SWYDD DDISGRIFIAD
SWYDD DDISGRIFIAD
Teitl y Swydd: Swyddog Cydymffurfio Ystadau a Chynnal a Chadw a Gynllunnir
Lleoliad: Llandaf
Xxxx: Xxxxx Ystadau a'r Amgylchedd
Oriau: 37 yr wythnos
Daliadaeth: Parhaol
Graddfa: 6AB
Cyflog: £36,386 - £40,931 y flwyddyn
Yn atebol i'r: Pennaeth yr Amgylchedd Adeiledig
Crynodeb o’r Rôl:
Mae hon yn swydd allweddol a fydd yn cyfrannu at amcanion Cynllun Strategol newydd y Coleg ar gyfer 2017/18 – 2022/23..
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am wella cydymffurfiaeth â gofynion statudol ar gyfer risgiau technegol yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i hylendid yr aer, asbestos, adeiladu, rheoli Legionella, diogelwch y trydan, systemau diogelwch tân, diogelwch y cyflenwad nwy, cyfarpar codi, disbyddwyr awyriadau lleol, cypyrddau gwyntyllu, peiriannau cynnal a chadw, systemau gwasgedd, offer gwaith a dirgryniad. Bydd hyn yn cynnwys datblygu a chynnal cynlluniau gweithredu, polisïau, systemau diogel ar gyfer gwaith, datganiadau dull, dogfennau diogelwch yr adeiladu a systemau recordio cydymffurfiaeth.
Sicrhau bod y gwasanaeth Cydymffurfio Statudol a Chynnal a Chadw a Gynllunnir yn cael ei ddatblygu a'i reoli ar draws gweithrediadau aml-safle’r Brifysgol, sy’n cynnwys mannau academaidd, lleoedd ar gyfer swyddfeydd a mannau preswyl.
• Goruchwylio prosesau a gweithdrefnau o ddydd i ddydd o fewn y meysydd cyfrifoldeb.
• Datblygu asesiadau risg a datganiadau dull i ddiffinio a rheoli risg, ynghyd â datblygu systemau dogfennaeth presennol.
• Cynorthwyo’r Rheolwr Cynnal a Chadw a Gweithrediadau (MOM) i gyflenwi, rheoli ac adolygu contractau er mwyn sicrhau gwerth am arian.
• Cynorthwyo’r Rheolwr Cynnal a Chadw a gweithrediadau (MOM) i gyflenwi, cynllunio, rheoli ac adolygu mân newidiadau a gwelliannu adeiladau
• Cyfarfod yn gyson â Phenaethiaid Ysgolion ac adrannau er mwyn sicrhau bod unrhyw wasanaeth a ddarperir yn ffocysu ar y cwsmer.
• Hyrwyddo delwedd bositif o Brifysgol Metropolitan Caerdydd a datblygu perthynas waith dda xxxx xxxx ddefnyddwyr y Brifysgol yn cynnwys cleientiaid a chontractwyr mewnol.
Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau:
• Adrodd yn ôl ar berfformiad i’r unigolyn cyfrifol (MOM) ar gyfer xxxx gydymffurfiad statudol cynnal adeilad ac ar gontractau adeiladu cynlluniedig. I ddatblygu a chadw rhestrau asedau o eitemau y cynhelir archwiliad a phrofion arnyn nhw gan staff Ystadau ar y system gynnal gynlluniedig a gan gontractwyr o fewn cytundebau gwasanaeth y Brifysgol.
• Datblygu a diweddaru gweithdrefnau a dogfennau gan sicrhau bod rhaglen gyson o archwilio gweithdrefnau yn cael ei sefydlu i gadarnhau cydymffurfiaeth â Deddfwriaeth. Datblygu a chynnal datganiadau dull ar gyfer gwaith cynnal a chadw cynlluniedig staff masnach Ystadau a manylebau technegol ar gyfer y gwaith cynnal a chadw gan gontractwyr.
• Dirprwyo yn ôl cyfarwyddyd, dros MOM o ran y Gwasanaethau Cynnal a Chadw Adeiladau Cynlluniedig a Statudol.
• Rheoli a datblygu’r ddarpariaeth o wasanaethau cynlluniedig effeithlon ac effeithiol a hefyd cynnig cymorth i ymateb i anghenion cynnal a chadw adweithiol yn ôl y gofyn.
• Sicrhau bod Polisïau, Deddfwriaeth a chodau ymarfer priodol sy’n berthnasol i Iechyd a Diogelwch yn cael eu dilyn hyd eitha’r hyn sy’n ymarferol bosibl.
• Cynghori’r MOM ar oblygiadau’r newidiadau i’r ddeddfwriaeth, i Bolisi’r Brifysgol ac i Strategaeth y Brifysgol fel y maen nhw’n effeithio ar y gwasanaethau a ddarperir gan yr adran.
