Comisiynydd Plant Cymru Cyfrifon 2020-21
Comisiynydd Plant Cymru Cyfrifon 2020-21
Adroddiad y Cyfarwyddwyr
Cyflwyniad
Sefydliad annibynnol sy'n ymdrin â hawliau dynol plant yw Comisiynydd Plant Cymru. Prif nod y Comisiynydd yw diogelu a hyrwyddo hawliau a lles plant. Xxx xxx gyfraith yn nodi'r rheolau ynghylch sut gall hi wneud ei gwaith, ac yn rhoi pwerau penodol iddi, sef Deddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Comisiynydd Plant Cymru 2001 (a oedd yn diwygio Deddf Safonau Gofal 2000).
Dyma grynodeb o bwerau'r Comisiynydd
-Y pŵer i adolygu a monitro'r trefniadau ar gyfer cwynion, datgelu camarfer ac eiriolaeth mewn cyrff
cyhoeddus a ddiffiniwyd;
-Y pŵer i adolygu sut mae cyrff cyhoeddus a ddiffiniwyd yn ymarfer eu swyddogaethau (pwerau a
dyletswyddau), gan gynnwys Llywodraeth Cymru;
-Y pŵer i archwilio achosion sy'n ymwneud â phlant unigol;
-Y pŵer i roi cymorth i blant unigol; a hefyd
-Y pŵer i gyflwyno sylwadau i Brif Weinidog Cymru, Gweinidogion Cymru a'r Cwnsler Cyffredinol ynghylch unrhyw faterion sy'n effeithio ar hawliau a lles plant sy'n destun pryder iddi ac nad oes ganddi bŵer i weithredu yn eu cylch.
Nid oes gan y Comisiynydd bŵer i weithredu mewn nifer o amgylchiadau a ddiffiniwyd:
- Materion sydd heb eu datganoli i Lywodraeth Cymru, sy'n cynnwys mewnfudo a lloches, xxxx-daliadau lles, cyfiawnder a phlismona, a phlant yn y lluoedd arfog;
- Lle gall CAFCASS (Gwasanaeth Ymgynghorol Plant a'r Llysoedd) weithredu;
- Lle xxx xxx Weinidogion Cymru swyddogaethau yng nghyswllt achosion teulu; a
- Rhag gwneud ymholiadau ynghylch neu adrodd ar unrhyw fater xxxx xxx a fu'n destun achos cyfreithiol.
Cychwynnodd yr Athro Xxxxx Xxxxxxx yn ei swydd fel Comisiynydd ar 20fed Ebrill 2015, ar ôl cael ei phenodi gan Brif Weinidog Cymru, am gyfnod o saith mlynedd. Cychwynnodd yr uwch swyddogion eraill ar eu penodiadau rhwng mis Mai 2006 a mis Mai 2017, ac fe’u penodwyd gan y Comisiynydd (presennol a’r un blaenorol) o xxx Atodlen 2 paragraff 4 o Ddeddf Safonau Gofal 2000.
Uwch swyddogion
Bu’r bobl ganlynol yn gwasanaethu fel Xxx Rheoli yn ystod y flwyddyn:
▪ Yr Athro Xxxxx Xxxxxxx - Comisiynydd Plant Cymru;
▪ Xxxx Xxxxxxxxxx - Pennaeth Ymarfer;
▪ Xxxx Xxxxxx - Pennaeth Cyfathrebu a Pherfformiad;
▪ Xxxx Xxxxx - Pennaeth Cyllid;
▪ Xxxxxx Xxxxx - Pennaeth Adnoddau Dynol; a
▪ Xxxxxx Xxxxxx - Xxxxxxxx Polisi a Materion Cyhoeddus.
Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg
Mae manylion pellach am rôl a swyddogaeth y Pwyllgor hwn i’w gweld yn ein datganiad llywodraethu ac yn Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor. I grynhoi, mae Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg y Comisiynydd yn rhoi cyngor a sicrwydd ynghylch llywodraethu corfforaethol, rheoli risgiau a mesurau rheoli yn swyddfa’r
Comisiynydd a digonoldeb y trefniadau archwilio mewnol ac allanol. Mae'n cwrdd ddwywaith y flwyddyn o leiaf, ac yn cynnwys swyddogion uwch o Swyddfa'r Comisiynydd ac aelodau Anweithredol. Aelodau Anweithredol y Pwyllgor yw:
▪ Xxxxxxx Xxxxxx – Cyn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru
▪ Xxxxxxxx Xxxxxx – gynt yn Was Sifil;
▪ Xxxxx Xxxxxx – gynt yn Was Sifil;
▪ Xxxxx Xxxxxxxx – Xxxxx Xxxxxxxxxx/Ymgynghorydd Cyfathrebu Strategol, a benodwyd o fis
Ionawr 2021;
▪ Xxxxxx Xxxxx-Xxxxxxx – Prif Swyddog Gweithredol Cymru fwy Diogel, a benodwyd o fis
Ionawr 2021; a
▪ Xx Xxxxx – Prif Swyddog Archwilio, Risg a Gwybodaeth Cyngor Sir Penfro a Phennaeth archwilio mewnol ar gyfer ERW a Bargen Ddinesig Bae Abertawe, a benodwyd o fis Ionawr 2021.
Mae Archwilio Cymru a Deloitte, archwilwyr mewnol cyfredol y Comisiynydd, hefyd yn rhan o xxx cyfarfod. Yn ystod 2020-21 bu’r Comisiynydd yn tendro ar y cyd am wasanaethau archwilio mewnol gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg; dyfarnwyd contract tair blynedd i TIAA Ltd, yn cychwyn ym mis Ebrill 2021.
Ariannu
Mae Comisiynydd Plant Cymru yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru, ond yn cael ei ariannu ganddi. Yn 2020-21 derbyniodd y Comisiynydd £1.580 miliwn (2019-20: £1.580 miliwn) i gyllido gweithgareddau’r Comisiynydd.
Fformat y Cyfrifon
Paratowyd y datganiadau ariannol hyn yn unol â Pharagraff 7(2) Atodlen 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 a’r Cyfarwyddyd Cyfrifon a gyflwynwyd gan Weinidogion Cymru. Xxx xxxx o’r cyfarwyddyd hwnnw ar xxxx xxxx wrth Gomisiynydd Plant Cymru, Tŷ Ystumllwynarth, Llys Siarter, Ffordd Ffenics, Abertawe, SA7 9FS.
Paratowyd y cyfrifon hyn ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill 2020 tan 31 Mawrth 2021, ac maent yn adlewyrchu alldro asedau, rhwymedigaethau ac adnoddau’r Comisiynydd Plant. Paratowyd y datganiadau ariannol hyn yn unol â Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth (FReM) a gyflwynwyd gan Drysorlys Ei Mawrhydi. Mae’r polisïau cyfrifo a geir yn yr FReM yn cymhwyso Safonau Cyfrifo Rhyngwladol (IFRS), fel y’u mabwysiadwyd neu y’u dehonglwyd ar gyfer cyd-destun y sector cyhoeddus.
Canlyniadau ar gyfer y Flwyddyn
Dengys y Datganiad o Wariant Net Cynhwysfawr wariant o £1.700 miliwn (2019-20: £1.644 miliwn) ar gyfer y cyfnod. Y rheswm am y gwariant uwch a gynlluniwyd yn y cyfnod hwn oedd yr angen am gynyddu’r ddarpariaeth ar gyfer dirywiad cyflwr, gwariant cysylltiedig â chefnogi ein xxx i weithio’n effeithiol ac yn ddiogel gartref, ac ariannu dau arolwg Coronafeirws a Fi y Comisiynydd. Y gweddill yn y gronfa gyffredinol ar ddiwedd y flwyddyn yw £51,000 (2019-20: £171,000).
Yn ystod mis Mawrth 2020 cyflwynodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru drefniadau “cyfnod clo” er mwyn xxxxx â Phandemig COVID19. Mae’r Comisiynydd a’i staff wedi cydymffurfio â’r gofynion, ac mae’r xxxx staff wedi bod yn gweithio gartref ers mis Mawrth 2020. Mae’r Comisiynydd
wedi sicrhau bod y sefydliad yn cynnal trefniadau llywodraethu a rheoli digonol ar hyd yr amser, a hefyd wedi sicrhau bod iechyd a llesiant y staff yn cael eu cynnal a’u monitro. Mae’r Comisiynydd a’i Thîm Rheoli yn parhau i fonitro’r trefniadau ac yn rhoi sylw dyledus i’r canllawiau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ynghylch y pandemig. Yn ystod y cyfnod 2020-21 cwblhaodd y xxx nifer o ganlyniadau proffil uchel, yr adroddir yn fanwl amdanynt yn Adroddiad Blynyddol y Comisiynydd. Isod rhestrir rhai o’n prif gyflawniadau yn ystod y cyfnod hwn:
- Ymgysylltu’n uniongyrchol ag o leiaf 694 o blant a phobl ifanc ledled Cymru mewn digwyddiadau, gweithdai a chyfarfodydd ar-lein
- Casglu barn 44,000 o blant a phobl ifanc ledled Cymru trwy ein harolygon ‘Coronafeirws a Ni’
- Cynnal grwpiau ffocws gyda 55 o bobl ifanc ledled Cymru mewn ‘diwrnod gwrando’ ym mis Tachwedd i asesu effaith cyfyngiadau ‘cyfnod xxxx byr’ ym mis Hydref yng Nghymru
- Casglu barn 167 o benaethiaid ysgolion a cholegau ar gynhwysiad digidol yn ystod un wythnos
ym mis Ionawr
- Cynnal gwersi hawliau plant ar-lein i 864 o blant a phobl ifanc
- Sicrhau bron 10,000 o bleidleisiau yn yr etholiad Senedd paralel cyntaf erioed ar gyfer pobl ifanc 11-15 oed yn y wlad
- Cynnal sesiynau hyfforddi ar hawliau plant i fwy na 800 o gyfranogwyr
- Ymateb i o leiaf 30 o ymgyngoriadau’r Senedd, Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill, gan greu newid amlwg mewn nifer o bolisïau a deddfwriaeth
- Cyhoeddi 11 adroddiad thematig ar wahanol bynciau, o gynhwysiant yn y cyfnod sylfaen i
adroddiad i Bwyllgor y CU ar Hawliau’r Plentyn
- Rheoli 663 o achosion trwy ein gwasanaeth Ymchwiliadau a Chyngor
- Sicrhau sylw i’r sefydliad o leiaf 449 o weithiau ar ffurf darllediadau a chynnyrch printiedig
- Gweithio gydag o leiaf 148 o weithgorau a sefydliadau, gan gynnwys consortia addysg, cyrff trydydd sector ac undebau athrawon.
Dysgu a Datblygu
Rydym wedi cynnwys rhagor o fanylion am ein gwaith dysgu a datblygu yn ein datganiad llywodraethu. Yn gryno, mae’r Comisiynydd yn parhau i fuddsoddi mewn darparu cyfleoedd dysgu a datblygu i’r staff.
Trwy Fframwaith Datblygu Perfformiad y Comisiynydd, gofynnir i’r xxxx staff nodi anghenion datblygiad personol a’u cofnodi mewn Cynllun Datblygu Personol, a rhoddir cefnogaeth iddyn nhw wneud hynny. Fel sefydliad, rydym ni’n ymroddedig i fuddsoddi amser ac adnoddau i ddatblygu pawb sy’n gweithio yma, a datblygu systemau a strwythurau clir i gefnogi ein ffordd o weithio. Rydym ni’n gwybod bod sefydlu dealltwriaeth a rennir o’r hyn sydd i’w gyflawni, a bod pawb yn deall eu rôl yn hynny, yn galluogi pobl i gyflawni ar ran y sefydliad, ac ar ran plant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae’r Fframwaith Datblygu Perfformiad yn cysylltu perfformiad a datblygiad unigolion ag amcanion strategol y sefydliad. Rydym ni’n gwybod bod pobl yn gwneud eu cyfraniad gorau ac yn darparu gwaith o’r safon uchaf pan fydd ganddyn nhw waith clir, ystyrlon a heriol i’w wneud. Rydym ni hefyd yn gwybod bod cynllunio ein gwaith a myfyrio ar yr hyn fu’n llwyddiannus a’r hyn allai fod yn wahanol yn y dyfodol yn galluogi unigolion i dyfu a gwella yn eu hymarfer. Yn ogystal â datblygiad personol, mae’r sefydliad yn darparu rhaglen dysgu a datblygu ar draws y Swyddfa, i’r xxxx weithwyr, xxx blwyddyn ariannol. Mae'r rhain yn cyflawni ei rhwymedigaethau o
ran dysgu a datblygu xxxxx xx yn unol â statud, neu lle bernir bod hynny'n hanfodol i'r xxxx grwpiau o staff er mwyn bodloni gofynion y cynllun gwaith blynyddol, er enghraifft ar Amddiffyn a Diogelu Plant.
Ymgynghori ac Ymgysylltu â’r Staff
Mae’r strwythurau atebolrwydd a llywodraethu a ddisgrifir yn y ddogfen hon yn helpu i sicrhau bod ein gweithle yn lle diogel, cynhyrchiol a braf. Yn ogystal, mae ein diwylliant o gydweithio yn y gweithle yn cyfrannu’n sylweddol at ein llwyddiant fel Xxx llwyddiannus sy’n perfformio ar lefel uchel. Rydym ni’n credu bod ein ffocws parhaus ar ymgysylltu â’n gweithwyr, yn ogystal ag ymgynghori â’r staff, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, wedi bod yn elfen allweddol o ddatblygu arferion rheoli pobl mwy blaengar.
Mae'r Comisiynydd a’i Thîm Rheoli yn gweithio ar y cyd â’r staff, lle bynnag y xx xxxx, ar newidiadau pwysig i’r sefydliad a blaenoriaethau datblygu’r sefydliad. Cyflawnir hyn mewn amrywiaeth o ffyrdd, gan gynnwys ein dull rheoli prosiect sefydledig o weithio, cyfarfodydd rheolaidd i’r xxxx staff (Fika), arolygon, gweithgorau fel y Grŵp Llesiant, ynghyd â diwrnodau datblygu i'r xxx cyfan. Yn ogystal, sefydlwyd arfer o roi cyfleoedd i'r xxxx staff, yn unigol ac mewn grwpiau, gyfrannu at gynllun strategol tair blynedd y Comisiynydd a’r cynlluniau gwaith blynyddol.
