Cynllun Cydraddoldeb
Cynllun Cydraddoldeb
Strategol
Adroddiad Blynyddol
2020-2021
1. Cyflwyniad
Dyma’r Adroddiad Blynyddol cyntaf ar Gynllun Cydraddoldeb Strategol Conwy (2020-2024) ar gyfer y cyfnod 2020-2021.
Mae'r Ddyletswydd Gyffredinol, a nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010, yn gofyn i ni roi sylw dyledus i:
• ddileu gwahaniaethu anghyfreithlon;
• hyrwyddo cyfle cyfartal;
• a meithrin cysylltiadau da.
Mae Rheoliadau Dyletswyddau Statudol (Cymru) 2011, y cyfeirir atynt yn aml fel y Dyletswyddau Penodol, yn ei gwneud yn ofynnol i ni adrodd ar y meysydd canlynol, er mwyn dangos ein bod wedi rhoi ystyriaeth briodol i’r Ddeddf:
1.1 Y camau yr ydym wedi'u cymryd i nodi, casglu a defnyddio Gwybodaeth Berthnasol, ac effeithiolrwydd y trefniadau hyn.
1.2 Cynnydd tuag at gyflawni pob amcan cydraddoldeb, gan gynnwys datganiad ar effeithiolrwydd y camau a gymerwyd
1.3 Gwybodaeth cyflogaeth benodedig, gan gynnwys gwybodaeth am staff, recriwtio, hyfforddi a thalu
Bydd gweddill yr adroddiad hwn yn cynnwys y tri phrif xxxx xxx.
2. Gwybodaeth Berthnasol
Defnyddiom dystiolaeth sy’n ymwneud â chydraddoldeb i helpu i bennu’r amcanion cydraddoldeb a nodir yn ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2016-2020 ac rydym hefyd yn defnyddio data perthnasol wrth gynnal Asesiadau Effaith ar bolisïau ac arferion
newydd a diwygiedig. Bydd peth o’r data yn gysylltiedig ag ystadegau cenedlaethol a lle bynnag y mae ar gael, rydym yn ceisio defnyddio data lleol a rhanbarthol gan fod hwn yn fwy perthnasol i ni yng Ngogledd Cymru a Chonwy. Rydym hefyd yn ystyried gwybodaeth a gafwyd o weithgareddau ymgysylltu ac ymgynghori.
Pan aethom ati i ddatblygu Amcanion Cydraddoldeb a Chynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024, fe wnaethom adolygu ein dogfen Data ac Ymchwil Cefndirol sydd yn nodi’r data perthnasol a ddefnyddiwyd gennym wrth ddiwygio a chytuno ar ein hamcanion cydraddoldeb cyfredol ac mae hon hefyd ar gael ar ein gwefan yma. Rydym ni wedi ailedrych ar y gwaith yma yn dilyn cyhoeddi data yn ystod y pandemig.
Mae gwybodaeth arall a ddefnyddir i wneud penderfyniadau yn cynnwys:
A yw Cymru’n Decach? 2018
Cyhoeddodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ei ddogfen ‘A yw Cymru’n Decach? 2018’ sydd 2018’ sy’n datgelu fod llawer o anghydraddoldebau parhaus o hyd gyda chynnydd mewn tlodi yn arwain at fwlch hyd yn oed mwy rhwng profiadau a chyfleoedd rhai grwpiau a ddiogelir. Sydd wedi gwaethygu ymhellach yn ystod y pandemig. Nododd y
Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol argymhellion xxx 6 thema: Addysg, Gwaith, Safonau Byw, Iechyd, Cyfiawnder a Diogelwch Personol a Chyfranogiad a chafodd y rhain eu hystyried a'u cymharu â data perthnasol a gedwir yng Nghonwy wrth sefydlu'r amcanion a'r blaenoriaethau yn ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024.
Adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol: Sut mae’r Coronafeirws wedi effeithio ar gydraddoldeb a hawliau dynol Mae’r adroddiad yn amlygu bod effaith pandemig y Coronafeirws wedi bod yn anghyfartal, gan ymwreiddio anghydraddoldebau presennol ac ehangu eraill. Mae'r grwpiau sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan y cynnydd disgwyliedig mewn tlodi yn cynnwys pobl ifanc, lleiafrifoedd ethnig a phobl anabl, sydd eisoes yr agosaf at y ffin dlodi. Xxx xxxx grwpiau wedi’u heffeithio’n anghymesur o negyddol gan newidiadau yn y farchnad lafur (sydd hefyd wedi cynyddu tlodi ymhlith
aelwydydd sy’n gweithio) amhariadau i addysg, mynediad i ofal (yn enwedig pobl hŷn, lleiafrifoedd ethnig a rhai pobl anabl) a bu mwy o ddibyniaeth ar ofalwyr di-dâl, sy'n fwy tebygol o fod yn ferched. Bu cynnydd yn nifer yr achosion o gam-drin domestig a adroddwyd ac mae pryderon ynghylch gallu goroeswyr i gael cyfiawnder.
Dyletswydd Economaidd-Gymdeithasol
Daeth Rhan 1, Adran 1 Deddf Cydraddoldeb 2010 – y Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol i rym ar 31
Mawrth 2021 sydd yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus, wrth wneud penderfyniadau strategol, ystyried sut y gallai eu penderfyniadau helpu i leihau'r anghydraddoldebau canlyniadau sy'n gysylltiedig ag anfantais economaidd-gymdeithasol. Cyhoeddwyd data gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy'n dangos yr anghydraddoldebau parhaus sy'n gysylltiedig ag anfantais economaidd-gymdeithasol: statws economaidd-gymdeithasol rhieni yw'r prif ragfynegydd o hyd o ran sut mae plant yn ffynnu fel oedolion; mae'r bwlch tlodi yn cynyddu i'r rhai sy'n byw ar aelwydydd heb waith; mae 23% o'r xxxx bobl sy’n byw yng Nghymru yn byw mewn tlodi, gydag 29% ohonynt yn blant; mae graddiant cymdeithasol o ran canlyniadau iechyd yn cael ei gysylltu'n agos â statws economaidd- gymdeithasol, gan gynnwys disgwyliad oes is; mae pobl sy'n byw mewn amddifadedd materol yn teimlo'n llai diogel ac yn fwy agored i drais domestig a cham-drin. Mae'r xxxx faterion hyn wedi'u dwysáu yn ystod y pandemig.
Yn ystod 2020/2021 cynyddodd y llwyth achos ar gyfer Gostyngiad Treth y Cyngor 712 aelwyd a Phrydau Ysgol am Ddim 684 disgybl. Roedd hyn yn bennaf yn sgil materion Covid.
Drws ar glo: datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19
Mae’r adroddiad, a gyhoeddwyd fis Gorffennaf 2021 gan Fforwm Cydraddoldeb i Bobl Anabl Llywodraeth Cymru, yn awgrymu bod gwneud penderfyniadau yn ystod y cam ymateb cynnar wedi tanseilio’r Model Cymdeithasol o Anabledd a dychwelyd i’r model meddygol o anabledd.
Arweiniodd hyn at alw pobl anabl yn ‘fregus’, eu xxx xxxxx o fannau cyhoeddus, eu heithrio’n gymdeithasol a methu ag ystyried gofynion mynediad gwahanol, gyda llai o fynediad
at gludiant a gwasanaethau iechyd. Roedd pobl anabl yn fwy tebygol o farw oherwydd y feirws (yng Nghymru roedd 68% o’r bobl
a fu fawr oherwydd COVID-19 yn bobl anabl) a phrofi caledi ariannol a thlodi, gyda heriau pellach yn gysylltiedig â defnyddio Peidiwch â Dechrau Adfywio (DNAR). Ar ôl eu hamlygu cafodd nifer o faterion eu hunioni, ond mae’r adroddiad yn mynegi pryder nad y model cymdeithasol yw’r man cychwyn ac yn ailadrodd y pryderon bod y cloc wedi’i droi’n ôl ar unrhyw gynnydd wrth fabwysiadu’r model cymdeithasol.
Ffynonellau eraill o wybodaeth
Mae ein xxx Gwybodaeth ac Ymchwil Gorfforaethol yn cyhoeddi dogfen yn flynyddol o'r enw "Bwletin Ymchwil Ystadegau Cydraddoldeb" sy'n darparu'r data cydraddoldeb diweddaraf sydd ar gael am gyfansoddiad y bobl yn ein Sir. Mae’r ddogfen hon ar gael ar ein gwefan gyhoeddus. Cyfeirir at yr wybodaeth xxx xxx swyddogion wrth gynnal Asesiadau Effaith ar Gydraddoldeb ac ymgynghoriadau. Mae'r xxx Ymchwil hefyd yn cefnogi gwasanaethau pan maent yn ymgymryd ag ymgynghoriad wrth ddadansoddi'r data a gesglir o weithgareddau o’r fath.
Data’r Cyfrifiad
Parheir i ystyried Cyfrifiad 2011 Conwy fel y ffynhonnell ddata fwyaf dibynadwy, wrth fod yr Arolwg Poblogaeth Blynyddol yn cael ei
effeithio’n aml gan faint y sampl, sy’n medru gwyro’r data. Adroddodd Cyfrifiad 2011 fod 95.4% o'r boblogaeth yn Wyn Prydeinig, 2.2% yn Wyn Arall a 2.4% heb fod yn Wyn (yn erbyn ffigurau Cymru gyfan o 93.2%, 2.3% a 4.8% yn y drefn honno). Roedd 48.4% o'r boblogaeth yn ddynion, 24.8% yn anabl, a 0.9% yn Lesbiaid, Hoyw neu Ddeurywiol. Roedd 16.5% o'r boblogaeth yn 0- 15 oed, 58.9% yn 16-64 oed, 24.6% yn 65+ oed a 3.8% yn 85+ oed. Rydym yn defnyddio’r wybodaeth yma i gymharu yn erbyn ein data monitro cydraddoldeb ein hunain (ar gyfer pobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau yn ogystal â’n staff ein hunain), er mwyn ceisio gweld pa mor agos y mae’n cyd-fynd â gwneuthuriad ein cymuned leol. Nod y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol (ONS) yw rhyddhau canlyniadau cyntaf Cyfrifiad 2021 yn ystod gwanwyn 2022, gan ryddhau’r data cyfan yn 2023.
Mae Arolwg Poblogaeth Blynyddol 2020 yn dweud wrthym fod 5.6% o boblogaeth Cymru heb fod yn wyn, sydd yn gynnydd o 0.8% ers canlyniad Cyfrifiad 2011 yng Nghymru o 4.8%. Mae’r Arolwg Poblogaeth Blynyddol yn seiliedig ar ragamcanion ac xxxxx
xxx’r cywirdeb ar lefel leol yn newidiol. Ond mae ethnigrwydd disgyblion mewn ysgolion yng Nghonwy yn 2021 yn dangos bod 92.6% o ddisgyblion yn Wyn Prydeinig (i xxxx 0.3), 2.3% yn Wyn Arall (i fyny 0.1%), 0.1% yn Sipsiwn/ Teithwyr (dim newid) a 4.6% yn Ddu a Lleiafrifoedd Ethnig (i fyny 0.2%).
Mae amcangyfrif poblogaeth canol blwyddyn diweddaraf ONS o 2019 yn dangos bod 48.8% yn ddynion a 51.2% yn ferched yng Nghonwy. Mae 16.2% o’r boblogaeth yn 0-15 oed, 55.9% yn 16-64 oed, 27.9% yn 65-84 oed a 4.3% yn 85 oed a hŷn (o gymharu â 2.6% yng Nghymru gyfan).
Nid oes data ar gael am bobl sy'n drawsryweddol ar lefel awdurdodau unedol nac ar lefel genedlaethol ond mae’r ONS wedi mynd i’r afael â hyn yng Nghyfrifiad nesaf 2021.
Nid oes ffynhonnell gynhwysfawr o ddata ynglŷn ag anabledd. Mae Cyfrifiad 2011 yn darparu gwybodaeth ynglŷn â salwch cyfyngol tymor hir, a ddefnyddir i amcangyfrif anabledd, a bod gan 12.1% salwch cyfyngol sy’n effeithio ar eu gweithgareddau dyddiol “llawer iawn” a 12.2% pellach “ychydig” (cyfanswm o 24.3%), gyda 75.8% heb unrhyw salwch cyfyngol. Yn ôl yr Arolwg Poblogaeth Blynyddol yn 2020, roedd 23.9% o bobl oedran gwaith yng Nghymru yn anabl i lefel a fyddai'n cyfyngu eu gallu i weithio.
Mae cofrestr o bobl sydd â nam corfforol a / neu nam ar y synhwyrau a phobl ag anableddau dysgu sy’n defnyddio’r Gwasanaethau Cymdeithasol, ond dim ond gwybodaeth am y bobl hynny sy’n defnyddio gwasanaethau’r Cyngor yw hynny. Yn 2018/19 roedd hyn ar lefel o 6.2% yng Nghonwy o’i chymharu â ffigwr Cymru gyfan o 2.1%. Ym mis Awst 2020 yng Nghonwy, roedd 12.4% o bobl anabl yn hawlio Lwfans Byw i'r Anabl, Taliadau Annibyniaeth Personol neu fudd-daliadau Lwfans Gweini.
Xxx xxxx i 12% o boblogaeth Conwy yn darparu gofal di-dâl (13,605 o bobl) yn ôl Cyfrifiad 2011.
Ganed 1000 o fabanod i breswylwyr Conwy yn 2018.
Daw’r unig ddata am gysylltiadau crefyddol o Gyfrifiad 2011 gyda 65% yn Gristnogion, 26% heb unrhyw grefydd, 0.5% yn Fwslemaidd, 0.3% yn Fwdhaidd, 0.2% yn Hindwaidd a 0.1% yn Iddewig.
Disgwyliad oes merched (ar eu genedigaeth) yn 2019 oedd 82.4 o'i gymharu â dynion yn 78.8 oed (gwahaniaeth o 3.6 blynedd). Mae disgwyliad oes rhywun sy'n 65 oed yn 19.2 flynedd arall i ddynion ac
21.5 mlynedd i ferched (gwahaniaeth o 2.3 blynedd).
Xxx xxx Gyfrifiad 2011 ddata ar yr iaith Gymraeg sydd wedi’i ddadansoddi yn ôl oedran, cenedligrwydd ac ardal ddaearyddol, ac mae’r Cyfrifiad Ysgolion yn darparu data am ddisgyblion sy’n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg. Does gan 60.6% o boblogaeth Conwy ddim gwybodaeth o’r Gymraeg, mae 27.4% yn siaradwyr Cymraeg a 20.6% yn siarad, ysgrifennu a darllen Cymraeg. Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn fwyaf cyffredin ymysgu unigolion o oedran ysgol; gall 49.2% o rai 5-15 oed siarad Cymraeg yng Nghonwy o gymharu â 40.3% ledled Cymru.
Nid oes data dibynadwy am faint y boblogaeth hoyw, lesbiaidd neu ddeurywiol yn y DU. Mae amcangyfrifon o amrywiol ffynonellau yn amrywio o 0.3% i 10%, ond nid ydynt yn caniatáu ar gyfer pobl nad ydynt yn adrodd xxx xx’n cam-adrodd. Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol o’r farn fod y ffigyrau hyn yn debygol o fod yn dangyfrif.
Yn ychwanegol at y cyhoeddiadau a restrir uchod, mae ymgynghoriad ar y gweill yng Nghymru ynghylch Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol (cynllun gweithredu gwrth-hiliol) a Chynllun Gweithredu LHDTC+ sydd wedi’u datblygu o amgylch y dystiolaeth a’r data a nodwyd fel rhan o adroddiad y Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol ac o effeithiau canlyniad a nodwyd yn ystod COVID-19. Bydd gweithredu’r rhain yn eu tro yn cyfrannu at ein gwaith i geisio creu “Cymru sy’n fwy cyfartal”.
Cwynion sy’n Gysylltiedig â Chydraddoldeb
Mae ein Xxxxx Gwasanaethau Gwybodaeth a Chwsmeriaid Corfforaethol yn monitro nifer y cwynion a chanmoliaeth
a dderbyniwyd. Yn ystod 2020/2021, cafwyd 337 o ganmoliaethau (gan gyrff allanol neu'r cyhoedd), cynnydd o 16.6% ar y flwyddyn flaenorol. Cafwyd 306 o gwynion (gostyngiad o 3% ar y flwyddyn flaenorol). Datryswyd 87.8% o gwynion ar Gam 1. Nid oedd unrhyw xxxx yn ymwneud â chydraddoldeb. Atgyfeiriwyd 30 o gwynion at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Ni ymchwiliwyd i unrhyw xxxx; nid oedd 25 o’r cwynion a atgyfeiriwyd yn deilwng o
ymchwiliad, cafodd 4 eu datrys yn fuan ac mae un yn aros am ganlyniad.
Derbyniodd Gofal Cymdeithasol 16 cwyn ffurfiol yn ystod y cyfnod o 01/04/2020 tan 31/03/2021; roedd 14 o’r rhain wedi’u datrys ar y cam cyntaf a 2 ar yr ail gam. Atgyfeiriwyd 5 achos at yr Ombwdsmon; nid oedd angen ymchwilio i 2 achos, cafodd 2 achos arall ei ddatrys yn llwyddiannus ar y cam ‘datrysiad cynnar’ ac mae’n rhy fuan ymchwilio i 1 achos.
Tra bod rhai o’r cwynion wedi’u categoreiddio xxx adrannau o’r gwasanaeth yn ymwneud ag Anabledd a Phobl Hŷn, nid oedd yr un ohonynt yn ymwneud yn uniongyrchol â materion cydraddoldeb nac yn honni bod o ganlyniad i wahaniaethu ar sail nodweddion a ddiogelir. Derbyniodd Gofal Cymdeithasol 180 o ganmoliaethau yn ystod yr un cyfnod.
Lle y gallwn, byddwn yn cymryd camau i ddylanwadu ar wella'r broses o gasglu data yn genedlaethol yn ogystal â gwella ein setiau data lleol ein hunain. Rhagwelir y bydd data cydraddoldeb wedi'i ddadgyfuno'n well o Gyfrifiad y flwyddyn nesaf yn sylfaen gadarn i fesur ein cynnydd yn ôl nodwedd a ddiogelir.
3. Cynnydd tuag at gyflawni pob Xxxxx Xxxxxxxxxxxx
Mae Amcanion Cydraddoldeb Conwy wedi'u hamlinellu yn ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol. Mae ein hamcanion ar gyfer 2020- 2024 fel a ganlyn:
• Amcan 1: Canlyniadau mewn cyrhaeddiad Addysgol a Lles mewn Ysgolion yn gwella
• Amcan 2: Byddwn yn cymryd camau i sicrhau ein bod yn gyflogwr cyfle cyfartal a lleihau bylchau cyflog.
• Amcan 3: Byddwn yn cymryd camau i wella Safonau Byw pobl xxx anfantais oherwydd eu nodweddion a ddiogelir
• Amcan 4: Byddwn yn gwella canlyniadau Iechyd, Lles a Gofal Cymdeithasol
• Amcan 5: Byddwn yn gwella Diogelwch Personol a Mynediad at Gyfiawnder
• Amcan 6: Cynyddu Mynediad at Gyfranogiad a gwella amrywiaeth gwneud penderfyniadau
• Amcan 7: Datblygu ein gwybodaeth a’n dealltwriaeth o’r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol
Xxx xxx xxx Xxxxx Cydraddoldeb nifer o feysydd gweithredu o flaenoriaeth ac mae ein Cynllun Gweithredu yn amlinellu'r gweithgareddau penodol a fydd yn cyflawni'r amcanion a'r blaenoriaethau hyn.
Xxx xxx xxx xxxx gwasanaeth yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Hyrwyddwr Cydraddoldeb sy'n cydlynu’r gwaith o gwblhau’r camau gweithredu a nodwyd ar gyfer eu xxxx gwasanaeth. Mae Hyrwyddwyr Cydraddoldeb yn cyfarfod xxx chwarter i drafod amrywiaeth xxxx o faterion Cydraddoldeb, codi ymwybyddiaeth ac adolygu cynnydd ar y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Strategol.
Mae gweddill yr adran hon yn cynnwys manylion ynglŷn â chynnydd blwyddyn gyntaf ein cynllun gweithredu a gwaith perthnasol arall a wnaethom yn ystod y flwyddyn sydd wedi cyfrannu at wella bywydau pobl gyda nodweddion gwahanol a ddiogelir sy’n byw ac yn gweithio yng Nghonwy.
