Adroddiad Gwella Blynyddol
Adroddiad Gwella Blynyddol
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyhoeddwyd: Mai 2013 Cyfeirnod y ddogfen: 196A2013
Archwilydd Cyffredinol Cymru
Mae’r Archwilydd Cyffredinol yn annibynnol ar y llywodraeth a chaiff ei benodi gan Ei Mawrhydi y Frenhines. Mae’n arwain Swyddfa Archwilio Cymru ac mae’n atebol i Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru am waith Swyddfa Archwilio Cymru.
Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol Llywodraeth Cymru, y cyrff a noddir ganddi a’i chyrff cyhoeddus cysylltiedig, Comisiwn y Cynulliad a chyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru. Mae hefyd yn penodi archwilwyr allanol cyrff llywodraeth leol yng Nghymru,
gan gynnwys awdurdodau unedol, yr heddlu, gwasanaethau prawf, awdurdodau tân ac achub, parciau cenedlaethol a chynghorau cymuned. Mae archwilwyr penodedig yr Archwilydd Cyffredinol yn gyfrifol am gynnal archwiliadau blynyddol o bron i £5.5 biliwn a drosglwyddir gan Lywodraeth Cymru i lywodraeth leol ar ffurf grantiau cyffredinol a phenodol. Yn ei thro, mae llywodraeth leol yn codi £2.1 biliwn pellach drwy’r dreth gyngor ac ardrethi busnes.
Yn ogystal â chyflawni archwiliadau ariannol, mae’r Archwilydd Cyffredinol yn gyfrifol am archwilio sut mae cyrff cyhoeddus yn rheoli ac yn gwario arian cyhoeddus, gan gynnwys sicrhau gwerth am arian wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Nod Swyddfa Archwilio Cymru yw gwneud i arian cyhoeddus gyfrif, drwy hybu gwelliannau, fel y gall pobl Cymru xxxx xxxx o wasanaethau cyhoeddus atebol a reolir yn dda sy’n cynnig y gwerth gorau posibl am arian.
Mae hefyd yn ymrwymedig i nodi a lledaenu arfer da ym mhob rhan o’r sector cyhoeddus yng Nghymru.
Paratowyd yr Adroddiad Gwella Blynyddol hwn ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru gan Xxxxx Xxxxx, Xxxxx Xxxxxxx a KPMG, o xxx gyfarwyddyd Xxxx Xxxxxxxx.
Cynnwys
Adroddiad cryno 4
Adroddiad manwl
Cyflwyniad 6
Mae’r Cyngor yn parhau i wella ei drefniadau i sicrhau gwelliant, gan ddatblygu
dull mwy trylwyr a chytbwys o werthuso ei berfformiad ac adrodd arno 7
Yn ystod 2011-12, gwnaeth y Cyngor gynnydd da wrth gyflawni ei
amcanion gwella 7
Mae’r Cyngor yn gwella’r ffordd mae’n gwerthuso perfformiad ac yn
alinio gwaith gwella gwasanaethau â chynllunio ariannol 17
Mae trefniadau’r Cyngor i gynorthwyo â gwelliant yn gadarn, er ei fod yn
wynebu cyfnod o newid ymysg ei uwch reolwyr 19
Atodiadau
Atodiad 1
Statws yr adroddiad hwn 20
Atodiad 2
Gwybodaeth ddefnyddiol am Ben-y-bont ar Ogwr a Chyngor Bwrdeistref
Sirol Pen-y-bont ar Ogwr 21
Atodiad 3
Llythyr Archwilio Blynyddol yr Archwilydd Penodedig 23
Atodiad 4
Amcanion gwella Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr 25
Adroddiad cryno
1 Xxx blwyddyn, rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol gyflwyno adroddiad yn nodi pa mor dda y mae cynghorau, awdurdodau tân ac achub, a pharciau cenedlaethol Cymru yn cynllunio ar gyfer gwella ac yn darparu eu gwasanaethau. Gan ddefnyddio gwaith arolygiaethau perthnasol yng Nghymru, ynghyd â gwaith a gynhelir ar ei ran gan Swyddfa Archwilio Cymru, mae’r adroddiad
hwn yn rhoi darlun o welliant dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r adroddiad yn cwmpasu’r ffordd y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-
y-bont ar Ogwr (y Cyngor) yn darparu ac yn gwerthuso gwasanaethau, a’r ffordd y mae’n cynllunio gwelliant.
2 Yn gyffredinol daeth yr Archwilydd Cyffredinol i’r casgliad canlynol: mae’r Cyngor yn parhau i wella ei drefniadau i sicrhau gwelliant, gan datblygu dull mwy trylwyr a chytbwys o werthuso ei berfformiad ac adrodd arno.
3 Canfuom fod y Cyngor, yn ystod 2011-12, wedi gwneud cynnydd da wrth gyflawni ei amcanion gwella:
• Parhaodd y Cyngor i adeiladu cymunedau diogel a chynhwysol, a chydnabod ei fod nawr angen cynnwys rhaglenni i wella ffyrdd.
• Gwellodd y Cyngor y cymorth i bobl anabl yn eu cartrefi a phobl sy’n gwneud cais am fudd-dal tai; mae hefyd wedi cymryd camau i xxxx digartrefedd, yn enwedig ymysg pobl ifanc.
• Gwellodd y Cyngor strwythur, a’r ffordd y cyflenwir, ei wasanaethau i ddiogelu a chynorthwyo oedolion agored i niwed, gan gydweithredu’n dda gyda phartneriaid allweddol; ond mae’r
gwasanaeth yn wynebu cyfnod heriol gyda newidiadau ymysg yr uwch reolwyr a galw cynyddol am ei wasanaethau.
• Gwellodd ansawdd gwasanaethau plant mewn nifer o feysydd, trwy gyflwyno mentrau cydweithredol newydd; ond xxx xxxxx o hyd mynd i’r afael â rhai
gwendidau gweithredol yn y gwasanaeth.
• Er bod gan y gwasanaethau addysg rai prosesau effeithiol ar waith, gan gynnwys rhai ar gyfer rheoli ariannol a rheoli prosiectau, roedd safon cyrhaeddiad addysgol ar lefel gynradd a lefel uwchradd islaw cyfartaledd Cymru.
• Hyrwyddodd y Cyngor yn effeithiol fentrau gweithgarwch corfforol i wella iechyd ei ddinasyddion ac mae’n gwneud cynnydd arwyddocaol wrth ad-drefnu ei wasanaethau hamdden.
• Mae’r Cyngor wedi cynorthwyo’n effeithiol nifer o fusnesau a chymunedau i wella’r economi leol a’r amgylchedd ffisegol,
ond o hyd yn wynebu heriau sylweddol i sicrhau adfywio ar raddfa fwy.
• Mae’r Cyngor yn parhau i wella ansawdd a hygyrchedd ei amgylchedd naturiol, ac mae wedi gwneud rhywfaint o gynnydd wrth warchod a gwella ei asedau hanesyddol a threftadaethol.
• Mae’r Cyngor yn parhau i wella ei drefniadau llywodraethu corfforaethol, yn arbennig mewn perthynas â chynllunio’r gweithlu, cynllunio ariannol a gofal cwsmeriaid. Fodd bynnag, canfuom
rai gwendidau yn ei brosesau rheoli gwybodaeth.
4 Canfuom hefyd fod y Cyngor yn gwella’r ffordd mae’n gwerthuso perfformiad ac yn alinio gwaith gwella gwasanaethau â chynllunio ariannol:
• trwy fireinio xx xxxxxx adolygu busnes gorfforaethol xxxx xxxxxxx yn canolbwyntio ar fonitro cynnydd ei amcanion gwella; a
• thrwy wella ansawdd ei brosesau hunanasesu.
5 Yn olaf, mae’r adroddiad yn nodi ein barn ynghylch pa mor dda y mae’r Cyngor yn cynllunio ar gyfer gwelliannau ac yn gwneud trefniadau i’w cefnogi. Daethom i’r casgliad bod trefniadau’r Cyngor i gynorthwyo â gwelliant yn gadarn, er ei fod yn wynebu cyfnod o newid ymysg ei uwch reolwyr.
Yn arbennig, canfuom fod:
• y Cyngor yn debygol o gydymffurfio â’r gofyniad i wneud trefniadau i sicrhau gwelliant parhaus yn ystod 2013-14, fodd bynnag mae’n wynebu cyfnod o newid o fewn strwythur ei uwch-reolaeth.
Adroddiad manwl
Cyflwyniad
6 O xxx Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (y Mesur), mae’n rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol gyflwyno adroddiad xxx blwyddyn ar ba mor dda y mae cynghorau, awdurdodau tân ac achub a pharciau cenedlaethol Cymru yn cynllunio ar gyfer gwella ac yn darparu eu gwasanaethau. (Mae Atodiad 1 yn rhoi rhagor o wybodaeth am bwerau a dyletswyddau’r Archwilydd Cyffredinol o xxx y Mesur). Gyda chymorth arolygiaethau yng Nghymru, sef Estyn
(ar gyfer addysg) ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru
(AGGCC), rydym wedi llunio darlun o’r hyn y mae pob cyngor yng Nghymru yn ceisio ei gyflawni a sut mae’n gwneud hynny. Mae’r adroddiad hwn hefyd yn nodi’r cynnydd y
mae’r Cyngor wedi’i wneud ers i’r Archwilydd Cyffredinol gyhoeddi ei adroddiad gwella blynyddol diwethaf, gan ddefnyddio hunanasesiad y Cyngor ei hun.
