Adroddiad Blynyddol: Cydraddoldeb ac Amrywiaeth 2017/18
Adroddiad Blynyddol: Cydraddoldeb ac Amrywiaeth 2017/18
Cynnwys
4.2.1 Proffil myfyrwyr cyffredinol 17
Tudalen 3 o 34
1. Cyflwyniad
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn grŵp sector deuol amlddisgyblaethol sy’n ehangu o ddarparwyr Addysg Uwch (AU) ac Addysg Xxxxxxx (AB) â champysau ar draws de- orllewin Cymru, de Cymru a Llundain.
Mae Grŵp y Drindod Dewi Sant yn cynnwys y Brifysgol, Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion, y xxxxx a’r llall yn ddarparwyr addysg xxxxxxx sefydledig yn y rhanbarth.
Mae cydraddoldeb yn un o alluogwyr allweddol grŵp y Brifysgol; rydym wedi ymrwymo i Gymru fwy cyfartal ac i hyrwyddo amgylcheddau ac arferion dysgu, addysgu, cymdeithasol a gweithio sy’n hygyrch, teg a chynhwysol. Mae hyn yn cyd-fynd ag un o Nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol gan Lywodraeth Cymru, sef Cymru fwy cyfartal.
Ein gweledigaeth ni yw creu diwylliant o fod yn agored ac â pharch at eraill, diwylliant lle y dynodir ac y dilëir rhwystrau i’r rheini sydd â nodweddion gwarchodedig. Rydym am i’n pobl ni deimlo'n ddiogel ac yn werthfawr, a chyflawni eu potensial llawn er lles yr unigolyn, y sefydliad a’n cymunedau ehangach. Rydym am hyrwyddo cyfle cyfartal, arferion gweithio teg, a pherthnasoedd rhyngbersonol da ar draws ein carfanau o staff a myfyrwyr.
Ein nodau yw:
Dileu gwahaniaethu anghyfreithlon, aflonyddu ac erledigaeth, sy’n gofyn i ni:
• Helpu pobl i ddeall ystyr y termau hyn a pha ymddygiadau ac agweddau sy’n amhriodol;
• Xxxxxxx y caiff pawb ei drin yn gyfartal;
• Dileu gwahaniaethu uniongyrchol neu anuniongyrchol o’n gwaith a’n hamgylchedd astudio.
Hyrwyddo a datblygu cyfle cyfartal, sy’n gofyn i ni:
• Leihau effaith anfantais;
• Dynodi, deall a diwallu anghenion ein staff a’n dysgwyr / myfyrwyr;
• Annog pobl i fanteisio ar gyfleoedd, yn enwedig pobl o grwpiau sydd wedi eu tangynrychioli.
Hyrwyddo a meithrin perthnasoedd da rhwng pobl, sy’n gofyn i ni:
• Hyrwyddo goddefgarwch a dealltwriaeth;
• Mynd i’r afael â rhagfarn;
• Esbonio manteision amrywiaeth.
2. Cefndir
Datblygodd y Brifysgol Gynllun Cydraddoldeb Strategol (CCS) newydd i’r Grŵp yn ystod blwyddyn academaidd 2015/16 ar gyfer y cyfnod 2016 – 2020 sy’n cynnwys ein partneriaid sector deuol ac sydd wrth wraidd ein hymrwymiad i hyrwyddo cyfle cyfartal a dynodi rhwystrau rhag cyfranogi, a mynd i’r afael â’r rhain.
Mae’r is-strategaethau cysylltiedig yn cynnwys:
• Y Strategaeth Ehangu Mynediad ac Ymgysylltu â’r Gymuned
• Y Strategaeth Iaith Gymraeg a Dwyieithrwydd
Er nad yw’r Gymraeg yn nodwedd warchodedig, mae’r Brifysgol yn cydnabod ei rôl bwysig yn niwylliant a threftadaeth Cymru.
Cyhoeddwyd y Cynllun Cydraddoldeb Strategol newydd yn dilyn ymgynghori’n ffurfiol â rhanddeiliaid ac mae’n cynnwys trideg dau o amcanion cydraddoldeb sy’n seiliedig ar bedair thema allweddol fel a ganlyn:
Cryfhau arweinyddiaeth a llywodraethu xx xxxx Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ar draws y Grŵp
Creu amgylchedd cynhwysol ac agored
Xxxxxxxx Xxxxxxxxxxxx
2016-2020 Cryfhau’r
camau i fonitro data
Ymwybyddiaet h a dealltwriaeth o Gydraddoldeb ac Amrywiaeth
3. Xxxxxxxx Xxxxxxxxxxxx
Adolygiad o 2017/18
Nodwyd bod is- set o amcanion yn feysydd blaenoriaeth ac aseswyd y cynnydd o ran cyflawni’r amcanion hynny yn 2017/ 18 gan y Pwyllgor Cydraddoldebau a c uwch dîm rheoli sector deuol y Drindod Dewi Sant.
Gosodwyd blaenoriaethau yng ngoleuni targedau’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer Cymru a blaenoriaethau’r Comisiwn ar gyfer Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru, yn ogystal â chyd-destun Grŵp y Drindod Dewi Sant. Y themâu allweddol sydd wrth wraidd y blaenoriaethau yw’r canlynol:
• Gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o Gydraddoldeb ac Amrywiaeth
• Cryfhau camau i fonitro data
• Datblygu amcanion gwahaniaeth cyflog i fynd i’r afael â bylchau cyflog pan y’u dynodir
• Recriwtio a chyflogi pobl anabl
• Camau i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod
Cynnydd a wnaethpwyd yn y meysydd blaenoriaeth a ddynodwyd.
1. Gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o Gydraddoldeb ac Amrywiaeth
• Mae hyfforddiant gorfodol xx xxxx cydraddoldeb ac amrywiaeth wedi’i gyflwyno ar gyfer yr xxxx staff;
• Mae hyfforddiant gorfodol â ffocws ar gydraddoldeb ac amrywiaeth wedi’i gyflwyno ar gyfer yr xxxx fyfyrwyr newydd, gan gynnwys hyfforddiant cydsyniad a hyfforddiant i xxx xx’n gwylio;
• At hynny mae adnoddau â ffocws ar gydraddoldeb ac amrywiaeth wedi’u rhoi ar gael i fyfyrwyr drwy’r porth myfyrwyr. Mae’r rhain yn cwmpasu materion megis ‘cydsyniad’;
• Mae adnoddau addysgu cynhwysol wedi’u datblygu a gaiff eu cyflwyno o fewn yr xxxx ddysgu ac addysgu yn 2018/19;
• Mae cydraddoldeb ac amrywiaeth wedi’u hymgorffori’n gyflawn o fewn prosesau dilysu rhaglenni;
• Mae cydraddoldeb ac amrywiaeth wedi’u gwella yng ngwaith dysgu ac addysgu nifer o ddisgyblaethau (e.e. rhaid i fyfyrwyr Ffilm a Theledu, yn unol â Maniffesto Amrywiaeth y Gyfadran, ddangos yn eu xxxx gynyrchiadau eu bod wedi gweithio i gynyddu nifer y grwpiau a dangynrychiolir mewn ffilm, o ran straeon, demograffeg a phersonél. Bydd y dull ymgysylltiol a moesegol hwn yn sicrhau y bydd myfyrwyr mewn gwell sefyllfa i wasanaethu gofynion diwydiant sy’n newid);
• Cyfranogiad uwch mewn nifer o ddigwyddiadau cenedlaethol a lleol â ffocws cydraddoldeb ac amrywiaeth (gweler xxxx blaenoriaeth 5 am nifer o enghreifftiau).
