CYNGOR TREF LLANBEDR PONT STEFFAN COFNODION Y CYFARFOD MISOL
CYNGOR TREF LLANBEDR PONT STEFFAN COFNODION Y CYFARFOD MISOL
A GYNHALIWYD AR NOS IAU YR 29.01.2015 AM 7.30PM NEUADD YR EGLWYS, LLANBEDR PONT STEFFAN
Estynnwyd gwahoddiad i aelodau i gymryd rhan mewn gweddi cyn cychwyn y cyfarfod. Bu i’r Cyngh. Xxxx Xxxxx offrymu gweddi.
1. CROESO GAN Y CADEIRYDD & MATERION PERSONOL
Xxxxxxxxx yr xxxx a oedd yn bresennol i’r Cyfarfod gan y Maer Xxxxx Xxxxx.
Roedd aelodau’n dal i feddwl am Xxxx, (Y Cyngh.Xxxx Xxxxx) yn ystod ei salwch. Dymunwyd yn dda iddo.
2. YN BRESENNOL
Y Xxxx Xxxxx Xxxxx (Cadeirydd).Cynghorwyr: Xxxxxx Xxxxxx; Xxxx Xxxxxx;
Xxx Xxxxxx (Cynghorydd Xxxx & Xxxxx); Xxx Xxxxxx; Xxx Xxxxxxxx; Xxxxxxx Xxxxxx; Xxxxx Xxxxx; Xxxxxx Xxxxxxx; Xxxxx Xxxxxx; Xxxxxxx Xxxxxxxx & Xxxxx Xxxxxx. Aelod o’r Cyhoedd: Xx Xxxxx Xxxxxxx.
Xxxxxxxx y Wasg yn cynrychioli’r Cambrian News: Mr Xxxxxxx Xxxxxx.
Xxxxxxxx y Wasg yn cynrychioli’r Carmarthen Journal: Xx Xxxx Xxxxxxxx. Cynrychiolwyr o’r Mudiad Tai Ceredigion: Mr Xxxx Xxxxxxx, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Eiddo & Xxxxx Xxxxxxx, Cyfarwyddwr Tai a Chefnogaeth.
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB
Y Cyngh. Xxxx Xxxxx oherwydd salwch.
3. CYFLWYNIAD
Yn ystod Rhagfyr 2009 gwnaeth y mudiad-sydd-heb-fod-yn-gwneud-elw, sef Tai Ceredigion berchenogi a chymryd gofal am 2,229 cartrefi wedi’u rhentu a 140 anheddau-ar-brydles oddi ar y Cyngor Sir. Ers hynny, y xxx Xxx Ceredigion wedi ymdrechu i wireddu’r addewid a wnaethpwyd i uwchraddio cartrefi ac adeiladu tai ar gyfer pobl lleol. Y mae’r mudiad yn cydweithio â’r Cyngor Sir a Phartneriaid eraill yn yr ardal i gwrdd ag anhengion deiliaid, trigolion a lesddeiliaid Ceredigion. Cyflogir nifer o bobl lleol a darperir cyfleoedd hyfforddiant a busnes. Lleolir 72 aelod staff yn Llanbedr Pont Steffan. Y xxx Xxx Ceredigion yn Berchennog Cymdeithasol ar gyfer 136 eiddo yn Llanbedr Pont Steffan i gynnwys eiddo 2 & 3 Ystafell Wely yn ogystal ag unedau llai a chynlluniau cysgodi ee Llys Pedr (20 uned).
Cyflenwid gwelliannau ar gyfer Llys Deri a gosodwyd Gwarant 10 mlynedd mewn lle. Pwysleisiodd y Cyngh. Xxxxxx yr xxxxx i leoli meysydd chwarae o fewn y gymuned. Y xxx Xxx Ceredigion yn gyfrifol am feysydd chwarae ym Maesyderi a Parc-y-Felin. Soniodd y Cyngh. Xxxxxx hefyd am yr angen o dai fforddiadwy, er mwyn galluogi pobl ieuainc i berchen ar eu tŷ cyntaf.
