CYNGOR SIR CAERFYRDDIN
CYNGOR SIR CAERFYRDDIN
AMODAU CYFFREDINOL SAFONOL CONTRACTAU
ATODIAD B – YR AMODAU CYFFREDINOL SAFONOL SY’N YMWNEUD Â DARPARU GWASANAETH
MYNEGAI
Dehongli B1 Cyflawni
B2 Amser yn hanfodol
B3 Nwyddau a gyflenwir wrth ddarparu gwasanaeth B4 Staff
B5 Contract
B6. Y Contractwr heb gyflawni B7 Y Gwasanaethau
B8 Modd cyflawni’r gwasanaethau B9 Safon gwaith
B10 Archwilio safleoedd
B11 Trwydded i feddiannu safleoedd y Cyngor B12 Eiddo’r Cyngor
B13 Is-gontractio i ddarparu’r Gwasanaethau B14 Cynigion Cyflogaeth
B15 Rhwymedïau os yw’r perfformiad yn annigonol B16 Indemniad Proffesiynol
YR AMODAU CYFFREDINOL SAFONOL SY’N YMWNEUD Â DARPARU GWASANAETH
Dehongli
Rhaid i’r Amodau a geir yma gael eu hymgorffori yn Amodau Contract Cyffredinol Safonol Cyngor Sir Caerfyrddin a’u dehongli yn unol â hwy.
B1. Cyflawni
B1.2 Rhaid i’r Contractwr gyflawni’r Gwasanaethau gyda phob medr, gofal a diwydrwydd rhesymol ac yn unol â’r xxxx ofynion deddfwriaethol a statudol perthnasol.
B1.2 Rhaid i’r Contractwr reoli a monitro’n briodol cyflawni’r Gwasanaethau a rhoi gwybod i Reolwr y Contract ar unwaith os nad yw unrhyw agwedd ar y Contract yn cael ei chyflawni neu os nad oes modd ei chyflawni.
B2. Amser yn hanfodol
B2.1Mae amser yn hanfodol o ran pob un o rwymedigaethau’r Contractwr o xxx y Contract.
B3. Nwyddau a gyflenwir wrth ddarparu gwasanaeth
B3.1Ac eithrio i’r graddau y nodir yn wahanol gan ddisgrifiadau, manylebau, patrymau neu samplau’r Contractwr, rhaid i unrhyw nwyddau a gyflenwir gydymffurfio’n llwyr â’r Gofynion Statudol (sy’n rheoli gwerthu a/neu ddosbarthu) a’r Safonau Rhyngwladol, Ewropeaidd neu Brydeinig perthnasol diweddaraf, lle maent yn bodoli.
B3.2 Rhaid i’r xxxx nwyddau, sydd fel arfer yn dwyn unrhyw farc, tab, brand, label neu arwydd arall yn dangos o le y daethant, archwiliad gan Lywodraeth neu gorff arall neu safon ansawdd, gael eu danfon gyda’r xxxx farciau, tabiau, brandiau, labeli neu arwyddion eraill dywededig yn gyfan.
B3.3 Rhaid i’r xxxx nwyddau gael eu xxxxx’n ddiogel mewn pecynnau masnach o fath a ddefnyddir fel arfer gan y Contractwr i ddanfon yr un nwyddau neu nwyddau tebyg yn fasnachol xxxxx xx mewn meintiau manwerth neu mewn meintiau swmp yn y Deyrnas Unedig.
B3.4 Ni fydd y Cyngor yn gyfrifol am dderbyn unrhyw nwyddau, eitemau, deunyddiau na gwasanaethau oni fydd y Contractwr/Contractwyr yn dangos Archeb Swyddogol a Danfoneb wedi’u llofnodi ar ran y Cyngor gan eu
Swyddog wedi’i Awdurdodi’n briodol.
B3.5 Mae’r Cyngor yn ymwrthod â phob cyfrifoldeb am ddiogelwch unrhyw nwyddau a ddanfonir ac a adewir yn ei safleoedd gan y Contractwr/Contractwyr os nad yw hwnnw’n cael derbynneb am eu derbyn gan xxxxxx xxxx wedi’i awdurdodi i’w derbyn. Rhaid peidio â gadael
nwyddau mewn unrhyw safle heb neb i ofalu amdanynt o xxx unrhyw amgylchiadau.
