Contract
2009-10
Mai 2010
Awdur: Xxxx Xxxxxxxxx Cyf: 250A2010
Llythyr Archwilio Interim 2009-10 (Ymddiriedolaeth GIG Hywel Dda a Byrddau Iechyd Lleol Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion)
Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda
Cynnwys
Crynodeb 5
Llythyr Manwl
Defnyddiwyd adnoddau'r cyrff rhagflaenol yn briodol ym mhob ffordd 8
berthnasol a rhoddwyd cyfrif priodol amdanynt ar gyfer y cyfnod o chwe mis hyd at 30 Medi 2009. Fodd bynnag mae'r Bwrdd Xxxxxx yn wynebu sefyllfa ariannol anodd a cheir lle i wella'r trefniadau ar gyfer rheolaeth gyllidebol, asedau sefydlog a gofal iechyd parhaus
Roedd cyfrifon pob xxxxx rhagflaenorol ar gyfer y cyfnod o chwe mis a 8
ddaeth i ben ar 30 Medi 2009 wedi eu paratoi'n briodol ac roeddent yn gywir ym mhob ffordd berthnasol, er i ni dynnu sylw at yr ansicrwydd ynghylch costau gofal iechyd parhaus
Dengys sefyllfa alldro gyfunol y cyrff rhagflaenol a'r sefyllfa ariannol yn 10
2009-10 fod y Bwrdd Iechyd newydd yn wynebu pwysau ariannol sylweddol yn 2010-11 a thu hwnt
Ar y cyfan, roedd systemau ariannol pwysig y cyrff rhagflaenol 11
yn addas at y diben ar gyfer cyfnod cau'r cyfrifon, er bod angen gwella trefniadau ar gyfer rheolaeth gyllidebol, asedau sefydlog a gofal iechyd parhaus
Cydweithiodd y cyrff rhagflaenol yn llwyddiannus i sefydlu'r Bwrdd Iechyd 12
newydd ond nid oedd ganddynt yr xxxx drefniadau corfforaethol gofynnol
i gefnogi'r defnydd effeithiol o adnoddau. Nawr xxx xxxxx i'r Bwrdd Iechyd lywio'r cyfeiriad strategol a newid drwy drefniadau llywodraethu a rheoli perfformiad effeithiol
Roedd rhai gwendidau yn nhrefniadau'r cyrff rhagflaenol i'w helpu i 12
sicrhau darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd o ran eu defnydd o adnoddau
Cydweithiodd y gymuned iechyd i sefydlu'r Bwrdd Iechyd newydd yn 13
llwyddiannus. Nawr xxx xxxxx i'r Bwrdd Iechyd lywio'r cyfeiriad strategol a newid drwy drefniadau llywodraethu a rheoli perfformiad effeithiol
Atodiadau
Casgliadau ar drefniadau'r cyrff rhagflaenol ar gyfer y cyfnod a ddaeth i ben 30 17
Medi 2009 i sicrhau darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd o ran eu defnydd o adnoddau
Meini prawf ar gyfer asesu trefniadau'r cyrff rhagflaenol yn ystod 2009-10 i 19
sicrhau darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd o ran eu defnydd o adnoddau
Adroddiadau allweddol a gyflwynwyd ers mis Medi 2009 20
Statws yr adroddiad hwn
Paratowyd y ddogfen hon at ddefnydd mewnol Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda fel rhan o'r gwaith a gyflawnir yn unol â swyddogaethau statudol, y Cod Ymarfer Archwilio a'r Datganiad o Gyfrifoldebau a gyhoeddwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Nid oes unrhyw gyfrifoldeb ar Swyddfa Archwilio Cymru (yr Archwilydd Cyffredinol a'i staff) mewn perthynas ag unrhyw aelod, cyfarwyddwr, swyddog na chyflogai arall yn unigol, nac i unrhyw drydydd parti.
Os gwneir cais am wybodaeth y gallai'r ddogfen hon fod yn berthnasol iddi, tynnir sylw at y Cod Ymarfer a gyhoeddwyd o xxx xxxxx 45 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Mae Cod adran 45 yn nodi'r arfer a ddisgwylir gan awdurdodau cyhoeddus wrth ymdrin â cheisiadau, yn cynnwys ymgynghori â thrydydd partïon perthnasol. Mewn perthynas â'r ddogfen hon, mae Archwilydd Cyffredinol Cymru (a, lle y bo'n gymwys, ei harchwilydd penodedig) yn drydydd parti perthnasol.
Dylid anfon unrhyw ymholiadau ynglŷn â datgelu neu ailddefnyddio'r ddogfen hon i Swyddfa Archwilio Cymru yn xxxxxxxxxxx@xxx.xxx.xx.
Crynodeb
1. Mae'r Llythyr Archwilio interim hwn (y Llythyr) i Fwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda (y Bwrdd Iechyd) yn ymwneud â'm harchwiliadau terfynol o gyrff rhagflaenol y Bwrdd ar gyfer y cyfnod o chwe mis hyd at 30 Medi 2009. Nodwyd y gwaith y sonnir amdano yn y Llythyr yn y strategaethau archwilio y cytunwyd arnynt ar gyfer y sefydliadau canlynol:
• Ymddiriedolaeth GIG Hywel Dda
• Bwrdd Iechyd Lleol (BILl) Sir Gaerfyrddin
• BILl Sir Benfro
• BILl Ceredigion
2. Mae'r Llythyr hwn yn hysbysu aelodau'r Bwrdd Iechyd o unrhyw faterion o bwys sy'n codi o'r archwiliadau hynny, ynghyd â'm sylwadau ar faterion cyfredol eraill.
3. Wynebodd rhagflaenwyr y Bwrdd Iechyd newidiadau a heriau sylweddol
yn eu chwe mis olaf. Yn bennaf, roeddent yn wynebu'r angen i baratoi ar gyfer
y rhaglen ddiwygio yn GIG Cymru, a arweiniodd at eu diddymu a sefydlu'r Bwrdd Iechyd newydd ar 1 Hydref 2009.
4. Cyfrannodd rhagflaenwyr y Bwrdd Iechyd at y trefniadau pontio o fewn cymuned iechyd Hywel Dda. Nod y trefniadau pontio hyn oedd rheoli'r risgiau o ran xxxxxx busnes ac adnoddau ariannol a dynol a'r risgiau eraill niferus sy'n gysylltiedig â'r rhaglen ddiwygio. Roedd y trefniadau pontio hefyd yn cwmpasu cyfnod cyfrifyddu'r broses ddiddymu a chyflwyno Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol.