Ymholodd y Cyngh. Xxxxxx parthed y Cais Cynllunio A140669 a gyflwynwyd gan Dai Ceredigion sef “Datblygiad Preswyl (22 anheddau i gynnwys 8 anheddau fforddiadwy). Lleoliad: Brongest, Llanbedr Pont Steffan.”
4. MATERION YN YMWNEUD Â’R HEDDLU
4.1 Camerau Teledu Cylch Cyfyng (CTCC): Adroddodd y Cyngh. Xxxxxx xxxx fynychu Cyfarfod Bwrdd Y Gwasanaethau Lleol, ble wnaeth y Dirprwy Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys sef Xxx Xxxxxx drafod CTCC y Sir. Penderfynodd Cyngor Sir Ceredigion, mis Ebrill y llynedd, i beidio ag ariannu’r CTCC xxxxxxx xx i ddileu cytundebau a oedd yn bodoli. Meddylid y gallai’r Heddlu o bosibl gymryd cyfrifoldeb am y camerau, yn ystod y dyfodol, ond y mae Adroddiad gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys
Xxxxxxxxxxx Xxxxxx yn argymell na ddylai’r Heddlu ariannu’r CTCC. O’r wybodaeth a gasglwyd yn ystod Cyfarfod Bwrdd Y Gwasanaeth Lleol, anhebyg y gwelir xxxxxx o’r ddarpariaeth o GTCC yn ei ffurf bresennol; efallai o bosibl mabwysiedir System CTCC dal-mewn-llaw.
4.2 Xxxxxxxxx Xxxxx – Clwb Rygbi Llanbedr Pont Steffan Derbyniwyd ebost gan Xx Xxxxxx Xxxx ar y 7.12.2104
Yn mynegi consyrn parthed y nifer o gerbydau sy’n gwrthdroi o’r heol yr ochr i gyfeiriad y brif heol “A” (Heol y Gogledd) a plant a rhieini a chadair-wthio yn cael eu gorfodi i gerdded ar yr heol gan fod ceir wedi eu parcio ar y palmant ac yn rhwystr. Lleoliad: Troad o gyfeiriad Heol y Gogledd yn arwain at Glwb Rygbi Llanbedr Pont Steffan & Cwmni Tractor Xxxxx Xxxxx.
Holodd tybed a fyddai’n bosibl cyflwyno llinellau melyn ar ddwy ochr yr heol. Derbyniwyd ateb gan SCCyr Heddlu Xxxx Xxxxx ar y 10.12.2014. Dywedodd ei fod wedi crybwyll y mater gyda’r Clwb Rygbi ac yn ei farn ef y mae’n ymddangos fel bod problem yn ymwnud â cherbydau wedi eu parcio ar y palmant ac ar adegau’n rhy agos i’r gyffordd. Roedd yn argymell y dylid cyflwyno cais am linellau melyn ar y lleoliad hwn.
PENDERFYNWYD dwyn y mater at sylw’r Cyngor Sir i’w drafod yn ystod y Cyfarfod Rheoli Traffig o’r 8fed o Fai 2015.
5. DATGELU BUDDIANNAU PERSONOL A SY’N RHAGFARNU
Dim wedi eu datgan.
6. CADARNHAU COFNODION Y CYFARFODYDD A GYNHALIWYD AR Y 27ain O Dachwedd 2014 & 8fed Ionawr 2015:
6.1 Penderfynwyd llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar y 27ain o Dachwedd 2014 a’u derbyn yn gofnod cywir.