B3.6 Wrth ddanfon nwyddau a/neu ddarparu gwasanaeth a phob amser pan fydd ar safleoedd y Cyngor neu safle y mae’r Cyngor yn defnyddio unrhyw ran ohono mewn cysylltiad â’r Contract hwn rhaid i’r Contractwr/Contractwyr gymryd pob gofal rhesymol i osgoi anaf i bersonau yno a difrod i eiddo’r Cyngor neu eiddo y xxx xxx y Cyngor unrhyw fudd ynddo a rhaid iddo indemnio’r Cyngor yn erbyn pob hawliad, xxxxx, achos, iawndal a chost a achosir gan unrhyw enghraifft o xxxxx’r Xxxx hwn xxx xx’n codi o unrhyw enghraifft o xxxxx’r Xxxx hwn.
B3.7 Bydd yr eiddo a’r risg yn y Nwyddau yn cael ei drosglwyddo i’r Cyngor pan fydd y Nwyddau wedi cael eu danfon i’r Cyngor a’u dadlwytho.
B4. Staff
B4.1Rhaid i’r Contractwr gyflogi digon o staff i sicrhau y darperir y Gwasanaethau xxx amser ac ym mhob ffordd i Fanyleb y Gwasanaethau. Rhaid i’r Contractwr sicrhau bod cronfa ddigonol o staff ar gael i ddarparu’r Gwasanaethau i Fanyleb y Gwasanaethau yn ystod gwyliau neu absenoldeb.
B4.2 Rhaid i xxxx staff y Contractwr fynd at swyddog awdurdodedig y Cyngor pan fyddant yn cyrraedd neu’n gadael y safle. Ni chaniateir ymweld â lleoliad y cyfarpar heb ganiatâd swyddog awdurdodedig y Cyngor.
B4.3 Rhaid i’r Contractwr achosi cyn lleied o ymyrraeth ag y xx xxxx gyda gweithgareddau eraill ar y safle.
B4.4 Rhaid i’r Contractwr roi cyfarwyddyd i’w staff am risgiau tân a mynnu nad ydynt yn ysmygu ar safleoedd y Cyngor ac eithrio lle mae gwneud hynny’n cael ei ganiatáu’n benodol.
B4.5 Rhaid i’r Contractwr gymryd pob cam rhesymol i osgoi newidiadau i unrhyw rai o’r staff y dynodir yn y Contract eu bod yn Bersonél Allweddol. Rhaid i’r Contractwr roi o leiaf un mis o rybudd i Reolwr y Contract o unrhyw fwriad i newid Personél Allweddol.
B4.6 Rhaid i’r Contractwr gyflogi at ddibenion y Contract hwn dim ond personau sy’n ofalus, yn fedrus ac yn brofiadol yn y dyletswyddau a fynnir ganddynt, a rhaid iddo sicrhau bod pob person o’r fath wedi’i hyfforddi a’i gyfarwyddo’n briodol ac yn ddigonol ac yn cyflawni’r Gwasanaethau gyda golwg ar:
(a) y dasg y mae’n rhaid i’r person hwnnw ei chyflawni;
(b) xxxx ddarpariaethau perthnasol y Contract;
(c) xxxx reolau, polisïau, gweithdrefnau a safonau perthnasol y Cyngor;
(d) risgiau tân a rhagofalon tân;
(e) yr angen i’r bobl hynny sy’n gweithio ar ran y Cyngor gadw at y safonau uchaf o ran hylendid, cwrteisi ac ystyriaeth;
(f) gofynion Deddf Iechyd a Diogelwch yn y gwaith etc 1974 a phob deddfwriaeth a chod ymarfer perthnasol arall.
B4.7 Rhaid i’r Contractwr roi i’w staff ddull adnabod sy’n dderbyniol i’r Cyngor a rhaid iddo sicrhau eu bod yn arddangos y dull adnabod hwnnw ar eu dillad xxx amser pan fônt ar safleoedd y Cyngor.
B4.8 Rhaid i’r Contractwr fynd ag unrhyw aelod/au o’i staff o safleoedd y Cyngor os yw’r Cyngor yn gofyn iddo wneud hynny ar sail effeithlonrwydd xxx xxx y cyhoedd.
B5. Contract
B5.1 Yn ystod y cyfnod y derbynnir unrhyw Gontract ar ei gyfer rhaid i’r Contractwr/Contractwyr gyflenwi a danfon neu ddarparu i’r Cyngor a rhaid i’r Cyngor dderbyn y nwyddau, gwasanaethau, eitemau neu ddeunyddiau (yn ddarostyngedig i Gymal B3 uchod) o’r disgrifiad ac am y prisiau a grybwyllir yn y tendr sydd ynghlwm i hyn yn y meintiau ac am y prisiau y bydd y Cyngor yn eu harchebu.
