Adroddiad Gwella Blynyddol Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Adroddiad Gwella Blynyddol Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Cyhoeddwyd: Mai 2014 Cyfeirnod y ddogfen: 220A2014
Archwilydd Cyffredinol Cymru
Mae’r Archwilydd Cyffredinol yn annibynnol ar y llywodraeth a chaiff ei benodi gan Ei Mawrhydi y Frenhines. Mae’r Archwilydd Cyffredinol yn ymgymryd â’i waith gan ddefnyddio staff ac adnoddau eraill a ddarperir gan Swyddfa Archwilio Cymru, sy’n fwrdd statudol a sefydlwyd at y diben hwnnw ac i fonitro a chynghori’r Archwilydd Cyffredinol. Caiff Swyddfa Archwilio Cymru ei dwyn i gyfrif gan y Cynulliad Cenedlaethol.
Ar y cyd ag archwilwyr penodedig, mae’r Archwilydd Cyffredinol yn archwilio cyrff llywodraeth leol yng Nghymru, gan gynnwys awdurdodau unedol, yr heddlu, y gwasanaeth prawf, awdurdodau tân ac achub, parciau cenedlaethol a chynghorau cymuned. Mae hefyd yn cynnal astudiaethau x xxxxx am arian yng nghyswllt llywodraeth leol ac yn asesu’r graddau y cydymffurfir â gofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.
Y tu hwnt i lywodraeth leol, yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol Llywodraeth Cymru a’r cyrff cyhoeddus a noddir ganddi ac sy’n gysylltiedig â hi, Comisiwn y Cynulliad a chyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru.
Nod yr Archwilydd Cyffredinol a staff Swyddfa Archwilio Cymru yw darparu adroddiadau cymesur, sy’n canolbwyntio ar y cyhoedd, ynghylch y modd y caiff adnoddau cyhoeddus eu gwarchod, ac wrth wneud hynny, meithrin dealltwriaeth a hyrwyddo gwelliannau.
Paratowyd yr Adroddiad Gwella Blynyddol hwn ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru gan Xxx Xxxxxxx a Xxxxxx Xxxxx o xxx gyfarwyddyd Xxxx Xxxxxx. Fe’i cefnogwyd gan waith PricewaterhouseCoopers.
Cynnwys
Adroddiad cryno ac argymhellion 4
Adroddiad manwl
Cyflwyniad 8
Yn 2012-13 gwnaeth y Cyngor gynnydd cyson wrth wella’r rhan fwyaf
o’i feysydd blaenoriaeth, ond roedd rhai heriau allweddol yn parhau 9
Roedd gwaith gwerthuso ac adrodd ar berfformiad y Cyngor yn well yn
2012-13, ond xxx xxxxx cryfhau trefniadau sylfaenol 23
Mae’r Cyngor yn cyfrannu at amrywiaeth o fentrau cydweithredol ac, yn hanesyddol, mae ei gynllunio ariannol wedi bod yn gadarn. Fodd
bynnag, yn 2013-14 methodd â chyflawni rhai o’i ddyletswyddau cynllunio
gwelliannau o xxx y Mesur 28
Yn ystod 2013-14 daeth i’r amlwg bod cyfuniad o wendidau wedi arwain yn anochel at fethiannau llywodraethu yn y Cyngor ac er ei fod yn gwneud cynnydd calonogol i wella ei drefniadau llywodraethu, mae’n rhy fuan i
gasglu a yw’r gwelliannau hyn yn gynaliadwy 32
O ystyried yr ansicrwydd ynglŷn â chynaliadwyedd ei drefniadau llywodraethu gwell, ni all yr Archwilydd Cyffredinol ddod i gasgliad eto ynglŷn
â’r tebygolrwydd y bydd y Cyngor yn cydymffurfio â’r gofyniad i wneud trefniadau
i sicrhau gwelliant parhaus yn 2014-15 34
Atodiadau
Atodiad 1
Statws yr adroddiad hwn 35
Atodiad 2
Gwybodaeth ddefnyddiol am Gaerffili a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili 36
Atodiad 3
Llythyr Archwilio Blynyddol 38
Atodiad 4
Amcanion gwella a hunanasesiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili 42
Adroddiad cryno ac argymhellion
1 Xxx blwyddyn, rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol gyflwyno adroddiad yn nodi pa mor dda y mae cynghorau, awdurdodau tân ac achub, ac awdurdodau parciau cenedlaethol Cymru yn cynllunio ar gyfer gwella wrth ddarparu eu gwasanaethau.
Mae’r adroddiad hwn yn nodi canfyddiadau’r gwaith a gyflawnwyd ar ran yr Archwilydd Cyffredinol gan staff Swyddfa Archwilio Cymru; ac mae hefyd yn seiliedig ar waith
yr arolygiaethau perthnasol yng Nghymru. Mae’r adroddiad yn ymdrin â threfniadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (y Cyngor) i ddarparu a gwerthuso gwasanaethau mewn perthynas â 2012-13, a’i waith i gynllunio gwelliant ar gyfer 2013-14. Gan ystyried y xxxxx, xxx’r adroddiad yn cofnodi casgliad yr Archwilydd Cyffredinol o ran pa un a yw o’r farn y bydd y Cyngor yn gwneud trefniadau i sicrhau gwelliant parhaus ar gyfer 2014-15.
2 Daeth y xxx archwilio i’r casgliad, yn 2012- 13, bod y Cyngor wedi gwneud cynnydd cyson wrth ddarparu gwelliannau yn y rhan fwyaf o’i feysydd blaenoriaeth ond bod
rhai heriau allweddol yn parhau. Daethom i’r casgliad hwn oherwydd y rhesymau canlynol:
• Roedd llywodraethu’n parhau i fod
yn bryder allweddol o ganlyniad i ansefydlogrwydd yn nhrefniadau rheoli corfforaethol y Cyngor.
• Yn 2012-13 roedd gweithgareddau’r Cyngor wedi helpu i wella cyfleoedd cyflogaeth a phroffil iechyd yr ardal, ond maent yn parhau i fod yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor.
• Roedd perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol yn parhau i fod yn dda yn ystod 2012-13 ac roedd rhai gwersi
wedi’u dysgu yn sgil ystyried integreiddio â Blaenau Gwent.
• Bu llwyddiant y Cyngor yn gymysg o ran
gwella lefelau sgiliau plant a phobl ifanc.
• Roedd Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid Blaenau Gwent a Chaerffili yn perfformio’n dda, ac roedd dull gweithredu mwy cydgysylltiedig i leihau nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant xxxxxxx ar xxxxx, ond nid oedd ei effaith yn amlwg eto ym mhob ystod oedran.
• Gwellodd y Cyngor ei berfformiad xx xxxx rheoli xxxx-daliadau tai, a llwyddodd i wneud arbedion yn gynt
na’r disgwyl a chynnal ei berfformiad er gwaethaf defnyddio llai o adnoddau.
• Mae’r Cyngor wedi cofnodi sgiliau iaith Gymraeg ei weithlu ar y system gyflogres, ond xxx xxxxx gwella’r
ddarpariaeth iaith Gymraeg ar ei wefan a’r cyfryngau cymdeithasol.
3 Nodwyd hefyd bod gwaith y Cyngor wrth werthuso ac adrodd ar berfformiad yn 2012- 13 wedi gwella, ond bod angen cryfhau’r trefniadau sylfaenol. Daethom i’r casgliad hwn oherwydd:
• yn 2012-13, cyflawnodd y Cyngor ei ddyletswyddau adrodd ar welliannau o xxx y Mesur, ond roedd potensial o hyd i gryfhau ei drefniadau ymhellach;
• roedd y Cyngor yn cydnabod bod gwendidau’n parhau yn ei drefniadau rheoli perfformiad;
• roedd effeithiolrwydd craffu yn anghyson;
• roedd gan y Cyngor drefniadau dilysu data a oedd yn parhau i wella, ond roedd angen eu gweithredu a’u sefydlu mewn ffordd gyson ledled y sefydliad; ac
• roedd y Cyngor yn cydymffurfio â’i gyfrifoldebau yn ymwneud ag adrodd ariannol, ond roedd diffygion o safbwynt ei ddefnydd o adnoddau.
4 Mae’r Cyngor yn cyfrannu at amrywiaeth o fentrau cydweithredol ac, yn hanesyddol, mae ei gynllunio ariannol wedi bod yn gadarn. Fodd bynnag, yn 2013-14 methodd â chyflawni rhai o’i ddyletswyddau cynllunio gwelliannau o xxx y Xxxxx. Daethom i’r casgliad hwn am y rhesymau canlynol:
• Methodd y Cyngor â chyflawni rhai o’i ddyletswyddau cynllunio gwelliannau o xxx y Mesur ar gyfer 2013-14 gan na chyhoeddodd ei amcanion gwella yn amserol, a dylai sicrhau ei fod yn
gwella ei gydymffurfiaeth â chanllawiau Llywodraeth Cymru.
• Mae’r Cyngor yn cyfrannu at nifer fawr o fentrau cydweithredol o gymharu â’r cynghorau eraill a arolygwyd gennym
ac, yn gyffredinol, gwelsom fod lle i wella rhai trefniadau ar gyfer cynllunio a rheoli prosiectau, a bod y diffyg gwybodaeth am gostau a manteision yn ei gwneud yn anodd asesu gwerth am arian.
• Hyd yn hyn, mae’r Cyngor wedi gweithredu mewn ffordd ragweithiol i nodi ei ofynion o ran arbedion, ond mae’n rhaid iddo adolygu strategaeth ei gyllideb yn awr er mwyn gwneud yr arbedion sylweddol sydd eu xxxxxx dros y ddwy neu dair blynedd nesaf.
• Mae trefniadau ar waith xxxxxxx i adrodd ar gynigion ar gyfer gwella ac argymhellion yr Archwilydd Cyffredinol, a’u monitro.
5 Yn olaf, ym mis Ionawr 2014, cyhoeddodd yr Archwilydd Cyffredinol ei adroddiad ar yr arolygiad llywodraethu corfforaethol arbennig a gwblhawyd ar y Cyngor. Daeth yr adroddiad i’r casgliad bod cyfuniad o nifer o wendidau wedi arwain yn anochel at fethiannau llywodraethu yn y Cyngor ac er ei fod yn gwneud cynnydd calonogol wella ei drefniadau llywodraethu, mae’n
rhy fuan i gasglu a yw’r gwelliannau hyn yn gynaliadwy. Daethom i’r casgliad hwn am y rhesymau canlynol:
• Arweiniodd cyflymdra newid a chyfuniad o nifer o wendidau yn anochel at fethiannau llywodraethu.
• Mae’r Cyngor xxxxxxx yn gwella ei
drefniadau llywodraethu.
• Mae’n ansicr a ellir cynnal y trefniadau llywodraethu gwell yn ystod cyfnod o newid pellach.
6 O ystyried yr uchod a’r ansicrwydd ynglŷn â chynaliadwyedd ei drefniadau llywodraethu gwell, ni all yr Archwilydd Cyffredinol eto ddod i gasgliad ynglŷn â’r tebygolrwydd y bydd y Cyngor yn cydymffurfio â’r gofyniad i wneud trefniadau i sicrhau gwelliant parhaus yn 2014-15.
Argymhellion
Cyhoeddwyd yr argymhellion statudol canlynol i’r Cyngor yn ystod 2012-13.
Adroddiad xx Xxxx y Cyhoedd ar Lwfans Defnyddwyr Ceir Hanfodol a Lwfans Gwyliau Blynyddol Prif Swyddogion – Rhagfyr 2013 | |
A1 | Cofnodion o benderfyniadau • Dylai cofnodion clir o’r xxxx benderfyniadau gael eu cadw, gan nodi’r penderfyniad a wnaed, pwy a wnaeth y penderfyniad a phryd y cafodd y penderfyniad ei wneud. At hynny, wrth i benderfyniadau gael eu gwneud, dylid rhoi ystyriaeth briodol i b’un a ddylai’r penderfyniadau hyn gael eu cofnodi yng nghofnod penderfyniadau’r Cyngor. Dylai’r ystyriaeth hon gael ei dogfennu. |
A2 | Gweithredu penderfyniadau • Ni ddylai swyddogion weithredu penderfyniadau oni bai eu bod yn gwybod pwy sydd wedi gwneud y penderfyniad. Dylai swyddogion gadw tystiolaeth o’r ystyriaeth hon. |
A3 | Cyngor swyddog statudol • Wrth wneud penderfyniadau, dylai’r xxxx xx’n gwneud penderfyniadau ystyried a oes angen ceisio barn ffurfiol y Swyddog A151 neu’r Swyddog Monitro ac a yw’r farn hon wedi’i rhoi. Pan fo angen barn ffurfiol, dylai proses fod ar xxxxx xx mwyn sicrhau y rhoddir yr xxxx wybodaeth berthnasol sydd xx xxxxxx ar y swyddog statudol er mwyn iddo gymryd y farn honno. Dylai swyddogion hefyd gofnodi sut y cafodd y cyngor hwn ei ddilyn. |
A4 | Adroddiadau • Dylai adroddiadau a lunnir i gefnogi prosesau gwneud penderfyniadau ddilyn fformat safonol, gan nodi’n benodol awdur yr adroddiad a phwy yr ymgynghorwyd ag ef. Dylai adroddiadau gynnwys rhestr gynhwysfawr o’r opsiynau sydd ar gael. |
Arolygiad Arbennig – Ionawr 2014 | |
A1 | Egluro’n benodol mewn fformat hawdd ei ddeall xxxx yw swyddogaethau llywodraethu a gwneud penderfyniadau: y Cabinet; y Prif Weithredwr; y Xxx Rheoli Corfforaethol; y cyfarwyddwyr corfforaethol; y pwyllgorau craffu; a’r Pwyllgor Archwilio. |
A2 | Sicrhau bod cofnodion priodol yn cael eu cadw o xxx penderfyniad a wneir, a gan bwy, er mwyn darparu sicrwydd pellach fod y broses gwneud penderfyniadau yn cael ei chyflawni’n briodol ac yn dryloyw. |
A3 | Parhau i gyflawni cynllun gweithredu’r Bwrdd Rhaglen Gwella Llywodraethu er mwyn gwella’r trefniadau llywodraethu ar gyfer y dyfodol. |
A4 | Cryfhau ei brosesau rheoli risg ymhellach er mwyn sefydlu gwaith rheoli risg ar draws y Cyngor. Yn benodol, dylid: • sicrhau bod y gofrestr risgiau corfforaethol yn cael ei hadolygu’n fwy aml gan y Xxx Rheoli Corfforaethol; • cynllunio camau gweithredu penodol ar gyfer y risgiau allweddol a nodwyd; • mwy o drosolwg ar y modd y cedwir cofrestri risgiau cyfarwyddiaethau, a mwy o gysondeb yn y trefniadau hynny; • egluro rôl a chylch gwaith y Grŵp Rheoli Risg; a • gwella hyfforddiant i aelodau’r Pwyllgor Archwilio. |
A5 | Egluro swyddogaethau a chyfrifoldebau o xxx y gweithdrefnau chwythu’r chwiban a sicrhau bod y polisi newydd wedi’i ddiweddaru i adlewyrchu newidiadau deddfwriaethol diweddar. |
A6 | Ailasesu ei ddisgwyliadau o’r gwasanaeth Archwilio Mewnol a gosod rhaglen ar xxxxx xx mwyn i’w wasanaeth Archwilio Mewnol fynd i’r afael â chanfyddiadau’r arolygiad hwn. |
A7 | Sicrhau bod y camau gweithredu a nodwyd ar gyfer gwella’r swyddogaeth Adnoddau Dynol a chynllunio’r gweithlu yn cael eu cyflawni. |
A8 | Pwysleisio pwysigrwydd dilyn gweithdrefnau caffael priodol a sicrhau bod dangosyddion perfformiad allweddol wedi’u pennu ar gyfer y swyddogaeth gaffael. |
Adroddiad manwl
Cyflwyniad
7 O xxx Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (y Mesur), mae’n rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol gyflwyno adroddiad xxx blwyddyn ar ba mor dda y mae cynghorau, awdurdodau tân ac achub
ac awdurdodau parciau cenedlaethol Cymru yn cynllunio ar gyfer gwella wrth ddarparu eu gwasanaethau. Mae Atodiad 1 yn rhoi rhagor o wybodaeth am bwerau a dyletswyddau’r Archwilydd Cyffredinol o xxx y Mesur. Cyflawnwyd y gwaith hwn gan staff Swyddfa Archwilio Cymru ar ran yr Archwilydd Cyffredinol. Gyda chymorth gan arolygiaethau yng Nghymru, Estyn (ar gyfer addysg), Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) a Chomisiynydd y Gymraeg,
rydym wedi llunio darlun o’r hyn y mae pob cyngor neu awdurdod yng Nghymru yn ceisio ei gyflawni, sut mae’n gwneud hynny, a’r cynnydd y mae’r Cyngor wedi’i wneud ers i’r Archwilydd Cyffredinol gyhoeddi
ei adroddiad gwella blynyddol diwethaf. Mae’r adroddiad hefyd yn seiliedig ar hunanasesiad y Cyngor ei hun. Yn olaf, gan ystyried hyn oll, mae’r adroddiad yn cofnodi casgliad yr Archwilydd Cyffredinol o ran pa un a yw o’r farn bod y Cyngor yn debygol o wneud trefniadau i sicrhau gwelliant parhaus ar gyfer 2014-15.
