RHEOLWR CWMNI PECYN RECRIWTIO
RHEOLWR CWMNI PECYN RECRIWTIO
(CAERDYDD)
TROSOLWG
Teitl y swydd
Rheolwr Cwmni, Caerdydd.
Yn atebol i’r
Cyd-gyfarwyddwr Artistig, Xxxxxxxx Xxxxx.
Oriau
21 awr yr wythnos (3 diwrnod yr wythnos).
Contract
Cyfnod penodol tan fis Ebrill 2023 gyda phosibilrwydd o estyniad yn dibynnu ar gyllid.
Lleoliad
Mae Common Wealth wedi’i leoli yn Bradford,
Lloegr a Chaerdydd, Cymru. Bydd y rôl hon wedi’i lleoli yng Nghaerdydd.
Cyflog
£32,400 pro rata, £19,440 am 3 diwrnod.
Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais:
Dydd Sul 5 Mehefin erbyn 5pm.
Dyddiad y cyfweliad
Wythnos yn dechrau 20 Mehefin.
Mae gennym ddiddordeb mewn clywed gan y rhai sydd o fewn a thu xxxxx i’r sector celfyddydau ac a allai fod wedi datblygu sgiliau a phrofiad o’r sector elusennol, gwirfoddol neu addysg. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ymgeiswyr sydd fel arfer yn cael eu tangynrychioli yn y diwydiant theatr.
2
xxxxxxxxxxxxxxxxxxx.xx.xx
GWYBODAETH AM COMMON WEALTH
“Y CWMNI SYDD WEDI MYNNU CODI EIN HYMWYBYDDIAETH”
Xxx Xxxxxxx, The Guardian
Mae Common Wealth yn gwmni theatr arloesol sy’n cynnal digwyddiadau theatr penodol i safleoedd gan gwmpasu xxxx electronig, dulliau newydd o ysgrifennu, dylunio gweledol a chynnwys gair am air.
Mae ein gwaith yn wleidyddol ac yn gyfoes. Mae Common Wealth wedi’i leoli yn Bradford a Chaerdydd ac yn gwneud gwaith sy’n teithio
ledled y DU ac yn rhyngwladol. Mae cynyrchiadau diweddar yn cynnwys I Have Met the Enemy
(and the enemy is us) (Northern Stage), Radical Acts, We’re Still Here (National Theatre Wales), No Guts, No Heart, No Glory, (Scotsman Fringe First Award / Live from TVC ar BBC4), Our Glass House, (Gwobr Rhyddid Mynegiant Amnest.)
Mynegir ein gwerthoedd yn ein henw ‘Common Wealth’, sy’n tynnu sylw at y cyfoeth o brofiadau, straeon a dychymyg mewn mannau a chymunedau sy’n aml yn cael eu diystyru fel rhai ‘tlawd’ neu ‘mewn angen’ o ran datblygiad diwylliannol. Wrth fod yn gyffredin ac yn berthnasol i’n cynulleidfaoedd, rydyn ni’n creu
cyfoeth i’w rannu. Mae ein gwaith wedi’i wreiddio yn y cymunedau lle gwneir cynyrchiadau ac mae’n berthnasol yn rhyngwladol; rydyn ni wedi
gweld natur gyffredinol y straeon a gyflwynwn yn cysylltu â phobl ledled y byd. Mae Common Wealth yn gweld xx xxxxx fel ymgyrch sy’n cyfrannu at wneud newid yn bosibl. Rydyn ni’n credu bod cyfres o elfennau yn deillio o xxx cynhyrchiad a gwahanol ffyrdd o gysylltu a chael effaith ar fywydau pobl.
Caiff Common Wealth ei arwain gan y Cyd- gyfarwyddwyr Artistig Xxxxxxxx Xxxxx ac Xxxx Xxxxxxx sy’n byw ac yn gweithio o’u trefi genedigol, Caerdydd a Bradford. Gan weithio o’r ddau leoliad hyn, rydyn ni’n cynnal rhaglen o weithgareddau sy’n cwmpasu cynyrchiadau
teithiol ar raddfa fawr sy’n benodol i safleoedd, gwaith cyfranogol arloesol, datblygu artistiaid, Speakers Corner (prosiect cydweithio gwleidyddol, creadigol xxx arweiniad menywod ifanc) Common Space (celf newydd, perfformiad a gofod cymunedol yng Nghanol Dinas Bradford) a rhaglennu gwaith wedi’i gyd-greu fel rhan o’r Rhwydwaith Teithio Moving Roots
yng Nghaerdydd.