5. Canolbwyntiodd fy ngwaith yn ystod y cyfnod hwn ar archwilio datganiadau ariannol ac adroddiadau etifeddiaeth y cyrff sy'n dirwyn i ben a rhoi casgliad ar b'un a oedd gan y cyrff drefniadau priodol ar waith yn ystod y cyfnod i'w helpu i gyflawni darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd o ran eu defnydd o adnoddau. Roedd hefyd yn cynnwys gwaith a oedd yn archwilio'r trefniadau pontio ar gyfer sefydlu Bwrdd Iechyd newydd fel xxxx x xxxxxx ddiwygio'r GIG yng Nghymru. Roedd y gwaith yn seiliedig ar elfennau allweddol o'm cyfrifoldebau fel y'u nodir yn y Cod Ymarfer Archwilio (y Cod)1.
1 Gwnaf sawl cyfeiriad yn y Llythyr hwn at ganllawiau a dogfennaeth a gyflwynwyd gennyf, gan gynnwys y Cod. Roedd hyn yn berthnasol i'r cyfnod archwilio cyfan ac mae'n cyfeirio at y Datganiad o Gyfrifoldebau Archwilwyr ac Arolygwyr a Chyrff a Archwilir ac a Arolygir sy'n crynhoi cyfrifoldebau allweddol archwilwyr. Cynhaliwyd fy archwiliad yn unol â'r egwyddorion a nodwyd yn y datganiad hwnnw. Dylid ystyried fy sylwadau am ganlyniadau fy archwiliad yng nghyd-destun y cefndir mwy ffurfiol hwnnw.
6. Nodwyd y ffioedd archwilio ar gyfer y gwaith yn ystod y cyfnod hwn yn y strategaethau archwilio y cytunwyd arnynt ar gyfer pob xxxxx rhagflaenol.
7. Ceir rhagor o fanylion am yr agweddau penodol ar fy archwiliad yn yr adroddiadau ar wahân a gyflwynwyd gennyf i sefydliadau'r GIG a ddiddymwyd, a'r Bwrdd Iechyd newydd. Trafodwyd yr adroddiadau hyn gan archwilwyr, a chytunwyd arnynt gyda swyddogion ac fe'u cyflwynwyd i'r Pwyllgor Archwilio perthnasol. Mae'r adroddiadau a gyhoeddwyd gennyf i'w gweld yn Atodiad 3.
8. Defnyddiwyd adnoddau'r cyrff rhagflaenol yn briodol ym mhob ffordd berthnasol a rhoddwyd cyfrif priodol amdanynt ar gyfer y cyfnod o chwe mis a ddaeth i ben 30 Medi 2009. Fodd bynnag mae'r Bwrdd Xxxxxx yn wynebu sefyllfa ariannol anodd a cheir lle i wella'r trefniadau ar gyfer rheolaeth gyllidebol, asedau sefydlog a gofal iechyd parhaus:
• roedd cyfrifon pob xxxxx rhagflaenorol ar gyfer y cyfnod o chwe mis a ddaeth i ben ar 30 Medi 2009 wedi eu paratoi'n briodol ac roeddent yn gywir ym mhob ffordd berthnasol, er i ni dynnu sylw at yr ansicrwydd ynghylch costau gofal iechyd parhaus;
• dengys sefyllfa alldro gyfunol y cyrff rhagflaenol a'r sefyllfa ariannol yn 2009-10 fod y Bwrdd Iechyd newydd yn wynebu pwysau ariannol sylweddol yn 2010-11 a thu hwnt;
• ar y cyfan, roedd systemau ariannol pwysig y cyrff rhagflaenol yn addas at y diben ar gyfer cyfnod cau'r cyfrifon er bod angen gwella'r trefniadau ar gyfer rheolaeth gyllidebol, asedau sefydlog a gofal iechyd parhaus.
9. Nododd ein gwaith perfformiad fod y cyrff rhagflaenol wedi cydweithio
i sefydlu'r Bwrdd Iechyd newydd yn llwyddiannus, ond nid oedd ganddynt yr xxxx drefniadau corfforaethol priodol i gefnogi'r gwaith o ddefnyddio adnoddau'n effeithiol.
Nawr xxx xxxxx i'r Bwrdd Iechyd lywio'r cyfeiriad strategol a newid drwy drefniadau llywodraethu a rheoli perfformiad effeithiol:
• Roedd rhai gwendidau o ran trefniadau'r cyrff rhagflaenol i'w helpu i sicrhau darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd yn eu defnydd o adnoddau.
• Cydweithiodd y gymuned iechyd i sefydlu'r Bwrdd Iechyd newydd yn llwyddiannus. Nawr xxx xxxxx i'r Bwrdd Iechyd llywio'r cyfeiriad strategol a newid drwy drefniadau llywodraethu a rheoli perfformiad effeithiol.
10. Rydym wedi gweld bod y Bwrdd Iechyd wedi gwneud cynnydd da mewn nifer o feysydd ers 1 Hydref 2009. Mae'r Bwrdd Xxxxxx yn wynebu rhai heriau anodd ond mae wedi dechrau gosod seiliau cadarn er mwyn mynd i'r afael â'r heriau hynny.
11. Mae'r Prif Weithredwr a'r Cyfarwyddwr Cyllid wedi cytuno â'r Llythyr hwn, a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Archwilio ym mis Mai 2010. Caiff y llythyr ei gyflwyno i gyfarfod dilynol y Bwrdd a rhoddir copi i xxx aelod o'r Bwrdd. Fy nod yw sicrhau y cynhelir archwiliad o safon uchel sy'n gwneud cyfraniad cadarnhaol ac ymarferol ac sy'n ategu agenda'r Bwrdd ei hun. Rwyf yn ddiolchgar i'ch rhagflaenwyr a'u staff am eu cymorth yn ystod yr archwiliad.
Xxxx Xxxxxxxxx Partner Ymgysylltu
Dros ac ar ran yr Archwilydd Cyffredinol Dyddiad:
Llythyr Manwl
Defnyddiwyd adnoddau'r cyrff rhagflaenol yn gywir ym mhob ffordd berthnasol a rhoddwyd cyfrif priodol amdanynt ar gyfer y cyfnod o chwe mis hyd at 30 Medi 2009. Fodd bynnag mae'r Bwrdd Xxxxxx yn wynebu sefyllfa ariannol anodd a cheir lle i wella'r trefniadau ar gyfer rheolaeth gyllidebol, asedau sefydlog a gofal iechyd parhaus
12. Mae'r datganiadau ariannol yn ffordd hanfodol o roi cyfrif am y modd y xxx xxxxx yn gwarchod yr adnoddau sydd ar gael iddo a'i berfformiad ariannol wrth ddefnyddio'r adnoddau hynny.
13. Fel yr archwilydd allanol i'r cyrff rhagflaenol, mae'n ofynnol i mi archwilio datganiadau ariannol a chyhoeddi adroddiad archwilydd. Mae'n rhaid i'r adroddiad hwn gynnwys barn ar b'un a yw'r datganiadau ariannol yn rhoi darlun cywir a theg.