Amcan 1: Canlyniadau mewn cyrhaeddiad Addysgol a Lles mewn Ysgolion yn gwella
Meysydd Blaenoriaeth
1.1 Mynd i’r afael â bylchau cyrhaeddiad ar gyfer plant a phobl ifanc er mwyn hyrwyddo eu potensial
1.2 Lleihau cyfraddau gwahardd uchel ymhlith plant anabl a phlant o gefndiroedd ethnig lleiafrifol
1.3 Casglu data ar fwlio fesul nodwedd a ddiogelir i alluogi pob ysgol i nodi amcanion perthnasol
1.4 Mynd i’r afael ag arwahanu rhyw drwy wella cynrychiolaeth merched ar gyrsiau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg ac ehangu’r dewis o bynciau
1.5 Mynd i’r afael â materion iechyd meddwl mewn ysgolion
Y prif ffocws yn ystod y pandemig oedd sefydlu ystod o lwyfannau Xxx Xxxx Ysgolion Conwy i ddarparu a hyrwyddo ymyriadau lles cymeradwy ar-xxxx xx’n seiliedig ar dystiolaeth a chynnal hyfforddiant i wella sgiliau staff ysgol ac i hyrwyddo adnoddau a gweithgareddau lles i ysgolion rannu gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd. Mae llwyfan Xxx Xxxx Ysgolion Conwy hefyd yn hyrwyddo ac yn darparu gwybodaeth ymarferol gywir a phriodol ar y coronafeirws, y cyfyngiadau ac arferion hylendid da. Mae’r ffocws wedi bod ar ddarparu hyfforddiant i staff ysgol ddarparu rhaglenni sy’n cefnogi parch, urddas, gwytnwch a chynwysoldeb mewn ysgolion. Mae ymyriadau wedi cynnig cefnogaeth gyda llythrennedd emosiynol a chyrsiau ymwybyddiaeth a hyfforddiant ar gyfer staff addysgu a theuluoedd e.e. Rhaglen Dull Solihull, Tymhorau Twf, Friends Resilience, XXXX (Cynorthwyydd Cymorth Llythrennedd Emosiynol), datblygu cyfeillgarwch a pherthnasau iach, addysg perthnasoedd a rhyw, rhaglen gwrthfwlio Kiva.
Mae rhaglen o hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl i ysgolion hefyd wedi’i ddatblygu i fagu xxxxx staff i adnabod arwyddion lles gwael, i wybod sut i ddechrau sgwrs a sut i godi’r mater, yn ogystal â chyfeirio a derbyn cymorth. Mae llwyfannau Xxx Xxxx Ysgolion Conwy yn tywys staff i dderbyn cefnogaeth ddibynadwy a diogel.
1.1.1 Data Perfformiad i hysbysu Cynlluniau Datblygu Ysgol Oherwydd pandemig Covid-19 mae Llywodraeth Cymru wedi canslo gwaith casglu data’r flwyddyn academaidd felly nid yw wedi bod yn bosibl casglu data ar xxx grŵp dysgwyr. Fodd bynnag, roedd prosesau monitro cynhwysfawr ar waith ar gyfer pob ysgol. Mae’r Awdurdod Lleol/Bwrdd Safonau Ansawdd yn trafod cryfderau ac anghenion datblygu ysgolion yn fanwl. Mae'r cyfnod pandemig presennol wedi dod â heriau sylweddol, ond mae llawer o dystiolaeth
i ddangos bod ysgolion yn parhau ar eu teithiau gwella a bod dysgwyr yn parhau i wneud cynnydd.
1.1.2 Darpariaeth ar gyfer Dysgwyr Diamddiffyn
Mae’r xxx yn bwriadu parhau i ddarparu cefnogaeth x xxxx lle bynnag y xx xxxx er mwyn lleihau'r pwysau ar ysgolion o ran ymweliadau safle a nifer y staff allanol ar y safle; fodd bynnag, byddwn yn cynnal ymweliadau, asesiadau, ymyriadau ac ati ‘wyneb yn wyneb’ lle bynnag y xx xxxx ac yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.
Bydd ysgolion yn wahanol yn eu gallu i ganiatáu darparu cefnogaeth arbenigol ar y safle, a byddwn yn rhoi sicrwydd i deuluoedd na fydd y dull cyflwyno yn amharu ar safon y ddarpariaeth.
Mae adolygiad trylwyr o leoliadau y tu xxxxx i’r sir a lleoliadau annibynnol wedi’i gynnal i hysbysu datblygiad ein darpariaeth yma yng Nghonwy. Mae trefniadau adolygu a monitro cadarn yn eu lle i sicrhau priodoldeb lleoliadau. Mae cyllid ychwanegol wedi’i geisio drwy gyflwyno achos busnes a fydd, os yn llwyddiannus, yn cael ei ddefnyddio i ariannu cymorth cyfreithiol ychwanegol i wella ein cyfraddau llwyddiant mewn perthynas ag apeliadau ar gyfer darpariaethau annibynnol. Mae gwaith yn mynd rhagddo ar lefel ranbarthol i ddatblygu cynllun ar gyfer sicrhau ansawdd darpariaethau annibynnol a gweithio gydag awdurdodau lleol eraill i fonitro’r ddarpariaeth. Mae gweithdrefnau ar gyfer pobl ifanc sy’n derbyn gofal, sy’n derbyn addysg y tu xxxxx i’r sir, wedi’i ddatblygu sy’n creu proses strwythuredig i adolygu lleoliadau a gweithio’n agos gyda chydweithwyr Gofal Cymdeithasol.
Mae swyddogion yn cael eu hadnabod yn lleol i fod yn gyfrifol am brosesau adolygu blynyddol a phob lleoliad ôl-16.
1.1.6 Uwchraddio technoleg ysgol i gynnig mwy o gyfleoedd Rydym ni wedi cefnogi ysgolion i sicrhau bod ystod o ddyfeisiau, o liniaduron i Chrome Books, ar gael i ddysgwyr ddefnyddio adnoddau dysgu Hwb gartref. Hefyd, darparwyd dongls Wifi i ddysgwyr er mwyn sicrhau eu bod yn gallu cysylltu’n briodol. Mae rhaglen Hwb i wella technoleg wedi cwblhau tonau 1 i 4 yn llwyddiannus, a oedd yn dipyn
o gamp yn ystod cyfnod mor heriol. Mae isadeiledd y rhwydwaith wedi’i newid ymhob ysgol er mwyn cyrraedd safonau technegol newydd Llywodraeth Cymru ac xxx xxxxx band-xxxx hefyd wedi cynyddu gydag ysgolion cynradd yn gallu manteisio ar 100mbps ac ysgolion uwchradd ar 1gbps. Mae’r gwaith yma hefyd wedi cynnwys darparu cyfarpar newydd a miloedd o ddyfeisiau i ysgolion yng Nghonwy, yn cynnwys iPads Foundation ac eraill (920), gliniaduron a
byrddau gwaith Windows (833), dyfeisiau Chrome (4174) a gweinyddion storio Mac (64). Fel rhan o’r prosiect cymeradwywyd achos busnes i ddarparu cyllid ychwanegol yn flynyddol ac anogwyd ysgolion i ddefnyddio eu cyllidebau TGCh.
1.1.7 Fframwaith Cymhwysedd Digidol
Bydd y rhaglen hon yn caniatáu i ysgolion wella eu cymarebau caledwedd-disgybl yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru. Mae GwE wedi datblygu Strategaeth Dysgu Digidol ddrafft ar gyfer ysgolion y gogledd sy’n darparu canllawiau ar ddulliau dysgu cyfunol priodol (sy’n xxxxx xxx amgylchiadau Covid a chyfnodau clo) i alluogi xxxxxx addysg a mesurau ar gyfer tegwch digidol yn ystod y cyfnod clo. Xxx xxxxx cymryd camau pellach i nodi a gweithredu anghenion hyfforddi ysgolion. Mae’r pandemig wedi galluogi ysgolion i gyflymu eu defnydd o Hwb ac mae’r gwaith yma wedi datblygu mwy o ran dysgu ar-lein na’r disgwyl.
1.2.1 Gwerthuso a dadansoddi gwaharddiadau i sicrhau nad oes effaith niweidiol ar grwpiau penodol a ddiogelir
Rydym ni’n gweithio gyda’r Xxx Cynhwysiant Ysgolion i wella dealltwriaeth a gweithdrefnau mewn perthynas â gwaharddiadau.
1.3.1 Offeryn adrodd ar-lein ar gyfer casglu data ar fwlio Xxx Xxxxxx Gwrthfwlio wedi’i gynhyrchu ar gyfer ysgolion Conwy (yn seiliedig ar ganllawiau Llywodraeth Cymru), y mae gofyn wedyn i ysgolion unigol ystyried ei fabwysiadu neu beidio. Nid oes proses awtomatiaeth ar hyn x xxxx i gasglu data, ond byddai’r data yn cael ei gasglu drwy’r adroddiad ystadegau gan ysgolion xxx mis Medi. Mae’n rhaid i ysgolion fod â pholisïau cadarn ar xxxxx xx’n seiliedig ar ganllawiau Llywodraeth Cymru.
1.3.5 Polisi Hunaniaeth o ran Rhywedd
Mae’r Polisi Hunaniaeth o ran Rhywedd ar ffurf drafft ar hyn o xxxx xx rydym ni’n aros am ganllawiau a thempled gan Lywodraeth Cymru. Mae Viva LGBTQ+ yn parhau i ddarparu cymorth ac arweiniad ar gais i ysgolion Conwy mewn perthynas â chreu ysgolion cynhwysol a chefnogi disgyblion LHDTC+.
Rydym ni’n parhau i gefnogi ysgolion gyda’r rhaglen hon drwy hyfforddiant Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Pobl Ifanc ac Oedolion sy’n helpu staff adnabod arwyddion lles gwael a gwybod sut i fynegi pryder, dechrau’r sgwrs a sut i gyfeirio pobl at gymorth proffesiynol. Yn ôl data ysgolion uwchradd Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion
Conwy materion yn ymwneud â LHDTC+ yw’r ail achos mwyaf cyffredin o fwlio mewn ysgolion. I fynd i’r afael â bwlio a chreu amgylchedd cynhwysol o fewn ein hysgolion rydym ni wedi diogelu cyllid i gefnogi xxxx ysgolion uwchradd Conwy i ddarparu rhaglen gwrthfwlio Kiva gan weithio gyda Phrifysgol Bangor. Xxx xxxx o’n hysgolion cynradd hefyd yn cymryd rhan yn rhaglen ymchwil peilot Kiva.
1.4.1 Cynnwys themâu ar gyfer hunanarchwilio o ran Blaenoriaethau Amcanion Cydraddoldeb Ysgolion
Rydym ni wedi cynhyrchu offeryn hunanarchwilio sylfaenol (gydag adnoddau cysylltiedig) i roi cyfle i staff fod yn ymwybodol o’r gweithdrefnau. Rydym ni hefyd wedi bod yn gweithio i sicrhau bod yr xxxx fodiwlau diogelu i lywodraethwyr a hyfforddiant i lywodraethwyr ar gael i ysgolion. Mae 5 o’r 7 ysgol uwchradd yn cymryd rhan yn STEM Gogledd. Yn ystod y cyfnod clo addaswyd y ddarpariaeth i weithgareddau ar-lein ond, ers mis Medi, mae Mentoriaid STEM wedi bod yn mynd i ysgolion a gweithio gyda grwpiau penodol o ddysgwyr. Rydym ni’n gweithio gyda’r Xxx Cynhwysiant Ysgolion i wella dealltwriaeth a gweithdrefnau mewn perthynas â gwaharddiadau.
1.4.2 Defnyddio Cymerwch Ran! i gynnwys celf a gwyddoniaeth i addysgu gwyddoniaeth drwy ddulliau arloesol
Yn 2021, oherwydd cyfyngiadau Covid, cynhaliwyd Cymerwch Ran ar-lein a darparwyd cymysgedd o weithdai byw a gweithdai wedi’u recordio i bobl ifanc a’u teuluoedd. Roedd xxx xxxxx o osodiadau o gwmpas Llandudno i bawb eu mwynhau, gan fynd â xxxxx at y bobl. Roedd hyn yn cynnwys gosodiad celf gan Xxxx Xxxxxx, llwybr ffotograffau gan Xxxx Xxxxxx Xxxxx Xxxxxx a phosteri cod QR rhyngweithiol gan Xxxx Xxxxxxx. Rydym ni’n bwriadu ail afael yn y rhaglen hon y flwyddyn nesaf.
1.4.5 Gwiriadau/nodiadau atgoffa blynyddol i rieni am Brydau Ysgol am Ddim a xxxx-daliadau eraill
Xxx Xxxxx Fudd-daliadau’r Cyngor yn derbyn rhestr o’r xxxx xxxxx yng Nghonwy sy’n dechrau yn y dosbarth derbyn ym mis Medi i wirio a oes modd i ni ddyfarnu Prydau Ysgol am Ddim/Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer unrhyw blentyn. Os yw plentyn yn gymwys, bydd yr hawliad priodol yn cael ei ddyfarnu a byddwn yn cynghori’r rhiant/gwarcheidwad. Rydym ni hefyd yn defnyddio ffurflenni cais am fudd-daliadau tai a/neu Gostyngiad Treth y Cyngor fel hawliadau ar gyfer Prydau Ysgol am Ddim/Grant Datblygu Disgyblion os yw’r rhiant/gwarcheidwad yn bodloni’r meini prawf.
Rydym ni hefyd yn adolygu hawliadau am Gredyd Cynhwysol a lle mae cwsmeriaid yn nodi eu bod hefyd yn dymuno hawlio Gostyngiad Treth y Cyngor. Ar ôl eu cymeradwyo, os yw eu henillion xxx 7400 byddwn yn anfon e-xxxx at y rhiant/gwarcheidwad xxxx xxxxx i hawlio Prydau Ysgol am Ddim/Grant Datblygu Disgyblion.
Mae Llywodraeth Cymru wedi xxxxx Xxxxx Fudd-daliadau Cyngor- Bwrdeistref Sirol Conwy fel sefydliad disglair am arfer orau mewn perthynas â dyfarnu xxxx-daliadau addysg.
Mae’r Adran Addysg hefyd yn hyrwyddo proses ymgeisio am Brydau Ysgol am Ddim ar fwydlenni ysgol, yn llyfryn gwybodaeth blynyddol ysgolion, ar wefan y Cyngor ac ar wefannau ysgolion unigol. Mae ysgolion unigol yn hyrwydd proses ymgeisio am Brydau Ysgol am Ddim i rieni/gwarcheidwad disgyblion newydd ac yn rheolaidd yn ystod y flwyddyn ysgol. Caiff hyn ei wneud gan barchu’r ddyletswydd i gadw hunaniaeth y plant sy’n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim yn gyfrinachol.
1.5.3 Ceisio am gyllid i barhau â gwaith “Creu” i gefnogi iechyd meddwl pobl ifanc 12-16 oed
Mae sesiynau wedi parhau gyda’r aelodau presennol ar-lein (Zoom) yn ystod y pandemig, a oedd yn adnodd gwerthfawr iawn iddynt yn ystod y cyfnodau anodd. Y bwriad yw adeiladu a sefydlu grŵp arall ar gyfer oedolion ifanc 17-25 oed ar ôl iddynt adael y ‘system’. Bydd sesiynau wyneb yn wyneb yn ailddechrau cyn gynted ag y xx xxxx. Xxx’r gwaith yma hefyd wedi parhau i gynnwys ein plant sy’n derbyn gofal sy’n cael cynnig lleoedd am ddim.
1.5.9 Gweithio gyda Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) drwy ddarparu cynllun gweithredu ar y cyd
Mae hyn yn her oherwydd bod yna flaenoriaethau sy’n cystadlu â’i gilydd. Mae cyfyngiadau Covid wedi effeithio ar blant yn eu harddegau. Mae’r grŵp yn parhau i gwrdd ond mae’r cynnydd wedi bod yn heriol ac nid ydym wedi cyrraedd y nodau. Yn y cyfamser rydym ni wedi bod yn cynnal hyfforddiant Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Oedolion ar gyfer xxxx ysgolion Conwy a hyd yma mae 60% o’r ysgolion wedi derbyn hyfforddiant ac wedi ymrwymo i roi xxxxxx 5 Awgrym Llesol ar waith yn eu hysgolion.
1.5.11 Darparu Tyfu Trwy’r Tymhorau (ar gyfer colled a galar)
Rydym ni wedi recriwtio 37 cydymaith Tyfu Trwy’r Tymhorau i redeg y rhaglen ar gyfer plant, ar golled a galar ac rydym ni wedi cyflwyno mesurau monitro a sicrhau ansawdd i wneud yn siŵr bod y rhaglen yn cael ei darparu’n gyson yn ein hysgolion.
1.6.5 Addasiadau Rhesymol wrth gyfathrebu gyda rhieni Mae ysgolion yn cynnwys xxxx-ddeiliaid, fel plant a phobl ifanc, staff, rheini/gofalwyr, llywodraethwyr a defnyddwyr eraill yr ysgol wrth ystyried materion cydraddoldeb ac anghenion cyfathrebu unigol. Rydym ni hefyd yn ystyried y dull cyfathrebu y mae’r bobl rydym ni’n ymgynghori â hwy yn ei ffafrio e.e. cyfieithu deunyddiau a chynnig cyfleusterau dehongli ar gyfer pobl anabl (gan gynnwys Iaith Arwyddo Prydain) neu bobl sy’n siarad Saesneg fel iaith ychwanegol neu sydd newydd gyrraedd y wlad hon. Rhoddir ystyriaeth wirioneddol i xxxx xxxx-ddeiliaid a grwpiau eraill pan fyddwn ni’n pennu blaenoriaethau, drwy wrando ar lais y myfyrwyr, ymgynghori â staff, ymgynghori â rhieni ac ymgynghori â llywodraethwyr.
Camau gweithredu a chanlyniadau eraill o bwys xxx yr Amcan Addysg:
• Derbyn adborth cadarnhaol gan ESTYN sydd wedi cynnal adolygiad thematig o'n gwasanaethau cymorth ysgolion canolog yn ystod y pandemig
• Addasu a pharhau gyda’n cyfrifoldebau diogelu drwy gydol y pandemig a derbyn cymeradwyaeth uchel ar ôl cyrraedd xxxxx derfynol categori ‘Adeiladu dyfodol disglair gyda phlant a theuluoedd’ Gwobrau Gofal Cymdeithasol Cymru
• Rhoi taliadau Prydau Ysgol am Ddim yn uniongyrchol i 2050 o deuluoedd ar gyfer 3555 o ddysgwyr, sef cyfanswm o
£1,876,065.80
• Adnabod ein dysgwyr sydd wedi’u heithrio’n ddigidol a rhoi pwrpas newydd i ddyfeisiau digidol fel bod pob plentyn yn gallu cael mynediad i ddysgu ar-lein
• Creu dulliau newydd o ddarparu cymorth pwrpasol i unigolion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol ac anghenion chynhwysiant cymdeithasol
• Canfod ffyrdd diddorol i gefnogi pobl ifanc mewn perygl o ddadrithiad digidol
• Darparu ymyrraeth wedi'i thargedu ar gyfer disgyblion blwyddyn 6 diamddiffyn sy'n mynd i’r ysgol uwchradd i sicrhau cyfnod pontio llyfn
• Cychwyn pantomeim ar-lein a’i ffrydio i 200 o ddosbarthiadau ysgol, a theuluoedd
• Datblygu modiwlau dysgu byr i gefnogi teuluoedd sy’n addysgu gartref, gyda’r modiwlau wedi’u gwylio 79,400 o weithiau hyd yma
Gwaith wedi’i oedi yn sgil y Pandemig
1.1.1 Casglu data ar berfformiad (wedi’i ganslo gan Lywodraeth Cymru ar gyfer blwyddyn academaidd 2020-21).
1.2.1 Cynlluniau Cefnogi Ysgol i adolygu gwaharddiadau.
1.3.2 Gweithredu Canllawiau Gwrthfwlio Cymru Gyfan.
1.3.3 Cynlluniau Cefnogi Ysgol i fwydo camau gweithredu ar fwlio i mewn i gynllunio busnes.
1.3.4 Gwaith xxxx Xxxxxx y Cerdyn Coch i Hiliaeth (gwaith a ddechreuwyd y flwyddyn ddiwethaf wedi’i oedi oherwydd newid yn staff DCCH).
1.4.5 Hyrwyddo lleoliadau profiad gwaith technegol (wedi’i oedi oherwydd trefniadau gweithio gartref).
1.4.6 Rhaglen Llysgenhadon Ifanc (cyn Covid roedd xxx xxx ysgol lysgennad ifanc ond mae hyn wedi’i roi ar un ochr am y tro oherwydd newidiadau yn sgil Covid o ran bwrw ymlaen â gweithgareddau allgyrsiol.
