Garej Lleiod, Ffordd Llanberis, Caernarfon, Gwynedd, LL55 2DF
Caulmert Limited
Gwasanaethau Ymgynghori Peirianyddol, Amgylcheddol a Chynllunio
Garej Lleiod, Ffordd Llanberis, Caernarfon, Gwynedd, LL55 2DF
Adra (Tai) Cyfyngedig
Garej Lleiod Datganiad Cynllunio Ategol
Paratowyd gan:
Caulmert Limited
Swyddfa: Intec, Ffordd Y Parc, Parc Menai, Bangor, LL57 4FG
Ffôn: 01248 672666
E-xxxx: XxxxXxxxx@xxxxxxxx.xxx
Cyfeirnod y Ddogfen: 5058-CAU-XX-XX-RP-T-0300.A0.C1 Mai 22
COFNOD CYMERADWYO
Safle: Garej Lleiod, Ffordd Llanberis, Caernarfon, Gwynedd, LL55 2DF
Cleient: Adra (Tai) Cyfyngedig
Teitl y Prosiect: Garej Lleiod
Teitl y Ddogfen: Datganiad Cynllunio Ategol Cyfeirnod y Ddogfen: 5058-CAU-XX-XX-RP-T-0300.A0.C1 Statws yr Adroddiad: Diwedd
Rheolwr y Prosiect: Xxxx Xxxxxx
Caulmert Limited: Intec, Ffordd Y Parc, Parc Menai, Bangor, LL57 4FG
Awdur | Xxxx Xxxxx Cyfarwyddwr Cyswllt Cynllunio | Dyddiad | 18/05/2022 |
Adolygwyd | Xxxx Xxxxxx Cyfarwyddwr Cynllunio | Dyddiad | 18/05/2022 |
Cymeradwywyd | Xxxx Xxxxxx Cyfarwyddwr Cynllunio | Dyddiad | 18/05/2022 |
Cofnod Diwygio | |||
Diwygiad | Disgrifiad o’r Newid | Cymeradwywyd | Dyddiad Gweithredu |
C0 | Cyhoeddiad Cychwynnol | NF | |
YMWADIAD
Paratowyd yr adroddiad hwn gan Caulmert Limited gyda phob gallu, gofal a phwyll posibl yn unol â chyfarwyddyd y cleient a enwir uchod ac o fewn telerau ac amodau’r Contract â’r Cleient.
Mae’r adroddiad at ddefnydd y Cleient a enwir uchod yn unig ac ni fydd Caulmert Limited yn gyfrifol am unrhyw ddefnyddio o’r adroddiad na’i gynnwys i unrhyw ddiben heblaw’r hyn a chafodd ei baratoi ar ei gyfer a’i ddarparu i’r Cleient.
Nid yw Caulmert Limited yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb mewn unrhyw ffordd i unrhyw drydydd parti a all fod yn ymwybodol neu sydd wedi gweithredu yn sgil gwybodaeth am yr adroddiad neu ei gynnwys.
Ni ellir copïo nac atgynhyrchu unrhyw ran o’r adroddiad hwn heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw
gan Caulmert Limited.
Datganiad Cynllunio Ategol
CYNNWYS
3.0 Y DATBLYGIAD ARFAETHEDIG 4
5.1 Polisi Cynllunio Cenedlaethol 6
6.4 Perygl o Lifogydd a Draeniad 19
1.1.1 Cafodd Caulmert Ltd ei benodi gan Adra (Tai) Cyfyngedig (“yr ymgeisydd”) i gyflwyno cais am ganiatâd cynllunio llawn i Gyngor Gwynedd i ailddatblygu safle modurdy ar gyfer 21 o fflatiau i bobl dros 55 oed/pobl hŷn yn Garej Lleiod, Ffordd Llanberis, Caernarfon, Gwynedd, LL55 2DF.
1.1.2 Amgaeir y dogfennau canlynol gyda’r cais cynllunio hwn a dylid ei ddarllen ochr yn ochr â’r
dogfennau hynny:
• Datganiad Cynllunio Ategol – Caulmert Ltd
• Datganiad Dylunio a Mynediad – Caulmert Ltd
• Datganiad Tai Fforddiadwy – Adra (Tai) Cyfyngedig
• Datganiad Cymysgedd Tai - Adra (Tai) Cyfyngedig
• Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg – Caulmert Ltd
• Datganiad Trafnidiaeth – Caulmert Ltd
• Strategaeth Ddraenio – Caulmert Ltd
• Adroddiad Geoamgylcheddol cam I a Cham II
• Arolwg o Gynefinoedd Cam 1 – AES Ltd
• Adroddiad Arolwg o Weithgarwch Ystlumod – AES Ltd
• LLG-LAW-X-X-DR-A-030001 Cynllun Lleoliad Safle Presennol
• LLG-LAW-X-X-DR-A-060001 Cynllun Lleoliad Safle Arfaethedig
• LLG-LAW-X-G00-DR-A-061001_P5_ Cynllun y Llawr Daear
• LLG-LAW-X-U01-DR-A-061002_P5_ Cynlluniau’r Llawr Cyntaf a’r Ail Xxxx
• LLG-LAW-X-U03-DR-A-061003_P5_ Cynlluniau’r Trydydd Llawr a’r To
• LLG-LAW-X-X-DR-A-062001_P5_ Gweddluniau Arfaethedig
• LLG-LAW-X-X-DR-A-061004_P2_ Manylion o’r Mathau o Fflatiau
• LLG-LAW-X-X-DR-A-093001_P5_ Darluniau 3D o’r Safle
• PMS21277-01 Arolwg Topograffig
1.2.1 Xxx Xxxx (Tai) Cyfyngedig, Cartrefi Cymunedol Gwynedd gynt, yn Gymdeithas Tai a sefydlwyd yn 2010 yn dilyn pleidlais ‘ie’ gan denantiaid Cyngor Gwynedd. Maent yn darparu cartrefi a gwasanaethau fforddiadwy o ansawdd i denantiaid ac maent yn ymdrechu i warchod a datblygu diwylliant a threftadaeth y cymunedau.
1.2.2 Fel landlord cymdeithasol cofrestredig eu prif ddiben yw darparu tai rhent fforddiadwy i’r sawl xxxx xxxxx cartref. Maent yn sefydliad nid-er-elw annibynnol sydd wedi’i gofrestru ac sy’n cael ei reoleiddio gan Lywodraeth Cymru. Mae nid-er-elw’n golygu bod unrhyw incwm xxxx xxx yn mynd yn ôl i’r busnes i’w alluogi i barhau i ddarparu cartrefi a gwasanaethau ac i gyflawni ei amcanion.
2.1.1 Mae arwynebedd safle’r cais (cyfeirir ato fel ‘y safle’ o hyn ymlaen) tua 0.7 hectar ac mae wedi’i leoli i’r dwyrain o Ffordd Llanberis ac mae wedi’i feddiannu ar hyn o bryd gan Garej Lleiod. Mae’r safle mewn ardal drefol gyda datblygiad preswyl i’r gogledd orllewin a’r de orllewin. Ychydig i’r de ddwyrain o’r safle mae Siop Sglodion a siop cyfleustra. Mae Gorsaf Xxx Caernarfon a Chanolfan Cyfiawnder Caernarfon hefyd i’r gogledd orllewin o’r safle.
2.1.2 Dangosir lleoliad y safle yn Ffigur isod:
Ffigur 1 – Lleoliad y Safle (Google Maps)
2.1.3 Mae’r safle wedi’i gysylltu’n dda â’r ardal drefol bresennol o ran ei agosrwydd at gyfleusterau cymunedol a hwylustod cysylltiadau bysiau a’r rhwydwaith ffyrdd cyfagos.
