CF31 4WB
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr Swyddfeydd Dinesig,
Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr,
CF31 4WB
CCA 5
CYFLEUSTERAU HAMDDEN AWYR AGORED A DATBLYGIAD TAI NEWYDD (2022)
CCA 5
CYFLEUSTERAU HAMDDEN AWYR AGORED A DATBLYGIAD TAI NEWYDD (2022)
Diben y Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) hyn yw ehangu ar bolisi cynllunio presennol y Cyngor ar gyfleusterau hamdden awyr agored sydd wedi'u cynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol mabwysiedig. Mae'n amlinellu sut y bydd y Cyngor, pan fo'n briodol, yn ceisio rhwymedigaethau cynllunio i ddarparu neu wella cyfleusterau hamdden awyr agored fel rhan o ddatblygiadau preswyl newydd ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Lluniwyd y ddogfen hon o ganlyniad i gydweithrediad agos rhwng gwahanol swyddogaethau Cyfarwyddiaeth Gymunedau'r Cyngor, a bydd pob un ohonynt yn rhan o'r trafodaethau ar gyfer darparu gofod hamdden awyr agored drwy'r system gynllunio.
Bydd y CCA hwn yn ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu ar xxx cais cynllunio ar gyfer datblygiad preswyl gan gynnwys ceisiadau i adnewyddu caniatâd.
Byddai'r Cyngor yn annog unrhyw un sy'n ceisio cyflwyno cais am ddatblygiad preswyl o fewn y Fwrdeistref Sirol i ystyried y CCA hwn ac i gysylltu â'r Awdurdod Cynllunio Lleol cyn cyflwyno cais i drafod y materion a godir yn y ddogfen hon ar sail safle- benodol.
CYNNWYS
Adran | Rhif y Dudalen |
1. Cyflwyniad | 4 |
2. Cyd-destun Cefndirol | 4 |
3. Cyd-destun Deddfwriaeth a Pholisi | 5 |
4. Hamdden a Mannau Agored Cyhoeddus – Diffiniadau a Safonau | 9 |
5. Safonau Meincnod Hygyrchedd | 11 |
6. Asesu'r Ddarpariaeth Mannau Chwarae Awyr Agored | 12 |
7. Cyfrifo'r Gofyniad | 14 |
8. Lle Chwarae Awyr Agored – Gofynion Cyffredinol | 17 |
9. Opsiynau Rheoli a Chynnal a Chadw | 20 |
10. Cyfraniadau Ariannol yn lle Darpariaeth ar y Safle | 21 |
11. Gweinyddu'r Polisi | 22 |
Atodiadau | 2 5-3 0 |
1. CYFLWYNIAD
1.1 Mae'r Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) hyn yn esbonio'n fanwl ymagwedd y Cyngor at ddarparu chwaraeon awyr agored, mannau chwarae i blant, rhandiroedd a mannau agored cyhoeddus (gan gynnwys mannau gwyrdd naturiol hygyrch) ar gyfer pob datblygiad tai newydd a sut xxx Xxxxxx COM11 o Gynllun Datblygu Lleol Pen-y-bont ar Ogwr (CDLl) yn cael ei weithredu. Mae'r CCA yn annog cysylltiadau rhwng darparu mannau agored a geisir o xxx Xxxxxx COM11 a'i gyfraniad at seilwaith gwyrdd ym Mhen- y-bont ar Ogwr. Ar ôl ei fabwysiadu, bydd ei gynnwys yn cael ei ystyried fel ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio perthnasol.
2. CYD-DESTUN CEFNDIROL
2.1 Mae mannau hamdden yn hanfodol i'n hiechyd, ein lles, ein hamwynder a xxxxxxx gyfrannu at seilwaith gwyrdd ardal. Maent yn darparu lle ar gyfer chwarae, chwaraeon, gweithgarwch corfforol iach a lle i ymlacio yn aml ym mhresenoldeb natur, ac maent yn cyfrannu at ansawdd ein bywyd ac yn elfen allweddol o 'greu lle'. Bydd rhwydweithiau o fannau gwyrdd a mannau hamdden hygyrch o ansawdd uchel hefyd yn hyrwyddo cadwraeth natur, bioamrywiaeth ac yn cynnig cyfleoedd pleserus i drigolion ac ymwelwyr gymryd rhan mewn ystod xxxx o weithgareddau corfforol. Mae'r gweithgareddau hyn yn bwysig i les plant ac oedolion ac i fywyd cymdeithasol, amgylcheddol, diwylliannol ac economaidd Pen-y-bont ar Ogwr a Chymru.
2.2 Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn derbyn nifer uchel o geisiadau xxx blwyddyn ar gyfer datblygiadau tai newydd. Mae'r preswylwyr newydd hyn yn creu galw am wella cyfleusterau hamdden presennol a darparu cyfleusterau hamdden newydd. Er mwyn bodloni'r galw hwn, xxx Xxxxxx COM11 o'r CDLl yn gofyn am ddarparu xxxxx x xxxxx foddhaol o chwaraeon awyr agored, mannau chwarae i blant, rhandiroedd a mannau agored cyhoeddus (gan gynnwys mannau gwyrdd naturiol hygyrch) ar gyfer pob datblygiad tai newydd.
2.3 Mewn achosion lle gallai datblygiad newydd arfaethedig arwain at golli mannau agored presennol neu arfaethedig ar safle gallai Polisi COM7 y CDLl (sydd â’r nod o ddiogelu cyfleusterau cymdeithasol a chymunedol presennol ac arfaethedig) ei gwneud yn ofynnol i greu darpariaeth amgen gyfatebol mewn man arall neu wella'r cyfleuster presennol. Gellir sicrhau hyn drwy gytundeb/rhwymedigaeth gynllunio yn unol â Pholisi SP14 y CDLl.
2.4 Mae'r Cyngor yn annog unrhyw un sy'n bwriadu cyflwyno cais am ddatblygiad preswyl yn y Fwrdeistref Sirol i ddarllen y CCA hwn. Er mwyn trafod unrhyw faterion ar sail penodol-i-safle, xxxxxxx gysylltu â’r Cyngor cyn gwneud cais cynllunio ar gyfer trafodaethau cyn ymgeisio i’r manylion a ddarperir. Mae'r Cyngor yn annog ac yn croesawu ymholiadau a cheisiadau am gyngor cyn cyflwyno cais. (Ceir rhagor o fanylion am sut i gael gafael ar y gwasanaeth hwn ar wefan y Cyngor).
3. CYD-DESTUN DEDDFWRIAETH A PHOLISI
3.1 Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015: Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ddarn allweddol o ddeddfwriaeth sy'n ceisio gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru ymhellach nawr ac yn y tymor hwy. Mae'r Ddeddf yn rhoi 'egwyddor datblygu cynaliadwy' ar xxxxx xx'n ddyletswydd ar gyrff cyhoeddus i "weithredu mewn modd sy'n ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain". Mae'r Ddeddf yn seiliedig ar saith nod llesiant, y mae'n rhaid i gyrff cyhoeddus weithio i'w cyflawni (Cymru lewyrchus, Cymru gydnerth, Cymru iachach, Cymru fwy cyfartal, Cymru o gymunedau cydlynus, Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu a Chymru sy'n gyfrifol yn fyd-xxxx).
3.2 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016: Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) yn rhoi ar waith y ddeddfwriaeth sydd xx xxxxxx i gynllunio a rheoli adnoddau naturiol Cymru mewn ffordd fwy rhagweithiol, cynaliadwy a chydgysylltiedig. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) adrodd ar adnoddau naturiol y dywysogaeth a manylu ar eu gallu i ymateb i bwysau ac addasu i'r newid yn yr hinsawdd. Felly, cyhoeddodd CNC yr Adroddiad ar Gyflwr Adnoddau Naturiol (SoNaRR) yn 2016. Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn darparu cyd-destun ar gyfer darparu seilwaith gwyrdd amlswyddogaethol. Xxxx xx ddarpariaeth wneud cyfraniad sylweddol at reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, ac yn arbennig i gynnal a gwella bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau o ran yr amrywiaeth rhwng ecosystemau xx xxxx mewn iddynt a graddau, cyflwr a chysylltedd ecosystemau a'u gallu i addasu. Mae hyn yn golygu bod datblygu seilwaith gwyrdd yn ffordd bwysig i awdurdodau lleol gyflawni eu dyletswydd Adran 6.
3.3 Polisi Cynllunio Cymru (PCC) – Argraffiad 11 (Chwefror 2021): Xxx Xxxxxx Cynllunio Cymru yn nodi y dylai awdurdodau cynllunio ddarparu fframwaith ar gyfer cyfleusterau chwaraeon a hamdden o ansawdd da sydd wedi'u lleoli'n dda, a datblygu polisïau clir ar gyfer darparu, diogelu a gwella cyfleusterau chwaraeon a hamdden. Dylai'r polisïau hyn bennu safonau darpariaeth, fel y gellir nodi diffygion lleol a'u bodloni drwy'r broses gynllunio a nodi polisïau i osgoi neu ddatrys gwrthdaro rhwng gwahanol weithgareddau.
3.4 Xxx Xxxxxx Cynllunio Cymru yn pwysleisio y dylid diogelu mannau gwyrdd agored ffurfiol ac anffurfiol rhag cael eu datblygu, yn enwedig mewn ardaloedd trefol lle maent yn cyflawni sawl diben. Yn ogystal â gwella ansawdd bywyd, maent yn cyfrannu at fioamrywiaeth, gwarchod yr amgylchedd hanesyddol, natur a thirwedd, gwell ansawdd aer, diogelu dŵr daear ac fel mannau heddychlon. Xxx xxx fannau agored o'r fath rôl hefyd o ran diogelu'r hinsawdd ac o ran galluogi addasu ardaloedd trefol i effeithiau newid hinsawdd, er enghraifft drwy gyfrannu at reoli llifogydd a helpu i leihau effeithiau ynysoedd gwres trefol. Mae llawer o barciau a gerddi yn hanesyddol arwyddocaol ac wedi'u rhestru yng Nghofrestr Parciau a Gerddi Hanesyddol Cymru.