• Caffael contractau tymor ar gyfer cynnal a chadw cynlluniedig a statudol ar y cyd â staff caffael a chyllid yn cynnwys drwy ddyfynbris, tendr, consortiwm prynu a fframwaith. Cyfarwyddo gwasanaethau cynnal a chadw a gontractir xxxxx ar gyfer y Brifysgol, yn cynnwys Gwasanaethau Preswyl a Masnachol, ar gyfer y gwasanaethau hynny na ddarperir yn fewnol.
• Datblygu Safonau Lefel Gwasanaeth ar gyfer yr xxxx wasanaethau sy’n briodol i anghenion y Brifysgol o fewn cyfyngiadau dyraniad y gyllideb.
• Penodi ymgynghorwyr technegol allanol os oes gofynion statudol yn cynnwys asbestos, rheoli 'Legionella', diogelwch y cyflenwad nwy, foltedd uchel a lifftiau ayb. gan sicrhau bod polisi, cynlluniau, deilliannau archwiliad, yn cael eu gweithredu a chofnodi’r camau i’w gweithredu i wella diffygion er mwyn sicrhau cydymffurfiad.
• Datblygu dangosyddion perfformiad, gwybodaeth ystadegol ac ymarferion meincnodi er mwyn sicrhau gwerth am arian a chadw at arferion gorau o fewn y sector.
• Datblygu ac adolygu’n gyfnodol y cynlluniau gweithredu, y polisïau a’r systemau diogel o weithio ar gyfer risgiau technegol Ystadau yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i hylendid, asbestos, adeiladu, rheoli Legionella, diogelwch y trydan, diogelwch y cyflenwad nwy, systemau diogelwch tân, cyfarpar codi, disbyddwyr awyriadau lleol, cypyrddau gwyntyllu, peiriannau cynnal a chadw, systemau gwasgedd, offer gwaith a dirgryniad.
• Datblygu a chynnal systemau cofnodi er mwyn dangos cydymffurfiad â chynnal a chadw adeiladau Cynlluniedig a Statudol a meysydd risg technegol Ystadau yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i hylendid, asbestos, adeiladu, rheoli Legionella, diogelwch y trydan, diogelwch y cyflenwad nwy, systemau diogelwch tân, cyfarpar codi, awyriad disbyddwyr lleol, cypyrddau gwyntyllu, peiriannau cynnal a chadw, systemau gwasgedd, offer gwaith a dirgryniad.
• Rheoli‘r broses gymeradwyo ar gyfer contractwyr ac ymgynghorwyr i’w gosod ar restr sefydlog dendro’r Ystadau yn cynnwys digonolrwydd y dystiolaeth ar gyfer y polisïau yn ymwneud â’r amgylchedd, cydraddoldeb, yswiriant, caethwasiaeth modern a iechyd a diogelwch.
• Datblygu'r gwaith o gynllunio a rheoli blaenraglenni Cynnal a Chadw a Gynllunnir i helpu i gynllunio a monitro ariannol yr adran Gweithrediadau Cynnal a Chadw.
• Ar y cyd â MOM, cytuno ar safonau a chostau ar gyfer gwasanaethau Cynnal a Chadw Cynlluniedig a ddarperir ar gyfer cleientiaid Ysgol ac adran ysgolion, ar gyfer gwaith cynlluniedig a wneir ar eu xxxx x.x. cypyrddau gwyntyllu, cywasgyddion.
• Cynorthwyo i sicrhau bod ffeiliau Iechyd a Diogelwch, Cofnod o Ddyluniadau a Llawlyfrau Gweithrediadau a Chynnal a Chadw sy’n tarddu o brosiectau yn cael eu hymgorffori yn ein systemau presennol.
• Adolygu anghenion hyfforddiant o ran risgiau technegol yr adran Ystadau a gwneud argymhellion ar gyfer hyfforddiant i’w gynnal a chynnig cyflwyniadau
byr ar agweddau o iechyd a diogelwch i staff mewnol a chontractwyr. Targedu, rheoli’r cyflenwi, adolygu a diweddaru’r rhaglen i sefydlu diogelwch ar gyfer contractwyr a staff.
• Darparu cyngor technegol, asesiadau a chofnodion er mwyn cynorthwyo cydymffurfiaeth ar gyfer risgiau’r Ystadau yn cynnwys hylendid yr aer, asbestos, adeiladu, rheoli Legionella, diogelwch y trydan, digwyddiadau, systemau diogelwch tân, cyfarpar codi, awyriad disbyddwyr lleol, cypyrddau gwyntyllu, peiriannau cynnal a chadw, systemau gwasgedd, offer gwaith.
• Cynorthwyo cydweithwyr i ddatrys problemau cydymffurfiaeth peirianegol a sefydlu dull cyffredin o fynd ati i ddatrys problemau a fydd yn codi.
• Darparu gwybodaeth ar risgiau ac asedau Ystadau xxxx xxxxx archwiliad statudol ar gyfer yswirwyr y Brifysgol yn ôl y gofyn ac at ddiben adnewyddu yswiriant o dro i dro.
• Cydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnau’r Brifysgol a’r Adran Ystadau, gan gynnwys diogelu data, cydraddoldeb, materion ariannol, iechyd a diogelwch, adnoddau dynol a chydymffurfiaeth caffael.
