghymru wrthi’n cynnal ei adolygiad ac mae fersiynau terfynol y cynlluniau yn cael eu llunio i ddarparu profion ffitrwydd ar gyfer y sector Addysg Uwch a Phellach.
3.2 Gallu Caffael Proffesiynol
3.2.1 Xxx xxxxx cryf yn hanfodol ar gyfer rheoli caffael yn effeithiol a defnyddio polisi Cymru yn fedrus.
3.2.2 Dyfarnwyd contract hyfforddi cwrs byr newydd yr hydref diwethaf a bydd polisi caffael Cymru yn cael ei gynnwys drwy gydol y rhaglen hon.
3.2.3 Mae 28 o hyfforddeion caffael wedi’u darparu drwy brosiect Defnyddio Doniau Cymru ac mae Llywodraeth Cymru yn helpu 42 o swyddogion caffael ledled Cymru i gael cymwysterau proffesiynol.
3.3 Effaith Economaidd, Cymdeithasol ac Amgylcheddol
3.3.1 Gwerth am arian yw’r cyfuniad gorau o gostau oes cyfan, gan gwmpasu arbedion effeithlonrwydd; canlyniadau o ansawdd da; xxxx i gymdeithas a’r economi; a lleihau niwed i’r amgylchedd.
3.3.2 Mae’r Asesiad Risg Cynaliadwyedd (SRA) yn gymwys i xxx contract Llywodraeth Cymru a’r GIG sydd dros £25,000 a’i ddefnyddio’n gynyddol ar draws y sector llywodraeth leol. Mae’r SRA yn helpu i sicrhau bod
penderfyniadau caffael yn ystyried effaith hirdymor cyfuno’r buddion.
3.4 Buddion Cymunedol
3.4.1 Mae cyflawni Buddion Cymunedol yn ystyriaeth hanfodol ym mys caffael.
3.4.2 Mae offeryn mesur wedi’i ddatblygu sy’n mesur y buddion economaidd- gymdeithasol a hyfforddiant a gyflawnir i brentisiaid. Mae’r 28 prosiect cyntaf a gwblhawyd, xxxx xxxxx £360m, yn dangos bod 84% wedi ail-fuddsoddi yng Nghymru. Aeth £95.4m yn uniongyrchol ar gyflogau i ddinasyddion Cymru a
£216m gyda busnesau yng Nghymru, 78% ohonynt yn fusnesau bach a chanolig yng Nghymru. Cafodd 517 o bobl o xxx anfantais gymorth i gyflogaeth, gan dderbyn dros 13,000 o wythnosau mewn hyfforddiant.
3.5 Cystadleuaeth Agored a Hygyrch
3.5.1 Rhaid i ddulliau caffael roi cyfleoedd i gyflenwyr lleol llai gystadlu ar gyfer contractau cyhoeddus.
3.5.2 Mae Llywodraeth Cymru, y GIG a sectorau’r llywodraeth leol wedi ymrwymo i ddefnyddio dull SQuID ar yfer dewis cyflenwyr. Mae hyn wedi lleihau’r rhwystrau ac mae contractwyr o Gymru xxxxxxx yn ennill 75% o xxx dyfarniad adeiladu mawr drwy GwerthwchiGymru, cynnydd o tua 30% ers cyflwyno SQuID.
3.5.3 Darperir y SQuID fel cyfleuster ar-xxxx xxxxx. Disgwylir i Gyfnod 1, cyfres gyffredin o gwestiynau, gael ei lansio ym mis Mai, xxxx xxxxxx ar gyfer ymatebion cyflenwyr ar gael yn yr hydref.
3.5.4 Mae nifer yr hysbysebion ar gyfer cyfloed contract o xxx y trothwy Ewropeaidd ar GwerthwchiGymru yn parhau i dyfu ac xxx xxxxxxx yn cyfrif am 81% o’r xxxx gyfleoedd a hysbysebwyd. Mae gwelededd y contractau hyn yn hollbwysig ar gyfer cyflenwyr llai a lleol a sefydliadau’r trydydd sector.
3.6 Prosesau Safon Syml
3.6.1 Dylai prosesau caffael fod yn agored ac yn dryloyw ac yn seiliedig ar ddulliau safonol sy’n helpu i leihau cymhlethdod, costau ac amserlenni ar gyfer cyflenwyr.