7 Nid ydym yn cynnal adolygiad blynyddol cynhwysfawr x xxxx drefniadau xx xxxx wasanaethau’r Cyngor. Mae’r casgliadau yn yr adroddiad hwn yn seiliedig ar
ein gwybodaeth gronnol a chyffredin a chanfyddiadau’r gwaith wedi’i flaenoriaethu a gyflawnwyd eleni.
8 Gall yr Archwilydd Cyffredinol:
• argymell y dylai Gweinidogion Llywodraeth Cymru ymyrryd mewn rhyw ffordd;
• cynnal arolygiad arbennig a chyhoeddi’r adroddiad gan wneud argymhellion manwl;
• gwneud argymhellion ffurfiol ar gyfer gwella – os caiff argymhelliad ffurfiol ei wneud mae’n rhaid i’r Cyngor ymateb yn gyhoeddus i’r argymhelliad hwnnw o fewn 30 diwrnod; a
• gwneud cynigion ar gyfer gwella – os byddwn yn gwneud cynigion i’r Cyngor, byddem yn disgwyl iddo weithredu arnynt a byddwn yn gwneud gwaith dilynol ar yr hyn sy’n digwydd.
9 Rydym am wybod a yw’r adroddiad hwn
yn rhoi’r wybodaeth sydd xx xxxxxx arnoch ac a yw’n hawdd ei ddeall. Gallwch fynegi xxxx barn drwy anfon e-xxxx atom yn xxxx@xxx.xxx.xx neu ysgrifennu atom yn 24, Heol y Gadeirlan, Caerdydd CF11 9LJ.
Mae’r Cyngor yn parhau i wella ei drefniadau i sicrhau gwelliant, gan ddatblygu dull mwy trylwyr a chytbwys o werthuso ei berfformiad ac adrodd arno
Yn ystod 2011-12, gwnaeth y Cyngor gynnydd da wrth gyflawni ei amcanion gwella
10 Cyflawnodd y Cyngor ei gyfrifoldebau statudol trwy gyhoeddi Adroddiad Blynyddol ar ei berfformiad ar gyfer 2011-12, erbyn mis Hydref 2012. Roedd adroddiad y Cyngor yn cynnwys gwybodaeth am y cynnydd roedd wedi’i wneud i gyflawni ei naw amcan gwella. Gan weithredu o fewn cyfyngiadau ariannol, dywedodd y Cyngor ei fod yn parhau i ganolbwyntio ar gefnogi ei wasanaethau rheng flaen. Daeth i’r casgliad ei fod wedi ‘cyflawni gwelliannau mewn llawer o feysydd’ gan ddweud y gallai mwy na thri chwarter o’i wasanaethau ddangos
tystiolaeth o berfformiad gwell; gwnaethpwyd cymariaethau hefyd gyda chanlyniadau perfformiad rhanbarthol a chenedlaethol.
Yn ein Llythyr Asesiad Gwella dyddiedig 14 Rhagfyr 2012, cadarnhasom fod yn yr Adroddiad Blynyddol ddigon o dystiolaeth i ddangos fod y Cyngor wedi gwella
ei wasanaethau neu wedi sicrhau bod trefniadau ar waith i sicrhau gwelliant parhaus. Gellid bod wedi gwella’r Adroddiad Blynyddol trwy ddangos yn gliriach pa wahaniaeth oedd wedi cael ei wneud o ganlyniad i weithgareddau’r Cyngor. Mae’r Cyngor wedi cydnabod hyn ac mae’n parhau i ddatblygu ei drefniadau adrodd gyda’r
nod o wneud effaith ei weithredoedd a’r canlyniadau’n gliriach.
11 Gwnaeth y Cyngor amryw o newidiadau er mwyn cyflawni ei amcanion gwella, megis trefnu i gyrff allanol ddarparu ei wasanaethau hamdden a, thrwy waith
caffael gwell, gwella ansawdd ei wasanaeth gwastraff ac ailgylchu ac ar yr un pryd lleihau’r costau. Mae hefyd yn chwilio
am gyfleoedd i rannu’r gwaith o gyflenwi gwasanaethau gyda chynghorau cyfagos a’r sefydliadau sy’n bartneriaid iddo yn y bwrdd gwasanaethau lleol. Er enghraifft, gyda’r gwasanaeth iechyd lleol, mae cydweithio’n datblygu ar lefel leol trwy gyd-dimau ardal.
Parhaodd y Cyngor i adeiladu cymunedau diogel a chynhwysol, a chydnabod ei fod nawr angen rhaglenni gwaith i wella ffyrdd
12 Mae amcan y Cyngor i adeiladu cymunedau diogel a chynhwysfawr yn cwmpasu
ystod fawr o weithgareddau i warchod a diogelu’r preswylwyr, gan gynnwys materion amrywiol megis: hylendid bwyd; cynorthwyo troseddwyr ifanc i beidio ag aildroseddu; sicrhau diogelwch ar y ffyrdd trwy wella’r seilwaith priffyrdd; a chynnig cyfleusterau i sicrhau y gall pobl gyfathrebu yn eu dewis iaith.
13 Mae mentrau partneriaethau ac ymgysylltu wedi cael eu defnyddio gan y Cyngor er mwyn gwella diogelwch cymunedol. Mae enghreifftiau yn cynnwys cydweithio gyda Heddlu De Cymru i gynyddu nifer y mesurau trefn gyhoeddus ac annog preswylwyr i rannu gwybodaeth a chydweithio.
14 O ganlyniad i’w archwiliadau ar safleoedd bwyd, daeth y Cyngor i’r casgliad fod
77 y cant yn ‘cydymffurfio’n fras’ â rheoliadau glendid bwyd ac yn cymryd rhan yn y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd, a gyflwynwyd yn 2011 gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Mae hyn yn well na’r 72 y cant y flwyddyn gynt. Fodd bynnag, mae’r Cyngor yn cydnabod bod xxxxx xxxx
barhau i wella perfformiad er mwyn cyrraedd targed o 82.98 y cant o leiaf, sef cyfartaledd presennol Cymru.
15 Mae Biwro Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr, a lansiwyd yn 2011, yn annog pobl ifanc sydd wedi troseddu i ymrwymo i ‘gontractau’ a chyflawni nifer o weithgareddau sydd â’r nod o sicrhau mai un digwyddiad yn unig yw eu trosedd ac na fyddant yn aildroseddu.
Nododd y Cyngor fod 93 y cant o’r bobl ifanc sy’n mynychu’r biwro heb aildroseddu.
16 Mae’r Cyngor yn cydnabod bod cyflwr ei brif ffyrdd yn dirywio. Fodd bynnag, mae’n hyderus y bydd y rhaglenni gwaith cyfredol
a hirdymor yn gwella safonau. Mae’r Cyngor wedi cael ei sicrhau gan adroddiadau oddi wrth Heddlu De Cymru am ostyngiadau o flwyddyn i flwyddyn yn nifer y bobl sy’n cael eu lladd a’u hanafu ar y ffyrdd. Mae’r Cyngor hefyd yn nodi y gall ardal Pen-y-bont honni mai ganddi hi mae’r gostyngiad canrannol mwyaf yn nifer y bobl sy’n cael eu lladd
a’u hanafu ar y ffyrdd a gyflawnwyd gan awdurdodau unedol yn ardal De Cymru ers gosod y ffigurau llinell sylfaen yn 1998.
17 Mae cyfraddau ailgylchu’r Cyngor nawr yn 54 y cant, sydd yn well na oddeutu 46 y cant y flwyddyn flaenorol. Mae’r perfformiad yn rhagori ar darged Llywodraeth Cymru
ar gyfer 2012-13, sef 52 y cant; Pen-y-bont a Ogwr xxxxxxx xx’r cyngor â’r perfformiad gorau ond pump yng Nghymru am ailgylchu, gwelliant o’r seithfed safle y flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag, mae’r Cyngor
yn cydnabod bod yn rhaid iddo gynnal ei ymdrechion i annog a galluogi preswylwyr i ailgylchu er mwyn cyrraedd targed cenedlaethol heriol Cymru, sef 70 y cant erbyn 2024-25.
00 Xxxxxx Xxxxxxx Iaith Gymraeg newydd y Cyngor ei gymeradwyo ym mis Mawrth 2012. Cafodd ei adolygu gan Gomisiynydd y Gymraeg, a ddaeth i’r casgliad bod y Cyngor yn ymestyn yn effeithiol y defnydd a’r ddarpariaeth o’r Gymraeg wrth gyfathrebu a chyflenwi gwasanaethau.