Amcan 2: Byddwn yn cymryd camau i sicrhau ein bod yn
gyflogwr cyfle cyfartal ac yn lleihau bylchau cyflog
Meysydd Blaenoriaeth
2.1 Mynd i’r afael â gwahaniaethau cyflog ar sail rhyw, ethnigrwydd ac anabledd
2.2 Adolygu ein harferion gweithio'n hyblyg er mwyn sicrhau cyfleoedd cyfartal ar xxx xxxxx
2.3 Sicrhau bod polisïau effeithiol i xxxx ac ymateb i aflonyddwch rhywiol
2.4 Adolygu darpariaeth Beichiogrwydd a Mamolaeth yn y Gweithle
2.5 Sicrhau bod contractau cyflogaeth ansicr (e.e. gweithwyr achlysurol) yn diogelu eu hawliau fel gweithwyr yn ddigonol
2.6 Cynyddu nifer y bobl anabl mewn gwaith
2.7 Lleihau arwahanrwydd rhyw (y dosbarthiad anghyfartal o ddynion a merched yn gweithio mewn rolau sy’n draddodiadol yn rolau rhyw benodol)
2.8 Gwella cyfranogiad merched, lleiafrifoedd ethnig a phobl anabl mewn prentisiaethau
2.9 Ystyried defnyddio mesurau gweithred bositif o fewn ymgyrchoedd recriwtio pan fo grwpiau penodol yn cael eu tangynrychioli
2.1.1 Archwiliad Cyflog Cyfartal
Xxx 12 mis rydym ni’n cynnal Archwiliad cyflog cyfartal ar gyfer rhyw, ethnigrwydd, anabledd ac oedran. Caiff y canlyniadau eu cyhoeddi yn adroddiad blynyddol y Cynllun Cydraddoldeb Strategol (gwelwch adran 4.2 yr adroddiad hwn i weld ffigyrau eleni). Rydym ni’n datblygu adroddiad Archwiliad Cyflog Cyfartal ar wahân sy’n fwy cynhwysfawr ac yn darparu dadansoddiad manwl o’r data ar gyfer rhyw, ethnigrwydd, anabledd ac oed. Byddwn yn cyhoeddi’r adroddiad ar ôl i ni ei orffen ac yna’n datblygu cynllun gweithredu ar wahân.
2.2.2 Adolygu’r Polisi Gweithio’n Hyblyg a’r polisïau sy’n ystyriol o deuluoedd
Adolygwyd y Polisi Gweithio'n Hyblyg ar ddechrau’r pandemig i wneud bywyd yn xxxx i staff a oedd yn gorfod gweithio gartref wneud hynny ar fyr rybudd, llawer ohonynt hefyd yn addysgu eu plant gartref neu’n dod yn ofalwyr llawn amser. Felly dyma ni’n tynnu’r paramedrau o ran y nifer lleiaf o oriau y gellir eu gweithio mewn diwrnod ac wythnos, oriau craidd a chyfnodau setlo. Mae’r trefniadau hyn wedi’u hadolygu x xxxx i’w gilydd drwy gydol y pandemig, ac mae’r rhan fwyaf yn dal ar waith. Bydd adolygiad llawn o’r Polisi Gweithio'n Hyblyg yn cael ei gynnal unwaith rydym ni’n deall y trefniadau ar gyfer y ‘normal newydd’ sy’n debygol o ddilyn model hybrid sy’n galluogi staff i weithio gartref ac yn y swyddfa, yn amodol ar reolau’r llywodraeth. Wrth i ni symud tuag at fodel hybrid, mae hynny’n debygol o effeithio ar lawer o’n polisïau sy'n ystyriol o deuluoedd a bydd y rhain yn cael eu hadolygu unwaith y mae’r ‘normal newydd’ yn fwy eglur. Mae’n rhaid i’r xxxx
xxx fod yn destun ymgynghori cyn i ni allu cwblhau’r gwaith. Mae’r gwaith yma wedi’i aseinio i Swyddog AD penodol. Bydd cwblhau’r cam gweithredu hwn yn cael ei gario drosodd i ail flwyddyn y Cynlluniau Cydraddoldeb Strategol.
2.2.3 Polisi Trais yn Erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
Adolygwyd a diweddarwyd y Polisi Trais yn Erbyn Merched, Cam- drin Domestig a Thrais Rhywiol ym mis Mawrth 2020 ac roedd yn cynnwys cyflwyno Absenoldeb Diogel xxxx xxxx (yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i wneud hynny). Yn y gorffennol rydym ni wedi darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth o drais yn erbyn merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol i xxx aelod o staff sy’n gweithio yn y xxxx hwn, yn cefnogi ac yn diogelu ein cymunedau.
2.4.2 Arolwg o brofiadau o absenoldeb mamolaeth a xxxxx ymlaen yn xxxx gyrfa
Datblygwyd arolwg ar-lein i asesu'r effaith ar ddilyniant gyrfa merched mewn graddau canol/uwch sy'n gwyro o waith amser llawn ac i ddadansoddi llwyddiannau dilyniant gyrfa i bobl â nodweddion gwarchodedig gwahanol yn ogystal ag asesu unrhyw effaith ar yrfaoedd pan fydd staff yn dechrau teulu. Dadansoddwyd adborth yr arolwg hwn ac er bod y rhan fwyaf yn credu bod polisïau’r Cyngor sy'n ystyriol o deuluoedd yn cefnogi merched, yn enwedig wrth gynnal a datblygu eu gyrfaoedd, ymddengys bod rhai achosion o anghysondeb wrth weithredu’r polisïau hyn ar draws yr awdurdod. Mae hyn wedi arwain at gynyddu ymwybyddiaeth a rhoi cymorth ymarferol i reolwyr, ac wedi amlygu'r angen am adolygu’r hyfforddiant yn y polisi.
Roedd sawl merch yn teimlo bod camu ymlaen yn eu gyrfa xxxxx xx’n fwy heriol neu roeddynt wedi penderfynu, o’u dewis, i beidio â gwneud hynny ar y funud wrth iddynt fagu eu plant. Cadarnhaodd yr adborth fod y staff a newidiodd i weithio'n rhan-amser wedi dewis hynny oherwydd bod arnynt eisiau cydbwysedd bywyd a gwaith gwell. Roedd rhai o’r aelodau hyn o staff yn teimlo nad oeddynt yn cael yr un cyfleoedd hyfforddiant a xxxxx ymlaen yn eu gyrfa o gymharu â gweithwyr llawn amser.
2.5.4 Gweithredu Polisi Caffael Moesegol a chodi ymwybyddiaeth
Xxx Xxxxxx Caffael Moesegol wedi’i weithredu ac mae hyfforddiant ar-lein yn cael ei gyflwyno gyda sesiynau codi ymwybyddiaeth wedi’u cydlynu yn y Fforwm Caffael gyda swyddogion cyswllt ar
gyfer pob adran. Mae’r polisi a’r siarter ymddygiad moesegol ar gyfer contractwyr yn cael eu cyflwyno a’u cynnwys mewn gweithgareddau caffael. Cydlynwyd digwyddiad codi ymwybyddiaeth ar y cyd â Llywodraeth Cymru, sydd wedi’i fynychu’n dda gan gontractwyr Conwy.
2.6.3 Addewid Amser i Newid i gefnogi iechyd meddwl Ddechrau 2021 ystyriodd yr Uwch Dîm Rheoli gynigion i weithredu Amser i newid a chynllun gweithredu, gyda thrafodaeth ddilynol yn ystod y Fforwm Rheolwyr lle cytunwyd y byddai hyn yn ymarfer defnyddiol i gefnogi lles meddyliol staff. Cytunodd yr UDRh bod modd gwneud trefniadau i gofrestru â’r xxxxxx xx xxx gwaith ar y gweill i wneud yr addewid a’i lansio fis Rhagfyr 2021.
2.6.8 Prosiect Chwilio Cyflogaeth â Chymorth ar gyfer Anableddau Dysgu
Mae’r Gwasanaethau Anableddau, y Gwasanaeth Ieuenctid a Chyflogadwyedd, BIPBC, cyrff trydydd sector a Choleg Llandrillo yn cydweithio i gomisiynu Prosiect Chwilio i gefnogi pobl ag anableddau dysgu i dderbyn profiad gwaith a chyflogaeth bosibl.
Mae 11 o leoliadau ar draws CBSC a CSDd wedi’u cytuno arnynt ac mae unigolion wedi’u nodi.
2.9.2 Data Monitro Cydraddoldeb
Rydym ni wedi parhau’n araf i wella swm y data Monitro Cydraddoldeb rydym ni’n ei gasglu drwy wneud y meysydd hyn yn ofynnol ar draws yr awdurdod ac, yn fwy diweddar, drwy gyflwyno hunan-wasanaeth lle mae staff yn gallu newid eu data (cydraddoldeb) personol eu hunain. Mae hyn wedi’i annog drwy friffiau xxx a newyddlenni staff ac mae gwaith yn parhau yn y xxxx hwn.
2.9.6 Datblygu gweithgaredd cyflogadwyedd sy’n cefnogi cleientiaid gofal cymdeithasol i fynd yn nes at y farchnad lafur
Mae grŵp tasg a gorffen wedi’i sefydlu drwy Bartneriaeth Anabledd Dysgu Gogledd Cymru (6 awdurdod lleol a BIPBC) xxx gadeiryddiaeth Rheolwr Gwasanaeth Anableddau Conwy a gydag aelodau o’r awdurdodau lleol, AD Corfforaethol BIPBC, Pobl yn Gyntaf Cymru, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, Llandrillo, Coleg Cambria, Gyrfa Cymru, Anabledd Dysgu Cymru,
Adran Gwaith a Phensiynau a phartneriaid trydydd sector eraill. Bydd y grŵp yn datblygu Strategaeth Cyflogaeth gyda Chymorth Gogledd Cymru ar gyfer pobl gydag anableddau dysgu i geisio
gwella canlyniadau cyflogaeth pobl gydag anableddau dysgu. Mae’r cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth am dâl ar hyn x xxxx yn amrywio ac yn gyfyngedig, gyda llai na 6% o oedolion gydag anableddau dysgu mewn gwaith am dâl. Gan gydnabod yr angen am ddull gwella a chyson i gefnogi pobl ag anableddau dysgu i weithio, mae grŵp Partneriaeth Anableddau Dysgu Gogledd Cymru wedi cynnig datblygu strategaeth gyflogaeth wedi’i hysgrifennu gydag ac ar gyfer pobl gydag anableddau dysgu, gyda’r bartneriaeth yn ‘xxxxxxx xxxx’. Nod y strategaeth yw bod gan bobl ag anableddau dysgu well ansawdd bywyd; byddant yn byw’n lleol lle maent yn teimlo’n ddiogel ac yn iach, lle maent yn cael eu gwerthfawrogi a’u cynnwys yn eu cymunedau ac yn gallu cael gafael ar gymorth personol effeithiol sy’n hyrwyddo annibyniaeth, dewis a rheolaeth. Mae’r strategaeth yn seiliedig ar yr hyn mae pobl wedi dweud sy’n bwysig iddynt. Bydd yn darparu cynllun gweithredu ar gyfer awdurdodau lleol ac Iechyd.
2.10.1 Gwella ein proses ymgeisio am swydd
Mae gwaith ar y gwell i symleiddio’r broses ymgeisio a gwella hygyrchedd. Yn ystod y pandemig, ar ôl oedi ar y dechrau, mae’r broses recriwtio wedi’i thrawsnewid yn broses sydd bron yn gyfan gwbl ar-lein, gan gynnwys mesurau ychwanegol i gefnogi ymgeiswyr a rheolwyr cyfweliadau i fanteisio i’r eithaf ar y broses recriwtio ar-lein. Mae adolygiad pellach o’r broses wedi amlygu bod llawer mwy i’w wneud i wella ein proses recriwtio er mwyn ei symleiddio i ymgeiswyr ac mae hyn yn cynnwys adolygu sut rydym ni’n paratoi swydd-ddisgrifiadau ac yn craffu ar elfennau hanfodol swyddi, adolygu proses y ffurflen gais a phob cam arall o’r broses, gan gadw ein xxxxxx i ddiogelu ein proses recriwtio. Mae ffurflen gais symledig wedi’i rhoi ar brawf, ac mae’r canlyniadau a’r adborth wedi bod yn gadarnhaol. Bydd y gwaith yma’n parhau yn 2021/22.
Mae ffeiriau swyddi yn ystod y pandemig wedi dirywio. Fodd bynnag, rydym ni wedi cefnogi dwy ffair swyddi ar-lein, Ffair Yrfaoedd Ar-lein Cymru Gyfan a Gyrfaoedd 2021, lle bu i ni gynhyrchu stondinau ar-xxxx xxxx gwybodaeth am ein swyddi ac am Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Rydym ni hefyd wedi parhau i hwyluso sesiynau sgiliau cyfweliad ar gyfer disgyblion ysgolion lleol.
2.10.3 Prosiect ADTRAC i gefnogi unigolion nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET)
Wedi’i lansio yn 2018 mae ADTRAC yng Nghonwy wedi llwyddo i helpu pobl ifanc 16-24 oed ar draws y sir i ganfod neu symud tuag at waith drwy fentora, cwnsela, profiadau gwaith, hyfforddiant a chyfleodd i wirfoddoli. Gwnaethpwyd dros 350 o atgyfeiriadau i’r prosiect ac mae 200 o bobl ifanc wedi’u cefnogi, gyda nifer sylweddol ohonynt yn derbyn cymhwyster, yn symud i addysg a hyfforddiant neu’n cychwyn ar yrfa newydd. Daeth y prosiect rhanbarthol i ben fis Mai 2021, pan ddaeth cyllid Cronfa
Gymdeithasol Ewrop i ben. Yng Nghonwy mae’r prosiect wedi’i ddisodli gan brosiect Cynnydd, wedi’i hariannu’n bennaf gan Xxxxxxxxx Xxxxxxxxx Conwy.
2.10.7 Canllawiau i reolwyr ar gasglu data ar geisiadau hyfforddiant
Wrth gyflwyno ceisiadau hyfforddiant ar-lein cynhyrchwyd canllawiau i reolwyr egluro sut caiff ceisiadau eu prosesu a’u cymeradwyo drwy hunanwasanaeth a modiwlau rheolwyr pobl ar ein system AD/Cyflogau. Mae’r broses hon wedi bod yn werthfawr iawn yn ystod y pandemig pan roedd y staff yn gweithio gartref, ac mae wedi ein galluogi ni i nodi’r xxxx geisiadau hyfforddiant a’r hyfforddiant sydd wedi’i gwblhau. Bydd hyn yn gwella ein cofnodion hyfforddiant ar gyfer ein Hadroddiadau Monitro Cyflogaeth.
Camau gweithredu a chanlyniadau eraill o bwys xxx yr Amcan Cyflogaeth:
• Addasu ein hamodau a’n telerau fel bod staff yn gallu gweithio’n hyblyg i gydbwyso ymrwymiadau gwaith a chartref yn ystod y pandemig
• Datblygu methodoleg cynadledda hybrid ar gyfer fforymau busnes
• Creu Xxx Arwain Covid traws-ddisgyblaethol i wneud penderfyniadau yn gyflym a chefnogi staff i addasu i’r cyfyngiadau sy’n newid o hyd
• Creu brand ‘Conwy Ydym Ni’ gan dynnu ein hymdrechion at ei gilydd o fewn rhaglen gyfathrebu dros fideo ddwys i ddarparu gwybodaeth i staff a thrigolion am y pandemig a’i effeithiau arnynt.
Gwaith wedi’i oedi yn sgil y Pandemig
2.5.4 Pan fyddwn yn comisiynu gwaith, annog cyflogwyr eraill i wneud ymgeiswyr yn anhysbys ar gyfer camau cyntaf y broses recriwtio (wedi’i gario drosodd i’r ail flwyddyn fel rhan o’r prosiect recriwtio).
2.6.4 Darparu adborth ysgrifenedig ar gyfer ymgeiswyr anabl nad ydynt yn cyrraedd y rhestr fer neu’n cael eu cyflogi yn egluro xxx ac yn egluro’r broses (wedi’i gario drosodd i’r ail flwyddyn fel rhan o’r prosiect recriwtio).
2.6.5 Mabwysiadu’r addewid Yr Un Fath ond Gwahanol: Siarter Ymwybyddiaeth o Anhwylderau Anghyffredin i gydnabod a chreu amgylchedd gwaith cefnogol i weithwyr sydd ag anhwylderau anghyffredin (wedi’i gario drosodd i’r ail flwyddyn).
2.6.6 Dewisiadau i rannu swyddi gwag gyda grwpiau pobl anabl (wedi’i gario drosodd i’r ail flwyddyn fel rhan o’r prosiect recriwtio).
2.6.7 Profiad gwaith cymunedol i bobl anabl (wedi’i gario drosodd i’r ail flwyddyn).
2.7.1 Canllaw ar osgoi iaith ragfarnllyd a stereoteipio yn y broses recriwtio a phrosesau cyflogaeth eraill (wedi’i gario drosodd i’r ail flwyddyn fel rhan o’r prosiect recriwtio).
2.7.2 Adolygu ffurflen sgorio gwerthuso swydd i osgoi iaith sy’n stereoteipio.
2.7.3 Adolygu Hysbysebion Swydd i osgoi iaith sy’n stereoteipio.
2.7.5 Codi ymwybyddiaeth o gyfleoedd a gyrfaoedd peirianneg a thechnegol mewn pynciau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (wedi’i gario drosodd i’r ail flwyddyn). 2.8.2/4/5 Ehangu cyfleoedd ar gyfer profiad gwaith a phrentisiaethau, yn cynnwys ar gyfer plant sy’n derbyn gofal (wedi’i gario drosodd i’r ail flwyddyn).
2.8.4 Ehangu cyfleoedd ar gyfer prentisiaethau (wedi’i gario drosodd i’r ail flwyddyn).
2.9.7 Mesurau camau cadarnhaol mewn recriwtio (wedi’i gario drosodd i’r ail flwyddyn fel rhan o’r prosiect recriwtio).
2.10.6 Polisi Trawsryweddol (wedi’i gario drosodd i’r ail flwyddyn).
Amcan 3: Byddwn yn cymryd camau i wella Safonau Byw
pobl xxx anfantais oherwydd eu nodweddion a ddiogelir
Meysydd Blaenoriaeth:
3.1 Cymryd camau i fynd i’r afael ag effaith negyddol anghymesur ar bobl gyda nodweddion gwahanol a ddiogelir
3.2 Cefnogi hawl pobl anabl i fyw’n annibynnol, yn cynnwys tai a chymorth cysylltiedig sy’n ddigonol, hygyrch xx xxxxx
3.3 Ymgysylltu’n well â phobl anabl wrth adnewyddu a dylunio adeiladau i sicrhau eu bod yn hygyrch
3.1.1 Cynnal Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb
Adolygwyd y ffurflen Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb yn 2020 mewn partneriaeth â’n partneriaid sector cyhoeddus yn y gogledd yn xxxxx ar gyfer y Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol, a chyflwynwyd templed newydd fis Mawrth 2021. Mae’r rhan fwyaf o’n partneriaid yn defnyddio’r templed hwn, a fydd hefyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwaith partneriaeth ar draws y gogledd.
Mae cymorth yn parhau i gael ei ddarparu i wasanaethau sy’n cynnal asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb ac rydym ni’n parhau i wirio bod gwasanaethau yn eu cynnal drwy’r Grŵp Adolygu Adroddiadau. Mae 5 gweithdy wedi’u darparu ar y Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol cyn iddi ddod i rym ar 1 Ebrill 2021 ac roedd y gweithdai hyn hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd cynnal asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb. Cafodd gweithdy’r Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb hefyd ei ddiweddaru i ddarparu hyfforddiant ar y templed newydd, sy’n cael ei gynnal ar-lein yn chwarterol. Mae cyflwyniadau wedi’u rhoi ar bwysigrwydd asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb yn ystod Fforwm Rheoli Prosiectau a Rhaglennu ac i Dimau Prosiect Adnewyddu Gwasanaethau.
3.1.2 Parhau â chynllun “Hynt” ar gyfer pobl anabl
Mae ein theatrau yn parhau i fod yn aelodau o gynllun Hynt sy’n galluogi pobl anabl i ddefnyddio eu cerdyn wrth archebu tocynnau
yng Nghymru, i gadarnhau yn awtomatig xxxx yw eu hanghenion mynediad i fynd i berfformiadau, gan osgoi’r angen i ailadrodd eu hanghenion xxx tro maent yn archebu. Mae hefyd yn cynnwys tocyn am ddim i gydymaith.
3.1.3/4 Ffilmiau a pherfformiadau digyffro, wedi’u xxxx ddisgrifio a gydag iaith arwyddo Prydain a ffilmiau a sgriniadau dementia yn ein theatrau
Mae perfformiadau hygyrch wedi’u cynnal ac wedi’u cynnwys yn ein rhaglen. Er bod ein theatrau wedi bod ar gau am gyfnod hir yn ystod y pandemig, a Venue Cymru wedi’i throi yn ysbyty Covid am gyfnod, rydym ni’n xxxxx o weld ein theatrau ar agor eto a bydd perfformiadau hygyrch a sgriniadau dementia yn parhau i fod yn rhan o’n cynnig.