B5.2 Pe bai’n ofynnol i sefydliad gwahanol gymryd drosodd y Gwasanaethau ar ôl i’r Contract ddod i xxx xxx gael ei derfynu, rhaid i’r Contractwr gydweithredu â’r trosglwyddiad, o xxx drefniadau sydd i’w hysbysu xxxx xxx y Cyngor. Rhaid i’r trosglwyddiad gael ei drefnu rhwng y Cyngor a’r Contractwr fel ag i leihau i’r eithaf unrhyw fwlch wrth gyflenwi’r Gwasanaethau.
B6. Y Contractwr heb gyflawni
B6.1 Heb ragfarnu unrhyw hawl neu rwymedi arall os nad yw’r Contractwr yn cyflawni’r Gwasanaethau yn unol â Manyleb y Gwasanaeth neu ar yr amser a bennir yn y Contract gall y Cyngor:
(a) fynnu bod y Contractwr yn unioni’r diffyg o fewn amser a bennir gan y Cyngor trwy ddarparu neu ddarparu eto (fel y bo’n briodol) heb godi’n ychwanegol ar y Cyngor y Gwasanaethau hynny neu’r rhan honno o’r Gwasanaethau i’r Fanyleb;
(b) heb derfynu’r Contract cyfan terfynu’r Contract o ran y rhan honno o’r Gwasanaethau’n unig ac wedyn darparu neu gaffael darpariaeth y rhan honno o’r Gwasanaethau ei hun;
(c) darparu neu gaffael ei hun ddarpariaeth y Gwasanaethau hyd nes y bo’r Cyngor yn fodlon bod y Contractwr yn abl unwaith eto i gyflawni’r Gwasanaethau yn unol â’r Amodau hyn;
(d) terfynu’r Contract yn unol â Chymal 31;
(e) didynnu o unrhyw swm sy’n ddyledus ar yr adeg honno neu a fydd yn ddyledus i’r Contractwr swm sy’n rhesymol gyda golwg ar xxxxx y Gwasanaethau nad ydynt wedi’u cyflawni’n briodol;
(f) Os yw’r gost i’r Cyngor o weithredu neu gaffael y fath Wasanaethau neu ran ohonynt yn fwy na’r swm a fuasai’n daladwy i’r Contractwr am weithredu neu gaffael y fath Wasanaethau, rhaid i’r Contractwr dalu’r gwahaniaeth i’r Cyngor yn ychwanegol at unrhyw symiau
eraill sy’n daladwy gan y Contractwr i’r Cyngor mewn perthynas â’r tor-cytundeb.
B7. Y Gwasanaethau
B7.1 Rhaid i’r Contractwr ddarparu’r Gwasanaethau yn ystod y Cyfnod yn unol â gofynion y Cyngor fel y maent wedi’u nodi yn y Fanyleb a thelerau’r Contract. Bydd gan y Cyngor y pŵer i archwilio cyflawni’r Gwasanaethau ar Safleoedd y Cyngor ar unrhyw amser rhesymol neu, os yw’r Cyngor yn rhoi rhybudd rhesymol i’r Contractwr, ar unrhyw safleoedd eraill lle mae unrhyw ran o’r Gwasanaethau yn cael ei chyflawni.
B7.2 Os yw’r Cyngor yn rhoi gwybod i’r Contractwr bod y Cyngor yn ystyried bod unrhyw ran o’r Gwasanaethau yn methu â bodloni gofynion y Contract neu’n wahanol mewn unrhyw ffordd i’r gofynion hynny, ac nad yw hyn oherwydd methiant neu esgeulustod ar ran y Cyngor, rhaid i’r Contractwr ar ei draul ei hun ail-drefnu a chyflawni’r Gwasanaethau yn unol â gofynion y Contract o fewn amser rhesymol a bennir gan y Cyngor.
B8. Modd cyflawni’r gwasanaethau
B8.1 Rhaid i’r Contractwr ddarparu’r xxxx Gyfarpar sy’n angenrheidiol i ddarparu’r Gwasanaethau.
B8.2 Rhaid i’r Contractwr beidio â danfon unrhyw Gyfarpar na dechrau unrhyw waith ar Safleoedd y Cyngor heb gael Cymeradwyaeth y Cyngor o flaen llaw.
