Cynnwys y Cytundeb Perthynas
Cynnwys y Cytundeb Perthynas
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Diogelu data a’i rannu
Dyrannu Xxxxxxxx’r Undeb i Grwpiau, Clybiau a Chymdeithasau Myfyrwyr
Rhestr Termau
Mae’r termau a amlygir yn wyrdd wedi’u diffinio yn yr Eirfa.
Cyflwyniad a Chyd-destun
Nod y Cytundeb Perthynas hwn yw mynegi'r berthynas rhwng Prifysgol Caerdydd ac Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, ac mae'n amlinellu'r sail ar gyfer y berthynas rhwng y partïon a'r egwyddorion y maen nhw'n gweithredu'n unol â nhw.
Mae'r cytundeb wedi dilyn arweiniad Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) yn y Cylchlythyr, 'Revised guidance on good practice in funding of effective, democratic student unions, and student representation' (Cyfeirnod: W14/06HE).
Mae'r cytundeb hwn yn gweithredu fel y Côd Ymddygiad a ddiffiniwyd yn, ac sy'n ofynnol yn ôl Adran 22 Deddf Addysg 1994; ac yn unol â gofynion y Ddeddf hon, rhaid i Brifysgol Caerdydd wneud yn siŵr bod y gofynion sy'n berthnasol ar gyfer Undeb y Myfyrwyr yn cael eu rhoi ar waith.
Egwyddorion
Statws Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd
Egwyddor: Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd (yr Undeb) yw Undeb Myfyrwyr Cydnabyddedig Prifysgol Caerdydd at ddibenion Deddf Addysg 1994.
Undeb Myfyrwyr yw'r Undeb, fel y'i diffinnir yn Neddf Addysg 1994, gyda rheoliadau a rheolau mewnol wedi'u cymeradwyo gan ei Fwrdd Ymddiriedolwyr a chan Gyngor y Brifysgol, sef xxxxx llywodraethol y Brifysgol. Mae'r Undeb yn elusen gofrestredig (Rhif Elusen: 1137163) a chwmni cyfyngedig drwy warant a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr (Rhif Cwmni: 07328777). Mae'r Undeb yn annibynnol ac yn gweithredu ar wahân i'r Brifysgol. Mae hefyd yn gwmni elusennol. Xxxxx, xxx ei gyfansoddiad wedi'i lunio gan ei Femorandwm a'i Erthyglau Cyweithio Mae'n cael ei lywodraethu gan Fwrdd o Ymddiriedolwyr, sy'n gweithredu fel Cyfarwyddwyr at ddibenion cyfraith cwmnïau ac fel Ymddiriedolwyr at ddibenion cyfraith elusennau. Y rheswm dros hynny yw statws yr Undeb fel cwmni elusennol. Mae'n rhaid i fwyafrif o Fwrdd yr Ymddiriedolwyr gytuno ar benderfyniadau'r Bwrdd.
Xxx xxx yr Undeb yr hawl i reoli ei faterion a'i gyllid ei hun fel y'i diffinnir yn ei Femorandwm ac Erthyglau Cyweithio, a gymeradwyir ar y xxx xxx y Brifysgol ar gyfnodau heb fod yn hwy na phum mlynedd. Yn unol â Deddf Addysg 1994, xxx xxx Xxxxxx y Brifysgol ddyletswydd statudol i sicrhau bod yr Undeb yn cael ei redeg mewn modd teg a democrataidd a'i fod yn atebol am ei gyllid.
Xxx xxx yr Undeb is-gwmni a reolir gan yr Undeb yn rhinwedd ei unig aelodaeth: Cardiff Union Services Limited (CUSL). Adroddir ar y cwmni hwn, ynghyd â'r Undeb fel grŵp.
Amcanion elusennol yr Undeb yw hyrwyddo addysg myfyrwyr1 ym Mhrifysgol Caerdydd xx xxxx y cyhoedd drwy: hybu buddiannau a lles myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn ystod eu hastudiaeth a chynrychioli, cefnogi a chynghori myfyrwyr; bod yn sianel gynrychioliadol gydnabyddedig rhwng Myfyrwyr a Phrifysgol Caerdydd ac unrhyw gyrff allanol eraill; a darparu gweithgareddau a fforymau cymdeithasol, diwylliannol, chwaraeon a hamdden ar gyfer trafodaethau a dadleuon ar gyfer datblygiad personol ei Fyfyrwyr.
2. Partneriaeth Strategol
Egwyddor: Mae'r Brifysgol a'r Undeb yn gweithio mewn partneriaeth i lywio datblygu a gweithredu cynlluniau strategol sy'n gefnogol i'r ddwy ochr.
Xxx xxx y Brifysgol a'r Undeb gynlluniau strategol sy’n ceisio gwella addysg a phrofiad pob myfyriwr yn y Brifysgol. Mae'r Swyddogion Etholedig a staff yr Undeb yn cwrdd â staff y Brifysgol ar xxx xxxxx yn rheolaidd mewn ystod o leoliadau ffurfiol ac anffurfiol er mwyn gwella eu hamcanion strategol.