3.1.5 Sefydlu côr dementia sy’n cwrdd yn rheolaidd mewn partneriaeth â chôr Forget-me-Not
Rydym ni wedi cysylltu ag elusen o Gaerdydd, Forget Me Not Chorus, i lansio côr dementia gogledd Cymru, a oedd yn cwrdd yn Venue Cymru yn ystod y tymor cyntaf cyn symud i Landrillo-yn- Rhos. Roedd y côr yn agored i bobl sy’n byw gyda dementia, eu ffrindiau, eu teulu a’u gofalwyr. Xxxxx Xxxxx oedd yn arwain y sesiynau, gyda chymorth staff Venue Cymru. Roedd pob tymor yn dod i ben xxxx xxxxx anffurfiol lle byddai gwesteion y côr yn cael eu gwahodd i wrando ar y côr ac i ymuno â’r canu.
Ar ôl i’r cyfnod clo ddechrau symudodd ymarferion y côr ar-xxxx xx ymunodd côr y gogledd â chantorion o Gaerdydd, Casnewydd, Caeredin a Chymbria i ganu dros Zoom xxx wythnos. Unwaith eto, ar ddiwedd pot tymor roedd yna gyfle i’r côr ganu i’w ffrindiau a’u teuluoedd. Mae’r sesiynau ar-lein yn parhau.
Rydym ni hefyd yn gallu cefnogi sesiwn canu yn yr ardd ar ddiwedd yr haf ar gyfer trigolion Cartref Gofal Preswyl Llys Xxxxx xx’n byw gyda dementia.
3.1.7 Mynd i’r afael ag achosion sylfaenol digartrefedd Mae digartrefedd yn fater cymhleth ac felly xxx xxxxx ymateb cydlynol a dull aml-agwedd i gynghori a chefnogi gwasanaethau. Eleni rydym ni wedi canolbwyntio ar ymateb i argyfwng ac xxxxx xxx unrhyw waith datblygu wedi’i ail-flaenoriaethu. Wrth ymateb i’r
pandemig, roedd hyn yn gofyn am ddull partneriaeth cryf i sicrhau bod y rheiny sy’n aros mewn lletyau yn derbyn cymorth priodol, sydd wedi gofyn am ymateb aml-asiantaeth. Mae cabanau hunangynhwysol wedi’u defnyddio mewn modd arloesol er mwyn tynnu nifer o unigolion oddi ar y strydoedd, a wnaethpwyd yn llwyddiannus mewn partneriaeth ag ystod o sefydliadau cymorth. Mae Datrysiadau Tai Conwy yn ceisio gweithio gydag ystod o bartneriaid ac wedi meithrin perthnasau gwaith ardderchog ar draws meysydd fel iechyd, gofal cymdeithasol, diogelwch cymunedol, tai a chyflogadwyedd i enwi ond rhai. Xxx xxxx o uchafbwyntiau darparu gwasanaethau’n ddi-fwlch a chynnig dull cyfannol i fynd i’r afael â digartrefedd yn cynnwys:
• Cefnogi staff i weithio o amrywiaeth o leoliadau cymunedol drwy eu cyd-leoli â gwasanaethau eraill fel y Gwasanaeth Prawf, Ysbyty Glan Clwyd, Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac yn ein lleoliadau Xxx Xxxx
• Parhau i weithio’n agos gyda’n cydweithwyr yng Nghyngor ar Bopeth, Xxxx-daliadau Tai a’r Adran Gwaith a Phensiynau wrth ymateb i heriau sy’n dod i’r amlwg mewn perthynas â’r diwygiadau lles a chyflwyno Credyd Cynhwysol
• Cefnogi pobl ifanc i ddatblygu sgiliau byw'n annibynnol drwy’r pecyn hyfforddiant Tenant Parod i Rentu sy’n amlygu hawliau a chyfrifoldebau allweddol tenantiaid ac yn galluogi pobl ifanc i ddatblygu’r sgiliau sydd eu xxxxxx i reoli eu cartref eu hunain.
3.1.8 Ymgyrch codi ymwybyddiaeth o Xxxx Digartrefedd Mae Conwy yn gweld niferoedd uchel o argyfyngau tai ac unigolion neu aelwydydd sy’n datgan eu bod yn ddigartref. I geisio deall hyn yn well rydym ni’n monitro’r rhesymau xxx bod pobl yn datgan eu bod mewn argyfwng tai. Yn ôl ein dadansoddiad xxx xxxx xxx achos o ddigartrefedd yn ddilys ac ychydig iawn, os o gwbl, sydd yna o bobl ddim yn gwybod gyda phwy i gysylltu os ydynt mewn perygl o fod yn ddigartref. Rydym ni’n parhau i ymrwymo i hyrwyddo ein gwasanaethau yn well i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd adnabod ffactorau risg a all gyfrannu at ddigartrefedd yn fuan.
Mae Datrysiadau Tai Conwy wedi datblygu nifer o adnoddau hyfforddiant a chyrsiau ymwybyddiaeth ac mae’r sesiynau hyn wedi’u darparu i amrywiaeth o bartneriaid a grwpiau cymunedol i geisio helpu pobl i ddeall y pwysau ar wasanaethau tai a digartrefedd yn lleol a sut mae pobl yn y gymuned a’n partneriaid yn
gallu cefnogi gwaith xxxx digartrefedd. Mae’r Rheolwr Datrysiadau Tai wedi siarad mewn amryw o gynadleddodd lleol, rhanbarthol a chenedlaethol i godi ymwybyddiaeth o’r gwaith da sy’n cael ei wneud yng Nghonwy. Defnyddir y cyfryngau cymdeithasol hefyd i rannu negeseuon ac mae yna broffil uwch wedi'i roi i ddigartrefedd drwy ffrydiau cyfryngau cymdeithasol y Cyngor wrth ddilyn y Protocol Xxxx Tywydd Garw. Bydd gwaith pellach i godi proffil gwasanaethau a chodi ymwybyddiaeth drwy’r cyfryngau cymdeithasol yn cael ei wneud yn ail ran y flwyddyn a byddwn yn datblygu ystod o ddeunyddiau marchnata.
Mae prosiect llety â chymorth Coed Pella xxxxxxx ar xxxxx xx yn cynnwys darpariaeth gwely mewn argyfwng i’w defnyddio pan fyddai llety gwely a brecwast wedi’u ddefnyddio yn y gorffennol fel datrysiad llety. Mae Cartrefi Conwy a Gofal Cymdeithasol wedi agor dau dŷ a rennir yng Nghyffordd Llandudno ar gyfer y rheiny sy’n gadael gofal.
3.1.13 Codi ymwybyddiaeth o’r gallu i hawlio Xxxx-dal Tai (ble bo’n berthnasol oherwydd Credyd Cynhwysol a Gostyngiadau Treth y Cyngor
Yn 2020/21 cyflwynodd 2920 o gwsmeriaid gais am fudd-dal tai a/neu ostyngiad treth y Cyngor yn defnyddio’r ffurflen gais e-hawlio. Mae’r rhan fwyaf o’n cwsmeriaid yn defnyddio’r ffurflen e-hawlio ac mae cymorth ar xxxx xxxx y ffôn gan staff xxxx-daliadau. Ers mis Ionawr 2021 rydym ni’n derbyn hysbysiad yr Adran Gwaith a Phensiynau o hawliad/taliad cyntaf Credyd Cynhwysol xxx amgylchiadau perthnasol heb fod angen llenwi ffurflen gais Gostyngiad Treth y Cyngor. Xxx xxx xxx ysgol fynediad at y cyfleuster hunanwasanaeth i weld hawliadau prydau ysgol am ddim plant sydd yn eu hysgol mewn amser real, yn hytrach na gorfod aros am restr wythnosol.
3.2.1 Datblygu timau adnoddau cymunedol i gefnogi pobl hŷn i aros yn annibynnol
Mae’r gwaith hwn yn mynd rhagddo. Mae’r 5 Xxx Adnoddau Cymunedol sydd wedi’u sefydlu yng Nghonwy yn parhau i ddatblygu er gwaethaf y ffaith bod staff gofal cymdeithasol yn parhau i weithio gartref yn hytrach na’r swyddfa arferol. Mae argyfwng y coronafeirws wedi bod yn gatalydd i weithredu dulliau gweithio newydd a gwahanol ac mae’r perthnasau gwaith cryf a oedd eisoes
wedi’u meithrin gyda chydweithwyr iechyd y Timau Adnoddau Cymunedol wedi galluogi’r timau i barhau i weithio’n dda gyda’i gilydd a darparu ymateb amlddisgyblaethol drwy gydol y pandemig. Mae’r gwaith hwn yn cael ei ddatblygu ai gefnogi drwy’r Rhaglen Drawsnewid.
3.2.3 Cefnogi pobl i fyw’n dda gyda dementia
Mae’r cyllid sydd ar gael i ni drwy’r Gronfa Gofal Canolraddol i ddatblygu gwasanaethau cefnogi dementia wedi ein galluogi ni i barhau i ariannu’r 5 Gweithiwr Cefnogi Dementia am 12 mis arall. Maent erbyn hyn wedi gwreiddio’n gadarn yn y Timau Adnoddau Cymunedol ac yn cael eu hystyried yn werthfawr i gefnogi’r xxx amlddisgyblaethol i helpu pobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr i aros yn eu cartrefi eu hunain. Mae’r cyllid yma hefyd wedi ein galluogi i gefnogi ystod o fentrau sy’n cael eu darparu gan sefydliadau trydydd sector. Rydym ni hefyd wedi gallu prynu ystod o gyfarpar arloesol ar gyfer cartrefi gofal a wardiau ysbyty i wella bywydau unigolion sy’n byw gyda dementia.
3.2.7 Datblygu Bron y Nant, Dinerth Road, Bae Colwyn yn ganolfan seibiant i bobl anabl gyda siop a chaffi
Mae’r prosiect yn mynd rhagddo’n dda a disgwylir ei gwblhau yn 2022. Mae’r elfen weithredol yn cael ei datblygu’n 3 ffrwd. Anabledd; Gofal Cymhleth; Cyfleoedd Gwaith.
3.2.9 Sicrhau ein bod ni’n gweithredu Rhan M y Rheoliadau Adeiladu sy’n gofyn i adeiladwyr wneud yn siŵr eu bod yn xxxx xxx newydd sy’n cyrraedd safonau hygyrch i bobl anabl
Mae Rheoli Adeiladu Awdurdodau Lleol wedi cynnal safonau uchel am sicrhau cydymffurfedd â gweithredu Dogfen Gymeradwy M – Mynediad a Chyfleusterau i Bobl Anabl. Caiff tai newydd eu gwirio ar gynllun ac ar y safle i wneud yn siŵr bod pobl anabl yn gallu mynd i mewn i’r eiddo, symud o gwmpas y llawr gwaelod a defnyddio toiled addas i bobl anabl. Yn ystod y 12 mis diwethaf mae achosion o fynd yn groes i’r rheoliad hwn yn cynnwys sinciau yn rhwystro pobl anabl rhag defnyddio’r toiled a rhiniogau rhy uchel i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn. Mae’r problemau hyn wedi’u datrys ac mae’r eiddo xxxxxxx yn cydymffurfio â’r rheoliad.
Mae’r Swyddog Cadwraeth yn parhau i weithio’n agos gyda’r Adain Adnewyddu Tai ar gamau nesaf Cynllun Adnewyddu Eiddo Bae Colwyn yn ogystal â gweithio gyda’r Neuadd Ddinesig a bwrw ymlaen â gwaith ailddatblygu’r Swyddfeydd Dinesig, Archifau Llandudno a Lloches Tramffordd Llandudno. Mae Rheoli Datblygu yn ymdrechu i sicrhau bod ceisiadau ar gyfer datblygiadau preswyl yn darparu amrywiaeth cytbwys o fathau gwahanol o dai i adlewyrchu anghenion yr ardal.
3.2.10 Tai fforddiadwy i gwrdd ag anghenion Pobl Anabl Mae Grŵp Addasiadau Strategol wedi’i sefydlu i gryfhau’r ffocws strategol ar gyfer gwneud addasiadau. Mae yna 4 xxxx ffocws allweddol, sy’n cynnwys y canlynol:
• Symleiddio’r broses ymgeisio ac atgyfeirio
• Gwella cyfathrebu
• Gwneud y defnydd gorau o’r stoc sy’n bod eisoes
• Gwella’r darparu a boddhad cwsmer
Rydym ni wedi rhoi proses gwneud cais am addasiadau newydd ar xxxxx xx’n cynnwys ffurflenni atgyfeirio ac mae safonau
Gwasanaethau Cwsmeriaid wedi’u datblygu mewn partneriaeth â xxxx-ddeiliaid allweddol drwy’r Gweithgor Addasiadau Strategol. Rydym ni wedi parhau i fonitro’r cyflenwad a’r galw am unedau tai addasadwy (unedau cymdeithasol yn unig) drwy’r Panel Tai Arbenigol.
Drwy fonitro’r cyflenwad a’r galw am eiddo wedi’u haddasu, gallwn weld a yw’r ymgeiswyr yn aros yn hirach am dai cymdeithasol wedi’u haddasu o gymharu ag ymgeiswyr sy’n aros am dai anghenion cyffredinol. Os oes xxxxx, xxx’r grŵp yn gallu amlygu pryderon i’r Grŵp Llywio ac argymell camau gweithredu i wella amseroedd aros.
3.2.11 Proses Ymgeisio effeithiol ac effeithlon ar gyfer Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl
Xxx xxxxxx y Xxxxx Cyfleusterau i’r Anabl wedi’i hadolygu. Un o’r prif newidiadau yw dileu’r angen am brofion modd dros dro a chynnal un prawf modd yn unig a hynny ar ddechrau’r broses. Mae’r prawf modd xxxxxxx yn edrych ar xxxxx 3 mis o gyfriflenni banc cyfnod, yn hytrach na 12 mis. Mae hyn wedi cyflymu’r broses ac wedi xxxx llawer o waith dylunio sy’n cael ei derfynu. Mae’r angen
am ffioedd asiantaeth ac anfonebu fesul Grant Cyfleusterau i’r Anabl wedi’i ddiddymu. Caiff unrhyw dâl dylunio ei dynnu o’r
dyraniad cyfalaf xxx 6 mis drwy drosglwyddiad mewnol. Caiff ail- gymeradwyaeth ar gyfer gwaith ychwanegol eu gwneud ar ddiwedd y gwaith, sydd wedi arbed amser swyddogion a gweinyddwyr. Mae llythyrau safonol hefyd wedi’u hadolygu a dim ond llythyrau hanfodol sy’n cael eu hanfon at gleientiaid.
3.2.12 Gwiriadau Cartrefi Iach
Mae’r xxx Gwelliannau Tai yn gweithio gyda Chymru Gynnes i ddarparu cyngor i berchnogion tai ar sut i arbed arian a chael cartref cynhesach a saffach. Byddant yn helpu cleientiaid i:
• Arbed arian ar xxxxxx ynni a dŵr a chael prisiau rhatach, gostyngiadau ac arbedion
• Cofrestru ar y Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth ar gyfer nwy, trydan a dŵr. Mae hyn yn sicrhau cefnogaeth a chyngor ychwanegol (e.e. rhybudd o flaen am doriadau a gynllunnir, blaenoriaeth o ran cefnogaeth pan fydd toriad pŵer, darparu offer gwresogi a choginio os torrir xxxx cyflenwad nwy ac ati)
• Gwneud y mwyaf o'ch incwm a gwella cyllidebu
• Cysylltu â’r rhwydwaith nwy
• Gosod systemau gwresogi newydd
• Gosod falf cloi popty
• Gosod mesurau diogelwch megis synwyryddion carbon monocsid, canllawiau a chymhorthion eraill
Roedd Cymru Gynnes wedi bwriadu ymweld â thrigolion yn ardal adnewyddu Bae Colwyn ym mis Mawrth 2020 ond, oherwydd Covid, gohiriwyd yr ymweliadau.
3.2.13 Bydd Prosiect y Ganolfan Asesu Breswyl i Blant ym Mron y Nant, Bae Colwyn
Bydd yr adeilad newydd yn darparu lle byw preifat ac ardal gymunol i
gymdeithasu i bawb sy’n dod i aros. Bydd ei leoliad yn ei wneud yn hygyrch i'r rhan fwyaf o bobl ei gyrraedd ac yn hawdd iddynt ddefnyddio’r amwynderau a’r gwasanaethau y maent eu xxxxxx xx
yn
eu mwynhau yn yr ardal. Bydd yn cynnig lle dros dro diogel i ofalu a magu plant. Mae gwaith ar y prosiect hwn wedi’i oedi oherwydd y pandemig a phroblemau gyda’r contractwr gwreiddiol.
3.2.17 Hyrwyddo Cynlluniau Ailgylchu Cyfarpar Cymunedol Rydym ni wedi parhau i hyrwyddo ailgylchu cyfarpar cymunedol drwy gydol y pandemig. Caiff xxxx gyfarpar y Gwasanaethau Cyfarpar Cymunedol eu hailddefnyddio pan fo modd. Mae hyn yn arbed dros 3 miliwn o bunnau i ni y flwyddyn. Caiff unrhyw gyfarpar nad oes modd ei ailddefnyddio eu tynnu’n ddarnau i’w cadw fel darnau sbâr a chaiff y gweddill eu sgrapio. Caiff y metel sgrap ei gludo o’r safle unwaith y mis ac rydym ni’n derbyn taliad yn seiliedig ar y pwysau. Mae’r xxxx wasanaethau cyfarpar cymunedol yng Nghymru yn cadw at y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer ailgylchu, sef 70% (yng Nghonwy rydym ni’n ailgylchu oddeutu 92% o’r deunyddiau a gesglir).
3.2.18 Gorfodi Cynllunio a Rheoli Adeiladu i ddiogelu cymunedau
Hyd yn oed yn ystod y pandemig rydym ni wedi parhau i ddarparu gwasanaeth effeithlon, gan gynnal cyfarfodydd ar-xxxx xxxx chwsmeriaid ar gyfer ceisiadau mwy cymhleth; ni oedd yr awdurdod cyntaf yng Nghonwy i gynnal cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio ar-xxxx xx rydym ni’n un o’r ychydig awdurdodau sy’n cynnal ymweliadau Pwyllgor Cynllunio. Mae Gorfodi Cynllunio yn dal yn blaenoriaethu gorfodi rheolaeth gynllunio i sicrhau bod datblygiadau newydd a phresennol mor briodol â phosibl. Mae hyn wedi’i gyfyngu i waith adweithiol yn bennaf ond mae’r perfformiad wedi bod yn dda. Mae’r Xxx Rheoli Adeiladu yn dal yn edrych ar nifer o adeiladau peryglus a gwaith heb awdurdod. Mae’r enghreifftiau yn cynnwys yr achos ar dudalen flaen y Daily Post yng Nglan Conwy gydag estyniad gwael a waliau cynnal amrywiol ar draws y sir.
3.2.24 Cyngor i bobl ag anableddau dysgu pan fyddant yn colli eu gofalwr
Mae gwaith yn parhau gyda phobl ag anableddau dysgu a’u rhieni/gofalwyr i sicrhau bod ganddynt fynediad at wybodaeth a chyngor da, cyson a hygyrch i gynllunio’n rhagweithiol i’r dyfodol pan fyddant yn colli eu gofalwr. Mae hyn yn cynnwys Prosiect Cynllunio i’r Dyfodol Cyswllt Conwy a chysylltiadau gyda’r Grŵp Llety i Bobl Anabl.
3.3.4 Polisi Corfforaethol ar Atgyweirio a Chynnal a Chadw Adeiladau gan roi sylw i fynediad priodol
Mae’r polisi a’r strategaeth ddrafft wedi’u cynhyrchu ac mae ymgynghoriad yn cael ei gynnal cyn mynd â phopeth drwy’r broses gymeradwyo ffurfiol.
3.3.5 Gwella Cyfleusterau Cyhoeddus
Mae gwaith ailwampio cyfleusterau cyhoeddus Dolwyddelan wedi’i orffen ac mae’r broses gyfreithiol yn tynnu tua’r terfyn i drosglwyddo’r cyfleusterau yn Nolwyddelan a Llanrwst (Heol Watling). Mae cytundeb ffurfiol hefyd wedi’i wneud gyda Chyngor Tref Abergele ar gyfer trosglwyddo’r toiledau ym Mhensarn, Stryd y Dŵr a Pharc Pentremawr ac mae gwaith ailwampio yn cael ei nodi ar gyfer y safleoedd hyn. Mae cytundeb ‘mewn egwyddor’ wedi’i sicrhau gyda Chyngor Tref Conwy i drosglwyddo'r toiledau yng Nghei Conwy, Deganwy a Chyffordd Llandudno. Mae’r dewis dylunio ar gyfer Cei Conwy wedi bod yn destun ymgynghoriad xxxx xxxx-ddeiliad allweddol, yn cynnwys CADW ac aelodau lleol, a bydd yn cael ei gyflwyno i Gyngor Tref Conwy gyda hyn. Mae cyllid ychwanegol wedi’i gytuno xxxx xxxx datblygwyr ar gyfer Neuadd Ddinesig Conwy o 50% (hyd at uchafswm o £75,000). Mae Cyngor Cymuned Ysbyty Ifan wedi cytuno i fod yn berchen ar gyfleusterau cyhoeddus y pentref ac rydym ni’n gweithio gyda nhw ar y dyluniad. Mae atgyweiriadau mawr wedi’u gwneud i doiledau Llanfair TH a Xxxxx. Rydym ni’n ail-gyflwyno cais am grant i dderbyn cyllid ychwanegol ar gyfer Parc Gwydir ac yn cynnal trafodaethau gyda Chyngor Tref Penmaenmawr ynglŷn â mabwysiadu’r toiledau ar y promenâd.