B8.3 Bydd yr xxxx Gyfarpar y deuir ag ef i Safleoedd y Cyngor ar risg y Contractwr ei hun. Rhaid i’r Contractwr ddarparu i’w gludo i’r Safleoedd ac i fynd â Chyfarpar ymaith pan na fydd xx xxxxx mwyach ac ef yn unig fydd yn talu am hynny. Oni chytunwyd fel arall, bydd Cyfarpar y deuir ag ef i Safleoedd y Cyngor yn aros yn eiddo i’r Contractwr.
B8.4 Rhaid i’r Contractwr gynnal a chadw pob eitem o Gyfarpar yn Safleoedd y Cyngor mewn cyflwr diogel, defnyddiol a glân.
B8.5 Bydd yr xxxx Gyfarpar ar risg y Contractwr ac ni fydd gan y Cyngor unrhyw atebolrwydd am unrhyw golled neu ddifrod i unrhyw Gyfarpar oni all y Contractwr ddangos bod y fath golled neu ddifrod wedi’i achosi gan esgeulustod neu fethiant y Cyngor neu fod esgeulustod neu fethiant y Cyngor wedi cyfrannu at y fath golled neu ddifrod.
B8.6 Bydd gan y Cyngor y pŵer ar unrhyw adeg yn ystod cyflawni’r Gwasanaethau i orchymyn mewn ysgrifen bod y Contractwr:
(a) yn symud ymaith o Safleoedd y Cyngor unrhyw Gyfarpar sydd xx xxxx y Cyngor yn beryglus, yn niweidiol neu heb fod yn unol â’r Contract; ac
(b) os yw’r Cyngor wedi gorchymyn i’r Contractwr fynd ag unrhyw eitem o Gyfarpar ymaith yn unol â chymal S8.6 (a) uchod, i roi eitem addas o Gyfarpar yn lle’r cyfryw eitem.
B8.7 Wedi cwblhau’r Gwasanaethau rhaid i’r Contractwr fynd â’r Cyfarpar ymaith ynghyd ag unrhyw ddeunyddiau eraill a ddefnyddiwyd gan y Contractwr i ddarparu’r gwasanaethau er mwyn gadael Safleoedd y Cyngor mewn cyflwr glân, diogel a thaclus. Er mwyn osgoi amheuaeth y Contractwr sy’n llwyr gyfrifol am drwsio unrhyw ddifrod i safleoedd y Cyngor neu unrhyw wrthrychau a geir yno, heblaw xxxxx a breuo teg, a achosir gan y Contractwr neu unrhyw gyflogeion, gweision, asiantau, cyflenwyr neu isgontractwyr y Contractwr.
B8.8 Rhaid i fynediad i Safleoedd y Cyngor beidio â bod yn gyfyngedig i’r Contractwr yn unig ond rhaid iddo fod yn gyfyngedig i Staff a chyflenwyr y Contractwr sy’n angenrheidiol i gyflawni’r Gwasanaethau ar yr un pryd ag y gwneir gwaith gan bobl eraill. Rhaid i’r Contractwr gydweithredu am ddim gyda’r bobl eraill hynny ar Safleoedd y Cyngor y mae’r Cyngor yn rhesymol yn mynnu.
B9. Safon Gwaith
B9.1 Rhaid i’r Contractwr gydymffurfio â’r Safonau Ansawdd xxx amser, a lle bo’n gymwys rhaid iddo gadw achrediad gyda’r xxxxx awdurdodi Safonau
Ansawdd perthnasol. I’r graddau nad xx xxxxx y Gwasanaethau wedi’i nodi yn y Contract, rhaid i’r Contractwr gytuno safon berthnasol y Gwasanaethau gyda Rheolwr y Contract cyn gweithredu, a rhaid iddo weithredu’r Contract gyda gofal a medr rhesymol ac yn unol ag arferion da yn y diwydiant.
B9.2 Os yw Rheolwr y Contract (neu ei gynrychiolydd) yn llofnodi taflenni amser neu ddogfennau tebyg eraill rhaid peidio â dehongli bod hynny’n awgrymu bod y Contractwr yn cydymffurfio â’r Contract.
B10. Archwilio Safleoedd
B10.1 Oddieithr fel y bydd y Cyngor yn rhoi cyfarwyddyd fel arall, tybir bod y Contractwr wedi archwilio’r Safleoedd cyn tendro fel ei fod wedi deall natur a maint y Contract sydd i’w gyflawni a’i fod yn fodlon ynghylch yr xxxx faterion sy’n gysylltiedig â chyflawni’r Contract.