2. Cryfhau camau i fonitro data
• Mae monitro data wedi’i gryfhau ar draws data staff a myfyrwyr;
• Gwell monitro ar ddilyniant, cyrhaeddiad a chanlyniadau yn ogystal â lefelau boddhad yng nghyswllt nifer o feysydd allweddol: rhywedd, oedran, ethnigrwydd, anabledd;
• Mae’r xxxx ddata yn cael eu meincnodi yn ôl y sector er mwyn caniatáu cymhariaeth â’r sector;
• Mae targedau ychwanegol â ffocws ar Gydraddoldeb ac Amrywiaeth wedi’u cynnwys o fewn ein Cynllun Ffioedd a Mynediad.
3. Datblygu amcanion gwahaniaeth cyflog i fynd i’r afael â bylchau cyflog pan y’u dynodir
• Mae archwiliad cyflog cyfartal wedi’i gwblhau.
4. Recriwtio a chyflogi pobl anabl
• Mae’r Brifysgol wedi cyflawni statws Cyflogwr Ymrwymedig ar gyfer y cynllun Hyderus o ran Anabledd.
5. Camau i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod
• Mae rhwydwaith menywod wedi’i gychwyn ar draws y sefydliad sy’n cwrdd yn rheolaidd ar xxx prif gampws;
• Mae’r Brifysgol yn cymryd rhan yn rhaglen Aurora i fenywod ag uchelgais tuag at swydd arwain;
• Mae cyfarwyddyd diweddaraf y sector yng nghyswllt ymosodiadau rhywiol wedi’i ymgorffori o fewn y fframwaith o bolisïau i fyfyrwyr;
• Mae gwybodaeth am gydsyniad wedi’i gynnwys ar yr hwb cyngor a help newydd i fyfyrwyr;
• Mae gweithdy ar gydsyniad â ffocws generig ar gydraddoldeb ac amrywiaeth wedi’i ymgorffori o fewn y prosesau cynefino i fyfyrwyr newydd;
• Trefnwyd digwyddiadau hyfforddi gan Eversheds i staff sy’n cefnogi’r fframwaith o bolisïau i fyfyrwyr (e.e. ymchwilwyr, aelodau paneli a chadeiryddion paneli, y xxxx xx’n cymryd cofnodion). Roedd yr hyfforddiant yn cwmpasu ymosodiadau rhywiol;
• Mae’r Brifysgol wedi cymryd rhan lawn mewn nifer o ddigwyddiadau cenedlaethol / rhyngwladol megis mis Xxxxx Menywod, diwrnod Rhyngwladol y Menywod a dathlu canmlwyddiant y bleidlais i fenywod.
4. Casglu a monitro data
Mae Grŵp y Drindod Dewi Sant yn casglu ac yn monitro data o’r ffynonellau mewnol ac allanol canlynol:
• System Cofnodion Adnoddau Dynol y Brifysgol
• Systemau Cofnodion Myfyrwyr y Brifysgol
• Data sefydliadol staff a myfyrwyr gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) (a gafwyd trwy Heidiplus, porth dadansoddi data).
Defnyddir data at y dibenion canlynol:
• asesu defnyddioldeb ac effaith ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol a chynlluniau gweithredu cysylltiedig;
• dynodi tueddiadau oddi mewn i’n staff a’n dysgwyr / myfyrwyr ynghylch nodweddion gwarchodedig;
• dynodi a thynnu sylw at unrhyw rwystrau parhaus a/neu feysydd o dangynrychiolaeth neu anghydraddoldeb;
• asesu ein cynnydd o ran ein hamcanion cydraddoldeb a gwirio i weld a oes angen diweddaru neu ddiwygio’r rhain;
• dynodi blaenoriaethau gweithredu yn y dyfodol.
Mae’r data staff yn seiliedig ar y data a roddwyd i’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) yn 2017/18 neu mewn rhai achosion, y data a ddelir ar y systemau AD mewnol. Mae data HESA yn cael eu talgrynnu at ddibenion diogelu data.
I roi cyd-destun, cymharwyd data staff y Brifysgol â gwybodaeth y sector Addysg Uwch a
ddarparwyd gan yr Uned Her Cydraddoldeb (ECU) yn ei hadroddiad Equality in higher education: staff statistical report 2018 fel y bo’n briodol.
Mae’r data staff yn yr adroddiad hwn yn cwmpasu staff Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac oddeutu 100 o aelodau staff o Goleg Sir Gâr sy’n addysgu ar raglenni astudio AU.
Yn 2017/18 roedd y Drindod Dewi Sant yn cyflogi cyfanswm o 1,500 o staff, a 50% ohonynt yn staff academaidd a 50% yn staff anacademaidd.
Nifer o staff y Drindod Dewi Sant yn 2017/18
Anacademaidd
750
Academaidd
750
0
200
400
600
800
1000
TABL STFf-1; Ffynhonnell: HESA
Mae 88% o’r staff yn cael eu cyflogi yn y Drindod Dewi Sant ar gontract penagored / parhaol o’u cymharu â 12% ar gontract cyfnod sefydlog. Mae hwn yn gynnydd o 3% yng nghyfran y staff ar gontract penagored / parhaol o’u cymharu â chanlyniad 2016/17 gyda lleihad cysylltiedig yng nghyfran y staff ar gontract cyfnod sefydlog. Mae hwn yn gynnydd o 5% yng nghyfran y staff ar gontract pen agored / parhaol er 2015/16.
Proffil o delerau cyflogaeth staff y Drindod Dewi Sant yn 2017/18
12%
88%
Cyfnod penodol Penagored/Parhaol
O’u cymharu â data cenedlaethol ar gyfer y DU a ddarparwyd gan yr ECU yn ei hadroddiad Equality in Higher Education: staff statistical report 2017, xxx xxx y Drindod Dewi Sant gyfran uwch o staff sy’n cael eu cyflogi ar gontractau penagored / parhaol (88% ~ 76.1%). Xxx xxx y Drindod Dewi Sant gyfran uwch o staff academaidd sy’n cael eu cyflogi ar gontractau penagored / parhaol o’u cymharu â ffigur y DU (89% ~ 66.2%).