8 Nid ydym yn cynnal adolygiad blynyddol cynhwysfawr x xxxx drefniadau xx xxxx wasanaethau’r Cyngor. Mae’r casgliadau yn yr adroddiad hwn yn seiliedig ar
ein gwybodaeth gronnol a chyffredin a chanfyddiadau’r gwaith wedi’i flaenoriaethu a gyflawnwyd eleni.
9 O ystyried yr ystod xxxx o wasanaethau a ddarperir a’r heriau sy’n wynebu’r Cyngor, byddai’n anarferol pe na baem wedi dod
o hyd i bethau y gellir eu gwella. Gall yr Archwilydd Cyffredinol:
• wneud cynigion ar gyfer gwella – os caiff cynigion eu gwneud i’r Cyngor, byddem yn disgwyl iddo weithredu arnynt a byddwn yn gwneud gwaith dilynol ar yr hyn sy’n digwydd;
• gwneud argymhellion ffurfiol ar gyfer gwella – os caiff argymhelliad ffurfiol ei wneud, mae’n rhaid i’r Cyngor baratoi ymateb i’r argymhelliad hwnnw o fewn 30 diwrnod gwaith;
• cynnal arolygiad arbennig a chyhoeddi
adroddiad a gwneud argymhellion; ac
• argymell y dylai Gweinidogion Llywodraeth Cymru ymyrryd mewn rhyw ffordd.
10 Rydym am wybod a yw’r adroddiad hwn yn rhoi’r wybodaeth sydd xx xxxxxx arnoch ac a yw’n hawdd ei ddeall. Gallwch fynegi xxxx barn drwy anfon e-xxxx atom yn xxxx@xxx.xxx.xx neu ysgrifennu atom yn 24 Heol y Gadeirlan, Xxxxxxxx, XX00 0XX.
Yn 2012-13 gwnaeth y Cyngor gynnydd cyson wrth wella’r rhan fwyaf o’i feysydd blaenoriaeth, ond roedd rhai heriau allweddol yn parhau
11 Cyhoeddodd y Cyngor ei Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2012-13 ym mis Hydref 2013. Roedd yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol yn cynnwys
gwerthusiad o berfformiad y Cyngor fesul cyfarwyddiaeth ac o safbwynt cynnydd o ran cyflawni ei amcanion gwella ar gyfer 2012-13. Roedd yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol yn cynnwys dadansoddiad
o berfformiad y Cyngor yn erbyn y Dangosyddion Strategol Cenedlaethol a’r Mesurau Atebolrwydd Cyhoeddus. Mae Ffigur 1 yn dangos bod 24 (54.6 y cant) o’r 44 dangosydd yr adroddwyd arnynt wedi gwella, bod 10 (22.7 y cant) wedi gwaethygu, nid oedd dau (4.5 y cant) wedi
newid ac nid oedd modd cymharu wyth (18.2 y cant) â pherfformiad mewn blynyddoedd blaenorol.
Ffigur 1 – dadansoddiad y Cyngor o’i ddangosyddion perfformiad strategol
cenedlaethol a’i fesurau atebolrwydd cyhoeddus
18%
55%
%
23%
4 Perfformiad yn gwella
Perfformiad yn gwaethygu Perfformiad yn cael ei gynnal Dim modd cymharu
12 Yn yr Adroddiad Gwella Blynyddol a gyhoeddwyd gennym ym mis Medi 2013, nodwyd bod perfformiad y Cyngor wrth wella gwasanaethau yn 2011-12 wedi bod yn gymysg. Nodwyd bod canran y
dangosyddion strategol cenedlaethol a oedd wedi gwella o gymharu â’r flwyddyn flaenorol wedi disgyn yn sylweddol o 77 y cant yn 2010-11 i 58 y cant yn 2011-12. Roedd yn dda nodi, felly, bod cyfran y dangosyddion strategol cenedlaethol a oedd wedi gwella wedi cynyddu ychydig o 58 y cant yn
2011-12 i 60 y cant yn 2012-13. Hefyd, roedd y Cyngor wedi bodloni 70 y cant o’i dargedau ar gyfer 2012-13, o’i gymharu â 61 y cant y llynedd.
13 Yn 2012-13, nododd y Cyngor wyth amcan gwella (gweler Atodiad 4) a oedd yn gysylltiedig â’i bedair thema drosfwaol a gyhoeddwyd yn 2009:
• Adeiladu Gwell Gwasanaethau
Cyhoeddus
• Adeiladu Economi sy’n Ffynnu
• Adeiladu Gwell Ffyrdd o Fyw
• Newid Bywydau, Creu Dyfodol
Ffigur 2 – Dadansoddiad o ddangosyddion perfformiad strategol cenedlaethol ar gyfer 2011-12 a 2012-13
80%
70%
60%
50%
40%
30%
20%
10%
0%
2011-12 2012-13
Perfformiad yn gwella Targedau wedi’u cyrraedd
14 Eleni, roedd ein gwaith yn canolbwyntio ar
ddau o amcanion gwella’r Cyngor:
• cynnal yr amrywiaeth o gyfleoedd cyflogaeth ar gyfer preswylwyr (amcan gwella 3); a
• hyrwyddo manteision ffordd o fyw iach ac egnïol (amcan gwella 5).
15 Yn yr adran isod rydym yn cynnwys dadansoddiad cryno o ba mor llwyddiannus oedd perfformiad y Cyngor wrth sicrhau gwelliant yn erbyn y ddau amcan gwella hwn.
Yn 2012-13 roedd gweithgareddau’r Cyngor wedi helpu i wella cyfleoedd cyflogaeth a phroffil iechyd yr ardal, ond maent yn parhau i fod yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor
Yn 2012-13 roedd gweithgareddau’r Cyngor
i wella cyfleoedd cyflogaeth yn dechrau cael effaith ar leihau lefelau diweithdra yn yr ardal, er bod y lefelau’n parhau i fod yn uwch na chyfartaledd Cymru a’r DU
16 Mae’r Cyngor wedi bod ag amcan gwella i gynnal a gwella cyfleoedd cyflogaeth
ar gyfer trigolion ers pedair blynedd. Yn 2012-13, roedd gweithgareddau’r Cyngor yn canolbwyntio ar hyrwyddo cyfleoedd
ariannu lleol, darparu cyngor i fusnesau lleol a busnesau newydd a xxxx pobl i ymuno â rhaglen cymorth cyflogaeth.
17 Yn ei Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2012-13, nododd y Cyngor fod cynnydd wrth gyflawni’r amcan gwella hwn wedi bod yn llwyddiannus. Roedd dros 6,000 o bobl
wedi cymryd rhan mewn rhaglenni amrywiol, fel Genesis 2, Pontydd i Waith a’r prosiect Sgiliau Gwaith i Oedolion, sy’n ceisio gwella cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth.
18 Cafodd rhwydwaith busnes digidol y Cyngor, Prosiect Go2 My Town, ei ymestyn i bum tref arall, gan ddatblygu’r gwaith a wnaed
yn Rhymni a Bargoed. Drwy gyllid grant a xxxxxxxx xxxxxx, helpodd y Cyngor i greu 139 o swyddi newydd a diogelu 1,130 o swyddi yn yr ardal.
19 Cymerodd dros 130 o bobl ychwanegol ran yng nghynllun prentisiaeth y Cyngor yn 2012-13. Cafodd y cynllun ei ddatblygu fel xxxx x xxxxxx Basbort y Cyngor, a diolch i
gymorth cyllid Ewropeaidd, mae’n gobeithio y bydd dros 200 o bobl yn cymryd rhan yn y rhaglen xxx blwyddyn. Roedd cynnydd hyd yn hyn ar y rhaglen Basbort newydd
wedi derbyn llawer o sylw ledled Cymru gan Lywodraeth Cymru a chynghorau eraill sy’n awyddus i ddysgu gan y rhaglen.
20 O’r 15 mesur a ddefnyddiwyd gan y Cyngor i nodi llwyddiant ei berfformiad yn erbyn yr amcan gwella hwn, roedd perfformiad naw mesur wedi gwella, perfformiad pedwar wedi dirywio ac roedd un wedi aros yn ei unfan
o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Nid oedd modd cymharu un mesur gan nad oedd data ar gael ar ei gyfer y llynedd.
21 Ar gyfer 2012-13, dylid nodi i ni roi barn amodol ar y dangosydd lleol ‘nifer y cyfranogwyr yng nghynllun prentisiaeth y Cyngor’ gan nad oedd y cyfrifiad yn bodloni’r diffiniad perthnasol yn llawn ac
nad oedd modd ail-gyfrifo’r dangosydd adeg yr archwiliad. Mae’r Cyngor eisoes wedi datblygu set newydd o ddangosyddion ar gyfer 2013-14 ar gyfer ei gynllun prentisiaeth Pasbort newydd, gyda set newydd o ddiffiniadau. Mae’r rhain wedi disodli dangosydd 2012-13 a dylent fynd i’r afael â’r mater cymhwyso wrth symud ymlaen.
22 Llwyddodd y Cyngor i gyrraedd 11 o’r 15 targed a osododd iddo ei hun. Fodd
bynnag, rhaid nodi bod rhai o’r targedau yn is na’r perfformiad a gafwyd yn y flwyddyn flaenorol. Yn y rhan fwyaf o feysydd, roedd yr esboniad am y targedau’n ymddangos yn rhesymol, ac i ryw raddau roedd y targedau wedi’u llywio gan ofynion ariannu
Ewropeaidd. Wrth osod targedau, rhoddwyd ystyriaeth hefyd i gyflwr yr economi leol, faint o gyllid oedd ar gael a’r hinsawdd economaidd gyffredinol.
23 Roedd y meysydd lle cafwyd dirywiad mewn perfformiad yn cynnwys: llai o bobl na’r disgwyl yn cymryd rhan yn y prosiect Sgiliau Hanfodol yn y Gweithle gan fod un cwmni wedi tynnu yn ôl o’r prosiect ac nid oedd unrhyw fusnesau newydd cymwys wedi holi’r Cyngor am y cynllun grant. Roedd trefnu bod Busnesau Bach a Chanolig (BBaChau) yn gweithio gyda’r Cyngor yn parhau i fod yn her hefyd. Fodd bynnag, mae’r Cyngor yn gweithio tuag at gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru ar gyfer ei dai cyngor, ac yn manteisio’n llawn ar y cyfle sy’n deillio o hyn i greu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant newydd yn yr ardal.
24 Er bod y Cyngor yn credu bod ei berfformiad yn llwyddiannus wrth gyflawni’r amcan gwella hwn, roedd yn briodol bod ei Adroddiad Perfformiad Blynyddol wedi tanlinellu’r lefelau diweithdra uchel yn yr ardal.
25 Roedd perfformiad yn erbyn y data cymharol cenedlaethol sydd ar gael gan Wasanaeth Gwybodaeth y Swyddfa Ystadegau
Gwladol yn awgrymu bod gweithgareddau’r Cyngor wedi dechrau cael effaith, ond bod perfformiad o gymharu â chynghorau eraill Cymru yn bryder o hyd:
• Cafwyd gostyngiad yng nghanran y bobl sy’n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith yn yr ardal o 5.2 y cant ym mis Medi 2012 i
4.5 y cant ym mis Medi 2013. Cafwyd gostyngiad tebyg yng nghyfartaledd Cymru o 4.1 y cant i 3.5 y cant, a chafwyd gostyngiad yng nghyfartaledd y DU o 3.7 y cant i 3.2 y cant yn ystod yr un cyfnod. Dangosodd y ffigur ar gyfer mis Rhagfyr 2013 fod nifer yr hawlwyr wedi parhau i ostwng nes cyrraedd 4.3 y cant yng Nghaerffili, er bod y ganran yn parhau i fod yn uwch na chyfartaledd Cymru (3.3 y cant) a chyfartaledd y DU (2.9 y cant).
• Gostyngodd lefel diweithdra yng Nghaerffili o 9.8 y cant ym mis Medi 2012 i naw y cant ym mis Medi 2013, y lefel isaf ers mis Mawrth 2009. Fodd bynnag, roedd cyfradd diweithdra Caerffili yn parhau i fod yn uwch na chyfartaledd Cymru (8.1 y cant) a chyfartaledd y DU (7.7 y cant).
• Ar y llaw arall, cynyddodd canran y bobl ifanc 16 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) o
4.5 y cant yn 2011-12 i 5.9 y cant yn 2012-13, a oedd yn sylweddol uwch na chyfartaledd Cymru (4.2 y cant). Mae’r cynnydd hwn yn dilyn gostyngiad o 1.5 y cant rhwng 2010-11 a 2011-12. Roedd y Cyngor yn un o bedwar o’r 22 cyngor yng Nghymru a welodd ostyngiad yn
ei berfformiad yn y xxxx hwn. Xxx Paragraff 53 isod yn nodi sut mae’r Cyngor yn mynd i’r afael â NEETs.
• Yn 2013, roedd enillion wythnosol yng Nghaerffili yn £534 ar gyfartaledd. Roedd y ffigur hwn yn ddegfed yn y rhestr o’r
22 awdurdod lleol yng Nghymru. Yn 2003, 2008 a 2013 roedd enillion yng Nghaerffili yn is na chyfartaledd Cymru, er bod y bwlch wedi lleihau.
26 Fel mesur o lwyddiant, mae Mynegai Cystadleurwydd y DU1 yn fesurydd arall sy’n dangos pa mor dda mae cynghorau, rhanbarthau a gwledydd yn y DU yn perfformio wrth ddenu buddsoddiad sector preifat newydd, yn ogystal â chynorthwyo busnesau cyfredol i ffynnu. Yn 2013, roedd Caerffili yn safle 378 o blith 379 lleoliad yn y DU, gan ostwng un safle ers 2010. Mewn cymhariaeth, Cymru oedd rhanbarth lleiaf cystadleuol y DU.
Yn 2012-13, roedd proffil iechyd yr ardal
yn achos pryder o hyd, ond roedd camau gweithredu’r Cyngor yn helpu i wella’r sefyllfa
27 Un o flaenoriaethau gwella’r Cyngor oedd helpu i wella proffil iechyd gwael y
fwrdeistref, drwy hyrwyddo manteision ffordd o fyw iach ac egnïol. Yn 2012-13, roedd y Cyngor yn parhau i ganolbwyntio ar wneud yr ardal yn atyniadol a hygyrch er mwyn annog pobl i fod yn fwy egnïol, gan weithio gydag ysgolion i wella iechyd a lefelau gweithgarwch plant a datblygu mentrau amrywiol i annog oedolion i fod yn fwy egnïol.
28 Wrth adeiladu ar y cynnydd a wnaeth yn 2011-12 tuag at gyflawni ei gamau
gweithredu allweddol, roedd y Cyngor yn credu bod ei berfformiad yn erbyn yr amcan gwella hwn yn llwyddiannus. Roedd yn parhau i wneud cynnydd rhesymol wrth gyflawni’r camau gweithredu a nododd yn ei Amcanion Gwella 2012-13, gan sicrhau bod pob un wedi’i gwblhau neu ar waith.