Camau gweithredu a chanlyniadau eraill o bwys xxx yr Amcan Safonau Byw:
• Wedi adeiladu a chomisiynu xxxxx xxxxxx newydd sy'n cynnig unedau ar gyfer cychwyn neu ehangu busnes yn sgil Covid
• Datblygu Cynllun Datgarboneiddio i gyflawni carbon sero-net erbyn 2030 a Chynllun Bioamrywiaeth.
• Datblygu dulliau newydd arloesol i ddarparu tai fforddiadwy a gweithio mewn partneriaeth i sefydlu cabanau i dynnu pobl ddigartref oddi ar y strydoedd yn ystod y cyfnod clo.
• Gwneud 3 miliwn o gasgliadau gwastraff bwyd, 3 miliwn o gasgliadau ailgylchu, 75,000 o gasgliadau gwastraff cyffredinol, 546,000 o gasgliadau gwastraff gardd a 310,000 o gasgliadau cynnyrch hylendid amsugnol (clytiau a chynnyrch anymataliaeth); graeanu 70,000 milltir o ffyrdd ac arolygu 1,281km o briffyrdd
• Cyflwyno system apwyntiadau ar gyfer ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref
• Talu gwerth £84 miliwn a mwy mewn grantiau cysylltiedig â’r pandemig ar ran Llywodraeth Cymru
• Cynyddu ein Gwasanaeth Cymorth Busnes, gan ateb dros 10,000 o alwadau a phrosesu 3045 o geisiadau grant
• Cynnal y prosiect Tai yn Gyntaf cyntaf i gael achrediad Llywodraeth Cymru
Gwaith wedi’i oedi yn sgil y Pandemig
3.1.10 Adnoddau i fynd i’r afael â digartrefedd ymhlith pobl sy’n gadael y carchar.
3.2.2Rhoi dull gofal dementia gwahanol ar waith yng nghartrefi pobl.
3.2.4 Dangosyddion perfformiad penodol i’r xxxx gwasanaeth i gynyddu nifer y bobl sy’n derbyn taliadau uniongyrchol.
3.2.14 Cefnogi trigolion diamddiffyn i fyw’n annibynnol mewn llety addas (wedi’i oedi oherwydd y pandemig).
3.2.15 Safonau Gofal Cwsmer a Rennir ar gyfer addasiadau (wedi’i oedi oherwydd y pandemig).
3.3.2 Ymgysylltu’n briodol â phobl anabl ynghylch cam dylunio cyntaf prosiectau adeiladu newydd ac addasiadau sydd ar agor i’r cyhoedd.
Amcan 4: Byddwn yn gwella canlyniadau Iechyd, Lles a Gofal Cymdeithasol
Meysydd Blaenoriaeth:
4.1 Sicrhau bod anghenion iechyd a lles gofalwyr yn cael eu diwallu
4.2 Gwella mynediad Teithwyr Sipsi i wasanaethau a gwella gwaith ymgysylltu i ddatblygu ymddiriedaeth
4.3 Cynyddu nifer y bobl gydag anableddau dysgu sy’n derbyn gwiriadau iechyd blynyddol
4.4 Gwerthuso cynllun xxxx hunanladdiadau Xxxx am Siarad â Fi? yn llawn a chreu cynllun gweithredu newydd i leihau hunanladdiadau ymhlith dynion canol oed yng Nghymru
4.5 Gwerthuso cynnydd mewn perthynas ag iechyd meddwl i sicrhau ein bod ni’n diwallu anghenion pobl â gwahanol nodweddion a ddiogelir
4.6 Defnyddio iaith Model Cymdeithasol o Anabledd
4.7 Cynnal sesiynau codi ymwybyddiaeth a darparu cefnogaeth i bobl gyda chyflyrau niwrolegol
4.1.1 Adolygiad o Strategaeth ac Anghenion Gofalwyr Gogledd Cymru
Roedd ein grŵp cynllunio aml-asiantaeth i ofalwyr, COG 8, wedi dechrau gweithio ar nifer o faterion a oedd wedi’u nodi drwy’r hunanasesiad yn erbyn y safonau a amlinellwyd yn Strategaeth Gofalwyr Rhanbarthol Gogledd Cymru. Rydym ni wedi cydweithio â thîm y gweithlu i gyflwyno adnoddau Pecyn Cymorth i Ofalwyr Gofal Cymdeithasol Cymru yn ein prosesau hyfforddi a sefydlu staff.
•Mae pecynnau e-ddysgu ar gael i staff asiantaethau partner a xxxx staff Conwy
•Datblygu cynigion i greu ystod hyblyg o ddewisiadau seibiant byr, gan edrych ar enghreifftiau o arferion da ar draws y rhanbarth
•Credir bod cynllun ‘Pontio’r Bwlch’ Sir y Fflint, wedi’i weithredu gan NEWCIS, yn darparu potensial da i ddarparu mwy o hyblygrwydd ar gyfer seibiant byr, er ei fod yn canolbwyntio’n bennaf ar ofalwyr sydd yn weddol newydd ar y daith ofalu
•Dyfarnwyd cyllid i’r gwasanaeth Cynnal Gofalwyr i gynnal cynllun peilot tebyg i ofalwyr pobl sy’n byw gyda dementia, a fu ar waith am gyfnod byr cyn i gyfyngiadau Covid-19 effeithio ar y ddarpariaeth
•Cafodd Crossroads hefyd gyllid i dreialu prosiect newydd o’r enw “Efo Ni” i ddarparu cefnogaeth gynnar effeithiol yn defnyddio gwirfoddolwyr i helpu pobl i gael mynediad at weithgareddau cymunedol lleol neu eu cefnogi i barhau â’u diddordebau a hobïau eu hunain, i fynd i’r afael ag unigrwydd. Unwaith eto, cafodd Covid- 19 effaith sylweddol ar y prosiect peilot hwn.
•Bydd gwaith datblygu dulliau i gael gofal seibiant hyblyg a chynaliadwy yn parhau pan fydd cyfyngiadau Covid-19 yn caniatáu hynny
•Cynhaliwyd dadansoddiad manwl o’r amryw resymau y mae pobl yn gwrthod asesiad er mwyn deall y rhesymau dros wrthod.
Dadansoddwyd dros 400 o ymatebion a’u grwpio yn ôl themâu. Ran amlaf o lawer yr ymateb mwyaf cyffredin (160 o ofalwyr) yw “ddim mo’i angen ar hyn x xxxx”, gyda nifer tebyg iawn yn dweud bod y gofalwr yn ymdopi a/neu eisoes yn derbyn y lefel angenrheidiol o gefnogaeth neu wedi cael asesiad yn ddiweddar sy’n awgrymu, yn galonogol, nad yw’r rhan fwyaf o bobl sy’n gwrthod asesiad xxx anfantais ar ôl gwneud hynny. Caiff gofalwyr eu hannog xxx tro i gyfathrebu eu hanghenion os yw eu hamgylchiadau yn newid.
4.1.4 Cefnogi Gofalwyr Ifanc i Gyflawni eu Potensial Cafodd argaeledd seibiannau hyblyg ei rwystro gan Covid ond mae gwasanaethau wedi ailddechrau ers mis Medi ac yn cynnwys seibiannau byr gyda gofalwyr lleoliadau oedolion, seibiannau preswyl a thaliadau uniongyrchol. Mae prosiect Bron y Nant – cyfleusterau seibiant preswyl newydd – yn mynd rhagddo’n dda.
4.2.2 Asesiadau safle yn defnyddio protocol Gwersylloedd Sipsiwn/Teithwyr
Bydd asesiad iechyd yn cael ei gynnal yn ôl yr angen ond maent yn anaml iawn ac nid oes asesiad wedi’i gynnal ers sawl blwyddyn.
4.3.1 Gwella cyfraddau gwiriadau iechyd blynyddol Conwy ar gyfer pobl ag anableddau dysgu
Mae’r gwaith yma’n parhau ac mae’r xxx trawsnewid rhanbarthol wedi sicrhau cyllid ar gyfer swydd yn 2021/22 i gynyddu nifer y bobl sy’n dewis cael gwiriad iechyd blynyddol.
4.4.3 Cynllun gweithredu i wella lles meddyliol mewn cymunedau ffermio
Mae gwaith ar y gweill i addasu’r ddarpariaeth gwasanaeth o fewn y Gwasanaeth Pobl Ddiamddiffyn yn gymorth lleol. Yr ardal beilot gyntaf fydd Llanrwst, a fydd oherwydd ei natur yn amlygu materion yn ymwneud â lles meddyliol mewn cymunedau gwledig a ffermio.
Rydym ni wedi comisiynu gwasanaeth neges destun gan Mental Health Innovations y xxx xxxx ei dargedu at gymunedau ffermio. Rydym ni’n gobeithio cysylltu â’r Undeb Ffermwyr i gefnogi’r gwaith marchnata.
4.4.4 Hyrwyddo’r rhaglen “Cadw’n Iach” gan dargedu materion penodol grwpiau oedran penodol.
Caiff y rhaglen weithgareddau “lles” ei hyrwyddo'n xxxx ar draws y sir, yn fewnol gan staff iechyd a gofal cymdeithasol ac yn allanol
gan ein cydweithwyr yn y trydydd sector a’r sector annibynnol. Xxx xxx y xxx dudalen Facebook lle maent yn hysbysebu rhaglenni, yn ychwanegol at eu rhestr bostio, eu “pecyn lles” chwarterol a gwefan DEWIS Cymru.
Caiff sesiynau eu datblygu ar gyfer pobl dros 65 oed ond mae’r ystod oedran yn amrywio o 30 oed i fyny. Mae’r rhaglen yn cynnwys sesiynau wedi’u datblygu’n benodol ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia, fel sesiynau ‘Cerddoriaeth a Symud’, a chaiff y rheiny gyda phroblemau iechyd meddwl eu cefnogi drwy ein rhaglen ‘Celf a’r Meddwl’.
Darparwyd 105 o sesiynau ar-xxxx, xxxx 1197 o bobl yn mynd iddynt, rhwng mis Ebrill 2020 a 25 Mawrth 2021.
Yn ystod y cyfnod clo cyntaf bu’r xxx Xxxx Cymunedol yn helpu gydag ymateb cydnerthu cymunedol Conwy i Covid-19. Roedd hyn yn cynnwys cefnogi’r Gwasanaethau Cefnogaeth Gymunedol drwy gasglu a diweddaru gwybodaeth am wasanaethau hanfodol sydd ar gael i gefnogi pobl yng Nghonwy, fel gwasanaethau danfon bwyd a meddyginiaethau a banciau bwyd. Rhwng mis Ebrill a mis Medi 2020 defnyddiwyd ein gwefan 5160 o weithiau i weld ein rhestrau o wasanaethau danfon bwyd.
Ddechrau mis Awst cwblhawyd ymarfer mapio i nodi’r gweithgareddau sydd ar gael wyneb yn wyneb ac ar-lein i bobl sy’n byw yng Nghonwy. Yn defnyddio’r data hwnnw roeddem ni wedyn yn gallu nodi bylchau a dechrau hwyluso a rhoi gweithgareddau ar- lein (Zoom) ar brawf ar gyfer aelodau o’r gymuned a thrigolion cartrefi gofal. Roedd y gweithgareddau’n cynnwys bingo, ymarfer xxxxx ar xxxx eistedd, ioga a chanu. Yn ystod y cyfnod rhwng mis Ebrill a mis Medi 2020 darparwyd 16 o sesiynau gwahanol i 161 o bobl. Cawsom adborth gwych, yn cynnwys:
Cyfranogwr y sesiwn canu – “Dw i’n credu bod y gwaith rydych chi’n ei wneud yn wych. Trio codi hwyliau pawb a rhoi xxxx ar ein hwynebau. Gwaith da.”
Gan nad oes gan bawb fynediad i ddyfais ddigidol er mwyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ar-xxxx, xx mis Awst 2020 datblygwyd ‘Pecyn Lles’ a oedd yn cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol a gweithgareddau yr oedd modd i bobl eu gwneud o gysur eu cartrefi, er mwyn rhoi hwb i’w lles corfforol a meddyliol. Dosbarthwyd y pecynnau gan ein xxx mewnol a’n partneriaid e.e. Cartrefi Conwy a Chludiant Cymru, i bobl a oedd yn derbyn gofal. Rhwng eu lansio fis
Awst tan ddiwedd mis Medi cafodd y pecyn ei ddefnyddio 1,423 gwaith ar-lein a’i ddosbarthu i 275 o drigolion Conwy ar ffurf copi caled.
4.5.4 Cefnogi Iechyd Meddwl ac Xxxx Digartrefedd
Ers dechrau’r pandemig rydym ni wedi bod yn gweithio’n agosach gydag asiantaethau eraill i fynd i’r afael ag anghenion sydd y tu hwnt i’r angen am xxxx.
Byddwn yn ailgydio yn hyn fel rhan o’r gwaith sydd ar ddechrau i baratoi ar gyfer Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym Conwy. Prif elfennau’r cynllun yw blaenoriaethu gweithgareddau xxxx digartrefedd a gweithio mewn partneriaeth gydag asiantaethau a gwasanaethau allweddol.
4.5.7 Cyd-gynhyrchu gwasanaethau iechyd meddwl cynhwysol yn y gymuned ar gyfer grwpiau LHDTC, oedolion gydag awtistiaeth a gofalwyr
Cyn mis Mawrth 2020 cynhaliwyd cyfres o grwpiau xxxx-ddeiliaid a oedd yn cynnwys grŵp oedolion gydag awtistiaeth ond, yn anffodus, ni chynhaliwyd y sesiwn a archebwyd gydag Unique a oedd yn canolbwyntio ar y gymuned trawsryweddol ac LHDTC. Fodd bynnag, mae’r gwaith yma wedi dylanwadu ar y cam nesaf o newid a’r bwriad i gomisiynu i ddatblygu Coleg Xxxxx yng Nghonwy, a fydd yn cefnogi iechyd meddwl yn y gymuned drwy ddull addysgol, xxxx bynnag fo’r diagnosis neu’r nodwedd a ddiogelir. Roedd y cynnydd yn araf yn ystod y pandemig ond mae dal yn uchelgais y gwasanaeth ac mae cynllun yn ei le gyda Mind Conwy i ddatblygu’r dull hwn. Bydd y cyrsiau yn cael eu creu a’u dylunio gyda defnyddwyr gwasanaeth.
4.7.3 Cod Ymarfer Anhwylderau yn y Sbectrwm Awtistig Mae Cod Ymarfer Anhwylder yn y Sbectrwm Awtistig wedi bod yn destun ymgynghoriad yn xxxxx i’w weithredu fis Medi 2021. Mae awdurdodau lleol Conwy a Sir Ddinbych wedi drafftio cynllun gweithredu lleol ond maent yn aros am y Cod Ymarfer terfynol cyn ymgynghori yn ei gylch xxxx xxxx-ddeiliaid.
4.8.7 Datblygu taith ‘Dawnsio’r Degawdau’ gyda Xxxxx i Bawb ar gyfer cartrefi gofal Conwy
Roedd ail daith i fod i gael ei chynnal cyn y Pasg yn 2021 ond cafodd ei gohirio oherwydd y pandemig. Defnyddiwyd y cyllid a oedd yn weddill i dalu’r dawnswyr i greu fersiwn ffilm o’r perfformiad, a anfonwyd at xxx cartref a oedd yn mynd i fod yn rhan o’r daith
(gwelwch y rhestr isod). Bu iddynt hefyd dderbyn DVD o dair sesiwn symud 15 munud. Mae’r DVD mor debyg i’r perfformiad â phosibl gyda chymysgedd o berfformio a gwaith cyfranogi. Mae’r xxx hefyd wedi darparu sesiynau byw ar Zoom xxx mis i rai cartrefi gofal ac wedi anfon sesiwn wedi’i recordio drwy YouTube.
1. Bay Court, Bae Cinmel
2. Chasely House, Bae Colwyn
3. Church Manor, Abergele
4. Coed Xxxxx, Bae Colwyn
5. Merton Place, Bae Colwyn
6. Xxxxx Xxxxxxxxx Court, Llandudno
7. Tŷ Cariad, Abergele
8. Hafan Gwydir, Llanrwst
9. Bronafallen, Cerrigydrudion
4.8.8/9 Dod yn Sefydliad sy’n Deall Dementia
Cyn y pandemig sefydlwyd bwrdd llywio a oedd yn cwrdd yn rheolaidd ond, wrth gwrs, cafodd y gwaith ei oedi oherwydd y cyfyngiadau. Fodd bynnag, llwyddom i gyflwyno ein cais i fod yn sefydliad sy’n deall dementia i’r Gymdeithas Alzheimer’s gyda thystiolaeth o’r cynnydd hyd yma ac rydym ni rŵan yn Sefydliad sy’n Deall Dementia.
Mae gwaith hefyd wedi’i wneud i ddatblygu pecynnau gweithgareddau hel atgofion xxx themâu yn ymwneud â’r 60au, 70au a’r 80au, sy’n cynnwys gwaith gyda Grŵp Dementia Cynnar BIPBC.
Camau gweithredu eraill a chanlyniadau o bwys xxx yr Amcan Iechyd, Lles a Gofal Cymdeithasol:
• Troi ein theatr yn ysbyty Covid ac yna’n Ganolfan Brechu Torfol
• Creu mortiwari dros dro yn un o’n hunedau masnachol ar gyfer rhanbarth gogledd Cymru
• Defnyddio ein parc bysiau i greu canolfan profi torfol
• Sefydlu Gwasanaeth Cefnogaeth Gymunedol newydd sbon i ddanfon bwyd a phresgripsiynau i drigolion bregus/sy’n byw ar eu pen eu hunain yn ystod y cyfnodau clo, a dderbyniodd llawer o ddiolch gan y defnyddwyr a’u teuluoedd.
• Sefydlu gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu 7 ddiwrnod yr wythnos gyda phartneriaid yn y gogledd, gan ddefnyddio staff ar ffyrlo a chynnal proses recriwtio fawr ac ymarfer ymsefydlu a oedd yn gyfan gwbl ar-lein
• Datblygu cymorth ar-lein i bobl hŷn i'w helpu i fanteisio ar gyfleoedd i hybu eu lles corfforol a meddyliol
• Ail-frandio ac addasu cynnig hamdden Ffit Conwy, gydag ymarferion, dosbarthiadau ac awgrymiadau ymarfer xxxxx ar-xxxx
• Cydlynu 1,166 o frechiadau preswylwyr mewn 58 cartref gofal – 95% o’r trigolion wedi’u brechu
• Cydlynu a dosbarthu cyfarpar diogelu personol i xxx darparwr gofal: yn cynnwys 3.5 miliwn bocs x xxxxx, 1.6 miliwn bocs o fygydau a 1.5 miliwn rhôl o ffedogau
• Gweithio’n agos gyda’n darparwyr cartrefi gofal, swyddogion Iechyd yr Amgylchedd a grŵp gwyliadwriaeth yr awdurdod lleol i hysbysu ein penderfyniadau am gyfyngiadau/trefniadau ymweld a helpodd i osgoi rhoi cyfyngiadau cyffredinol ar waith
• Datblygu a chynnal gwasanaeth ffonio a chasglu o lyfrgelloedd a sesiynau stori ar-lein
Gwaith wedi’i oedi yn sgil y Pandemig
4.7.1 Polisi Niwroamrywiaeth
4.7.2 Gweithredu cynllun cortyn gwddf Blodyn Haul i gefnogi anableddau xxxx
Amcan 5: Byddwn yn gwella Diogelwch Personol a Mynediad at Gyfiawnder
Meysydd Blaenoriaeth:
5.1 Gweithio gyda phartneriaid yng ngogledd Cymru i fagu xxxxx pobl mewn perthynas ag ymwybyddiaeth a rhoi gwybod am drosedd casineb
5.2 Mynd i’r afael â thrais yn erbyn merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol drwy weithredu meysydd perthnasol y strategaeth erbyn 2021
5.3 Gwella ymwybyddiaeth o ddiogelwch personol a diogelu
5.1.1/3 Rhwydwaith Cyfeirio ar gyfer Troseddau Casineb Rhannwyd y Polisi Trais yn Erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol diwygiedig yn ystod cyfarfod Cefnogwyr Cydraddoldeb, lle cynigiwyd bod yr aelodau yn bwynt cyswllt naturiol yn eu gwasanaethau drwy eu gwaith gyda chydraddoldeb.