3.5 Dylai pob cae chwarae, boed yn eiddo i gyrff cyhoeddus, preifat neu wirfoddol, gael ei ddiogelu rhag cael ei ddatblygu ac eithrio pan:
• y ffordd orau o gadw a gwella cyfleusterau yw drwy ailddatblygu xxxx xxxx o'r safle;
• mae darpariaeth amgen o fudd cymunedol cyfatebol ar gael yn lleol, gan osgoi colli unrhyw ddarpariaeth dros dro; neu
• mae gormod o ddarpariaeth o'r fath yn yr ardal.
3.6 Xxx Xxxxxx Cynllunio Cymru yn nodi y dylai awdurdodau lleol ddiogelu caeau chwarae a mannau agored sydd â gwerth amwynder neu hamdden sylweddol i gymunedau lleol rhag cael eu datblygu. Dylent nodi'r ffyrdd y gellir defnyddio tir a chyrff dŵr a ddatblygwyd neu a oedd wedi'u defnyddio o'r blaen at ddibenion chwaraeon a hamdden, yn enwedig mewn perthynas ag adfywio trefol.
3.7 Dylai awdurdodau cynllunio hefyd annog defnydd lluosog o fannau agored a chyfleusterau, pan fo'n briodol, i gynyddu eu defnydd effeithiol. Mae 'Beyond the Six Acre Standard', a gynhyrchwyd gan Fields in Trust (FIT), yn ffynhonnell ddefnyddiol o gyngor i awdurdodau cynllunio ar ddarparu mannau agored a mannau chwarae a chwaraeon awyr agored drwy'r system gynllunio.
3.8 Dylai awdurdodau cynllunio ystyried y posibilrwydd o ddefnyddio tir a llwybrau xxxxx fel parciau, parciau llinellol neu lwybrau gwyrdd mewn ardaloedd trefol ac annog darparu llwybrau beicio a llwybrau troed diogel a deniadol. Lle cynigir defnydd hamdden o reilffyrdd neu fannau xxxxx wrth ymyl camlesi neu afonydd, dylai awdurdodau cynllunio sicrhau nad oes unrhyw golled i ddefnyddwyr cyfagos, bywyd gwyllt nag amddiffynfeydd rhag llifogydd.
3.9 Ategir Polisi Cynllunio Cymru gan gyfres o Nodiadau Cyngor Technegol (TAN) gan gynnwys TAN 16: Chwaraeon, Hamdden a Mannau Agored (2009): Xxx XXX 16 yn darparu canllawiau a luniwyd i ategu'r polisi a nodir ym Mholisi Cynllunio Cymru. Mae'n rhoi cyngor ychwanegol ar rôl y system gynllunio o ran darparu ar gyfer chwaraeon, hamdden a mannau agored anffurfiol. Mae'n cynnig cyfarwyddiadau ar gynllunio ar gyfer defnyddiau chwaraeon a hamdden yn ogystal â lefelau priodol o ddarpariaeth.
3.10 Nid oes unrhyw safonau cenedlaethol statudol ar gyfer darparu chwaraeon, hamdden a mannau agored yng Nghymru. Mae paragraff 2.9 i 2.11 o TAN 16 yn nodi bod 'Safonau Meincnod' Fields in Trust (FIT) ar gyfer chwaraeon a chwarae awyr agored yn ddefnyddiol i awdurdodau lleol. Mae'r safon yn argymell isafswm o 2.4 hectar o le awyr agored fesul 1,000 o'r boblogaeth. Mae'r safon wedi'i chategoreiddio'n dri math o ddarpariaeth; chwaraeon awyr agored ffurfiol, lle chwarae anffurfiol a lle chwarae dynodedig â chyfarpar. Ceir diffiniadau pellach o'r tri chategori hyn yn ddiweddarach.
3.11 Mae paragraff 2.18 o TAN 16 yn nodi bod Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi datblygu pecyn cymorth i helpu i sicrhau bod gan bawb yng Nghymru fynediad i fannau gwyrdd naturiol. Mae'r pecyn cymorth yn argymell y dylid darparu ar gyfer o leiaf 2ha o fannau gwyrdd naturiol hygyrch fesul 1,000 o'r boblogaeth, na ddylai unrhyw un fyw mwy na 300 metr o'u man gwyrdd naturiol agosaf. Er nad yw'r CCA hwn yn mynd i'r afael yn ffurfiol â darparu mannau gwyrdd naturiol hygyrch, bydd yn ceisio annog mannau
agored newydd sydd â'r potensial i gyfrannu at y ddwy safon drwy gyflwyno mannau amlswyddogaethol.
3.12 Xxx XXX 16 yn nodi y dylai awdurdodau lleol gynnal Asesiad o Fannau Agored sy'n cwmpasu pob math o ddarpariaeth mannau agored er mwyn darparu sail ar gyfer sefydlu gweledigaeth strategol. Cydnabyddir bod y Canllawiau Cynllunio Atodol yn canolbwyntio mwy ar ei gwmpas nag Asesiad o Fannau Agored. Ystyrir mai dyma'r ffordd fwyaf priodol ymlaen ac mae'n unol â pharagraff 2.29 sy'n nodi na ddylai awdurdodau lleol oedi'r gwaith o baratoi cynlluniau datblygu lleol lle nad oes asesiad ar gael. Yn hytrach, dylent ddefnyddio gwybodaeth sydd wrth law, ac y mae ganddynt xxxxx ynddi.
3.13 Mae paragraff 4.15 o TAN 16 yn nodi y gellir defnyddio amodau a rhwymedigaethau cynllunio i ddarparu mannau agored, chwaraeon a chyfleusterau hamdden er mwyn diogelu a gwella'r darpariaethau presennol a darparu ar gyfer eu rheoli.
3.14 Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (FfDC) - Cymru'r Dyfodol: Cynllun Cenedlaethol 2040 (Chwefror 2021): Mae'r FfDC yn amlinellu sut, wrth i boblogaeth Cymru ddod yn fwyfwy trefol, y bydd y cyfle i sicrhau'r manteision llesiant gorau posibl o seilwaith gwyrdd ar ei fwyaf yn yr ardaloedd hyn ac o'u hamgylch. Gall defnydd arloesol o atebion sy'n seiliedig ar natur ac integreiddio seilwaith gwyrdd mewn ardaloedd trefol ac o'u hamgylch helpu i xxxxx nodweddion a phrosesau naturiol i ddinasoedd a thirweddau.
3.15 Mae'r FfDC yn pwysleisio bod darparu mannau gwyrdd a choridorau o ansawdd uchel sy'n hygyrch yn lleol yn helpu i gynnal a gwella gweithrediad strategol ein hadnoddau naturiol a'n rhwydweithiau ecolegol ac yn mynd i'r afael â lles corfforol a meddyliol. Dangoswyd pwysigrwydd gwirioneddol mannau gwyrdd trefol pan oedd pobl wedi'u cyfyngu i wneud ymarfer xxxxx mewn mannau gwyrdd lleol iawn yn ystod cyfyngiadau symud Covid-19.
3.16 Mae'r FfDC yn nodi bod yn rhaid i awdurdodau lleol gydweithio ac, ynghyd â Cyfoeth Naturiol Cymru a rhanddeiliaid, darparu seilwaith gwyrdd a safleoedd diogelu o fewn a thu hwnt i'w ffiniau gweinyddol. Dylid nodi ardaloedd a ddiogelir ac unrhyw ddyraniadau penodol drwy'r Asesiad Seilwaith Gwyrdd a'u nodi yn y cynllun datblygu perthnasol.
3.17 Cynllun Llesiant Lleol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Pen-y-bont ar Ogwr 2018 – 2023: Mae'r Cynllun Llesiant yn amlinellu sut y bydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio gyda'i gilydd dros y pum mlynedd nesaf i gyflawni'r saith nod llesiant ar gyfer Cymru fel y cyfeirir atynt yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru). Mae'r Cynllun wedi'i lunio o amgylch yr egwyddor datblygu cynaliadwy ac mae'n canolbwyntio ar fynd i'r afael ag achosion sylfaenol problemau a helpu i'w hatal rhag gwaethygu neu ddigwydd yn y dyfodol. Xxxxx, xxx pedwar amcan llesiant wedi'u datblygu, sef:
1. Dechrau gorau mewn bywyd
2. Cefnogi cymunedau yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr i fod yn ddiogel ac yn gydlynus
3. Lleihau anghydraddoldebau cymdeithasol ac economaidd
4. Dewisiadau iach mewn amgylchedd iach
3.18 Mae'r cynllun hwn yn cydnabod pwysigrwydd gwella mannau gwyrdd a'r cyfraniad y gall yr asedau hyn ei wneud i helpu i wella iechyd a lles pobl.
3.19 Cynllun Datblygu Lleol Pen-y-bont ar Ogwr (20 06-2021): Mae CDLl Pen-y-bont ar Ogwr yn nodi polisïau cynllunio defnydd tir y Cyngor hyd at 2021. Mae'r polisïau perthnasol yn cynnwys:
3.20 Polisi COM11 – Darparu Cyfleusterau Hamdden Awyr Agored: mae'n adlewyrchu'r canllawiau a nodir yn TAN 16 a 'Safonau Meincnod' Fields in Trust (FIT). Mae'n ofynnol i ddatblygiadau preswyl newydd gadw at yr isafswm o 2.4 ha o wahanol fathau o fannau chwarae awyr agored fesul 1,000 o'r boblogaeth. Mae Polisïau eraill sy'n arbennig o berthnasol yn cynnwys:
• Polisi Strategol SP13 – Cyfleusterau Cymdeithasol a Chymunedol
• Polisi COM7- Diogelu Cyfleusterau Cymdeithasol a Chymunedol
• Polisi ENV5 - Seilwaith Gwyrdd
• Polisi COM12 - Darparu Caeau Chwarae
• Polisi COM14 - Darparu Rhandiroedd a Rhwydweithiau Bwyd Cymunedol
• Polisi ENV6 - Cadwraeth Natur
4. HAMDDEN CYHOEDDUS A MANNAU AGORED – DIFFINIADAU A SAFONAU
4.1 Xxx xxxxx ofynnol fabwysiedig y Cyngor o 2.4 hectar fesul 1,000 o'r boblogaeth ar gyfer mannau agored, chwaraeon a hamdden yn deillio o 'Safonau Meincnod' gofynnol FIT ar gyfer chwaraeon a chwarae awyr agored. Mae hyn yn adeiladu ar y 'Xxxxx Xxxx Erw' a sefydlwyd yn y 1930au. Dyma'r unig safon genedlaethol a ddarperir ar gyfer chwaraeon awyr agored a mannau chwarae ac xxxxx xxx'n dal i gael ei hargymell fel arfer gorau.