Absenoldeb Staff
Yn ystod 2019-20, cyfradd absenoldeb salwch swyddfa’r Comisiynydd oedd 1.21 y cant (2019-20: 4.1 y
cant), wedi’i seilio ar ganran o gyfanswm y diwrnodau gwaith oedd ar gael.
Cynaliadwyedd
Fel aelod o Banel Ymgynghorol Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ac fel xxxxx cyhoeddus yng Nghymru, mae’r Comisiynydd yn ymroddedig i'r egwyddorion a amlinellwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, sef:
• Cymru lewyrchus;
• Cymru gydnerth;
• Cymru iachach;
• Cymru sy'n fwy cyfartal;
• Cymru o gymunedau cydlynus;
• Cymru sydd â diwylliant bywiog a iaith Gymraeg lewyrchus; a
• Chymru sydd â chyfrifoldeb byd-xxxx.
Xxx'r Comisiynydd hefyd yn ymroddedig i leiafu effaith ei Swyddfa ar yr amgylchedd lle bynnag y xx
xxxx, ac xxx'n ceisio lleihau'r effaith honno trwy gymryd y camau canlynol:
° Deunydd ysgrifennu ac adnoddau swyddfa: anogir y staff i gyfyngu gymaint â phosib ar eu defnydd
o nwyddau xxxxx y swyddfa. Cyfyngir gymaint â phosibl ar argraffu a llungopïo;
° Teithio: lle bo hynny'n ymarferol, cynhelir cyfarfodydd trwy ddefnyddio fideo-gynadledda pryd bynnag y xx xxxx. Xxx xxxx 90 y cant o deithiau swyddogol y Comisiynydd yn digwydd ar drên neu ar feic, ac mae hi'n annog ei staff i wneud yr un peth;
° Ynni: mae'r Comisiynydd yn annog pob aelod o staff i fod yn ymwybodol o ynni, ac i ystyried ffyrdd
o leihau eu hôl-troed carbon; a
° Gwaredu gwastraff: mae’r Comisiynydd yn ymroddedig i ailgylchu pob gwastraff.
Yn ystod 2020-21 bu’r xxxx staff yn gweithio gartref, gan leihau’n sylweddol allyriadau carbon cymudo a mynychu cyfarfodydd, oedd yn awr yn digwydd yn rhithwir. Ar ben hynny, daeth y swyddfa bron yn gyfangwbl ddi-bapur, a gwnaed ein xxxx systemau cyllid yn electronig ar ddechrau 2020-21. Mae disgwyl i’n symudiad i swyddfa fodern ym mis Gorffennaf 2021, yn ymyl gorsaf reilffordd ar y brif lein, leihau ein hôl-troed carbon yn sylweddol, a byddwn ni’n parhau â llawer o ffyrdd newydd o weithio a ddysgwyd yn gyflym yn ystod y pandemig.
Xxx Xxxxx 6 o Ran 1 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) yn gosod Dyletswydd Bioamrywiaeth a Gwydnwch Ecosystemau ar awdurdodau cyhoeddus. Yn 2019-20 aethom ati i ddatblygu cynllun yn unol â phedair colofn ein fframwaith perfformiad (sef plant a phobl ifanc, staff y Comisiynydd, prosesau sefydliadol a sefydlogrwydd ariannol/gwerth am arian) mewn ymateb i’r ddyletswydd honno. Trafodir y cynllun xxx xxxx mis gan y xxx rheoli, ac mae aelod o’r xxx rheoli yn perchnogi pob tasg o fewn y cynllun hwnnw. Gallwch ddarllen copi o’r cynllun ar ein gwefan, o xxx ‘cyhoeddiadau’.
Cyfle Cyfartal
Ystyrir pob cais am gyflogaeth gyda Chomisiynydd Plant Cymru ar y sail y dylai pob ymgeisydd am swydd gael cyfle cyfartal am gyflogaeth a dyrchafiad ar sail eu gallu, eu cymwysterau a’u haddasrwydd ar gyfer y gwaith. Ni ddylai unrhyw ymgeisydd am swydd na gweithiwr dderbyn triniaeth lai ffafriol ar sail hil, lliw, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, oedran, statws priodasol, anabledd, crefydd, cyfrifoldebau teuluol/domestig na phatrymau gwaith, ac ni ddylai unrhyw unigolyn gael ei roi xxx anfantais chwaith gan amodau neu ofynion na ellir dangos bod modd eu cyfiawnhau.
Yn ystod 2020 sefydlodd y Comisiynydd grŵp gweithredu ar gydraddoldeb, gyda ffocws arbennig ar hil,
sydd eisoes yn cymryd camau i’n galluogi i sicrhau mwy o amrywiaeth yn ein sefydliad.
Archwilwyr
Caiff cyfrifon Comisiynydd Plant Cymru eu harchwilio a’u hardystio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru yn unol â pharagraff 9 o Atodlen 2 i Ddeddf Safonau Gofal 2000.
Mae Deloitte LLP yn darparu gwasanaethau archwilio mewnol ar gyfer y Comisiynydd.
Yn ystod y cyfnod ni thalwyd unrhyw gydnabyddiaeth i’r archwilwyr am waith heblaw archwilio.
Datgelu Gwybodaeth i’r Archwilwyr
Mor xxxx xx y xxx Swyddfa'r Comisiynydd yn ymwybodol, nid oes gwybodaeth archwilio nad yw’r archwilwyr yn ymwybodol ohoni; ac mae'r Swyddfa wedi cymryd pob cam y dylasai ei gymryd i’w gwneud ei hun yn ymwybodol o unrhyw wybodaeth archwilio berthnasol ac i sicrhau bod yr archwilwyr yn ymwybodol o’r wybodaeth honno.
Digwyddiadau Cysylltiedig â Data Personol
Mae’r xxxx ddigwyddiadau sy’n ymwneud â data personol yn cael eu hadrodd i’r Xxx Rheoli ac i’r Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg. Rydym ni’n cadw at yr xxxx ganllawiau a gyflwynir gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), gan gynnwys a oes angen symud digwyddiad ymlaen atyn nhw. Yn ystod 2020|21, rhoesom wybod i’r ICO am un digwyddiad. Ar ôl ei adolygu, roedd yr ICO yn fodlon ar ein camau gweithredu cyflym a’n dull o ymdrin â’r digwyddiad, a chadarnhawyd nad oedd angen cymryd camau pellach. Er bod yr ICO wedi dod i’r casgliad na fyddai camau pellach yn cael eu cymryd, cyflawnwyd ymarferiad dysgu gwersi mewnol, a rhoi pwyntiau gweithredu ar waith.
Digwyddiadau ers Diwedd y Flwyddyn Ariannol
Ni fu unrhyw ddigwyddiadau ers diwedd y flwyddyn ariannol sy’n effeithio ar ddealltwriaeth o’r datganiadau ariannol hyn.
DATGANIAD O GYFRIFOLDEBAU’R SWYDDOG CYFRIFYDDU
O xxx Atodlen 2 o'r Ddeddf Safonau Gofal, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi cyfarwyddyd i Gomisiynydd Plant Cymru baratoi datganiad o gyfrifon ar gyfer pob blwyddyn ariannol ar ffurf yr hyn a nodwyd yn y Cyfarwyddyd Cyfrifon ac ar y sail honno. Paratoir y cyfrifon ar sail croniadau a rhaid iddynt ddarparu darlun gwir a theg o sefyllfa fusnes Comisiynydd Plant Cymru, yr incwm a'r gwariant, newidiadau yn ecwiti trethdalwyr a llifoedd arian y flwyddyn ariannol.
Wrth baratoi'r cyfrifon, mae gofyn bod y Swyddog Cyfrifyddu yn cydymffurfio â gofynion Llawlyfr
Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth, ac yn arbennig â'r canlynol:
• glynu at y Cyfarwyddyd Cyfrifon a roddwyd gan Weinidogion Cymru, gan gynnwys y gofynion
perthnasol o ran cyfrifeg a datgelu, a defnyddio polisïau cyfrifeg addas yn gyson;
• dod i benderfyniadau a llunio amcangyfrifon ar sail resymol;
• datgan a yw’r safonau cyfrifo perthnasol, fel y’u cyflwynir yn Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth (FReM), wedi cael eu dilyn, a datgelu ac egluro unrhyw achosion pwysig yn y datganiadau ariannol lle na ddilynwyd y safonau hynny; a
• pharatoi’r datganiadau ariannol ar sail busnes gweithredol.
Y Comisiynydd yw'r Swyddog Cyfrifyddu ar gyfer ei swyddfa yn sgîl paragraff 10 o Atodlen 2 i Ddeddf Safonau Gofal 2000. Cyflwynir cyfrifoldebau'r Swyddog Cyfrifyddu, gan gynnwys cyfrifoldeb am briodoldeb a rheoleidd-dra’r arian cyhoeddus y mae Swyddog Cyfrifyddu yn atebol amdano, am gadw cofnodion priodol ac am ddiogelu asedau Comisiynydd Plant Cymru, yn y Memorandwm ar gyfer Swyddogion Cyfrifyddu a luniwyd gan Drysorlys EM.
Fel Swyddog Cyfrifyddu, rwyf wedi cymryd yr xxxx gamau y dylaswn eu cymryd i’m gwneud fy hun yn ymwybodol o unrhyw wybodaeth archwilio berthnasol, ac i gadarnhau bod archwilwyr Comisiynydd Plant Cymru yn ymwybodol o’r wybodaeth honno. Hyd eithaf fy ngwybodaeth, nid oes gwybodaeth archwilio berthnasol nad yw’r archwilwyr yn ymwybodol ohoni.
DATGANIAD LLYWODRAETHU BLYNYDDOL
Mae'r Datganiad hwn gan Gomisiynydd Plant Cymru yn nodi ar ba sail y sefydlwyd y xxxxx, sut xxx'n xxxx xx lywodraethu a'i reoli, a sut y mae'n atebol am yr hyn y mae'n ei wneud.
Rôl Comisiynydd Plant Cymru
Sefydlwyd Comisiynydd Plant Cymru gan Ddeddf Safonau Gofal 2000, ac mae'n sefydliad hawliau dynol annibynnol. Mae cylch gorchwyl y Comisiynydd wedi'i nodi yn Neddf Comisiynydd Plant Cymru 2001, a newidiodd Ddeddf Safonau Gofal 2000. Prif nod y Comisiynydd yw diogelu a hyrwyddo hawliau a lles plant. Rhaid mai dyma amcan gor-redol y Comisiynydd pan fydd hi'n cyflawni ei swyddogaethau.
Mae crynodeb o bwerau'r Comisiynydd i'w weld yma.
Deilydd cyfredol y Swydd
Cychwynnais yn swydd y Comisiynydd ar 20 Ebrill 2015, ar ôl cael fy mhenodi gan Brif Weinidog Cymru
am gyfnod o saith mlynedd.
Strwythur Llywodraethu
Isod ceir disgrifiad o’n strwythur llywodraethu. Mae rhagor o fanylion ynghylch aelodaeth pob grŵp,
presenoldeb a'u cylchoedd gorchwyl ar gael ar ein gwefan.
Paneli Ymgynghorol: paneli anstatudol yw’r rhain, a’u prif rôl yw darparu cyngor, cefnogaeth a her annibynnol i’r Comisiynydd a’i staff. Cewch ddarllen mwy am eu rhaglen xxxxx xxxxx yn yr Adroddiad Blynyddol.
Y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg: cewch ddysgu mwy am rôl, cylch gorchwyl a gwaith y Pwyllgor hwn yn yr Adroddiad Blynyddol, ac yno hefyd cewch ddarllen adroddiad blynyddol y Pwyllgor.
Gan fy mod mewn swydd gyhoeddus sy'n derbyn arian cyhoeddus, rwy'n ymroddedig i weithredu systemau trylwyr a thryloyw o ran atebolrwydd a gwneud penderfyniadau.
Mae fy fframwaith llywodraethu yn cynnwys y systemau, y prosesau a'r gwerthoedd sy'n cyfeirio ac yn rheoli'r sefydliad. Mae’n ofynnol fy mod yn esbonio’r strwythur llywodraethu yn fy sefydliad ac yn sicrhau ei fod yn bodloni gofynion y Côd Llywodraethu Corfforaethol a’r ‘Llyfr Xxxx: Rheoli Risg’.
Yn yr adran hon rwy’n manylu ar i xx xxxxxx xxx’r sefydliad yn bodloni’r safonau hyn ac yn darparu tystiolaeth bod y trefniadau llywodraethu yn gweithio’n unol â’r bwriad ar draws y sefydliad. I ddarparu sicrwydd pellach, yn unol â Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus, mae ein trefniadau llywodraethu corfforaethol wedi bod yn destun archwilio mewnol gan ein hymgynghorwyr, Deloitte.
Mae eu hasesiad cyffredinol yn 2020|21 fel a ganlyn:
“Ar sail y gwaith a wnaed yn unol â’r manylion yn ein Hadroddiad Archwilio Mewnol ar Lywodraethu Corfforaethol a Rheoli Risg ar gyfer 2020/21, ein hasesiad cyffredinol yw bod dosbarthiad sicrwydd llywodraethu corfforaethol a rheoli risg yn sylweddol.”
Effaith pandemig Covid-19 ar y sefydliad
Mae’r pandemig, a ddechreuodd gymryd gafael ar draws y byd yn gynnar yn 2020, wedi troi ein byd ben i waered. Rydym wedi profi newid ar raddfa na ellid ei dychmygu ym mhob agwedd ar ein bywydau. Ar hyd y flwyddyn, rydym wedi ceisio defnyddio ein sefyllfa ddylanwadol i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael lle blaen a chanolog yn ymateb Llywodraeth Cymru, a bod hynny’n parhau. Rydym hefyd wedi gorfod canolbwyntio ar newid llwyr yn ein ffordd o weithio.
O ganlyniad i weithdrefnau dilyniant busnes cadarn, rydym yn ddiolchgar ein bod wedi gallu addasu i weithio gartre’n llwyr gan ein xxxx aelodau staff, a hynny heb ddiwrnod o oedi.