2.2.1 Y bwriad yw defnyddio mynediad i’r safle’n union oddi ar Ffordd Llanberis lle mae mynedfa ar
xxxx xxxxxx.
2.3.1 Cynhaliwyd Arolwg Topograffeg o’r safle ac mae wedi’i gynnwys gyda’r cais. Mae’r safle’n wynebu’r A4086 Ffordd Llanberis ac mae ar frig dyffryn serth Afon Cadnant. Mae ochr y dyffryn wedi’i ffurfio o dir o waith dyn tua 35.37mAOD i 34.54mAOD, gyda llawr y dyffryn tua 5m yn is.
2.4.1 Nid oes coed ar y safle ond mae Coed Cadnant yn ffinio â therfyn gogledd ddwyreiniol y safle.
2.5.1 Mae’r safle wedi’i leoli ym Mharth A y Map Cyngor Datblygu (DAM) lle dywedir nad oes dim neu fawr ddim perygl o lifogydd afonol neu arfordirol/llanwol.
2.6.1 Mae’r safle o fewn ardal drefol gyda datblygiad preswyl i’r gogledd orllewin a’r de orllewin. Yn agos ato i’r de ddwyrain mae siop Sglodion a siop hwylus. Mae Gorsaf Xxx Caernarfon a Chanolfan Cyfiawnder Caernarfon hefyd i’r gogledd orllewin o’r safle.
2.7.1 Nid oes dim dynodiadau tirwedd ar safle’r cais nac yn yr ardal gyfagos.
2.8.1 Nid yw’r safle’n dod o fewn unrhyw ddynodiadau amgylcheddol.
2.9.1 Mae Safle Rhufeinig Segontium, sy’n heneb gofrestredig, o fewn 500m i’r safle. Fodd bynnag, mae’r topograffi, yr adeiladau a’r llystyfiant sydd rhyngddo â’r safle yn golygu na fydd modd gweld y safle o’r heneb gofrestredig. Felly, ni chredir y bydd yn cael unrhyw effaith ar leoliad yr heneb gofrestredig.
2.10.1 Xxx xxx y safle’r xxxxx cynllunio perthnasol canlynol:
• C98A/0471/14/LL – Newid defnydd o orsaf betrol/gweithdy/ siop/siop golchi dillad i safle gwerthu ceir - CYMERADWYWYD – 12.11.1998
• C96A/0065/14/CL – Xxxxxxxx i greu storfa a siop – GWRTHODWYD – 15.11.1996
3.1.1 Mae’r cais yn gofyn am ganiatâd cynllunio llawn i ailddatblygu safle garej yn 21 o fflatiau ar gyfer pobl dros 55 oed/pobl hŷn yn Garej Lleiod, Ffordd Llanberis, Caernarfon, Gwynedd, LL55 2DF.
3.1.2 Byddai’r 21 uned yn cynnig gofod byw i bobl hŷn dros 55 oed yn y datblygiad arfaethedig heb ddim darpariaeth gofal ar gael ar y safle. Nid yw’r cynigion ychwaith yn cynnwys warden 24/7 nac aelodau staff ar y safle.
3.1.3 Byddai’r llety a ddarperir yn cynnwys y canlynol:
• 7 x Fflat 2P1B, GIA 53 SQ.M;
• 14 x Fflat 3P2B, GIA 65 SQ.M;
• Lolfa Gymunedol;
• Ystafell Beiriannau;
• Swyddfa;
• Storfa Bygis /Beiciau; a
• Storfa Biniau
3.1.4 Mae lle i barcio 14 o geir a lle i droi wedi’i gynnwys ar y safle.
3.1.5 Dangosir cynllun y safle arfaethedig ar dwg. No. LLG-LAW-X-G00-DR-A-061001_P5 sy’n dangos y byddai modd cynnwys y datblygiad arfaethedig o fewn y safle, ynghyd â gofod amwynderau, a mannau gwasanaethu a pharcio.
3.1.6 Mae’r datblygiad yn cynnwys bloc canolog o bedwar llawr gyda thri llawr i’r de ddwyrain a xxx xxxx i’r gogledd orllewin, i leihau’r effaith ar eiddo cyfagos.
4.1.1 Mae safle’r cais wedi’i leoli o fewn ffiniau datblygu Caernarfon ond nid yw wedi’i ddynodi ar gyfer defnydd tir penodol ar Fap Cynigion Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Ynys Môn a Gwynedd 2011 - 2026. Cafodd yr LDP hwn ei fabwysiadu’n ffurfiol ar 31 Gorffennaf 2017.
4.1.2 Xxx Xxxxx 17 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 a Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 (DMPWO) fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr gynnal ymgynghoriad cyn y cais ar gyfer datblygiadau mawr. Mae hyn yn cynnwys codi 10 neu fwy o anheddau ac xxxxx, xxx’r cynnig yn dod o fewn y gofyniad hwn. Cyhoeddwyd y Datganiad Cynllunio Ategol hwn i ddibenion ymgynghori cyn y cais yn unol â’r rheoliadau perthnasol.
5.1 Polisi Cynllunio Cenedlaethol
5.1.1 Xxx Xxxxxx Cynllunio Cymru (Rhifyn 11, Chwefror 2021) yn cynnwys y cyd-destun a chanllawiau polisi cyffredinol ar gyfer cynllunio yng Nghymru. Mae’r polisi’n cael ei ategu gan gyfres o Nodiadau Cyngor Technegol (TAN), a Chylchlythyrau Llywodraeth Cymru, a llythyrau egluro polisi, sydd ynghyd â PPW yn rhoi fframwaith polisi cynllunio cenedlaethol i Gymru.
5.1.2 Prif amcan PCC yw sicrhau bod y system gynllunio’n cyfrannu at ddatblygu cynaliadwy ac yn
gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.
5.1.3 Dywed paragraff 1.3 “Mae PCC yn hyrwyddo gweithredu ar xxx xxxxx o’r broses gynllunio sy’n ffafriol i sicrhau cymaint o gyfraniad â phosibl at lesiant Cymru a’i chymunedau. Mae’n annog dull ehangach, cynaliadwy sy’n datrys problemau sy’n canolbwyntio ar integreiddio a mynd i’r afael â materion lluosog yn hytrach nag ar ddull sy’n dameidiog, di-drefn sy’n ymdrin â materion ar eu pen eu hunain. Mae’n darparu cyfle i ddileu unrhyw broblemau gwirioneddol neu ganfyddedig mewn dulliau cyfredol ac ysgogi a chefnogi syniadau arloesol a chreadigol yn ogystal â safonau tystiolaeth ac asesu uchel fel sail i baratoi cynlluniau datblygu a strategaethau a chynigion unigol.”.
5.1.4 Mae Pennod 1 ‘Cyflwyniad’ yn cyflwyno saith nod llesiant ar gyfer Cymru gynaliadwy:
• Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-xxxx
• Cymru lewyrchus
• Cymru gydnerth
• Cymru iachach
• Cymru sy’n fwy cyfartal
• Cymru â chymunedau cydlynus
• Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
5.1.5 Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i sicrhau datblygu cynaliadwy. Mae’r Ddeddf yn cynnwys y diffiniad canlynol o ddatblygu cynaliadwy yng Nghymru;
• “Datblygu cynaliadwy” yw’r broses o wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru drwy weithredu, yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy, gan anelu at gyrraedd y nodau llesiant.
• Gweithredu yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy” yn golygu bod yn rhaid i’r xxxxx weithredu mewn modd sy’n ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau”.