3.6.2 Drwy integreiddio’r SQuiD gyda’r Gwasanaeth eGaffael, mae cyflenwyr wedi
gallu storio 144,000 o gwestiynau cyn-gymhwyso er mwyn eu hailddefnyddio.
3.6.3 Mae defnydd o Gyfrifon banc Prosiect wedi’i gyflwyno a fydd yn helpu i sicrhau bod y cyflenwyr sy’n rhan o’r gadwyn gyflenwi yn cael taliad mewn xx xxxx.
3.7 Cydweithio
3.7.1 Ym mis Tachwedd 2013, crëwyd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol (NPS) i ddwyn ynghyd y gwaith o gaffael gwariant cyffredin ac ailadroddus ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru ar sail ‘unwaith i Gymru’. Mae pob sector – Llywodraeth Cymru, Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, Iechyd, addysg a Gwasanaethau xxxx – wedi datgan eu hymrwymiad i Bolisi Caffael Cyhoeddus Cymru drwy gofrestru i ddefnyddio contractau NPS a gwasanaethau Caffael proffesiynol.
3.7.2 Xxx xxx NPS darged i gyflawni arbedion o £25m unwaith y bydd yn gweithredu’n llawn gyda chwmpas presennol yn cwmpasu 6 ‘Uwch Gategori’ o wariant cyffredin ac ataliol.
- TGCh a Thelathrebu
- Deunydd adeiladu a Rheoli Cyfleusterau
- Gwasanaethau Pobl
- Fflyd
- Gwasanaethau Proffesiynol
- Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfleustodau
3.7.3 Mae’r NPS wedi cynnwys egwyddorion Datganiad Polisi Caffael Cymru yn xx xxxx xxxxx. Yn gyfochrog â’r gorchymyn i gyflawni arbedion i Gymru, bydd NPS yn nodi cyfleoedd cadwyn cyflenwi ar gyfer busnesau Cymru ac yn canolbwyntio ar leihau rhwystrau, yn enwedig ar gyfer cwmnïau llai a sefydliadau’r trydydd sector, i gystadlu ar gyfer cyfleoedd am gontractau.
3.7.4 Yn unol â’r amcan hwn, mae’r NPS eisoes wedi mynd i’r farchnad gyda chaffael i ddyfarnu fframwaith ar gyfer Gwasanaeth Effeithlonrwydd Adnoddau lle cafodd y broses gaffael ei strwythuro i annog busnesau bach i gynnig am ddarparu gwasanaethau sy’n cyfeirio at eu harbenigedd craidd. Roedd y broses gaffael yn agored, a leihaodd y rhwystrau ar gyfer nifer o gyflenwyr yn y sector hwn gan annog cyfraddau ymateb uchel gan fusnesu bach a chanolig a busnesau micro. Daeth cyfanswm o 94 o gynigion i law, ac roedd 50% ohonynt o fusnesau bach a chanolig yn seiliedig ar Gymru.
3.7.5 Bydd NPS hefyd yn rhoi hysbysiad cynnar i gyflenwyr i sicrhau bod ymwybyddiaeth ar raddfa xxxx o gyfleoedd newydd. Lle y bo’n bosibl, cyhoeddir Hysbysiadau Gwybodaeth Ymlaen Llaw (PINs) sy’n rhoi rhybudd ymlaen llaw o rhwng 3 a 6 mis o ddechrau’r broses gaffael. Mae swyddogion hefyd yn gweithio’n agos gyda Busnes Cymru i annog a helpu busnesau i dendro ar gyfer cyfleoedd yn y sector cyhoeddus drwy gynnal digwyddiadau cyflenwyr ac yn rhoi cyhoeddusrwydd i’r gwasanaethau y gall Busnes Cymru gynnig.
3.7.6 O ran ymgysylltu â’r Trydydd Sector yn ehangach, mae’r NPS wedi gweithio’n agos gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.
3.7.7 Un o ganlyniadau’r broses ymgysylltu yw’r arweiniad a’r cymorth a ddarparwyd gan NPS ar gaffael porth e-ddysgu sydd wedi helpu Sgiliau er Cyfiawnder, sefydliad o’r Trydydd Sector i ddod yn awdurdod contract ar gyfer y porth a bydd yn caniatáu iddynt gyflenwi’r gwasanaeth i xxx awdurdod lleol yng Nghymru.