“BYDD COMMON WEALTH YN NEWID Y FFORDD RYDYN NI’N EDRYCH AR Y BYD AM F
LYNYDDOEDD I DDOD”
Xxxx XxXxxxx, Artistic Director, Manchester International Festival
3
xxxxxxxxxxxxxxxxxxx.xx.xx
GWYBODAETH AM Y RÔL
CYFLE GWYCH I REOLWR CWMNI PROFIADOL A GWEITHGAR DDOD I YMUNO Â NI YNG NGHAERDYDD.
Rydyn ni’n chwilio am rywun sy’n gallu cymryd yr awenau’n hyderus gyda’r gwaith o reoli’r cwmni o ddydd i ddydd. Rydyn ni am ddatblygu perthynas â Rheolwr Cwmni a all dyfu fel y byddwn ni;
sy’n teimlo’n gyffrous am weithio’n agos gyda chwmni uchelgeisiol ac a fydd yn ffynnu ar fod yn ymarferol ym mhob agwedd ar ein gwaith. Rydyn ni am weithio gyda rhywun sy’n drefnus, yn ymroddedig ac yn ddygn, gyda llygad xxxxx am fanylion ac angerdd am y gwaith a wnawn.
Bydd gennych ddealltwriaeth gref o gyllid, adrodd, contractau, Adnoddau Dynol a rheoli prosiectau. Bydd gennych brofiad codi xxxxx xxx brofiad ehangach o gynhyrchu incwm a xxxxx
o gyflawni xxxx nodau xxxx xxxxx. Byddwch yn gallu hyrwyddo a mynegi’r gwaith a wnawn, sut a xxxx. Byddwch yn fedrus wrth weithio mewn xxx xx’n mwynhau cydweithio a chyd-greu.
Byddwch yn rhan o dîm xxxx xx’n darparu theatr gyfoes o ansawdd uchel i gymunedau ledled y DU ac yn rhyngwladol. Yn y cyd-destun gwleidyddol presennol, ni fu ein gwaith i ddod â phobl at ei gilydd, hyrwyddo syniadau radical a herio naratifau yn y cyfryngau erioed yn
bwysicach a bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn angerddol am ein helpu i adeiladu a datblygu’r gwaith hwn. Bydd gennych awydd cryf am newid cymdeithasol. Byddwch yn angerddol am newid cymdeithasol a sut y gall y celfyddydau chwarae rhan mewn newid y byd.
4
xxxxxxxxxxxxxxxxxxx.xx.xx
DISGRIFIAD O’R SWYDD
PRIF DDIBEN Y SWYDD
• Galluogi Common Wealth i barhau i greu gwaith eithriadol i gynulleidfaoedd yn y DU ac yn rhyngwladol
• Arwain ar reoli Common Wealth yn gyffredinol, gan ymdrin ag ochr ariannol, sefydliadol a gweinyddol y cwmni
• Cefnogi’r gwaith o reoli prosiectau gwaith creadigol Common Wealth
• Gweithio gyda’r xxx i gyflawni cynllun busnes Common Wealth
• Cydweithio â Rheolwr Cwmni Bradford a chyfathrebu’n rheolaidd â hi
CYLLID
• Goruchwylio a chyfrannu at swyddogaethau’r gyflogres, a phrosesau bancio
• Cymryd cyfrifoldeb cyffredinol am reolaeth ariannol ym mhob agwedd ar weithgarwch Caerdydd - systemau a chyllidebu, rhagolygon ac adroddiadau
Y CWMNI
• Gweithredu fel Ysgrifennydd y Cwmni sy’n atebol i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a sicrhau bod cyfrifon rheoli, gwybodaeth ariannol ac adroddiadau monitro, cyngor, gwerthuso a chynnydd yn cael eu cynnal a’u darparu pan fo angen
• Sicrhau cydymffurfiaeth â’r xxxx ddeddfwriaeth berthnasol fel elusen gofrestredig, cwmni cyfyngedig a chyflogwr neu ddarparwr gwasanaethau
• Xxxxxxx yswiriant priodol ar gyfer pob gweithgaredd
• Cyfrannu at Gofrestrau Risg ar gyfer y cwmni cyfan
• Cyfrannu at werthuso’r cwmni a dulliau dysgu myfyriol
• Cyfrifoldeb am gydymffurfiaeth GDPR a rheoli data’n effeithiol
XXXX XXXXX
• Datblygu a chynnal perthynas gref â chyllidwyr, gan gynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru, a rheoli cyfrifoldebau Common Wealth sy’n gysylltiedig â’n cytundebau ariannu
