Y Ganolfan Gydwasanaethau Llywodraeth Cymru
Canllawiau ar gyfer Ymgeiswyr Allanol
Y Ganolfan Gydwasanaethau Llywodraeth Cymru
3ydd Llawr Parc Cathays Caerdydd CF10 3NQ
Ffôn: 029 2082 5454
E-xxxx: XX-xxxxxxxx@xxxxx.xxx.xxx.xx
Cynnwys
Rhagarweiniad 3
Egwyddorion Recriwtio i’r Gwasanaeth Sifil 3
Pwyntiau i’w Nodi 3
Cam 1: Y Broses Ymgeisio 4
Y ffurflen gais:
- Meini prawf gofynnol 6
- Cwestiynau sy’n benodol i’r rôl 6
- Manylion personol 6
- Addysg 6
- Dysgu a datblygu 7
- Xxxxx cyflogaeth 7
- Ieithoedd 7
- Yn Gadarn o Blaid Pobl Anabl 7
- Cymwyseddau a meini prawf penodol i’r swydd 8
- Canolwyr 9
- Sut gwnaethoch chi glywed am y swydd 9
- Cyfle cyfartal 9
- Datganiad 9
- Diweddaru xxxx cais 10
Cam 2: Y Broses Sifftio (llunio rhestr fer) 10
Cam 3: Y Broses Gyfweld 10
Cam 4: Ar ôl y cyfweliad 14
ATODIAD A: Darparu xxxx tystiolaeth 15
ATODIAD B: Defnyddio iaith weithredol 18
ATODIAD C: Matrics sgorio 20
Rhagarweiniad
Datblygwyd y canllawiau hyn i helpu ymgeiswyr i wneud cais am swydd allanol gyda Llywodraeth Cymru. Defnyddiwch y canllawiau a ddarperir ym mhob cam o’r broses recriwtio a dewis. Maent yn cynnwys cyngor defnyddiol ar:
• xxxx xxx xxxxx ichi ei wneud cyn gwneud cais
• llenwi ffurflen gais, gan gynnwys sôn am gymwyseddau sy’n benodol i’r swydd
• y broses gyfweld
Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau am yr wybodaeth yn y canllawiau hyn neu’r broses gais, cysylltwch â’r Ganolfan Gydwasanaethau ar 029 20 82 5454 neu drwy e-xxxx (HR- xxxxxxxx@xxxxx.xxx.xxx.xx).
Egwyddorion Recriwtio i’r Gwasanaeth Sifil
Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i’r egwyddorion recriwtio a nodir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiynwyr y Gwasanaeth Sifil.
Y prif egwyddorion yw:
• Caiff unigolion eu dewis ar sail teilyngdod, a chystadleuaeth deg ac agored: bydd digon o wybodaeth am y swydd a’i gofynion, ac am y broses ddewis, ar gael i xxx darpar-ymgeisydd; yr un wybodaeth fydd ar gael i xxx un; bydd mynediad rhesymol iddi; a chaiff yr ymgeiswyr eu hystyried, fel ei gilydd, ar sail eu teilyngdod ym mhob cam o’r broses.
• Bydd y broses yn seiliedig ar feini prawf cyson sy’n berthnasol i’r swydd, ac fe’u defnyddir yn gyson yn achos pob ymgeisydd; bydd y dulliau dewis yn ddibynadwy ac yn sicrhau na ddangosir ffafriaeth.
• Bydd pob ymarfer recriwtio allanol i swyddi parhaol yn seiliedig ar yr egwyddorion hyn, gan gynnwys y gofyniad bod yn rhaid gwneud penodiadau parhaol ar sail teilyngdod, drwy gystadleuaeth deg ac agored, yn unol â Deddf Diwygio a Llywodraethu Cyfansoddiadol 2010.
Pwyntiau i’w Nodi
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae dyletswydd statudol ar Lywodraeth Cymru i gadw at yr egwyddorion y dylai sicrhau cyfle cyfartal i bawb wrth gyflawni ei gwaith fel cyflogwr a darparwr gwasanaeth. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth a chyfle cyfartal. Ategir hyn gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a rhaid dilyn hon ym mhob cam o’r broses gais.
Wrth barchu’r ddyletswydd hon, rydym yn cydymffurfio â gofynion Cynllun Tic Dwbl yr Adran Gwaith a Phensiynau i ymgeiswyr anabl, gan gynnwys gwneud addasiad(au) rhesymol lle bydd ymgeisydd yn nodi bod angen hyn.
Cynllun Gwarantu Cyfweliad
Mae’r Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn rhoi’r hawl i unigolion ag anableddau symud ymlaen i gam nesaf y broses ddewis os ydynt yn bodloni’r meini prawf gofynnol yn y cam sifftio. I wneud cais o xxx y cynllun hwn, nodwch hynny o xxx yr xxxxx ‘Yn Gadarn o Blaid Pobl Anabl’ yn y ffurflen gais.
Cam 1: Y Broses Ymgeisio
Caiff y rhan fwyaf o swyddi Llywodraeth Cymru eu hysbysebu ar dudalennau Recriwtio ein gwefan. Dewiswch ‘Swyddi Gwag’ i weld y gwahanol fathau o gyfleoedd sydd ar gael gyda Llywodraeth Cymru. Bydd hysbysebion swyddi yn cynnwys disgrifiad o’r swydd ac yn nodi ymddygiadau’r cymwyseddau (yr ymddygiadau a’r sgiliau craidd) a’r meini prawf sy’n benodol i’r swydd, ynghyd ag unrhyw ofynion eraill fel cymwysterau penodol. Bydd yr hysbyseb hefyd yn rhoi manylion unrhyw ddull asesu arall a gynhelir yn ystod yr ymarfer recriwtio yn ogystal â’r cyfweliad. Bydd hefyd yn amlinellu telerau ac amodau cyffredinol y swydd, fel y cyflog.
Cynllunio xxxx Cais
Cyn ichi wneud xxxx cais, darllenwch yr hysbyseb a’r disgrifiad swydd yn ofalus a sicrhau bod gyda chi ddigon o dystiolaeth o’r ymddygiadau a’r sgiliau craidd, a’r meini prawf sy’n benodol i’r swydd. Os na fyddwch yn gallu rhoi digon o dystiolaeth i’r panel, ni chewch xxxx galw am gyfweliad. Dim ond ymgeiswyr a ystyrir yn abl ym mhob un o’r meysydd a brofir (sef meini prawf gofynnol y swydd at ddibenion y Cynllun Gwarantu Cyfweliad) a gaiff symud ymlaen ymhellach na’r sifft (y rhestr fer) a/neu’r cam asesu. Os ydych yn gwneud cais am fwy nag un swydd, bydd angen ichi lenwi ffurflen gais wahanol ar gyfer pob un, a’u teilwra i adlewyrchu ymddygiadau’r cymwyseddau a’r meini prawf sy’n ofynnol ar gyfer pob un.
Dylech gynllunio i gwblhau xxxx cais erbyn dyddiad cau’r swydd, gan nad oes modd newid y dyddiad (ac eithrio lle bydd addasiad rhesymol yn briodol a lle cytunir ar hynny ymlaen llaw).