Gwellodd y Cyngor y cymorth i bobl anabl yn eu cartrefi a phobl sy’n gwneud cais am fudd-dal tai; mae hefyd wedi cymryd camau i xxxx digartrefedd, yn enwedig ymysg pobl ifanc
19 Nododd y Cyngor fod cynnydd da wrth gyflenwi datrysiadau tai i’r rheiny â’r angen mwyaf. Mae’n parhau i wella ansawdd
ac ystod y cymorth mae’n ei roi, megis darparu cyngor ar dai a chyfryngu teuluol i xxxx pobl iau rhwng 16 a 21 oed rhag mynd yn ddigartref. Mae hefyd yn cynyddu’r cyflenwad o xxxx priodol i’r bobl ifanc hynny sydd wedi eu hystyried yn ddigartref eisoes.
20 Mae’r Cyngor yn cydnabod bod angen i ddarpariaeth tai, yn enwedig ymysg
teuluoedd ac unigolion bregus, barhau i fod yn flaenoriaeth yng ngoleuni’r diwygiadau lles presennol. Cytunodd ar bolisi Dyrannu Cyffredin gyda landlordiaid cymdeithasol lleol, i sefydlu safonau a gweithdrefnau er mwyn sicrhau bod tai cymdeithasol ar rent yn cael eu dyrannu’n deg. Helpodd y Cyngor fwy o bobl a oedd yn wynebu digartrefedd yn 2011-12. O’r cyfanswm, derbyniodd
43.2 y cant gymorth, o gymharu â 34 y cant yn 2010-11. Fodd bynnag, mae hyn yn dal i fod cryn dipyn islaw cyfartaledd Cymru, sef
60.5 y cant.
21 Gostyngodd y Cyngor yn sylweddol y cyfnod mae pobl yn aros i gyfleusterau i bobl anabl gael eu gosod, o 414 o ddiwrnodau yn 2010- 11 i 251 o ddiwrnodau yn 2011-12, sy’n golygu mai ef yw’r Cyngor â’r perfformiad gorau ond pump yng Nghymru, gan ragori
ar y cyfartaledd yng Nghymru, sef 326 o ddiwrnodau.
22 Mae xxxx xxxx-dal tai’n cynorthwyo’r rheiny sy’n gofyn am gymorth i gadw neu ddod o hyd i xxxx fforddiadwy. Canfu ein hadolygiad bod y Cyngor yn dal i weld cynnydd yn nifer yr hawliadau am fudd-dal tai, er bod cyfradd y cynnydd wedi gostwng eleni. Gwellodd yr amser mae’n ei gymryd i brosesu hawliadau newydd o 21 diwrnod yn 2010-11 i 19 diwrnod yn 2011-12; mae hyn ychydig yn well na chyfartaledd Cymru, sef 20 diwrnod.
Fodd bynnag, cymerodd y Cyngor yn hirach i brosesu hawliadau presennol pobl y mae eu hamgylchiadau wedi newid, o
saith diwrnod yn 2010-11 i wyth diwrnod yn 2011-12. Mae hyn ychydig yn hirach na
chyfartaledd Cymru, sef saith diwrnod. Mae’r Cyngor wedi dweud bod y cynnydd hwn oherwydd ei fod wedi gorfod ymdrin â nifer fach o achosion cymhleth ac oherwydd
ad-drefnu’r staff yn 2011.
23 Rydym wedi ystyried y perfformiad hwn a nifer o fesurau eraill sy’n helpu i roi darlun llawn o ba mor dda mae’r Cyngor yn prosesu ceisiadau am fudd-dal tai. Rydym wedi dod i’r casgliad bod y Cyngor yn effeithiol at ei gilydd wrth brosesu’r ceisiadau, ond bod
xxx xxx meysydd lle gall wella o hyd. Mae’n hargymhellion gwreiddiol a oedd yn ein hadroddiad yn cynnwys: cynyddu nifer yr hawliadau newydd y penderfynir arnynt cyn pen 14 diwrnod wedi i’r Cyngor dderbyn yr xxxx wybodaeth angenrheidiol fel canran ar draws yr xxxx hawliadau newydd, y mae’r penderfyniad o fewn y chwarter; lleihau nifer yr hawliadau nad oes penderfyniad arnynt am fwy na 50 o ddiwrnodau; a lleihau’r amser a gymerir i ymdrin â cheisiadau y xxx xxxxx eu hailystyried neu eu diwygio. Wedi cymryd i ystyriaeth y cynnydd parhaus yn nifer yr hawliadau am fudd-dal tai, sydd wedi codi ers i ni gynnal ein hadolygiad, a’r cyfyngiadau ariannol mae’n eu hwynebu, mae’r Cyngor wedi gosod targed o 19 diwrnod ar gyfer prosesu hawliadau newydd. Byddwn yn parhau i asesu effaith perfformiad y Cyngor yn y xxxx hwn.
Gwellodd y Cyngor strwythur, a’r ffordd y cyflenwir, ei wasanaethau i ddiogelu a chynorthwyo oedolion agored i niwed,
gan gydweithredu’n dda gyda phartneriaid allweddol; ond mae’r gwasanaeth yn wynebu cyfnod heriol gyda newidiadau ymysg yr uwch reolwyr a galw cynyddol am ei wasanaethau.
24 Cyhoeddodd yr AGGCC ei Adolygiad Blynyddol a Gwerthusiad o Berfformiad ar gyfer 2011-2012 ar gyfer Cyfarwyddiaeth Gofal Cymdeithasol y Cyngor ym mis Hydref 2012.
25 Nododd AGGCC: ‘Mae momentwm wedi’i gynnal o ran moderneiddio gwasanaethau i oedolion. Hyd yn hyn, mae’r cyngor
wedi elwa o arweinyddiaeth glir ac mae ymrwymiad ei staff i’r weledigaeth ac i integreiddio wedi darparu cyfleoedd am strwythurau newydd a swyddi ar y cyd â (gwasanaethau) iechyd. Ceir trefniadau comisiynu a chontractio cryf, ac mae dulliau cadarn ar waith i ddiogelu oedolion’.
26 Nododd AGGCC hefyd drefniadau cydweithredol da gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg: ‘Mae cydweithfa ranbarthol Bae’r Gorllewin hefyd yn parhau i ddatblygu; gallai hyn fod o fudd yn y dyfodol’. Rhoddodd Adroddiad Blynyddol y Cyngor ei hun hefyd enghreifftiau o fwy o integreiddio
a chydweithredu rhwng gwasanaethau a phartneriaid. Er mwyn darparu gwell gwasanaeth cyffredinol i bobl ifanc
xxxx xxxxx byw â chymorth, cafodd y gwasanaeth ôl-ofal ac ieuenctid ‘Just @sk’1 ei ymestyn i ffurfio ‘Just @sk Plus’ i ddarparu ystod fwy o wasanaethau i bobl ifanc 16-25 oed sy’n agored i niwed, gan gynnwys addysg, cyflogaeth a hawliau lles. Hefyd, cafodd xxx Iechyd Cyhoeddus ar y cyd, gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r bwrdd iechyd, ei ffurfio i roi ar
waith rhaglenni ymyrraeth iechyd targededig i wella cyfleodd pobl y bernir eu bod ‘mewn perygl’ o broblemau iechyd hirdymor.
27 Cyflwynodd y Cyngor yr Adroddiad Blynyddol hefyd nifer o welliannau oedd yn deillio o ad-drefnu gofal i oedolion. Mae’r rhain, megis cynyddu nifer y gosodiadau ‘Teleofal’ o 504 yn 2010-11 i 1,089 yn
2011-12, a chynyddu’r cyflenwad tai gofal ychwanegol, yn dangos ymrwymiad i alluogi pobl i aros yn annibynnol a chael gofal yn eu cymunedau.
28 Nododd AGGCC yr arferion da canlynol xx xxxx gofal i oedolion:
• ‘Xx xxxx gwasanaethau i oedolion, caiff gwasanaethau gofal a gontractir eu monitro’n gadarn mewn ffordd sy’n hybu gwelliannau. Mae’r cyngor wedi sefydlu dull seiliedig ar risg ac mae wrthi’n datblygu cynllun asesu ansawdd. Caiff oedolion agored i niwed eu hamddiffyn gan ddulliau diogelu a phroses monitro contractau sy’n gadarn ac wedi’u rheoli’n dda.
1 Mae prosiectau a mentrau ‘Just @sk’ Pen-y-bont ar Ogwr mewn lle er mwyn hysbysu pobl ifanc ym Mhen-y-bont ar Ogwr am yr ystod o wasanaethau, gweithgareddau ac adnoddau sydd ar gael iddyn nhw, o gyngor ar dai i sut i gael mynediad at hyfforddiant a gwaith. Mae’r gwasanaeth yma wedi ei leoli yn siop wybodaeth ‘Just @sk’.