5.1.6 Mae Pennod 2 ‘Pobl a Lleoedd: Llesiant drwy Greu Lleoedd’, yn datgan ym Mharagraff 2.13,
‘Prif Egwyddorion Cynllunio’:
“Mae lleoedd cynaliadwy yn ddibynnol ar system sy’n seiliedig ar gynllun er mwyn sicrhau bod pob cynllun a phenderfyniad datblygu a wneir trwy system gynllunio yn gweithio gyda’i gilydd i ddarparu lleoedd cynaliadwy. Dylid defnyddio gweledigaeth yr Egwyddor Allweddol (gweler Ffigur 4) i lywio pob cynllun datblygu, gan gynnwys Cymru’r Dyfodol. Mae’r egwyddorion hyn yn cefnogi’r newid diwylliannol sydd xx xxxxx i fabwysiadu'r ffordd “creu lleoedd” o weithio a sicrhau bod y system gynllunio’n cefnogi’r datblygiad iawn yn y lle iawn”
5.1.7 Â Paragraff 2.14 ymlaen i ddweud “Bydd yr egwyddorion hyn yn ein galluogi i wireddu’r nodau a’r pum ffordd o weithio a ddisgrifir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol trwy gynllunio defnydd tir. Yr egwyddorion hyn fydd y cyd-destun a’r catalydd ar gyfer rhoi’r system gynllunio ar waith mewn ffordd bositif ledled Cymru”.
5.1.8 Dywed Pennod 2 ‘Pobl a Lleoedd: Llesiant drwy Greu Lleoedd’’, ym Mharagraff 2.15:
“Dylid defnyddio canlyniadau cenedlaethol creu lleoedd cynaliadwy i helpu i baratoi cynlluniau datblygu ac i asesu cynigion datblygu”.
5.1.9 Nodir canlyniadau creu lleoedd cynaliadwy cenedlaethol yn Ffigur 5 PPW fel:
• Creu a Chynnal Cymunedau;
• Gwneud y gorau o adnoddau;
• Hybu’r economi i dyfu mewn ffordd gynaliadwy;
• Amddiffyn yr Amgylchedd a Chyfyngu ar yr Effeithiau ar yr Amgylchedd; a
• Hwyluso Amgylcheddau Hygyrch ac Iach.
5.1.10 Dywed paragraff 3.3 Pennod 3, ‘Dewisiadau Strategol a Gofodol’:
“Mae dylunio da yn hollbwysig i greu mannau cynaliadwy lle mae pobl eisiau byw, gweithio a chymdeithasu. Mae mwy i ddylunio na phensaernïaeth adeilad; mae’n golygu’r berthynas rhwng xxxx elfennau’r amgylchedd naturiol ac adeiledig a rhwng pobl a lleoedd hefyd”.
5.1.11 Dywed Paragraff 3.4:
“Mae dylunio yn broses gynhwysol sy’n gallu codi dyheadau’r cyhoedd, atgyfnerthu
balchder dinesig a chreu ymdeimlad o le a helpu i lywio ei ddyfodol.”
5.1.12 Mae Paragraff 3.55 yn rhoi pwyslais ar ffafrio ailddefnyddio tir a oedd wedi’i ddatblygu eisoes,
a dywed:
“Dylid defnyddio tir gafodd ei ddatblygu o’r blaen (tir llwyd fel y’i gelwir), lle medrir, yn lle safleoedd xxxx glas os yw’n addas datblygu arno.”.
5.1.13 Hefyd, dywed paragraff 3.55:
“Mewn aneddiadau, fel arfer, ystyrir bod tir o’r fath yn addas ar gyfer datblygiad priodol lle byddai ei ailddefnyddio’n hyrwyddo egwyddorion cynaliadwyedd a bod modd trechu unrhyw gyfyngiadau”.
5.1.14 Dywed paragraff 4.1.1. Trafnidiaeth ym Mhennod 4, Lleoedd Actif a Chymdeithasol:
“Dylai’r system gynllunio alluogi pobl i gael mynediad i swyddi a gwasanaethau drwy deithiau byrrach a mwy effeithlon ar droed, beic a thrafnidiaeth gyhoeddus. Trwy ddylanwadu ar leoliad, graddfa, dwysedd, cymysgedd defnyddiau a dyluniad datblygiadau newydd, mae’r system gynllunio yn gallu ehangu’r dewis o ran trafnidiaeth a sicrhau hygyrchedd mewn ffordd sy’n hybu datblygu cynaliadwy, cynyddu gweithgarwch corfforol, gwella iechyd a helpu i fynd i’r afael ag achosion newid yn yr hinsawdd a llygredd sy’n cael ei gludo yn yr aer drwy
• Ehangu Dewisiadau Teithio Cynaliadwy – mesurau i gynyddu cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus, gan leihau dibyniaeth ar geir ar gyfer teithio xxx dydd;
• Rheoli’r Rhwydwaith – mesurau i wneud y defnydd gorau o’r capasiti sydd ar gael,
gyda chymorth seilwaith newydd pwrpasol; a
• Rheoli’r Galw – defnyddio strategaethau a pholisïau i leihau’r galw am deithio, gan
ganolbwyntio ar gerbydau preifat un gyrrwr”.
5.1.15 Dywed Paragraff 4.1.4 “Dylid integreiddio cynllunio defnydd tir a thrafnidiaeth. Mae’n rhaid i’r
system gynllunio sicrhau ei bod yn hwyluso integreiddio:
• oddi mewn a rhwng gwahanol fathau o drafnidiaeth;
• rhwng mesurau trafnidiaeth a chynllunio defnydd tir;
• rhwng mesurau trafnidiaeth a pholisïau i ddiogelu a gwella’r amgylchedd; a
• rhwng mesurau trafnidiaeth a pholisïau ar gyfer addysg, iechyd, cynhwysiant cymdeithasol a chreu cyfoeth”.
5.1.16 Mae Paragraff 4.1.9 – ‘Trafnidiaeth Gynaliadwy’ yn cadarnhau bod “Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i leihau’r ddibyniaeth ar y car preifat a chefnogi newid i ddulliau teithio fel cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus”.
5.1.17 Â Paragraff 4.1.10 ymlaen i ddatgan “Xxx xxx y system gynllunio ran ganolog i’w chwarae i leihau’r angen i deithio, yn enwedig gan ddefnyddio ceir preifat, ac i gefnogi trafnidiaeth gyhoeddus trwy hwyluso datblygiadau sydd:
• yn cael eu lleoli yn y mannau iawn, lle mae’n hawdd defnyddio dulliau teithio
cynaliadwy heb fod angen car;
• yn cael eu dylunio mewn ffordd sy’n eu hintegreiddio â’r defnydd a wneir o’r tir ar hyn
o bryd ac â chymdogaethau; ac
• sy’n ei gwneud yn bosib mynd ar deithiau byr yn y datblygiad a thu hwnt yn rhwydd ar droed ac ar feic.”
5.1.18 O ran parcio ceir, dywed paragraff 4.1.49;
“Mae darpariaeth parcio ceir yn ddylanwad mawr ar sut mae pobl yn dewis teithio a’r patrwm datblygu. Hefyd, gall ble a sut y mae ceir yn cael eu parcio fod yn ffactor fawr o ran ansawdd lle … Rhaid i awdurdodau cynllunio gefnogi cynlluniau sy’n cadw lefelau parcio ar eu hisaf, yn enwedig parcio oddi ar y stryd, os ydyn nhw wedi’u dylunio’n dda”.
5.1.19 Dywed Paragraff 4.2 – ‘Tai’, y canlynol ym mharagraff 4.2.1:
“Mae’n rhaid i awdurdodau cynllunio ddeall xxxx agweddau’r farchnad dai yn eu hardal, a fydd yn cynnwys y gofyn am dai, y cyflenwad o dai a’r tai a ddarperir”.