TABL STFf-2; Ffynhonnell: HESA
Proffil o delerau cyflogaeth staff academaidd y Drindod Dewi Sant yn 2017/18
Proffil o delerau cyflogaeth staff anacademaidd y Drindod Dewi Sant yn 2017/18
11%
89%
Cyfnod penodol Penagored/Parhaol
13%
87%
Cyfnod penodol Penagored/Parhaol
TABL STFf-3 a THABL STFf-4; Ffynhonnell: HESA
Patrwm Cyflogaeth
Patrwm cyflogaeth staff y Drindod Dewi Sant, yn ôl cyfran, yw 51.6% yn staff amser llawn a 48.3% yn staff rhan amser. Mae canrannau 2017/18 yn debyg iawn i ganrannau 2016/17. Mewn cymhariaeth, y ffigur ar gyfer y DU yw 67.7% amser llawn a 32.3% rhan amser.
Nifer o staff y Drindod Dewi Sant yn 2017/18 yn ôl patrwm cyflogaeth
Rhan
amser
725
Llawn
amser
775
0
100
200
300
400
500
600
700
800
900
TABL STFf-5; Ffynhonnell: HESA
Mae proffil rhywedd y staff yn ôl patrwm cyflogaeth yn dangos bod 61.4% o’r staff gwrywaidd yn amser llawn a 44.5% o’r staff benywaidd yn amser llawn. Mae hyn yn is na ffigurau'r DU sef 77.1% o’r staff gwrywaidd mewn cyflogaeth amser llawn a 59.8% o fenywod mewn cyflogaeth amser llawn.
Nifer o staff y Drindod Dewi Sant yn 2017/18 yn ôl patrwm
cyflogaeth a rhywedd
245
Rhan
amser
480
390
Llawn
amser
385
0
100
200
300
400
500
600
Gwrywaidd Benywaidd
TABL STFf-6; Ffynhonnell: HESA
Cyflog
Mae’r dadansoddiad o staff y Drindod Dewi Sant ar sail ystod gyflog1 yn 2017/18 yn dangos patrwm tebyg i ffigurau 2016/17 lle ceir y nifer uchaf o bobl yn ystod gyflog 4, sef 41% o’r xxxx staff.
Ystod gyflog y staff a gyflogid yn 2017/18
Ystod gyflog contract 6 3%
Ystod gyflog contract 5
12%
Ystod gyflog contract 4
41%
Ystod gyflog contract 3
18%
Ystod gyflog contract 2
13%
Ystod gyflog contract 1
13%
0% 5% 10% 15% 20% 25% 30% 35% 40% 45%
TABL STFf-7; Ffynhonnell: HESA
Seilir y cyflog ar gyflog contract aelodau staff mewn darparwr AU lle bo’n briodol, ar 31
Gorffennaf yng nghyfnod yr adroddiad, neu ar ddyddiad diwedd y contract os ydy’n gynharach.
At ddibenion dadansoddi mae’r cyflogau contract wedi’u grwpio yn xx xxxx ystod gyflog, ac mae gwaelod a brig pob ystod yn cyd-fynd â phwyntiau’r golofn gyflogau a ddefnyddir yng Ngholofn Gyflogau JNCHES (y cyfeiriwyd ati’n flaenorol fel y Golofn Gyflogau Terfynol), fel y’i nodir yn nogfen HESA ar y golofn gyflogau sengl a leolir yn xxxxx://xxx.xxxx.xx.xx/xxxxxxxxxx/x00000 (colofn Cyflog o 1 Awst 2016).
Ystod gyflog y staff academaidd a gyflogid yn 2017/18
Ystod gyflog contract 6
3%
Ystod gyflog contract 5
23%
Ystod gyflog contract 4
66%
Ystod gyflog contract 3
6%
Ystod gyflog contract 2
2%
Ystod gyflog contract 1 0%
0% 10%
20%
30%
40%
50%
60%
70%
TABL STFf-8; Ffynhonnell: HESA
Ystod gyflog contract 6 | 3% |
Ystod gyflog contract 5 | 2% |
Ystod gyflog contract 4 Ystod gyflog contract 3 Ystod gyflog contract 2 |
Ystod gyflog y staff anacademaidd a gyflogid yn 2017/18
16%
29%
25%
Ystod gyflog contract 1 25%
0% 5% 10% 15% 20% 25% 30% 35%
TABL STFf-9; Ffynhonnell: HESA
4.1.1 Rhywedd
Yn 2017/18 y dadansoddiad o ran rhywedd staff y Drindod Dewi Sant yw 58% o fenywod a 42% o ddynion, sy’n unol â chanlyniadau’r ddwy flynedd ddiwethaf. Mae proffil rhywedd cyffredinol y Drindod Dewi Sant yn fras yn unol â phroffil cyffredinol staff sy’n gweithio mewn addysg uwch yn y DU (54.2% yn fenywaidd a 45.8% yn wrywaidd) ac yng Nghymru (54.6% yn fenywaidd a 45.4% yn wrywaidd). Mae cyfran y staff academaidd benywaidd o’u cymharu â’r staff academaidd gwrywaidd yn y Drindod Dewi Sant yn 56% yn fenywaidd a 46% yn wrywaidd sy’n uwch na ffigur y DU sef 45.7% a 54.3% yn eu tro.
Nifer o staff y Drindod Dewi Sant yn 2017/18 yn ôl
rhywedd a marciwr academaidd
305
Anacademaidd
450
335
Academaidd
415
0
50
100
150
200 250
300
350
400
450
500
Gwrywaidd Benywaidd
TABL STFf-10; Ffynhonnell: HESA
Mae proffil xxxxxx 2017/18 y staff yn fras yn gymharol â’r ddwy flynedd flaenorol. Mae canran y staff yn y categorïau 51 oed a throsodd wedi cynyddu o 34% yn 2015/16 i 37% yn 2016/17 a 38% yn 2017/18. Mae cyfran staff y Drindod Xxxx Xxxx yn y categorïau 51 oed a throsodd yn uwch na ffigur y DU o 29.7% a ffigur Cymru o 29.6%. Ymhlith y staff academaidd mae’r gyfran yn y categori 51 oed a throsodd yn 45% o’i gymharu â ffigur y DU o 30.4%. Canran y staff o xxx 30 oed yw 14%, sy’n cyfateb yn fras i ffigur Cymru o 15.7% a ffigur y DU o 16.7%.