Cymorth wrth lenwi’r Ffurflen Gais: Xxxx cyfrifoldeb chi yw rhoi enghreifftiau sy’n dangos orau bod gyda chi yr ymddygiadau perthnasol ac sy’n arddangos y meini prawf sy’n benodol i’r swydd. Cofiwch xxx xxxx cais chi yw hwn, ac mai chi, felly, ddylai ei lenwi. Os cewch gyfweliad neu os symudwch ymlaen i asesiad arall, cewch xxxx holi ymhellach am yr hyn rydych wedi’i ysgrifennu. Ni ddylech holi cyngor unrhyw un a fydd yn rhan o’r broses ddewis, yn enwedig aelodau o’r panel dewis. Fodd bynnag, cewch ofyn am gymorth am reswm sy’n ymwneud ag anabledd, gan gynnwys cymorth eiriolwr i lenwi’r ffurflen mewn amgylchiadau priodol.
Mae croeso ichi lenwi’r ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Yn achos swyddi lle xxx xxxxx sgiliau Cymraeg, darllenwch y disgrifiad a’r hysbyseb swydd yn ofalus i weld a oes angen ateb rhai cwestiynau yn Gymraeg er mwyn profi’r sgiliau hynny.
Sut i Wneud Cais
Caiff y rhan fwyaf o swyddi Llywodraeth Cymru eu hysbysebu drwy ein system e-recriwtio. Gallwch fynd i hon drwy’r dudalen Recriwtio ar y rhyngrwyd. Yn ddiweddar, rydym wedi cyflwyno system e-recriwtio newydd, felly hyd yn oed os ydych wedi gwneud cais am swyddi gyda Llywodraeth Cymru yn y gorffennol, bydd angen ichi greu cyfrif newydd.
I weld yr xxxx gyfleoedd gwahanol sydd gan Lywodraeth Cymru, ewch i’r dudalen Recriwtio ar y rhyngrwyd, a dewis y math o swydd rydych yn chwilio amdano.
Gallwch dracio hynt xxxx cais drwy’r system recriwtio ar-lein, yn xxxx Canolfan Geisiadau.
Oeddech chi’n gwybod?
Gallwch gofrestru i gael gwybod am swyddi gwag yn xxxx Canolfan Geisiadau. Byddwn wedyn yn anfon manylion swyddi sy’n cyfateb i’ch meini prawf i’r cyfeiriad e- xxxx a gofrestrwyd gennych. Dewiswch ‘Creu Rhybudd Swydd’ ar waelod y bwrdd swyddi.
Gwneud cais yn Gymraeg
I weld manylion swydd yn Gymraeg, cliciwch ar ‘Change Language / Newid Iaith’ ar frig y dudalen ar yr ochr dde. Os hoffech wneud cais yn Gymraeg, cliciwch ar ‘Gwneud cais’ ar waelod y dudalen. Cofiwch, unwaith byddwch wedi dechrau cais yn Gymraeg, ni fyddwch wedyn yn gallu newid i wneud cais am y swydd honno yn Saesneg, gan ddefnyddio’r un cyfrif defnyddiwr. Os cewch unrhyw broblemau, neu os bydd gyda chi gwestiwn am y broses, cysylltwch â’r Ganolfan Gydwasanaethau ar 029 20 82 5454 neu drwy e-xxxx (HR- xxxxxxxx@xxxxx.xxx.xxx.xx).
Creu cyfrif defnyddiwr newydd
Unwaith byddwch wedi dewis ‘Gwneud cais’, fe welwch y sgrîn fewngofnodi. Os nad oes gyda chi gyfrif ymgeisydd eisoes, bydd angen ichi ddewis ‘Creu Cyfrif Newydd’. Fe welwch hwn o xxx y manylion mewngofnodi. Unwaith byddwch wedi gwneud hyn, nodwch xxxx manylion a darllen y telerau a’r amodau. Os byddwch yn cytuno â’r telerau a’r amodau, cadarnhewch hyn a dewis ‘Cofrestru’. (Nodwch os gwelwch yn dda, o 28 Awst 2014 mae Llywodraeth Cymru wedi uwchraddio ei system recriwtio ar-lein. Os ydych chi’n ymgeisio am swydd ar y dyddiad hwn neu’n hwyrach, fe fydd angen i chi greu cyfrif newydd, hyd yn oed os ydych chi wedi ymgeisio am swydd gyda Llywodraeth Cymru yn y gorffennol).
Llywio’ch ffordd drwy’r ffurflen xxxx
Xxx’r meysydd â seren ‘*’ yn orfodol, felly rhaid ichi eu llenwi neu ni fyddwch yn gallu cyflwyno xxxx cais. Os nad oes ‘*’, nid yw’r xxxx hwnnw’n orfodol, gan nad yw’n berthnasol i xxx ymgeisydd efallai. Ond os oes gyda chi wybodaeth y xxxxxxx xx rhoi mewn ymateb i gwestiwn, gwnewch hynny, gan y bydd cael cymaint o wybodaeth â phosibl am xxx xxxx yn helpu’r panel sifftio i greu darlun cyflawn o’ch sgiliau, xxxx profiad a’ch gwybodaeth.
Unwaith byddwch wedi ateb pob cwestiwn ar y dudalen, dewiswch ‘Parhau’. (Bydd hyn yn arbed atebion y dudalen honno.) Pwyswch ‘Yn ôl’ ar unrhyw adeg i fynd yn ôl i’r dudalen flaenorol. Fel arall, gallwch ddewis tudalen benodol rydych am fynd yn ôl iddi drwy glicio ar ddolen i’r dudalen yn Tracio Cynnydd ar y chwith.
Xxxxxx Xxxxxxx
Mae tic gwyrdd nesaf at adran yn dangos xxxx bod wedi ateb pob cwestiwn yn yr adran honno. Mae tic xxxx yn dangos xxxx bod wedi ateb pob cwestiwn gorfodol yn yr adran honno. Xxx xxxxx yn nodi nad ydych wedi ateb rhai cwestiynau gorfodol ac na ellir cyflwyno’r cais, felly.
Nid oes rhaid ichi lenwi’r ffurflen gais gyfan ar unwaith. Unwaith byddwch wedi llenwi rhan ohoni, cliciwch ‘Parhau’ i arbed popeth rydych wedi’i ysgrifennu yn y rhan honno. Gallwch wedyn allgofnodi o’ch cyfrif a mynd yn ôl at xxxx cais anorffenedig ar unrhyw adeg hyd at ddyddiad cau’r cais. I anfon y ffurflen gais yn ôl, mewngofnodwch i’ch cyfrif, dewiswch ‘Fy ngheisiadau’ a chliciwch ar deitl y swydd berthnasol. Dylai fod wedi’i nodi o xxx xxxxx xxxx ceisiadau.
Meini Prawf Gofynnol
Pwrpas y cwestiynau hyn yw penderfynu p’un a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd, yn unol â gofynion y Gwasanaeth Sifil o ran xxxx cenedl. Bydd yn rhaid ichi roi rhai manylion personol yn y ffurflen gais er mwyn inni allu prosesu xxxx cais yn effeithiol.
Gofynnir ichi gadarnhau i ba genedl rydych chi’n perthyn a bod gyda chi hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn ofynnol er mwyn gweithio yn y Gwasanaeth Sifil. Os nad ydych yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd a nodir yn y ffurflen gais, ni fyddwn yn mynd â’ch cais ymhellach. Os daw i’r amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y caiff xxxx cais/cynnig ei dynnu’n ôl.