29 Cafwyd cynnydd yn y meysydd canlynol yn arbennig: cyflwyno rhaglenni amlsgiliau ym mhob ysgol i hyrwyddo ‘sgiliau am oes’; gweithgareddau ledled y fwrdeistref
i hyrwyddo ffordd o fyw iach; a gosod arwynebau chwaraeon gwell yng Nghanolfan Hamdden Sant Cennydd a Thredegar Newydd. Roedd Canolfan Perfformio Ystrad Mynach i fod i xxxx xx mis Chwefror 2014 hefyd ac roedd y Cyngor wedi llwyddo i sicrhau cytundebau partneriaeth gydag Undeb Rygbi Cymru a Dreigiau Gwent.
1 Cyflwynwyd a chyhoeddwyd Mynegai Cystadleurwydd y DU am y tro cyntaf yn 2000 gan Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd. Mae’n cynrychioli proses o feincnodi cystadleurwydd rhanbarthau ac ardaloedd y DU. Mae Mynegai Cystadleurwydd y DU wedi’i lunio fel mesur integredig o gystadleurwydd sy’n canolbwyntio ar ddatblygiad a chynaliadwyedd busnesau a lles economaidd unigolion.
30 O’r 24 mesur a ddefnyddiodd y Cyngor i asesu ei welliant yn y xxxx hwn, roedd 17 (71 y cant) wedi gwella, roedd perfformiad un (pedwar y cant) yn parhau i fod yn
100 y cant, roedd pump (21 y cant) wedi dirywio ac un (pedwar y cant) wedi aros yn ddigyfnewid.
31 Er enghraifft, cynyddodd nifer yr ymwelwyr â chanolfannau hamdden a chyfleusterau chwaraeon xxx do’r Cyngor o 1,148,638 yn 2011-12 i 1,277,952 yn 2012-13. Yn yr un modd, cynyddodd nifer y plant 16 oed ac iau a fu’n mynychu sesiynau nofio am ddim o 25,584 yn 2011-12 i 27,415 yn 2012-13.
32 Fodd bynnag, cafwyd gostyngiad yn nifer y bobl a fynychodd y cynllun atgyfeirio cleifion i wneud ymarfer xxxxx o 1,166 yn 2011-12
i 982 yn 2012-13, ac roedd y ffigur hwn yn is na tharged y Cyngor o 1,080. Yn ei
Adroddiad Perfformiad Blynyddol, eglurodd y Cyngor fod y gostyngiad hwn i’w briodoli i’r nifer cynyddol o bobl a atgyfeiriwyd i’r cynllun gyda phroblemau iechyd cymhleth a oedd angen amser ychwanegol gan hyfforddwyr.
33 Er gwaethaf ymdrechion y Cyngor, nodwyd gennym yn ein Hadroddiad Gwella Blynyddol ym mis Medi 2013 fod nifer y plant a oedd yn derbyn prydau ysgol mewn ysgolion cynradd wedi cyrraedd xx xxxxx isaf ers tair blynedd. Er na lwyddodd y ffigur i gyrraedd targed y Cyngor eto eleni, cynyddodd o 36
y cant yn 2011-12 i ychydig o xxx 40 y cant yn 2012-13. Mae’r Cyngor wedi ymrwymo
i gadw at ddeddfwriaeth Blas am Oes ac mae’n parhau i hyrwyddo manteision iechyd prydau ysgol i rieni a disgyblion.
34 Fodd bynnag, dangosodd yr ystadegau dilynol ar gyfer canlyniadau cenedlaethol allweddol yn 2012-13 fod proffil iechyd yr ardal yn parhau’n destun pryder. Er enghraifft:
• Mae disgwyliad oes oedolion wedi bod yn gwella’n raddol dros y blynyddoedd diwethaf. Er bod disgwyliad oes dynion yn debyg i gyfartaledd Cymru, roedd disgwyliad oes menywod yn is na chyfartaledd Cymru.
• Roedd canran yr oedolion gordew yn 2012-13 yn parhau i fod yn sylweddol uwch na chyfartaledd Cymru.
35 Mae’r Cyngor yn cydnabod hyn ac un o’i amcanion gwella ar gyfer 2013-14 yw gwella ymwybyddiaeth, mynediad, ac amrywiaeth
a defnydd o gyfleusterau hamdden a
chwaraeon.
Roedd perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol yn parhau i fod yn dda yn ystod 2012-13 ac roedd rhai gwersi
wedi’u dysgu yn sgil ystyried integreiddio â Blaenau Gwent
36 Nododd Adroddiad Gwella Blynyddol y llynedd fod y Cyngor wedi penderfynu peidio ag integreiddio ei wasanaethau cymdeithasol â Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent. Roeddem hefyd wedi mynegi pryder nad oedd cynllun ariannol tymor canolig y Cyngor wedi ystyried effaith bosibl integreiddio, ac nad oedd ganddo achos busnes wedi’i gostio’n llawn ar
gyfer y broses integreiddio. Dangosodd ein harolygiad llywodraethu corfforaethol
diweddar nad aeth y cyngor ati mewn ffordd
amserol i ymgynghori’n ffurfiol â’r Swyddog
Adran 151 mewn perthynas â’r cynnig i integreiddio Gwasanaethau Cymdeithasol â Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.
37 Dywedodd y Cyngor y byddai’n ystyried agweddau ar integreiddio â Blaenau Gwent fesul achos lle’r oedd achos busnes yn cefnogi hynny. Ategwyd cymeradwyaeth derfynol Cabinet y Cyngor ym mis Gorffennaf 2013 ar gyfer gweithlu ar y
cyd â Blaenau Gwent gan xxxxx xxxxxx, ond roedd y gwasanaeth eisoes wedi’i integreiddio i xxx pwrpas erbyn hynny.
38 Cyhoeddodd AGGCC Adolygiad Blynyddol a Gwerthusiad o Berfformiad 2012-13 ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yng Nghaerffili ym mis Hydref 2013. Roedd yr adroddiad yn asesiad cadarnhaol o berfformiad y Cyngor o safbwynt gwasanaethau oedolion a phlant. Amlygodd yr adroddiad lawer o agweddau da ar ddarparu gwasanaethau a meysydd cynnydd. Mae hefyd yn amlinellu rhai o’r heriau sy’n wynebu’r Cyngor ac yn nodi meysydd i’w gwella. Mae’r adroddiad ar gael ar wefan AGGCC: xxxx://xxxxx.xxx.xx.
39 Mae’r paragraffau canlynol yn dod o’r
adroddiad:
• ‘Roedd pwyslais y llynedd ar integreiddio’r gwasanaethau cymdeithasol gydag adran gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref
Xxxxx Xxxxxxx Gwent. Fodd bynnag, ni ddigwyddodd hyn yn y pen draw. Mae’r ddwy ochr wedi cynnal ymrwymiad
i weithio mewn partneriaeth mewn meysydd gwasanaeth penodol.
• Er i’r penderfyniad gael ei wneud i beidio â bwrw ymlaen â’r integreiddio, cyfrannodd cyfarwyddwyr y ddwy adran
gwasanaethau cymdeithasol at adolygiad o weithio ar y cyd. Arweiniodd hyn at gyhoeddi’r gwersi allweddol a ddysgwyd ac awgrymiadau cadarnhaol a chyngor
i asiantaethau sy’n gweithio mewn partneriaeth.
• Mae gweithio ar y cyd ag amrywiaeth o bartneriaid wedi bod yn uchel ar agenda’r gwasanaethau cymdeithasol ac mae hyn wedi cynnwys arwain nifer o drefniadau cydweithio rhanbarthol.
• Cafwyd heriau tuag at ddiwedd y flwyddyn wrth i swyddi ddod ar gael ar lefel corfforaethol ac uwch reoli. Bydd hyn yn achosi heriau yn 2013/14 gan y bydd angen sefydlu uwch dîm rheoli newydd.’
• ‘Mae’r cyngor wedi parhau i adolygu a datblygu gwasanaethau gyda phartneriaid. Ceir ymrwymiad cryf i
weithio gydag adrannau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol eraill a’r adran iechyd. Mae hyn wedi cynnwys datblygu cysylltiadau cyfredol, fel y model Eiddilwch Gwent a chynnal gwasanaethau lleoli oedolion er enghraifft, yn ogystal â chymryd rhan
mewn trefniadau newydd – bwrdd diogelu oedolion Gwent gyfan.
• Adolygwyd y ddarpariaeth fewnol a sefydlwyd prosiectau a strategaethau newydd i wella gwasanaethau i bobl.’
• ‘Mae’r gwasanaethau i blant wedi parhau i berfformio’n dda. Dilynwyd y trefniadau rhannu cyfarwyddwr cynorthwyol cychwynnol yn ystod y rhaglen integreiddio gan reoli ar y cyd am weddill y flwyddyn. Ni ddangosodd hyn effaith
amlwg ar blant a phobl ifanc a oedd yn derbyn gwasanaethau.
• Parhaodd y cyngor i adolygu gwasanaethau gan gynnwys darpariaeth breswyl ar gyfer plant sy’n derbyn gofal a gwasanaethau seibiant i blant ag anableddau, yn ogystal â chymryd rhan mewn cydweithredu rhanbarthol ar gyfer diogelu.
• Er i berfformiad gael ei gynnal, bydd penodi cyfarwyddwr cynorthwyol newydd i’r gwasanaethau i blant yn 2013/14
yn cynnig cyfle i barhau’r datblygiad
cadarnhaol.’
40 Nododd AGGCC bedwar xxxx o arfer da:
• ymrwymiad parhaus i archwilio meysydd
ar gyfer cydweithio ag amrywiaeth xxxx o bartneriaid, fel y xxx adnoddau cymunedol o fewn y model Eiddilwch Gwent ehangach, er enghraifft;
• adolygu’r ddarpariaeth o wasanaethau mewnol yn arwain at newid cadarnhaol, datblygiad gwelyau ail-alluogi, archwilio strategaethau newydd ar gyfer gofalu am bobl â dementia, datblygu uned breswyl newydd i blant ac ailstrwythuro’r gwasanaeth seibiant i blant;
• rhannu’r hyn a ddysgwyd o’r prosiect ar y
cyd â Blaenau Gwent; a
• datblygu dulliau yn seiliedig ar ganlyniadau wrth gynllunio ac adolygu gofal asesu.
41 Roedd AGGCC wedi nodi’r risgiau canlynol
posibl hefyd:
• effaith trefniadau rheoli dros dro hirdymor
ar yr adran;
• effeithiau posibl ansefydlogrwydd
corfforaethol; a
• chynnal y lefelau uchel cyfredol o wasanaeth mewn amgylchedd ariannol anodd.
42 Ym mis Rhagfyr 2012, cynhaliodd AGGCC adolygiad cenedlaethol o swyddogaeth statudol y cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol. Cadarnhaodd yr adolygiad fod gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ddealltwriaeth glir o atebolrwydd y cyfarwyddwr, ynghyd â strwythurau a threfniadau llywodraethu a chymorth cadarn i alluogi’r cyfarwyddwr i gyflawni xx xxxxx.
43 Roedd cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol parhaol wedi’i benodi ac roedd y Cyngor wrthi’n penodi Cyfarwyddwyr Cynorthwyol ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Plant ac Oedolion. Xxxxx hyn roi sefydlogrwydd i’r gwasanaeth.
44 Roedd y Cyngor wedi cadw o fewn ei gyllideb ar Wasanaethau Cymdeithasol, ond roedd yn ymwybodol o’r heriau wrth symud ymlaen. Roedd Adroddiad
Blynyddol y Cyfarwyddwr ar Effeithiolrwydd Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol 2012- 13 ac Adroddiad Perfformiad Blynyddol y Cyngor 2012-13 yn pwysleisio’r pwysau cynyddol ar y Gwasanaeth yn sgil y cynnydd yn y galw a’r angen i wneud arbedion ariannol heb eu tebyg yn 2014-15 ac ar
ôl hynny. Bydd ad-drefnu a gweddnewid y ffordd y mae gwasanaethau yn cael eu darparu yn hanfodol i ymdopi â’r pwysau hwn.
45 Fel rhan o’n rhaglen reoleiddio 2013- 14, byddwn yn cynnal adolygiad i asesu
cynaliadwyedd Gwasanaethau Cymdeithasol ledled Gwent. Cynhelir yr adolygiad hwn ar y cyd ag AGGCC.
Bu llwyddiant y Cyngor yn gymysg o ran gwella lefelau sgiliau plant a phobl ifanc
46 Roedd gwella lefelau sgiliau plant a phobl ifanc yn un o amcanion gwella 2012-13
y Cyngor. Yn ei Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2012-13, nododd y Cyngor ei fod wedi bod yn rhannol lwyddiannus yn cyflawni’r amcan gwella hwn. Mae wedi cwblhau’r xxxx gamau gweithredu a nodwyd yn ei ddogfen Amcanion Gwella 2012-13,
gan gynnwys: darparu anogwyr dysgu ledled ei ddarparwyr dysgu; darparu hyfforddiant
ar gyfer athrawon yng nghyfnodau allweddol 2 a 3; a sefydlu rhaglen gymorth i leihau nifer y gwaharddiadau cyfnod penodol a pharhaol.
47 O’r 20 o fesuryddion perfformiad y mae’r Cyngor yn eu defnyddio i benderfynu pa mor dda y mae’n perfformio yn y xxxx hwn, roedd 12 (60 y cant) wedi gwella, saith (35 y cant) wedi dirywio ac un (pump y cant) wedi aros yn ddigyfnewid. Mae data’r Cyngor
yn dangos bod perfformiad wedi gwella yn y rhan fwyaf o ddangosyddion ym mhob cyfnod allweddol, gan gynnwys:
• cynyddodd canran y disgyblion sy’n cyflawni lefel 4+ yn eu hasesiadau mathemateg ar ddiwedd cyfnod allweddol 2 o 84.6 y cant yn 2011-12 i 86.8 y cant yn 2012-13; a
• chynyddodd canran y disgyblion sy’n cyflawni lefel 5+ yn yr Asesiadau Saesneg ar ddiwedd cyfnod allweddol 3 o 70.9 y cant yn 2011-12 i 76.8 y cant yn 2012-13.
48 Fodd bynnag, cynyddodd y bwlch rhwng canran y bechgyn a merched sy’n cyflawni’r dangosydd pwnc craidd yng nghyfnodau allweddol 3 a 4. Yn yr un modd, roedd canran y disgyblion 17 oed a gymerodd gyrsiau sy’n arwain at gymwysterau cyfwerth â dwy Safon Uwch wedi disgyn o 99 y cant yn 2011-12 i 96 y cant yn 2012-13.
49 Cyflawnodd y Cyngor 11 o’r 20 targed a osododd iddo ei hun yn 2012-13 ar gyfer yr amcan gwella hwn.
50 Cynhaliodd Estyn arolygiad o wasanaethau addysg y Cyngor ar gyfer plant a phobl ifanc ym mis Gorffennaf 2012. Mae arolygwyr
yn dod i gasgliad cyffredinol ynglŷn â pherfformiad cyfredol a’r gallu i wella. Defnyddir graddfa pedwar pwynt i werthuso gwasanaethau: rhagorol, da, boddhaol
ac anfoddhaol. Daeth Estyn i’r casgliad bod gwasanaethau addysg y Cyngor ar gyfer plant a phobl ifanc yn foddhaol, a bod gan y Cyngor ragolygon boddhaol ar gyfer gwelliant. Mae’r Cyngor wedi
datblygu cynllun gweithredu ar ôl arolygiad i ymateb i argymhellion Estyn. Mae’r cynllun gweithredu hwn yn cael ei fonitro gan y Cabinet a’r Pwyllgor Craffu ar Addysg Gydol Oes. Nododd adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg i’r Pwyllgor Craffu ym mis Tachwedd 2013 fod y rhan fwyaf o gamau’r cynllun gweithredu ar ôl arolygiad wedi’u rhoi ar waith ac yn cael effaith gadarnhaol ar ddarpariaeth.