6.2 Cyfarfod Cyllideb o’r 8fed Ionawr 2015; cytunwyd eu bod yn gywir arwahân i’r canlynol
6.2.1 Dylai’r geiriau, “Cysondeb pan yn gwneud cyfraniadau ariannol” ddarllen, “Cysondeb pan yn gwneud cyfraniadau ariannol ar gyfer Digwyddiadau o fewn Llanbedr PS”. Anelir at gysondeb pan yn ymwneud â chyfraniadau ariannol ar gyfer digwyddiadau blynyddol lleol o fewn y dref megis:
Sioe Amaethyddol Llanbedr Pont Steffan; Carnifal Llanbedr Pont Steffan;
Ffair Fwyd Llanbedr Pont Steffan; & Eisteddfod Pantyfedwn, Llanbedr Pont Steffan. Rhoddir ystyriaeth unigol i geisiadau eraill xx
X Xxxx Xxxx Llanbedr Pont Steffan & Cyngor ar Bopeth sydd HEB fod wedi eu cynnwys o fewn Digwyddiadau Llanbedr PS.
6.2.2 Costau Teithio pan yn Ymwneud â Gwaith y Cyngor: Trafodwyd y mater yn ystod y Cyfarfod Cyllideb ond ni gofnodwyd yr wybodaeth o fewn y Cofnodion. PENDERFYNWYD cynnig tâl yn gyfartal i hyn a dalwyd i Gynghorwyr Sir (45c/filltir ar hyn x xxxx)
7. ENWEBIAD MAER & DIRPRWY-FAER AR GYFER Y FLWYDDYN FWRDEISTREFOL 2015-16
7.1 MAER TREF LLANBEDR PS: BLWYDDYN FWRDEISTREFOL 2015-16: Penderfynwyd yn unfrydol enwebu’r Cyngh. Xxxxxxxxxxx Xxxxxx fel Maer Tref Llanbedr Pont Steffan am y Flwyddyn Fwrdeistrefol 2015-16.
7.2 DIRPRWY-FAER LLANBEDR PS: BLWYDDYN FWRDEISTREFOL 2015-16:
Cynigiwyd (Y Cyngh. Kistiah Ramaya); Xxxxxxx (Y Cyngh. Xxxxx Xxxxxx) a
PHENDERFYNWYD yn unfrydol enwebu’r Cyngh. Xxxxx Xxxxx yn Ddirprwy- Faer Tref Llanbedr Pont Steffan am y Flwyddyn Fwrdeistrefol 2015-16.
8. MATERION YN CODI
8.1 ARDDANGOSIADAU BLODAU O FEWN Y DREF
Derbyniwyd llythyr oddi wrth Mr Xxxx Xxxxxx Cyngor Sir Ceredigion ar y 10fed o Ragfyr 2014 parthed Arddangosiadau Blodau o fewn y dref dros fisoedd yr haf. Mae’r Cyngor Sir wedi nodi arbedion o’r gyllideb o £80,000 sydd ganddo at welyau blodau yn yr Haf a’r Gaeaf, bylbiau’r Gwanwyn ac arddangosfeydd blodau ar y stryd. £40,000 yw’r toriad yn y gyllideb.
Cynyddwyd y gwasanaeth dros y blynyddoedd a hynny am resymau hanesyddol ac yn bennaf i gynorthwyo’r Trefi a fu’n cymryd rhan yng nghystadleuaeth Cymru yn ei Blodau neu a fu’n ymgeisio am grantiau. Dros y blynyddoedd arweiniodd hynny at ddarpariaeth anghyfartal yn y gwahanol Drefi o ran y cyllid a oedd yn mynd i xxx Tref, amrywiaeth a maint yr arddangosiadau blodau.
Ar gyfer Llanbedr Pont Steffan y mae’r costau ar gyfer 2015 a ganlyn:
Gwelyau Sefydlog £1,073.96 Ar y Stryd £2,250
Bylbiau £0 ym 2015
Dyfrhau £4,200
Ar hyn o xxxx xxx gan y Cyngor Sir gontract gyda chyflenwr lleol i ddarparu planhigion hyd at 2016 a hoffai’r Cyngor Sir gadw ato. Fodd bynnag, o 2016 ymlaen bydd angen aildendro ar gyfer cyflenwi’r xxxx blanhigion, ac mae’r ffaith fod y contract yn dod i ben yn gyfle naturiol i’r Cyngor Tref i ystyried mater y blodau yn y dyfodol.