I ateb y cwestiynau am y meini prawf cymhwysedd, dewiswch o’r atebion yn y blychau.
Cwestiynau sy’n Benodol i’r Rôl
Rhowch ateb cadarnhaol neu negyddol i’r rhain. Dim ond os oes angen cymwysterau, sgiliau neu brofiad penodol er mwyn cyflawni’r rôl xxx sylw y bydd y cwestiynau hyn yn ymddangos. Os na allwch gadarnhau xxxx bod yn cyflawni’r gofyniad/gofynion, ni fyddwn yn mynd â’ch cais ymhellach.
Manylion Personol
Llenwch y meysydd ynghylch xxxx manylion personol, fel xxxx enw, xxxx cyfeiriad etc. Mae’n hanfodol xxxx bod yn rhoi’r wybodaeth gywir ddiweddaraf, gan fod angen yr wybodaeth er mwyn symud xxxx cais ymlaen.
Addysg
Rhowch fanylion xxxx addysg inni. Y sefydliad yw’r ysgol/coleg/prifysgol yr aethoch iddi/iddo, a’r pwnc yw’r hyn y gwnaethoch ei astudio yno. Mae’n hanfodol xxxx bod yn rhoi’r wybodaeth gywir ddiweddaraf, gan y gallai hyn gael ei ystyried yn y broses sifftio.
Os bydd cymhwyster penodol wedi’i nodi yn yr hysbyseb fel rhywbeth sy’n hanfodol neu’n ddymunol, a bod gyda chi’r cymhwyster, gwnewch yn siŵr xxxx bod yn nodi’r manylion.
Gallwch ychwanegu mwy o flychau os nad oes digon ohonynt i nodi xxxx xxxx gymwysterau.
Dysgu a Datblygu
Rhowch fanylion unrhyw ddysg a chwrs/rhaglen ddatblygu ehangach a ddilynwyd a allai fod yn berthnasol i’r cais. Gallai hyn gynnwys cwrs/rhaglen ddatblygu bersonol nad oes gyda chi gymhwyster ar ei gyfer, ond sy’n berthnasol i’r swydd rydych yn gwneud cais amdani.
Xxxxx Cyflogaeth
Nodwch fanylion xxxx cyflogaeth bresennol (neu ddiwethaf) ac ychwanegwch fanylion unrhyw gyflogaeth flaenorol. I ychwanegu manylion cyflogwr neu rôl arall, nodwch ‘Ydw’ i’r cwestiwn ‘Ydych chi wedi gweithio yn rhywle arall?’. Bydd hyn yn creu mwy o le i roi gwybodaeth. Mae’n hanfodol xxxx bod yn darparu’r wybodaeth gywir ddiweddaraf, gan fod angen yr wybodaeth er mwyn symud xxxx cais ymlaen.
Bydd angen ichi nodi enwau xxxx cyflogwyr blaenorol, y swydd(i) oedd gyda chi a’r rheswm/rhesymau dros adael, a hynny ar gyfer y 3 blynedd diwethaf o leiaf (oni bai nad ydych wedi bod yn gweithio mor hir â hyn – rhowch gymaint o fanylion ag y gallwch). Os nad ydych wedi cael xxxx cyflogi yn y gorffennol, nodwch ‘Nac ydw’ i’r cwestiwn ‘Ydych chi’n was sifil ar hyn x xxxx?’, a nodwch ‘Dim xxxxx cyflogaeth’ yn y blwch ‘Enw’r cyflogwr’.
Nodwch: Yn achos swyddi Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, bydd angen ichi nodi xxxxx xxxx gyrfa gyfan wrth wneud cais, xxxx bynnag yw ffurf yr hysbyseb, a bydd yn rhaid esbonio bylchau yn xxxx gwasanaeth yn llawn.
Ieithoedd
Dewiswch xxxxx xxxx gallu yn y Gymraeg mewn perthynas â’r sgiliau amrywiol a nodir, ac ym mha iaith y byddai’n well gyda chi xxxx xxxx asesu. Dim ond os nodir yn yr hysbyseb swydd bod y Gymraeg yn hanfodol neu’n ddymunol i’r rôl y caiff xxxxx xxxx gallu ei hystyried. Os yw’r Gymraeg yn hanfodol neu’n ddymunol i’r rôl, efallai y bydd angen asesu xxxx sgiliau Cymraeg yn y broses sifftio neu yn y cyfweliad. Edrychwch ar yr hysbyseb, neu ar ohebiaeth a gyhoeddir wedyn ynghylch y swydd, i weld a yw’n nodi unrhyw xxxx am hyn.
Yn Gadarn o Blaid Pobl Anabl
Mae cynllun Yn Gadarn o Blaid Pobl Anabl, a weithredir gan Lywodraeth Cymru, yn golygu ein bod yn croesawu ceisiadau gan bobl ag anableddau. Mae’r cynllun yn gwarantu cyfweliad i bobl anabl sy’n bodloni’r meini prawf ar gyfer y swydd xxx sylw.
Dewiswch xxxx atebion ynghylch y cynllun gwarantu cyfweliad a rhowch fanylion unrhyw ofynion am gymorth yn y cyfweliad, neu unrhyw ofynion yr hoffech inni fod yn ymwybodol ohonynt.
Tystiolaeth o ymddygiadau cymwyseddau ac o feini prawf sy’n benodol i’r swydd
Dyma ran bwysicaf xxxx cais. Gofynnir xxxx roi tystiolaeth o’r ymddygiadau a’r meini prawf y nodir eu bod yn hanfodol i’r rôl. Bydd y panel yn edrych ar sut xxx xxxx tystiolaeth yn dangos xxxx bod yn bodloni gofynion y rôl.
Cymwyseddau
Y cymwyseddau yw’r sgiliau, yr wybodaeth a’r ymddygiadau sydd eu xxxxxx xx mwyn sicrhau perfformiad llwyddiannus. Mae fframwaith cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil yn amlinellu 10 cymhwysedd (o xxx 3 phrif faes neu ‘glwstwr’) a ystyrir yn allweddol i sicrhau perfformiad llwyddiannus o fewn y Gwasanaeth Sifil. Ar gyfer pob cymhwysedd, disgrifir yr hyn y mae’n ei olygu yn ymarferol a rhoddir rhai enghreifftiau o ymddygiadau effeithiol ac aneffeithiol ar xxx xxxxx. Yn xxxx cais, gofynnir ichi roi tystiolaeth, ar ffurf enghreifftiau o fywyd go iawn, o sut rydych wedi dangos yr ymddygiadau allweddol a nodir fel rhai sy’n hanfodol i’r rôl xxx sylw. Caiff yr ymddygiadau gofynnol eu cynnwys yn yr hysbyseb swydd (fel rheol bydd angen ichi roi tystiolaeth o 4 ymddygiad). Caiff y dystiolaeth o gymhwysedd ei defnyddio i asesu sut rydych wedi ymddwyn yn y gorffennol, gan fod hyn yn rhoi syniad o sut y byddwch yn perfformio yn y dyfodol. Ysgrifennwch xxxx tystiolaeth mewn ffordd a fydd yn helpu’r panel i asesu pa mor addas yr ydych ar gyfer y rôl. Darllenwch ymlaen i gael cyngor am ddewis ac ysgrifennu xxxx tystiolaeth.