51 Yn ôl llythyr Estyn dyddiedig Mawrth 2014: ‘Aeth yr awdurdod ati’n gyflym i fynd i’r afael â’r argymhellion yn arolygiad 2012. Yn ystod cyfnod o newid sylweddol ymhlith uwch reolwyr, mae’r cyngor wedi dangos ymrwymiad cadarn i wella’u gwasanaethau addysg i blant a phobl
ifanc.’ ‘Mae’r awdurdod wedi sefydlu sylfeini gwell i barhau i ysgogi’r gwelliannau mewn cyrhaeddiad a chyflawniad ar gyfer pob dysgwr. Bernir bod Cyngor Bwrdeistref
Sirol Caerffili wedi gwneud cynnydd digonol mewn perthynas â’r argymhellion yn sgil arolygiad Gorffennaf 2012. O ganlyniad, mae Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru yn tynnu’r ysgol o unrhyw weithgarwch dilynol pellach.’
Roedd Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid Blaenau Gwent a Chaerffili yn perfformio’n dda, ac roedd dull gweithredu mwy cydgysylltiedig i leihau nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant xxxxxxx ar xxxxx, ond nid oedd ei effaith yn amlwg eto ym mhob ystod oedran
52 Roedd y Cyngor yn ymwybodol iawn o effaith poblogaeth NEETs uchel ar yr economi leol a’i wasanaethau, ac roedd yn amlwg bod hyn wedi dylanwadu ar ei amcanion gwella.
53 Roedd ymdrechion y Cyngor yn canolbwyntio ar bobl ifanc NEET rhwng 14 a 16 oed ac ar adolygu gweithgareddau
a gwasanaethau perthnasol. Roedd hyn yn debyg i’r rhan fwyaf o gynghorau yng Nghymru, ond roedd y Cynllun Pasbort yn
enghraifft dda o’r Cyngor yn gweld problem gynyddol yn yr ystod oedran 18 i 24 ac yn datblygu rhaglen i fynd i’r afael â hi.
54 Yn y 18 mis blaenorol, mae gwerthuso gweithgareddau yn ymwneud â NEETs wedi bod yn ffocws allweddol gan y Cyngor, diolch yn bennaf i’r Cyfarwyddwr Addysg
a oedd wedi nodi bod yna fylchau mewn darpariaeth a’i fod yn pryderu ynglŷn ag effaith diffyg cydweithredu rhai o’r rhaglenni a oedd yn ceisio lleihau nifer y NEETs. Mae newidiadau wedi’u gwneud o ganlyniad i hynny. Er enghraifft: mae anogwyr dysgu
ar xxxx xxxxxxx i ddarparu cymorth mwy dwys; xxx xxxxxx unigol ar gyfer atgyfeirio i ddarpariaeth y tu xxxxx i oriau ysgol wedi’i datblygu; bu newidiadau i’r cwricwlwm 14
i 16; ac mae contractau newydd wedi’u
dyfarnu i ddarparwyr.
55 Yn ogystal, bu ymateb cadarnhaol a rhagweithiol i bryderon Estyn ynglŷn â Gwasanaethau Ieuenctid. Mae datblygu Gwasanaeth Ieuenctid effeithiol a hygyrch yn un o amcanion gwella 2013-14 y Cyngor. Mae Pennaeth newydd xxxxxxx wedi’i benodi i’r Gwasanaeth Ieuenctid ac mae strategaeth wedi’i drafftio ar gyfer y Gwasanaeth Ieuenctid. Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno mewn egwyddor â chais i ariannu rhagor o waith gan y Gwasanaeth Ieuenctid mewn ysgolion.
56 Roedd gan y Cyngor amrywiaeth o ddulliau ar waith ar gyfer gweithio gydag ysgolion, colegau ac asiantaethau eraill i geisio xxxx pobl ifanc rhag mynd yn NEET. Roedd
hyn yn cynnwys xx xxxxxx rhieni newydd a rhieni sy’n disgwyl a’i brosiect dysgu teuluol integredig. Yn ogystal, roedd wedi hen sefydlu dulliau o ymgysylltu â phobl ifanc, ac roedd yn amlwg bod safbwyntiau pobl ifanc yn cael eu hystyried.
57 Roedd y broses o broffilio pobl ifanc sy’n agored i niwed xxxxxxx ar xxxxx, xx roedd system olrhain newydd ar waith i roi gwybodaeth fanylach i’r Cyngor er mwyn ei helpu i ddeall cyrchfan a dyheadau pobl ifanc y fwrdeistref. Roedd protocol rhannu gwybodaeth yn cael ei ddatblygu gyda
Gyrfa Cymru hefyd, ond fel sy’n wir am xxx cyngor, roedd yn parhau i fod yn anodd cael gafael ar xxxx o’r data allweddol.
58 Mae’r Cyngor wedi drafftio ei strategaeth NEETs 2013-15 hefyd sy’n nodi sut mae’n mynd i leihau nifer y bobl ifanc NEET. Fodd bynnag, nid oedd y strategaeth wedi’i chytuno’n ffurfiol eto, ac roedd y trefniadau adrodd a monitro yn parhau i gael eu datblygu.
59 Fel y nodwyd eisoes ym mharagraff 25 uchod, cynyddodd canran y bobl ifanc 16 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant o 4.5 y cant yn 2011-12 i
5.9 y cant yn 2012-13. Roedd y Cyngor wedi priodoli’r cynnydd yn rhannol i ddulliau adrodd gwell, ond roedd yn dal i bryderu am y ffigurau ac yn parhau i gryfhau ei
drefniadau i fynd i’r afael â nifer y NEETs. Yn fwy cadarnhaol, lleihaodd cyfran y bobl ifanc XXXX xx’n gadael yr ysgol ym Mlwyddyn 13 o 7.1 y cant yn 2009 i 6.8 y cant yn 2012.
Roedd Gwasanaeth Troseddu Ieuenctid
Blaenau Gwent a Chaerffili yn perfformio’n dda
60 Ym mis Mehefin 2013, cynhaliodd Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi arolygiad sgrinio ansawdd byr o Gyd-wasanaeth Troseddu Ieuenctid Blaenau Gwent a Chaerffili, gan ddod i’r casgliad: ‘Yn gyffredinol, cawsom fod Gwasanaeth Troseddu Ieuenctid (YOS) Blaenau Gwent a Caerffili yn perfformio’n dda. Roedd staff yr YOS yn llawn cymhelliant ac yn siarad yn gadarnhaol am y sefydliad a’u cyfraniad at y gwaith. Roedd gwelliannau sylweddol wedi’u gwneud ers ein harolygiad diwethaf yn 2010, yn enwedig i’r gwaith diogelu plant ac amddiffyn y cyhoedd. Dylid canolbwyntio
ymdrechion pellach yn awr ar sicrhau bod yr xxxx asesiadau a chynlluniau o ansawdd da. O ystyried ymrwymiad y staff a’r rheolwyr rydym yn rhagweld y gellir ailadrodd y safonau a arsylwyd yn y mwyafrif o achosion ar draws yr xxxx xxxxx.’
61 Roedd yr agweddau gorau ar waith a welodd Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi ym Mlaenau Gwent a Chaerffili yn cynnwys:
• Y gwelliant sylweddol mewn ymarfer
ers yr arolygiad diwethaf. Er bod xxx y rheolwyr wedi hyrwyddo hyn, roedd grŵp y staff wedi mabwysiadu hyn yn llwyr.
Roedd y grŵp staff yn ymroddedig i’w
gwaith a’u cymuned.
• Ymgysylltu plant a phobl ifanc a’u rhieni/ gofalwyr. Roedd hyn wedyn yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer gweithio tuag at leihau’r tebygolrwydd o aildroseddu.
62 Yn ôl Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi, y xxxx mwyaf arwyddocaol ar gyfer gwella oedd yr angen am oruchwylio cyson ar lefel rheoli i sicrhau ansawdd yr asesiadau risg o niwed i eraill ac ansawdd y cynlluniau i fynd i’r afael â’r perygl o niwed.
63 Mae adroddiad llawn yr arolygiad ar gael ar wefan Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi: xxxx://xxx.xxxxxxx.xxx.xx/
Gwellodd y Cyngor ei berfformiad xx xxxx rheoli xxxx-daliadau tai, a llwyddodd i wneud arbedion yn gynt
na’r disgwyl a chynnal ei berfformiad er gwaethaf defnyddio llai o adnoddau
Yn y gwasanaethau a adolygwyd gennym, llwyddodd y Cyngor i wneud arbedion yn gynt na’r disgwyl a chynnal ei berfformiad er gwaethaf defnyddio llai o adnoddau, ond
nid oedd yr arbedion yn cael eu monitro na’u gwerthuso yn benodol
64 Yn ystod 2012-13, aethom ati i gynnal adolygiad ledled cynghorau Gwent i asesu pa mor dda y maent yn ymdopi â llai o adnoddau. Canolbwyntiodd ein hadolygiad ar dri xxxx gwasanaeth – Iechyd yr Amgylchedd, Tai, a Rheoli Gwastraff
– er mwyn deall i xx xxxxxx y xxx’r gwasanaethau unigol hyn yn llwyddo i gynllunio a gwneud arbedion.
65 Yn gyffredinol, gwelsom fod cynghorau yng Ngwent yn wynebu heriau sylweddol wrth barhau i ddarparu a gwella gwasanaethau hanfodol mewn amgylchedd sy’n newid sydd â llai o adnoddau a staff.
66 O safbwynt Caerffili, daeth yr adolygiad i’r casgliad bod arbedion wedi’u gwneud ymlaen llaw a bod gwaith y Cyngor o
xxxxxxx’r gyllideb o ddydd i ddydd yn gadarn. Fodd bynnag, roedd gwendidau yn y dull o fonitro a gwerthuso rhai arbedion. Daethom i’r casgliad hwn ar ôl canfod y canlynol:
• roedd gan y Cyngor ddealltwriaeth dda o’r pwysau ariannol a wynebai, ac roedd systemau da ar waith i asesu ac adolygu gwaith rheoli ariannol a pherfformiad cyllidebau yn rheolaidd;
• roedd wedi hysbysu staff am yr heriau ariannol sy’n wynebu’r cyngor, ac mae staff yn deall pwysau ariannol y dyfodol;
• roedd y Cyngor wedi sefydlu proses
ar gyfer nodi a chytuno ar arbedion a pharatoi Cynllun Ariannol Tymor Canolig, ond nid oedd ganddo ddull o gysylltu’r rhain yn ffurfiol ac yn ddiamwys â’r gost o gyflawni ei flaenoriaethau corfforaethol;
• nid oedd y Cyngor yn monitro nac yn
gwerthuso ei arbedion yn benodol; ac
• ar y cyfan, roedd perfformiad Iechyd yr Amgylchedd, Tai a Rheoli Gwastraff y Cyngor yn gwella neu’n cael ei gynnal, er gwaethaf gostyngiadau bach mewn termau real yn y cyllidebau.
Er gwaethaf lefelau staffio llai, roedd y gwaith o
xxxxx xxxx-daliadau tai yn gwella’n gyffredinol
67 Yn sgil cyflwyno Deddf Diwygio Lles 2012, lleihaodd nifer y bobl yng Nghaerffili a oedd yn hawlio Xxxx-dal Xxx x Xxxx-dal y Dreth Gyngor yn 2012-13 un y cant o 22,060 ym mis Mai 2012 i 21,890 ym mis Chwefror 2013. Roedd y sefyllfa yn debyg ledled Cymru. Yn sgil y gostyngiad hwn yn y llwyth gwaith, roedd y Cyngor yn gallu lleihau ei lefelau staffio yn ei xxxxx xxxx-daliadau, gan wneud arbedion o dros £90,000 yn 2012-13.
68 Er gwaethaf y gostyngiad mewn lefelau staffio, roedd perfformiad yn erbyn y dangosyddion allweddol wedi gwella’n gyffredinol:
• Gwellodd cyfartaledd yr amserau prosesu ar gyfer ceisiadau newydd o 25 diwrnod yn 2011-12 i 22 diwrnod yn 2012-13,
ond roedd hyn yn dal i fod yn hirach na chyfartaledd Cymru, sef 20 diwrnod yn 2012-13.
• Gwellodd cyfartaledd yr amser a gymerwyd i brosesu hysbysiadau newid amgylchiadau o wyth diwrnod yn 2011-12 i saith diwrnod yn 2012-13, ond eto roedd hyn yn waeth na chyfartaledd Cymru, sef chwe diwrnod yn 2012-13.
• Gwellodd canran y ceisiadau newydd nad ydynt wedi’u datrys am fwy na 50 diwrnod o dri y cant yn 2011-12 i ddau y cant yn 2012-13. Roedd y perfformiad yn well na chyfartaledd Cymru, sef pedwar y cant yn 2012-13.
• Gwellodd perfformiad wrth adennill gordaliadau’r flwyddyn flaenorol o 27 y cant yn 2011-12 i 38 y cant yn 2012-
13. Roedd y perfformiad yn well na chyfartaledd Cymru, sef 32 y cant yn 2012-13.
• Lleihaodd cyfanswm y ceisiadau am fudd-dal tai a gafodd eu hadolygu o 371 yn 2011-12 i 260 yn 2012-13. Gwellodd y Cyngor yr amser a gymerwyd i brosesu’r ceisiadau hyn o 24 diwrnod yn 2011-12 i 16 diwrnod yn 2012-13.
• Gwellodd canran y ceisiadau a gafodd eu hailystyried o fewn pedair wythnos o 73 y cant yn 2011-12 i 82 y cant yn 2012-
13. Roedd hyn yn well na chyfartaledd Cymru, sef 11 y cant yn 2012-13. Dirywiodd perfformiad ledled Cymru yn sylweddol o 68 y cant yn 2011-12 i 11 y cant yn 2012-13.
69 Fodd bynnag, arhosodd cywirdeb wrth brosesu ceisiadau yn ei unfan a dirywiodd perfformiad yn y dangosyddion canlynol:
• Lleihaodd canran y ceisiadau newydd y penderfynwyd arnynt o fewn 14 diwrnod o 87 y cant yn 2011-12 i 83 y cant yn 2012-13. Roedd hyn yn waeth
na chyfartaledd Cymru, sef 88 y cant yn 2012-13. Dirywiodd perfformiad ledled Cymru o 91 y cant yn 2011-12 i 88 y cant yn 2012-13.
• Er i nifer yr apeliadau leihau o wyth yn 2011-12 i chwech yn 2012-13, roedd y Cyngor wedi cymryd mwy o amser ar gyfartaledd i brosesu apeliadau, sef 47
diwrnod yn 2012-13 o gymharu â 36 diwrnod yn 2011-12. Roedd y perfformiad hwn yn waeth na chyfartaledd Cymru, sef 38 diwrnod yn 2012-13.
• Lleihaodd nifer ymchwiliadau twyll y Cyngor yn 2012-13 o 32 fesul llwyth gwaith o 1,000 yn 2011-12 i 25 fesul llwyth gwaith o 1,000 yn 2012-13. Fodd bynnag, gwellodd nifer y cosbau llwyddiannus x xxxxxx fesul 1,000 yn
2011-12 i bump fesul 1,000 yn 2012-13, er bod hyn yn parhau i fod yn waeth na chyfartaledd Cymru, sef wyth fesul llwyth gwaith o 1,000 yn 2012-13. Dirywiodd perfformiad ledled Cymru o naw fesul llwyth gwaith o 1,000 yn 2011-12 i wyth fesul llwyth gwaith o 1,000 yn 2012-13.
Mae’r Cyngor wedi cofnodi sgiliau iaith Gymraeg ei weithlu ar y system gyflogres, ond xxx xxxxx gwella’r ddarpariaeth iaith Gymraeg ar ei wefan a’r cyfryngau cymdeithasol
70 Cafodd rôl Comisiynydd y Gymraeg ei chreu gan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Disgwylir y bydd pwerau newydd i orfodi safonau ar sefydliadau yn dod i rym drwy is-ddeddfwriaeth erbyn diwedd 2014. Tan hynny, bydd y Comisiynydd yn parhau i adolygu cynlluniau iaith Gymraeg drwy ddefnyddio’r pwerau a etifeddwyd o xxx Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993.