Mae'r Undeb yn adrodd am ei weithgareddau ac yn nodi meysydd sy’n peri pryder trwy adroddiadau rheolaidd i Gyngor y Brifysgol ac mewn cyfarfodydd gyda staff y Brifysgol ar xxx xxxxx. Xxx Llywydd etholedig yr Undeb a'r Prif Weithredwr penodedig yn cwrdd yn rheolaidd â'r Is-Ganghellor a Phrif Swyddog Gweithredu'r Brifysgol yn y drefn honno, ac mae uwch staff y Brifysgol yn cwrdd yn rheolaidd â swyddogion etholedig yr Undeb.
Trefnir cyfnod ymsefydlu blynyddol ar gyfer Swyddogion Etholedig yr Undeb at ddiben cyfathrebu strwythurau, llywodraethu, blaenoriaethau a phrosiectau'r Brifysgol ar y cyd rhwng y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr. Mae'r rhaglen gynefino hefyd yn ceisio sefydlu perthynas a darparu fforwm ar gyfer trafod meysydd sydd o ddiddordeb i'r ddwy ochr.
Xxx xxx y Brifysgol yr hawl i enwebu dau Ymddiriedolwr i ddod yn aelodau o Fwrdd Ymddiriedolwyr yr Undeb, fel y'u diffinnir gyda Memorandwm ac Erthyglau Cymdeithasu yr Undeb. Cydnabyddir bod cyfraniad Ymddiriedolwyr a Enwebwyd gan Brifysgol yn rhan annatod o lywodraethu da'r Undeb. Bydd Aelodau Myfyrwyr y Cyngor yn cynnwys Llywydd Undeb y Myfyrwyr ac un swyddog etholedig arall o'r Undeb (sy'n cynrychioli ôl-raddedigion), fel y rhagnodir gan Ordinhadau'r Brifysgol. Mae cydnabyddiaeth o bwysigrwydd safbwynt myfyrwyr yn xxxx x xxxxxx y Brifysgol o wneud penderfyniadau'n cael ei hamlygu gan y ffaith bod myfyrwyr yn aelodau o xxx un o brif bwyllgorau'r Brifysgol, yn ogystal â grwpiau ymgynghorol y Brifysgol.
Yn ogystal â chael myfyrwyr yn aelodau o gorff llywodraethol y Brifysgol, mae myfyrwyr yn aelodau o gyrff eraill gan gynnwys: Y Senedd, Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau, Is-bwyllgor Buddsoddi a Bancio, Pwyllgor Llywodraethu, Pwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, Pwyllgor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr, Pwyllgor Safonau Academaidd ac Ansawdd, ac ystod o grwpiau eraill sy'n gysylltiedig â Phrofiad Myfyrwyr.
3. Prifysgol sy' n Canolbwyntio ar Fyfyrwyr
Egwyddor: Mae'r Brifysgol a'r Undeb yn rhannu ymrwymiad i ddatblygu a gwella profiad y myfyrwyr.
Xxx xxxxx uchel o ymgysylltu rhwng y Brifysgol, yr Undeb a'r xxxxx myfyrwyr. Mae'r bartneriaeth hon yn galluogi myfyrwyr i ddod yn ddysgwyr annibynnol a chydol oes o fewn diwylliant sy'n meithrin, yn hyrwyddo ac yn parchu cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Mae'r system Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr a strwythurau llywodraethu'r Undeb yn galluogi'r Brifysgol a'r Undeb i barhau i gydweithio er mwyn gwella bodlonrwydd myfyrwyr.
Mae'r Undeb yn cefnogi strategaeth y Brifysgol, yn enwedig ei nod o wireddu potensial ei myfyrwyr. Strategaeth y Brifysgol ar hyn o xxxx xx Y Ffordd Ymlaen 2018-2023: Ail-lunio COVID-19. Fel sail i hyn, mae'r Brifysgol hefyd wedi gweithredu Is-strategaeth Addysg a Myfyrwyr newydd, sy'n ceisio darparu profiad myfyrwyr sy'n rhagorol o safon addysgol ac o ansawdd uchel, ac mae hyn yn cael ei gefnogi gan yr Undeb.
Mae'r Undeb yn bodoli i hyrwyddo buddiannau a lles myfyrwyr yn ystod eu cwrs astudio a chynrychioli, cefnogi a chynghori myfyrwyr. Dyma'r sianel gynrychioliadol gydnabyddedig rhwng myfyrwyr a Phrifysgol Caerdydd ac mae'n darparu gweithgareddau cymdeithasol, diwylliannol, chwaraeon a hamdden a fforymau ar gyfer trafodaethau a dadlau ar gyfer datblygiad personol myfyrwyr. Nod y gweithgareddau hyn yw cefnogi lles myfyrwyr, cadw myfyrwyr a gwella cyflogadwyedd myfyrwyr yn unol â nodau'r Brifysgol.
Trwy gyfathrebu rheolaidd a gweithio ar y cyd, mae Xxx Cyngor Myfyrwyr yr Undeb a Thîm Bywyd Myfyrwyr y Brifysgol yn parchu ac yn cefnogi ei gilydd i hyrwyddo a diogelu buddiannau a xxxx x xxxxx myfyrwyr.
4. Llais y Myfyriwr
Egwyddor: Bydd y Brifysgol a'r Undeb yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau cyfleoedd i fyfyrwyr fynegi eu barn a bod yn bartneriaid wrth wneud penderfyniadau'r Brifysgol a'r Undeb.