Meini prawf sy’n benodol i’r swydd
Meini prawf yw’r rhain a nodwyd gan y rheolwr llinell sy’n recriwtio fel rhai sy’n hollbwysig i’r rôl benodol xxx sylw. Xxxxxxx gynnwys sgiliau, profiad neu wybodaeth benodol mewn xxxx xx’n berthnasol i’r rôl, neu hyd yn oed gymhwyster penodol sy’n berthnasol i’r rôl. Fel rheol, bydd angen ichi roi tystiolaeth ar gyfer tri maen prawf penodol (oni bai bod yr hysbyseb swydd yn nodi’n wahanol). Dylech roi tystiolaeth o sut rydych yn bodloni’r meini prawf a restrir yn yr hysbyseb yn yr un ffordd ag yr ydych wedi gwneud ar gyfer yr ymddygiadau – drwy dynnu ar xxxx profiad, xxxx gwybodaeth a’r hyn rydych wedi’i gyflawni yn y gorffennol, gan roi enghreifftiau perthnasol sy’n dangos xxxx bod yn bodloni’r meini prawf. Mae’r rhan hon o’r ffurflen gais yr un mor bwysig, ac os na fyddwch yn rhoi digon o dystiolaeth ar gyfer y meini prawf mae’n annhebygol y bydd xxxx cais yn mynd ymhellach na’r cam sifftio.
Sut ddylwn i ddarparu fy nhystiolaeth o ymddygiad ac o’r meini prawf?
Os ydych yn gwneud cais am rôl ar lefel Cymorth Xxx xxx Brentisiaeth, bydd y cais yn gofyn ichi roi tystiolaeth ar ffurflen gais strwythuredig. Bydd pob ymddygiad a maen prawf sy’n benodol i’r swydd y xxx xxxxx tystiolaeth ohonynt wedi’u rhestru yn y ffurflen gais uwchben blwch testun lle byddwch yn nodi xxxx tystiolaeth ar gyfer y cymhwysedd/maen prawf hwnnw. Rydym yn disgwyl ichi ysgrifennu tua 300 o eiriau ar gyfer pob ymddygiad/maen prawf, ond dim mwy. Mae’r blychau testun, felly, wedi’u cyfyngu i 300 o eiriau. Rhowch gymaint o dystiolaeth ag y gallwch ar gyfer pob xxxx unigol, gan wneud y defnydd gorau o’r nifer geiriau a ganiateir.
Ar gyfer pob rôl arall (h.y. y rheini nad ydynt ar lefel Cymorth Xxx xxx Brentisiaeth), gofynnir ichi yn y ffurflen gais lanlwytho ‘Tystiolaeth Cymhwysedd’ mewn dogfen Word neu pdf (unwaith eto, mae yna gyfyngiad 300 o eiriau ar gyfer pob ymddygiad/maen prawf).
Wrth strwythuro xxxx Tystiolaeth Cymhwysedd, rhowch enw’r Ymddygiad neu’r Maen Prawf fel pennawd, ac xxx xxxx tystiolaeth ar gyfer y xxxx hwnnw xxxx tano. Rhowch
dystiolaeth glir o’r xxxx ymddygiadau a’r meini prawf angenrheidiol sydd wedi’u nodi yn yr hysbyseb.
Os na fyddwch yn gallu darparu tystiolaeth dda, ni fyddwch yn mynd ymhellach na’r broses sifftio, ac felly ni chewch xxxx cyfweld.
I gael mwy o gyngor ar roi tystiolaeth o’ch ymddygiadau a’ch meini prawf, gweler Atodiad A: Darparu xxxx tystiolaeth.
Atodi Dogfen(nau) Ategol
Efallai y gofynnir ichi atodi gwybodaeth ychwanegol er enghraifft XX xxx Gynllun Datblygu Personol. Mae CV yn caniatáu ichi ddangos i’r panel recriwtio y sgiliau, y profiad a’r nodweddion personol sydd gyda chi i wneud y swydd yn effeithiol. Nid oes gyda ni dempled penodol ichi ei ddefnyddio, ond efallai y byddwch am roi mwy o wybodaeth am xxxx nodweddion personol a’r prif bethau rydych wedi’u cyflawni yn ystod xxxx gyrfa, ynghyd ag unrhyw wybodaeth arall yr ydych am ei rhoi inni am xxxx addysg, xxxx hyfforddiant a chymdeithasau proffesiynol rydych yn aelod ohonynt. Nodwch, bydd y CV yn ategu xxxx Tystiolaeth Cymhwysedd, ond peidiwch â’i ddarparu yn lle’r Tystiolaeth Cymhwysedd. Dylai’r Tystiolaeth Cymhwysedd gynnwys xxxx tystiolaeth o sut rydych yn bodloni’r ymddygiadau a’r meini prawf sy’n benodol i’r rôl. Xxxxx’r CV roi unrhyw wybodaeth ychwanegol rydych chi’n teimlo sy’n berthnasol i’r swydd.
Mae hefyd yn bosib y bydd yr hysbyseb swydd yn gofyn am ddogfennau ychwanegol, er enghraifft copi o’ch Cynllun Datblygu Personol os ydych yn perthyn i gorff proffesiynol. Os gofynnir am hyn yn yr hysbyseb swydd, gallwch atodi xxxx dogfen ychwanegol yn yr adran hon ar fformat .doc, .docx, .pdf, .xls neu .xlsx.
Canolwyr
Bydd angen ichi roi enw dau ganolwr (gan gynnwys xxxx cyflogwr presennol neu xxxx cyflogwr diweddaraf) sy’n cwmpasu’r tair blynedd diwethaf o gyflogaeth o leiaf. Os ydych newydd adael yr ysgol neu’r coleg a heb brofiad o weithio, rhowch enw o leiaf un o’ch
athrawon neu’ch darlithwyr, xxxx pennaeth neu’ch tiwtor personol.
Sut gwnaethoch chi glywed am y swydd
Rhowch wybod inni sut daethoch chi ar draws y swydd – at ddibenion monitro Llywodraeth Cymru y mae’r wybodaeth hon, er mwyn sicrhau ein bod yn hysbysebu yn y ffyrdd mwyaf effeithiol.
Cyfle Cyfartal
Llenwch yr adrannau sy’n ymwneud â chydraddoldeb – xxxx rhyw ac ati – yn ôl y gofyn. Os yw’n well gyda chi beidio ag ateb unrhyw un o’r cwestiynau, dewiswch ‘Gwell gennyf beidio â dweud’. Cofiwch mai at ddibenion monitro yn unig yr ydym yn gofyn y cwestiynau hyn, ac ni fydd y panel dewis yn gweld yr atebion.
Datganiad
Cofiwch ddarllen y datganiad. Os ydych yn cytuno â’r datganiadau ynghylch Diogelu Data, Cyfle Cyfartal a sut caiff xxxx cais ei brosesu, ticiwch y blwch i nodi xxxx bod yn cytuno.
DIM OND pan fyddwch yn hapus bod xxxx cais wedi’i gwblhau ac nad ydych am wneud mwy o newidiadau y dylech ddewis ‘Anfon’.