B10.2 Rhaid i’r Cyngor, ar gais y Contractwr, ganiatáu mynediad rhesymol at y diben y cyfeirir ato yng nghymal B10.1.
B11. Trwydded i feddiannu safleoedd y Cyngor
B11.1 Rhaid i unrhyw dir neu Safleoedd (gan gynnwys adeiladau dros dro) y mae’r Cyngor yn sicrhau eu bod ar gael i’r Contractwr mewn cysylltiad â’r
Contract, fod ar gael i’r Contractwr am ddim a chânt eu defnyddio gan y Contractwr ddim ond at ddiben cyflawni ei rwymedigaethau o xxx y Contract. Rhaid i’r Contractwr gael defnyddio’r fath dir neu Safleoedd fel trwyddedai a rhaid iddo adael y cyfryw dir neu Safleoedd ar ôl cwblhau, terfynu neu roi’r gorau i’r Contract.
B11.2 Rhaid i’r Contractwr beidio â defnyddio Safleoedd y Cyngor at unrhyw ddiben nac ar gyfer unrhyw weithgaredd heblaw darparu’r Gwasanaethau.
B11.3 Pe bai’r Contractwr eisiau addasiadau i Safleoedd y Cyngor, rhaid cael Cymeradwyaeth o flaen llaw i’r cyfryw addasiadau a rhaid iddynt gael eu gwneud gan y Cyngor ar draul y Contractwr. Rhaid i’r Cyngor wneud gwaith addasu Cymeradwy heb oedi gormodol. Y Cyngor fydd biau’r cyfryw addasiadau.
B11.4 Rhaid i’r Contractwr ufuddhau i a chydymffurfio â (a rhaid iddo sicrhau bod ei gyflogeion, gweision, asiantau, cyflenwyr neu isgontractwyr yn ufuddhau i a chydymffurfio â) y rheolau a rheoliadau sydd mewn grym ar unrhyw adeg ar gyfer defnyddio’r Safleoedd a bennir gan y Cyngor, a rhaid i’r Contractwr dalu am gost trwsio unrhyw ddifrod a achoswyd gan y Contractwr, ei gyflogeion, gweision, asiantau, cyflenwyr neu isgontractwyr heblaw xxxxx a breuo teg. Er mwyn osgoi amheuaeth, mae difrod yn cynnwys difrod i adeiladwaith yr adeiladau, peiriannau, offer sefydlog neu ffitiadau ynddynt.
B11.5 Mae’r Partïon yn cytuno nad oes unrhyw fwriad ar ran y Cyngor i greu tenantiaeth o ba natur bynnag o blaid y Contractwr neu ei gyflogeion, gweision, asiantau, cyflenwyr neu is-gontractwyr ac nad oes unrhyw denantiaeth o’r fath wedi dod i fod ac na fydd yn dod i fod ac, er gwaethaf unrhyw hawliau a ganiatawyd yn unol â’r Contract, mae’r Cyngor yn cadw’r hawl ar unrhyw adeg i ddefnyddio mewn unrhyw fodd y gwêl yn dda unrhyw safleoedd sy’n eiddo xxxx xxx a feddiannir ganddo.
B12. Eiddo’r Cyngor
B12.1 Lle mae’r Cyngor at ddiben y Contract yn rhoi Eiddo’r Cyngor am ddim i’r Contractwr bydd y cyfryw eiddo yn aros yn eiddo i’r Cyngor. Ni fydd y Contractwr o xxx unrhyw amgylchiadau yn cael lien ar Eiddo’r Cyngor a rhaid i’r Contractwr gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod teitl y Cyngor i gyfryw Eiddo’r Cyngor a xxxx xxxxx unrhyw lien o’r fath yn cael eu dwyn i sylw’r xxxx is-gontractwyr a phobl eraill sy’n ymwneud â’r Contract.
B12.2 Tybir bod unrhyw Eiddo’r Cyngor a fydd ar xxxx xxx a dderbynnir fel arall gan y Contractwr mewn cyflwr da pan y’i derbynnir gan neu ar ran y Contractwr oni fydd y Contractwr yn hysbysu’r Cyngor yn wahanol cyn pen 5 Diwrnod Gwaith ar ôl ei dderbyn.
B12.3 Rhaid i’r Contractwr gadw xxxx Eiddo’r Cyngor mewn cyflwr da, ac eithrio xxxxx a breuo teg, a rhaid iddo ddefnyddio Eiddo’r Cyngor mewn perthynas â’r Contract yn unig ac nid at unrhyw ddiben arall heb gymeradwyaeth o flaen llaw.