Holwyd tybed a fyddai’n bosibl i’r Cyngor Tref i gwrdd â’r gost o ddyfrhau ym 2015 sef £4,200. (petai trefniant presennol y Cyngor Sir yn cael ei fabwysiadu)
PENDERFYNWYD, yn ystod y cyfarfod cynt, cytuno mewn egwyddor i’r cynnig a cheisio darganfod y gost petai’r gwaith yn cael ei gario xxxxx xxx unigolion a apwyntiwyd gan y Cyngor Sir a tybed a fyddai’n bosibl derbyn gostyngiad
petai’r Cyngor Tref yn cyflogi personau ar liwt ei hun. Hefyd i ddarfangod lleoliad yr arddangosiadau.
Bydd angen gwneud yr arbedion erbyn 1af Ebrill 2015. Ar ôl trafodaeth manwl PENDERFYNWYD talu’r Cyngor Sir £ 4,200 ar gyfer y gost o ddyfrhau am 2015 gan fod aelodau o’r farn nad oedd yn bosibl gwneud arbedion petai’r Cyngor Tref yn ymwneud â’r gwaith.
Serch hynny roedd Cynghorwyr yn gytun ystyried y posibilrwydd i gymryd cyfrifoldeb am yr Arddangosfeydd yn ystod y dyfodol. Bydd angen sefydlu cyllideb parthed cost yr offer a’r llafur.
8.2 Y Cyngor Tref i fabwysiadu’r Gofgolofn (Yr Ardd a’r Gofgolofn), o bosibl: Ystyriwyd y posibilrwydd o fabwysiadu’r Gofgolofn yn ystod cyfarfod o’r Is- Bwyllgor o’r 4ydd o Fedi 2014. Cymeradwywyd y cynnig gan y Cyngh. Xxxxxx Xxxxxxx, y Xxxxx. Xxxx Xxxxxx a’r Cyngh. Xxxx Xxxxx yn ystod y cyfarfod o’r Is-Bwyllgor. PENDERFYNWYD yn ystod cyfarfod cynt i gysylltu â’r Cyngor Sir i ddarganfod y cyllid blynyddol sy’n gysylltiedig â’r Gofgolofn a gofyn tybed a fyddai’n bosibl i’r Cyngor Sir i beintio’r rheiliau. Derbyniwyd ymateb gan y
Cyngor Sir ar y 5ed o Dachwedd 2014 yn sôn nad yw’r Cyngor Sir yn berchen ar unrhyw Gofgolfnau ac felly does dim cyllid wedi ei glustnodi ar eu cyfer.
Anfonwyd gohebiaeth pellach at y Cyngor Sir i ofyn os oedd cyllid wedi ei glustnodi ar gyfer y tir sydd o gwmpas y Gofgolofn.
Derbyniwyd ateb gan Xx Xxxxxx Xxxxx Cyngor Sir Ceredigion ar y 27ain Ionawr 2015 parthed y tir sy’n amgylchu’r Gofgolofn…. “does dim cyllid wedi ei glustnodi ar gyfer unrhyw darn o dir o fewn y sir, ystyrir pob cais yn unigol yn ôl yr xxxxx xx yn ôl y cyllid sydd ar gael. Oherwydd y cyfyngiadau ariannol sy’n effeithio ar xxx xxxxx yr Awdurdod, rhoddir ystyriaeth gofalus i xxx cais…. Parthed y rheiliau derbyniasom cynigion i’w peintio ac yr ydym wedi gosod cyfarwyddiadau ar gyfer eu peintio’n ystod yr wythnosau nesaf ar yr xxxx fod y tywydd yn caniatau”.
8.3 CINIO AR GYFER NEWYNOG EIN BYD
Bydd y Cyngor Tref yn gyfrifol am y Ginio a drefnwyd ar gyfer Dydd Gwener 6ed o Fawrth i’w gynnal yn Neuadd Yr Eglwys, Llanbedr Pont Steffan.