Proffil oedran staff y Drindod Xxxx Xxxx yn 2017/18
66 oed a throsodd | 3% | |||||||||||
61 - 65 oed | 6% | |||||||||||
56 - 60 oed | 12% | |||||||||||
51 - 55 oed | 17% | |||||||||||
46 - 50 oed | 14% | |||||||||||
41 - 45 oed | 13% | |||||||||||
36 - 40 oed | 12% | |||||||||||
31 - 35 oed | 10% | |||||||||||
26 - 30 oed | 8% | |||||||||||
25 oed ac iau | 6% | |||||||||||
0% | 2% | 4% | 6% | 8% | 10% | 12% | 14% | 16% | 18% |
TABL Ff-11; Xxxxxxxxxxx: HESA
Proffil oedran staff academaidd y Drindod Xxxx Xxxx yn 2017/18
66 oed a throsodd
61 - 65 oed
56 - 60 oed
51 - 55 oed
46 - 50 oed
41 - 45 oed
36 - 40 oed
31 - 35 oed
26 - 30 oed 25 oed ac iau
4%
8%
13%
20%
13%
15%
12%
7%
5%
1%
0%
5%
10%
15%
20%
25%
TABL STFf-12; Ffynhonnell: HESA
Proffil oedran staff anacademaidd y Drindod Xxxx Xxxx yn 2017/18
66 oed a throsodd 2%
61 - 65 oed 5%
56 - 60 oed
51 - 55 oed
46 - 50 oed
41 - 45 oed
36 - 40 oed
31 - 35 oed
26 - 30 oed 25 oed ac iau
10%
9%
11%
11%
12%
11%
13%
14%
0% 2% 4% 6% 8% 10% 12% 14% 16%
TABL STFf-13; Ffynhonnell: HESA
4.1.3 Ethnigrwydd
Yn 2017/18 datganodd 93% o staff y Drindod Dewi Sant eu hethnigrwydd (1,395 xxxxx o 1,500). O’r 85% a ddatganodd hyn, datganodd 95% mai ‘xxxx’ yw eu hethnigrwydd. Y canrannau ar gyfer staff academaidd ac anacademaidd yw 92% a 97% yn eu tro.
Proffil ethnigrwydd s Xxxx Xxxxxxx Du Arall Cefndir Asiaidd Xxxxx Xxxxx (yn cynnwys cymysg) | taff y Drindod 0% 0% 1% | Dewi Sant | yn 2017/18 | 95% | |||
Tsieineaidd | 1% | ||||||
Du neu Ddu Prydeinig – Caribïaidd | 0% | ||||||
Du neu Ddu Prydeinig – Affricanaidd | 1% | ||||||
Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig – Pacistanaidd | 0% | ||||||
Prydeinig – Indiaidd | 0% | ||||||
Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig - Bangladeshaidd | 0% | 0% | 20% | 40% | 60% | 80% | 100% |
TABL STFf-14; Ffynhonnell: HESA
Proffil ethnigrwydd staff academaidd y Xxxxxxx Xxxx Xxxx yn 2017/18
Xxxx 94%
Cefndir Du Arall 0% Cefndir Asiaidd Arall 1%
Arall (yn cynnwys cymysg) 1%
Tsieineaidd 1% Du neu Ddu Prydeinig – Caribïaidd 0% Du neu Ddu Prydeinig – Affricanaidd 1% Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig –… 0% Prydeinig – Indiaidd 1%
Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig -… 0%
0% 20% 40% 60% 80% 100%
TABL STFf-15; Ffynhonnell: XXXX
Xxxx | |
Cefndir Du Arall | 0% |
Cefndir Asiaidd Arall | 1% |
Arall (yn cynnwys cymysg) | 1% |
Tsieineaidd | 1% |
Du neu Ddu Prydeinig – Caribïaidd | 0% |
Du neu Ddu Prydeinig – Affricanaidd | 1% |
Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig –… | 0% |
Prydeinig – Indiaidd | 1% |
Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig -… | 0% |
Proffil ethnigrwydd staff anacademaidd y Drindod
Dewi Sant yn 2017/18
92%
0% 20% 40% 60% 80% 100%
TABL STFf-16; Ffynhonnell: HESA
4.1.4 Anabledd
Yn 2017/18 datganodd 60 o aelodau staff y Drindod Dewi Sant fod ganddynt anabledd, sef 4% o gyfanswm y staff. Hon yw’r un ganran â’r ddwy flynedd flaenorol. Cyfran y staff academaidd ac anacademaidd yn eu tro yw 3.3% a 5.3%. Mae’r ffigur hwn yn cyfateb yn fras i ffigur cyffredinol y DU o 4.7%, a 5.3% o staff yng Nghymru sy’n datgan bod ganddynt anabledd.
4.1.5 Crefydd a Chred
Yn 2017/18, datganodd staff y Drindod Dewi Sant eu crefydd a’u cred yn y modd hwn:
Proffil Crefydd a Chred staff y Drindod Dewi Sant yn
2017/2018
Dim crefydd Bwdhydd Cristion Hindŵ Iddew Mwslim Ysbrydol
Unrhyw grefydd xxx xxxx arall
Gwybodaeth wedi ei gwrthod
59.9%
0.8%
29.9%
0.1%
0.1%
0.9%
0.7%
1.8%
5.6%
0.0% 10.0% 20.0% 30.0% 40.0% 50.0% 60.0% 70.0%
TABL STFf-17; Ffynhonnell: Ffynonellau Mewnol
4.1.6 Cyfeiriadedd Rhywiol
Yn 2017/18, datganodd staff y Drindod Dewi Sant eu Cyfeiriadedd Rhywiol yn y modd hwn:
Proffil Cyfeiriadedd Rhywiol staff y Xxxxxxx Xxxx
Sant yn 2017/18
Bisexual Dyn hoyw
Menyw Hoyw / lesbiad
Geterorywiol
Arall Gwybodaeth wedi ei gwrthod
0.00% 10.00% 20.00% 30.00% 40.00% 50.00% 60.00% 70.00%
TABL STFf-18; Ffynhonnell: Ffynonellau Mewnol
4.1.9 Annog datgelu
Yn ystod blwyddyn academaidd 2015/16, gweithredwyd y modwl hunanwasanaeth ar gyfer y system AD/cyflogres yn y Drindod Dewi Sant yn achos y rhan fwyaf o’r staff. Mae hyn yn caniatáu i’r staff weld a diweddaru eu gwybodaeth bersonol eu xxxxxx xxx gynnwys nodweddion gwarchodedig ac eithrio anabledd a beichiogrwydd. Gwnaed ymdrech sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf i ddarparu sesiynau hyfforddi ar gyfer staff er mwyn eu hannog i ddefnyddio’r system hunan wasanaeth ar gyfer diweddaru gwybodaeth bersonol. Ar yr un pryd, mae’r Brifysgol wedi canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd monitro data er mwyn annog staff i rannu gwybodaeth sensitif. Gweler tudalen 6 am weithgareddau a gyflawnwyd yng nghyswllt codi ymwybyddiaeth. Cafwyd lefelau datgelu gwell ar gyfer 2017/18 o ran ethnigrwydd lle mae canran y staff sy’n datgan eu hethnigrwydd wedi codi o 85% yn 2016/17 i 93% yn 2017/18. Hefyd gwelir cyfraddau datgelu uwch ar gyfer crefydd/cred a chyfeiriadedd rhywiol.