Diweddaru xxxx Cais
Unwaith byddwch wedi gwneud cais am swydd, cewch wybodaeth gyson am hynt xxxx cais. Byddwn yn xx xxxxxx i’r cyfeiriad e-xxxx rydych wedi’i gofrestru. Gallwch ddilyn hynt xxxx cais hefyd drwy fewngofnodi i’ch cyfrif a mynd i ‘Fy Ngheisiadau’ a fydd ar frig y dudalen ar ôl ichi fewngofnodi.
Cam 2: Y Broses Sifftio (llunio rhestr fer)
Unwaith bydd y dyddiad cau wedi pasio, bydd y panel penodi yn ystyried yr xxxx geisiadau a ddaeth i law, ac yn nodi’r rheini na ellir symud eu cais ymlaen gan nad ydynt wedi darparu digon o dystiolaeth yn erbyn yr ymddygiadau cymwyseddau a’r meini prawf sy’n benodol i’r swydd. Os ydych wedi gwneud cais o xxx y Cynllun Gwarantu Cyfweliad, rydych yn sicr o gael cyfweliad os ydych yn bodloni’r meini prawf gofynnol y cytunwyd arnynt gan y panel cyn y sifft. Bydd panel y sifft yn gosod y ceisiadau yn eu trefn ar sail teilyngdod, gan ddefnyddio system sgorio safonol y cytunir arni. Os na fyddwch yn llwyddo i fodloni’r meini prawf sy’n ofynnol er mwyn cael xxxx gwahodd i gam nesaf y broses, byddwn yn rhoi gwybod ichi drwy anfon e-xxxx i’r cyfeiriad rydych wedi’i gofrestru.
Xxxxx pob ymgeisydd wybod canlyniad y sifft. Os cewch xxxx gwahodd i gyfweliad neu i asesiad arall, cewch wybod o leiaf 5 diwrnod gwaith ymlaen llaw. Byddwn yn cadarnhau trefniadau’r cyfweliad, gan gynnwys y lleoliad, y dyddiad a’r amser. Os bydd angen gwneud trefniadau penodol oherwydd anabledd, byddwn yn rhoi mwy o rybudd na hyn.
Os na fyddwch yn llwyddo i fodloni’r meini prawf sy’n ofynnol er mwyn cael xxxx gwahodd i gam nesaf y broses, cewch wybod drwy e-xxxx a chewch adborth i’ch helpu gyda cheisiadau yn y dyfodol.
Cam 3: Y Broses Gyfweld
Os llwyddwch i basio’r cam sifftio, cewch xxxx gwahodd i gyfweliad. Byddwn yn holi cwestiynau sy’n seiliedig ar yr ymddygiadau a’r meini prawf a nodwyd yn yr hysbyseb. Yn achos rhai swyddi, efallai y byddwn hefyd am xxxx asesu mewn ffordd arall, er enghraifft drwy ymarfer ysgrifenedig, cyflwyniad neu ddull asesu arall sy’n briodol i’r math o rôl xxx sylw (fel rheol bydd hyn wedi’i nodi’n glir yn yr hysbyseb swydd a/neu’r e-xxxx yn xxxx gwahodd i gyfweliad).
Y Panel
Fel rheol, tri o bobl fydd ar banel y cyfweliad: y Cadeirydd, sy’n gyfrifol, ymhlith pethau eraill, am ofalu bod y broses yn dilyn egwyddorion cystadleuaeth deg ac agored; a dau aelod arall. Efallai y bydd pedwerydd aelod ar rai paneli, yn dibynnu ar y rôl, ee a oes angen rhywun sydd â gwybodaeth am arbenigedd penodol yn y cyfweliad.
Xxxxx y Cyfweliad
Byddwn yn ceisio sicrhau y cewch xxxx cyfweld yn xxxx xxxxx iaith, Cymraeg neu Saesneg (gofynnir ichi nodi hyn yn y ffurflen gais). Os dewiswch gael cyfweliad Cymraeg, bydd angen inni hefyd brofi xxxx gallu yn Saesneg, felly caiff rhan o’r asesiad ei gynnal yn Saesneg. Cewch wybod xxxx yw’r trefniadau ymlaen llaw. Mewn rhai achosion, os na allwn drefnu panel Cymraeg, efallai y bydd angen defnyddio gwasanaeth cyfeithu-ar-y- pryd xx xxxx unrhyw un o’r panel nad yw’n siarad Cymraeg. Os felly, cewch wybod cyn y cyfweliad.
Hyd y cyfweliad
Fel rheol, bydd cyfweliad yn para 30- 45 munud. Bydd hyn yn dibynnu ar nifer y cwestiynau a ofynnir gan y panel a’ch atebion chi.
Pwrpas y Cyfweliad
Pwrpas y cyfweliad yw:
• Profi pa mor addas yr ydych i wneud y swydd
• Rhoi cyfle i xxx ymgeisydd fynegi eu barn a chyflwyno eu tystiolaeth
• Sgorio ymgeiswyr ar sail gofynion y rôl
• Argymell pa ymgeisydd ddylai gael y swydd a llunio rhestr o’r ymgeiswyr yn nhrefn eu teilyngdod ar sail eu sgoriau
• Xxxx helpu chi i benderfynu ai dyma’r swydd i chi.
Bydd y panel yn ceisio gweld i xx xxxxxx rydych yn bodloni’r ymddygiadau a’r meini prawf a nodwyd ar gyfer y rôl. Bydd angen ichi fod yn xxxxx i ateb cwestiynau am sut rydych yn eu bodloni. Bydd y cyfweliad yn gyfle i’r panel recriwtio gadarnhau’r dystiolaeth a nodwyd yn xxxx ffurflen gais ac i holi ymhellach amdani. Bydd y gwaith rydych eisoes wedi’i wneud wrth lenwi xxxx ffurflen yn help mawr ichi wrth baratoi ar gyfer y cyfweliad. Gwnewch yn siŵr xxxx bod yn gyfarwydd â’r dystiolaeth yn xxxx ffurflen. Cofiwch y bydd y panel am weld, ar sail tystiolaeth xxxx ffurflen a’r cyfweliad, p’un a ydych yn debygol o allu cyflawni cyfrifoldebau’r swydd. Ni fydd gan y panel hawl i’ch holi am xxxx amgylchiadau personol.
Nodwch, nid oes hawl gyda chi i fynd â nodiadau i’r cyfweliad. Cewch ddefnyddio cardiau cymorth os ydych yn gorfod rhoi cyflwyniad fel rhan o’ch asesiad, fodd bynnag.
Paratoi ar gyfer y cyfweliad
Xxxx xxx cynghorion defnyddiol i’ch helpu i baratoi ar gyfer xxxx cyfweliad:
• trefnwch ‘ffug-gyfweliad’ gyda ffrind, aelod o’r teulu neu gydweithiwr
• ymchwiliwch i’r xxxx gwaith rydych yn gwneud cais i weithio ynddo – ewch i wefan Llywodraeth Cymru i gael gwybodaeth
• efallai y byddwch am siarad â’r rheolwr llinell sy’n recriwtio er mwyn deall y rôl yn well – bydd enw cyswllt ar yr hysbyseb swydd
• paratowch fwy o enghreifftiau nag yr ydych wedi’u nodi yn xxxx ffurflen gais. Gallai’r panel ofyn ichi am fwy o fanylion ac enghraifft arall a fydd yn xxxx helpu i roi’r dystiolaeth sydd xx xxxxxx.