Rydym wedi dilyn cyngor a chyfarwyddyd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar hyd y pandemig, ac wedi xxxx pob cyswllt wyneb yn wyneb â phlant, pobl ifanc ac eraill. Mae pob aelod o staff wedi cael y cyfarpar angenrheidiol i weithio gartref yn llawn amser, ac mae mesurau iechyd a diogelwch angenrheidiol wedi cael eu rhoi ar waith i sicrhau bod trefniant a diogelwch gorsafoedd gwaith yn y cartref yn ddigonol.
Ym mis Medi 2020, chwe mis wedi cychwyn ar y trefniadau gwaith newydd, cyhoeddwyd adroddiad ‘Coronafeirws a Ni’, oedd yn amlinellu ein hymateb i’r pandemig fel sefydliad. Xxxx xxx o’r uchafbwyntiau:
1. Staff
a. Cefnogi staff ag amrywiol gyfrifoldebau gofalu i weithio’n hyblyg yn ystod cyfnodau clo llym, gan gynnwys pan oedd adeiladau ysgol ar gau;
b. Cynnal lefelau arferol goruchwyliaeth ar gyfer yr xxxx staff;
c. Mae ein lladmeryddion llesiant wedi cadw mewn cysylltiad rheolaidd â’r staff, ac fe ddechreuon nhw recordio podlediad staff er mwyn gallu cadw mewn cysylltiad;
d. Bu’r Xxx Rheoli yn cwrdd xxx wythnos yn ogystal â’r cyfarfod misol, er mwyn sicrhau
ymateb cyflym i faterion, pryderon a risgiau allweddol.
2. Rhaglen waith
a. Cyflawnwyd ein xxxx ymrwymiadau a amlinellwyd yn ein cynllun gwaith ar gyfer 2020|21, a gafodd ei ddrafftio a’i gymeradwyo cyn pandemig Covid-19;
b. Ymgymerwyd â darnau newydd ychwanegol o xxxxx xx mwyn sicrhau bod barn a phrofiadau plant a phobl ifanc yn cael eu clywed a bod gweithredu ar sail hynny yn ystod y pandemig, gan gynnwys dau ymgynghoriad ar raddfa fawr gyda mwy na 40,000 o blant a phobl ifanc 3-18 oed;
c. Addaswyd ein ffyrdd o estyn allan at blant a phobl ifanc, gan gynnwys trafodaethau misol gyda’n panel ymgynghorol pobl ifanc;
d. Cynhaliwyd pob cyfarfod oedd ar yr amserlen o’n Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg a’n Paneli Ymgynghorol x xxxx.
3. Seilwaith
- Buddsoddi mewn system ffôn a fideogynadledda newydd, sy’n hygyrch i’r xxxx staff x xxxx;
- Sicrhau bod yr addasiadau angenrheidiol yn cael eu gwneud yn dilyn asesiadau unigol o anghenion pob aelod staff;
- Buddsoddi mewn mesurau seiberddiogelwch o ganlyniad i ehangu ein rhwydwaith staff.
Er bod cyfraddau heintio a marwolaethau’n gostwng, mae’r pandemig yn dal yn fygythiad real i fywydau yng Nghymru. Rydym ni’n dal i weithio gartref, ac mae plant a phobl ifanc yn dal i wynebu rhwystrau yn eu bywydau beunyddiol. Rydym ni’n credu bod y risgiau canlynol yn dal i fodoli, a bod angen i ni fynd ati i roi sylw iddynt a’u rheoli:
1. Incwm: gwasgu ar gyllid cyhoeddus yn sgîl y pandemig, gydag effaith bosibl ar ein lefelau
ariannu yn y dyfodol;
2. Xxxxxx-ddiogelwch: risg fythol gynyddol bygythiadau xxxxxx-ddiogelwch, gan gynnwys elfen ychwanegol rhwydwaith ar wasgar oherwydd gweithio x xxxx;
3. Capasiti gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, i gyflawni’r newidiadau rydym ni am eu gweld i ddiogelu hawliau plant yng Nghymru, fel yr amlinellwyd yn ein cynllun strategol tair blynedd.
Fframwaith Llywodraethu
*Oddi mewn i’n fframwaith llywodraethu, diffinnir y Comisiynydd fel y xxxxx llywodraethu – sef y xxxxx xxxx â’r cyfrifoldeb cyffredinol am gyfeirio a rheoli’r sefydliad. Yn swyddfa’r Comisiynydd, mae’r Comisiynydd wedi dirprwyo rhai cyfrifoldebau i aelodau o’i thîm rheoli, ac mae hynny i gyd wedi’i amlinellu yn ein cynllun dirprwyo.
Bod yn eglur ynghylch diben a chanlyniadau'r sefydliad
Mae bod â diben sefydliadol pendant a set o amcanion clir yn un o nodweddion llywodraethu da. Ein dull cynllunio strategol yw'r dull systemig o bennu ein nodau. Mae'n galluogi'r swyddfa i gadw at ei chylch gorchwyl deddfwriaethol a chyflawni'r weledigaeth a'r amcanion a gyflwynwyd yn fy nghynlluniau strategol.
Mae'r prosesau cynllunio strategol a blynyddol yn darparu cyfeiriad strategol cyffredinol ar gyfer xxxx swyddogaethau'r swyddfa; ac yn helpu i sicrhau ein bod yn gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o adnoddau sefydliadol er mwyn mwyafu ein heffaith dros blant a phobl ifanc yng Nghymru.
Ymgysylltu â rhanddeiliaid a gwireddu atebolrwydd
Nid wyf yn comisiynu gwasanaethau nac yn darparu gwasanaethau rheng flaen. Yn hytrach, rwy’n canolbwyntio ar ddarbwyllo a chefnogi eraill i gyflwyno a gweithredu newid. Rwyf am i blant a phobl ifanc fy ngalw i gyfrif ynghylch sut mae fy nhîm a minnau wedi gweithio i ddylanwadu ar gynnydd mewn meysydd allweddol o’u bywydau.
Seiliwyd ein cynllun gwaith presennol, sy’n cwmpasu’r cyfnod o 2019-2022, ar yr ymgynghoriad mwyaf erioed gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion; bu dros 11,000 o bobl yn rhannu eu barn. Mae’r cynllun hwn yn cynnwys fy amcanion strategol ar gyfer fy nhair blynedd olaf fel Comisiynydd. Rydym wedi ymrwymo i gynnal gwerthusiad llawn o’r cynllun hwn, ac rydym yn bwriadu ei gyhoeddi ar ddiwedd fy nghyfnod yn y swydd, ym mis Ebrill 2022.
Yn ogystal ag ymgynghori ar raddfa fawr fel hyn, mae ein strategaeth gyfranogiad yn sicrhau fy mod i’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc ar draws y wlad ac yn codi llais ar eu rhan, ac mae ein polisi cynllunio strategol yn disgwyl i’n xxxx brosiectau weithio gyda phlant a phobl ifanc i gyflawni newid.
Mae ein gwaith ar weithredu ein dyletswyddau cydraddoldeb hefyd yn ein galluogi i sicrhau bod ein gwaith yn cyrraedd y rhai sydd â nodweddion gwarchodedig.
Mae fy mhanel o bobl ifanc yn rhoi cyngor a her i mi a’m xxx, a bûm yn gweithio gyda’r Senedd Ieuenctid eto eleni i drafod rhai agweddau ar fy ngwaith sy’n rhan o’u meysydd blaenoriaeth, gan gynnwys darpariaeth iechyd meddwl i blant a phobl ifanc.
Capasiti a gallu i fod yn sefydliad effeithiol
Rwy'n cydnabod bod llywodraethu'n cael ei gryfhau gan gyfranogiad pobl sydd â llawer o wahanol fathau o wybodaeth a phrofiad. Rwy'n hyderus, yn sgîl ein Fframwaith Datblygu Perfformiad, fod xxx xxx aelod o staff y sgiliau, yr wybodaeth a'r capasiti angenrheidiol i gyflawni eu cyfrifoldebau.
Fel sefydliad, rydym ni’n ymroddedig i fuddsoddi amser ac adnoddau i ddatblygu pawb sy’n gweithio yma, a datblygu systemau a strwythurau clir i gefnogi sut rydym ni’n datblygu. Yn ymarferol, mae hynny’n golygu ein bod yn:
- trefnu rhaglen sefydlu fanwl ar gyfer pob aelod newydd o staff;
- annog pob aelod o staff yn ystod eu sesiwn oruchwylio fisol i drafod eu hanghenion a’u dymuniadau dysgu a datblygu;
- myfyrio ar gyflawniadau yn ystod ein cyfarfodydd arfarnu blynyddol gyda’r xxxx staff ac yn defnyddio ein dadansoddiad anghenion hyfforddi wedi’i deilwra yn sail ar gyfer ein trafodaethau ynghylch meysydd datblygu yn y dyfodol;
- cefnogi pynciau datblygu xxx cyfan, y xxx xxxx ohonynt yn orfodol.
Hybu Gwerthoedd i'r Sefydliad ac Arddangos Gwerthoedd Llywodraethu Da trwy Gynnal Safonau Uchel o ran Ymddygiad ac Ymarfer
Mae ein gwerthoedd a'n hegwyddorion cyflawni yn sylfaen ar gyfer ein xxxx bolisïau gweithredol a staff, yn ogystal â'n strategaeth tair blynedd. Fe'u rhennir gydag aelodau newydd o staff yn ystod y cyfnod sefydlu, ac fe'u cyfathrebir yn allanol ar ein gwefan ac mewn cyhoeddiadau allweddol.
Rydym ni’n ymroddedig i alluogi a grymuso gweithwyr i gyrraedd nodau unigol, xxx a strategol, ac yn barnu bod y broses arfarnu flynyddol, pennu amcanion a phrosesau cynllunio datblygiad personol yn rhan hanfodol o gyflawni hynny.
Mae cyfres o bolisïau cyflogaeth mewnol y mae’n ofynnol i’r xxxx staff eu dilyn wrth gyflawni eu dyletswyddau ar ran y sefydliad, gan gynnwys:
- Polisi a Gweithdrefn ar gyfer Xxxxx xx Ymddygiad Anfoddhaol
- Polisi Urddas yn y Gwaith
- Egwyddorion a Gweithdrefnau Recriwtio
- Gweithdrefn ar gyfer ymdrin â Phryderon Achwyniad
- Polisi Cwynion
- Polisi Datgelu Camarfer
- Fframwaith Datblygu Perfformiad
- Gweithdrefn Absenoldeb Salwch
- Ein Hymrwymiad Llesiant
- Arweiniad i’n trefniadau gwyliau blynyddol
- Ein dull o ymdrin â’r cyfnod prawf.
Xxx xxx xxx un o’r polisïau hyn berchennog ar lefel y Xxx Rheoli, maen nhw’n cael eu trafod gydag aelodau newydd o staff yn ystod y cyfnod sefydlu, ac maen nhw’n cael eu diweddaru’n unol â chylch rheolaidd (gyda’r amserlen yn mynd gerbron y xxx rheoli). Fel cyfres, mae’r polisïau hyn yn ein helpu i feithrin diwylliant sy’n gosod gwerth ar lefel uchel o berfformiad ac yn cryfhau a gwella sut rydym ni’n cyflawni ein rolau.
Mae ein xxxx bolisïau mewnol yn cael eu hadolygu’n rheolaidd mewn cylch, ac eleni buom ni’n adolygu
ac yn diweddaru polisïau cyflogaeth allweddol ar ôl ymgynghori â’r staff. Roedd y rhain yn cynnwys:
- ein Polisi a’n Gweithdrefn ar gyfer Dysgu a Datblygu;
- arweiniad i drefniadau cyflog CPC (polisi newydd sbon);
- Fy Addewid i Gymru (sef polisi newydd sbon); a’n
- Polisi a’n Gweithdrefn ar gyfer Gweithio Gartref (a oedd yn bolisi newydd sbon).
Gwneud Penderfyniadau Gwybodus a Thryloyw sy'n Destun Craffu Effeithiol a Rheoli Risg Fel corfforaeth un person, fi sydd â'r cyfrifoldeb am wneud penderfyniadau yn y swyddfa. Fodd bynnag, rwyf wedi dirprwyo agweddau ar y penderfyniadau gweithredol i'r Xxx Rheoli. Mae rolau a chyfrifoldebau'r xxxx staff wedi'u diffinio'n glir yn eu disgrifiadau swydd ac o fewn y Fframwaith Llywodraethu. Xxx xxx xxx xxxxxxxxx amodau cyflogaeth a disgrifiadau swydd clir, sy'n nodi eu rolau a'u cyfrifoldebau.
Isod ceir crynodeb o sut rydym ni’n sicrhau ein bod yn gwneud penderfyniadau cadarn a thryloyw:
- Cylch Gorchwyl y Xxx Rheoli
Mae cylch gorchwyl y Xxx Rheoli yn cynnwys ymrwymiad i gyhoeddi agenda a chofnodion pob cyfarfod yn fewnol, fel bod y penderfyniadau a wneir yn dryloyw.
- Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg
Mae cylch gorchwyl y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg yn cynnwys ymrwymiad i gyhoeddi agenda a chofnodion pob cyfarfod. Maent yn cynhyrchu adroddiadau blynyddol, a gyhoeddir ar wefan y sefydliad, ac mae’r cadeirydd hefyd yn paratoi datganiad blynyddol i’w gynnwys yn adroddiad blynyddol y sefydliad i Brif Weinidog Cymru.
- Polisi Cynllunio Strategol
Mae ein dull o reoli prosiectau yn sicrhau bod y canlyniadau arfaethedig ar gyfer plant a phobl ifanc yn cael eu diffinio a’u cyflawni. Mae’n cynnig mecanwaith effeithiol i’r sefydliad ddiffinio canlyniadau mesuradwy, ac yn cynnwys mecanweithiau ar gyfer monitro perfformiad ar hyd pob cyfnod, gan gynnwys cynllunio, manylebau, cyflawni a gwerthuso wedi’r prosiect. Mae’r rhan fwyaf o aelodau staff wedi cael hyfforddiant rheoli prosiectau ffurfiol ac mae’r mwyafrif wedi cyflawni cymhwyster sylfaenol.