Mae'r data a roddir yn yr adran hon yn ymwneud â myfyrwyr AU sy’n astudio yng Ngrŵp y Drindod Dewi Sant a myfyrwyr AU gyda phartneriaid AB breiniol. Nid yw hyn yn cynnwys myfyrwyr AU sy’n astudio mewn partneriaethau cydweithredol. Ac eithrio’r data ceisiadau sy’n
Mae data HESA yn cael eu
2
dod o’n warws data, adroddwyd ar yr xxxx ddata eraill i HESA.
talgrynnu at ddibenion diogelu data. Mae’r xxxx ddata wedi eu meincnodi ar gyfer y sector, trwy ddefnyddio data yn nogfen ECU, Equality in Higher Education: Student Statistical Report 2018. Mae’r dadansoddiadau yn yr adroddiad hwn yn llywio’r blaenoriaethau ar gyfer gweithredu.
Mae’r rhan hon o’r adroddiad ystadegol ar gydraddoldeb yn ystyried yn gyntaf broffil cyffredinol myfyrwyr oddi mewn i Grŵp y Drindod Dewi Sant ac wedyn yn canolbwyntio ar dderbyn a chyrhaeddiad myfyrwyr sydd â’r nodweddion gwarchodedig canlynol:
• Rhywedd
• Oedran
• Ethnigrwydd
• Anabledd
Gwneir cymhariaeth â data 2016/17 pan fo’n bosibl ac yn briodol. Xxx xxxx xxxx y data ystadegol ynghylch myfyrwyr yn adrodd ar ddata ynghylch crefydd/cred a chyfeiriadedd rhywiol.
Nid yw’r Drindod Dewi Sant yn cadw data myfyrwyr ynghylch beichiogrwydd na mamolaeth, na phriodas na phartneriaeth sifil ar ei system cofnodion myfyrwyr ac nid yw’r nodweddion gwarchodedig hyn, felly, wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ystadegol hwn ar gydraddoldeb. Anfonir data myfyrwyr i HESA ynghylch ailbennu rhywedd. Am fod y niferoedd cyffredinol yn fach, er mwyn diogelu data, ni wnaed unrhyw ddadansoddiad o'r data yn yr adroddiad ystadegol hwn.
Yn rhan o’r amcanion a amlinellwyd yn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol mae’r Brifysgol wedi parhau i weithio i annog myfyrwyr i ddatgelu gwybodaeth am nodweddion gwarchodedig. Fel y dengys adroddiad y myfyrwyr mae cyfraddau datgelu wedi codi ymhob categori yn 2017/18, ac yn aml yn sylweddol.
4.2.1 Proffil myfyrwyr cyffredinol
Rhwng 2016/17 a 2017/18, cododd nifer y myfyrwyr a oedd yn astudio yn y Drindod Dewi Sant 515 i 10,280 o fyfyrwyr.
O gymharu â data cenedlaethol, xxx xxx y Drindod Dewi Sant gyfran lawer uwch o fyfyrwyr sy’n astudio ar gyfer rhaglenni astudio Israddedig Eraill (42.2% ~ 11.8%) a xxxxxxx xxx sy’n astudio ar gyfer rhaglenni israddedig Graddau Cyntaf (57.8% ~ 88.2%). Mae Tabl STU-1 yn adlewyrchu’r symudiad parhaus hwn tuag at Raglenni Astudio Israddedig Eraill. Mae hyn yn unol â chenhadaeth y Drindod Dewi Sant i ehangu cyfleoedd cyfranogiad a mynediad i Addysg Uwch.
2 Ac eithrio data crefydd/cred a chyfeiriadedd rhywiol, mae’r xxxx ddata’n deillio o HeidiPlus.
TABL STU-1 Ffynhonnell: HESA
Nodir y proffil myfyrwyr yn ôl dull astudio yn Nhabl STU-2. Yn gyffredinol, mae’r gostyngiad yn y niferoedd rhan amser i’w weld yng nghyswllt nifer o lefelau astudio. Mae cymharu’r data hyn â’r proffil yn 2016/17 yn dangos gostyngiad arbennig o sylweddol yn nifer y myfyrwyr rhan amser a gofrestrwyd ar Raddau Israddedig Eraill (o 52% yn 2016/17 i 30% yn 2017/18). Mae hyn yn ganlyniad i’r nifer o fyfyrwyr amser llawn a gofrestrwyd ar y rhaglen TystAU Sgiliau ar gyfer y Gweithle. Mae symudiad parhaus tuag at astudio rhan amser ar gyfer rhaglenni ôl- raddedig a addysgir: o 63% (2016/17) i 73% (2017/18). O gymharu â ffigurau cenedlaethol, cadarnheir hefyd fod ein proffil yn wahanol i’r sector: Mae myfyrwyr Graddau Cyntaf a myfyrwyr Israddedig Eraill yn arbennig, er enghraifft, yn fwy tebygol o fod yn amser llawn (+3.5% a 42.3% yn eu tro).
TABL STU-2 Ffynhonnell: HESA
Nodir proffil cyffredinol o ganlyniadau myfyrwyr israddedig Graddau Cyntaf yn nhabl STU-3. Mae’r tabl hwn yn dangos bod canran gyffredinol graddau Anrhydedd Da (Cyntaf/2:1) wedi codi o 69% yn 2016/17 i 73% yn 2017/18. Gostyngodd canrannau’r myfyrwyr a gafodd Anrhydedd Ail Ddosbarth Isaf ac Anrhydedd Trydydd Dosbarth / Llwyddo ychydig, tra bu cynnydd cyfatebol yn nifer y graddau Anrhydedd Dosbarth Cyntaf a ddyfarnwyd.
TABL STU-3 Ffynhonnell: HESA
Mae canran y graddau Anrhydedd Da ychydig yn uwch na chyfartaledd Cymru (+1%). Mae nifer y graddau Anrhydedd Dosbarth Cyntaf yn uwch na chyfartaledd Cymru sef 26%, ond yn unol â phroffil oedran y Drindod Dewi Sant (gweler adran 4.2.3). Mae canran graddau Anrhydedd Ail Ddosbarth Uchaf yn is na chyfartaledd Cymru (43% ~ 46%); mae canran y graddau ail ddosbarth isaf yn uwch na chyfartaledd Cymru (23% ~ 21%), a xxxxxxx canlyniadau anrhydedd trydydd dosbarth/ llwyddo yn unol â chyfartaledd Cymru .