Nid oes disgwyl iddynt fod yn arbenigwyr ar y pwnc ond, yn hytrach, yn gallu gwrando a chyfeirio staff eu gwasanaeth fel y bo’n briodol yn defnyddio’r cysylltiadau a restrir yn y polisi, yn unol â rôl unrhyw aelod o dîm Conwy. Mae Gofal Cymdeithasol wedi dewis Cefnogwyr i dderbyn hyfforddiant fel rhan o’r hyfforddiant Gofyn a Gweithredu ac mae’r cysylltiadau hyn hefyd wedi’u cynnwys yn y polisi.
Rydym ni wedi codi ymwybyddiaeth o droseddau casineb yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb ac wedi cyhoeddi enghreifftiau o droseddau casineb a dolenni i straeon fel rhan o’n gwaith codi ymwybyddiaeth. Anfonwyd negeseuon Postfeistr ac ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb i’r cyhoedd a staff.
Rydym ni’n hyrwyddo llinell gymorth Byw Heb Ofn ar xxx cyfle posibl. Mae ein Partneriaeth Diogelwch Cymunedol yn rhannu negeseuon rheolaidd ar Twitter yn hyrwyddo’r llinell gymorth ac rydym ni’n ei chynnwys ar xxx deunydd rydym ni’n ei xxxxxx xxxxx. Xxx’r rhif ffôn hefyd arw wefan DEWIS a gwefannau sefydliadau trydydd sector sy’n helpu dioddefwyr.
5.1.2/3 Monitro Tensiynau Cymunedol
Mae’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol wedi bod yn rheoli ac yn monitro tensiynau cymunedol. Mae cynnydd wedi bod yn nifer yr achosion o densiynau cymunedol oherwydd y cyfnodau clo ond, drwy weithio mewn partneriaeth, rydym ni wedi llwyddo i reoli’r tensiynau hynny. Rydym ni hefyd wedi cefnogi Heddlu Gogledd Cymru a’r Arweinwyr Cydlyniant Cymunedol gyda diweddariadau ar unrhyw densiwn cymunedol yn sgil arddangosiadau Mae Bywydau Du o Bwys yn ystod y flwyddyn.
5.1.5 Caethwasiaeth Fodern a Masnachu mewn Pobl Rydym ni’n parhau i godi ymwybyddiaeth o gaethwasiaeth fodern ac yn anfon negeseuon rhanbarthol am roi gwybod am unrhyw xxxx amheus. Mae gwaith amlasiantaeth yn mynd rhagddo mewn busnesau golchi xxxx x xxxxxx ewinedd ac, yn xxxxx ar gyfer ailagor safleoedd gwersylla yn llawn, rydym ni wedi rhannu gwybodaeth am gaethwasiaeth fodern a llinellau sirol i godi eu hymwybyddiaeth ac i rannu dulliau rhoi gwybod os ydynt yn sylwi ar unrhyw xxxx amheus.
5.2.1 Hyfforddiant Diogelu
Mae pob un o’n modiwlau diogelu gorfodol ar gael ar ddyfeisiau gwahanol drwy lwyfan Dysgu Cymru. Ers pandemig Covid-19 a
methu cwrdd wyneb yn wyneb, mae pob gweithiwr newydd yn derbyn pecyn cyflwyno ac yn cael eu cynghori i gwblhau modiwl diogelu Lefel 1 Gofyn a Gweithredu gorfodol o fewn tri mis. Rydym ni hefyd wedi nodi rolau sy’n gofyn am gwblhau modiwl Lefel 2
Gofyn a Gweithredu (hyfforddiant manylach) sy’n cael ei ddarparu gan Dîm Datblygu’r Gweithle Gofal Cymdeithasol.
5.2.2/3/5 Ymwybyddiaeth o Drais Domestig
Mae ein hyfforddiant diogelu gorfodol ar gyfer staff yn cynnwys hyfforddiant ar drais yn erbyn merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol ac mae’r hyfforddiant hwn yn parhau. Rydym ni hefyd wedi parhau i hyrwyddo’r llinell gymorth Safe Lives ac yn sicrhau bod yna ddulliau lleol i bobl roi gwybod. Rydym ni hefyd wedi bod yn hyrwyddo ‘Gofyn am Ani’ mewn fferyllfeydd lleol. Mae hyn yn hysbysu staff fferyllfeydd o broblem bosibl ac yn eu galluogi i fynd â’r dioddefwr i le diogel ac i dderbyn cymorth. Mae’r Bartneriaeth Xxxxxxxxx Cymunedol wedi bod i ddigwyddiadau, colegau a sefydliadau i siarad am gam-drin domestig xx x xxxx ymwybyddiaeth o roi gwybod am achosion. Mae’r bartneriaeth hefyd wedi bod yn gweithio’n rhanbarthol ar Ddiwrnod Rhyngwladol Codi Ymwybyddiaeth o Gam-drin ar 25 Tachwedd, gyda nifer o ddigwyddiadau wedi’u trefnu ar draws Conwy a Sir Ddinbych.
Rydym ni’n dal yn gweithio mewn partneriaeth i reoli nifer y dioddefwyr sy’n dioddef cam-drin domestig dro ar ôl tro trwy broses y Gynhadledd Amlasiantaeth Asesu Risg (MARAC), sydd wedi gweld cynnydd yn nifer yr achosion ond sy’n darparu cefnogaeth i ddioddefwyr ar gam cynharach. Rydym ni’n parhau i ariannu 4 Ymgynghorydd Cam-drin Domestig Annibynnol llawn amser yng Nghonwy a Sir Ddinbych ac mae yna hefyd Ymgynghorydd ar Ryw Pobl Ifanc yn y ganolfan atgyfeirio ymosodiadau rhywiol.
5.3.10/11/14 Lleihau Trosedd ac Anhrefn
Yn ystod y 12 mis diwethaf rydym ni wedi bod yn gweithio’n agos gyda Xxxxxxxx i Ddioddefwyr i sicrhau bod y negeseuon ynglŷn â’r cymorth sydd ar gael yn cael eu rhannu’n xxxx. Rydym ni wedi bod yn gweithio’n rhanbarthol ar rannu negeseuon clir a chyson ac rydym ni wedi hyrwyddo cefnogaeth i caethwasiaeth fodern, cam- drin domestig a thrais rhywiol a rhannu negeseuon gwrthderfysgaeth Prevent.
Rydym ni’n parhau i fynd i Grwpiau Rheoli Troseddwyr ac wedi ehangu’r gwaith monitro i gynnwys ad-droseddwyr cam-drin domestig. Rydym ni wedi llwyddo i fwrw ymlaen â chynadleddodd
cyfiawnder adferol o xxxx xx yn eu hystyried yn ddefnyddiol iawn i leihau troseddau a chefnogi dioddefwyr i symud ymlaen.
Amcan 6: Cynyddu Mynediad at Gyfranogiad a gwella amrywiaeth gwneud penderfyniadau
Meysydd Blaenoriaeth:
6.1 Cynyddu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd amrywiaeth mewn
cynrychiolaeth penderfyniadau
wleidyddol
a
chyrff
sy'n
gwneud
6.2 *Darparwyr cludiant cyhoeddus i ddarparu hyfforddiant i staff i sicrhau eu bod yn cwrdd ag anghenion pobl anabl (*Sylwch: nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn darparu cludiant cyhoeddus ond mae’r Cyngor yn ymwneud â rhai llwybrau anfasnachol a chludiant cymunedol)
6.3 Sicrhau bod gwaith ymgysylltu yn gynhwysol
6.4 Dylai mynediad i wasanaethau fod wedi’i gefnogi gan gymorth iaith priodol
6.1.16 Xxx-xxxxx i bwyllgorau’r Cyngor
Mae xxx-xxxxx unigolion i bwyllgorau’r Cyngor yn gyfyngedig ond mae xxx-xxxxx i’r Pwyllgor Safonau yn arddangos cydbwysedd rhwng y rhywiau. Xxx xxxxxx gyd-ethol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn dilyn trefn debyg. Mae Aelodau sy'n Gefnogwyr wedi’u penodi i gynrychioli gofalwyr, pobl hŷn, iechyd meddwl ac anableddau ac rydym ni’n ymgynghori â nhw fel rhan o’r broses arferol o wneud penderfyniadau ac mae templed ein hadroddiadau wedi’i addasu i annog ymgynghori gyda’r aelodau priodol. Mae Deilydd Portffolio Moderneiddio yn gyfrifol am gydraddoldeb a chymryd rhan weithredol yn y rhaglen gydraddoldeb.
6.1.8 Cyngor Ieuenctid Conwy
Mae Cynghorau Ysgol yn parhau i fod yn rhan weithredol o fywyd ysgolion.
Mae Conwy yn chwilio am grŵp newydd o bobl ifanc o sefydliadau addysgol i ffurfio Cyngor Ieuenctid i ailddechrau’r Cyngor gan fod llawer o’r cynrychiolwyr blaenorol wedi symud yn eu blaenau.
6.1.9 Llais Gofalwyr mewn Penderfyniadau
Mae gwasanaethau sy’n cefnogi gofalwyr yn defnyddio dulliau ymgysylltu effeithiol i weithio mewn ffyrdd sy’n canolbwyntio ar unigolion ac i gasglu gwybodaeth sy’n llywio datblygiadau o fewn y gwasanaeth. Enghraifft diweddar yw darparu Grant Seibiant Gofalwyr Llywodraeth Cymru, sydd wedi cynnwys sefydliadau partner yn ymgynghori â gofalwyr ynghylch eu dewisiadau mewn perthynas â seibiant byr, gyda’r bwriad o ddarparu ystod mwy hyblyg o seibiannau byr wedi’u teilwra i anghenion unigolion. Mae ymgyrchoedd cenedlaethol diweddar drwy Gofalwyr Cymru wedi’u hyrwyddo i godi ymwybyddiaeth o hawliau gofalwyr ar draws y sector.
6.2.1 Mentrau Cludiant Cynaliadwy – Gwasanaethau Fflecsi
Mae gwasanaeth cludiant cyhoeddus yn ôl y galw Fflecsi Dyffryn Conwy, sydd wedi disodli 7 gwasanaeth gwael, wedi bod ar waith ers 7 mis xxxxxxx xx xxx niferoedd y teithwyr yn parhau i gynyddu xxx dydd ac o’r xxxx wasanaethau fflecsi a geir yng Nghymru gwasanaeth Dyffryn Conwy yw’r un sydd wedi arddangos y twf mwyaf mewn teithwyr a theithiau. Mae hyblygrwydd gwell y gwasanaeth yn diwallu anghenion pobl sy’n gweithio yn well ac mae cynnydd hefyd wedi bod yn nifer y bobl ifanc sy’n defnyddio’r gwasanaeth i fynd i “gwaith gwyliau ysgol” ac at ddibenion cymdeithasu. Mae disodli gwasanaethau rheolaidd drud ar yr amserlen i rai pentrefi gyda’r bws Fflecsi wedi bod yn xxxx cadarnhaol ac wedi arwain at arbedion o ran cost, milltiroedd bysiau gwag ac arbedion carbon sylweddol. Mae’r gwasanaeth wedi gweld newid mawr o deithwyr sy’n ddeiliad cerdyn i deithwyr sy’n talu. Ym mis Tachwedd 2019 roedd 73% o’r teithwyr yn ddeiliaid cardiau a 26% yn talu. Ym mis Mai 2019 roedd 39% o’r teithwyr yn ddeiliaid cardiau a 60% yn talu. Lansiwyd taflen gwyliau gartref a oedd yn annog trigolion ac ymwelwyr i ddefnyddio’r gwasanaeth i fynd i atyniadau ac mae yna alw am deithiau o barciau carafanau o ardal Llanrwst i Fetws-y-coed yn gynnar gyda’r nos.
Y nod yw mynd i’r afael â’r pwysau a ragwelir yn sgil gwyliau gartref a lleihau nifer y ceir ar y ffordd a phroblemau parcio a fydd, yn eu tro, yn cyfrannu at deithio gwyrdd. Rydym ni hefyd wedi gweithio gyda’r Xxx Xxxx Gofal Cymdeithasol i ddylunio rhaglen o deithiau yn
defnyddio’r gwasanaeth Fflecsi i helpu i fynd i’r afael â phryder rhai pobl i fentro xxxxx ar ôl y cyfnod clo.
6.2.3/5 Cludiant Bws Hygyrch
Mae’r Adran Drafnidiaeth wedi cyhoeddi eithriad arall yn ddiweddar ar gyfer cerbydau a ddefnyddir ar gyfer cludiant ysgol, tan fis Mawrth 2022. Mae Llywodraeth Cymru a CLlLC yn lobio’r Adran Drafnidiaeth mewn perthynas â chanlyniadau anfwriadol y newid yn y rheoliadau. Yn y cyfamser rydym ni’n gweithio gyda darparwyr ar amserlen realistig i sicrhau bod cerbydau yn cydymffurfio â Rheoliadau Hygyrchedd Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus (PSVAR). Bydd yn rhaid ystyried heriau Covid-19 a gofynion newid hinsawdd.
Mae’r gofyniad i xxx aelod o staff darparwyr gwasanaethau bws i gwblhau hyfforddiant mynediad i bobl anabl wedi’i gynnwys yn y contract enghreifftiol ac yn cael ei gyflwyno fel rhan o’r broseso o adnewyddu contractau. Mae’r xxxx ddarparwyr presennol eisoes yn darparu hyfforddiant mynediad i bobl anabl i’w staff fel hyfforddiant safonol.
6.3.1 Hyrwyddo Hyfforddiant ar Ymgysylltu ac Ymgynghori
Mae hyfforddiant Ymgysylltu â'r Gymuned wedi’i gynnwys ar y cynllun dysgu a datblygu, ac yn cael ei gynnig ddwywaith y flwyddyn. Cafodd yr hyfforddiant ei ddiweddaru yn 2021 i gynnwys mwy o dechnegau ac awgrymiadau ar gyfer ymgysylltu digidol/ar- lein oherwydd y pandemig ac i adlewyrchu’r Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol. Mae gwaith pellach yn cael ei wneud yn rhanbarthol i sicrhau bod adborth dienw yn cael ei rannu rhwng sefydliadau – yn enwedig i gefnogi’r nod o wella ymgysylltu gyda grwpiau nas clywir yn aml.
6.3.3 Ymgysylltu gyda Fforymau Anabledd Lleol
Rydym ni wedi gweithio gyda Chyswllt Conwy i ymgysylltu â mwy o bobl anabl ac rydym ni’n defnyddio hyn fel ffordd i dderbyn adborth ar syniadau/cynigion ar gyfer comisiynu ac ail-gomisiynu. Mae cyd- gomisiynu yn agwedd allweddol o Offeryn Comisiynu Gofal Cymdeithasol ac mae hyn yn nodi ein dyheadau i symud tuag at gyd-gynllunio a chyd-ddylunio gwasanaethau, cyd-ddarparu a chyd- fonitro ac adolygu. Mae’r Offeryn Comisiynu Gofal Cymdeithasol yn cynnwys dulliau ac ystyriaethau allweddol ar gyfer ymgysylltu gyda defnyddwyr gwasanaeth ar xxx cam o’r cylch comisiynu. Cafodd yr
offeryn hyn ei gyd-gynhyrchu mewn ymgynghoriad ac mae o rŵan wedi’i sefydlu yn ein dull comisiynu ac yn rhan o’n busnes fel arfer.
6.3.4a Cymorth Cynhwysiant Digidol
Mae gwella cysylltedd digidol yn un o’n blaenoriaethau uchaf i gymunedau Sir Conwy, yn enwedig y rheiny mewn ardaloedd gwledig, i gefnogi datblygiad economaidd, addysg, gofal cymdeithasol a hyd yn oed datrysiadau hirdymor i ddarpariaeth gofal iechyd. Nod Rhwydwaith Ffibr Llawn Lleol yw creu isadeiledd digidol lleol er mwyn i’r economi ffynnu ac i ddinasyddion dderbyn y cysylltedd sydd arnynt xx xxxxx yn y dref a’r ardal wledig yn defnyddio’r cyllid sydd ar gael gan yr Xxxxx xxxx Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon. Mae safleoedd CBSC yn cynnwys eiddo ym meddiant y Cyngor, lleoliadau Cynghorau Tref a Chymuned, llyfrgelloedd a chanolfannau cymunedol. Mae 45 o safleoedd CBSC wedi’u cymeradwyo ar gyfer y prosiect; xxx xxx 12 safle gysylltiad ffibr llawn xxxxxxx xx xxx gwaith ar y gweill yn y 27 safle arall. Yn ogystal â’r safleoedd CBSC hyn mae yna 32 safle arall yng Nghonwy sy’n eiddo i sefydliadau eraill sy’n rhan o’r rhaglen Rhwydwaith Ffibr Llawn Lleol sef: meddygfeydd, canolfannau meddygol, clinigau iechyd a chanolfannau adnoddau. O’r xxxxx xxx cysylltiad ffibr llawn wedi’i osod mewn 25 o’r safleoedd ac mae gwaith ar y gweill mewn 7 safle arall. Mae’r xxxx safleoedd hyn yn helpu i ymestyn y rhwydwaith ffibr i gymunedau gan alluogi pobl sy’n byw ac yn gweithio ynddynt i fanteisio ar gysylltiad band xxxx cyflym iawn.
Mae darparu gwybodaeth a chymorth i unigolion sydd â mynediad digidol cyfyngedig yn hanfodol ac mae llyfrgelloedd yn darparu cyfrifiaduron i’r at ddefnydd y cyhoedd, WiFi a gwasanaeth argraffu yn ogystal â chymorth gan staff. Roedd cyllid ar gael gan Lywodraeth Cymru i addasu adeiladau llyfrgell i ddarparu mannau preifat a chyfrinachol gyda chyfrifiaduron y gall cwsmeriaid eu defnyddio i gysylltu â’r Cyngor a gwasanaethau eraill.
6.3.5 Annog pobl i ddysgu a siarad Cymraeg
Rydym ni wedi penodi Swyddog Hyrwyddo a Datblygu’r Cymraeg a fydd yn gweithio gyda staff y Cyngor, ysgolion a’r cyhoedd i hyrwyddo a datblygu’r Gymraeg yn y sir.
Yn ystod 2020 sefydlwyd grŵp newydd, Grŵp Llywio’r Gymraeg, sy’n ystyried ac yn trafod materion yn ymwneud â’r Gymraeg yn y Cyngor, gan gynnwys arferion da i ddathlu a datblygu, neu unrhyw
fater o xxx x xxxxx, materion xxxx xxxxx eu gwella o fewn gwasanaeth penodol neu agwedd benodol o’n gwaith ac ati.
Mae staff CBSC yn gallu manteisio ar gynllun arloesol i ddysgu Cymraeg, diolch i bartneriaeth gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Yn dilyn llwyddiant y cyrsiau Iaith Gwaith rhwng mis Medi 2018 a mis Mawrth 2019, pan dderbyniodd 73 aelod o staff a 2 gynghorydd wersi Cymraeg drwy’r cynllun, cawsom ein dewis i gymryd rhan mewn cynllun peilot yn 2019-2020, ac yn rhan o gynllun wedi’i deilwra yn 2020-2021. Mae’r cynllun yn xxxx x xxxxxx ‘Iaith Gwaith’ y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae’r Cyngor yn hynod ddiolchgar am fuddsoddiad sylweddol y Ganolfan er mwyn datblygu sgiliau Cymraeg ei staff. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae’r gwersi wedi bod ar-xxxx xx rydym ni’n xxxxx iawn bod 48 aelod o staff wedi parhau i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg a chyfrannu mewn ffordd fechan at gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Ddechrau 2021 lansiwyd cynllun Siarad Cymraeg yn y Gweithle, lle mae dysgwyr lefel ganolradd yn cael ei baru gyda siaradwr Cymraeg rhugl er mwyn sgwrsio yn Gymraeg. Ar hyn o xxxx xxx gennym ni 9 pâr sy’n cwrdd yn rheolaidd fel rhan o’r cynllun hwn.
6.4.1 Polisi Nam ar y Synhwyrau
Mewn ymateb i adroddiad “Siaradwch fy Iaith” Swyddfa Archwilio Cymru cyhoeddwyd Polisi Nam ar y Synhwyrau sy’n cyd-fynd â’r rhestr gyfeirio a geir yn yr adroddiad.
6.4.2 Darpariaeth Iaith Arwyddo Prydain Rydym ni’n parhau i ddarparu gwasanaeth dehongli Iaith Arwyddo Prydain drwy Sign
Solutions ac mae’r eicon wedi’i osod ar frig xxx tudalen ar ein gwefan. Adnewyddwyd y contract InterpreterLive!, i ddarparu 720 munud o gymorth xxx mis. Yn ystod 20/21 mae’r gwasanaeth hwn
wedi’i ddefnyddio’n bennaf drwy’r wefan gan fod adeiladau’r Cyngor wedi bod ar gau am gyfnodau hir. Mae Gwasanaeth Cyfieithu a Chymorth i Bobl Fyddar Conwy yn dal yn cynnig sesiynau Iaith
Arwyddo Prydain wythnosol gyda nawdd CBSC. Mae’r Ganolfan Arwyddo-Golwg-Xxxx (COSSS) hefyd wedi derbyn cyllid ar gyfer dehonglydd lefel 4 i ddarparu gwasanaeth eirioli/cyfieithu ar draws y gogledd, yn cynnwys yng Nghonwy. Rydym ni’n parhau i ddarparu hyfforddiant i staff ar nam ar y synhwyrau ac yn codi eu
hymwybyddiaeth o Safonau Cymru Gyfan ar gyfer Darparu Gwybodaeth Hygyrch i Bobl â Nam ar eu Synhwyrau a Chyfathrebu â Hwy a Chanllaw Cyfathrebu Hygyrch Conwy.