5.1.20 Dywed Paragraff 4.2.16:
“Mae’n rhaid i awdurdodau cynllunio, tirfeddianwyr ac adeiladwyr tai gydweithio mewn ffordd adeiladol er mwyn nodi tir ar gyfer tai i’w ddatblygu mewn lleoliadau cynaliadwy. Wrth ddynodi safleoedd sydd i’w neilltuo ar gyfer tai mewn cynlluniau datblygu, mae’n rhaid i awdurdodau cynllunio lleol ddilyn y drefn chwilio a ddisgrifir ym mharagraff 3.43-3.45, gan ddechrau trwy ailddefnyddio tir a ddatblygwyd o’r blaen a/neu a danddefnyddiwyd, mewn aneddiadau…”.
5.1.21 Mae Paragraff 4.2.17 yn cydnabod bod “manteisio i’r eithaf ar dir addas a ddatblygwyd o’r blaen a/neu a danddefnyddiwyd yn fodd o hybu adfywiad, ac ar yr un pryd leddfu’r pwysau i ddatblygu ar safleoedd xxxx glas”.
5.1.22 Dywed Paragraff 4.2.25 – ‘Tai Fforddiadwy’ fod:
“Angen y gymuned am dai fforddiadwy yn ystyriaeth gynllunio berthnasol wrth lunio polisïau cynlluniau datblygu a phenderfynu ceisiadau cynllunio perthnasol”.
5.1.23 Ym Mharagraff 5.7.7 o Bennod 5, ‘Lleoedd Cynhyrchiol a Mentrus;
“Mae manteision ynni adnewyddadwy a charbon isel fel rhan o’r ymrwymiad cyffredinol i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a diogelu’r cyflenwad ynni o bwys aruthrol. Trwy barhau i godi tanwyddau ffosil, rydym yn xxxx cynnydd 89 tuag at gyflawni ymrwymiadau cyffredinol i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Dylai’r system gynllunio:
• … hwyluso’r broses o integreiddio egwyddorion dylunio adeiladau
cynaliadwy mewn datblygiad newydd;
• sicrhau’r lleoliad gorau ar gyfer datblygiadau newydd i sicrhau bod adnoddau’n cael eu defnyddio’n effeithlon;…”
5.1.24 Dywed Pennod 5, paragraff 5.8, ‘Adeiladu Cynaliadwy’, ym mharagraff 5.8.1:
“Dylai’r system gynllunio gefnogi datblygiad newydd sy’n defnyddio ynni’n effeithiol iawn, yn cefnogi datgarboneiddio, yn mynd i’r afael ag achosion newid yn yr hinsawdd ac yn addasu i effeithiau'r argyfwng hinsawdd nawr ac i’r dyfodol trwy ymgorffori mesurau lliniaru ac addasu effeithiol”.
5.1.25 Dywed Pennod 6 ‘Lleoedd Unigryw a Naturiol’, ym mharagraff 6.6.17, yn achos Systemau Draenio Cynaliadwy a Datblygu:
“Xxx xxxxx cymeradwyaeth Xxxxx Cymeradwyo SuDS (SAB) hefyd ar ddatblygiadau newydd o fwy nag un annedd neu waith adeiladu sy’n 100 metr sgwâr neu fwy, cyn y caiff y gwaith adeiladu ddechrau”.
5.1.26 Ym mharagraff 6.6.18, dywed hefyd:
“Rhaid ystyried SuDS fel rhan annatod o ddyluniad datblygiad newydd a dylid ei ystyried cyn gynhared â phosibl wrth lunio cynigion ar gyfer datblygiad newydd”.
5.1.27 Mae Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 2: Cynllunio a Thai Fforddiadwy (2006) yn cynnwys cyngor ymarferol ar rôl y system gynllunio i gyflenwi tai fforddiadwy.
5.1.28 Xxx Xxxxx 6 Cydweithio – rolau awdurdodau lleol, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a datblygwyr preifat, yn trafod dull cydweithredol rhwng awdurdodau lleol, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a datblygwyr preifat. Dywed Paragraff 6.4:
Nodir isod y meysydd allweddol lle y dylai’r awdurdodau cynllunio lleol, yr awdurdodau tai, y landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a’r datblygwyr preifat gydweithio:
• cadarnhau xxxx yw’r angen am dai yn y farchnad dai leol/ y marchnadoedd tai
lleol;
• pennu targedau ar gyfer darparu tai fforddiadwy drwy’r system gynllunio (ledled
ardal yr awdurdod ac ar safleoedd penodol);
• monitro unrhyw newidiadau yn yr angen am dai;
• diweddaru polisïau cynllunio a thai a’r targedau ar gyfer tai fforddiadwy;
• clustnodi safleoedd posibl ar gyfer tai fforddiadwy (gan gynnwys safleoedd ar hap
a safleoedd eithriedig gwledig);
• defnyddio amodau cynllunio a rhwymedigaethau cynllunio i sicrhau tai
fforddiadwy;
• sicrhau bod amrywiaeth briodol o ran y mathau o dai ac o ddeiliadaethau a fydd yn cyfrannu at ddiwallu’r angen a nodwyd am dai fforddiadwy ac at wireddu’r amcan o greu cymunedau cymysg a chynaliadwy;
• adeiladu a rheoli tai fforddiadwy;
• rheoli pwy sy’n cael meddiannu’r tai fforddiadwy, a hynny er mwyn sicrhau mai pobl sydd mewn categorïau penodol o xxxxx xx’n meddiannu’r tai hynny.
5.1.29 Mae Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 12: Dylunio (2016) yn rhoi cyngor ar sut y gall ‘Hybu cynaliadwyedd drwy ddylunio da’ a ‘Cynllunio ar gyfer adeiladau cynaliadwy’ gael eu hwyluso drwy’r system gynllunio.
5.2.1 Mae’r Cynllun Datblygu Statudol ar gyfer yr ardal lle mae safle’r cais wedi’i leoli’n cynnwys Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Ynys Môn a Gwynedd 2011 – 2025 (LDP), a fabwysiadwyd ar 31 Gorffennaf 2017.
Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Ynys Môn a Gwynedd 2011-2025
5.2.2 Mae’r LDP a fabwysiadwyd yn cyflwyno’r strategaeth a’r nodau ar gyfer datblygu a defnyddio tir yn yr ardal sy’n dod o fewn Awdurdodau Cynllunio Môn a Gwynedd, ac mae’n cynnwys polisïau i weithredu’r strategaeth a’r nodau dros gyfnod o 15 mlynedd (2011 hyd 2026). Bydd
y Cynllun yn cael llawer o ddylanwad ar ddatblygiad yr ardal gyfan a chymunedau unigol. Mae’n rhoi arweiniad ar leoliad tai newydd, cyfleoedd cyflogaeth, cyfleusterau hamdden a chymunedol ac ymhle fydd y rhain yn cael eu darparu yn yr ardal. Bydd y Cynllun yn cael ei ddefnyddio i benderfynu pa ddatblygiadau a gaiff ganiatâd gan Gynghorau yn y dyfodol ac ymhle.
5.2.3 Mae safle’r cais wedi’i leoli o fewn ffin ddatblygu Caernarfon yn ôl diffiniad Map Cynigion yr
LPD a fabwysiadwyd. Nid yw’r safle wedi’i ddynodi ar gyfer defnydd tir penodol.