71 Mae’r Comisiynydd yn gweithio gyda phob awdurdod lleol yng Nghymru i arolygu a chynghori ar weithredu cynlluniau iaith. Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau i’r cyhoedd drwy gyfrwng y Gymraeg yn unol â’r ymrwymiadau yn eu cynlluniau iaith. Mae pob awdurdod lleol wedi ymrwymo i ddarparu adroddiad monitro blynyddol i’r Comisiynydd yn amlinellu ei berfformiad wrth weithredu’r cynllun iaith. Mae’r Comisiynydd yn dadansoddi pob adroddiad monitro, yn ymateb yn ffurfiol
ac yn casglu rhagor o wybodaeth yn ôl yr
angen.
72 Wrth drafod Cyngor Caerffili, nododd Comisiynydd y Gymraeg fod y Cyngor yn cadw cofnod o sgiliau iaith Gymraeg y gweithlu, a bod y wybodaeth xxxxxxx yn xxxx xx chynnwys yn y system gyflogres. Er gwaethaf hyn, nid yw’r Cyngor wedi gwneud unrhyw gynnydd o ran dynodi swyddi y mae sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol iddynt, a disgwylir y bydd hynny’n flaenoriaeth yn y cyfnod nesaf. Xxx xxxxx gwneud rhagor
o waith i wella cynnwys Cymraeg y Cyngor ar ei wefan a’r cyfryngau cymdeithasol.
Mae xxx cydraddoldebau ac iaith Gymraeg y Cyngor yn cynnig cymorth i adrannau gwasanaethau eraill ar faterion ymarferol yn ymwneud â’r Cynllun Iaith Gymraeg. Mae’r Cyngor wedi ymrwymo hefyd i ddarparu cyrsiau ymwybyddiaeth iaith mewn ymateb i ofynion y Cynllun Iaith a strategaeth Mwy na Geiriau y Llywodraeth.
Roedd gwaith gwerthuso ac adrodd ar berfformiad y Cyngor yn
well yn 2012-13, ond xxx xxxxx cryfhau trefniadau sylfaenol
Yn 2012-13, cyflawnodd y Cyngor ei ddyletswyddau adrodd ar welliannau o xxx Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009, ond roedd potensial o hyd i gryfhau ei drefniadau ymhellach
73 Cyhoeddodd y Cyngor asesiad o’i berfformiad yn ystod 2012-13 yn ei Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2012-13 cyn 31 Hydref 2013 yn unol â gofynion statudol. Roedd yr Adroddiad
Perfformiad Blynyddol ar gael ar wefan y Cyngor, a chopïau caled ar gael yn ei brif adeiladau cyhoeddus. Roedd hi’n amlwg bod perchnogaeth o’r gwasanaethau a chyfranogiad ynddynt wrth ddatblygu’r Adroddiad Perfformiad Blynyddol.
74 Aeth y Cyngor i’r afael â llawer o’r cynigion ar gyfer gwella ei Adroddiad Perfformiad Blynyddol a godwyd yn ein llythyr Asesiad Gwella dyddiedig 17 Rhagfyr 2012. Er enghraifft, roedd data cymharol ar gyfer yr xxxx Ddangosyddion Strategol Cenedlaethol a Mesurau Atebolrwydd Cyhoeddus wedi’u cynnwys, ynghyd â rhagor o wybodaeth ariannol i ddangos sut y gwerir adnoddau ym mhob Cyfarwyddiaeth ac i danlinellu’r pwysau ariannol xxxx xxxx. Hefyd cafwyd mwy o gyfranogiad ym Mhwyllgorau Craffu’r Cyngor a’r Pwyllgor Archwilio wrth werthuso llwyddiant y Cyngor yn cyflawni ei Amcanion Gwella, gydol y flwyddyn ac ar ddiwedd y flwyddyn i lywio datblygiad yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol. Yn ogystal, cyflwynodd yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol ddarlun tecach, mwy cytbwys o berfformiad y Cyngor na’r llynedd.
75 Nodwyd nifer o feysydd gennym lle gallai’r Cyngor wneud gwelliant pellach i’r Adroddiad Perfformiad Blynyddol. Roedd
hyn yn cynnwys darparu gwybodaeth gyda mwy o gyd-destun er mwyn rhoi darlun cyflawnach o berfformiad a nodi’n fwy cyson pa gamau y mae am eu cymryd i fynd i’r afael â pherfformiad gwael/ tanberfformiad. Roeddem hefyd yn teimlo y gellid ystyried defnyddio ac adrodd am wybodaeth gymharol mewn modd sydd wedi’i dargedu’n well. Er enghraifft, gallai’r Cyngor ystyried cymharu ei berfformiad â chynghorau neu gyrff tebyg eraill yn hytrach na dim ond defnyddio cyfartaledd Cymru gyfan.
Roedd y Cyngor yn cydnabod bod gwendidau’n parhau yn ei drefniadau rheoli perfformiad
76 Roedd mecanweithiau rheoli perfformiad
y Cyngor wedi’u hen sefydlu ond heb eu hadolygu na’u newid yn sylweddol ers cryn amser. Roedd rheoli perfformiad yn eitem reolaidd mewn cyfarfodydd xxx adrannol ac roedd ystyriaeth o’r ‘stori’ y tu ôl i’r data yn aeddfedu ond bod y pwyslais wedi bod ar gasglu data yn hytrach na dadansoddi a gwerthuso. Roedd y defnydd o wybodaeth
ansoddol a chymharol yn fympwyol ac roedd prinder adroddiadau cynnydd rheolaidd
a ffurfiol i’r Cabinet ar Amcanion Gwella’r
Cyngor.
77 Wrth i bwysau ariannol ar y Cyngor gynyddu, roedd xxxxxxx yn adolygu ei drefniadau er mwyn sicrhau eu bod yn parhau’n briodol. Elfen allweddol o gynllun gweithredu Gwella Llywodraethu’r Cyngor oedd gwella prosesau rheoli perfformiad. Roedd newidiadau ar y gweill, er enghraifft, i’r broses cynllunio gwasanaethau a’r trefniadau craffu. Mae cylch cynllunio ac amserlen gorfforaethol newydd wedi’u datblygu ar gyfer 2014-15. Roedd Panel Safbwynt wedi’i ailsefydlu hefyd, ac roedd yn gyfrwng defnyddiol ar gyfer ymgynghori â’r cyhoedd.
78 Yn ein Hadroddiad Gwella Blynyddol yn 2013 a gyhoeddwyd gennym ym mis Medi 2013, roeddem wedi nodi pryderon ynglŷn ag anghysondebau yn ansawdd y trefniadau hunanwerthuso a oedd ar waith ledled y Cyngor. Dros y pedwar mis diwethaf, mae’r Cyngor wedi bod yn gweithio i gryfhau ei drefniadau hunanwerthuso gyda chymorth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Cynhaliwyd gweithdai gyda phenaethiaid gwasanaethau ac mae amrywiaeth o ddulliau hunanwerthuso wedi’u treialu
ledled y sefydliad. Xxxxxxx, xxx’r Cyngor wedi mabwysiadu cyfres o nodweddion hunanwerthuso craidd yn hytrach na fformat rhagnodedig ac mae’n ystyried sefydlu mecanweithiau her mewnol ar gyfer asesu cadernid yr hunanwerthusiadau.
79 Bwriad y Cyngor yw cynnal ei gylch cyntaf o hunanwerthusiadau yn ystod haf 2014. Defnyddir hyn wedyn i ddarparu dealltwriaeth glir o’r xxxx faterion allweddol
sy’n ymwneud â’i wasanaethau i arweinwyr y Cyngor gan gynnwys angen, gwelliant,
risg ac adnoddau. Yna defnyddir yr hunanwerthusiadau hyn i lywio cynllun ariannol a chynlluniau gwasanaeth tymor canol y Cyngor. Byddwn yn monitro datblygiad y trefniadau hyn.
80 Daeth Adolygiad a Gwerthusiad Blynyddol AGGCC 2012-13 i’r casgliad: ‘Mae adroddiad blynyddol cyfarwyddwr y gwasanaethau cymdeithasol yn eglur ac yn gytbwys. Mae’n darparu amlinelliad o’r gwasanaethau a ddarparwyd a newidiadau yn ystod y flwyddyn ac mae’n ddidwyll am heriau’r dyfodol. Mae’r cyfarwyddwr dros dro yn cydnabod yn ei adroddiad y bydd angen monitro effaith diwygio lles yn ofalus
er mwyn cynnal ac ailgyfeirio gwasanaethau i’r meysydd allweddol o angen. Nodir blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Cydnabyddir y bydd angen parhau i adolygu gwasanaethau cyfredol yn ogystal ag archwilio dewisiadau newydd eraill er mwyn parhau gwaith y cyngor o ddatblygu gwasanaethau cadarn ar gyfer y dyfodol.’
81 Parhawyd i ddefnyddio Ffynnon2 fel y dull allweddol o fonitro ac adrodd ar berfformiad.
Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n tendro am feddalwedd rheoli perfformiad newydd ar hyn o xxxx, xxxxx bydd y contract gyda darparwyr Ffynnon yn dod i ben ym mis Mehefin 2014. Rhoes y Cyngor amser ac adnoddau sylweddol i ddatblygu’r defnydd
o Ffynnon ledled y sefydliad. Felly, cymrodd gamau synhwyrol i ail-negodi gyda’r darparwyr er mwyn estyn oes y contract cyn i’r contract Cymru-gyfan ddod i ben.
2 Meddalwedd a gaffaelwyd yn genedlaethol yw Ffynnon er mwyn bodloni gofynion rheoli perfformiad awdurdodau lleol, gwasanaethau tân ac achub, awdurdoau’r parciau cenedlaethol a’u partneriaid.
Roedd effeithiolrwydd craffu yn anghyson
82 Canfu ein harolwg o aelodau a swyddogion a gynhaliwyd fel rhan o’r arolwg llywodraethu corfforaethol arbennig fod ganddynt farm gymysg ynghylch effeithiolrwydd pwyllgorau craffu’r’ Cyngor. Teimlai cadeiryddion y pwyllgorau hyn fod rhai meysydd lle gellid gwella’r gwaith craffu. Priodolwyd hyn i amrywiaeth o resymau, megis:
• a yw’r adroddiadau cywir yn cael eu cyflwyno i bwyllgorau craffu;
• dealltwriaeth a xxxxx aelodau yn eu
rolau; a’r
• farn nad yw’r gwaith craffu chwech misol ar berfformiad y Cyngor yn ddigon cryf ac nad oedd yn rhan integredig o’r broses graffu, a’i fod yn arafu cynnydd tuag at ddull hunanwerthuso.
83 Ymgysylltodd y Cyngor ag astudiaeth graffu’r Archwiliydd Cyffredinol yn 2012-13, a oedd yn cynnwys elfen o hunanwerthuso ac adolygu gan gymheiriaid. Yn dilyn yr astudiaeth, datblygodd y Cyngor gynllun gweithredu i wella prosesau craffu, gan ei ystyried yn rhan annatod o raglen gwella llywodraethu’r Cyngor. Mae llawer o’r camau gweithredu wedi’u rhoi ar waith. Cyflwynwyd newidiadau gweithdrefnol er mwyn gwahaniaethu’n well rhwng aelodau a swyddogion mewn pwyllgorau, a sefydlwyd Grŵp Arweinyddiaeth Craffu. Roedd llawer o’r newidiadau hyn yn dal yn eu dyddiau cynnar, ac nid oeddent ar waith yn gyson a chadarn ar draws yr xxxx bwyllgorau. Roedd newidiadau a gwelliannau pellach ar y gweill hefyd i’w gwneud yn ystod 2014.
84 Mae’r Cyngor yn parhau i arsylwi ar gynghorau eraill a dysgu ganddynt ynghylch gweithdrefnau craffu. Wrth i ni arsylwi ar ddau o bwyllgorau craffu’r Cyngor, gwelsom fod aelodau’n cynyddu yn eu xxxxx a’u parodrwydd i herio, er ei bod yn amlwg
bod llawer eto i’w gyflawni er mwyn sicrhau bod perfformiad yn fwy cyson ar draws y pwyllgorau.
85 Adroddodd AGGCC yn ei Adolygiad a Gwerthusiad Blynyddol ar Berfformiad 2012-13 ei bod ‘yn bresennol i arsylwi cyfarfod craffu lle’r oedd presenoldeb da. Roedd yr agenda lawn yn cynnig cyfle i drafod amrywiaeth o faterion a drafodwyd yn fanwl cyn gwneud penderfyniadau.
Roedd cynrychiolaeth o ran y staff a’r fforwm ieuenctid lleol yn bresennol, a gwnaed cyflwyniadau ganddynt i’r aelodau a oedd yno.’
86 Hefyd, gwelsom fod y Pwyllgor Archwilio yn dod yn fwy effeithiol yn ei rôl ac yn fwy parod i herio’r adroddiadau a gynhyrchwyd a’r rheolwyr, a oedd i’w weld yn sgil ei ddull gweithredu. Roedd rhag-gyfarfod gydag archwilwyr a’r Swyddog Adran
151 a chadeirydd y pwyllgor wedi helpu i sicrhau dealltwriaeth o bwyntiau allweddol yr adroddiadau a gyflwynwyd. Dylid cael rôl gryfach ar gyfer y pwyllgor o ran sicrhau bod y rhaglen Archwilio mewnol yn mynd i’r afael â’r risgiau sy’n wynebu’r Cyngor fel ffordd
o sicrhau bod y risgiau’n cael eu lliniaru’n ddigonol.
Roedd gan y Cyngor drefniadau dilysu data a oedd yn parhau i wella, ond roedd angen eu gweithredu a’u sefydlu mewn ffordd gyson ledled y sefydliad
87 Xxx xxxxx i xxx cyngor gael gwybodaeth dda a’i defnyddio’n dda er mwyn darparu gwasanaethau da a’u gwneud hyd yn
oed yn well fyth. Aethom ati i archwilio’r systemau data a oedd yn ategu’r chwe mesur perfformiad a ddefnyddir gan y Cyngor. Roedd un yn Ddangosydd Strategol Cenedlaethol (NSI) a phump yn fesurau perfformiad lleol.
88 Daeth ein hasesiad o sampl o fesurau perfformiad a systemau data gweithredol y Cyngor i’r casgliad fod trefniadau dilysu
data’r Cyngor yn parhau i gael eu cryfhau a chydnabuwyd bod angen sicrhau cysondeb ar draws y Cyngor.
89 Roedd gan y Cyngor systemau cadarn ar waith i gynhyrchu a sicrhau ansawdd ei ddata dangosydd perfformiad. Fodd bynnag, o ystyried ein bod wedi rhoi barn amodol ar ddau o’r chwe dangosydd a
archwiliwyd gennym eleni, gan gynnwys y Dangosydd Strategol Cenedlaethol, roedd angen i’r systemau fod yn gadarnach.
Serch hynny, dyma oedd y flwyddyn gyntaf o’r chwe blynedd ddiwethaf i ni roi barn amodol ar unrhyw ddangosyddion gan y Cyngor. Rhoddwyd barn amodol ar y ddau ddangosydd canlynol:
• NSI LSC/002b: nifer yr ymweliadau â chanolfannau chwaraeon a hamdden yr awdurdod lleol yn ystod y flwyddyn fesul 1,000 o boblogaeth, lle bydd yr ymwelydd yn cymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol; a
• dangosydd lleol: nifer y cyfranogwyr yng
nghynllun prentisiaeth y Cyngor.
90 Er bod proses ddilysu’r NSI wedi’i diffinio’n dda, roedd y broses ar gyfer mesurau lleol yn parhau i gael ei gwella ymhellach. Er enghraifft, roedd gwaith ar y gweill i sicrhau bod diffiniadau clir ar waith a’u bod yn cael eu dilyn.
Roedd y Cyngor yn cydymffurfio â’i gyfrifoldebau yn ymwneud ag adrodd ariannol, ond roedd diffygion o safbwynt ei ddefnydd o adnoddau
91 Rhoddodd yr archwilydd a benodwyd yn ddiweddar gan yr Archwilydd Cyffredinol ei farn ar gyfrifon y Cyngor, ac ar sail hynny, barn yr Archwilydd Penodedig oedd bod
y Cyngor yn cydymffurfio â’i gyfrifoldebau yn ymwneud ag adrodd ariannol ond bod gwendidau mewn perthynas â’i ddefnydd o adnoddau.
