Disgrifiad Swydd: CYFARWYDDWR GWEITHREDOL – DATBLYGIAD MASNACHOL
Disgrifiad Swydd: CYFARWYDDWR GWEITHREDOL – DATBLYGIAD MASNACHOL
STATWS: Deiliad Uwch Swydd. Llawn Amser Parhaol
Gradd: 1-3 SPH
Cyfrifoldeb Rheolwr Llinell: Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo/Menai
1. Pwrpas:
● Datblygu a thyfu'r busnes a gweithrediadau hyfforddi ar ran Grŵp Llandrillo Menai
● Cyfrannu at broses cynllunio strategol y Grŵp a chyflawni’r cynllun ar gyfer Busnes@LlandrilloMenai yn unol ag anghenion cyflogwyr rhanbarthol
● Darparu arweiniad i staff o fewn Busnes@LlandrilloMenai
● Parhau i ddatblygu Grŵp Llandrillo Menai fel y prif ddarparwr hyfforddiant a throsglwyddo Gwybodaeth yn y rhanbarth.
● Cydlynu Ymgysylltu â Chyflogwyr a gweithgarwch masnachol ar draws y Grŵp
● Arwain y Gyfarwyddiaeth Bwyd-Amaeth.
2. Swyddogaethau:
● Bod yn aelod o’r Xxx Rheoli Gweithredol ac arwain Uwch Dîm Rheoli Busnes@LlandrilloMenai
● Sicrhau bod pob agwedd ar Busnes@LlandrilloMenai yn cael xx xxxxx’n effeithiol.
● Mynychu cyfarfodydd Bwrdd ac is-bwyllgorau perthnasol, gan ddarparu gwybodaeth am weithgareddau Busnes @LlandrilloMenai fel sy’n ofynnol gan y Prif Weithredwr.
3. Rolau a Chyfrifoldebau allweddol
Cyfrifoldebau'r Grŵp
● Nodi blaenoriaethau rhanbarthol a lleol yng nghyd-destun ymgysylltu â chyflogwyr a datblygu economaidd er mwyn llywio proses cynllunio strategol y Grŵp
● Arwain ar Ymgysylltu â Chyflogwyr a hyfforddiant/cymorth pwrpasol i gyflogwyr ar draws y Grŵp
● Arwain ar Ddysgu Seiliedig ar Waith ar draws y Grŵp a sicrhau bod consortiwm WBL yn gweithredu’n effeithiol
● Arwain ar weithgareddau masnachol o fewn Busnes@LlandrilloMenai a hyrwyddo gweithgareddau o’r fath ar draws y Grŵp (gan gynnwys gweithgarwch cynhyrchu incwm drwy gyllid allanol, contractio allanol, a phartneriaethau ac ati)
● Arwain ar ymateb a chefnogaeth y Grŵp i fentrau o bwys rhanbarthol gyda ffocws arbennig ar gysylltiadau busnes a rhanddeiliaid
● Datblygu a goruchwylio’r gwaith o gyflawni Cynllun Gweithredol Blynyddol Busnes@LlandrilloMenai
● Darparu adroddiadau statudol ac ymatebion i ddogfennau ymgynghorol gan asiantaethau allanol yn ôl yr angen
● Cymryd rhan weithredol ym mhroses cynllunio strategol y Grŵp
● Cynrychioli’r Grŵp yn ôl yr angen mewn digwyddiadau mewnol ac allanol, yn arbennig mewn cyfarfodydd sy’n ymwneud â datblygiad economaidd rhanbarthol megis Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.
Cyfrifoldebau Busnes@LlandrilloMenai
Cynllunio a Datblygu Busnes
● Cychwyn, hyrwyddo a datblygu ffyrdd newydd o weithredu er mwyn cynyddu ystod a maint y gwaith, gan arwain at lefel gynyddol o incwm net i’r Grŵp.
● Gweithio'n agos gyda'r gymuned fusnes ar draws Gogledd Cymru a sicrhau ymateb effeithiol i anghenion busnes lleol
● Datblygu a gweithredu Cynllun Gweithredol Busnes @LlandrilloMenai yn unol ag Amcanion Strategol y Grŵp ac anghenion cyflogwyr ac economaidd lleol.
● Trosolwg o broffilio a gosod targedau contract WBL y Grŵp.
Rheoli Ansawdd:
● Arwain ar weithredu prosesau asesu a sicrhau ansawdd y Grŵp ar draws Busnes@LlandrilloMenai
● Gweithredu mewn modd amserol i fynd i'r afael ag unrhyw faterion ansawdd o xxxx x xxxx cyfrifoldeb.
● Sicrhau bod Busnes@LlandrilloMenai yn xxxxx am arolygiad (gan gynnwys, yn benodol Dysgu Seiliedig ar Waith) ac yn cyflawni i’r safon ofynnol i sicrhau asesiad allanol llwyddiannus.
Rheoli Adnoddau Dynol:
● Datblygu xxx rheoli effeithiol o fewn Busnes@Llandrillo Menai sy’n cael eu hannog i gyfrannu at ddadlau a thrafodaethau ac sy’n cael yr xxxx wybodaeth am flaenoriaethau strategol a gweithredol y Grŵp, a gweithdrefnau a pholisïau’r Grŵp.
● Sicrhau bod staff Busnes@LlandrilloMenai yn cael eu trin yn deg ac yn gyfartal yn unol â pholisïau Adnoddau Dynol y Grŵp
● Sicrhau bod perfformiad da yn cael adborth cadarnhaol a mynd i'r afael â materion tanberfformio mewn cysylltiad ag AD.