Mae prosiect hygyrchedd y wefan hefyd wedi cynnwys gwiriadau gan bobl sy’n defnyddio Iaith Arwyddo Prydain a phobl gyda nam ar y golwg.
6.4.10 Model Newydd Saesneg fel Iaith Ychwanegol
Mae’r model newydd ar gyfer gwasanaeth Saesneg fel Iaith Ychwanegol i ysgolion Conwy xxxxxxx wedi’i sefydlu llawn. Xxx xxx ysgolion Conwy:
• Athro Gwasanaeth Saesneg fel Iaith Ychwanegol penodol i weithio gydag Arweinydd Saesneg fel Iaith Ychwanegol eu hysgol
• Arweinydd Saesneg fel Iaith Ychwanegol ar gyfer eu hysgol – sef, yn aml iawn, Cydlynydd XXX xxx’r Pennaeth, Cydlynydd Disgyblion Mwy Galluog a Thalentog neu, mewn un ysgol, CALU. Anogir ysgolion i enwebu aeloda o’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth neu Gydlynydd ADY i weithio ar gynllun gweithredu ar gyfer yr ysgol
• Mynediad at Offeryn Adolygu Rheolaeth Ysgolion ar gyfer Saesneg fel Iaith Ychwanegol ar wefan Cynnal, a chymorth proffesiynol gan eu Hathro Gwasanaeth Saesneg fel Iaith Ychwanegol i archwilio eu darpariaeth Saesneg fel Iaith Ychwanegol a chreu cynllun gweithredu gyda’r camau nesaf
• Proses atgyfeirio ar gyfer cymorth uniongyrchol gan Athro Gwasanaeth Saesneg fel Iaith Ychwanegol i ddysgwyr Saesneg fel Iaith Ychwanegol, mewn 2 gam: Ffurflen atgyfeirio disgyblion newydd; ffurflen atgyfeirio ail floc o gymorth
• Cymorth (yn ôl y gofyn) ar gyfer cyfarfodydd gyda rhieni a gwarcheidwaid a chymorth gyda chyfathrebu o’r cartref i’r ysgol
• Mynediad at hyfforddiant ac adnoddau drwy’r Rhwydwaith Gwasanaeth Saesneg fel Iaith Ychwanegol ar Hwb
• Cymorth Gwasanaeth Saesneg fel Iaith ychwanegol i helpu i gynnal asesiad blynyddol yr ysgol o Saesneg fel Iaith Ychwanegol o Gam A (newydd i'r Saesneg) i Gam E (Rhugl).
6.4.11 Cynllun Adleoli Unigolion Diamddiffyn o Syria
Xxx xxx bedwar o’r teuluoedd a groesawyd gan Gonwy fel rhan o’r cynllun i adleoli unigolion diamddiffyn o Syria blant oedran ysgol sy’n mynd i ysgolion yng Nghonwy. Mae 5 plentyn mewn ysgolion cynradd a 3 plentyn mewn ysgolion uwchradd. Mae Gwasanaeth Saesneg fel Iaith Ychwanegol Conwy yn wasanaeth trawsawdurdod sy’n cydweithio â Sir Ddinbych. Defnyddiwyd cyllid addysg Cynllun Adleoli Unigolion Diamddiffyn o Syria, sydd ar gael ar gyfer y flwyddyn gyntaf, yn ofalus i dalu am ddau Gymhorthydd Addysgu
Dwyieithog a oedd yn siarad Arabeg a Saesneg, i gefnogi’r ysgolion, y plant a’r bobl ifanc gydag addysg. Daeth y swyddi i ben ar
31.08.21 (yn hytrach na 31.03.20).
6.5.2 Diweddaru’r Wefan i fod yn Hygyrch
Darparwyd prosiect yn llwyddiannus rhwng mis Mawrth 2020 a mis Medi 2021 i wella cynnwys ac ymatebolrwydd technegol y wefan.
Pwrpas hyn oedd sicrhau ein bod ni’n bodloni gofynion rheoleiddio ac yn cydymffurfio’n rhannol â safon WCAG 2.1 AA. Cynhaliwyd ymgynghoriad xxxx xxxx grwpiau gwahanol a ddiogelir a chyfle i ddefnyddwyr brofi’r system yn ystod y cam datblygu i ddarparu adborth ar y gwaith a wneir ar xxx cam. Bydd y gwaith yn parhau ar ôl y prosiect i wella hygyrchedd a chydymffurfio.
Camau gweithredu a chanlyniadau eraill o bwys xxx yr Amcan Cyfranogi:
• Gwell ymgysylltu a gweithio mewn partneriaeth â Chynghorau Tref a Chymuned
• Wedi ail-weithio ar ein Strategaeth Twf Economaidd i gefnogi adferiad yn y tymor byr, tymor canolig a’r tymor hir ar ôl Covid
• Ennill gwobr Tiwtor Cymraeg y Flwyddyn a dod yn drydydd yng nghategori Cyflogwr y Flwyddyn Gwobrau Cenedlaethol Iaith Gwaith
Gwaith wedi’i oedi yn sgil y Pandemig
6.3.2 Diweddaru’r Polisi Asesu'r ffaith ar Gydraddoldeb
6.3.4 Cyfarfod blynyddol â Gwasanaeth Cyfieithu a Chymorth i Bobl Fyddar Conwy a Grŵp Cefnogi’r Golwg i Bobl sy’n Colli eu Golwg i roi adborth ar y cynnydd ar yr Amcanion Cydraddoldeb
6.4.3 Adolygu darpariaeth y Big Word ar gyfer cyfleusterau dehongli a chyfieithu i ieithoedd ac eithrio’r Gymraeg a Saesneg (wedi’i gario drosodd i’r ail flwyddyn)
Amcan 7: Datblygu ein gwybodaeth a'n dealltwriaeth o'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol (pan fydd canllawiau ar gael) i nodi’r meysydd allweddol o effaith i’w trin o xxx xxx un o’n chwech o amcanion
7.1.1/3 Codi Ymwybyddiaeth o’r Ddyletswydd Economaidd- Gymdeithasol
Mae gweithdai ar y Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol newydd, a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2021, wedi’u datblygu yn dilyn oedi cyn ei gweithredu. Darparwyd gweithdai ym mis Mawrth/Ebrill i staff, rheolwyr ac aelodau, gyda sesiynau penodol i’r UDRh, y Cabinet, Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Pwyllgorau Craffu a darparwyd trosolwg i’r Fforwm Rheolwyr.
Datblygwyd offeryn Asesu’r Effaith ar Gydraddoldeb diwygiedig ar y cyd â’n partneriaid yn Rhwydwaith Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus Gogledd Cymru. Cyhoeddwyd yr offeryn newydd ym mis Mawrth i gynnwys gofynion y ddyletswydd ac i ystyried yr effaith gronnol ar benderfyniadau. Diweddarwyd y templed a ddefnyddir i lunio adroddiadau i gynnwys y ddyletswydd yma yn ychwanegol at Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus. Mae gweithdy newydd wedi’i ddatblygu ar gyfer Asesu’r Effaith ar Gydraddoldeb a dechreuodd yr hyfforddiant fis Mehefin 2021, sy’n cael ei gynnal xxx chwarter.
Camau gweithredu a chanlyniadau eraill o bwys xxx Amcan y Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol:
• Cronfa Galedi Gofal Cymdeithasol – Mae perchnogion gwasanaethau cartrefi gofal a gwasanaethau cartrefi gofal gyda nyrsio, wedi gallu gwneud cais am gymorth ariannol trwy Gronfa Gwydnwch Economaidd Llywodraeth Cymru. Mae’r cyllid yn eu cynorthwyo i gwrdd â chostau cynyddol gwagleoedd cymwys a chostau ychwanegol annisgwyl, sy’n cael eu hysgwyddo gan Wasanaethau Cymdeithasol Oedolion yn sgil Covid-19. Yn dilyn swm ychwanegol o £22.7 miliwn, mae awdurdodau lleol yn gweithio gyda darparwyr gofal cymdeithasol i oedolion i fanteisio ar y cyllid ychwanegol i gwrdd â chostau newydd a nodir. Mae Llywodraeth Cymru xxxxxxx wedi cytuno ar ail gylch cyllido ar gyfer y cyfnod rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2020, wedi’i ymestyn i fis Mawrth 2021 i barhau i ddarparu cefnogaeth tuag at y costau hyn.
• Lansiwyd grant cefnogi ar gyfer Covid-19 ym mis Mai 2020. Mae’r gronfa ar agor ar gyfer grwpiau cymunedol xxxx xxxxx cymorth ariannu i ddechrau gweithredu’n ddiogel yn ystod Covid-19 neu ar gyfer prosiectau a fydd yn cynorthwyo wrth wella lles yng nghymunedau gwledig Conwy. Cafodd y cynllun gyfanswm o £10,000 i gefnogi cymunedau gwledig Conwy.
Hyd yma mae 7 cais wedi’u cymeradwyo – mae enghreifftiau o gefnogaeth yn cynnwys:
o Cyngor Cymuned Betws yn Rhos – Silffoedd i drawsnewid blwch ffôn yn gyfleuster cyfnewid a rhannu llyfrau, jig-sos a gemau bwrdd
o Golygfa Gwydyr – 10 o sesiynau lles therapi
o Llyfrgell Gymunedol Penmaenmawr – Gasebo i gadw pobl yn sych wrth giwio, offer gorchuddio carpedi ar gyfer sicrhau hylendid ac iPad ar gyfer Profi ac Olrhain, gan sicrhau eu bod yn gallu ailagor i wasanaethu eu cymuned
o Cyngor Cymuned Ysbyty Ifan – Byrddau a Chyfarpar Diogelu Personol
o Cyngor Cymuned Xxxxx Xxxxxx – Cadeiriau ar gyfer y tu xxxxx i gymdeithasu gan gadw pellter cymdeithasol
o Clwb yr Efail – Cyfarpar er mwyn i’r clwb ailagor yn ddiogel
4. Gwybodaeth Cyflogaeth Benodol
4.1 Adroddiadau Monitro Cyflogaeth
Mae adroddiadau monitro cyflogaeth blynyddol Cyngor Conwy wedi’u cyhoeddi ar ein gwefan xxx blwyddyn. Mae’r Dyletswyddau Penodol, a nodir yn Rheoliadau Dyletswyddau Statudol (Cymru) 2011, yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau cyhoeddus adrodd yn flynyddol ar y meysydd canlynol ar gyfer pob un o’r nodweddion a ddiogelir:
• Gweithwyr sy’n gweithio i ni ar 31 Mawrth xxx blwyddyn
• Ymgeiswyr am swyddi dros y flwyddyn ddiwethaf
• Gweithwyr sydd wedi gwneud cais yn fewnol i newid swydd (olrhain ymgeiswyr llwyddiannus ac aflwyddiannus)
• Ymgeiswyr ar gyfer hyfforddiant a faint a lwyddodd
• Gweithwyr a gwblhaodd yr hyfforddiant
• Gweithwyr sy’n rhan o weithdrefnau cwyno fel achwynydd neu fel person y gwnaed cwyn yn ei erbyn
• Gweithwyr sy'n ddarostyngedig i weithdrefnau disgyblu
• Gweithwyr sy'n gadael a'u rhesymau dros adael
Defnyddir yr wybodaeth hon i adolygu effeithiolrwydd ein polisïau a’n harferion cyflogaeth ac i ystyried a fu unrhyw ddiffyg posibl o ran tegwch neu o ran gwahaniaethu. Eir ati i ymchwilio mewn rhagor o fanylder i ddata sy'n dangos y
gallai fod diffyg tegwch neu wahaniaethu ac os bydd angen, cymerir camau adferol i’w ddileu drwy adolygu'r polisi neu arferion perthnasol. Rydym yn adolygu ein xxxx bolisïau x xxxx i’w gilydd ac yn cynnal Asesiadau o Effaith ar Gydraddoldeb gan ddefnyddio’r data o’n Hadroddiad Monitro Cyflogaeth diweddaraf.
Rydym wedi cymryd camau i wella data sy’n cael ei gipio o ran monitro cydraddoldeb ein staff, wrth dderbyn fod yn rhaid i ni barchu'r ffaith nad yw’r xxxx weithwyr yn dymuno darparu’r wybodaeth bersonol neu sensitif hon. Rydym yn credu ei bod yn bwysig rhoi cyfle i weithwyr gael eu cyfrif os ydynt yn dymuno hynny. Mae’r ffurflen gais bapur (a ddefnyddir am resymau hygyrchedd yn unig yn awr) a’r ffurflen gais ar-lein yn darparu eglurhad o ran xxx y cesglir gwybodaeth monitro cydraddoldeb a sut y caiff ei defnyddio, gan ddarparu sicrwydd o ran y Ddeddf Diogelu Data a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) a chyfrinachedd.
Mae’n ofynnol bod ymgeiswyr yn llenwi ein ffurflen monitro cydraddoldeb fel rhan o e-recriwtio ac mae’r adran hon yn orfodol, ond rydym yn caniatáu i bobl nodi: “mae’n well gennyf beidio â dweud”. Rydym wedi ehangu’r defnydd o’n cyfleuster “hunanwasanaeth” sy’n caniatáu i staff addasu manylion personol am eu hunain ac rydym yn parhau i geisio canfod dulliau eraill o wella'r data cydraddoldeb sydd gennym ar gyfer ein staff.
Mae ein Hadroddiad Monitro Cyflogaeth diweddaraf ar gyfer 2020- 2021 ar gael ar ein gwefan xxx yr xxxxx Cydraddoldeb ac Amrywiaeth a gellid dod o hyd iddo yma.
Mae gennym y data canlynol ar gyfer staff yng Nghonwy:
Mae’r data a gasglwyd ym mhob categori wedi gwella yn ystod y cyfnod hwn er bod y cynnydd yn araf. Mae’r ffigyrau hyn yn dangos nifer y staff sydd wedi darparu gwybodaeth am xxx nodwedd a ddiogelir, nid nifer y bobl yn y grŵp hwnnw, a ddangosir yn yr Adroddiad Monitro Cyflogaeth. Mae gwaith yn parhau ar wella casglu data.
Mae ein hadroddiad diweddaraf ar gyfer 2020-2021 yn dangos ein bod ni’n cyflogi 4048 aelod o staff parhaol neu ar gontract cyfnod penodol (43 yn llai na’r llynedd). O’r xxxxx xxx 75% yn ferched a 25% yn ddynion; mae 54% wedi deud eu bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil; xxx xxx 2% anabledd; mae 1.31% yn lesbiad, hoyw neu’n ddeurywiol; mae 1.73% yn bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig.
Mae ein gweithlu staff achlysurol yn cynnwys 1846 aelod o staff (387 yn llai na’r llynedd); mae 78% yn ferched a 22% yn ddynion. Ni fydd pob aelod o staff wedi’u cynnwys yn y cyfrif hwn yn y gwaith drwy'r amser, gan eu bod fel arfer yn cael eu galw i weithio yn ôl yr angen. Mae’r niferoedd yma’n adlewyrchu’r gwir bobl a oedd gennym ar ein llyfrau ar 31 Mawrth 2021. Weithiau mae’r bobl rydym yn eu cyflogi yn gwneud mwy nag un swydd ac roedd gennym ni 4434 o swyddi parhaol/cyfnod penodol wedi’u llenwi gan 4048 o bobl, a 2520 o swyddi achlysurol wedi’u llenwi gan 1846 o bobl.
Rydym yn parhau i gyflogi mwy o staff rhan amser (51%) na staff llawn amser (49%). Mae 59% o’r staff parhaol llawn amser yn ferched a 89% o’r staff rhan-amser yn ferched mewn swyddi parhaol neu gontract cyfnod penodol. Gweithwyr benywaidd sy’n gwneud mwyafrif helaeth o swyddi achlysurol, sef 78%.
Roedd 2566 o geisiadau am y 572 o swyddi a hysbysebwyd yn 2020-2021, cyfartaledd o 4.49 o geisiadau fesul swydd, sydd ychydig yn is na’r llynedd pan oedd gennym gyfartaledd o 4.6 cais fesul swydd wag. Roedd 64% o'r xxxx ymgeiswyr yn ferched a 36% yn ddynion. Rydym wedi xxxx 3.98% (102) o ymgeiswyr anabl (yr un niferoedd â llynedd). Rydym wedi xxxx 1.95% o ymgeiswyr du a
lleiafrifoedd ethnig, sy’n cyfateb i 50 ac yn fwy na’r llynedd. Cafodd 34% o’r ymgeiswyr benywaidd eu rhoi ar y rhestr fer a 27% o’r ymgeiswyr anabl (3.28% o gyfanswm y bobl ar y rhestr fer). Cafodd 18% o’r ymgeiswyr du a lleiafrifoedd ethnig eu rhoi ar y rhestr fer (1.06% o gyfanswm y bobl ar y rhestr fer). Gwnaed 316 o benodiadau yn ystod y flwyddyn, 70% ohonynt yn ferched a 30% yn ddynion, 1.9% ohonynt yn anabl (o gymharu â 3.46% y llynedd a 1.58% yn y gweithlu) a 1.27% yn bobl ddu a lleiafrifoedd ethnig (o gymharu â 1.59% yn y gweithlu).
Roedd 62% o'r xxxx achosion Salwch, Cwyno/Bwlio ac achosion Disgyblu/Galluedd yn ymwneud â gweithwyr benywaidd, sydd yn is na'r proffil gweithlu o 75% yn ferched a 25% yn ddynion.
Roedd niferoedd uwch o achosion o Salwch, Cwyno / Bwlio a Disgyblu/Galluedd yn ymwneud â gweithwyr o fewn yr ystod oedran 45-54 (27.27%), a’r ystod oedran 55-64
(26.2%), sydd wedi bod yn debyg am y 3 blynedd ddiwethaf ac yn eithaf cymharol â phroffil y gweithlu ar gyfer yr ystodau oedran hyn o 43.91%.
Roedd 75% o’r achosion Cwyno / Bwlio yn ymwneud â dynion sy’n uchel o’i gymharu â phroffil y gweithlu o 25% o ddynion. Roedd 63.29% o achosion absenoldeb salwch yn cynnwys merched, sydd ychydig yn is na phroffil y gweithlu.
Roedd 33.33% o achosion Disgyblu / Galluedd yn ymwneud â dynion, sy’n uwch na phroffil y gweithlu o 25% o ddynion.
Roedd llai o unigolion yn gwirfoddoli i adael yn y cyfnod (267) sy’n 80% o’r xxxx xxx xxxx wedi gadael, ac o'r rhain roedd 60.84% yn ferched sy'n llai na phroffil y gweithlu. O'r rhai a adawodd yn anwirfoddol, roedd 55% ohonynt yn staff yr oedd eu contract dros dro wedi dod i ben, gadawodd 11.67% o’r gweithwyr oherwydd diswyddiadau gorfodol (sy’n 9.33% yn llai na’r llynedd) a chafodd 33% o’r gweithwyr eu diswyddo. O’r rheiny a gafodd eu diswyddo, cafodd 75% eu diswyddo ar sail iechyd gwael. Gadawodd 7 o weithwyr anabl y sefydliad yn ystod y cyfnod, 6 yn wirfoddol.
4.2 Cyflog Cyfartal a Gwahaniaethau Cyflog
Mae Xxxxx Xxxxxxxxxxxx 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i ferched a dynion gael eu talu ar delerau'r un mor ffafriol pan fônt
wedi’u cyflogi i wneud ‘gwaith tebyg’ neu ‘gwaith a ystyrir yn gyfwerth’ neu ‘waith x xxxxx cyfartal’. Cynhaliodd Cyngor Conwy broses gynhwysfawr yn gwerthuso swyddi a gwblhawyd yn ystod 2010/11 gyda'r amcan o sicrhau cyfartaledd cyflog yn unol â’r telerau sydd wedi’u diffinio uchod.
Cynhaliom Archwiliad Cyflog Cyfartal yn 2009 wrth Asesu’r Effaith ar Gydraddoldeb wrth Werthuso Swyddi. Roedd yr archwiliad hwn yn cynnwys dadansoddiad cynt ac wedyn o’r hen raddfeydd a’r graddfeydd newydd arfaethedig yn ôl rhyw.