PENDERFYNWYD ymwneud â threfniadau pellach yn ystod Cyfarfod nesaf y Cyngor Tref. ( Y Fwydlen o bosibl i gynnwys Cawl & Phwdin Xxxx).
8.4 Rheoliadau Sefydlog y Cyngor Tref: Dim Datblygiadau i’w hadrodd.
8.5 Pwyllgor Ymgynghorol Rheoli Traffig Llanbedr PS o’r 14eg o Dachwedd 2014: Trafodwyd y Materion Parcio yn ymwneud â Barley Mow a Heol Llanfair; cytunwyd i anfon mapiau at sylw’r Cyngor Tref er mwyn dangos lleoliad y cynigion. Derbyniwyd ebost oddi wrth y Cyngor Sir ar y 19eg o Ragfyr 2014 yn cyfleu, “ Oherwydd prinder adnoddau staff ar hyn x xxxx o fewn yr Adain Draffig anhebygol yw y bydd y materion uchod yn cael eu cynnwys o fewn yr Adolygiad Gorchymyn Traffig yn ystod yr Haf 2015. Serch hynny, ymdrechir i’w cynnwys os bydd y cyfle’n codi”. Derbyniwyd 2 fap at ddefnydd y Cyngor Tref. PENDERFYNWYD nodi ar y mapiau yr ardaloedd a oedd angen sylw yng nghyffiniau Barely Mow a Heol Llanfair ar gyfer y Cyfarfod Ymgynghorol Rheoli Traffig nesaf o’r 8fed o Fai 2015.
9. GOHEBIAETH
9.1 Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Chyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda yn cynnal cyfres o gyfarfodydd mewn cymunedau ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro i ddarparu gwybodaeth. 16 Chwefror Neuadd Goffa Aberaeron 3-5pm; 23 Chwefror Canolfan Xxxxxx Aberystwyth 3-5pm: Nodwyd er gwybodaeth.
9.2 Pwyllgor Ardal Ceredigion Un Llais Cymru: Nos Fercher 28ain Ionawr 2015, Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Penmorfa, Aberaeron. Er Gwybodaeth.
9.3 Cau Ffordd: Rhif yr Heol C1038 – Silian-Llanbedr Pont Steffan 08.00:19.01.15 tan 18.00-23.01.15 – 24 awr y dydd am y cyfnod xxx sylw i arwynebu’r ffordd. Rheswm: i sicrhau diogelwch y cyhoedd.
9.4 Bwcabus Llythyr Newyddion Rhagfyr 2015: er gwybodaeth.
9.5 Gohebiaeth Eraill: er gwybodaeth yn unig.
10. TRANSITION LLAMBED
Ni dderbyniwyd adroddiad parthed Transition Llambed.
11. MATERION CYNLLUNIO
11.1 Cais Cynllunio: Rhif y Cais: A140992: Y Bwriad: Cais am ddefnydd ychwanegol D1 i ran o’r adeilad. Lleoliad: Canolfan Dulais (Adeilad y Llywodraeth yn flaenorol), Heol Pontfaen, Llanbedr Pont Steffan. Sylwadau’r Cyngor Tref: Dim Gwrthwynebiad.
11.2 Cais Cynllunio: Rhif y Cais: A140959: Banc HSBC, Sgwar Harford, Llanbedr Pont Steffan. Sylwadau’r Cyngor Tref: Dim Gwrthwynebiad.
11.3 Caniatâd Cynllunio (yn unol ag amodau): Rhif y Cais: A140834: Y Bwriad:
Garej newydd arfaethedig, 82 Stryd y Bont, Llanbedr Pont Steffan.