Mae hefyd yn ofynnol i mi gael sicrwydd bod y gwariant a'r incwm wedi'u cymhwyso at y dibenion a fwriadwyd, a bod y trafodion ariannol yn cydymffurfio â'r awdurdodau sy'n eu llywodraethu.
14. Mae ein gwaith archwilio ariannol yn cwmpasu'r meysydd allweddol canlynol:
• Datganiadau ariannol (neu gyfrifon)
• Cyflwr ariannol
• Rheoli ariannol
• Systemau ariannol
Cafodd cyfrifon pob xxxxx rhagflaenol ar gyfer y cyfnod o chwe mis a ddaeth i ben 30 Medi 2009 eu paratoi'n briodol ac roeddent yn gywir ym mhob ffordd berthnasol, er i ni dynnu sylw at yr ansicrwydd ynghylch costau gofal iechyd parhaus
15. Eleni bu'n ofynnol i'r cyrff rhagflaenol gyflwyno eu cyfrifon chwe mis heb eu harchwilio i ni erbyn 30 Tachwedd 2009. Gwnaed hynny erbyn y terfyn amser hwn ac, ar y cyfan, roedd y cyfrifon wedi'u hategu gan bapurau gwaith ac atodlenni o safon dda, a'i gwnaeth yn bosibl i'r cyfrifon archwiliedig gael eu cyflwyno i Lywodraeth y Cynulliad erbyn 1 Mawrth 2010. Roedd hwn yn gyflawniad arbennig o ystyried y gwaith ychwanegol gofynnol i weithredu'r Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol a pharatoi ar gyfer y gwaith o
ad-drefnu'r GIG. Gwnaed rhai argymhellion i wella'r broses o baratoi'r cyfrifon ymhellach.
16. Mae'n ofynnol i mi o xxx Xxxxx Xxxxxxxxx Ryngwladol (ISA) 260 gyflwyno adroddiad ar faterion sy'n codi o'm gwaith i'r ‘rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu’ (y Pwyllgor Archwilio) cyn i mi roi fy marn archwilio ar y cyfrifon. Cyflwynodd fy Mhartner Ymgysylltu adroddiad ar y materion hyn i'r Pwyllgor Archwilio cyn i xxx cyfres o gyfrifon terfynol gael ei chymeradwyo gan y Bwrdd a'i llofnodi gan y Swyddog Atebol. Nodir y materion allweddol yn Arddangosyn 1.
Arddangosyn 1: Gofynion adrodd ISA 260
Gofyniad adrodd | Ymateb yr Archwilydd |
Addasiadau disgwyliedig i adroddiad yr archwilydd | Ar gyfer y tri Bwrdd Iechyd Lleol, gwneuthum addasu fy adroddiad i dynnu sylw at yr ansicrwydd ynghylch costau gofal iechyd parhaus, yn sgîl ceisiadau a gafwyd am ad-daliadau o gostau gofal iechyd parhaus nas aseswyd eto. |
Camddatganiadau nas addaswyd | Gwnaed y diwygiadau mwy sylweddol canlynol i'r cyfrifon drafft: • arweiniodd diwygiadau i wariant gofal iechyd parhaus at leihad o £108,000 mewn costau gweithredu net yn BILl Ceredigion a £80,000 yn BILl Sir Benfro; • o ran Ymddiriedolaeth GIG Hywel Dda, tanddatganwyd costau lleihad mewn gwerth a dyledwyr gan £7.6 miliwn, gyda'r gronfa ailbrisio wrth gefn ac incwm wedi'u tanddatgan gan yr un swm; • o ran Ymddiriedolaeth GIG Hywel Dda, gorddatganwyd y croniad tâl gwyliau diwedd cyfnod o £1.1 miliwn gan tua £622,000, gyda gwariant wedi'i orddatgan gan yr un swm. Ni wnaed unrhyw gamddatganiadau nas addaswyd. |
Gwendidau perthnasol yn y systemau cyfrifyddu a rheolaeth fewnol a nodwyd yn ystod yr archwiliad | Ni chododd unrhyw faterion |
Safbwyntiau ynglŷn â'r agweddau ansoddol ar arferion cyfrifyddu ac adroddiadau ariannol yr endid | Ni chododd unrhyw faterion |
Materion y mae'n ofynnol iddynt, yn ôl safonau archwilio eraill, gael eu cyfleu i'r rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu | Ni chododd unrhyw faterion |
Unrhyw faterion perthnasol eraill sy'n ymwneud â'r archwiliad | Ni chododd unrhyw faterion |
17. O ran BILl Ceredigion, nodwyd problem barhaus gennym y llynedd mewn perthynas â thanberfformiad ymddangosiadol contractwr yn erbyn y contract deintyddol. Mae cyfrifon BILl Ceredigion yn cynnwys swm sy'n destun anghydfod ag ymarferwr deintyddol mewn perthynas â'r mater hwn. Rydym wedi cael y newyddion diweddaraf am gynnydd o ran y mater hwn drwy gydol y flwyddyn, ac rydym yn fodlon ei fod wedi'i adlewyrchu'n briodol o fewn y cyfrifon. Mae'r mater hwn yn destun proses gyfreithiol ar hyn x xxxx. Byddwn yn parhau i fonitro cynnydd, ac unwaith i'r broses hon ddod i ben byddwn yn adolygu'r canlyniad gyda swyddogion i sicrhau y cymerir y camau angenrheidiol, a bod hynny wedi'i adlewyrchu yng nghyfrifon y Bwrdd Iechyd os oes angen.
18. Deuthum i'r casgliad fod xxxx gyfrifon y rhagflaenwyr yn rhoi darlun cywir a theg o'u sefyllfa ar 30 Medi 2009. Roeddwn hefyd yn ddigon bodlon bod y gwariant a'r incwm wedi'u cymhwyso at y dibenion a fwriadwyd a bod y trafodion ariannol yn cydymffurfio â'r awdurdodau sy'n eu llywodraethu.
19. Fel y nodwyd yn Arddangosyn 1, ym mhob un o gyfrifon terfynol y XXXxxx, gwneuthum gynnwys nodyn pwysleisio mater gyda'm hadroddiad archwilio. Rhoddais fy marn ar y cyfrifon a'u cyflwyno gerbron y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â'r amserlenni gofynnol.
Dengys sefyllfa alldro gyfunol cyrff rhagflaenol a'r sefyllfa ariannol yn 2009-10 fod y Bwrdd Iechyd newydd yn wynebu pwysau ariannol sylweddol yn 2010-11 a thu hwnt
20. O ran cyrff y GIG sy'n dirwyn i ben, er nad oedd unrhyw dargedau ariannol ar gyfer xxxxxx cyntaf 2009-10, roedd llawer o bwysau o ran costau, yn cynnwys y pwysau sylfaenol a ddygwyd ymlaen o'r ymddiriedolaeth etifeddiaeth, costau gofal iechyd parhaus a rhagnodi cyffuriau.