- Rheoli Risg
Y polisi hwn sy’n diffinio’r fframwaith ar gyfer rheoli risg o fewn y sefydliad. Prif ddiben y polisi yw nodi’r broses o reoli risg fel bod yr xxxx staff yn gwybod xxxx xx’n ddisgwyliedig ganddyn nhw; sicrhau bod proses rheoli risg yn cael ei chyflwyno a’i chynnal mewn modd cyson; sicrhau bod rheoli risg wedi’i wreiddio yng ngweithgareddau’r sefydliad; a hybu diwylliant sy’n ymwybodol o risg.
Mae datganiadau ynghylch parodrwydd y sefydliad i gymryd risgiau hefyd yn cael eu hadolygu a’u cyhoeddi’n flynyddol.
Rheoli Risg
Fel y nodwyd uchod, mae ein Polisi Rheoli Risg yn diffinio’r fframwaith ar gyfer rheoli risg o fewn y sefydliad. Mae’r polisi’n cydymffurfio â phrif egwyddorion Y Llyfr Xxxx: Rheoli Risg a gyhoeddwyd gan Drysorfa EM ac yn ceisio nodi’r broses o reoli risg fel bod yr xxxx staff yn gwybod xxxx xx’n ddisgwyliedig ganddyn nhw; sicrhau bod y broses o reoli risg yn cael ei chyflwyno a’i chynnal mewn modd cyson; sicrhau bod rheoli risg wedi’i wreiddio yng ngweithgareddau’r sefydliad; a hyrwyddo diwylliant sydd ag ymwybyddiaeth o risg.
Mae ein system reoli fewnol yng nghyswllt risg yn seiliedig ar broses barhaus a luniwyd i ganfod a blaenoriaethu'r risgiau o safbwynt cyflawni amcanion strategol y sefydliad a chydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnau. Mae hynny'n cynnwys gwerthuso tebygolrwydd gwireddu'r risgiau hynny ac effaith eu gwireddu ar y sefydliad ac ar blant a phobl ifanc, a'u rheoli'n effeithlon, yn effeithiol ac yn ddiwastraff. Yn ymarferol, mae hynny'n golygu bod pob aelod o staff yn derbyn bod risgiau'n anochel. Mae hefyd yn golygu, yn ymarferol, y dylai pob aelod o staff fod yn rhagweithiol wrth ganfod a rheoli risgiau, er mwyn sicrhau bod ein cynllun strategol tair blynedd yn cael ei gyflawni'n llwyddiannus.
Rydym ni’n rheoli risg ar xxxxxx xxxxx:
- Ein cofrestr risgiau gorfforaethol, sy'n nodi risgiau sy'n gysylltiedig â'n hamcanion strategol.
- Mae cofrestrau risg ein prosiectau a'r logiau materion, ar gyfer pob prosiect sy'n rhan o'n cynllun gwaith blynyddol, yn cael eu rheoli gan ein rheolwyr prosiectau, sy'n adrodd i'r Xxx Rheoli xxx mis.
- Mae ein cofrestrau risg thematig yn eu lle ar gyfer meysydd penodol o'n gwaith craidd, x.x. xxxxxx-ddiogelwch. Mae'r rhain yn cael eu cynnal gan swyddogion sy'n gyfrifol am y xxxx gwaith hwnnw.
- Mae ein cofrestrau risg xxx yn cael eu datblygu ar gyfer timau unigol o fewn y sefydliad ac yn cael eu cynnal gan bennaeth y swyddogaeth honno a’u hadolygu’n rheolaidd yn ystod sesiynau goruchwylio gyda’r Comisiynydd.
Yn ystod y cyfnod hwn, rydym ni wedi bod yn rheoli risgiau corfforaethol yn weithredol yn y meysydd canlynol:
- Gallu i gyflawni swyddogaethau statudol oherwydd adnoddau annigonol;
- Gallu/capasiti’r sefydliad i weithredu’r cynllun strategol yn sgîl pandemig Covid-19; a
- Xxxxxx-ddiogelwch a chydymffurfio â rheoliadau diogelu data.
Rydym ni’n pennu ac yn asesu’n barhaus natur a chwmpas y prif risgiau mae’r sefydliad yn xxxxx i’w cymryd i gyflawni ein hamcanion, ac rydym ni’n sicrhau bod ein cynllunio a’n penderfyniadau yn adlewyrchu’r asesiad hwnnw’n briodol. isod ceir datganiad cyffredinol ynghylch ein parodrwydd i gymryd risg.
“Ein nod yw bod yn ymwybodol o risgiau, heb fod yn rhy awyddus i osgoi risgiau, a rheoli risgiau sefydliadol yn weithredol er mwyn diogelu'r sefydliad a sicrhau ei fod yn tyfu. Er mwyn cyflawni'r nodau strategol, mae'r sefydliad yn cydnabod y bydd yn gorfod cymryd rhai risgiau a'u rheoli. Risgiau na ellir eu goddef yw rhai a allai wneud y canlynol:
1. Cael effaith negyddol ar ddiogelwch gweithwyr neu'r plant a'r bobl ifanc rydym ni'n gweithio drostyn nhw ac ar eu cyfer.
2. Niweidio gallu pobl i ymddiried yn y sefydliad a bwrw amheuaeth ar ein hygrededd.
3. Arwain at xxxxx cyfreithiau a rheoliadau.
4. Peryglu gweithrediadau'r sefydliad yn y dyfodol."
Mae’r rheolaeth ofalus ar risg wedi bod yn destun Archwilio Mewnol, yn unol â Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus. Asesiad cyffredinol Deloitte, ein harchwilwyr mewnol, yn 2020|21 oedd bod modd parhau gyda dosbarthiad o sicrwydd sylweddol yng nghyswllt rheoli risg.
Bu ein Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg hefyd yn bwrw golwg dros effeithiolrwydd y trefniadau rheoli
risg.
- Rheolaeth ariannol
Mae ein rheolaeth ariannol wedi'i seilio ar fframwaith o wybodaeth reolaidd i reolwyr a chyfres o weithdrefnau ariannol clir, sydd wedi’u hamlinellu yng nghyfres y sefydliad o bolisïau a gweithdrefnau ariannol sy’n cael eu diweddaru’n rheolaidd. Mae'r broses o adolygu gwybodaeth i reolwyr yn cynnwys monitro ac adrodd rheolaidd ar y gyllideb. Xxx mis xxx'r Xxx Rheoli yn cael eu hysbysu ynghylch sut mae'r gwariant yn cyfateb i'r gyllideb, ac mae'r Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg yn cael yr wybodaeth
honno xxx chwarter. Mae ein dull gweithredu seiliedig ar reoli prosiectau hefyd yn gofyn bod pob rheolwr prosiect yn datblygu cyllideb fanwl, a rhoddir adroddiad misol ar y rheiny yn y Xxx Rheoli.
Isod ceir datganiad o’r lefel o sicrwydd a gyflawnwyd ar gyfer pob xxxx archwilio gan ein harchwilwyr
mewnol, Deloitte:
- Systemau Ariannol: Rheolaeth Gyllidebol: Sylweddol
- Systemau Ariannol: Asedau Sefydlog: Cymedrol
- Systemau Ariannol: Bancio a Rheoli Arian: Sylweddol
- Systemau Ariannol: Trefniadau Pensiwn y Gwasanaeth Sifil: Sylweddol
Hefyd eleni, er mwyn sicrhau bod ein dull o ymdrin â rheolaeth ariannol mor gadarn â phosibl, fe wnes i gomisiynu adolygiad annibynnol o sut cafodd ein pensiynau eu rheoli’n fewnol, a rhoddwyd argymhellion yr adolygiad hwnnw ar xxxxx xxxxx. Rydym hefyd wedi parhau i sicrhau bod argymhellion adolygiad y llynedd o’n swyddogaeth gyllid yn cael eu gweithredu fwyfwy.
Rwyf hefyd yn cymryd materion sy'n ymwneud â thwyll a chamweinyddu o ddifri calon. Mae gennym bolisïau yn eu lle ar ddatgelu camarfer, gwrthweithio twyll, côd ymddygiad a chwynion.
Cyflawni'n effeithiol o ran swyddogaethau a rolau a ddiffiniwyd yn glir
Mae'r sefydliad yn cynnwys pum swyddogaeth ryng-gysylltiedig sy'n cydweithio mewn dull gweithredu xxx cyfan. Rydym ni'n cyflawni rhaglen xxxxx xx'n gwbl ryngddibynnol. Mae'r swyddogion yn cyflawni rolau arbenigol yn ôl eu harbenigedd, ond maent yn dibynnu ar rannau eraill o'r sefydliad i gyflawni'r rhaglen waith.
Xxx xxx yr xxxx bwyllgorau a phaneli ymgynghorol sy'n gysylltiedig â'r Comisiynydd Gylch Gorchwyl, a adolygir yn flynyddol, ac a gyhoeddir ar ein gwefan.
Mae'r Xxx Rheoli yn adolygu cynnydd yn erbyn ein xxxx brosiectau, a amlinellir yn y cynllun gwaith blynyddol, xxx mis. Xxx blwyddyn, trwy'r Adroddiad Blynyddol, rydym yn rhoi sylw i'r cynnydd a wnaed yn erbyn pob un o'n hamcanion strategol.
Gan fy mod mewn swydd gyhoeddus sy’n derbyn arian cyhoeddus, rwy’n ymroddedig i weithredu systemau atebolrwydd a gwneud penderfyniadau sy’n drylwyr ac yn dryloyw. Mae ein fframwaith gwerthuso wedi’i lunio i roi trosolwg o’r gwaith craidd a gyflawnir gennym a phrosesau mewnol y sefydliad. Mae'n canolbwyntio ar xxxxxx elfen: ein pobl, ein prosesau sefydliadol, cynaliadwyedd ariannol y Comisiynydd a gwerth am arian, a phlant a phobl ifanc. Trafodir yr adroddiadau hyn xxx mis yng nghyfarfodydd y Xxx Rheoli a phob chwarter yn y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg.
Mae cylch gorchwyl fy mhaneli ymgynghorol yn cynnwys gofyniad penodol iddyn nhw gynnig cyngor ystyriol i mi a'm staff, yn ôl y galw, er mwyn gwella ein heffeithiolrwydd a chyflawni fy ngofynion gwaith.
Adolygu Effeithiolrwydd
Fel Swyddog Cyfrifyddu, rwy'n gyfrifol am adolygu effeithiolrwydd y system lywodraethu, ac yn unol â Rheoli Arian Cyhoeddus yng Nghymru, a ydwyf i'n cydymffurfio â Chôd Llywodraethu Corfforaethol Swyddfa'r Cabinet. Hysbysir yr adolygiad hwn gan waith yr archwilwyr mewnol a’r Xxx Rheoli sy’n gyfrifol am ddatblygu a chynnal y fframwaith rheoli mewnol, a sylwadau’r archwilwyr allanol yn eu llythyr at y rheolwyr ac adroddiadau eraill. Rwyf hefyd wedi derbyn cyngor ynghylch effeithiolrwydd y
system lywodraethu trwy waith y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau gwelliant parhaus yn y systemau mewnol ac i ymdrin ag unrhyw wendidau wrth iddynt godi.
Roedd y broses a ddefnyddiwyd wrth gynnal ac adolygu effeithiolrwydd y fframwaith llywodraethu fel a
ganlyn:
• bu'r Xxx Rheoli wrthi ar y cyd yn trafod ac yn adolygu gweithrediad y mesurau rheoli ariannol mewnol ac ansawdd yr wybodaeth a ddarparwyd.
• cwblhaodd archwilio mewnol adolygiad o effeithiolrwydd mesurau rheoli mewnol allweddol; a
• chyfarfu’r Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg yn ystod y flwyddyn a chynghori ar oblygiadau sicrwydd a roddwyd ynghylch llywodraethu corfforaethol, rheoli risgiau a mesurau rheoli, digonoldeb y trefniadau archwilio mewnol ac allanol ac ymatebion rheolwyr i’r argymhellion archwilio.
Deloitte fu’n darparu'r gwasanaeth Archwilio Mewnol ar gyfer fy swyddfa yn ystod y cyfnod. Maent yn gweithredu’n unol â Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus. Maent yn cyflwyno adroddiadau rheolaidd sy’n cynnwys barn annibynnol ar ddigonoldeb ac effeithiolrwydd fy system rheolaeth fewnol, ynghyd ag argymhellion ar gyfer gwelliant.
Ar sail fy adolygiad effeithiolrwydd, nid oes materion rheolaeth fewnol arwyddocaol yn codi a lle bo hynny'n berthnasol, rwy'n cydymffurfio â'r egwyddorion a amlinellwyd yn y Côd Llywodraethu Corfforaethol.
Rhaglen Welliant ar gyfer Materion Llywodraethu
Gyda'm Xxx Rheoli byddaf yn parhau i fonitro'r amgylchedd rheoli mewnol a sicrhau bod y fframwaith llywodraethu yn parhau i ddiwallu anghenion y sefydliad.
Fel Swyddog Cyfrifyddu mae dyletswydd gyfreithiol arnaf fi i reoli'n briodol yr adnoddau a ddarparwyd ar fy nghyfer er mwyn i'm swyddfa gyflawni ei rhwymedigaethau statudol. Rhaid i mi sicrhau hefyd fod trefniadau wedi'u rhoi ar waith i sicrhau bod fy swyddfa'n cael ei rheoli a'i llywodraethu'n briodol. Mae'r Datganiad Llywodraethu hwn wedi darparu disgrifiad manwl o'r trefniadau hyn.
Ardystiad gan y Swyddog Cyfrifyddu
Rwyf wedi fy sicrhau bod y system lywodraethu a fu'n weithredol yn fy swyddfa yn ystod 2020|21 wedi bod yn un gadarn. Ar sail yr adolygiad o effeithiolrwydd y systemau rheoli mewnol, rwyf wedi fy sicrhau bod y trefniadau presennol yn diwallu anghenion y swyddfa ac yn sicrhau eu bod yn cydymffurfio xx xxxxx gorau.
Xxxxx Xxxxxxx
Yr Athro Xxxxx Xxxxxxx
Comisiynydd Plant Cymru a Swyddog Cyfrifyddu 14 Gorffennaf 2021
Adroddiad Taliadau Cydnabyddiaeth a Staff Taliadau i Aelodau Uwch o’r Xxx Rheoli
Gweinidogion Cymru sy’n pennu’r taliad i Gomisiynydd Plant Cymru, yn unol ag Atodlen 2 paragraff 3 o
Ddeddf Safonau Gofal 2000.