• Caiff pobl gefnogaeth dda gan waith partneriaeth da ag iechyd drwy gyfrwng gwasanaeth ail-alluogi ac ymateb cynnar y cyngor. Mae pobl sydd wedi ei ddefnyddio’n dweud ei fod yn ‘rhagorol’.
• Caiff pobl eu cefnogi yn y gymuned drwy ddefnyddio mwy o ‘deleofal’ dychmygus. Erbyn hyn, xxx xxx y gwasanaeth dros 1,000 o ddefnyddwyr; ategir y gwasanaeth gan dîm ymateb symudol i gynorthwyo defnyddwyr sydd wedi cael codwm. Mae hyn wedi gwella canlyniadau i ddefnyddwyr gwasanaeth drwy alluogi asesiadau cynnar a sicrhau
bod cymorth priodol ar gael, ac mae wedi arwain at ostyngiad mewn galwadau xxxx a derbyniadau i’r ysbyty.
• Mae canolfan adnoddau newydd i bobl ag anghenion cymhleth wedi galluogi ymyriadau therapiwtig mwy effeithiol
a phriodol, ac mae datblygu cyfleoedd gofal dydd lleol wedi gwella mynediad a chymorth yn y gymuned.’
29 Fodd bynnag, mynegodd AGGCC bryder bod y Cyngor ‘yn mynd drwy gyfnod o newid tra sylweddol. Gadawodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Les a’r Prif Weithredwr blaenorol yr awdurdod ym mis Mawrth a
mis Gorffennaf 2012 yn ôl eu trefn. Ers i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol adael, mae swyddogaeth statudol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol wedi’i
chyflawni gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros wasanaethau Plant. Mae elfennau eraill, megis cyfrifoldeb am ofal cymdeithasol i oedolion, wedi’u cyflawni drwy gyfrwng
secondiad dros dro. Bydd yn bwysig sicrhau sefydlogrwydd yn y grŵp arweinyddiaeth yn y dyfodol i sicrhau xxxxxx y gwelliannau y mae’r cyngor wedi’u cyflawni, yn arbennig o ystyried maint y galw a’r heriau, yn enwedig xx xxxx gwasanaethau i blant.’
Gwellodd ansawdd gwasanaethau plant mewn nifer o feysydd, trwy gyflwyno mentrau cydweithredol newydd; ond xxx xxxxx o hyd mynd i’r afael â rhai gwendidau gweithredol yn y gwasanaeth
30 Cytunodd Adroddiad Blynyddol y Cyngor ac Adolygiad Blynyddol a Gwerthusiad o Berfformiad ar gyfer 2011-2012 AGGCC fod cynnydd wedi cael ei wneud i wella gwasanaethau plant, ond bod yna o hyd feysydd lle xxx xxxxx gwella.
31 Dangosodd Adroddiad Blynyddol y Cyngor dystiolaeth o gyflwyno mentrau newydd i wella ansawdd gwasanaethau i blant a phobl ifanc, megis datblygu dull ‘xxx o gwmpas
y teulu’ mwy integredig i gynorthwyo teuluoedd agored i niwed.
32 Dywedodd y Cyngor ei fod, o ganlyniad wedi helpu nifer sylweddol fwy o deuluoedd nag yn y flwyddyn flaenorol: o bedwar yn 2010-11 i 71 yn 2011-12. Er mwyn parhau â’r lefel cymorth hon, lansiodd y Cyngor ei strategaeth a chynllun gweithredu Families Together yn 2012, a esboniodd sut y bydd y Cyngor a’i bartneriaid yn ‘hyrwyddo agenda Teuluoedd yn Gyntaf Llywodraeth Cymru’.
33 Gwnaeth AGGCC adolygiad o blant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal a chyhoeddodd adroddiad ym mis Gorffennaf 2012. Canfu AGGCC fod y gwasanaethau wedi gwella a daeth i’r casgliad bod y Cyngor ‘yn parhau
i wneud gwella gwasanaethau plant yn flaenoriaeth’. Nododd ymrwymiad cadarn y rheolwyr a’r staff, ansawdd da cyffredinol y gwasanaeth a ddarparwyd i ddefnyddwyr gwasanaethau, a gwelliant yng nghanran y plant sy’n derbyn gofal oedd yn cael
eu gweld a’u cynorthwyo’n gyflymach. Fodd bynnag, nodwyd yn yr adroddiad rai meysydd allweddol oedd yn peri pryder,
megis anghysondeb yn ansawdd y gwaith a wnaed gan staff, yr angen am hyfforddiant mwy rheolaidd i weithwyr cymdeithasol,
a’r cyfathrebu gwael gyda defnyddwyr gwasanaethau. Canfu hefyd fod heriau o hyd wrth i ragor o godiadau yn nifer y plant sy’n derbyn gofal arwain at bwysau cynyddol ar leoliadau, staff a chyllidebau.
Er bod gan y gwasanaethau addysg rai prosesau effeithiol ar waith, gan gynnwys rhai ar gyfer rheoli ariannol a rheoli prosiectau, roedd safon cyrhaeddiad addysgol ar lefel gynradd a lefel uwchradd islaw cyfartaledd Cymru
34 Yn ystod yr wythnos a ddechreuodd 15 Hydref 2012, gwnaeth Estyn arolygiad ar wasanaethau addysg y Cyngor i blant a phobl ifanc. Yn yr adroddiad dilynol,
a gyhoeddwyd ar 13 Chwefror 2013, dywedwyd bod perfformiad presennol y gwasanaethau addysg yn ‘ddigonol’. Daeth yr adroddiad i’r casgliad bod yna rywfaint o welliant wedi bod yng nghyfnod allweddol 4, ond fod perfformiad yng nghyfnodau allweddol 2 a 3 islaw cyfartaledd Cymru.
35 Mae presenoldeb mewn llawer o’r ysgolion cynradd a’r ysgolion uwchradd islaw’r cyfartaledd o hyd. Fodd bynnag, roedd niferoedd y gwaharddiadau cyfnod penodol a pharhaol wedi cael eu lleihau, ac felly’r nifer gyfartalog o ddyddiau a gollir fesul gwaharddiad yw’r isaf yng Nghymru
erbyn hyn. Mae’r gwasanaeth anghenion dysgu ychwanegol wedi darparu lefel dda o hyfforddiant, arweiniad, gwybodaeth
a chymorth i ysgolion, trwy weithio partneriaethol da gydag ystod xxxx o asiantaethau. Fodd bynnag, roedd canran y disgyblion sy’n gadael addysg amser llawn heb gyflogaeth neu hyfforddiant dros saith y cant ac wedi aros yn sylweddol uwch na chyfartaledd Cymru dros nifer o flynyddoedd.
36 Mynegodd adroddiad Estyn bryderon hefyd ynghylch rhagolygon gwella’r gwasanaeth addysg, a farnwyd yn ‘ddigonol’. Nododd yr adroddiad nad yw’r gwasanaeth addysg yn gallu mesur neu arfarnu’n gyson a yw
ei weithredoedd i helpu dysgwyr i gyflawni a gwella yn cael yr effaith a ddymunir. At
hynny, nid oedd adroddiadau’r gwasanaeth i gynghorwyr yn cynnwys digon o wybodaeth ffeithiol ac arfarniad i ddangos pa effaith mae ei weithredoedd yn ei chael; a xxxx ddylid ei wneud i wella safonau gwasanaeth.
37 Fodd bynnag, nododd yr adroddiad y cynnydd mae’r gwasanaeth addysg yn ei wneud o ran datblygu prosiectau a
gwasanaethau ar y cyd gyda phartneriaid yn y gwasanaethau iechyd, gwasanaethau cynhwysiant a chymorth ymddygiad, a’r trydydd sector. Mae hefyd yn cydnabod bod y gwasanaeth yn rheoli arian ac asedau’n dda a’i fod yn llwyddo i gyflawni prosiectau moderneiddio ysgolion.
Hyrwyddodd y Cyngor yn effeithiol fentrau gweithgarwch corfforol i wella iechyd ei ddinasyddion ac mae’n gwneud cynnydd arwyddocaol wrth ad-drefnu ei wasanaethau hamdden
38 Bu’r Cyngor yn llwyddiannus wrth gyflwyno mentrau i hybu ffyrdd mwy egnïol o fyw, megis Xxxxxx’r Ddraig. Mae’r cynllun hwn, sydd wedi’i anelu at blant 7-11 oed, wedi rhagori ar ei dargedau, gan sicrhau 9,319
o gofrestriadau yn erbyn targed o 7,900 yn ei flwyddyn gyntaf yn 2011-12, a cafodd
ei gydnabod fel ‘arfer xx’ xxx sefydliad Chwaraeon Cymru. Denodd rhaglen debyg i blant dros 11 oed 4,787 o gofrestriadau a
llwyddodd i gynyddu amlder ac amrywiaeth y gweithgareddau.
39 I oedolion a theuluoedd, mae prosiect Dewch i Gerdded Cymru yn hybu ymarfer xxxxx yn y gymuned. Denodd y prosiect nifer sylweddol fwy o bobl i gymryd rhan ynddo yn 2011-12, gan godi o 350 yn y flwyddyn flaenorol i 948, gan gynnwys 129 o deuluoedd.