4.2 Mae'r safon FIT yn cynrychioli lefel ofynnol o ddarpariaeth a dylid ei cheisio felly ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae chwaraeon awyr agored a mannau chwarae yn cyfeirio at dir ar gyfer chwaraeon, hamdden a chwarae plant:
4.3 At ddibenion y CDLl a'r CCA hwn, diffinnir cyfleusterau hamdden awyr agored fel a ganlyn:-
4.4 Chwaraeon Awyr Agored – 1.6 Hectar
4.5 Diffinnir Chwaraeon Awyr Agored fel pob ardal sydd wedi'i marcio a'i gosod xxxxx at ddibenion hamdden egnïol ffurfiol. Mae'n cynnwys ardaloedd fel lleiniau, meysydd gwyrdd, cyrtiau, traciau athletau a mannau hyfforddi. Mae hefyd yn cynnwys cyfleusterau sy'n atodol i ddibenion chwaraeon awyr agored fel ystafelloedd newid, toiledau, pafiliynau a thai clwb. Cynhwysir hefyd dir a chyfleusterau sy'n gysylltiedig ag ysgolion os yw'r rhain ar gael i'r gymuned ehangach.
4.6 Man Chwarae i Blant – 0.8 Hectar (yn cynnwys Mannau Chwarae Anffurfiol – 0.55 Hectar a Lle Chwarae i Blant â Chyfarpar – 0.25 Hectar)
4.7 Mae Mannau Chwarae i Blant yn ardaloedd ar gyfer plant a phobl ifanc sydd wedi'u dynodi i ddarparu cyfleoedd penodol ar gyfer chwarae yn yr awyr agored. Gall y rhain gynnwys mannau sy'n cynnwys offer hamdden a mannau glaswelltog i xxxxx xxxx xxx xxxxx hŷn fwynhau gweithgareddau hamdden. At ddibenion Polisi COM11 a'r CDLl, defnyddir safon Fields in Trust o 0.8 hectar fesul 1000 o'r boblogaeth fel safon feincnod o ddarpariaeth.
4.8 Rhandiroedd – 0.2 Hectar
4.9 Cydnabyddir bod rhandiroedd yn cynnig manteision amlswyddogaethol i gymunedau o ran cynaliadwyedd, hamdden a bioamrywiaeth. Maent yn ardaloedd o fannau agored
o fewn ac yn hygyrch i'r amgylchedd trefol a all ddarparu cyfleoedd ymarfer xxxxx cymedrol, ymlacio a chynhyrchu ffrwythau a llysiau ffres. Maent hefyd yn darparu manteision cymunedol, iechyd a chymdeithasol, gan annog rhyngweithio rhwng defnyddwyr o xxx oed, rhoi'r cyfle i addysgu a dysgu, a gwella bioamrywiaeth leol.
4.10 Mannau Gwyrdd Naturiol Hygyrch (gan gynnwys mannau agored cyhoeddus)
4.11 Diffinnir y rhain fel ardaloedd naturiol yn bennaf sy'n cyfrannu at ansawdd bywyd ardaloedd trefol, a lle mae'r ardaloedd hyn yn cynnwys nodweddion fel coetir, llwyni,
rhostir a glaswelltir garw. Maent hefyd yn cynnwys gwlyptiroedd neu ardaloedd
arfordirol a nodweddir gan ddŵr agored, cyrs, twyni tywod neu lannau creigiog.
4.12 Mae CNC yn argymell y dylai'r ddarpariaeth gynnwys o leiaf 2 hectar fesul 1000 o'r boblogaeth yn ôl system o haenau y mae safleoedd o wahanol feintiau yn ffitio iddynt:
• Ni ddylai unrhyw xxxxxx fyw mwy na 300 metr o'i ardal agosaf o fannau gwyrdd naturiol;
• Dylai fod o leiaf un safle 20 hectar hygyrch o fewn 2km o gartref;
• Dylai fod un safle 100 hectar hygyrch o fewn 5km;
• Dylai fod un safle 500 hectar hygyrch o fewn 10km.
4.13 Er y disgwylir i awdurdodau lleol anelu at fodloni'r ddarpariaeth a nodir yn y model uchod, mae'r pecyn cymorth yn cydnabod efallai na fydd hyn yn briodol ym mhob cyd- destun trefol. Felly, dylid defnyddio'r model i lywio polisi ar y cyd â dealltwriaeth o anghenion y gymuned leol a gwerth mannau gwyrdd naturiol hygyrch iddo. Mae'r safon yn cael ei hyrwyddo fel targed uchelgeisiol ar gyfer pennu blaenoriaethau lleol a mesur cynnydd. Yn hyn o xxxx, o ystyried y rhwydwaith helaeth o fannau gwyrdd naturiol hygyrch ledled y Fwrdeistref Xxxxx, xxx'r Cyngor wedi dewis mabwysiadu'r dull na ddylai unrhyw un fyw mwy na 300 metr o'i ardal agosaf o fannau gwyrdd naturiol.
4.14 Gofod Amwynder
4.15 At ddibenion y CCA mae 'gofod amwynder' yn ardaloedd o fannau gwyrdd, a'u prif ddiben yw meddalu'r amgylchedd sy'n gysylltiedig â datblygiadau preswyl gan greu amgylchedd mwy deniadol i breswylwyr a gwella iechyd a lles. Fodd bynnag, gyda dyluniad greddfol, gall gofod amwynder fod â swyddogaeth ddeuol o ran darparu cyfleoedd ar gyfer gwell defnydd hamdden.
5. XXXXXXX MEINCNOD HYGYRCHEDD
5.1 Bydd safonau meincnod hygyrchedd yn cael eu cymhwyso i ddarpariaeth chwaraeon a chwarae awyr agored. Unwaith eto, mae'r safonau hyn yn deillio o ganllawiau FIT ac fe'u pennir yn unol â hynny ar gyfer pob math o ddarpariaeth. Dylid defnyddio'r rhain fel rhai dangosol yn unig, gan nad oes asesiad o rwystrau ffisegol wedi'i gynnal. Serch hynny, maent yn rhoi syniad da o lefel y ddarpariaeth o fewn pellter cerdded i wahanol fathau o gyfleusterau:
Math | Safon hygyrchedd (Pellter mewn metrau) |
Chwaraeon awyr agored | 1,200m |
Man chwarae anffurfiol | 400m |
Man chwarae dynodedig â chyfarpar | 100m o LAP |
400m o LEAP | |
1000m o NEAP | |
Mannau Gwyrdd Naturiol Hygyrch | 300m |
6. ASESU'R DDARPARIAETH O FANNAU CHWARAE YN YR AWYR AGORED
6.1 Mae'r Cyngor wedi cynnal archwiliad o'r ddarpariaeth Chwaraeon Awyr Agored a Mannau Chwarae i Blant (2020) yn y Fwrdeistref Sirol er mwyn cymharu lefel y ddarpariaeth yn fras â'r safon feincnod a gymeradwywyd gan Fields in Trust.
6.2 Mae'r dadansoddiad Is-ardal a gynhwysir yn y ddogfen yn seiliedig ar boblogaeth Cyfrifiad 2011 oherwydd nad oes data poblogaeth mwy diweddar ar gael ar lefel is- Awdurdod Lleol. Felly, dylid ystyried y canfyddiadau'n is nag ydynt go iawn a byddant yn cael eu hadolygu'n rheolaidd. Mae cryn amrywiaeth ar draws y Fwrdeistref Sirol o ran y gwahanol fathau o ddarpariaeth sydd ar gael a'r gwargedau a diffygion cysylltiedig, sef:-
6.3 Lefel Is-ardal
• O ran Lleiniau Chwarae, mae diffygion yn y ddarpariaeth ym mhob Is-ardal ar draws y Fwrdeistref Sirol ar wahân i Bencoed.
• O ran Ardaloedd Chwarae â Chyfarpar / Dynodedig, mae diffygion yn y ddarpariaeth ym mhob Is-ardal.
• Yn yr un xxxx, xxx diffygion ar draws pob Is-ardal mewn perthynas â Darpariaeth Chwaraeon Awyr Agored Arall
• Mae darlun llawer gwell o ran Mannau Gwyrdd ar gyfer Amwynder, gyda phob Is-Ardal yn dangos gwarged "cyffredinol".
6.4 Ni ddylid cymryd yn ganiataol y gellir defnyddio gwarged o un math o ddarpariaeth i wrthbwyso diffyg math arall o ddarpariaeth o fewn Is-ardal. Yn yr un xxxx, xxx'r safonau a ddefnyddir o fewn yr archwiliad yn safonau meincnod ac ni ddylid eu dehongli fel lefelau uchaf y ddarpariaeth. Felly, nid yw nodi gwarged cyffredinol o ddarpariaeth o fewn Is-ardal yn dangos bod angen lleihau'r ddarpariaeth bresennol drwy ail-ddatblygu neu fel arall. Mae mynediad at lu o gyfleusterau hamdden yn hanfodol i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau cymdeithasol o fewn a rhwng gwahanol gymunedau yn y Fwrdeistref Sirol, ac yn rhoi cyfle i bobl fyw bywydau iach, diogel a chytbwys.
6.5 Cyfeirir at ganfyddiadau'r asesiad diweddaraf o gyflwr wrth asesu effaith datblygiad preswyl arfaethedig ar fannau agored cyhoeddus ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Os oes gan xxxx ddigon o ddarpariaeth i fodloni safonau FIT, efallai y bydd yn ofynnol o hyd i ddatblygwyr gyfrannu at fannau chwarae awyr agored os gellir dangos nad yw ansawdd a chyflwr yr ardal chwarae yn bodloni'r safonau ansawdd presennol a fyddai'n cael eu gwaethygu gan gynnydd yn y boblogaeth. Fodd bynnag, bydd cyfraniadau datblygwyr a geisir yn ymwneud â graddfa ac effaith y datblygiad arfaethedig ac ni fydd disgwyl iddynt wrthbwyso'r diffygion presennol yn y ddarpariaeth.