Yn 2010 pan weithredwyd y system raddio bresennol, gwnaethpwyd penderfyniad ymwybodol fel rhan o'r ymarfer modelu cyflog i bwysoli'r gyllideb a oedd ar gael i swyddi ar y graddfeydd isaf wrth fynd ati i werthuso swyddi, er mwyn cydnabod y nifer uchel o staff mewn swyddi cyflog is, y mae’r mwyafrif ohonynt yn ferched.
Cafodd hyn ei groesawu gan yr xxxx Undebau ar y pryd.
Rydym wedi cofnodi data bylchau cyflog yn rheolaidd ers hynny a gellir gweld hyn yn y tabl isod, sy'n dangos y cynnydd ers hynny ar y bwlch cyflog gan ddefnyddio'r un cyfrifiad ar gyfer rhyw, anabledd, hil ac oedran.
Bwlch Cyflog | 2009 Cyn JE | 2009 Ar ôl JE | 31.3. 2011 | 31.3. 2015 | 31.3. 2017 | 31.3. 2018 | 31.3. 2019 | 31.3. 2020 | 31.3. 2021 |
Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau rhwng Graddau G01-G12 | +1.1- 0% | +0.8- +1.9% | -1.8- +0.4% | -1.8- +0.39% | -1.85- +1.2% | -1.9 - +1.08 | -1.74 - +1.33 | ||
Cyfanswm Bwlch cyflog rhwng y rhywiau Graddfeydd G01-G12 | +13.1% | +9.3% | +7.53 % | +7.15% | +5.47 % | +5.47 | +5.57 |
Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau ar gyfer yr xxxx Swyddi | +16.2% | +15.8% | +8.83% | +6.5% | +4.39 % | +3.56% | +2.8% | +3.72 | +3.99 |
Bwlch Cyflog Anabledd Graddau G01-G12 | -9.6 | -13.01 | |||||||
Bwlch Cyflog Anabledd ar gyfer yr xxxx swyddi | -10% | 0% | -9.78% | -0.9% | -0.38 | -2.07 | |||
Graddfeydd BME G01- G12 | -3.65 | -2.83 | |||||||
Bwlch Cyflog BME ar gyfer yr xxxx swyddi | +2.45% | +6.35 % | +5.10% | +8.07 % | +8.37 | +9.90 | |||
Bwlch Cyflog Oedran: O xxx 50 oed fel % o 50+ | - 1.37% | -2.47% | - 2.21% | - 1.12% % | -3.37 | ||||
Bwlch Cyflog Oedran 50+ fel % o xxx xxx 50 oed | +1.35 % | +2.41% | +2.16 % | +1.11 % | +3.26 |
[Sylwch: mae bwlch cyflog negyddol (-) yn dangos bod y bwlch cyflog yn ffafriol ar gyfer y grŵp hwnnw o’i gymharu â gweddill y grŵp, ac mae positif (+) yn dynodi bwlch cyflog negyddol]
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn argymell y dylid ystyried bylchau cyflog o 5% neu fwy fel rhai sylweddol.
O 1 Ebrill 2019 gweithredwyd strwythur cyflog diwygiedig yn dilyn setliad cyflog y Cydgyngor Cenedlaethol ar gyfer 2018 a 2019, sydd wedi gostwng yr amser i staff ar raddfeydd is i gyrraedd brig eu graddfeydd i adlewyrchu bod y gwaith yn llai cymhleth ac felly'n cymryd llai o amser i dderbyn y profiad perthnasol. Felly, ar gyfer ein
graddau isaf: Graddau G01, G02 a G03 dim ond 2 fand sydd gan olygu y bydd staff fel arfer yn symud i frig eu graddfa ar ôl 12 mis. Xxx xxx G04 3 band o fewn y raddfa sydd fel arfer yn cymryd 2 flynedd i gyrraedd brig y raddfa ac xxx xxx y bandiau cyflog Statws Sengl sy'n weddill 4 band o fewn graddfa, gan olygu y bydd staff yn cyrraedd y band uchaf ar ôl 3 blynedd. Mae symud o un band i’r un nesaf o fewn graddfa yn ddibynnol ar fod staff yn perfformio'n foddhaol ond yr hyn sy’n arferol yw bod pobl yn codi’n flynyddol (oni bai eu bod ar lwybr carlam oherwydd perfformiad eithriadol neu at ddibenion cadw rhywun mewn swydd gyda chytundeb ymlaen llaw gan y Pennaeth Gwasanaeth a Phennaeth Adnoddau Dynol Corfforaethol, ond hyd yn oed wedyn, byddant yn aros o fewn y Raddfa ar gyfer y swydd).
Nid oes gennym gynlluniau bonws yn eu lle ar gyfer y grŵp yma o staff gan eu bod wedi'u diddymu ar ôl gweithredu Amodau a Thelerau Statws Sengl yn 2010. Mae staff yn derbyn taliadau uwch os ydynt yn gweithio oriau anghymdeithasol ond mae’n cael ei gymhwyso'r un fath i'r xxxx staff yn y Cyngor ac yn cael xx xxxx'n awtomatig yn seiliedig ar ddata'r taflenni amser.
Mae gennym Bolisi Ychwanegiad y Farchnad i sicrhau os yw ein swyddi sydd wedi'u gwerthuso yn disgyn yn is na chyfradd y farchnad ar gyfer swyddi penodol, gallwn ychwanegu at y raddfa er mwyn iddo fod yn unol â chyfraddau’r farchnad. Mae unrhyw drefniant o’r fath yn cael ei gyfiawnhau’n wrthrychol drwy gyfeirio at dystiolaeth glir a thryloyw o gymariaethau perthnasol y farchnad gan ddefnyddio ffynonellau data o du mewn a thu xxxxx i Lywodraeth Leol. Mae'n bolisi gan y Cyngor bod unrhyw daliadau ychwanegol o'r fath yn cael eu cadw i’r lleiaf posib ac yn cael eu hadolygu’n rheolaidd er mwyn gallu eu tynnu'n ôl pan na ystyrir eu bod yn angenrheidiol mwyach. Nid oes unrhyw ychwanegiadau'r farchnad yn weithredol ar hyn x xxxx.
Nid ydym yn gweithredu cyflog sy’n gysylltiedig â pherfformiad neu gymhwysedd (heblaw’r hyn a ddisgrifiwyd uchod o fewn y raddfa). Disgwylir i weithwyr newydd ddechrau ar waelod y raddfa ar gyfer y swydd oni bai bod rheswm y gellir ei gyfiawnhau dros ddechrau ar bwynt uwch o fewn y raddfa. Yn yr amgylchiadau hynny, mae’n rhaid derbyn cymeradwyaeth gan Adnoddau Dynol Corfforaethol.
Mae trefniadau diogelu tâl eraill yn bodoli lle mae sefyllfa ddiswyddo yn bodoli ac yn unol â pholisi'r Cyngor, xxx xxx staff hawl i ddiogelwch tâl o 12 mis os yw eu cyflog yn lleihau o un raddfa neu lle bo'r swydd wedi newid o ganlyniad i fân ailstrwythuro sy'n
effeithio ar eu sgôr Gwerthusiad Swydd o un raddfa. Bydd unrhyw adleoli i swydd pan fo gostyngiad o fwy nag un raddfa yn arwain at weithredu’r cyflog ar gyfer y raddfa honno wrth ddechrau yn y swydd newydd.
Rydym yn talu lwfansau am fod wrth gefn ac ar alw pan fo angen i staff weithio y tu xxxxx i'w horiau arferol ac mae gwaith wedi’i gyflawni i safoni taliadau.
Mae Cyflog cyfartal yn ymwneud â thalu pobl am waith x xxxxx cyfartal. Trwy weithredu ein Cynllun Gwerthuso Swyddi, rydym yn hyderus y gallwn nodi nad oes gennym faterion yn
ymwneud â chyflog cyfartal yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Mae ein xxxx swyddi o xxx Statws Sengl yn cael eu sgorio gan ddefnyddio Cynllun Cyngor Taleithiol Llundain Fwyaf (GLPC) sy’n mesur swyddi yn unol â lefel goruchwyliaeth, gwybodaeth, creadigrwydd sy'n ofynnol, cymhlethdod cysylltiadau gydag eraill, yr adnoddau y maent yn gyfrifol amdanynt, lefel ac effaith y penderfyniadau maent yn eu gwneud a chyd-destun y gwaith. Yn yr un xxxx xxx ein swyddi Prif Swyddog yn cael eu sgorio o xxx XXX ac xxx cyflog Athrawon yn cael ei osod yn genedlaethol.
Rydym wedi cynhyrchu Adroddiad Archwilio Cyflog Cyfartal ar gyfer 2018-2021 sy’n dadansoddi’r data cyflogau ymhellach fesul nodwedd warchodedig.
Mae bwlch cyflog yn ymwneud â'r gwahaniaeth mewn cyflog rhwng grwpiau o bobl gyda grwpiau gwahanol a ddiogelir e.e. y gwahaniaeth rhwng yr hyn y mae dynion fel arfer yn ei ennill mewn sefydliad o gymharu â chyflog merched, waeth xxxx fo'u rôl neu lefel. Xxxxx xxx unrhyw fwlch cyflog yn fwy o adlewyrchiad o broffil ein gweithlu na gwobrau anghyfartal ar gyfer pobl gyda gwahanol nodweddion a ddiogelir yn gwneud yr un swydd.
Yng Nghonwy, rydym yn cyflogi cyfran sylweddol uwch o ferched na dynion (75%) ac mae mwy o’n staff yn rhan-amser (51%) nag yn llawn amser sy'n dangos ein bod yn cynnig hyblygrwydd mewn cyflogaeth ond mae hyn yn cael effaith ar y bwlch cyflog ac ni fyddem eisiau tynnu'r hyblygrwydd hwnnw gan fod nifer o'n staff yn gwerthfawrogi cydbwysedd bywyd - gwaith.
Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau
Os ydym ni’n ystyried Graddfeydd G01–G12, mae’r gwahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau rhwng y graddau yn eithaf cyson rhwng - 1.74% a +1.33. O fewn G01, G02, G04, G05, G08 a G09 mae cyflog ychydig o blaid merched, gan awgrymu nad oes bwlch cyflog sylweddol rhwng y rhywiau rhwng graddfeydd unigol G01-G12 ac mae'n debyg bod bwlch o 5.57% ar gyfer yr xxxx raddfeydd statws sengl G01-G12 yn deillio am fod nifer uchel o ferched yn cael eu cyflogi yn G01 (mae merched o fewn G01 yn cyfrif am 31.25% o’r xxxx staff a gyflogir xxx G01-G12). Nid yw hyn yn anghyffredin yn y sector cyhoeddus oherwydd natur llafur-ddwys y gwaith a wneir.
Gan ddefnyddio’r un cyfrifiad, mae bwlch cyflog cyffredinol rhwng y rhywiau o 3.99% wrth gynnwys yr xxxx staff sydd wedi’u cyflogi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Mae hyn yn dangos cynnydd bach o 0.27% ar ffigur y llynedd, ond mae dal yn is na 5% a bydd xxxxx xx fonitro os yw’r tuedd hwn yn parhau.
Ar 6 Ebrill 2017 daeth Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Gwybodaeth Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau) i rym, gan ei gwneud yn ofynnol i'r xxxx sefydliadau sy'n cyflogi 250 neu fwy o weithwyr i adrodd eu Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau, gan ddefnyddio cyfrifiad penodol, ar eu gwefan ac ar wefan ddynodedig y llywodraeth ar xxxxx://xxx.xxx.xx/xxxxxx-xxxxxx-xxx-xxx-xxxx. Yng Nghymru, mae sefydliadau’r sector cyhoeddus wedi’u heithrio o’r gofyniad hwn gan fod ganddynt Reoliadau Dyletswyddau Statudol (Cymru) 2011 sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt adrodd ar y bwlch cyflog, nid yn unig ar gyfer rhyw ond hefyd ar gyfer y grwpiau eraill a ddiogelir.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cyfrifo ei fwlch cyflog rhwng y rhywiau gan ddefnyddio’r cyfrifiad rhagnodedig yn Rheoliadau 2017 fel ar 31 Mawrth 2021 sy’n dangos ffigur ychydig yn wahanol i’r rhai uchod fel a ganlyn:
Cyfrifiad Cenedlaethol Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau ar 31 Mawrth 2021
Cyfradd fesul awr ar gyfer merched | Cyfradd fesul awr ar gyfer dynion | Gwahaniaeth yn y gyfradd fesul awr | Cymedr Bwlch Cyflog rhwng y rhywiau fel % | Canolrif Bwlch Cyflog rhwng y rhywiau fel % | |
Cymedr (cyfartalog) cyfradd rhyw fesul awr | 14.52 | 15.45 | 0.93 | -6.04 | |
Canolrif (Canol) cyfradd rhyw fesul awr | 10.59 | 12.19 | 1.60 | -13.14 |
(Gydag athrawon)
Chwart el Uchaf | Rhan Uchaf y Chwartel Canol | Rhan Isaf y Chwartel Canol | Chwartel Isaf | Cyfanswm | |
% o ddynion | 26.07% | 34.92% | 27.82% | 14.04% | |
Xxxxx y dynion | 312 | 418 | 333 | 168 | 1231 |
% y merched | 73.93% | 65.08% | 72.18% | 85.96% | |
Xxxxx y merched | 885 | 779 | 864 | 1029 | 3557 |
(gydag Athrawon)
Mae cymedr y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn defnyddio cyfrifiad cyfartalog gan ddefnyddio’r categorïau rhagnodedig o staff i'w cynnwys. Mae'r cyfrifiad canolrif yn rhoi'r xxxx staff mewn colofn o'r rhai â'r cyflog lleiaf i'r rhai â'r cyflog mwyaf ac yn cymryd y gyfradd fesul awr canol ar gyfer dynion a merched ac yn cymharu'r gwahaniaeth. Er ein bod wedi dilyn y cyfrifiad a nodwyd mewn deddfwriaeth, mae ACAS hefyd wedi cyhoeddi canllawiau o ran xxxx i'w gynnwys a'i eithrio o'r cyfrifiad sydd ychydig yn wahanol sy’n golygu nad yw sefydliadau'n cymhwyso cyfrifiad cyson i wneud cymariaethau teg.
Rydym wedi nodi camau gweithredu pellach yn ein cynllun gweithredu Cynllun Cydraddoldeb Strategol i archwilio’r materion o ran gwahaniaethu swyddi a rhyw, ac rydym yn credu mai dyma un
o'r prif resymau xxx bod bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn parhau i fodoli.
Bwlch Cyflog Oedran
Rydym wedi rhannu’r data oedran yn ddau gategori, y rheiny sydd o xxx 50 a’r rheiny sy’n 50 a throsodd. Yng ngraddfeydd G01-G12, mae’r bwlch cyflog yn y xxxx xxx 50 fel canran o’r rhai dros 50 yn amrywio o -1.13% i +3.29% sy’n ddibwys ac yn yr un xxxx xxx’r bwlch yn y rhai dros 50 fel canran o'r rhai o xxx 50 yn amrywio o - 3.41% i +1.12%. Mae'r swyddi ar lefel Pennaeth Gwasanaeth yn dangos bwlch cyflog o blaid y rhai sydd xxx 50 o 5.18% ac mae Penaethiaid, Dirprwy Benaethiaid a staff Addysgu ar amodau Soulbury yn dangos bwlch cyflog o blaid pobl xxx 50 oed rhwng
6.67 a 12.60%. Mae’r bwlch cyflog cyffredinol yn dangos bod gweithwyr xxx 50 yn cael eu ffafrio o drwch blewyn o -3.37%, tra bo 59.45% o gyfanswm y gweithlu o xxx 50 oed.
Bwlch Cyflog Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig (BME)
Mae data hanesyddol yn dangos amrywiant yn y bwlch cyflog ar gyfer staff BME yn amrywio o 2.45% i 9.90% yn 2021. Mae’r ffigur wedi cynyddu’n raddol ers 2011 ac yn uwch na’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer yr xxxx staff o 3.99%. Mae'n bosibl yr effeithir ar y ffigurau (a) gan mai dim ond ar gyfer 54% o'r gweithlu y mae gennym ddata ar hil; (b) mae elfen o wahanu galwedigaethol gan fod 75% o'n staff BME yn cael eu cyflogi yn y Graddau G01-G05 (o'i gymharu â chyfanswm y gweithlu o 67% yn yr un rhychwant gradd); ac (c) bod y niferoedd yn fach iawn ac xxxxx xxx'n anodd dod i unrhyw gasgliad ystadegol o'r data. Fodd bynnag, bydd angen ystyried hyn ymhellach pan fyddwn yn cynnal yr Archwiliad Cyflog Cyfartal nesaf.
Bwlch Cyflog Anabledd
Mae data hanesyddol yn dangos amrywiant yn y bwlch cyflog ar gyfer pobl anabl yn amrywio o -10% i 0%, gan ddangos, os yw'n dangos unrhyw xxxx, bod y bwlch cyflog ar gyfer pobl anabl yn ffafriol i bobl anabl. Fodd bynnag, effeithir ar ddibynadwyedd y data hwn gan y ffaith mai dim ond ar gyfer 49.32% o'n gweithlu yr ydym yn cadw data anabledd ac xxxxx xxx'n anodd dod i unrhyw gasgliad ystadegol o'r data.
Nid oes gennym ddata bwlch cyflog ar gyfer gweddill y grwpiau a ddiogelir gan fod y set ddata’n fach iawn ac felly’n llai ystyrlon.
Byddwn yn parhau i weithio ar wella ein casgliad data lle bo bylchau i wella ein data adrodd.
5. Casgliad
Mae’r cyfnod adrodd hwn wedi bod yn gyfnod heb ei debyg o’r blaen ar gyfer y Llywodraeth Leol o ran sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu darparu – sy’n bwysicach nag erioed i bobl Conwy. Mae Archwilio Cymru wedi archwilio dull ymateb yr Awdurdod i Covid-19, gan ddarparu adborth cadarnhaol. Er gwaethaf y pandemig a rhoi rhai camau gweithredu i un ochr, rydym ni wedi cyflawni ein hamcanion corfforaethol yn ogystal â rhagori ar sawl un, gan sicrhau'r safonau achredu uchaf ar draws amrywiaeth o wasanaethau.
Ar gyfer blwyddyn gyntaf Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020- 2024 nodwyd 182 o gamau gweithredu, rhai ohonynt yn gamau untro ac eraill yn gamau hirdymor i’w cymryd dros gyfnod hirach o amser. Mae 129 (71%) o’r camau gweithredu wedi’u cwblhau’n llwyddiannus a/neu’n rhai parhaus, gyda 30 arall (17%) wedi’u dechrau ond heb eu gorffen a 22 (12%) heb eu dechrau, yn bennaf oherwydd pwysau eraill yn y gweithlu o ganlyniad i’r pandemig.
Bydd y camau hyn yn cael eu dwyn ymlaen i ail neu drydedd flwyddyn y cynllun fel y bo’n briodol. Mae’r cynllun gweithredu pedair blynedd ar gyfer Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2021 wedi nodi cyfanswm o 253 cam gweithredu penodol i helpu i gyflawni ein Hamcanion Cydraddoldeb. Dros gyfnod y cynllun, xxx xxxxx gweithredu eraill yn debygol o gael eu nodi wrth i faterion sy’n effeithio ar wahanol nodweddion a ddiogelir ddod i’r amlwg yng Nghonwy drwy waith ymgynghori ac ymgysylltu ac, fel y gwelwyd yn ystod y pandemig, drwy adroddiadau y cyfeirir atynt yn Adran 2, a fydd yn cynnwys camau gweithredu cydraddoldeb eraill fel y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol a Chynllun Gweithredu LHDTC+ sy’n cael eu datblygu gan Lywodraeth Cymru.
Fel sefydliad mawr a chymhleth, rydym ni hefyd yn debygol o nodi camau pellach o ganlyniad i gynlluniau a strategaethau eraill a ddatblygir yn ystod cyfnod y cynllun hwn, yn cynnwys ein Cynllun Corfforaethol sy’n cael ei ddatblygu ar hyn x xxxx yn xxxxx i’w gyhoeddi y flwyddyn nesaf ar gyfer 2022-2027, a bydd y rhain hefyd yn cynnwys eu prosesau adrodd eu hunain. Mae’r adroddiad hwn yn rhoi blas i chi o’r gwaith rydym ni wedi’i wneud ond nid yw’n rhestr gyflawn x xxxx ffordd o’r gwaith rhagorol a wnawn xxx dydd i gefnogi ein dinasyddion.
Rydym ni’n parhau i ymrwymo i welliant parhaus o ran cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac rydym ni wedi sylweddoli, yn ystod y pandemig, yr effaith wahaniaethol y xxx xxxx penderfyniadau yn gallu eu cael ar grwpiau lleiafrifol. Byddwn yn gwneud ein gorau glas i wella tegwch, cynwysoldeb, tryloywder, mynediad ac uniondeb i bawb o ran darpariaeth gwasanaethau a chyflogaeth, gan sicrhau ein bod ni’n rheoli ein cyllidebau a’n hadnoddau yn effeithlon mewn amgylchedd sy’n gyson heriol a chyfnewidiol.