● Bod yn gyfrifol am gytuno ar benodiadau staff i Busnes@LlandrilloMenai yn unol â blaenoriaethau’r Grŵp ac o fewn cyllidebau y cytunwyd arnynt
● Datblygu staff Busnes@Llandrillo Menai tuag at y dyhead o gynnig gwasanaeth dwyieithog llawn
Rheoli Adnoddau Corfforol ac Ariannol:
● Gweithio gyda Gwasanaethau Corfforaethol i ddatblygu cyllideb ddatganoledig Busnes@LlandrilloMenai.
● Rheoli'r gyllideb ddatganoledig mewn cysylltiad â Gwasanaethau Corfforaethol.
● Ceisio dod o hyd i ddulliau gweithredu mwy effeithiol a hyblyg, gan gynnwys xx xxxx cyflogaeth staff (heb danseilio gweithdrefnau cytûn y Grŵp)
● Sicrhau y cydymffurfir â rheoliadau ariannol y Grŵp xxx amser.
● Llywio datblygiad strategaeth yr ystâd trwy nodi blaenoriaethau lleol.
● Sicrhau bod Busnes@LlandrilloMenai yn darparu amgylchedd dysgu diogel, croesawgar xx xxxxx mewn cysylltiad â Gwasanaethau Corfforaethol
● Cyfrannu at ac arwain ar agweddau o Fframwaith Amgylcheddol y Grŵp
Lles Myfyrwyr a Disgyblaeth
● Bod yn gyfrifol am les cwsmeriaid gan gynnwys diogelu cleientiaid a myfyrwyr Busnes@GLLM
● Bod yn gyfrifol am weithrediad teg a chyfiawn y gweithdrefnau disgyblu myfyrwyr presennol
Lleoliad
Gall y lleoliad fod yn hyblyg, gan weithio'n bennaf rhwng Busnes@Llandrillo Menai, dwy brif swyddfa ym Mharc Menai,Bangor ac ar Barc Busnes Llanelwy.
Dyletswyddau Eraill:
Ymgymryd â dyletswyddau eraill y gall y Prif Swyddog Gweithredol eu pennu x xxxx i’w gilydd mewn ymgynghoriad â deiliad y swydd i sicrhau bod cynlluniau’r Grŵp yn cael eu gweithredu’n llwyddiannus.
Manyleb Person
Mae'r swydd hon yn gofyn am ymgeisydd o'r safon uchaf, sy'n gallu dangos priodoleddau yn y cyfan neu'r rhan fwyaf o'r cymwysterau, sgiliau, rhinweddau, gwybodaeth a phrofiad canlynol:
Cymwysterau:
Hanfodol
● Addysg hyd at lefel xxxxx xxx gyfwerth
Dymunol
● Gradd uwch neu MBA
● Cymhwyster busnes/hyfforddiant perthnasol
Sgiliau Hanfodol
● Y gallu entrepreneuraidd i gynnal, tyfu a chreu ffrydiau incwm
● Y gallu i gynllunio'n strategol
● Rheolaeth weithredol gadarn
● Xxxx ac angerdd am arloesi a ffyrdd newydd o weithio
● Y gallu i arwain ac ysbrydoli staff
● Sgiliau cyfathrebu a rhwydweithio rhagorol
● Y gallu i reoli newid yn llwyddiannus
● Y gallu i wneud penderfyniadau a ystyriwyd yn glir o fewn amgylchedd pwysedd uchel
● Y gallu i ddehongli a dod i gasgliadau o ddata cymhleth
Rhinweddau Hanfodol
● Xxxx creadigol, rhesymegol o ddatrys problemau
● Gonestrwydd a barn gadarn a'r gallu i ennyn parch
● Ymrwymiad i gyflawni'r ansawdd gorau oll mewn hyfforddiant a gwasanaethau sy'n gysylltiedig â chyflogwyr
● Parodrwydd i barhau i fuddsoddi yn ei ddatblygiad personol ei hun
Gwybodaeth Hanfodol
● Cynllunio busnes effeithiol a xxxx greadigol amlwg
● Disgwyliadau yng nghyd-destun Rheoli Ansawdd
● Rheolaeth Gyllidebol
● Dulliau a phrosesau effeithiol o ymgysylltu â chyflogwyr
● Dealltwriaeth o hyfforddiant ôl-16
Dymunol
● Profiad o reoli Dysgu Seiliedig ar Waith
● Agendâu allweddol Llywodraeth Cymru yng nghyd-destun hyfforddiant cyflogwyr, WBL, rhanbartholi ac ati
● Rheoli adnoddau dynol
● Rheoli xxx gwasgaredig
Profiad
Hanfodol
● Profiad rheoli llwyddiannus ar lefel uwch
● Profiad llwyddiannus o reoli cyllidebau
● Gweithio’n llwyddiannus mewn amgylchedd sy’n canolbwyntio ar y cwsmer, gyda phwyslais ar werthu, datblygu busnes, cynhyrchu incwm, perthnasoedd masnachol, hyrwyddo a darparu gwasanaethau
● O gynnydd yn nifer a phroffidioldeb y gwasanaethau a ddarperir
Dymunol
● Xxxxxxxx'n llwyddiannus mewn partneriaethau a datblygu rhwydweithiau
● Y gallu i gyfathrebu gyda busnesau a staff yn effeithiol, gyda sensitifrwydd i ddimensiynau diwylliannol ac ieithyddol Gogledd Cymru