21. Ar ddechrau blwyddyn ariannol 2009-10, roedd cymuned iechyd Hywel Dda yn wynebu diffyg ariannol posibl o £26 miliwn o ymrwymiadau ariannol y sefydliadau rhagflaenol (£19 miliwn o Ymddiriedolaeth GIG Hywel Dda, £2 miliwn o BILl Sir Gaerfyrddin, £1 miliwn o BILl Ceredigion a £4 miliwn o BILl Sir Benfro).
22. Mae'n ofyniad cyfreithiol i'r Bwrdd Iechyd aros o fewn ei derfyn adnoddau. Yn ystod 2009-10, mae'r Bwrdd Xxxxxx wedi gwneud y canlynol:
• nodi pwysau newydd o ran xxxxxx xxxxx targedau amseroedd aros Mynediad gwerth tua £5 miliwn;
• derbyn tua £22 miliwn o arian ychwanegol gan Lywodraeth y Cynulliad;
• nodi 'rhaglenni arbedion effeithlonrwydd' amrywiol gwerth tua £15 miliwn.
23. Ar ddiwedd 2009-10, nododd y Bwrdd Iechyd yn ei gyfrifon nas archwiliwyd ei fod wedi aros o fewn ei derfyn adnoddau y cytunwyd arno. Fodd bynnag, nid oedd yn gallu cyflawni tua £6 miliwn o'r rhaglen arbedion effeithlonrwydd gwerth tua £15 miliwn. Oherwydd hyn a phwysau pellach o ran costau, oni bai fod Llywodraeth y Cynulliad wedi darparu cyllid ychwanegol, ni fyddai'r Bwrdd Iechyd wedi aros o fewn ei derfyn adnoddau.
24. Wrth fynd ymlaen, xxx xxxxx i'r Bwrdd Iechyd sicrhau y gellir cyflawni rhaglenni arbedion effeithlonrwydd ac y caiff perfformiad ei fonitro fel y gellir cymryd camau priodol os nad yw targedau'n cael eu cyflawni.
25. Hyd yn oed gyda rhaglen arbedion effeithlonrwydd uchelgeisiol xxxxxxx, xxx'r Bwrdd Iechyd yn rhagweld her o rhwng £50 miliwn a £70 miliwn ar gyfer 2010- 11, yn bennaf o ganlyniad i ddiffygion sylfaenol ei gyrff rhagflaenol a ddygwyd ymlaen a phwysau chwyddiannol nas ariannwyd a phwysau eraill o ran costau. Awgryma hyn y bydd sefydlogrwydd ariannol ond yn bosibl os cymerir camau mwy radical.
26. Byddwn yn rhoi'r newyddion diweddaraf am y sefyllfa hon yn ein Llythyr Blynyddol nesaf yn hydref 2010.
Ar y cyfan, roedd systemau ariannol pwysig y cyrff rhagflaenol yn addas at y diben ar gyfer cyfnod cau'r cyfrifon, er bod angen gwella trefniadau ar gyfer rheolaeth gyllidebol, asedau sefydlog
a gofal iechyd parhaus
27. Mae ein hadolygiad o systemau ariannol y cyrff wedi cynnwys dogfennu'r systemau ariannol pwysig a, lle xx xxxxx, profi'r rheolaethau mewnol. Daethom i'r casgliad y gellir dibynnu ar y systemau ariannol pwysig ym mhob un o'r cyrff sydd wedi dirwyn i ben i gynhyrchu canlyniadau sy'n gywir mewn ffyrdd perthnasol. Fodd bynnag, rydym wedi nodi bod lle i wneud gwelliannau mewn rhai o'r meysydd fel y nodir isod.
28. Xxx xxxxx gwella'r gweithdrefnau rheoli cyllidebol a etifeddwyd o Ymddiriedolaeth GIG Hywel Dda:
• xxx xxxxx cysylltu'r broses o bennu cyllidebau yn agosach ag amcanion strategol dros yr hirdymor;
• cafodd y gyllideb flynyddol ei chymeradwyo a'i llwytho i fyny i'r cyfriflyfr ariannol yn hwyr. Nid oedd hyn yn caniatáu ar gyfer monitro cyllidebol effeithiol ac amserol ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfan;
• roedd diffyg eglurder cychwynnol o ran strwythurau ariannol a dyrannu rolau ac atebolrwydd ar gyfer rheolaeth gyllidebol;
• mae'r rheolaethau dros drosglwyddiadau yn wan;
• ni chynhaliwyd unrhyw werthusiad ôl-prosiect o'r trefniadau rheolaeth gyllidebol hyd yma.
29. Ceir lle i wella hefyd mewn rhai meysydd, yn enwedig cyfrifyddu ar gyfer asedau sefydlog a gweithdrefnau ar gyfer achosion gofal iechyd parhaus. Nid yw ymdrin â hawliadau gofal iechyd parhaus posibl yn unigryw i gymuned Hywel Dda ond mae iddo gyd-destun cenedlaethol. Oherwydd y nifer fawr o hawliadau a'r gwaith parhaus sy'n ofynnol gan y timau Nyrsio i'w hasesu'n gywir, ceir rhywfaint o anhawster ar hyn x xxxx i bennu graddau rhwymedigaethau'r Bwrdd Iechyd. Cyhoeddwyd adroddiad manwl ar ein harchwiliad o gyfrifon i swyddogion.
30. Yn olaf, rydym wedi adolygu'r gwaith a wnaed gan y gwasanaeth Archwilio Mewnol, a'r archwiliad o fentrau Cyfalaf a Mentrau Cyllid Preifat ar gyfer y XXXxxx a'r Ymddiriedolaeth. Daethom i'r casgliad fod y trefniadau ar gyfer archwilio Cyfalaf a Mentrau Cyllid Preifat yn cydymffurfio â Safonau Archwilio Mewnol. Yn yr un modd, daethom i'r casgliad fod trefniadau'r gwasanaeth Archwilio Mewnol yn cydymffurfio â Safonau Archwilio Mewnol, er bod lle i wella drwy:
• weithredu system ffurfiol ar gyfer arfarnu perfformiad staff a chynlluniau datblygu personol gyda chyllideb hyfforddiant gysylltiedig well;
• datblygu canllawiau ar gyfer staff o ran dewis meintiau samplau;
• cwblhau aseiniadau archwilio yn electronig;
• gwella monitro perfformiad arolygon boddhad cleientiaid a chyflwyno adroddiadau ar fesurau perfformiad i'r Pwyllgor Archwilio.