40 Nododd y Cyngor hefyd chwech y cant yn fwy o ymweliadau â chyfleusterau chwaraeon a hamdden yr ardal ar gyfer
gweithgareddau corfforol (o 8,974 ym mhob 1,000 o’r boblogaeth i 9,520 ym mhob 1,000 o’r boblogaeth). Roedd y ffigur hwn hefyd wyth y cant yn uwch na chyfartaledd Cymru.
41 Yn ddiweddar mae’r Cyngor wedi
ad-drefnu ei wasanaethau hamdden, gan roi’r cyfrifoldeb am redeg a chynnal a chadw ei gyfleusterau hamdden i sefydliad allanol am y 15 mlynedd nesaf. Dywedodd ein hadolygiad diweddar o wasanaethau
hamdden fod y trefniadau ad-drefnu’n datblygu’n dda. Xxxx hynny, roedd angen nifer o gamau gweithredol mewnol o hyd er mwyn cryfhau’r trefniadau rhwng y Cyngor a’r sefydliad, gan gynnwys sefydlu proses drylwyr i fonitro pa mor dda mae’r gwasanaethau newydd yn perfformio a sicrhau bod y staff yn dal i gael cefnogaeth a hyfforddiant llawn. Trwy ymgynghori ac adborth rheolaidd, mae’r gwasanaethau’n monitro ansawdd gofal cwsmeriaid yn ystod y cyfnod trosglwyddo. Yn ogystal,
o ganlyniad i’r ad-drefnu, mae’r Cyngor yn nodi ei fod eisoes yn sicrhau arbedion
xxxxxxxx (wedi cyllidebu’n £150,000 yn 2012- 13 a £125,000 arall yn 2013-14).
Mae’r Cyngor wedi cynorthwyo’n effeithiol nifer o fusnesau a chymunedau i wella’r economi leol a’r amgylchedd ffisegol,
ond o hyd yn wynebu heriau sylweddol i sicrhau adfywio ar raddfa fwy
42 Parhaodd y Cyngor i gefnogi xxxxxx xxxx, ond wynebodd heriau sylweddol wrth iddo geisio adfywio ei drefi a’i gymunedau. Er enghraifft, cafodd prosiect mawr i ailfodelu ardal Harbwr Porthcawl ei xxxx am y tro oherwydd bod darpar ddatblygwr wedi tynnu xxxxx. Fodd bynnag, mae’r Cyngor wedi cwblhau’r Marina newydd ac wedi penderfynu benthyg arian er mwyn sicrhau fod seilwaith angenrheidiol y priffordd yn cael ei adeiladu yn ogystal, er mwyn ysgogi adfywiad y dref ymhellach. Gwnaeth y Cyngor hefyd rhywfaint o gynnydd wrth weithredu ei Uwchgynllun ar gyfer Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr, ac xxx xxxx
wedi cwblhau’r cynlluniau i wella’r dref yn Cheapside a Heol Merthyr Mawr.
43 Mae’r Cyngor yn dal i fanteisio ar gyllid Rhaglen Gydgyfeirio’r Undeb Ewropeaidd, gan ddefnyddio £1.2 miliwn o’r Gronfa Fuddsoddi Lleol ac £1.8 miliwn o’r grantiau Mentrau Cymunedol i gefnogi busnesau bach a chanolig a mentrau cymdeithasol lleol. Hyd yma mae £589,100 wedi cael ei ddyrannu i gefnogi 46 o gwmnïau a saith unigolyn, gan helpu i greu 82 o swyddi newydd. Mae’r Cyngor hefyd yn amcangyfrif bod y cymorth ariannol hwn wedi xxxx buddsoddiad ychwanegol o’r sector preifat gwerth £810,220.
44 Ynghyd â phartneriaid o’r sectorau cyhoeddus a phreifat a’r trydydd sector yng nghynlluniau adfywio Cymoedd y Gorllewin a Chwm Ogwr, cwblhaodd y Cyngor bedwar prosiect strategol i wella cymunedau lleol, megis darparu cymorth economaidd er mwyn mynd i’r afael ag amddifadedd a chyflawni gwelliannau ffisegol i wella eu hamgylchedd.
Mae’r Cyngor yn parhau i wella ansawdd a hygyrchedd ei amgylchedd naturiol, ac mae wedi gwneud rhywfaint o gynnydd wrth warchod a gwella ei asedau hanesyddol a threftadaethol
45 Mae’r Cyngor wedi manteisio ar nifer o grantiau, yn bennaf oddi wrth y Cyngor Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru, gan ei alluogi i gyflawni nifer o fentrau i wella mynediad at yr amgylchedd naturiol, ac i wella ei ansawdd, yn yr ardal.
46 Er enghraifft, creodd y rhaglen wella Hawliau Tramwy 6.6 cilometr o lwybrau newydd
a gwellodd 24.6 cilometr o lwybrau oedd yn bodoli eisoes, gan gynnwys gosod
arwyddion a chyfeirbyst. Mae’r Cyngor hefyd wedi annog defnyddio’r llwybrau trwy waith hyrwyddo a digwyddiadau megis yr ŵyl gerdded flynyddol, y cymerodd 102 y cant yn fwy o bobl ran nag yn y flwyddyn flaenorol.
Mae’r Cyngor hefyd yn parhau i ymestyn ei rwydwaith o lwybrau beicio.
47 Mae’r Cyngor wedi bod yn effeithiol wrth gymryd cyfres o gamau i wella ei
effeithlonrwydd ynni. Un enghraifft o hyn yw prosiect i leihau’r amser mae goleuadau stryd ynghynn; dywed y Cyngor ei fod, hyd yma, wedi helpu i leihau allyriadau carbon
deuocsid dros 4,000 o dunelli ac wedi arbed bron 90,000 kWh o ynni. Diwedd mis Mawrth 2013 yw dyddiad terfyn cwblhau’r prosiect, ond eisoes mae wedi llwyddo i arbed oddeutu £27,000.
48 Dechreuodd y Cyngor raglen o werthusiadau statudol ar gyfer 15 ardal gadwraeth a phedwar safle posibl, er mwyn manteisio ar yr arian sydd ar gael ar gyfer y math hwn o waith.
Mae’r Cyngor yn parhau i wella ei drefniadau llywodraethu corfforaethol, yn arbennig mewn perthynas â chynllunio’r gweithlu, cynllunio ariannol a gofal cwsmeriaid. Fodd bynnag, canfuom
rai gwendidau yn ei brosesau rheoli gwybodaeth
49 Dywedodd y Cyngor yn ei Adroddiad Blynyddol ei fod wedi cwblhau ei gynllun ar gyfer y gweithlu, sy’n ymdrin â chyfnod o dair blynedd ac a ddylai helpu i wella’r ffordd y rheolir adnoddau staff. Mae hefyd yn parhau i adolygu pa mor effeithlon mae ei wasanaethau’n cael eu cyflenwi, gan geisio cyflymu eu cyflenwi, lleihau costau cymaint ag sy’n bosibl, gwella ansawdd ac
asesu pa fuddion a ddarperir i ddefnyddwyr gwasanaethau.
50 Cafodd ei Strategaeth Ariannol Tymor Canolig ei gymeradwyo gan y Cyngor ym mis Chwefror 2012. Xxxxxx y ddogfen pa heriau mae’r Cyngor yn eu hwynebu, megis ymdopi â diffyg o £2 miliwn yn y gyllideb yn 2014-15, a chynigion ar gyfer gweithgareddau. Mae’r rhain yn cynnwys egluro costau sylfaenol; adnabod pa weithgareddau craidd a oedd yn gwthio costau; ac edrych ar y posibilrwydd o gynhyrchu incwm. Ystyriodd y Cyngor y
byddai’r wybodaeth yma yn ei alluogi i nodi sut y gallai gwasanaethau gael eu darparu yn well, ac yn y ffordd fwyaf economaidd, megis mwy o gydweithio. Mae’r Cyngor yn bwriadu dadansoddi’r wybodaeth yn ystod cyfnod 2012-13, ynghyd â datblygiadau pellach i’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.
51 Mae datganiad llywodraethu blynyddol cyngor yn darlunio ac yn gwerthuso ei drefniadau llywodraethu, gan gynnwys polisïau, monitro perfformiad a gallu herio ei hun. Canfu ein hadolygiad o brosesau’r Cyngor ei fod, at ei gilydd, yn effeithiol wrth wirio ac adolygu’r rhan fwyaf o’i drefniadau llywodraethu ac o weithredu i sicrhau gwelliannau. Fodd bynnag, gellid
gwella’r prosesau drwy sefydlu llywodraethu cadarn ar drefniadau partneriaethol,
a hunanasesiadau cysylltiedig â gwasanaethau. Nodasom hefyd, oherwydd newidiadau yn y weinyddiaeth wleidyddol a’r strwythur uwch reolaeth, y bu oedi i’r broses wirio yn 2012-13.