4.2.2 Rhywedd
Mae Tabl STU-4 yn nodi’r ceisiadau yn ôl y rhywiau.
TABL STU-4 Ffynhonnell: Ffynonellau Mewnol
Mae cydbwysedd rhwng y rhywiau yn nhermau ceisiadau’n adlewyrchu proffil rhywedd cyffredinol y sefydliad fel y’i dangosir gan dabl STU-5. Yn gyffredinol, mae proffil rhywedd y Drindod Dewi Sant wedi bod yn sefydlog dros y pedair blynedd academaidd ddiwethaf. Mae proffil rhywedd y Drindod Dewi Sant yn unol â ffigurau cyfartalog Cymru (myfyrwyr gwrywaidd: 44.9% ~ 45.1%; myfyrwyr benywaidd: 55.1% ~ 54.9%) a ffigurau cyfartalog cenedlaethol y DU (56.7% - myfyrwyr benywaidd a 43.3% myfyrwyr gwrywaidd). Mae’r Cyfadrannau a’r Adran Farchnata’n cydweithio’n agos i fynd i’r afael ag anghydbwysedd rhywedd ynghylch y myfyrwyr a dderbynnir ar gyfer meysydd pwnc penodol.
TABL STU-5 Ffynhonnell: HESA
Mae Tabl STU-6 yn dangos y math o radd yn ôl y rhywiau. Mae’r canrannau’n weddol debyg ac nid oes unrhyw wahaniaeth sylweddol rhwng y mathau o raddau a astudir gan fyfyrwyr benywaidd neu wrywaidd.
TABL STU-6 Ffynhonnell: HESA
Yn yr un modd, fel y dangosir gan dabl STU-7, nid oes unrhyw wahaniaethau sylweddol rhwng canrannau myfyrwyr gwrywaidd a benywaidd sy’n astudio yn ôl dull amser llawn neu ran- amser. Mae’r canrannau rhan-amser ychydig yn uwch i‘r Drindod Dewi Sant ar gyfer myfyrwyr gwrywaidd a benywaidd o’u cymharu â chyfartaledd cyffredinol y DU. E.e. benywaidd rhan- amser: 25.9% ~ 23.9% a gwrywaidd rhan-amser: 22% ~ 20.5%. Mae hyn yn adlewyrchu pwyslais y Drindod Dewi Sant ar ehangu mynediad a’r oedran cyfartalog wrth ddechrau (gweler adran 4.2.3). Yn achos myfyrwyr gwrywaidd a benywaidd, mae’r dull astudio amser llawn wedi cynyddu (o 70.7% yn 2016/17 i 78% yn 2017/18 i fyfyrwyr gwrywaidd ac o 71.2% (2016/17) i 74.1% (2017/18). Mae hyn yn cadarnhau’r duedd gyffredinol tuag at astudio amser llawn.
TABL STU-7 Ffynhonnell: HESA
Mae Tabl STU-8 yn ystyried proffil rhywedd canlyniadau gradd yn 2017/18. Mae’r data yn dangos, yn yr un modd â 2016/17, fod myfyrwyr benywaidd yn fwy tebygol o sicrhau graddau Anrhydedd Da na myfyrwyr gwrywaidd ac yn llai tebygol o gael canlyniadau gradd Anrhydedd Ail Ddosbarth Isaf, Trydydd a Llwyddo. O’u cymharu â ffigurau cyfartalog y DU, mae canlyniadau Anrhydedd Da i fyfyrwyr benywaidd yn unol â ffigurau cyfartalog y DU a Chymru. Cyfartaledd y Xxxxxxx Xxxx Xxxx: 76%; cyfartaledd Cymru: 75%, cyfartaledd y DU: 76.8%. I fyfyrwyr gwrywaidd, mae’r canlyniadau’n uwch na ffigurau cyfartalog Cymru ond yn is na ffigurau cyfartalog y DU. Y Drindod Dewi Sant: 68%, cyfartaledd Cymru: 67.1%, cyfartaledd y DU: 72.2%
TABL STU-8 Ffynhonnell: HESA
Ystyrir canlyniadau cyrhaeddiad fesul rhywedd ac ethnigrwydd yn adran 4.2.4.
4.2.3 Oedran
Mae’r data yn yr adran hon yn cyfeirio at oedran myfyrwyr ar ddyddiad cychwyn eu hastudiaethau. Sylwer nad yw’r grwpiau data a ddarparwyd gan XxxxxXxxx yn cyfateb yn llawn i’r grwpiau oedran a ddefnyddir gan ECU yn ei Students Statistical Report 2018.
Mae Tabl STU-9 yn dangos y ceisiadau yn ôl oedran ar gyfer 2017/18. O gymharu'r tabl hwn â thabl STU-10, sy’n rhoi’r proffil oedran cyffredinol ar gyfer y sefydliad, mae’n glir bod myfyrwyr
21 oed ac iau’n llai tebygol o gael eu derbyn i’r sefydliad; mae'r canrannau ymgeisio a chofrestru ar gyfer carfannau myfyrwyr 25 oed a throsodd yn unol â’i gilydd.
TABL STU-9. Ffynhonnell: Ffynonellau Mewnol
Mae Tabl STU-10 yn dangos bod 75% x xxxx fyfyrwyr y Drindod Dewi Sant yn 21 oed neu’n hŷn ar ddechrau eu hastudiaethau, sef cynnydd o 4% er 2016/17 a 9% o’i gymharu â 2015/16. Mae hyn mewn cyferbyniad â’r duedd genedlaethol lle mae cyfran y myfyrwyr aeddfed wedi disgyn er 2003/4 ac yn enwedig er 2010/11. Mae’r proffil hefyd yn wahanol iawn i broffil oedran cyfartalog y sector yng Nghymru a’r DU, xxxx xxxxxxx sylweddol is o xxx 21 oed (25% ~ 55.7% [Cymru] a 58.1 [DU]) wrth ddechrau ar eu hastudiaethau a chanrannau sylweddol uwch dros 36 oed (y Drindod Dewi Sant > 30: 39%, Cymru > 36: 13.1%, DU >36: 11.9%). Mae pwyslais cryf y Drindod Xxxx Xxxx ar ddatblygiad proffesiynol parhaus, uwchsgilio a dysgu gydol oes yn esbonio’r proffil oedran hwn.
TABL STU-10. Ffynhonnell: HESA
Mae Tabl STU-11 yn dangos bod proffil oedran yr xxxx fyfyrwyr israddedig yn dangos dosbarthiad oedran tebyg iawn i broffil oedran cyffredinol y Drindod Xxxx Xxxx.
