Cyfarwyddwr Astudiaethau: Academi'r Chweched Dosbarth
Gan ei fod yn gyflogwr cyfle cyfartal, mae Grŵp Colegau NPTC yn annog ceisiadau o xxx xxxx o’r gymuned am swydd:
Cyfarwyddwr Astudiaethau: Academi'r Chweched Dosbarth
I ddarparu arweinyddiaeth a rheolaeth strategol ar gyfer Academi'r Chweched Dosbarth, gan sicrhau ei bod yn cyflawni darpariaeth a chyflawniad rhagorol ar gyfer pob myfyriwr. Bod yn rheolwr llinell ar dîm rheoli Academi'r Chweched Dosbarth, staff yr Academi, Pennaeth yr Ysgol ar gyfer Dysgu Sylfaen, Oedolion a'r Gymuned, a dirprwyo ar ran y Penaethiaid Cynorthwyol yn ôl y gofyn.
Cyfradd cyflog: Graddfa Rheoli, pwynt 11, £54,132 y flwyddyn.
Oriau Gwaith: 37 awr yr wythnos (gan gynnwys gyda'r hwyr ac yn gynnar yn y bore ac ar benwythnosau yn achlysurol).
Contract: Amser
llawn, parhaol.
Lleoliad: Grŵp Colegau NPTC (yng Ngholeg Xxxxxxx-xxxx yn y lle cyntaf).
Cymwysterau: Dylai fod gan yr ymgeisydd delfrydol gymhwyster a/neu brofiad xx xxxx rheoli yn ogystal â chymhwyster lefel 6 perthnasol (e.e. xxxxx xxx gymhwyster cyfatebol). Mae profiad o gynllunio a rheoli materion cwricwlaidd o fewn Ysgol Academaidd, rheoli staff a phrofiad o fewn amgylchedd AB yn hanfodol.
Dyddiad Cau: 12 canol dydd, dydd Gwener 17 Ebrill, 2020.
Am ragor o fanylion neu os hoffech ymgeisio ar-lein, ewch i xxx.xxxxxxxxx.xx.xx
Fel arall, cysylltwch â xx@xxxxxxxxx.xx.xx gan ddyfynnu'r cyfeirnod: 170420/DOS/SFA/CWD.
Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad Datgeliad Manwl boddhaol.
Cysylltir ag ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer yn unig
Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg ac ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Dim asiantaethau os gwelwch yn dda