6.6 Rhoddir ystyriaeth hefyd i hygyrchedd y cyfleusterau presennol yn ardal y datblygiad preswyl arfaethedig. Ystyriaethau pwysig wrth ddarparu cyfleusterau digonol a defnyddiadwy i blant yw'r amser cerdded xxx sylw a rhwystrau ffisegol megis priffyrdd. Nid yw plant yn cyfyngu eu harferion chwarae i ffiniau wardiau, felly wrth asesu effaith
datblygiad preswyl arfaethedig, gallai nifer o wardiau yng nghyffiniau cynllun arfaethedig fod yn rhan o'r asesiad o'r ddarpariaeth bresennol.
6.7 Mae asesu mannau chwarae yn yr awyr agored yn ymarfer parhaus i'r Cyngor. Yn hyn o xxxx, gellid ystyried gwybodaeth fwy diweddar sy'n ymwneud â defnydd ac ansawdd y ddarpariaeth bresennol wrth benderfynu ar ofynion mannau chwarae awyr agored pan fydd ar gael. Cynghorir yn gryf y trafodaethau gyda'r Adran Gynllunio yn gynnar yn y broses gynllunio i dynnu sylw at faterion darpariaeth chwarae sy'n ymwneud â lleoliad datblygiad preswyl arfaethedig.
7. CYFRIFO'R GOFYNIAD
7.1 Dylid ceisio darparu xxxxx x xxxxx foddhaol o fannau chwarae awyr agored ar xxx datblygiad tai newydd oherwydd bydd poblogaeth gynyddol yn rhoi pwysau ychwanegol ar gyfleusterau sy'n bodoli eisoes. Felly, ceisir cyfraniad ar gyfer pob datblygiad preswyl newydd.
7.2 Bydd cyfanswm y gofyniad chwarae yn yr awyr agored ar gyfer datblygiad yn cael ei gyfrifo drwy luosi nifer yr anheddau â chyfradd defnydd penodol sy'n berthnasol i xxx xxxxxx. Nifer yr ystafelloedd gwely sydd gan annedd fydd yn pennu'r gyfradd defnydd fwyaf priodol. Y lefelau defnydd cyfartalog a ddefnyddir gan y Cyngor at ddibenion y CCA yw:
Math o Aelwyd Defnydd Cyfartalog | |
Tŷ 1 ystafell wely | 1.5 person |
Tŷ 2 ystafell wely | 2 xxxxxx |
Xx 3 ystafell wely | 2.5 person |
Tŷ 4 ystafell wely | 3 xxxxxxx |
Xx 5+ ystafell wely | 4 person |
7.3 Gellir rhannu 'Safon Meincnod' FIT o 2.4 ha fesul 1,000 o'r boblogaeth i xxxx i ofyniad metr sgwâr fesul person fel a ganlyn:
Safon FIT | |
Man chwarae dynodedig â chyfarpar | 0.25 ha fesul 1,000 o’r boblogaeth = 2.5m2 y pen |
Man chwarae anffurfiol | 0.55 ha fesul 1,000 o’r boblogaeth = 5.5m2 y pen |
Chwaraeon awyr agored (ffurfiol) | 1.6 ha fesul 1,000 o’r boblogaeth = 16m2 y pen |
7.4 Yna gellir asesu'r boblogaeth ddatblygu amcangyfrifedig yn erbyn y safon FIT i gyfrifo'r swm gofynnol o le chwarae awyr agored sy'n berthnasol i'r datblygiad.
Enghraifft wedi'i chyfrifo
Byddai datblygiad o 50 o dai tair ystafell wely yn rhoi poblogaeth ddatblygu o 50 x
2.5 (yn seiliedig ar gyfraddau defnydd cyfartalog) = 125. Xxxxx, y gofynion o ran mannau chwarae y tu xxxxx fyddai:
Man chwarae dynodedig 125 x 2.5m2 = 312.5 m2 Gofod chwarae anffurfiol 125 x 5.5m2 = 687.5 m2
Chwaraeon awyr agored (ffurfiol) 125 x 16m2 = 2000 m2
Cyfanswm y ddarpariaeth = 3000 m2
7.5 Felly, y canllaw i lefel y ddarpariaeth sy'n ofynnol yn dibynnu ar y boblogaeth ddatblygu amcangyfrifedig yw:
Poblogaeth Datblygu | Lle chwarae â chyfarpar (m2) | Man chwarae anffurfiol (m2) | Chwaraeon awyr agored (m2) | Cyfanswm y ddarpariaeth ddatblygu (m2) |
50 | 125 | 275 | 800 | 1200 |
100 | 250 | 550 | 1600 | 2400 |
200 | 500 | 1100 | 3200 | 4800 |
500 | 1250 | 2750 | 8000 | 12000 |
7.6 Bydd y math o le chwarae â chyfarpar a ystyrir yn dderbyniol gan y Cyngor yn cael ei farnu fesul safle. Fodd bynnag, nodir mai'r math o chwarae â chyfarpar sy'n debygol o fod yn ofynnol yn seiliedig ar faint y boblogaeth ddatblygu yw:
Poblogaeth Lle chwarae â chyfarpar Math o chwarae â datblygu (m2) chyfarpar | ||
100 | 250 | Ardal Leol ar gyfer Chwarae |
150 | 375 | Ardal Chwarae â Chyfarpar Lleol |
250 | 625 | Ardal Leol ar gyfer Chwarae ac Ardal Chwarae â Chyfarpar Lleol |
350 | 875 | Ardal Chwarae Yn y Gymdogaeth |
7.7 Rhaid i'r ddarpariaeth o fannau chwarae yn yr awyr agored ar ddatblygiadau tai newydd adlewyrchu gofynion meddianwyr y dyfodol a nodweddion penodol y safle. Penderfynir ar union ffurf a math y man agored o ran natur a maint y datblygiad a chyfleusterau sydd ar gael yn yr ardal leol.
7.8 Mewn rhai amgylchiadau, gallai amrywiad o'r ddarpariaeth arferol o fannau agored hamdden fod yn fwy priodol. Bydd y Cyngor yn mabwysiadu dull hyblyg o ymdrin â lefel a math y ddarpariaeth mannau agored a geisir ar ddatblygiad er mwyn adlewyrchu nodweddion poblogaeth tebygol y datblygiad. Ar gyfer safleoedd o 10 annedd xxx xxx, efallai na fydd yn ymarferol darparu'r ddarpariaeth ar y safle. Ar y sail hon, gellir ystyried cyfraniad ariannol yn lle darpariaeth ar y safle. Caiff hyn ei wario xxxxx xx o'r ardaloedd presennol o fannau agored cyhoeddus neu lwybrau Teithio Llesol o'r safle datblygu i'r ardal agosaf o fannau agored cyhoeddus.
7.9 Gall datblygiadau preswyl mawr sylweddol fod yn destun briffiau datblygu a fydd yn nodi swm, math a lleoliad dewisol mannau agored.
7.10 Ystyrir bod y gofyniad am hamdden awyr agored a mannau agored cyhoeddus yn rhan hanfodol o unrhyw gynllun tai ac yn gyffredinol dylid ei ddarparu fel rhan o ddatblygiad tai newydd. Fodd bynnag, mae'r Cyngor yn cydnabod y gall fod amgylchiadau lle mae rhwymedigaethau cynllunio eraill e.e. gwelliannau priffyrdd neu ddarpariaeth addysg
yn cael blaenoriaeth dros hamdden awyr agored a mannau agored cyhoeddus. Felly, efallai y bydd angen pennu blaenoriaeth gymharol gwahanol fathau o ddarpariaeth yng nghyd-destun yr amgylchiadau unigol a'r amcanion cynllunio o'u cymharu â phob cynnig datblygu.
7.11 Y Dull Seilwaith Gwyrdd
7.12 Mae Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr wrthi'n mynd ar drywydd ei agenda i fabwysiadu dull seilwaith gwyrdd o ddatblygu. Dylid hefyd archwilio cyfleoedd i greu mannau amlswyddogaethol a chysylltiadau â'r rhwydwaith seilwaith gwyrdd ehangach yn unol â gofynion SPG19 'Bioamrywiaeth a Datblygu'. Xxx xxx fannau agored sy'n cyfrannu at safonau FIT botensial hefyd i gyfrannu at fathau eraill o fannau agored, megis Mannau Gwyrdd Naturiol Hygyrch yn ogystal â bod o fudd i'r amgylchedd ac iechyd a lles yn fwy cyffredinol. Wrth gynllunio cynlluniau datblygu, dylai datblygwyr geisio cyfrannu at wella hygyrchedd a natur naturiol mannau agored a chwilio am gyfleoedd i greu neu gyfrannu at goridorau mannau gwyrdd.
8. MAN CHWARAE AWYR AGORED – GOFYNION CYFFREDINOL
8.1 Yn y rhan fwyaf o achosion, dylai'r ddarpariaeth barhau i gael ei gwneud ar y safle fel rhan annatod o'r datblygiad; dylai fod yn gysylltiedig iawn â'r eiddo preswyl arfaethedig xx x xxxx priodol i ddiwallu anghenion y datblygiad.