TABL STU-11. Ffynhonnell: HESA
Nodir y berthynas rhwng oedran a dull astudio isod yn nhabl STU-12. Mae’r Student Statistical Report 2018 gan yr ECU yn dangos cydberthynas eglur rhwng oedran a dull astudio ac yn y DU mae’n dangos bod myfyrwyr rhan-amser yn fwy niferus na myfyrwyr amser llawn yn achos yr xxxx fyfyrwyr 30 oed a throsodd ar ddechrau eu hastudiaethau. Yn 2016/17, roedd proffil oedran tebyg gan y Xxxxxxx Xxxx Xxxx. Yn 2017/18, yn sgil datblygiadau o fewn y ddarpariaeth Israddedig Arall, dangosir proffil gwahanol iawn gyda myfyrwyr 30-49 oed yn llawer mwy tebygol o fod yn amser llawn.
TABL STU-12. Ffynhonnell: HESA
Nodir proffil oedran canlyniadau Graddau Cyntaf yn nhabl STU-13. Mae’r data i fyfyrwyr 30 oed a throsodd yn rhoi canlyniad mwy cadarnhaol na chanfyddiadau ledled y DU: yn genedlaethol, xxx xxx fyfyrwyr aeddfed gyfraddau uwch o ran cael dosbarth gradd is na 2:1 a dim ond 65.7% o’r rhai 36 oed a throsodd yn cael gradd Anrhydedd Da. Oddi mewn i Gymru, y cyfartaledd yw 69%. Mae data’r Drindod Dewi Sant yn dangos yn achos myfyrwyr 30-39 oed wrth ddechrau fod hyn yn 78%, yn achos myfyrwyr 40-49 oed wrth ddechrau mae’n 77%, yn achos myfyrwyr 50-59 mae’n 82%, ac i'r rhai sy’n 60 oed a throsodd wrth ddechrau mae’n 75%. Mae’r data’n cadarnhau y darlun cyffredinol yng Nghymru fod perfformiadau yn is yn achos myfyrwyr 21-24 oed na grwpiau oedran eraill.
TABL STU-13. Ffynhonnell: HESA
4.2.4 Ethnigrwydd
Sylwer bod y prif gategorïau yn yr adran hon yn canolbwyntio ar fyfyrwyr sy’n hanu o’r DU; mae myfyrwyr nad ydynt yn hanu o’r DU wedi eu cynnwys yn y categori Anhysbys/Amherthnasol. Xxx xxxx i fyfyrwyr beidio â datguddio eu hethnigrwydd a cheir data’r myfyrwyr hynny yn y categorïau ‘anhysbys’ / ‘amherthnasol’ hefyd. Mae'r lefel anhysbys / amherthnasol yn uwch o lawer adeg gwneud cais (29%) na’r adeg gofrestru (9.8%). O’r herwydd, mae’n anodd cymharu'n gywir y data derbyn a chofrestru (gweler tablau STU-14 a 15).
TABL STU-14. Ffynhonnell: Ffynonellau Mewnol
Gwelir proffil ethnigrwydd cyffredinol y Drindod Dewi Sant yn nhabl STU-15.
TABL STU-15. Ffynhonnell: HESA
Mae’r data’n dangos bod y Drindod Dewi Sant wedi mynd yn fwy amrywiol dros y tair blynedd academaidd ddiwethaf. Gostyngodd y myfyrwyr yn y categori xxxx o 89.8% yn 2014/15, i 83.6% yn 2015/16, i 80.3% yn 2016/17 a 73.9% yn 2017/18, sy'n sylweddol is na chyfartaledd Cymru ar gyfer 2017/18, sef 89.8%. Ar yr un pryd, gostyngodd y categori ‘anhysbys / amherthnasol ‘ o 9.8% i 7.8%. Aeth y cyfanswm Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig (BME) o 5.8% yn 2014/15, i 5.2% yn 2015/16, i 9.9% yn 2016/17 a 18.3% yn 2017/18. Mae’r cyfanswm BME yn sylweddol uwch na chyfartaledd Cymru, sy’n 10.2%, ac mae’n agosáu’n gyson at chyfartaledd cyffredinol y DU sef 22.7%. Mae’r cynnydd clir yn niferoedd myfyrwyr BME yn ganlyniad dull strategol gyda ffocws ar ddarparu mynediad i astudiaeth AU ar gyfer cymunedau ‘anodd eu cyrraedd’ trwy ddatblygu nifer o raglenni astudio TystAU sy’n canolbwyntio ar gyflogaeth.
Gellir rhoi tystiolaeth o ganlyniadau’r dull strategol hwn hefyd wrth ystyried y data ynghylch y math o radd a astudir yn ôl ethnigrwydd (gweler tabl STU-16 a chanrannau’r myfyrwyr o gefndiroedd BME sydd wedi eu cofrestru ar raglenni astudio ‘Israddedig Eraill’).
TABL STU-16. Ffynhonnell: HESA
Mae Tablau STU-17 a 18 yn nodi’r canlyniadau gradd yn ôl ethnigrwydd a’r canlyniadau gradd yn ôl ethnigrwydd a rhywedd. Gellir esbonio’r mân wahaniaeth rhwng y ddau dabl ar sail y strategaeth dalgrynnu a ddefnyddir gan HESA at ddibenion diogelu data. Mae ffigurau cyfartalog Anrhydedd Da ar gyfer pobl dduon yn cyd-fynd â chyfartaledd Cymru a’r DU; mae ffigurau cyfartalog Anrhydedd Da ar gyfer pobl Asiaidd yn isel (53%) o’u cymharu â ffigurau cyfartalog Cymru (64.9%) a’r DU (68%). Mae canlyniadau Anrhydedd Da ar gyfer pobl wyn yn is (75%) na chyfartaledd y DU (79.6%) ac yn unol â’r cyfartaledd yng Nghymru (75.4%). Mae’n bwysig cymryd i ystyriaeth niferoedd isel y myfyrwyr BME ar Raddau Cyntaf. Yn ystadegol, mae hyn yn ei gwneud yn anodd dod i gasgliadau cadarn. Fodd bynnag, wrth i niferoedd BME gynyddu, caiff perfformiad yn y xxxx hwn ei fonitro’n agos.
TABL STU-17. Ffynhonnell HESA
TABL STU-18. Ffynhonnell: HESA
4.2.5 Anabledd
Mae’r data ymgeisio ar gyfer myfyrwyr sydd wedi datgan anabledd yn dangos bod 10.3% o fyfyrwyr yn datgan anabledd yn rhan o’r broses ymgeisio, canran sy’n debyg i’r ganran ar gyfer 2016/17. Mae canran yr anableddau datganedig yn cynyddu i 16.8% yn achos myfyrwyr cofrestredig (gweler tablau STU-20 a 21), sef gostyngiad o 0.9% o’i gymharu â 2016/17.