3.7.8 Ar 11 Mehefin, bydd Rhaglen Categori Camau Cyflym Deunyddiau Adeiladu a Rheoli Cyfleusterau yn cael ei lansio a fydd yn targedu gwerth dros £5 miliwn o arbedion yn uniongyrchol yn unol i gyllidebau sefydliadau aelod NPS, gan alluogi’r arbedion hyn i gael eu hailgyfeirio at wasanaethau rheng flaen ar gyfer dinasyddion Cymru. Dyma un o raglen o weithgareddau a fydd yn cael ei lansio dros yr ychydig fisoedd nesaf.
3.7.9 Rhwng mis Tachwedd 2013 a mis Chwefror 2014, drwy symud contractau
presennol, mae’r NPS wedi cyflawni arbedion gwerth £1,211,848.
3.8 Ymgysylltu â Chyflenwyr ac Arloesedd
3.8.1 Mae siarad yn fuan â chyflenwyr yn helpu i gyflawni atebion arloesol i helpu i ddarparu gwasanaeth cyhoeddus.
3.8.2 Ar y cyd â’r Bwrdd Strategaeth Technoleg, mae’r prosiect Defnyddio Doniau Cymru wedi darparu cymorth grant gwerth £100k i sector y GIG yng Nghymru er mwyn iddynt ymgysylltu â busnesau i ddatblygu atebion sy’n ysgogi gwelliant i wasanaeth.
3.9 Mesur ac Effaith
3.9.1 Dylid monitro perfformiad caffael a dylid rhannu enghreifftiau o arfer da.
3.9.2 Bydd y Bwrdd Caffael yn defnyddio canlyniadau’r rhaglen Prawf Ffitrwydd Caffael i lunio ei gynllun gweithredu er mwyn datblygu gwelliannau xx xxxx caffael.
Polisi Caffael Moesol
4. Gall y sector cyhoeddus yng Nghymru ddefnyddio ei allu cyfunol i ysgogi ymddygiad cyfrifol gan fusnesau.
5. Cyhoeddwyd cyfeiriad polisi sy’n galluogi cyrff cyhoeddus i ddefnyddio caffael i helpu i waredu rhestrau gwaharddedig. Yn ogystal, cyflwynwyd Cyfrifon Banc Prosiect xx xxxx adeiladu a fydd yn diogelu buddion isgontractwyr sy’n agored i niwed.
Llywodraethu
6. Yn dilyn argymhellion Adolygiad Xxxx XxXxxxxxxx o lywodraethu caffael ledled Cymru, mae strwythur llywodraethu y cytunwyd xxxx xxxxxxx ar xxxxx.
7. Sefydlwyd Bwrdd Caffael wedi’i ailgyfansoddi i arsylwi’r agenda diwygio caffael yng Nghymru.
8. Caiff yr NPS ei oruchwylio gan Fwrdd Gweithredu, gyda chynrychiolaeth o xxx sector. Penodwyd Cadeirydd annibynnol, Xxxxx Xxxxxx, sef Cyfarwyddwr presennol Offer Amddiffyn a Gweithrediadau Masnachol Cymorth yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
9. Mae’r NPS yn atebol i’r Bwrdd sy’n cael adroddiadau cymorth a dangosfyddrau ar bethau allweddol i’w cyflawni gan gynnwys arbedion a gyflawnwyd, ardoll a gynhyrchwyd a nifer o (PINS) a gyhoeddwyd.
10. Sefydlwyd Grŵp Cyflawni sy’n gorwedd o xxx y Bwrdd NPS, gyda chynrychiolaeth gan arweinwyr Uwch Gaffael o xxx xxxx o Gymru. Bydd y grŵp yn sicrhau bod y strategaethau categori a’r cynlluniau arbedion a ddatblygwyd gan yr NPS yn gadarn ac yn gallu cael eu cyflawni. Cynhaliodd y grŵp ei gyfarfod cyntaf ar 28 Ebrill a bydd yn cyfarfod xxx mis.
Casgliad
11. Mae tystiolaeth bod caffael da yn arwain at effeithlonrwydd gan greu buddion lleol. Ategir hyn gan gyfeiriad presennol polisi caffael Cymru.
12. Xxx xxx bartneriaid cymdeithasol rhan allweddol i’w chwarae i helpu i sicrhau buddion pellach o wariant caffael ar y cyd y sector cyhoeddus yng Nghymru ac mae’n bwysig cynnal deialog a chael adborth er mwyn cynnal y cynnydd hwn.