52 Gwnaethpwyd adolygiad gennym hefyd o systemau rheoli gwybodaeth y Cyngor a chanfu bod y trefniadau ar gyfer llywodraethu ei asedau gwybodaeth yn
gadarn, at ei gilydd. Perfformiodd y Cyngor dda mewn rhai meysydd rheoli gwybodaeth, megis datblygu’r dull newydd o ymadfer ar ôl trychineb a goruchwylio’r prosiect rheoli dogfennau electronig.
53 Fodd bynnag, daeth yr adolygiad i’r casgliad hefyd nad oedd gan y Cyngor ddull strategol ffurfiol a fframwaith parhaol i reoli ei wybodaeth a’i gofnodion. Roedd yn dibynnu ar allu a chyfraniad ychydig o swyddogion allweddol, sy’n ei adael yn agored i niwed pe bai’r swyddogion yn gadael yr awdurdod. At hynny, roedd gwendidau nodedig yn ei brosesau diogelu gwybodaeth a oedd yn creu risgiau, megis defnyddio pyrth USB heb eu rheoli, dim digon o hyfforddiant i’r staff ar reoli gwybodaeth, a diffyg eglurder ynghylch pwy sydd â’r cyfrifoldeb cyffredinol
dros ddiogelwch gwybodaeth. Derbyniodd y Cyngor ein canfyddiadau ac mae wedi bod yn cymryd camau i fynd i’r afael â’r pwyntiau a wnaed, gyda phwyslais ar byrth USB
heb eu rheoli a datrysiadau meddalwedd; mae disgwyl iddyn nhw fod mewn lle erbyn Gorffennaf 2013.
Mae’r Cyngor yn gwella’r ffordd mae’n gwerthuso perfformiad ac yn alinio gwaith gwella gwasanaethau â chynllunio ariannol
54 Yn 2012, adfywiodd y Cyngor ei drefniadau adolygu busnes corfforaethol er mwyn goruchwylio a gwerthuso’n well ei gynnydd wrth gyflawni ei naw amcan gwella. Y
prif newid oedd symud o ganolbwyntio ar berfformiad pob un o’i gyfarwyddiaethau,
i adolygu fesul amcan gwella. Mae hyn wedi sicrhau ystyriaeth fwy cydgysylltiedig
o themâu a materion cyffredin.
55 Mae’r grŵp Asesu Perfformiad Corfforaethol yn cyfarfod xxx chwarter ac yn galw ynghyd yr xxxx wasanaethau sy’n cyfrannu at gyflawni’r amcanion gwella. Maent
yn darparu gwybodaeth ar gynnydd, a diweddariadau ar wariant cyllidebau dros y chwarter blaenorol. Mae’r broses hon yn helpu i wneud adolygu perfformiad yn
swyddogaeth fwy arferol a rheolaidd ledled y Cyngor, sy’n cynnwys rheolwyr ac aelodau yn y gwaith o asesu a rheoli perfformiad ac adnoddau.
56 Un enghraifft o’r ffordd mae hyn wedi dod â buddion oedd sylweddoli bod nifer o adrannau’n ceisio cynyddu nifer y prentisiaethau i bobl ifanc. Trwy ddod â’r mater hwn ynghyd yn y grŵp Asesu
Perfformiad Corfforaethol, mae ffocws gwell ar draws y gorfforaeth yn cael ei ddatblygu er mwyn gwella cynlluniau prentisiaeth.
57 Mae’r newidiadau i’r broses monitro gorfforaethol yn cael eu cefnogi ar lefel weithredol gan uno’r xxx monitro perfformiad gyda’r gwasanaethau cyllid. Y bwriad yw y dylai’r xxx newydd ei uno fod mewn sefyllfa well i gadw cofnod o faint sy’n cael ei wario neu ei arbed. Gallu amcangyfrif yr adnoddau sydd eu xxxxxx xx sy’n cael eu defnyddio
i gyflawni’r amcanion gwella a thargedau
eraill o ran cyflenwi gwasanaethau. Mae’r Cyngor hefyd wedi dechrau diwygio’i gylch cynllunio busnes a chyllid gwasanaethau, er mwyn alinio cyllidebau ac adnoddau gyda chynllunio gwasanaethau. Dylai hyn ei alluogi i alinio’n fwy effeithiol cyflawni ei flaenoriaethau allweddol a’i amcanion ar gyfer y dyfodol gan wasanaethau. Bydd
y trefniant newydd yn cefnogi’n well ei Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a phroses ei gyllideb flynyddol ar gyfer 2013-14.
58 Adroddwyd gennym ym mis Hydref 2012 fod gallu’r Cyngor i hunanasesu ansawdd ei wasanaethau a gwerthuso pa mor dda
maent yn perfformio wedi gwella o’r flwyddyn flaenorol. Yn ei Adroddiad Blynyddol, darparodd y Cyngor farn fwy cytbwys ar ei berfformiad, gan hyrwyddo ei lwyddiannau ond hefyd cydnabod pa wasanaethau a meysydd xxx xxxxx iddo eu gwella. Mae hefyd yn dechrau datblygu dull sydd wedi’i seilio’n fwy ar ganlyniadau er mwyn gwella ei allu i adnabod pa ganlyniadau sydd wedi cael eu cyflawni mewn gwirionedd trwy ei weithgareddau, i gyflwyno yn y pen draw modd o fesur a yw gwasanaethau’n cael yr effaith gadarnhaol a fwriedir.
59 Er mwyn hunanasesu effeithiolrwydd ei bwyllgorau craffu a throsolwg ei hun, mae’r Cyngor yn cymryd rhan weithgar mewn prosiect arsylwi gan gymheiriaid yn rhanbarth De Cymru. Mae aelodau’r pwyllgor craffu yn arsylwi ar aelodau
awdurdodau cyfagos, ac mae’r rheiny’n arsylwi arnynt hwythau yn eu tro, er mwyn rhannu syniadau ar sut i wella ansawdd ac effaith gwaith craffu.
60 Adolygodd AGGCC2 yr adroddiadau penaethiaid gwasanaethau ar gyfer gwasanaethau oedolion a gwasanaethau plant a gyflwynwyd ym mis Gorffennaf 2012. Canfu’r arolygiaeth fod y Cyngor wedi darparu gwybodaeth gyflawn a chyfredol,
i ddangos cynnydd ac i gynorthwyo wrth iddo werthuso ei berfformiad o fewn y gwasanaethau hyn.
61 Yn ystod ei arolygiad diweddar, dywedodd Estyn3 fod ‘y Cyngor yn gwella ansawdd
y wybodaeth a roddir i aelodau etholedig er mwyn iddynt allu herio perfformiad gwasanaethau ac ysgolion yr awdurdod yn fwy cadarn’. Fodd bynnag, xxx xxxxx i’r Cyngor ‘gryfhau hunanarfarnu er mwyn deall yr hyn sy’n gweithio’n dda a’r hyn y
xxx xxxxx ei wella er mwyn helpu dysgwyr i gyflawni eu nodau’.
62 Ar 28 Medi 2012, rhoddodd yr archwilydd a benodwyd gan yr Archwilydd Cyffredinol farn ddiamod ar gyfrifon y Cyngor ar gyfer 2011-12 ac ar sail hyn barn yr Archwilydd Cyffredinol yw bod y datganiadau ariannol
yn foddhaol yn gyffredinol ac yn ‘rhoi darlun cywir a theg o’r sefyllfa ariannol’. Hefyd cyhoeddodd yr archwilydd a benodwyd ei Lythyr Archwilio Blynyddol cyn diwedd mis Tachwedd 2012 (gweler Atodiad 3 i gael mwy o fanylion).
2 Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru
3 Gweler tudalen 13, Arolygiad Estyn, cyfeiriad at Amcan Gwella Pump y Cyngor.
Mae trefniadau’r Cyngor i gynorthwyo â gwelliant yn gadarn, er ei fod yn wynebu cyfnod o newid ymysg yr uwch reolwyr
Mae’r Cyngor yn debygol o gydymffurfio â’r gofyniad i wneud trefniadau i sicrhau gwelliant parhaus yn ystod 2013-14, fodd bynnag mae’n wynebu cyfnod o newid o fewn strwythur ei uwch-reolaeth
63 Drwy gyhoeddi ei Gynllun Corfforaethol ar gyfer 2010-13, a gyflwynodd ei amcanion gwella ar gyfer y flwyddyn hon, erbyn 30 Ebrill 2012, cydymffurfiodd y Cyngor â’r Mesur.
64 Roedd y Cynllun Corfforaethol yn cynnwys naw amcan gwella ar gyfer 2012-13.
Bu’r rhain yn destun asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb ac yn cynnwys cyfeiriadau at agweddau ar Gynllun Cydraddoldeb Strategol y Cyngor. Roedd y Cyngor wedi ymgynghori â’r cyhoedd a rhanddeiliaid er mwyn cytuno ar ddewis a blaenoriaethu ei amcanion gwella, sydd yn unol xx xxxxx da.