Swyddogion
Etholedig yr Undebau
Xxx
xxx yr Undeb saith Swyddog llawn amser (yr Ymddiriedolwyr Sabothol)
ac 11 Swyddog rhan-amser, sy'n cael eu hethol drwy bleidlais
traws-gampws i gynrychioli gwahanol grwpiau cyfansoddol y xxxxx
myfyrwyr yn ôl eu disgrifiad swydd. Diben y Swyddogion hyn yw
ymgysylltu â myfyrwyr a gweithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid
i gyfleu eu barn a'u buddiannau i'r Brifysgol ac i gyrff allanol. Yn
ystod eu gwaith, bydd Swyddogion Etholedig yn defnyddio gwahanol
ffurfiau o ymgyrchu, aelodaeth o bwyllgorau'r Brifysgol, a
chyfarfodydd ffurfiol ac anffurfiol eraill gyda staff y Brifysgol a
chyrff allanol.
Y System Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr
Mae Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr yn fyfyrwyr sy'n cael eu hethol gan gymheiriaid o fewn eu carfan i roi cysylltiad hanfodol rhwng eu Hysgol a'u Coleg i'r Undeb a'r Brifysgol ehangach. Eu prif gyfrifoldebau yw cynrychioli eu cyd-fyfyrwyr; helpu i wneud penderfyniadau sy'n gwella profiad y myfyriwr; rhoi adborth ar y penderfyniadau hyn i'w carfan; a gweithio mewn partneriaeth â staff y Brifysgol i ddatblygu prosiectau a mentrau.
Mae'r Brifysgol a'r Undeb yn cefnogi'r system Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr ar y cyd ac yn cydweithio i sicrhau cynrychiolaeth myfyrwyr ar lefel Rhaglen, Ysgol, Coleg a Phrifysgol gyfan. Mae'r Undeb yn cymryd cyfrifoldeb dros recriwtio, hyfforddi a chefnogi'r Cynrychiolwyr Academaidd drwy Dîm Llais y Myfyrwyr yn yr Undeb. Mae'r Brifysgol, drwy'r Academi Dysgu ac Addysgu, yn cefnogi ymgorffori'r system Cynrychiolwyr Academaidd o fewn Pwyllgorau'r Brifysgol, a phenodi a chefnogi Cydlynwyr Cynrychiolwyr Myfyrwyr o fewn Ysgolion. Mae'r Brifysgol a'r Undeb yn sicrhau bod gan Gynrychiolwyr Academaidd fynediad at ddata arolwg perthnasol, canlyniadau gwella modiwlau, a chofnodion Byrddau Astudiaethaui gefnogi eu gwaith.
Adborth
myfyrwyr ac arolygon myfyrwyr
Er
mwyn helpu i ddeall anghenion myfyrwyr, mae'r Brifysgol a'r Undeb yn
cymryd rhan mewn deialog rheolaidd ac yn casglu adborth gan fyfyrwyr
a'i ddefnyddio i wella profiad y myfyrwyr. Mae enghreifftiau o ddata
a ddefnyddir yn y ffordd hon yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
Arolwg
Cenedlaethol y Myfyrwyr (NSS), Arolwg Profiad Ymchwil Ôl-raddedig
(PRES), Arolwg Ôl-raddedig a Addysgir Prifysgol Caerdydd (CUPTS),
Gwella Modiwlau, Wythnos Siarad,
Cofnodion Panel Staff Myfyrwyr, Grwpiau Ffocws a gweithdai.
Mae'r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr yn cydweithio, gyda myfyrwyr, i nodi cyfleoedd i wella'r profiad yma yng Nghaerdydd yn barhaus ac i rannu'r wybodaeth ddiweddaraf am lwyddiannau. Mae sicrhau bod myfyrwyr yn deall sut mae eu hadborth yn cael ei ddefnyddio a'i werthfawrogi yn flaenoriaeth i Gaerdydd ac mae'r Brifysgol a'r Undeb yn gweithio'n agos gyda'i gilydd i gefnogi 'cau'r cylch adborth' drwy ymgyrchoedd blynyddol amrywiol. Gall myfyrwyr glywed am y gwelliannau rydym yn eu gwneud mewn sawl ffordd gan gynnwys cael y wybodaeth ddiweddaraf ar Newyddion Myfyrwyr a chyfathrebiadau gan xxxx Ysgol, erthyglau mewnrwyd, postiadau ar Learning Central, a gwybodaeth sy'n cael ei bostio o amgylch y campws.
Barn y Myfyrwyr
Mae'r Undeb yn casglu ac yn dogfennu materion a phryderon sy’n wynebu myfyrwyr presennol yn Barn y Myfyrwyr ac yn rhoi awgrymiadau ar gyfer gweithredu i Gyngor y Brifysgol. Bydd cyflwyniad yn cael ei ddarparu i'r Brifysgol pan fydd pryder neu fater yn codi y bernir bod Barn Myfyrwyr ffurfiol yn angenrheidiol ar ei gyfer. Bydd y Brifysgol yn ymateb i xxx cyflwyniad. Ar ddiwedd pob blwyddyn academaidd bydd yr Undeb yn cyfuno'r xxxx gyflwyniadau â chrynodeb gweithredol a fydd yn cael ei gyflwyno i'w adolygu drwy broses lywodraethu'r Brifysgol.