92 Cyhoeddodd yr Archwilydd Penodedig Adroddiad Buddiant y Cyhoedd ar 6 Mawrth 2013 mewn perthynas â chyflog prif swyddog. Daeth yr adroddiad i’r casgliad fod penderfyniad y Pwyllgor Taliadau
Uwch Staff (y Pwyllgor) ar 5 Medi 2012 i gymeradwyo’r strwythur cyflog argymelledig oedd yn adroddiad y Prif Weithredwr yn anghyfreithlon.
93 O ganlyniad, roedd swm yng ngholofn gwariant cyfrifon 2012-13, yr oedd yr Archwilydd Penodedig yn ei ystyried yn wariant anghyfreithlon. Cynhaliodd y Cyngor adolygiad ychwanegol o daliadau i uwch swyddogion yn ystod y flwyddyn. O ganlyniad i’r adolygiad hwn, canfuwyd taliadau pellach yr ystyriwyd eu bod yn
anghyfreithlon gan fod y penderfyniadau hyn wedi’u gwneud gan bersonau heb awdurdod priodol i wneud hynny yn ôl cyfansoddiad y Cyngor a’i Gynllun Dirprwyo. Mae rhagor o fanylion i’w gweld yn Atodiad 3.
Mae’r Cyngor yn cyfrannu at amrywiaeth o fentrau cydweithredol ac, yn hanesyddol, mae ei gynllunio ariannol wedi bod yn gadarn. Fodd bynnag, yn 2013-14 methodd â chyflawni rhai o’i ddyletswyddau cynllunio gwelliannau o xxx y Xxxxx
Methodd y Cyngor â chyflawni rhai o’i ddyletswyddau cynllunio gwelliannau o xxx y Mesur ar gyfer 2013-14 gan na chyhoeddodd ei amcanion gwella yn amserol, a dylai sicrhau ei fod yn gwella ei gydymffurfiaeth â chanllawiau Llywodraeth Cymru
94 Ni lwyddodd y Cyngor i gyflawni rhai o’r dyletswyddau cynllunio gwelliannau o xxx y Mesur ar gyfer 2013-14 gan nad oedd wedi cyhoeddi ei Gynllun Gwella, sef Amcanion Gwella Cyngor Caerffili, ar gyfer y flwyddyn 2013-14, o fewn amserlen resymol.
95 Cyflawnodd y Cyngor waith ymgynghori â’r cyhoedd ynghylch ei gyfres o amcanion gwella yn unol â gofynion y Mesur.
Cwblhawyd y gwaith ymgynghori trwy gyfrwng arolygon ar y we ac ar bapur rhwng 22 Ebrill a 24 Mai 2013.
96 Rydym yn cydnabod bod ymdrechion
y Cyngor i gynnal ymgynghoriadau ystyrlon er mwyn llywio ei gyfres newydd o amcanion gwella wedi cael effaith ar
yr amserlen wrth gyhoeddi ei Gynllun Gwella. Ni chyhoeddwyd y Cynllun Gwella tan 25 Gorffennaf 2013. Yn absenoldeb amgylchiadau eithriadol, byddem yn ei hystyried yn rhesymol disgwyl i gyngor wneud trefniadau i ffurfiol, craffu, cymeradwyo a chyhoeddi ei amcanion gwella erbyn diwedd chwarter cyntaf y flwyddyn ariannol berthnasol fan bellaf. Yn ein Llythyr Asesiad Gwella ym mis Hydref 2012, nodwyd gennym fod angen i’r Cyngor sicrhau ei fod caniatáu digon o amser yn ei drefniadau i ymgynghori ag ystod briodol
o randdeiliaid. Er gwaethaf i’r mater hwn gael xx xxxx y llynedd a gwneud cynnig ar gyfer gwella hyn, ni wnaeth y Cyngor
roi trefniadau ar waith wedyn a oedd yn
ei alluogi i ffurfioli, craffu, cymeradwyo a chyhoeddi ei amcanion gwella’n brydlon yn unol â’i ofynion statudol.
97 Cytunodd y Cyngor ar chwe amcan gwella ar gyfer 2013-14, sy’n wahanol i rai’r blynyddoedd cynt, ac mae’r sail
resymegol ar gyfer eu dewis i’w weld yn y Cynllun Gwella. Hefyd, mae’r Cynllun Gwella yn ceisio egluro’r gwahaniaeth
rhwng ei amcanion gwella a blaenoriaethau cyffredinol y Cyngor er ei bod yn bryder nad oedd y Cyngor wedi cymeradwyo ei flaenoriaethau’n ffurfiol tan fis Hydref 2013.
98 Roeddem yn teimlo y dylai’r Cyngor sicrhau ei fod yn gweithredu’n fwy unol â chyfarwyddyd Llywodraeth Cymru oherwydd:
• Roedd y Cyngor yn parhau i sefydlu
dull sy’n fwy seiliedig ar ganlyniadau gyda chysylltiadau cliriach rhwng camau gweithredu, mesurau a chanlyniadau ond xxx xxxxx rhagor o xxxxx xx mwyn sicrhau bod hyn yn cael ei weithredu’n gyson.
• Gwnaeth y Cyngor rywfaint o gynnydd wrth fynd i’r afael â’r cynnig ar gyfer gwella’r defnydd o wybodaeth gymharol a gyhoeddir yn ein Llythyr Asesiad Gwella dyddiedig Hydref 2012. Fodd bynnag, mae yna le o hyd i wneud rhagor o ddefnydd o wybodaeth gymharol. Hefyd, yn y gorffennol rydym wedi annog y Cyngor i ddefnyddio cronfa ehangach o dystiolaeth i ddangos cynnydd yn erbyn ei amcanion gwella ond mae mwyafrif y mesurau a fabwysiadwyd gan y Cyngor yn parhau i fod yn feintiol. Prin yw’r enghreifftiau o dystiolaeth fwy ansoddol
neu ehangach yn cael ei defnyddio i asesu cynnydd.
• Dangosodd ein hadolygiad o sampl
o Gynlluniau Gwella Gwasanaeth fod cyfatebiaeth yn gyffredinol ag amcanion gwella perthnasol. Dangosodd Cynllun Gwella Gwasanaeth y Gwasanaeth Plant, er enghraifft, gysylltiadau clir
ag amcan gwella a oedd yn ymwneud â phlant sy’n derbyn gofal. Fodd bynnag, roedd y gyfatebiaeth rhwng yr amcan gwella a oedd yn ymwneud â’r
Gwasanaeth Ieuenctid a’r Cynllun Gwella Gwasanaeth y Gwasanaeth Ieuenctid yn llai clir gan nad oedd y camau gweithredu a oedd yn y Cynllun yn ddigon manwl yng Nghynllun Gwella Gwasanaeth y Gwasanaeth Ieuenctid. Unwaith eto, fel o’r blaen fe nodwyd y xxxx hwn fel un i’w wella yn ein Llythyr Asesiad Gwella ym mis Hydref 2012, ac rydym wedi gweld bod angen gwneud rhagor o waith o hyd er mwyn sicrhau bod cysylltiadau cadarn rhwng Cynlluniau Gwella Gwasanaethau perthnasol ac amcanion gwella.
• Adeg ein harchwiliad o Gynllun Gwella’r Cyngor, fe welsom fod y Cyngor wrthi’n datblygu cynlluniau gweithredu ar gyfer pob un o’i amcanion gwella gan ei fod yn cydnabod bod rhai o’r amcanion gwella’n galw am weithio ar draws adrannau. Mae’r cynlluniau gweithredu hyn xxxxxxx ar xxxxx.
99 Xxx Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011 yn nodi gofynion penodol ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru. Roedd hi’n ofynnol iddynt ddatblygu a chyhoeddi Amcanion Cydraddoldeb a chyhoeddodd y Cyngor ei Gynllun Cydraddoldeb Strategol
ym mis Mawrth 2012. Mae cyfatebiaeth sylweddol rhwng y gofyniad i gynhyrchu Amcanion Cydraddoldeb a’r elfen ‘Degwch’ sy’n rhaid i awdurdodau ei hystyried wrth bennu Amcanion Gwella o xxx y Mesur.
Cyflawnwyd asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb wrth ddatblygu Blaenoriaethau Corfforaethol y Cyngor 2013-17, a oedd yn llywio gwaith y Cyngor wrth iddo ddatblygu amcanion gwella.
100 Hefyd, mae’r Cynllun Gwella’n cynnwys xxxxx xx’n pwysleisio’n gryno y cysylltiadau rhwng ei amcanion cydraddoldeb strategol a’i amcanion gwella. Yn wir, mae’n amlwg bod rhai o amcanion gwella’r Cyngor, megis yr amcan gwella sy’n ymwneud â phlant sy’n derbyn gofal, yn canolbwyntio’n benodol ar grwpiau bregus yn y fwrdeistref sirol.
101 Yn ein Llythyr Asesiad Gwella i’r Cyngor ym mis Hydref 2012, gwnaethom gynnig ar gyfer gwella yn ymwneud â’r angen am
gynnal asesiadau cadarn a chyson o’r effaith ar gydraddoldeb ar gyfer yr xxxx Gynlluniau Gwella Gwasanaethau. Da o xxxx xx
xxxxx nodi bod y Cyngor wedi cymryd camau i fynd i’r afael â hyn. Mae Swyddog Cydraddoldeb y Cyngor wedi cynnal cyfres o weithdai eleni gyda gwasanaethau i wella eu cynllunio xx xxxx cydraddoldeb.
Adolygir y Cynlluniau Gwella Gwasanaethau gan Swyddogion Cydraddoldeb a Datblygu Cynaliadwy y Cyngor yn ogystal ag
Uned Rheoli Perfformiad y Cyngor, a darperir adborth i’r gwasanaeth. Yna, eir i’r afael ag unrhyw feysydd i’w gwella
gan y gwasanaethau cyn eu gorffen. Mae Swyddog Cydraddoldeb y Cyngor yn darparu Cynllun Gwella Gwasanaethau i’r awdurdod cyfan hefyd, sy’n amlinellu’r gyfatebiaeth rhwng y Cynlluniau Gwella
Gwasanaethau a’r amcanion cydraddoldeb.
102 Cyhoeddodd yr Archwilydd Penodedig adroddiad xx xxxx y cyhoedd yn unol ag adran 22 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 a oedd yn crybwyll pryderon sylweddol am drefniadau llywodraethu’r Cyngor. Er nad oes disgwyl i’r Cyngor gyfeirio at hyn yn ei Gynllun Gwella er mwyn bodloni’r Mesur, o ystyried diddordeb y cyhoedd yn y Cyngor dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’n syndod na wnaeth y Cyngor hyn, pe bai i wneud dim mwy na rhoi sicrwydd i’w ddinasyddion ynglŷn â’r camau yr oedd yn eu cymryd i fynd i’r afael â’r canfyddiadau.
Mae’r Cyngor yn cyfrannu at nifer fawr o fentrau cydweithredol o gymharu â’r cynghorau eraill a arolygwyd gennym
ac, yn gyffredinol, gwelsom fod lle i wella rhai trefniadau ar gyfer cynllunio a rheoli prosiectau, a bod y diffyg gwybodaeth am gostau a manteision yn ei gwneud yn anodd asesu gwerth am arian
103 Yn 2012-13, aethom ati i gynnal arolwg o fentrau cydweithredol ar draws pedwar cyngor yng Ngwent: Blaenau Gwent,
Xxxxxxxxx, Xxx Xxxxx a Thorfaen. Nod yr adolygiadau oedd asesu a oedd agwedd y cynghorau at gydweithredu yn gadarn ac yn cyflawni’r hyn a fwriadwyd ganddynt.
104 Yn gyffredinol, daethom i’r casgliad bod Caerffili yn cyfrannu at nifer fawr o fentrau cydweithredol o gymharu â’r cynghorau eraill a arolygwyd gennym ac, yn gyffredinol, gwelsom fod lle i wella rhai trefniadau ar gyfer cynllunio a rheoli prosiectau, a bod y diffyg gwybodaeth am gostau a manteision yn ei gwneud yn anodd asesu gwerth
am arian. Daethom i’r casgliad hwn am y rhesymau canlynol:
• Mae’r cynghorau a arolygwyd gennym yn cymryd rhan mewn llawer o brosiectau cydweithredol, ac roedd gan Gaerffili y nifer fwyaf ond un o’r prosiectau hyn o gymharu â chynghorau eraill.
• Gellid gwella’r gwaith o gynllunio a rheoli rhai prosiectau drwy nodi’n glir y sail resymegol ar gyfer cydweithredu, enwebu swyddog arweiniol a phennu amserlenni clir ar gyfer y prosiect.
• Yn gyffredinol, mae prosiectau cydweithredol y cynghorau a arolygwyd gennym yn brin o wybodaeth am gostau a manteision cydweithredu, sydd wedi’i gwneud yn anodd asesu gwerth am arian.
Hyd yn hyn, mae’r Cyngor wedi gweithredu mewn ffordd ragweithiol i nodi ei ofynion o ran arbedion, ond mae’n rhaid iddo adolygu strategaeth ei gyllideb yn awr er mwyn gwneud yr arbedion sylweddol sydd eu xxxxxx dros y ddwy neu dair blynedd nesaf
105 Oherwydd yr hinsawdd ariannol gyfredol a’r setliad anodd ar gyfer llywodraeth leol yn ddiweddar, mae cynllunio ariannol da yn hollbwysig i gynnal gwytnwch ariannol.
106 Mae’r Archwilydd Cyffredinol wrthi’n archwilio iechyd ariannol awdurdodau ar hyn x xxxx a’u dull o lunio cyllidebau a gwneud yr arbedion gofynnol er mwyn sicrhau eu bod yn wydn yn ariannol. Bydd y gwaith
hwn yn ystyried a oes gan awdurdodau ddulliau gweithredu cadarn ar waith i reoli’r gostyngiad yn eu cyllidebau er mwyn sicrhau eu bod mewn sefyllfa ariannol sefydlog ac yn gallu parhau i weithredu yn y
dyfodol agos. Mae’r gwaith yn canolbwyntio ar gyfnod cynllunio ariannol 2014-15 a gweithredu cyllidebau 2013-14. Cwblheir
yr adolygiad hwn yn gynnar yn 2014-15 a byddwn yn cyhoeddi’r canfyddiadau yn ein cylch nesaf o waith asesu gwelliannau.
107 Mae’r Cyngor wedi cyfrifo bod xxxxx xxxx wneud arbedion o fwy na £28 miliwn
erbyn 31 Mawrth 2017. Datblygwyd rhestr
hir o arbedion posibl, ac aeth y Cyngor ati i ymgynghori arnynt â chynghorwyr, undebau llafur a’r cyhoedd rhwng mis
Tachwedd a mis Rhagfyr 2013. Ar ôl ystyried canlyniadau’r ymgynghoriad, tynnwyd nifer o’r cynigion gwreiddiol ar gyfer arbedion
yn ôl, gan leihau cyfanswm yr arbedion a fydd yn cael eu gwneud yn 2014-15 i £14.7 miliwn gan arwain at fwlch cyllid o fwy na
£628,000 ar gyfer 2014-15. Mewn cyfarfod ar 26 Chwefror 2014, cytunodd y Cyngor ar strategaeth gyllidebol i lenwi’r bwlch hwn yn 2014-15. Roedd y strategaeth hon yn
cynnwys cynyddu lefel y Dreth Gyngor 3.9 y cant yn 2014-15.