8.2 Ni fydd y Cyngor xxxxxxx yn derbyn safleoedd poced, stribedi bach o dir neu safleoedd xxxxxx i'w mabwysiadu gan mai anaml iawn y bydd gan y rhain fudd sylweddol i'r cyhoedd neu'n rhan o gynllun strategol ehangach. Mae'n hanfodol yn ystod cam cynllunio y datblygiad na chaiff y safleoedd hyn eu cynnwys yn y cynllun. Fel arall, gallai dyluniad a chynllun gysylltu cyfres o fannau sy'n cysylltu o fewn darpariaeth gyfagos oddi ar y safle neu â hi, a fyddai'n cael eu ystyried yn ddatblygiad cadarnhaol ac y gellid cytuno arni i'w mabwysiadu. Mae tir sydd â statws gwarchodedig, er enghraifft Henebion Cofrestredig, coetiroedd â Gorchymyn Cadw Coed neu Safleoedd Cawraeth Natur o Bwys hefyd yn cael eu hystyried yn anaddas i'w dynodi'n fan chwarae ffurfiol â chyfarpar o fewn datblygiad pe bai defnydd o'r fath yn cael niwed amlwg ar ei brif swyddogaeth. Yn ogystal â hyn, ni ellir ystyried ardaloedd sydd â swyddogaeth ar wahân, e.e. cronbyllau, ardaloedd arafu llifogydd neu nodweddion eraill wedi'u peiriannu, ar gyfer darpariaeth chwarae ffurfiol oni ellir gwarantu ei defnydd fel y cyfryw yn rhesymol drwy gydol y flwyddyn.
8.3 Mae'r dull mwyaf priodol o ddarparu pob math o le chwarae awyr agored wedi'i nodi isod gydag egwyddorion dylunio ychwanegol wedi'u nodi yn Atodiad 1.
8.4 Man Chwarae i Blant
8.5 Mae hyn yn cynnwys mannau chwarae i blant â chyfarpar ac amgaeedig a mannau glaswelltog agored sy'n addas ar gyfer gemau pêl a mathau eraill o chwarae achlysurol. Nid yw'n cynnwys lleiniau ffurfiol a darpariaeth chwaraeon arall, gofod amwynder neu dirlunio a ddarperir ar y safle. Pryd bynnag y bo'n bosibl, dylid darparu cyfleusterau i blant o fewn pellter cerdded hawdd i ardaloedd tai cysylltiedig, sydd yn hawdd eu cyrraedd o'r tai y maent yn eu gwasanaethu, heb fod angen croesi rhwystrau fel ffyrdd mawr a dylid eu lleoli er mwyn osgoi neu leihau aflonyddwch i'r preswylwyr presennol neu ddarpar breswylwyr cyfagos. Ar gyfer safleoedd tai, dylid gwneud pob ymdrech i ddarparu man chwarae i blant ar y safle, yn enwedig ar gyfer anghenion plant ifanc iawn.
8.6 Mae'r canllawiau FIT yn diffinio tri math o ardal chwarae i blant â chyfarpar, y safonau dylunio gofynnol a nodweddion mannau chwarae a:
• Ardal Chwarae Leol (LAP) – ardal fechan o fannau agored heb oruchwyliaeth sydd wedi'u dynodi'n benodol ar gyfer plant ifanc ar gyfer gweithgareddau chwarae yn agos i'r man lle maent yn byw.
• Ardal Chwarae â Chyfarpar Lleol (LEAP) – ardal chwarae heb oruchwyliaeth sydd wedi'i chyfarparu ar gyfer plant o oedran ysgol cynnar.
• Ardal Chwarae Cymdogaeth (NEAP) – safle heb oruchwyliaeth sy'n gwasanaethu ardal breswyl sylweddol, wedi'i gyfarparu'n bennaf ar gyfer plant hŷn gyda chyfleoedd i chwarae i blant iau.
8.7 Mae lle chwarae achlysurol wedi'i gynnwys yn y gofyniad am le chwarae i'r plant. Fe'i diffinnir fel man agored o faint defnyddiol a lleoliad diogel sy'n darparu cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau chwarae anffurfiol. Byddai mannau agored glaswelltog mewn ardal dai gyda gwahaniad digonol yn cydymffurfio â'r diffiniad. Er mwyn bod yn ardal resymol i'w defnyddio gan blant hŷn, dylai lle chwarae achlysurol fod o leiaf 0.05 ha (0.12 erw), ond o leiaf 0.1 ha (0.25 erw) os oes modd.
8.8 Cyfleusterau Chwaraeon
8.9 Mae'r rhain yn cynnwys caeau chwarae, cyrtiau tenis a chyfleusterau eraill ar gyfer chwaraeon wedi'u trefnu. Dim ond mewn datblygiadau mawr y gellir darparu cyfleusterau chwarae fel caeau chwarae yn rhesymol. Mewn rhai achosion, gellir darparu caeau chwarae yn fwy priodol ar y cyd â chaeau chwarae presennol neu arfaethedig neu wedi'u lleoli'n agos atynt. Cyn belled ag y xx xxxx, dylai lleoliadau o'r fath oddi ar y safle fod wedi'u cysylltu'n dda â'r datblygiad preswyl sy'n creu'r angen amdano h.y. drwy ddefnyddio llwybrau beicio, ffyrdd cerdded a chyfleusterau trafnidiaeth gyhoeddus. Fodd bynnag, o ystyried maint cyfleusterau o'r fath, nid yw'n anghyffredin i gyfleusterau chwaraeon ieuenctid/oedolion wasanaethu nifer o wardiau ac felly eu lleoli mewn xxxx wahanol i'r datblygiad.
8.10 Bydd disgwyl i ddatblygwyr ddarparu arwynebedd glaswellt/arwyneb artiffisial o faint, graddiant a chyflwr addas i fodloni rheoliadau cyrff llywodraethu penodol chwaraeon. Rhaid i'r maint ganiatáu digon o le o'i gwmpas ar gyfer chwarae chwaraeon yn ddiogel a diogelwch y cyhoedd a'r eiddo sy'n gyfagos i'r arwyneb chwarae.
8.11 Efallai y bydd angen ystafelloedd newid/pafiliwn ar y cyd â'r ardal chwaraeon. Bydd y ddarpariaeth hon yn amrywio yn dibynnu ar faint yr ardal chwaraeon a'r chwaraeon y darperir ar eu cyfer. Mae cyfleusterau eraill sy'n gysylltiedig â darparu mannau chwarae ffurfiol yn cynnwys mannau parcio ffurfiol y gallai fod eu xxxxxx yn benodol ar gyfer defnyddwyr y cyfleuster er mwyn peidio ag achosi anghyfleustra i drigolion lleol. Dylid cynllunio llifoleuadau yn ofalus er mwyn osgoi effeithio ar yr ardal o’u cwmpas ac ni ddylent ymyrryd ag amwynderau preswylwyr sy'n agos at y cyfleuster. Anogir datblygwyr i drafod datblygiadau preswyl yn gynnar er mwyn sicrhau y darperir darpariaeth briodol i'r safon ofynnol.
8.12 Rhandiroedd
8.13 Cydnabyddir bod rhandiroedd yn cynnig manteision amlswyddogaethol i gymunedau o ran cynaliadwyedd, hamdden a bioamrywiaeth. Maent yn ardaloedd o fannau agored
o fewn ac yn hygyrch i'r amgylchedd trefol a all ddarparu cyfleoedd ymarfer xxxxx cymedrol, ymlacio a chynhyrchu ffrwythau a llysiau ffres. Maent hefyd yn darparu manteision cymunedol, iechyd a chymdeithasol, gan annog rhyngweithio rhwng defnyddwyr o xxx oed, rhoi'r cyfle i addysgu a dysgu, a gwella bioamrywiaeth leol.
8.14 Mannau Gwyrdd Naturiol Hygyrch
8.15 Lle nad oes gofyniad i ddatblygiad gyfrannu at chwaraeon awyr agored, lle chwarae i blant a/neu ddarpariaeth rhandiroedd ac nad oes pwynt mynediad i ardal o fannau gwyrdd naturiol hygyrch o fewn 300 metr i'r safle datblygu, bydd y Cyngor yn disgwyl i'r datblygwr greu pwynt mynediad neu ddarparu cyfraniad priodol tuag at greu pwynt mynediad.
8.16 Os yw datblygiad o fewn 300 metr i ardal o fannau gwyrdd naturiol hygyrch, ond lle mae'r mynediad o safon annerbyniol, bydd y Cyngor yn disgwyl cyfraniad priodol tuag at uwchraddio'r pwynt mynediad hwnnw.
8.17 Lle nad yw'n bosibl creu neu uwchraddio pwynt mynediad, bydd y Cyngor yn disgwyl creu mannau gwyrdd naturiol o fewn y cynnig datblygu neu gyfraniad cyfatebol tuag at uwchraddio cyfleuster hamdden sy'n bodoli eisoes i wella ei natur naturiol.
8.18 Xxx Xxxxxx COM11 o'r CDLl yn nodi na ddylai unrhyw un fyw mwy na 300 metr o'i ardal agosaf o fannau gwyrdd naturiol hygyrch.
8.19 Er bod y Cyngor yn cydnabod pwysigrwydd mynediad i fannau gwyrdd naturiol, ystyrir y byddai'r rhai a fyddai'n gyffredinol yn defnyddio'r lle hwn o oedran lle gallent deithio'n rhesymol y tu hwnt i'r 300 metr a ffefrir, a ystyrir yn sefyllfa ddelfrydol yn hytrach nag anghenraid. I'r gwrthwyneb, mae'r rhai a fyddai'n dibynnu ar gyfleusterau hamdden fel meysydd chwarae a rhandiroedd yn llai tebygol o allu teithio'n bellach ac felly rhoddir blaenoriaeth i'r rhain ar hyn x xxxx.
8.20 Er gwaethaf yr uchod, lle nad oes gofyniad am chwaraeon awyr agored, cyfleusterau chwarae plant neu randiroedd xxxxx xx oherwydd gwarged a nodwyd yn y cyfleusterau hynny neu lle ystyrir bod yr angen i gael mynediad i fannau gwyrdd naturiol yn drech na'r angen am gyfleusterau amgen, bydd y Cyngor yn gofyn am y cyfraniadau mwyaf posibl tuag at ddarpariaeth mannau gwyrdd naturiol hygyrch.