Cydweithiodd y cyrff rhagflaenol yn llwyddiannus i sefydlu'r Bwrdd Iechyd newydd ond nid oedd ganddynt yr xxxx drefniadau corfforaethol gofynnol i gefnogi'r defnydd effeithiol o adnoddau. Nawr xxx xxxxx i'r Bwrdd Iechyd lywio'r cyfeiriad strategol a newid drwy drefniadau llywodraethu a rheoli perfformiad effeithiol
Roedd rhai gwendidau yn nhrefniadau'r cyrff rhagflaenol i'w helpu i sicrhau darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd o ran eu defnydd o adnoddau
31. Wrth archwilio cyfrifon y cyrff rhagflaenol xxx cyfnod, mae'n ofynnol i mi o xxx Xxxxx 61(3) o Ddeddf 2004 fodloni fy hun eu bod wedi gwneud trefniadau priodol i sicrhau darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd o ran eu defnydd o adnoddau. Adlewyrchir y gofyniad hwn hefyd yn y Cod. Nodir fy nghyfrifoldebau a'm casgliad ffurfiol ar drefniadau'r cyrff ar gyfer y cyfnod o chwe mis yn Atodiad 1.
32. At ddibenion fy ngwaith, gwerthusais systemau pob xxxxx yn erbyn nifer o gwestiynau, a nodir yn Atodiad 2. Ar gyfer pob cwestiwn, rwyf yn ystyried a oes bylchau yn y trefniadau y disgwylir iddynt fod ar waith, ac arwyddocâd y bylchau hynny.
33. Yn dilyn fy adolygiad o drefniadau'r cyrff rhagflaenol, deuthum i'r casgliad nad oedd unrhyw wendidau sylweddol a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol i mi roi barn anffafriol o ran y XXXxxx xx'n dirwyn i ben. Fodd bynnag, ceir lle i wella trefniadau cynllunio tymor canolig, a datblygu a chyfleu strategaethau gwasanaethau.
34. O ran Ymddiriedolaeth GIG Hywel Dda, fel ar ddiwedd 2008-09, deuthum i'r casgliad fod gwendidau sylweddol mewn rhai meysydd sy'n ei gwneud yn ofynnol i mi dynnu sylw penodol atynt yn fy nhystysgrif. Roedd fy Llythyr Blynyddol blaenorol yn nodi fy mhryderon, y ceir crynodeb ohonynt isod:
• roedd gan yr Ymddiriedolaeth ddiffyg cyfeiriad strategol ar lefel gorfforaethol a lefel gwasanaeth;
• er bod yr Ymddiriedolaeth wedi datblygu trefniadau rheoli risg a rheoli perfformiad, nid oeddent wedi'u hymgorffori'n llawn i mewn i weithredoedd o ddydd i ddydd;
• nid oedd unrhyw strategaeth ariannol tymor canolig ac nid oedd trefniadau rheoli cyllidebol yn gwbl effeithiol;
• nid oedd y trefniadau i reoli tir ac adeiladau'r Ymddiriedolaeth yn gadarn.
35. Etifeddodd y Bwrdd Xxxxxx y trefniadau hyn o'i sefydliadau rhagflaenol ac mae'n cydnabod bod y rhain yn feysydd pwysig ac mae'n cymryd camau i wella'r gwendidau sy'n bodoli ar hyn x xxxx. Bydd y cyfleoedd ar gyfer integreiddio a gynigir gan y sefydliad newydd yn hwyluso newid yn y meysydd hyn.
36. Byddwn yn cynnal adolygiad o gynnydd fel rhan o'n gwaith Asesiad Strwythuredig arfaethedig y byddaf yn cyflwyno adroddiad arno i'r Bwrdd Iechyd yn fy Llythyr Blynyddol nesaf.
Cydweithiodd y gymuned iechyd i sefydlu'r Bwrdd Iechyd newydd yn llwyddiannus. Nawr xxx xxxxx i'r Bwrdd Iechyd lywio'r cyfeiriad strategol a newid drwy drefniadau llywodraethu a rheoli perfformiad effeithiol
37. Er mwyn cefnogi datblygiad sefydliadol y Bwrdd Iechyd, rwyf wedi paratoi adroddiad etifeddiaeth sy'n cynnwys crynodeb o'r canfyddiadau a negeseuon allweddol o waith archwilio perfformiad diweddar a gynhaliwyd yn y cyrff sy'n dirwyn i ben. Nodir isod y negeseuon allweddol sy'n deillio o'r adroddiad hwn.
Er y bu oedi o ran penodi swyddogion gweithredol,
roedd y broses ad-drefnu wedi'i rheoli'n gymharol dda xxxx xxxx cydlynol ar draws y gymuned
38. Ar y cyfan, canfuwyd gennym fod y prosiect pontio wedi'i nodweddu gan drefniadau cynhwysol cydlynol gyda fframweithiau priodol ar waith. Roedd y pwyslais ar barhad busnes, i ganiatáu amser i benodi Cyfarwyddwyr Gweithredol ac aelodau Bwrdd newydd, a rhoi cyfle i'r unigolion hynny lywio'r cyfeiriad strategol a llunio strwythurau gweithredol.
Oherwydd ffactorau y tu hwnt i reolaeth uniongyrchol y Bwrdd, mae'r broses benodiadau wedi cymryd mwy o amser nag y dymunwyd. Fodd bynnag, yr arwyddion cynnar yw bod y Bwrdd wedi sefydlu ei ethos a'i drefniadau atebolrwydd yn gyflym i ddechrau canolbwyntio ar ailgynllunio gwasanaethau a newid.
Bu gan y gymuned ddiffyg cyfeiriad strategol
39. Heblaw am y Fframwaith Gweithredu Blynyddol, ni fu strategaeth gorfforaethol ar gyfer y sefydliadau rhagflaenol. Bu'r diffyg cynlluniau strategol, neu wendidau yn y cynlluniau hynny, yn thema a gododd dro ar ôl tro ar draws nifer o'n hadolygiadau.
Oherwydd y diffyg strategaeth gorfforaethol, roedd unrhyw strategaethau a oedd ar waith yn gweithredu mewn arwahanrwydd. Mae'r broses o greu'r Bwrdd yn cyflwyno'r cyfle cyntaf i'r gymuned gyfan adolygu pob agwedd strategol a gweithredol ar wasanaethau yn y dyfodol.
Xxx xxxxx i'r Bwrdd ddangos trefniadau llywodraethu cyfunol cadarn ar draws cyfarwyddiaethau ac, yn enwedig, trefniadau llywodraethu gwybodaeth mwy cadarn
40. Mae diogelu asedau gwybodaeth yn elfen hanfodol o waith cyflawni busnes effeithiol. Nid oedd gan yr Ymddiriedolaeth y trefniadau llywodraethu priodol ar waith i gyflawni a chefnogi system rheoli diogelwch effeithiol,
ac mae nifer o anghysondebau a gwendidau yn parhau i beri risg. Fodd bynnag, ceir ystod o reolaethau technegol da ar waith ac elfennau o arfer da ym mhob xxxx rheoli sy'n darparu llwyfan gadarn ar gyfer gwelliant ar gyfer y Bwrdd Iechyd.