108 Nodwyd gennym yn Adroddiad Gwella Blynyddol Medi 2013 fod y Cyngor wedi gweithredu mewn ffordd ragweithiol wrth nodi ei ofynion o ran arbedion, gan ei alluogi i gynllunio ymlaen llaw yn bwyllog. Oherwydd lefel yr arbedion sydd eu xxxxxx erbyn hyn, mae’r Cyngor wedi gorfod ailystyried ei strategaeth gyllidebol ar gyfer 2015-16 a 2016-17. Rhoddir ystyriaeth
i arbedion effeithlonrwydd o hyd at dri y cant ym mhob xxxx gwasanaeth, ond cynhelir adolygiad cynhwysfawr hefyd o wasanaethau amrywiol sy’n cael eu darparu yn ôl disgresiwn. Mae’r Cyngor yn rhagweld y bydd y strategaeth newydd hon ar gyfer
y gyllideb yn arwain at ganran fwy o lawer o ostyngiad yn y meysydd gwasanaeth a
ddarperir yn ôl disgresiwn, os nad pob un ohonynt. Mae’r Cyngor yn cydnabod hefyd y bydd xxxxx xxxx adolygu ei flaenoriaethau
i sicrhau bod modd eu cyflawni o hyd o ystyried y lefelau ariannu llai. Yn ogystal, mae’r Cyngor yn adolygu ei bolisïau yn ymwneud â’r gweithlu i benderfynu a ydynt yn ddigon hyblyg i ymdopi â lefel yr arbedion sydd eu xxxxxx yn y dyfodol. Cytunodd y Cyngor ar ei strategaeth ariannol ar gyfer 2015-16 a 2016-17 yn ei gyfarfod ar 26
Chwefror 2014.
Mae trefniadau ar waith xxxxxxx i adrodd ar gynigion ar gyfer gwella ac argymhellion yr Archwilydd Cyffredinol, a’u monitro
109 Mae’r Cyngor wedi cyflwyno trefniadau mwy cadarn ar gyfer adrodd ar gynigion ar gyfer gwella ac argymhellion yr Archwilydd Cyffredinol, a’u monitro. Bu’r trefniadau hyn yn rhai ad hoc yn y gorffennol. Xxx xxxx adroddiadau drafft yr Archwilydd Cyffredinol yn cael eu trafod xxxxxxx gan Dîm Rheoli Corfforaethol y Cyngor, ac mae adroddiadau terfynol yn cael eu cyflwyno
i Bwyllgor Archwilio’r Cyngor, gydag adroddiad eglurhaol yn nodi sut y bydd cynnydd yn erbyn cynigion ar gyfer gwella yn cael eu monitro. Mae Bwrdd Gwella Llywodraethu’r Cyngor wedi argymell hefyd y dylid defnyddio’r dull hwn ar gyfer yr xxxx adroddiadau gan reoleiddwyr.
110 Mae’r Cyngor yn parhau i wneud cynnydd
rhesymol wrth fynd i’r afael â chynigion yr Archwilydd Cyffredinol ar gyfer gwella, ac erbyn hyn mae’r rhan fwyaf wedi’u cwblhau neu wrthi’n cael eu rhoi ar waith.
Mae cynigion allweddol ar gyfer gwella yn ymwneud â llywodraethu wedi’u cynnwys yn Rhaglen Gwella Llywodraethu’r Cyngor.
Yn ystod 2013-14 daeth i’r amlwg bod cyfuniad o wendidau wedi arwain yn anochel at fethiannau llywodraethu yn y Cyngor ac er ei fod yn gwneud cynnydd calonogol i wella ei drefniadau llywodraethu, mae’n rhy fuan i gasglu a yw’r gwelliannau hyn yn gynaliadwy
111 Ym mis Medi 2013, cyhoeddodd yr Archwilydd Cyffredinol ei fwriad i gynnal arolygiad arbennig i drefniadau llywodraethu corfforaethol y Cyngor, yn
dilyn canfyddiadau’r Archwilydd Penodedig a gyhoeddodd Adroddiad xx Xxxx y Cyhoedd ym mis Mawrth 2013. Nododd yr adolygiad hwn fethiant mewn trefniadau llywodraethu ac annigonolrwydd yn y prosesau a fabwysiadwyd gan y Cyngor
i bennu cyflogau prif swyddogion. Roedd hefyd yn awyddus i wneud gwaith dilynol ar y problemau llywodraethu ehangach a
nodwyd yn ei Adroddiad Gwella Blynyddol, a gyhoeddwyd ar 10 Medi 2013. Cyhoeddwyd yr adroddiad ar yr Arolygiad Arbennig ym mis Ionawr 2014 ac mae ar gael ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru: xxxx://xxx.xxx.xxx.xx
112 Mae canfyddiadau allweddol yr arolygiad arbennig wedi’u crynhoi yn y paragraffau isod.
Arweiniodd cyflymder y newid a chyfuniad o nifer o wendidau yn anochel at fethiannau llywodraethu
113 Newidiodd yr esiampl a ddangosir ar frig y sefydliad gyda phenodiad y Prif Weithredwr newydd ym mis Medi 2010. Dechreuodd
y Cyngor ganolbwyntio mwy ar weithredu gyda mwy o archwaeth risg a phwysau i gyflymu gwaith. Cafwyd pwysau cynyddol i godi proffil ardal Caerffili a hyrwyddo
cyflawniadau’r Cyngor. Cafodd y newidiadau a gyflwynwyd gan y Prif Weithredwr newydd effaith ar gapasiti’r Uwch Dîm Rheoli.
114 Ni chafodd trefniadau llywodraethu allweddol eu hadolygu na’u newid i adlewyrchu’r newid yn yr esiampl a ddangosir ar frig y sefydliad a’r cynnydd yng nghyflymdra gweithredu. Ni roddwyd ystyriaeth i wrthdaro buddiannau posibl sy’n gynhenid yn y strwythurau newydd ac nid oedd rolau swyddogion statudol allweddol yn cael digon o broffil na dylanwad.
115 Gwnaeth y Cyngor nifer o benderfyniadau nad oeddynt yn dilyn gweithdrefnau llywodraethu priodol. Hefyd, roedd gwendidau yn y broses o baratoi achosion busnes i gefnogi penderfyniadau ac o ran tryloywder ac ehangder yr adroddiadau a gâi eu paratoi i gefnogi penderfyniadau.
116 Roedd gwendidau’n bresennol yn swyddogaethau herio mewnol y Cyngor drwy gydol y cyfnod hwn. Yn benodol, roedd ei drefniadau rheoli risg yn wan, ni châi’r gwasanaeth Archwilio Mewnol ei ddefnyddio’n effeithiol, nid oedd y trefniadau craffu yn ddigon effeithiol ac roedd gwendidau yn y trefniadau rheoli perfformiad. Cynyddai hyn y risg na
fyddai xxxx xxxx na chanfod methiannau llywodraethu.
117 Xxx xxxx ansicrwydd yn parhau ymhlith swyddogion ynglŷn â phryd i ymgynghori ag aelodau a phryd y caiff swyddogion wneud penderfyniadau. Mae cyfansoddiad y Cyngor yn parhau’n aneglur ynglŷn â phrosesau gwneud penderfyniadau. Er bod hyfforddiant ar y gweill ar ysgrifennu adroddiadau, nid yw’r Cyngor eto wedi ymgorffori newid diwylliannol sy’n sicrhau bod tryloywder, ehangder a chydbwysedd adroddiadau yn cael eu cynnal dros amser.
Mae’r Cyngor xxxxxxx yn gwella ei drefniadau llywodraethu
118 Mae’n amlwg fod y Cyngor yn cydnabod ac yn croesawu’r angen i newid a gwella ei drefniadau llywodraethu. Mae yna benderfyniad cryf ymhlith aelodau a swyddogion i sicrhau bod trefniadau llywodraethu yn gweithio’n iawn ac i xxxxx hygrededd y Cyngor. Mae’r Cyngor wedi
sefydlu Bwrdd Rhaglen Gwella Llywodraethu (y Bwrdd) ac mae wedi cyflawni’r rhan
fwyaf o’r camau gweithredu a nodwyd ganddo ar gyfer gwella llywodraethu. Fodd bynnag, xxx xxxxx gwelliant pellach ar rai swyddogaethau llywodraethu.
119 Ni chafodd prosesau rheoli risg eu sefydlu’n
llwyddiannus ar draws y Cyngor. Nid yw’r gweithdrefnau chwythu’r chwiban yn gyfredol nac yn adlewyrchu’r newidiadau
deddfwriaethol diweddaraf. Ni wneir defnydd effeithiol o brosesau archwilio mewnol i ddarparu sicrwydd ynglŷn â’r prif risgiau sy’n wynebu’r Cyngor. Yn ogystal, xxx xxxxx gweithredu a nodwyd ar gyfer gwella’i swyddogaethau Adnoddau Dynol a rheoli perfformiad eto i’w cyflawni.
120 Ar y cyfan, mae’r aelodau’n ymddiried yn y swyddogion i wneud gwaith y Cyngor ac yn parchu eu gwybodaeth a’u proffesiynoldeb. Er bod aelodau’n teimlo y xxxxxxx xxxxx’r swyddogion, cymysg yw’r farn ynglŷn ag effeithiolrwydd pwyllgorau craffu’r Cyngor. Mae’r Cyngor yn parhau i sylwi ar y ffordd y mae craffu’n gweithio mewn awdurdodau
leol eraill, ac i ddysgu gwersi o hynny. Mae’r aelodau’n dod yn fwy heriol a hyderus er nad yw hyn yn digwydd yn gyson eto ym mhob un o’r pwyllgorau.
Mae’n ansicr a ellir cynnal y trefniadau llywodraethu gwell yn ystod cyfnod o newid pellach
121 Mae penodi cyn Brif Weithredwr y Cyngor yn Brif Weithredwr Dros Dro wedi darparu sicrwydd i aelodau, staff a rhanddeiliaid eraill fod xxxx xxxxx y sefydlogrwydd a brofwyd gan y Cyngor am flynyddoedd lawer cyn hynny. Gwnaed newidiadau sydd wedi cryfhau’r Xxx Rheoli Corfforaethol a rolau swyddogion statudol. Gweithredwyd dull diwygiedig o ymdrin ag adroddiadau ac argymhellion gan reoleiddwyr allanol
ac mae’r Arweinydd a’r Prif Weithredwr Dros Dro wedi canolbwyntio ar yr angen i gyfathrebu â staff a’r cyhoedd.
122 Cafwyd ffocws iach yn y Cyngor ar barhau i ddarparu gwasanaethau a xxxxx â gwaith fel arfer. Fodd bynnag, mae newidiadau yn y dyfodol yn anochel ar ôl i ymchwiliad yr heddlu gael ei gwblhau. Rhaid i’r Cyngor sicrhau bod y gwelliannau llywodraethu a wnaed eisoes neu sydd wedi’u cynllunio yn
cael eu cyflawni’n llawn ac yn ddigon cadarn
i fod yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
O ystyried yr ansicrwydd ynglŷn â chynaliadwyedd ei drefniadau llywodraethu gwell, ni all yr Archwilydd Cyffredinol eto ddod i gasgliad ynglŷn ag a yw’r Cyngor yn debygol o gydymffurfio â’r gofyniad i wneud trefniadau i sicrhau gwelliant parhaus yn 2014-15
123 Mae ymchwiliadau’r heddlu, achosion llys ac ymchwiliadau disgyblu yn parhau mewn perthynas â’r materion a godwyd yn yr Adroddiadau xx Xxxx y Cyhoedd. Mae’r Prif Weithredwr, y Dirprwy Brif Weithredwr a’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol wedi’u cyhuddo o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus. Mae ymchwiliadau’r heddlu
yn parhau hefyd i’r materion a godwyd yn yr Adroddiad xx Xxxx y Cyhoedd ar
Lwfans Defnyddwyr Ceir Hanfodol a Lwfans Gwyliau Blynyddol Prif Swyddogion gan yr Archwilydd Penodedig. Mae ymchwiliadau disgyblu mewnol wedi’u gohirio dros dro nes bod ymchwiliadau’r heddlu a’r achosion llys wedi’u cwblhau.
124 Er i’r arolygiad arbennig ddangos bod y Cyngor yn gwella ei drefniadau llywodraethu, mae’n rhy gynnar i weld a yw’r rhain wedi’u sefydlu’n ddigonol eto. Ni fydd modd cynnal asesiad llawn o wytnwch a chynaliadwyedd trefniadau llywodraethu gwell y Cyngor nes bod yr xxxx ymchwiliadau ac achosion llys cysylltiedig wedi’u cwblhau a bod y Cyngor yn gwbl sefydlog eto.
125 Mae’r Cyngor wrthi’n ymgynghori â’r cyhoedd ar ei amcanion gwella arfaethedig ar gyfer 2014-15 ac mae wedi paratoi amserlen i gyhoeddi ei amcanion gwella yn gynt. Mae’r Cyngor hefyd yn bwriadu cyhoeddi Cynllun Corfforaethol 2014 eleni.
Gyda’i gilydd byddant yn elfen allweddol o gylch cynllunio corfforaethol blynyddol y Cyngor sy’n ceisio gwella’r gwaith o integreiddio ei wasanaeth a’i gynlluniau ariannol ac adnoddau yn well.
126 Dangosodd Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2012-13 y Cyngor fod perfformiad y Cyngor yn gwella mewn llawer o’i feysydd blaenoriaeth. Dangosodd canlyniadau arolwg Cartrefi’r Cyngor a gwblhawyd ym mis Mehefin 2013 fod canran yr ymatebwyr a oedd yn fodlon â gwasanaethau cyffredinol y Cyngor wedi cynyddu o 78 y cant yn 2011 i 82 y cant yn 2013.
127 Fodd bynnag, mae’r Cyngor yn wynebu heriau ariannol a chorfforaethol heb eu tebyg a fydd yn herio ei gapasiti a’i drefniadau i gynnal y gwelliant hwn.
Atodiadau
Atodiad 1
Statws yr adroddiad hwn
O xxx Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (y Mesur), mae’n ofynnol i’r Archwilydd Cyffredinol gynnal asesiad gwella blynyddol, a chyhoeddi adroddiad gwella blynyddol, ar gyfer pob awdurdod gwella yng Nghymru. Mae’r gofyniad hwn yn cwmpasu cynghorau lleol, awdurdodau’r parciau cenedlaethol ac awdurdodau tân ac achub.
Lluniwyd yr adroddiad hwn gan staff Swyddfa Archwilio Cymru ar ran yr Archwilydd Cyffredinol er mwyn cyflawni ei ddyletswyddau o xxx xxxxx 24 o’r Mesur. Mae’r adroddiad hefyd yn cyflawni ei ddyletswyddau o xxx xxxxx 19 i gyflwyno adroddiad sy’n ardystio ei fod wedi cynnal asesiad gwella o xxx xxxxx 18 ac yn nodi a yw o’r farn, o ganlyniad i’w archwiliad o’r cynllun gwella o xxx xxxxx 17, fod yr awdurdod wedi cyflawni ei ddyletswyddau o ran cynllunio ar gyfer gwella o xxx xxxxx 15.
Xxx xxx awdurdodau gwella ddyletswydd gyffredinol i ‘wneud trefniadau i sicrhau gwelliant parhaus wrth gyflawni eu swyddogaethau’. Diffinnir awdurdodau gwella fel cynghorau lleol, awdurdodau’r parciau cenedlaethol ac awdurdodau tân ac achub.
Yr asesiad gwella blynyddol yw’r prif ddarn o xxxxx xx’n galluogi’r Archwilydd Cyffredinol i gyflawni ei ddyletswyddau. Mae’r asesiad gwella yn asesiad sy’n edrych i’r dyfodol o’r tebygolrwydd y bydd awdurdod yn cydymffurfio â’i ddyletswydd i wneud trefniadau i sicrhau gwelliant parhaus. Mae hefyd yn cynnwys asesiad ôl-weithredol i nodi a yw awdurdod wedi cyflawni’r gwelliannau a gynlluniwyd ganddo er mwyn llunio barn ar xxxxx yr awdurdod o ran sicrhau gwelliant. Bydd yr Archwilydd Cyffredinol yn crynhoi xx xxxxx archwilio ac asesu mewn Adroddiad Gwella Blynyddol cyhoeddedig ar gyfer pob awdurdod (o xxx xxxxx 24).
O xxx xxx amgylchiadau, gall yr Archwilydd Cyffredinol hefyd gynnal arolygiadau arbennig (o xxx xxxxx 21), y cyflwynir adroddiad arnynt i’r awdurdod a’r Gweinidogion, xx x xxxx eu cyhoeddi (o xxx xxxxx 22). Un o weithgareddau atodol pwysig yr Archwilydd Cyffredinol yw cydgysylltu gwaith asesu a rheoleiddio (sy’n ofynnol o xxx xxxxx 23), sy’n ystyried rhaglen waith gyffredinol pob rheoleiddiwr perthnasol mewn awdurdod gwella. Gall yr Archwilydd Cyffredinol hefyd ystyried gwybodaeth a rennir gan reoleiddwyr perthnasol (o xxx xxxxx 33) yn ei asesiadau.