Yn achos aelodau eraill y Xxx Rheoli, pennwyd y taliadau cydnabyddiaeth gan Gomisiynydd Plant Cymru, ar sail cyfarwyddyd gan arbenigwyr recriwtio yn y gwasanaeth sifil.
Mae'r adrannau canlynol, a fu'n destun archwilio, yn darparu manylion am daliadau cydnabyddiaeth a
buddiannau pensiwn y swyddogion uchaf sydd â chyfrifoldeb dirprwyedig yn swyddfa'r Comisiynydd:
Cyflog £000* | Buddion mewn nwyddau (i’r £100 agosaf)* | Buddion Pensiwn (i’r £1000 agosaf)* | Cyfans wm £000* | |||||
2020- 21 | 2019- 20 | 2020-21 | 2019- 20 | 2020-21 | 2019- 20 | 2020- 21 | 2019- 20 | |
Yr Athro Xxxxx Xxxxxxx – Comisiynydd Plant Cymru. | 90 - 95 | 90 - 95 | - | - | 36,000 | 36,000 | 126 - 131 | 126 - 131 |
Xxxx Xxxxxx – Pennaeth Cyfathrebu a Pherfformiad. | 60 - 65 | 55 - 60 | - | - | 24,000 | 21,000 | 84 - 89 | 76 - 81 |
Xxxx Xxxxxxxxxx – Pennaeth Ymarfer. | 60 - 65 | 55 - 60 | - | - | 31,000 | 22,000 | 91 - 96 | 77 -82 |
Xxxxxx Xxxxxx – Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus**. | 50 - 55 | 40 - 45 | - | - | - | - | 57 - 62 | 45 - 50 |
* Mae’r wybodaeth hon yn destun archwiliad.
*** Mae’r golofn Cyflogau yn cynnwys Lwfans Gweithio Gartref o £26 y mis, ac mae Xxxx Xxxxxxxxxx yn derbyn lwfans llesiant o £250.
Taliadau Canolrif
2020-21 | 2019-20 | ||
Band taliadau’r unigolyn y telir y symiau mwyaf iddo/iddi (£000) | 90 - 95 | Band taliadau’r unigolyn y telir y symiau mwyaf | 90 - 95 |
iddo/iddi (£000) | |||
Cyfanswm y Canolrif | 33,338 | Cyfanswm y Canolrif | 31,187 |
Cymhareb | 1:2.77 | Cymhareb | 1:2.96 |
Mae'n ofynnol fy mod yn datgelu'r berthynas rhwng y taliad a wnaed i'r unigolyn a dderbyniodd y cyflog uchaf a chanolrif taliadau'r gweithwyr. Band taliadau'r unigolyn a dderbyniodd y taliad uchaf yn 2020-21 oedd £90,000 - £95,000 (2019-20: £90,000 - £95,000). Rwyf wedi defnyddio pwynt canol yr ystod hon, sef £92,500, i gymharu'r symiau hyn, a chael cymhareb o 2.77 gwaith (2019-20: 2.96) taliad canolrif y gweithwyr. Y rheswm am y symudiad rhwng y cyfnodau yw’r ffaith bod unigolion wedi cyrraedd pwynt uchaf eu bandiau cyflog; a chymhwyso cynnydd costau byw ar gyfer pob gradd yn ystod y cyfnod. Mae cyfanswm y taliadau yn cynnwys y cyflog a'r buddion mewn nwyddau. Nid yw'n cynnwys cyfraniadau cyflogwr i bensiwn na gwerth trosglwyddo ariannol cyfatebol pensiynau.
Iawndal a dalwyd, Dyfarniadau Sylweddol i Uwch Reolwyr Blaenorol
Yn ystod y cyfnod 2020-21 ni wnaed taliadau iawndal na dyfarniadau sylweddol i uwch-reolwyr blaenorol.
Buddion Pensiwn – Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil
Pensiwn a Gronnwyd £000 | Cynnydd gwirioneddol yn y pensiwn* | CETV(i) ar 31.3.21* | CETV(i) ar 31.3.20* | Cynnydd / (gostyngiad) gwirioneddol yn CETV(ii)* | |
£000 | £000 | £000 | £000 | ||
Yr Athro Xxxxx Xxxxxxx – Comisiynydd Plant Cymru. | 10 - 15 | 0 – 2.5 | 163 | 130 | 21 |
Xxxx Xxxxxx – Pennaeth Cyfathrebu a Pherfformiad. | 0 – 5 | 0 – 2.5 | 21 | 8 | 8 |
Xxxx Xxxxxxxxxx – Pennaeth Ymarfer. | 45 – 50 | 0 – 2.5 | 724 | 676 | 22 |
Xxxxxx Xxxxxx – Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus. | Nodyn 1 | Nodyn 1 | Nodyn 1 | Nodyn 1 | Nodyn 1 |
* Mae’r wybodaeth hon yn destun archwiliad.
Y Cynllun Pensiwn
Darperir buddion pensiwn trwy drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil. O 30 Gorffennaf 2007, gall gweision sifil fod yn rhan o un o bedwar cynllun buddion diffiniedig; xxxxx xx cynllun ‘cyflog terfynol’
(classic, premium neu classic plus); neu gynllun ‘gyrfa gyfan’ (nuvos). Nid yw’r trefniadau statudol hyn yn cael eu hariannu, a thelir am gost y buddion ag xxxxx xx'n destun pleidlais gan y Senedd xxx blwyddyn; ac xx xxx cynlluniau buddion diffiniedig yw'r rhain, nid oes modd datgelu swm eu hasedau a'u hatebolrwydd. Mae’r pensiynau sy’n daladwy o xxx classic, premium, classic plus a nuvos yn cael eu cynyddu’n flynyddol yn unol â newidiadau i’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI). Gall aelodau sy’n ymuno o Hydref 2002 ddewis xxxxx xx’r trefniant buddion priodol diffiniedig neu bensiwn rhanddeiliad ‘prynu arian’ o ansawdd da, gyda chyfraniad sylweddol gan y cyflogwr (cyfrif pensiwn partneriaeth).
Pennir cyfraniadau'r gweithwyr ar ganran o'r enillion pensiynadwy ar gyfer classic, premium, classic plus a nuvos. Mae’r buddion classic yn cronni ar gyfradd o 1/80fed o’r enillion pensiynadwy terfynol am xxx blwyddyn o wasanaeth. Ar ben hynny, mae cyfandaliad sy’n cyfateb i dair blynedd o bensiwn yn daladwy adeg ymddeol. Yn achos y premium, mae’r buddion yn cronni ar gyfradd o 1/60fed o’r enillion pensiynadwy terfynol am xxx blwyddyn o wasanaeth. Yn wahanol i’r classic, nid oes cyfandaliad awtomatig. Cyfuniad o’r ddau yw classic plus yn y bôn, gyda buddion yng nghyswllt gwasanaeth cyn 1 Hydref 2002 yn cael eu cyfrifo’n fras fel yn achos y classic a’r buddion am wasanaeth o fis Hydref 2002 yn cael eu cyfrifo fel yn achos y premium. Yn nuvos mae aelod yn crynhoi pensiwn ar sail ei enillion pensiynadwy yn ystod cyfnod ei aelodaeth o’r cynllun. Ar ddiwedd blwyddyn y cynllun (31 Mawrth) mae cyfrif yr aelod ar gyfer y pensiwn a enillwyd yn cael ei gredydu â 2.3 y cant o’i enillion pensiynadwy yn ystod y flwyddyn honno o’r cynllun, a chaiff y pensiwn a gronnwyd ei uwchraddio yn unol â’r Mynegai Prisiau Adwerthu (RPI). Ym mhob achos gall aelodau ddewis ildio (cymudo) pensiwn am gyfandaliad hyd at y terfynau a bennwyd gan Ddeddf Cyllid 2004.
Trefniant pensiwn rhanddeiliaid yw’r cyfrif pensiwn partneriaeth. Mae’r cyflogwr yn gwneud cyfraniad sylfaenol o rhwng 3 y cant a 14.75 y cant (yn dibynnu ar oedran yr aelod) i mewn i gynnyrch pensiwn rhanddeiliaid a ddewiswyd gan y cyflogai o banel o ddarparwyr. Nid oes rhaid i’r cyflogai gyfrannu, ond lle bo’n dewis gwneud hynny, bydd y cyflogwr yn gwneud taliadau cyfatebol i’r rhain hyd at derfyn o 3 y cant o’r cyflog pensiynadwy (yn ogystal â chyfraniad sylfaenol y cyflogwr). Mae cyflogwyr hefyd yn cyfrannu 0.8 y cant arall o’r cyflog pensiynadwy i dalu am gost yswiriant buddion risg a ddarperir yn ganolog (marw yn eu gwaith ac ymddeol oherwydd afiechyd).
Y pensiwn cronnol a ddyfynnwyd yw’r pensiwn y gall yr aelod ei hawlio wrth gyrraedd oedran pensiwn, neu ar unwaith pan fydd yn peidio â bod yn aelod gweithredol o’r cynllun os ydyw eisoes wedi cyrraedd oedran pensiwn neu’n hŷn. Oedran pensiwn yw 60 yn achos aelodau classic, premium a classic plus a 65 yn achos aelodau nuvos.
Mae manylion pellach am drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil ar gael ar y wefan www.civilservice- xxxxxxxx.xxx.xx
(i) Gwerthoedd Trosglwyddo sy’n Gyfwerth ag Xxxxx Xxxxx (CETV)
Gwerth Trosglwyddo sy’n Gyfwerth ag Xxxxx Xxxxx (CETV) yw gwerth cyfalafol asesedig actiwari y buddion cynllun pensiwn a gronnwyd gan aelod ar adeg benodol. Y buddion a brisir yw’r buddion a gronnwyd gan yr aelod ac unrhyw bensiwn sy’n daladwy i briod amodol o’r cynllun. Taliad yw CETV a wneir gan gynllun neu drefniant pensiwn i sicrhau buddion pensiwn mewn cynllun neu drefniant pensiwn arall pan fo’r aelod yn gadael cynllun ac yn dewis trosglwyddo’r buddion a gronnwyd yn y cynllun blaenorol. Mae’r ffigurau pensiwn a ddangosir yn gysylltiedig â’r buddion y mae’r unigolyn wedi’u cronni o ganlyniad i gyfanswm eu haelodaeth o’r cynllun pensiwn, nid eu gwasanaeth mewn swydd uwch y mae datgelu’n berthnasol iddi yn unig. Mae’r ffigurau’n cynnwys gwerth unrhyw fuddion pensiwn mewn cynllun arall y mae’r unigolyn wedi’u trosglwyddo i drefniadau pensiwn y Prif Wasanaeth
Sifil. Maent hefyd yn cynnwys unrhyw fuddion pensiwn ychwanegol a gronnwyd i’r aelod o ganlyniad i brynu buddion pensiwn ychwanegol ar eu cost eu hun. Cyfrifir CETVs o fewn y canllawiau a’r fframwaith a ragnodwyd gan Sefydliad a Chyfadran yr Actiwariaid ac nid ydynt yn rhoi sylw i unrhyw ostyngiad gwirioneddol na phosibl i fuddion yn sgîl Treth Lwfans Oes y gall fod xxxxx xx thalu pan dynnir buddion pensiwn.
(ii) Cynnydd gwirioneddol mewn CETV
Mae hyn yn adlewyrchu’r cynnydd mewn CETV y telir amdano i xxx pwrpas gan y cyflogwr. Nid yw’n cynnwys y cynnydd yn y pensiwn a gronnwyd yn sgîl chwyddiant, cyfraniadau a dalwyd gan y cyflogai (gan gynnwys gwerth unrhyw fuddion a drosglwyddwyd o gynllun pensiwn arall), ac mae’n defnyddio ffactorau prisio’r farchnad gyffredin ar gyfer dechrau a diwedd y cyfnod.
Newidiadau i Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil
O 1af Ebrill 2015 daeth cynllun pensiwn newydd, o'r enw Alpha, yn weithredol. Mae'r cynllun Alpha yn disodli'r cynlluniau classic, premium, classic plus a nuvos. Trosglwyddodd mwyafrif y staff yn uniongyrchol i Alpha ar 1af Ebrill 2015.
Niferoedd Staff a Chostau Cysylltiedig
2020-21 £000 | 2019-20 £000 | |||
Staff a Gyflogir yn Barhaol | Arall | Cyfanswm | Cyfanswm | |
Tâl a Chyflogau | 953 | 3 | 956 | 923 |
Costau Nawdd Cymdeithasol | 96 | - | 96 | 94 |
Costau Pensiwn | 228 | - | 228 | 208 |
Is-gyfanswm | 1,277 | 3 | 1,280 | 1,225 |
Costau ar gyfer secondiadau i mewn | - | - | - | 14 |
Llai adenillion ar gyfer secondiadau xxxxx | (22) | - | (22) | (25)
|
Cyfanswm Costau Net | 1,255 | 3 | 1,258 | 1,214 |
a) Dyma’r costau staff ar gyfer y flwyddyn:
Ar gyfer 2020-21, roedd cyfraniadau cyflogwr o £207,236 yn daladwy i PCSPS (2019-20: £183,458) ar un x xxxxxx cyfradd yn yr ystod o 16.7 y cant i 24.3 y cant o'r tâl pensiynadwy, ar sail bandiau cyflog. Mae Actiwari'r Cynllun yn adolygu cyfraniadau'r cyflogwr, fel xxxxx xxx pedair blynedd, yn dilyn prisiad llawn
o'r cynllun. Pennir cyfraddau'r cyfraniadau i dalu am gost y buddion a dalwyd i bensiynwyr cyfredol yn ystod y cyfnod hwn.