• Cynnal mân newidiadau i adeiladau, gwaith gwella adeiladau o’r dechrau i’r diwedd xxx gyfarwyddyd MOM.
• Cyflawni dyletswyddau eraill yn ôl gofyn rhesymol o fewn ystod y swydd hon cymesur â graddfa’r swydd.
Gwybodaeth Ychwanegol:
MANYLEB PERSON
*Allwedd
Ff - Ffurflen Gais C - Cyfweliad
P/C – Prawf/Cyflwyniad
Teitl Swydd:
Swyddog Cydymffurfio Ystadau a
Chynnal a Chadw a Gynllunnir
Ysgol/Uned: Adran Ystadau a'r Amgylchedd
FFACTORAU | MEINI PRAWF HANFODOL A DYMUNOL | ASESWYD DRWY | ||
Ff* | C* | P/C* | ||
Addysg a Chymwysterau (Hanfodol) | • Gradd xx xxxx adeiladu neu brofiad perthnasol. | X | ||
Addysg a Chymwysterau (Dymunol) | • Cymhwyster proffesiynol cydnabyddedig neu aelodaeth o Sefydliad Adeiladu neu Sefydliad sy’n gysylltiedig ag Adeiladu | X | ||
Gwybodaeth (Hanfodol) | • Arddangos gwybodaeth o lunio contractau ystâd fawr cynnal a chadw a gwasanaethau cynlluniedig yng nghyd-destun Prifysgol neu ystâd fawr | X | X | X |
• Gwybodaeth ymarferol o TG, yn cynnwys Microsoft Office a meddalwedd cyfrifiadurol o ran rheoli gwaith cynnal a chadw | X | X | ||
• Deall Rheoliadau Adeiladu a materion eraill yn ymwneud â chydymffurfio deddfwriaethol | X | X | X | |
• Deall yr xxxx ddeddfau a deddfwriaethau perthnasol i gynnal a chadw ac i wasanaethau | X | X | X | |
• Arddangos gwybodaeth o ofynion statudol cynnal a chadw adeiladau | X | X | ||
Gwybodaeth (Dymunol) | • Deall mesurau’r diwydiant adeiladu sy’n gysylltiedig â materion cynaliadwyedd ac amgylcheddol e.e. XXXXXX, Perfformiad Ynni. • Gwybodaeth a phrofiad o osod offer mecanyddol a thrydan | X |
X | X | |||
Sgiliau a Galluoedd (Hanfodol) | • Profiad o ddatblygu a darparu gwasanaeth cynnal a chadw adeilad, gwasanaeth sy’n ffocysu ar y cwsmer | X | X | |
Sgiliau a Galluoedd (Dymunol) | • Sgiliau cyfathrebu rhagorol a’r gallu i sefydlu perthynas waith dda o fewn partneriaeth | X | ||
Profiad â Thâl / di-dâl (Hanfodol) | • Profiad a dealltwriaeth o wasanaethau adeiladu a pheirianyddol • Tystiolaeth o lwyddiant mewn rheoli contract, arferion gorau xx xxxx caffael a gweithdrefnau gweinyddol • Profiad o gynnal mân brosiectau adeiladu | X X X | X X X | X X X |
Profiad â Thâl / di-dâl (Dymunol) | • Profiad o weithio mewn partneriaeth neu o fewn fframwaith • Profiad xx xxxx gweithrediadau cynnal a chadw | X X | X | |
Gofynion eraill (Hanfodol) | *Bydd penodi’r ymgeisydd llwyddiannus yn amodol ar gael gwiriad y Swyddfa Datgelu a Gwahardd (DBS, y CRB yn flaenorol) | |||
Sgiliau Cymraeg Gwrando (Dymunol) | A1 Gwrando A1 - Dechreuwr Yn gallu deall a defnyddio ymadroddion cyfarwydd xxx dydd ac ymadroddion sylfaenol iawn yn y Gymraeg. | X | ||
Sgiliau Cymraeg Darllen (Dymunol) | A1 Darllen A1 - Dechreuwr Yn gallu deall a defnyddio ymadroddion cyfarwydd xxx dydd ac ymadroddion sylfaenol iawn yn y Gymraeg. | X |
Sgiliau Cymraeg Siarad (Dymunol) | A1 Siarad A1 - Dechreuwr Yn gallu deall a defnyddio ymadroddion cyfarwydd xxx dydd ac ymadroddion sylfaenol iawn yn y Gymraeg. | X | ||
Sgiliau Cymraeg Ysgrifennu (Dymunol) | A1 Ysgrifennu A1 - Dechreuwr Yn gallu deall a defnyddio ymadroddion cyfarwydd xxx dydd ac ymadroddion sylfaenol iawn yn y Gymraeg. | X |
*Sylwer na fydd cofnod troseddol o anghenraid yn rhwystr i gael cyflogaeth ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Am ragor o wybodaeth am y Swyddfa Cofnodion Troseddol(CRB), ewch i: xxxxx://xxx.xxx.xx/xxx- criminal-records-bureau-check