41. Mae nifer o'n hadroddiadau ar berfformiad wedi nodi cyfleoedd i wneud gwell defnydd o TG i hysbysu perfformiad a gwella'r defnydd o adnoddau.
42. Fel y nodwyd yn flaenorol, roedd gwendidau sylweddol yn rhai o drefniadau'r Ymddiriedolaeth ar gyfer sicrhau darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd o ran ei defnydd o adnoddau. Y meysydd sy'n peri pryder penodol yw agweddau ar berfformiad a rheoli risg.
43. Nid oes gan y Bwrdd drefniadau rheoli asedau cadarn.
Mae hyn yn cynrychioli risg sylweddol yn enwedig gan fod y Bwrdd wedi etifeddu ystad sy'n heneiddio xxxx xxxxx buddsoddiad sylweddol.
44. Mae'r Bwrdd wedi etifeddu ystad sy'n heneiddio gydag ôl-groniad sylweddol o waith cynnal a chadw y xxx xxxxx buddsoddiad cyfalaf sylweddol arno. Ar gyfer tir ac adeiladau, roedd cyfanswm yr ôl-groniad o waith cynnal a chadw ar ddiwedd 2008-09 ar gyfer y tair ymddiriedolaeth ragflaenol gwerth tua £63 miliwn (£55 miliwn yn 2007-08). Bydd angen i'r Bwrdd ddatblygu strategaeth adeiladau ag adnoddau sy'n ymdrin â'r sectorau sylfaenol ac eilaidd sy'n cyflawni gwelliannau hanfodol.
45. Roedd trefniadau rheoli fflyd yn gadarn ar y cyfan, ond xxx xxxxx gwneud mwy i ddatblygu strategaeth rheoli fflyd glir a gwella rheoli a chaffael.
Er y gwnaed rhywfaint o gynnydd da o ran lleihau absenoldeb oherwydd salwch, xxx xxxxx datblygu'r broses o foderneiddio'r gweithlu fel rhan o gynllun gweithlu strategol
46. Mae'r Bwrdd yn wynebu nifer o heriau presennol a bydd yn wynebu nifer o heriau yn y dyfodol o ran y gweithlu, xxxx xxxxx dipyn x xxxxx i'w wneud o hyd o ran moderneiddio'r gweithlu. Mae'r heriau'n cynnwys anawsterau o ran recriwtio staff meddygol i'r radd ganolig a meddygon sy'n cael hyfforddiant, a'r tensiwn rhwng gwneud arbedion ariannol a sicrhau gwasanaethau diogel ac effeithiol o ansawdd.
47. Cododd adborth gan yr Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd ar gynlluniau gweithlu'r Ymddiriedolaeth nifer o gwestiynau ynghylch rhai o'r rhifau comisiynu a gynhyrchwyd. Mae cynlluniau diwygiedig yn cael eu hailgyflwyno, ac mae cynlluniau pellach yn cael eu paratoi ar gyfer cynlluniau gweithlu 2010.
48. Roedd y tair ymddiriedolaeth ragflaenol wedi gwneud cynnydd amrywiol tuag at gydymffurfiaeth â tharged y Gyfarwyddeb Oriau Gwaith Ewropeaidd o 48 awr yr wythnos xxx xxx (fel sy'n ofynnol o 1 Awst 2009).
49. Gwnaed cynnydd da o ran rheoli ac xxxx absenoldeb oherwydd salwch gydag ymrwymiad cadarn i iechyd a lles yn y gweithle. Fodd bynnag, er bod lefelau absenoldeb oherwydd salwch wedi lleihau ar y cyfan, roedd lle i wneud cynnydd pellach gan fod absenoldeb oherwydd salwch yn parhau i fod yn broblem mewn rhai meysydd.
50. Nid yw potensial llawn staff yn cael ei wireddu mewn nifer o feysydd. Bu cyfleoedd i staff weithio'n wahanol a gwneud defnydd mwy effeithiol ac effeithlon o'r adnoddau sydd ar gael yn thema a gododd dro ar ôl tro ar draws nifer o'n hadolygiadau.
51. Yn olaf, nododd nifer o'n hadolygiadau fod y staff o xxx bwysau oherwydd nad oedd y gallu ac adnoddau wedi'u halinio'n dda i'r llwyth gwaith a'r galw. Roedd hyn yn arbennig o wir o fewn rhai adrannau damweiniau ac achosion xxxx xx ar gyfer gwasanaethau mamolaeth.
Er bod rhai meysydd wedi gwella, mae ein gwaith wedi nodi meysydd o danberfformio hirsefydlog. Mae heriau'n parhau o ran gwella cyfraddau llawdriniaeth ddydd, rheoli derbyniadau ac oedi wrth drosglwyddo gofal
52. Mae gwelliannau wedi parhau ar draws nifer o wasanaethau ond erys rhai meysydd o danberfformio hirsefydlog. Nododd nifer o'n hadroddiadau fod angen gwella trefniadau rheoli perfformiad, bod angen manteisio i'r eithaf ar y defnydd o adnoddau a bod angen atgyfnerthu trefniadau i reoli'r gallu ac adnoddau a'r galw.
53. Erys heriau penodol o ran gwella cyfraddau llawdriniaeth ddydd, rheoli derbyniadau ac oedi wrth drosglwyddo gofal.
Er bod ymrwymiad clir i gydweithredu ac ymgysylltu, roedd graddau'r cydweithredu a'r ymgysylltu â sefydliadau partner, staff a dinasyddion yn amrywio ar draws y gymuned ac o fewn y gymuned
54. Ceir ymrwymiad clir i gydweithredu ac ymgysylltu ond
gwnaed mwy o gynnydd mewn rhai meysydd nag eraill. Felly ceir lle i ddatblygu ymhellach.
55. Wrth sefydlu'r Bwrdd Iechyd, cydweithiodd pob rhan o'r gymuned iechyd yn gadarnhaol ac yn adeiladol. Roedd ymrwymiad clir i rannu gwybodaeth ac adnoddau er mwyn mynd i'r afael â heriau a chyfleoedd ar y cyd,
ac ymgysylltu â'i gilydd a chydag asiantaethau a phartneriaid eraill ar sail cymuned gyfan. Mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnal y dull partneriaeth hwn drwy ei adlewyrchu o fewn ei gynllun sefydliadol. Gan fod y strwythurau arfaethedig yn rhai arloesol, bydd yn hanfodol i'r Bwrdd werthuso'n aml p'un a ydynt yn cael eu hymgorffori yn effeithiol a'u bod yn cynhyrchu'r canlyniadau a ddymunir.