Mae'r Brifysgol yn ymrwymo i ddarparu ymateb ysgrifenedig i'r Safbwyntiau Myfyrwyr a'r Crynodeb Gweithredol cyfunol blynyddol, sy'n cael ei gyflwyno i'r Cyngor i'w gymeradwyo ac yn manylu sut y bydd yn mynd i'r afael ag argymhellion y cyflwyniad. Mae'r Brifysgol a'r Undeb yn ymrwymo i gefnogi'r gweithgareddau hyn ac i fonitro a rhoi gwybod am weithrediad y camau y cytunwyd arnynt.
Llywodraethu
Cynrychiolir myfyrwyr ar strwythurau llywodraethu'r Brifysgol drwy swyddogion etholedig Undeb y Myfyrwyr a chynrychiolwyr academaidd.
Mae monitro, a darparu cyfeiriad strategol ar gyfer gweithgaredd Llais Myfyrwyr yn eistedd gyda Phwyllgor Llais a Phartneriaeth Myfyrwyr (SVPC) a gyflwynwyd yn 2022. Mae'r pwyllgor yn cael ei gadeirio ar y xxx xxx y Partner Academaidd ar gyfer Llais Myfyrwyr a Llywydd Undeb y Myfyrwyr. Mae SVPC o fewn y strwythurau llywodraethu addysg ffurfiol ar gyfer y Brifysgol ac yn bwydo i mewn i'r Pwyllgor Profiad Myfyrwyr Addysg (ESEC). Bydd y pwyllgor yn:
Sicrhau bod Fframwaith Llais y Myfyrwyr yn cael ei roi ar waith a bod unrhyw newidiadau/diweddariadau sydd eu xxxxxx yn cael eu gwneud
Sicrhau bod gweithgarwch llais y myfyrwyr yn cyd-fynd â strategaeth y sefydliad
Edrych ar weithgarwch llais y myfyrwyr yn synoptig drwy ystyried yr ecosystem gyfan, gan gynnwys argymell newidiadau a gwelliannau fel sy’n briodol
Monitro'r ymateb i gamau gweithredu a'u cwblhau o Farn Myfyrwyr Undeb y Myfyrwyr
5. Ymddygiad Myfyrwyr
Egwyddor: Mae'r Brifysgol a'r Undeb yn gweithio'n gydweithredol i ymchwilio i ac i wrando ar honiadau o ymddygiad myfyrwyr yn ymwneud â grwpiau, clybiau a chymdeithasau myfyrwyr neu ag unigolion pan maent ar safleoedd yr Undeb neu wrth gymryd rhan yng ngweithgareddau a gwasanaethau Undeb y Myfyrwyr.
Xxx xxx y Brifysgol a'r Undeb broses o ymchwilio ar y cyd ar gyfer ymchwilio i faterion sy'n ymwneud ag ymddygiad honedig unigolion a/neu grwpiau, clybiau a chymdeithasau myfyrwyr, a adolygir yn flynyddol gan gofrestrydd academaidd y Brifysgol a Phrif Weithredwr yr Undeb. Mae'r broses wedi'i chynllunio i fynd i'r afael â phryderon ymddygiad grwpiau myfyrwyr mewn modd cyflym, teg a chyson.
Xxx xxx yr Undeb god ymddygiad annibynnol ar gyfer aelodau myfyrwyr unigol, wedi'i gymhwyso mewn perthynas ag ymddygiad myfyrwyr ar fangreoedd yr Undeb neu tra bônt yn cymryd rhan yng ngweithgareddau a gwasanaethau'r Undeb. Mae'r Undeb yn rhannu manylion digwyddiadau ymddygiad myfyrwyr difrifol a sylweddol yn unol â'r broses ymchwilio ar y cyd. Mae'r Brifysgol yn gyfrifol am ymddygiad cyffredinol myfyrwyr yn y Brifysgol ac mae'n cynnal polisi, prosesau a gweithdrefnau cysylltiedig ac mae pob un o'r rhain sy’n caniatáu i fyfyrwyr geisio cyngor a chynrychiolaeth gan yr Undeb.
6. Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Egwyddor: Xxx xxx y Brifysgol a'r Undeb ymrwymiad cyffredin i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Mae'r Brifysgol a'r Undeb wedi ymrwymo i greu a chefnogi amgylchedd cyfartal, amrywiol a chynhwysol. Nod y Brifysgol a'r Undeb yw hyrwyddo cymuned urddasol ac egwyddorol, lle mae cydraddoldeb yn cael ei hyrwyddo; gwerthfawrogir amrywiaeth a chynhwysoldeb, ac unigolion yn cael eu parchu; mae ymddygiad yn cael ei arwain gan godau uniondeb academaidd, moeseg ac ymddygiad da; mae pawb yn derbyn eu cyfrifoldebau i'w gilydd; ac mae'r iaith Gymraeg a Saesneg yn cael eu trin ar sail cydraddoldeb. Xxx xxx y Brifysgol Gynllun Cydraddoldeb Strategol i hyrwyddo cydraddoldeb a sicrhau gwelliannau o ran cydraddoldeb, ac ategir hyn gan lawer o bolisïau cysylltiedig, gan gynnwys y polisi Urddas yn y Gwaith a Pholisi Astudio. Mae Cynllun y Brifysgol a dogfennau llywodraethiant yr Undeb yn cyfeirio'n benodol at gydraddoldeb y Gymraeg a'r Saesneg.