Gall gweithwyr ddewis agor cyfrif pensiwn partneriaeth, neu bensiwn rhanddeiliad gyda chyfraniad cyflogwr. Roedd cyfraniadau cyflogwr o £19,445 yn daladwy i un darparwyr pensiwn rhanddeiliaid (2019-20: £23,512). Mae cyfraniadau cyflogwr yn gysylltiedig ag oed, ac yn amrywio o 3 i 12.5 y cant o'r cyflog pensiynadwy (2019-20: 3 i 12.5 y cant). Mae cyflogwyr hefyd yn gwneud tâl sy’n cyfateb i gyfraniadau’r gweithwyr, hyd at 3 y cant o’r cyflog pensiynadwy. Ar ben hynny, roedd cyfraniadau cyflogwr o £1,075, neu 0.8 y cant o’r cyflog pensiynadwy, yn daladwy i PCSPS i dalu am gost darparu buddion cyfandaliad yn y dyfodol yn sgîl marwolaeth yn ystod gwasanaeth ac ymddeoliad gweithwyr oherwydd afiechyd (2019-20: £822 neu 0.8 y cant). Nid oedd symiau’n ddyledus i ddarparwyr pensiwn y bartneriaeth ar 31 Mawrth 2021, (2019-20: £13,746). Mae’r xxxx gyfraniadau hyn wedi’u cynnwys yn y costau Pensiwn.
Yn 2020-21 gwnaed taliadau o £20,306 i ddarparwyr pensiwn rhanddeiliaid am gyfraniadau blaenorol oedd heb eu talu yn y flwyddyn ariannol gywir, yn ogystal â thaliad am golli buddsoddiad.
b) Roedd nifer cyfartalog y personau cyfwerth amser llawn a gyflogwyd (gan gynnwys uwch reolwyr) yn ystod y cyfnod fel a ganlyn:
2020-21 | 2019-20 | |||
Staff a Gyflogir yn Barhaol | Arall | Cyfanswm | Cyfanswm | |
Cyflogeion Uniongyrchol | 20.46 | 0.8 | 21.26 | 21.76 |
Cyfanswm | 20.46 | 0.8 | 21.26 | 21.76 |
Paratoi Adroddiadau ar Gynlluniau Iawndal y Gwasanaeth Sifil ac Eraill - Pecynnau Ymadael: Yn ystod y cyfnod 2020-21 ni wnaed taliadau iawndal na phecynnau ymadael i gyn-weithwyr. Talwyd costau dileu swyddi a chostau ymadael eraill yn unol â darpariaethau Cynllun Iawndal y
Gwasanaeth Sifil, cynllun statudol a luniwyd o xxx Ddeddf Blwydd-daliadau 1972. Lle bo'r Comisiynydd wedi cytuno ar ymddeoliadau cynnar, telir am y costau ychwanegol gan y Comisiynydd, ac nid gan gynllun pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Telir am gostau ymddeoliad oherwydd afiechyd gan y cynllun pensiwn, ac nid ydynt wedi eu cynnwys yn y tabl.
Codir costau llawn yr ymadawiad ar y Datganiad o Wariant Net Cynhwysfawr ym mlwyddyn gwneud y penderfyniad. Credydir y symiau sy'n daladwy mewn blynyddoedd i ddod i ddarpariaeth a ddefnyddir pan wneir y taliadau.
Comisiynydd Plant Cymru a Swyddog Cyfrifyddu 14 Gorffennaf 2021
Tystysgrif ac adroddiad archwilydd annibynnol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru i’r Senedd
Barn ar y datganiadau ariannol
Rwy’n tystio fy mod wedi archwilio datganiadau ariannol Comisiynydd Plant Cymru ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2021 o xxx baragraff 9(2) o atodlen 2 i Ddeddf Safonau Gofal 2000. Maent yn cynnwys y Datganiad o Wariant Net Cynhwysfawr, Datganiad o’r Sefyllfa Ariannol, Datganiad o Lifoedd Arian, Datganiad o Newidiadau yn Ecwiti Trethdalwyr a'r nodiadau cysylltiedig, gan gynnwys crynodeb o’r polisïau cyfrifo arwyddocaol. Paratowyd y datganiadau ariannol hyn o xxx y polisïau cyfrifo a gyflwynwyd ynddynt. Y fframwaith adroddiadau ariannol a ddefnyddiwyd wrth eu paratoi yw'r gyfraith berthnasol a’r safonau cyfrifo rhyngwladol, fel y’u dehonglwyd a’u haddaswyd yn Llawlyfr Adroddiadau Ariannol Trysorlys Ei Mawrhydi.
Yn fy marn i mae'r datganiadau ariannol:
• yn rhoi darlun gwir a theg o sefyllfa materion Comisiynydd Plant Cymru ar 31 Mawrth 2021 a'r gwariant net ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i xxx xxxx hynny;
• wedi cael eu paratoi’n briodol yn unol â chyfarwyddyd Gweinidogion Cymru a gyflwynwyd o xxx Ddeddf Safonau Gofal 2000.
Barn ynghylch rheoleidd-dra
Yn fy marn i, ym mhob ystyr bwysig, mae’r gwariant a’r incwm yn y datganiadau ariannol wedi cael eu cymhwyso i’r pwrpasau a fwriadwyd gan y Senedd, ac mae’r trafodion ariannol a gofnodwyd yn y datganiadau ariannol yn cydymffurfio â’r awdurdodau sy’n eu llywodraethu.
Y sail ar gyfer fy marn
Cynhaliais fy archwiliad yn unol â'r gyfraith berthnasol a Safonau Archwilio Rhyngwladol yn y Deyrnas Unedig (ISAs (UK)) a Nodyn Ymarfer 10 Audit of Financial Statements of Public Sector Entities in the United Kingdom. Disgrifir fy nghyfrifoldebau o xxx y safonau hynny ymhellach yn adran cyfrifoldebau'r archwilydd am archwilio datganiadau ariannol yn fy adroddiad. Rwy'n annibynnol ar y xxxxx, yn unol â'r gofynion moesegol sy'n berthnasol i'm harchwiliad o'r datganiadau ariannol yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Safon Foesegol y Cyngor Adroddiadau Ariannol, ac rwyf wedi cyflawni fy nghyfrifoldebau moesegol eraill yn unol â'r gofynion hyn. Rwy'n credu bod y dystiolaeth archwilio a gefais yn ddigonol ac yn briodol i ddarparu sylfaen ar gyfer fy marn.
Casgliadau sy’n ymwneud â busnes gweithredol
Wrth archwilio’r datganiadau ariannol, rwyf wedi dod i’r casgliad bod y defnydd o sail cyfrifo busnes
gweithredol yn briodol wrth baratoi’r datganiadau ariannol.
Ar sail y gwaith a gyflawnais, nid wyf wedi nodi unrhyw ansicrwydd pwysig ynghylch digwyddiadau neu amodau a allai, yn unigol neu ar y cyd, fwrw amheuaeth sylweddol ar allu’r xxxxx i barhau i fabwysiadu’r sail cyfrifo busnes gweithredol am gyfnod o 12 mis o leiaf o’r adeg pryd yr awdurdodwyd rhyddhau’r datganiadau ariannol.
Disgrifir fy nghyfrifoldebau i a chyfrifoldebau Comisiynydd Plant Cymru yng nghyswllt busnes gweithredol yn yr adrannau perthnasol o’r adroddiad hwn.
Gwybodaeth arall
Mae’r wybodaeth arall yn cynnwys yr wybodaeth a geir yn yr adroddiad blynyddol, heblaw’r datganiadau ariannol a’m hadroddiad innau arnynt fel archwilydd. Nid yw deddfwriaeth a
chyfarwyddiadau a roddwyd i Gomisiynydd Plant Cymru yn pennu cynnwys a ffurf yr wybodaeth arall sydd i'w chyflwyno gyda'r datganiadau ariannol. Comisiynydd Plant Cymru sy'n gyfrifol am yr wybodaeth arall yn yr adroddiad blynyddol. Nid yw fy marn ar y datganiadau ariannol yn cwmpasu'r wybodaeth arall, a heblaw am i'r graddau fel arall a nodir yn benodol yn fy adroddiad, nid wyf yn mynegi unrhyw fath o gasgliad na sicrwydd yn ei chylch. Fy nghyfrifoldeb i yw darllen yr wybodaeth arall, ac wrth wneud hynny, ystyried a oes anghysondebau pwysig â'r datganiadau ariannol neu â gwybodaeth a gafwyd wrth gynnal yr archwiliad, neu a yw’n ymddangos yn gamddatganiad ffeithiol. Os deuaf yn ymwybodol o unrhyw gamddatganiadau ymddangosiadol pwysig neu anghysondebau, mae gofyn fy mod yn ystyried a yw hynny’n achosi camddatganiad pwysig yn y datganiadau ariannol eu hunain. Os deuaf i’r casgliad, ar sail y gwaith a gyflawnais, fod camddatganiad pwysig yn yr wybodaeth arall hon, mae’n ofynnol fy mod yn adrodd y ffaith honno.
Nid oes gennyf ddim i’w adrodd yn hyn o xxxx.
Adroddiad ar ofynion eraill Barn ar faterion eraill
Gan nad yw'r ddeddfwriaeth a'r cyfarwyddiadau a roddwyd i Gomisiynydd Plant Cymru yn pennu cynnwys a ffurf yr wybodaeth arall sydd i'w chyflwyno gyda'r datganiadau ariannol, ni allaf gadarnhau bod yr wybodaeth arall wedi cael ei pharatoi'n unol â’r canllawiau. Yn fy marn i, ar sail y gwaith a wnaed fel rhan o'm harchwiliad, mae'r wybodaeth a roddwyd yn Adroddiad y Cyfarwyddwyr, y Datganiad Llywodraethu Blynyddol a’r Adroddiad Taliadau Cydnabyddiaeth yn cyd-fynd â’r datganiadau ariannol.
Er nad oes gofyniad deddfwriaethol i greu Adroddiad Taliadau Cydnabyddiaeth, mae Comisiynydd Plant Cymru wedi paratoi’r cyfryw adroddiad, ac yn fy marn i, mae’r rhan honno y mae fel arfer yn ofynnol ei harchwilio wedi cael ei pharatoi’n unol â chanllawiau Trysorfa Ei Mawrhydi.
Materion yr wyf yn adrodd arnynt yn ôl eithriad
Yng ngoleuni'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth o'r xxxxx a'i amgylchedd a gafwyd fel rhan o'r archwiliad, nid wyf wedi nodi camddatganiadau pwysig yn yr wybodaeth arall sydd i’w chyflwyno gyda'r datganiadau ariannol.
Nid oes gennyf ddim i'w adrodd ynghylch y materion canlynol, lle byddaf yn adrodd i chi os bydd y canlynol yn wir, yn fy marn i:
• os na chadwyd cofnodion cyfrifo priodol, neu na dderbyniwyd ffurflenni digonol ar gyfer fy archwiliad gan ganghennau na fy fu nhîm yn ymweld â nhw;
• os nad yw'r datganiadau ariannol a'r rhan o'r Adroddiad Taliadau Cydnabyddiaeth sydd i'w harchwilio yn cyd-fynd â'r cofnodion a'r ffurflenni cyfrifyddu; neu
• os nad wyf wedi derbyn yr xxxx wybodaeth ac esboniadau y mae eu xxxxxx arnaf ar gyfer fy archwiliad.
Cyfrifoldebau
Cyfrifoldebau Comisiynydd Plant Cymru am y datganiadau ariannol
Fel yr esboniwyd yn llawnach yn y Datganiad o Gyfrifoldebau'r Swyddog Cyfrifyddu, Comisiynydd Plant Cymru sy'n gyfrifol am baratoi'r datganiadau ariannol yn unol â Deddf Safonau Gofal 2000 a'r cyfarwyddyd a wnaed xxxx xxxx gan Weinidogion Cymru, er mwyn cael eu bodloni bod y farn a roddir ynddynt yn wir a theg, ac er mwyn sicrhau'r mesurau rheoli mewnol y mae Comisiynydd Plant Cymru'n barnu bod angen amdanynt, er mwyn medru paratoi datganiadau ariannol sydd heb gamddatganiadau pwysig, p'un ai twyll neu wall sy'n gyfrifol am hynny.
Wrth baratoi'r datganiadau ariannol, Comisiynydd Plant Cymru sy'n gyfrifol am asesu gallu'r xxxxx i barhau fel busnes gweithredol, gan ddatgelu yn ôl y galw faterion sy'n ymwneud â gweithrediad y busnes, a defnyddio'r sylfaen busnes gweithredol ar gyfer cyfrifyddu, oni bai bod hynny'n cael ei farnu'n amhriodol.
Cyfrifoldebau’r Archwilydd am archwilio’r datganiadau ariannol
Fy amcanion i yw caffael sicrwydd rhesymol ynghylch a yw'r datganiadau ariannol yn eu crynswth yn rhydd rhag camddatganiadau pwysig, boed hynny oherwydd twyll neu wall, a chyflwyno adroddiad archwilydd sy'n cynnwys fy marn. Mae sicrwydd rhesymol yn lefel uchel o sicrwydd, ond nid yw'n warant y bydd archwiliad a gynhelir yn unol ag ISAs (UK) xxx amser yn canfod camddatganiad pwysig pan fydd yn codi. Xxxx camddatganiadau ddeillio o dwyll neu wall, a bernir eu bod yn bwysig os gellid disgwyl yn rhesymol iddynt, yn unigol neu ar y cyd, ddylanwadu ar benderfyniadau economaidd defnyddwyr a wneir ar sail y datganiadau ariannol hyn.
Elennau afreolaidd, gan gynnwys twyll, yw enghreifftiau o beidio â chydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau. Rwy’n dylunio gweithdrefnau yn unol â’m cyfrifoldebau, a amlinellwyd uchod, i ganfod camddatganiadau pwysig yng nghyswllt elfennau afreolaidd, gan gynnwys twyll.
Roedd fy ngweithdrefnau’n cynnwys y canlynol:
• Holi’r rheolwyr, Comisiynydd Plant Cymru a’r rhai hynny oedd yn gyfrifol am lywodraethu, ynghylch polisïau a gweithdrefnau Comisiynydd Plant Cymru oedd yn ymwneud â’r canlynol:
▪ nodi, gwerthuso a chydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau ac a oeddent yn ymwybodol o unrhyw achosion o beidio â chydymffurfio;
▪ canfod ac ymateb i risgiau twyll, ac a ydynt yn gwybod am unrhyw dwyll gwirioneddol, a amheuir, neu honedig; a’r
▪ mesurau rheoli mewnol a sefydlwyd i liniaru’r risgiau cysylltiedig â thwyll neu beidio â chydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau.