5.2.4 Xxx Xxxxxx Strategol PS 1 yr LDP yn ymdrechu i hybu a chefnogi’r defnydd o’r Gymraeg yn ardal
y Cynllun. Ymhlith pethau eraill, dywed y polisi y cyflawnir hyn drwy:
“Ofyn am Ddatganiad Iaith Gymraeg fydd yn dweud sut bydd datblygiad arfaethedig yn gwarchod, hyrwyddo a chryfhau’r iaith Gymraeg, pan fydd y datblygiad arfaethedig yn perthyn i un o’r categorïau canlynol:
a. Datblygiad manwerthu, diwydiannol neu fasnachol sy’n cyflogi mwy na 50 o weithwyr a/ neu gydag arwynebedd o 1,000 m. sg. neu fwy; neu
b. Datblygiad preswyl a fydd un ai ar ben ei hun neu yn gronnol yn darparu mwy na’r
ddarpariaeth tai dangosol a osodwyd ar gyfer yr anheddle ym Mholisi TAI 1 - TAI 6; neu
c. Datblygiad preswyl o 5 o unedau xxx xxx fwy ar safleoedd a ddynodwyd neu safleoedd ar hap du mewn i ffiniau datblygu nad yw’n mynd i’r afael â thystiolaeth o angen a galw am dai a gofnodir mewn Asesiad Marchnad Tai a ffynonellau tystiolaeth leol berthnasol eraill.”.
5.1.30 Xxx Xxxxxx ISA 1 yn ymwneud â Darparu Isadeiledd a dywed “Os yw cynnig yn creu angen uniongyrchol am isadeiledd newydd neu well, ac os na chaiff hwn ei ddarparu gan gwmni gwasanaeth neu isadeiledd, yna rhaid i’r datblygiad ei ariannu. Gellir ceisio cyfraniad ariannol i sicrhau gwelliannau i isadeiledd, cyfleusterau, gwasanaethau a gwaith cysylltiedig, os yw’r rheini yn angenrheidiol i wneud cynnig yn dderbyniol. Pan fydd yn briodol, gellir ceisio am gyfraniadau ariannol at ystod o ddibenion …”
5.1.31 O ran darparu llecynnau agored mewn datblygiadau tai newydd, dywed Polisi ISA 5:
“Disgwylir i gynigion tai newydd ar gyfer 10 neu fwy o dai, mewn ardaloedd ble na all llecynnau agored presennol fodloni anghenion y datblygiad tai arfaethedig, roi darpariaeth addas o fannau agored yn unol â safonau meincnod Fields in Trust o 2.4 hectar fesul pob 1,000 o’r boblogaeth.
Mewn amgylchiadau eithriadol, ble nad oes modd darparu llecynnau chwarae awyr
agored fel rhan annatod o’r datblygiad tai newydd, bydd angen i’r datblygwr:
1. Darparu darpariaeth addas oddi ar y safle sy’n agos at y datblygiad ac yn hygyrch iddo o ran cerdded a beicio, neu, ble nad yw hyn yn hyfyw/ymarferol
2. Gwneud cyfraniad ariannol tuag at gyfleusterau newydd gan gynnwys offer, gwella cyfleusterau presennol ar safleoedd sydd â mynediad neu wella mynediad i fannau agored presennol.
Bydd cyfraniadau gan ddatblygwyr yn destun cytundeb cyfreithiol yn unol â Pholisi ISA 1”.
5.1.32 O ran Trafnidiaeth Gynaliadwy, Datblygiad a Hygyrchedd, dywed Polisi PS 4 “Caiff datblygiad ei leoli i leihau’r angen i deithio. Bydd y Cynghorau’n cefnogi gwelliannau trafnidiaeth fydd yn uchafu hygyrchedd ar gyfer pob dull o deithio, ond yn arbennig ar droed, beic a chludiant cyhoeddus. Caiff hyn ei wireddu trwy gael mynediad hwylus ar lwybrau, isadeiledd beicio a chludiant cyhoeddus lle mae’n briodol, ac felly hyrwyddo’r defnydd o’r dulliau yma o deithio ar gyfer teithio lleol a lleihau’r angen i deithio yn y car”.
5.1.33 Xxx Xxxxxx TRA 2 yn ei gwneud yn ofynnol i sicrhau darpariaeth parcio ar gyfer pob dull o deithio yn unol â Safonau Parcio’r Cyngor.
5.1.34 I reoli effeithiau trafnidiaeth, xxx Xxxxxx TRA 4 yn gofyn bod cynigion yn cael eu cynllunio a’u dylunio mewn ffordd sy’n hybu’r dulliau trafnidiaeth mwyaf cynaliadwy gan roi sylw i hierarchaeth defnyddwyr. Â ymlaen i ddweud “Gwrthodir cynigion a fyddai’n peri niwed annerbyniol i weithrediad diogel ac effeithlon y briffordd, cludiant cyhoeddus a rhwydweithiau cludiant eraill gan gynnwys llwybrau i gerddwyr, beicwyr, hawliau tramwy cyhoeddus a llwybrau marchogaeth. Bydd graddfa niwed annerbyniol yn cael ei benderfynu gan yr awdurdod lleol achos wrth achos”.
5.1.35 Dywed Polisi Strategol PS 5 “Cefnogir datblygiadau ble gellid dangos eu bod yn gyson ag egwyddorion datblygu cynaliadwy. Dylai xxx cynnig:
1. Lliniaru’r hyn sy’n peri newid hinsawdd ac addasu i’r effeithiau hynny sy’n anochel yn
unol â Pholisi Strategol PS 6;
2. Rhoi blaenoriaeth i ddefnyddio tir ac isadeiledd yn effeithiol, gan flaenoriaethu ailddefnyddio tir ac adeiladau a ddefnyddiwyd o’r blaen, lle bynnag bo hynny’n bosib, oddi mewn i ffiniau datblygu’r Ganolfan Isranbarthol, y Canolfannau Gwasanaeth Trefol a Lleol, Pentrefi neu yn y mannau mwyaf priodol y tu xxxxx iddynt yn unol â Pholisi Strategol PS 17, PS 13 a PS 14;
3. Hyrwyddo Canolfannau a Phentrefi mwy hunangynhaliol drwy gyfrannu at gymunedau cytbwys sy’n cael eu cefnogi gan ddigonedd o wasanaethau; gweithgareddau diwylliannol, celfyddydol, chwaraeon ac adloniant; ystod amrywiol o gyfleoedd gwaith; isadeiledd ffisegol a chymdeithasol; a dewis o ddulliau teithio;
4. Gwarchod, cefnogi a hyrwyddo defnydd o’r iaith Gymraeg yn unol â Pholisi Strategol
PS 1;
5. Cadw a gwella ansawdd asedau’r amgylchedd adeiledig a hanesyddol (gan gynnwys eu gosodiad), gwella’r ddealltwriaeth ohonynt, y gwerthfawrogiad ohonynt am eu
cyfraniad cymdeithasol ac economaidd a gwneud defnydd cynaliadwy ohonynt yn unol â Pholisi Strategol PS 20;
6. Gwarchod a gwella ansawdd yr amgylchedd naturiol, ei dirwedd a’i asedau bioamrywiaeth, gan gynnwys eu deall a’u gwerthfawrogi am y cyfraniad cymdeithasol ac economaidd y maent yn eu darparu yn unol â Pholisi Strategol PS 19;
7. Lleihau’r effaith ar adnoddau lleol, osgoi llygredd ac ymgorffori egwyddorion adeiladu cynaliadwy er mwyn cyfrannu tuag at gadwraeth ac effeithlonrwydd ynni; defnyddio ynni adnewyddadwy; lleihau / ailgylchu gwastraff; defnyddio deunyddiau o ffynonellau cynaliadwy; a diogelu ansawdd y pridd;
8. Lleihau faint o ddŵr a ddefnyddir ac a wastreffir; lleihau’r effaith ar adnoddau dŵr ac ar ansawdd y dŵr; rheoli perygl llifogydd ac uchafu’r defnydd o gynlluniau draenio cynaliadwy; a dilyn amcanion Cynllun Rheolaeth Basn Afonydd Gorllewin Cymru.