B12.4 Rhaid i’r Contractwr hysbysu Rheolwr y Contract am unrhyw Eiddo’r Cyngor sy’n weddill ar ôl i’r Contract ddod i ben, gael ei derfynu a/xxx xxxx ei derfynu’n rhannol (fel bo’n briodol) a rhaid iddo ei waredu fel y cyfarwyddo’r Cyngor. Os gwastreffir cyfryw Eiddo’r Cyngor oherwydd crefftwaith gwael neu esgeulustod y Contractwr neu unrhyw gyflogeion, gweision, asiantau, cyflenwyr neu is-gontractwyr y Contractwr, rhaid unioni hynny ar draul y Contractwr. Heb ragfarnu unrhyw hawliau eraill y Cyngor, rhaid i’r Contractwr roi Xxxxx’r Cyngor yn ôl i’r Cyngor os yw’n gofyn amdano, pa un a yw wedi’i brosesu ai peidio.
B12.5 Rhaid i’r Contractwr sicrhau bod xxxx Eiddo’r Cyngor yn ddiogel tra’i fod ym meddiant y Contractwr, xxxxx xx ar ei safleoedd neu mewn man arall yn ystod cyflawni’r Contract, yn unol â gofynion diogelwch rhesymol y Cyngor fel sy’n ofynnol x xxxx i’w gilydd.
B12.6 Bydd y Contractwr yn atebol am unrhyw a phob colled neu ddifrod (ac eithrio xxxxx a breuo teg) i unrhyw Eiddo’r Cyngor, oni all y Contractwr ddangos bod y fath golled neu ddifrod wedi’i achosi gan esgeulustod neu ddiffyg ar ran y Cyngor. Caiff atebolrwydd y Contractwr a nodir yn y cymal hwn ei leihau i’r graddau y cyfrannwyd at y cyfryw golled neu ddifrod gan esgeulustod neu ddiffyg y Cyngor. Rhaid i’r Contractwr hysbysu Rheolwr y Contract cyn pen 2 Ddiwrnod Gwaith ar ôl dod yn ymwybodol o unrhyw
ddiffygion yn ymddangos yn Eiddo’r Cyngor neu unrhyw golledion neu ddifrod yn digwydd i Eiddo’r Cyngor a oedd ar gael at ddibenion y Contract.
B13. Is-gontractio i ddarparu’r Gwasanaethau
B13.1 Lle bo’r Contractwr yn ymrwymo i is-gontract gyda chyflenwr neu gontractwr at ddiben cyflawni’r Contract, rhaid iddo achosi i deler gael ei gynnwys yn y cyfryw is-gontract sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r Contractwr dalu symiau diamheuol i’r is-gontractwr o fewn cyfnod penodedig heb fod yn fwy na 30 diwrnod ar ôl derbyn anfoneb ddilys, fel a ddiffinnir gan ofynion yr is- gontract.
B14. Cynigion Cyflogaeth
B14.1 Am hyd y Contract ac am gyfnod o 12 mis wedi hynny ni chaiff y Contractwr gyflogi na chynnig cyflogaeth i unrhyw aelodau o staff y Cyngor sydd wedi bod yn gysylltiedig â chaffael a/neu reoli contract y Gwasanaethau heb Gymeradwyaeth y Cyngor o flaen llaw.
Rheoliadau Trosglwyddo Ymrwymiadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006 (TUPE)
B14.2 Os bydd y Cyngor yn gofyn ei fod yn gwneud hynny, rhaid i'r Cyflenwr ddarparu, heb gost i'r Cyngor, unrhyw wybodaeth berthnasol a phob cyfryw wybodaeth ynghylch ei weithwyr er mwyn cydymffurfio â Rheoliadau
Trosglwyddo Ymrwymiadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006 ("TUPE"), cyn pen un deg pedwar (14) diwrnod wedi'r cais gan y Cyngor.
B14.3 Gall y Cyngor ddatgelu'r cyfryw wybodaeth TUPE i unrhyw drydydd parti a allai ddod yn gyflogwr ar unrhyw rai o weithwyr y Cyflenwr y gallai TUPE effeithio arnynt.