11.4 Xxxxxxxx Xxxxxx Xxxxxxxx: CSC: Agenda’r Cyfarfod nesaf a Chofnodion y Cyfarfod diwethaf: er gwybodaeth.
11.5 Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Sir Gaerfyrddin – Ynghylch Mabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin. Yn dilyn Adroddiad yr Arolygydd ac ystyried ei gynnwys a’i argymhellion, y mae’r Cyngor Sir yn ei gyfarfod ar y 10fed Rhagfyr 2014 wedi penderfynu mabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin. Xxxxxxx y Cynllun Datblygu Lleol mabwysiedig yw’r cynllun datblygu ar gyfer Sir Gaerfyrddin (ac eithrio’r ardal sydd ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog) a hwn a ddefnyddir yn sail ar gyfer penderfyniadau ar gynllunio defnydd tir yn yr ardal hon. Mae rhagor o wybodaeth am y CDLl mabwysiedig a’r dogfennau cysylltiedig ar gael ar wefan y Cyngor xxx.xxxxxx.xxx.xx/xxx ac maent ar gael i’r cyhoedd eu gweld ym mhob un o lyfrgelloedd y sir, yn y Canolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid ac yn y Swyddfeydd Cynllunio yn ystod oriau arferol y swyddfa. I gael rhagor o wybodaeth am y Cynllun Datblygu Lleol ewch i wefan y Cyngor neu cysylltwch â’r Adain Flaengynllunio, cyfeiriad – Yr Adain Flaen Gynllunio, Swyddfa’r Cyngor, 8 Heol Xxxxxxx, Caerfyrddin, SA31 1JY neu ar ebost xxxxx.xxxxxxxxx@xxxxxx.xxx.xx.
11.6 Llythyr i xxx Cyngor Tref a Chymuned: Y mae’r Adain Gynllunio CSC wedi mabwysiadu dulliau cyfathrebu electronig a wedi gwneud i ffwrdd â phapur. Mae Llywodraeth Cymru ac eraill yn defnyddio’r amser y mae’n ei gymryd i benderfynu ceisiadau fel llinyn mesur o bwys wrth feirniadu perfformiad. Pennwyd targed i xxx awdurdod cynllunio wneud mwy na 80% o’i benderfyniadau ymhen 8 wythnos. Bydd cyfathrebu mewn dull electronig yn arbennig o fuddiol wrth i’r Adain Gynllunio CSC anelu at gyflawni’r lefelau perfformiad a ddisgwylir xxxxxxx.
CYFARWYDDIADAU – CHWILIAD AM GEISIADAU GYNLLUNIO
1. Dilynwch y ddolen i’r gwefan.
2. Gwasgwch, “Lansio’r Xxxxxx Xxxxxxx”
3. Teipiwch rhif y cais yn y bocs “Rhif y Cais Cynllunio”
4. Gwasgwch “Chwilio” ar waelod y dudalen
5. Sgroliwch xxxx at “Canlyniadau’r chwiliad” a gwasgwch ar rif y cais sydd wedi ei danlinellu a’i liwio’n las.
6. Sgroliwch i’r gwaelod ac ar y dde gwasgwch “Edrych ar y dogfennau”
7. Medrwch safio’r dogfennau fel PDF ar xxxx cyfrifiadur.
12. CYLLID
12.1 TALIADAU
12.1.1 Hurio Neuadd San Pedr ar gyfer y cyfarfodydd o’r 8fed o Ionawr a’r 29ain Ionawr 2015 £33.25.
12.1.2 Cyflog y Clerc Ionawr 2015 £685.73; Treth £72.36.
12.1.3 Inc ar gyfer yr Argraffydd: £71.88
12.2 CAIS AM GYMORTH ARIANNOL
12.2.1 Ymgyrch i ail-agor y rheilffordd o Gaerfyrddin i Aberystwyth: £100.
12.2.2 Cyngor ar Bopeth: £500.
12.2.3 Clwb Ffermwyr Ieuainc Ceredigion: £50.00
12.2.4 Ymddiriedolaeth Cancr ar gyfer unigolion yn eu harddegau; £50.00 .
12.3 DERBYNIADAU
12.3.1 Cymdeithas Adeiladu Abertawe: Llog £0.10
12.4 RHEOLIADAU ARIANNOL
Dosbarthwyd y Rheoliadau Ariannol (Drafft) i’w hystyried ymhellach yn ystod cyfarfod nesaf y Cyngor Tref.