• Nodi ffynonellau cyllid newydd ar gyfer y cwmni ac ysgrifennu a chyfrannu at geisiadau am gyllid
• Arwain ar adrodd, monitro a gwerthuso
5
xxxxxxxxxxxxxxxxxxx.xx.xx
DISGRIFIAD O’R SWYDD
ADNODDAU DYNOL
• Hwyluso hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus cyflogeion i gefnogi anghenion unigol a gweledigaeth ehangach y cwmni
• Arwain drwy esiampl, a meithrin diwylliant cefnogol (llawn gofal) sy’n cefnogi’r xxx ac yn hyrwyddo ymddiriedaeth a hunan-gyfrifoldeb
• Trafod a pharatoi cytundebau partneriaeth allanol a chefnogi staff i gontractio partneriaethau prosiect neu gydweithwyr llawrydd fel y bo’n briodol
• Goruchwylio polisïau a gweithdrefnau Adnoddau Dynol y cwmni a sicrhau bod gan y cwmni hyfforddiant a pholisïau TG, Iechyd a Diogelwch a rheoli adeiladau cyfredol
• Sicrhau bod yr xxxx brosesau Adnoddau Dynol, gan gynnwys cyhoeddi contract cyflogaeth, dilyn geirdaon, coladu ffurflen cychwyn y gyflogres a chynnal gwiriadau DBS wedi’u cwblhau ar gyfer pob aelod o staff cyflogedig yn nhîm Caerdydd
• Adeiladu a chyfrannu at y Llawlyfr Staff a sicrhau bod yr xxxx bolisïau’n gyfredol ac yn cael eu gweithredu
CYFRIFOLDEBAU A RENNIR Â’R XXXX STAFF
• Hyrwyddo a bod yn eiriolwr brwd dros waith Common Wealth
• Cynrychioli neu fod yn bresenoldeb priodol mewn perfformiadau a digwyddiadau Common Wealth yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol a bod ar gael i weithio gyda’r nos ac ar benwythnosau yn achlysurol pan fo angen drwy gydol y flwyddyn
• Cymryd rhan mewn gwaith cynllunio sefydliadol a strategol
• Cymryd cyfrifoldeb am gynnal systemau ffeilio/archifo da a chronfa ddata
• Dyletswyddau eraill fel sy’n rhesymol ofynnol ac fel y trafodwyd
Byddem yn agored i gefnogi unrhyw fylchau sgiliau penodol yn y disgrifiad swydd a gallwn drefnu hyfforddiant ar gyfer yr ymgeisydd mwyaf addas. Mae CW wedi ymrwymo i ddatblygiad proffesiynol ein staff. Sylwch ein bod hefyd yn gweithio gyda gweithwyr llawrydd i gefnogi
anghenion y cwmni mewn meysydd penodol (cyllid, Adnoddau Dynol ac ati) sydd hefyd yn cefnogi prosesau dysgu a datblygu ar gyfer deiliad y swydd a’r sefydliad.
Mae’r swydd-ddisgrifiad hwn yn ganllaw i natur y gwaith sy’n ofynnol o’r swydd hon. Nid yw’n gwbl gynhwysfawr nac yn gyfyngol ac nid yw’n rhan o’r contract cyflogaeth.
6
xxxxxxxxxxxxxxxxxxx.xx.xx
MANYLEB Y PERSON
CEFNDIR A PHROFIAD
• Profiad o ysgwyddo cyfrifoldeb ariannol dros sefydliad a sicrhau bod targedau ariannol yn cael eu cyflawni
• Profiad o oruchwylio sawl prosiect a bodloni terfynau amser yn llwyddiannus
• Gallu creu partneriaethau effeithiol
• Dull entrepreneuraidd a phrofiad o gynhyrchu incwm, er enghraifft drwy ymwneud yn llwyddiannus â gweithgareddau xxxx xxxxx yn y gorffennol.
• Profiad o weithio gyda Bwrdd o ymddiriedolwyr gwirfoddol
SGILIAU A GWYBODAETH
• Sgiliau rheoli arian rhagorol
• Sgiliau arwain a rhyngbersonol cryf i ddelio’n effeithiol â chysylltiadau mewnol ac allanol
• Sgiliau cyfathrebu rhugl, gyda’r gallu i gyflwyno a thrafod materion
• Cyfarwydd â meddalwedd cyfrifeg a pharodrwydd i xxxx xxxx hyfforddi i ddefnyddio Xero
• Medrus gyda phecynnau TG amrywiol ac yn gyfforddus yn gweithio gyda thechnoleg yn fewnol ac yn allanol, ar lwyfannau cyhoeddus ac yn y cyfryngau.