9. OPSIYNAU RHEOLI A CHYNNAL A CHADW
9.1 Bydd y Cyngor yn mabwysiadu ac yn cynnal tir fel man agored cyhoeddus mewn ardaloedd preswyl, lle mae prif swyddogaeth y tir hwnnw yn fan agored cyhoeddus. Bydd hyn yn amodol ar y tir yn cyflawni un neu fwy o'r meini prawf canlynol drwy:
• Sicrhau iechyd a diogelwch y cyhoedd;
• Galluogi neu gefnogi swyddogaeth chwaraeon neu hamdden;
• Darparu diogelwch amgylcheddol neu wella tirwedd strategol a gweledol
9.2 Ni fydd yr awdurdod lleol yn mabwysiadu o xxx y pennawd mannau chwarae awyr agored, cyfarpar neu strwythurau gan gynnwys eu hardaloedd arwyneb a'u parthau pellter diogel sydd â phrif swyddogaeth nad yw'n fan agored. Mae hyn yn cynnwys mannau agored achlysurol sy'n gysylltiedig â gosodiadau tanddaearol a nodweddion peirianneg, celloedd dŵr stormydd, cronbyllau a thirffurf ar gyfer draenio dŵr stormydd. Bydd y Cyngor yn ystyried mabwysiadu Systemau Draenio Cynaliadwy (SuDS) fel rhan o'r system ddraenio yn ei rôl fel Xxxxx Cymeradwyo SuDS ac yn unol â darpariaethau Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010.
9.3 Gellir ystyried mabwysiadu tir sydd â rhwymedigaethau hanesyddol posibl sy'n gysylltiedig â defnydd blaenorol, megis tir halogedig, ac sy'n cael ei gynnig fel man agored cyhoeddus. Bydd angen i unrhyw gais o'r fath o fewn safle datblygu gael ei ategu gan asesiad diduedd yn seiliedig ar ei ddefnydd hirdymor arfaethedig fel man agored. Bydd pob cais yn destun asesiadau risg ar wahân i’w rwymedigaethau hanesyddol mewn perthynas â'r defnydd arfaethedig fel man agored.
9.4 Bydd pob safle o le chwarae awyr agored posibl yn cael ei ystyried yn ôl ei deilyngdod ei hun fesul achos. Dylid cynnal trafodaethau llawn ar ba dir a allai fod yn gymwys i'w fabwysiadu yn gynnar yn y broses ddatblygu. Cynghorir y dylid archwilio'r mabwysiadu arfaethedig yn llawn gyda'r swyddogion perthnasol cyn cyflwyno cais am ganiatâd cynllunio.
9.5 Bydd mabwysiadu tir xxx amser yn amodol ar daliad gan ddatblygwr swm gohiriedig i dalu am gostau cynnal a chadw yn y dyfodol. Mae'r swm gohiriedig ar gyfer gwaith cynnal a chadw yn daladwy wrth drosglwyddo'r tir. Cyfrifir y ffigur gan ddefnyddio ffigurau cyfredol y contract ar gyfer cynnal y mannau agored wedi'u lluosi i sefydlu ffigur cynnal a chadw 25 mlynedd (gan ganiatáu ar gyfer chwyddiant prisiau'r contract). Pan fydd datblygwyr yn gwneud cyfraniad ariannol yn lle cyfleusterau ar y safle, ceisir swm gohiriedig yn seiliedig ar y gost gyfatebol o ddarparu'r cyfleuster gofynnol ar y safle. Amlinellir costau capasiti maint nodweddiadol yn Atodiad 3.
9.6 Bydd caniatâd cynllunio ar gyfer datblygu yn amodol ar gytundeb cyfreithiol a fydd yn cynnwys yr xxxx fanylion uchod, a bydd symiau gohiriedig yn y cytundebau hyn yn gysylltiedig â mynegai o'r dyddiad y llofnodir y cytundeb.
9.7 Mae pob cytundeb S106 yn rhedeg gyda'r tir xxxxx xxx olynwyr y teitl yn y dyfodol yn wedi'u rhwymo gan y rhwymedigaethau.
10. CYFRANIADAU ARIANNOL YN LLE DARPARIAETH AR Y SAFLE
10.1 Lle bynnag y xx xxxx, dylid darparu mannau agored cyhoeddus o fewn ffiniau'r safle datblygu fel rhan annatod o'r datblygiad. Fodd bynnag, efallai y bydd amgylchiadau lle nad yw'n bosibl neu'n briodol darparu ar gyfer y man agored gofynnol o fewn y safle datblygu (x.x. xxxx y safle fod yn rhy fach neu amhriodol i ddarparu ar gyfer y categori mannau agored penodol). Yn yr achosion hyn, bydd y Cyngor yn derbyn taliad cymudo yn lle darpariaeth gorfforol. Bydd y trefniant hwn yn ei gwneud yn ofynnol i ddatblygwyr wneud cyfraniadau ariannol at ddarparu gweithgareddau hamdden awyr agored a mannau agored cyhoeddus oddi ar y safle, neu wella'r cyfleusterau hamdden awyr agored presennol yn lle darpariaeth ar y safle.
10.2 Cyfraniadau Ariannol
10.3 Cyfrifir y cyfraniad sy'n daladwy yn unol â'r costau cyfredol fesul metr sgwâr o ddarparu'r gwahanol gategorïau o fannau agored a gynhyrchir gan y datblygiad. Mae'r cyfrifiadau taliadau gohiriedig yn seiliedig ar y gost gyfatebol o ddarparu'r cyfleuster gofynnol ar y safle, sydd wedi'u datblygu o gyfraddau cyfredol contractau wedi'u tendro gan y Cyngor. Caiff y ffigurau hyn eu hadolygu'n flynyddol er mwyn ystyried amgylchiadau sy'n newid mewn perthynas â chostau. Gall union lefel y cyfraniadau gan ddatblygwyr amrywio o'r ffigurau a ddangosir i ystyried nodweddion safleoedd unigol. Nodir y costau presennol yn Atodiad 3.
11. GWEINYDDU'R POLISI
11.1 Gweithredir y CCA drwy nifer o weithdrefnau sydd fel a ganlyn yn fras:
11.2 Cam Cyn Ymgeisio
11.3 Cynghorir darpar ymgeiswyr am ddatblygiadau tai yn gryf i gysylltu ag Adran Gynllunio'r Cyngor cyn cyflwyno cais cynllunio. Ymhlith materion eraill, bydd hyn yn galluogi swyddog o'r adran Rheoli Datblygu i gysylltu â Meysydd Gwasanaeth eraill i amlinellu gofynion y Cyngor mewn perthynas â man hamdden awyr agored a chyfraniadau S106 eraill. Mae hyn er mwyn sicrhau bod unrhyw gostau sy'n gysylltiedig â darparu cyfleusterau hamdden awyr agored yn cael eu hamlygu cyn, neu yn ystod, ymarfer gwerthuso safle cychwynnol y datblygwr.
11.4 Cam Ymgeisio
11.5 Os na chynhelir trafodaethau cyn ymgeisio, bydd angen i ymgeiswyr am ddatblygiadau tai sicrhau bod y ddarpariaeth o gyfleusterau hamdden awyr agored yn cyd-fynd â'r gofynion a nodir yn y CCA hwn. Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd ymrwymo i gytundeb cyfreithiol Adran 106 gyda'r Cyngor i sicrhau bod cyfraniad yn cael ei wneud tuag at fannau agored a gweithgareddau hamdden awyr agored. Bydd cytundeb cyfreithiol drafft yn cael ei anfon at yr ymgeisydd i'w ystyried.
11.6 Ceisiadau Amlinellol
11.7 Yn achos ceisiadau am ganiatâd cynllunio amlinellol, bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd lunio cytundeb cyfreithiol gyda'r Cyngor o xxx Xxxxx 106 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. Yn y rhan fwyaf o achosion, ni fydd manylion am swm a math y cyfleusterau hamdden awyr agored neu lefel y symiau gohiriedig ar gyfer y datblygiad preswyl arfaethedig yn hysbys ar hyn x xxxx. Bydd y Cyngor yn sicrhau bod y cyfraniad cywir yn dod i law pan gyflwynir mwy o fanylion gyda'r cais i gymeradwyo materion a gadwyd yn ôl.
11.8 Cytundebau Adran 106
11.9 Cylchlythyr y Swyddfa Gymreig 13/97 Mae 'Rhwymedigaethau Cynllunio' yn cymeradwyo'r defnydd o rwymedigaethau cynllunio drwy ddweud y xxxxxxx fod â rôl gadarnhaol i'w chwarae yn y system gynllunio a'u bod yn gallu helpu i wella ansawdd y datblygiad. Mae'r Cylchlythyr yn cynghori pe bai datblygiad arfaethedig yn creu angen am gyfleusterau penodol, yna mae'n briodol disgwyl i ddatblygwyr gyfrannu at gost eu darpariaeth. Dylai graddau'r hyn a geisir neu a gynigir fod yn weddol gysylltiedig o ran maint a math â’r datblygiad arfaethedig, yn ogystal â bod yn rhesymol ym mhob agwedd arall
11.10 Adran 106 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref (TCPA) 1990, fel y'i diwygiwyd gan Adran 12 o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991, a Rheoliadau Ardoll Seilwaith Cymunedol 2010 (fel y'i diwygiwyd), yw'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer rhwymedigaethau cynllunio. Rhaid i unrhyw rwymedigaeth fodloni'r tri phrawf canlynol:
1) Angenrheidiol i wneud y datblygiad yn dderbyniol o ran cynllunio;
2) Yn uniongyrchol gysylltiedig â'r datblygiad; ac
3) Yn weddol ac yn rhesymol gysylltiedig o ran graddfa a math â'r datblygiad.
11.11 At hynny, dylid nodi bod Rheoliadau'r Ardoll Seilwaith Cymunedol (Rheoliad 123) yn cyfyngu ar gyfuno cyfraniadau S106. Mae rheoliad 123 yn nodi na all rhwymedigaeth Adran 106 fod yn rheswm dros roi caniatâd cynllunio os oes pump neu fwy o rwymedigaethau cynllunio ar wahân eisoes yn bodoli ar gyfer un prosiect seilwaith penodol (a wnaed ers 6 Ebrill 2010). Mae'r Cyngor yn cadw'r cofnodion diweddaraf o'r xxxx gytundebau Adran 106 a gofnodwyd ar y Gofrestr Gynllunio. Mewn trafodaethau gyda datblygwyr, bydd y Cyngor yn ystyried a yw'r cyfyngiad cyfuno yn berthnasol ac yn ceisio sicrhau y gellir lliniaru'r datblygiad yn briodol drwy rwymedigaethau cynllunio, gan sicrhau nad yw'r cyfyngiad cyfuno yn cael xx xxxxx. Os na all datblygiad ddarparu seilwaith priodol oherwydd y cyfyngiad cyfuno, gallai hyn ei gwneud yn annerbyniol o ran cynllunio.
