Contract
7 Ebrill 2011
PROSIECT GWYRDD
PRESS RELEASE/ DATGANIAD I’R WASG TROI PROBLEM YN ADNODD
Tri chynllun yn cystadlu am gontract Prosiect Gwyrdd
Mae trafodaethau manwl wedi bod yn digwydd rhwng Prosiect Gwyrdd a phedwar cwmni, i ddarparu datrysiad i wastraff gweddilliol y pump awdurdod partner ar ôl i gymaint a phosibl o wastraff gael ei ailgylchu neu ei gompostio ymhob ardal.
Yn sgil y xxxxx diwethaf o gyfarfodydd trafod, mae un o’r Cyfranwyr at y broses, Waste Recycling Group Ltd, wedi cadarnhau wrth Prosiect Gwyrdd ei fod am xxxxx x xxxxxx gaffael. Roedd y cwmni yn teimlo na fyddai’n gallu cyflwyno cynnig a fyddai o xxxxx xxxxx uchel i gwrdd â’u gofynion uchel eu hunain a gwneud cyfiawnder ag anghenion y bartneriaeth yn ystod cam nesaf y broses.
Dywedodd Xxx Xxxxx, Uwch Swyddog Cyfrifol Prosiect Gwyrdd: “Yn amlwg, rydyn ni’n siomedig i golli unrhyw gyfrannwr. Mae WRG wedi egluro xxx eu bod yn gorfod gadael y broses, ac rydym yn derbyn nad oed ganddynt ddewis mewn gwirionedd. Ar nodyn cadarnhaol, mae tri chwmni cryf ar ôl yn y broses gaffael, pob un yn cynnig datrysiad cyffrous a chystadleuol.
Mae’r broses gaffael ar gyfer y project hwn yn un fanwl a helaeth, ac yn dilyn anghenion Cyfraith Gaffael yr Undeb Ewropeaidd. Yn dilyn cyfnod manwl y caffael (ISDS), mae’r Project yn cadw’r hawl i gynnal cyfnod manylach fyth (ISRS) er mwyn rhoi ystyriaeth ddyfnach i’r cynigion. Yn dilyn y cam hwn, bydd y caffael yn symud i gyfnod ‘Galw am Dendr Terfynol’, pan ddisgwylir mai dau gwmni fydd ar ôl.
Nodiadau i Olygyddion:
Xxxxxxx, cyllid a llif gwastraff
• Y cyfranwyr sydd yn dal yn y broses caffael yw (yn nhrefn yr wyddor):
Covanta Energy Ltd Mae Covanta Energy Ltd yn cynnig cyfleuster masnach Troi Gwastraff yn Ynni xx Xxxx y Cwm, Merthyr Tudful.
Veolia ES Eurora Ltd: Mae Veolia ES Aurora Ltd yn cynnig Cyfleuster Xxxxx Ynni wedi’i leoli ar Gomin Bowlease, i'r De o’r Gwaith Dur presennol yn Llanwern, Casnewydd.
Viridor Waste Management Ltd: Mae Viridor Waste Management yn cynnig masnach Troi Gwastraff yn Ynni gyda chyfleuster Gwres a Phwer Cyfunol wedi'i leoli ym Mharc Trident, Caerdydd.
• Disgwylir y bydd y broses gaffael ar gyfer y project hwn yn para tua Dwy (2) flynedd. Dyma grynodeb o’r amserlen y disgwylir ei dilyn:
Hysbysu’r farchnad yn y Cyfnodolyn Ewropeaidd – Tachwedd 2009 Holiadur Cyn-gymhwyso – gwanwyn 2010
Trafod gyda chynigwyr – gwanwyn 2010 tan gwanwyn 2012 Cynigydd a ffefrir – hydref 2010
Cwblhau'r contract a chynllunio - 2012
• Mae cyllid gan LlCC wedi ei sicrhau drwy’r Achos Amlinellu Busnes (AAB) ar ffurf grant. Bydd hyn yn cyfrannu 25% o’r gost porth yn y dyfodol, at fwyafswm o £9.124m mewn blwyddyn weithredol lawn, yn dibynnu ar gymeradwyo achos busnes terfynol y project. Xxx xxxxx y xxxxx a ddyfernir i Brosiect gwyrdd yn seiliedig ar ragamcan cost darparu’r cyfleuster a bydd yn amrywio ochr yn ochr â’r gwir gost pan fo’r Busnes Achos Terfynol yn cael ei gymeradwyo. Rhaid i’r swm ei hun fod yn gyfrinachol gan fod hon yn broses gaffael fasnachol.