• Ystyried, fel xxx archwilio, sut a ble gallai twyll ddigwydd yn y datganiadau ariannol, ac unrhyw ddangosyddion twyll posibl. Fel rhan o’r drafodaeth, nodais fod potensial o safbwynt twyll yn y meysydd canlynol: cydnabod refeniw a phostio dyddlyfrau anghyffredin;
• Sicrhau dealltwriaeth o fframwaith awdurdod Comisiynydd Plant Cymru, yn ogystal â’r fframweithiau cyfreithiol a rheoliadol eraill mae Comisiynydd Plant Cymru yn gweithredu oddi mewn iddynt, gan ganolbwyntio ar y cyfreithiau a’r rheoliadau hynny a gafodd effaith uniongyrchol ar y datganiadau ariannol, neu effaith waelodol ar weithrediadau Comisiynydd Plant Cymru.
Yn ogystal â’r uchod, roedd fy ngweithdrefnau ar gyfer ymateb i risgiau a nodwyd yn cynnwys y canlynol:
• adolygu’r datgeliadau yn y datganiad ariannol a’u profi yn erbyn y dogfennau ategol er mwyn asesu cydymffurfiaeth â’r cyfreithiau a’r rheoliadau perthnasol a drafodwyd uchod;
• holi’r rheolwyr a’r Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg ynghylch ymgyfreitha a hawliadau gwirioneddol a phosibl;
• darllen cofnodion cyfarfodydd y rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu;
• wrth roi sylw i risg twyll petai rheolwyr yn trechu’r mesurau rheoli, profi priodoldeb yr hyn a nodwyd mewn dyddlyfrau ac addasiadau eraill; asesu a yw’r dyfarniadau a wnaed wrth greu amcangyfrifon cyfrifo yn arwydd o fias posibl; a gwerthuso rhesymeg fusnes unrhyw drafodion sylweddol sy’n anghyffredin neu y tu xxxxx i’r cylch gwaith arferol.
Bûm hefyd yn trafod y cyfreithiau a’r rheoliadau perthnasol a nodwyd xxxx xxxx aelodau’r xxx archwilio, ac yn parhau’n effro i unrhyw arwyddion o dwyll neu beidio â chydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau ar hyd yr archwiliad.
Effeithir ar i xx xxxxxx y xxxx fy ngweithdrefnau ganfod afreoleidd-dra, gan gynnwys twyll, gan anhawster cynhenid canfod afreoleidd-dra, effeithiolrwydd mesurau rheoli Comisiynydd Plant Cymru, a natur, amseriad a chwmpas y gweithdrefnau archwilio a gyflawnwyd.
Ceir disgrifiad pellach o gyfrifoldebau’r archwilydd am archwilio’r datganiadau ariannol ar wefan y Cyngor Adroddiadau Ariannol (FRC) xxx.xxx.xxx.xx/xxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxx. Mae’r disgrifiad hwn yn rhan o’m hadroddiad fel archwilydd.
Cyfrifoldebau o ran rheoleidd-dra
Comisiynydd Plant Cymru sy’n gyfrifol am sicrhau rheoleidd-dra’r trafodion ariannol.
Mae’n ofynnol fy mod innau’n casglu tystiolaeth ddigonol i roi sicrwydd rhesymol bod y gwariant a’r incwm wedi cael eu defnyddio at y dibenion a fwriadwyd gan y Senedd, a bod y trafodion ariannol yn cydymffurfio â’r awdurdodau sy’n eu llywodraethu.
Adroddiad
Nid oes gennyf unrhyw sylwadau i’w gwneud ar y datganiadau ariannol hyn.
Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi ardystio’r cyfrifon hyn yn y ffurf y cawsant eu drafftio’n wreiddiol. Cyfieithiad o’r fersiwn Saesneg gwreiddiol yw’r fersiwn hwn. Comisiynydd Plant Cymru sydd yn gyfrifol am gywirdeb y cyfieithiad, nid yr Archwilydd Cyffredinol.
Xxxxxx Xxxxxxxx
Xxxxxx Xxxxxxxx 24 Heol y Gadeirlan
Archwilydd Cyffredinol Cymru Caerdydd
15 Gorffennaf 2021 CF11 9LJ
Datganiad o Wariant Net Cynhwysfawr ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2021 | ||||
2020-21 | 2019-20 | |||
Gwariant | Nodyn | £000 | £000 | |
Costau gweinyddu: | ||||
Costau staff | ||||
2.3 | 1,258 | 1,214 | ||
Dibrisiad | ||||
2.2 | 17 | 17 | ||
Costau Gweinyddu Eraill | ||||
2.1 | 425 | 413 | ||
1,700 | 1,644 | |||
Incwm | ||||
Incwm o Weithgareddau | ||||
- | - | |||
Incwm Arall | ||||
- | - | |||
- | - | |||
Gwariant Net | ||||
1,700 | 1,644 | |||
Llog taladwy/derbynadwy | ||||
- | - | |||
Gwariant Net ar ôl llog | ||||
1,700 | 1,644 | |||
Gwariant Arall Cynhwysfawr | ||||
2020-21 | 2019-20 | |||
Nodyn | £000 | £000 | ||
Enillion/(colled) net o ran ailbrisio Peiriannau a Chyfarpar | - | - | ||
Cyfanswm y Gwariant Cynhwysfawr ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2021 | 1,700 | 1,644 |
Mae’r xxxx incwm a gwariant yn deillio o weithrediadau parhaus. Nid oes enillion na cholledion ac eithrio'r
rhai yr adroddwyd amdanynt yn y Datganiad o Wariant Net Cynhwysfawr.
Mae'r Comisiynydd yn derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r nodiadau ar dudalennau 32 i 39 yn rhan o’r cyfrifon hyn
Datganiad o’r Sefyllfa Ariannol ar 31 Mawrth 2021 | ||||||
2021 | 2020 | |||||
£000 | £000 | £000 | £000 | |||
Nodyn | ||||||
Asedau anghyfredol: | ||||||
Eiddo, peiriannau a chyfarpar | 4 | 14 | 26 | |||
Asedau cyfredol: | ||||||
Elfennau masnach ac eraill derbyniadwy | 32 | |||||
5 | 51 | |||||
Xxxxx xxxxx a’r hyn sy’n cyfateb iddo | 6 | 179 | 211 | 262 | 313 | |
Cyfanswm Asedau | 225 | 339 | ||||
Rhwymedigaethau cyfredol: | ||||||
Elfennau masnach ac eraill taladwy | 7 | (52) | (52) | (91) | (91) | |
Cyfanswm Asedau llai rhwymedigaethau cyfredol | 173
| 248
| ||||
Rhwymedigaethau anghyfredol: | ||||||
Darpariaeth ar gyfer rhwymedigaethau a thaliadau | (122) | |||||
13 | (122) | (77) | (77) | |||
Cyfanswm Asedau llai cyfanswm rhwymedigaethau | 51 | |||||
| 171 | |||||
Ecwiti Trethdalwyr: | ||||||
Cronfa gyffredinol | 51 | 171 |
Xxxxx Xxxxxxx
Comisiynydd Plant Cymru a Swyddog Cyfrifyddu 14 Gorffennaf 2021
Mae’r nodiadau ar dudalennau 32 i 39 yn rhan o’r cyfrifon hyn
Datganiad o Lifoedd Arian | ||||
ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2020 tan 31Mawrth 2021 | ||||
2020-21 | 2019-20 | |||
£000 | £000 | |||
Nodyn | ||||
Llifoedd arian o weithgareddau gweithredu | ||||
2 | 1,700 | 1,644 | ||
Gwariant Net | ||||
Addasu ar gyfer trafodion heblaw rhai ag xxxxx xxxxx | 2 | (62) | (17) | |
Cynnydd/(gostyngiad) mewn elfennau masnach ac eraill derbyniadwy | 5 | (19) | - | |
(Cynnydd)/gostyngiad mewn elfennau masnach taladwy | 7 | 39 | 63 | |
Defnydd o Ddarpariaethau | 13 | - | 53 | |
Gwyrdroi darpariaeth heb ei defnyddio | 13 | - | 22 | |
All-lif arian net o weithgareddau gweithredu | 1,658 | 1,765 | ||
Llifoedd arian o weithgareddau buddsoddi | ||||
Prynu eiddo, peiriannau a chyfarpar | 4 | 5 | 31 | |
All-lif arian net o weithgaredd buddsoddi | 5 | 31 | ||
Llifoedd arian o weithgareddau ariannu | ||||
Cyllido net gan Lywodraeth Cymru | (1,580) | (1,580) | ||
Cyllido Net | (1,580) | (1,580) | ||
Cynnydd/(gostyngiad) net o ran arian a’r hyn sy’n cyfateb iddo | 6 | |||
(83) | (216) | |||
Xxxxx xxxxx a’r hyn sy’n cyfateb iddo ar ddechrau'r cyfnod | 262 | 478 | ||
Xxxxx xxxxx a’r hyn sy’n cyfateb iddo ar ddiwedd y cyfnod | 179 | 262 |
Mae’r nodiadau ar dudalennau 32 i 39 yn rhan o’r cyfrifon hyn
Datganiad o Newidiadau yn Ecwiti Trethdalwyr ar gyfer y flwyddyn yn diweddu ar 31 Mawrth 2021
Nodyn Cronfa Gyffredinol
£000
Gweddill ar 31 Mawrth 2020 | 171 |
Newidiadau yn Ecwiti Trethdalwyr 2020-21 Cyllido gan Lywodraeth Cymru | 1,580 |
Gwariant net cynhwysfawr ar gyfer y flwyddyn | (1,700) |
Gweddill ar 31 Mawrth 2021 | 51 |
Mae’r nodiadau ar dudalennau 32 i 39 yn rhan o’r cyfrifon hyn
Nodiadau i’r Cyfrifon
1. Datganiad o Bolisïau Cyfrifo
Paratowyd y datganiadau ariannol hyn yn unol â Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth (FReM) a gyflwynwyd gan Drysorlys Ei Mawrhydi. Mae’r polisïau cyfrifo a geir yn yr FReM yn cymhwyso Safonau Cyfrifo Rhyngwladol (IFRS), fel y’u mabwysiadwyd neu y’u dehonglwyd ar gyfer cyd-destun y sector cyhoeddus. Lle mae’r FReM yn caniatáu xxxxx x xxxxxx cyfrifo, dewiswyd y polisi cyfrifo y barnwyd ei fod yn fwyaf priodol ar gyfer amgylchiadau penodol y Comisiynydd, at ddiben rhoi golwg wir a theg. Fe’u defnyddiwyd yn gyson wrth ddelio ag eitemau y barnwyd eu bod yn bwysig yng nghyswllt y cyfrifon.
Rydym wedi ystyried effaith safonau a dehongliadau sydd wedi'u cyflwyno ond nad ydynt yn effeithiol hyd yma, ac sydd heb gael eu mabwysiadu'n gynnar gan y Comisiynydd. Ac eithrio Prydlesi IFRS16 y Safonau Rhyngwladol ar gyfer Adroddiadau Ariannol (IFRS), mae'r Comisiynydd yn rhagweld na fydd mabwysiadu'r Safonau a'r dehongliadau hyn mewn cyfnodau yn y dyfodol yn cael effaith sylweddol ar y datganiadau ariannol. Nid oes modd rhesymol ar hyn x xxxx i amcangyfrif effaith IFRS16, sydd wedi'i gyflwyno gan Fwrdd Rhyngwladol Safonau Cyfrifo (IASB), ond sydd heb ei fabwysiadu eto gan yr Undeb Ewropeaidd, a bydd yn berthnasol o 2021-22.
Disgrifir y polisïau cyfrifo penodol a fabwysiadwyd gan Gomisiynydd Plant Cymru isod.
1.1 Confensiwn Cyfrifo
Paratowyd y cyfrifon hyn o xxx y confensiwn cost hanesyddol gan fod Comisiynydd Plant Cymru yn barnu nad oes pwys i effaith ailbrisio asedau sefydlog yn ôl eu gwerth i’r sefydliad trwy gyfeirio at eu cost gyfredol.
1.2 Ariannu
Yr unig ffynhonnell o gyllid ar gyfer Comisiynydd Plant Cymru yw Llywodraeth Cymru trwy grant blynyddol, sy’n cael ei gredydu i’r gronfa gyffredinol pan dderbynnir y grant. Cydnabyddir y grant yn y cyfnod pryd y darperir y gwasanaethau.
1.3 Eiddo, Peiriannau a Chyfarpar
Mae’r Comisiynydd wedi prisio’r xxxx asedau anghyfredol yn ôl eu cost hanesyddol, gan nad yw unrhyw addasiadau ailbrisio, xx xxxx y Comisiynydd, yn bwysig. Y lefel isaf ar gyfer cyfalafiad asedau unigol yw
£1,000. Grwpiwyd niferoedd mawr o’r un math o asedau gyda’i gilydd wrth bennu a ydynt uwchben neu o xxx y trothwy.
1.4 Dibrisiad
Darperir dibrisiad ar gyfraddau y cyfrifir y byddant yn diddymu gwerth asedau nad ydynt yn gyfredol mewn rhandaliadau cyfartal dros y cyfnod a amcangyfrifir ar gyfer eu hoes ddefnyddiol, fel a ganlyn:
• Offer TGCh 3 blynedd
• Celfi 5 mlynedd
• Cyfarpar Swyddfa 5 mlynedd
• Gosodiadau a Ffitiadau 5 mlynedd Codir am ddibrisiad blwyddyn lawn yn y flwyddyn gaffael.
1.5 Datganiad o'r Gwariant Net Cynhwysfawr
Incwm a gwariant gweithredu yw’r hyn sy’n uniongyrchol gysylltiedig â gweithgareddau gweithredu y Comisiynydd. Mae’n cynnwys taliadau am nwyddau a gwasanaethau a ddarparwyd ar sail cost lawn. Dosbarthir yr xxxx wariant fel gwariant gweinyddu.
1.6 Treth ar Xxxxx
Nid yw’r Comisiynydd wedi cofrestru ar gyfer TAW. Cyfrifir gwariant a phwrcasau asedau sefydlog xxxx XXX wedi’i gynnwys, gan na ellir adennill TAW.