Cofiwch y model “STAR” sy’n gallu fod o help wrth baratoi am gyfweliad, ac yn ystod cyfweliad wrth ymateb i gwestiynau, trwy roi strwythur clir i’ch atebion. Gweler Atodiad A: Darparu xxxx tystiolaeth i gael mwy o fanylion am y model STAR.
Cyfweld ar sail Cymwyseddau
Nod cyfweliad ar sail cymwyseddau yw ceisio cael gwybod sut rydych wedi ymddwyn a defnyddio sgiliau penodol i ddelio â heriau a phroblemau yn y gorffennol, ar y sail ei bod yn debygol mai dyna sut y byddwch yn perfformio yn y dyfodol. Gofynnir ichi felly roi
tystiolaeth o’ch ymddygiad yn y gorffennol a sut rydych wedi bodloni meini prawf a ddiffiniwyd ymlaen llaw yn yr hysbyseb.
Nod cwestiynau’r cyfweliad fydd caniatáu ichi roi tystiolaeth o’r ymddygiadau a’r meini prawf sy’n ofynnol, drwy ddefnyddio enghreifftiau perthnasol o’ch profiad. Cofiwch, er y bydd y panel yn chwilio am dystiolaeth o’r ymddygiadau/meini prawf penodol, gofalwch hefyd xxxx bod yn ateb y cwestiwn maent wedi’i ofyn. Cofiwch wrando ar y cwestiwn, felly, a dewis yr enghraifft fwyaf priodol a fydd yn xxxx galluogi i roi tystiolaeth o’r ymddygiadau/meini prawf ac ateb y cwestiwn yn llawn ar yr un pryd.
Efallai y bydd y rheolwr llinell sy’n recriwtio yn penderfynu bod cyflwyniad yn briodol er mwyn profi un o’r ymddygiadau neu’r meini prawf. Os felly, cewch wybod xxxx yw pwnc xxxx cyflwyniad a pha mor hir y disgwylir iddo bara (5 neu 10 munud fel rheol) yn yr e-xxxx a gewch yn xxxx gwahodd i gyfweliad. Caiff y cyflwyniad ei asesu ar sail yr un matrics sgorio ag ar gyfer cwestiynau’r cyfweliad, a bydd yn rhan o’r sgôr terfynol ar gyfer xxxx cyfweliad.
Os bydd y swydd yn gysylltiedig â phroffesiwn penodol sy’n galw am set sgiliau benodol, neu os yw sgil benodol yn hanfodol i’r rôl, efallai y bydd angen dull asesu ychwanegol. Er enghraifft, yn y proffesiwn cyfieithu, efallai y bydd angen profi sgiliau cyfieithu. Cewch wybod am unrhyw elfen asesu ychwanegol ymlaen llaw yn yr e-xxxx a gewch yn xxxx gwahodd i gyfweliad.
Bydd y panel yn asesu xxxx tystiolaeth yn erbyn matrics sgorio Llywodraeth Cymru – gweler Atodiad C. Bydd y panel yn cytuno ymlaen llaw ar y meini prawf ar gyfer y rôl, ac yn sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio’n gyson yn achos pob ymgeisydd.
Y Cyfweliad
Bydd y panel am xxxx gweld ar xxxx gorau yn y cyfweliad, ac yn gwneud eu gorau i roi cyfle ichi ddangos xxxx bod yn bodloni’r meini prawf. Ni fyddant yn ceisio xxxx xxx. Byddant eisoes wedi darllen am xxxx rhinweddau yn xxxx ffurflen gais, ac am gael darlun llawnach
• Bydd y Cadeirydd yn cyflwyno aelodau eraill y panel ac yn esbonio fformat y cyfweliad (gan gynnwys pwy fydd yn gofyn cwestiynau am xxx xxxx a asesir) a bydd yn rhoi amcan ichi o hyd pob rhan o’r cyfweliad (bydd hyn yr un fath i xxx ymgeisydd). Cewch chithau gyfle i holi am fformat y cyfweliad. Gofynnir ichi hefyd a oes unrhyw amgylchiadau anarferol wedi xxxx x xxxxx effeithio ar xxxx perfformiad, ee profedigaeth, damwain car, er mwyn sicrhau na fydd unrhyw xxxx yn amharu ar xxxx perfformiad. Os bydd rhywbeth wedi codi, cewch gyfle i aildrefnu xxxx cyfweliad. Os dewiswch fwrw ymlaen â’r cyfweliad, ni fydd modd ichi ofyn am gyfweliad arall wedyn os byddwch yn teimlo na roesoch xxxx perfformiad gorau.
• Os bydd angen ichi roi cyflwyniad er mwyn profi ymddygiad neu faen prawf penodol, cewch wybod ymlaen llaw. Ni fydd yn para am fwy na 5 neu 10 munud; ni chewch ddefnyddio cymhorthion gweledol; ond cewch ddefnyddio cardiau cymorth. Os bydd y swydd yn galw am arddull gyflwyno fwy heriol, sy’n fyrrach neu’n hirach na’r 5 neu 10 munud arferol, neu os bydd angen defnyddio cymhorthion xxxx xxx weledol, cewch wybod yn y llythyr a gewch yn xxxx gwahodd i gyfweliad.
• Bydd y panel cyfweld yn gofalu bod addasiadau rhesymol yn cael eu gwneud os bydd ymgeisydd anabl yn gofyn amdanynt ar ei ffurflen gais, mewn perthynas ag unrhyw agwedd ar y cyfweliad. Mae’n bwysig, felly, xxxx bod yn nodi unrhyw ofynion cyn gynted â phosibl – mae yna adran benodol yn y ffurflen gais i nodi’r rhain.
• Bydd pob aelod o’r panel wedyn yn cymryd ei dro i holi cwestiynau. Gwaith y Cadeirydd yw gofalu bod y rhain yn canolbwyntio ar ymddygiadau a meini prawf penodol, a bod y cyfweliad neu’r asesiad yn cadw at yr amserlen.
• Ar ddiwedd y cyfweliad, bydd y Cadeirydd yn rhoi cyfle ichi ofyn cwestiynau am y swydd.
Cam 4: Ar ôl y Cyfweliad
Cyhoeddi’r Canlyniad
Ar ddiwedd y cyfweliad, bydd Cadeirydd y panel yn rhoi syniad ichi ynghylch pryd y cewch wybod y canlyniad. Caiff ei anfon drwy e-xxxx.
Xxxx ddylech chi ei wneud os nad ydych yn llwyddiannus
Cymerwch ychydig amser i feddwl. Edrychwch ar yr adborth a gewch yn xxxx e-xxxx a’r pwyntiau a wneir. Arhoswch yn bositif ac edrychwch ar yr hyn y gwnaethoch chi ei gyflawni. Rydych yn siŵr o gael adborth gwahanol oddi wrth wahanol baneli ar geisiadau, hyd yn oed ar gyfer swyddi tebyg neu sydd union yr un fath â’i gilydd. Penderfynir ar xxxx sgôr cyffredinol drwy gonsensws pob aelod panel.