Atodiad 2
Gwybodaeth ddefnyddiol am Gaerffili a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Y Cyngor
Cyllideb y Cyngor ar gyfer 2013-14 yw £427.3 miliwn. Mae hyn yn cyfateb i tua £2,390 fesul trigolyn. Yn yr un flwyddyn, roedd gan y Cyngor gyllideb gyfalaf o £43.3 miliwn hefyd.
Yn 2012-13, £1,100 y flwyddyn oedd treth gyngor Band D. Mae hyn wedi cynyddu 2.5 y cant i £1,128 y flwyddyn ar gyfer 2013-14. Mae wyth deg wyth y cant o dai Caerffili yn perthyn i fandiau treth gyngor A i D.
Mae’r Cyngor yn cynnwys 73 o aelodau etholedig sy’n cynrychioli’r gymuned ac yn gwneud penderfyniadau ynghylch blaenoriaethau a’r defnydd a wneir o adnoddau. Mae cyfansoddiad gwleidyddol y Cyngor fel a ganlyn:
• 50 Llafur
• 20 Plaid Cymru
• 3 Annibynnol
Prif Weithredwr Dros Dro’r Cyngor yw Xxxxxx Xxxxxx. Xxx’r xxx rheoli corfforaethol hefyd yn cynnwys:
Dirprwy Brif Weithredwr Dros Dro a Chyfarwyddwr Corfforaethol ar gyfer Addysg, Dysgu Gydol Oes a Xxxxxxx, Xxxxxx Xxxxxxxx
Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol Dros Dro, Xxxxxx Xxxxxxxx Cyfarwyddwr Corfforaethol ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol, Xxxxx Street
Gwybodaeth arall
Aelodau’r Cynulliad dros Gaerffili yw:
• Xxxx Xxxxxxxx, Xxxxxxxxx
• Xxxx Xxxxx, Xxxxxx
• Xxx Xxxxx, Merthyr Tudful a Rhymni
Yr Aelodau Cynulliad Rhanbarthol yw:
• Xxxxxxxx Xxxxxx, Dwyrain De Cymru
• Xxxxxxx Xxxxxx, Dwyrain De Cymru
• Xxxxxxx Xxxxxxx, Dwyrain De Cymru
• Xxxxxxx Xxxxxx, Dwyrain De Cymru Yr Aelodau Seneddol dros Gaerffili yw:
• Xxxxx Xxxxx, Xxxxxxxxx
• Xxxxxxxxxxx Xxxxx, Xxxxxx
• Xxx Xxxxxx, Xxxxxxx Xxxxxx a Rhymni
Am ragor o wybodaeth gweler gwefan y Cyngor ei hun yn xxx.xxxxxxxxxx.xxx.xx neu cysylltwch â’r
Cyngor yn Nhŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed, CF82 7PG.
Atodiad 3
Llythyr Archwilio Blynyddol
Y Cynghorydd Xxxxx Xxxxxxx
Arweinydd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili Tŷ Penallta
Parc Tredomen Ystrad Mynach CF82 7PG
Xxxxxx Xxxxxxxxxx Xxxxxxx
Llythyr Archwilio Blynyddol
Mae’r llythyr yn crynhoi’r negeseuon allweddol sy’n deillio o’m cyfrifoldebau statudol o xxx Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 fel Archwilydd Penodedig a’m cyfrifoldebau adrodd o xxx y Cod Ymarfer Archwilio.
Cydymffurfiodd y Cyngor â’i gyfrifoldebau mewn perthynas ag adrodd ariannol,
ond roedd gwendidau o safbwynt defnyddio adnoddau
Cyfrifoldeb y Cyngor yw:
• rhoi systemau rheoli mewnol ar waith i sicrhau rheoleidd-dra a chyfreithlondeb trafodion a sicrhau bod
ei asedau yn ddiogel;
• cadw cofnodion cyfrifyddu priodol;
• paratoi Datganiad o Gyfrifon yn unol â’r gofynion perthnasol; a
• sefydlu ac adolygu trefniadau priodol i sicrhau darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wrth
ddefnyddio adnoddau.
Mae Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 yn ei gwneud hi’n ofynnol i mi:
• ddarparu barn archwilio ar y datganiadau cyfrifyddu;
• adolygu trefniadau y Cyngor i sicrhau darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wrth ddefnyddio
adnoddau; a
• cyhoeddi tystysgrif yn cadarnhau fy mod wedi cwblhau’r gwaith o archwilio’r Datganiad o Gyfrifon.
Mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn paratoi eu datganiadau cyfrifyddu yn unol â gofynion Cod Ymarfer CIPFA/LASAAC ar gyfer Cadw Cyfrifon Awdurdodau Lleol yn y Deyrnas Unedig. Mae’r Cod hwn yn seiliedig ar Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol. Ar 30 Medi 2013 cyhoeddais farn archwilio ddiamod ar y Datganiad o Gyfrifon yn datgan eu bod yn cyflwyno darlun cywir a theg o sefyllfa ariannol a thrafodion y Cyngor. Mae fy adroddiad wedi’i gynnwys yn y Datganiad o Gyfrifon. Mae fy adroddiad wedi’i gynnwys yn y Datganiad o Gyfrifon. Cafodd y materion allweddol a oedd yn deillio o’r archwiliad o’r cyfrifon eu cyflwyno i aelodau’r Pwyllgor Archwilio yn fy adroddiad ar yr Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol ar 17 Medi 2013,
a chafodd llythyr diweddaru ar faterion nad oeddynt wedi’u datrys ar ddiwrnod y Pwyllgor Archwilio ei
gyhoeddi ar 25 Medi 2013.
Mae’r materion allweddol mewn perthynas â’m harchwiliad o’r cyfrifon a nodwyd yn yr adroddiad hwnnw fel a ganlyn:
Cyflogau Uwch Swyddogion
Cyhoeddais Adroddiad xx Xxxx y Cyhoedd ar 6 Mawrth 2013 ar gyflogau prif swyddogion. Daeth yr adroddiad i’r casgliad bod penderfyniad y Pwyllgor Cydnabyddiaeth Uwch Staff (y Pwyllgor) ar 5 Medi 2012 i gymeradwyo’r strwythur cyflogau a nodwyd yn adroddiad y Prif Weithredwr i’r Pwyllgor hwnnw yn anghyfreithlon. Roedd y casgliad hwn yn seiliedig ar nifer o faterion a nodwyd yn yr adroddiad.
O ganlyniad, mae cyfrifon 2012-13 yn cynnwys eitem o wariant a oedd, yn fy marn i, yn wariant anghyfreithlon. Cynhaliodd y Cyngor adolygiad ychwanegol o daliadau i uwch swyddogion yn ystod y flwyddyn. Yn sgil yr adolygiad hwn, nodwyd rhagor o daliadau a ystyriwyd yn anghyfreithlon gan fod y penderfyniadau hyn wedi’u gwneud gan unigolion heb yr awdurdod priodol i wneud hynny o xxx gyfansoddiad a Chynllun Dirprwyo’r Cyngor.
Rwyf wedi dod i’r casgliad bod y taliadau canlynol yn anghyfreithlon:
• Taliadau a wnaed i uwch swyddogion yn unol â phenderfyniad y Pwyllgor Cydnabyddiaeth Uwch Staff ar 6 Medi 2012 nes i’r Cyngor ddiddymu’r penderfyniad hwnnw ar 17 Ionawr 2013 (£188,757).
• Taliadau a wnaed i uwch swyddogion yn y cyfnod rhwng 17 Ionawr a 31 Mawrth ac a dalwyd eto yn unol â phenderfyniad y Pwyllgor Cydnabyddiaeth Uwch Staff (£81,607).
• Taliadau a wnaed i uwch swyddogion i brynu lwfansau penodol (£218,563).
Datgelodd y Cyngor y symiau hyn yn ei gyfrifon ac roedd fy marn archwilio yn tynnu sylw at y datgeliad hwn.
Gwerthusiad o Anheddau’r Cyngor
Cafodd newidiadau sylweddol eu gwneud i’r datganiad o gyfrifon mewn perthynas â gwerthuso anheddau’r cyngor. Nid oedd gwerthuswyr y Cyngor wedi adolygu addasrwydd y model ar gyfer pennu gwerthusiad at ddibenion cyfrifyddu cyn iddo gael ei ddefnyddio ar gyfer y datganiadau ariannol drafft. O ganlyniad rwyf wedi argymell bod y Cyngor yn sicrhau ei fod yn defnyddio ei arbenigedd mewnol yn briodol wrth lunio amcangyfrifon cyfrifyddu, yn enwedig os oes angen defnyddio lefel sylweddol o grebwyll.
Materion eraill
Mae fy ystyriaeth o drefniadau’r Cyngor i sicrhau darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wedi bod yn seiliedig ar y gwaith archwilio a wnaed ar y cyfrifon ac rwyf hefyd wedi dibynnu ar y gwaith a gwblhawyd fel rhan o’r Asesiad Gwella o xxx Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009. Yn gyffredinol, nid wyf yn fodlon bod gan y Cyngor drefniadau priodol ar waith. Rydym wedi dod o hyd i wendidau sylweddol yng ngweithdrefnau a threfniadau llywodraethu’r Cyngor yn y cyfnod xxx sylw. Cyhoeddais Adroddiad xx Xxxx y Cyhoedd ar 6 Mawrth 2013 o xxx xxxxx 22 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004. Cyhoeddais yr adroddiad hwn er mwyn tynnu sylw’r cyhoedd at fethiant mewn trefniadau llywodraethu ac annigonolrwydd yn y prosesau a fabwysiadwyd gan y Cyngor i bennu cyflogau prif swyddogion. Yn ôl yr adroddiad:
• ‘Roedd y penderfyniadau a wnaed gan y Pwyllgor Cydnabyddiaeth Uwch Staff yn anghyfreithlon.
• Ceir gwendidau yng ngweithdrefnau llywodraethu’r Cyngor:
‒ dylai’r gweithdrefnau ar gyfer cyfarfod cyntaf pwyllgor newydd fod wedi bod yn gryfach;
‒ nid oedd yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor yn ddigon eglur mewn mannau; ac
‒ roedd cofnodion y cyfarfod yn annigonol.’
O ganlyniad i’r methiannau hyn, deuthum i’r casgliad bod y Cyngor ‘wedi gweithredu’n anghyfreithlon mewn perthynas â’r broses hon ar gyfer pennu cyflogau’. Gwnes bum argymhelliad yn ymwneud â’r meysydd allweddol canlynol: hysbysebu cyfarfodydd; gwrthdaro buddiannau; gweithdrefnau ar gyfer pwyllgorau newydd; cofnodion cyfarfodydd; ac eglurder a chyflawnder adroddiadau i bwyllgorau. Mae Heddlu Avon a Gwlad yr Haf yn ymchwilio i’r mater ar hyn x xxxx.
Yn ei Adroddiad Gwella Blynyddol a gyhoeddwyd ym mis Medi 2013, mae’r Archwilydd Cyffredinol wedi nodi meysydd lle nad yw effeithiolrwydd y trefniadau hyn wedi’i ddangos hyd yma a lle xxx xxxx gwneud gwelliannau. Yn ogystal, mae’r Archwilydd Cyffredinol wrthi’n cynnal Arolygiad Arbennig sy’n canolbwyntio ar drefniadau llywodraethu a phroses benderfynu’r Cyngor.
Hoffwn dynnu sylw at y meysydd penodol canlynol yn y llythyr hwn:
Mae rhagolygon ariannol y Cyngor yn heriol o hyd ac mae trefniadau cynllunio a monitro ariannol ar xxxxx xx mwyn nodi’r bwlch cyllido a hwyluso’r arbedion sydd eu xxxxxx.
Yn gyffredinol, roedd trefniadau’r Cyngor ar gyfer llunio a chyflwyno ceisiadau grant yn 2011-12 yn dda, ond mae ganddo rywfaint o le i wella. Roedd 21% o’r ceisiadau grant ar gyfer 2011-12 a ardystiwyd gan PwC yn amodol ar lythyr cymhwyso (18% yn 2010-11) gan arwain at addasiad net gwerth £34.8 mil i gyfanswm y ceisiadau grant, sef £175.3m. Cyflwynodd y Cyngor 82% o’r ceisiadau grant yn brydlon, sef yr un ganran â’r flwyddyn flaenorol.
Nid wyf wedi cyhoeddi tystysgrif eto yn cadarnhau bod yr archwiliad o’r cyfrifon wedi’i gwblhau oherwydd fy mod wrthi’n ymchwilio i nifer o faterion a godwyd gan y cyhoedd.
Ar hyn x xxxx, disgwylir i’r ffi archwilio ariannol ar gyfer 2012-13 fod yn uwch na’r ffi y cytunwyd arni a nodir yn yr Amlinelliad o’r Archwiliad Blynyddol oherwydd y gwaith ychwanegol sydd xx xxxxx yn ymwneud â chyflogau uwch swyddogion a gwerthuso asedau.
Yn gywir
Xxxx Xxxxxxx (PricewaterhouseCoopers LLP)
Dros ac ar ran yr Archwilydd Penodedig
29 Tachwedd 2013
cc: Xxxxxx Xxxxxx, Xxxx Xxxxxxxxxx
Atodiad 4
Amcanion gwella a hunanasesiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Amcanion gwella’r Cyngor
Mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor gynllunio i wella ei swyddogaethau a’r gwasanaethau y mae’n eu darparu. Xxx blwyddyn, mae’n rhaid iddo gyhoeddi’r cynlluniau hyn ynghyd ag ‘amcanion gwella’ penodol sy’n nodi’r pethau allweddol y mae’r Cyngor yn bwriadu eu gwneud i wella. Mae’n rhaid i’r Cyngor wneud hyn cyn gynted â phosibl ar ôl 1 Xxxxxx xxx blwyddyn.
Cyhoeddodd y Cyngor ei amcanion gwella ar gyfer 2013-14 yn ei Amcanion Gwella 2013-2014 sydd ar gael
ar wefan y Cyngor yn xxxx://xxx.xxxxxxxxx.xxx.xx/
Dyma’r amcanion gwella:
Amcanion gwella ar gyfer 2012-13 | Amcanion gwella ar gyfer 2013-14 |
Sicrhau bod dinasyddion Bwrdeistref Xxxxx Xxxxxxxxx yn xxxxx xxx, pryd a sut i ymgysylltu â ni ac effaith eu hymgysylltu i'n helpu i wella gwasanaethau. | Sicrhau bod plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal yn cael cefnogaeth i gyrraedd eu llawn botensial. |
Gwneud Caerffili yn lle diogelach i fyw ynddo. | Gwella cyfleoedd swyddi drwy weithredu Cynllun Pasbort y Cyngor. |
Cynnal yr ystod o Gyfleoedd Cyflogaeth ar gyfer preswylwyr. | Datblygu Gwasanaeth Ieuenctid effeithiol a hygyrch sy’n cefnogi datblygiad personol a chymdeithasol pobl ifanc. |
Gwella sgiliau Plant a Phobl Ifanc. | Gwella ymwybyddiaeth a defnydd o gyfleusterau hamdden, cymunedol a chwaraeon gan eu gwneud yn fwy hygyrch ac amrywiol. |
Hyrwyddo Manteision Ffordd o Fyw Iach ac Egnïol. | Buddsoddi yng nghartrefi’r Cyngor i drawsnewid bywyd a chymunedau. |
Mae oedolion yn y system gofal cymdeithasol yn gallu byw bywydau llawn, egnïol ac annibynnol. | Gwella argaeledd tai preifat a chyhoeddus i leihau nifer y preswylwyr a allai gael eu gwneud yn ddigartref. |
Bydd asiantaethau yn cydweithio i helpu plant a phobl ifanc sy’n profi anawsterau. | |
Lleihau ein hôl troed carbon a gwella ein cynaliadwyedd. |
Hunanasesiad y Cyngor o’i berfformiad
Mae hunanasesiad y Cyngor o’i berfformiad yn ystod 2012-13 ar gael yn ei ‘Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2012-13’ ar ei wefan yn xxxx://xxx.xxxxxxxxxx.xxx.xx