Teitl: Swyddog Monitro Contractau – Tîm Contractau a Chomisiynu Lleoliad: Llys Einion, Abertyleri, Gwent & Gweithio Ystwyth Cyfarwyddiaeth: Gwasanaethau Cymdeithasol
Teitl: Swyddog Monitro Contractau – Xxx Contractau a Chomisiynu Lleoliad: Llys Einion, Abertyleri, Gwent & Gweithio Ystwyth Cyfarwyddiaeth: Gwasanaethau Cymdeithasol
Cyfeirnod: BG11709
Cyflog: Gradd 7 (£32,909 - £36,298 pro rata/y flwyddyn)
Statws Contract: Llawn amser (37awr), cyfnod penodol (31/03/2025) neu secondiad
Dyddiad: D/G
Math Swydd: Allanol
Mae cyfle prin a gwerth chweil wedi codi o fewn y Xxx Contractau a Chomisiynu ar gyfer unigolyn proffesiynol, brwdfrydig a hyderus. Fel Swyddog Monitro Contract byddwch yn medru gweithio’n effeithlon fel rhan o dîm prysur ac ar xxxx pen xxxx hun, yn defnyddio xxxx cymhelliant. Bydd angen i chi ddatblygu ac adeiladu ar berthynas waith dda gyda chydweithwyr, uwch swyddogion a gweithwyr proffesiynol eraill o fewn yr Awdurdod Lleol a’r Bwrdd Iechyd, ynghyd â darparwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol annibynnol a thrydydd sector. Byddwch yn gyfrifol am fonitro perfformiad a chydymffurfiaeth darparwyr gwasanaeth gyda safonau cyfredol a chontractau’r Awdurdod Lleol fel y cânt eu nodi mewn deddfwriaeth i sicrhau y comisiynir y gwasanaethau o’r ansawdd gorau posibl ar gyfer dinasyddion Blaenau Gwent. Mae’r gallu i fod yn hyblyg a chyfathrebu’n effeithlon yn hanfodol gan y disgwylir i chi gynnal ymweliadau a gyhoeddir ymlaen llaw a hefyd ddirybudd i ddarparwyr gwasanaeth ac ymgysylltu gyda gweithlu’r darparydd ac unigolion sy’n derbyn y gwasanaeth. Bydd angen i chi fod â gwybodaeth gadarn o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu (Cymru) 2016 a Gweithdrefnau Diogelu Cymru (2019) er mwyn herio arfer gwael a pherfformiad yn gadarn ac mewn modd priodol.