• Fel yr adroddwyd wrth y Cydbwyllgor, bydd y modelu llif gwastraff yn dal i gael ei asesu ar xxx cam o’r broses gaffael. Ni ddylid ystyried y rhagamcan o 188,304 o dunelli fel gwarant o dunelli. Bydd y Gwarant Lleiafswm Tunelli yn cael ei gytuno gyda’r Cynigydd a Ffefrir ar ddiwedd y broses gaffael, ar ôl adolygiadau ac asesiadau pellach.
Ymgynghoriad Rhanddeiliaid
• Cynhaliwyd diwrnodau ac arolygon rhanddeiliaid rhwng Medi a Rhagfyr 2009 i gysylltu â rhanddeiliaid allweddol ar y Meini Prawf Gwerthuso. Trafodwyd ac aseswyd materion penodol gan geisio barn ar flaenoriaethau agweddau technegol, cymdeithasol, ariannol a chyfreithiol y Meini Prawf Gwerthuso.
Rheoleiddio ac ymchwilio i effeithiau iechyd canfyddedig
• Asiantaeth yr Amgylchedd yw rheoleiddiwr yr ynni a ddaw o gyfleusterau gwastraff. Gellir lawrlwytho gwybodaeth am y broses reoleiddio o wefan yr asiantaeth www.environment- xxxxxx.xx.xx .
• Cyhoeddwyd adroddiad ar y canfyddiadau am effaith llosgi gwastraff ar yr iechyd ym mis Medi 2009 gan yr Asiantaeth Diogelu Iechyd. Gellir darllen yr adroddiad ar y ddolen hon: xxxx://xxx.xxx.xxx.xx/xxx/XXXxxxXxxx/XXXxxx_X/0000000000000.
• Mae’r effaith y mae gwahanol ddulliau o waredu gwastraff yn ei chael ar iechyd wedi ei hystyried yn fanwl mewn adroddiad a baratowyd ar gyfer Defra yn 2004. Mae crynodebo’r ymchwil helaeth hwn ar y ddolen hon: xxxx://xxx.xxxxx.xxx.xx/xxxxxxxxxxx/xxxxx/xxxxxxxxxx/xxxxxxxxx/xxxxxx-xxxxxxx.xxx .
• Roedd yr ymchwil hwn ‘The Review of the Environmental and Health Effects of Waste Management Municipal Solid Waste and Similar Wastes’, yn ystyried 23 o astudiaethau ar afiechydon gerllaw ffatrïoedd EFW
a phedwar papur adolygu gan gydweithwyr yn edrych ar effeithiau iechyd cyfleusterau Troi Gwastraff yn Ynni. Daeth i’r casgliad nad oedd tystiolaeth argyhoeddiadol o gyswllt
rhwng cyfleusterau EFW ac effaith wael iechyd y cyhoedd. (xxxx://xxx.xxxxxxxxxxx- xxxxxx.xxx.xx/xxxxxx/xxxxxxxxx/Xxxxxxxx/0_xxx_xxxxxx_0000000.xxx
(Diwedd)
Paratowyd gan Prosiect Gwyrdd E-xxxx: xxxx@xxxxxxxxxxxxxx.xx.xx
Rhif Ffôn: 02920 717566 neu 07976 519413