Atodiadau
Atodiad 1
Casgliad ar drefniadau'r cyrff rhagflaenol ar gyfer y cyfnod o chwe mis a ddaeth i ben 30 Medi 2009 i sicrhau darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd o ran eu defnydd o adnoddau
Cyfrifoldebau'r Swyddog Atebol |
Mae'r Swyddog Atebol ar gyfer pob un o gyrff y GIG yn gyfrifol am roi trefniadau priodol ar waith ar gyfer sicrhau darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd o ran defnydd xxxxx y GIG o adnoddau, ac i sicrhau stiwardiaeth a llywodraethu priodol. Mae'r Swyddog Atebol hefyd yn gyfrifol am adolygu digonolrwydd ac effeithiolrwydd y trefniadau hyn yn rheolaidd. |
Cyfrifoldebau'r Archwilydd |
Mae gennyf gyfrifoldeb o xxx Xxxxx 61(3) o Ddeddf 2004 i lunio casgliad o'm harchwiliad o gyfrifon blynyddol pob un o gyrff y GIG a gwybodaeth berthnasol arall ynglŷn â p'un a wyf yn fodlon ei fod wedi gwneud trefniadau priodol ar gyfer sicrhau darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd o ran ei ddefnydd o adnoddau. At ddibenion fy ngwaith yn y xxxx hwn, rwyf wedi asesu 'trefniadau priodol' yn bennaf fel trefniadau rheoli perfformiad corfforaethol a rheoli ariannol sefydliad, y diffinnir elfennau pwysig ohonynt ym Mharagraff 48 o'r Cod. Cyflwynaf adroddiad os daw materion o bwys i'm sylw sy'n fy xxxx rhag dod i gasgliad bod un o gyrff GIG wedi gwneud trefniadau priodol o'r fath. Wrth ymgymryd â'm gwaith, nid wyf wedi ystyried a yw’r trefniadau sydd ar waith yn cynrychioli'r xxxx drefniadau a allai fod ar waith. Nid yw'n ofynnol ychwaith i mi ystyried, ac nid wyf wedi ystyried fel rhan o'r agwedd hon ar fy ngwaith, effeithiolrwydd y trefniadau sydd ar xxxxx xx mhob un o gyrff y GIG ar gyfer sicrhau gwerth am arian yn ystod y cyfnod a adolygir. |
Casgliad |
Mae'r casgliadau canlynol wedi'u seilio ar waith a gynhaliwyd fel rhan o'm harchwiliadau o'r cyfrifon chwe mis ar gyfer y cyfnod a ddaeth i ben 30 Medi 2009 ym mhob un o gyrff y GIG, ac mae'n gyfyngedig i'r gwaith hwnnw. Rwyf hefyd wedi seilio fy nghasgliadau ar unrhyw wybodaeth arall yr ystyriais ei bod yn berthnasol i'm harchwiliad, i gadarnhau, ym mhob ffordd berthnasol, pa drefniadau a oedd ar waith xxx xxx un o gyrff y GIG yn ystod y cyfnod i'w helpu i gyflawni ei gyfrifoldeb i sicrhau darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd o ran ei ddefnydd o adnoddau. Ar sail Datganiad am Reolaeth Fewnol y Byrddau, ac o ganlyniad i'r gwaith a gyflawnwyd, fel y disgrifiwyd uchod, fel rhan o'm harchwiliad o gyfrifon 2009-10, a'r xxxx wybodaeth arall a ystyriais yn berthnasol, rwyf yn fodlon o ran bodolaeth y trefniadau a oedd ar waith gan y Byrddau yn ystod y flwyddyn i roi cefnogaeth briodol i'w gyfrifoldeb i sicrhau darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd yn ei ddefnydd o adnoddau. Rwyf hefyd wedi codi materion amrywiol gyda'r Byrddau, ac wedi gwneud argymhellion i wella eu trefniadau. Trafodir ac esbonnir y materion hyn ymhellach yn fy Llythyr Archwilio Blynyddol i'r Bwrdd Iechyd newydd. Mae fy nghasgliad yn cwmpasu cyrff canlynol y GIG : • BILl Sir Gaerfyrddin • BILl Sir Benfro • BILl Ceredigion |
Atodiadau
Gillian Body Swyddfa Archwilio Cymru Archwilydd Cyffredinol Cymru 24 Heol y Gadeirlan Mai 2010 Caerdydd CF11 9LJ |
Casgliad ar drefniadau Ymddiriedolaeth GIG Hywel Dda
ar gyfer y cyfnod o chwe mis a ddaeth i ben 30 Medi 2009 i sicrhau darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd o ran eu defnydd o adnoddau
Cyfrifoldebau'r Swyddog Atebol |
Mae'r Swyddog Atebol ar gyfer pob un o gyrff y GIG yn gyfrifol am roi trefniadau priodol ar waith i sicrhau darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd o ran defnydd xxxxx y GIG o adnoddau, a sicrhau stiwardiaeth a llywodraethu priodol. Mae'r Swyddog Atebol hefyd yn gyfrifol am adolygu digonolrwydd ac effeithiolrwydd y trefniadau hyn yn rheolaidd. |
Cyfrifoldebau'r Archwilydd |
Mae gennyf gyfrifoldeb o xxx Xxxxx 61(3) o Ddeddf 2004 i lunio casgliad o'm harchwiliad o gyfrifon blynyddol pob un o gyrff y GIG a gwybodaeth berthnasol arall ynglŷn â p'un a wyf yn fodlon ei fod wedi gwneud trefniadau priodol ar gyfer sicrhau darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd o ran ei ddefnydd o adnoddau. At ddibenion fy ngwaith yn y xxxx hwn, rwyf wedi asesu 'trefniadau priodol' yn bennaf fel trefniadau rheoli perfformiad corfforaethol a rheoli ariannol sefydliad, y diffinnir elfennau pwysig ohonynt ym Mharagraff 48 o'r Cod. Cyflwynaf adroddiad os daw materion o bwys i'm sylw sy'n fy xxxx rhag casglu bod xxxxx y GIG wedi gwneud trefniadau priodol o'r fath. Wrth ymgymryd â'm gwaith, nid wyf wedi ystyried a yw’r trefniadau sydd ar waith yn cynrychioli'r xxxx drefniadau a allai fod ar waith. Nid yw'n ofynnol ychwaith i mi ystyried, ac nid wyf wedi ystyried fel rhan o'r agwedd hon ar fy ngwaith, effeithiolrwydd y trefniadau sydd ar xxxxx xx mhob un o gyrff y GIG ar gyfer sicrhau gwerth am arian yn ystod y cyfnod a adolygir. |
Casgliad |