Dechrau yn xxxx swydd newydd (ar gyfer ymgeiswyr llwyddiannus)
Unwaith byddwch wedi cael gwybod xxxx bod wedi llwyddo, bydd y Ganolfan Gydwasanaethau yn anfon pecyn dechreuwr atoch, a fydd yn cynnwys contract amodol, dogfennau fetio a rhai dogfennau eraill perthnasol. Bydd y pecyn yn sôn am ambell xxxx y bydd angen ichi ei wneud er mwyn ichi allu dechrau gweithio gyda ni cyn gynted â phosibl, gan gynnwys sut i drefnu i fynd i Glinig Fetio, a pha ddogfennau xxxx xxxxx i chi eu i’r Ganolfan Gydwasanaethau, cyn y gallwn gytuno ar ddyddiad dechrau. Byddwn yn cysylltu â’ch canolwyr hefyd ar y pwynt hwn.
Cwynion
Os byddwch yn teimlo xxxx bod wedi’ch trin yn annheg, neu os oes gyda xxx xxxx am sut cafodd y broses ei chynnal, gallwch xxxxx xx ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu anfonwch e-xxxx i HR- Xxxxxxxx@xxxxx.xxx.xxx.xx. Os ydych yn anhapus gyda chanlyniad y broses gwyno ac yn teimlo na chadwyd at egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored, cewch fynd â’r mater ymhellach drwy gysylltu â Chomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Civil Service Commission), 3rd Floor, 00 Xxxxx Xxxxx Xxxxxx, Xxxxxx XX0X 0XX.
Awst 2014
ATODIAD A: Darparu xxxx tystiolaeth
Dewiswch xxxx enghreifftiau cryfaf xxx amser a fydd yn caniatáu ichi roi tystiolaeth o sut rydych yn bodloni’r cymhwysedd a’r gofynion sy’n benodol i’r swydd. Wrth ddewis xxxx enghreifftiau, ystyriwch y cyngor canlynol:
• Seiliwch xxxx enghreifftiau ar brofiad blaenorol.
• Gwnewch yn siŵr bod xxxx enghreifftiau ar y lefel iawn ar gyfer y radd. Darllenwch y canllawiau ar nodweddion swyddi ar wahanol raddau (Grading Characteristics), sydd ar y rhyngrwyd, i’ch helpu i ddewis enghreifftiau priodol.
• Gwnewch restr o’r xxxx bethau rydych wedi’u gwneud yn dda yn xxxx swydd dros y 2 flynedd ddiwethaf. Efallai y bydd adroddiadau perfformiad o gymorth. Ar gyfer pob un o’r rhain, nodwch sut y cyflawnwyd y dasg, a pha sgiliau ac ymddygiadau a ddefnyddiwyd.
• Ar gyfer pob enghraifft, nodwch pa ymddygiadau neu feini prawf y mae’n berthnasol iddynt.
• Casglwch xxxx tystiolaeth a’i dadansoddi cyn mynd ati i ysgrifennu xxxx enghreifftiau
– fe synnwch faint o dystiolaeth fydd gyda chi.
• Defnyddiwch dystiolaeth o’r gweithle os oes modd. Ond os oes gyda chi
gyfrifoldebau y tu xxxxx i’r gwaith, efallai y gallwch ddefnyddio’r rheini fel tystiolaeth o’r ymddygiadau/meini prawf sydd yr un mor briodol.
• Ewch drwy xxxx tystiolaeth a’ch enghreifftiau gyda’ch rheolwr xxxxxxx xxx â chydweithiwr – mae ail neu drydydd pâr o lygaid yn ddefnyddiol xxx amser.
• Byddwch yn xxxxx xxx amser. Byddwn yn gofyn ichi roi enghreifftiau yn y cyfweliad, ac os ydych wedi sôn am rywbeth sy’n anghyfarwydd ichi, mae’n bosibl na fyddwch yn gallu rhoi digon o dystiolaeth.
Ysgrifennu xxxx Tystiolaeth
Byddwch mor gryno â phosibl wrth roi xxxx enghreifftiau. Gan mai dim ond hyn a hyn o eiriau y cewch eu defnyddio, mae’n hanfodol xxxx bod yn gwneud y defnydd gorau ohonynt. Canolbwyntiwch ar yr hyn wnaethoch chi. Ystyriwch y cyngor canlynol:
• Ysgrifennwch ddrafft cyntaf, yna rhowch ddigon o amser ichi’ch hun i’w wella.
• Gwnewch yn siŵr xxxx bod wedi cynnwys pob elfen sydd xx xxxxxx.
• Cyfrwch y geiriau – peidiwch â mynd dros 300 gair fesul ymddygiad/maen prawf.
• Ystyriwch xxxx fformat – fyddai pwyntiau bwled yn gweithio yn hytrach na pharagraffau?
• Ysgrifennwch mewn iaith glir sy’n ramadegol gywir, gan gynnwys y sillafu.
• Peidiwch â defnyddio jargon, talfyriadau na thermau arbenigol.
• Ysgrifennwch yn y gorffennol, hy gwnes, cyflawnais, cwblheais. Defnyddiwch ferfau gweithredol (gweler Atodiad B).
• Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod y panel sifftio yn gwybod xxxx yw’r sefyllfa. Dim ond yr hyn rydych chi wedi’i nodi yn y ffurflen gais y byddant yn ei wybod, a dim ond yr hyn rydych chi wedi’i ysgrifennu y xxxxxxx xx asesu.
• Gwnewch yn siŵr xxxx bod yn sôn am sut yr aethoch ati i ddatrys problemau/goresgyn rhwystrau.
• Disgrifiwch yr hyn roeddech chi’n ei feddwl, sut roeddech chi’n teimlo a’r hyn a wnaethoch chi yn hytrach na disgrifio’r sefyllfa yn unig.
• Peidiwch â mynd i hwyl yn adrodd stori. Dywedwch ddigon i ddangos -
o sut yr aethoch chi ati i gyflawni’r dasg
o xxx yr aethoch ati yn y ffordd honno
o unrhyw broblemau y daethoch ar eu traws.
• Cofiwch sôn am y canlyniadau a xxxx roedd yr hyn a wnaethoch chi yn effeithiol a/neu sut y xxxxxxx fod wedi bod yn fwy effeithiol.
• Defnyddiwch ‘fi’ nid ‘ni’. Xxxx rôl xxx xx’n bwysig a sut y gwnaethoch chi gyfrannu at y canlyniad.
• Defnyddiwch frawddegau byr, yn sôn am xxxxx xxxx rôl bersonol chi.
• Defnyddiwch xxxx geiriau xxxx hun. Ystyriwch ddefnyddio berfau gweithredol i gael mwy o effaith (gweler Atodiad B).
Model ‘STAR’
Gallai dull STAR hefyd xxxx helpu i gyflwyno xxxx tystiolaeth drwy roi strwythur a ffocws i’ch enghreifftiau yn y ffurflen gais a’r cyfweliad:
• Sefyllfa (Situation) – yn fyr, disgrifiwch y cyd-destun a’ch rôl chi
• Tasg (Task) – yr her neu’r dasg benodol oedd yn xxxx wynebu
• Gweithredu (Action) – xxxx wnaethoch chi, sut a xxxx
• Canlyniad (Result) – xxxx gwnaethoch chi ei gyflawni drwy’r hyn a wnaethoch chi
Cadwch fanylion y sefyllfa a’r dasg yn gryno. Canolbwyntiwch ar y gweithredu a’r canlyniad. Os nad oedd y canlyniad yn gwbl lwyddiannus, disgrifiwch yr hyn a ddysgoch o’r profiad a xxxx y byddech yn ei wneud yn wahanol y tro nesaf.