Mae'r Brifysgol yn hyrwyddo hinsawdd o gyfle cyfartal i xxx myfyriwr ac mae’n sicrhau ei bod yn bodloni ei chyfrifoldebau o ran cydraddoldeb, amrywiaeth, diogelu a nodweddion gwarchodedig. Mae'r Brifysgol yn darparu hyfforddiant ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant i staff o fewn y Brifysgol a'r Undeb er mwyn sicrhau y caiff yr egwyddorion craidd hyn eu hyrwyddo. Mae'r Undeb wedi'i achredu â statws Buddsoddwyr mewn Amrywiaeth ac mae wedi ymrwymo i gynnal y safon.
7. Y Weithdrefn Gwyno
Egwyddor: Mae gweithdrefn gwyno ar gael i fyfyrwyr sy'n anfodlon yn eu hymwneud â'r Undeb.Gall myfyrwyr sy'n anfodlon ar eu profiadau gyda'r Undeb xxx xx'n honni eu bod xxx anfantais annheg oherwydd eu bod wedi arfer eu hawl i beidio â bod yn aelod o'r Undeb wneud cwyn i'r Undeb, yn unol â Gweithdrefn Cwyno, Disgyblu ac Apeliadau'r Undeb (Atodiad 1 Atodiadau Is-ddeddfau'r Undeb). Os yw myfyriwr yn parhau i fod yn anfodlon, gall gwyno i'r Brifysgol yn unol â gofynion Deddf Addysg 1994. Xxxx y Brifysgol gyfeirio'r mater i gael ei ystyried gan xxxxxx a benodir yn annibynnol.
8. Rhyddid Barn
Egwyddor: Mae'r Brifysgol a'r Undeb wedi ymrwymo i'r egwyddor o ryddid mynegiant yn unol â'r gyfraith.Mae Xxxxx Xxxxxx (2) 1986 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Brifysgol gymryd unrhyw gamau sy 'n rhesymol ymarferol i sicrhau bod rhyddid barn o fewn y gyfraith yn cael ei sicrhau i fyfyrwyr, i staff ac i ymwelwyr. Mae Deddf Addysg (2) 1986 hefyd yn gosod dyletswydd ar y Brifysgol i gyhoeddi Côd Ymarfer ynghylch Rhyddid Mynegiant; sy'n amlinellu’r gweithdrefnau a’r ymddygiad sy’n ofynnol gan y rhai hynny sy’n trefnu neu'n mynychu cyfarfodydd neu weithgareddau eraill.
Mae'r Brifysgol a'r Undeb yn dilyn gweithdrefn archebu siaradwyr allanol sefydledig er mwyn sicrhau y cynhelir rhyddid mynegiant yn unol â'r gyfraith. Xxx xxxx ddigwyddiadau'r Undeb, gan gynnwys digwyddiadau clybiau a chymdeithasau myfyrwyr cysylltiedig, yn dod o fewn y weithdrefn hon. Mae'r cyfyngiadau ar ryddid mynegiant a osodir gan y Brifysgol yn unol â'r gyfraith wedi'u manylu yn adran 4 Côd Ymarfer y Brifysgol ynghylch Rhyddid Mynegiant.
9. Diogelu data a’i rannu
Egwyddor: Mae'r Brifysgol a'r Undeb yn cydnabod pwysigrwydd perthynas agored pan fydd gwybodaeth yn cael ei rhannu'n briodol a bydd data personol yn cael ei rannu mewn modd cyfreithlon a diogel.
Caiff rhannu data personol ei lywodraethu gan Gytundeb Prosesu Data rhwng y ddau xxxxx xx'n xxxx xx adolygu xxx xxx flynedd ac yn cael ei gytuno mewn cydymffurfio â Pholisïau Diogelu Data a Diogelwch Gwybodaeth y Brifysgol a Pholisi/Datganiadau Preifatrwydd Diogelu Data Undeb y Myfyrwyr. Mae Hysbysiad Diogelu Data Myfyrwyr ac Ymgeiswyr y Brifysgol yn rhoi rhagor o wybodaeth am ba ddata myfyrwyr sy'n cael ei rannu, sut rydym yn ei rannu a'r rhesymau dros ei rannu. Mae hysbysiad preifatrwydd Xxxxx y Myfyrwyr yn manylu ar y wybodaeth gyfatebol ar gyfer Undeb y Myfyrwyr a gedwir yn ddata personol sy'n cael ei rannu â'r Brifysgol.
10. Cefnogaeth ac Ymrwymiad Cilyddol
Egwyddor: Mae'r Brifysgol a'r Undeb wedi ymrwymo i'r bartneriaeth, rhyngweithio adeiladol a pharch ar y cyd.
Sefydlir perthynas y Brifysgol a'r Undeb o fewn Siarter, Statudau ac Ordinhadau'r Brifysgol a manylir ymhellach arnynt yn Siarter y Myfyrwyr a'r cytundeb perthynas hwn. Mae'r Brifysgol a'r Undeb yn buddsoddi amser ac adnoddau yn y bartneriaeth ac o ganlyniad maent wedi mwynhau perthynas lwyddiannus dros gyfnod estynedig. Cydnabyddir bod cyfathrebu llawn, agored a rheolaidd ar faterion sy'n debygol o gael effaith ar y parti arall, poblogaeth y myfyrwyr a/neu gyd-randdeiliaid eraill yn ategu llwyddiant a chryfder parhaus y bartneriaeth.