11.12 O ystyried yr ansicrwydd ynghylch dyfodol Rheoliadau Ardoll Seilwaith Cymunedol 2010 (fel y'i diwygiwyd) a'r pwerau datganoledig a etifeddodd Llywodraeth Cymru i addasu'r is-ddeddfwriaeth bresennol ym mis Ebrill 2018, mae'r Cyngor wedi cytuno y bydd cynnydd ar yr Ardoll Seilwaith Cymunedol yn cael ei gadw heb ei benderfynu nes bod cyfarwyddyd clir yn dod gan Lywodraeth Cymru. Yn y cyfamser, bydd y Cyngor yn parhau i ddefnyddio rhwymedigaethau cynllunio a sicrhawyd drwy gytundebau Adran 106 i sicrhau'r seilwaith angenrheidiol.
11.13 Trafodaethau gyda Datblygwyr
11.14 Bydd trafodaethau gyda datblygwyr ar gytundebau cynllunio yn cynnwys:
• y prosiect(au) y gellir defnyddio eu cyfraniadau ar eu cyfer;
• amseriad talu cyfraniadau y cytunwyd arnynt (ar safleoedd mawr gellir cyflwyno taliadau fesul cam drwy gytundeb â'r awdurdod);
• pryd y caiff cyfraniadau eu gwario (bydd hyn fel arfer o fewn 5 mlynedd i dderbyn y taliad terfynol)
11.15 Hyfywedd
11.16 Gall rhai cynigion fod yn gymwys i gael gostyngiad xxx xxx o gyfraniadau os gellir profi y bydd gwerth y cyfraniad sy'n ofynnol yn peryglu hyfywedd cynnig. Disgwylir y bydd datblygwyr/perchnogion yn cefnogi dull 'llyfr agored' o drafod, er mwyn sicrhau rhwymedigaethau cynllunio ar lefelau priodol i liniaru effaith y datblygiad, gan sicrhau bod y datblygiad yn parhau'n hyfyw. Bydd unrhyw wybodaeth ariannol a ddarperir gan ddatblygwr fel rhan o'r broses 'llyfr agored' hon yn cael ei hystyried yn gyfrinachol.
11.17 Bydd y Cyngor yn craffu ar xxx arfarniad ariannol 'llyfr agored', a allai arwain at ofyn cwestiynau ychwanegol i'r ymgeisydd. Bydd disgwyl i ddatblygwyr brofi i'r Cyngor nad yw cynllun yn hyfyw yn ariannol. Os nad yw'r partïon yn gallu cytuno, neu drwy gytundeb ar y cyd ymlaen llaw, bydd y Cyngor yn cyfarwyddo'r Prisiwr Dosbarth i gynnal asesiad annibynnol o hyfywedd y cynllun. Telir am benodiad y Prisiwr Dosbarth gan yr ymgeisydd/perchennog/datblygwr. Dylai'r ddau xxxxx dderbyn penderfyniad y Prisiwr Dosbarth ar hyfywedd. Fodd bynnag, ni fyddai'r Prisiwr Dosbarth yn gweithredu
fel cymrodeddwr. Yr Awdurdod Lleol a'r tirfeddiannwr, yr ymgeisydd a/neu'r datblygwr sy'n gyfrifol o hyd am ddatrys yr anghydfod.
11.18 Xxxx bynnag fo canlyniad arfarniad hyfywedd, efallai y bydd angen i'r Cyngor sicrhau lefel benodol o gyfraniadau gan ddatblygwyr, er mwyn lliniaru effaith y datblygiad. Gallai amgylchiadau o'r fath fod lle byddai methu â gwneud rhywfaint o ddarpariaeth ar gyfer rhai eitemau seilwaith yn gwneud y datblygiad yn annerbyniol o ran cynllunio, yn groes i bolisi ac yn faich annerbyniol. Caiff hyn ei asesu fesul achos. Mewn amgylchiadau o'r fath, gallai methu â sicrhau'r cyfraniadau, y bernir eu bod yn angenrheidiol i gefnogi'r cynnig, arwain at argymhelliad i wrthod.
11.19 Penderfyniadau Xxxx Cynllunio
11.20 Os gwneir xxxx am resymau ac eithrio elfen mannau agored y cais, dylai'r ymgeisydd sicrhau bod Ymgymeriad Unochrog wedi'i eirio'n briodol yn cael ei lofnodi cyn penderfynu ar unrhyw xxxx, i wneud darpariaeth ar gyfer mannau chwarae awyr agored. Byddai methu â darparu ymgymeriad o'r fath yn debygol o arwain at y Cyngor yn gwrthwynebu ar sail mannau agored mewn xxxx.
11.21 Dyddiad Cyflwyno
11.22 Bydd y canllawiau ar fannau agored cyhoeddus a nodir yn y ddogfen hon yn cael eu cymhwyso i geisiadau cynllunio a gyflwynir ar neu ar ôl y dyddiad y caiff y CCA ei fabwysiadu'n ffurfiol . Ni fydd yn gymwys i geisiadau am faterion a gadwyd yn ôl na chaniatâd cynllunio amlinellol a roddwyd cyn y dyddiad hwnnw. Fodd bynnag, bydd caniatadau sy'n bodoli cyn i'r ddogfen CCA gael ei mabwysiadu yn dod o fewn ei thelerau a'i hamodau pe bai cais i'w adnewyddu yn cael ei gyflwyno. Bydd y CCA yn ystyriaeth berthnasol a chaiff ei hystyried wrth benderfynu ar geisiadau o'r fath.
ATODIAD 1 - Egwyddorion Dylunio Cyffredinol
Mae canllawiau FIT yn nodi'r egwyddorion cyffredinol canlynol ar gyfer mannau chwarae i blant fel a ganlyn:
• Priodol i anghenion y gymuned leol.
• Yn hygyrch i xxx plentyn o fewn yr amser cerdded priodol ar gyfer LAP, LEAP a NEAP.
• Yn hygyrch heb orfod croesi priffyrdd, rheilffyrdd na dyfrffyrdd.
• Wedi'u lleoli mewn lleoliadau agored a chroesawgar.
• Wedi'u gwahanu oddi wrth ardaloedd lle mae llawer iawn o gerbydau yn symud ynddynt ac yn hygyrch yn uniongyrchol o lwybrau i gerddwyr.
• Wedi'u lleoli ar dir o dopograffeg naturiol neu ar dir y gellir ei dirlunio ar gyfer y math o brofiadau chwarae a fwriedir.
• Cynlluniwyd yn unol â gofynion Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995.
• Wedi'u cynllunio fel bod unrhyw strwythurau dringo uchel mor xxxx xx y xx xxxx o anheddau cyfagos a bod unrhyw ymyrraeth weledol bosibl yn cael ei lleihau.
• Integredig, cyn belled ag y xx xxxx, â mannau agored eraill ac ardaloedd o blannu amwynderau i wahanu oddi wrth anheddau cyfagos a chyfrannu at rwydwaith o goridorau gwyrdd.
• Archwilio cyfleoedd i greu mannau amlswyddogaethol lle bo hynny'n ymarferol, gan sicrhau bod y prif gategori FIT yn cael ei gynnal.
• Yn weladwy o anheddau cyfagos neu lwybrau i gerddwyr a ddefnyddir llawer.
• Yn hygyrch ar lwybrau troed gydag arwyneb cadarn.
• Ag arwyneb sy'n gweddu i ddwysedd y defnydd.
• Wedi'i ddarparu gyda seddau ar gyfer oedolion, gofalwyr a brodyr a chwiorydd sy'n mynd gyda nhw.
• Wedi'i gynllunio i ddarparu profiad chwarae ysgogol a heriol a all gynnwys offer a nodweddion eraill sy'n darparu cyfleoedd ar gyfer cydbwyso, siglo, dringo, gweithgaredd uwchben, llithro, siglo, neidio, cropian, cylchdroi, chwarae dychmygus, chwarae cymdeithasol, chwarae gyda deunyddiau naturiol fel tywod a dŵr, gemau pêl, mannau ar gyfer olwynion neu weithgareddau eraill.