Efallai y bydd STAR yn xxxx helpu i gofio am xxx pwynt xxx xxxxx ichi ei wneud. Gallai xxxx helpu i ddrafftio xxxx cais a sicrhau xxxx bod yn sôn am bopeth wnaethoch chi’n bersonol. Cofiwch ganolbwyntio ar xxxx cryfderau. Gallai xxxx helpu yn y cyfweliad hefyd, drwy roi strwythur ichi ei ddilyn wrth ateb. Mae yna fframweithiau eraill ar gael hefyd i’ch helpu i strwythuro xxxx tystiolaeth. Mae’n xxxxx ichi dreulio peth amser yn ymchwilio i dechnegau gwneud cais a thechnegau cyfweliad fel y gallwch ddod o hyd i’r fframwaith sy’n gweddu orau i chi.
ATODIAD B: Defnyddio Xxxxx Xxxxxxxxxx
Wrth lunio xxxx enghreifftiau i brofi’ch cymwyseddau, ystyriwch ddefnyddio berfau gweithredol sy’n creu mwy o effaith ac argraff. Mae defnyddio’r ffurf orffennol hefyd yn creu synnwyr o fod wedi cwblhau neu gyflawni amcanion. Efallai y bydd hyn yn xxxx helpu i ddefnyddio llai o eiriau.
Peidiwch â defnyddio: Roeddwn i’n gyfrifol am drefnu rhaglen o siaradwyr.
Defnyddiwch: Trefnais raglen o siaradwyr.
Dyma restr o ferfau gweithredol defnyddiol:
A – addasu, arfarnu, asesu, adeiladu, arddangos, annog, arwain, arloesi, atgoffa, atgyfnerthu, ategu, adfywio, addysgu
B – bwriadu
C – cyflawni, cwblhau, cynghori, cymhwyso, cymeradwyo, cyrraedd, cyfrifo, cyfleu, canoli, coetsio, cyflenwi, cyfeirio, cofnodi, calonogi, cynllunio, cynhyrchu, creu, cyfuno, cynyddu, cychwyn, cyfarwyddo, cyfweld, cyflwyno, cydgysylltu, cyd-drefnu, cael, cyfrannu, cymryd rhan, cynnig, cefnogi
D – dadansoddi, diffinio, dirprwyo, dangos, datblygu, dyfeisio, dosbarthu, dosrannu, didoli, dewis, dylanwadu, dechrau, dehongli, darbwyllo, datrys, darparu, deall, dilysu
E – ehangu, ennill, ennyn
G – gweinyddu, gwirio, golygu, gweithredu, gwella, gwerthu, gweddnewid, gwerthfawrogi, gwirfoddoli
H – helpu, xxxxxxxxx, hyrwyddo, hwyluso
L – lansio
LL – lleihau, llywio
M – xxxxxxxx, xxxxxx, mentora, xxxxxxxx
N – nodi, negodi
P – penodi, penderfynu, pennu, perswadio, prif-ffrydio, profi, pwyso ar, pwyso a mesur
RH – rheoli, rhwydweithio
S – sbarduno, saernïo, sicrhau, sefydlu
T – trefnu
Y – ystyried, ysgogi, ymgorffori, ysbrydoli, ymchwilio, ymgymryd â, ysgrifennu
ATODIAD C – Matrics Sgorio
Tystiolaeth Dda/Gref | 5 | Tystiolaeth gref I’w ddyfarnu pan fydd y dystiolaeth lawer yn fwy perthnasol i’r xxxx xx’n xxxx xx brofi nag a ddisgwylir, ac o’i chymharu â gofynion y radd. • Mae’r dystiolaeth wedi’i chyflwyno a’i strwythuro’n dda; ac • Mae’r dystiolaeth yn uniongyrchol ac yn gyfangwbl berthnasol i’r xxxx xx’n xxxx xx brofi; ac • Mae’r dystiolaeth lawer yn well nag sy’n ofynnol ar gyfer y radd ac efallai yn cyfateb i ofynion gradd uwch. |
4 | Tystiolaeth dda I’w ddyfarnu pan fydd y dystiolaeth yn fwy perthnasol i’r xxxx xx’n xxxx xx brofi nag a ddisgwylir, ac o’i chymharu â gofynion y radd. • Mae’r dystiolaeth wedi’i chyflwyno a’i strwythuro’n dda; ac • Mae’r dystiolaeth yn addas i’r xxxx xx’n xxxx xx brofi; ac • Mae’r dystiolaeth yn well nag sy’n ofynnol ar gyfer y radd. | |
Tystiolaeth Gymwys | 3 | Tystiolaeth gymwys I’w ddyfarnu pan fydd y dystiolaeth yn ddigon perthnasol i’r xxxx xx’n xxxx xx brofi, ac o’i chymharu â gofynion y radd. • Xxx xxxxx o dystiolaeth ac mae’n dilyn strwythur sylfaenol; ac • Mae’r dystiolaeth yn ddigon addas i’r xxxx xx’n xxxx xx brofi; ac • Mae’r dystiolaeth yn bodloni gofynion y radd. |
Tystiolaeth Wael/Anfoddhaol | 2 | Tystiolaeth anfoddhaol I’w ddyfarnu pan na fydd y dystiolaeth yn ddigon perthnasol i’r xxxx xx’n xxxx xx brofi, ac/neu o’i chymharu â gofynion y radd. • Xxx xxxx tystiolaeth i gefnogi’r hyn y mae’r ymgeisydd yn ei ddweud, ond dim digon; neu • Dim ond rhannol berthnasol i’r xxxx xx’n xxxx xx brofi yw’r dystiolaeth; ac/neu • Mae’r dystiolaeth yn berthnasol/Efallai bod y dystiolaeth yn berthnasol i’r xxxx xx’n xxxx xx brofi ond nid yw’n ddigon soffistigedig/manwl o’i chymharu â gofynion y swydd. |
1 | Tystiolaeth wael I’w ddyfarnu pan fydd y dystiolaeth ymhell o fod yn ddigon perthnasol i’r xxxx xx’n xxxx xx brofi ac/neu o’i chymharu â gofynion y radd. • Ychydig yw’r dystiolaeth, os o gwbl, i gefnogi’r hyn y mae’r ymgeisydd yn ei ddweud; neu • Nid yw’r dystiolaeth yn cyfateb mewn unrhyw ffordd i’r xxxx xx’n xxxx xx brofi; ac/neu • Mae’r dystiolaeth yn berthnasol/Efallai bod y dystiolaeth yn berthnasol i’r xxxx xx’n xxxx xx brofi ond mae ymhell o fod yn ddigon soffistigedig/manwl o’i chymharu â gofynion y swydd. | |
0 | Ni wnaed ymgais i gyflwyno tystiolaeth. I’w ddyfarnu pan fydd y dystiolaeth ar xxxx o Ddogfen Dystiolaeth neu pan na fydd ymgeisydd yn rhoi cynnig ar ateb i gwestiwn mewn cyfweliad. |
19