TABL STU-19. Ffynhonnell: Ffynonellau Mewnol
Mae Tabl STU-20 yn rhoi manylion yr anableddau / cyflyrau / namau sy’n cael eu datgan yn rhan o’r camau ymgeisio. O gymharu â’r data datgelu ar gyfer myfyrwyr cofrestredig (tabl STU-22) gwelir mai ychydig iawn o wahaniaeth sydd rhwng y mathau o namau a nodir adeg ymgeisio a chofrestru.
TABL STU-20. Ffynhonnell: Ffynonellau Mewnol
Mae Tabl STU-21 yn dangos bod gan 16.8% o’r xxxx fyfyrwyr anabledd datganedig. Mae hyn yn sylweddol uwch na chyfartaledd y DU o 12% a chyfartaledd Cymru o 13%. Roedd gan 31.9% o fyfyrwyr israddedig amser llawn Graddau Cyntaf anabledd datganedig, ffigur sy’n sylweddol uwch na ffigurau cenedlaethol cyfartalog.
TABL STU-21 Ffynhonnell HESA
Mae Tabl STU-22 yn rhoi manylion y mathau o nam ar gyfer y 16.8% o fyfyrwyr sydd ag anabledd datganedig. Yn unol ag ystadegau cenedlaethol, anhawster dysgu penodol yw’r anabledd datganedig mwyaf cyffredin. Mae 54.2% o fyfyrwyr y Drindod Dewi Sant wedi datgan anhawster dysgu penodol, sy’n sylweddol uwch na ffigurau cyfartalog y DU ar gyfer Graddau Cyntaf (41.5%) a rhaglenni astudio Israddedig Eraill (42%). Daw datganiad o gyflwr iechyd meddwl yn ail (15.4%), yn unol ag ystadegau cenedlaethol, a dau gyflwr neu fwy’n drydydd (7.7%). Cynyddodd datgeliad o gyflwr iechyd meddwl 3.4% er 2015/16, unwaith eto yn unol â thueddiadau cenedlaethol.
TABL STU-22. Ffynhonnell HESA
Yn Nhabl STU-23 rhoddir manylion y mathau o raddau a astudir gan fyfyrwyr sydd ag anabledd datganedig. Mae’r patrwm yma’n adlewyrchu’r patrwm cenedlaethol o ddatgelu yn ôl y math o radd. Defnyddir y data anabledd datganedig yn ôl pwnc yn y sefydliad i dargedu a chanolbwyntio cymorth.
TABL STU-23. Ffynhonnell: HESA
Mae myfyrwyr ag anabledd yn fwy tebygol o astudio’n amser llawn yn hytrach xx xxxx amser. Mae hyn yn gysylltiedig â’r ffaith bod myfyrwyr ag anabledd yn fwy tebygol o fod yn fyfyrwyr < 21 oed wrth ddechrau.
TABL STU-24. Ffynhonnell: HESA
O ran cyrhaeddiad (gweler tabl STU-25), mae 71% o’r myfyrwyr heb anabledd hysbys yn cael gradd Anrhydedd Da, sy’n is na’r cyfartaledd cenedlaethol o 75.1% ac ychydig yn is na chyfartaledd Cymru o 71.5%. Caiff 78% o’r myfyrwyr sydd ag anabledd radd Anrhydedd Da
sy’n uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol o 73.2%, yn sylweddol uwch na chyfartaledd Cymru sef 70.1% a 7% yn uwch na chyfartaledd y Drindod Dewi Sant i fyfyrwyr heb anabledd hysbys. Yn yr un modd, dim ond 3% o fyfyrwyr anabl sy’n cael gradd Trydydd Dosbarth neu Lwyddo, o’u cymharu â 5% o’r myfyrwyr heb anabledd hysbys. Mae hyn yn cymharu’n ffafriol hefyd â chyfartaledd Cymru o 5.4% a chyfartaledd y DU o 5.3% ar gyfer myfyrwyr anabl sy’n cael gradd Trydydd Dosbarth neu Lwyddo.
TABL STU-25. Ffynhonnell: HESA
Mae cyfraddau Anrhydedd Da, fodd bynnag, yn gwahaniaethu yn ôl statws yr anabledd fel y nodir yn nhabl STU-26. Oherwydd y niferoedd xxxx xx’n gysylltiedig ag anableddau penodol, byddwch yn ymwybodol yn y tabl hwn o strategaeth dalgrynnu HESA am resymau diogelu data. Yn achos myfyrwyr ag anhawster dysgu penodol caiff 74% radd Anrhydedd Da, sy’n uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol o 72.9%. Caiff 75% o fyfyrwyr sydd â nam cyfathrebu cymdeithasol neu ar y sbectrwm awtistig radd Anrhydedd Da, sydd ychydig yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol o 70.6%. Caiff 84% o’r myfyrwyr â dau gyflwr neu ragor radd Anrhydedd Da, sy’n sylweddol uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol o 67.7%. Yn achos myfyrwyr â chyflwr iechyd meddwl, cafodd 88% ganlyniad o’r fath, sef 12.2% yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol. Yr unig gategori i sgorio’n is na’r cyfartaledd cenedlaethol yw myfyrwyr ag afiechyd neu gyflwr meddygol hirdymor lle mai 67% yw canlyniad y Drindod Dewi Sant, sy’n 7.4% yn is na’r cyfartaledd cenedlaethol.
TABL STU-26. Ffynhonnell HESA
4.2.6 Crefydd / Cred
Mae’r ffigurau ar gyfer myfyrwyr sy’n datgan eu bod yn ddi-grefydd wedi amrywio o flwyddyn i flwyddyn. Yn 2015/16 nododd 40.6% o fyfyrwyr eu bod yn ddigrefydd; gostyngodd y ffigur hwn i 36.5% ar gyfer 2016/17 ac wedyn cynyddodd eto i 45.2% ar gyfer 2017/18 (gweler tabl STU- 27). Gostyngodd canran y myfyrwyr a ddewisodd wrthod gwybodaeth o’r fath 0.5% i 5.7%. Ar gyfer sylwadau ynghylch data datgelu, gweler adran 4.2. Cynyddodd canran y myfyrwyr a nododd eu bod yn Gristnogion o 25.5% i 31.3%. Cynyddodd canran y myfyrwyr a nododd eu bod yn Fwslimiaid o 3.7% i 11.5%.
TABL STU-27. Ffynhonnell: Ffynonellau Mewnol
4.2.7 Cyfeiriadedd Rhywiol
Nododd 81.2% o’r myfyrwyr mai heterorywiol yw eu cyfeiriadedd rhywiol, sy’n gynnydd o 20.2% o’i gymharu â 2016/17 a xxxxxxx 2014/15. Mae cyfraddau datgan wedi cynyddu’n sylweddol. Gwrthododd 11.6% o fyfyrwyr roi gwybodaeth yn 2017/18 o’i gymharu â 34.4% o fyfyrwyr yn 2016/17.
TABL STU-28. Ffynhonnell: Ffynonellau Mewnol
Page 36 of 34