5.1.36 Dywed hefyd y dylai cynigion hefyd pan yn briodol:
9. Diwallu anghenion y boblogaeth leol drwy gydol eu hoes o ran ansawdd, y mathau o ddaliadaeth a fforddiadwyedd unedau tai yn unol â Pholisi Strategol PS 16;
10. Hyrwyddo economi leol amrywiol ac ymatebol, sy’n annog buddsoddiad ac sy’n gallu
cynnal Canolfannau, Pentrefi ac ardaloedd gwledig yn unol â Pholisi Strategol PS 13;
11. Cefnogi’r economi leol a busnesau lleol drwy ddarparu cyfleoedd ar gyfer dysgu gydol oes a datblygu sgiliau yn unol â Pholisi Strategol PS 13;
12. Lleihau’r angen i deithio gyda thrafnidiaeth breifat ac annog cyfleoedd i xxx defnyddiwr deithio yn ôl y gofyn mor aml â phosib drwy ddefnyddio dulliau amgen, gan roi pwyslais arbennig ar gerdded, beicio a defnyddio cludiant cyhoeddus yn unol â Pholisi Strategol PS 4;
13. Hyrwyddo safonau dylunio uchel sy’n gwneud cyfraniad cadarnhaol i’r ardal leol, mannau hygyrch sy’n medru ymateb i ofynion y dyfodol ac sy’n lleihau trosedd, ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ofni trosedd yn unol â Pholisi Manwl PCYFF 3.
5.1.37 Er mwyn lliniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd, ni chaniateir cynigion oni bai eu bod yn gallu dangos eu bod wedi rhoi ystyriaeth fanwl i ac wedi ymateb i’r canlynol, fel y nodir ym Mholisi Strategol PS 6:
1. Yr hierarchaeth ynni:
i. Lleihau’r galw am ynni;
ii. Effeithlonrwydd ynni;
iii. Defnyddio technolegau ynni carbon xxxx xxx ynni xx-xxxxxx lle bo hynny’n ymarferol, yn hyfyw ac yn gyson â'r angen i ymgysylltu â chymunedau a’u cynnwys; gwarchod mwynderau gweledol, yr amgylchedd naturiol, adeiledig a hanesyddol a’r tirlun.
2. Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, cynorthwyo i leihau gwastraff ac annog teithio trwy ddulliau eraill yn hytrach na’r car.
Er mwyn addasu i effeithiau newid hinsawdd, caniateir cynigion dim ond pan ellir dangos gyda thystiolaeth briodol eu bod wedi rhoi ystyriaeth lawn i’r hyn a ganlyn ac wedi ymateb yn briodol iddynt:
3. Gweithredu mesurau rheoli dŵr cynaliadwy yn unol ag amcanion Cynllun Rheoli Basnau Afonydd Gorllewin Cymru;
4. Eu lleoli i ffwrdd o ardaloedd lle mae risg llifogydd, gyda'r nod o leihau'r risg llifogydd cyffredinol o fewn ardal y Cynllun ac ardaloedd y tu xxxxx xxxx, gan ystyried risg llifogydd 100 mlynedd datblygiadau preswyl, a risg llifogydd 75 mlynedd datblygiadau nad ydynt yn breswyl, oni bai gallir dangos yn glir nad oes unrhyw risg yn bodoli neu fod modd rheoli'r risg hwnnw;
5. Gallu gwrthsefyll effeithiau newid hinsawdd cymaint â phosib oherwydd ei safonau dylunio cynaliadwy uchel, lleoliad, gosodiad a dulliau adeiladu cynaliadwy (yn unol â Pholisi PCYFF 3);
6. Diogelu tir amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas, hyrwyddo rhandiroedd, cefnogi cyfleoedd i gynhyrchu bwyd yn lleol ac amaethu lleol er mwyn lleihau cyfraniad yr ardal i filltiroedd bwyd;
7. Sicrhau nad yw gallu tirweddau, amgylcheddau a rhywogaethau i addasu i effeithiau niweidiol newid hinsawdd yn cael eu heffeithio a bod amgylcheddau cydadferol yn cael eu darparu pan fo angen;
8. Anelu at y safon uchaf bosib o ran effeithlonrwydd dŵr a gweithredu mesurau eraill i wrthsefyll sychder, cynnal y llif dŵr a chynnal neu wella ansawdd dŵr gan gynnwys defnyddio systemau draenio cynaliadwy (yn unol â Pholisi PCYFF 6).
5.1.38 Dywed Polisi PCYFF 1 fod y cynllun yn dynodi Ffiniau Datblygu ar gyfer Canolfan Is- ranbarthol, Canolfannau Gwasanaeth Trefol, Canolfannau Gwasanaeth Lleol, Pentrefi Gwasanaeth a Phentrefi Lleol / Gwledig / Arfordirol ac y “Caniateir cynigion y tu mewn Ffiniau Datblygu yn unol â pholisïau a chynigion eraill y Cynllun yma, polisïau cynllunio cenedlaethol ac ystyriaethau cynllunio perthnasol eraill.”.
5.1.39 Xxx Xxxxxx PCYFF 2 yn cyflwyno Meini Prawf Datblygu a bydd yn rhaid i gynigion ddangos eu bod yn cydymffurfio â pholisïau perthnasol yn yr LDP ynghyd â’r polisi a’r canllaw cynllunio cenedlaethol. Hefyd, mae’n datgan y dylai cynigion wneud defnydd effeithlon o
dir, gan gynnwys cyflawni 30 dph, darparu gofod priodol i amwynderau, a chynnwys darpariaeth ar gyfer storio, ailgylchu a rheoli gwastraff.
5.1.40 Dywed Polisi PCYFF 3 “Bydd disgwyl i xxx cynnig arddangos dyluniad o ansawdd uchel sy’n rhoi ystyriaeth lawn i gyd-destun yr amgylchedd naturiol, hanesyddol ac adeiledig ac sy’n cyfrannu at greu llefydd deniadol a chynaliadwy. Rhoddir cefnogaeth arbennig i ddyluniad arloesol sydd yn arddangos effeithlonrwydd ynni”.
5.1.41 O ran Dylunio a Thirlunio, dywed Polisi PCYFF 4 “Dylai pob cynnig integreiddio gyda’r hyn sydd o’i gwmpas. Gwrthodir cynigion na fyddant yn dangos (trwy ddefnyddio dulliau sy’n gyson a natur, lleoliad a graddfa’r datblygiad arfaethedig) sut roddwyd ystyriaeth i faterion tirweddu o’r cychwyn fel rhan o’r cynnig dylunio”.
5.1.42 Dywed Polisi PCYFF 5 “Bydd angen i ddatblygiadau ddangos sut roddwyd sylw i’r xxxxxx ynni ym Mholisi PS 6 a manteisio i'r eithaf ar y cyfraniad o dechnoleg ynni adnewyddadwy neu xxxxxx xxxx i fodloni gofynion y cynnig am xxxxxx a gwres”.
5.1.43 O ran Cadwraeth Dŵr, dywed Polisi PCYFF 6 “Dylai cynigion gynnwys mesurau cadwraeth dŵr lle bo hynny’n ymarferol, gan gynnwys Systemau Draeniad Trefol Cynaliadwy (‘SUDS’). Dylai pob cynnig weithredu mesurau i leihau neu leddfu llifogydd lle xx xxxx, er mwyn lleihau’r dŵr wyneb sy’n rhedeg i ffwrdd a lleihau ei gyfraniad i risg llifogydd mewn mannau eraill”. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i gynigion gyda mwy na 10 annedd i gynnwys Datganiad Cadwraeth Dŵr.