Mae'r casgliadau canlynol wedi'u seilio ar waith a gynhaliwyd fel rhan o'm harchwiliadau o'r cyfrifon chwe mis ar gyfer y cyfnod a ddaeth i ben 30 Medi 2009 ym mhob un o gyrff y GIG, ac mae'n gyfyngedig i'r gwaith hwnnw. Rwyf hefyd wedi seilio fy nghasgliadau ar unrhyw wybodaeth arall yr ystyriais ei bod yn berthnasol i'm harchwiliad, i gadarnhau, ym mhob ffordd berthnasol, pa drefniadau a oedd ar waith xxx xxx un o gyrff y GIG yn ystod y cyfnod i'w helpu i gyflawni ei gyfrifoldeb i sicrhau darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd o ran ei ddefnydd o adnoddau. Ar sail Datganiad am Reolaeth Fewnol yr Ymddiriedolaeth, ac o ganlyniad i'r gwaith a gyflawnwyd, fel y disgrifiwyd uchod, fel rhan o'm harchwiliad o gyfrifon 2009-10, a'r xxxx wybodaeth arall a ystyriais yn berthnasol, heblaw am y materion a godwyd gennyf mewn perthynas â rheoli perfformiad a rheoli risg, rwy'n fodlon ar y cyfan o ran bodolaeth y trefniadau a oedd ar waith gan Ymddiriedolaeth GIG Hywel Dda yn ystod y flwyddyn i'w helpu i gyflawni ei gyfrifoldeb i sicrhau darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd yn ei ddefnydd o adnoddau. Trafodir ac esbonnir y materion hyn ymhellach yn fy Llythyr Archwilio Blynyddol i'r Bwrdd Iechyd newydd. |
Gillian Body Swyddfa Archwilio Cymru Archwilydd Cyffredinol Cymru 24 Heol y Gadeirlan Mai 2010 Caerdydd CF11 9LJ |
Meini prawf ar gyfer asesu trefniadau'r cyrff rhagflaenol yn ystod y chwe mis a ddaeth i ben 30 Medi 2009 i sicrhau darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd o ran eu defnydd o adnoddau
Trefniadau | Cwestiynau ar drefniadau |
Pennu amcanion, llunio polisïau a gwneud penderfyniadau | A yw'r xxxxx wedi rhoi trefniadau ar waith ar gyfer pennu, adolygu a gweithredu ei amcanion strategol a gweithredol? |
Diwallu anghenion defnyddwyr a threthdalwyr | A yw'r xxxxx wedi sefydlu dulliau o gyfathrebu â chleifion a'u cynrychiolwyr, a rhanddeiliaid eraill yn cynnwys partneriaid, ac a oes trefniadau monitro i sicrhau bod negeseuon allweddol ynglŷn â gwasanaethau yn cael eu hystyried? |
Cydymffurfiaeth â pholisïau sefydledig | A yw'r xxxxx wedi rhoi trefniadau ar waith i gynnal system rheolaeth fewnol gadarn, yn cynnwys trefniadau ar gyfer sicrhau cydymffurfiaeth â chyfreithiau a rheoliadau, a pholisïau a gweithdrefnau mewnol? |
Rheoli risgiau gweithredol ac ariannol | A yw'r xxxxx wedi rhoi trefniadau ar waith i reoli ei risgiau busnes pwysig? |
Rheoli adnoddau ariannol ac adnoddau eraill | A yw'r xxxxx wedi rhoi trefniadau ar waith i werthuso a gwella'r gwerth am arian y mae'n ei gyflawni o ran ei ddefnydd o adnoddau? A yw'r xxxxx wedi rhoi strategaeth ariannol, cyllidebau a rhaglen gyfalaf tymor canolig ar waith ac iddynt sail gadarn a chyda'r nod o gyflawni ei flaenoriaethau strategol? A yw'r xxxxx wedi rhoi trefniadau ar waith i sicrhau bod ei wariant yn cyfateb i'r adnoddau sydd ar gael? A yw'r xxxxx wedi rhoi trefniadau ar waith ar gyfer rheoli a monitro perfformiad yn erbyn cyllidebau, gan gymryd camau adferol lle y bo'n briodol, a chyflwyno adroddiad ar y canlyniadau i uwch reolwyr a'r Bwrdd? A yw'r xxxxx wedi rhoi trefniadau ar waith i reoli ei sail asedau? |
Monitro ac adolygu perfformiad | A yw'r Bwrdd wedi rhoi trefniadau ar waith ar gyfer monitro perfformiad a chraffu arno, i nodi amrywiannau posibl yn erbyn amcanion, safonau a thargedau strategol, ar gyfer gweithredu lle xx xxxxx a chyflwyno adroddiad i'r Bwrdd? A yw'r xxxxx wedi rhoi trefniadau ar waith i fonitro ansawdd ei wybodaeth gyhoeddedig am berfformiad, ac i gyflwyno adroddiad ar y canlyniadau i aelodau'r Bwrdd? |
Safonau ymddygiad priodol | A yw'r xxxxx wedi rhoi trefniadau ar xxxxx xxxx’r nod o hyrwyddo a sicrhau cywirdeb a phriodoldeb wrth gynnal ei fusnes? |
Adroddiadau allweddol a gyflwynwyd ers mis Medi 2009
Adroddiad /Xxxxx y GIG | Dyddiad |
Strategaeth Archwilio | |
Ymddiriedolaeth GIG Hywel Dda | Medi 2009 |
BILl Sir Gaerfyrddin | Medi 2009 |
BILl Sir Benfro | Medi 2009 |
BILl Ceredigion | Medi 2009 |
BILl Hywel Dda | Rhagfyr 2009 |
Adolygiad o Drosi Xxxxxxxx Xxxxxxxx 2008-09 i'r Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol | |
Ymddiriedolaeth GIG Hywel Dda | Hydref 2009 |
BILl Sir Gaerfyrddin | Hydref 2009 |
XXXx Xxx Xxxxxx | Hydref 2009 |
BILl Ceredigion | Hydref 2009 |
Archwiliad o'r Cyfrifon Ariannol ac Adroddiad i'r Rhai sy'n Gyfrifol am Lywodraethu | |
Ymddiriedolaeth GIG Xxxxx Xxx | Chwefror 2010 |
BILl Sir Gaerfyrddin | Chwefror 2010 |
XXXx Xxx Xxxxxx | Chwefror 2010 |
BILl Ceredigion | Chwefror 2010 |
Perfformiad (Ymddiriedolaeth GIG Hywel Dda gyfan) | |
Adroddiad Etifeddiaeth (yn cynnwys ad-drefnu'r GIG) (drafft) | Tachwedd 2009 |
Adolygiad Xxxxxxx Xxxxxxx | Chwefror 2010 |
Cywirdeb Data Rhestrau Aros (drafft) | Mawrth 2010 |
Llywodraethu Gwybodaeth | Hydref 2009 |
Llythyr Archwilio Blynyddol Cyfunol | Mai 2010 |
Swyddfa Archwilio Cymru 24 Heol y Gadeirlan Caerdydd CF11 9LJ Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600
Ffôn Testun: 029 2032 0660 E-xxxx: xxxxx@xxx.xxx.xx Gwefan: xxx.xxx.xxx.xx