Mae'r Brifysgol a'r Undeb yn cydnabod ac yn parchu'r rôl wahanol sydd gan y xxxxx a’r llall. Mae'r Brifysgol yn cydnabod gwerth Undeb Myfyrwyr cryf ac annibynnol a arweinir gan fyfyrwyr sydd â'r pŵer i bennu a rheoli ei faterion ei hun.
Mae'r Undeb yn cydnabod yr angen am i'r Brifysgol gydbwyso buddiannau ystod o randdeiliaid o fewn cyd-destun allanol sy'n fwyfwy heriol. Mae'r Brifysgol a'r Undeb yn cydnabod y gall hyn arwain at wahaniaethau o safbwynt, a xxxx fo hynny’n digwydd, yn ymrwymo i gymryd rhan mewn deialog gynnar, adeiladol sy'n cydnabod manteision cydweithio i wella profiad y myfyrwyr.
11. Cyllid a Chyfrifon yr Undeb
Egwyddor: Xxx xxx yr Undeb y pŵer i reoli ei faterion a'i gyllid ei hun, yn unol â gofynion Ordinhadau'r Brifysgol a'r cytundeb ariannol rhwng y Brifysgol a'r Undeb.Yn unol â Deddf Addysg 1994 xxx xxx y Brifysgol ddyletswydd statudol i sicrhau bod yr Undeb yn cael ei redeg mewn modd teg a democrataidd a'i fod yn atebol am ei gyllid. Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu Grant Bloc a chefnogaeth ariannol arall i'r Undeb gyda strwythur o gefnogaeth, goruchwylio a rhoi gwybod am fanylion o fewn cytundeb ariannol. Mae cefnogaeth ariannol i'r Undeb yn destun adolygiad gan y Pwyllgor Polisi ac Adnoddau, cymeradwyaeth gan Gyngor y Brifysgol, ac fe’i rhoddir yn unol â gofynion Ordinhad 13 a'r cytundeb ariannol rhwng y Brifysgol a'r Undeb.
12. Adeilad a meddiannaeth Undeb y Brifysgol o safle'r Brifysgol
Egwyddor: Mae'r Undeb yn meddiannu adeilad Undeb y Brifysgol ym Mhlas y Parc trwy brydles gan y Brifysgol ac mae'n meddiannu detholiad o ystafelloedd ar gampws y Mynydd Bychan.Mae'r Undeb yn meddiannu adeilad Undeb y Brifysgol ym Mhlas y Parc trwy brydles am rent rhad, ac mae'r gefnogaeth anariannol hon yn greiddiol i'r gefnogaeth a ddarperir gan y Brifysgol i'r Undeb. Mae'r grant bloc blynyddol a wneir i'r Undeb yn ystyried rhwymedigaethau costau cynnal a chadw a rhedeg yr Undeb sy'n gysylltiedig ag adeilad Undeb y Brifysgol.
Mae'r Undeb yn meddiannu detholiad o ystafelloedd o fewn adeiladau Neuadd Meirionnydd a’r Prif Ysbyty ar Gampws Parc y Mynydd Bychan heb gytundeb ffurfiol, i gefnogi gweithgareddau a gwasanaethau'r Undeb ym Mynydd Bychan. Mae'r Brifysgol a'r Undeb yn ymrwymo i weithio gyda'i gilydd i sicrhau bod mannau, gweithgareddau a gwasanaethau ffisegol yn cael eu darparu ar gyfer gweithgareddau'r Undeb ar gampws y Mynydd Bychan.
Mae'r Brifysgol yn ymrwymo i alluogi staff yr Undeb, swyddogion a grwpiau myfyrwyr i gael mynediad i adeiladau'r Brifysgol yn unol â nodau ac amcanion yr Undeb. Yn yr un xxxx, xxx'r Undeb yn ymrwymo i alluogi staff y Brifysgol i gael mynediad i fannau’r Undeb. Mae staff y Brifysgol hefyd yn cael aelodau cysylltiol o'r Undeb i ganiatáu iddynt gymryd rhan mewn gweithgareddau a gwasanaethau'r Undeb.
13. Cysylltiad â Chyrff Allanol
Egwyddor: Xxx xxx yr Undeb yr hawl i ymlynu wrth sefydliadau allanol yn unol â'i amcanion a Chyfraith Elusennol Mae'r Undeb yn penderfynu ar ei ymlyniadau'n ddemocrataidd gan ufuddhau i'r rheolau o fewn ei Femorandwm a'i Erthyglau Cymdeithasu ac yn unol â'r gofynion yn Neddf Addysg 1994.Mae'r Undeb yn cyhoeddi rhestr o ymlyniadau allanol a ffioedd a delir i'r sefydliadau hynny yn flynyddol yn ei Adroddiad Blynyddol gan yr Ymddiriedolwyr, yn unol â Deddf Addysg 1994.
Manylir ar y gweithdrefnau i adolygu ymlyniadau wrth sefydliadau allanol ym Memorandwm ac Erthyglau Cymdeithasu, Is-ddeddfau ac Atodiadau Is-ddeddfau yr Undeb. Yn unol â Deddf Addysg 1994 gall Cyngor y Brifysgol bennu'r cyfnod amser ar gyfer adolygu a chyfran yr Aelodau sy'n ofynnol i ofyn am adolygiad o ymlyniadau allanol, i'w benderfynu drwy bleidlais gudd (y xxx xxx xxx aelod o'r Undeb yr hawl i gymryd rhan ynddi).