5.1.44 Xxx Xxxxxx Strategol PS 17 yn cyflwyno Strategaeth Aneddleoedd, a dywed y caiff datblygiadau tai eu dosbarthu’n unol â lefelau darpariaeth gwasanaethau, swyddogaeth a maint yr anheddiad. Mae Caernarfon wedi’i ddynodi fel Canolfan Gwasanaeth Trefol lle caniateir safleoedd ar hap o fewn y ffin datblygu.
5.1.45 O ran cynhyrchu Cymysgedd Briodol o Dai, dywed Polisi TAI 8:
“Bydd y Cynghorau’n gweithio gyda phartneriaid i hyrwyddo cymunedau cymysg cynaliadwy drwy sicrhau bod pob datblygiad preswyl newydd yn cyfrannu at wella cydbwysedd tai ac yn diwallu’r anghenion a nodir ar gyfer y gymuned gyfan. Dylai cynigion gyfrannu at greu cymunedau cymysg cynaliadwy drwy:
1. Darparu cymaint â phosib o dai fforddiadwy (gan gynnwys ar gyfer angen lleol) ar draws ardal Cynllun yn unol â Pholisi Strategol PS 18;
2. Cyfrannu at wneud yn iawn am ddiffyg cydbwysedd mewn marchnadoedd tai lleol;
3. Sicrhau y defnyddir tir ar gyfer tai mewn modd cynaliadwy, gan sicrhau dwysedd
effeithlon o ddatblygu sy’n gweddu i fwynderau lleol yn unol â Pholisi PCYFF 3;
4. Sicrhau’r cymysgedd cywir o fathau a daliadaeth o unedau tai i ddiwallu anghenion
cymunedau presennol ardal y Cynllun yn ogystal â chymunedau’r dyfodol;
5. Gwneud darpariaeth, fel sy’n briodol, ar gyfer anghenion tai penodol megis llety myfyrwyr, tai i'r henoed, Sipsiwn a Theithwyr, llety â chymorth, cartrefi nyrsio, preswyl a thai gofal ychwanegol, anghenion pobl sydd ag anableddau;
6. Gwella ansawdd ac addasrwydd y stoc dai bresennol;
7. Sicrhau safonau dylunio uchel sy’n creu cymunedau cynaliadwy a chynhwysol yn unol
â Pholisi PCYFF 3”.
5.1.46 Gyda sylw penodol i gartrefi gofal preswyl, cartrefi gofal ychwanegol xxx xxxx gofal arbenigol, dywed Polisi TAI 11 y caiff y rhain eu caniatáu lle:
1. Mae’r cartrefi gofal preswyl, tai gofal ychwanegol xxx xxxx gofal arbenigol wedi’u lleoli oddi mewn i ffiniau datblygu un ai’r Ganolfan Isranbarthol neu Ganolfan Gwasanaeth Trefol neu Leol; neu
2. Mae llety gofal arbenigol, mewn amgylchiadau eithriadol, yn cynnwys ailddefnyddio safleoedd tir llwyd addas neu adeiladau sy’n agos at y ffiniau datblygu, ac y darperir cyfiawnhad clir am ei leoliad, gan roi ystyriaeth i natur y gofal sydd xx xxxxx, yr effaith ar drafnidiaeth, ac y gellir dangos nad yw safleoedd amgen yn addas ac/neu nad ydynt ar gael; ac
3. Yn achos cartrefi gofal preswyl a thai gofal ychwanegol, rhaid i’r safle fod o fewn pellter cerdded rhesymol i wasanaethau a chyfleusterau yn y Ganolfan neu lwybr cludiant cyhoeddus sy’n mynd yn aml at wasanaethau a chyfleusterau; ac
4. Na fydd y cynnig yn arwain at orddarpariaeth o xxxx gofal o gymharu ag anghenion yr ardal leol.
5.1.47 Xxx Xxxxxx Strategol PS 18 yn pennu darpariaeth o isafswm o 1,572 o gartrefi fforddiadwy newydd yng nghyfnod y cynllun. Xxx Xxxxxx TAI 15 yn gosod gofyniad ar xxx datblygiad sy’n cynnig 2 annedd neu fwy o fewn Canolfannau Gwasanaeth Trefol i ddarparu tai fforddiadwy.
5.1.48 Mae Caernarfon wedi’i leoli o fewn yr Ardal Pris Tai Aneddleoedd Arfordirol Mwy lle disgwylir darpariaeth tai fforddiadwy o 30%.
5.1.49 Dywed Polisi Strategol PS 19 “Bydd y Cynghorau’n rheoli datblygiad er mwyn gwarchod a lle bo’n berthnasol gwella amgylchedd naturiol, cefn gwlad ac arfordir arbennig ardal y Cynllun a gwrthodir cynigion a fydd yn cael effaith sylweddol andwyol arnynt oni bai bod yr angen neu’r bendithion y datblygiad yn y lleoliad yna yn amlwg gorbwyso gwerth y safle neu’r ardal a pholisi gwarchodaeth genedlaethol ar gyfer y safle a’r ardal xxx sylw”.
5.1.50 O ran sylw penodol i Gadwraeth Bioamrywiaeth Leol, dywed Polisi AMG 5:
“Dylai cynigion warchod a, ble’n briodol, gwella bioamrywiaeth sydd wedi cael ei hadnabod fel bod yn bwysig i’r ardal leol trwy:
a. Osgoi ardrawiad niweidiol sylweddol trwy leoli datblygiad yn sensitif.
b. Ystyried cyfleoedd i greu, gwella a rheoli cynefinoedd bywyd gwyllt a thirwedd naturiol gan gynnwys coridorau bywyd gwyllt, cherrig sarn, coed, gwrychoedd, coedlannau a chyrsiau dŵr.
Gwrthodir cynnig sy’n effeithio ar safleoedd o bwysigrwydd bioamrywiaeth leol oni bai gellir cydymffurfio gyda’r meini prawf canlynol i gyd:-
1. Nad oes yno safle amgen arall ar gyfer y datblygiad.
2. Bod yr angen am y datblygiad yn gorbwyso pwysigrwydd y safle i gadwraeth natur leol.
3. Bod mesurau lliniaru neu ddigolledu priodol yn cael eu cynnwys fel rhan o’r cynnig.
Ble’n angenrheidiol, dylid cynnwys gyda’r cais cynllunio Asesiad Ecolegol sydd yn nodi’r
materion bioamrywiaeth xxxx xxxxxxxxxx”.
5.1.51 Dywed Polisi Strategol PS 20 “Wrth geisio cefnogi anghenion economaidd a chymdeithasol ehangach ardal y Cynllun, bydd yr Awdurdodau Cynllunio Lleol yn diogelu a lle bo hynny’n berthnasol, yn gwella’r asedau treftadaeth unigryw”.
6.1.1 Mae safle’r cais wedi’i leoli o fewn ffin datblygu Caernarfon sydd wedi’i ddynodi fel Canolfan
Gwasanaeth Trefol lle caniateir datblygu ar safleoedd ar hap o fewn y ffin datblygu.
6.1.2 Mae’r safle’n lleoliad priodol ar gyfer datblygiad tai newydd gan ei fod o fewn ffin anheddiad Caernarfon a bod datblygiadau eraill o amgylch y safle.
