Teitl: Dirprwy Reolwr Llety Anabledd Dysgu
Teitl: Dirprwy Reolwr Llety Anabledd Dysgu
Lleoliad: Llety Anabledd Dysgu (Tŷ Augusta a Byw â Chymorth) Cyfarwyddiaeth: Gwasanaethau Cymdeithasol
Swydd Rhif:
Cyflog: Gradd 7 (£32,909 - £36,298 y flwyddyn) Oriau: 37 awr
Contract: Parhaol
Crynodeb Swydd Cefnogi’r Rheolwr Cofrestredig gyda rheoli dydd-i-ddydd, gweithrediad ac atebolrwydd y gwasanaeth. Byddwch yn gyfrifol am oruchwylio, monitro a gwerthuso’r gofal a chymorth a ddarperir i breswylwyr/ tenantiaid, gan sicrhau y caiff pawb eu trin gydag urddas a pharch, gan ddatblygu a darparu gofal a chymorth o’r safon uchaf. Sicrhau bod anghenion unigolion yn ganolog i’w hiechyd a’u llesiant ac y caiff y deilliannau a aseswyd ar eu cyfer eu diwallu yn y ffordd fwyaf priodol sy’n hyrwyddo eu hannibyniaeth.
Hysbyseb Lawn Mae hwn yn gyfle newydd a chyffrous i’r person cywir fod yn rhan o wasanaeth llety Anabledd Dysgu sydd wedi sefydlu’n dda ym Mlaenau Gwent.
Os ydych yn angerddol am gefnogi unigolion sydd ag Anabledd Dysgu i fyw bywyd egnïol a bodlon, yna gallai hon fod y swydd i chi.