65 Mae’r Cyngor yn gwneud cynnydd da wrth lunio ei Gynllun Corfforaethol newydd ar gyfer 2013-2017. Mae’r drafft cyfredol, sy’n dal i fod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus, yn awgrymu fod y Cyngor fod wedi lleihau nifer ei amcanion gwella o naw i chwech ‘blaenoriaeth gwella’, gan
ganolbwyntio’n fwy ar bobl nag amgylchedd. Mae’r ddogfen ddrafft yn gliriach na’r cynlluniau corfforaethol o’r blynyddoedd blaenorol, gan roi mwy o wybodaeth am y rhesymau dros ddewis blaenoriaethau a pha gamau y bydd yn eu cymryd er mwyn cyflawni canlyniadau lefel uchel. Mae mesurau llwyddiant lleol hefyd yn cael eu cynnwys, sy’n dangos cynnydd y Cyngor wrth fabwysiadu dull o asesu perfformiad sy’n canolbwyntio’n fwy ar ganlyniadau.
66 Mae’r Cyngor wedi ceisio gwella ei brosesau i ymgynghori ac ymgysylltu â dinasyddion
a rhanddeiliaid i’w galluogi i ddylanwadu ar ddewis amcanion gwella’r Cyngor, a’u cylch gwaith. Gyda’i bartneriaid ar y bwrdd gwasanaethau lleol, mae’r Cyngor wedi lansio gwefan ymgynghori ‘Ask Bridgend’ er mwyn annog dinasyddion i leisio eu
barn a’u syniadau ynghylch blaenoriaethau a darpariaeth gwasanaethau’r Cyngor.
Roedd Adroddiad Blynyddol a Chynllun Corfforaethol y Cyngor yn galluogi ac annog dinasyddion i anfon eu barn ar gynnwys y ddwy ddogfen.
67 Ar hyn o xxxx xxx’r Cyngor yn rheoli cyfnod o drosiant uchel ymysg yr uwch reolwyr. Mae unigolyn ar secondiad yn swydd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Les a bydd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Plant yn ymddeol eleni. Bydd swydd y Cyfarwyddwr Adnoddau yn cymryd lle y swydd Prif Weithredwr Cynorthwyol, ac mae swydd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau wedi ei llenwi dros dro. Ar hyn x xxxx, trefniant dros dro yw penodiad y Swyddog Adran 151, sydd â chyfrifoldeb sylweddol dros faterion yn ymwneud â llywodraethu.
Mae’r Prif Weithredwr, a gymerodd ei swydd mor ddiweddar â mis Medi 2012, yn ymwybodol o risgiau cyffredinol y sefyllfa hon ac ar hyn x xxxx yn ystyried ac yn
cynllunio strwythur ei dîm rheoli yn y dyfodol.
Atodiadau
Atodiad 1
Statws yr adroddiad hwn
O xxx Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (y Mesur), mae’n ofynnol i’r Archwilydd Cyffredinol gynnal asesiad gwella blynyddol, a chyhoeddi adroddiad gwella blynyddol, ar gyfer pob awdurdod gwella yng Nghymru. Mae’r gofyniad hwn yn cwmpasu cynghorau lleol, parciau cenedlaethol ac awdurdodau tân ac achub.
Lluniwyd yr adroddiad hwn gan Swyddfa Archwilio Cymru ar ran yr Archwilydd Cyffredinol er mwyn cyflawni ei ddyletswyddau o xxx xxxxx 24 o’r Mesur. Mae’r adroddiad hefyd yn cyflawni ei ddyletswyddau o xxx xxxxx 19 i gyflwyno adroddiad sy’n ardystio ei fod wedi cynnal asesiad gwella o xxx xxxxx 18 ac yn nodi a yw o’r farn, o ganlyniad i’w archwiliad o’r cynllun gwella o xxx xxxxx 17, fod yr awdurdod wedi cyflawni ei ddyletswyddau o ran cynllunio ar gyfer gwella o xxx xxxxx 15.
Xxx xxx awdurdodau gwella ddyletswydd gyffredinol i ‘wneud trefniadau i sicrhau gwelliant parhaus wrth gyflawni eu swyddogaethau’. Diffinnir awdurdodau gwella fel cynghorau lleol, parciau cenedlaethol ac awdurdodau tân ac achub.
Yr asesiad gwella blynyddol yw’r prif ddarn o xxxxx xx’n galluogi’r Archwilydd Cyffredinol i gyflawni ei ddyletswyddau. Caiff yr asesiad gwella ei lywio gan asesiad sy’n edrych i’r dyfodol o’r tebygolrwydd y bydd awdurdod yn cydymffurfio â’i ddyletswydd i wneud trefniadau i sicrhau gwelliant parhaus. Mae hefyd yn cynnwys asesiad ôl-weithredol i nodi a yw awdurdod wedi cyflawni’r gwelliannau a gynlluniwyd ganddo
er mwyn llunio barn ar xxxxx yr awdurdod o ran sicrhau gwelliant. Mae’r adroddiad hwn hefyd yn crynhoi casgliadau’r Archwilydd Cyffredinol ar hunanasesiad yr awdurdod o’i berfformiad.
O xxx xxx amgylchiadau gall yr Archwilydd Cyffredinol hefyd gynnal arolygiadau arbennig (o xxx xxxxx 21), y bydd yn cyflwyno adroddiad i’r awdurdodau a’r Gweinidogion perthnasol mewn perthynas â hwy, xx x xxxx eu cyhoeddi (o xxx xxxxx 22). Xxx’r Adroddiad Gwella Blynyddol hwn yn crynhoi adroddiadau archwilio ac asesu gan gynnwys unrhyw arolygiadau arbennig (o xxx xxxxx 24).
20 Adroddiad Gwella Blynyddol - Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Un o weithgareddau atodol pwysig Swyddfa Archwilio Cymru yw cydgysylltu gwaith asesu a rheoleiddio (sy’n ofynnol o xxx xxxxx 23), sy’n ystyried rhaglen waith gyffredinol pob rheoleiddiwr perthnasol mewn awdurdod gwella. Gall yr Archwilydd Cyffredinol hefyd ystyried gwybodaeth a rennir gan reoleiddwyr perthnasol (o xxx xxxxx 33) yn ei asesiadau.
Atodiad 2
Gwybodaeth ddefnyddiol am Ben-y-bont ar Ogwr a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Y Cyngor
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gwario tua £312 miliwn y flwyddyn (2011-12). Mae hyn yn cyfateb i tua £2,241 fesul trigolyn. Yn yr un flwyddyn, gwariodd y Cyngor £28 miliwn ar eitemau cyfalaf hefyd.
Yn 2011-12, y dreth gyngor gyfartalog ar gyfer band D ar gyfer y Cyngor oedd £1,288.04 y flwyddyn. Mae hyn wedi cynyddu 0.6 y cant i £1,296.16 y flwyddyn ar gyfer 2012-13. Mae 79 y cant o dai’r Cyngor yn perthyn i fandiau treth gyngor A i D.
Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru – Ystadegau Cymru
Mae’r Cyngor yn cynnwys 55 o aelodau etholedig sy’n cynrychioli’r gymuned ac yn gwneud penderfyniadau ynghylch blaenoriaethau a’r defnydd a wneir o adnoddau. Mae aelodaeth wleidyddol y Cyngor fel a ganlyn:
• 1 aelod o’r blaid Geidwadol
• 4 aelod “Independent Annibynwyr”
• 6 o aelodau Annibynnol
• 1 aelod o Blaid Cymru
• 39 aelod o’r blaid Lafur
• 3 aelod o blaid Democratiaid Rhyddfrydol Cymru (Annibynnol)
• 1 swydd wag
Prif Weithredwr Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yw Xxxxxx Xxxxxx.
Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Les: Xxxxx Xxxxxxx; Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Blant: Xxxxxx Xxxxxxx; Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau: penodiad dros dro.
Gwybodaeth arall
Aelodau’r Cynulliad xxxx Xxx-y-bont ar Ogwr yw:
• Xxxxxx Xxxxx, Pen-y-bont ar Ogwr
• Xxxxxx Xxxxxxx, Ogwr
• Xxxxx Xxxxx, Xxxxxx Xxxxxxx, Xxxx Xxxxxx a Xxxxx Xxxxxx, Xxxxxxxxxxx
Appendices
Appendix xx
Yr Aelodau Seneddol yw:
• Xxxxxxxxx Xxxx, dros Etholaeth Pen-y-bont ar Ogwr
• Xxx Xxxxxxx-Xxxxxx, dros Etholaeth Ogwr
Am ragor o wybodaeth gweler gwefan y Cyngor ei hun ar xxx.xxxxxxxx.xxx.xx/xxxxx.xxx?xxxxxxx xxx cysylltwch â’r Cyngor yn Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.