B14.4 Lle darparwyd gwybodaeth TUPE, rhaid i'r Cyflenwr:
14.4.1 hysbysu'r Cyngor am unrhyw newid i'r wybodaeth a ddarparwyd neu ddarparu unrhyw wybodaeth TUPE newydd nas darparwyd yn flaenorol;
14.4.2 gwneud pob ymdrech i roi eglurhad ar unrhyw fater y mae'r Cyngor wedi gofyn am eglurhad arno; a
14.4.3 gwneud pob ymdrech i gydymffurfio ag unrhyw gais rhesymol arall a wneir gan y Cyngor ynghylch gwybodaeth TUPE neu weithwyr y Cyflenwr cyn pen un deg pedwar (14) diwrnod wedi unrhyw newid o'r fath, darganfod gwybodaeth newydd, neu dderbyn y cyfryw gais.
B14.5 At ddibenion y cymal hwn, ystyr "gwybodaeth TUPE" fydd manylion ysgrifenedig ynghylch y canlynol:
14.5.1 cyfanswm nifer y gweithwyr a gyflogir gan y Cyflenwr y cyflawnir eu gwaith neu unrhyw ran ohono at ddibenion y Cytundeb hwn;
14.5.2 oedran a rhywedd y gweithwyr;
14.5.3 cyflog y gweithwyr, hyd eu cyfnod o wasanaeth, y cyfnod o rybudd a nodir yn y contract, unrhyw setliad cyflog ar gyfer dyddiadau yn y dyfodol y cytunwyd arno eisoes gan y Cyflenwr ac unrhyw hawl o ran dileu swyddi;
14.5.4 y manylion cyflogaeth hynny y mae rhwymedigaeth ar gyflogwr i'w rhoi i weithiwr yn ôl Adran 1 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996;
14.5.5 hawl i dderbyn pensiynau, gwyliau â thâl ac unrhyw fanteision eraill;
14.5.6 telerau a ymgorfforwyd o unrhyw gytundeb ar y cyd; a
14.5.7 unrhyw atebolrwydd posibl neu heb ei gyflawni am xxxxx contractau o'r fath yn y gorffennol;
14.5.8 gwybodaeth ynghylch unrhyw un o'r canlynol:
14.5.8.1 gweithdrefn ddisgyblu a gychwynnwyd yn erbyn gweithiwr yn ystod y ddwy (2) flynedd ddiwethaf;
14.5.8.2 gweithdrefn achwyn a gychwynnwyd gan weithiwr yn ystod y ddwy (2) flynedd ddiwethaf;
14.5.8.3 unrhyw achos Llys neu Dribiwnlys, hawliad neu weithredu gan weithiwr yn erbyn y Cyflenwr, yn ystod y ddwy (2) flynedd ddiwethaf; a
14.5.8.4 unrhyw hawliad posibl y mae sail rhesymol i'r Cyflenwr gredu y gallai gweithiwr ei gyflwyno yn erbyn y Cyflenwr, yn deillio o gyflogaeth y gweithiwr gyda'r Cyflenwr.
B14.6 Rhaid i'r Cyflenwr indemnio'r Cyngor yn llawn a sicrhau ei fod yn ddiddrwg xxx amser yn wyneb ac yn erbyn pob gweithred, achos, hawliad, ac
unrhyw dreuliau, dyfarniadau, costau a phob atebolrwydd arall, sydd yn deillio neu yn gysylltiedig ym mha ffordd bynnag â hawliadau gan ei weithwyr (neu ei gyn-weithwyr) yr effeithiwyd arnynt gan TUPE, xxx xx’n hawlio effaith yn sgil TUPE.
B14.7 Bydd darpariaethau’r cymal hwn yn berthnasol tra pery’r Cytundeb hwn ac am gyfnod amhenodol ar ôl iddo gael ei derfynu.
B15. Rhwymedïau os yw’r perfformiad yn annigonol
B15.1 Lle ceir xxxx xxx dangosir problem mewn unrhyw Arolwg o Foddhad Cwsmeriaid ynghylch safon y Gwasanaethau neu ynghylch y ffordd y darparwyd y Gwasanaethau neu y cyflawnwyd y gwaith neu am y deunyddiau neu’r gweithdrefnau a ddefnyddiwyd neu ynghylch unrhyw fater arall cysylltiedig â chyflawni’r Contract, yna rhaid i Reolwr y Contract gymryd pob cam rhesymol i ganfod a yw’r xxxx yn ddilys. Os yw Rheolwr y Contract yn penderfynu hynny, gall gefnogi’r xxxx, xxx gymryd camau pellach yn unol â darpariaethau Rhan 4 y Contract.
