Datblygwr y Wê
Datblygwr y Wê
Swydd ddisgrifiad
Bydd y Datblygwr y Wê yn gyfrifol am ymgymryd â'r gwaith datblygu sydd wedi'i grisialu yn rhan o strategaeth ddigidol S4C. Yn bennaf, mae'r gwaith hwn yn ymwneud â datblygu Chwaraewr Clic S4C, gan wella profiad y defnyddiwr a chyflwyno nodweddion newydd.
Fel Datblygwr y Wê, byddwch yn gyfrifol am:
• ddatblygu rhaglenni gwe, llwyfannau a gwefannau;
• adolygu a diweddaru swyddogaeth a dyluniad Clic S4C ledled yr xxxx lwyfannau perthnasol;
• cyflawni dyletswyddau'r Datblygwr a'r Dylunydd Gwefannau, yn ôl yr angen;
• cynorthwyo â'r gwaith o hyfforddi/mentora'r xxx cyfathrebu, ac arwain y gwaith hwnnw pan fo angen
• gweithio'n agos gyda'r rheolwr llwyfannau er mwyn sicrhau bod newidiadau'n cael eu gwneud yn brydlon;
• trafod a chydweithio â chyflenwyr trydydd parti;
• cymorth technegol cyffredinol/diweddariadau ar gyfer rhaglenni gwe a gwefannau S4C (yn ystod oriau gwaith yn ogystal â'r tu xxxxx i oriau gwaith, pan fo angen);
• darparu a chynorthwyo â gofynion technegol ar gyfer rhaglenni gwe a gwefannau neu ddiweddariadau S4C;
• rheoli'r broses o weithredu rhaglennu gwe a gwefannau a/neu ddiweddariadau S4C, a hynny yn fewnol neu'n allanol gan drydydd partïon, a thrafod unrhyw oblygiadau o ran cost;
• sefydlu gwefannau sy'n defnyddio System Rheoli Cynnwys (CMS) S4C
• arwain yr xxxx hyfforddiant mewnol ar CMS, a chynghori'r staff pan fo problemau/materion yn codi;
• gosod tudalennau ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau ar-lein unigryw a drefnwyd;
• profi gwefannau er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chanllawiau cynhyrchu gwefannau S4C;
• bod yn ymwybodol o'r datblygiadau diweddaraf yn y diwydiant a thechnegau arfer gorau;
Fel Datblygwr y Wê, byddwch hefyd:
• yn gyfrifol, yn bersonol ac ar y cyd ag aelodau eraill o'r staff, am sicrhau bod S4C yn cyflawni ei nodau corfforaethol, yn ogystal â rhagoriaeth greadigol;
• yn sicrhau bod S4C yn gweithredu'n effeithiol ac yn unol â'i hymrwymiadau statudol a strategol;
• yn hyrwyddo cyfathrebu effeithiol er mwyn cyflawni'r nodau corfforaethol;
• yn cyfrannu at drafodaethau a chyfarfodydd sy'n ymwneud â'ch cyfrifoldebau craidd, yn ogystal â meysydd eraill, lle bo hynny'n briodol, a xxxx yr ystyrir bod hynny o fudd i S4C;
• yn gyfrifol am weithio yn unol â nod S4C i greu amgylchedd gweithio parchus, urddasol a diogel ar gyfer xxxx xxx-weithwyr;
• yn gweithio yn unol â'r Polisi Iechyd a Diogelwch ac yn gweithredu unrhyw argymhellion sy'n deillio o asesiadau risg er mwyn sicrhau amgylchedd gweithio diogel ar gyfer y staff;
• yn gweithio mewn modd sy'n hyrwyddo amgylchedd gwaith cyfeillgar.
Manyleb y Person
Rhinweddau | Hanfodol | Dymunol |
Cymwysterau | • Gradd mewn xxxx pwnc perthnasol | |
Profiad | • Profiad o weithio xx xxxx rhaglenni gwe, yn benodol JavaScript | • Profiad o ddefnyddio fframwaith JavaScript, er enghraifft React neu Angular • Profiad o ddatblygu ap symudol |
Sgiliau a Gwybodaeth | • Sgiliau datrys problemau da • Gwybodaeth drylwyr am HTML/CSS • Gwybodaeth am hygyrchedd y we a gwerthfawrogiad ohono • Gwybodaeth sylfaenol am Optimeiddio Peiriannau Chwilio | • Gwybodaeth am ddatblygu rhaglenni gwe a Rhaglennu sy'n ymateb i Wrthrych • Gwybodaeth am systemau rheoli’r ffynhonnell, er enghraifft GIT • Y gallu i gyfathrebu'n rhugl yn Gymraeg gyda staff a chwsmeriaid ar xxx xxxxx, yn ysgrifenedig ac ar xxxxx |
Nodweddion personol | • Y gallu i ddysgu ac addasu i dechnolegau newydd |
Manylion eraill
Lleoliad: Disgwylir y bydd y swydd hon wedi ei lleoli yn bennaf yng Nghanolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin.
Cyflog: Dibynnol ar brofiad
Contract: Contract parhaol
Oriau gwaith: 3 diwrnod yr wythnos. Yn sgil natur y rôl, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio y tu xxxxx i oriau swyddfa arferol, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
Cyfnod prawf: 6 mis
Gwyliau: Yn ogystal â Gwyliau banc statudol, byddwch yn gymwys i gael 26 diwrnod o wyliau blynyddol â thâl.
Pensiwn: Xxx xxxx gan aelodau o staff ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygir o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd
S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi
gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Dylid cyflwyno ceisiadau erbyn 12:00 ar 19 Mawrth 2019, a hynny i xxxxxxxx.xxxxx@x0x.xxxxx neu i'r Adran Adnoddau Dynol, S4C, Canolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ. Ni dderbynnir CVs.
Nid yw S4C yn caniatáu gwahaniaethu ar sail rhyw, hil, lliw, anabledd, cefndir ethnig neu gefndir economaidd-gymdeithasol, oedran, statws teuluol, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, gweithwyr rhan-amser neu lawn-amser, crefydd, gwleidyddiaeth, tueddfryd rhywiol, ailbennu rhyw, beichiogrwydd a mamolaeth, y defnydd o iaith (heblaw lle bo'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn angenrheidiol ar gyfer y swydd) nac unrhyw wahaniaeth amherthnasol arall, ac mae wedi ymrwymo i ystyried amrywiaeth mewn modd cadarnhaol. Mae S4C yn croesawu ac yn cymell ceisiadau am swyddi gan grwpiau sydd, o bosibl, heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys merched, pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anableddau. Mae egwyddorion cystadleuaeth agored a theg ar waith, a phenderfynir ar benodiadau ar sail teilyngdod.