• Gwybodaeth am weithdrefnau Adnoddau Dynol a sgiliau rheoli llinell cryf
RHINWEDDAU AC YMDDYGIAD
• Awydd am newid cymdeithasol
• Dull cydweithredol ac awydd i weithio mewn partneriaeth â’r Cyfarwyddwyr Artistig
• Diddordeb, gwybodaeth neu angerdd gwybodus am waith Common Wealth ac ymrwymiad i’n gweledigaeth a’n gwerthoedd craidd
• Ymrwymiad i gynhwysiant ac amrywiaeth
• Sylw rhagorol i fanylion; gallu dangos ymagwedd resymegol a threfnus
PROFIAD A SGILIAU DYMUNOL
• Profiad o’r sector elusennol, sy’n derbyn cymhorthdal neu’r sector dielw.
• Dealltwriaeth drylwyr o rwydweithiau’r theatr ac ecoleg y celfyddydau yn y DU.
• Dealltwriaeth o ofynion cyfreithiol sefydliad elusennol
• Siarad Cymraeg neu’r awydd i ddysgu
• Gwybodaeth am ddulliau cyfathrebu strategol
• Profiad o waith teithiol yn genedlaethol ac yn rhyngwladol
7
xxxxxxxxxxxxxxxxxxx.xx.xx
TELERAU CYFLOGAETH
CYFLOG
£32,400 pro rata, £19,440 am 3 diwrnod.
GWYLIAU BLYNYDDOL
20 diwrnod o wyliau â thâl gan gynnwys gwyliau cyhoeddus a gwyliau banc y Deyrnas Unedig.
PENSIWN
Ar ôl cwblhau’r cyfnod prawf, byddwn yn cynnig pensiwn o xxx ddeddfwriaeth cofrestru awtomatig gyda’r darparwr pensiwn, NEST. Telir cyfraniadau cyflogwyr ar gyfradd o 3% ar enillion cymwys.
ORIAU GWAITH
21 awr yr wythnos (3 diwrnod yr wythnos) Cytunir ar ddiwrnodau gwaith penodol gyda’r ymgeisydd llwyddiannus.
CYFNOD PRAWF
Tri mis, pan gaiff y xxxxx xxxxx xxx’r llall derfynu’r contract gyda phythefnos o rybudd. Mae’r cyfnod rhybudd yn un mis ar ôl cwblhau’r cyfnod prawf yn llwyddiannus
LLEOLIAD
Mae’r swydd wedi’i lleoli yn Neuadd Llanrhymni, Heol Ball, Llanrhymni CF3 4JJ. Mae disgwyl i’r ymgeisydd fod o fewn pellter teithio i Gaerdydd a gallu gweithio yn y swyddfa o leiaf un/dau ddiwrnod yr wythnos. Rydyn ni’n gwmni bach a xxx amser wedi annog ffyrdd hyblyg o weithio ac yn agored i wahanol ffyrdd y gallai deiliad y swydd ddymuno gweithio Rhowch wybod i ni yn xxxx cais os oes gennych gynnig sut y gallai’r rôl weithio i chi.
SUT I WNEUD CAIS
I wneud cais, rhaid i chi gyflwyno’r canlynol: Xxxx ffurflen gais a’ch Ffurflen Cyfle Cyfartal, ar gael ar ein gwefan xxx.xxxxxxxxxxxxxxxxxxx.xx.xx drwy e-xxxx xxxx ‘Rheolwr Cwmni Caerdydd’ yn y llinell pwnc i xxxx@xxxxxxxxxxxxxxxxxxx.xx.xx erbyn 5pm dydd Sul 5 Mehefin.
Dyddiad y cyfweliad: Wythnos yn dechrau 20 Mehefin 2022.
Dylai ymgeiswyr ddarparu manylion cyswllt ar gyfer dau eirda, byddwn yn gofyn am xxxx caniatâd cyn cysylltu’n uniongyrchol ag unrhyw ganolwyr. Bydd pob cynnig cyflogaeth yn amodol ar dderbyn geirdaon boddhaol.
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol a chyfrinachol am y rôl, cysylltwch â Xxxxxxxx Xxxxx, xxxxxxxx@xxxxxxxxxxxxxxxxxxx.xx.xx
8
xxxxxxxxxxxxxxxxxxx.xx.xx
TWITTER & INSTAGRAM: @COMMON_WEALTHHQ XXXXXXXXXXXXXXXXXXX.XX.XX