14. Dyrannu Xxxxxxxx'r Undeb i Grwpiau, Clybiau a Chymdeithasau Myfyrwyr
Egwyddor: Yn unol â gofynion Deddf Addysg 1994, mae'r Brifysgol yn disgwyl bod gweithdrefn ar gyfer dyrannu adnoddau'n briodol i grwpiau myfyrwyr. Dylai'r drefn ar gyfer dyrannu adnoddau i grwpiau a chlybiau myfyrwyr fod yn deg, wedi'i nodi mewn ysgrifen a dylai fod ar gael yn rhwydd i xxx myfyriwr.15. Statws a Chyhoeddi'r Cytundeb hwn
Mae'r Undeb yn darparu cyllid i grwpiau, clybiau a chymdeithasau myfyrwyr trwy grantiau cyffredinol ac arbennig. Mae manylion ar y broses neu’r cais am gyllid ar wefan yr Undeb (xxx.xxxxxxxxxxxxxxx.xxx) o xxx yr xxxxx adnoddau pwyllgorau. Gall myfyrwyr ofyn am ragor o wybodaeth drwy gysylltu ag unrhyw un o Ymddiriedolwyr Sabothol neu staff uwch yr Undeb.Egwyddor: Bydd y Brifysgol a’r Undeb yn adolygu’r Cytundeb Perthynas yn flynyddol.
Bydd y Cytundeb Perthynas yn cael ei adolygu'n flynyddol gan Gyngor y Brifysgol a Bwrdd Ymddiriedolwyr yr Undeb. Mae wedi'i gyhoeddi yn adran llywodraethu gwefan y Brifysgol ac yn adran llywodraethu gwefan yr Undeb, a chyfeirir ati ym mhroses ymsefydlu'r Brifysgol y mae myfyrwyr yn ei dilyn yn flynyddol.
16. Cyfeirnodau
Siarter, Statud ac Ordinhadau Prifysgol Caerdydd
Memorandwm ac Erthyglau Cyweithio Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd
Gweithdrefn Gwyno Undeb y Myfyrwyr
Strategaeth Prifysgol Caerdydd
Strategaeth Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd
Prifysgol Caerdydd – Fframwaith Llywodraethiant
Cynllun Cydraddoldeb Strategol y Brifysgol
Rhestr Termau
Grant Bloc
Mae'r Grant Bloc yn swm blynyddol o arian a roddir gan y Brifysgol i Xxxxx y Myfyrwyr i gefnogi gweithgareddau'r Undeb yn ariannol. Cytunir ar y swm a'i ddyfarnu xxx blwyddyn cyn dechrau'r flwyddyn academaidd, fel y manylir yn y Cytundeb Ariannol.
Byrddau Astudio
Cyfarfodydd ffurfiol sy’n dod â Pennaeth yr Ysgol ac aelodau staff priodol ynghyd i drafod materion academaidd a chefnogi'r broses o gyflwyno addysg sy'n ymwneud â rhaglenni a gynigir o fewn yr Ysgol, ac mewn rhai achosion, ar y cyd ag Ysgolion eraill. Mae rhagor o wybodaeth yn Rheoliadau Academaidd y Brifysgol.
Is-ddeddfau ac Atodiadau Is-ddeddfau
Rheolau atodol Undeb y Myfyrwyr sy'n ffurfio – ynghyd â'r Memorandwm ac Erthyglau Cymdeithasu – ei ddogfennau llywodraethol.
Arolwg Ôl-raddedigion a Addysgir Prifysgol Caerdydd
Arolwg mewnol sy'n rhoi cyfle i Fyfyrwyr Ôl-raddedig a Addysgir rannu eu profiadau o ddysgu ac addysgu.
Cwmni Elusennol
Elusen sydd hefyd yn gwmni cofrestredig. Mae'n rhaid i'r xxxxx corfforaethol, felly, gydymffurfio â chyfraith elusennau a chyfraith cwmni. Mae hwn yn fath cyffredin o ymgorfforiad ar gyfer sefydliadau nid-er-elw yn y DU.
Amcanion Elusennol
Mae 'amcanion elusennol' elusen yn ffordd arall o gyfeirio at ddiben ei bodolaeth. Mae'n rhaid bod gan sefydliad amcanion elusennol yn unig i fod yn elusen; ac mae'n disgrifio'r hyn y sefydlwyd yr elusen i'w gyflawni. Mae amcan elusennol yn un sy'n syrthio o xxx un xxx'n fwy o'r 13 disgrifiad dibenion yn unol â gofynion cyfraith elusennau, ac xx xxxx cyhoeddus.
Deddf Addysg 1994
Deddf Seneddol sy'n amlinellu'r gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer Undebau Myfyrwyr a'u sefydliadau rhiant, ac yn manylu ynghylch cyfres o ddyletswyddau a osodwyd ar Undeb y Myfyrwyr a'i sefydliad. Xxx Xxxxx 22 Deddf Addysg 1994 yn cynnwys y gofynion sy'n rhaid eu bodloni mewn perthynas ag Undebau Myfyrwyr.
Pwyllgor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr
Is-bwyllgor o'r Senedd, sy'n gyfrifol am ddarparu cyfeiriad strategol a chynghori'r brifysgol ar xxx mater sy'n ymwneud ag addysg a phrofiad y myfyrwyr ar draws ystod lawn ei darpariaeth ar gyfer myfyrwyr. Mae Pwyllgorau Addysg a Phrofiad Myfyrwyr Ysgolion a Cholegau yn adrodd i'r pwyllgor hwn.