Appendices
Appendix xx
Atodiad 3
Llythyr Archwilio Blynyddol yr Archwilydd Penodedig
Y Cynghorydd Xxx Xxxx Yr Arweinydd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr Swyddfeydd Dinesig
Stryd yr Angel
Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB
Xxxxxx Xxxxxxxxxx Xxxx
Llythyr Archwilio Blynyddol
Mae’r llythyr yma yn crynhoi’r negeseuon allweddol sy’n codi yn sgil fy nghyfrifoldebau statudol fel yr Archwilydd Penodedig o xxx Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 a’m cyfrifoldebau adrodd o xxx y Cod Ymarfer Archwilio.
Cydymffurfiodd y Cyngor â’i anghenion adrodd mewn perthynas â’i berfformiad a’i defnydd o adnoddau
Cyfrifoldeb y Cyngor yw:
• rhoi systemau rheoli mewnol ar waith i sicrhau rheoleidd-dra a chyfreithlondeb trafodion a sicrhau bod ei asedau yn ddiogel;
• cadw cofnodion cyfrifyddu priodol;
• paratoi Datganiad o Gyfrifon yn unol â’r gofynion perthnasol; a
• sefydlu ac adolygu trefniadau priodol i sicrhau darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wrth ddefnyddio adnoddau.
Mae Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 yn ei gwneud hi’n ofynnol i mi:
• ddarparu barn archwilio ar y datganiadau cyfrifyddu;
• adolygu trefniadau y Cyngor i sicrhau darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wrth ddefnyddio adnoddau; a
• cyhoeddi tystysgrif yn cadarnhau fy mod wedi cwblhau’r gwaith o archwilio’r cyfrifon.
Appendices
Appendix xx
Mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn paratoi eu datganiadau cyfrifyddu yn unol â gofynion Cod Ymarfer CIPFA/LASAAC ar gyfer Cadw Cyfrifon Awdurdodau Lleol yn y Deyrnas Unedig. Mae’r Cod hwn yn seiliedig ar Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol. Ar 28 Medi 2012 cyhoeddais farn archwilio ddiamod ar y datganiadau cyfrifyddu yn cadarnhau eu bod yn cyflwyno darlun cywir a theg o sefyllfa ariannol a thrafodion y Cyngor. Mae fy adroddiad wedi’i gynnwys yn y Datganiad o Gyfrifon. Cafodd y materion allweddol a
oedd yn codi o’r cyfrifon eu cyflwyno i aelodau’r Pwyllgor Archwilio yn fy adroddiad ar yr Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol ar 26 Medi 2012.
Mae fy ystyriaeth o drefniadau’r Cyngor i sicrhau darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wedi bod yn seiliedig ar waith archwilio’r cyfrifon a’r gwaith a gwblhawyd fel rhan Asesiad Gwella o xxx y Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009. Yn gyffredinol, rwy’n fodlon bod gan y Cyngor drefniadau priodol ar waith. Bydd yr Archwilydd Cyffredinol yn amlygu meysydd lle na ddangoswyd effeithiolrwydd y trefniadau hyn eto neu lle gellid gwneud gwelliannau pan fydd yn cyhoeddi ei Adroddiad Gwella Blynyddol.
Mewn blynyddoedd blaenorol, rwyf wedi rhoi sylwadau ar bwysigrwydd datrys y ceisiadau cyflog cyfartal sydd heb eu penderfynu a’r prosiect gwerthuso swyddi er mwyn galluogi’r Cyngor i gynllunio’n effeithiol ei gyllideb cyflog yn y dyfodol, a bod yn hyderus ynglŷn â’r galw ar ei adnoddau yn y tymor canolig. Rwy’n xxxxx o adrodd eleni fod y Cyngor wedi gwneud cynnydd sylweddol yn y meysydd yma; mae’r ceisiadau cyflog cyfartal xxxxxxx wedi eu setlo’n llawn a’r prosiect gwerthuso swyddi yn tynnu ar ei derfyn.
Cyhoeddais dystysgrif yn cadarnhau bod yr archwiliad o’r cyfrifon wedi’i gwblhau ar 9 Hydref 2012.
Ar hyn x xxxx, y ffi archwilio ariannol ar gyfer 2011-12 yw £197,500, sydd yn unol â’r swm a nodir yn yr Amlinelliad Archwilio Ariannol.
Yn gywir
Xxx Xxxxxxxxxx Cyfarwyddwr, KPMG LLP
Ar gyfer ac ar ran yr Archwilydd Penodedig, Xxxxxxx Xxxxxxx, Swyddfa Archwilio Cymru
20 Tachwedd 2012
Xxx xxx etholwyr lleol ac eraill yr hawl i edrych ar gyfrifon y Cyngor. Pan fydd y Cyngor wedi cwblhau ei gyfrifon ar gyfer y flwyddyn ariannol flaenorol, fel rheol tua mis Mehefin neu fi s Gorffennaf, mae’n rhaid iddo hysbysebu eu bod ar gael i bobl edrych arnynt. Gallwch gael copïau o’r cyfrifon gan y Cyngor; gallwch hefyd weld pob llyfr, gweithred, contract, bil, taleb a derbynneb sy’n ymwneud â hwy am 20 diwrnod gwaith ar ôl iddynt gael eu darparu. Gallwch ofyn cwestiynau i’r archwilydd am y cyfrifon ar gyfer y flwyddyn y mae’n ei harchwilio. Er enghraifft, gallwch roi gwybod i’r archwilydd os ydych o’r farn bod rhywbeth o’i le ar y cyfrifon neu am wastraff neu aneffeithlonrwydd o ran y ffordd y mae’r Cyngor yn cynnal ei wasanaethau. I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar daflen Swyddfa Archwilio Cymru, Cyfrifon y Cyngor: xxxx hawliau, ar ein gwefan yn xxx.xxx.xxx.xx neu drwy ysgrifennu atom yn y cyfeiriad ar gefn yr adroddiad hwn.
Atodiad 4
Amcanion gwella Cyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr
Amcanion gwella’r Cyngor
Mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor wneud cynlluniau i wella ei swyddogaethau a’r gwasanaethau a ddarperir ganddo. Xxx blwyddyn mae’n rhaid iddo gyhoeddi’r cynlluniau hyn ynghyd ag ‘amcanion gwella’ neu ‘flaenoriaethau’ penodol sy’n nodi’r pethau allweddol y mae’r Cyngor yn bwriadu eu gwneud i wella. Mae’n rhaid i’r Cyngor wneud hyn cyn gynted â phosibl ar ôl 1 Xxxxxx xxx blwyddyn
Cyhoeddodd y Cyngor ei amcanion gwella ar gyfer 2010-2013 yn ei Adroddiad Blynyddol 2011/12 a Chynllun Gwella 2012/13 y gellir ei weld ar wefan y Cyngor ar xxx.xxxxxxxx.xxx.xx/xxxxx.xxx?xxxxxxx. Maent i’w gweld yn y golofn chwith. Y ‘blaenoriaethau gwella’ ar gyfer 2013-2017, yn y golofn dde, yw camau gweithredu arfaethedig y Cyngor.
Amcanion gwella allweddol 2010-2013 | Blaenoriaethau Gwella 2013-2017 |
Creu cymunedau diogel a chynhwysol a ategir gan isadeiledd ffisegol effeithiol | Gweithio gyda’n gilydd i ddatblygu’r economi leol |
Datblygu a chynnal datrysiadau tai cynaliadwy a fforddiadwy ar gyfer y rheiny sy’n ddigartref neu mewn angen | Gweithio gyda’n gilydd i godi dyheadau a chyflawniad addysgol |
Gweithredu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sydd wedi’u hintegreiddio’n well i ategu annibyniaeth, dewis, grymuso, urddas a pharch | Gweithio gyda phlant a theuluoedd i fynd i’r afael â phroblemau’n gynnar |
Cydweithio gyda phartneriaid i frwydro yn erbyn tlodi a rhoi i blant y dechrau gorau mewn bywyd | Gweithio gyda’n gilydd i gynorthwyo pobl agored i niwed i aros yn annibynnol |
Helpu’r xxxx xxxxx a phobl ifanc i gyflawni safonau cyrhaeddiad uwch trwy gael mynediad at gyfleoedd dysgu o ansawdd uchel | Gweithio gyda’n gilydd i fynd i’r afael â phroblemau iechyd a hybu ffyrdd iach o fyw |
Gwella lles corfforol ac emosiynol trwy hybu ffyrdd egnïol o fyw, cyfranogiad a dysgu | Gweithio gyda’n gilydd er mwyn gwneud y defnydd gorau o’n hadnoddau |
Rhoi cymorth i’n cymunedau difreintiedig trwy hybu twf economaidd, adnewyddu ffisegol a chynaliadwyedd | |
Rheoli a hybu’r amgylchedd naturiol a hanesyddol | |
Gwella’r ffordd yr ydym yn gweithio i sicrhau defnydd effeithiol ac effeithlon o’n hasedau ariannol, technolegol, ffisegol a dynol |
Hunanasesiad y Cyngor o berfformiad
Mae hunanasesiad y Cyngor o’i berfformiad yn ystod 2011-12 i’w gael yn yr un ddogfen eto ar wefan y Cyngor ar xxx.xxxxxxxx.xxx.xx/xxxxx.xxx?xxxxxxx.