1.7 Pensiynau
Mae staff y Comisiynydd wedi’u cynnwys o xxx ddarpariaethau Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (PCSPS). Mae’r PCSPS yn gynllun buddion diffiniedig. Cydnabyddir cost elfen buddion diffiniedig y cynllun yn systematig a rhesymegol dros y cyfnod pryd y bydd yn cael mantais o wasanaethau cyflogeion trwy dalu symiau a gyfrifir ar sail gronnol i’r PCSPS. Mae’r atebolrwydd am dalu buddion yn y dyfodol yn gyfrifoldeb ar y PCSPS. Yng nghyswllt elfennau cyfraniad diffiniedig y cynllun, mae’r Comisiynydd Plant yn cydnabod y cyfraniadau sy’n daladwy am y flwyddyn; codir y symiau hyn ar y Datganiad o Wariant Net Cynhwysfawr ym mlwyddyn eu talu.
1.8 Prydlesi
Dosbarthir prydlesi asedau lle xxx xxxx risgiau a manteision perchnogaeth ar ased wedi’i phrydlesi i xxx pwrpas yn nwylo’r Comisiynydd fel prydlesi cyllidol. Cofnodir yr ased fel ased sefydlog diriaethol a chofnodir dyled i’r prydleswr o isafswm y taliadau prydles. Codir y taliadau ar y Datganiad o Wariant Net Cynhwysfawr, a chodir tâl cyllid ar sail y gyfradd llog sy’n ddealledig yn y brydles.
Codir taliadau rhentu prydlesi gweithredol ar y Datganiad o Wariant Net Cynhwysfawr fesul symiau
cyfartal ar hyd cyfnod y brydles.
1.9 Adroddiadau Segmentol
Mae Swyddfa’r Comisiynydd yn gweithredu yng Nghymru ac yn xxxxx â materion sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae'r Datganiad o Wariant Net Cynhwysfawr a'r nodiadau cysylltiedig yn adlewyrchu'r segmentau lle'r adroddir am y canlyniadau gweithredu.
1.10 Treuliau Staff
Mae’r Comisiynydd yn darparu ar gyfer absenoldebau tymor byr adferedig sydd heb eu defnyddio ar ddiwedd y flwyddyn.
1.11 Darpariaethau
Mae’r Comisiynydd yn darparu ar gyfer rhwymedigaethau cyfreithiol neu gontractiol y mae eu hamseru neu eu symiau’n ansicr ar ddyddiad y datganiad o'r sefyllfa ariannol, ar sail yr amcangyfrif gorau o’r gwariant y bydd xx xxxxx ar gyfer y rhwymedigaeth.
1.12 Xxxxx Xxxxx a'r hyn sy'n cyfateb iddo
Mae'r Comisiynydd yn cadw xxxxx xxxxx, sy'n xxxx xx adneuo mewn cyfrif banc masnachol wrth ei dderbyn. Hefyd cedwir arian mân yn swyddfa'r Comisiynydd.
2. Xxxxxx Xxxxxxxxx Eraill
2020-21 | 2019-20 | |
£000 | £000 | |
2.1 Costau gweinyddu: | ||
Safleoedd | 76 | 90 |
Swyddfa | 77 | 56 |
Hyfforddiant a llesiant | 18 | 15 |
Teithio a chynhaliaeth | 2 | 15 |
Taliadau i archwilio allanol | 18 | 18 |
Taliadau i’r Archwilydd Mewnol | 12 | 11 |
Cyfathrebu | 35 | 44 |
Cyfarpar TGCh | 18 | 29 |
Arall | 123 | 119 |
Ffïoedd cyfreithiol a phroffesiynol | 1 | 16 |
Darpariaeth yn ystod y flwyddyn | 45 | - |
425 | 413 | |
2.2 Trafodion heb fod mewn xxxxx xxxxx | ||
Tâl dibrisiad o fewn y flwyddyn | 17 | 17 |
17 | 17 | |
2.3 Costau staff:* | ||
Tâl a chyflogau | 956 | 923 |
Costau nawdd cymdeithasol | 96 | 94 |
Pensiwn | 228 | 208 |
Adenillion net ar gyfer secondiadau | (22) | (11) |
1,258 | 1,214 | |
1,700 | 1,644 |
*Mae rhagor o wybodaeth ynghylch costau staff i'w gweld yn yr Adroddiad Taliadau Cydnabyddiaeth.
3. Gwybodaeth Segmentaidd
Mae swyddfa’r Comisiynydd yn gweithredu yng Nghymru ac yn xxxxx â materion sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc yng Nghymru. Barn y Comisiynydd, felly, yw mai mewn un segment yn unig y mae ei swyddfa'n gweithredu, fel yr adroddwyd.
4. Eiddo, Peiriannau a Chyfarpar
Offer TG | Gosodiadau a Ffitiadau | Celfi a Chyfarpar Swyddfa | Cyfanswm | ||||
£000 | £000 | £000 | £000 | ||||
Cost | |||||||
Ar 1 Ebrill 2020 | 239 | 197 | 211 | 647 | |||
Ychwanegiadau | 5 | - | - | 5 | |||
Gwarediadau | - | - | - | - | |||
Ar 31 Mawrth 2021 | 244
| 197
| 211
| 652
| |||
Dibrisiad | |||||||
Ar 1 Ebrill 2020 | 213 | 197 | 211 | 621 | |||
Tâl a godwyd yn ystod y flwyddyn | 17 | - | - | 17 | |||
Gwarediadau | - | - | - | - | |||
Ar 31 Mawrth 2021 | 230
| 197
| 211
| 638
| |||
Llyfrwerth net ar 31 Mawrth 2020 | 26
| -
| -
| 26
| |||
Llyfrwerth net at 31 Mawrth 2021 | 14
| -
| -
| 14
| |||
Cyllido asedau: | |||||||
A berchnogir | |||||||
Llyfrwerth net ar 31 Mawrth 2020 | 26
| -
| -
| 26
| |||
A berchnogir | |||||||
Llyfrwerth net ar 31 Mawrth 2021 | 14
| -
| -
| 14
|
Mae'r xxxx asedau yn eiddo i'r Comisiynydd, nid oes dim asedau'n cael eu cyllido trwy brydles ariannol.
5. Elfennau masnach ac eraill derbyniadwy
2020-21 | 2019-20 | |
£000 | £000 | |
Symiau fydd yn ddyledus o fewn blwyddyn: | ||
Elfennau masnach ac eraill derbyniadwy | - | - |
Rhagdaliadau ac incwm cronnol | 32 | 51 |
32 | 51 |
6. Xxxxx xxxxx a’r hyn sy’n cyfateb iddo
2020-21 | 2019-20 | |
£000 | £000 | |
Gweddill ar 1 Ebrill | 262 | 478 |
Newid net yn y gweddillion xxxxx xxxxx a’r hyn sy’n cyfateb iddo | 83 | (216) |
Gweddill ar 31 Mawrth | 179 | 262 |
Roedd yr xxxx weddillion ar 31 Mawrth 2021 ar ffurf daliadau gyda banc Masnachol ac arian mewn llaw |
7. Elfennau masnach ac eraill taladwy
Symiau fydd yn ddyledus o fewn blwyddyn | 2020-21 | 2019-20 | |
£000 | £000 | ||
Trethi a Nawdd Cymdeithasol | - | 14 | |
Elfennau masnachol taladwy | - | 50 | |
Croniadau | 52 | 27 | |
52 | 91 |
8. Ymrwymiadau o xxx brydlesi
Prydlesi Gweithredol Roedd y Comisiynydd yn ymroddedig i wneud y taliadau canlynol yng nghyswllt prydlesi gweithredol oedd yn dod i ben | ||||
2020-21 | 2019-20 | |||
£000 | £000 | |||
Tir ac Adeiladau | Arall | Tir ac Adeiladau | Arall | |
Rhwymedigaethau o xxx brydlesi gweithredol: | ||||
Heb fod yn hwyrach nag un flwyddyn | 36 | 1 | 50 | 1 |
Ar ôl un flwyddyn a chyn pen pum mlynedd | 158 | 1 | 17 | 1 |
Ar ôl pum mlynedd | 20 | - | - | - |
214 | 2 | 67 | 2 |
Bydd prydles y Comisiynydd ar ei swyddfa yn Nhŷ Ystumllwynarth yn Abertawe yn dod i ben ar 31 Gorffennaf 2021. Yn ystod cyfnod ariannol 2020-21 mae’r Comisiynydd a’i thîm wedi gwneud gwaith manwl i benderfynu ar y lefel fwyaf priodol o xxxx xx’n angenrheidiol er mwyn sicrhau bod amcanion ei chynllun strategol yn cael eu cyflawni a bod costau gweithredu’r sefydliad yn cael eu lleihau. Mae’r gwaith hwn wedi cynnwys ymgynghori â’r staff a rhanddeiliaid eraill â diddordeb yn ogystal. Yn 2021 llofnodwyd prydles newydd am gyfnod o bum mlynedd ar gyfer safle newydd yn Nhŷ Llewelyn, Port Talbot.
9. Offerynnau ariannol
Mae IFRS7, Offerynnau Ariannol, yn gofyn bod rôl offerynnau ariannol yn ystod y cyfnod yn cael ei datgelu o ran creu neu newid y risgiau mae endid yn eu hwynebu wrth ymgymryd â’i weithgareddau. Oherwydd natur anfasnachol gweithgareddau’r Comisiynydd, a’r dull o gyllido’i gweithrediadau, nid yw ei swyddfa’n cael ei gadael yn agored i’r lefel o risg ariannol mae endidau busnes yn ei hwynebu.
Ymhellach, mae offerynnau ariannol yn chwarae rôl sy’n llawer mwy cyfyngedig o ran creu neu newid risg nag a fyddai’n nodweddu’r cwmnïau rhestredig y mae IFRS7 yn bennaf berthnasol iddynt. Xxx xxx y Comisiynydd bwerau cyfyngedig iawn i fenthyg neu fuddsoddi cronfeydd sy’n weddill a chynhyrchir asedau ariannol a rhwymedigaethau gan ei gweithgareddau gweithredu o ddydd i ddydd, yn hytrach na’u dal i newid y risgiau y mae’n eu hwynebu wrth ymgymryd â’i gweithgareddau.
Risg Hylifedd
Ariannir gofynion y Comisiynydd o ran refeniw net ac adnoddau cyfalaf gan Lywodraeth Cymru. Nid yw ei swyddfa felly yn cael ei gadael yn agored i risgiau hylifedd sylweddol.
Risg cyfradd Llog
Nid yw asedau ariannol a rhwymedigaethau’r Comisiynydd yn cael eu gadael yn agored i risgiau cyfradd llog.
Risg Arian Tramor
Nid yw asedau ariannol a rhwymedigaethau’r Comisiynydd yn cael eu gadael yn agored i risgiau arian tramor.
Gwerthoedd Teg
Nid oes gwahaniaeth rhwng llyfrwerthoedd a gwerthoedd teg asedau ariannol a rhwymedigaethau’r Comisiynydd ar 31 Mawrth 2021.
10. Ymrwymiadau cyfalaf
Nid oedd dim ymrwymiadau cyfalaf ar 31 Mawrth 2021.
11. Rhwymedigaethau Amodol
Nid oedd dim rhwymedigaethau amodol ar 31 Mawrth 2021.
12. Trafodion Partïon Cysylltiedig
Mae Llywodraeth Cymru yn xxxxx cysylltiedig, a derbyniodd y Comisiynydd xx xxxxx ffynhonnell gyllido oddi wrth Lywodraeth Cymru; derbyniodd £1.580 miliwn yn ystod y cyfnod (2019-20 - £1.580 milliwn).
Cafodd y Comisiynydd nifer bach o drafodion pwysig yn ystod y cyfnod gyda Chyllid y Wlad (taliadau Treth ac Yswiriant Gwladol), sef £305,371 (2019-20 £312,776); a Swyddfa’r Cabinet (taliadau yng nghyswllt Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil), sef £250,770 (2019-20 £236,929).
Ni chafwyd trafodion o bwys gyda sefydliadau lle roedd gan staff uwch, nac unrhyw aelodau o’u teuluoedd, swyddi dylanwadol.
13. Darpariaethau ar gyfer Rhwymedigaethau a Thaliadau
Dadfeiliadau | Cyfanswm | |
£000 | £000 | |
Gweddill ar 1 Ebrill 2020 | 77 | 77 |
Defnydd o’r ddarpariaeth | - | - |
Darpariaeth yn ystod y flwyddyn | 45 | 45 |
Gweddill ar 31 Mawrth 2021 | 122 | 122 |
Dadansoddiad o Amseriadau Disgwyliedig Darpariaethau
Dadfeiliadau | Cyfanswm | |
£000 | £000 | |
Heb fod yn hwyrach nag un flwyddyn | 122 | 122 |
Ar ôl un flwyddyn a chyn pen pum mlynedd | - | - |
Ar ôl pum mlynedd | - | - |
Gweddill ar 31 Mawrth 2021 | 122 | 122 |
Dadfeiliadau
Mae'r Comisiynydd yn talu am gost cyflawni ei rhwymedigaethau o xxx delerau prydles ei swyddfa yn Abertawe, prydles sy'n dod i ben ym mis Gorffennaf 2021. Mae'r Comisiynydd yn darparu ar gyfer hyn yn llawn trwy sefydlu darpariaeth ar gyfer y taliadau a amcangyfrifir.
Costau Ymadael yn Gynnar
Mae’r Comisiynydd yn talu am gost ychwanegol buddion y tu hwnt i fuddion arferol Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (PCSPS) yng nghyswllt gweithwyr sy’n ymddeol yn gynnar trwy dalu’r symiau angenrheidiol yn flynyddol i’r PCSPS dros y cyfnod rhwng ymadael yn gynnar ac oedran arferol ymddeol. Mae’r Comisiynydd yn darparu ar gyfer hyn yn llawn pan fydd yr ymadawiad cynnar yn dod yn rhwymol trwy sefydlu darpariaeth ar gyfer y taliadau a amcangyfrifir. Yn 2019-20 cwblhawyd y costau Ymadael yn Gynnar, a chafodd £22,000 ei gredydu yn ôl i’r Gronfa Gyffredinol am ddarpariaeth oedd heb ei defnyddio.
14. Digwyddiadau wedi’r cyfnod adrodd
Nid oedd unrhyw ddigwyddiadau rhwng dyddiad datganiad y sefyllfa ariannol a dyddiad llofnodi’r cyfrifon sy’n effeithio ar y datganiadau hyn. Awdurdododd y Swyddog Cyfrifyddu y datganiadau ariannol hyn i'w rhyddhau ar 14 Gorffennaf 2021.