6.1.3 Mae lleoliad y safle’n gynaliadwy gan ei fod yn llai na 1km o ganol Caernarfon a gwasanaethau a chyfleusterau’r dref. Yn fwy lleol, mae’r safle’n agos at siopau lleol, gwasanaethau sydd o fewn pellter cerdded derbyniol.
6.1.4 Diffinnir datblygu cynaliadwy ym Mholisi Cynllunio Cymru fel bod â thri dimensiwn; economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol. Mae’n amlwg y byddai gan y cynnig fuddiannau economaidd, drwy greu swyddi yn ystod y cyfnod adeiladu a thai newydd yn agos at gyfleoedd cyflogaeth presennol. Yn gymdeithasol, byddai’r cynllun yn darparu tai fforddiadwy mewn ardal lle xxx xxxxxxx pendant wedi’i amlygu. Yn amgylcheddol, ni fyddai’r cynllun yn cael unrhyw effeithiau andwyol ar yr amgylchedd naturiol, adeiledig na hanesyddol. O ganlyniad, byddai datblygu’r safle ar gyfer tai’n cyfrif fel datblygiad cynaliadwy o xxx Xxxxxx Cynllunio Cymru.
6.2.1 Mae Datganiad Trafnidiaeth wedi’i baratoi gan Caulmert Ltd i gyd-fynd â’r cais. Daw’r datganiad i’r casgliad bod y safle’n hygyrch drwy ystod o ddulliau teithio heblaw ceir, gan gynnwys cerdded, beicio, a thrafnidiaeth gyhoeddus, a byddai effaith y datblygiad arfaethedig ar draffig yn fychan iawn. Mae’r datblygiad arfaethedig felly’n cyd-fynd â pholisi lleol a chenedlaethol, ac nid oes rheswm i wrthod caniatâd cynllunio yn seiliedig ar briffyrdd neu gludiant.
6.3.1 Mae’r cais wedi’i ategu gan Arfarniad Ecolegol Rhagarweiniol ac Asesiad Rhagarweiniol o Glwydfannau Ystlumod a baratowyd gan Enfys Ecology.
6.3.2 Dengys yr asesiad nad oes dim safleoedd statudol wedi’i lleoli o fewn ardal y datblygiad arfaethedig ond bod dau safle dynodedig o fewn 1km i’r safle; fodd bynnag ni fydd y gwaith arfaethedig yn cael effaith niweidiol arnynt.
6.3.3 Mae safle bywyd gwyllt yn agos at safle’r datblygiad a gallai’r gwaith effeithio ar hwn. Fodd
bynnag, dilynir arferion gorau i sicrhau na fydd dim effaith niweidiol ar y safle.
6.3.4 Nid oedd dim cynefinoedd prin na nodedig yn agos at yr ardal a arolygwyd, gan gynnwys Cynefinoedd o Bwys Biolegol yn ôl Adran 7 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, cynefinoedd pwysig yn seiliedig ar ganllawiau’r Sefydliad Ecoleg a Rheolaeth Amgylcheddol
(IEEM 2006), na Chynefinoedd Blaenoriaeth ar y cyn Gynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Cenedlaethol (UK BAP 2007) neu Gynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol (BAP). Mae’r cynefinoedd ar y safle bron i gyd ar xxxx xxxxx, o fawr ddim gwerth ecolegol, ac adeiladau.
6.3.5 Bernir fod y safle’n addas ar gyfer ystlumod, ac oherwydd natur y gwaith, bydd angen o leiaf
un arolwg i ganfod a oes ystlumod yn defnyddio’r adeiladau.
6.3.6 Bernir fod amrywiaeth y rhywogaethau ar y safle a’r adeiladau presennol yn isel. Ni fydd y cynigion, felly, yn cael effaith andwyol ar fioamrywiaeth yn yr ardal gyfagos cyhyd â bod trefniadau gwneud iawn a gwella bioamrywiaeth digonol yn cael eu darparu. Mae’r prif effeithiau posibl yn debygol o fod yn ystod y gwaith; a dylid rhoi Mesurau Osgoi Rhesymol ar waith i reoli’r risg hon (yn amodol ar ganlyniadau’r arolwg o ystlumod).
6.4 Perygl o Lifogydd a Draeniad
6.4.1 Mae’r cais yn cael ei ategu gan Strategaeth Ddraenio a baratowyd gan Caulmert Ltd. Gwelwyd nad oes perygl o lifogydd ar y safle.
6.4.2 Mae’r strategaeth ddraenio’n ystyried yr ymagwedd ar Ddraenio Trefol Cynaliadwy (SuDS) a daw i’r casgliad mai’r opsiwn mwyaf cynaliadwy yw rhyddhau dŵr wyneb i Afon Cadnant sydd tua 30m oddi wrth ffin ogleddol y safle, ar dir sy’n eiddo i Goed Cadw.
7.1.1 Mae’r cais yn gofyn am ganiatâd cynllunio llawn gan Gyngor Gwynedd i ailddatblygu safle garej ar gyfer 21 o fflatiau i bobl dros 55/pobl hŷn yn Garej Lleiod, Ffordd Llanberis, Caernarfon, Gwynedd, LL55 2DF.
7.1.2 Dangosir cynllun o’r safle arfaethedig ar dwg. No. LLG-LAW-X-G00-DR-A-061001_P5 sy’n dangos y gellir adeiladu’r datblygiad arfaethedig o fewn y safle, gan ddarparu gofod amwynderau, ynghyd â gwasanaethau a mannau parcio.
7.1.3 Y cynllun datblygu ar gyfer yr ardal lle mae’r safle wedi’i leoli yw Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011 - 2026. Cafodd y Cynllun Datblygu Lleol hwn eu fabwysiadu’n ffurfiol ar 31 Gorffennaf 2017. Mae safle’r cais o fewn ffin datblygu Caernarfon sydd wedi’i ddynodi fel Canolfan Gwasanaeth Trefol lle caniateir datblygu ar safleoedd ar hap o fewn y ffin datblygu.
7.1.4 7.0.4 Fel y trafodwyd yn yr adrannau uchod ystyrir y byddai’r cynnig yn gyfraniad positif tuag at ddatblygu cynaliadwy o fewn Gwynedd ac y byddai’n gyfle i wneud cyfraniad at anghenion tai arbenigol yr ardal, gan ddarparu 21 (100%) o unedau fforddiadwy ar safle ar ffurf fflatiau rhent cymdeithasol.
7.1.5 Mae’r Datganiad Tai Fforddiadwy a gyflwynwyd yn dangos bod 305 o ymgeiswyr ar y rhestr aros am dai rhent cymdeithasol yng Nghaernarfon a bod y datblygiad arfaethedig wedi’i leoli ger wardiau â’r angen mwyaf am fflatiau un a dwy ystafell wely.
7.1.6 Credir y byddai fflatiau un a dwy ystafell wely’n xxxx rhai sydd ar hyn x xxxx yn cael eu heffeithio gan y dreth ystafell wely, ac y byddai hyn wedyn yn rhyddhau cartrefi mwy i deuluoedd yn yr ardal xxxx xxxxx cartref.
7.1.7 Mae’r datblygiad arfaethedig yn cyd-fynd â phrif egwyddorion Polisi Cynllunio Cymru yn ogystal â pholisïau lleol yng Nghynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011 – 2026 a fabwysiadwyd.
7.1.8 Mae’r cydbwysedd cynllunio felly’n bendant o blaid y datblygiad arfaethedig ac, felly, credir
nad oes dim rhesymau cryf dros wrthod caniatâd cynllunio i’r datblygiad arfaethedig.
XXX.XXXXXXXX.XXX
Registered Office: InTec, Parc Menai, Bangor, Gwynedd, LL57 4FG
Tel: 00000 000000