B15.2 Os yw’r Cyngor o’r farn resymol y bu tor-contract sylweddol gan y Contractwr, neu fod cyflawniad y Contractwr o’i rwymedigaethau o xxx y Contract wedi peidio â bodloni’r gofyniad a nodwyd yn y Rhestr Manylion, xxx xxxx y Cyngor, heb ragfarnu ei hawliau o xxx Ran 4 y Contract, wneud unrhyw un o’r canlynol:
(a) gwneud didyniad o’r Pris i’w dalu i’r Contractwr ag y bydd y Cyngor yn pennu’n rhesymol i adlewyrchu’r symiau a dalwyd neu’r symiau a fyddai fel arall yn daladwy mewn perthynas â’r Gwasanaethau hynny y bydd y Contractwr wedi peidio â’u darparu neu wedi eu cyflawni’n annigonol;
(b) heb derfynu’r Contract, darparu neu gaffael rhan o’r Gwasanaethau ei hun hyd nes y bydd y Contractwr wedi dangos i foddhad rhesymol y Cyngor y bydd y Contractwr yn gallu cyflawni’r cyfryw ran o’r Gwasanaethau yn unol â’r Contract;
(c) heb derfynu’r Contract cyfan, terfynu’r Contract mewn perthynas â rhan o’r Gwasanaethau’n unig (ac ar hynny gwneir gostyngiad cyfatebol yn y Pris) ac wedi hynny darparu neu gaffael trydydd parti ei hun i ddarparu’r cyfryw ran o’r Gwasanaethau perthnasol; a/neu
(d) terfynu, yn unol â Rhan 4, y Contract cyfan.
B15.3 Gall y Cyngor godi ar y Contractwr unrhyw gost yr aed iddi’n rhesymol gan y Cyngor ac unrhyw gostau gweinyddol rhesymol mewn perthynas â darparu’r cyfryw ran o’r Gwasanaethau perthnasol gan y Cyngor neu gan drydydd parti i’r graddau bod y fath gostau’n fwy na’r Pris a fuasai fel arall yn daladwy i’r Contractwr am y cyfryw ran o’r Gwasanaethau perthnasol.
B15.4 Os yw’r Contractwr yn methu â chyflawni unrhyw un/rai o’r Gwasanaethau i foddhad rhesymol y Cyngor a bod modd cywiro’r cyfryw fethiant, yna rhaid i’r Cyngor roi cyfarwyddyd i’r Contractwr gywiro’r methiant a rhaid i’r Contractwr ar ei gost a’i draul ei hun gywiro’r cyfryw fethiant (ac unrhyw ddifrod sy’n deillio o’r cyfryw fethiant) cyn pen 10 Diwrnod Gwaith neu gyfnod amser arall fel y bo’r Cyngor yn cyfarwyddo.
B15.5. Os digwydd bod:
(a) y Contractwr yn methu â chydymffurfio â chymal B15.4. uchod a bod y methiant yn sylweddol andwyol i fuddiannau masnachol y Cyngor neu’n xxxx y Cyngor rhag cyflawni dyletswydd statudol; neu
(b) y Contractwr yn methu’n gyson â chydymffurfio â chymal B15.4 uchod, mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i derfynu’r
Contract trwy rybudd ysgrifenedig a daw hynny i rym yn ddi- oed.
B15.6 Gall rhwymedïau’r Cyngor o xxx y cymal hwn gael eu gweithredu’n olynol mewn perthynas ag unrhyw un neu ragor o fethiannau gan y Contractwr.
B16. Indemniad Proffesiynol
B16.1 Rhaid i’r Contractwr ddal a chynnal yswiriant indemniad proffesiynol a sicrhau bod yr xxxx ymgynghorwyr proffesiynol neu is-gontractwyr sy’n ymwneud â darparu’r Gwasanaethau yn dal a chynnal yswiriant priodol. I gydymffurfio â’i rwymedigaethau o xxx y cymal hwn S16.1, ac o leiaf, rhaid i’r Contractwr sicrhau bod yr yswiriant indemniad proffesiynol a ddelir gan y Contractwr a chan unrhyw asiant, is-gontractwr neu ymgynghorydd sy’n ymwneud â chyflawni’r Gwasanaethau â chyfyngiad ar indemniad o nid llai na [ ] ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau sy’n codi o xxx digwyddiad. Rhaid cynnal y cyfryw yswiriant am o leiaf 6 (chwe) mlynedd ar ôl i’r Contract ddod i xxx xxx gael ei derfynu’n gynharach.