ATODIAD 2 - Prif Nodweddion Mannau Chwarae Plant – canllawiau cyffredinol
LAP | LEAP | NEAP | |
Grŵp Oedran | Plant hyd at 6 oed yn bennaf | Plant yn dechrau mynd xxxxx a chwarae'n annibynnol | Plant hŷn yn bennaf sy’n gymharol annibynnol |
Amser Cerdded | O fewn 1 munud i'r cartref | O fewn 5 munud i'r cartref | O fewn 15 munud i'r cartref |
Lleoliad | Wrth ymyl llwybr i gerddwyr a ddefnyddir yn aml | Wrth ymyl llwybr i gerddwyr a ddefnyddir yn aml | Wrth ymyl llwybr i gerddwyr a ddefnyddir yn aml |
Nodweddion | Glaswellt gweddol wastad, sy’n draenio'n dda neu arwyneb caled | Glaswellt gweddol wastad, sy’n draenio'n dda neu arwyneb caled ag arwynebau amsugno clec o xxx yr offer | Glaswellt gweddol wastad, sy’n draenio'n dda ac arwyneb caled ag arwynebau amsugno clec o xxx yr offer |
Xxxxx Gweithgarwch | Isafswm 100m2 | Isafswm 400m2 | Isafswm 1000m2 |
Cyfarpar | Nodweddion a allai ganiatáu hawlio lle fel eu un nhw | Lleiafswm o 6 profiad chwarae ysgogol a heriol | Lleiafswm o 9 profiad chwarae ysgogol a heriol |
Llain glustogi | 5m o leiaf i rannu’r xxxxx gweithgaredd o ran flaenaf yr annedd agosaf | 10m o leiaf i rannu’r xxxxx gweithgaredd o ran flaenaf yr annedd agosaf. | 30m o leiaf i rannu’r xxxxx gweithgaredd o ffin yr eiddo agosaf sy'n cynnwys annedd. Efallai y bydd angen mwy o bellter ar gyfer cyfleusterau parc sglefrio wedi’i adeiladu’n bwrpasol. |
Plannu | Amrywiol i ddarparu cymysgedd o arogl, lliw a gwead | Amrywiol i ddarparu cymysgedd o arogl, lliw a gwead | Amrywiol i ddarparu cymysgedd o arogl, lliw a gwead |
Ffensio | Rheilen warchod, ffens xxxx xxx blanhigion 600mm o uchder i ddangos y perimedr | Dylai’r ffiniau fod yn rhwydd eu gweld. Gall ffensys perimedr fod yn amhriodol, ond gallai fod angen rhywfaint o ffensys. Os cânt eu defnyddio, uchder o 1m xxxx xxx xxxx xx’n xxxx xxxxx | Xxxxx’r ffiniau fod yn rhwydd eu gweld. Gall ffensys perimedr fod yn amhriodol, ond gallai fod angen rhywfaint o ffensys. Os cânt eu defnyddio, uchder o 1m xxxx xxx xxxx xx’n xxxx xxxxx |
Seddi | 1 sedd / mainc a bin sbwriel | Darpariaeth ar gyfer oedolion a brodyr a chwiorydd sy'n mynd gyda nhw | Darpariaeth ar gyfer oedolion a brodyr a chwiorydd sy'n mynd gyda nhw |
Biniau Sbwriel | Amherthnasol | Un neu fwy | Un neu fwy |
Arwydd | Arwydd yn nodi: • Mae'r ardal ar gyfer chwarae plant • Nid oes croeso i gŵn | Arwydd yn nodi: • Mae'r ardal ar gyfer chwarae plant • Nid oes croeso i gŵn • Enw a ffôn gweithredwr y cyfleuster • Lleoliad y ffôn agosaf | Arwydd yn nodi: • Mae'r ardal ar gyfer chwarae plant • Nid oes croeso i gŵn • Enw a ffôn gweithredwr y cyfleuster • Lleoliad y ffôn agosaf |
ATODIAD 3 – CANLLAWIAU COST CYFRANIADAU ARIANNOL
Costau Gosod a Chynnal a Chadw Cyfarpar Chwarae Sefydlog 2015
Gofynion Enghreifftiol LAP Costau Gofynion Cynnal a Xxxxx Xxxxxx 25 Gosod mlynedd | |||
Biniau sbwriel yn sownd i’r llawr x 2 | £458 | Torri Glaswellt Rotari | £7,5 00 |
Meinciau sy’n gwrthsefyll tân ar sylfaen goncrit | £1,080 | Coeden/Llwyn | £5,000 |
Xxxxxxx Xxxxxxxxxx | £5,200 | Dodrefn | £5,000 |
Xxxxxxx Xxxxxxxxx Rwber | £22,500 | Gwagu Biniau Sbwriel | £15,000 |
Ffensys Metel 1.2m â rhan uchaf grom | £3,800 | Disodli Offer Wedi'i Fandaleiddio | £5,000 |
Llwybr Tarmacadam 1.5m o led | £975 | Arolygiad Diogelwch Blynyddol | £3,750 |
Gatiau Hunan-gau x 2 | £1,904 | Asesiad Risg Blynyddol | £1000 |
Arwyddion yn cynnwys gosodiadau a phostiau | £265 | Ail-baentio Offer | £5,000 |
Glaswellt 100m2 | £1,000 | Ailosod wyneb y Llwybr Troed | £3,000 |
Coeden/Llwyn | £2,000 | Ailosod Xxxxxxx Xxxxxxxxx | £900 |
CYFANSWM | £39,182 | £51,150 |
Gofynion Enghreifftiol LEAP | Costau Gosod | Gofynion Cynnal a Chadw | Costau mlynedd | 25 |
Aml-ddringwr i blant iau | £9,281 | Xxxxx Xxxxxxxxx Rotari | £15,000 | |
Siglen Baban 6" 1 Bae 2 Sedd | £3,590 | Coeden/Llwyn | £5,000 | |
Siglen Wastad 8" 1 Bae 2 Sedd | £3,879 | Dodrefn | £5,000 | |
Cylchfan | £6,679 | Gwiriad Diogelwch Cyfarpar Chwarae | £15,000 | |
Siglwr Sbring | £1,654 | Gwagu Biniau Sbwriel Glanhau | £17,500 | |
Siglwr Sbring | £1,654 | Disodli Offer Wedi'i Fandaleiddio | £50,000 | |
Gweler Llif | £3,360 | Arolygiad Diogelwch Blynyddol | £1,500 | |
Eitemau'r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd | £601 | Asesiad Risg Blynyddol | £1,000 | |
Biniau Sbwriel sy’n sownd i’r llawr x 2 | £458 | Ail-baentio Offer | £7,500 |
Meinciau sy’n gwrthsefyll tân x 2 | £1,080 | Llwybr Troed | £25,000 |
Xxxxxxx Xxxxxxxxxx | £19,500 | Gosod Arwyneb Diogelwch Newydd | £15,000 |
Xxxxxxx Xxxxxxxxx Rwber | £10,150 | ||
Ffensys Metel 1.2m â rhan uchaf grom | £7,500 | ||
Llwybr Tarmacadam 1.5m o led | £975 | ||
Gatiau Hunan-gau x 2 | £1,569 | ||
Rhwystrau Diogelwch | £255 | ||
Arwyddion | £265 | ||
Glaswellt 100m2 | £1,000 | ||
Coeden/Llwyn | £2,000 | ||
CYFANSWM | £75,450 | £157,500 |
Gofynion Enghreifftiol NEAP Costau Gofynion Cynnal a Xxxxx Xxxxxx 25 Gosod mlynedd | |||
Aml-ddringwr i blant iau | £9,281 | Xxxxx Xxxxxxxxx Rotari | £25,000 |
Siglen baban 6" 1 Bae 2 Sedd | £3,590 | Coeden/Llwyn | £7,500 |
Siglen Wastad 8" 1 Bae 2 Sedd | £3,879 | Dodrefn | £5,000 |
Cylchfan | £6,679 | Gwiriad Diogelwch Cyfarpar Chwarae | £17,500 |
Siglwr Sbring | £1,654 | Gwagu Biniau Sbwriel Glanhau | £20,000 |
Siglwr Sbring | £1,654 | Disodli Offer Wedi'i Fandaleiddio | £62,500 |
Si-so | £3,360 | Arolygiad Diogelwch Blynyddol | £1,500 |
Strwythurau Deinamig | £2,680 | Asesiad Risg Blynyddol | £1,000 |
Strwythurau Deinamig | £3,940 | Ail-baentio Offer | £7,500 |
Eitemau'r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd | £601 | Arwyneb newydd ar y Llwybr Troed/Ardaloedd Tarmac | £25,000 |
Biniau Sbwriel sy’n sownd i’r llawr x 2 | £458 | Ailgyflenwi Rhisgl Coed | £37,500 |
Meinciau sy’n gwrthsefyll tân x 2 | £1,080 | Disodli Arwyneb Diogelwch | £15,000 |
Xxxxxxx Xxxxxxxxxx | £19,500 | ||
Xxxxxxx Xxxxxxxxx Rwber | £10,150 | ||
Ffensys Metel 1.2m â rhan uchaf grom | £16,500 | ||
Llwybr Tarmacadam 1.5m o led | £975 | ||
Rhisgl pren | £6,000 | ||
Gatiau Hunan-gau x 2 | £1,569 | ||
Rhwystrau Diogelwch | £255 | ||
Arwyddion | £265 | ||
Glaswellt 100m2 | £2,200 | ||
Coeden/Llwyn | £2,000 |
CYFANSWM | £98,270 | £225,000 |
Darpariaethau Chwarae Ffurfiol Costau Gosod a Costau Gosod Costau 25 Chynnal a Chadw Dangosol mlynedd | ||
Ardaloedd Gemau Amlddefnydd | £75,000 | |
40m x 18m wedi'i ffensio a llifoleuadau | £59,025 | |
Cyrtiau Tenis (2) 37m x 42m | £117,000 | |
Wedi'i ffensio a gosod llifoleuadau | £60,275 | |
Caeau Pêl-droed fesul cae | £75,000 | |
110m x 71m (gan gynnwys dŵr ffo) | £184,125 | |
Caeau Rygbi | £75,000 | |
106m x 79m (gan gynnwys dŵr ffo) | £184,125 | |
Criced 4 x glaswellt | £54,000 | |
1 x Cyfanswm artiffisial 6649m2 gan gynnwys yr allfaes | £154,700 | |
Bowls Awyr Agored 40m x 40m | £750,000 | |
Cynnwys Pafiliwn | £580,525 | |
Xxxx chwarae artiffisial ag arwyneb tywod wedi'i seilio | £550,000 | |
100m x 64m wedi'i ffensio a llifoleuadau wedi’u gosod | £209,025 | |
Wal xxxxx xxxx goliau | £10,000 | |
10m x 10m | £61,075 | |
Wal xxxxx xxxx goliau | £10,000 | |
10m x 10m | £61,075 | |
Wal xxxxx xxxx rhwyd pêl-fasged | £11,000 | |
10m x 20m | £74,600 | |
Trac BMX | £75,000 | |
50m x 20m wedi'i ffensio a llifoleuadau | £140,075 | |
Darpariaeth sglefrfyrddio | £120,000 | |
50m x 20m wedi'i ffensio a llifoleuadau | £143,075 |
Darpariaethau Chwarae Ffurfiol Costau Gosod a Chynnal a Chadw | Costau Gosod | Costau 25 mlynedd |
Mannau Chwarae Anffurfiol 5,000m2 wedi'u graddio ar lefel, eu hadu a'r cerrig wedi'u xxxx xxx gynnwys y llwybr a’r dodrefn | £45,000 | £322,525 |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Penybont ar Ogwr Swyddfeydd Dinesig
Stryd yr Angel
Penybont ar Ogwr, CF31 4WB