Is-strategaeth Addysg a Myfyrwyr
Is-strategaeth Y Ffordd Ymlaen 2018-2023, sef strategaeth Prifysgol Caerdydd, sy'n canolbwyntio ar wneud yn siŵr bod Prifysgol Caerdydd yn sefydliad 'addysgol rhagorol' ac yn cynnig 'profiad o safon uchel i fyfyrwyr'.
Y Xxxxx Llywodraethol
Llywodraethwyr unrhyw sefydliad sy'n gyfrifol yn ôl y gyfraith am reoli a gweinyddu'r sefydliad. Fel elusennau, xxx xxx y Brifysgol a'r Undeb fel ei gilydd Fwrdd Ymddiriedolwyr; fodd bynnag, o fewn y Brifysgol, cânt eu hadnabod fel y 'Cyngor'.
Memorandwm ac Erthyglau Cymdeithasu
Dogfen lywodraethol yr Undeb. Dyma’r ddogfen gyfreithiol sy'n creu'r cwmni ac yn dweud sut y dylai gael ei redeg. Xxx xxx yr Undeb Erthyglau Cymdeithasu am ei fod yn gwmni elusennol.
Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS)
Xxxxxx ledled y DU sy'n rhoi'r cyfle i fyfyrwyr israddedig ar eu blwyddyn xxxx xxxxx eu barn ynghylch safon eu cyrsiau, sy'n cefnogi'r sefydliad drwy wella profiad y myfyrwyr.
Rhent Rhad (Peppercorn Rent)
Term cyfreithiol am swm o xxxxx xxxx iawn, xxx mewn enw.
Arolwg o Brofiadau Ymchwilwyr Ôl-raddedig (PRES)
Arolwg ledled y DU sy'n rhoi'r cyfle i Fyfyrwyr Ôl-raddedig Ymchwil rannu eu profiadau o ddysgu a goruchwylio yn eu sefydliad.
Statudau
Statudau'r Brifysgol yw un o ddogfennau cyfansoddiadol y Brifysgol o ganlyniad i'w statws fel corfforaeth gorfforedig drwy Siarter Brenhinol. Mae'r Statudau'n cynnwys manylion aelodau'r Brifysgol a'r rheolau ynghylch cyrff statudol.
Paneli Myfyrwyr-Staff
Cyfarfodydd a gynhelir yn y Brifysgol sy'n dod â Chynrychiolwyr Academaidd y Brifysgol a staff yr Ysgol ynghyd i drafod materion sy'n effeithio ar boblogaeth y myfyrwyr ar lefel leol.
Grŵp Rheoli Arolygon
Sefydlwyd i gael cyfrifoldeb trosfwaol dros oruchwyliaeth strategol yr xxxx arolygon allweddol ynghylch profiad myfyrwyr. Mae'r grŵp hwn yn cynnig agwedd sefydliadol tuag at arolygon, o ddyluniad i gau'r ddolen adborth.
Barn y Myfyrwyr
Dogfen a gynhyrchir gan dîm y Swyddogion Sabothol yn Undeb y Myfyrwyr, sy'n cynnig cyfres o argymhellion i'r Brifysgol ar sail data ac adborth gan gorff y myfyrwyr, ynghylch bywyd myfyrwyr.
Pwyllgor Llais a Phartneriaeth Myfyrwyr
Mae'r grŵp hwn yn darparu goruchwyliaeth ar yr xxxx faterion sy'n ymwneud â llais myfyrwyr a gwella partneriaeth y Brifysgol gydag Undeb y Myfyrwyr ac yn adrodd i'r Pwyllgor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr.
Y Ffordd Ymlaen 2018 - 2023: Ail-lunio COVID-19
Mae Y Ffordd Ymlaen 2018 – 2023 wedi’i diwygio mewn ymateb i’r coronafeirws (COVID-19) ac mae’n rhoi manylion am strategaeth sefydliadol y Brifysgol. Mae'r ddogfen strategaeth, ynghyd â'r is-strategaethau cysylltiedig, ar wefan y Brifysgol: xxxxx://xxx.xxxxxxx.xx.xx/xxxxxxxxxxxxx
Pwyllgorau’r Brifysgol
Mae Pwyllgorau'r Brifysgol yn cyflawni amrywiaeth o swyddogaethau. Mae eu cylch gorchwyl, fel y diffinnir gan Ddeddfiad neu reoliad arall, yn amlinellu eu haelodaeth, eu pwerau a'u dyletswyddau, yn ogystal â'u gweithdrefnau adrodd. Mae manylion ynghylch fframwaith llywodraethu'r Brifysgol ar wefan y Brifysgol: xxxxx://xxx.xxxxxxx.xx.xx/xxxxx/xxxxxxxxxxxx/xxxxxxxxxx
Cyngor y Brifysgol
Cyngor y Brifysgol xx xxxxx llywodraethu'r Brifysgol, felly hwnnw yw prif awdurdod y Brifysgol. Y xxxxx hwn sydd â’r xxxx xxxx ynglŷn â phob mater sy'n effeithio ar y Brifysgol.
1 Fel y caiff ei ddiffinio yn Statud 1 Prifysgol Caerdydd (2.10)